Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/Englynion i gymdeithas lenyddol Machynlleth

Oddi ar Wicidestun
Englynion i goffa am y diweddar Barch J Jones, MA Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Cywydd i goffa Mr Hugh Pugh, Cefn y maes, Brithdir

ENGLYNION
I gymdeithas lenyddol Machynlleth, Rhag. 16, 1853.

Hawdd amawr hwb fawr heb feth—lon araul
Lenorion di—achreth,
Brodorion cryfion eu creth,
Iach unllais sy'n Machynlleth.

Ffraethlon lenyddion addas—iawn unodd
Yn anwyl gymdeithas,
Nid rhyw ynfyd goeglyd gas
Daeraidd derfysgwyr diras.

Cyfeillion dewrion diwyro—ydych
Sydd wedi gwir ddeffro,
Heb lediaith i gydbleidio
'N eitha'ch bryd hen iaith eich bro.

Pybyr areithwyr ethol―rhieiddiawg
Dar haeddwch eich canmol.
Ewch heb froch rhagoch mewn rhol
Drwy gariad yn dra gwrol.

Dadlwch, iawn bynciwch yn ber—a chofiwch
Ddyrchafu iaith Gomer;
Iaith orau dan seiliau'r sêr,
Iaith ddiysbydd, iaith ddwysber.


Llwyddiant fo i'r llywyddion—tra siriol,
A'r trysorydd ffyddlon,
A'r llâd gofnodydd dewr llon
Di gynwrf da ac union.


Nodiadau

[golygu]