Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/Englynion i ofyn Cwmpas i Humphrey Ellis, Gellilydan

Oddi ar Wicidestun
I'r Eira Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Psalm CXLVIII

ENGLYNION
I ofyn Cwmpas i HUMPHREY ELLIS, Gôf, Gellilydan, ger Maentwrog.

I Hwmphrau, gorau gwron,—drwy gariad
'Rwy'n gyru'n heddychlon
Gan o glod hynod yw hon
I'th anerch mewn iaith union.

Gôf ydwyt uwchlaw'th gyfoedion―ethol
Am wneuthur ceirf llyfnion,
Gwisgi a lluni hwy'n llon
Wr enwog, ar yr einion.


Gwnei nerthol drosol—gwnei dresi—eurfyg,
Gwnei arfau i'r seiri;
Yn mysg cant, meddant i mi,
Ni bu d'ail am bedoli.

Fy nyben dan fwyn obaith yn d'anerch
A doniau anmherffaith,
Mòr hyf, yw deisyf ar daith
Rhodd genyt o'th rwydd geinwaith.

Y rhodd wy'n geisio ar hynt—o 'wyllys
I wella fy helynt,
Yw "cwmpas" dan werth can'punt,
Gwerth dau o'r rhai gorau gynt.

Ei gymal fo'n dal yn dyn—heb wegian,
A'i bigau'n ddur dillyn;
Cân newydd gelfydd, ôf gwyn,
Gwiw odiaeth, a gei wedyn.


Nodiadau

[golygu]