Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/Englynion o ddiolchgarwch i Miss Anne Jones, Penycaerau

Oddi ar Wicidestun
Anerchiad a chyngor i Miss Lora Griffith Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Anerchiad i Mr David Morris Davies

ENGLYNION
o ddiolchgarwch i Miss ANNE JONES, Penycaerau, ger Aberdaron , am ei ffyddlondeb yn casglu enwau tanysgrifwyr at "Ddiliau Meirion."

Cyrhaedd i Bencaerau—yn wiwlwys
A wnelo'm llinellau,
I dŷ Ann sy'n llawn doniau,
Yn Lleyn bell—y llawen bau.

Rhwydd-wych i Ann y rhoddaf—ddïolwch,
Mawr ddyled sydd arnaf;
Digellwair hyd y gallaf,
Coffau ei rhinweddau wnaf.

Ni fu fenyw yn Eifionydd—na Lleyn,
Mewn un lle ei helfydd;

Pa Ann , na pha Susan sydd
Mor enwog yn Meirionydd:

Meddyliodd Ann Jones am "Ddiliau—Meirion,"
A mawr ymdrechiadau
Y mêl glân a gluda'n glau
I'w chegin, lon'd ei chawgiau.

Da iawn Ann, gwnest wasanaeth—i filoedd,
Cei felus ganmoliaeth;
Dilys caiff pawb drwy'r dalaeth
Foliau llawn o fêl a llaeth.

Golud, a llwyddiant gwiwlon—a gaffych
Gu, hoffus, fun dirion,
A byw'n dêr ddi-brudd-der bron,
Deiroes uwch Aberdaron.


Nodiadau

[golygu]