Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/Galar-Gerdd am y diweddar Mr R Jones, Llwyngwril

Oddi ar Wicidestun
← Atebiad i'r anerchiad uchod Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Anerchiad serchlon i Elen Meirion →

GALAR-GERDD
Am Mr. RICHARD JONES, Llwyngwril,
yr hwn a fu farw Chwefror 18fed, 1853, yn 73 mlwydd oed.
Ton:—Fy Anwyl Fam fy hunan

O ! angau pa'm yr aethost ti
Yn elyn i ddynoliaeth?
Ai trosedd Addaf, ydoedd ben
I'w had yn Eden odiaeth,
Fu'n achos iti ar y llawr
Fwriadu 'th fawr ddifrodaeth?

Dinystrio wnest holl ddynolryw
Fu ’rioed yn byw a symud !
Neb, neb ond dau flynyddau'n ol
Gadd yn ddiangol ddiengyd,
Rhag dioddef marwol ergyd caeth
Dy dreiddiawl saeth ddychrynllyd.

Yn fynych ar ein gyrfa frau
Yr wylwn ddagrau heli,
Am fod cyfeillion gwiwlon gŵyl,
A cheraint anwyl ini,
Yn cael o hyd gan angau mawr,
Eu tori i lawr i'w beddi,


Ow ! Richard Jones, pregethwr rhydd,
Oedd bur dduweinydd unwaith,
A aeth yn fud i gryd y gro,
Ni welir mo'no eilwaith;
Ni chlywir chwaith mo'i barabl llawn,

Fu'n rhwyddaidd iawn mewn rhyddiaith.
Bu'n hyfryd genym lawer pryd
Ymgasglu 'nghyd yn dyrfa,
I wrando arno 'n traethu gwerth
Yr Aberth ar Galfaria;
Pan rhoddodd Crist ei hun yn Iawn,
Y Tad a lawn foddlona.

Er rhoddi 'i gorff yn ngwaelod bedd
I orwedd gyda 'r meirwon,
Ei enaid glân yn seirian sydd
Mewn pur lawenydd union,
Yn moli'r Oen a'i gariad rhad
Yn ngolau 'stad angylion.

Ffarwel y parchus athraw pur,
A 'i ddinam eglur ddoniau,
Diweddodd daith y fuchedd hon
Yn ingawl loesion angau;
Ni chlywir mwy mo'i araith glir
Na'i goethion wir bregethau.

Pan ddel yr adgyfodiad mawr,
Ei gorff o lawr y gweryd
I'w uno ’n bur a'i enaid byw,
Yr Arglwydd Dduw a'i cyfyd;
I gydfwynhau llawenydd mad
Byth, byth yn ngwlad y gwynfyd.


Nodiadau

[golygu]