Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/Hen Grog-bren Carchardy Dolgellau

Oddi ar Wicidestun
Dau Englyn i Bont Newydd Talyllyn Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

i Miss Mary Richards

HEN GROG-BREN
CARCHARDY DOLGELLAU, YN CAEL NEWID EI SWYDD.

Y Crogbren o'r nenawr a dynwyd i lawr,
Fe'i gwnaed gynt i grogi yr hen "Hwntw Mawr"—
Ac weithion heb arswyd fe'i codwyd mewn cell,
Swydd newydd roed iddo, ddi-guro ddau gwell.


Ni chrogir yn Meirion ddim lladron rhag llaw,
Na chreulon, anbirion lofruddion dan fraw—
Alltudir hwy bellach fel bawiach y byd,
I ganol gwlad estron, yn gaethion i gyd.

Ebrill 25, 1858.

Nodiadau

[golygu]