Diliau Meirion Cyf II/I Talhaiarn
Gwedd
| ← Ar Briodas Mr John Rees, a Miss Gwen Jones | Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
I Blas Dolgyn → |
I TALHAIARN.
Talhaiarn Cadarn fardd cu,—yn Llundain
Sy'n llondeg gartrefu;
Ni wthiwyd yno i nythu
Gwr'r un ddawn er G'ronwy Ddu.
Mae'n llyfndeg, ddwysdeg bryddestydd——doniol,
A dianaf awdlydd,
Ac hyawdl eiliwr Cywydd,
O iawn ryw, a'i awen rydd.
Dyn i bawb a dawn bybyr ydyw Tal,
O wned teilwng awdwyr ;
Mab astud yn mhob ystyr
Wrth sodlau'r gorau o'r gwyr.