Diliau Meirion Cyf II/Meurig Ebrill dan ergydion gwefr-beiriant Mr J Rees
Gwedd
| ← Llinellau ar farwolaeth y Parch Walter Davies, AC | Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Anerchiad i fab a thair merch, Mr a Mrs Edwards → |
MEURIG EBRILL
Dàn ergydion gwefr—beiriant Mr. J. REES, Oriorydd, Machynlleth, y 18eg o Awst, 1853.
Doeth ddyfais hyd eithafion—gwir ddi-dwyll
Gyraeddiadau dynion
A gafwyd, bydd hir gofion,
Ar sedd, am gawri 'r oes hon.
Dynion a gyrch wefrdanau—i'w lloches
A'u llachar beirianau;
Uthr wreichion, gwyrddion, yn gwau
Ganfyddir, drwy gain foddau.
Fflamawg, a berwawg beirian—Sion ap Rhys
Sy'n parhau'n wefrdan;
Melltenawg, a deifiawg dân,
Deryllaidd, dery allan.
Tywynboeth beiriant enbyd, eresawl
A roes imi aml ergyd,
Minau a aeth mewn munyd
Dyn a'i gŵyr, yn dán i gyd!