Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/Penillion ar briodas R W Vaughan, Ysw,

Oddi ar Wicidestun
Can ar ddyfodiad R W Vaughan, Ysw, i'w oed Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Anerchiad at y Doctor E P Anwyl, Brynadda

PENILLION
Ar briodas R. W. VAUGHAN, Ysw., Nannau, a Miss F. M. LLOYD, o Ragat, Gorphenaf 8fed, 1835
Mesur—Merionethshire March.

Llawenhewch oll yn awr wele wawr oleu wych,
Fe glywir drwy'n gorawr sain clodfawr swn clych;
Cyflwyned y beirddion anrhegion yn rhwydd,
Sef cyson ganiadon dillynion da’u llwydd,
I'r arwr mawr iawn ardderchog ei ddawn,
Aer Nannau rin enwog yn rhywiog mawrhawn,
Yn gyfiawn gwnawn gofio ymuno i ro'i mawl
I'w briod fwyneiddwych, lloer geinwych lliw'r gwawl,
Dyma'r dydd clodrydd clau, dyroddwyd dan yr iau
Foneddion rhinweddol,—urddasol yw 'r ddau;
Mae rhadau mawrhydi yn gweini 'n ddigoll,
Er rhoddi dywenydd o newydd ini oll.

Cydganed beirdd Gwynedd bergleredd bur glod
Ar ddydd y briodas mae'n addas yy nod,
Yr awen fwyn rywiog yn fywiog a fo,
I ganmol blaenoriaid pen breiniaid ein bro;
Hil Fychan fo'n fawr fal llwythau ar y llawr,
Unedig â'r Llwydiaid anwyliaid yn awr,
Y plant mâl planhigion, yn llon fyddo'n llu,
A'r wraig fel gwinwydden ddoeth addien i'w thy
Dymunwn bob pryd, eu bod yn y byd,
Yn meddu dedwyddwch a heddwch o hyd;
Ac hefyd gyrhaeddyd iawn wynfyd y nef,
'Rol gadael y ddaear yn llongar eu llef.


Nodiadau

[golygu]