Diliau Meirion Cyf II/Plas Uchaf, a'i Ffumerau
| ← Anerchiad i deulu y Dolau Gwyn, Meirion | Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Y Shop Newydd, Dolgellau → |
PLAS UCHAF, DOLGELLAU, a'i FFUMERAU
P'le sy iachach na'r "Plas ucha"—hyffordd
A hoffus breswylfa;
Ei neuadd hardd ddi-gardd dda
Goethwyd yn fflurawg eitha.
Y cyntedd sy'n lle prydweddawl,—berth-waith
Ei borth Gorllewinawl
O'r ochr yma, gweithia gwawl
Drwy'r anedd, a'r Dwyreiniawl.
Cu harddwych gurn cywir-dda—goreurawg,
Geir ar y Plas ucha';
Curn enapiog, diwyrog da,—curn perffaith,
Cywrain o emwaith yw y curn yma.
Curn cedyrn―fe'u ceir hwy'n cydio,—a'r mur
Er maint fydd y taro;
Ni syflant, glynant dan glo,
Er i gorwynt hir guro.
Curn difreg a theg o waith Iago,—seirian,
Y pen saer di-guro;
Pa le 'n mysg mil er chwilio,
'N faith iawn, ceir un o'i fath o.
Addurnwaith a roddodd arnynt,―pybyr
Medd pawb a'u canfyddynt;
Nodedig hynod ydynt,
Saith gwell na'r rhai sytha' gynt.
Dyfal y gwelwyd Ifan—y sywdeg
Brif asiedydd seirian;
Gweithio'n lew i'w goethi'n lân
Ei cafwyd uwch y cyfan.