Diliau Meirion Cyf II/Salm XXVII
Gwedd
| ← Amryw o Emynau ar wahanol destynau | Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Diarhebion III 29, &c → |
SALM XXVII. 4.
Un peth a ddeisyfais gan Dduw yn llawn sêl,
A hyny yn benaf a geisiaf heb gel;
Cael trigo yn Salem tra byddwyf fi byw
I edrych ar hawddgar brydferthwch fy Nuw.