Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/Y Shop Newydd, Dolgellau

Oddi ar Wicidestun
Plas Uchaf, a'i Ffumerau Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Cyfarchiad i R N Hartley, Ysw

Y SHOP NEWYDD, DOLGELLAU.

Gwelwch fasnachdy gwiwlan, hoff hynod,
A dwy ffenestr lydan;
Mae'r gwydr llathraidd, glwysaidd glân,
Cu-ferth, yn urddo'r cyfan.


Dyma waith pur di-guro—a bery
Heb arwydd llychwino;
Yn "Shop newydd" bydd tra bo
Gwawr araul, i'w goreuro.

Gwaith cnapiog, caerog cywrain—na luniwyd
Ei lanach yn Mrydain;
Rhyfedd os gwnaed yn Rhufain
Na Ffrainc chwaith, gerf-waith mòr gain.

Ceir edrych drwy'r cywir wydrau—gwympawg
Ar wir gampus nwyfau,
Yna gwelir yn y golau
Ar ddisgleirwych, glir-wych gloerau,
Syw a dinam, heirdd sidanau,
Bur waith union, a brethynau,
Bliant meinion, loywon liwiau,
Ceinion, mwythion, o bob mathau,
Mawr ethawl amrywiaethau—rhai gwladaidd
A rhai euraidd o'r rhyw oreu.


Nodiadau

[golygu]