Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/a gyfansoddwyd wrth wrando ar Mr Edward Williams, o Fangor

Oddi ar Wicidestun
i Mr David Jones, Fferyllydd yn Llynlleifiad Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

i Mr J J Phillips, Tywyn

ENGLYNION
A gyfansoddwyd yn fyrfyfyr wrth edrych a gwrando ar Mr. EDWARD WILLIAMS, O Fangor, yn dangos ac yn darlithio ar y Bodau Wybrenol yn ystafell lenyddol yr Annibynwyr yn Nolgellau, Mawrth yr 8, 1853.

Celfydd fesurydd y sêr—yw Iorwerth,
E ŵyr eu heangder;
Dyn doeth yw 'n meddu dawn dêr,
Heb balldod gwyr eu pellder.

Iorwerth sy'n glodfawr wron—rhagoraf
O'r gwiwrwydd seryddion;
Un treiddgar, beiddgar o'r bôn,
Hynotach na'r hen Newton.

Yr huan gwiwlan golau,—a'r lleuad,
A'r lluaws planedau;

Dangosodd mewn clirfodd clau—yn berffaith
A'i gywrain beirianwaith ger ein bronau.

Nododd gylchawg drefniadau—Sadwrn
A'i syw—deg fodrwyau,
A chedyrn amgylchiadau
Mawrth, Mercher, Gwener, ac Iau.


Nodiadau

[golygu]