Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/ar briodas y Parch E Griffiths, Llanegryn

Oddi ar Wicidestun
Englynion i Mr William Humphreys, Llynlleifiad Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

ar briodas Mr Evan Jones (Ieuan Ionawr)

ENGLYNION
Ar briodas y Parch. E. GRIFFITHS, Llanegryn, Rhag. 27ain, 1837.
(Y briodas gyntaf a weinyddwyd yn nghapel yr Annibynwyr yn Nolgellau).

Priodwyd, unwyd heb anair—deuddyn
Yn eu dyddiau diwair;
Gweinidog enwog y gair,
A morwyn yn cael mawrair.

Gweinyddiad gogoneddol—a gawsant
Yn gyson â rheol,
Heb addurn trefn Babyddol,
Na dim o'i gau ffurfiau ffol.


Nodiadau

[golygu]