Diliau Meirion Cyf II/ar briodas y Parch J Ridge, a Miss Williams
Gwedd
| ← i goffa Jane Pugh, Dol-y-serau-uchaf | Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
i dair merch Mr a Mrs Jones, Penbryn → |
ENGLYNION
Ar briodas y Parch. J. RIDGE, a Miss E. WILLIAMS,
Mawrth 8, 1828.
Pur ydyw stad priodas,—ddihalog
Dda hylwydd gymdeithas;
Y ddeuddyn mewn modd addas,—
Sy'n caru'r Iesu a'i ras.
Tawelwch fydd yn y teulu—a golud
Yn gwiw—lwys gynhyddu;
Mewn gwastad agweddiad gu,
Gwres dinam heb groes dynu.
Boed i'r wraig mewn bywyd o rin,—garu
Ei gwr yn gysefin;
Boed y gwr fel bwyd a gwin,
O gysur i'w wraig iesin.