Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/i Miss Dickins, Llynlleifiad

Oddi ar Wicidestun
Cerdd Nadolig (2) Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

i'r diweddar Mr David Williams, Brithdir

ENGLYNION
I Miss DICKINS, Llynlleifiad.

Miss Dickins & roes im' docyn—anwyl,
Heb unwaith ei ofyn;
Caiff gân o glod hynod am hyn,
Yn gonglog a deg englyn.

Tocyn hardd i'r bardd heb wad,—a roddodd
Mewn gwireddawl gariad;
Caf am hwn wledd ryfedd rad,
Yn Salem ar iawn seiliad.

Rhian ffel ddihefelydd—ydyw Ann,
A daionus beunydd;
Meinir dirion radlon rydd,
Buredig i hen brydydd.

Iechyd i Ann wych ei doniau,—a mawr
Ei mirain rinweddau;
Mwyn a gwiw—rwydd mewn geiriau,―
Mawl'i hon fo'n amlhau.


Nodiadau

[golygu]