Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/i Mr David Jones, Fferyllydd yn Llynlleifiad

Oddi ar Wicidestun
i Gymdeithas Gwyr ieuainc Salem, Llynlleifiad Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

a gyfansoddwyd wrth wrando ar Mr Edward Williams, o Fangor

ENGLYNION
I Mr. DAVID JONES, Fferyllydd yn Llynlleifiad.

Dafydd fel gwir bendefig—uchel-wych,
A chalon garedig;
Gyda phwyll, heb dwyll na dig,
Ymwriodd o du Meurig.

Hynaws gwnaeth gasglu cnwau,—arbenig
Dderbynwyr y Diliau,
Rhai darllengar clodgar clau,
Di-gynen, do ugeiniau.


Dyfal dros ben fu Dafydd,—nid cysglyd
Yn casglu drwy'r trefydd;
O'i law daeth, ie liw dydd
I'm enwau rif y manwydd.

Diolwch mawr a dalaf—i Ddafydd
Yn ddifeth trwy'r gauaf;
Rhof ail glod, dan rhod yr haf
Iddo, os byw a fyddaf.


Nodiadau

[golygu]