Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/i Mr J J Phillips, Tywyn

Oddi ar Wicidestun
← a gyfansoddwyd wrth wrando ar Mr Edward Williams, o Fangor Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Carol Nadolig →

ENGLYNION
I Mr. J. J. PHILLIPS, mab G. B. PHILLIPS, Ysw., Surgeon, Tywyn, Meirionydd.

Sion Phillips nid oes un ffelach—i'w gael
A golwg brydferthach;
P'le tàn nen ceir bachgen bach,
O ddull iawn ei ddillynach?

Dir yw, na welwyd erioed—un llenydd
Yn llawnach o'i faboed;
Nid aeth pan onid wyth—oed
Oi flaen ef, ddyn cyflawn oed.

Ei fawr awen foreuawl—a'i burdda
A harddwch rhyfeddawl;
Darlithydd dewr helaethawl,
Rhwydd yw fe, da'r haeddai fawl.

Yn ddoctor tra rhagorol—trydd allan
Trwy ddullwedd gorchestol;
Meddu cymwysder meiddiol
Y mae yn awr, heb ddim yn ol.


Nodiadau

[golygu]