Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/i arwydd (Sign) y "Red Lion"

Oddi ar Wicidestun
i'r "Cambrian Hotel," Llangollen Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

o glod i "Glwb Washington"

ENGLYNION
A wnaed wrth syllu ar arwydd, (Sign) ar fur gwesty, yr hwn a elwid "Red Lion," ac ydoedd wediei lunio yn hynod o annghelfydd.

Ai llun cath, ai ynte llun ci—neu lew,
Neu lwynog, neu ddyfrgi,
Neu hwch dòrog yn crogi
Ar wal fawr а a welaf fi?

Neu hyll, foel, deryll fûl deuryw—gwrthyn,
Neu goeg erthyl lledfyw?
'Dall un brutiwr, bostiwr byw,
Byth dd'wedyd llun beth ydyw!!

Llaw anhydyn y lluniedydd—anoeth,
Oedd hynod annghelfydd;
Gwael ydyw—pawb drwy'r gwledydd
A'i gwelo, i'w feio fydd.


Nodiadau

[golygu]