Diliau Meirion Cyf II/i goffa Jane Pugh, Dol-y-serau-uchaf
| ← i Syr R W Fychan, Bart, Nannau, 1824 | Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
ar briodas y Parch J Ridge, a Miss Williams → |
ENGLYNION
I goffa JANE PUGH, merch fechan Mr. a Mrs. Pugh,
Dol-y-serau-uchaf, ger Dolgellau.
Bu farw Rhagfyr y 10, 1853, yn 5ml. oed.
Soriant yn Nolyserau,—hynodwyd
Gan genhadon angau;
Eu rhwysg sydd yno'n parhau,
Blin addef drwy'r blynyddau.
Ow! tair Sian seirian siriol,a gariwyd
I'r gweryd olynol;
Ni ddaw 'run o'r tair dymunol,
Atyn' hwy byth eto'n ol.
Addurn y Sian ddiwedda,a nodir
Yn enwedig yma;
Ni chaed llenreg ddoeth—deg dda,
Burach er oes Debora.
Ystyrid cymwysderau—ei mebyd,
Yn mhob golygiadau,
Yn dreiddgar glodgar i glau—
Ddwys gyrhaedd y ddysg orcu.
Pwy erioed yn ei hoedran—a dreiddiodd
Drwy addysg mor fuan;
Galarir, synir fod Sian
Gu rywiog yn y graian.
Trawanwyd ei rhieni—â hiraeth
O herwydd ei cholli;
Gan mai'r bedd i'w hanedd hi,
Cwynant yn fawr eu cyni.