Diliau Meirion Cyf II (testun cyfansawdd)
| ← | Diliau Meirion Cyf II (testun cyfansawdd) gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
→ |
| I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Diliau Meirion Cyf II |


DILIAU MEIRION
AIL RAN
GAN
MEURIG EBRILL
DOLGELLAU
GYDA DARLUN O'R AWDWR
Diliau i'r holl frawdoliaeth—a weithiais
O wythen barddoniaeth;
Erched pob un fedd archwaeth
Ddogn o fêl a ddyg iawn faeth.
LLYNLLEIFIAD:
ARGRAFFEDIG GAN J. LLOYD, 15, HEOL SANT ANNE
1854
GWELLIANT GWALLAU
Tudalen
51—Yn lle lywyddu , darllener llywyddu.
56—Yn lle Lewis Edwards, darllener Lewis Roberts.
59—Yn lle ymariaist, darllener ymwriaist.
66—Yn lle ddisgyna, darllener disgyna.
84—Yn lle G. B. Phillips, darllener J. B. Phillips.
ENGLYNION
I ANERCH "DILIAU MEIRION,"
YR AIL RAN.
Mawrwych yw Diliau Meirion—dalent,
A dilwgr feddylion;
Byrddaid yn llawn i'r beirddion,
Ac eres saig i'r oes hon.
Llyfr od, ol llafur ydyw,—urddunawl
Farddoniaeth diledryw,
O waith hardd awen bardd byw
Gwir hyddysg a geir heddyw.
Dillynawg perlawg lyfr purlan,—trysor
Gwerth triswllt yw'r cyfan;
Ar air ceir gwerth yr arian
O'r elw a rydd yr ail ran.—ERYR MEIRION.
EREILL ETO.
A llon hwyl rwy'n llawenhau,—dan effaith
Dawn hoffus eich "Diliau;"
Cywir y gwelir chwi'n gwau,
Gwiw radlon seingar odlau.
Moroedd yw "Diliau Meirion,"—a hidlant
Eu hodlau melusion;
Pwy? Pwy? o Fynwy i Fôn
Fyth fwria'r fath ddiferion?
IEUAN IDRIS.
RHAGYMADRODD
ANWYL GYFEILLION, yn Feirdd a Llenorion Cymreig, trwy Gymru, Lloegr, a pharthau eraill o'r byd yn gyffredinol,—Wele fi ar anogaeth a dymuniad lluaws o'm hewyllyswyr da, wedi dwyn allan o'r argraffwasg, yr ail ran o "DDILIAU MEIRION," gyda darlun o'r awdwr. Cwynai rhai o'm tanysgrifwyr blaenorol fod y rhan gyntaf o'r "DILIAU" braidd yn rhy chwerw i'w harchwaeth hwy, am fod gormod o'r cyfansoddiadau ar y Mesurau Caethion; gan hyny rhoddais yn yr ail ran amryw o gerddi a charolau byrion er mwyn boddhau pawb hyd y medrwn; ond nid wyf yn honi fod llawer o berffeithrwydd mewn dim o'm gwaith fy hun beth bynag. Gwelwch hefyd i mi roddi lle i bryddestau rhai awdwyr eraill yn yr ail ran, nid am nad oedd genyf ddigon o ddefnyddiau fy hun, ond er mwyn dangos i bryddestwyr yr oes hon y fath glymiadau cynganeddawl, a synwyr cryf oedd gan yr hen feirdd pan y gwnaent ymddarostwng i ganu ar y Mesurau Rhyddion, ac hefyd rhag i rai o'u cerddi fyned ar ddifancoll, sef "Cerdd y Llwy Bren," gan Lewis Morris, Ysw., (Llewelyn Ddu o Fôn); ac " Anerchiadi'r Dr. Price Anwyl," gan Robert ab Gwilym Ddu; Cyfieithiad o'r "108 Salm," gan y Parch. Ellis Wynn, o Lasynys; "Llysfam Ddrwg," gan Gutyn Ebrill; "Cymreigyddion Caerludd", gan Francis Jones, Tywyn, Meirion; "Carol Nadolig," gan Callestr Fardd. Hyderwyf y caiff amryw ddifyrwch wrth ddarllen gweithiau y rhai hyn yn y "Diliau," yn nghyd a'r cyfansoddiadau eraill sydd yn y rhan hon. Terfynaf yn awr trwy gyflwyno fy niolchgarwch gwresocaf i'm holl garedig ewyllyswyr da yn gyffredinol, am eu parodrwydd i bwrcasu y rhan gyntaf a'r ail o "DDILIAU MEIRION," gan hyderu na chant byth achos i edifarhau o herwydd hyny,
Eich diffuant
Hen frawd,
MEURIG EBRILL.
- Mawrth 25, 1854.
RHAGDRAITH
O bob dawn radlawn a roes
Yr Ion, yn gysur einioes,
Hynottaf peth yn natur,
Yw mwyn waith bardd mewn iaith bur.
D. Ionawr.
YMFFROSTIA y cryf yn ei nerth, y cybydd yn ei gyfoeth, a'r Bardd yn ei waith. Diflanodd nerth y cawr cad arnaf—bu y goludog farw; ond y mae ambell Fardd er iddo farw " yn llefaru etto.' Adeiladwyd cof golofnau gorwychion i gofio am ddewrder llyngeswyr a maeslywyddion, ar ol iddynt feirw, rhag i'w henwau fyned i dir anghof. Gwelodd Ardalydd Mon a Duc Wellington eu cofgolofnau wedi eu gorphen gan ddwylaw eraill; a dyma MEURIG EBRILL wedi byw i weled y maen olaf yn cael ei osod ganddo ef ei hun, i orphen ei gof-golofn yntau, yr hon a hyderwn a fydd yn sefyll "
"Tra bo'r iaith rydd
A Gwalia wrth eu gilydd."
Darfu i'r croesaw gwresog a dderbyniodd yr hen fardd oddiwrth dderbynwyr y rhan gyntaf o "DDILIAU MEIRION," a chymelliad calonog llu o gyfeillion ei ddwyn i benderfynu cyhoeddi yr "Ail Ran," yr hon sydd yn awr o'u blaen. Tybiwn fod yn hon bethau a foddlona bron bob dosparth o hoffwyr barddoniaeth, ond yn unig y rhai na hoffant ond yr hyn a wnant eu hunain. Canfyddir oddiwrth y cyfansoddiadau mai y Mesurau Caethion ydyw prif hoffder yr awdwr; ac nad ydyw gwneuthur englyn yn fwy poen iddo nag anadlu. Etto, cyfansoddodd lawer o ddarnau gorchestol yn y Mesurau Rhyddion; y mae amryw o honynt wedi eu rhoddi i fewn yma, ac aeth llawer o'i "gerddi boreuol" i dir anghof.
Hyderwn y ca y rhan hon etto groesawiad calonog fel y llall, ac na foddlona yr un Cymro i fod hebddi gan y cynygir hi am swllt.
Bellach, gellir cael gwaith y bardd ynghyd a'i ddarlun, am dri swllt, y rhai all fod yn gymdeithion anwylaidd i filoedd ag sydd yn meddu calon i gymdeithasu â gwrthrychau teilwng o serch. Dymunwn i'r hen fardd gael treulio y gweddill o'i oes mewn dedwyddwch, nes ei gelwir ar ddiwedd ei yrfa ddaearol i
"Ardal lawn o aur delynau."
- Brithdir, Mawrth, 1854.
ANERCHIAD
I MEURIG EBRILL AR YMDDANGOSIAD YR AIL RAN O
DDILIAU MEIRION."
Meurig y diddig fardd doeth, dieithrad
Athraw mawr a hyddoeth;
Sain o urddas synwyrddoeth,
Yw ei gân a'i awen goeth.
Rhoi geiriau o ragorion—yn ei waith
A wna ef mor gyson;
A llythreniad llywiad llon,
Braidd oll i'w bur ddiwyllion.
Yn ei henaint mae'n ynill—enw mawr
Yn Meirion i'w esill;
Y beirddion bawb rhoddwn bill,
Er gwobrwy i Meurig Ebrill.
Dengys ei ben Ben Bardd—a'i hardd wyneb
Fawr ddoniau pur hydardd;
Ac yn wir mae'i dalcen hardd
Yn brawf ei fod yn brif-fardd,
Yn Meirion ddinam orawre gododd
Fel ei gadarn flaenawr;
Rhodd nef yw—cadd e'r ddawn fawr
Feddiannai Dafydd Ionawr.
Beirdd welant ei bêr "Ddiliau,"—a molant
Y mêl i'w geneuau;
Adwaenant hwy werth doniau,
Am yr hyn gwnant eu mawrhau.
CYWYDD
Tra deil gwir, a thir, a thòn,
Deil mawredd "Diliau Meirion;"
A deil mawrglod, hynod hedd,
Enw Meurig mewn mawredd.
Bardd trwyadl na fyn ddadl ddig,
A mawr ei ddawn yw Meurig;
Drwy hwyliad ei reolaeth,
Golud ei ddysg i'n gwlad ddaeth.
Awen yw ei awen ef,
O luniad yr oleunef;
A nef wen yn gwenu fu
Uwch ei gynnyrch a'i ganu.
Yn ei awen fwyn eos
Cawn londer yn nyfnder nos.
Ei gywrain glymog eiriad,
Roddai wledd i feirdd у wlad:
Mydrawg wr yn medru gwau
Ei lwyrion nerthol eiriau;
Geiriau na cheir trwy'n gorawr,
I ddal mwy o feddwl mawr:
Canghenau pob cynghanedd,
Dan ei law a wnaed yn wledd;
Myn ef eiriad clymiad clau
At osod eu morteisiau.
Ni all fawr er dirfawr dân
Ddynwared ei ddawn eirian.
Ei anian bur ddiweniaith
A'i oes ef ddengys ei waith;
Sai ei ddawn am oesau'i dd'od,
Yn ei bêr awen barod;
Er ei oed a'i fynd mor hen,
Brwd yw ei barod awen;
Er ei wydrau a'i oedran,
Wrtho deil mawr nerth ei dân.
Digoll mae'n rhedeg allan
Rediad têg fel ffrydiau tân !
Ca'i er hoen ei feddwl cry,
Hir waeledd ar ei wely;
Maith flynyddoedd oedd iddo
O fawr nych dan ei fron o;
Meddyliai mai i ddialedd,
Drwy'i boen oedd myned i'r bedd:
Estyniad oes roes ei Ri,
Ef wedyn ga'i gyfodi,
Er byw ar fin oer y bedd,
Ymlonai 'mhen saith mlynedd!
Mor brydferth i'w nerth yn ol
Dygwyd e 'n waredigol:
Ef a'i awen adfywiodd,
Adwaenai ras Duw'n ei rodd.
Yn yr hoen ail gydiai’n rhydd,
Yn ei awen o newydd:
Ef a'i awen mor fywiog,
A hwyliai'i gân fel y gôg.
Wedi gwella dug allan
Adail glir y Diliau glan.
Er ei bri gwna'r wlad o'r bron,
Le mawr i Diliau Meirion:
O'i ffraeth hwyl pur ffrwythau hâf,
A gaent hwy o'r "Rhan Gyntaf":
Ar ol yr eir i'r "Ail Ran,"
Mel gwell ddaw'n amlwg allan;
Mel a gawn fel grawn yn grôg,
Mae'n hen wenynen enwog:
Y Diliau a adeiliwyd,
Oll yn fêl а llawn o fwyd:
Dàl iachus adail uchel,
A llawn maeth sydd well na mêl:
Ceir yn wir mai cywrain yw,
Hardd adail i'r beirdd ydyw.
Yn y rhan hon ar unwaith
Ei lun ef gawn a'i lawn waith:
Rhan haeddol yr hon heddyw,
A ddaw a'n Bardd yn ddyn byw,
Ger ein bron mor llon a llanc,
A'i Awen byth yn ieuanc.
Ei gywir-lwys dêg arlun,
Wna wir werth i lawer un.
Llun ei gorff yn llawn a gaid,
Wrth hyn a nerth ei enaid.
Mor gu yw Meurig a'i waith,
Ei wên a'i gân ar unwaith;
Ei lun ef yn ei lawn faint,
Mor heini mae er henaint !
Llygadlon hen dirion dad,
Fel hogyn mae'i fyw lygad:
Fe ddeil dêg feddwl a dawn,
Yn ei arlais synwyrlawn:
A syw drèm, dengys ei drwyn,
Feddyliol ryfedd olwyn:
Mor ddidor mawredd y dyn,
A geir o'i law i'w goryn.
Tuedd i goledd y gân,
Enynai yn ei anian,
Yn foreu; a'i ddifyrwch
Fu'n hoff lanc pur awen fflwch.
A thrwy gael gwych athrawon,
Cynyddodd, fe brifiodd bron
I fawredd anarferol;
Ni fedrai ef fod ar ôl,
Er dim, mewn medyr a dawn,
Ei goflaid fynai'n gyflawn.
Cafodd iach gyfeillach faith
A Ionawr fardd diweniaith—
Twm o'r Nant mawr iawn yntau,
I'w ddydd ca'dd Meurig y ddau.
Ionawr a saif yn oer sill,
Gwelir wybren glir Ebrill;
Drwy'r hyn y deuir o'r Nant,
A chawn hâf mewn uwch nwyfiant.
Liverpool.
Y CYNNWYSIAD.
Y Wyneb ddalen
Gwelliant Gwallau
Englynion i Anerch "Diliau Meirion" yr Ail Ran
Ereill eto
Rhagymadrodd
Rhagdraith
Anerchiad i Meurig Ebrill ar ymddangosiad yr Ail Ran o "Ddiliau Meirion"
Cywydd
Priodas-Gerdd Sir Robert Williams Vaughan, Barwnig
Can ar ddyfodiad R W Vaughan, Ysw, i'w oed
Penillion ar briodas R W Vaughan, Ysw,
Anerchiad at y Doctor E P Anwyl, Brynadda
Atebiad i'r anerchiad uchod
Galar-Gerdd am y diweddar Mr R Jones, Llwyngwril
Anerchiad serchlon i Elen Meirion
Y Llysfam Ddrwg, gan Gutyn Ebrill
Y Bardd yn ei wely, yn Nolffanog, Talyllyn
Mawl-Gerdd i W W E Wynne, Ysw, AS
Can i ofyn llwy bren, gan y diweddar Lewis Morris
Can i'r Cymreigyddion yn Llundain
Englynion i Gaerlleon Gawr
Gwesty Bwl y Bala
Englynion i Feirch a Gwas y Rhiwlas
Dau Englyn i Bont Newydd Talyllyn
Hen Grog-bren Carchardy Dolgellau
Englynion
i Miss Mary Richards
i Mr Owens y Ceidwad a'r teulu
i'r "Cambrian Hotel," Llangollen
i arwydd (Sign) y "Red Lion"
o glod i "Glwb Washington"
ar ddyfodiad Miss Mary Jones Hengwrt Uchaf, i'w hoed
Dau Englyn i ddwy ferch y diweddar Mr J Jones
Englyn i dair merch Mr J Jones, Cottage, Llanelltyd
Diolchgarwch i Miss Laura Griffith, Ty'n'rardd, Llanelltyd
Anerchiad a chyngor i Miss Lora Griffith
Englynion o ddiolchgarwch i Miss Anne Jones, Penycaerau
Anerchiad i Mr David Morris Davies
Hir a Thoddaid i Mr David Jones, (Dewi Rhagfyr)
Dau Englyn i Mr Humphrey Jones, Caerlleon
Eto i ferch fechan Mr Jones
Dau Englyn i enhuddo digofaint Meistri R Jones, (Robin Awst) a Gruffydd Siencyn ap Ieuan, Fferyllwyr, Towyn
Anerchiad i deulu y Dolau Gwyn, Meirion
Plas Uchaf, a'i Ffumerau
Y Shop Newydd, Dolgellau
Cyfarchiad i R N Hartley, Ysw
Llinellau ar farwolaeth y Parch Walter Davies, AC
Meurig Ebrill dan ergydion gwefr-beiriant Mr J Rees
Anerchiad i fab a thair merch, Mr a Mrs Edwards
Englynion Beddargreiff
Anerchiad i'r Parch R D Thomas
Y Wenynen
Beddargraff Carnhuanawc
Ar Briodas Mr John Rees, a Miss Gwen Jones
I Talhaiarn
I Blas Dolgyn
Enwau Dynion
Caledi'r Amserau
Cwrw y Bala, 1803
I'r Eira
Englynion i ofyn Cwmpas i Humphrey Ellis, Gellilydan
Psalm CXLVIII
Gloria Patri
Englynion i goffa am y diweddar Barch J Jones, MA
Englynion i gymdeithas lenyddol Machynlleth
Cywydd i goffa Mr Hugh Pugh, Cefn y maes, Brithdir
Englynion i Mr William Humphreys, Llynlleifiad
Englynion
ar briodas y Parch E Griffiths, Llanegryn
ar briodas Mr Evan Jones (Ieuan Ionawr)
Amryw o Emynau ar wahanol destynau
Salm XXVII
Diarhebion III 29, &c
Esau LII 13
Esau LV 10, 11
Salm LXXIII 28
Salm LXXIII 28 (Eto 1)
Salm LXXIII 28 (Eto 2)
Ioan X 11
Hunanymwadiad
Yr Ysgol Sabbothol
Priodas-Gerdd Lewis Williams, Ysw, Ieu, o Bronwnion
Englynion
i Gymdeithas Gwyr ieuainc Salem, Llynlleifiad
i Mr David Jones, Fferyllydd yn Llynlleifiad
a gyfansoddwyd wrth wrando ar Mr Edward Williams, o Fangor
i Mr J J Phillips, Tywyn
Carol Nadolig
Cerdd Nadolig
Cerdd Nadolig (2)
Englynion
i Miss Dickins, Llynlleifiad
i'r diweddar Mr David Williams, Brithdir
i Syr R W Fychan, Bart, Nannau, 1824
i goffa Jane Pugh, Dol-y-serau-uchaf
ar briodas y Parch J Ridge, a Miss Williams
i dair merch Mr a Mrs Jones, Penbryn
DILIAU MEIRION
AIL RAN.
PRIODAS-GERDD
SIR ROBERT WILLIAMS VAUGHAN, Barwnig, Nannau,
ag ANNA MARIA Mostyn, Medi, 1802.
Cenir ar "Calon Derwen" (Heart of Oak.)
Offyddion a beirddion rai breinlon eu bryd,
Llinellwch benillion yn gyson i gyd,
I'r Marchog ardderchog aur-dorchog ar dir,
Gwr addwyn gwareddog pen Swyddog ein Sir,
Ein dyled sydd fawr mòr wiwlon a'r wawr,
Iawn eirio i'n blaenorydd gân newydd yn awr;
A'i briod ger bron lloer dyner lliw'r dòn,
Brig union bro Gwynedd fawr hynod ei rhinwedd
Prydferthedd fun lunïedd fwyn lòn;
Cantorion o hyd na fyddwch yn fud,
Arfeddyd wir foddol gwnewch seinio' n gysonol
Eu molawd yn frawdol un fryd.
Syr Robert ŵr hybarch ei gyfarch a gawn,
A'i ganmol wrth reol yn unol a wnawn;
Gwladgarwr rhagorol ufuddol yw fo,
O linach Fychaniaid pen breiniaid ein bro,
A'i wraig hawddgar lon buredig ei bron,
O lin y Mostyniaid doeth hardd-blaid daeth hon;
Fe genfydd ein gwlad lwys odiaeth lesâd,
Gwir roddiad gwawr addas gweinyddwyd priodas,
Mewn urddas i bwrpas heb wad;
Preswylwýr ein pau sy'n hoff lawenhau,
A’u llefau'n dra llafar gyson-gu a seingar
Yn cerddgar bur hawddgar barhau.
Mae Fflint a Meirionydd 'run elfydd yn awr,
Llawenydd cantorion sain fwynlon sy'n fawr,
Am fod eu blaenoriaid gwawr euraid gwir yw,
Mal cedyrn golofnau da 'u graddau deg ryw,
Yn addfwyn eu nod a rhiaidd dàn y rhod,
A’n genau cyd ganwn, O c'lymwn eu clod;
Mae rhîn eu mawrhad gwybyddir heb wad,
Mewn cariad yn cyraedd dawn rhediad anrhydedd
Uwch bonedd arglwyddaidd pob gwlad;
Cyd-oesi mewn hedd y b'ont hyd eu bedd,,
Uniawn-wedd yn Nannau a'u hil ar eu holau,
Fel lliwgar rosynau ar eu sedd.
CAN
Ar ddyfodiad R. W. VAUGHAN, Ysw.
(mab i'r diweddar Farwnig) i'w oed Mehefin 25ain, 1811.
Mesur:—Priddgalch Gwyn (White Chalk.)
De'wch hyfryd-lon fawrddysg feirddion,
Camrau dewrwych Cymru dirion,
Dewisolion da eu swydd,
Peroryddion a cherddorion
Datganyddion llawn gorchestion,
Telynorion rhadlon rhwydd,
Nesewch yn awr o fawr i fân,
Adseiniwch newydd gelfydd gân,
I ROBERT WILLIAMES VYCHAN hylwydd,
Llew mawr enwog, llyw Meirionydd,
Haeddai beunydd glodydd glân.
Chwi feibion Gomer eurber iaith,
Rho'wch iddo barod fawrglod faith:
Iawn waith union doed y mawrion,
Gwerin ddynion a thylodion,
O un galon at y gwaith.
Mae mawr lawenydd yn Meirionydd,
Gweled cynydd ail Farchogydd,
Enwog lywydd yn ein gwlad;
Yr hwn a erys yn flaenorydd
I'r gwerinos, ac arweinydd
Pan y derfydd dydd ei dad.
Aer Nannau fawr mewn enw a fydd,
Yn mhlith marchogion rhadlon rhydd,
A bydded beunydd ini ' n benaeth,
Ac yn darian i'n gwladwriaeth,
Heddyw daeth i'w odiaeth ddydd.
Ei barch a'i ryfedd fawredd fo,
Wr llon ei bryd yn llenwi'n bro,
A'i eppil etto fyddo i feddu
Rhiandir helaeth yr hen deulu,
Tra bo Cymru'n dàl mewn co '.
PENILLION
Ar briodas R. W. VAUGHAN, Ysw., Nannau, a
Miss F. M. LLOYD, o Ragat, Gorphenaf 8fed, 1835
Mesur—Merionethshire March.
Llawenhewch oll yn awr wele wawr oleu wych,
Fe glywir drwy'n gorawr sain clodfawr swn clych;
Cyflwyned y beirddion anrhegion yn rhwydd,
Sef cyson ganiadon dillynion da’u llwydd,
I'r arwr mawr iawn ardderchog ei ddawn,
Aer Nannau rin enwog yn rhywiog mawrhawn,
Yn gyfiawn gwnawn gofio ymuno i ro'i mawl
I'w briod fwyneiddwych, lloer geinwych lliw'r gwawl,
Dyma'r dydd clodrydd clau, dyroddwyd dan yr iau
Foneddion rhinweddol,—urddasol yw 'r ddau;
Mae rhadau mawrhydi yn gweini 'n ddigoll,
Er rhoddi dywenydd o newydd ini oll.
Cydganed beirdd Gwynedd bergleredd bur glod
Ar ddydd y briodas mae'n addas yy nod,
Yr awen fwyn rywiog yn fywiog a fo,
I ganmol blaenoriaid pen breiniaid ein bro;
Hil Fychan fo'n fawr fal llwythau ar y llawr,
Unedig â'r Llwydiaid anwyliaid yn awr,
Y plant mâl planhigion, yn llon fyddo'n llu,
A'r wraig fel gwinwydden ddoeth addien i'w thy
Dymunwn bob pryd, eu bod yn y byd,
Yn meddu dedwyddwch a heddwch o hyd;
Ac hefyd gyrhaeddyd iawn wynfyd y nef,
'Rol gadael y ddaear yn llongar eu llef.
ANERCHIAD
At y Doctor E. P. ANWYL, Brynadda, ger Dolgellau,
Hydref 31, 1825.
Gan y diweddar R. AB GWILYM DDU
Y Doctor Price Anwyl, rwy'n disgwyl y daw
Hyd attoch yn fusgrell fy llinell o'm llaw,
I wneuthur penillion pur foddlon wyf fi,
Os parant ddywenydd gwych hylwydd i chwi.
Chwi ro'isoch gynghorion i gleifion ein gwlad,
A pharod gyffyriau lwys olau lesad,
A'ch ffordd yn dra medrus i'r rheidus eu rhoi,
A deifl bob afiechyd a phenyd i ffoi.
I Ddoctor synwyr—gall mewn deall a dysg,
Sy'n attal clefydon, fel moddion i'n mysg;
Nid ydyw cân benrhydd un arwydd i ni,
Ond megys coeg ddirmyg i'w chynyg i chwi.
Os medraf wrth ganu enynu fy nawn,
A'ch cael i Eifionydd fawr lonydd fro lawn,
Cewch bob rhyw groesawiad, hyfforddiad yn ffri,
A bir o'n haberoedd a'n llynoedd yn lli.
Gadewch y Ddolgellau a'i maglau, ŵr mwyn,
A deuwch wrth reol fesurol fy swyn;
Cymerwch eich rhyddid rhag gwendid i'm gwaith,
Na fyddwch anfoddus wr dawnus i'r daith.
Cewch weld o Garnfadryn i'r Moelwyn dir maith,
Yr Eifl a'r Eryri yn wisgi 'r un waith;
A gweled y llongau yn chwarau'n dra chwyrn,
Yn mynd dan eu mentyll, mal cestyll eu cyrn.
Cawn olrhain hen achau ein tadau'n gytun,
Cawn ddarllen Cywyddau, benborau bob'un;
Os rhodiwch ein trefydd a'n bröydd mewn bri,
Gweld pont ar Borthaethwy a Chonwy gewch chwi.
Cawn ddifyr ymgomio a rhodio'n ben rhydd,
A son am farddoniaeth dda doraeth bob dydd,
A chlywed yr adar mòr gerddgar yn gwau
Ar finion afonydd rhwng dolydd ein dau.
Cewch gerdded o gwmpas mewn urddas yn iach,
Cewch hela 'sgyfarnog, dra bywiog dro bach;
Cewch ganlyn yr enwair heb anair yn bod,
Os ceir at y tymor uwch Dwyfor eich dod.
Os caiff fy anerchiad wrandawiad ar dir,
Cewch amryw gymdeithion enwogion yn wir
A pheth sydd ryfeddach nid hwyrach at hyn,
Cewch glywed pêr araith, da waith Dewi Wyn.
ATEBIAD
I'r anerchiad uchod gan MEURIG EBRILL.
Derbyniais anerchiad mewn cariad mwyn cu
Gan Robert ab Gwilym y doeth-lym fardd Du;
Fe ddaeth eich llinellau heb rwystrau na braw,
O ganol Eifionydd yn llonydd i'm llaw.
Am roddi cynghorion i gleifion eich gwlad
Rwi'n foddlon o galon y mwynlon ŵr mad;
Pob Cyngor meddygawl fo buddiawl heb wad
Oddiwrthynt ni chelaf, mi a'i rhoddaf yn rhad.
Mi gefais ddywenydd o newydd yn wir,
Fy meddwl sydd hyfryd rwy'n d’wedyd ar dir;
Wrth ddarllen a myfyr ac ystyr eich gwaith,
Mi brofais drwy bleser, gu fwynder go faith.
I lais eich gwahoddiad a'ch archiad mwyn chwi,
Derbyniad calonog a serchog roes i;
Pan dilelo hin wresog a rhywiog yr Haf,
Ymweld âg Eifionydd yn ufydd a wnaf.
Gadawaf Ddolgellau 'n ddiamau ryw ddydı,
Gan ddianc o'i maglau a'i rhwymau 'n wr rhydd,
Rhag rho'i digalondid na gwendid i'ch gwaith,
Hyd Eifion y deuaf nid ofnaf mo'r daith.
Hyfrydwch fy nghalon yn dirion bob dydd,
Yw darllen gwaith beirddion hoff union eu ffydd,
Ac olrhain hen achau fu'n uchel eu bri,
Sydd orchwyl diddanus aa melus i mi.
I weld y bont newydd foreuddydd yr awn,
Ac aros i'r perwyl hyd noswyl a wnawn;
Cydsyllwn yn fanwl heb drwbwl am dro,
Ar ansawdd ragorawl hyfrydawl y fro.
Rwy'n hoffi 'r anrhydedd yn rhyfedd dan rhod,
I weled y llongau a'r bailau sy'n bod,
Yn nofio'n wastadol mewn rheol ar hynt,
Yn ngwyneb pob tywydd a'u gogwydd i'r gwynt.
'Rwy'n caru helwriaeth yn odiaeth ddi—nam,
Mi ddweda i chwi'n ebrwydd o herwydd paham;
Os dygir i'r ddalfa gu helfa go hardd,
Fe'i trwsir yn seigiau ar fyrddau'r hen fardd.
Caf weld rhyfeddodau ugeiniau'n ddigel,
Pan ddelwyf i Eifion, gwlad meillion аa mel,
Ac eistedd ar fryndir uwch glasdir y glyn,
I ddarllen di-lediaith deg waith DU A GWYN.
GALAR-GERDD
Am Mr. RICHARD JONES, Llwyngwril,
yr hwn a fu farw Chwefror 18fed, 1853, yn 73 mlwydd oed.
Ton:—Fy Anwyl Fam fy hunan
O ! angau pa'm yr aethost ti
Yn elyn i ddynoliaeth?
Ai trosedd Addaf, ydoedd ben
I'w had yn Eden odiaeth,
Fu'n achos iti ar y llawr
Fwriadu 'th fawr ddifrodaeth?
Dinystrio wnest holl ddynolryw
Fu ’rioed yn byw a symud !
Neb, neb ond dau flynyddau'n ol
Gadd yn ddiangol ddiengyd,
Rhag dioddef marwol ergyd caeth
Dy dreiddiawl saeth ddychrynllyd.
Yn fynych ar ein gyrfa frau
Yr wylwn ddagrau heli,
Am fod cyfeillion gwiwlon gŵyl,
A cheraint anwyl ini,
Yn cael o hyd gan angau mawr,
Eu tori i lawr i'w beddi,
Ow ! Richard Jones, pregethwr rhydd,
Oedd bur dduweinydd unwaith,
A aeth yn fud i gryd y gro,
Ni welir mo'no eilwaith;
Ni chlywir chwaith mo'i barabl llawn,
Fu'n rhwyddaidd iawn mewn rhyddiaith.
Bu'n hyfryd genym lawer pryd
Ymgasglu 'nghyd yn dyrfa,
I wrando arno 'n traethu gwerth
Yr Aberth ar Galfaria;
Pan rhoddodd Crist ei hun yn Iawn,
Y Tad a lawn foddlona.
Er rhoddi 'i gorff yn ngwaelod bedd
I orwedd gyda 'r meirwon,
Ei enaid glân yn seirian sydd
Mewn pur lawenydd union,
Yn moli'r Oen a'i gariad rhad
Yn ngolau 'stad angylion.
Ffarwel y parchus athraw pur,
A 'i ddinam eglur ddoniau,
Diweddodd daith y fuchedd hon
Yn ingawl loesion angau;
Ni chlywir mwy mo'i araith glir
Na'i goethion wir bregethau.
Pan ddel yr adgyfodiad mawr,
Ei gorff o lawr y gweryd
I'w uno ’n bur a'i enaid byw,
Yr Arglwydd Dduw a'i cyfyd;
I gydfwynhau llawenydd mad
Byth, byth yn ngwlad y gwynfyd.
ANERCHIAD
Serchlon i ELEN MEIRION.
Ton:—Belisle March
I ELEN MEIRION gyraf dirion
Anerchion pur yn awr,
Gan lwyr obeithio ’n lle 'th dramgwyddo
Y gwnant dy foddio'n fawr;
'Rwyf heddyw'n llawen 'weld mor drylen
Yw ffrwythau d'awen di:
Mae pob arwyddion y daw 'th ganiadon
I gyson freintlon fri;
Boed iti gael mwynhad,
O burder lleufer llâd,
Gan ddewis dinam dda destunau,
I byncio mydrau mâd;
A gwilia ochri i gyfansoddi
Rhyw ogan—gerddi gwael,
Ni chei anrhydedd byth wrth goledd
Rhyw faswedd mòr ddifael:
At gyrhaedd mawredd maith,
A theilwng fri' i'th waith,
Astudia reol gramadegol
Rhin ethol yr hen iaith;
Dy odlau cywir felly berchir,
Goleddir yn ein gwlad,
Ath gu iawn archwaeth ddoeth gynyrchion,
Yn rhwyddlon ga fawrhad.
Y LLYSFAM DDRWG.
Gan GUTYN EBRILL.
(Teimlad geneth ymdilifad.)
Ton:—Yr Amser gynt.
Fy nghyd ieuenctyd d'owch yn rhes,
I wrando 'm hanes I,
A'r hyn a wna fy "Llysfam" ddrwg,
Un lawn o ŵg yw hi.
Yr oeddwn gynt yn eneth lon
A'm pwys ar fron fy mam,
Mawr ydoedd ei gofalon hi
Rhag byth i mi gael cam.
Yn morau f'oes hoff chware' wnawn,
Ni chawn un adeg chwith,
Cawn "ddoli" fach a blodau fyrdd
Wrth rodio ffyrdd y gwlith.
Gofalai mam am danaf fi
O gyrau 'r lli ' a'r llaid,
Hi'm dysgai i fynd o gam i gam
I edrych am fy nhaid.
Hi wnaeth fy 'fforddio lawer tro
Do, do yn llyfyr Duw,
Yr hwn sy etto ar ei hol
Yn rheol imi 'fyw.
Ond, galar yw adgofio hon,
Y fron sy 'n mynd yn friw;
Er maint a wylaf ar bob cam
Fy anwyl fam nid yw;
Pan af yn ol i dy fy nhad
Daw brad i'm calon brudd,
Wrth gofio am y dyddiau gynt
A’r helynt heddyw sydd.
Ni sonir mwy am enw mam,
Na fydd ryw nam yn ôl,
Ni roddant iddi nodwedd gwell
Na "dynes hell a ffôl."
Edliwia imi ffyrdd fy mam
A'i cham arferion chwith,
Nes bydd fy nagrau dwys ar led
Mòr amled ag yw ' r gwlith.
Symudwyd pobpeth 'fewn y tŷ,
A’m llysfam sy ar sedd,
Goruwch y fan lle magwyd fi
Fe dorodd hi fy hedd.
Hi daflodd fy nheganau oll,
Ar goll aeth llawer tlws,
Fy ngemau heirdd a'm "cadair" dlos
A fwriodd dros у drws.
A llun fy mam oedd ar y mur,
Ow ! gur, hi aeth ag ef
I'w ddarnio a'i hau mewn erchyll hynt
I bedwar gwynt y nef !!
Os d’wedai ddim i'w herbyn hi
Ceryddir fi yn fawr,
A chefais ergyd draws fy mhen
Mewn sèn, do lawer awr.
Dioddefais eisiau ambell dro,
O, do, am lawer dydd,
Ni roddai gysur im' na lles
I wella'm mynwes brudd.
Feddyliwn nad oes teimlad merch,
Na serch o fewn i fron
Y ddynes a all gario gwg,
A bod mòr ddrwg a hon.
Ni welaf annedd is y nen
I roddi 'mhen a 'mhwys,
Ond yn y fynwent wrth y llan
Lle'm rhoddir dan y gŵys.
Caf orwedd yno gyda 'mam
O! mam! mae'th enw mwyn
Yn pylu y picellau dur,
Anghofiai'r cur a'r cwyn.
Cawn aros yno'n hir mewn hedd,
Heb gledd na miniog loes,
Na gofid o un cwr o'r byd,
Fel bu ar hyd ein hoes.
O tyned Iôn o’m "Llysfam Ddrwg"
Y gwg a phob rhyw gam,
Fel caffo hi fendithion rhad,
A meddu teimlad MAM.
Y BARDD YN EI WELY,
YN NOLFFANOG, TALYLLYN.
Hyfryd fàn yw Dolffanog—i brydydd
Mae'n baradwys enwog;
E gan mor heinif a'r gôg
Ni lethir calon lwythog.—G. E.
MAWL-GERDD
W. W. E. WYNNE, Ysw., A. S. dros Swydd Feirion am ei haelfrydedd gwladgarol yn rhoddi tir claddfa i Ymneillduwyr Dinas Mawddwy, &c.
Ton:—Belisle March.
Yr hardd bendefig dyrchafedig,
Caredig cywir iawn;
O linach lonwedd Gwynniaid Gwynedd,
Rhai doethedd mawr eu dawn.
Gwiw—fyg ofydd a naturiaethydd,
A doeth ladmerydd mawr,
Llew mirein-wych, llyw Meirionydd,
A'i llywydd ar y llawr;
Eich enw yn ddi-wad sydd glodfawr yn ein gwlad,
Hylaw benaeth o hil y bonedd,
Mor rhyfedd fu eu mawrhâd;
Rhai elusengar di-rodres-gar,
A hawddgar drwy eu hoes;
Heirdd a selog urddasolion,
Cariadlon fwynlon foes;
A chwithau ydych hael, a ffyddlon wr di-ffael,
Yn gwasgar rhoddion i dylodion,
Efryddion gweinion gwael.
Y Llanegryniaid a'ch llon goronant,
A llefant am eich llwydd,
Dymunant i chwi bob daioni a gwir fawrhydi'n rhwydd.
Eich hardd-wych urddas, a'ch coeth gyweithas,
Yn mhob cymdeithas deg,
Sydd dra rhagorol fel gwr cyfrifol,
Da freiniol a di-freg:
Pan eich canfyddir fe lawenychir,
A chyd ddyrchefir chwi,
Cewch barch a mawredd gan wreng a bonedd,
Ein doeth arabedd ri.
Mae PENIARTH fawr heb wad,
Lle hardda ' drwy'r holl wlad,
I chwi yn odiaeth hen dreftadaeth,
Ac etifeddiaeth fad.
A MALLWYD dirion le hyfrydlon,
I ddynion ferthlon fyw,
Sydd i chwi'n siriol fuddiol feddiant,
Tàn bendant warant wiw.
Ac hefyd yn ddi—gudd, ein gwron rhadlon rhydd,
Eich gwaith clodadwy yn NINAS MAWDDWY
Yn anmhrisiadwy sydd.
Y dinasyddion, a'r holl blwyfolion,
Yn rhwyddlon a'ch mawrhânt,
A diolch hefyd, ar bob enyd,
Yn unfryd i chwi a wnant.
Eich gweithred gyhoedd ganmola miloedd,
Yn lluoedd ar y llawr;
A chan bob teulu yn ein talaeth,
Chwi gewch ganmoliaeth mawr.
O rydd ddewisiad chwi aa roddasoch,
Ni wrthodasoch dir
Yn fynwent gyson, i gladdu'r meirwon,
Fe glywir son drwy'r Sir.
Ac am y weithred hon fe brofa pawb ger bron
Eich bod yn hawddgar gymwynasgar,
Wr tringar llachar llon;
A'r oes ddyfodol a wna eich canmol,
Olynol yn ddi-lyth,
Ac wedi eich claddu chwi a'ch teulu,
Eich clod a bery byth.
Boed i chwi ar eich taith
Bob llwyddiant mwyniant maith;
Fel cynrychiolydd Sir Feirionydd,
Yn gelfydd gwnewch eich gwaith;
A phleidiwch gedyrn ddiwygiadau,
Iawnderau gorau i gyd.
Yn genad HEDDWCH doeth ymddygwch,
Tra byddwch yn y byd.
CAN
I ofyn LLWY BREN, gan y diweddar
LEWIS MORRIS, Ysw. (Llewelyn Ddu o Fon.)
Cenir ar
"Arglwyddes drwy'r Coed." (Through the woods, Lady.')
Attolwg CYDWALAD clau fwriad clyw fi,
Diwegi dy agwedd wyt weithian yn ddoethedd,
Dy glod a iawn gludir, a daenir hyd Wynedd,
Dy ddyfais, dy ddawn synwyr llawn sy'n wellhad,
Yn peri anrhydedd a gwledd yn ein gwlad;
Dy ddoethaidd amcanion swydd enwog sydd union,
I ni yn ddrych golau gwych ufuddwych o foddion,
Pob dyn aiff mewn braw os daw ar ddwys daith,
Fe syna yn ddwys yno pan welo dy waith,
Fod bachgen o Gymru i'w ryfeddu mòr faith.
Am naddu yn rhinweddol naturiol wyt ti,
Dalyy lluni dull hynod haelionus eulunod
Ar brenau yn gerfiadau rhyw foddau yn rhyfeddod;
Pe buasai dy hynt yn y byd gynt yn bod
Yn nyddiau'r " Pigmaelion " tra glewion trwy glod,
Ni buasent end ffyliaid a'u dull megis deilliaid,
Wrth ganfod gwaith, moddus maith, didolwaith CYDWALAD.
Er maint oedd eu clod gwn yn bod gan y byd,
Nid oedd eu cywreinwaith a'u harddwaith o hyd,
Wrth dy waith doethwedd ond gwagedd i gyd.
Ni ddichon fy 'madrodd iawn adrodd a wnei
O wyrthion di warthus, mewn cynydd amcanus,
Yn gywrain waith celfydd a d'eunydd daionus,
Am un gorchwyl gwych, maith ddrych yma a thraw,
Etholais o’th haelwaith da lyfnwaith dy law;
A hyn trwy wedd hynod ryw fodd sydd ryfeddod,
A'm gyrodd i, brynta bri, heb ochel i bechod;
Rwy'n chwenych dàn y nen, LwY BREN haela' bri
I'm meddiant ŵr moddol o'th ddoniol waith di,
Bydd gorchest o'r gorchwyl gain anwyl gan i.
Os hapia iti gofio am lunio imi lwy
Brofadwy brif odiaeth gu raenus gywreinwaith,
A'i chael yn dra chelfydd o'th ddedwydd ddiwyd—waith,
A llunia hi'n hardd i'r bardd fwrw i'w big
Bob peth a fo'n addas da ddyfais di ddig;
A gweithia hi'n gywir, llwy wiw—glws ddull eglur,
Deg raen di grych gerfiad gwych a drych i'r edrychwyr;
A'i phen yn un hafn lydan gafn led y geg,
A llonwych droed lluniaidd hyfrydaidd di freg,
I borthi gwep erthyl rwy'n ei disgwyl hi'n deg.
I'th goffa pan gaffwy' y llwy yn fy llaw,
Modd hylaw mi hwylia i diroedd y deha',
Ac ar у "cawl erfin" yn sydyn mi osoda'—
Pan elwy' i dir Mon dyrys dôn dros y dwr,
Mi lynca'u holl "frwchan" a'u "sucan" yn siwr;
Fe dderfydd "maidd" Arfon-good-morrow "uwd Meirion,"
Mi âf yn rhol os deil fy mol rhyfeddol o foddion;
A siawns nad â i'n dew, rho'i yn lew yn rhen lên,
Hir oes i Gydwalad da syniad di sen,
I minau boed iechyd llon bryd a'm llwy bren.
CAN
I'R CYMREIGYDDION YN LLUNDAIN,
gan FRANCIS JONES, Tywyn, Meirion.
Mesur:—"Calon Derwen."
Gwrandewch Gymreigyddion rai gwychion eich gwedd
Sy'n caru iaith Gomer drwy fwynder hyd fedd;
Cofleidiwch, coleddwch, arferwch hi'n faith,
Rhag digwydd heb hyny 'bydd gwyrni'n eich gwaith;
O cedwch i'ch co ' hen brif iaith eich bro,
Mae'n rhoddi mawr heddwch, i frodyr hyfrydwch,
Mae'n fôr o ddifyrwch a thriniwch ei thro;
Iaith weddol, iaith wir, iaith barod, iaith bur,
Iaith lawn o ddolena', iaith Gomer, iaith Cambria,
Tŵr gwiwlon, tir Gwalia, aïi dora' fal y dur.
Er digwydd i'r Saeson, gŵn duon, eu dod
I Frydain hen fradwyr, trybaeddwyr mewn bod,
Gwneud lledrad o'n dinas oedd gynes ei gwedd,
A'n gwledydd toreithiog, rai gwlithog mewn gwledd.
Cadwasom ein hiaith, yn gryno ddi-graith,
Coleddwn, cawn lwyddiant—cawn dànau, cyd-dynant,
Cawn gariad, cawn geraint, cawn feddiant fo faith,
Cawn fwynder, cawn fudd, o'i dilyn bob dydd,
Cawn lonach llawenydd—dawn wyneb dywenydd,
Cawn bob nos ryw newydd, mae'î rhyddid yn rhydd.
I dad y gymdeithas sydd gynes ei gwedd,
Boed iechyd a llawnder, da fwynder hyd fedd;
I'w llywydd boed llwyddiant, a ffyniant i'w ffydd,
I gynal iaith Gomer, hardd, dyner bob dydd;
O gwyliwch rhag gwall rhwysg balchder heb ball,
Y gelyn dig'wilydd rhydd floesgni a Seisnigrwydd,
Heb wrido mae'n w'radwydd i'r celfydd ddyn call;
Gwell cynal rhag cam—iaith fwynaidd eich mam,
Iaith Gomer a gym’rwyd i'ch rheoli ar yr aelwyd,
Mewn moethau eich maethwyd, a rhoddwyd hi i'ch rhan.
Yn awr fy nghyfeillion, wyr dewrion mewn dysg,
Chwennychwn i chwi lawnder a mwynder i'ch mysg,
Cael telyn a thannau a mwynder y’mhob modd,
Areithio Cymreigyddiaeth yn berffaith o'ch bodd;
Meddyliwch bob tro am fryniau'ch hen fro,
Sefgwlad eich genedigaeth sy'n llawn cymreigyddiaeth,
O'i herwydd boed hiraeth da glanwaith dan glo;
Tra llywydd a llen cyd bynciwn bob pen,
Cyd-ganwn ddigonedd—wir felus orfoledd,
Cymraeg hyd y diwedd—wyr mwynedd, Amen.
ENGLYNION
I GAERLLEON GAWR
Gwyr lluoedd am Gaerlleon,—urddunawl
Hardd ddinas y Brython,
Ond och hi aeth, saeth yw sôn,
Er's oesau'n eiddo'r Saeson.
Caer ydoedd yn lle cariadus,—gorwych
A gwir anrhydeddus,
A dewr oedd y cawri di rus,
A'i cadwai'n ddihocedus.
A theg emawg iaith dda Gomer, —anwyl,
Ga'i yno ei harfer,
Nid coegaidd floesgaidd aflêr,
Wynebog iaith anwiw-ber.
Daeth o bell, mewn dichellion,—ryw fagad
O ryfygus ladron,
Dan wthio dwyn a wnaethon,
Y ddinâs iach ddawnus hon.
Ei chaerau hardd-wych euraid—faluriwyd
Gan afler estroniaid,
Twyllodrus arswydus haid,
A gwallus ffyrnig wylliaid.
Eu dieflig fwriad aflan,—hyll wancwn,
Oedd llyncu y cyfan,
Pe medrant rheibiant i'w rhan,
Drefydd y byd bedryfan.
GWESTY BWL Y BALA.
Nid lle dwl yw BWL y BALA,—menyn
Geir mewn munyd yma,
A bir, a chaws, a bara,
Llaeth, a dwr—lle eitha da.
Gwraig ddestlus hwylus hoywlon—am orchwyl,
A merched cariad-lon:
A thêg yw coffa'r waith hon
Am rinwedd y morwynion.
Rhai eirioes o'r rhyw orau—di-soriant
A siriol wynebau;
Haeddant dan rhod glod yn glau
Gwiwrwydd, mewn mwyndeg eiriau.
ENGLYNION
I FEIRCH A GWAS Y RHIWLAS.
A gyfansoddwyd gan y Bardd wrth gael ei gludo ganddynt i Lanuwchllyn yr 17eg o Fehefin, 1853.
Rheolaidd i feirch y RHIWLAS—heb ballu
Gwnaf un pill o bwrpas,
Tri englyn gwedyn i'r gwas,
A nyddaf mewn trefn addas.
Meirch gwiwdeg, mawr-wych egwydydd—tynant
Nes tanio'r palmentydd;
Carlamant, rhwygant yn rhydd
A ffrystiawl drwy 'r fforestydd.
Sion William sy iawn hwyliwr—a gwympaidd
Gampus bedrolfenwr;
Da was, doeth, sobr di ystwr,
A gwaraidd bwyllog yrwr.
Llewaidd heb arfer llwon—trafaelia
Trwy fil o beryglon,
A'r meirch a wnant ei eirchion,
Ar d'rawiad llygad yn llon.
Tybiwyf na cheir yn Meirion—gywirach
Gyrwr di-ddichellion;
Ar air rwy'n credu 'r awron
Na wel Sais un ail i Sion.
DAU ENGLYN
I BONT NEWYDD TALYLLYN, MEIRIONYDD.
Pont eurawg, gaerawg goryn,—gwaith Iago
Goeth, wiw-gar saer hydyn;
Pont dda ollawl—pont ddillyn—
Pont i wellhau pwynt Talyllyn.
Pont lungar hawddgar yw hon,—gu-wastad
O flaen gwesty tirion;,
Ffraw dani yn ffrwd union,
Rhed y dwr rhuadwy 'i dòn.
Hydref 3lain, 1853.
HEN GROG-BREN
CARCHARDY DOLGELLAU, YN CAEL NEWID EI SWYDD.
Y Crogbren o'r nenawr a dynwyd i lawr,
Fe'i gwnaed gynt i grogi yr hen "Hwntw Mawr"—
Ac weithion heb arswyd fe'i codwyd mewn cell,
Swydd newydd roed iddo, ddi-guro ddau gwell.
Ni chrogir yn Meirion ddim lladron rhag llaw,
Na chreulon, anbirion lofruddion dan fraw—
Alltudir hwy bellach fel bawiach y byd,
I ganol gwlad estron, yn gaethion i gyd.
Ebrill 25, 1858.
ENGLYNION
I MISS MARY RICHARDS, am ei dewrder yn dàl drwg weithredwr ydoedd wedi tori cloau, ac ar ddianc allan, yn Ngharchardy Dolgellau.
Mwy o orchest a wna merched—lliwgar
Fo'n llygad agored;
Pellach heb gel gwnant weled
Na rhai meibion gwreiddlon gred.
Mair enwog a'i mawr rinau,—wech eurdeg
Carchardy Dolgellau,
Haeddai hon glod heddyw'n glau
Gan ddynion âg iawn ddoniau.
Di-ball y chwiliodd allan,—ddichellion
Erchyllig leidr aflan;
A'r modd 'dyfeisiodd y fan
I ddiengyd yn ddi-yngan.
Mair landeg, ffriwdeg a ffraeth,—ddillynaid
A llawn o wybodaeth.
Canfod, ac adnabod wnaeth,
Ei fwriad drwg a'i fariaeth.
Rhedodd y feinir hydyn—yn agos
I'r ffyrnigaidd adyn;
Ai rydd egwydydd gwedyn
Rwymwyd, gadwynwyd yn dyn.
Iechyd i Fair—wyched a—funeidiodd
Gan odiaeth weithredu,
Daliodd y blaidd, delffaidd, du—
Chwerwodd i'w ail garcharu.
Hir einioes i Fair anwyl—a flaenodd
I gyflawni'r gorchwyl,
Parod yw ar bob perwyl,
I wneud da mewn hynod hwyl.
Ebrill 26, 1853.
I MR. OWENS Y CEIDWAD AR TEULU.
Llewyrchus wron llachar,—cu odiaeth
Yw ceidwad y carchar,
Gwr rhydd, gwych—pob gradd a gâr
Syw agwedd Owens wiwgar.
Ai wraig anwyl rywiog union heinif
Sydd hynaws a thirion,
A'r plant iachus, lliwus, llon,
Hygar, sydd fel planhigion.
Heddwch fo yn eu haddef,
Dan nawdd a bendith Duw nef.
ENGLYNION i'r "CAMBRIAN HOTEL,"
gwesty newydd Mr. W.JONES, Llangollen.
Gawried pawb oll yn Llangollen,—heddyw
Mae'n hawdd bod yn llawen;
Taenwyd cariad llad fel llen,
Yn fwgwd ar genfigen.
Wele hynod lawenydd,—agorwyd
Gwiw eirian dŷ newydd;
Llangollen is wybren sydd,
Orwech iawn ar ei chynydd.
Gwesty na cheir ei gystal—yn fynych
O fewn i'r un ardal,
A gwron hardd goreu'n Ial,
Gonest sydd yn ei gynal.
Gwelliant a fydd i Langollen,—ac elw
Ddwg eilwaith i'w berchen,
Cyn hir ni arswydir sen,
Cura brif westy CORWEN.
CAMBRIAN têr, porth y Berwyn—ei gelwir,
A golwg pur ddillyn
Sydd arno, pan delo dyn
I'w neuadd , tyr ei newyn.
Da iawn yma dan amod—heb oedi
Ceir bwydydd a diod,
Hwyr a borau ' n wir barod,
A thrwy 'r dydd beunydd mae'n bod.
Maethlon wresogion seigiau—yn helaeth
I iawn hulio'r byrddau,
O waith cogydd clodrydd clau,
Ddwys gludir yn ddysgleidiau.
Di-wgus weinidogion—weinyddant
Yn addas a ffyddlon,
Oll un fryd a llawen fron,
Gweis tawel i'r gwestyon.
Mor heini' mae'r morwynio ,—gwiw nodwedd ,
Yn gwneud eu gor'chwylion;
Pob un i'w lle—pawb yn llon,
Feddyliawl ufuddolion.
Gleiniawg welŷau glanwaith—i orwedd
Ga arwyr wrth ymdaith,
Ni wel neb wyneb unwaith
Gwelw llwyd, drwy gael gwely llaith.
Puredig barch priodol—di—anair
Gaiff dynion cyfrifol;
A'r bawaidd rai ffiaidd ffol
Brocheiddiawg, gaiff barch haeddol.
Gweled bydd Sian a GWILYM—eu miloedd
O ymwelwyr erddrym,
I'w hanedd drwy ryfedd rym
Hidlant eu haur yn edlym .
ENGLYNION
A wnaed wrth syllu ar arwydd, (Sign) ar fur gwesty, yr hwn a elwid "Red Lion," ac ydoedd wediei lunio yn hynod o annghelfydd.
Ai llun cath, ai ynte llun ci—neu lew,
Neu lwynog, neu ddyfrgi,
Neu hwch dòrog yn crogi
Ar wal fawr а a welaf fi?
Neu hyll, foel, deryll fûl deuryw—gwrthyn,
Neu goeg erthyl lledfyw?
'Dall un brutiwr, bostiwr byw,
Byth dd'wedyd llun beth ydyw!!
Llaw anhydyn y lluniedydd—anoeth,
Oedd hynod annghelfydd;
Gwael ydyw—pawb drwy'r gwledydd
A'i gwelo, i'w feio fydd.
ENGLYNION
O glod i "GLWB WASHINGTON" neu y "Clwb Du," yn Nolgellau.
Clo heb dwyll yw y ."Clwb Du"—i attal
Diotwyr yn Nghymru,
Rhag pechod o feddwdod fu
Am oesoedd yn gormesu.
Da ydoedd, hawdd yw dwedyd,—ei lunio,
Pair ddylanwad hyfryd;
Dwg feddwon , afradlon fryd—i sobrwydd,
Mae'n gwreiddio'u hawydd mewn gwir ddyhewyd.
Gwelir yn ddigon golau—ei effaith
Wiw hoff yn Nolgellau;
Sobreiddiwyd, dygwyd degau—i 'mddidol
Yn wir frawdol o'u hen arferiadau.
Gwnaethpwyd rhai fyddai'n feddwon—di-doriad
A dyrus ynfydion,
Yn barchus, ddawnus ddynion,
Is haul, drwy'r gymdeithas hon.
Gwell moddion na gwallau meddwi—gafwyd
Yn gyfan eleni;
Uno 'n gôr i glodfori— mae'r ie'nctyd
Llon, iach, haelfryd—yn llawn o uchelfri.
Mòr orwych yma'r awr'on—yr una
Rhianod lledneision
Gyda'r côr yn gantorion
Mwyn-eiddgu, i fawrygu'r Iôn.
Gorwych mewn llais a geiriau—y canant
Eu ceinion anthemau,
Yn ëofn â'u geneuau
Yn llawn parch, nes lloni'n pau.
Eu mawr sêl anhefelydd,—gwên foddawg
A ganfyddir beunydd,
Llais eu mawl pêrseiniawl sydd
Yn alaw drwy'n heolydd.
Y "Clwb Du," ni bu yn bod—ei wychach
I ochel drwg meddwdod,
Lleshad mawr, rhwyddfawr dàn rhod,
Drwyddo'n bur, dreiddia'n barod.
Mòr wiwlwys mae ei reolau—dinam,
Yn dwyn yr aelodau,
Er llwydd i bur rhwydd barhau
Yn frodyr un fwriadau.
Bydd i'r dorf yn drysorfa—hael ethawl
Helaethwych i'r eitha',
Aur yn dwr ac arian da
Heb omedd, gaiff pawb yma.
Mewn bri mawr bob awr у bo,—gan addas
Gynyddu a llwyddo,
Naws degwedd, nes diwygio
Holl feddwon, y freinlon fro .
ENGLYNION
Ar ddyfodiad Miss MARY JONES, âeres yr Hengwrt Uchaf i'w hoed, y 15ed o Hydref, 1840.
Wele! newydd ddydd a ddaeth—yn wiwdeg
I wneud coffadwriaeth,
O degwych enedigaeth
Ac oedran, hoff rïan ffraeth.
MAIR wen yn ngwlad Meirionydd,—ni welwyd
Anwylach merch ddedwydd,
Mair dêg! hawddamor i'r dydd
Eich ganed—mawr fo'ch cynydd.
Cofier mil wyth cant cyfan—a deugain
Mewn da agwedd seirian,
'Pymthegfed dydd, gloywddydd glân,
O Hydref, daeth i'w hoedran.
Llwydd i chwi, aa bri ger bron,—a phriod
Hoff rywiawg a thirion,
A phlant hawddgar, lliwgar llon—
Siriol, ac iachus wyrion.
DAU ENGLYN
I ddwy ferch y diweddar Mr. J. JONES, Skinner, Dolgellau.
Hynaws, a theg yw Hana'—hoff anwyl
Un ffunud ag "Efa,"
A chafodd Ann, ddiddan, dda
Synwyr uwchlaw "Susana."
Gweddaidd, arafaidd wyryfon—di-dwyll
Nodedig o ffyddlon;
Dwy chwaer hawddgar, liwgar lon,
Firein-wych heirdd forwynion.
ENGLYN
I dair merch Mr. John JONES, Cottage, Llanelltyd.
Hoff rian seirian yw Sara—a'i chwaer
Wech eirioes Eliza,
A geneth hardd ddi—gardd dda,
Lân, araul, yw Leonora.
DIOLCHGARWCH
I Miss LAURA GRIFFITH , Ty'n'rardd, Llanelltyd, am anrhegu'r bardd â ffon
Y lwyr graffus Laura Griffith,—rasol,
A roes im' ffon newydd
O waith braf "Morgan Dafydd,"
Gwanar yr oes am gân rydd.
Ffon gu , ïesin, a phen gosod—gwympawg,
Mae'n ffon gampus hynod;
Ffon erfai, ryglyddai glod
Peraidd, gan fydrydd parod.
Ffon gywrain, firain i Feurig,—luniaidd
Ffon lanwaith, nodedig;
Ni wel bardd mewn gardd, na gwig.
Lathraidd law—ffon mòr lithrig.
Diolch it fy chwaer dawel,—ddi-anair,
A gwiw ddoniau uchel,
Am ffon gnapiog ddiogel ,
Dàn gamp, medd pob dyn a'i gwel.
Ebrill 12fed, 1853.
ANERCHIAD
A chyngor i Miss LORA GRIFFYDD, ar ei mynediad i'r America o Ddolgellau , Ebrill 10ed, 1853.
Mesur—Morwynion glan Meirionydd.
Ffarwelio rwif a chalon brudd
A Lora Griffydd dirion,
Sy'n mynd hyd chwyddawg frigawg frau
Ymwriawl donau mawrion,
Yn rhian ffraeth, er gwaeth er gwell,
I Feric bell o Feirion.
Dymunwn iti ar dy daith
Oreudeg berffaith rwydeb,
Na foed i dwrf na chynwrf chwâu
Gorwendòn , na gerwindeb
Ystormydd trymion o un rhyw
Edwino lliw dy wyneb.
A phan gyrhaeddych ben dy daith,
Dy fuddiol waith a fyddo
Ymwasgu â chyfeillion gwâr
A wnel dy gyfarwyddo,
A'th arwain i gynteddoedd cu
Diogel dŷ Duw Iago.
Bydd yn ochelgar nos a dydd,
Ti ddylit beunydd wylio
Rhag myned i gyfeillach wael,
Ac felly gael dy hudo
I adael tŷ a gwaith dy Dduw
A'i gyfraith wiw yn ango'.
Boed iti'n fynych dan y sêr
Gu addas arfer gweddi,
A disgwyl wrth dy Dduw'n ddiball,
Fel morwyn gall heb golli;
O hyn y daw i ti bob awr
Yn ddinam fawr ddaioni.
Ffarwel fy anwyl Lora fwyn
Diweniaith forwyn dyner,
Bendithion fyrdd ar dir a môr
A gaffych o'r uchelder,
A phan orphenych daith y llawr
Cael coron fawr cyfiawnder.
ENGLYNION
o ddiolchgarwch i Miss ANNE JONES, Penycaerau, ger Aberdaron , am ei ffyddlondeb yn casglu enwau tanysgrifwyr at "Ddiliau Meirion."
Cyrhaedd i Bencaerau—yn wiwlwys
A wnelo'm llinellau,
I dŷ Ann sy'n llawn doniau,
Yn Lleyn bell—y llawen bau.
Rhwydd-wych i Ann y rhoddaf—ddïolwch,
Mawr ddyled sydd arnaf;
Digellwair hyd y gallaf,
Coffau ei rhinweddau wnaf.
Ni fu fenyw yn Eifionydd—na Lleyn,
Mewn un lle ei helfydd;
Pa Ann , na pha Susan sydd
Mor enwog yn Meirionydd:
Meddyliodd Ann Jones am "Ddiliau—Meirion,"
A mawr ymdrechiadau
Y mêl glân a gluda'n glau
I'w chegin, lon'd ei chawgiau.
Da iawn Ann, gwnest wasanaeth—i filoedd,
Cei felus ganmoliaeth;
Dilys caiff pawb drwy'r dalaeth
Foliau llawn o fêl a llaeth.
Golud, a llwyddiant gwiwlon—a gaffych
Gu, hoffus, fun dirion,
A byw'n dêr ddi-brudd-der bron,
Deiroes uwch Aberdaron.
ANERCHIAD
I Mr. DAVID MORRIS DAVIES, nai o fab chwaer i'r awdwr.
Difeth it' fy nai Dafydd,—ddi-anglod
Gwnaf ddau englyn newydd;
Nodaf a d'wedaf y dydd
Dy anwyd, mewn dywenydd.
Mis Ebrill chweg, y degfed—oedd y dydd,
(Hawdd yw dweyd) y'th ganed,
Yn faban gwiw-lan, bu'n ged
Wiwlon, i’th fam dy weled.
Ymwriaist yn llanc mirain—dan y ser
Hyd yn saith ar hugain;
Bydd fyw eto'r Cymro cain ,
Drwy degwch—dair a deugain .
HIR A THODDAID
I Mr. David Jones, ( Dewi Rhagfyr.)
Cyfaill dihafal, dyfal, a difyr,
Da, a rhywiogfwyn yw "Dewi Rhagfyr;"
A gwir hyfrydwch e gâr ei frodyr,
Fe rydd enaint, a nard i farddonwyr,
Mab astud yw'n mhob ystyr—synwyrol,
Moesgar ei reol yn mysg goreuwyr.
DAU ENGLYN
I MR. HUMPHREY JONES, Caerlleon.
Rho'i parch i Humphrey ap Io'n—a ddylai
Gwyddelod, a Saeson;
Rhodded y Cymry'n rhwyddion
Iddo hyd arch, barch o'r bon.
Mynwesol gymwynasydd—da, ydyw
A didwyll or chwylydd;
Hwyrach mai fe yn hoyw-rydd
Etto ar Gawr yn Faer a fydd.
ETTO, I FERCH FECHAN MR. JONES
Dor'thy Jane, wiwlan ni welwyd — gwynach
Geneth pan y'th ganwyd;
Gwridog a hawddgar ydwyd,
Eulun ail i "Elen" wyd.
Dy glod ar hyd y gwledydd—a daena
Pob dawnus ymwelydd;
Glendid Mon, a Meirionydd
Ynod, heb ddim sorod sydd,
O mòr deg y'moreu d'oes—yw'th aeliau
A'th olwg diŵyrgroes
Pwy fedd serchlon, fwynlon foes
Nath gar, enethig eirioes.
DAU ENGLYN
I enhuddo digofaint Meistri R. JONES, (Robin Awst,) a GRUFFYDD SIENCYN AP IEUAN, Fferyllwyr, Towyn , Meirionydd.
Hoff, wir, ollawl Fferyllydd—yw Rhobert
Wr hybarch di-eilydd,
Cyflawn iachâd, rad, a rydd
I afiach ddioddefydd .
Ffraw wella'n swydd fferyllydd,—mae Ifans
A myn'd mwy—fwy clodrydd,
Coel—fawr brif Ddoctor celfydd,
Ar y fainc cyn hir a fydd.
ATTEBIAD.
Diolwch gwir a dalwn—i Feurig
A'i fawredd fynegwn;
Ei glod ar led a gludwn,
Modd hawdd yw "madda" i hwn.
ANERCHIAD
I deulu y DOLAU GWYN, Meirion.
I deulu gwâr Dolaugwyn—pur odiaeth
Y prydaf dri englyn;
A chwedi cyhoeddi hyn,
Ar fyr, gwnaf un i'r forwyn.
Margret Lewis sy'n ddewisol—wraig hardd,
Rywiog, hoff brydweddol;
Nid cecrus, ffuantus ffol
Anhynaws wraig hunanol.
Ac Evan, eirian arab—ga air da
Fel gwr doeth llawn cudab ;
Gwir hefyd mai goreufab,
Gwel myrdd, yw Gwilym eu mab.
A morwyn bur dda i chymeriad—yw Sian,
Addas iawn ei rhodiad;
Benyw liwgar foddgar fad,
Ddistaw, garuaidd wastad.
PLAS UCHAF, DOLGELLAU, a'i FFUMERAU
P'le sy iachach na'r "Plas ucha"—hyffordd
A hoffus breswylfa;
Ei neuadd hardd ddi-gardd dda
Goethwyd yn fflurawg eitha.
Y cyntedd sy'n lle prydweddawl,—berth-waith
Ei borth Gorllewinawl
O'r ochr yma, gweithia gwawl
Drwy'r anedd, a'r Dwyreiniawl.
Cu harddwych gurn cywir-dda—goreurawg,
Geir ar y Plas ucha';
Curn enapiog, diwyrog da,—curn perffaith,
Cywrain o emwaith yw y curn yma.
Curn cedyrn―fe'u ceir hwy'n cydio,—a'r mur
Er maint fydd y taro;
Ni syflant, glynant dan glo,
Er i gorwynt hir guro.
Curn difreg a theg o waith Iago,—seirian,
Y pen saer di-guro;
Pa le 'n mysg mil er chwilio,
'N faith iawn, ceir un o'i fath o.
Addurnwaith a roddodd arnynt,―pybyr
Medd pawb a'u canfyddynt;
Nodedig hynod ydynt,
Saith gwell na'r rhai sytha' gynt.
Dyfal y gwelwyd Ifan—y sywdeg
Brif asiedydd seirian;
Gweithio'n lew i'w goethi'n lân
Ei cafwyd uwch y cyfan.
Y SHOP NEWYDD, DOLGELLAU.
Gwelwch fasnachdy gwiwlan, hoff hynod,
A dwy ffenestr lydan;
Mae'r gwydr llathraidd, glwysaidd glân,
Cu-ferth, yn urddo'r cyfan.
Dyma waith pur di-guro—a bery
Heb arwydd llychwino;
Yn "Shop newydd" bydd tra bo
Gwawr araul, i'w goreuro.
Gwaith cnapiog, caerog cywrain—na luniwyd
Ei lanach yn Mrydain;
Rhyfedd os gwnaed yn Rhufain
Na Ffrainc chwaith, gerf-waith mòr gain.
Ceir edrych drwy'r cywir wydrau—gwympawg
Ar wir gampus nwyfau,
Yna gwelir yn y golau
Ar ddisgleirwych, glir-wych gloerau,
Syw a dinam, heirdd sidanau,
Bur waith union, a brethynau,
Bliant meinion, loywon liwiau,
Ceinion, mwythion, o bob mathau,
Mawr ethawl amrywiaethau—rhai gwladaidd
A rhai euraidd o'r rhyw oreu.
CYFARCHIAD I
R..N. HARTLEY, Ysw., o'r Llwyn, Llywydd y Gymdeithas Feiblaidd, &c., yn Nolgellau.
Rhoddwn glod oddiar wybodaeth—deilwng
I'n di-halog benaeth;
Y blaenor, heb elyniaeth,
Yn llaw Duw, i'n llywio daeth.
Lywyddu mewn lle addas—yr ydych
Wir odiaeth gymdeithas;
Harddwych, a mawr ei hurddas,
yw, a'i tharddiad o ras.
Cymdeithas y cymdeithasau—doethaf
Yw'r gymdeithas feiblau;
Ei gwawl rhwydd sy'n eglurhau
Seirian ddwyfol drysorau.
Pob calon fo 'n ymloni—a grasol
Gariad gwresog atti;
Ië blwydd ei Jubili—i bob gwlad
Gofio i dylanwad, gafwyd eleni.
Prif wron, rhadlon a rhydd—ddawn helaeth
Yw'n hylaw gadeirydd,
A'i galon mòr serchlon sydd
Yn chwenych gwel'd ei chynydd.
Chwi ydych am ei chodi―i'r entrych
Ar wynt eich haelioni;
O'ch gwirfodd yn ymroddi
Gyda sel i'w harddel hi.
Mewn modd prydferth ymnerthwch—yn gadarn
A gwiwdeg hyfrydwch,
O'i phlaid yn eon, a fflwch,
Heb wyraw o bybyrwch.
Mor wych yw'ch bri, mawrhewch eich braint,—llwyddwch
Nes eich lluddio gan henaint;
A'ch rheol fal eich rhiaint
Fu'n enwog swyddog i'r saint.
LLINELLAU
A gyfansoddwyd newydd glywed am farwolaeth y Parch. WALTER DAVIES, (Gwallter Mechain) A.C., Periglor, Llanrhaiadr yn Mochnant.
Trwm ochi am Gwallter Mechain—wir awdr,
Yr ydys yn Mrydain;
Galar sydd, fe glywir sain
Trist lefau, trwst wylofain.
Tŵr di-fwlch oedd Walter Davis,—cadarn
Borth cedawl uchel—bris;
Gwych ŵr oedd, ac uwch ei ris
Ceir adrodd na'r "Cawr Idris."
Bardd o urdd uwch beirdd ei oes,—a beirniad
Heb wyrni, na drygfoes;
Bwrdd aur, a phen bardd eirioes,
Da iawn fu a dien foes.
Hwn ydoedd wir hynodol—iawn odiacth
Henadur barddonol;
Pa wr iawn—pwy ar ei ol
A leinw ei le 'n ddilynol?
Cannoedd yn fawr eu cwynion—a welir
Yn wylo deigr heilltion,
O waith rho'i llad athraw llon
Mawr-werth, yn mhlith y meirwon!
Er rhoi ei gorff i orffwys—am enyd
Yn mynwent yr Eglwys,
Coeliwn i'w enaid culwys yn ddifreg,
Lonbur ehedeg i'r lân baradwys.
Lle rhydd a'i 'wenydd wiwnod—yn fedrus
I'r anfeidrol Drindod
Dragwyddawl, ryglyddawl glod
Seirian, yn bur ddi-sorod.
Mòr llon! yn mhau'r llawenydd efo'r saint
Rif y ser ysplenydd,
Yw enaid y duwinydd
Uwch yr haul, yn iach a rhydd!
MEURIG EBRILL
Dàn ergydion gwefr—beiriant Mr. J. REES, Oriorydd, Machynlleth, y 18eg o Awst, 1853.
Doeth ddyfais hyd eithafion—gwir ddi-dwyll
Gyraeddiadau dynion
A gafwyd, bydd hir gofion,
Ar sedd, am gawri 'r oes hon.
Dynion a gyrch wefrdanau—i'w lloches
A'u llachar beirianau;
Uthr wreichion, gwyrddion, yn gwau
Ganfyddir, drwy gain foddau.
Fflamawg, a berwawg beirian—Sion ap Rhys
Sy'n parhau'n wefrdan;
Melltenawg, a deifiawg dân,
Deryllaidd, dery allan.
Tywynboeth beiriant enbyd, eresawl
A roes imi aml ergyd,
Minau a aeth mewn munyd
Dyn a'i gŵyr, yn dán i gyd!
ANERCHIAD
I Fab a thair Merch, Mr. a Mrs. EDWARDS, Penygeulan, Llanuwchllyn.
Gwelais yn "Mhen y Geulan"—dawelaidd
Barchus deulu mwynlan;
Siriol rieni seirian,
A phlant, serchog, gleiniog glân.
Owen Edwards a nodaf,—y cynfab
Cu iawn—ferth yn flaenaf;
A mydru can os medraf
O glod i'r genethod, gwnaf.
Mair weddaidd dymer wiwdda—a'i chroenwen
Chwaer anwyl Eliza,
A Marg'red dduwiolgred dda,
Gwylaidd dair seren Gwalia.
Brawd tirion, rhadlawn a rhydd,—doeth arawd,
A thair o chwiorydd,
Rhai trefnus, destlus bob dydd,
I'w gweled efo 'u gilydd.
Hoff wir ddidwyll hyfforddiadau—addas
Ro'ir iddynt yn forau
Gan eu Mam, yn ddiamau,
A'u Tad hawddgar, clodgar, clau.
Boed heddwch a byd diddan,—dialaeth
I'w dilyn yn mhobman;
Ac hefyd uwchlaw'r cyfan
Y nef, aur haddef i'w rhan.
ENGLYNION BEDDARGREIFF.
I Mr. LEWIS EDWARDS, (Eos Twrog.)
Yma gorwedd myg wron―cywirddoeth,
Pen cerddor gwlad Meirion;
"Eos Twrog," was tirion,—oedd flaenor
Yn maes egwyddor y miwsig—yddion.
Arall, ar fedd Tad a'i Ferch.
Gwel ein bedd, dyfnfedd ni'n dau,—gwna gofrestr
Gan gyfrif dy oriau;
Daw dwthwn y d'oi dithau,
Yn fud i'r un bydrud bau.
Er ymdaith rhan faith o'r hen fyd,—a gweled
Ei gilwg a'i hawddfyd;
O'i dwrf a'i gynhwrf i gyd
Gorwedd rwy'n awr mewn gweryd.
Fe orwedd fy rhan farwol—yn y llwch.
Mewn lle rhagderfynol;
Hyd amser daw'm Ner i'm nol
Ar g'oedd i'r farn dragwyddol.
Ystyriwch, gwelwch i gyd,—myfyriwch
Mòr fyr yw eich bywyd,
A choeliwch rhaid dychwelyd
Oll i'r bedd er allo'r byd.
Buan gwna dyddiau bywyd—fyu'd heibio,
Tebyg ynt i freuddwyd;
Dysgwn, nac oedwn, i gyd
Eu rhifo 'n gywir hefyd.
Pwy a gred fyred fu oriau—f'einioes,
Terfynawl funydiau,
Megis cam yn ddiamau
Yw bywyd dyn, briddyn brau.
Cell fadryd, bydryd y bedd—pryfedawg
Prif adail y llygredd,
Yw 'r gwely oer a gwaeledd
Wyf ynddo'n huno, mewn hedd.
Er i Risiart hir oesi—yn esgud
Ddyn ysgafn a heini;
Yn y llwch dàn y llechi
Ei guddio wnacd o'n gŵydd ni.
Borau'r farn gadarn ei gwedd—gadawant
Ogo' dywell llygredd,
Duw Ior ei hun awdwr hedd
A'u cyfyd fry o'u ceufedd.
Yn forau i bau y bedd—disgynais,
Dysg genyf wers ryfedd ;
Daw'r rhai eryfa, gwycha'u gwedd
Yn weiniaid i'r un annedd.
Gorweddaf, hunaf enyd—yn y bedd
Heb un boen na thristyd,
Hyd forau caf f'adferyd,
Mewn bythol, anfarwol fyd.
Fy annedd yw'r bedd gwybyddwch chwithau
Y'ch weithian mewn harddwch,
Bob graddau, diau deuwch
Yn bydriaid i'r llaid a'r llwch.
Dyma fedd llariedd ŵr llon—hynawsaidd
Fu'n oesi'n heddychlon;
A'i geinwych wraig deg union—sy'n gorwedd.
Yma mòr waelwedd yn mhau y marwolion.
Edrychwch, gwelwch yn y drych golau,
Rho'f i chwi arwydd er rhifo'ch oriau;
Yn feirwon byddwch fory 'n y beddau
Yn llawr y fynwent y lle'r wyf finau,
Daw engyrth ddyrnod angau—i'ch gorfod,
A'ch dwyn yn llychod, gewch dan y llechau!
Yma gorwedd myg eirioes—wych hylwydd
Uchelwr di-ddrygfoes;
Un llongar fu'n llawn gwirfoes
Tra enwawg trwy ei einioes.
Dyma fedd gwr rhinweddawl—hynawsaidd,
Fu'n oesi'n grefyddawl;
Duw Ior o'r llwch daearawl
A'i cyfyd i fyd o fawl.
Ow! Ann bach! ai yn y bedd,―oer haddef
Y rhoddwyd di i orwedd?
Lle hagrir yn mhau llygredd,
Dy eirian wych dirion wedd.
Gwel oer fedd gwiw hael wr fu—yn nodded
I'w rinweddawl deulu;
Clwy' iddynt oedd gwel'd claddu
Priod, a thad, ceinfad cu.
ANERCHIAD I'r Parch. R. D. THOMAS,
am ei ymdrechiadau clodwiw yn casglu arian yn yr America, i dalu dyled addoldai Penarth, a Jerusalem yn Swydd Drefaldwyn.
Ein dewrwych Iorthryn dirion—addurnwyd
Yn ddiornaidd gristion,
O ddoniawl nodwedd union
Da was yn ngwinllan Duw Ion.
Gwaner yw Iorthryn Gwynedd——haeddianol
O ddinam anrhydedd;
Gwr enwog mewn gwirionedd,
Safed, na syfled o'i sedd.
Gwneist waith da, profa pob rhai,—iawn athraw
Yn ethryb d' addoldai;
Ymariaist, blaenaist heb lai
O'th wirfodd at waith erfai.
Morio i dir Amerig—a wnaethost
Yn eithaf caredig,
I gasglu, heb dyrfu dig
Na dadwrdd, aur nodedig.
Perffaith restr o'th onestrwydd—dderbyniwyd,
Rodd arbenig sierwydd
It' weithio'n iawn, mewn llawn llwydd
A dewr ymgais di-dramgwydd.
Daethost yn ôl o'th deithiau—yn gawraidd
Hyd y geirwon dònau,
I Faldwyn dy glirwyn glau
Hoff, anwyl hen gyffiniau.
Drwy wych odiaeth ymdrechiadau hwyliaist
Dy helaeth gasgliadau,
Yn lle rhoi gwarth i Benarth bau,
Diwallaist dy ddiadellau.
Diarchar fu dy orchwyl,―ie gwell
Nag a allid ddisgwyl;
Ti gai bellach, hawddach hwyl,
F'y llonwych gyfaill anwyl.
Llawn achos llawenychu—a gafwyd,
A gwiwfwyn ddyrchafu
Mawl coedd, fod y temlau cu
A'u dyled wedi' dalu!
Sarah gain, un o ser Gwynedd—gu-ferch,
A gefaist yn gydwedd;
Myg alaf ac ymgeledd
Iti boed hyd at y bedd.
Y WENYNEN.
Y gain enwog Wenynen—a'i dawn fawr
Hi dyn fêl o'r domen;
Di-lwrf gasgl o bob deilen
Lysieuawg, a brigawg bren.
Gwenynen â'i gwin enau—pur, seirian
O'r persawrus lysiau
I'w chell gron dan gludo'n glau—
Mêl fyn mewn mil o fànau.
Moddus wenynen meddaf—gu frysia'n
Gyfrwys-wych i'r eithaf;
I'w thy rhwym gan weithio'r haf
Cain gywain fêl cyn gauaf.
Y Gwenyn yn ugeiniau—a chanoedd
Gylchynant bob parthau,
Mêl glân a gludan' yn glau
I'r difefl fodrydafau.
Dewrwych Wenynen dirion—ofalus
A gasgl fel yn brydlon;
Ysbail dda o helfa hon
Gêd anwyl a ga dynion.
Gwenynen goethwen heb gel—a ymgais
O amgylch pob cornel;
Diwyd gynyrcha'n dawel,
O fanau fyrdd hi fyn fêl.
Addien Wenynen anwyl-gu—iawn fodd
Gywain fêl i'w phreswyl;
Gŵyr yr adeg hardd-deg hwyl
I'w gyrchu, a gwna'i gorchwyl.
Casglu mêl fydd prif elfen—y wisgi
Wiw esgud Wenynen;
Arddelwa bob îr ddeilen
Dros y byd heb drais o'i ben.
BEDDARGRAFF CARNHUANAWC.
Daearwyd llyw awdurol—cry'n heniaith
Carnhuanawe ddoniol,
Eithr ei waith—athraw ethol
Oesau fyrdd a saif o'i ol.
Carnhuanawe! gwron hynod,—gwelwch
Gof-golofn ei feddrod—
Athraw glan—ga'i uthr wiw glod,
Urddasol, orwedd isod.
Ow! llawr gweryd yw lle'r gwron,―hynod
Carnhuanawc dirion;
Profwyd mai ef oedd prifon—perffeithiaf
A'r hynawseiddiaf o'r Hanesyddion.
Doeth ofydd hyd eithafion—gwireddau
Y gwreiddiol hanesion;
Llyw, a noddwr llenyddion
Ydoedd ef Ceuadydd Iôn.
AR BRIODAS
MR. JOHN REES, a MISS GWEN JONES, Dolgellau.
Gwen, a John, dirion fo'n dda—ymlwybro
Mal Abram a Sara,
Heb un artaith, blinfaith bla
I'w gorfod hyd eu gyrfa.
I TALHAIARN.
Talhaiarn Cadarn fardd cu,—yn Llundain
Sy'n llondeg gartrefu;
Ni wthiwyd yno i nythu
Gwr'r un ddawn er G'ronwy Ddu.
Mae'n llyfndeg, ddwysdeg bryddestydd——doniol,
A dianaf awdlydd,
Ac hyawdl eiliwr Cywydd,
O iawn ryw, a'i awen rydd.
Dyn i bawb a dawn bybyr ydyw Tal,
O wned teilwng awdwyr ;
Mab astud yn mhob ystyr
Wrth sodlau'r gorau o'r gwyr.
I BLAS DOLGYN,
Pan aeth ar Dân yn 1845.
Och drymed, gweled Dolgyn!—ddoe ydoedd
Dda adail gyferbyn;
Heddyw i lygaid tanbaid dyn
Mae 'i harddwch megys murddyn!
Y bore'r oedd heb arwyddion—alaeth
I'w weled gan ddynion;
O grochwyllt dân a gwreichion,
Tu fewn y lle, gwnaent fyw'n llon.
Am ddeuddeg bu ymddiddan—fod arwydd
O doriad flam allan;
Gwelwyd y plasdŷ gwiwlan
Cyn wyth yn danllwyth o dân!!
ENWAU DYNION.
Rhys, Rhisiart, Siarls, a Rysel,—Sion, Morris,
Owen, Meurig, Daniel,
Huw, Emwnt, Simwnt, Samwel,
Sem, Cam, Enos, Bos, a Bel.
Dan, Lewis, Ellis, a William,—Meseg,
No', Moses, ac Abram;
Lot, Levi, Harri, Hiram,
Mark, Luc, Io'n, Himon, a Ham.
Grace, Marged, Sioned, a Sian,—a Gainor,
Mair, Ruth, Gwen a Susan;
Ails, Martha, Sara, Seirian,
Mallt, Sibil, Gwerfil, ac Ann.
CALEDI'R AMSERAU,
Yn 1847.
Gwasgedig derfysgiadau—hyll, anwar
Sy'n llenwi'n gororau;
Blaendoriad o'r blinderau
Dan ser sydd gwedi nesau.
Blwyddyn od, hynod yw hon—yn Mrydain,
Mawr ydyw'r trallodion;
O! mòr orddwys mae'r 'Werddon.
Dan aml erchyll, dywyll dòn.
Angau gawr sy'n mawr ymwrio—'n llewaidd,
A llawer yn syrthio
Drwy ing i gleidir ango'
Ar frys, yn mhob cwr o'r fro.
Diau fod ein pechodau—dig'wilydd
Yn galw am flinderau;
Drylliedig gan drallodau yw canoedd;
Gwasgu miloedd mae gwgus gymylau.
Yn awr yw'r amser i ni—gad ddiffrwyth
Gyd—ddeffro heb oedi,
Ac addas arfer gweddi
Ger bron Duw Ion raslon Ri.
Diwygiad drwy'r wlad a ledo,—'n bybyr
Boed i pawb weddio;
Duw Ior nid yw am daro—'r trueiniaid
O gywir enaid wrth ei air a gryno.
CWRW Y BALA. 1808.
Boliad o gwrw y Bala—mae'n burion
Mewn barug ac eira;
Ond gwell yn siwr yw'r dwr da—
Rhad, iachus sy'n Rhyducha'.
I'R EIRA.
Ar yr Aran sai'r eira—fe wyddir
Nes darfyddo'r gauaf;
Os y gwanwyn ddisgyna
Fe saif bron hyd hinon haf.
ENGLYNION
I ofyn Cwmpas i HUMPHREY ELLIS, Gôf, Gellilydan, ger Maentwrog.
I Hwmphrau, gorau gwron,—drwy gariad
'Rwy'n gyru'n heddychlon
Gan o glod hynod yw hon
I'th anerch mewn iaith union.
Gôf ydwyt uwchlaw'th gyfoedion―ethol
Am wneuthur ceirf llyfnion,
Gwisgi a lluni hwy'n llon
Wr enwog, ar yr einion.
Gwnei nerthol drosol—gwnei dresi—eurfyg,
Gwnei arfau i'r seiri;
Yn mysg cant, meddant i mi,
Ni bu d'ail am bedoli.
Fy nyben dan fwyn obaith yn d'anerch
A doniau anmherffaith,
Mòr hyf, yw deisyf ar daith
Rhodd genyt o'th rwydd geinwaith.
Y rhodd wy'n geisio ar hynt—o 'wyllys
I wella fy helynt,
Yw "cwmpas" dan werth can'punt,
Gwerth dau o'r rhai gorau gynt.
Ei gymal fo'n dal yn dyn—heb wegian,
A'i bigau'n ddur dillyn;
Cân newydd gelfydd, ôf gwyn,
Gwiw odiaeth, a gei wedyn.
PSALM CXLVIII,
Wedi ei throi ar fesur arall gan y diweddar Barchedig ELLIS WYNNE, o'r Las Ynys.
O molwch yr Arglwydd, o'r nef wèn lawen lu,
Clodforwch E'n unswydd, holl fro'r uchelder fry;
Angylion glan
Molienwch Ef
Holl luoedd Nef
O fawr i fân.
Chwi haul a lloer er lles, y ser a'r goleu i gyd,
Chwi nef y nefoedd nes, rhowch oll i Dduw'n unfryd
Dda fawl ddifeth;
Ffurfafen draw,
Cymylau'r glaw,
Gwnewch chwi'r un peth.
Rhoent oll i'r Arglwydd nef, i'w glân greawdydd glod;
Trwy ei orchymyn Ef, maent bawb fel hyn yn bod
Trwy ddeddf ddidon,
O hir na byr
Yr un ni thyr
Mo'r gyfraith hon.
Holl bethau'r ddaear ddwys, clodforwch Dduw'n ben gwaith,
Chwi ddreigiau garwle gwys, a'r holl ddyfnderau maith
A'u rhoes mawrhant,
Tân, cenllysg, ôd,
Tarth, gwynt, bob nôd
Ei air a wnant.
Mynyddoedd, bryniau oll, coed-ffrwyth a'r cedrwydd cŷd,
Bwystfilod yn ddigoll, a holl 'nifeiliaid byd;
D'owch at fawl Duw
Pob amryw bry',
Holl adar fry,
Hyfrydaf ryw.
Brenhinoedd daear gron, a'r bobloedd oll yn nghyd,
Pob t'wysog sy ar hon, holl swyddwyr, barnwyr byd;
Pob llange call yw,
Pob morwyn glau,
Pob hen, pob Tau
Addolwch Dduw.
Can's tra rhagorol yw, ei enw unig Ef,
Ei ardderchawgrwydd gwiw, sy ymhell uwch dae'r a nef;
Can's codi y bydd
Corn, nerth a pharch
I'w bobl, a'u harch
A glyw bob dydd.
Dadseinia ei holl saint ar led ei lawnglod lân,
Dadganant ei fawr fraint, blant Israel fawr a mán;
A phawb â'n nês
I wneud a bair
Ef yn éi air
I'w lwyddfawr lês.
GLORIA PATRI.
Rhown oll i'r Tri yn Un, sy'n tystiolaethu fry,
Y Tad a'r Mab cyttun, a'r Yspryd cariad cry',
Fel y bu erioed
Mae'n awr 'r un wedd
Bydd fyth drwy hedd,
Dra haeddawl glod―Amen.
ENGLYNION
I Goffa am y diweddar Barchedig JOHN JONES, M.A, Borthwnog, ger Dolgellau.
Trymion drallodion llidiog—a welir
Yn nheulu'r Borthwnog,
Màn gynt y clywid mwyn gog
Yn eilio, sy'n lle niwliog.
Angau a'i saethau sythion—anelodd
Ein hanwylaf wron,
Llwyr wanwyd a brathwyd bron
Llyw naw—radd y llenorion.
Porth llon i feirddion a fu—a'u tarian
I'w teraidd gyfnerthu,
Pob gradd ar ol ei gladdu,
O'u gwirfodd amdôdd mewn du.
Colled oedd fyned i'w fedd—yr ynad
Tirionaf yn Ngwynedd;
Carai wel'd mewn cywir wedd,
Gwawr hynaws teg wirionedd.
Mae'r gweiniaid yn mawr gwyno,—ni allant
Ei ollwng yn angho';
Gwae iddynt fu ei guddio,
Yn min yr allt, mewn mân rô.
Braw i'w dyner briod anwyl—wiw—lwys
Oedd weled ei arwyl;
Ciliodd ei gwar gydmar gŵyl,—
Nawsaidd, i gadw noswyl.
Gorwedd wna'i gorph mewn gweryd—am enyd,
Yn mynwent Llanelltyd,
Hyd foreu ca'i adferyd
Yn ol i fyw mewn ail fyd.
ENGLYNION
I gymdeithas lenyddol Machynlleth, Rhag. 16, 1853.
Hawdd amawr hwb fawr heb feth—lon araul
Lenorion di—achreth,
Brodorion cryfion eu creth,
Iach unllais sy'n Machynlleth.
Ffraethlon lenyddion addas—iawn unodd
Yn anwyl gymdeithas,
Nid rhyw ynfyd goeglyd gas
Daeraidd derfysgwyr diras.
Cyfeillion dewrion diwyro—ydych
Sydd wedi gwir ddeffro,
Heb lediaith i gydbleidio
'N eitha'ch bryd hen iaith eich bro.
Pybyr areithwyr ethol―rhieiddiawg
Dar haeddwch eich canmol.
Ewch heb froch rhagoch mewn rhol
Drwy gariad yn dra gwrol.
Dadlwch, iawn bynciwch yn ber—a chofiwch
Ddyrchafu iaith Gomer;
Iaith orau dan seiliau'r sêr,
Iaith ddiysbydd, iaith ddwysber.
Llwyddiant fo i'r llywyddion—tra siriol,
A'r trysorydd ffyddlon,
A'r llâd gofnodydd dewr llon
Di gynwrf da ac union.
CYWYDD
I goffa Mr. HUGH РUGH, Cefn y maes, Brithdir, tad LEWIS PUGH, Ysw., Penbryn, Dolgelley, Bu farw Rhagfyr 19, 1858, yn 90 mlwydd oed
Eang gylch rhwyg angau gawr
A gyrhaedd i bob gorawr,
Ei gaeth lywodraeth lawdrom
Sydd dra erchyll ffrewyll ffrom:
Deddodd drwy bechod Adda
Arteith—fawr a blyngfawr bla;
Ei hil syw'n wael osywaeth
Dan ddybryd ddedryd a ddaeth.
Diane o grafange ryfedd
Angau glas ac ing ei gledd,
Sy'n orchwyl dison archeb
Na wnaed ac ni wneir gan neb;
Am hyn ni cheir bryn na bro
Na welir rhyw rai'n wylo;
Pawb, pawb o ddeiliaid pob pau,
Lethir gan farwolaethau;
Pob mab a merch, pawb ymhob man
Angau a'u deil yn ddiyngan;
O'r baban gwan di gynwr,
A'i deg wedd, hyd oediog wr.
Diweddar yn llawn dyddiau
Mewn oed teg purdeg o'n pau,
Collwyd pendefig callwych,
Cymydog enwog a gwych,
Hyw ap Hyw diledryw lon,
Ragorol rywiog wron;
Hen wladwr anwyl ydoedd,
A chall wŵr diddichell oedd ;
Chwer'der a mawr brudd—der bron
I'w eirioes fab, a'i wŷrion,
Oedd symud yn fud i'w fedd
Yr hybarch dad arabedd.
Mawr drallod a syndod sydd
I'w gu rinawl garenydd,
Gwelwi maent dan eu galar
Ar ol eu rhagorol går.
Eilwaith ni chant ei weled,
Nac o'i law hael gaffael un gêd;
Ei yrfa fu'n o hírfaith,
Dreiliodd diweddodd ei daith.
Ffarwel hen batriarch mawrbarch mad,
Hyd forau dydd yr adferiad.
ENGLYNION
I Mr. WILLIAM HUMPHREYS, Llynlleifiad.
Ffyliaid gan faint eu ffoledd—a'u gwallau
Gollant bob anrhydedd;
Pan daw'r doethion union wedd
(Llafurus) oll i fawredd.
Dygodd llfrdra a diogi—ganoedd
I geunant tylodi;
Ond cedyn mae Duw'n codi,
Rhai gweithgar i freingar fri.
William sy'n fawr ei alwad—gan wiwgu
Enwogion Llynlleifiad;
Fe'i gwnant cyn hir bernir heb wid
Yno'n faer uniawn fwriad.
Ei weithwyr sy'n rhif wyth—ddeg—o gawri
Rhagorol a glan—deg;
Curant nes rhoi pob careg,
A llun da yn ei lle'n deg.
Chwimwth ar ei orchymyn y gweithiant
Yn goethaidd a dichlyn;
Diorfod hyd ei derfyn,
Wrth ei fodd, hardd waith a fŷn.
Torant ddyfnion gwterydd—ugeiniau,
Trwy ganol heolydd;
Trosolio tra dalio'r dydd
Eu gwelir gyda'u gilydd.
Ei lais, a chodiad ei law—bair iddynt
Ebrwyddawl gydweithiaw;
Cedyrn eu ceir yn cydiaw
'N bur rhwydd ymhob caib a rhaw.
Bydded rhwydd, wiw-lwydd i William—gyrhaedd
Hawddgarwch fel Abram;
Dawnus foneddwr dinam
Fyddo lle cerddo bob cam.
ENGLYNION
Ar briodas y Parch. E. GRIFFITHS, Llanegryn, Rhag. 27ain, 1837.
(Y briodas gyntaf a weinyddwyd yn nghapel yr Annibynwyr yn Nolgellau).
Priodwyd, unwyd heb anair—deuddyn
Yn eu dyddiau diwair;
Gweinidog enwog y gair,
A morwyn yn cael mawrair.
Gweinyddiad gogoneddol—a gawsant
Yn gyson â rheol,
Heb addurn trefn Babyddol,
Na dim o'i gau ffurfiau ffol.
ETO Ar briodas Mr. EVAN JONES, (Ieuan Ionawr.)
Fawn unwyd Ieuan Ionawr—ŵr hyawdl
A rhian bur glodfawr;
Dau oeddynt ddoe a diddawr
Dan y nef, ond un yn awr.
Rhwydd hynt fo iddynt hyd fedd—i droedio
Dirwydawg ffyrdd rhinwedd;
Pelydr clau, rhadau Iôr hedd
Tywyned i'w ty annedd.
Cyd-dynu o reddf tan yr iau—wnelont
Yn ol eu hamodau;
Pur o hyd b'ont yn parhau
I wneud eu haddunedau.
AMRYW O EMYNAU AR WAHANOL DESTYNAU.
Edrych ar Grist yw dyled dyn,
A'i gyflawn ddilyn hefyd;
Caiff pawb a ganlyn ar ei ol
Feddianu bythol wynfyd.
SALM XXVII. 4.
Un peth a ddeisyfais gan Dduw yn llawn sêl,
A hyny yn benaf a geisiaf heb gel;
Cael trigo yn Salem tra byddwyf fi byw
I edrych ar hawddgar brydferthwch fy Nuw.
DIARHEBION III. 29, &c.
Na feddwl ddrwg mewn llidiog wyn,
Yn erbyn dy gymydog,
Ag yntau'n trigo ger dy fron
Yn dirion a diwyrog.
I ymryson byth a neb na ddos
Heb achos fel gwallgofddyn,
Os na wnaeth yntau ddrwg unwedd,
Neu gamwedd yn dy erbyn.
Na chenfigena wrth wr traws,
Bydd fwyn a hynaws hefyd;
Ond na choledda un o'i gerth
Weithredoedd anferth ynfyd.
Fe gyfrif Duw yn ffiaidd iawn
Y rhai sy'n llawn o drawsder;
Ond ei gyfrinach rydd heb gel
I bawb a wnel gyfiawnder.
Melldith yr Arglwydd oddi fry
A drig yn nhŷ'r annuwiol;
Ond ei fendithion sydd yn llawn
Yn nhrigfa'r cyfiawn grasol.
Diau fe watwar Duw'n ddirus
Bob dyn gwatwarus ynfyd,
A'i ras i'r gostyngedig rydd,
A mawr a fydd ei wynfyd.
Y doethion oll a gânt yn ddir
Feddianu gwir anrhydedd;
Ond i'r ynfydion erchyll fraw,
A gwarth a ddaw'n ddiddiwedd.
ESAU LII. 13.
Fy ngwas a lwydda medd Duw Ior,
Teyrnasu a wna o for i for,
Fe godir i ogoniant llawn,
A bydd yn ddyrchafedig iawn.
Er mor ddirmygus oedd ei wedd
Cyfodi wnaeth yn fyw o'r bedd;
Esgynodd fry i'r orsedd fawr,
Yn frenin nef a daeur lawr.
Daw etto ar gymylau'r nef
Pan ry'r archangel ucliel lef
I farnu pawb o ddynolryw,
Y mawr a'r bach, y meirw a'r byw.
ESAU LV. 10, II.
"Run fath a'r gwlaw a'r eira gwyn
Fo'n disgyn o'r uchelder,
A wna i'r ddaear darddu'n iawn,
A thyfu'n llawn ffrwythlonder.
Felly y bydd fy ngair medd Duw,
Gwirionedd ydyw hefyd;
Fe lwydda'n mhobpeth tan y nef
'R anfonais ef o'i blegyd.
SALM LXXIII. 28.
Da iawn i mi neshau at Dduw,
Fy ngobaith yw'n wastadol;
Caf yno draethu'n deg ar g'oedd
Ei holl weithredoedd nerthol.
Gwaith hyfryd iawn i'm henaid yw
Neshau at Dduw yn gyson,
Run wedd a'r plentyn at ei dad
I dderbyn rhad fendithion.
SALM LXXIII. 28. ETO AR FESUR ARALL (1)
Da iawn i mi neshau at Dduw,
Fy ngobaith yw o hyd;
Ei bur weithredoedd yn ddigoll
A draethaf i'r holl fyd.
Fy mhrif lawenydd yn y byd
Yw gweld ei hyfryd wedd;
Caf wledda byth ar fwrdd ei ras
Yn Salem dinas hedd.
SALM LXXIII. 28. ETO AR FESUR ARALL (2)
Neshau ger bron fy Nuw
Sy'n dda i mi bob awr;
Caf wledda yno tra fwyf byw
Ar ffrwythau'i gariad mawr;
Ac hefyd draethu'n by
Ei holl weithredoedd ef,
A chanu mawl i'm prynwr cu
Yn un a theulu'r nef.
Cael trigo yn ei dy
Rhyw fraint annrhaethol yw,
Lle caf fwynhau yn ddedwydd iawn
Gymdeithas lawn â'm Duw;
Dymunwn dreulio f' oes
Yn Salem lân ddilyth;
Mynegu rhinwedd Gwaed y Groes
Fydd gwaith fy enaid byth.
IOAN X. 11.
Myfi medd Crist yw'r Bugail Da,
Fy einioes a gyflwynaf;
Yn lle fy mhraidd gwnaf hyn mewn pryd,
A hwythau i gyd a gadwaf.
HUNANYMWADIAD.
Ymwadu'n llwyr ag ef ei hun
Yw dyled dyn bob eiliad,
Gan godi'r groes yn ddisgybl cu,
A dilyn Iesu'n wastad.
YR YSGOL SABBOTHOL.
Yr Ysgol Sabbothol fo'n llwyddo trwy'r byd
Nes enill dynolion yn gyson i gyd,
I ddysgu adnabod yr unig wir Dduw,
A Christ y Cyfryngwr a'n Prynwr bob rhyw.
PRIODAS-GERDD
LEWIS WILLIAMS, Ysw., Ieu., o Bronwnion,
a Miss EMILY CHARLOTTE ABBEY, Brynhyfryd, Dolgellau,
Awst 21, 1850.
Cu lachar seinio clychau,—gwaith enwog
A thanio cyflegrau,
A gollwng fu'n Nolgellau
Ergydion, fawrion, dyrfaau.
Twrf pylor yn tarfu pelau—mygawl
Oedd megis taranau
A'r gwreichion, gwylltion yn gwau
O'r bronydd i'r wybrenau.
Yr achos o'r holl orwychion—araul
Fanerawg orchestion,
Oedd mawr—ddydd terydd tirion—priodas
Mwynwr gwiwras, a mûn o ragorion.
Williams a'i wraig ddieilydd—a unwyd
I enyn llawenydd;
Sain goroian, seirian sydd,
Rialawg, drwy'r heolydd.
Enynodd yn Mronwnion—lawenydd
A lanwai bob calon;
Gweled mae rhiaint gwiwlon
Eu mab mad yn ŵr llad llon.
Teg eres blant, ac wyrion,—a'r rheiny'n
Rhai hynaws a serchlon,
O'i rwydd rad a roddo'r Ion
Iddynt yn etifeddion.
ENGLYNION
I Gymdeithas Gwyr ieuainc Salem, Llynlleifiad.
Henffych mewn gorwych gariad—wir selog
Wyr Salem Llynlleifiad,
Dysgedigion mwynion mâd,
Anfarwol o un fwriad.
Doethaidd a phur gymdeithas,—gwyr iachus
Goruchel eu hurddas,
Nid ynfydion coegion cas,
O feddwl anghyfaddas.
Gwyr ifaine llawn o grefydd—hoff eurddawn
Yn hyfforddi eu gilydd:
A chu eirioes chwaeiorydd,
Campus iawn o'u cwmpas sydd.
Llenorion rhwyddion rhiaiddiawl—i gyd
Yn gedyrn treiddiadawl,
A'u doniau di edwinawl,
A geir mor ddisglaer a'r gwawl.
Pybyr olrhainwyr hynod—uchelaidd
A chwiliant i'r gwaelod,
Treiglaw pob gair trwy wiw—glod
A wnant, nes cyrhaedd y nôd.
Mae dawnus foddus ofyddion,—moesgar
Yn eich mysg yr awron,
A hyddysg fawrddysg Feirddion,
Lliwgar bryd, yn llu ger bron.
Eich Athraw bylaw hwyliog—a golau
Yw Gwilym Hiraethog;
Prif fardd seirian, (Glân ei Glog)
Duwiolaidd a dihalog.
ENGLYNION
I Mr. DAVID JONES, Fferyllydd yn Llynlleifiad.
Dafydd fel gwir bendefig—uchel-wych,
A chalon garedig;
Gyda phwyll, heb dwyll na dig,
Ymwriodd o du Meurig.
Hynaws gwnaeth gasglu cnwau,—arbenig
Dderbynwyr y Diliau,
Rhai darllengar clodgar clau,
Di-gynen, do ugeiniau.
Dyfal dros ben fu Dafydd,—nid cysglyd
Yn casglu drwy'r trefydd;
O'i law daeth, ie liw dydd
I'm enwau rif y manwydd.
Diolwch mawr a dalaf—i Ddafydd
Yn ddifeth trwy'r gauaf;
Rhof ail glod, dan rhod yr haf
Iddo, os byw a fyddaf.
ENGLYNION
A gyfansoddwyd yn fyrfyfyr wrth edrych a gwrando ar Mr. EDWARD WILLIAMS, O Fangor, yn dangos ac yn darlithio ar y Bodau Wybrenol yn ystafell lenyddol yr Annibynwyr yn Nolgellau, Mawrth yr 8, 1853.
Celfydd fesurydd y sêr—yw Iorwerth,
E ŵyr eu heangder;
Dyn doeth yw 'n meddu dawn dêr,
Heb balldod gwyr eu pellder.
Iorwerth sy'n glodfawr wron—rhagoraf
O'r gwiwrwydd seryddion;
Un treiddgar, beiddgar o'r bôn,
Hynotach na'r hen Newton.
Yr huan gwiwlan golau,—a'r lleuad,
A'r lluaws planedau;
Dangosodd mewn clirfodd clau—yn berffaith
A'i gywrain beirianwaith ger ein bronau.
Nododd gylchawg drefniadau—Sadwrn
A'i syw—deg fodrwyau,
A chedyrn amgylchiadau
Mawrth, Mercher, Gwener, ac Iau.
ENGLYNION
I Mr. J. J. PHILLIPS, mab G. B. PHILLIPS, Ysw., Surgeon, Tywyn, Meirionydd.
Sion Phillips nid oes un ffelach—i'w gael
A golwg brydferthach;
P'le tàn nen ceir bachgen bach,
O ddull iawn ei ddillynach?
Dir yw, na welwyd erioed—un llenydd
Yn llawnach o'i faboed;
Nid aeth pan onid wyth—oed
Oi flaen ef, ddyn cyflawn oed.
Ei fawr awen foreuawl—a'i burdda
A harddwch rhyfeddawl;
Darlithydd dewr helaethawl,
Rhwydd yw fe, da'r haeddai fawl.
Yn ddoctor tra rhagorol—trydd allan
Trwy ddullwedd gorchestol;
Meddu cymwysder meiddiol
Y mae yn awr, heb ddim yn ol.
CAROL NADOLIG.
TON "Y Genhadaeth."
Cyd ganed hil Adda fe ddaeth y Messia
I Fethl'em Judea ein Meichiau tra mawr;
Gwir Aer y nef uchod ymwisgodd mewn dyndod,
I achub eiddilod wael lychod y llawr;
Clywch lais angylion nefol gantorion,
Traethant newyddion yn dirion cyn dydd,
Fe anwyd Eiriolwr a chadarn Iachawdwr
Yn ddynol Waredwr a'u rhoddwr yn rhydd.
Mawr achos llawenydd i ni sydd o'r newydd,
Wrth gofio boreuddydd Pen Llywydd pob lle,
Ai gadw'n barchedig da wyliau Nadolig
I'r Oen bendigedig Mab unig y nef;
Dyma ryfeddod! ail Berson Duwdod
Yn ei fabandod yn briod a brawd,
Y Duw mawr Tragwyddol yn natur dyn meidrol,
Mae'n syndod anrhaethol, fel dyn da'ï'n dylawd.
Os Adda droseddodd a'r gyfraith a dorodd,
Yn Eden pan bechodd fe ddigiodd ei Dduw ;
Ei fai oedd werth bywyd ei hun a'i blant hefyd,
'Doedd iddo addewid am fynyd hwy i fyw.
Ond Haleluwia a sain Hosana,
Fe ddaeth yr ail Adda i'r lladdfa'n ein lle;
Fe gaw'd iawn cyfaddas dros ddynion oedd ddiras,
Mae'n eiriol mewn urddas yn ninas y nef.
Mawr gariad diderfyn oedd geni egynin,
O wyryf lan forwyn yn wreiddyn y wraig;
I wared hil ddynol oedd iddo'n elynol,
A sigo pen diafol hen ddrygsiol y ddraig;
Ffordd rad agorodd o'r byd i'r nefoedd,
Iawn i'r ddeddf roddodd o'i wirfodd a'i waed;
Maddeuant llawn hollol i'r enaid crediniol,
Drwy'r Iesu'r Oen grasol digonol a gaed.
Yr Iesu pur Rosyn oddefodd yn addfwyn,
Erchylldod pob gelyn tra chyndyn a chas;
Ei wawdio a'i wadu mewn gwall a'i fflangellu,
Ynghyd a'i fradychu a'i werthu gan was;
Seilo groeshoeliwyd, ein dyled dalwyd,
Mae gobaith bywyd, gorphenwyd gwir ffydd;
Mewn bedd y gorweddodd, y trydydd dydd cododd,
Ac angau orchfygodd, fe'n rhoddodd ni'n rhydd.
Rhown offrwm calonog i'n Llywydd galluog,
Ein Prynwr trugarog, Eneiniog y nef;
I'w deyrnas boed llwyddiant, i'w enw gogoniant,
A'r saint a gyd-ganant, llon unant eu llef.
Hosana seiniwn, i'r Drindod canwn,
Ti Dduw a folwn, ti barchwn yn ben;
I'r Iesu sy' ar orsedd y nef mewn tangnefedd,
B'o'r parch a'r anrhydedd a'r mawredd, Amen.
CERDD NADOLIG.
AR Y MESUR "Sant Siliah."
Holl seintiau y nefoedd a lluoedd y llawr,
Dyrchafwn, clodforwn a molwn Dduw mawr,
Am ddanfon ei gyfion Fab union i'r byd,
I'n grasol waredu a'n prynu mewn pryd:
Daeth engyl o'r nef yn llafar eu llef,
A'r newydd cysurlon i'r gron ddaear gref;
Cyhoeddent yn hy fod Ceidwad mawr cu,
Yn Methl'em tre Ddafydd, pen llywydd pob llu.
Pan glybu'r bugeiliaid anwyliaid y nef
Yn canu mor felus a'u grymus ddawn gref,
I'r ddinas 'run fwriad, ar doriad y wawr,
Hwy aethant i ganfod rhyfeddod mor fawr;
Canfyddent mewn cnawd eu brenin a'u brawd,
Yn faban anwylgu a'i lety'n dylawd;
Dychwelent i gyd i daenu'n un fryd,
Y newydd ar gyhoedd i bobloedd y byd.
A'r doethion dwyreiniol yn siriol eu swydd,
I Fethl'em pan ddaethon' anrhegion yn rhwydd
A roesant i'r Iesu heb ballu mewn pwyll,
Aur, thus a myr gwerthfawr dieisawr heb dwyll,
Pan welsant heb wad y prydferth Fab rhad,
Tragwyddol ddisgleirwedd etifedd y Tad,
Syrthiasant yn awr o lwyrfryd i lawr,
I ganu gogoniant a moliant Duw mawr.
O gariad anfeidrawl attegawl y Tad,
Ei Fab a ddanfonodd fe'i rhoddodd yn rhad,
Yn iawn dros bechodau a beiau y byd,
A hyny drwy ryfedd drugaredd i gyd;
Dyoddefodd Mab Duw ar ran dynolryw,
Hyd angau dychrynllyd gur enbyd gwir yw;
Cadd lawer trom loes nes marw ar y groes,
Boddlonrwydd i'r gyfraith ar unwaith a roes.
Er maint a ddyoddefodd fe sigodd siol serth
Y diafol uffernol erch hudol a cherth;
Efe yw'r rhyfelwr, concwerwr ei caed,
Gan ymdaith ar gyhoedd a'i wisgoedd yn waed;
Cyfododd o'i fedd yn wiwlon ei wedd,
Esgynodd i'r gwynfyd yn hyfryd mewn hedd:
Llywodraeth y mor a'r tir a'i ystôr,
A fydd yn dragywydd ar ysgwydd yr Ior.
Cydganed dynolion yn gyson i gyd,
Ogoniant i brynwr a barnwr y byd;
Yn hwn mae'i bechadur wir gysur i'w gael,
Mae'n rhoi o'i drugaredd ymgeledd i'r gwael;
Mae'n galw o'r nef, gwrandawer ei lêf,
Ar bawb frysio dyfod i gymod âg ef:
Pwy bynag a ddel, mor sicred a'r sêl,
Caiff gyflawn dderbyniad drwy gariad heb gêl.
Gan hyny nac oedwn, ymdrechwn trwy ras,
Diangwn yn brydlon o'r ceimion ffyrdd cas;
Mewn byder crediniol yn siriol neshawn
At orsedd trugaredd trwy rinwedd yr Iawn;
Gorffwyswn drwy ffydd ar Iesu'n ddiludd,
Gan gadw ei orch'mynion yn dirion bob dydd;
A'n rheol dan rhod fo datgan ei glod,
Cawn fythol dangnefedd yn niwedd y nod.
CERDD NADOLIG.(2)
MESUR" Duw Gadwo'r Brenin."
Cydunwn yn lluoedd
I foli Duw'r nefoedd,
Cenhedloedd ac ieithoedd i gyd;
Dadganwn ar gynydd
Wir glod i'n gwaredydd,
Creawdydd a barnydd y byd;
Fe ganai'r llu nefol
Ogoniant plygeiniol
A seiniol brydweddol bêr don;
Byth gofus foregwaith
Pan aned Crist perffaith,
Bhoent foliant ar unwaith i'r Ion;
Bugeiliaid un galon
A'r dethol wŷr doethion
Ganasant i'r cyfion Ior cu:
Gwnawn ninau gân newydd
Yn berffaith drwy bur-ffydd
I Ddofydd pen llywydd pob llû.
Mae Crist yn ddiffurant
Yn deilwng o foliant
A bythawl ogoniant ar gân;
Y saint yn ddiduedd
A lleisiau clodforedd
Mewn rhinwedd a'i rhyfedd fawrhan';
Mil myrdd o seraffiaid
A'r hybarch gerubiaid
A'i molant yn danbaid heb dòr;
Eu gwaith yn ddidewi
Yn ngwlad y goleuni
Yw traethu daioni Duw Ior;
Ei enw daionus
Yn seion folianus
A bery yn barchus dros byth
Yn Nghaersalem newydd
Addefir Duw Ddofydd
Yn Arglwydd da lywydd dilyth.
Ei gariad anfeidrol
A hunan gynhyrfiol
Tragwyddol rhyfeddol o fawr,
Gymhellodd y Duwdod
I sylwi ar eiddilod
Dim amgen na llychod y llawr;
Ei gariad amlygodd,
A'r Tad a anfonodd.
Ei Fab ni arbedodd, i'r byd :
Yn rhad fe'i traddododd
Trwy arfaeth o'i wirfodd,
Dros bawb a ragwelodd i gyd;
A rhai a ragwelodd
Ior glan, a ragluniodd,
Fe'u galwodd ymgleddodd hwy'n glir;
Rhai hefyd a alwodd
Fe a'u cyfiawnhaodd
Ac a'u gogoneddodd yn wir.
Mae llais cyffredinol
Efengyl dragwyddol
Yn galw mewn rheol bob rhai;
Mae'n galw'r trwm lwythog
Ar dir a'r blinderog
Dan deimlad yn bwyllog o'u bai;
Mae'n dangos dihangfa
Yn nghlwyfau'r Meseia
I'r gwaetha a'r brynta gerbron;
Trwy ymorffwys ar fawredd
Yr lawn a'i wir rinwedd
Jachheir eu holl lesgedd yn llon;
Llais anwrthwynebol
Yr Ysbryd tragwyddol
Anfeidrol a nerthol o'r nef,
Fo'n deffro myrddiynau
Gan agor calonau
I ddal ar ei eiriau pur ef.
Crist Iesu, mae'n eglur,
Yw Ceidwad pechadur,
Rhyfeddwn ei lafur a'i loes;
Er poeri yn ei wyneb
Ni phalla'i ffyddlondeb
Rhag dyoddef gerwindeb y groes;
Gwir Seilo groeshoeliwyd,
A drain fe'i coronwyd,
Fflangellwyd fe'i drylliwyd yn drist;
Y byd a'i dirmygodd,
Iddewon a'i cablodd,
Ac hefyd anghredodd y'Nghrist;
Ar groesbren fe drengodd,
Mewn bedd y gorweddodd,
Dihunodd, cyfododd yn fyw;
Cyfiawnder foddlonodd,
I'r nef yr esgynodd,
A'i eglwys gwaredodd gwir yw.
Cydganwn, clodforwn,
A chynes grechwenwn,
Dyrchafwn a molwn Dduw mawr;
1 Iddewon, Cenhedloedd,
Cyd-unwn ar gyhoedd
A lluoedd y nefoedd yn awr;
Pob perchen ffun genau
Molianed ar liniau,
Gan byncio perodlau pur iawn;
I Grist Brenin Seion
Rhown foliant o'n calon,
A'i gariad yn ffyddlon coffhawn;
Angylion a'i parchant,
A'r saint a'i canmolant,
Mynegant, eglurant ei glod;
Mewn nefol dafodiaith
Fe'i molir fil milwaith
Tra byddo'r nef berffaith yn bod.
ENGLYNION
I Miss DICKINS, Llynlleifiad.
Miss Dickins & roes im' docyn—anwyl,
Heb unwaith ei ofyn;
Caiff gân o glod hynod am hyn,
Yn gonglog a deg englyn.
Tocyn hardd i'r bardd heb wad,—a roddodd
Mewn gwireddawl gariad;
Caf am hwn wledd ryfedd rad,
Yn Salem ar iawn seiliad.
Rhian ffel ddihefelydd—ydyw Ann,
A daionus beunydd;
Meinir dirion radlon rydd,
Buredig i hen brydydd.
Iechyd i Ann wych ei doniau,—a mawr
Ei mirain rinweddau;
Mwyn a gwiw—rwydd mewn geiriau,―
Mawl'i hon fo'n amlhau.
ENGLYNION
I'r diweddar Mr. DAVID WILLIAMS, Pen-y-groes, Brithdir.
Llenor synwyr-gall union,—oedd Dafydd,
A difefl wir gristion;
Cyfaill mwynaidd llariaidd llon,
Rhwydd goleu rhydd ei galon.
Aml loes ga'i fam Eleisa—am Ddafydd,
Mae'n ymddifad yma;
Och ddwyn ei gwâr ddoethgar dda,
Ryglydd-fawr fab i'r gladdfa.
ENGLYNION
I Syr R. W. FYCHAN, Bart., Nannau, 1824.
Y Beirddion doethion hyd arch,—ymreswch
I 'mryson cyd gyfarch;
Syr Robert sy ŵr hybarch,
Teilyngydd beunydd o barch.
Mynwesawl gymwynasydd,—hoff anwyl.
A phenaeth Meirionydd;
Taener ar led y gwledydd,
Ei glod ef fel goleu dydd.
Gwladgarwr gloyw—deg eirioes—a difalch
Bendefig mwyneidd—foes,
Blaenor tirion ferth—lon foes
Tirionaidd, trwy ei einioes.
Am weithydd pawb ymwthiant,—i Nannau
Yn union y rhedant;
Croesaw maith a gwaith a gant
Yn fwynaidd pan ofynant.
Yn Nannau, prif fan enwog,—ugeiniau
O genhedl y marchog
Fo'n tario tra cano côg,
Fel duwiau yn flodenog.
Asgre lan Fychan a fo—yn barchus
Iawn berchen ar hono;
Cawr seddawg hir oes iddo,
Yn Nannau fraisg nen y fro.
ENGLYNION
I goffa JANE PUGH, merch fechan Mr. a Mrs. Pugh,
Dol-y-serau-uchaf, ger Dolgellau.
Bu farw Rhagfyr y 10, 1853, yn 5ml. oed.
Soriant yn Nolyserau,—hynodwyd
Gan genhadon angau;
Eu rhwysg sydd yno'n parhau,
Blin addef drwy'r blynyddau.
Ow! tair Sian seirian siriol,a gariwyd
I'r gweryd olynol;
Ni ddaw 'run o'r tair dymunol,
Atyn' hwy byth eto'n ol.
Addurn y Sian ddiwedda,a nodir
Yn enwedig yma;
Ni chaed llenreg ddoeth—deg dda,
Burach er oes Debora.
Ystyrid cymwysderau—ei mebyd,
Yn mhob golygiadau,
Yn dreiddgar glodgar i glau—
Ddwys gyrhaedd y ddysg orcu.
Pwy erioed yn ei hoedran—a dreiddiodd
Drwy addysg mor fuan;
Galarir, synir fod Sian
Gu rywiog yn y graian.
Trawanwyd ei rhieni—â hiraeth
O herwydd ei cholli;
Gan mai'r bedd i'w hanedd hi,
Cwynant yn fawr eu cyni.
ENGLYNION
Ar briodas y Parch. J. RIDGE, a Miss E. WILLIAMS,
Mawrth 8, 1828.
Pur ydyw stad priodas,—ddihalog
Dda hylwydd gymdeithas;
Y ddeuddyn mewn modd addas,—
Sy'n caru'r Iesu a'i ras.
Tawelwch fydd yn y teulu—a golud
Yn gwiw—lwys gynhyddu;
Mewn gwastad agweddiad gu,
Gwres dinam heb groes dynu.
Boed i'r wraig mewn bywyd o rin,—garu
Ei gwr yn gysefin;
Boed y gwr fel bwyd a gwin,
O gysur i'w wraig iesin.
ENGLYNION
I dair merch Mr. & Mrs. JONES, Penbryn, Dolgellau.
Margred a Gwen, hawdd eu henwi,—ag Ann
Rywiog eneth wisgi,
Tair chwaer hawddgar freingar fri,
Rhai anwyl i'w rhieni.
Tawel rianod diwair,—gwiw hoffus
Heb gaffael dim anair;
Da gallwych a digellwair—
Wyryfon tirion yw'r tair.
Llwydd iddynt dros eu holl ddyddiau—i fyw
Yn fawr eu rhinweddau;
Mewn hedd pob un yn mwynhau,
Diddanwch a rhad ddoniau.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.