Neidio i'r cynnwys

Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd/Parchn. J. M Jones, E. Rees, (Dyfed), a J Morgan

← Yr Achosion Seisnig eraill Dinas Caerdydd a'i Methodistiaeth Galfinaidd

gan Thomas Bowen, Caerdydd

Y Symudiad Ymosodol →

ADRAN IV.

PENNOD IX.
COFFADWRIAETH RHAI A FU AR Y MUR

(DYFYNIADAU O'R " BLWYDDIADUR.")

Y PARCH. JOHN MORGAN JONES, LL.D., CAERDYDD.

GANWYD ef yn Llanddewibrefi, Ceredigion, yn 1838. Symudodd yn ŵr ieuanc i Ddowlais, ac yno y dechreuodd bregethu yn 1864. Bu dan addysg yn Nhrefecca o 1866-9. Ordeiniwyd ef yng Nghymdeithasfa Llandeilo yn 1870, ac yr oedd ar ben y rhestr yn yr arholiad. Bu yn fugail-yn eglwys y Deri o 1869-71; yn Ystalyfera o 1871-3: yn Nhrefforest o 1873-5; ym Mhembroke Terrace, Caerdydd, o 1875-1912; ac yn arolygydd y Symudiad Ymosodol o 1907 hyd derfyn ei oes. Bu farw bore Saboth, Mai 22ain, 1921.

Ni fu yr un yn fwy amlwg yn ffurfafen ein Cyfundeb yn ystod yr hanner canrif ddiweddaf na'r gŵr annwyl hwn. Dringodd yn araf o ris i ris yn nerth ei gymeriad pur, ei alluoedd disglair, a'i ddynoliaeth ardderchog, ynghyd â'i ymroddiad dihafal i fod yn un o brif arweinwyr ein Cyfundeb. Meddai y Prifathro Prys, M.A., yn ei angladd: "I mi, heb os nac onibae, mewn pwyllgor a Chymdeithasfa, efe oedd y prif arweinydd ers chwarter canrif. Nid wyf yn petruso ei restru gyda'r chwech, neu lai na hynny, o brif arweinwyr ein Cyfundeb, o'i gychwyniad cyntaf. Ni fu ei fwy yn yr ystyr yma er dyddiau Ebenezer Morris a John Elias." Cafodd bob swydd ac anrhydedd a feddai y Cyfundeb, a hynny heb geisio yr un ohonynt, a llanwodd hwynt oll gyda medr ac urddas. Efe oedd ysgrifennydd cyntaf Cyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg, a hynny fwy na deugain mlynedd yn ol; ac efe hefyd oedd ei lywydd cyntaf dan y drefn newydd yn 1919. Bu yn ysgrifennydd a llywydd Cymdeithasfa'r De, a'r un modd y Gymanfa Gyffredinol. Yr oedd yn un o dri yn hanes y Cyfundeb gawsant eu hethol yr eilwaith i Gadair y Gymanfa. 1919. Etholwyd ef yr ail dro yn Nhreorci yn Llywyddodd y gymanfa yn Lerpwl yn 1920, ond galwyd ef i'r gymanfa fawr rhyw dair wythnos cyn adeg cyflwyniad y gadair i'w olynydd ym Mhorthmadog ym Mehefin 14-16, 1921. Er yr holl swyddau a phwyllgorau, nid esgeulusodd ei waith fel bugail a phregethwr. Yr oedd ei bin ysgrifennu hefyd ar waith yn barhaus. Ebr Dyfed yn y "Drysorfa" am fis Gorffennaf, 1921: "Nis gwyddom ar hyn o bryd am yr un gweinidog ysgrifennodd fwy. Efallai fod gennym un neu ddau wedi cyhoeddi mwy o lyfrau, ond ni fu yr un ysgrifbin yn fwy diwyd na'r eiddo J. Morgan Jones. Pe rhwymid y cwbl ysgrifennodd, byddent yn gyfrolau anferth. Bu'r "Cylchgrawn," "Y Drysorfa, Y Lladmerydd," a'r "Dehonglwr o dan ei ofal am flynyddoedd lawer, a darparai'n helaeth ar gyfer pob rhifyn. Gofalodd am brif erthyglau rhai cyhoeddiadau eraill yn gyson am yn agos i ddeng mlynedd." Bu o wasanaeth amhrisiadwy i'r Ysgol Sul. Mae ei esboniadau ar yr Actau," yr "Effesiaid," a'r "Hebreaid," ac hefyd Llawlyfr yr Efengylau (mewn undeb â'r diweddar Barch. W. James, Aberdâr) ymhlith y goreuon a feddwn yn ein hiaith. Mae y "Tadau Methodistaidd "yn gofadail arbennig iddo, fel hanesydd o'r dosbarth blaenaf. Ni chaniata gofod i ni sôn am ei weithiau llenyddol eraill, megis Darlith Davies, etc.

"Gan fod ei waith cyhoeddus, y swyddau lanwodd, a'r llyfrau ysgrifennodd yn wybyddus i gylch eang, ac ar lawr yng nghofnodion y Cyfundeb, hwyrach mai nid anfuddiol fyddai dwyn tystiolaeth fechan iddo fel dyn a Christion, a hynny oddiar adnabyddiaeth bersonol ac agos iawn ohono am tua 35 o flynyddoedd. Cawsom bob mantais i'w adnabod ymhob cylch, ac yn arbennig felly yn y cylchoedd mwyaf cyfrin. Yn ôl ei eiriau ef ei hun, cawsom 'holl secrets ei fywyd.' Perthyn i ni gyfaddef ei fod yn un o'r dynion goreu a gyfarfuasom erioed, y mwyaf anhunanol ei ysbryd a chywir ei amcanion. Ein hargyhoeddiad dwfn yw na ddarfu iddo ddweyd gair nac ysgrifennu llinell erioed gyda'r amcan o ddangos ei hun a chael ei weled gan ddynion.' Yr oedd ei ysbryd hunanymwadol yn anhygoel ymron, a'i barch i ddynion da yn ddiderfyn. Buom yn synnu lawer gwaith pan yn ei gwmni at y wedd yma ar ei gymeriad ac yntau wedi gwneud cymaint a chael cryn lawer o anrhydedd o bryd i bryd. Ond credwn y gwyddom y 'secret' erbyn hyn. Yr oedd wedi cael golwg yn bur gynnar ar ei fywyd, ar fawredd Duw, ac ar urddas ei waith. Teimlai felly nad oedd pob peth o'i eiddo ond rhyw ymgais at yr 'ideal,' a bod y meistr a'r gwaith yn deilwng o fwy a gwell na allai roddi iddo byth."

Hyn yn ddiau oedd yn cyfrif am na ddarfu i'w ysbryd suro ar hyd ei oes, er iddo golli ambell i frwydr pur boeth a chael aml i air garw. Fel y dywed Dr. John Williams mewn ysgrif goffa, "Os colli wnai, fel y gwelais hynny ambell dro ar ol brwydr galed, ni ffromai o gwbl; byddai y funud nesaf yng ngwar mater arall mor eiddgar a phe buasai wedi ennill ar hyd y ffordd." Yr oedd ganddo ymddiriedaeth ddiysgog yn rhagluniaeth Duw, ac os collai ar fater wedi gwneud ei oreu gadawai y canlyniadau i Dduw, a hynny yn hollol ddibryder. Yn hyn yr oedd fel yr Apostol Paul. Gwnai yn unol â'i argyhoeddiadau, gan adael y canlyniadau i'w Arglwydd.

Bu yn hollol lwyddiannus fel bugail ym Mhembroke Terrace ar hyd y blynyddoedd. Cadwai ddosbarthiadau Beiblaidd yn ddifwlch, ac os gwelai rywbeth mewn dyn ieuanc, rhoddai bob cefnogaeth iddo i fynd ymlaen. Hwyrach iddo gael ei gamesbonio rai prydiau" ffordd yma." Clywsom ef yn dweyd droeon bod dynion ieuanc yn dod ato i 'mofyn cyngor; ond wedi gwneud eu meddwl i fyny cyn dyfod.

Yna, "meddai "os na fyddaf i yr un farn a hwy, ant i ffwrdd, gan ddweyd nad oes gennyf gydymdeimlad â phobl ieuainc." Gwyddom am lawer o bobl ieuainc heddiw mewn safleoedd parchus ac uchel sydd yn ddyledus iawn i'r Parch. John Morgan Jones am ei gyngor gonest a'i help sylweddol.

Gwnaeth waith mawr mewn cylchoedd pwysig tuallan i'r Cyfundeb. Bu yn aelod blaenllaw ar fyrddau a chynghorau Addysg Caerdydd, a gwnaeth waith rhagorol ar Gyngor y Brifysgol, ac ar Fwrdd Llywodraeth Cymru. A chydnabuwyd ei wasanaeth gan y Brifysgol trwy ei anrhydeddu â'r radd o LL.D. Byr iawn fu'r adeg iddo i'w gwisgo, ond bydd y llythrennau ar garreg ei fedd.

Dangoswyd gwerthfawrogiad o'i fywyd a'i wasanaeth mewn modd ymarferol rai troeon. Cafodd dysteb anrhydeddus gan Eglwys Pembroke Terrace ar ben chwarter canrif o'i fugeiliaeth, ac hefyd ar ei ymddiswyddiad i gymryd gofal y Symudiad Ymosodol. Tua'r un adeg gwnaed tysteb gan Gyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg fel gwerthfawrogiad o'i lafur am ddeugain mlynedd. Yr oedd ei annwyl briod yn cydlawenhau ag ef yn nerbyniad rhain. Ychydig fisoedd cyn ei farw meddyliodd nifer o gyfeillion am ei anrhydeddu â darlun ohono ei hun mewn olew (oil-painting). Galwyd pwyllgor, gwnaed y darlun, gyda'r bwriad o'i gyflwyno iddo yn y Gymanfa ym Mhorthmadog, ond fel y sylwyd eisoes, yr oedd ef wedi mynd adref. Cyflwynwyd y darlun i'r Cyfundeb; siaradwyd ar yr achlysur gan Mrs. Lloyd George ac eraill. Y mae i'w gadw yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Bydd darlun, felly, o'r Parch. John Morgan Jones, LL.D. yn ei "robes" ar fur y coleg, a'i goffadwriaeth yn fendigedig.

Y PARCH. EVAN REES, M.A. (DYFED).

Nid yn y" Blwyddiadur" yn unig y cofnodir marwolaeth Dyfed, ac nid gan ein cyfundeb ni yn unig y teimlir colled a chwithtod ar ei ol. Yr oedd wedi torri ei enw yn ddwfn ar lawer llyfr cronicl, a thalodd cenedl gyfan wrogaeth iddo. Adwaenid ef ganddi fel bardd, beirniad, a darlithydd, ac ers blynyddoedd fel ei harchdderwydd. Ond ni pheidiodd a bod yn bregethwr ac nid aeth yn ronyn llai o bregethwr oherwydd y pethau hyn.

Ganwyd ef yng Nghasmael, yn Nyfed, ond gadawodd hi yn ieuanc am Aberdâr. Collodd ei dad pan yn saith mlwydd oed. Bu mewn ysgol dda-hen ysgol enwog y Comin, Aberdâr, ond ychydig a fu ynddi gan ei fod yn y pwll glo a than y ddaear pan yn wyth oed. Yr oedd hyn yn bosibl yng Nghymru Gristionogol yn oed Crist 1858. Cafodd yn ddiweddarach ychydig o fanteision ysgol nos, a chyn cyrraedd ohono ugain oed cydnabyddid ef fel y glowr mwyaf medrus a'r bardd mwyaf llwyddiannus yn y cylch. Yr oedd iddo gyfeillion ffyddlon yn Aberdâr, a derbyniodd ganddynt lawer o hyfforddiant fel bardd a llawer iawn o anogaethau i ddechreu pregethu. Diolchai ar hyd ei oes am y cymorth a gafodd gan un ohonynt yn neilltuol, sef, William Morgan, y bardd.

Pan yn 25 oed collodd ei fam a bu ymron a thorri ei galon ar ei hol. Diflasodd ar Aberdâr hebddi hi a daeth i Gaerdydd yn 1876. Cafodd waith yno—gwaith a fuasai wedi lladd pob ysbryd barddoni yn y rhan fwyaf o feibion awen—yn platform porter ar y Taff Vale Railway. Ni fu yn hir yn y swydd honno cyn i gyfaill (a resynai fod ei oriau hamdden mor brin) sicrhau gwaith iddo ar y Bute Docks.

Yr oedd wedi ymaelodi yn Eglwys Seion, Caerdydd, a gwelodd y blaenoriaid a'r gweinidog newydd yr adeg honno, y diweddar Barch. J. Morgan Jones, fod llawer iawn ynddo, a phwyswyd yn drwm arno i ddechreu pregethu. Bu'n ymarhous am amser, ond ufuddhaodd i'r alwad ac ymdaflodd â'i holl egni i ymbaratoi ar gyfer ei waith. Bu dan addysg y Parch. William James, ar ol hynny o Nantymoel, a'r Parch. Edgar Williams, ac aeth am dymor i Goleg Caerdydd. Ordeiniwyd ef yn 1884. Pregethodd am ddeugain mlynedd, ac nid esgynnai neb i bulpudau ein Cyfundeb ar ddiwedd ei yrfa fel ar ei dechreu oedd yn fwy cymeradwy gan ei gynulleidfa. Nid oes angen na gofod yma i sôn am ei fawrion weithredoedd ym myd y cystadlu. Yr oedd pawb o bob talaith a phob sir a phob llwyth yn Israel yn fodlon iawn i Ddyfed fod yn archdderwydd, a chyflawnodd wasanaeth mawr yn y cylch hwn gyda'r urddas a'r gwroldeb a berthynai yn amlwg iddo. Cyfoethogodd lawer ar lenyddiaeth ein gwlad. Canodd lawer ïawn am Iesu Grist ac iddo, ac y mae un o leiaf o'i emynau wedi cyrraedd, nid yn unig i'r llyfr emynau, ond i galon ei genedl. Pan fu farw yr oedd yn olygydd y "Drysorfa." Golygodd waith eraill gyda barn a chwaeth ddifeth, a chyfrannodd lawer o'i feddwl a'i brofiad ei hun iddi.

Fe fu'n dihoeni am rai misoedd, a bu farw yn dawel, gan gredu yn Iesu Grist. Cafodd angladd tywysog, a daeth pob math ar Gymro i dalu teyrnged i un a garai ei genedl ac a'i gwir wasanaethodd.

Gan fod Dyfed yn fardd, ac nad oes neb yn ameu hynny, nid oes berigl mewn dweyd nad oedd yn debyg iawn i fardd yn y dyn oddiallan. Yr oedd i ddeddf le pur fawr yn ei fywyd ac ni fyddai byth yn colli na thrên nac ysgrepan. Gŵr hunanfeddianol ydoedd, yn mesur ei gamre a'i eiriau, ac ni fyddai byth mewn gwewyr o awydd nac o ofn. Tybed mai yma y gorweddai cuddiad ei gryfder, a'i fod wedi dod yn gymaint meistr ar gynganeddion am fod yn ei natur ef ei hun ryw gynghanedd ddistaw oedd yn cadw trefn a chymesuredd ar ei holl fywyd? Cadwodd ei ysbryd yn iach a diwenwyn, ac ni werthodd ei annibyniaeth i neb erioed. Gosodwyd llawer anrhydedd arno a disgynnodd eraill heibio iddo, a byddai yn well ganddo i bob un fyned heibio am byth nag ymostwng i wenieithio na chardota amdanynt. Bu ar hyd ei oes yn gyfaill mawr-i'r hen pan yn ieuanc, ac i'r ieuanc pan aeth yn hen ei hun, ac er mai bywyd unig hen lanc fu ei ran ef, gadawodd hiraeth syml, ond dwfn, ar ei ol mewn llawer calon a pherarogl mewn llawer cylch na chilia tra'r erys ei enw mewn cof.

Y PARCH. JOHN MORGAN, LLWYNYPIA.

Ganwyd y Parch. John Morgan, Mai 9fed, 1866. Mab ydoedd i Peter a Mary Morgan, Penrallt, Llangeitho, a'r trydydd o ddeg o blant. Dygwyd ef i fyny ar aelwyd grefyddol a thyfodd yntau yn gadarn yn yr Ysgrythyrau ac mewn duwioldeb personol. Derbyniodd ei addysg fore yn Ysgol Frytanaidd Llangeitho. Ac efe'n fachgen bu'n bugeilio ar fferm Trewen Fawr -fferm ei dadcu a'i famgu o ochr ei fam. Arferai yno fynd â'r Beibl gydag ef yn y bore, a deuai yn ol yr hwyr wedi trysori penodau o Air Duw yn ei gof. Oddiyno dychwelodd gartref at ei dad i ddysgu ei grefft fel saer. Pan oddeutu 22ain oed symudodd i Gaerdydd, a bu yn hynod lwyddiannus gyda'r un alwedigaeth yno. Ymaelododd yn Eglwys Pembroke Terrace, oedd dan ofal y diweddar Barch. Ddr. John Morgan Jones, a bu yn wir ffyddlon gyda holl waith yr eglwys, yr Ysgol Sul, a'r Dosbarth Beiblaidd. Ffurfiwyd cyfeillgarwch mynwesol rhyngddo â'i weinidog cyfeillgarwch a barhaodd gan gynyddu fwyfwy hyd y diwedd-fel y dengys y ffaith i'r Dr. J. Morgan Jones ymddiried ei lawysgrifau i gyd i ofal Mr. Morgan. Dechreuodd bregethu yn Eglwys Pembroke Terrace yn 1891, a bu yn efrydydd llwyddiannus ym Mhrifysgol Caerdydd o 1893 hyd 1895. Ordeiniwyd ef yng Nghymdeithasfa Penycae, Mynwy, yn 1896. Yn yr un flwyddyn ymbriododd â Miss Rhoda Williams, merch Mr. a Mrs. Thomas Williams, East Moors, Caerdydd, a bu hithau o bob cymorth posibl iddo. O 1896 hyd 1899 bu yn fugail Eglwys Seisnig y Porth, gan wneuthur gwaith rhagorol yno. Yn 1899 derbyniodd alwad i fugeilio Eglwys Bethania, Llwynypia, ac yma y llafuriodd yn fawr ei barch a'i ddylanwad gyda phob dosbarth am yn agos i chwarter canrif. Fe'i galwyd adref at ei wobr Saboth y Sulgwyn, Mai 20fed, 1923.

Pregethai'r Efengyl am ei bod yn brofiad iddo ef ei hun, ac ni esgynnodd neb i'n pulpudau yn fwy ymroddedig a brwdfrydig nag ef. Magwyd ef yn Llangeitho, ac yr oedd gwres ysbrydol diwygiad yn ei enaid yntau. Parhaodd yn fugail hefyd ar hyd ei fywyd-yn ofalus a hunanaberthol.

Llanwai gylch pwysig iawn yng Nghyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg. Llafuriodd yn galed fel ei ysgrifennydd am gyfnod maith. Yr oedd ei gyfarwyddyd bob amser yn ddoeth a diogel ar y gwahanol bwyllgorau, a bu ei wybodaeth o'r grefft saer o fantais fawr i'r pwyllgor adeiladu. Enillodd ymddiriedaeth lwyr y Cyfarfod Misol.

Gostynnwyd ei nerth ar y ffordd. Yr oedd yn bresennol fel arfer yng nghymanfa ganu y dosbarth yn ei hoff Fethania y Llun cyntaf o Fai, ac yn honno ni chanodd neb fwy nag ef. Amhosibl fydd i neb oedd yn bresennol feddwl am yr emynau, "'Does neb ond Ef, fy Iesu hardd," a " Os dof fi drwy'r anialwch," heb gofio am Mr. Morgan. Nid oedd ball ar ei ddyblu "Yn seinio buddugoliaeth" yn oedfa'r hwyr. Tarawyd ef yn wael gan "pneumonia," ac aeth yr afiechyd yn drech nag ef. Canodd lawer yn ei ddyddiau olaf, ac yr oedd ei farwolaeth yn fuddugoliaethus. Yn ei angladd luosog-un o'r rhai mwyaf a welwyd erioed yn y Rhondda-cafwyd profion amlwg o alar a pharch cyffredinol a dystiai fod gŵr Duw yn myned adref. Gadawodd weddw a thair o ferched i alaru ar ei ol.

Nodiadau

[golygu]