Neidio i'r cynnwys

Diolch iti, Arglwydd mawr

Oddi ar Wicidestun
Blinedig gan ofidiau'r llawr Diolch iti, Arglwydd mawr

gan William Nantlais Williams (Nantlais)

Am yr Ysgol rad Sabbothol
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

352[1] Ar ddechrau Ysgol.
77. 77.

DIOLCH iti, Arglwydd mawr,
Am y sêr a golau'r wawr;
Diolch mwy am olau iach
Ysgol Sul i blentyn bach.

2 Diolch am y Beibil glân,
Am emynau mawl a chân;
Diolch wnawn â llawen dant
Am y rhai sy'n dysgu'r plant.

3 Danfon lewyrch oddi fry
Heddiw ar ein gwersi ni;
Dangos inni'r ffordd i fyw
Er dy glod, O! Arglwydd Dduw.

—William Nantlais Williams (Nantlais)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 352, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930