Diolchaf fi â chalon rwydd
Gwedd
Mae Diolchaf fi â chalon rwydd yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
Diolchaf fi â chalon rwydd
I'r Arglwydd bob amserau;
Ei foliant ef, a'i wir fawrhad,
Sy'n wastad yn fy ngenau.
Y sawl a edrych arno ef
A llewyrch nef eglurir;
Ni waradwyddir ohonynt neb,
A'u hwyneb ni chwilyddir.
Wele y truan a roes lef,
A Duw o'r nef yn gwrando,
Ac a'i gwaredodd o'i holl ddrwg,
A'i waedd oedd amlwg iddo.
Angel ein Duw a dry yn gylch
amgylch pawb a'i hofnant;
Fe'u ceidw hwynt; a llawer gwell
Na chastell fydd eu gwarant.
O! profwch, gwelwch, ddäed yw
Yr Arglwydd byw i'w eiddo;
A gwyn ei fyd pob dyn a gred
Roi ei ymddiried ynddo.
Ein Duw sydd agos iawn at gur
Y galon bur ddrylliedig;
A da y ceidw ef bob pryd
Yr ysbryd cystuddiedig.