Dirwyn Edafedd/Ar Gefn Beic
| ← Helynt y Ddrama | Dirwyn Edafedd gan Elizabeth Williams |
Chwedlau Nain → |
AR GEFN BEIC
TU ôl i'm cartref presennol yn Sidcup saif ysgol "fodern" eilradd hardd, i fechgyn a genethod. Gwelaf bob dydd fintai fawr ohonynt yn gwibio ar scri heibio'r tŷ ar gefn eu beiciau ac yn gwau trwy geir modur a lorïau yn hollol ddi-ofn, ac yn edrych fel pe baent yn un â'r peiriant. Dygant fy meddwl yn ôl flynyddoedd maith at yr adeg y gwelais y beisicl cyntaf erioed. Nid oedd eto sôn am na char modur na bws na dim o'r fath, a'r unig ffordd i deithio'r ffyrdd oedd ar ddau droed, ar gefn ceffyl neu ful, neu mewn cerbyd. Er cymaint y newid a ddaeth ar fywyd cymdeithasol trwy ddyfais y car modur, tybiaf mae y beisicl a ddechreuodd y chwyldroad ym mywyd cefn gwlad; y beisicl a ddechreuodd ei gwneud yn bosibl i lanciau ifanc grwydro ymhell o ororau cyfyng y pentref. Ond, ni freuddwydiai neb ar y pryd beth fyddai effaith y ddyfais newydd. Edrychem ar y beisicl cyntaf yn yr ardal fel rhyfeddod-gyda'i olwyn fawr uchel o'r tu blaen a'i olwyn fechan o'r tu ôl. Rhyfeddwn at allu unrhyw un i fynd ar gefn olwyn mor uchel, ac i ddal i eistedd arni heb gwympo. Wrth gwrs ni fyddai merched yn meiddio meddwl am ddringo arnynt. Ni fyddai'n "weddus" i ferch wneud y fath beth, hyd yn oed pe gallai.
Nid "beisicl" mo'r enw yng Ngogledd Cymru y pryd hynny, ond "ceffyl haearn" neu "car gwyllt". Hwyrach mai'r enw Saesneg penny-farthing yw'r mwyaf disgrifiadol. Nid oes gennyf syniad pa hyd y bu'r math hwn o feic mewn bri. Nid wy'n tybied iddo fod yn boblogaidd iawn yn y gogledd. Cofia Hugh fy mrawd i fachgen o'r dosbarth hynaf yn ysgol Garn Dolbenmaen, o'r enw Seth, feddu ar feic olwyn fawr. Nid oedd yn bosibl reidio beic yn unman ym mhentre'r Garn y pryd hynny, gan fod y ffyrdd yn garegog iawn ac yn anwastad. 'Roedd felly'n ofynnol i Seth wthio'r beic mawr uchel i'r lôn bost, a chriw o fechgyn yr ysgol gydag ef, i'w weld yn gwneud gwrhydri ar y beic. Gellid dychmygu fel yr edmygent Seth, ac wrth gwrs 'roedd yntau wrth ei fodd. "Edrychwch, hogia", meddai, "arnaf fi'n mynd heb afael yn y cyrn". A'r funud nesa, tarawodd yr olwyn flaen yn erbyn carreg ar y ffordd, ac i fyny â Seth, dros ben y cyrn ganol twmpath mawr o ddrain a mieri a dail poethion. 'Roedd cwymp oddi ar olwyn mor uchel yn hen godwm cas. 'Toedd ryfedd yn y byd felly i iaith Seth fod braidd yn lliwgar pan ddaeth yn rhydd o'r twmpath, yn gripiadau i gyd ac ôl y dail poethion hyd ei wyneb a'i goesau. Un direidus iawn oedd Seth ond 'roedd pawb yn ei hoffi. Byddai gwên ar ei wyneb bob amser ac yr oedd y ffaith fod ganddo ddau droed clwb yn gwneud ei wrhydri ar y beic bron yn wyrthiol.
Ni wn pa bryd y cymerodd y beic newydd, mwy synhwyrol, le y beic mawr. 'Roedd rhyw reswm ar y beic newydd y ddwy olwyn o'r un faint, heb fod yn rhy uchel. Dyma'r patrwm sydd wedi dal ar hyd y blynyddoedd, gyda llawer o welliannau, wrth gwrs, o flwyddyn i flwyddyn. Nid oedd ar y cyntaf, er enghraifft, free wheel ar y beiciau, a rhaid oedd cael olew i oleuo y lampau.
Yn fuan iawn wedi i mi ddychwelyd i Lanrwst yn wraig ifanc, 'roedd y beiciau newydd wedi dod yn eithaf cyffredin, i ferched yn ogystal ag i ddynion. Cyn pen hir iawn bu i W.H., fy ngŵr, feddu ar un, ond nid oedd yn fodlon heb gael un i minnau hefyd. Bûm amser yn dysgu reidio, a chefais lawer codwm gas ar y ffordd galed. Yn ffodus ychydig o draffic fyddai ar y ffyrdd y pryd hynny; hawdd fyddai gweld cerbyd o bell a symud yn hamddenol at ochr y clawdd.
'Roedd beiciau gan ddau gyfaill mawr inni-pâr ifanc fel ninnau,—ac arferem fynd ein pedwar ar aml bnawn Sadwrn teg. Ein hoff daith fyddai i Gapel Curig i gael te ac yna i lawr yr allt yn ôl i Fetws-y-Coed. Fel y dwedais eisoes, nid oedd free-wheel ar y beiciau, ac ni fuasai'n bosibl mynd ar wib i lawr allt â'r traed ar y pedalau. Ni fuasai coesau neb yn ddigon chwim! Ond 'roedd dyfais i ateb i'r amgylchiad. Ychydig yn is i lawr o dan y cyrn 'roedd dau strip o fetal, un o bobtu'r ffrâm—dyma'r foot-rests. Wrth fynd i lawr yr allt byddai'n ofynnol codi'r traed oddi ar y pedalau a'u gosod ar y rests, a gadael y pedalau yn rhydd i chwyrlio fel chwirli-gwgan. Gan mai scerti llaes at y sodlau a wisgai merched y pryd hynny rhaid oedd gofalu rhag i'r scert fynd i afael y pedalau neu'r olwynion. Ni fyddem fawr o dro yn cyrraedd y Betws—dim rhwystr ar y ffordd ond ambell gerbyd neu drol, ac weithiau, hwyrach, y "goits fawr". Mae'n siwr fod y free-wheel a'r breciau cryfion ar y beiciau modern yn saffach ganwaith, ond O! mor fendigedig fyddai gollwng y pedalau a chodi'r traed fel pe baem yn eistedd ar yr awyr ac i ffwrdd â ni fel pe baem yn ehedeg. Ac mor fedrus y teimlwn fy hun wrth ail-gydio yn y pedalau â'm traed. "Coasting" fyddai'r enw ar y dull hwn o reidio, ac ni fyddai dim yn rhoddi cymaint o foddhad i mi.
Un diwrnod gwahoddodd fy nghyfaill Mrs. Williams fi i fynd i gael te gyda chyfeillion yn Nhalybont—pentre bach rhwng Trefriw a Ro-wen. Penderfynwyd cychwyn o'n tŷ ni am un o'r gloch er mwyn cael digon o amser ar y ffordd. Daeth yn un o'r gloch-chwarter wedi un-ond dim hanes o Mrs. Williams. Wedi hanner awr ar ôl un wele hi'n dod â'i gwynt yn ei dwrn. Pan ar gychwyn o'i thŷ gwelodd fod twll yn y tyre blaen. Nid oedd amser i'w drwsio ond cafodd fenthyg beic cymdoges. Yn anffortunus 'roedd y gymdoges yn dalach dynes o lawer na Mrs. Williams ac yr oedd cyfrwy y beic yn uwch o dipyn na chyfrwy beic Mrs. Williams. Nid hawdd felly oedd iddi ddringo yn ôl ar y cyfrwy bob tro y deuai i lawr, a chollai amser bob tro.
Cychwynnwyd ar y daith yn selog. Ar hyd "ffordd Gower", neu'r "ffordd newydd", a thros "Bont Gower" y byddem yn mynd i Drefriw bob amser. 'Roedd yn fyrrach o ddwy filltir a hanner na'r "hen ffordd" trwy'r dref a thros y "Bont Fawr". "Roedd "Ffordd Gower" mewn bri mawr y pryd hynny, dyma'r ffordd a gymerid gan y cerbydau o'r orsaf a'r ffordd y byddai bron bawb yn ei chymryd i gerdded i Drefriw, er ei bod ffordd doll. Wedi i ni groesi Pont Gower cawsom fod metlin wedi ei osod ar hyd y ffordd cyn belled ac y gallem weld, a'r steam-roller heb fod hyd-ddi i wasgu'r cerrig i lawr. Nid oedd ond rhimyn cul o bobtu'r ddau glawdd yn glir. "Toedd dim i'w wneud ond gwthio'r beiciau ar hyd y rhimyn cul a cherdded ein hunain ar y metlin miniog. Tua hanner y ffordd i Drefriw daeth dyn i'n cyfarfod a gofynnais iddo a oedd llawer o'r metlin ar hyd y ffordd. "Wel", meddai, "mae arnaf ofn fod. Maent wedi ei roi ar hyd y pentre cyn belled â'r Belle Vue Hotel o leiaf. Credaf fod y ffordd yn lled glir o hynny ymlaen".
Bu'n rhaid mynd ddwy filltir ymhellach na'r Belle Vue cyn i'r ffordd fod yn rhydd o'r metlin, felly, mewn gwirionedd ni chawsom reidio'r beiciau ond rhyw filltir a hanner o Lanrwst i Dalybont. Ar ganol y pentre gwelsom gyfaill o Lanrwst a chawsom sgwrs ag ef. Pan oeddem yn sgwrsio daeth crwydryn atom i ofyn cardod. Byddai llawer o grwydriaid tebyg, ar hyd a lled y yr wlad adeg honno, ar esgus chwilio am waith. Dwedid am lawer ohonynt na fyddent yn gwneud diwrnod o waith mewn blwyddyn, ond byw o'r naill dloty i'r llall. Mae'n fwy na thebyg mai cardota ei ffordd o dloty Conwy i dloty Llanrwst oedd y crwydryn hwn-dyn tal, cryf ac esgyrniog. Synnais weld y cyfaill yn rhoddi un ai chwech neu swllt iddo, ac wedi iddo fynd, meddai'r cyfaill: "Fe fydd yn well gen i roi yn lled sylweddol i rai fel hyn. Mae y ffordd o Dalybont i Drefriw yn unig iawn—a hawdd fuasai ymosod ar ddyn ar ffordd mor unig". Fel y gellid meddwl, 'roedd clywed dyn yn ei oed a'i amser yn cyfaddef i ofn yn y dydd golau yn cynhyrfu dwy fach nerfus fel y ni. Nid oeddem, chwaith, yn teimlo'n awyddus iawn i wthio'r beiciau am y pedair milltir yn ôl ar hyd y metlin. Felly penderfynwyd seiclo ymlaen i gyfeiriad y Ro-wen ar ôl te a throi i lawr yr allt i waelod y dyffryn at orsaf Talycafn lle y caem y trên olaf am naw o'r gloch i Lanrwst. Gan nad oeddem wedi dod â'n lampau gyda ni, buasai'n rhaid i ni gymryd y trên.
Ar ôl mwynhau te a sgwrs yn Nhalybont dyma gychwyn yn selog ar y daith i Dalycafn. Yn anffodus 'roedd llawer o elltydd ar hyd y ffordd uchaf a Mrs. Williams yn mynnu disgyn oddi ar y beic wrth odre pob gallt. Rhaid cyfaddef fod gan Mrs. Williams un gwendid, os gwendid hefyd. 'Roedd yn nerfus iawn, a mynnai ddisgyn wrth gyfarfod cerbyd, neu hyd yn oed drol, ac hefyd fel y dwedais, wrth odre pob gallt fawr neu fach, a chan fod y beic yn rhy uchel iddi byddai am hydion yn ceisio dringo ar y cyfrwy ac felly'n colli amser gwerthfawr. Crefais arni i beidio â disgyn hyd y gallai, ond disgyn a wnâi ar bob cynnig. Pan gyraeddasom o'r diwedd i ben yr allt sy'n arwain i orsaf Talycafn, gellir sylweddoli'n teimlad wrth weld y trên olaf yn hwylio'n dawel tua Llanrwst.
'Toedd dim amdani ond ceisio gwneud y gorau o'r gwaethaf. Aethom i lawr i'r orsaf at y gorsaf feistr. Adwaenwn ef yn dda, ac adroddais iddo ein benbleth. Gofynnais iddo anfon gair at W.H. i orsaf Llanrwst i egluro beth oedd wedi digwydd a gofyn iddo ddod ar ei feic i'n cyfarfod, â lampau i'r beiciau. Wedi inni adael yr orsaf a throi i'r ffordd bost 'roedd yn hanner awr wedi naw ac yn dechrau nosi. Penderfynwyd seiclo'n ymlaen nes i'r golau ballu a cheisio mynd mor bell ag oedd yn bosibl cyn disgyn i gerdded. 'Roedd y ffordd yn lled wastad ar y cychwyn ac aethom mor gyflym ag y gallem. Pan oeddem ar fin disgyn i gerdded, mewn tro sydyn yn y ffordd (a minnau, rhaid cyfaddef, yn agosach i'r clawdd ar y dde nac i'r clawdd chwith) daeth pedwar o lanciau ar gefn beiciau i'n cyfarfod, a golau ar bob beic. Cyn i mi gael amser i ysgoi deuthum i wrthdarawiad â'r beic cyntaf nes peri i'r ddau ohonom scrialu ar y ffordd. Ni cheisiaf ddisgrifio iaith y llanc, ac yn wir nid oedd llawer o fai arno. Gallaswn yn hawdd fod wedi achosi damwain i'r ddau ohonom. Yn ffodus nid oeddem fawr gwaeth, ond yr oeddwn i wedi dychryn yn enbyd a'm coesau'n crynu cymaint nes prin y gallent fy nghynnal. Wedi iddynt ddeall nad oeddwn wedi cael niwed aeth y pedwar llanc ar eu ffordd, ac ar ôl i mi ddod ataf fy hun dyma ninnau ein dwy yn cychwyn y daith gerdded. Ymhen ychydig funudau daeth cerbyd uchel heibio-cerbyd Mr. Jarvis, Superintendent y Police yn Llanrwst. Adwaenwn Mr. Jarvis yn dda; 'roedd W.H. ac yntau yn bur gyfeillgar. Ni wnaeth osgo wrth fynd heibio ei fod yn ein hadnabod yn y tywyllwch ac yr oedd wedi mynd cyn i mi gael ei gyfarch. Pan oeddem yn gwthio'r beiciau yn boenus i fyny allt gyfagos lle safai dau dŷ ar ochr y ffordd, gwelsom fod y cerbyd yn aros ar ben yr allt, fel pe bai yn disgwyl am rywun. Ni ddaeth i'm meddwl ei fod yn disgwyl amdanom ni. Wedi inni gyrraedd pen yr allt cyferchais ef "Nos da, Mr. Jarvis". Atebodd yn sarrug, "Wyddoch chi ddim eich bod yn torri'r gyfraith, yn reidio heb olau?" Meddyliais mai cellwair yr oedd a meddwn innau, "Wel, tyda ni ddim yn reidio, fel mae gwaethaf modd, cerdded ydym. A fuasech cystal â dweud wrth fy ngŵr os gwelwch ef ar y ffordd ein bod wrthi'n cerdded gorau y gallwn". "Pwy yw'ch gŵr?" meddai yn fwy sarrug fyth. "Ond Mr. Williams gorsaf feistr Llanrwst", meddwn. Newidiodd ei diwn ar amrantiad. "Mae'n ddrwg gennyf Mrs. Williams, nid oeddwn wedi eich adnabod. Rhoddaf eich neges i Mr. Williams", ac i ffwrdd ag ef. Sylweddolais ei fod wedi aros ar ben yr allt i geisio dal y ddwy ferch a welodd yn gynarach, yn torri'r gyfraith. 'Roeddwn yn ddiolchgar nad oedd wedi mynd heibio ychydig funudau'n gynt a chanfod y beic a minnau yn mesur ein hyd ar y ffordd!
Wedi i Mr. Jarvis ein gadael 'roedd erbyn hyn tua'r hanner awr wedi deg, ac yn dywyll iawn, a ninnau ein dwy yn gwthio'r beiciau ar ganol y ffordd, mor agos i'n gilydd ag y gallem, ac yn ofni unrhyw foment gweld rhyw anghenfil yn neidio o'r clawdd i ymosod arnom. Ond yn ffodus ni welsom ddim, na'r un wyneb byw ar ôl i Mr. Jarvis ein gadael. Nid oedd na siw na miw; dim ond sŵn ein traed yn cerdded ar hyd y ffordd yn y distawrwydd, ac yr oeddem wedi hen golli awydd i ddweud gair. Dirwyn un rhan o ffordd Talycafn trwy goedwig, a choed uchel, tywyll, talfrig o bobtu yn gwneud twnel hir. 'Roedd mor dywyll yn y twnel fel na welem yr un llewyrch ac ni allem ond teimlo'r ffordd â'n traed. Caem ein hunain yn aml yn cerdded yn syth i'r clawdd, ambell dro yn sathru ar frigyn coeden, a hwnnw'n rhoi clec fel ergyd gwn a pheri inni neidio mewn ofn a braw. Gwaeth na'r cwbwl, dechreuodd y tylluanod hwtian. 'Roeddem yn hen gynefin â sŵn tylluanod yn Llanrwst ond ni fu yr un ohonom mor agos atynt â'r noson hon. Yr oeddent fel pe o'n cwmpas ymhob man-y naill yn ateb y llall—ac ni wn am ddim a all beri iâs fel pe bai dŵr oer yn rhedeg i lawr y cefn, fel hwtian tylluan yn nhrymder y nos ym mherfedd y wlad. Ni allaf ddatgan mewn geiriau faint ein hofn y noson honno. Yr oeddem yn fwy ofnus fyth wrth feddwl am gyrraedd giât wen Maenan cyn i W.H. ddod i'n cyfarfod. Dwedid fod ysbryd yn ymddangos liw nos wrth y giât wen. 'Roeddem mewn penbleth. Beth fuasai'r gwaethaf—aros yn y distawrwydd a'r tywyllwch, yn yr un fan, nes y deuai W.H., neu cerdded ymlaen a mentro'r giât wen? 'Roedd rhywfaint o gysur yn sŵn ein traed ar y ffordd.
'Roeddem am ddod allan o'r twnel cyn penderfynu—ac O! 'r llawenydd oedd inni, wedi dod yn rhydd o'r twnel a chyrraedd Plas Tan yr Allt, gyferbyn â Dolgarrog a gweld llewyrch lamp beisicl yn cyflymu i'n cyfarfod yn y pellter. 'Roedd W.H. ar gyrraedd, ac ni fûm erioed yn falchach o'i weld, nid yn unig am y byddai'r lampau yn rhoi diwedd ar y cerdded blin, ond yn ei gwmpeini nid oedd ots gennyf mwyach am na thywyllwch, na thylluanod nac ysbryd giât wen Maenan! 'Roedd W.H. gennym wrth gefn i'n hamddiffyn. Gan nad oedd ganddo ofn dim na neb teimlem ninnau'n hollol ddi-ofn yn ei gwmni.
Mae'n debyg fod W.H. wedi cynhyrfu tipyn pan dderbyniodd neges gorsaf feistr Talycafn. Gwyddai am unigrwydd y ffordd; gwyddai y byddai'n aml ambell i feddwyn yn dychwel o'r dref; gwyddai y buasem ein dwy yn ofnus. 'Roedd wedi poeni wrth feddwl am ein cyflwr, ar hyd y ffordd atom, ond wedi ein cyrraedd cuddiodd ei deimladau, fel y bydd tad neu fam gyda phlentyn wedi osgoi perygl. Ymddangosai i ni braidd yn dynn. Ni ddywedodd lawer ond yr oedd pob osgo yn tueddu i'n beio am fod mor esgeulus â cholli'r trên ola a'i orfodi i wneud taith berfedd nos heb achos. A ninnau'n dwy yn ddistaw ac yn teimlo'n wir euog. Aeth W.H. ati'n bur rodresgar i osod y lampau ar ein beiciau. Cymrodd hyn amser gan fod y noson mor dywyll a chan nad oedd ganddo ond llewyrch lamp ei feic ei hun. Llwyddodd o'r diwedd ac aeth ati i'w goleuo, a ninnau'n edrych ymlaen at gael eistedd ar y cyfrwy a chyflymu adref. Ond Ow! Sôn am esgeulustod! 'Roeddem fel y morwynion ffôl gynt-heb olew yn ein lampau. A W.H. erbyn hyn yn union fel awyren wedi i rywun roi pin ynddi, ac yn teimlo'n fwy gan na ddywedodd neb air. O'r diwedd methais i ddal rhag chwerthin. ""Does dim dewis rhyngom", meddwn, "dim dewis rhwng colli'r trên ac anghofio'r olew", a dyma chwerthin mawr dros y lle yn rhwygo'r distawrwydd. 'Roeddem i gyd yn teimlo'n well ar ôl rhyddhau ein teimladau. Beth a wnaem yn awr?. Dyna'r cwestiwn. 'Roedd W.H. am inni reidio y tu ôl iddo, ac yntau fel pilot. Ond ni fynnai Mrs. Williams na minnau sôn am y cynllun. Nid oeddem wedi anghofio'r codwm a gefais trwy reidio heb olau. Felly 'toedd ond dau droed amdani ac erbyn hyn 'roedd W.H. yn barod i gytuno ag unrhyw gynllun. Ac felly y bu, dim ond dau droed a gwthio'r beiciau yr holl ffordd.
Ymhell cyn cyrraedd adref 'roedd fy nghoesau fel mashîn wedi ei weindio ac yn symud bron ohonynt eu hunain, y naill droed heibio'r llall. O'r diwedd dyma ni yn cyrraedd ein tŷ ni—ymhell wedi hanner nos, ond yr oedd gan Mrs. Williams hanner milltir eto cyn cyrraedd ei thŷ, ac aeth W.H. i'w hebrwng. Amdanaf fi, euthum i'r tŷ a'm taflu fy hun ar y soffa, yn rhy flin i fwyta swper, a phan es i'r gwely a chysgu, teimlwn fy hun drwy'r nos yn mynd fel mashîn ac yn gwthio beic heb ball. Erbyn y bore prin y gallwn symud gan boen yn fy aelodau ar ôl y daith. Rhaid ein bod wedi cerdded, a gwthio'r beiciau-o leiaf ddeng milltir, ar wadnau tenau. Darfu pob awydd ynof am seiclo. Nid oedd arnaf eisiau gweld yr hen feic mwyach. Rhoddodd y daith fythgofiadwy ddiwedd ar fy nyddiau seiclo am fy oes.
Soniais o'r blaen am rai o helyntion Bob fy mrawd. Daw sôn am feic â stori i'm meddwl am helynt Bob a'i feic. 'Roeddwn wedi clywed Bob, a Hugh fy mrawd yn sôn am yr helynt, ond i ferch Richard fy mrawd, Mrs. Ted Jones Rhes-y-cae, Holywell, 'rwyf yn ddyledus am y rhan o'r stori fel y gwelodd ei thad a'i mam hi. Nid oedd ei brawd a hithau ond plant ifanc iawn pan ddigwyddodd yr helynt, ond clywodd ei thad yn adrodd y stori mor aml fel y glynodd y manylion i gyd yn ei chof, ac nid oedd neb a fedrai adrodd stori tebyg i Richard. Gwnâi bopeth yn fyw, a gwelai yr ochr ddoniol i bopeth.
Pan oedd Bob yn byw ar ei ben ei hun yn Birmingham prynodd feisicl ail law, gan edrych ymlaen at rodio'r wlad o gylch y ddinas bob pen wythnos braf. Cyn ymarfer llawer â'r beic daeth i'w ben yn sydyn i fynd yr holl ffordd i Fanceinion arno, i ymweld â Richard ei frawd a'r teulu, mentar go fawr i un fel Bob nad oedd wedi seiclo llawer o'r blaen. Ni ddaeth i'w feddwl y dylasai roddi gwybod i Richard. Meddyliai y byddai Richard yn siwr o fod gartref ar y Sul. Felly, cychwynnodd yn dalog un bore Sul heb ddim ond brechdan sych yn ei boced, gan edrych ymlaen at bryd o fwyd ar ôl cyrraedd tŷ ei frawd. Ni fuasai'r daith yn orchwyl hawdd iawn i'r sawl oedd yn gynefin â seiclo. Nid oedd y ffyrdd cystal ac y maent heddiw. Ar ôl tymor sych byddent o dan fodfeddi o lwch, a'r cloddiau'n wyn o lwch fel pe bai sachaid o flawd wedi disgyn arnynt. A gwae i'r sawl a ddigwyddai fod ar gefn beic y tu ôl i gerbyd. Ond daliodd Bob ati er gwaethaf pob rhwystr. Eisteddai yn awr ac yn y man ar ochr y ffordd i fwyta'r frechdan sychlyd ac i orffwys tipyn. Cafodd ei gamgyfeirio fwy nag unwaith a bu ar y ffordd oriau lawer yn fwy nag y dylasai. O'r diwedd, ar ôl taith flin, cyrhaeddodd Fanceinion, a'r stryd lle y cartrefai ei frawd.
Yr oedd wedi hen nosi erbyn hyn, a golau ymhob tŷ ond tŷ Richard. Synnodd weld fod ffenestri tŷ Richard yn dywyll i gyd, a chafodd y drws ar glo. Beth ar y ddaear fawr a wnâi? Yr oedd yn rhy flin ar ôl y daith i symud llathen ymhellach. Curodd yn nrws un o'r cymdogion, a gofynnodd a wyddai hynt y teulu. Dwedodd yntau fod y teulu ar eu gwyliau ac nad oedd ganddo syniad pa bryd y dychwelent. Adwaenai pawb yn yr ardal Richard, gan fod y teulu wedi byw yn yr un tŷ am flynyddoedd ac yntau yn uchel ei barch gan bawb. Pan fedrodd Bob brofi i sicrwydd fod Richard mewn gwirionedd yn frawd iddo, trugarhaodd y cymydog wrtho a llwyddodd i ddatgloi y drws er mwyn i Bob gael lloches am y noson.
Ond yn hwyr iawn yr un nos Sul, yn hollol annisgwyliadwy, pwy ddaeth yn ôl, yntau hefyd ar gefn ei feic, ond Richard ei hun. 'Roedd ei wyliau ar ben a daeth yn ôl yn hwyr nos Sul er mwyn bod yn barod i'w waith fore Llun. 'Roedd Richard wedi hen arfer seiclo, fel nad oedd y daith wedi ei flino. Ond edrychai ymlaen at damaid o fwyd a'i wely. 'Roedd pob tŷ yn y stryd yn dywyll erbyn hyn—ond un. Syfrdanwyd ef wrth weld golau ym mharlwr ei dŷ. Gwyddai nad oedd neb i fod yn y tŷ. 'Roedd Edith ei wraig, a'r plant heb gychwyn yn ôl. Ni fyddent adref tan b'nawn Llun. Gwyddai ei fod ef ei hun wedi troi'r nwy i ffwrdd cyn cychwyn ar ei wyliau. Agorodd y drws ffrynt yn ddistaw. Yn y tywyllwch baglodd ar draws rhywbeth a ddisgynnodd gyda'r twrw mwyaf anferthol yn y lobi. Tybiodd i ddechrau ei fod wedi camgymryd y tŷ. Cripiodd i'r gegin i gael cannwyll, ac yng ngolau'r gannwyll gwelodd feic wedi syrthio ar draws y lobi a phâr o esgidiau dyn wrth waelod y grisiau. Aeth yn ddistaw bach at ddrws y parlwr a thaflodd y drws yn agored yn sydyn—ond nid oedd yno neb na dim i egluro'r golau. Aeth at waelod y grisiau a gwaeddodd, "Pwy sydd yna?" Gwaeddodd yr ail waith ond dim ateb. Penderfynodd fod lleidr wedi torri i'r tŷ ac wedi ymguddio wrth glywed sŵn y beic yn syrthio. Aeth yn ôl i'r gegin a chymrodd brocer haearn praff. Tynnodd ei esgidiau ac aeth i fyny'r grisiau â'r gannwyll yn un llaw a'r procer yn y llaw arall. Ar ei waethaf rhoddai'r hen risiau ambell wich, ond nid oedd sŵn symud yn y llofft. Edrychodd yn llofft y cefn; neb na dim yno. Agorodd gil drws y llofft ffrynt. Beth a welai ond clamp o ddyn mawr corffol wedi gorwedd ar y gwely yn ei ddillad ac yn cysgu'n sownd. Aeth Richard yn nhraed ei sanau at y gwely a chododd y procer yn barod i roi wald iawn iddo, ond cyn i'r procer ddisgyn ar y creadur canfu Richard mai Bob ei frawd oedd. Rhoes bwniad da iddo i'w ddeffro. Neidiodd Bob yn sydyn ar ei eistedd a golwg gwyllt arno ac yn cau ei ddau ddwrn yn barod am ymladdfa, gan dybio mai lleidr a'i pwniodd. Pan welodd mai Richard oedd y "lleidr" aeth y ddau i chwerthin nes yr oeddent yn eu dau ddwbwl. Yn y man aethant i lawr i'r gegin i chwilota am rywbeth i fwyta. A dyna lle y bu'r ddau yn sgwrsio hyd dri o'r gloch y bore. Nid oeddent wedi gweld ei gilydd ers blynyddoedd ac yr oedd cymaint ganddynt i siarad amdano. Nid am eu gwaith y siaradent, bid siwr, gan nad oedd yr un o'r ddau yn cymryd digon o ddiddordeb yn ei alwedigaeth, ymhellach nag fel modd i ennill bywoliaeth, ond yn hytrach am bynciau a llyfrau.
Aeth Richard at ei waith yn y bore gan adael Bob yn y tŷ. 'Roedd Bob druan mor flin ar ôl y daith fel y teimlai angen am bath poeth i leddfu tipyn ar ei aelodau. Nid oedd bathroom yn y tŷ, ond ar ôl chwilota cafodd hyd i dwb golchi yn y gegin gefn. Llusgodd y twb i'r gegin fawr o flaen y tân a'i lanw â dŵr poeth. Cyn ymddiosg gofalodd dynnu llen ffenestr y gegin i lawr a chloi'r ddau ddrws. Gwyddai y byddai Edith a'r plant yn dod gartref rhyw dro yng nghorff y diwrnod ond teimlai'n eithaf saff i gael bath cyn iddynt gyrraedd.
'Roedd Bob yn ddyn mawr tal a llydan o gorff. Mae'n siwr fod dyn mor fawr mewn twb golchi yn olygfa ddoniol iawn. Yr unig ffordd y gallai ffitio i mewn oedd ar ei gwrcwd, fel rhyw lyffant mawr, ac wedyn dowcio i fyny ac i lawr yn y twb. Cyn hir 'roedd y gegin yn foddfa o ddŵr ond nid oedd peth mor fach yn amharu dim ar Bob. Daliodd ati gan ei fwynhau ei hun yn fawr a llyfr yn ei law yn darllen. Toc, curodd rhywun ar y drws. Ni chymerodd Bob sylw ond daliodd i ddowcio, a darllen. Daliodd y curo hefyd ac yn y diwedd trodd y curo i fod yn ddyrnu. 'Roedd Bob yn hapus braf ac yn hitio dim am y dyrnu. Meddyliai mai rhywun o un o'r siopau oedd yno. Ond er ei fraw clywai rywun yn datgloi'r drws. Mae'n ymddangos i Edith a'r plant gyrraedd ac i gymydog y drws nesa ei sicrhau fod Bob yn y tŷ, ond nad oedd yn clywed y curo. Rhoddodd iddi agoriad i ffitio'r drws er mwyn iddi allu mynd i mewn. Pan glywodd Bob sŵn y datgloi rhoes un sbonc o'r twb golchi, ac yn wlyb fel yr oedd rhoes ei goesau yn ei drowsus. Cyn iddo gael rhoi dim rhagor amdano dyma Edith i mewn i'r gegin i weld y llawr yn llyn o ddŵr, y twb o flaen y tân, a Bob yn sefyll heb ddim ond ei drowsus amdano ac yn wlyb fel dafad. Yn ffodus 'roedd gan Edith y ddawn o weld yr ochr ddoniol a mawr fu'r hwyl.
Gyda'r trên yr aeth Bob yn ôl i Birmingham ac nid ar gefn ei feic! Gwerthodd y beic ac ni fu ganddo awydd byth wedyn i fynd ar feic i unman. Bu'r daith i Fanceinion yn ddigon am byth a dyma ddiwedd dyddiau seiclo Bob.
O edrych ar lawer i lanc heddiw yn mynd fel y gwynt ar feic teimlaf yn aml fod yr enw a adwaenwn gyntaf yn un da dros ben-car gwyllt!