Dirwyn Edafedd/Chwedlau Nain
| ← Ar Gefn Beic | Dirwyn Edafedd gan Elizabeth Williams |
Yr Hen Gist Dderw → |
CHWEDLAU NAIN
WYF eisoes wedi sôn yn Brethyn Cartref ac yn Siaced Fraith am storïau Nain a Modryb Pontygath, ac wedi adrodd fel y credent yn gadarn yn y storïau, er mai chwedlau diddorol a dim mwy oeddent i ni'r plant. Eto rhaid fod y storïau i gyd wedi taro rhyw dinc arbennig yn fy meddwl iddynt aros yn fy nghof hyd heddiw. Gan fy mod erbyn hyn bron wedi cyrraedd 91 mlwydd oed, mae'r storïau yn amlwg yn hen iawn a hwyrach y dylaswn gofnodi rhai ohonynt tra gallaf.
Dechreuaf gydag un o storïau Tylwyth Teg Nain Tynewydd.
Y FYDWRAIG
'Roedd bydwraig yn byw yn nhref Llanrwst, a byddai galwad mawr am ei gwasanaeth. Lawer tro anfonid amdani ganol nos neu yn oriau mân y bore-ambell dro i fwthyn ynghanol y wlad a cherddai yno ar waethaf tywydd garw neu dywyllwch nos.
Un noson olau leuad daeth cnoc ar ddrws ei thŷ tua'r hanner nos. Agorodd y drws, ac yno safai corrach mewn lifrai o wyrdd ac arian. Wrth ymyl y palmant gwelodd gerbyd hardd a chorrach arall yn dal pen dau geffyl gwyn hardd. "Mae galwad am dy wasanaeth rhag blaen, gan wraig pendefig pwysig yn y wlad". Ni chafodd y fydwraig erioed o'r blaen alwad at deulu mor bwysig a brysiodd i osod ei phac ynghyd, ac i'r cerbyd â hi. Cyn cau'r drws dwedodd y corrach wrthi, "Rhaid iti gadw'r llenni i lawr; dyna orchymyn y pendefig a chymer ofal rhag edrych allan trwy'r ffenestri". A chauodd y drws. Felly y bu. Ni wyddai'r fydwraig i ba gyfeiriad y gyrrwyd y cerbyd. 'Roedd ymhell o'r dre a syrthiodd i gysgu yn sŵn y clychau bach o amgylch gyddfau'r ceffylau. O'r diwedd daeth y siwrne i ben, agorodd y corrach ddrws y cerbyd a disgynnodd y fydwraig. Aeth y corrach â hi i fewn i'r tŷ. Synnodd weld ei hun mewn plas ardderchog ac addurniadau coeth o aur ac arian ymhob cyfeiriad. Aed â hi i'r ystafell wely. Yno ar wely aur a dillad o sidan gwych gorweddai'r wraig ifanc. Gwelodd y fydwraig ar unwaith mai un o'r Tylwyth Teg oedd ac mai plas un o'u pendefigion oedd. 'Roedd dillad y baban wedi eu gosod yn barod 'roeddent fel tameidiau o wawn, ac wrth ochr y gwely safai crud bychan arian. 'Roedd y gŵr mewn pryder mawr a mynnodd aros yn yr ystafell gyda'r fydwraig a'r morwynion. O'r diwedd ganwyd y baban; 'roedd fel doli brydferth. Estynnodd morwyn flwch o eli i'r fydwraig, a meddai'r pendefig: "Irwch y baban i gyd trosto â'r eli, ond gofalwch ar bob cyfrif rhag i'r eli gyffwrdd â'ch llygaid". Gwnaeth y fydwraig y gwaith yn ofalus, ond ar ôl gorffen, wrth sychu ei dwylaw yn lân o'r eli, daeth rhyw gosfa ofnadwy i'w llygad dde, ac heb feddwl rhwbiodd y llygad â'i bysedd. Er ei mawr syndod gwelodd ddau ddarlun hollol wahanol. Â'i llygaid chwith gwelai yr ystafell hardd, y sidan, yr aur a'r arian, ond â'r llygaid dde fe'i gwelai ei hun mewn deildy blêr ar fin coedwig, a'r wraig ifanc yn gorwedd ar swp o ddail a marchredyn. Ofnai ddweud gair wrth y pendefig, rhag iddo ddial arni am anwybyddu ei orchymyn. Talodd y pendefig iddi swm mawr o aur meddai'r llygad chwith; dail gwyrdd meddai'r llygad dde. Aeth i'r cerbyd a thynnwyd y llenni i lawr ac yma eto 'roedd mewn dau le gwahanol. Mewn cerbyd hardd meddai'r llygad chwith; mewn trol â dau ful bychan yn ei dynnu meddai'r llygad dde. 'Roedd yn wir falch i gyrraedd gartref yn ddiogel a phenderfynodd na ddwedai air wrth neb. I ddechrau, gwyddai mai "arian gleision" a gafodd yn dâl, ac y byddent yn troi yn ddail i gyd (fel yr oeddent yn barod yng ngolwg ei llygad dde), os y dwedai pwy a'u talodd. Felly, cadwodd y gyfrinach. Erbyn trannoeth 'roedd effaith yr eli yn amlwg wedi diflannu gan na welai mwyach ond yr un darlun â'i dau lygad.
Ymhen misoedd, ar ddiwrnod Ffair Fehefin Llanrwst, aeth o gwmpas y "stondins" nwyddau (market stalls) ar y Sgwâr. Beth a welai er ei braw a'i syndod ond rhyw ddwsin o'r tylwyth teg, pob un a'i fasged ar ei fraich yn brysur wrthi'n mynd â nwyddau o bob stondin. Yn eu cyfarwyddo gwelai y pendefig, tad y baban a anwyd rai misoedd yn ôl. Heb aros i feddwl aeth ato, "O syr, mae'n dda gennyf eich gweld i gael hanes y baban bach hyfryd a'ch gwraig dlos". 'Roedd y pendefig yn amlwg wedi ei syfrdanu: "Wyt ti'n fy ngweld?" gofynnai mewn syndod. "O ydw", meddai, "ond, yn rhyfedd, dim ond ag un llygad". "A pha lygad y gweli fi?" gofynnodd. "A'r llygad dde", meddai hithau.
Ar amrantiad rhoddodd ei fys yn y llygad a chollodd y fydwraig olwg y llygad dde am byth. "Mae'n reit wir iti", oedd diwedd stori Nain, "mi wn am wraig oedd yn ei 'nabod yn dda".
'Roedd ganddi lawer stori arall am "arian gleision" y tylwyth teg ac yn aml, ar ôl sôn am "arian gleision" âi i ddweud stori "arian pen rhaw". Dyma'r stori fel y cofiaf hi.
ARIAN PEN RHAW
Un waith 'roedd trysor o aur ac arian wedi ei guddio a'i golli am flynyddoedd lawer yn agos i Dŷ Mawn, Llanrwst. Dyna'r bwthyn lle y bu Nain Tynygraig yn byw ynddo am rai blynyddoedd. Gwelir y bwthyn bach gwyn heddiw, ar ochr y llethrau gyferbyn â Llanrwst.
Clywid, meddai Nain Tynewydd, oernadu rhyfedd o'r coed gerllaw a'r geiriau "Hir yw'r nos i aros Ŵan". Aeth blynyddoedd maith heibio ond parhaodd ysbryd y coed i oernadu ac i lefain am Ŵan. Gwnaed llawer ymdrech i gael yr ysbryd i ddatguddio'r gyfrinach, ond Ŵan yn unig oedd i'w derbyn. O'r diwedd (ni wn pa sut na paham na pha fodd, nac yn wir o ble y daeth), daeth Ŵan—rhyw aelod o'r hen deulu. Gorchymynnodd yr ysbryd iddo godi carreg anferth a orweddai yn y coed gerllaw. Codwyd y garreg ac yno y cafwyd rhaw fawr. Cloddiodd Ŵan â'r rhaw a chafodd hyd i bentwr mawr o arian, a gelwid yr arian yn "arian pen rhaw". Dwedodd fy mrawd Richard wrthyf, rhyw 50 mlynedd yn ôl, ei fod wedi clywed stori gyffelyb ym Mhenmachno.
'Roedd gan Nain storïau gwahanol iawn i storïau Tylwyth Teg a storïau ysbrydion. Mae'n amlwg iddynt berthyn i lên gwerin llawer gwlad—storïau cyffelyb i stori Ffawst—dyn neu wraig yn gwerthu ei enaid i Satan. Ond, am wragedd o'r fath y byddai storïau Nain bob amser. Dyma ddwy ohonynt:
Y DIAFOL DU
Yn Llanrhychwyn bywiai dwy hen ferch ac yr oedd ganddynt gath ddu. Ni wyddai neb oed y gath. Dwedid iddi berthyn i rieni'r ddwy hen ferch ond, er i'r ddwy fod yn hen ac yn grintachlyd 'roedd y gath yn hollol ddi-newid ar hyd y blynyddoedd. O'r herwydd byddai llawer o sibrwd a siarad yn y gymdogaeth am y ddwy hen ferch. Ni fywient fel eu cymdogion—cadwent o'r neilltu, a dwedid y byddent mewn aml gymundeb â'r ysbrydion. Ni ddeallai neb beth oedd ffynhonnell eu cyfoeth. Rhaid meddid, eu bod yn meddu ar gyfoeth am nad oeddent yn gweithio am fywoliaeth. 'Roedd yn amlwg, meddid, nad cath ddu oedd y gath. Byddai'n dilyn y ddwy hen ferch i ba le bynnag yr aent. Ni chroesent fyth drothwy eglwys. Clywodd rhyw hen ŵr duwiol am y ddwy ac un diwrnod aeth cyn belled â'u bwthyn a thaer erfyniodd y fraint o ddarllen iddynt bennod o'r Beibl a gweddïo tipyn. Ar y dechrau nid oedd y ddwy yn fodlon, ond o'r diwedd cytunasant. Yng nghwrs y darllen 'roedd y gath ddu'n amlwg yn anesmwyth iawn—goleuadau rhyfedd yn fflachio yn ei llygad a'i chynffon yn chwyddo fwyfwy. Pan ddisgynodd yr hen ŵr ar ei liniau a dechrau gweddïo, cododd y gath ddu ei chefn yn y modd mwyaf bygythiol, goleuwyd yr ystafell a goleu annaearol ac ar amrantiad diflannodd y gath drwy'r simdde mewn pelen o dân. Trwy weddi'r hen ŵr achubwyd y ddwy hen ferch o gadwynau'r diafol du—Satan. 'Roedd eu rhieni wedi eu gwerthu iddo pan oeddent yn fach, er mwyn cael cyfoeth iddynt.
Nid wy'n cofio'r stori arall ar ei hyd. Stori oedd am wraig wedi ei gwerthu ei hun i'r diafol er mwyn ennill llwyddiant ar ei fferm. Gwnaeth arian da o'r fferm, 'roedd yr anifeiliaid yn dew a phopeth yn llewyrchus. O'r diwedd daeth y diafol i fynnu ei henaid yn dâl am y fargen, a rhoddai Nain y disgrifiad mwyaf iasol o'r ymladd rhwng yr hen wraig a'r diafol. 'Roedd yr hen wraig yn glaf yn y gwely ond cododd i syllu drwy'r ffenestr ar y caeau a'r gwartheg. "O fy ngwartheg annwyl", gwaeddai, a'r diafol yn ceisio ei llusgo ymaith, "ni welaf chi byth eto. O fy nefaid annwyl, ni welaf chi byth eto. O fy lloiau annwyl, ni welaf chi byth eto". A phob tro yr âi i'r ffenestr i weiddi'r ffarwel torcalonnus, llusgai'r diafol hi yn ôl i'r gwely; yr hen wraig yn benderfynol nad oedd am farw, a'r diafol am gipio ei henaid. Yn y diwedd, wrth gwrs, llwyddodd y diafol, a rhoddai Nain ddarlun lliwgar ohono'n llusgo'r hen wraig yn ei grafangau i'r "llyn yn llosgi o dân a brwmstan".
Credai Nain pob gair o'r stori. 'Roedd y diafol yn bersonoliaeth bygythiol iddi a'r unig darian yn ei erbyn meddai oedd enw Crist.
Cofiaf Richard fy mrawd yn adrodd hanes marw Taid Tynewydd. Deuai llu o ymwelwyr i'r bwthyn bach bob nos cyn yr angladd i gydymdeimlo â Nain ac i gadw gwylnos. Gosodid yr hen setl wrth y tân ac yna adroddid hanesion ysbrydion, hanesion tylwyth teg a hanes rhai wedi eu gwerthu eu hunain i'r diafol, a phawb yn credu'n gydwybodol yn y storïau i gyd.
Chwedlau Nain? Ie, ond gresyn fyddai colli'r gronyn o wir sydd ynddynt a gresyn hefyd fyddai colli'r hen chwedlau o'n côf. Dyma fy unig esgus am eu cofnodi.