Dirwyn Edafedd/Dau Hen Gloc
| ← Yr Hen Gist Dderw | Dirwyn Edafedd gan Elizabeth Williams |
→ |
DAU HEN GLOC
NEITHIWR, peth anaml iawn yn fy hanes, methais yn lan a chysgu. 'Roedd sgyrsiau difyr y dydd o'r blaen ag amryw hen gyfeillion y Garn yn rhedeg drwy fy meddwl a theimlwn yn hollol effro. Nid oedd sŵn yn unman, pawb a phopeth yn y pentre a'r tŷ yn cysgu; dim ond sŵn tician cloc bach yn yr ystafell nesaf. Yn y man tawodd y tician hefyd; mae'n debyg na chafodd y cloc bach ei weindio, a chofiais am y ddau hen gloc wyth-niwrnod a berthyn inni. Treuliais oriau'r nos gyda'r ddau a dyma fi heddiw'n gosod ar bapur feddyliau oriau'r nos.
Dau hen gloc—o ddau deulu. Y naill o Sir Fôn o deulu rhieni fy ngŵr; y llall o Lanrwst, eiddo Nhad a Mam. Y ddau gloc wedi cychwyn eu gyrfa gyda bywyd priodasol y ddau deulu, a'r ddau ymhell dros gant oed. Yn wir, rhaid fod cloc mam a thad fy ngŵr yn 130 oed.
Yr adeg honno cloc wyth niwrnod fyddai'r dodrefnyn cyntaf bron i bâr ifanc ei ddewis. 'Roedd yn rhaid ei gael. Anodd heddiw yw dod o hyd i grefftwyr â'r medr i drin yr hen glociau mawr, ond y pryd hynny 'roedd gwneud clociau mawr yn ddiwydiant pwysig. Fel y dwedais yn Siaced Fraith, Theophilus Davies a wnaeth gloc Mam a Nhad. Cofiaf ei weithdy bychan yn Stryd y Bont Llanrwst.
Owen Roberts, Llangefni oedd gwneuthurwr cloc tad a mam fy ngŵr. Dau gloc—a hanes pob un yn cynnwys hanes dau deulu gwahanol iawn. Bu hen gloc Nhad a Mam yn rhan o'm bywyd am yn agos i 91 mlynedd bellach. Bu gyda mi ymhobman. Bu ei dicio a'i daro yn felys yn fy nghlustiau ar hyd fy oes hir; bydd gyda mi hyd y diwedd.
Bywyd teulu hapus iawn a welodd yr hen gloc; teulu chwarelwr heb fawr o bethau'r byd hwn, ond teulu o rieni a phlant yn llawn cariad at ei gilydd, a'u bryd ar bethau'r meddwl, heb falio llawer am arian. Cafodd y cloc barch a gofal ar hyd y blynyddoedd. Rhoddodd Nhad a Mam iddo y man mwyaf pwysig yn y tŷ. Ceid dyn i'w lanhau oddi mewn o dro i dro, a gofalai Mam am y tu allan, a phob nos Sadwrn, heb fethu, gofalai Nhad am ei weindio. Cofiaf, pan nad oeddwn ond geneth fach iawn, glywed y pwysau'n tuchan ac yn grwgnach wrth i Nhad eu weindio. Dychmygwn mai protestio y byddent am i Nhad osod wythnos ymhellach o waith arnynt yn lle gadael iddynt gysgu'n dawel ar waelod y cloc.
Gwahanol iawn fu hanes hen gloc Sir Fôn a gwahanol iawn y teulu. Pobl y tir a'u bryd ar gyfoeth a meddiannau. Sefyllfa dyn yn y byd, dyna'r llinyn mesur, nid gwerth personol. 'Roedd mwy o ddrwg-dynnu nag o gariad ymysg y plant a'r rhieni. Ofn ac nid cariad oedd teyrn yr aelwyd. Dechreuodd y cloc hwn ei yrfa yng Nghefn-du-Isaf, yn y gegin fawr lle y byddai pawb yn bwyta, y rhieni a'r plant, y gweision a'r morwynion. Clywodd yr hen gloc, am flynyddoedd, sŵn y gragen alw, yn rhybuddio'r gweision yn y meysydd fod y bwyd yn barod. Dyma'r cloc a ddysgodd fy ngŵr pan oedd yn wyth oed, i ddweud yr amser. Cofiai ef fel y dechreuodd adnabod yr oriau oddi wrth sŵn y gragen alw a tharo'r cloc. Ac am ryw reswm, cofiai fel y byddai un forwyn arbennig yn ei hudo i roi iddi y rhan orau o'i frechdan bara gwyn. Dim ond ar y Sul y ceid bara gwyn—ystyrid bara gwyn yn drêt mawr, bron fel teisen. Byddai'r brechdanau o fara gwyn a menyn i bawb, ond cafodd un forwyn hyd i ffordd i gael mwy na'i rhan. "William bach", dywedai wrth y bachgen, "ga'i wneud brechdan ffenast iti?" a thynnai'r mwydion allan gan adael dim ond y crystyn fel ffrâm "ffenast". Bu "William bach" gryn amser cyn deall y tric!
Yn 1859 symudodd y teulu i Dinam yn y Gaerwen, i le wedi ei adeiladu iddynt, i gynnwys tŷ a siop a fferm fechan yn ogystal. Yn ddiweddarach trowyd y siop yn dafarn. A dyma ddechrau loes yr hen gloc. Nid oedd mwyach yn simbol pwysig o ddechrau bywyd priodasol, nid oedd ond dodrefnyn anodd ei ffitio i'r tŷ newydd. Nid oedd lle yn y gegin. Ystafell anhwylus oedd; nid oedd gan y sawl a'i cynlluniodd ddychymyg. Cymerai y grisiau i'r llofft un ochr yn gyfangwbl. Ar un ochr 'roedd drws i'r ardd a ffenestr a setl fawr ar ei hyd. Ar yr ochr gyferbyn a'r grisiau 'roedd grât fawr a dau gwpwrdd uchel o bobtu. Ar yr ochr arall safai'r dresal fawr hir a drws yn arwain i ystafelloedd y ffrynt.
Am y parlwr cefn, 'roedd hwn dan ei sang o ddodrefn yn barod. Nid oedd lle ym mharlwr mawr y ffrynt gan mai yno y byddai'r siop (ac yn ddiweddarach, ystafell y dafarn). Yn y seler, 'roedd cegin i'r llanciau a dim modfedd o le yno chwaith. Felly safai'r hen gloc druan ar ffordd pawb yn y gegin, heb wybod i ba le i droi ei wyneb.
Yr oedd tro sydyn ar ganol y grisiau tua'r chwith a math o blatfform bychan rhyw lathen sgwâr. Dyma'r unig fan a gafwyd i osod yr hen gloc—yn y tywyllwch a'r unigedd. Buan iawn yr anghofiodd pawb am ei fodolaeth, a dyna lle y bu am dros drigain mlynedd heb symud, ac er y byddai llawer o dramwyo'r grisiau mewn diwrnod, ni fyddai neb yn sylwi ar yr hen gloc. 'Roedd fel rhan o'r pared. Ni chofiaf ei weld yn mynd erioed.
Ond er na chlywais ef yn mynd yn ystod y chwe blynedd y bûm yn byw yn y Gaerwen, daw meddwl amdano yn sefyll yno yn llonydd ac yn llychlyd ag un adeg arbennig i'm cof.
Fel y dwedais yn Brethyn Cartref, nid oeddwn yn hapus iawn yn byw wrth ymyl fy nheulu-yng-nghyfraith. Cefais ganddynt lawer achos poen meddwl ac ysbryd, a gofid i'm calon. Ond penderfynais guddio fy nolur ac ni ffraeais erioed. Nid oeddwn wedi arfer ffraeo ac nid oeddwn am ddechrau, ac ni fynnwn fod yn destun ffraeo rhyngddynt a'm gŵr. ('Roedd ef mor wahanol iddynt i gyd).
Ond, daeth tro iddynt ddod ar fy ngofyn a brysiais i ateb. Tarawyd y fam yn wael iawn â'r typhoid fever. Cymerodd yn erbyn ei merched. Mynnai yn ei drysni eu bod i gyd am ei gwenwyno ac ni chymerai ddafn na thamaid ganddynt. Yn wir ni fynnai iddynt groesi trothwy'r ystafell. Gwaeth na'r cwbl, trodd yn erbyn y meddyg ifanc, am ei fod yn gyfaill mawr i un o'r merched. Er syndod pawb (a'm syndod innau hefyd) galwodd amdanaf a phan welodd fi dwedodd, "Dowch yma ngeneth i a chadwch y diefliaid yna allan rhag iddynt gael y siawns i roi gwenwyn imi". Bu mewn drysni am ddiwrnodau a bûm gyda hi nos a dydd. Cofiaf am un noson yn arbennig. 'Roedd y drysni'n gwaethygu ac yr oedd yn peri ofn imi. Weithiau yn ystod y nos mynnai imi orwedd rhyngddi a'r drws. "Wnewch chi hel y ddau ddyn yna allan 'y ngenath i". "Beth mae'r ddynes fach ddu na eisiau?" "Pwy ddynes?" meddwn. "Ond dyna hi yn sefyll wrth droed y gwely yn llygadrythu. Ewch â hi allan ar unwaith".
O'r diwedd 'roeddwn bron â methu dal. Nid oedd ond cylch cyfyng o olau o gwmpas y lamp fechan, a'r cysgodion yn ymdroelli trwy'r ystafell. 'Roeddwn yn barod i gredu fod yr hen wraig yn gweld rhywbeth. Cipiais ganhwyllbren, goleuais y gannwyll ac i ffwrdd â mi i lawr y grisiau i geisio cwmpeini rhywun synhwyrol am foment. Ar y ffordd i lawr syrthiodd golau gwan y gannwyll ar wyneb yr hen gloc. Tybiais weld gwên sarhaus ar yr wyneb, bron fel pe bai yn dweud: "Wel ni fedraf dy helpu o gwbl; pe bawn yn medru tician a tharo buaswn o leiaf yn torri'r distawrwydd iti".
Gwelodd yr hen gloc farw teulu Dinam o un i un—y tad a'r fam a saith o'r plant, fel yn y diwedd nid oedd yn aros ond fy ngŵr. Penderfynodd werthu'r rhan fwyaf o ddodrefn a chelfi'r fferm yn barod i denant ddod i mewn. Ond, am ei fod yn cofio dysgu dweud yr amser wrth yr hen gloc pan yn blentyn, ni fynnai ei werthu. Felly, am y tro cyntaf am o leiaf 60 mlynedd symudwyd y cloc. Bu trafferth fawr i'w ryddhau o'r pared. Mae'n rhaid felly fod y cloc wedi ei osod yn y fan cyn i blaster y pared galedu. Cofier mai tŷ newydd oedd. O gwmpas y cloc yr oedd plygion ar blygion o bapur a phan lwyddwyd i'w rhyddhau o'r diwedd 'roedd golwg truenus arno. Ar ben y cloc beth a ddaeth i'r golwg ond yr hen gragen alw.
Cludwyd y cloc a'r gragen i Lanrwst a gofynnwyd i'r dyn trwsio clociau ddod i'w weld. Aeth â holl gyfansoddiad yr hen gloc i'r gweithdy i weld a fuasai'n bosibl gwneud rhywbeth ohono. Bu bron iddo dorri ei galon pan welodd fod pob olwyn, pob scriw, yn rhŵd i gyd. Ond 'roedd yn grefftwr cywrain iawn a phenderfynodd foddi'r cyfan am gyfnod mewn bath o baraffin, a gobeithio'r gorau. Cefais innau gyfle i grafu baw'r oesoedd oddi ar y câs a'i sgwrio i weld pa sut ddiwyg a lliw a oedd arno. Nid oeddwn erioed wedi gweld pa liw oedd, nac yn wir o ba goed yr oedd.
Ymhen mis cododd y crefftwr y peirianwaith o'r paraffin a chafodd fod y rhŵd wedi diflannu. Aeth ati i dynnu'r scriwiau a'r olwynion oddi wrth ei gilydd er mwyn eu glanhau yn drwyadl. Gwyddai i drwch blewyn le pob scriw bychan a phob olwyn distadl. Ac un diwrnod daeth â chyfansoddiad yr hen gloc yn ôl, yn lân a phob peth yn barod i geisio ei ail gychwyn. meddai, "Cofiwch", "tydw'i ddim yn sicrhau i chi y gwneiff o fynd—'rwyf wedi gwneud y gorau ohono, ac ni allaf wneud mwy na'm gorau". Yna aeth ati i'w osod yn ei le yn y câs. Rhoddodd y bysedd yn gyntaf, y pendil wedyn; yn ddiwethaf, weindiodd y pwysau i fyny. "Diawch i, mae'n mynd", gwaeddodd, ac yn wir 'roedd y bys bach yn fuan iawn mor brysur ac y bu erioed yn tician yr eiliadau a'r bys mawr y munudau a'r bys canol yr oriau mor siriol ag erioed.
Dau hen gloc, wedi dod ynghyd am y tro cyntaf. Dychmygwn glywed sgwrs rhwng y ddau. Meddai hen gloc Llanrwst: "'Rwyt wedi cael mantais fawr arnaf. Cefaist gysgu'n dawel ar hyd y blynyddoedd heb wneud yr un swydd a neb yn disgwyl dim oddi wrthyt, ond amdanaf fi, ni chefais funud o seibiant na nos na dydd ond mynd, mynd bob munud. Dim hyd yn oed awr o lonydd". A meddai hen gloc Sir Fôn: ""Rwyt yn anghofio mai nid o'm gwirfodd y bûm yn segur cyhyd. Diffyg gofal, difaterwch, diffyg cariad ac yn y diwedd fy llwyr anghofio gan deulu cyfan a'm gorfododd i gysgu yn y llwch a'r tywyllwch ar hyd y blynyddoedd. 'Rwyt ti wedi byw bywyd dy deulu bob cam a mesur holl oriau ei waith a'i hamdden. Gwnaf fy ngorau o hyn allan i roi gwasanaeth i dy deulu di, ond ni chaf byth y cyfle a gefais ti". "Gwir y dywedaist", atebai hen gloc Llanrwst. "Cefais weld to ar ôl to o'm cwmpas, a llais plant yn chwarae'n hapus ar hyd y blynyddoedd. Ni ddymunaf fwy na chario'r gwaith ymlaen".
Mae cloc Sir Fôn ar fenthyg i'm brawd yn y Garn. Ond, ni fynnwn ymwahanu oddi wrth gloc Nhad a Mam. Cafodd weld a chlywed llawenydd a thristwch saith ohonom ni, blant Nhad a Mam; fy mhlant fy hun; fy wyres a'm gorwyr a'm gorwyres; dros ganrif o hanes teulu hapus. Â'r hen gloc yn ei flaen i wasanaethu am flynyddoedd eto. Hwyrach y caiff hen gloc Sir Fôn gyfle i lanw bwlch y 60 mlynedd coll. Collodd ei lais ers tro ond mae'n tician ei orau. Mae fel llawer ohonom, yn barod i wasanaethu tra bydd y peirianwaith mewn cyflwr, a rhywun yn weindio'n ddyfal. Daw amser pan fydd i minnau deimlo'r pwysau'n araf ostwng yn îs ac yn îs a dim llaw mwyach a all weindio'r pwysau i fyny. Ond bydd cloc Nhad a Mam yn tician ymlaen.
J. D. LEWIS A'I FEIBION CYF.
ARGRAFFWYR
GWASG GOMER
LLANDYSUL