Dirwyn Edafedd/Helynt Eisteddfod
| ← Tri Llyn | Dirwyn Edafedd gan Elizabeth Williams |
Helynt y Ddrama → |
HELYNT EISTEDDFOD
PAN briodais, dros 71 mlynedd yn ôl, euthum i fyw i'r Gaerwen lle yr oedd fy ngŵr, W. H. yn orsaf feistr yn ei hen gartref. Pentref bychan oedd y Gaerwen ac ynddo ddau gapel ac Eglwys y Plwyf. Capel y Methodistiaid Calfinaidd oedd y capel mwyaf o lawer; yn wir 'roedd yn anarferol o fawr i bentre mor fychan. Yn naturiol, o gwmpas y capel y trodd bywyd y pentre gan mwyaf ac aelodau'r capel fyddai'r arweinwyr ymhob achos. Felly, cyn i mi sôn am helynt un eisteddfod, rhaid darlunio tipyn o'r cefndir.
Yn yr adeg y soniaf amdani perthynai i'r capel Calfinaidd luaws o fechgyn ifanc da a gweithgar iawn, o dan weinidogaeth y Parch. Robert Hughes. A dweud y gwir, 'roedd rhai o'r bechgyn yn dipyn o wrthryfelwyr yn erbyn culni'r gweinidog a'i duedd i geisio cario allan reolau'r Cyfarfod Misol i'r lythyren. Llawer fu'r brwydro rhwng y bechgyn a'r hen weinidog, ond ildiai'r hen frawd os y teimlai fod cydymdeimlad yr eglwys o blaid y bechgyn. John Hughes, brawd y gweinidog oedd y Pen Blaenor—dyn gwahanol iawn i'w frawd. 'Roedd yn dal, a wyneb glân ganddo, ac yr oedd yn hollol ddidderbyn-wyneb. Ni ofnai ddweud ei farn yn blaen wrth na phregethwr na neb arall. Eto 'roedd yn barchus gan bawb oherwydd ei onestrwydd. Nid wy'n siwr nad oedd ar adegau yn gymaint o wrthryfelwr â'r bechgyn!
'Roedd enw y Parch. James Donne o Langefni'n gyfarwydd iawn. Cyfrifid ef ymhlith pendefigion Methodistiaid Calfinaidd Môn. 'Roedd golwg urddasol arno yn y pwlpud. 'Roedd yn ddyn tal a siaradai'n hamddenol a phob gair yn ei le. Un bore Sul pregethai yng nghapel y Gaerwen, ar bwnc tu hwnt i ddealltwriaeth John Hughes a llawer eraill. Aeth yr hen flaenor ato ar ddiwedd yr oedfa a gofynnodd iddo: "Dywed imi, am beth y buost yn caboli yn y pwlpud y bore yma?" Syllodd James Donne arno mewn syndod. "Caboli a ddywedsoch chi John Hughes?" "Ia, caboli a wnest a dim arall. Cofia os y byddi yn dod yma eto i bregethu rhaid iti bregethu fel y medr pawb dy ddeall ac nid pentyrru geiriau ar ei gilydd nad oes neb yn deall eu hystyr". Prin rhaid dweud i James Donne ddigio drwyddo draw wrth yr hen flaenor am feiddio ei ddwyn i gyfrif.
Clywais sôn am dro arall pan fu i'r hen flaenor bechu bron yn anfaddeuol am ei siarad plaen.
Pan 'roedd John Williams Brynsiencyn yn fachgen ifanc yn dechrau pregethu câi aml gyhoeddiad i'r Gaerwen. Tomos Owen oedd y dechreuwr canu yn y capel ac yr oedd gan John Hughes feddwl uchel iawn ohono fel dyn ac fel Cristion. Dyn nerfus iawn oedd Tomos Owen a phan fyddai ei nerfau'n ddrwg iawn gweithiai ei wyneb ymhob siap yn ddiarwybod iddo ei hun. 'Roedd ganddo gôr da yn y capel ac aeth un tro â'r côr i gystadlu i Frynsiencyn i gyfarfod cystadleuol. 'Roedd yn nerfus dros ben ar y llwyfan a'i wyneb druan yn troi ymhob siap ac ystum.
Ni wyddai John Williams ddim am Tomos Owen. Ni wyddai ddim am natur yr ystumiau.
'Roeddent yn ymddangos yn ysmala iawn iddo, a chwarddodd am ei ben. Pe buasai'n gwybod yr amgylchiadau ni fuasai ar gyfrif yn y byd yn gwawdio. Beth bynnag am hynny, daeth y peth i glustiau John Hughes, a'r tro wedyn y daeth John Williams i'r Gaerwen aeth John Hughes ato ar ddiwedd y gwasanaeth ac meddai wrtho: "Clywais dy fod wedi chwerthin am ben Tomos Owen yn y Bryn acw. Cofia di 'machgen i dy fod wedi gwneud gwawd o ddyn gwell o lawer na thi dy hun". Digiodd John Williams yn fawr wrtho am ei feirniadu mor llym a bu am amser na dderbyniai gyhoeddiad i'r Gaerwen.
'Roedd yr hen flaenor yn adnabod bechgyn yr eglwys o'u babandod a meddyliai'n uchel ohonynt. Os byddai rhyw drosedd wedi ei gyflawni yn y pentref a rhai o'r bechgyn yn cael eu beio gan y pentrefwyr, gofynnai John Hughes i'r bachgen dan sylw: "Dwed imi'r gwir—oedd gen ti law yn y peth?" Os atebai'r bachgen: "Nac oedd John Hughes", atebai'r hen frawd yn syml, "O'r gorau, 'rwy'n cymryd dy air". A dyna fyddai'r diwedd. Ni wnâi byth amau gair y bechgyn, ac o ganlyniad ni fynnent er dim ddweud anwiredd wrtho.
Hwyrach yr anghofiai'r hen frawd ambell dro mai llanciau wedi tyfu oeddent ac nid plant bach. 'Roedd amryw o'r bechgyn yn nosbarth Ysgol Sul John Hughes, ac yn eu mysg "Efan Jones Half Moon", bachgen da a gweithgar iawn, bychan o ran taldra a golwg diniwed iawn arno. Fel y dwedid "Ni fuasech yn meddwl y gwnâi ymenyn doddi'n ei geg". Ond 'roedd yn llawn direidi. Gofynnodd yr hen athro iddo un Sul, "Oes gen ti adnod heddiw Efan?" "Oes", meddai Efan, "Na roddwch fwyd rhy gryf i deiliwr rhag iddo gryfhau a thorri'r edau". Cafodd wers hallt gan John Hughes am ei wamalrwydd. Gyda llaw, aeth y bachgen i'r weinidogaeth ymhen amser.
Bachgen da a gweithgar iawn oedd Tomos Efans, a fu'n cadw busnes ym Mhentre Berw, rhyw filltir o'r Gaerwen. Cofiaf hefyd ddau arall, Caerwennydd a'i frawd. Aeth y ddau i Lanfair P.G.—y naill i gadw busnes a'r llall fel ysgolfeistr, ond gan nad oedd ond prin dair milltir rhwng y Gaerwen a Llanfair cymerai y ddau ddiddordeb mawr ymhob mudiad yn yr hen ardal.
Arferai rhai o'r bechgyn direidus yma gyfansoddi rhigymau doniol a pharodïau ar emynau. Bu agos iawn i un parodi droi'n brofedigaeth i W.H. fy ngŵr. Dyma'r rhigwm:
Mae arnaf eisiau sêl
A 'goriad wrth fy watsh,
A chnegwerth fawr o furum sych
I godi bara clatsh.
'R oedd wedi drwg arfer adrodd yr hen rigwm byth a beunydd. Arferid canu emyn ar ganol yr Ysgol Sul, cyn derbyn y casgliadau a gwrando'r llafur. Dyletswydd yr Arolygwr fyddai ledio'r emyn. Un pnawn Sul, pan oedd W.H. yn Arolygwr, wedi canu'r gloch, heb drafferthu chwilio rhif yr emyn, dechreuodd ei hadrodd o'i gof.
"Mae arnaf eisiau sêl
A gor. . . . "
Sylweddolodd ar amrantiad beth oedd ar fin ei ddweud. Aeth yn chwys diferol, ac yn ei ddychryn ni allai yn ei fyw gofio'r ail linell, "A chariad at dy waith". Ni sylwodd neb ar yr anffawd ond bu'n wers iddo am ei oes i beidio â dibynnu gormod ar ei gof.
Nid wyf wedi enwi ond dau neu dri o'r bechgyn. 'Roedd yno amryw eraill—i gyd yn frwdfrydig yn eu gweithgarwch. Dewisais yr ychydig yn unig er dangos y cefndir. Hwyrach y dywed rhai mai cefndir ac awyrgylch pur gul a gawsent. Beth bynnag am hynny bu yn fodd iddynt ddysgu sefyll yn wrol dros y gwir ac i fod yn annibynnol, ac i gymryd rhan flaenllaw nid yn unig yng ngwaith y Capel ond ymhob mudiad da yn yr ardal.
Ymysg y mudiadau a'r sefydliadau lleol nid oedd dim yn fwy poblogaidd nac Eisteddfod undydd y Gaerwen ar ddydd Llun y Pasg. Bu hon yn llwyddiant mawr am flynyddoedd. Credai'r pwyllgor mewn cynnig gwobrwyon sylweddol fel nad oedd prinder o ymgeiswyr a byddai swm da o arian wrth gefn. Cofiaf weld Caerwennydd yn ennill y gadair. 'Roedd plât arian wedi ei osod ar gefn y gadair a'r manylion wedi eu hargraffu arno. Cofiaf Gaerwennydd yn eistedd yn y gadair, ac yn ei ddull ffraeth yn dweud "Wel, beth bynnag a ddigwydd imi gallaf ddweud o hyn allan fod gen i arian wrth gefn".
Oherwydd llwyddiant eithriadol Eisteddfod y Pasg, yn eu brwdfrydedd penderfynodd aelodau'r Pwyllgor ail gychwyn yn y Gaerwen Eisteddfod Gadeiriol Môn. Am ryw reswm nid oedd wedi ei chynnal yn yr Ynys am rai blynyddoedd.
Ehangwyd y pwyllgor i gynnwys cynrychiolaeth o'r ardaloedd o gwmpas a phenodwyd Tomos Evans, Pentre Berw a W.H. yn gyd-ysgrifenyddion, a William Roberts, Cefn Du yn Llywydd. 'Roedd William Roberts yn boblogaidd trwy'r Ynys, ac yn ŵr craff, eang ei syniadau ac yn gerddor da. Er mai dyn canol oed oedd, meddai ar ysbryd mor ifanc ag unrhyw fachgen. Teimlai'r pwyllgor yn gefnog wedi cael dyn o safle William Roberts yn llywydd arnynt.
Y gorchwyl cyntaf oedd tynnu allan restr o danysgrifwyr a chafwyd elw da heb unrhyw drafferth, ond er i'r pwyllgor deimlo'n berffaith ddiogel fod ganddynt swm sylweddol wrth gefn barnwyd y byddai'n ddoeth cael gwarantwyr rhag anffawd annisgwyliadwy. Un o'r rhai cyntaf i W.H. fynd ar ei ofyn oedd Mr. Davies, Treborth, yr Aelod Seneddol dros Fôn. Eri Mr. Davies roi ei enw'n ewyllysgar 'roedd yn amheus iawn a lwyddai'r pwyllgor i gario Eisteddfod bwysig fel hon mewn ardal fechan fel y Gaerwen. Ond wrth gwrs ni wrandawai'r pwyllgor ar amheuon o'r fath ac aed ymlaen yn selog. Penderfynwyd codi pabell i tua thair mil o bobl; y pwyllgor yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb am y defnyddiau a Michael Pritchard, saer lleol, i fod yn gyfrifol am osod y babell. Dyma'r camgymeriad mawr cyntaf a wnaed. 'Roedd Michael Pritchard yn grefftwr da dros ben ac yn ddyn gonest, ond nid oedd ganddo brofiad o gwbwl o adeiladu pabell fawr fel hon.
Pan godwyd ochrau'r babell i'w lle sylwodd W.H. nad oedd propiau o gwbwl i gynnal yr ochrau i fyny. Gofynnodd i Michael Pritchard: "Ydach chi'n meddwl fod y babell yn ddiogel heb bropiau i'w chynnal pe bai storom sydyn yn codi?" Tarawodd Michael Pritchard ei law ar ochr y babell, yn falch o'i waith a meddai, " 'Machgen i, mae mor saff â chloch y Bala". Er hynny ni theimlai W.H. yn hapus iawn yn ei chylch. Wedi gorffen y babell bu amryw ohonom ni'r merched yn brysur yn ei haddurno. Cawsom lwythi o frigau coed a dail. 'Roedd dwy res o golofnau coed yn cynnal y to, a rhoed cadwyni o'r dail a'r brigau o gwmpas pob un o'r colofnau. 'Run modd ochrau'r babell a'r llwyfan. Daeth amryw o'r cantorion a oedd i wasanaethu'r Eisteddfod yno, o Langefni, lle y lletyent, i brofi'r acoustics. Cofiaf weld Eos Morlais a James Savage yn y cwmni, ac yr oeddynt oll yn tystio na welsant erioed harddach pabell.
Aethom adref i gyd wedi blino ond yn teimlo'n llawn boddhad. 'Roedd y tywydd yn eithaf tawel; nid oedd yr adeg honno y fath beth â weather forecast i roi gale warning i ni! 'Roedd W.H. a minnau wedi blino cymaint fel na chlywsom y gwynt yn codi a'r gwlaw yn arllwys i lawr ganol nos. Rhwng pedwar a phump y bore dyma guro trwm ar y drws, "Dowch allan rhag blaen, mae'r babell i lawr!" Aeth W.H. yno heb oedi a chafodd fod cynulliad mawr wedi ymgasglu wrth y babell a golwg trist ar wyneb pawb. 'Roedd yn olygfa dorcalonnus. Yr unig ran o'r babell heb ddymchwel oedd y man uwchben y llwyfan. O'r ddwy res o golofnau coed nid oedd un yn sefyll. 'Roeddent i gyd wedi torri fel coesau matsis, yn ysgyrion, a'r gobeithion uchel y noson gynt am Eisteddfod lwyddiannus wedi diflannu fel mwg mewn ychydig oriau.
Y peth pwysig oedd penderfynu beth i'w wneud o dan yr amgylchiadau. 'Roedd yr Eisteddfod i fod i agor drannoeth. Galwyd y pwyllgor i'r maes ar unwaith. Mynnai rhai mai gohirio fyddai orau ond mynnai y mwyafrif mawr ei chario ymlaen gorau gellid, a dechreuwyd ar y gorchwyl rhag blaen am chwech o'r gloch y bore. Pan ddeallodd trigolion yr ardal beth oedd ar droed tyrrent yno o bob cwr i gynnig eu gwasanaeth. Cafodd gwaith y ffermydd lonydd y diwrnod hwnnw, gan fod pob ffarmwr a gwas ffarm wedi dod i helpu ail-godi'r babell. Buont wrthi drwy'r dydd a thrwy'r nos. Erbyn pump bore drannoeth 'roeddent wedi llwyddo i godi ochrau'r babell yn ôl a'u diogelu rhag ystorom arall, ac i ail-osod y braslian ar y to ymhob cyfeiriad ond dros y seddau ôl. 'Roedd y braslian yn y fan honno wedi rhwygo'n anobeithiol. Rhaid felly oedd gadael y seddau ôl yn agored i'r tywydd.
Yn y cyfamser 'roedd mintai ohonom ni'r merched yn aros cyfle i wneud ein rhan—pob un yn cario bwced, brws sgwrio, sebon a chlwt llawr, i sgwrio'r llwyfan a golchi'r llaid oddi ar y seddau. 'Roedd hyd yn oed merch y Person, hen ferch mewn tipyn o oed, yn cario ei bwced a'i brws sgwrio. Nid wyf yn meddwl iddi erioed o'r blaen fod ar ei dau ben glin yn sgwrio. Ond, 'roedd pawb am eu holl egni yn gweithio. Erbyn naw o'r gloch 'roeddem wedi gorffen popeth a allem—a'r Eisteddfod i agor yn swyddogol am ddeg.
Tenau iawn oedd y cynulliad y diwrnod cyntaf, gan fod y si wedi mynd trwy'r ynys a'r siroedd o gwmpas, na fyddai Eisteddfod gan fod y storom wedi dinistrio'r babell. Ar ôl clywed y newydd arhosodd llawer o gorau gartref.
Ychydig o'r cyfarfodydd a gefais, gan fod ein tŷ, fel tŷ pawb yn yr ardal, yn llawn cyfeillion ac ymwelwyr yn disgwyl am ymborth, ac nid oedd modd porthi'r lluaws a mynychu pob cyfarfod.
Cofiaf am un cyfarfod yn arbennig, oherwydd digwyddiad braidd yn annymunol a gymerodd le yno, ynglŷn â'r prif adroddiad. Darn o awdl bur anodd oedd yr adroddiad. Cofier yr hen ddull o adrodd—dewis darn digon cynhyrfus, yna ei or-bwysleisio, a gweiddi ac actio gyda'r breichiau. Ystyrrid llanc ifanc o Sir Gaernarfon yn ben campwr ar y math hwn o adrodd, a chipiai'r gwobrwyon ymhob eisteddfod a chyfarfod cystadleuol ymhob man. 'Roedd, wrth gwrs, yn cystadlu yn y Gaerwen.
Daeth ymhlith y cystadleuwyr ysgolfeistr ifanc o Flaenau Ffestiniog. Torrodd dir hollol newydd mewn adrodd. Adroddodd y darn yn naturiol a chlir, heb or- acennu, bron heb symud ei aelodau. 'Roedd pawb yn dotio a dyfarnwyd ef yn orau a'r llanc o Sir Gaernarfon yn ail. A dyma a gofiaf—y llanc yn dod ar y llwyfan i dderbyn yr ail wobr â golwg gynhyrfus iawn arno, a'i wyneb fel y galchen, a meddai: ""Rwyn dymuno cyf-lwyno'r ail wobr yn ôl i'r pwyllgor a'u cynghori i brynu lle yn irad i iro cydwybod y beirniad". Aeth ferw gwyllt, pobl yma a thraw yn y babell yn protestio, ond cyn i'r sefyllfa waethygu aeth cyfeillion y llanc ifanc ag ef allan o'r babell. (Y diweddar G. J. Williams, "Griff. Williams", H.M. Inspector of Mines, oedd yr ysgolfeistr ifanc).
Diddorol iawn oedd gweld y cynulleidfaoedd yn cynyddu o ddydd i ddydd, fel erbyn diwedd yr wythnos 'roedd nifer y dyrfa'n ddigon boddhaol. Ond, colled ariannol aruthrol fu'r Eisteddfod, a'r peth nesaf oedd wynebu'r ddyled fawr. Penderfynodd y pwyllgor fynd ati rhag blaen, cyn i'r cyhoedd anghofio. Anfonwyd llythyrau at rai o deuluoedd ariannog yr Ynys i ofyn am gymorth ac ni fu ond ychydig iawn a wrthododd y cais. Ac wrth gwrs, fel arfer, aeth W.H. at Mr. Davies, Tre-borth. "Wel", meddai Mr. Davies, "fe ddarfu i mi eich rhybuddio onido nad oedd y Gaerwen yn le priodol i gynnal Eisteddfod wythnos". A meddai W.H., "Nid ar y lle oedd y bai, ond ar y gwynt a'r gwlaw". Gwenodd Mr. Davies. "Rhoddwch fy enw i lawr am £20, ond ofnaf y bydd y ddyled fel maen melin yn crogi am flynyddoedd am wddf y pwyllgor". "'Rwy'n addo i chi", meddai W.H., "y bydd y ddyled wedi ei thalu cyn pen chwe mis". Ond ysgwyd ei ben yn amheus a wnaeth Mr. Davies.
A dyma ddechrau ar y gorchwyl nesaf—cael arwerthiant ar ddefnyddiau'r babell. Gwnaed apêl at ddynion yr ardal am gynhorthwy i dynnu'r babell i lawr a gwneud y defnyddiau yn lotiau. Daeth tyrfa o bob man a phawb â'i holl galon yn rhoi help llaw.
Hawdd oedd gweld, wrth faint y dyrfa a ddaeth i'r arwerthiant fod cydymdeimlad yr holl Ynys gyda'r pwyllgor ac yr oedd pawb fel pe bai am y gorau'n cynnig prisiau uchel. Bu'r arwerthiant yn help o'r mwyaf at doddi'r ddyled.
Penderfynodd y pwyllgor nad oeddent am gynnal cyngherddau at dalu'r ddyled; buasai'n golygu talu costau printio tocynnau a thalu i gantorion. Felly, penderfynodd y merched baratoi te bob pnawn Sadwrn ac apelio am roddion o fwyd tuag at bob te, fel na fyddai'n ofynnol i wario dim o'r elw. Hefyd cytunwyd i wneud ocsiwn o weddillion pob te. Pan ddeallodd ffermwyr yr ardal bwrpas yr ocsiwn, anfonid inni sacheidiau o datws, moron a maip; ymenyn a wyau, ac erbyn y diwedd da byw. Bu'r te a'r ocsiwn yn help mawr iawn i ddod â'r ddyled i lawr. Ymhen deufis cafodd W.H. y pleser o ysgrifennu at Mr. Davies, Treborth i ddweud fod ddyled wedi ei thalu.
Rhaid cyfaddef, wrth edrych yn ôl, y gwelai dynion craff fel Mr. Davies, Treborth ac eraill, nad doeth oedd cynnal Eisteddfod wythnos mewn lle fel y Gaerwen. 'Roedd bron fel pe bai'r elfennau am ddangos i'r pwyllgor fod yn rhaid wrth rywbeth heblaw brwdfrydedd. Pentref bach yw pentre'r Gaerwen hyd heddiw. Nid oedd ynddo ond dwy res o dai o bobtu'r ffordd bôst—tai gweithwyr y rhan fwyaf, ac ambell i dŷ mwy, neu siop fechan; dim gwesty na thŷ bwyta yn nes na Llangefni, bedair milltir o ffordd. Anodd credu sut y bwriedid lletya a phorthi'r miloedd a ddisgwylid, a chofio mai cyn dyddiau'r ceir modur a'r bwses oedd.
Eto, ni fûm erioed yn cydweithio â phobl yn meddu ar y fath wroldeb a phenderfyniad ag aelodau'r pwyllgor, a phentrefwyr ardal y Gaerwen mewn amgylchiadau mor dorcalonnus. Ni fu gwell dynion yn yr Ynys erioed a chofiaf amdanynt bob tro y darllenaf neu y clywaf siarad am Eisteddfod Gadeiriol Môn heddiw. Dynion oeddynt wedi eu gwreiddio yn nhraddodiadau gorau Anghydffurfiaeth. Talaf deyrnged i'w henwau ar draws y blynyddoedd.