Dirwyn Edafedd/Helynt y Ddrama
| ← Helynt Eisteddfod | Dirwyn Edafedd gan Elizabeth Williams |
Ar Gefn Beic → |
HELYNT Y DDRAMA
PAN ymddangosodd nofel Gymraeg gyntaf Daniel Owen—Rhys Lewis—mawr fy'r canmol a darllen arni. Y cwestiwn fyddai ar wefusau pawb oedd, "Ydych chi wedi darllen Rhys Lewis eto?" 'Roedd nofel o'r fath yn amheuthun iawn yr adeg honno. 'Roedd Cymru'n bur amddifad o lenyddiaeth o'r fath, a byddai darllen lawer gwaith drosodd ar Rhys Lewis.
Daeth i feddwl dau gyfaill yn Llanrwst, dau aelod o Gapel Sion, ysgolfeistr yr "ysgol British" Mr. D. J. Williams, a'm gŵr, i geisio gwneud drama allan o'r nofel, er mwyn cael elw at dalu dyled y capel. Aethant ati yn union deg. Ni feddai'r un o'r ddau na syniad na phrofiad am y dull o greu drama. Nid oedd fawr o sôn am ddrama Gymraeg. Ond teimlent fod y cymeriadau yn y nofel mor fyw fel y byddai'n hawdd eu rhoddi mewn drama.
Llwyddodd y ddau i greu drama bur dda a rhoi cymeriadau y nofel i gyd i mewn. Y peth nesaf fu dewis y cwmni a chredaf iddynt lwyddo yn hyn yn ogystal. Hwyrach y bydd o ddiddordeb i mi enwi yr actorion.
Cymerwyd rhan Tomos Bartley gan fachgen o Ffestiniog a weithiai yn swyddfa'r Rhedegydd yn Llanrwst—Evan Pugh. 'Roedd yn gloff, a siaradai'n hamddenol a braidd trwy ei drwyn. Nid oedd yn rhaid iddo wneud dim mwy na bod yn naturiol i wneud Tomos Bartley campus.
Cymerwyd rhan Barbara a Mari Lewis gan ddwy chwaer—Mrs. Hughes a Mrs. Hayes—ac yr oedd y ddwy yn hynod o dda, yn enwedig Mari Lewis. Wrth gwrs 'roedd mwy o gyfle i actio gan Mari Lewis. Cymerwyd rhan Abel Hughes y blaenor gan ffarmwr o'r enw John Roberts, dyn mawr tal, ac yn flaenor yng nghapel bach Bethel y tu allan i Lanrwst. 'Roedd yn gwneud Abel Hughes da iawn. Cymerwyd rhan Rhys Lewis a Wil Bryan gan ddau fasnachwr ifanc yn y dref. T. R. Jones y sadler (tad y Cadben J. Glyn Jones o'r Weinyddiaeth Heddwch, Caerdydd) oedd Rhys Lewis. Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi anghofio enw iawn y bachgen a gymerodd ran Wil Bryan. Fel "Wil Bryan" y bûm yn cofio amdano ar hyd y blynyddoedd. Gwnaeth y ddau eu rhan yn llwyddiannus iawn. Bachgen o Sais wedi dysgu Cymraeg pur glapiog oedd Mr. Brown y Person; D. J. Williams yr ysgolfeistr oedd y proffesor yn y Bala; fy ngŵr oedd Bob y rebel a Mr. Jenkins, a gadwai siop esgidiau yn y dref, oedd y plismon. A dyna'r cwmni'n gryno.
Nid oedd cynhyrchydd i'r cwmni gan nad oedd yr un ohonom â mwy o brofiad na'r llall sut i actio drama, felly pawb â'i farn oedd, a mawr fu'r hwyl a'r mwynhad. "Na wir, fel hyn 'rwyf fi'n gweld pethau", neu "Nid fel yna y bydd Person yn siarad", ac felly'n y blaen wrth ddysgu'r gwaith. Fy rhan i oedd bod y tu ôl i'r llen fel prompter—ac erbyn y diwedd gwyddwn bob gair o'r ddrama ar ei hyd.
Er mwyn amrywiaeth a hwyl trefnwyd i Bob ddianc pan oedd y plismon yn ei arwain i'r carchar, ac i redeg ar draws y llwyfan a'r plismon i'w ddal ar ôl tipyn o ymladdfa rhyngddynt.
Bu'r perfformiad cyntaf yn llwyddiant mawr. Gan ei fod yn rhywbeth mor newydd nid oedd dim critic i bigo beiau! Yn fuan iawn daeth gwahoddiadau inni o bob cyfeiriad i roddi perfformiad. Penderfynodd y cwmni ar ddau beth—yn gyntaf nad oeddent i dderbyn tâl am eu gwasanaeth, dim ond y gost o'u cludo. Ac yn ail, nad oeddent i dderbyn gwahoddiad at ddim ond achos teilwng. Cadwyd at y ddau amod am y ddau dymor y bu i'r cwmni wasanaethu.
Nid wyf yn meddwl i un pentref o fewn cyrraedd, pell ac agos, fod heb berfformiad. Buom cyn belled â Llandudno a Phenmaenmawr a'r cwmni'n ennill cryn brofiad ac hunanfeddiant, a'r actio'n gwella bob tro.
Dwedir nad oes gynnydd heb ragfarn o ryw du i'w herio. Ac felly gyda'n cwmni ni. Cododd rhagfarn mewn ambell gyfeiriad ar draws y wlad. Ni fuasai'n syndod gennym i ambell hen flaenor braidd yn gul godi ei lais yn erbyn actio, ond, ysywaeth, y pregethwyr oedd y mwyaf eu rhagfarn, a'r pennaf ohonynt oedd y diweddar Barchedig H. Barrow Williams, Llandudno. Dyn cymharol ifanc oedd yr adeg honno, ac ystyrid ef yn ddyn diwylliedig ac eang ei farn. Hoffwn bob amser ei wrando'n pregethu. 'Roedd bob amser mor fywiog a diddorol yn y pwlpud; ni allwn feddwl am neb yn cysgu dan ei bregethau a byddai'r capel yn orlawn. Ni fu pregethwr mewn pwlpud yn meddu ar well dawn actio na Barrow Williams—nid o fwriad cofier—ond 'roedd y ddawn naturiol ganddo.
Anodd felly oedd deall i un mor ddiwylliedig goleddu'r fath ragfarn. Ni chlywais erioed fod rhagfarn yn erbyn Daniel Owen am gyfansoddi nofel Rhys Lewis, nac yn erbyn neb am ei darllen. Ond, actio'r stori ar y llwyfan oedd y trosedd a'r pechod mawr.
O'r diwedd clywodd y cwmni i rai o'r pregethwyr, o dan arweiniad Barrow Williams, benderfynu dod â'r achos o flaen y Cyfarfod Misol. 'Roedd pob un o'r cwmni'n aelod selog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac felly, yn hytrach na chreu helynt yn yr eglwys, cytunasant mai chwalu'r cwmni fyddai'r doethaf a rhoi'r gorau i'r actio ar ôl y ddau dymor llwyddiannus o wasanaeth. Ac felly y bu er siomedigaeth i lawer o'n cyfeillion. Ni bu cwmni drama Cymraeg yn y dref am lawer blwyddyn ar ôl hynny.
Yn raddol diflannodd y rhagfarn cul, a diddorol i mi yw'r ffaith fod un o Lanrwst—y diweddar Barchedig R. G. Berry—wedi ennill iddo ei hun le amlwg ymhlith dramodwyr Cymru.
Rhyw hanner can mlynedd yn ôl cyfansoddodd Richard fy mrawd ddrama—"Helynt Hen Aelwyd", neu "Taid a Nain"—drama ar fywyd cefn gwlad—heb sôn am na Sêt Fawr na phwlpud. Hanes oedd am hen ffarmwr a'i wraig a'u dau ŵyr amddifad, Marian ac Arthur. Hen ffarmwr cul a phengaled oedd Tomos Jones, na chafodd ddiwrnod o ysgol erioed ac nad oedd am i neb a berthynai iddo gael y fantais chwaith. 'Roedd ei law yn erbyn pob mudiad newydd-p'run ai ar y fferm neu yn yr ardal. Gwahanol iawn oedd ei wraig Mali. Penderfynodd hi, oherwydd culni'r hen ffarmwr, y câi'r ddau blentyn eu dwyn i fyny yn well na'u tad. Felly mae drwg—dynnu rhwng y ddau ar hyd y ddrama, ac eto mae'n llawn of hiwmor iachus. O'r diwedd gorchfygir yr hen frawd. Caiff Arthur ei addysg, drwy haelioni perchennog gwaith glo cyfagos; caiff Marian briodi ei chariad—ffarmwr ifanc medrus, â'i holl fryd ar ddefnyddio darganfyddiadau newydd, er i'r hen ffarmwr un tro fygwth rhoi ffon ar ei gefn. Gwelir yr hen frawd o'r diwedd, â'i ddwy law ar ben ei ffon, yn bendrist, a meddai wrth Mali, "Wst ti be. Mali, 'rwy'n ein gweld yn union fel hen iâr wedi bod yn eiste ar wyau chwyad. Ma'r plant yma yn mynd i rywle na fedrwn ni dim ddim mynd ar eu hôl nhw beth bynnag". A meddai Mali, "Wel 'nenno'r annwyl Tomos bach, rhaid iti ddim lledu dy esgyll a chodi dy blu, fodda 'nhw ddim iti. Gad iddynt da chdi—mae nhw'n siŵr o ddod i'r lan yn ddiogel".
Pa well cymhariaeth a geid i ddangos y pellter sydd mor aml rhwng dyheadau yr hen a'r ifanc. Lawer gwaith y syllais ar iar a haid o gywion hwyaid; y rhai bach yn mynd i'r dŵr am y tro cyntaf a'r hen iar yn clowcian arnynt i ddod yn ôl, a'r rhai bach yn dal i fwynhau'r dŵr heb dalu sylw yn y byd iddi.
Aeth W.H. a minnau ati i ffurfio cwmni drama un-waith eto i geisio perfformio drama Richard. Caed cwmni llwyddiannus dros ben. Buom wrthi am ddau dymor, a chawsom deithio ar hyd a lled y Gogledd. Cawsom wahoddiad un tro gan Gymdeithas y Ford Gron Manceinion a chawsom hwyl dda yn y Sun Hall, a'r ystafell yn orlawn. Nid rhagfarn a chwalodd y cwmni y tro hwn ond colli rhai o'r actorion gorau am iddynt ymadael â'r lle, ac nid oeddem am chwilio am rai newydd. O aelodau'r cwmni cyntaf, cwmni Rhys Lewis, nid oes heddiw ond y fi yn fyw. Am yr ail gwmni—cwmni "Taid a Nain", nid oes ond un yn aros yn Llanrwst-fy hen ffrind Miss Jones, Haddef. Bu rhai o'r actorion farw; mae'r gweddill ar wasgar yma a thraw yn Lloegr.
Wel, rhedodd llawer iawn o ddŵr o dan yr hen Bont Fawr er pan fu'r cwmni bach cartrefol yn mentro actio Rhys Lewis a chael ein herlid o'r herwydd. Erbyn heddiw caiff y ddrama ran bwysig ym mhob agwedd o fywyd Cymru, ac y mae digon o ysgrifennu dramâu newydd. Ni fedd pob un ohonynt ddawn Daniel Owen i bortreadu bywyd cyffredin. Mae'n werth hyd yn oed heddiw i ysgrifenwyr ifanc ddarllen Rhys Lewis.