Neidio i'r cynnwys

Dirwyn Edafedd/Tri Llyn

Oddi ar Wicidestun
← Yr Afon Fawr Dirwyn Edafedd

gan Elizabeth Williams

Helynt Eisteddfod →

TRI LLYN

NID oes angen imi ddarlunio'r llynnoedd sy'n gorwedd ym mreichiau'r mynyddoedd uwchlaw yr hen Afon Fawr. Erys eu harddwch i'r sawl a'i ceisia. Nid ydynt i gyd yn hollol fel ag yr oeddent yn y dyddiau gynt. I raddau bu llaw dyn yn brysur yn dinistrio ac yn creithio'r gogoniant o'u hamgylch, ac yn caethiwo eu rhaeadrau. Llenwir fy meddwl ag atgofion peraidd o'm haml droeon i weld y llynnoedd a'r rhaeadrau—pryd y byddai pob cam o'r ffordd yn dwyn pleserau newydd i'r llygaid. Erys y pleserau hyn hefyd i'r sawl a ddewiso gerdded llwybrau'r bryniau yn hytrach na gwibio mewn peiriant o le i le.

Ysgrifennaf am rai o'r pethau nad ydynt mwyach; nid, cofier, er cofnodi teimlad o golled, ond am y llawenydd o'u cofio. Daw enw pob llyn a rhaeadr â llu o atgofion o bob math i'm meddwl heb eu ceisio ac yn ddigon di-batrwm. Daw rhyw stori y fan yma, rhyw amgylchiad y fan draw, heb unrhyw reswm dros iddynt aros yn fy nghof. Felly, 'rwyf am adael i'm pin grwydro ar ei hynt i ganlyn fy meddyliau am y tri llyn a adwaenwn orau.

'Roeddwn yn fwy cyfarwydd â Llyn y Parc na'r llynnoedd eraill am ei fod gymaint yn nes i Lanrwst. Dyma un o'r llynnoedd bach mwyaf prydferth a welais yn unman. Gorwedd yng nghesail y bryniau rhwng Llanrwst a'r Betws. Tyfai'r coed i lawr at ymyl y llyn, ac ar ddiwrnod o haf ac awyr las edrychai'r llyn fel gemwaith glas mewn ffrâm werdd. Ni fyddai llawer o ymwelwyr yno; yn wir ni chofiaf inni gyfarfod yno â neb. Caem eistedd wrth yr ymyl a theimlo'r distawrwydd. Torrwyd y distawrwydd yn unig gan ambell ysguthan felancolaidd, neu ganu adar yn y coed, a sŵn cysglyd y dŵr yn cyffwrdd â'r traeth. Unwaith, pan oeddem o dan hud y tawelwch a'r olygfa, yn eistedd yn ddistaw ac yn ddisymud, gwelsom gadno yn sefyll am eiliad byr ac yn edrych arnom cyn llithro o'r golwg drwy'r coed.

Dywedai Nhad y byddai'r llyn, pan oedd ef yn llanc ifanc, yn enwog am samon ac y byddai llawer iawn o botsio samon yno er gwaethaf y cipar. 'Roedd mab hynaf yr Hen Law yn botsiar heb ei ail meddai Nhad, a daliodd aml i samon braf yn y llyn. Yn anffodus daliodd y cipar ef un tro a chafodd ddau fis o garchar am y trosedd.

Yr un ffordd a gymerem at y llyn bob amser—heibio Castell Gwydyr ac i fyny drwy'r coed ar hyd ffordd drol reit dda. Caem ambell gip-olwg drwy'r coed ar y fod coed dyffryn ymhell islaw, ond ni welid fawr gan y coed yn dew ar hyd y ffordd. Yn wir, byddai'r holl ffordd o'r dref yn goediog. Tyfai rhes o goed mawr talfrig o'r Bont Fawr o bobtu'r ffordd at y Pren Gwyn, i greu hanner milltir syth o'r lôn goed harddaf a welais erioed. Cofiaf, adeg ymweliad y Dug a'r Duges York, i'r pwyllgor croeso grogi lanterni papur o bob lliw ym mrigau'r coed ac ar draws y ffordd ar hyd y Lôn Goed, ac yn y nos wedi eu goleuo 'roeddent fel llysiau o wlad hud.

Dyma'r newid mawr heddiw. Collwyd llawer o'r coed adeg y Rhyfel Mawr cyntaf; collwyd mwy adeg y rhyfel diwethaf. Heddiw mae'r ffordd yn foel o'r Bont Fawr i Lyn y Parc ac nid yw'r hen ffordd ar hyd y llethrau mewn bod. Mae'n wir fod plannu mawr yn mynd ymlaen ac yma a thraw gwelir glesni coed yn dechrau ymddangos ar wyneb y moelenni. Ond, gyda gwahaniaeth dirfawr. Yn yr hen amser gogoniant y llethrau, ar hyd y Dyffryn, fyddai lliwiau dail y coed yn yr Hydref. Bu Gwydyr yn enwog am genedlaethau am y coed derw hardd, ond yn gymysg, ar y llethrau, tyfai coed cerddin, neu goed criafol fel yr adwaenwn hwynt, a choed ffawydd, bedw a chastanwydd yn ogystal â'r larwydd a'r pinwydd. Yn yr Hydref gwelid y llethrau fel pe bai'r dail wedi eu lliwio'n felyn, yn goch, yn frown, a ffrwyth y coed criafol yn llosgi yn erbyn gwyrdd tywyll y pinwydd mawr.

Gwelir y llyn eto rhyw ddydd mae'n siwr mewn ffrâm werdd, a'r llethrau'n goed i gyd, ond undonog fydd y darlun; cynllun dyn ac nid cynllun natur fydd. Mae'n wir mai cynllun dyn adeg rhyfell arall—rhyfel Napoleon—fu'n gyfrifol am blannu coed derw. Pasiwyd deddf y pryd hynny i orfodi perchnogion tir i blannu coed derw, am y rheswm, meddid, y byddai angen ar Brydain yn y dyfodol pell, am lawnder o goed derw at wneud llongau rhyfel. Ond 'roedd digonedd o le i Natur blannu rhyngddynt.

Gwahanol iawn oedd Llyn Crafnant. 'Roedd y llyn yn gyrchfa i lawer o ymwelwyr o Drefriw ac o Lanrwst. Ni fûm yno pan oeddwn yn blentyn ond pan ddychwelais i Lanrwst i fyw yn wraig ifanc byddwn yn hoff iawn o dreulio hanner diwrnod yno. Ystyriwn y ffordd i fyny o Drefriw yn un ramantus iawn. Dirwyn y ffordd ar yr ochr dde i Gwm Crafnant. Gorchuddiwyd yr afon sy'n ymdroelli trwy waelod y Cwm gan y coed tew ar hyd yr ochr serth. Byddem bron yng nghyrraedd y llyn cyn i'r coed ddarfod a byddem wedyn ynghanol tir mynydd moel a dim ond grug a marchredyn o bobtu. Ni flniwn fyth ar yr olwg gyntaf o'r llyn, mewn tro sydyn yn y ffordd. 'Roedd yn union fel pe bai dalen o lyfr wedi ei throi a darlun ardderchog yn dod i'r golwg-y llyn fel darn o arian ac ambell gwch yn hwylio'n dawel ar ei wyneb; ffermdy bach gwyn ar ochr y llyn a choed o'i gwmpas. Dyma lle y byddai te i'w gael. Ffermdy lled fychan oedd. Nid oedd digon o le yn y gegin i osod byrddau te ac ar y tân oedd yr unig le i ferwi dŵr. Grât lydan hen ffasiwn oedd yno a phentan mawr ar bob ochr. Ar un ochr 'roedd wrn mawr a thap iddo i ollwng y dŵr poeth, ac ar yr ochr arall y tegell mwyaf a welais erioed. Coed a losgid gan mwyaf; 'roedd llawnder o goed tân yn yr ardal. Y tu ôl i'r gegin mewn ystafell fechan byddai dwy neu dair o ferched yn brysur wrthi'n torri plateidiau o fara 'menyn ac yn golchi llestri. Felly, yn yr awyr agored o dan y coed y caem de, ar y lawnt hir o flaen y tŷ. Gosodid yno bedwar neu bump o fyrddau hir a llian gwyn drostynt, a meinciau o bobtu.

Cedwid y fferm gan frawd a chwaer. Bywient yno pan gaed y llyn a'r tir o'i gwmpas yn anrheg i dref Llanrwst gan y bonheddwr James o Ddyffryn Aur, Llanrwst, ac yr oedd caniatâd i'r ddau fyw yn y ffermdy ar hyd eu hoes os mynnent. Cofiaf Miss Williams fel y byddai yn hwylio'r te, ei gwallt gwyn fel arian a'i hwyneb siriol, yn mynd a dod o gylch y byrddau: "Ydi'r te yn ddigon cryf, fuasech chi'n leicio rhagor o de yn y tebot?" "Gymerwch chi ragor o fara brith, neu fara Crafnant?" "Roedd hwn yn fara spesial iawn a ddylinai Miss Williams ei hun. Credaf fod llefrith a wyau ynddo, ac hwyrach, ymenyn. Beth bynnag am hynny 'roedd yn flasus dros ben. Wyth geiniog fyddai pris y te, gyda chymaint o fara brith, bara Crafnant a jam ag a ddymunem. Yn wir ni fyddai Miss Williams yn tybied i ni fwyta hanner digon. Hanner pris fyddai i blant, er y byddent yn bwyta ddwywaith mwy na'r rhai hŷn!

Credaf fod Miss Williams yn hŷn o flynyddoedd na'i brawd. 'Roedd gwallt a locsyn y brawd yn ddu fel y frân. Cario dŵr o'r llyn ac edrych ar ôl y cychod oedd gwaith y brawd (a'r fferm fechan wrth gwrs). Eisteddai am hydion ar un o'r cychod i ddisgwyl cwsmer ac i synfyfyrio. Nid wy'n meddwl fod llawer o awydd twtio ynddo a barnu wrth y dail poethion a'r dail tafol a godai eu pennau ymhob cwr.

Ymhen blynyddoedd gadawodd y brawd a'r chwaer y ffermdy a'r llyn a chymrodd Cyngor Llanrwst y cyfle i ail wampio'r hen dŷ cyn ei osod i denantiaid newydd. Codwyd ei furiau'n uwch a gosodwyd to newydd arno. Gwnaed ystafell eang lle y bu hen ysgubor ar un talcen i'r tŷ, i gael ystafell de i ymwelwyr. Cofiaf fynd yno ar ôl i'r "gwelliannau" gymryd lle. Ac O'r gwahaniaeth! Collais wên siriol Miss Williams, a'r teimlad ein bod i gyd fel ymwelwyr yn derbyn croeso i gartref Cymreig. Nid oedd neb yn pwyso arnom i fwyta nac yn hitio os na byddem yn mwynhau'r bwyd. Yn lle te cegin fferm, te fel te siop a gawsom, bara siop a theisennau siop—hyn a hyn o frechdanau i bawb am y pris a'r pris. Mae'n wir fod yno ddigon o fwyd (am bris), fod y lle wedi tacluso'n rhyfeddol oddi allan; eto 'roedd rhywbeth pwysig wedi diflannu. Nid "te Crafnant" oedd mwyach; nid oedd dim i'w wahaniaethu oddi wrth unrhyw de siop, ac ni ddychwelais yno wedyn i gael te.

Daw sôn am Grafnant â dwy stori i'm meddwl bob amser. Lawer gwaith y bu i'm plant ofyn: "Dwedwch stori bresus Huw", neu "Dowch i ni gael hanes William yn mynd i Lundain". Er i mi adrodd y ddwy stori ugeiniau o weithiau, ni phallodd y ddwy â chodi gwên. Felly dyma fi'n eu rhoddi ar bapur.

BRESUS HUW

Flynyddoedd yn ôl, cyn dyddiau'r car modur, bu i wraig cyfaill inni dorri ei choes mewn damwain flin, fel na allai symud am hydion. Yr adeg honno golygai torri coes rhyw ddeufis o wely. Pan ddechreuodd ei choes wella 'roedd yn ofynnol iddi wisgo heyrn o bobtu'r goes i'w helpu i gerdded tipyn. Erbyn hyn 'roedd yn dywydd teg iawn yng nghanol yr haf a meddyliodd Huw ei gŵr y buasai trip i Grafnant mewn cerbyd yn lles mawr iddi.

Bu cryn drafferth cael gafael ar gerbyd ar fyr rybudd a bu'n rhaid bodloni ar gerbyd digon anolygus. Cerbyd agored oedd, y sort a elwid yn basket car, â lle ynddo i rhyw dri bob ochr i eistedd gyferbyn â'i gilydd. Felly gwahoddodd Huw dri chyfaill i ddod ar y trip. Llanc pur ddwl oedd y gyrrwr ac ni wyddai fawr am yrru. Beth bynnag, er yr holl anawsterau cychwynnwyd yn dalog a phawb mewn hwyl dda.

Ar y daith i fyny i Grafnant 'roedd llecyn cul o'r ffordd heb na wal na chlawdd rhyngddo a'r dibyn. 'Roedd yn ofynnol i'r gyrrwr ofalu rhag nesáu'n rhy agos at yr ymyl. Gofalodd gadw pen y ceffyl rhag yr ymyl, ond ni feddyliodd gadw golwg ar yr olwyn ac yn sydyn llithrodd ochr chwith y cerbyd dros yr ymyl. Yn ffodus, tyfai'r coed mor agos i'r ymyl ac mor glos i'w gilydd fel iddynt gynnal y cerbyd i fyny a'i gadw rhag disgyn i waelod y cwm. Taflwyd un o'r cyfeillion i ganol y prysgwydd; cafodd un ohonynt ei hun yn eistedd ar gangen o goeden, hanner ffordd i fyny'r bôn. Huw yn unig a lithrodd rhywfodd rhwng y coed gan rolio i lawr am lathenni at droed coeden fawr. Ac yno gorweddai'n griddfan ac yn tuchan. Mynnai ei fod wedi ei anafu'n dost. "Hogia annwyl 'rwyf wedi cael damwain ofnadwy. Mae ar ben arnaf". Rhuthrasant i lawr ato mewn dychryn. "Oes gen ti boen garw Huw bach?" "Oes, ofnadwy", meddai, "Mae 'mherfedd i'n dechre dod allan. O be wna' i! Byddaf wedi marw ymhell cyn i ddoctor gyrraedd". ""Toes dim posib fod dy berfedd yn dod allan", meddai un. "O ydi yn wir, 'toes dim sy'n sicrach, 'rwyn ei deimlo'n llithro allan, ac mae poen difrifol arnaf". Edrychent mewn ofn a braw ar Huw, ac aeth un ohonynt, â thipyn llai o ofn na'r lleill, i geisio agor ei ddillad er mwyn gweld maint y dolur. Datododd ei gôt a'i wasgod a chododd ymyl ei grys yn wyliadwrus, ac yn sydyn dechreuodd chwerthin—ha! ha! a daliodd i chwerthin nes i'r dagrau lifo. "Huw druan", meddai, "wyddost ti beth yw'r perfedd sy'n llithro allan? Dy fresus sydd wedi rhwygo!" Cododd Huw ar ei eistedd, ac yn wir felly 'roedd. A'r "boen difrifol?" Dim ond blaen main rhyw gangen wedi rhwygo ei drowsus o'r tu ôl ac yn ei bigo. Ynghanol y chwerthin mawr clywyd llais y wraig: "Huw fedra' i ddim codi". 'Roeddent wedi anghofio popeth amdani! Dyna lle yr oedd—brigyn wedi cydio'n dynn yn heyrn ei choes fel na allai symud. A'r syndod oedd na chafodd neb na briw na dolur; yr unig ddifrod oedd i fresus a throwsus Huw.

Bu blynyddoedd cyn i gyfeillion Huw beidio â'i gellwair am golli ei berfedd!

MYND I LUNDAIN

Un tro, bu i gynrychiolwyr o Gyngor Llanrwst fynd ar ryw achlysur i Lundain. 'Rwy'n tybied mai cwestiwn o gyfraith oedd, yn ymwneud â hawliau dŵr neu rhywbeth cyffelyb. Modd bynnag, ymysg y tystion 'roedd hen frawd o ffarmwr o gymdogaeth Cwm Crafnant—hen lanc o'r enw William. 'Roedd mynd ar daith i Lundain yn fentar fawr iawn i William. Nid wy'n meddwl iddo fod fawr pellach na Llanrwst o'r blaen.

Cafodd het a macintosh newydd sbon at y daith bwysig, ac er fod y facintosh yn llawer rhy laes iddo, yn cyrraedd bron at ei sodlau, teimlai'n ŵr bonheddig yn y ddiwyg newydd. Heblaw'r facintosh newydd cariai William barsel mewn papur llwyd, a phâr o slipars carped newydd ynddo. Dyma ei unig luggage. Gan nad oedd erioed wedi arfer gwisgo crys nos, cysgai yn ei grys gwlanen cyffredin. Wel, dyma'r cwmni'n cychwyn o Lanrwst. Bob tro y byddent yn symud o un trên i drên arall baglai traed William yn y facintosh laes nes i'r parsel papur llwyd a'r slipars scrialu hyd y platfform, un yma ac un acw rhwng traed y teithwyr, er mawr ddifyrrwch iddynt.

Wedi cyrraedd Llundain (lletyent i gyd yn yr un gwesty), dyma ddechrau problemau William. Yr hyn a'i poenai'n fwy na dim oedd sut i ymddwyn amser pryd bwyd. Edrychai'n syn ar y rhes o gyllyll a ffyrc a llwyau ar y bwrdd o'i flaen "Beth andros wna' i â'r holl gelfi 'ma hogia?"

Methodd y cwmni'n lân â'i ddiddyfnu o'r arferiad o yfed ei de neu goffi o'r soser. Dyna fel yr oedd wedi arfer yfed ar hyd ei fywyd a methai â deall i ba bwrpas arall yr oedd y soser. Felly bu'n rhaid iddynt roi'r gorau i geisio ei ddarbwyllo, ac o'r soser yr yfodd William.

Er fod y tywydd yn hynod braf ar hyd eu arhosiad, gwrthododd William yn bendant fynd allan lathen heb ei facintosh a'r parsel papur llwyd o dan ei fraich.

Un o'i ddiddordebau mwyaf oedd gweld y ceffylau hardd ar hyd strydoedd Llundain. Sylwer mai oes y ceffylau oedd, pan nad oedd y car modur ond yn ei fabandod. Gan geffylau y tynnwyd y bwses. Nid oedd William erioed wedi gweld y fath geffylau o'r blaen, yn enwedig ceffylau hardd y bragdai a fyddai'n tynnu'r ceir hir a'u barilau cwrw. Y drwg oedd y mynnai sefyll yng nghanol y traffic i edmygu'r anifeiliaid "Diawch hogia, dyma i chi bâr o geffylau da". 'Roedd yn dda nad oedd William yn deall fawr o Saesneg neu buasai rhegfeydd y gyrrwyr, am iddo ddal y traffic i fyny, yn merwino ei glustiau.

Y noson olaf yn Llundain, ar ôl gorffen y gwaith, penderfynodd y cwmni fynd i'r Music Hall, Alhambra, a oedd mewn bri mawr yr adeg honno, un o'r rhai mwyaf yn Llundain. Y broblem fawr oedd—"Beth wnawn â William?" Gwyddent nad âi yr un o'i draed i'r fath le pe gwyddai ei natur. Eto, nid oeddent am ei adael ar ei ben ei hun yn y gwesty. Teimlent yn gyfrifol amdano, gan na siaradai ond ychydig o Saesneg. O dan yr amgylchiadau penderfynwyd mynd â William i'w canlyn—doed a ddelai. Yr unig beth a wyddai William oedd ei fod yn mynd i ryw gyfarfod mawr.

Wedi cyrraedd yr Alhambra a mynd i mewn, edrychodd o'i gwmpas mewn syndod. Ni welodd erioed o'r blaen y fath wychder—galeri uwch ben galeri yn llawn o bobl—goleuadau ac addurniadau o bob lliw a llun. 'Roedd erbyn hyn wedi ei syfrdanu.

Tybiodd mai rhyw gymanfa fawr oedd i ddod, a gofynnodd i un o'r cyfeillion "Oes pregeth i fod?"

Toc, ar ôl i'r Gerddorfa diwnio a dechrau chwarae, cododd y llen. Beth a welai William ar y llwyfan ond llu o ferched a nemor ddim amdanynt ond paent yn dawnsio rhyw ddawns ryfedd. Ond, nid dawns a welodd William, ond rhes o ferched yn cicio eu coesau i fyny am yr uchaf. Dychrynodd weld y fath anfadrwydd. Trodd lygad llym ar ei gyfeillion a meddai "Hogia, 'rydach chi wedi dod â mi i uffern o le". Ac er gwaethaf pawb mynnodd fynd allan, ac allan yr aeth cyn gynted ac y gallai o'r fath le pechadurus. Yn ei frys, wrth fynd i fyny grisiau'r galeri at yr exit, baglodd ei draed yn y facintosh laes nes y syrthiodd ar ei bedwar a phawb yn edrych yn wgus ac yn gweiddi "ust" arno. Yn y godwm llithrodd y ddwy slipar ymhell rhwng traed y gwrandawyr a dyna lle 'roedd William ar ei grafangau yn ymbalfalu amdanynt. 'Roedd yn benderfynol nad âi allan hebddynt.

O'r diwedd llwyddodd i fynd allan, ef a'i barsel. Nid oedd yr un o'i gyfeillion wedi cynnig mynd gydag ef. 'Roeddent wedi talu am eu seddau ac am gael gwerth eu harian. Nid oedd gan William syniad i ba gyfeiriad i geisio'r gwesty ac nid oedd ganddo ddigon o Saesneg i holi'r ffordd, felly 'doedd dim i'w wneud ond aros wrth drws i'r "hogiau" ddod allan.

Daeth plismon heibio. Gwelai olwg pur amheus ar William yn ei facintosh a'i barsel o dan ei fraich, ac yn sefyll fel post heb symud. "Move on please", meddai. Nid oedd gan William syniad beth oedd "move on". Gwelodd y plismon nad oedd yn deall a gwnaeth amnaid â'i ben a'i ddwylaw. Deallodd William yr iaith honno'n iawn ac aeth i fyny'r stryd am ychydig lathenni a phan oedd y plismon o'r golwg cerddodd yn ôl at y drws i wylio. Toc, daeth plismon arall heibio. Erbyn hyn 'roedd William yn deall ystyr "Move on", ac yn ufudd fel o'r blaen symudodd lathen neu ddwy i fyny'r stryd. Ar ôl hir aros daeth y cyfeillion allan a chymaint oedd ei falchder o'u gweld fel yr anghofiodd ei ddicter yn eu herbyn am ei fwrw i'r fath le.

Trannoeth, trodd y cwmni gefn ar y brifddinas i gychwyn tuag adref. Cyrhaeddodd William adref yn ddiogel, a'i facintosh a'r parsel papur llwyd. Bu'r rhyfeddodau a welodd yn Llundain yn destun siarad iddo am ei oes. Deuai "Pan oeddwn yn Llundain erstalwm" i'w sgwrs byth a hefyd, a'r rhyfeddodau'n tyfu fwyfwy wrth eu hail-adrodd. Ni chlywodd neb iddo achwyn am yr Alhambra a'r hyn a welodd yno. Synnwn i ddim mai'r unig ramant fu yn ei fywyd oedd mynd i Lundain, a synnwn i ddim chwaith nad oedd yr Alhambra, er gwaethaf ei fraw, yn rhan bwysig o'r rhamant. *** Ni fûm ond ychydig weithiau yn ymweld â llyn Cowlyd, gan ei fod ymhell o Lanrwst ac yn uchel yn y mynyddoedd, a'r dringo i fyny ar hyd ochr serth y mynydd rhwng Dolgarrog a Threfriw yn galed. Y tro diwethaf i mi ddringo i Gowlyd, 'roedd yn ddiwrnod poeth anarferol ac nid oedd cymaint â chysgod coeden ar y ffordd. Cawsom ein poeni ar hyd y ffordd gan haid o wybed mawr. Nid oedd diben inni geisio eu chwipio â marchredyn; dalient i'n herlid. Ond wedi inni gyrraedd copa'r mynydd diflannodd y gwybed—ni wn i ble. 'Roedd yn union fel pe bai ganddynt gynefin, math o "fly belt", a gwae i bawb wrth basio drwy'r belt. Ni fûm erioed mewn man mwy unig ac anghyfannedd. Nid oedd ond mynyddoedd moelion o'n cwmpas ymhobman, a distawrwydd llethol; dim sŵn ond brefiad ambell i ddafad. Ni welsom yr un wyneb byw ar y daith ond gwraig ffermdy bychan rhyw hanner milltir o'r llyn, lle y cawsom groeso cynnes er mai estroniaid oeddem iddi. Mynnodd wneud te i ni ac wrth gwrs ni feiddiem gynnig tâl. Dyma'r hen letygarwch fyddai'n nodweddiadol ynghanol y wlad y pryd hynny. Gofynnais iddi "Fyddwch chi'n teimlo'n unig mewn lle mor anghysbell?" "O na fyddaf," meddai, "mae yn frenin o'i gymharu â Chwm Eigiau lle 'roeddwn yn byw o'r blaen. 'Roedd fy ngŵr yn fugail yno. Ni fyddai'n ddim inni ar dywydd caled yn y gaeaf fod am dri mis neu bedwar heb weld na chlywed wyneb byw ond y defaid". 'Roedd ganddi amryw blant mewn oed ysgol. Aent tros y mynydd o Gowlyd yr holl ffordd i Drefriw ac ar dywydd mawr yn y gaeaf anfonid y gwas gyda'r gaseg i'w cyrchu dros y mynydd.

Wrth sôn am Gwm Eigiau cofiaf stori a glywais gan hen wraig o Lanrwst am ŵr a gwraig o Gwm Eigiau, yr hen ŵr wedi treulio oes yn y Cwm fel bugail, yn byw mewn bwthyn bychan mewn lle hynod o anghyfannedd. Ar dywydd caled y gaeaf 'roedd bron yn amhosibl mynd ato. Un gaeaf cymerwyd yr hen ŵr yn wael iawn. Gwyddai'r hen wraig nad oedd y diwedd ond mater o amser. 'Roedd yn aeaf eithriadol o lym, rhew caled a lluwchfeydd o eira bron wedi cuddio'r bwthyn bach, a gweddi daer yr hen wraig oedd ar i'r Bod Mawr ei arbed nes i'r rhew a'r eira doddi rhag iddo fod yn gorwedd heb ei gladdu, hwyrach am wythnosau.

Soniwn lawer am ddod â bywyd cefn gwlad yn ôl. 'Rwyn siwr na fynnem ddod â phopeth yn ôl fel ag yr oedd.

I mi, gogoniant Llyn Cowlyd a Llyn Eigiau fyddai'r rhaeadrau a dywalltai ohonynt i lawr y goriwaered serth, ar eu ffordd i'r. Afon Fawr—Rhaeadr Dolgarrog a Rhaeadr Porthllwyd. Rhuthrent trwy gafnau mawr yn y creigiau ac yr oedd Porthllwyd o leiaf ddau gan trodfedd o uchder. Caethiwyd rhan helaeth o'u gogoniant adeg y Rhyfel Mawr cyntaf a chreithwyd ochr y mynydd â phibellau mawr i gludo'r dŵr o Gowlyd ac o'r Eigiau i'r peirianwaith yn y dyffryn islaw.

Dros chwarter canrif yn ôl ceisiodd rhaeadr Dolgarrog ryddhad o'i chaethiwed. Torrodd argae'r llyn un noson o storom a rhuthrodd llifeiriant ofnadwy i lawr y llethrau serth gan ysgubo popeth a safai ar ei ffordd. Treiglodd greigiau anferth i lawr fel "marblis" a chladdwyd rhan o'r pentre bach yn y dyffryn o dan y llanastr. Er fod natur erbyn heddiw wedi cuddio'r creithiau llymaf â glesni, ac er fod y dyfroedd yn awr mewn tawel gaethiwed, eto erys ôl y llifeiriant yn yr agen ddofn a rwygwyd drwy'r creigiau. Wrth edrych ar y dinistr ar y pryd teimlwn fy mod yn canfod gwrthryfel yr hen lyn a'i dyfroedd yn erbyn ymyrraeth dyn.

Nodiadau

[golygu]