Dirwyn Edafedd/Yr Afon Fawr
| ← Rhagair | Dirwyn Edafedd gan Elizabeth Williams |
Tri Llyn → |
YR AFON FAWR
PAN oeddwn yn blentyn yn nhref Llanrwst, ar lan yr afon Gonwy, o dan enw arall yr adnabyddem yr afon. "Yr Afon Fawr" oedd i ni, a rheswm da paham, gan fod bywyd trigolion y dref yn dibynnu cymaint arni, a masnach y dyffryn yn symud ar ei hyd. Yng nghwrs y blynyddoedd newidiwyd perthynas yr hen afon â'r dref ac â'r dyffryn gan ddarganfyddiadau a diwydiannau newydd. Yn ôl pob arwydd bydd cyfnewidiadau mwy fyth yn y dyfodol, felly teimlaf ar fy nghalon i ysgrifennu amdani fel yr adwaenwn hi yn yr hen ddyddiau.
Yn nyddiau fy mhlentyndod "'R Afon Fawr" oedd yn wir; hi oedd nod pob afon fach, pob pistyll, pob rhaeadr a fyddai yn ymdywallt dros lethrau'r clogwyni. Edmygem y rhacadrau am eu harddwch, a'u berw, a'u miwsig, ac am eu cyfraniad at lawnder yr Afon Fawr. Mae'n wir y byddai rhai ohonynt, ar eu ffordd i'r afon, yn troi olwyn ffatri, megis Trefriw, neu hen ffatri wlân Ddolgarrog, ond heb gladdu'r dŵr o'n golwg. Ceid gweld y cafnau agored yn cludo llifeiriant o'r dŵr dros yr olwyn a'i fwrw yn ôl i'r rhaeadr-y cyfan yn harddwch i'r llygaid ac yn fiwsig i'r glust.
Gwelir heddiw argoelion y bydd i ofyniadau oes y peiriant a'r trydan gaethiwo llawer o'r rhaeadrau, a'r nentydd a'r pistyll, ac y bydd i lawer o'r dyfroedd a adwaenwn ac a garwn gael eu gorchuddio a'u hagru. Pwy heddiw fuasai'n credu mor hyfryd o hardd, o edrych ar ddarlun ohono gan mlynedd yn ôl, oedd Cwm Rhondda, gyda'r coed a'r glesni a'r dŵr grisialaidd? Felly, gadewch i mi sôn am yr hen Afon Fawr, ei hafonydd bach, ei rhaeadrau a'r llynnoedd yn y cefndir, rhag i mi feddwl am yr hyn a fydd.
I ni'r plant 'roedd tair afon yn Llanrwst yn bwysig—"'R Afon Fawr", "'R Afon Bach" ac "Afon Plas-Isa". Nid oedd dŵr yn nhai Llanrwst—os nad oedd ganddynt ffynnon. O'r Afon Fawr y ceid y dŵr gan drigolion y dref i bob pwrpas. A chan nad oedd dŵr yn y tai nid oedd y fath beth â bathroom hyd yn oed yn y tai mwyaf. Rhaid fyddai cario'r dŵr o'r afon. Cofiaf yn dda fel y byddai llu o ferched a phlant yn ennill ychydig geiniogau bob wythnos am gario dŵr i bobl y dref. Cofiaf hefyd hen frawd a adwaenid gan bawb fel Jac Wirion; er ei fod yn ddyn corffol a locsyn du o amgylch ei wyneb nid oedd ganddo fwy o synnwyr na phlentyn bach ac yr oedd yn ddiniwed fel baban. Cariai'r dŵr mewn dau biser mawr, un yn ei law a'r llall tan ei gesail.
Rhyw ddeugain mlynedd yn ôl pan ar dro yn Rennes yn Llydaw ac yn syllu ar res o ferched yn golchi dillad yn yr afon, synnais pam na fuasai merched Llanrwst, yn nyddiau fy mhlentyndod, wedi meddwl am gario'r dillad at y dŵr yn lle'r dŵr at y dillad—gwaith caletach o lawer.
'R oedd ein tŷ ni yn rhy bell o'r Afon Fawr i gario dŵr. Ar Afon Plas Isa y dibynnai Mam a'i chymdogion. Afon fechan oedd hon yn troelli heibio ochr y tŷ. O'r afon hon y câi Mam bob diferyn o ddŵr, i yfed ac i olchi, ac i gario'r golchion o'r tŷ. 'R oedd crwynfa y tu ôl i Blas Isa, at baratoi crwyn. Rhoddid y crwyn mewn pyllau mawr o ddŵr a chalch, ac o dro i dro gollyngid y dŵr o'r pyllau i afon fechan Plas Isa. Gellid dychmygu'r arogl ffiaidd a godai o'r afon, a chofio hefyd ei bod yn llifo heibio talcen y tai lle 'roedd ein cartref. 'Roedd golchi i deulu o naw yn orchwyl caled i Mam, ar ddŵr afon Plas Isa. Cofiaf y stŵr ar nos Sadwrn, a'r twb golchi mawr o flaen y tân a'r plant i gyd yn aros eu tro i gael scwrfa. Weithiau, ar dywydd poeth iawn, byddai'r afon yn sychu, a byddai'n rhaid cerdded, gwaith deng munud reit dda, i ffynnon yng Nghae Penloyn.
'Roedd afon arall yn ymdroelli trwy ganol y dref—"yr Afon Bach" (gwn mai afon fach sy'n gywir ond "afon bach" y'i gelwid gan bawb). Dilynai ei chwrs, weithiau o'r golwg tan y ffordd, weithiau yn yr agored. Nid oedd ond un man neu ddau lle'r oedd yn hawdd mynd ati—yn agos i'r fan lle y saif y llythyrdy heddiw, neu ar draws y ffordd ac i lawr grisiau cerrig. Ai tan y ffordd heibio cefn y tai a heibio "bragdy Mills". Yno y byddem yn chwarae ac yn slotian llawer wrth fynd a dod o'r ysgol, yn enwedig adeg y "slywod" (llyswennod), pan fyddai'r afon fechan yn ddu o'r creaduriaid bach. Byddai gan bob un ohonom bot jam llawn o ddŵr, a llinyn o gwmpas yr ymyl i wneud dolen gario. Gwneid math o gwpan o'n dwy law, a'r gamp oedd dal y "slywod" a'u rhoi yn y pot. Byddai'r llyswennod yn byrlymu yn eu miloedd yn y dŵr a chofiaf fel y byddent yn llithro fel sidan drwy'm bysedd. Yn y fan honno 'roedd gwely'r afon wedi ei balmantu â llechi mawr. Gan fod y llechi'n llyfn a thaeniad o lysnafedd arnynt byddai'n traed ambell dro yn llithro odanom—"dŵr yn yr afon a'r cerrig yn slip" fyddai yn wir! Ar ôl llanw'r pot jam fel nad oedd lle i'r un llysywen yn rhagor, byddwn yn ei gario'r holl ffordd adref a thywallt y cyfan i afon Plas Isa. Mae'n rhaid fy mod wedi drysu cynllun miloedd ar filoedd o lyswennod! Cofiaf fel y byddwn yn synnu mai nid i lawr tua'r Afon Fawr y nofiai'r pethau bychain, ond i fyny'r afon yn erbyn y llif.
Pan oeddwn yn blentyn gwyddwn am bedwar o'r rhaeadrau a lifai i'r Afon Fawr, ac yr oeddwn yn gyfarwydd â dau lyn. Y rhaeadr mwyaf cynefin i mi oedd yr un a elwid gennym "Pistyll Ffordd Scotch". Ei enw iawn oedd "Rhaeadr y Parc Mawr" ond ni wyddwn mo'r enw.
Pan fyddai Mam yn mynd â ni i Dy'n y Graig, i dŷ Nain yn yr haf, ar ôl mynd heibio i dŷ'r coedwigwr ("Tŷ White"—ond yn ddiweddarach "Nant Cottage") clywem sŵn y pistyll o'r ceunant. Nid oedd golwg ar y pistyll o'r ffordd oherwydd y coed mawr o'i gwmpas. Ai Mam â ni ar hyd llwybr ar ochr dde i'r ffordd, nes dod at res o goed ar ymyl y ceunant. Nid oedd y pistyll, o'i gymharu â rhaeadrau mawr eraill, yn llydan, ond 'roedd yn uchel iawn, tua chan trodfedd. Llifai'r afon o Nant-Bwlch-yr- Heyrn heibio cefn tŷ'r coedwigwr, o dan y ffordd a thrwy'r coed ac yna rhuthrai dros glogwyn o graig uchel yn rhimyn hir i'r ceunant cul, dwfn islaw. Ni flinwn syllu arni. Dotiwn weld cyfoeth ac amrywiaeth y rhedynau a dyfai yn y lleithder o bobtu'r ceunant. Codai math o niwl gwyn, gwlyb, o waelod y cwm. Gwelais ddwywaith, a dwywaith yn unig, olygfa nas anghofiais byth—yr haul yn tywynnu drwy'r niwl a'i droi'n llen o wawn main a phob lliw'r enfys yn gwau drwyddo. 'Roedd fel pe bai rhyw arlunydd mawr wedi lliwio'r ceunant, y pistyll a'r rhedynau; a'r cyfan yn ymddangos drwy'r gwawn.
Pan ddychwelais i Lanrwst ymhen blynyddoedd cefais fod enw newydd ar y pistyll—enw Saesneg erbyn hyn! "Grey Mare's Tail" oedd yr enw newydd. Ni wn pwy a'i bedyddiodd ag enw Saesneg ac ni ddefnyddiais erioed yr enw newydd. I mi "pistyll ffordd Scotch" yw, ac a fydd.
O dŷ Nain Ty'n Graig y bûm i weld llyn Geirionydd y tro cyntaf. 'Roeddwn yn eneth pur fach pan aeth Mam â ni un haf yn ôl ei harfer i edrych am Nain. Aeth â ni ymhellach i weld y llyn a cholofn Taliesin. (Dwedid mai'r Arglwydd Willoughby d'Eresby a gododd y gof-golofn).
Dyna'r olwg orau a gefais ar y gof-golofn. Ond cefais achos arall i gofio'r ymweliad, trwy i mi gael dolur gwddf pur ddrwg ar ôl bod. Mynnai Nain mai gwynt oer o'r llyn a achosodd yr aflwydd, ond beth bynnag am hynny bu'n rhaid imi wisgo gwlanen goch a saim gŵydd am fy ngwddf am beth amser.
Ar un adeg cynhelid Arwest bob blwyddyn wrth y gof-golofn. Ni wn pa bryd y sefydlwyd hi ond gwn i Bob fy mrawd fod yn aelod selog pan yn ifanc, ac yr oedd ganddo ffugenw. Gwilym Cowlyd fyddai'r prif arweinydd. Ni wy'n meddwl i neb fyw yn Nhy'n-y-Graig ar ôl i Nain farw. Bwthyn bach to gwellt oedd-dim ond cegin a siamber a phwt bychan o ardd. Er mai ym mhlwyf Llanrhychwyn yr oedd, eto 'roedd dwy filltir rhyngddo a phentre tlws Llanrhychwyn. I lawr i Drefriw yr âi Nain i'r capel—i lawr hen Allt yr Ysfa. Nid wyf yn meddwl imi erioed weld gallt mor hir ac mor serth, yn cychwyn o Lanrhychwyn ac i lawr y goriwaered serth i Drefriw. Ni fûm erioed yn cerdded i fyny'r allt—'roedd mynd i lawr yn ddigon; eto dyma'r ffordd y dringai Nain o'r capel bob Sul, haf a gaeaf. Cariai "gannwyll lanter" o dan ei siôl yn y gaeaf i oleuo tipyn ar y ffordd unig yn nhywyllwch y nos a'r coed. Yr adeg honno yr oedd llethrau'r bryniau i gyd wedi eu gwisgo â choed mawr. Ni chlywais sôn iddi erioed deimlo ofn; mae'n rhaid fod ei sêl yn gryfach na phob ofn.
Gyda llaw, geilw fy mrawd John, y diweddar Dr. Lloyd Williams yn y gyfrol gyntaf o'i Atgofion—yr hen allt yn "Allt yr Inco". Ond "gallt yr Ysfa" a glywais bob amser gan Nain. Pwy oedd yn iawn ni wn. Dwg yr enw "Gallt yr Inco" i'm cof ddigwyddiad cyffrous iawn a gymerodd le yr adeg honno, ym mhentref bach tawel Llanrhychwyn. Heb fod ymhell o ben yr allt 'roedd tyddyn bychan o'r enw "Penyrallt Inco". Yno y bywiai hen lanc, a Shani, morwyn mewn tipyn o oed i edrych ar ei ôl. Nid oedd yr hen lanc yn cyfathrachu llawer â'i gymdogion. Dywedid ei fod yn hen frawd gwybodus a darllengar iawn, ac yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb arall yn yr yn yr ardal.
Sylwodd rhai o'r pentrefwyr agosaf nad oeddynt wedi gweld Shani'r forwyn o gwmpas y lle ers tro byd. Dyfaler, beth allai fod wedi digwydd iddi, a gofynnwyd i'r hen lanc a oedd Shani'n sâl. Dwedodd yntau mai wedi mynd i ymweled â'i theulu tua Dinbych yr oedd, a hynny fu am y tro. Ymhen amser—a dim hanes o Shani'n dod yn ôl—anfonodd un o'r cymdogion at y teulu i Ddinbych i ofyn am hynt Shani. Cawsent yr ateb nad oeddent wedi clywed oddi wrthi ers amser maith, ac na wyddent ddim o'i hanes. Erbyn hyn 'roedd y stori'n ferw gwyllt trwy'r fro. Yr unig un nad oedd yn petruso dim, nac yn gwneud ymgais o gwbwl i gael allan lle yr oedd, oedd yr hen lanc. O'r diwedd, daeth y straeon i glustiau'r awdurdodau, a chymerwyd yr hen frawd i'r carchar ac yn y man i ymddangos mewn llys barn. Ond, ni chafwyd rhithyn o dystiolaeth i brofi dim yn ei erbyn, a gollyngwyd ef yn rhydd. Bywiodd am y gweddill o'i oes ar ei ben ei hun fel adyn ym Mhenyrallt Inco. Gwelais ef lawer gwaith yn dod i'r farchnad neu'r ffair yn Llanrwst. 'Roedd yn hen frawd tal a llydan o gorff. Gwisgai'n drwsiadus mewn côt ddu a het silc, ond byddai rhyw iâs yn dod drosom wrth iddo fynd heibio.
Cymerwyd ef yn glaf iawn un diwrnod, ac 'roedd yn amlwg nad oedd adferiad iddo. Bu llawer yn gobeithio y buasai'n taflu rhyw olau ar ddiflaniad Shani, ond beth bynnag a wyddai, aeth â'r gyfrinach gydag ef i'r bedd. Hyd y gwn i, ni chafodd neb wybod hyd y dydd heddiw beth a ddigwyddodd i Shani.
Ymhen blynyddoedd, a minnau erbyn hyn yn briod, aeth rhai ohonom am dro hyd y ffordd y byddai Mam yn mynd â ni at lyn Geirionydd. Ni welwn lawer o ramant yn y llyn, dim ond mynyddoedd moelion o'i gwmpas. Nid oedd fywyd yn y llyn; ni allai pysgod fyw yno ac felly nid oedd na chychod na physgotwyr; dim ond distawrwydd. Euthum heibio yr hen Dy'n-y-Graig, a thrist oedd gweld yr hen fwthyn lle y buom yn chwarae a mwynhau ein hunain flynyddoedd lawer yn ôl, erbyn hyn yn adfeilion. Meddyliais am Nain yn dringo'n selog i fyny'r allt serth, a'i channwyll lanter yn taflu golau adfeilion- gwan o'i chwmpas. Aethom i chwilota yn yr adfeilion am rywbeth bach i gofio am yr hen amser fu. Ond er chwilota ni chawsom ond un peth—dalen o hen Feibl Nain.