Dirwyn Edafedd/Yr Hen Gist Dderw
| ← Chwedlau Nain | Dirwyn Edafedd gan Elizabeth Williams |
Dau Hen Gloc → |
YR HEN GIST DDERW
SONIA John fy mrawd yn ei Atgofion am hen gist dderw Nain Tŷ Newydd a'r pleser a gafodd wrth ddarllen cynnwys y gist. Pan ymadawodd Nain o'r Tŷ Newydd anfonodd y gist i Nhad a Mam a chafodd William fy mrawd a minnau lawer gwledd, fel John gynt, wrth ddarllen y llyfrau ynddi. Ymysg llyfrau eraill yr oedd Taith y Pererin, Taith Christiana a'i Phlant a'r Rhyfel Ysbrydol.
Pan âi Nhad a Mam i'r capel nos Sul a gadael William a minnau i warchod Hugh ac Owen, y ddau blentyn ieuengaf, rhoddem y ddau yn eu gwely mor fuan ac y gallem ac agorem yr hen gist a thynnu allan y llyfrau, gan ddarllen yn uchel bob yn ail baragraff. Aethom drwy Taith y Pererin i gyd, a Thaith Christiana, ond ni chawsom gystal blas ar hwnnw. 'Roedd taith Cristion fel rhamant fawr inni. Y rhan a gafodd fwyaf o effaith arnaf oedd hanes Cristion yng Nglyn Cysgod Angau, a'r ymladdfa ofnadwy rhyngddo ag Apolyon. 'Roedd y darlun o'r glyn yn ddigon i godi arswyd ar unrhyw blentyn—Cristion yn cerdded ar hyd llwybr cul a gagendor mawr o bobtu'r llwybr; fflamau tân fel llenni o'i gwmpas; ellyllod a seirff gwenwynig yn gwibio drwy ei gilydd yn y fflamau, ac Apolyon ar ganol y llwybr cul. Bu'r darlun fel hunlle' imi am amser. Byddwn yn ffaelu cysgu'r nos wrth feddwl am yr olygfa a gofynnwn i mi fy hun a fyddai'n rhaid inni oll fynd trwy brofiad Cristion wrth gerdded y Glyn.
Ychydig o lenyddiaeth Gymraeg ddeniadol oedd yn ein cyrraedd ni pan yn blant. Nid oedd gennym ond y llyfrau a enwais, y Beibl a Thrysorfa'r Plant. Yr oeddem yn rhy ifanc i gymryd diddordeb yn y Gwyddoniadur. "Toedd ryfedd felly inni ddarllen cymaint o lyfrau Saesneg yn ddiweddarach. Cofiaf i John roi imi yn anrheg The Wide Wide World gan Ellen Montgomery. Bu darllen y llyfr fel agoriad i fyd mawr eang llenyddiaeth Saesneg imi. Erbyn imi gyrraedd fy 20 oed 'roeddwn wedi'm trwytho yn nofelau a llenyddiaeth Saesneg.
Rhaid cyfaddef mai ar y Cymry eu hunain 'roedd y bai am y diffyg mawr o lyfrau a storïau i blant a phobl ifanc. Credai Cymry blaenllaw a diwylliedig mai dysgu Saesneg oedd y peth mwyaf pwysig. Deallai a darllenai pawb Gymraeg yn rhwydd, ond trwy'r Saesneg 'roedd y ffordd i'r Brifysgol, ac i swyddi uchaf masnach a diwydiant. 'Roedd rhieni yr un mor awyddus i'r plant fod yn hyddysg yn yr iaith Saesneg; felly ni feddylient am yr angen am lyfrau Cymraeg o'r un safon â llyfrau Saesneg i blant ac ieuenctid. Gwnaethant gamsyniad dirfawr, ond ni ddaeth i'w meddwl y byddai Cymru rhyw ddydd yn brwydro'n galed rhag colli ei hiaith.
Nid oedd ychwaith gylchgronau i ferched a gwragedd fel y rhai Saesneg. Felly, ar ôl gadael dyddiau ysgol hawdd iawn oedd i ferched ddarllen mwyfwy o gylchgronau a llyfrau Saesneg.
Cyn dyddiau'r ysgolion "British" a "National", ceisiai gweithwyr cyffredin gael tipyn o ysgol i'w meibion, i ddysgu Saesneg iddynt. Cafodd Nhad flwyddyn o ysgol. Cedwid yr ysgol gan hen filwr ungoes, mewn bwthyn yn Llanddoget. Byddai dwsinau o ysgolion cyffelyb i fechgyn, yn cael eu cynnal gan hen filwyr ar hyd a lled y wlad. Crafai rhieni ddigon o'r ceiniogau prin i dalu am i fab ddysgu darllen, 'sgrifennu a rhifo yn Saesneg. Yn ein hamser ni, beth bynnag, iaith yr Ysgol Sul oedd y Gymraeg, ac iaith yr ysgol ddyddiol oedd y Saesneg. Felly 'roedd rhyw ymraniad cyffelyb yn y llenyddiaeth.
Bûm yn meddwl lawer tro y dylasai rhywun fod wedi trosi rhai o'r llyfrau Saesneg i'r plant. Yr un yw plant ymhob man, ac ymhob oes, gyda'r un mwynhad mewn storiau antur. Bu llawer o drosi i'r Gymraeg ar ganeuon Saesneg a byddai pawb yn eu mwynhau. Dyma un fyddai'n mynd yn dda bob amser ymhob cyngerdd yn ardal y Garn. "Aeth Pat i gloddio ffynnon". Dyma'r geiriau:
Aeth Pat i gloddio ffynnon
Yn gontract at rhyw dŷ;
Dywedaf ichwi'r hanes,
Yn union fel y bu.
'Rôl sincio ugain troedfedd,
Drwy lafur, chwys a phoen,
Ei gefn i gyd yn wayw
A'i ddwylaw'n bwrw'r croen.
Yna byddai'r canwr yn torri i siarad, "Och medda Pat, ma' 'nghefn i'n dost, ond rhaid gweithio, oblegid (gan droi i ganu),
'Does dim ond ugain dolar,
'Does dim ond ugain dolar,
'Does dim ond ugain dolar,
Am gloddio at y dŵr".
Ni chofiaf y gweddill o'r penillion ond byddai'r un patrwm o ganu a siarad. Wrth edrych yn ôl ymddengys imi fel pe bai Cymry'r adeg honno wedi dechrau colli gwybodaeth o'r stôr fawr o ganeuon digri a berthynai i ganu gwerin. Ar ôl Diwygiad 1859 ciliodd yr hen ganeuon digri i'r tafarnau, ac i'r llofft stabal, ac nid oeddent yn "weddus" mewn cyfarfod neu gyngerdd. Rhaid fyddai i destun cân mewn cyfarfod cystadleuol fod yn destun difrifol. Yn aml iawn, byddai'n emyn. Cofiaf Owen Roberts yn ennill y wobr mewn Eisteddfod yng Nghapel Penmount Pwllheli am ganu:
Galaru 'rwyf mewn anial dir,
Yn teithio i dŷ fy Nhad;
Ar ben y bryniau'n llawenhau,
Wrth weled cyrrau'r wlad.
'Rwy'n ddu fy lliw, a'm gwisg yn wen,
'Rwy'n llawen ac yn brudd;
'Rwy'n agos iawn, ac eto 'mhell,
'Rwy'n waeth, 'rwy'n well, bob dydd.
Ni chofiaf y dôn, ond cofiaf fod rhyw sŵn hiraethus ynddi.
Trosodd John lawer o ganeuon a chwaraeon i'r Gymraeg i gôr y Garn ac i blant yr ysgol. Gwnaeth William fath o copy multiplier. Gwnaeth yn gyntaf slab, tua'r hanner modfedd o drwch, o rywbeth a elwid yn Russian Glue, plaster paris a thipyn o gliserin, mewn tun rhostio, ac fel inc defnyddiai Judson's Aniline Dyes. Ceid 50 o gopïau da o'r Multiplier. 'Roedd gan John, hefyd, set fechan at brintio â llaw. Byddai'n ddefnyddiol iawn at brintio tocynnau. Un tro, rhag talu'r gost o brintio tocynnau ym Mhorthmadog i ddarlith gan D. M. Lewis o Fangor (yn ddiweddarach bu'n athro mewn Physics yn Aberystwyth) ar Sain, penderfynwyd printio â set John. Aeth y bechgyn ati i brintio pentwr o docynnau. Yn anffodus ni fu yr un ohonynt yn ddigon gofalus i edrych ar y tocynnau ar ôl y printio. Aeth y tocynnau allan a bu gwerthu da arnynt. Pan welodd John beth a brintiwyd 'roedd yn rhy hwyr i dynnu'r tocynnau yn ôl. Mae'n siwr i'r ddarlith fod yn siom fawr i lawer o fechgyn ifanc. Darlith "Ar Sian" oedd ar y tocynnau!
Nid oedd cynlluniwr tebyg i William. Byddai'n siwr o weld goleuni ymhob tywyllwch, ac yr oedd ganddo'r medr i greu celfi lle nad oeddent ar gael yn barod. Pan agorwyd Coleg y Brifysgol ym Mangor penderfynodd ymgeisio am un o'r ysgoloriaethau a gynigid yno. Golygai hyn waith caled iawn iddo. Byddai ei ddyletswydd fel athro cynorthwyol yn ysgol y Garn yn ei gadw'n llawn gwaith drwy'r dydd. Felly ni châi ond ychydig oriau ar ôl yr ysgol a dydd Sadwrn at astudio. Rhaid cofio na chawsai ddim ond addysg ysgol elfennol ac yr oedd llawer o destunau'r arholiad yn hollol ddieithr iddo. Cafodd anhawster mawr gyda'r "practical Chemistry", gan nad oedd mewn cyrraedd unrhyw laboratori i wneud arbrofion. Yn Nhŷ'r Ysgol 'roedd ystafell fechan ar ben y grisiau—y "llofft bach" fel y'i gelwid. Nid oedd gwely ynddi, dim ond bocsis a "llanast". Gadawodd John i'r bechgyn gael y llofft bach iddynt eu hunain ac aeth William ati ar unwaith i wneud gweithdy ohoni. Cafodd gan y saer i wneud silffoedd ar hyd un ochr i'r ystafell ac yno gosododd ei ffosils ('roedd yn ddaearegwr da iawn). Câi'r athrawon o'r ysgol ryddid i fynd i'r llofft bach fel y mynnent. Credwch fi, pan fyddent wrthi'n ceisio gwneud rhyw nwy neilltuol deuai arogl ffiaidd iawn o'r llofft bach. Ond ni chwynai neb o'r herwydd.
'Roeddent wedi ceisio gwneud nwy mewn potel lawer gwaith, a John yn eu rhybuddio'n bendant i fod yn ofalus nad âi awyr i'r botel.
Un gyda'r-nos aethant â'r celfi i'r ysgol er mwyn cael mwy o le ac aethant â lamp o'r tŷ i'w goleuo. 'Roedd George Law yn y busnes; soniais amdano yn Brethyn Cartref. 'Roedd George yn bur ddeheuig â'i ddwylaw gan mai watchmaker oedd o ran galwedigaeth. Ymhen ychydig clywsom sŵn yn dod o'r ysgol, fel pe bai ffrwydriad wedi cymryd lle. Toc, rhedodd George i'r tŷ a gwaeddodd yn y drws yn ei Gymraeg ysmala: "Wyt ti'n byw?" 'Roedd ei ddillad yn goch o'i gorun i'w sawdl, a'r corcyn, wrth saethu o'r botel, wedi gwneud twll crwn yng nghantel ei het. 'Roedd y botel a'r lamp, wrth gwrs, yn chwilfriw mân, ond trwy drugaredd ni anafwyd yr un ohonynt.
Gweithiai Nhad yn chwarel Ffestiniog y pryd hynny. Ar fore Llun byddai'n ofynnol iddo godi'n gynnar iawn a cherdded i Borthmadog i ddal trên y gweithwyr. Codai William ac âi i'w ddanfon ran o'r ffordd, yna cerddai'n araf yn ôl gan astudio ar hyd y ffordd. Un tro wrth gerdded trwy Dolbenmaen a cheisio dysgu gramadeg Lladin gwelodd ar frig uchaf Craig y Llan y tu ôl i'r eglwys, hen fuwch yn cnoi ei chil yn hapus. Meddyliodd William wrtho'i hun pa mor braf oedd bywyd y fuwch, heb orfod poeni am na Lladin na Groeg na dim arall!
Nid gwyddonydd yn unig oedd William. 'Roedd teimlad bardd ganddo a phan ddewisiai gallai ysgrifennu darlun mewn geiriau mor llawn o liwiau â darlun gan frwsh paent fy mrawd Hugh.
Pan oeddem ein dau, William a minnau, yn y Garn, ac yn agos iawn at ein gilydd, carem yr un pethau, yr un golygfeydd y wlad yn deffro o gwsg y gaeaf; aur yr eithin yn torri allan ar bob llaw; twmpathau o ddrain yn y caeau a'r gwrychoedd fel pe baent o dan eira; y blodau, pob un yn ei adeg, yn gwthio'u pennau allan, a'r gôg yn canu. Carem bob ffrwd ac afon, a phan fuom ynghyd am y tro diwethaf yn y Garn, teimlem, ein dau, rhyw dristwch wrth edrych ar y newid mewn cynifer o'r hen ddarluniau. 'Roedd gwaith mawr yn mynd ymlaen i garthu a thrwsio gwely'r hen afon Ddwyfor. Ar hyd y glannau 'roedd tomennydd mawr ac anolygus o gerrig a gro. 'Roedd yn amlwg y byddai llawer o ramant yr hen afon wedi ei golli am byth. 'Roedd wedi mynd yn fud. 'Roedd y cerrig a'r rhydau wedi eu clirio i gyd o wely'r afon, ac ni chlywem mwyach sŵn ei chanu wrth iddi brysuro drostynt gan geisio seibiant i ddiogi tipyn yn y llynnau ar ei ffordd i'r môr. Chwith oedd colli'r twrw a'r helynt a fyddai ganddi gynt wrth ffordd Tŷ Cerrig cyn cyrraedd ohoni y Llyn Coch, twrw a glywid o bell wrth iddi daro yn erbyn y meini, hen feini anferth a oedd yno er pan gychwynnodd ei gyrfa wedi cilio'r iâ mawr, ond yn awr yr oeddent yn falurion yn y tomennydd ar y glannau. Bellach, i ni ein dau, ymddangosai'r hen Ddwyfor yn fwy o gamlas nac o afon, a'r olwg arni, o'i chymharu â'r hyn a fyddai, yn peri inni feddwl am hen ddafad newydd ei chneifio.
Crwydrais ymhell iawn meddwch, o'r hen gist dderw. Wel do a naddo. Bu'r gist yn bwysicach i fywyd William a minnau nac i fywyd yr un o'r plant eraill, hyd yn oed John. Teimlem mai i ni ein dau y perthynai'n arbennig. Trwyddi buom yn dechrau anturio i fydoedd newydd gyda'n gilydd. Ni allaf feddwl amdani heb feddwl am William, ac wrth feddwl amdano hêd fy meddyliau'n syth i'r Garn, y Garn fel yr oedd yn y dyddiau pell, y Garn lle y gwelais ef am y tro olaf.
Agorais gaead yr hen gist a gwelsoch beth a ollyngais ohoni ar siawns. Dyma fi yn awr yn ei chau a'i chloi ac yn cadw'r allwedd.