Disgwyliaf o’r mynyddoedd draw

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Disgwyliaf o’r mynyddoedd draw yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)

Disgwyliaf o’r mynyddoedd draw:
ble daw im help ‘wyllysgar?
Yr Arglwydd, rhydd im gymorth gref,
hwn a wnaeth nef a daear.

Dy droed i lithro, ef nis gad,
a’th Geidwad fydd heb huno;
wele dy Geidwad, Israel lân,
heb hun na hepian arno.

Ar dy law ddehau mae dy Dduw,
yr Arglwydd yw dy Geidwad;
dy lygru ni chaiff haul y dydd,
a’r nos nid rhydd i’r lleuad.

Yr Iôn a’th geidw rhag pob drwg
a rhag pob cilwg anfad;
cei fynd a dyfod byth yn rhwydd:
yr Arglwydd fydd dy Geidwad.