Disgynned y sanctaidd dywalltiad
Gwedd
| ← Tyred, Ysbryd yr addewid | Disgynned y sanctaidd dywalltiad gan Edward Jones, Maes y Plwm |
Goleuni ac anfeidrol rym → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
273[1] Y Sanctaidd Dywalltiad.
98. 98. D.
1 DISGYNNED y sanctaidd dywalltiad,
A grymus eneiniad y nef,
A deled eneidiau esgeulus
Yn awr yn drallodus eu llef:
Boed nerthoedd yr Ysbryd yn gweithio,
A'i alwad yn deffro pob dyn:
Amlyger trwy'r byd dy ogoniant,
Er moliant i'th haeddiant dy Hun.
Edward Jones, Maes y Plwm
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 273, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930