Diwygwyr Cymru/Adolygu'r daith
| ← Sain yr udgorn | Diwygwyr Cymru gan Beriah Gwynfe Evans |
Toriad gwawr yng Nghymru → |
PENNOD VI.
ADOLYGU'R DAITH.
Dyma ni yn awr wedi cyrraedd at faen ffin amlwg yn hanes Ymneillduaeth; a chyn cychwyn ymlaen at y cyfnod nesaf, da fydd ini aros am funud, ac edrych yn ol ar y llwybr a deithiwyd eisoes, modd y gall ei brif nodweddion gael eu hargraffu yn ddyfnach ar y cof,—a rhag ein bod, wrth ganlyn y brif-ffordd, wedi anghofio sylwi ar ambell i fforch yn y ffordd honno sy'n haeddu ystyriaeth.
Gwelwn, ynte, fel y peth amlycaf yn yr holl daith, fod y Tudoriaid wedi torri iau Rhufain yn effeithiol, ac wedi taflu ymaith ei hawdurdod. Yr oedd hynny yn golygu nad oedd Eglwys Loegr mwyach yn cydnabod unrhyw awdurdod arni gan neb o'r tu allan i'w chymundeb ei hun. Yr oedd anibyniaeth Eglwys Loegr wedi cael ei ganlyn gan ledaeniad cyffredinol yr Ysgrythyrau yn iaith y bobl yn yr Eglwysi,— yn Saesneg yn Lloegr, yn Gymraeg yng Nghymru.
Yr oedd y Teyrn wedi cymeryd lle'r Pab fel Pen yr Eglwys. Yr oedd cysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth yn parhau, y llysoedd eglwysig yn ymyrryd â buddiannau gwladol, a'r llysoedd gwladol yn cosbi am droseddau eglwysig.
Yn y wlad rhennid crefyddwyr i ddau ddosbarth mawr, sef (1) y rhai a gydnabyddent, a (2) y rhai a wadent, hawl y Teyrn i fod yn Ben yr Eglwys. Ond rhennid y ddau hyn yn ddwy adran fawr ac yr oedd mwy o bellder rhwng yr adrannau yn yr un dosbarth nag oedd rhwng y ddau ddosbarth a'u gilydd. Gellir rhannu'r rhai a gydnabyddent y Teyrn yn Ben yr Eglwys i (a) y Protestaniaid Swyddogol a gefnogent Elizabeth yn ei pholisi eglwysig, a (b) y Protestaniaid Puritanaidd, y rhai, tra yn aros yn Eglwys Loegr, a anghytunent â'i defodau. Yn yr un modd gellir rhannu'r dosbarth arall i (c) y Pabyddion a fynnent symud y Teyrn o fod yn Ben yr Eglwys er mwyn gosod y Pab yn ol yn y swydd honno; a (d) yr Anghydffurfwyr oeddent yn, neu wedi, gwyro at Ymneillduaeth, ac na fynnent gydnabod neb ond Crist yn Ben yr Eglwys. Gwelir fod y Protestaniaid Swyddogol a'r Pabyddion yn perthyn yn nes i'w gilydd nag oedd y blaenaf a'r Puritaniaid na'r olaf a'r Ymneillduwyr. Yn wir, dau eithafbwynt mawr cyfundrefnau crefyddol yr oes honno oedd Pabyddiaeth ac Ymneillduaeth; a'r ddau bwynt agosaf at eu gilydd oedd Puritaniaeth yn yr Eglwys ac Ymneillduaeth o'r tu allan iddi.
Nid o'u bodd yr aeth neb ar y cyntaf yn Ymneillduwyr. Pan orfodwyd hwynt gan eu cydwybodau i fod yn Anghydffurfwyr, buont yn hir cyn mynd yn Ymneillduwyr. Y Puritaniaid mwyaf cydwybodol a wnaed ynghyntaf oll yn Anghydffurfwyr, a'r Anghydffurfwyr mwyaf gonest a chadarn a orfodwyd i fod yn Ymneillduwyr. Nodwedd fawr ac amlycaf cychwyniad Ymneillduaeth yn yr oes honno (yn nesaf at eu hawydd am burdeb a diwygiad mewn pethau crefyddol), oedd eu hawydd angherddol i gael aros o fewn cymundeb Eglwys Loegr. Yr oeddent yn foddlon aberthu popeth, ond cydwybod, er mwyn cael aros yn Eglwyswyr. Fel y sylwir eto pan ddown i ymdrin â chyfnod diweddarach, cafwyd ail adroddiad o'r un peth yn y ganrif nesaf pan drowyd allan y Ddwy Fil Clerigwyr o'r Eglwys; ac yn y ganrif ganlynnol pan orfodwyd John a Charles Wesley, George Whitefield, Rowlands Llangeitho, Williams Pantycelyn, a'u cydweithwyr, i droi eu cefnau ar yr Eglwys yn yr hon y dymunent gael aros.
Yn amser Elizabeth parhaodd llawer o'r Puritaniaid yn yr Eglwys. Anghytunent â llawer o bethau ynddi, ond arswydent rhag y syniad o fod yn euog o sism drwy fyned allan o honi. A chofier mai nid dynion ysgafn, yn cael eu troi gan bob awel dysgeidiaeth grefyddol, oedd y rhai hyn. Yr oedd y mwyafrif o honynt yn ddynion goleuedig, dysgedig, yn meddu argyhoeddiadau dyfnion, yn wyr o ddylanwad yn eu gwahanol feusydd, ac yn rhai a ddisgleirient yng nghylchoedd uchaf cymdeithas a dysgeidiaeth. Fe gofia'r darllenydd fod Penry ei hun wedi gwneud ei oreu i gael aros yn yr Eglwys, ac i'w gwella hithau oddi fewn iddi.[1]
Dylid cofio, hefyd, mai nid ychydig oedd nifer y rhai hyn. Mewn gwirionedd delid eu golygiadau gan fwyafrif o'r clerigwyr oeddent yn cydsynio ag egwyddor Protestaniaeth pan esgynnodd Elizabeth i'r orsedd. Buont o fewn ychydig i gario Confocasiwn gyda hwynt. Cymerodd dadl le ar y mater yn y Gymanfa Eglwysig yn 1562, a thybir oni bai i bleidlais yr absenolion gael eu cyfrif yn erbyn y Diwygwyr, y buasent wedi cario'r dydd yn y ddadl hanesyddol honno. Bu'r Eglwys Sefydledig y pryd hwnnw yn nes nag y bu erioed ond unwaith—wedyn, at ennill lle Eglwys Genedlaethol yng ngwir ystyr y gair. Ond collodd y cyfle. Gwysiwyd offeiriaid Llundain o flaen Canghellor yr Esgob, a gofynnwyd iddynt ddewis cydffurfiaeth llwyr â'r holl bethau a wrthwynebent, neu gael eu troi allan. Yr oedd cant o honynt yn bresennol. Arwyddodd 61 eu boddlonrwydd i gydffurfio, gan ddweyd gyda llaw eu bod yn gwneud hynny yn groes i'w hegwyddorion,— a dewisodd 37 yn hytrach aberthu eu bywiolaethau. Trowyd llu, heblaw y rhai hyn, allan am yr un rheswm. Rhwystrwyd eraill drachefn gan weision yr esgobion i bregethu hyd yn oed pan oedd y gynulleidfa yn yr eglwys yn barod i'w gwrando.
Naturiol gofyn, ynte, beth oedd y gwahaniaeth hanfodol rhwng y Puritaniaid Eglwysig hyn a'r Protestaniaid Swyddogol? Gellir crynhoi'r ateb i un frawddeg—Mynnai'r Protestaniaid Swyddogol gydffurfiaeth llwyr a digwestiwn â holl ddefodau'r Eglwys; hawliai'r Puritaniaid ryddid i ymgadw rhag cyflawni'r defodau nas gallent yn gydwybodol gydffurfio â hwynt.
A dyma gnewyllyn rhyddid crefyddol. Nid oedd y Puritaniaid hyn, cofier, hyd yn oed y goreuon yn eu plith, eto wedi dod i lawn oleuni rhyddid cydwybod, ac ni ddaeth eu holynwyr am genedlaethau. Ond yr oeddent ar ben y ffordd.
Trodd yr holl frwydr ar bwnc y gwisgoedd offeiriadol. Yr oedd, fel y dangosir yn y man, wahaniaethau eraill; ond trwy gytundeb anffurfiol y ddwy blaid, gwnaed y wisg offeiriadol yn faen prawf. Yr oedd y wisg, i'r ddwy blaid, yn arwydd allanol o egwyddor bwysig, a'r egwyddor, ac nid y wisg ynddi ei hun, oedd y cwestiwn mewn dadl. Golygai'r wisg urdd offeiriadol; golygai urdd offeiriadol gyfundrefn eglwysig mewn ffurf neillduol; golygai'r gyfundrefn honno Babyddiaeth ym mhopeth ond enw.
O hyn tyfodd allan y gwahaniaeth a aeth yn fwy-fwy o flwyddyn i flwyddyn; aeth y gagendor, oedd mor fychan nes bron bod yn anghanfyddadwy ar y dechreu, yn lletach-letach o'r naill oes i'r llall—nes erbyn heddyw nis gellir gwneud pont digon hir i'w chroesi.
Beth, ynte, oedd daliadau'r Puritaniaid? Nodaf yn syml y pethau yr oeddent yn foddlon iddynt, a'r pethau yr anghytunent â hwynt, ac a wrthwynebent,—ond a ystyrrid yn hanfodol gan yr Eglwyswyr Swyddogol.
Yr oeddent yn foddlon i gyfundrefn esgobaethol;—ond dymunent gyfyngu swydd yr esgob i fod yn llywydd cymanfa henuriaid neu glerigwyr ei esgobaeth.
Boddlonent i ffurf o weddiau, yn wir yn ymarferol i'r oll o'r Llyfr Gweddi Gyffredin;—ond dymunent gael hawl i aralleirio ambell frawddeg, ac i offrymu gweddiau o'u heiddynt eu hunain, un o flaen a'r llall ar ol y bregeth.[2] Boddlonent i'r rhai a fynnent arfer y gwisgoedd; ond dymunent gael rhyddid i beidio eu gwisgo os dewisid hynny. Boddlonent i'r homiliau argraffedig; ond dadleuent na ddylai neb bregethu os na fedrai gyfansoddi ei bregethau ei hun.
Gresynnent amddifadrwydd disgyblaeth yn yr Eglwys, a'r ffaith fod pob math o gymeriadau yn cael agoshau at Fwrdd yr Arglwydd.
Gwrthwynebent hawl llysoedd eglwysig i gosbi dyn yn ei berson na'i amgylchiadau; gwrthwynebent amlhad swyddi a theitlau yn yr Eglwys, megys deon, archddiacon, &c., fel yn anysgrythyrol. Gwrthwynebent rhai o'r defodau claddu a phriodi; gwrthwynebent ddefnyddio'r fodrwy mewn priodas; gwrthwynebent wneud arwydd y groes mewn bedydd; gwrthwynebent y ddefod o benodi tad a mam bedydd, ac yn arbennig Canon 29 a ddarparai "Na ddylid gwasgu ar yr un rhiant i fod yn bresennol ym medydd ei blentyn, ac na ddylid caniatau i'r un rhiant fod yn dad neu fam bedydd i'w plant eu hunain." Dalient hwy mai'r rhieni, ac nid dieithriaid, a ddylent gyflwyno'r plentyn i'r Arglwydd drwy arwydd y bedydd.[3] Gwrthwynebent yr arferiad o gonffirmio plant cyn fod y plant yn ddigon hen i ddeall beth oeddent yn ei wneuthur;[4] yr arferiad o benlinio wrth Fwrdd yr Arglwydd; a'r arferiad o ymgrymu, neu blygu pen, pan enwir enw'r Iesu.
Delid y golygiadau hyn gan lawer na fynnent droi eu cefn ar Eglwys Loegr, ac a arosasant yn hir yn ei chymundeb wedi'r adeg y plannwyd Ymneillduaeth yn y tir. Ond yr oedd rhai, . hyd yn oed y pryd hwnnw, a aent ymhellach na hyn, ac na fynnent gydffurfio o gwbl. Daeth y teimlad hwn i'r golwg yn nyddiau erledigaeth Mari. Sylwyd eisoes (tud. 25) fod y rhai a ffoisant y pryd hwnnw i'r Cyfandir wedi ymffurfio yn eglwys—ac mai honno a blannwyd gan Saeson mewn gwlad estronol oedd cychwyniad Eglwysi Ymneillduol Lloegr. Ond nid oeddent yn unfryd unfarn parthed y dull o addoli. Mynnai rhai gymeryd Llyfr Gweddi Edward VI. fel ffurf o wasanaeth; tra eraill, yn meddu argyhoeddiadau cryfach, a fynnent droi ymaith yn llwyr oddiwrth arferion a fuont gynt yn gysylltiedig â Phabyddiaeth. Yr olaf drechodd ar y dechreu, a mabwysiadwyd ffurf wasanaeth Eglwys Ddiwygiedig Geneva. Ond pan ddaeth Dr. Cox, a wnaed wedi hynny yn Esgob Ely, gyda nifer o ffoaduriaid eraill o Loegr i Frankfort, a hwythau yn dal yn gadarn wrth Lyfr Gweddi Edward, cymerodd rhwyg le. ildiwyd Eglwys Ymneillduol Frankfort i Dr. Cox a'i ddilynwyr, ac aeth y lleill i Geneva, lle y sefydlwyd Eglwys Seisnig arall.
Gwelir felly fod gwahaniaeth barn yn bodoli ymhlith yr Ymneillduwyr cyntaf, ar bynciau a ddaethant wedi hynny i gael eu hystyried yn hanfodol, ac a fuont yn achlysur, mewn cyfnod diweddarach, i wahanu adrannau o'r Ymneillduwyr oddiwrth eu gilydd.
Gwahaniaethent nid yn unig ar gwestiwn o ddefodaeth ac ar bynciau o athrawiaeth, ond hefyd yn eu syniadau am y cysylltiad a ddylai fodoli rhwng crefydd a gwleidyddiaeth. Dylid cofio, er mwyn deall hyn yn glir, fod y Llys (hyny yw y Llywodraeth) a'r Esgobion, neu mewn geiriau eraill yr awdurdod Gwladwriaethol a'r awdurdod Eglwysig, bob amser yn y cyfnod dan sylw, yn myned law yn llaw. Prin y gellid gwahaniaethu rhyngddynt gan mor gymlhethedig yr oeddent. Nis gellid ymosod ar y naill heb niweidio y llall. Ceisiodd Penry wahaniaethu rhyngddynt, fel y gwelir yn amlwg yn ei lythyrau. Tra yn melldithio'r Esgobaethwyr yn eu polisi Eglwysig, gweddiai am bob bendith ar Elizabeth fel Pen y Wladwriaeth. Ond methodd Penry—ac am fod Elizabeth, yn ei chalon, yn cysylltu ei grefydd ef â syniadau gwleidyddol a dybiai hi oeddynt yn niweidiol i'r Orsedd, y cafodd ef ei ferthyru.[5]
Gwelir y gwahaniaeth hyn yn amlwg yn y tri gwr a gynrychiolent Anghydffurfiaeth y Cyfandir, yr Ysgotland, a Lloegr. Ni fynnai John Calfin gysylltu ei hun â gwleidyddiaeth o gwbl. I John Knox yr oedd gwleidyddiaeth megis anadl ei ffroenau, yn hanfodol i'w fudiadau crefyddol. Ceisiai John Cartwright, drachefn, gadw llwybr canol rhwng Calfin ar y naill law a Knox ar y llall—a methodd. Ceid y tri dosbarth yn Lloegr yn nyddiau Penry ac yn nyddiau Baxter, ond gwthiodd grym amgylchiadau yn raddol ond yn sicr ddosbarth Calfin i ddosbarth Cartwright, a dosbarth Cartwright drachefn i ddosbarth Knox, fel y daeth yr Ymneillduwyr i haeddu yn ogystal ag i wisgo y teit! o "Political Dissenters"—"Ymneillduwyr Politicaidd.[6] "
Yn raddol y dadblygodd syniadau Ymneillduol o'r syniadau Puritanaidd, megis mai yn raddol y blagurodd Protestaniaeth i fod yn Buritaniaeth. Ond yr un hedyn oedd wedi cynyrchu'r oll, Protestaniaeth, Puritaniaeth, Anghydffurfiaeth, ac Ymneillduaeth,—sef astudiaeth o Air Duw. Ni chanfyddodd y Tadau cyntaf holl ddysgeidiaeth hwn—nid ar unwaith ond yn raddol y daeth y datguddiad am hawliau a chyfrifoldeb dyn. Pan unwaith y proffeswyd mai'r Beibl sydd i fod yn rheol bywyd ac ymarweddiad y Cristion, canlynnai'r holl ddadblygiadau eraill o angenrheidrwydd.
Rhaid edrych felly ar Ddiwygwyr yr oes honno fel yn sefyll mewn mannau gwahanol ar yr un ffordd fawr lydan, rhai yn nes ymlaen na'u gilydd, ond oll yn teithio tua'r un cyfeiriad. Danghoswyd eisoes beth oedd prif ddaliadau'r Puritaniaid yn yr Eglwys. Ar y sylfaen honno y codwyd adeilad mawr a godidog Ymneillduaeth ein dyddiau ni. Ond bob yn garreg y codwyd yr adeilad, ac nid ar unwaith. Felly cawn Cartwright yn hawlio awdurdod ysbrydol i'r Eglwys, ac nid i'r Teyrn—yn hollol fel yr hawliai Harri ac Elizabeth yr awdurdod i'r Teyrn ac nid i'r Pab. Gwerinwr oedd Cartwright yn ei syniadau. Eglwysig, canys mynnai ddal fod yr Henuriaid (neu'r Offeiriaid) yn y Gymanfa Eglwysig yn meddu yn hollol yr un hawl a'r Esgob. Gosodai Penry awdurdod Crist yn ei Air uwchlaw pob awdurdod dynol, gan herio hyd yn oed y Teyrn yn y mater hwnnw.[7] Am Brown—ar enw yr hwn yr enwyd Ymneillduwyr dyddiau Elizabeth—daliai efe gyda Cartwright mai yn yr eglwys y gorffwysai'r awdurdod mewn pethau crefyddol. Ond äi ymhellach na Cartwright, drwy ddweyd mai'r gynulleidfa ac nid yr Offeiriaid, a gyfansoddent yr Eglwys—a dyma sylfaen Cynulleidfaoliaeth. Ni chydnabyddai awdurdod nac Esgob, na Synod, na Chymanfa, na Chynhadledd, na Phresbyter, na neb oddiallan i'r Eglwys, sef y gynulleidfa—a dyma sylfaen Anibyniaeth. Nid oedd yr offeiriadaeth i fod yn Urdd ar wahan; llais y gynulleidfa a roddai hawl i ddyn bregethu ac i weinyddu yr ordinhadau; a gallai'r gynulleidfa yr un modd gymeryd yr hawl honno oddiarno. Eto cul, rhagfarnllyd, eithafol, ac ansicr fel arweinydd, y profodd Brown ei hun. Eithr saif ei egwyddorion am hanfod Eglwys Gristionogol hyd y dydd hwn.
Cawn yr amlygiad ffurfiol cyntaf o Ymneillduaeth mewn penderfyniad y cytunwyd arno gan nifer o'r clerigwyr a drowyd allan gan Elizabeth.[8] Gosodir dyddiad yr Eglwys Ymneillduol gyntaf gan rai yn 1567. Cyfarfyddai oddeutu cant o bersonau i gydaddoli yn y Plumbers' Hall yn Llundain; gwysiwyd deg ohonynt, yn cynwys tri phregethwr, o flaen yr Esgob, a charcharwyd hwynt. Ond prin y gellir cyfrif hon yn Eglwys; mwy priodol, efallai, yw eu hystyried yn un o'r amrywiol gynulleidfaoedd anghydffurfiol a gyfarfyddent a'u gilydd yn ddirgel er adeg erlidiau Mari. Ond ceir Eglwys Ymneillduol ddigamsyniol yn 1572, yn ethol ei swyddogion ei hun, yn cyfarfod yn rheolaidd, ac yn gweinyddu yr ordinhadau yn gyson. Dyma Eglwys Wandsworth, a elwir weithiau yn "Bresbyteraidd" a phrydiau eraill yn "Anibynnol."[9] Dyma'r Eglwys a fynnai ugain mlynedd wedyn i John Penry fod yn weinidog iddi—ond ni fynnai Cartwright[10] nac eraill o'r Puritaniaid[11] ar y cyntaf wneud dim â hwynt. Yn yr haf cyfarfyddai'r Eglwys hon yn y meusydd y tuallan i Lundain, lle yr eisteddent ar y ddaear tra yr esboniai un o honynt ran o Air Duw. Yn y gauaf ymgynhullent am bump o'r gloch y boreu i'r tŷ-cwrdd, ac arhosent yno ynghymdeithas eu gilydd drwy'r dydd Sabbath, gan weddio ac egluro'r Ysgrythyrau. Cyd-gyniawent, ac yna gwnaent gasgliad i gyfarfod a'r treuliau, ac unrhyw arian a fyddai dros ben, a gyflwynid ganddynt at weinyddu i reidiau eu brodyr a garcherid am eu crefydd. Mewn hen lawysgrif o'r cyfnod hwnw,[12] darlunir hwy yn gweddio "Gweddia un, tra'r lleill yn gruddfan, neu ocheneidio, fel pe am dynnu dagrau;—ond nid ydynt yn adrodd y weddi ar ol y gweddiwr." Dywedir wrthym gan un o'r aelodau pa fodd y gweinyddid yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd yn eu plith.Baker's MSS. "Gosodid pum torth, neu ychwaneg, ar y bwrdd. Torrai'r bugail y bara, ac a'i rhoddai i'r diaconiaid, y rhai a'i hestynnent i'r lleill, tra rhai yn eistedd, eraill yn sefyll, o amgylch y bwrdd. Rhoddai'r gweinidog y cwpan i un, estynnai hwnnw i arall, nes y byddai pawb wedi yfed, gan ddef— nyddio'r geiriau a geir yn y 1 Cor. xi. 24. Cyfrannai pawb yn ol eu gallu; ac wedi gorffen y casgliad, rhoddid yr arian yngofal y diaconiaid, y rhai a'i rhannent ymhlith y cyfryw aelodau o'r gynulleidfa a farnai'r swyddogion oeddent mewn angen." Mor debyg, onide, i'r hyn a welir eto ymhen tair canrif a haner wedi ysgrifennu hyn!
Dyna darddle Ymneillduaeth. Dichon y tybia'r darllenydd fod llawer o wrthwynebiad y Tadau hyn i ddefodaeth Eglwysig yn blentynaidd. Ond ni fynnent oddef un rhith Pabyddiaeth—a da fyddai i Eglwys Loegr pe tae ysbryd y tadau hyn wedi ei llywodraethu hyd heddyw. Credai y rhai hyn—a Cromwell ac eraill ar ei ol gyda hwynt—fod arfer defodau Pabyddol yn tueddu i arwain y bobl oddiwrth burdeb Protestaniaeth. A oeddent yn iawn? Atebed hanes Eglwys Loegr,—a'r orymdaith fawr ddiddiwedd o urddasolion mewn gwaed, cyfoeth, safle, a dysgeidiaeth, o Siarl I. hyd yr Ardalydd Bute, sydd wedi gadael Eglwys Loegr gan geisio derbyniad drachefn i gorlan Eglwys Rufain.
SYLW.—Yr ydwyf wedi manylu i raddau yn y penodau hyn, am fod rhy fach o bwys yn cael ei roddi yn gyffredin ar y cyfnod hwn yn hanes Dadblygiad Ymneillduaeth. Gwelir fod egwyddorion hanfodol Ymneillduaeth wedi gwreiddio yn ddwfn yng nghalonnau dynion goreu'r Diwygiad Protestanaidd o ddyddiau Harri VIII. Nid oedd y 2,000 a drowyd allan gan Ddeddf Unffurfiaeth Siarl II., yn 1662, ond yn unig yn efelychu cydwybodolrwydd eu blaenafiaid gan mlynedd cyn lynny.—B. G. E.
Nodiadau
- ↑ Gwel tudal. 46.
- ↑ Cydmarer hyn a'r arferiad sydd yn ffynnu hyd heddyw ymhlith Ymneillduwyr Lloegr hyd yn oed Eglwysi rhai o'r Anibynnwyr mwyaf cadarn yn eu Hymneillduaeth.
- ↑ Y fydwraig sy'n aml heddyw'n cyflwyno plant Ymneillduwyr yn y bedydd; ac mewn rhai mannau ni fydd y tad byth yn bresennol yn yr ordinhad. Yr wyf yn cofio fy nhad yn creu cryn gyffro wrth fedyddio plentyn, trwy iddo wrthod derbyn y bychan o law'r fydwraig. Gwnaeth i honno roi'r plentyn yn ol i'r fam, y fam i roi'r plentyn i'r tad, a'r tad i'w estyn i'w freichiau yntau, cyn y cyflawnai'r ordinhad.
- ↑ Yr oedd hyn yn gyson ag egwyddor y Bedyddwyr.
- ↑ Gellir sylwi yma fod syniadau Calvin wedi trwytho Puritaniaid Lloegr. Tybiai'r Protestaniaid swyddogol ar y llaw arall fod Calfiniaeth, yn ei hanfod, yn elyniaethol i fuddiannau Eglwys Loegr.Eithr nid hyn oedd y rheswm a gynhyrfai Whitgift i'w symud o'r ffordd.
- ↑ Myn hanes ail-adrodd ei hun. Gwelir yr un dylanwadau yn hollol yn gorfodi y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru, a'r Methodistiaid Wesleyaidd yn Lloegr, i adael yr hen lwybrau a fynnai John Elias a John Wesley (er nad Howell Harris) eu cerdded. Erbyn heddyw mae'r ddau enwad a fynnent gynt olchi eu dwylaw oddiwrth wleidyddiaeth, ymron, os nad yn gwbl, gymaint "Political Dissenters" a'r "Hen" Ymneillduwyr, yr Anibynwyr a'r Bedyddwyr.
- ↑ "Touching Reformed Churches. We are to walk by the line of the Word, and not after the judgments of men. The case is marvellous strange that we, having the written Word of God at home, and the things accused by the same to be out of order present before our eyes, shall run from the Word and from common sense, so far also from home, to ask the judgments of men in that case which, on the one side, they know not aright, and therefore cannot pronounce an equal sentence thereof; yea, when their judgments are gotten, there is no more had but conclusions of men. Her Majesty's authority I acknowledge, but it doth no whit infringe her royal power and authority to deny that she hath any warrant, any power, any sword, granted her of God, to establish either false religion, false and antichristian ordinances, or yet any other unwarrantable or unjust constitution."
- ↑ Wele rydd-gyfieithiad ohono:—"Yn gymaint ag nas gallwn gael Gair Duw wedi ei bregethu, na'r Ordinhadau wedi eu gweinyddu heb ddodrefn eilunaddolgar, cytunwn i gyfarfod a'n gilydd pan geir cyfle, mewn tai preifat neu leoedd ereill, i addoli Duw yn ol ein cydwybodau : a chan ein bod wedi cael ein torri ymaith oddiwrth yr Eglwys, ein bod yn gosod i fyny yr hyn a dybiwn y dull mwyaf pur o addoliad, gan roi o'r neilldu Ffurf-wasanaeth yr Eglwys, a'r Llyfr Gweddi."
- ↑ Dyddorol yw gwybod fod capel yr Anibynwyr yn awr yn sefyll ar y llecyn lle cyfarfyddodd yr eglwys forcuol hon.
- ↑ Harleian MSS. Vol. 7581. Art. 3.
- ↑ The Donatists of England, 1590.
- ↑ Certain Wicked Sects and Opinions, 1588 and 89, Anno 31, Elizabeth.