Diwygwyr Cymru/Brwydr rhyddid i'r athraw a'r pregethwr
| ← Y diwygiad yng ngoleuni llawysgrifau Trefecca | Diwygwyr Cymru gan Beriah Gwynfe Evans |
Y dechreu a'r diwedd → |
PENNOD XXIII.
BRWYDR RHYDDID I'R ATHRAW A'R PREGETHWR.
Tra roedd y Diwygwyr, fel hyn, yn deffroi cydwybod gre fyddol y genedl, nid anghofiodd adran bwysig o honynt eu hawliau a'u rhwymedigaethau gwladol. Yr oedd Deddf Goddefiad wedi gwneud addoli Duw o'r tu allan i Eglwys y Plwyf, yn beth posibl, o dan amodau neillduol, a chymharol rwydd. Manteisiodd yr Ymneillduwyr yn dra chyffredin ar ddarpariadau'r ddeddf. Ond yr oedd y Methodistiaid, Wesleyaidd a Chalfinaidd, mewn sefyllfa dra gwahanol. Ni fynnai'r adran Eglwysig o honynt gydnabod eu hunain yn Ymneillduwyr, ac felly nis gallent fanteisio ar y ddeddf a amddiffynnai y rhai hynny. Ni fynnent apelio am drwyddedau fel Ymneillduwyr ac ni chaent drwyddedau ond fel Ymneillduwyr. Y canlyniad oedd, y gellid eu herlid hwy, aflonyddu ar eu cyfarfodydd, ac hyd yn oed beryglu eu personau, difetha eu heiddo, a niweidio eu capeli, yn fwy eofn a diberygl nag y gallesid gwneud i'r Anibynwyr neu'r Bedyddwyr. Cyfrifa hyn am y ffaith fod llawer o'r "Methodistiaid" boreuol wedi dioddef mwy o erlid na'r Ymneillduwyr yn yr un cyfnod. Yr oedd y blaenaf o'r tu allan, a'r olaf o'r tu fewn, i amddiffyniad y gyfraith. Cliria'r ffaith syml hon, ynddi ei hun, lawer o gam-argraffiadau am y Methodistiaid, ac amgylchiadau eu gwaith boreuol. Ceisiodd amryw o'u pregethwyr drwydded Esgob i bregethu; cynygid trwydded iddynt os desgrifient eu hunain yn Ymneillduwyr; gwrthodent wneud hynny—a gwrthodwyd y trwyddedau iddynt. Amcan cydnabyddedig yr Esgobion yn hyn oll, oedd gorfodi'r "Methodistiaid" yn Lloegr a Chymru, fynd allan o'r Eglwys. Mae hyn mor wir am ganlynwyr Wesley ag am ganlynwyr Whitefield—a dioddefodd y ddau ddosbarth lawer iawn mewn canlyniad.
Gan wybod fod y gyfraith yn eu hamddiffyn, tra eu gelynion yn awyddus i barhau erlidiau'r dyddiau gynt, penderfynnodd Ymneillduwyr y deyrnas ymffurfio yn gymdeithas arbennig i wylio eu buddiannau dinesig. Felly, ffurfiwyd y corff a adwaenid fel Y Dirprwywyr Ymneillduol (The Dissenting Deputies). Llundain oedd y pencadlys, ond yr oedd canghennau, a swyddogion gohebol, ymhob rhan o Gymru a Lloegr. Yn 1736—adeg cychwyniad y deffroad crefyddol—penderfynnwyd gael etholiad blynyddol gan yr eglwysi o "ddirprwywyr i ofalu am fuddiannau dinesig Ymneillduwyr." Amcan blaenaf sefydliad y corff newydd, oedd sicrhau dilead Deddf y Corfforiaethau, a Deddf y Prawflwon; ond cafwyd yn fuan fod llawer o waith iddynt amddiffyn yr hawliau oedd y gyfraith eisoes wedi roi iddynt, ond a geisiai eu gelynion gadw oddiwrthynt. Nodaf ychydig engreifftiau, arwyddocaol o'r modd yr ymladdodd y Dirprwywyr dros iawnderau'r Ymneillduwyr.
Gofynnai Deddf y Corfforiaethau i ddyn fynychu'r Eglwys Wladol, a chymeryd y Sacrament yno, fel amod swydd. Er mwyn gwrthdystio yn erbyn y ddeddf hon, gwrthododd rhai Ymneillduwyr a benodid yn Siryddion ac Henuriaid, wasanaethu'r swyddi hynny, gan nas gallent, yn gyson â'u hegwyddorion, fynychu'r Eglwys. Gwelodd rhai Corfforiaethau—Cyngor Dinas Llundain, er engraifft—eu mantais. Pasiwyd ganddynt ddeddfau yn gosod dirwy drom ar y neb a wrthodai wasanaethu swydd i'r hon yr etholid ef yn rheolaidd. Felly yr oedd Ymneillduwr a benodid i swydd dan orfodiaeth, naill ai
(a) I wadu ei egwyddorion fel Ymneillduwr, a mynd i'r Eglwys; neu
(b) I golli hawl dinesydd, a thalu dirwy drom am ei Ymneillduaeth. Dewisoddd llawer yr olaf. Penodai'r Corfforiaethau Ymneillduwyr er mwyn eu dirwyo. Cododd Corfforiaeth Llundain £15,000 mewn dirwyon felly, a chyflwynwyd yr arian i adeiladu Neuadd y Ddinas (Mansion House) newydd. Ymgymerodd y Dirprwywyr Ymneillduol ag ymladd yr achos. Cariwyd ef o lys i lys, ac o'r diwedd yn Nhy'r Arglwyddi, cafwyd dyfarniad yn ffafr yr Ymneillduwyr—ei bod yn anghyfreithlon eu dirwyo hwy am wrthod gwasanaethu swydd a osodai dreth ar eu cydwybod.
Yn Sir Drefaldwyn, gwrthododd yr Ustusiaid roi trwydded i gapel yr Anibynwyr. Cymerodd y Dirprwywyr y mater mewn llaw. Aed a'r achos ganddynt at y Twrnai Cyffredinol. Danfonodd yntau genadwri at Ustusiaid Maldwyn nas gallent wrthod—a gorfu iddynt ei roi.
Mewn amgylchiad arall, ymosodwyd ar addolwyr a wrandawent bregethwr Methodist, mewn ty heb ei drwyddedu; a niweidiwyd amryw bersonau, a gwnaed colled ar eiddo. Gwysiwyd yr ymosodwyr gan y Methodistiaid lleol. Tafodd y Grand Jury yr achos allan, gan nad oedd trwydded i'r ty na'r pregethwr. Yna gwysiodd yr ymosodwyr y Methodistiaid am gynnal cyfarfod anghyfreithlon! Nis gallai'r Dirprwywyr ymyrryd yn yr achos hwn, gan y gwrthodai'r Methodistiaid godi trwydded.
Ceisiwyd ymddwyn yn gyffelyb at Lewis Rees, Llanbrynmair. Yr oedd Lewis Rees yn "Fethodist" selog a gweithgar, a thybid y gellid ei erlid ef yn ddiberygl. Ymosodwyd arno yn Sir Drefaldwyn. Ond heblaw bod yn "Fethodist," yr oedd Lewis Rees yn weinidog gyda'r Anibynwyr,—ac yn drwyddedig fel y cyfryw. Cymerodd y Dirprwywyr ei achos mewn llaw, a buan y gwelodd yr erlidwyr nas gellid yn ddiberygl ymosod ar "Fethodist" o Anibynnwr.
Yn Tregoy atafaelwyd ar eiddo Ymneillduwr dan Ddeddf y Cyrddau. Cymerwyd y mater i fyny; gorfodwyd yr ustus a arwyddodd y papur, i dalu holl gostau'r achos, i dalu i'r Ymneillduwr lawn gwerth yr eiddo a atafaelwyd, ac i ddychwelyd iddo yr hyn oedd heb ei werthu.
Ceisiwyd erlid Caleb Evans, y Bedyddiwr, yn Llys yr Esgob, yn 1739, am gadw ysgol yn Pontypwl. Pan welodd yr awdurdodau Eglwysig fod y Dirprwywyr yn mynd i ymladd yr achos, gadawsant i'r peth syrthio i'r llawr.
Ceisiodd clerigwyr godi tâl ar Ymneillduwyr am briodasau a weinyddid mewn plwyfi eraill, ac am gladdu ym mynwent y capel. Amddiffynnwyd yr achosion, ac enillwyd y gyfraith. Mewn un amgylchiad gwrthododd offeiriad briodi pâr ieuanc, am mai Bedyddwyr oedd eu rhieni. Aethant i blwyf arall i'w priodi. Pan ddaethant adref, hawliodd yr offeiriad ei dâl am seremoni a wrthododd gyflawni! Gwrthodwyd talu. Aeth a'r achos i Lys yr Esgob,—ond pan gymerodd y Dirprwywyr y mater i fyny, tynnodd yn ol.
Yng Nghaerfyrddin (1749), Meirion (1763), a Threfaldwyn (1764), erlynnwyd gweinidogion Anibynnol am fedyddio plant eu haelodau, a cheisiodd yr offeiriad godi tâl ar y rhieni am y bedydd. Cymerodd y Dirprwywyr y mater mewn llaw; enillwyd y gyfraith—ac mewn rhai amgylchiadau gorfodwyd yr offeiriad i dalu'r costau.
Yn Sir Fon ymosodwyd ar weinidog Ymneillduol tra yn bedyddio, yn 1783; yn Beaumaris ar un arall yn 1785; ac yn Llanfyllin yn 1787. Cymerodd y Dirprwywyr y mater i fyny, a da oedd gan yr ymosodwyr ymostwng a derbyn eu telerau.
Ym Maesyfed (1743), Môn (1763), Meirion (1770), Brycheiniog (1791), Gwrecsam (1798), gwrthododd yr Ustusiaid roi trwyddedau naill ai i gapeli neu i bregethwyr yr Ymneillduwyr. Cymerodd y Dirprwywyr yr achosion i fyny, a gorfodwyd yr Ustusiaid i gydffurfio â'r gyfraith.
Yn Llanfigan yn 1764, gwrthododd yr offeiriad gladdu plentyn, am mai gweinidog Ymneillduol a'i bedyddiodd. Gorfodwyd ef i wneud ymddiheurad i'r rhieni.
Gwelir wrth yr engreifftiau uchod, mor angenrheidiol oedd gwaith y Dirprwywyr, ac mor ymdrechgar a llwyddiannus a fuont wrth ei gyflawni. Ond yn awr, gwynebwyd Ymneillduwyr Cymru a Lloegr gan gwestiwn mawr a phwysig—sef, Cwestiwn Rhyddhad yr Athraw. Yr oedd y Pregethwr Ymneillduol yn rhydd i bregethu, ond nid oedd yr Athraw Ymneillduol yn rhydd i ddysgu'r plant. Wele rai o'r deddfau mewn grym yn eu herbyn pan fu Howell Harris farw.
Ni chaniateid i neb i ddysgu plant os na arwyddai rai o Erthyglau Eglwys Loegr, ac os na feddai drwydded o dan law'r Esgob (Canon 77).
Yr oedd unrhyw Ysgolfeistr a fyddai am fis heb fynd i'r Eglwys, ac na feddai drwydded Esgob, yn agored i garchariad am flwyddyn, a'r neb a'i lletyai, yn agored i ddirwy o £10 y mis (23 Eliz. c. 1).
Yr oedd unrhyw ysgolfeistr a gadwai Ysgol Gyhoeddus neu breifat, neu a ddysgai blant mewn unrhyw dy preifat, heb feddu trwydded oddiwrth Esgob, yn agored i garchariad am dri mis am y trosedd cyntaf, a thri mis am bob trosedd cyffelyb, a thalu dirwy o £5 (13 and 14 Chas. II., c. 4).
Gosodid cosbau trymion ar Ymneillduwyr a weithredent fel athrawon, os na fynychent yr Eglwys yn rheolaidd (17 Chas. II., c. 2).
Flwyddyn cyn marw Howell Harris, penderfynnodd yr Ymneillduwyr ymladd brwydr ddiorffwys, tan y ceid yr Athraw, fel y Pregethwr, yn rhydd. Ddechreu Mawrth, 1772, daeth dirprwyaeth, yn cynnwys y Parchn. Mr. Prichard, Dr. Furneaux, a Dr. Stennett—yn cynrychioli y tri enwad, Anibynwyr, Presbyteriaid, a Bedyddwyr, at y Pwyllgor canolog i'w cymhell i gymeryd mesurau er gwella Deddf Goddefiad, drwy
(a) Ryddhau pregethwyr Ymneillduol o orfod arwyddo Erthyglau'r Eglwys; a
(b) Rhyddhau'r Athraw Ymneillduol o bob rhyw gosb am ddysgu plant.
Cydsyniodd y Pwyllgor yn unfrydol, a dechreuwyd ar y gwaith o drefnu byddin Ymneillduaeth. Cafwyd 882 o weinidogion a phregethwyr Ymneillduol yng Nghymru a Lloegr, i hyrwyddo'r mudiad hwn.
O'r rhai hyn yr oedd 125 yng Nghymru,—oll yn Anibynwyr a Bedyddwyr, heb gymaint ag un Methodist Eglwysig yn eu plith. Ond ceid Methodistiaid Ymneillduol, fel Lewis Rees, a Richard Tibbott, a William Edwards, Groeswen, oeddent yn weinidogion Anibynnol yn ogystal a Methodistiaid, yn ymladd ochr yn ochr a hen wroniaid gwleidyddol fel Miles Harri, Pontypwl. Profa hyn nad oedd y Methodistiaid Eglwysig mewn cydymdeimlad a'r Ymneillduwyr Gwleidyddol; ond nid am nad oeddent yn teimlo dyddordeb mewn gwleidyddiaeth, canys cwyna Howell Harris ei bod yn rhy ddrwg fod y Llywodraeth, oedd o dan y fath rwymau i Fethodistiaid Cymru am eu cefnogaeth gwleidyddol, yn gwrthod nawdd y gyfraith i'w cefnogwyr hyn, os na broffesent eu hunain yn Ymneillduwyr.
Cymerodd y Parch. Josiah Thompson ran flaenllaw yn yr ymdrech lwyddiannus hon i drefnu byddin Ymneillduaeth. Ei amcan oedd gwneud Ymneillduwyr y deyrnas yn gyfun—drefnaeth boliticaidd. Ar bwyllgor canolog o 12, rhoddid i Gymru ddau aelod; ac yr oedd cangen weithgar, gyda'i hysgrifennydd ei hun, i fod ymhob sir.
Da fuasai gennyf roi manylion llawn o'r digwyddiadau dyddorol ynglyn â'r mesur. Eithr ni chaniata gofod. Gwasanaethed y crynhodeb a ganlyn er dangos natur y frwydr.
Yn 1772, taflwyd y mesur allan. Yn 1773 pasiodd Dy'r Cyffredin, ond gwrthodwyd ef gan yr Arglwyddi. Am chwe' mlynedd wedyn bu'r Ymneillduwyr yn ddiflino yn creu barn gyhoeddus o blaid y mesur. Yn Mawrth, 1779, rhoddwyd caniatad i ddwyn y mesur i fewn. Ddechreu Mai, 1779, pasiodd drwy'r Senedd; Mai 18fed, yr un flwyddyn, arwyddwyd ef gan y brenin, a daeth yn rhan o gyfraith y tir. Drwy'r ddeddf hon sicrhawyd:
1. I'r Gweinidog Ymneillduol hawl i gael trwydded i bregethu heb arwyddo unrhyw gredo (ond mynegiad yn erbyn Pabyddiaeth), a datganiad syml ei fod yn derbyn y Beibl fel "Ewyllys Ddatguddiedig Duw, ac fel rheol ffydd ac ymarweddiad."
2. I'r Ysgolfeistr a'r Athraw, yr hyn na fu ganddo erioed o'r blaen, sef hawl i ddysgu plant heb fynychu'r Eglwys, na chael trwydded esgob. Yr oedd mynegiad syml ei fod yn Ymneillduwr Protestanaidd, yn ei ryddhau o'r holl gosbau a osodid arno gan y deddfau gormesol blaenorol.
Dyma frwydr wleidyddol fawr olaf y ganrif, i Ymneillduwyr Cymru a Lloegr. Gwelwyd effaith y fuddugoliaeth yn fuan yn sefydliad cyffredinol a chyhoeddus cyfundrefn o Ysgolion Sabothol, a ledasant yn gyflym fel rhwydwaith dros yr holl wlad.[1]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Nis gwn fod neb wedi galw sylw o'r blaen at y cysylltiad amlwg rhwng brwydr fawr wleidyddol yr Ymneillduwyr, a sefydliad cyffredinol a chyhoeddus Ysgolion Sul.—B. G. E.