Neidio i'r cynnwys

Diwygwyr Cymru/Cysylltiadau'r Deffroad Mawr

Oddi ar Wicidestun
Ystadegaeth y cyfnod, a'r cyhuddiad yn erbyn Dr. Rees Diwygwyr Cymru

gan Beriah Gwynfe Evans

Cysylltiadau'r Deffroad yng Nghymru

PENNOD XVII.
CYSYLLTIADAU'R DEFFROAD MAWR.

Yr ydym yn awr wedi cyrraedd cyfnod sydd, mewn rhai cyfeiriadau, y mwyaf dyddorol yn holl hanes dadblygiad Ymneillduaeth yn y deyrnas hon,—Cyfnod y Deffroad Mawr. Mae yn gyfnod yr ydym yn meddu mwy o wybodaeth am dano, ac wedi ffurfio mwy o gamsyniadau yn ei gylch, nag odid unrhyw gyfnod o'i flaen yn holl hanes Crefydd Brotestanaidd yng Nghymru. Mae mwy wedi cael ei ysgrifennu, a llai wedi cael ei ddeall am dano, nag o bosibl un o'r cyfnodau pwysig eraill yr ymdrinir â hwynt yn y gyfrol hon. Mae'r eglurhad yn syml. Petae hanesydd a fynnai roi hanes rhyfelgyrch mawr, yn cyfyngu ei sylw nid yn unig i un frwydr, ond i un gongl o faes y frwydr honno, nis gallai roi i'w ddarllenwyr syniad cywir am hyd yn oed y rhan a geisiai ei ddesgrifio. Byddai yn ofynol iddo nid yn unig i gymeryd golwg gyffredinol ar holl faes y frwydr honno, ond hefyd ar yr amgylchiadau a ragflaenasant, ac a arweiniasant i fyny at, y frwydr, cyn y gallai ef ei hun ddeall ei chysylltiadau a'u dadblygiadau,—ac yn sicr cyn y gallai gyfleu i eraill syniad clir a chywir am dani. A dyma, mewn gair, gamgymeriad cychwynnol llawer o'r rhai sydd wedi ysgrifennu ar yr hyn a elwir Y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru. O bosibl mai ychydig o gamddarlunio bwriadol sydd wedi bod yn yr hyn a ysgrifennwyd, ond nid yw hynny yn cywiro'r camddarluniad. Nis gellir deall, na rhoi darlun cywir, o'r Deffroad Mawr, os cyfyngir ein sylw i'r rhan a gymerodd unrhyw un person neu ddosbarth o bersonau, neu unrhyw un enwad, nac unrhyw un wlad, nac hyd yn oed unrhyw un oes, yn y gwaith mawr a bendigedig hwnnw. Dyna'r rheswm paham yr ydys wedi manylu cymaint yn y gyfrol hon ar gyfnodau blaenorol yn hanes Crefydd yng Nghymru —cyfnodau oeddent yn cario dylanwad mawr a pharhaol ar gychwyniad, gweithrediad, a chanlyniadau'r Diwygiad—ac heb wybod y rhai nis gellir yn iawn amgyffred gwir hanes Y Diwygiad ei hun.

Yr ydys wedi cyfeirio droion at y ffaith fod cysylltiad agos ac anwahanadwy wedi bodoli o ddechreu hanes Ymneillduaeth, rhwng Diwygiadau a Diwygwyr Cymru, a Diwygiadau a Diwygwyr Lloegr. Yr oedd hyn yr un mor wir am Y Deffroad Mawr ag ydoedd am y cynhyrfiadau hanesyddol a'i rhagflaenodd. Bu cymaint a fynnai Saeson, ïe, Saeson uniaith, a chychwyniad, trefniant, a llywyddiad "Y Diwygiad Methodistaidd" yng Nghymru ag a fu a fynnai y Cymry enwog hynny ag y mae eu henwau yn gysylltiedig a'r mudiad daionus a bendithfawr hwnnw.

Danghoswyd eisoes (tudal. 194) mai camarweiniol yw'r enw a roddir yn gyffredin ar Y Deffroad. Camsyniadol hefyd yw y dybiaeth mai Diwygiad Cymreig ydoedd. Camgymeriad tra chyffredin yw tybied fod yn perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd—yng Nghymru, haniad hanfodol Gymreig a'i gwahaniaetha fel enwad crefyddol oddiwrth yr enwadau Cymreig eraill.[1] Os myn y Methodistiaid Calfinaidd olrhain eu haniad i ddyddiau Howell Harris a Daniel Rowlands, rhaid iddynt roi i fyny bob hawl i gael eu cydnabod fel enwad arbennig Gymreig mewn ystyr wahanol i'r enwadau eraill. Os seilir yr hawl ar y ffaith (dybiedig) mai Cymry yn unig fu a llaw yng ngorffeniad a pherffeithiad eu trefniant, gall y Wesleyaid Cymreig a wnaethant gynnydd mwy amlwg a chyffredinol pan sefydlwyd y Dalaeth Gymreig gan mlynedd yn ol nag a wnaeth un o'r enwadau eraill yng nghyfnod eu cychwyniad hwy, hawlio yr un teitl—canys i'r ffaith mai Cymry a ymgymerodd â'r gwaith, ac iddynt ei gario ymlaen ar linellau Cymreig, yr ydys i briodoli y llwyddiant eang a chyffredinol a goronodd eu llafur. Os dywedir, ar y llaw arall, mai ar y ffaith na fu y gyfundrefn Galfinaidd o Fethodistiaeth yng Nghymru erioed yn ddarostyngedig, fel y bu yr un Wesleyaidd, i awdurdod o'r tu allan i'r Dywysogaeth, atebir mai tyb ac nid ffaith yw'r cyfryw osodiad; ac, fel mater o ffaith hanesyddol, fod gan y Bedyddwyr Cymreig fwy o hawl, ar y tir hwnnw, i'w galw yn Enwad arbennig Gymreig, nag sydd gan y Methodistiaid Calfinaidd. Bodolai Cymanfa Bedyddwyr Cymru, i bob diben ymarferol fel y bodola Undeb Bedyddwyr Cymru heddyw, fel cyfundrefn hunan-gynwysedig a hunan lywodraethol, o leiaf ddeugain mlynedd cyn i George Whitefield gynnal Cymdeithasfa Watford, a threfnu gwaith y Diwygiad yng Nghymru fel rhan o'r mudiad oedd eisoes wedi cael ei gychwyn yn Lloegr. Ac i fod yn hanesyddol gywir, yr oedd Cymanfaoedd John Myles, a'i drefniant manwl ef i gario ymlaen waith ei Feistr ar linellau gwahaniaethol y Bedyddwyr Cymreig, wedi cael eu sefydlu hanner can mlynedd cyn adgyfodiad y Gymanfa Gymreig yn Llanwennarth yn 1700.

Ac eto, wrth ddweyd hyn, na chamgymered neb fi. Nid dibrisio na lleihau gwaith Cymry'r Deffroad Mawr ydwyf. Os bu raid iddynt wrth gymorth John Wesley a George Whitefield i ddeffroi y wlad, os bu raid iddynt wrth wasanaeth y Sais i osod i lawr seiliau eu cyfundrefn o waith, bu raid i Wesley a Whitefield wrth eu gwasanaeth hwythau yn Lloegr. Gŵyr pawb am lafur Howell Harris a Daniel Rowlands yng Nghymru—gresyn na wyddent hefyd am lafur y Cymry yn Lloegr, yn yr Ysgotland, y Werddon, a'r America. Ac nid peth newydd oedd hyn. O ddyddiau John Penry a Roger Williams, John Owen a John Myles, Howell Harris a Herbert Jenkins, hyd ddyddiau John Evans Eglwysbach a David Young, Dr. Thomas Charles Edwards a'r Dr. John Roberts (Khasia), John Thomas a Charles Williams, Alfred Rowlands ac Urijah Thomas, J. M. Gibbon a Thomas Stephens, Ossian ac Eynon Davies, Elfed Lewis a Thomas Nicholson, Dr. Cynonfardd Edwards a Dr. Llewelyn Bevan, Picton Jones a'r Dr. Griffith John, a'r llu o enwau disglaer eraill cysylltiedig â hanes Ymdrech Grefyddol ein dyddiau ni, ac yn perthyn i bob enwad yn ein plith—mae pob rhan o'r byd, gwaraidd ac anwaraidd, yn ddyledus i Gymru fechan am rai o'r doniau disgleiriaf a godidocaf sydd, o dan dywysiad ac eneiniad yr Ysbryd Glan, wedi bod yn foddion i ennill teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist Ef. Nid oes genedl ar y ddaear wedi gwneud mwy, yn ol rhifedi ei phoblogaeth, na Chymru, i oleuo lamp y gwirionedd, ac i ledaenu y grefydd Brotestanaidd ymhob cwr o'r byd.

Rhan o'r tywalltiad mawr, graslawn, cyffredinol, o ddylanwadau'r Ysbryd Glan, oedd y Diwygiad Mawr yng Nghymru yn nyddiau Howell Harris a Daniel Rowlands. Nid oedd cylch ei ddylanwad yn gyfyngedig i Gymru. Nid yng Nghymru y dechreuodd. Nid yn y Dywysogaeth y cafodd rhai o'r cyfryngau amlycaf ynddo eu hysbrydoliaeth. Nid oedd dim arbennig Gymreig yn y ffurf a gymerodd y trefniant. Cyfrannodd Lloegr a'r Cyfandir i'r llinellau a osodwyd i lawr i'r peirianwaith yng Nghymru. Cyfranogodd Lloegr, a'r Cyfandir, yr Ysgotland, y Werddon, a'r America, ymron yn gyfartal a chydamserol o'r dylanwadau grymus na fedr yr un dychymyg ddynol ei hesbonio.

Pa le y dechreuodd y Diwygiad Mawr? Yr unig ateb a ellir ei roddi yw, mai ym mwriadau grasol a chariad tragwyddol Duw y dechreuodd. Gellir nodi gyda chywirdeb leoliad rhai o'r prif gyfryngau, a gellir deffinio y ffurf allanol a gymerodd y peirianwaith—er y rhaid mynd yn ol i gyfnod boreuach am gynllun y ffurf, ac am yr enw a roddwyd ar y Diwygwyr o bob enwad yn yr oes honno,—enw oedd yn eiddo cyffredinol ar y cychwyn, ond sydd, gyda threigliad blynyddoedd, wedi dod erbyn ein dyddiau ni i gael ei ystyried fel eiddo arbennig i ychydig enwadau neillduol, "Methodistiaid," pa un bynnag ai Calfinaidd, Wesleyaidd, Cyntefig, ai beth.

Prin, efallai, y byddai yn ormod dweyd, a siarad mewn ystyr ddynol, mai i ddynes dduwiol y gellir olrhain cychwyniad Y Deffroad Mawr. Merch i weinidog enwog gyda'r Ymneillduwyr, a gwraig i offeiriad da yn Eglwys Loegr, ydoedd. Gan weled fod nifer mawr o'r werin yn y plwyf dros yr hwn yr oedd ei gwr yn fugail cyflogedig, na thywyllent borth yr Eglwys na drws y Capel, o ddechreu blwyddyn i'w diwedd, meddyliodd y gallai dynes o bosibl lwyddo lle y methai yr offeiriad. Yn 1711—dair blynedd cyn geni Howell Harris—arferai'r wraig dduwiol hon gynnal cyfarfodydd i'r bobl ar nos Suliau, a llwyddodd i ddenu iddynt ddynion a gwragedd a. phobl ieuainc na fynychent byth unrhyw le o addoliad. Dygai gyda hi i'r cyfarfodydd ei dau fachgennyn bychan, John yn wyth mlwydd oed, a Charles yn bedair. Gwelai'r plant ddylanwad ysbryd cenhadol eu mam ar y bobl ddigrefydd hyn, a llannwyd eu calonnau ieuainc âg edmygedd. Arhosodd dysgeidiaeth ac esiampl y fam yn ddylanwadau pur, dyrchafol, ac ymgyflwyniadol ym mynwesau'r plant tra buont byw. Fel ffrwyth uniongyrchol y cyfarfodydd hwyrol hyn, cynhyddodd rhif mynychwyr cyson yr Eglwys ddengwaith drosodd—ond yn. gymaint a'u bod yn gwisgo gwedd answyddogol, condemniodd yr awdurdodau Eglwysig gyfarfodydd Mrs. Wesley—canys mam yr enwog John Wesley oedd y wraig dda hon—fel "Cyrddau" (conventicles) anghyfreithlon. Felly argraffwyd yn foreu ar feddyliau tyner y ddau frawd, dri gwirionedd pwysig, sef:—

1. Fod angen dysgeidiaeth grefyddol ar y werin;
2. Fod yn rhaid cyfrannu'r ddysgeidiaeth honno o'r tu allan i'r Eglwys;
3. Nad oedd yr awdurdodau Eglwysig yn ffafru'r cyfryw ymgais.

Fel y gwelir eto gwasgwyd y tri gwirionedd yma'n ddyfnach i'w calonnau'r naill flwyddyn ar ol y llall, nes ynghyntaf fwyta yno fel cancr, ac yna dorri allan yn wenfflam o zel dwyfol ac ymgyflwyniad dynol. Rhwystrwyd mam John Wesley gan yr awdurdodau Eglwysig i gyflawni gwaith efengyles yn ei phlwyf ei hun; trowyd ei dadcu a'i hen dadcu o ochr ei dad, allan o'u bywiolaethau, a gwnaed hwynt yn Ymneillduwyr gan Ddeddf Unffurfiaeth 1662. Mynnai John Wesley wasanaethu'r Eglwys a orthrymodd ei hynafiaid ac a lesteiriodd ei fam; carai'r Eglwys honno â serch angherddol; ceisiodd a chafodd urddau Eglwysig ynddi;—ond pan brofodd ei zel dros Efengyl Crist yn gryfach na'i syniadau am ffurfioldeb gwasanaeth Eglwysig, trowyd yntau dros y drws fel y trowyd ei dadcu a'i hen dadcu o'i flaen. Eglwyswr egwyddorol a ffyddlon a fu John Wesley hyd ei fedd; gresynnai weled ei ganlynwyr yn troi eu cefnau arni; ac nid oedd dim ond ei awydd angherddol am weled y gwaith da a ddechreuwyd ganddo yn cael ei gario ymlaen ar ol ei ddydd, yn ei gymodi â'r syniad o sefydlu Wesleyaeth fel cyfundrefn grefyddol anibynnol ar Eglwys Loegr.

Ei fam blannodd ynghalon John Wesley egwyddorion y Diwygiwr; Cymro, William Morgan, a roddodd gyfeiriad ymarferol i'w Gristionogaeth; Sais, William Law, a'i dysgodd i gasglu ei ddychweledigion at eu gilydd yn ddosbarthiadau neu gymdeithasau crefyddol. Gartref, yn blentyn, y cafodd y cyfeiriad cyntaf; ym Mhrifysgol Rhydychain, yn llanc ieuanc, y derbyniodd y ddau olaf. Yno, fel y gwnai John Penry a'i gyd-ddiwygwyr saith ugain mlynedd cyn hynny, cyfarfyddai nifer o fyfyrwyr ieuainc duwiolfrydig i astudio dysgeidiaeth dau fyd; ar nosweithiau o'r wythnos cyd-ddarllenent y clasuron ar gyfer Arholiad y Graddau; ar ddydd yr Arglwydd, cyd-ddarllenent ac esboniant y Beibl ar gyfer Arholiad Mawr y Dydd Diweddaf. Gwnaed hwynt yn gyff gwawd i'w cyd-fyfyrwyr; gelwid hwynt yn "Glwb Santaidd," yn "Sacramentwyr," ac yn "Fethodistiaid."

Nid enw newydd ar sect newydd o grefyddwyr oedd "Methodistiaid " hyd yn oed yn nyddiau cychwyniad Wesley. Hen enw ydoedd, a arferid o leiaf bedwar ugain mlynedd cyn hynny i ddynodi Diwygwyr Crefyddol. Tybia rhai mai cyfeiriad oedd yr enw a roddwyd ar Wesley a'i gyfeillion, at y Coleg Meddygon yn Rhufain a elwid yn Methodista (neu yn ol Ainsworth Methodici) oherwydd eu dull trefnyddol o drin eu cleifion. Ond yr oedd yn Eglwys Rufain blaid a elwid yn "Fethodistiaid "[2] am y dull y carient ymlaen y ddadl â'r Protestaniaid. Ond rhoddid yr enw yn dra chyffredinol yn nyddiau Cromwell i'r dosbarth hwnnw o Ymneillduwyr a garient ymlaen eu gwaith i raddau helaeth ar y llinellau a fabwysiadwyd gan Ddiwygwyr y 18fed ganrif.[3]

Gwelir mai nid enw newydd oedd "Methodistiaid" ar Ddiwygwyr Crefyddol. Nid cynllun newydd ychwaith oedd y Seiadau a sefydlwyd gan Wesley, ac wedi hynny gan "Y Methodistiaid" yng Nghymru. William Law a roddodd i Wesley y syniad am gymdeithasau neu gyfeillachau crefyddol. Manteisiodd Howell Harris yn ei "Deulu Trefeca" fwy ar gynllun Law nag a wnaeth Wesley. Syniad Law oedd rhyw gymdeithas neillduedig hanner mynachaidd, yn ymgyflwyno i addoliad cyson a gweithredoedd o drugaredd. Ymaflodd Wesley yn hanfod y syniad, sef casglu proffeswyr difrifol crefydd at eu gilydd. Copïodd Whitefield a Howell Harris y syniad ymhen deuddeng neu bymtheng mlynedd wedi hynny; ac yn ddiweddarach fyth rhoddodd Howell Harris yn Nheulu Trefeca, ffurf weithredol i'r rhan fynachaidd o syniad William Law.

Er fod Seiad y ddau Wesley a'u cyfeillion yn Rhydychain yn gwahaniaethu mewn rhai pethau oddiwrth yr hyn a fodolai yn flaenorol, yr oedd Cymdeithasau Crefyddol Cyfundrefnol Anenwadol, wedi bod mewn gweithrediad yn hir cyn dyddiau John Wesley.

"Cymdeithas i Ddiwygio Arferion" (Society for the Reformation of Manners) y gelwid y rhai hyn. Sefydlwyd hwynt ar y cyntaf yn Llundain, lle y ceid o 40 i 50 o honynt yn 1699, gyda Chymdeithasau cysylltiedig drwy'r wlad, ac hyd yn oed yn cyrraedd i'r Werddon. "Cyferfydd y Cymdeithasau hyn," medd yr adroddiad swyddogol,[4] "yn ami i weddio, canu Salmau, a darllen yr Ysgrythyrau, gan geryddu, cynghori, ac adeiladu eu gilydd drwy eu cyfeillachau crefyddol. Ymhellach trefnant yn eu cymdeithasau, weithredoedd o drugaredd a haelioni, megys cynorthwyo'r tlawd, rhoi addysg i blant, gollwng carcharorion yn rhydd, cynnal pregethau a gweddiau dyddiol yn yr Eglwysi. Mae i'w fawr ddymuno fod Cymdeithasau yn cael eu sefydlu ymhob rhan o'r deyrnas, yn enwedig yn y trefi, er cario allan yr amcanion hyn. Gellir gobeithio nad oes ond ychydig leoedd lle na cheir o leiaf dri neu bedwar o bersonau o'r naill enwad neu'r llall o Gristionogion, sy'n meddu zel dros Dduw a Chrefydd, a allent ffurfio eu hunain yn gymdeithas yr hon y gellid ei heangu yn raddol. .. Mae uno dynion da mewn Cymdeithasau duwiol o'r fath er adenill gallu yn ogystal a ffurf crefydd, yn beth a gymeradwyir i holl gyfeillion Duwioldeb a Rhinwedd. Gellir disgwyl y bydd i bawb sy'n meddu parch gwirioneddol i anrhydedd Duw, eu dedwyddwch eu hunain a'u gwlad, ymdrechu yn selog yn eu gwahanol gylchoedd er perffeithio y cynllun eang hwn. .. . Cydnabyddir ein bod i ymdrechu nid yn unig dros ein hiachawdwriaeth ein hunain, ond dros eneidiau ein gilydd, ac i geisio hyrwyddo hynny yn ol ein cyfleusderau a'n manteision. Mae y cyfryw ofal yn amlygiad o'n cariad at ein cymydogion, yn wir dderbyniol gan Dduw Hollalluog. Mae Gweddi, Cymhelliad, Rhybudd, Cerydd, ac Esiampl Dda, yn foddion pwrpasol i'r amcan hwn, a gorchymynnir hwynt yng Ngair Duw."

Arwyddwyd anerchiad i'r awdwr, yn cymeradwyo'r llyfr, gan nifer o urddasolion, ac ymhlith y pendefigion Cymreig a wnaeth hynny ceir Arglwyddi Penfro, Maesyfed, ac Abergafenni, ac Esgob Bangor.

Dyna gyfundrefn o gymdeithasau crefyddol, yn gweithredu i raddau pell ar linellau Seiadau'r Methodistiaid, yn bodoli yn dra chyffredinol drwy'r deyrnas cyn diwedd y 17fed canrif. Nid oedd John Wesley, ar y dechreu, yn golygu i'w seiad fechan ef yn Rhydychain, i fod yn ddim amgen na chyfeillach grefyddol gydag amcanion defosiynol cyfrinachol.

Ond yr oedd ymhlith aelodau'r gyfeillach ddyn ieuanc o Gymro, o'r enw William Morgan. Hwn gymhellodd Wesley i roi ffurf ymarferol i'w Gristionogaeth, drwy ymweled â'r carcharorion ac â'r tlawd a'r anghenus, i'w dyddanu a gweinyddu i'w rheidiau. Gomeddodd ar y cyntaf wneud, ond perswadiwyd ef gan Morgan—a dyna ddechreu gweinidogaeth gyhoeddus John Wesley fel Diwygiwr. Yn groes i ewyllys ei dad y gwnaeth Morgan hyn. Ysgrifennodd ei dad ato i'w feio am fod a wnelai â'r "gyfeillach ddirmygus hon, a myned oddiamgylch i'r pentrefi gan gasglu'r plant ynghyd a dysgu iddynt eu gweddiau a'u catecism." Ond cyn marw ei fab ymhen dwy flynedd wedyn (1732), yr oedd wedi cael y fath ddylanwad ar ei dad, fel yr ysgrifennodd hwnnw at John Wesley yn cynnyg rhoi unrhyw gynhorthwy a allai iddo yn ei waith. Heblaw'r ddau frawd Wesley, a Morgan, ceir ymhlith aelodau'r Seiad yn Rhydychain, ddynion enwog eraill, megys John Gambold, y Morafiad Cymreig duwiolfrydig o Sir Benfro, a ddaeth wedyn yn Esgob Morafaidd; James Harvey, awdwr y Myfyrdodau; ac enwocach na'r ddau, George Whitefield, y pregethwr grymusaf o honynt oll.

Yr oedd, er cynhesed y teimladau ac agosed y cysylltiad, elfennau anghydfod yn y gyfeillach fechan yn Rhydychain o'r dechreu—ac nid hir y bu'r elfennau hynny cyn gweithio i'r wyneb, gan gynhyrchu ymhen amser rwyg na chyfanwyd mo honi yr ochr yma i'r afon. Yr oedd Harvey a Whitefield yn Galfiniaid cadarn, tra roedd John Wesley, er yn ieuanc iawn, yn wrthwynebydd anghymodlawn i athrawiaeth Arfaeth. Yn wir, nis gallwn lai na gresynnu, wrth edrych yn ol ar hanes dynion da y cyfnod hwnnw, fod eu syniadau am gydoddefiad mor grebachlyd, a bod hynny yn eu harwain i ymwahanu oddiwrth eu gilydd. Ymadawodd Wesley a Whitefield, bob un yn mynd i'w ffordd ei hun; methodd Gambold gyd-dynnu â'r Eglwyswyr; anghytunodd Whitefield drachefn â rhai o'r brodyr a'u cynorthwyent yn y Tabernacl; ffromodd Edmwnd Jones a Miles Harri y naill wrth y llall; digiodd Daniel Rowlands â Williams Pantycelyn wrth eu gilydd; a chwerylodd Howell Harris â phob un o honynt yn eu tro. Ond nid â'r anghydfodau, eithr â'r cydweithrediad cariadus, y mae a fynnom ar hyn o bryd. Eglwysig hollol oedd Cymdeithas Rhydychain ar y cychwyn. Uchel-Eglwyswr rhonc oedd John Wesley ym mlynyddoedd cyntaf ei lafur; bu felly am o leiaf ddeuddeng mlynedd, sef o 1725 hyd ei ddychweliad o'r America yn 1738. Eglwyswyr oedd yr oll o aelodau Cymdeithas Rhydychain, a'r oll o honynt, Wesley, Whitefield, Gambold, &c., yn dal urddau yn Eglwys Loegr. Yr oedd yr un peth yn wir am fwyafrif arweinwyr mwyaf cyhoeddus y mudiad diwygiadol yng Nghymru—Daniel Rowlands a Williams Pantycelyn yn Eglwyswyr ac offeiriaid, a Howell Harris yn Eglwyswr mor selog a neb o honynt—a'r unig un o honynt a arhosodd yn ffyddlon yn ei ymlyniad wrth Eglwys Loegr hyd ei fedd. Dymuniad calon Wesley, a Whitefield, a Daniel Rowlands, a Williams Pantycelyn, oedd cael aros mewn cymundeb a chysylltiad âg Eglwys Loegr. Am na chaniatäi yr Eglwys iddynt y rhyddid angenrheidiol i wneuthur gwaith yr Hwn a'u danfonodd, y troisant hwy eu cefnau o'u hanfodd ar yr Eglwys,—ac y cynhyrchodd yr hâd a blannwyd ganddynt mewn dagrau, ffrwyth o Ymneillduaeth mewn gorfoledd, wedi casglu yr hauwyr i'r beddrod.

Pan ddechreuodd Wesley ei yrfa grefyddol, dylanwadwyd yn fawr ar ei feddwl a'i argyhoeddiadau, gan ddysgeidiaeth y Morafiaid. Cymdeithas grefyddol a gafodd gychwyniad ar y Cyfandir o dan arweiniad y Count Zinzendorf, oedd y Morafiaid. O bosibl mai'r mwyaf cenhadol eu hysbryd o unrhyw ddosbarth o grefyddwyr yn yr oes honno oeddent. Lledasant eu canghennau i ymron bob gwlad adnabyddus, gwaraidd ac anwaraidd. Sefydlwyd ganddynt nifer o achosion yn Lloegr a Chymru. Yng Nghymru, Sir Benfro a fu prif maes eu llafur, er sefydlu o honynt achosion hefyd yn y Gogledd yn ogystal a'r De. Bu cangen bwysig o'u heiddynt yn flodeuog yn nhref Caernarfon, cyn clywed llais Howell Harris ym mynydd-dir Eryri. Hwynt hwy wynebodd oerni Greenland, a chreulondeb Indiaid Cochion Coedwigoedd America, er cludo'r newyddion da o lawenydd mawr; a phan, ymhen cenhedlaeth ar ol hynny, y magodd cyfundebau crefyddol eraill ddigon o wrolder i fynd allan i'r Gorllewin Pell, er lledaenu gwybodaeth o'r Efengyl ymhlith yr anwariaid, cawsant, wedi cyrraedd yno, Gymdeithasau Morafaidd eisoes wedi cael eu plannu. Dyma'r bobl ddylanwadodd ar feddwl John Wesley, ac i raddau dyfnach a mwy parhaol ar Howell Harris.[5] Gellir olrhain eu dylanwad hwy ar holl gwrs bywyd cyhoeddus a neillduedig Howell Harris; a phan yr aeth yn rhwyg rhyngddo â Daniel Rowlands a'i gydlafurwyr yng Nghymru, a rhyngddo a'r ymlynwyr wrth ei athraw Whitefield yn Lloegr, bu ymron a thaflu ei goelbren ymhlith y Morafiaid." Y personoliaeth amlycaf ymhlith Morafiaid Lloegr, a'r gwr a gariodd y dylanwad personol mwyaf ar John a Charles Wesley yn ogystal ag ar Howell Harris, oedd Peter Boehler, Morafiad Germanaidd oedd wedi ymsefydlu yn Lloegr. I Boehler y priodola Wesley ei wir droedigaeth, a Howell Harris lawer o'i ysbrydoliad. Bu Wesley mewn cysylltiad gweithredol â chyfundrefn y Morafiaid cyn myned o hono allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau. Yr oedd yn eu cyfundrefn hwy lawer o bethau atyniadol i rai o dueddfryd Wesley a Harris. Nid sect yn gymaint ag urdd y gellid eu hystyried; ac nid oedd cysylltiad â hwynt, a gweithio yn ol eu cynlluniau hwy, yn anghyson â'r ffyddlondeb mwyaf ymlynol wrth Eglwys Loegr. Gelwir hwy yn Fynachod Protestaniaeth, a dywedir gyda phriodoldeb, os mai'r Seiadau a roddasant gorff i Fethodistiaeth, mai'r Morafiaid a roddasant yr enaid i'r corff hwnnw.

Cyfeiriwyd eisoes at gysylltiad George Whitefield â'r Seiad yn Rhydychain. Pan alwyd Wesley i'r America yn 1735, neidiodd Whitefield megys ar un llam i boblogrwydd fel pregethwr mwyaf grymus a phoblogaidd ei oes. "Fel Caplan y Twr yn Llundain, fel ciwrad mewn pentref gwledig, fel pregethwr yn Eglwysi'r brif-ddinas, caffai groesaw aiddgar; a phan y pregethai efe o blaid rhyw elusen, yr oedd y casgliad yn ddengwaith cymaint ag arfer." Ar gais Wesley aeth Whitefield allan i'r America, ac ychwanegodd yno at y poblogrwydd oedd eisoes wedi ennill yn Lloegr. Pan laniodd Wesley yn Lloegr yr oedd yntau yn boblogaidd. Cystadlai pawb am ei wasanaeth yn y pwlpud. Ond nid oedd ei genadwri yn dderbyniol gan yr awdurdodau Eglwysig, a chyn pen tri mis ar ol dychwelyd i Lundain gwaherddid iddo nifer o Eglwysi lle yr ymdrechid gynt sicrhau ei wasanaeth.

Rhoddir manylion pellach am hyn eto yn nes ymlaen.

Nodiadau

  1. Da fuasai gennyf fel Cymro i gredu'n wahanol. Eithr gorfodir fi i wrando ar ffeithiau hanesyddol yn hytrach nag ar dueddiadau gwladgarol.—B. G. E.
  2. Mosheim's Eccles. Hist. 17th Cent., Sect. ii., p. 1.
  3. Spencer's "Things New and Old," p. 161. Cyhoeddwyd, 1658.
  4. An Account of the Societies for Reformation of Manners in London and Westminster and other parts of the Kingdom, with a Persuasion to Persons of all ranks to be Zealous and Diligent in Promoting the Execution of the Laws against Profaneness and Debauchery, for the Effecting a National Reformation. Published with the approbation of a considerable number of Lords Spiritual and Temporal. London: 1699.
  5. I'r Morafiaid y rhaid priodoli'r ffaith fod John Wesley heb briodi yn America. Bwriadai ymuno ag un Sophia Hopkey. Cyn gwneud hynny ymgynghorodd a'r Esgob Morafaidd, yr hwn a'i cynghorodd i beidio priodi. Gwrandawodd Wesley arno. Priododd hithau un o'r enw Williamson. Wedi priodi gwrthododd dderbyn cerydd gan Wesley; torrodd yntau hi allan o gymundeb