Diwygwyr Cymru/Gwladgarwch a chrefydd
| ← Y cyfddydd yng Nghymru | Diwygwyr Cymru gan Beriah Gwynfe Evans |
Dechreu'r gwaith yng Nghymru → |
PENNOD IX.
GWLADGARWCH A CHREFYDD.
Trown ein sylw yn ol eto am dymor i Loegr, modd y deallom yn well yr hyn a ddaeth ar ol hyn yng Nghymru. Gyda marwolaeth Elizabeth terfynnodd teyrnasiad y Tuduriaid; gydag esgyniad Iago dechreuodd awdurdod y Stuardiaid. Yn gwau, blith-drafflith, drwy eu gilydd ar hyd yr holl gyfnod Stuardaidd, gwelir tair brif linell amlwg—Y Frwydr am Ryddid Gwladol, yr Ymdrech am Ryddid Crefyddol, a Gwahaniaethad yr Enwadau. Saif y llinellau hyn allan yn eglur yn holl rwydwaith amgylchiadau dyrrus y cyfnod—weithiau rhed y tair llinell ochr yn ochr yn yr un cyfeiriad; brydiau eraill croesant eu gilydd; a thrachefn ceir y naill yn gorwedd o dan y llall, neu mor gymhlethedig â'u gilydd fel mai gydag anhawsder y gellir gwahaniaethu y naill edefyn oddiwrth y ddau arall. Ond bob amser mae'r tri yno yn amlwg; a'r hyn a geisir ei wneud yn y bennod hon yw eu dadrys, hyd y gellir, a'u gosod yn glir ger bron llygaid y myfyriwr.
Camgymeriad yw tybied mai Brwydr Edgehill, yn 1642, oedd y gyntaf, a Brwydr Worcester, yn 1651, oedd yr olaf yn y Rhyfel Cartrefol. Gwir mai yno y croeswyd cleddyfau gyntaf ac olaf. Ond yr oedd y frwydr wedi dechreu pan eisteddodd Iago I. ar Orsedd Lloegr, ac ni therfynnodd tan i'w ŵyr, Iago II., ffoi am ei einioes. Mewn gwirionedd, cyfnod o frwydro di-dor, ac ymron dibaid, fu holl dymor y Stuardiaid—brwydr a barhaodd am 85 mlynedd, o esgyniad Iago I., yn 1603, hyd ffoedigaeth Iago II., Nadolig 1688.
Gellir casglu oddiwrth yr hyn a ddywedwyd eisoes, mewn penodau blaenorol, fod gwahaniaeth hanfodol rhwng syniadau. Elizabeth a Iago, ac yn wir rhwng syniadau'r Tuduriaid a'r Stuardiaid, am natur Eglwys, a'i hawliau. I'r Tuduriaid, ac yn arbennig i Elizabeth, y Genedl Seisnig yn ei gwedd grefyddol, oedd Eglwys Loegr. I Iago, ar y llaw arall, Eglwys Loegr yn ei gwedd wladwriaethol oedd y Genedl Seisnig. Mewn geiriau eraill, y Genedl oedd flaenaf ym. meddwl Elizabeth; yr Eglwys oedd bwysicaf ym marn Iago. Daeth y ddau syniad o angenrheidrwydd i wrthdarawiad âg egwyddor hanfodol y Puritaniaid, sef "Gair Duw yn uchaf." Er holl ormes Elizabeth, gweithredai ymron ymhob dim yn gyfansoddiadol; er holl wendid moesol Iago, a'i fab a'i wyrion, ychydig o barch a dalent i na llythyren nac ysbryd cyfraith y tir.[1] Anffawd i Eglwys Loegr, fel Sefydliad, oedd ei chysylltu â gormes cyfansoddiadol Elizabeth; anffawd llawer mwy oedd ei gwneud yn rhan hanfodol o ormes anghyfansoddiadol Iago.
Danghoswyd mewn pennod flaenorol fod Iago yn dal Egwyddor Hawl Dwyfol y Brenin, a thrwy'r brenin Hawl Dwyfol yr Esgob. Dyma ymresymiad Iago:
i. Teyrnasa'r Brenin drwy hawl dwyfol; mae ei berson yn gysegredig; ei ewyllys yw'r gyfraith; nid oes gyfraith arall ond ei ewyllys ef. ii. Eiddo'r Brenin yw'r bobl; gellir caniatau iddynt, drwy eu cynrychiolwyr, ran yn y llywodraeth; ond ymddibynna yn hollol ar ewyllys da y Brenin pa ran a ganiateir iddynt.
iii. Pan fyddo'r Senedd—neu Gyngor y Genedl—yn pasio cyfraith, nid yw'r Brenin yn cael ei rwymo ganddi; ac ni raid iddo wrth Senedd o gwbl ond mor bell ag y dymuna efe ei hun.
iv. Ni raid i'r Brenin gadw ei air tuag at ei ddeiliaid; ond rhaid i'r deiliaid gadw eu gair i'r Brenin.[2]
Dro ar ol tro ceir Iago a Siarl yn gweithredu ar yr egwyddorion hyn. Rhwygodd Iago a'i law ei hun allan o Lyfr Cofnodion Ty'r Cyffredin, y ddalen yn cynnwys mynegiad o hawl aelodau'r Ty i ryddid ymadrodd. Ceisiodd ef a'i fab lywodraethu heb Senedd. Pythefnos fu hyd oes Senedd gyntaf Siarl. Dadgorfforodd yr ail cyn iddi allu pasio gymaint ag un ddeddf. Tair wythnos y parhaodd Senedd arall. Am un-mlynedd-ar-ddeg ni bu Senedd o gwbl.
Cysylltid yr Eglwys a'i hawliau gyda'r helyntion gwladol hyn o'r dechreu. Danghoswyd eisoes (tudal 62) y modd yr oedd gormes crefyddol John Knox wedi gyrru Iago i wrthryfel pan gafodd gyfle. Cyn dod yn Frenin Lloegr, a phan felly o dan bawen olynwyr Knox, Presbyteriaeth oedd y cwbl yngolwg Iago. Condemniai "Esgobyddiaeth Babyddol" Lloegr; tyngodd drachefn a thrachefn y safai efe tu cefn i "Eglwys a gweinidogaeth Ysgotland." Ond can gynted ag y gallai herio y rhai yn ei ddydd ef a gynrychiolent ddysgeidiaeth Knox, cyn yn wir iddo groesi'r terfyndir i wisgo coron Prydain, ysgrifennodd gynghorion i'w fab, yn ei rybuddio yn erbyn y Puritaniaid, y rhai, eb efe, oeddent gynhyrfwyr gwlad ac eglwys, a llai i ymddibynnu arnynt na lladron gwartheg yr Ucheldiroedd.[3] Llonnodd tôn y llythyr hwn gymaint ar galonnau Pabyddion, fel y disgwylient weled Iago yn adsefydlu Pabyddiaeth.[4] Ond nid oedd hynny yn cydfyned â syniadau'r brenin—canys hanfod Pabyddiaeth oedd fod y Brenin yn ddarostyngedig i awdurdod yr Eglwys; tra hanfod credo Iago oedd, mai trwy ras y Brenin y caffai'r Eglwys, fel y Wladwriaeth, bob awdurdod.
Cafwyd ail-adroddiad o brofiad crefyddol(?) Iago yn ei ŵyr Siarl II. Wedi dienyddiad ei dad, tra Siarl yn yr Ysgotland yn ceisio byddin i ddymchwelyd Cromwell, arferwyd tuag ato yr un driniaeth ag a gafodd ei daid. Gorfodwyd ef i fod yn Bresbyteriad; ddwywaith galwyd arno i arwyddo'r "Cyfamod Difrifol yn erbyn Pabyddiaeth"; disgwylid iddo fynd drwy rith hir-weddiau ac ymprydiau; rhaid oedd iddo eistedd yn amyneddgar i wrandaw chwech o bregethau hir-wyntog yr un dydd; ac yn y diwedd gorfu iddo arwyddo papur yn cyhuddo ei dad o fod yn euog o dywallt gwaed gwirion, a'i fam o fod yn eilun-addoles. Nid cynt—fel y gwelir eto y daeth yn Frenin Lloegr, nag y taflodd yr holl addewidion a chyfamodau hyn i'r gwynt, ac yr aeth i bob diben ymarferol yn Babydd.
Gwelir, felly, fod credo'r Stuardiaid yn Hawl Dwyfol y Brenin, o dan wraidd eu holl gamgymeriadau Eglwysig a gwladwriaethol. Cyn cael y Frenhiniaeth yr oeddynt yn ddarostyngedig i awdurdod eraill; wedi cael y Frenhiniaeth tybient eu hunain uwchlaw pob awdurdod, ac felly yn anffaeledig. Tybiai Elizabeth ei hun yn anffaeledig—ond gofalai am gael awdurdod y Senedd i bopeth a wnai.[5] Eithr nid felly Iago a Siarl. Mor bell ag y medrent, anwybyddent y Senedd, gan lywodraethu drwy lysoedd anghyfansoddiadol, megys Llys yr Uchel Ddirprwyaeth (High Commission Court), ac Ystafell y Seren (Star Chamber). Geiwid i gyfrif gan yr Uchel Ddirprwyaeth bawb a feiddient ddal syniadau crefyddol neu eglwysig croes i eiddo'r Esgobion; cosbai Ystafell y Seren y sawl a ddywedent air yn erbyn y brenin neu ei Wladweiniaeth, neu a omeddent dalu'r trethi anghyfreithlon a godai efe arnynt.
Dyna'r brenin. Beth am y deiliaid? Yr oedd dau ddosbarth arbennig ohonynt, sef y rhai a weithredent oddiar gydwybod grefyddol, a'r rhai a symbylid gan gydwybod wleidyddol. Yn wirfoddol a bwriadol gyrrodd Iago'r blaenaf at yr olaf; yn ddiarwybod ac yn anfwriadol gyrrodd yr olaf i dir y blaenaf. Caniataer i mi egluro. Gwnaeth y crefyddwyr Puritanaidd yn wleidyddwyr drwy wneud Puritaniaeth yn drosedd gwladol.[6] Gwnaeth y gwladgarwyr yn grefyddwyr Puritanaidd ynghyntaf drwy gysylltu yr Eglwys â'i ormes gwladol, gan orfodi felly y neb a fynnai wrthwynebu'r olaf i wrthwynebu'r blaenaf hefyd; ac, yn ail, drwy roi'r Beibl i'r Bobl. Yr oedd Edward ac Elizabeth wedi rhoi'r Beibl i'r Eglwys—a hynny fagodd ac a feithrinodd Buritaniaeth o dan y Tuduriaid. Rhoddodd Iago y Beibl i'r Bobl—a chafodd gyffelyb effaith ar eu gwleidyddiaeth hwy, ag a gafodd ar grefydd y Puritaniaid.[7][8] Yr oedd gwladgarwch yr oes honno yn bur, am ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan ddysgeidiaeth y Beibl—a'r gwladgarwch sy'n seiliedig ar, ac a ysbrydolir gan y Beibl, a faidd yn oreu sefyll i fyny dros hawliau dyn gan nad beth a fyddo'r canlyniadau. Cofier fod Beibl Iago yn dod i Saeson yr oes honno fel datguddiad newydd. Pe gallem feddwl am Gymru fel y mae heddyw,—oddigerth ei meddiant o'r Beibl a'r capeli; pob addoliad yn cael ei gario ymlaen yn yr Eglwysi plwyfol yn unig, a dim Beibl ond yn yr Eglwys; ac yna fod y wlad yn cael ei llenwi ar unwaith â Beiblau, caem syniad cywirach am ddylanwad anesgrifiadwy lledaeniad cyffredinol Beibl Iago drwy'r wlad. Daeth i lu yn yr oes honno fel datguddiad newydd, yn cynnwys dysgeidiaeth newydd, ac yn rhoddi goleuni ac ysbrydoliaeth newydd. Pa ryfedd fod Duw a'r Diafol i'r Puritaniaid hynny, yn bersonoliaethau sylweddol, a allent fod yn bresennol gyda hwynt, a bod milwyr Cromwell yn mynd i'r frwydr dan ganu Salmau, ac mor gryf yn eu hyder ym mhresenoldeb Duw gyda hwynt, ag oedd Joshua gynt pan orchymynnodd i'r haul i aros yn Gibeon, a'r lleuad yn nyffryn Ajalon? Y ffydd bersonol, weithredol, hon, yn yr Arglwydd, yw un o nodweddion amlycaf crefydd gwroniaid y cyfnod hwn.
Yn awr gosoder y ddau allu gwrthgyferbyniol hyn wyneb yn wyneb â'u gilydd, y Brenin a'i gredo am Hawl Dwyfol, a'r Deiliaid a'u Beibl newydd yn rhoi iddynt ffydd mewn Presenoldeb Dwyfol gyda'i bobl,—ac nid oes angen dweyd beth raid fod y canlyniad. Nid yn sydyn y daeth y cyfnewidiad. Mor raddol ag yr ymneillduasant o'r Eglwys, yr ymbellhaodd y Puritaniaid oddiwrth eu teyrngarwch i'r Orsedd. Pan esgynnodd Iago i'r Orsedd nid oedd o fewn y deyrnas neb mwy teyrngarol na'r Puritaniaid.[9] Ffolineb Iago yn eu galw yn wrthryfelwyr, a'u trin fel gwrthryfelwyr, a'u gwnaeth yn wrthryfelwyr. Cyflwynodd Senedd gyntaf Iago "Wrthdystiad" cryf yn erbyn y llygriadau oedd eisoes yn dechreu llithro i fewn i'r Sefydliad Eglwysig, ac i'r Cyfansoddiad Gwladol.[10] "Fel y mae Duw i'm barnu!" llefai'r brenin pan dderbyniodd y Gwrthdystiad, "gwell fyddai gennyf fyw fel meudwy, na bod yn frenin ar y fath giwaid o Buritaniaid ag sy'n rheoli Ty'r Cyffredin!"[11] Ond os cryf Senedd gyntaf Iago, cryfach yr äi bob Senedd ar ol hynny. Gwrthwynebent yn gadarnach fyth, flwyddyn ar ol blwyddyn, bob trawsfeddiant o awdurdod o eiddo'r brenin a'r Eglwys. Yn y naill etholiad ar ol y llall cryfach, gryfach yr äi plaid y Gwladgarwyr, a gwannach, wannach yr äi plaid y Brenhinwyr yn Nhy'r Cyffredin. Ac eto ymhob dim gofalent weithredu yn gyfansoddiadol.[12] Nis gallwn lai na rhyfeddu at yr hir amynedd a ddanghoswyd gan y wlad a'i chynrychiolwyr, tra yn dal yn gadarn, ïe, yn gyndyn, wrth eu hawliau.
Eithr nid felly'r brenin. Bu Iago saith mlynedd heb Senedd, a Siarl un-flynedd-ar-ddeg. Gallasai Elizabeth fod wedi fforddio byw heb Senedd yn well na hwynt, canys yr oedd hi wedi cynhilo digon o arian fel y gallai, petai angen hynny, gario'r gwaith ymlaen heb arian y wlad. Ond nid felly Iago na Siarl. Afradlon oedd y ddau ar eu harian—er y gallai Iago fod yn gybydd mewn pethau bychain. A dyma'r afael uchaf gyntaf gafodd Ty'r Cyffredin yn yr ymgodymu â'r Orsedd. Eu hateb i bob cais am arian oedd: "Dim diwygiad—dim arian." Cymerer dwy engraifft hanesyddol er dangos y gwrthgyferbyniad rhwng ymddygiad gwallgof, anghyfansoddiadol y Brenin, ac ymddygiad penderfynnol ond hollol gyfansoddiadol Ty'r Cyffredin.
Er mwyn gosod atalfa ar yr arferiad anghyfansoddiadol o godi trethi heb ganiatad y Senedd, cyflwynodd Ty'r Cyffredin yn 1628 "Ddeiseb Iawnderau" (The Petition of Right) i'r Brenin. Hawlid yn hwn:
i. Nad oedd neb i gael ei orfodi i dalu treth heb gydsyniad y Senedd.
ii. Nad oedd neb o'r deiliaid i gael eu carcharu heb ddangos yr achos.
iii. Nad oedd neb yn groes i'w hewyllys i gael eu gorfodi i letya milwyr.
iv. Nad oedd neb mewn amser heddwch i gael ei brofi wrth ddeddf fllwrol.
Cydsyniodd y Brenin—a phleidleisiodd y Senedd iddo 400,000p. Ond wedi cael yr arian i'w law, torrodd Siarl ei addewid. Pan gyfarfyddodd y Senedd yn 1629, galwodd Syr John Elliott sylw at y modd yr oedd Deiseb Iawnderau wedi cael ei throseddu—ac ymosododd ar Laud, Esgob Llundain ar y pryd, ond wedi hynny Archesgob Caergaint. Pan ddaeth y peth i bleidlais, dywedodd y Llefarydd—Syr John Finch, cynffonnwr i'r brenin—ei fod wedi cael gorchymyn y brenin i ohirio'r Ty. Pe y gwneid hynny nis gallai'r Ty basio dim. Pe'r ymneillduai'r Llefarydd nis gallai'r Ty wneud dim. Cymerwyd mesurau cryfion ond effeithiol i sicrhau fod y bleidlais yn cael ei chymeryd. Clowyd drysau'r Ty. Ymaflodd dau o'r Aelodau yn y Llefarydd gan ei ddal yn y gadair ar waethaf ei ddagrau. Yna darllenwyd gwrthdystiad ffurfiol, yn mynegu y cyfrifid fel gelyn i'r Wladwriaeth y neb a gynghorai dalu, neu a dalai yn wirfoddol, unrhyw arian i'r brenin heb gydsyniad y Senedd. Gyrrodd y brenin am ringyll y Ty; rhwystrwyd ef i fynd; gyrrwyd rhingyll Ty'r Arglwyddi atynt—ond ni chai ddod i fewn; yna gorchymyn—nwyd i'r milwyr fynd a thorri'r drysau. Carcharwyd Elliott ac Aelodau eraill a bu Elliott farw yngharchar. Yn y Senedd dymor cynhyrfus hwn y siaradodd Oliver Cromwell gyntaf—paratoad teilwng i'r gwaith mawr i'r hwn y'i galwyd wedyn.
Deuddeng mlynedd wedi hyn pasiodd Ty'r Cyffredin "Y Gwrthdystiad Mawr" (The Grand Remonstrance) yn nodi rhestr faith o weithredoedd anghyfansoddiadol y brenin. Aeth y brenin a thri chant o wyr arfog wrth ei gefn i Dy'r Cyffredin i ddal arweinwyr y Gwladgarwyr—ond ni chafodd hwynt. Ymneillduodd y brenin o Lundain, a chododd ei faner yn Rhydychain. Pan ddaeth yn ol i Lundain, fel carcharor y daeth—ac i'r dienyddle yr arweiniwyd ef.
Rhaid cofio fod cenhedlaeth gyfan wedi dioddef gormes anghyfansoddiadol am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain, cyn i'r rhwyg mawr gymeryd lle. Cyfeiriwyd droion at y rhan a chwareuodd yr Eglwys yn yr helyntion hyn. Symbylydd mawr polisi Eglwysig Siarl oedd Laud,—gynt Esgob Ty Ddewi, wedi hynny Esgob Llundain, ac yn olaf Archesgob Caergaint. Credai Laud mor ddiysgog yn anffaeledigrwydd Yr Eglwys, ag y credai'r brenin yn anffaeledigrwydd Y Teyrn. "Pab Caergaint" y gelwid ef gan y Puritaniaid. Yr oedd yn Babydd ymhopeth ond enw. Cyn ei amser ef safai Bwrdd y Cymun ynghanol yr Eglwys; mynnodd ef ei symud, a'i gosod fel allor yn erbyn mur dwyreiniol yr adeilad; ac, er mwyn cadw dwylaw anghysegredig rhag cyffwrdd â'r allor, gosodwyd canllaw o'i hamgylch. Prin y talai'r Iuddewon fwy o barch i Arch y Cyfamod, nag a fynnai Laud i'r Saeson dalu i'r allor ymhob Eglwys blwyfol. Dysgid hwynt hefyd i ymgrymu bob tro yr aent i fewn neu allan o'r Eglwysi. Cosbid hwynt os esgeulusent wneud.[13] Cyfarwyddid hwynt i foesgrymu i'r allor. "Dyma," ebe'r Archesgob, "yw'r unig fan ar y ddaear lle y preswylia Duw.[14] Gyda hyn mynnai i bawb dalu gwarogaeth i'r clerigwyr, y rhai a fynnent gael eu galw yn "offeiriaid." Gwelir ei fod yn gofalu am y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl. Hyn oedd prydferthwch santeiddrwydd yn ei olwg ef.[15] Yn hollol gyd-wybodol yn yr hyn a gredai, mynnai i bawb blygu i awdurdod anffaeledig yr Eglwys. Cosbid yn dost y rhai ni phlygent.
I ddianc rhag yr ormes hon ffodd miloedd o ddynion goreu'r wlad dros y môr.[16] Tybir fod pedair mil wedi croesi'r Werydd. Ond nid oedd hyn yn cydfyned â dymuniadau Laud. Rhoddwyd gorchymyn allan nad oedd neb i ymfudo heb gennad y brenin. Dygodd y gorchymyn hwn ei gosb i'r gorchymynnwr yn hytrach na'r gorchymynedig. Rhwystrwyd rhai o'r gwladgarwyr cadarnaf i ymadael o Loegr. Ymhlith y rhai oedd yn paratoi i fynd, ond a rwystrwyd felly, yr oedd Oliver Cromwell.
Canlyniad naturiol yr ormes yma oedd gwrthweithiad. Cododd y wlad yn erbyn Laud. Teimlent, o'r ddau, yn fwy chwerw yn erbyn gormes eglwysig Laud, nag yn erbyn gormes wladol Wentworth, Iarll Strafford. Pan gyfarfyddodd y Senedd Hir yn 1640, un o'r pethau cyntaf wnaeth Ty'r Cyffredin, oedd ystyried sefyllfa crefydd yn y wlad. Danfonwyd deiseb o Lundain, wedi ei harwyddo gan 15,000 o bersonau, yn deisyf am ddiddymiad y dull esgobyddol o lywodraethu'r Eglwys.[17] Ar gefn hyn cymerodd Ty'r Cyffredin gam pwysig a hynod pan edrychir arno o safle'r Ymneillduwyr. Tuedd polisi eglwysig Laud, fel y gwelir, oedd gwneud yr Eglwys, yn anibynnol ar y Senedd; mynnai Ty'r Cyffredin osod pob awdurdod yn nwylaw cynrychiolwyr y bobl. Pasiwyd penderfyniad, yn ddiwrthwynebiad, yn mynegu nad oedd unrhyw reol neu benderfyniad a basid gan ddau dŷ Confocasiwn yr Eglwys i feddu grym nac awdurdod heb gydsyniad y Senedd. Dyma osod llyfetheiriau'r Wladwriaeth yn dynnach nag erioed am draed yr Eglwys! Dyna amddifadu'r Eglwys o unrhyw allu deddfwriaethol. Cydsyniodd Ty'r Arglwyddi yn unfrydol yn hyn. Y cam nesaf oedd amddifadu'r clerigwyr o awdurdod gweinyddol mewn llysoedd gwladol. Gwaherddid i "esgobion, neu unrhyw glerigwyr eraill, i eistedd fel Ustusiaid Heddwch, nac i feddu hawl barnwyr mewn unrhyw lys cyfraith "—gan, meddid, y buasai hynny yn rhwystr i'w gwaith ysbrydol. Ond nid oedd yr Arglwyddi mor barod i basio hyn, gan y golygai droi'r Esgobion allan o Dy'r Arglwyddi.[18] Ond gwaeth na'r cwbl oedd "Mesur Gwreiddyn a Changen" (Root and Branch Bill) a ysbrydolid yn bennaf gan Oliver Cromwell. Darparai'r Mesur hwn am ddiddymiad llwyr y gyfundrefn esgobaethol. I gosbi'r Diwygwyr am hyn, ymgadwodd yr Esgobion o Dy'r Arglwyddi am dro, ar y tir fod agwedd y werin-bobl mor fygythiol fel na feiddient fynd i'r Senedd. Ni fuasai eu habsenoldeb yn blino'r Diwygwyr ond pan aeth yr Esgobion ymhellach, gan yrru gwrthdystiad yn erbyn cyfreithlonrwydd unrhyw ddeddf neu benderfyniad a basid yn eu habsenoldeb hwy, cododd y teimlad yn uwch yn eu herbyn. Taflwyd Laud i'r carchar, ar y cyhuddiad o deyrnfradwriaeth; cyhuddwyd dwsin o Esgobion o'r un trosedd. Ansefydlog yn ei benderfyniad, anffyddlon i'w air, anheyrngar i'w gyfaill, caniataodd Siarl dorri pen Laud. Ychydig wythnosau cyn croesi o'r Brenhinwyr a'r Gwladgarwyr gleddyfau ar faes y gwaed, gyrrodd Senedd Lloegr at Senedd Ysgotland, yn mynegu eu penderfyniad i ddileu esgobyddiaeth, "yn gymaint a bod hir brofiad yn dangos fod y gyfundrefn honno yn rhwystr mawr i berffaith ddiwygiad a chynnydd crefydd, ac yn dra niweidiol i wladwriaeth a llywodraeth y deyrnas."[19] Yna cymerodd mewn llaw ddiwygio'r gwasanaeth crefyddol. Symudwyd yr allor o'i safle ddwyreiniol yn yr eglwysi, a gwnaed hi drachefn yn Fwrdd y Cymun; gorchymynnwyd roi heibio'r croesau, y delwau, a'r darluniau Pabyddol; gwaherddid gosod canhwyllau ar Fwrdd y Cymun; dilewyd chwareuon ar y Sul; cymhellid cynal oedfaon pregethu brydnawn Suliau; anogid plwyfi'r deyrnas i benodi "darlithydd" i bregethu ar y Sul ac unwaith yn yr wythnos, ac i'w gynnal drwy roddion gwirfoddol. Dyma sylweddoli breuddwyd John Penry dri-ugain mlynedd cyn hynny! A dyma gydnabyddiaeth ffurfiol a swyddogol i'r egwyddor wirfoddol mewn crefydd.
Dyma, ynte, ddau chwyldroad, y naill yn y Wladwriaeth, a'r llall yn yr Eglwys. Yr un egwyddor a ysbrydolai'r ddau—dyhead am ryddid. Dyma'r Brenin, a'i syniadau am Hawl Dwyfol, ar ffo; dyma'r Esgob, a'i uchelgais am awdurdod i'r Eglwys, wedi cael ei ddiswyddo; dyma'r Gwladgarwr yn llywodraethu yn y Wladwriaeth; dyma'r Puritan yn rheoli mewn materion Eglwysig. Nis gallai fod chwyldroad mwy cyflawn mewn byd ac Eglwys a'r ddau yn gyd-amserol. Mynnodd Iago a Siarl gysylltu'r Brenin a'r Esgob, y Frenhiniaeth a'r Esgobaeth, â'u gilydd, mewn awdurdod ac uchelgais; mynnodd Ysbryd Rhyddid ddymchwelyd y ddau ar yr un pryd.
Ac eto rhaid cydnabod nad oedd ond ychydig mewn na byd nac Eglwys, eto wedi iawn ddeall gwir Ysbryd Rhyddid. Pan fethodd Cromwell gael y Senedd yn ddigon hydrin, aeth a'i filwyr yno a "phurodd" y Ty. Pan fethodd y Presbyteriaid drechu'r Anibynwyr mewn dadl, disgwylient wrth y fyddin i roi grym yn eu hymresymiadau.[20] Yr oedd eto lawer o waith astudio egwyddorion rhyddid gan arweinwyr gwladol a chrefyddol. Nid oeddent eto—os yn wir y maent heddyw—wedi dysgu'r wers fawr a fynnai Crist i'w holl ganlynwyr Ef ddysgu.
Pan ddaeth y Puritaniaid i awdurdod yn y Senedd ar enciliad Siarl, syrthiasant i'r un camgymeriad ag a wnaeth yr Esgobyddion o'u blaen—a'r Pabyddion o'u blaen hwythau. Tybient y rhaid fod un Eglwys megis ag yr oedd yn rhaid bod un Wladwriaeth—ac mai'r Wladwriaeth a ddylai benderfynnu pa ffurf a gymerai'r Eglwys. Un o weithredoedd cyntaf y Senedd Wladgarol, oedd penodi Cymanfa Duwinyddion (Assembly of Divines). Cydnabyddai'r Senedd fodolaeth gwahaniaethau ymhlith crefyddwyr,—ond mynnent leihau'r gwahaniaethau hynny hyd oedd bosibl. Felly penodwyd Presbyteriaid, Esgobaethwyr, ac Anibynwyr yn aelodau o'r Gymanfa. Ni roddid i'r Gymanfa awdurdod deddfwriaethol—cadwai'r Senedd hwnnw yn ei llaw ei hun. Y cwbl a fedrai'r Gymanfa wneud oedd "cymeradwyo" i'r Senedd ffurf o lywodraeth a gwasanaeth Eglwysig. Cyhoeddwyd hwnnw dan yr enw Hyfforddwr" (Directory). Trowyd y Llyfr Gweddi o'r neilldu, am, meddid, fod yr esgobion wedi ei dra dyrchafu yn y fath fodd fel pe na ellid addoli Duw mewn un ffordd arall; fod pregethiad y Gair o ganlyniad wedi dirywio; a'r clerigwyr wedi eu harfer i segurdod. Felly symudwyd y Llyfr Gweddi o'r Eglwysi; cosbid y sawl a garient ymlaen wasanaeth crefyddol yn ol yr hen ddull, ai yn gyhoeddus ai yn breifat; a dirwyid y neb a esgeulusent weithredu yn ol cyfarwyddiadau'r "Hyfforddwr." Mewn geiriau eraill, defnyddid ffrewyll y Wladwriaeth i gosbi Esgobyddiaeth yn awr, fel y defnyddid hi gynt i gosbi Puritaniaeth. O dan effeithiau hyn trowyd cannoedd o glerigwyr allan o'u bywiolaethau. Trowyd cyfran helaeth, o bosibl y mwyafrif o honynt, allan, mae'n wir, am anfoesoldeb, neu anghymwysder, neu esgeulusdod o ddyledswyddau. Ond nis gallai'r diffygion hyn gyfrif am yr oll a drowyd allan—a phan gaffom enwau fel Jeremy Taylor, Hales, a Fuller, ymhlith y rhai a amddifadwyd o'u bywiolaethau, gorfodir ni i gydnabod fod llawer o'r ysbryd a gynhyrfai erlidiau'r Esgobaethwyr gynt, yn meddiannu'r Puritaniaid, ac yn arbennig y Presbyteriaid, yn awr.[21]
Mae dau beth yn deilwng o sylw yn y fan hon. Yr oedd y Presbyteriaid, fel y'u gelwid, yn llawer mwy anoddefgar na'r Anibynwyr; ac yr oedd dau ddosbarth o grefyddwyr yn ddigon anffodus i fod yn wrthrychau dialedd Pabyddion, Esgobyddion, a Phresbyteriaid. Y ddau ddosbarth yma oedd y Gwrth-Drindodwyr, a'r Bedyddwyr. O'r blaenaf cyhuddwyd John Assheton o flaen Cranmer yn 1548; offeiriad oedd Assheton, a'r cyhuddiad yn ei erbyn oedd ei fod yn ei bregethau wedi gwadu Duwdod a Iawn Crist. Gan mlynedd wedi hynny, ym Mai, 1648, pan oedd y Puritaniaid wedi bod mewn awdurdod am chwe mlynedd, pasiwyd deddf yn cosbi â marwolaeth y neb a wadai athrawiaeth y Drindod. O dan y ddeddf honno condemniwyd Paul Best a John Bidle i farwolaeth; arbedwyd eu bywydau drwy gyfryngiad personol Oliver Cromwell. Am y Bedyddwyr, yr oedd llid Harri VIII. i'w herbyn cynddrwg a'i ddigofaint yn erbyn y Pabyddion: gwaharddodd y deyrnas iddynt, gan fygwth eu lladd os arhosent yn y wlad hon. Gan mlynedd wedi marwolaeth Harri, cyfrifid hwynt gan Buritaniaid yn "gableddus."[22] Un o gwynion Richard Baxter yn erbyn "Prawfwyr" (Triers) Cromwell, pan oeddent yn holi i fewn i gymhwysder clerigwyr, oedd eu bod yn rhy lac, ac yn "ffafru Antinomiaeth a'r Bedyddwyr."[23] Parhaodd y deddfau cosbawl yn erbyn, a'r elyniaeth tuagat, y ddau ddosbarth yma yn hwy nag at Ymneillduwyr eraill ym Mhrydain a'r Cyfandir. Yn wir yr oedd deddfau cosbawl llymion mewn grym yn Germani yn erbyn y Bedyddwyr o fewn yr haner can mlynedd diweddaf.[24] Nid lleol, ond cyffredinol oedd ysbryd anoddefiad mewn crefydd. Cariwyd ef yng nghalonnau'r Puritaniaid erlidiedig i'r America—ond methodd a gwreiddio yno. Ag eithrio'r Drefedigaeth o Fedyddwyr yn Rhode Island, eiddo'r Crynwyr ym Mhensylvania, ac eiddo'r Pabyddion yn Virginia, cysylltid yr Eglwys â'r Wladwriaeth yn America fel yn Lloegr. Ffurf o Bresbyteriaeth oedd y sefydliad gwladol o grefydd yn Lloegr pan lywodraethai'r Puritaniaid; Presbyteriaeth sydd eto yn sefydledig yn yr Ysgotland. Sefydlwyd Cynulleidfaoliaeth fel Crefydd y Wladwriaeth gan Anibynwyr Lloegr Newydd; a gwnaed Esgobyddiaeth yn Grefydd Sefydledig yn New York, Virginia, a'r ddwy Garolina. "Anghydffurfwyr" oedd y neb a wahaniaethai oddiwrth y rhai hyn. Byddai Anibynnwr yn "Anghydffurfiwr" yn New York, ac Esgobaethwr yn Anghydffurfiwr yn Massachusetts,—a Phabydd yn Anghydffurfiwr ymhob un o'r ddau! Cosbid, alltudid, ïe, crogid yr "Anghydffurfwyr" yn America fel y gwnaed yn Lloegr a hynny fel canlyniad rhesymegol cysylltiad crefydd â'r Wladwriaeth.[25] Nid yw daear Eglwys Rydd yn ffafriol i dyfiant ysbryd gormes. Felly, er i Buritaniaid America ar y cyntaf erlid y Bedyddwyr, a phasio deddfau gorthrymus yn erbyn y Crynwyr, a gwneud Roger Williams yn alltud; ac er i'r Crynwyr ym Mhensylvania erlid, carcharu, ac alltudio George Keith; eto i gyd marw yn fuan a wnaeth planhigyn gwenwynig anoddefiad yn awyr a daear iach egwyddorion Eglwys Rydd. Nid hir y bu Trefedigaethau Lloegr Newydd cyn taflu ymaith iau gaethiwus sefydliad gwladol o grefydd, ac mewn canlyniad diddymwyd deddfau gorthrwm crefyddol yno. Ni ddiwreiddiwyd y planhigyn yn llwyr hyd yn oed o ddaear Cymru. Cafwyd cnwd o hono adeg y Diwygiad Mawr yn y ganrif ddiweddaf. Erlidiai'r Eglwyswyr, a rhai o'r Ymneillduwyr, y Diwygwyr a elwid yn Fethodistiaid, a thalai'r "Methodistiaid" y pwyth yn ol, weithiau gyda llog, i'r "Dissenters" a'r Bedyddwyr. Cauwyd capeli'r Bedyddwyr yn erbyn Howell Harris yn y De; a chauwyd mewn cenhedlaeth ar ol hynny, gapeli'r Methodistiaid yn y Gogledd, yn erbyn y Cenhadon Bedyddiedig a fynnent efengylu ym Mon ac Arfon. Methodd Howell Harris a Daniel Rowlands gyd-ddwyn ag athrawiaethau eu gilydd—a throwyd Peter Williams allan o'r "Corff," a boycotiwyd ei Feibl lleiaf,—a'r unig wr a feiddiodd godi llais i'w amddiffyn yn Nghymdeithasfa'r Bala yn 1790, oedd yr Anibynnwr Richard Tibbot.[26] Cyfyd ambell i flaguryn gwenwynllyd ei ben hyd heddyw hyd yn oed yng Nghymru, ac er mai egwan yw, ffrwyth digamsyniol hen wreiddyn chwerw anoddefiad yw.
Mae yn deilwng o sylw, hefyd, cyn gadael y rhan yma o'r pwnc, (i.) fod ysbryd goddefiad yn cynhyddu yn y Senedd Buritanaidd fel yr oedd yr elfen Anibynnol ynddi yn cryfhau; ac (ii.) fod y Bedyddwyr, y rhai yn wleidyddol a chrefyddol a berthynnent yn agosach i'r Anibynwyr nag i'r Puritaniaid eraill, wedi arddangos mwy o ysbryd goddefiad, tra ar yr un pryd mwy o gulni crefyddol, na'r Anibynwyr.[27] Cauai Cromwell y Pabyddion a'r Preladwyr o'r tu allan i gylch ei syniadau ef am oddefiad—ond ar yr un tir a Locke,[28] a Milton[29] , a hyd yn oed Jacob,—sef fod daliadau crefyddol y rhai hyn yn peryglu llywodraeth gwlad rydd. Gyda'r rhagamod hwn am y Pabyddion, dysgai Henry Jacob, yn 1609, egwyddor fawr Goddefiad Cyffredinol mewn arferion crefyddol—a danghosodd Cromwell yn ei ymddygiadau ei fod yntau wedi dysgu'r wers.
Dadleuai Leonard Busher, yn 1614, ei bod yn wrth-Gristionogol i orfodi'r deiliaid i fabwysiadu crefydd y teyrn. Yr un oedd dysgeidiaeth John Goodwin, yr hwn a ddywedai nad oedd Crist, er yn selog dros Dŷ ei Dad, erioed wedi gorchymyn gosod yr un Sadusead na Pharisead, yr un anghredwr na'r un rhyddfeddyliwr, i farwolaeth. Dadl Roger Williams oedd, y gallai'r cledd wneud cenedl o ragrithwyr a gwrth-Gristiongion, ond dim cymaint ag un Cristion: fod gorfodi dyn i dduwioldeb yn tueddi i dorri'r heddwch gwladol; ac y byddai yn llai o bechod i orfodi un i briodi lle nid oedd yn caru, na'i orfodi i addoli lle nad oedd yn credu.
Ai o herwydd eu bod wedi cael eu gwneud yn gymaint gwrthrych erlid am eu daliadau crefyddol, ai beth, sicr yw fod y Bedyddwyr ymhlith y cyntaf i ddadleu Egwyddor Goddefiad mewn crefydd. Mor foreu a 1611 gwnaed mynegiad ffurfiol a swyddogol ar ran y Bedyddwyr, o blaid Goddefiad, os nad
Rhyddid, Cydwybod. Yng Nghyffes Ffydd y Bedyddwyr a gyhoeddwyd y flwyddyn honno dywedir, "Na ddylai'r ynad ymyrryd â chrefydd, na mater cydwybod; na gorfodi dyn i'r ffurf hon neu arall o grefydd; canys Crist yw brenin a deddfroddwr yr Eglwys a'r gydwybod." Ai rhai Bedyddwyr mor bell a dweyd y dylid caniatau, nid yn unig bob dosbarth o Gristionogion, ond hefyd Iuddewon, Tyrciaid, a Phaganiaid, tra bont heddychlon, ac nad ydynt droseddwyr cyfraith.[30] Ychydig, os neb, ymhlith yr Anibynwyr, chwaethach y Presbyteriaid, a aent y pryd hynny mor bell a hyn dros ryddid cydwybod.
Pan ddown i ystyried cysylltiad yr Enwadau â'u gilydd yn y cyfnod hwn, mae'r gorchwyl yn mynd yn fwy anhawdd. Nid oedd llinellau ffin enwadol y dyddiau hynny mor glir a digamsyniol ag ydynt yn awr. Gwelwyd eisoes fod Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr wedi aros yn hir yn yr un gorlan. Cymerer hyd yn oed y Bedyddwyr. Gellid tybied y buasai afon y Bedyddiwr yn llinell ffin amlycach na chlawdd y Presbyter. Ac eto cawn (gwel tud. 71) y Bedyddiwr yn cyd-addoli, ac yn gyd-aelod yn yr un Eglwys, a'r Anibynnwr. Yn wir, prin y gellid am amser eu cyfrif yn ddau enwad o gwbl.
Ond yn unig ar gwestiwn y Bedydd, yr oedd llai o wahaniaeth rhwng Bedyddwyr ac Anibynwyr yr oes honno, nag sydd yn aml ar gwestiwn o athrawiaeth, neu hyd yn oed ffurf o wasanaeth, neu o lywodraeth Eglwysig, rhwng dwy Eglwys, neu, yn wir, aelodau yn yr un Eglwys, ymhlith yr Anibynwyr heddyw. Am y rheswm hwn cynhwysir y Bedyddwyr yn aml yn y term Anibynwyr, mewn amryw bethau a ddywedwyd eisoes yn y bennod hon. Ond tua diwedd y cyfnod dan sylw, fel yr oedd rhif yr Ymneillduwyr yn cynhyddu, a'r aelodau yn yr Eglwysi yn amlhau, tuedd naturiol y Bedyddwyr Crediniol mewn Eglwys gymysg, oedd tynnu yn nes at eu gilydd, ac ymhellach oddiwrth eu cyd-aelodau y Baban-fedyddwyr, ac o'r diwedd i ymffurfio yn Eglwys ar wahan. Ond nid oedd hyd yn oed hynny yn gyffredinol. Ceir, fel y danghosir eto, enghreifftiau yng Nghymru i lawr hyd ymhell yn y ganrif ar ol yr un dan sylw, o Eglwysi oeddent weithiau yn cael eu bugeilio gan Faban-Fedyddiwr, ac ar brydiau eraill gan Fedyddiwr Crediniol; weithiau ceir dau weinidog i'r un Eglwys, y naill yn un a elwid heddyw yn Anibynnwr, a'r llall yn Fedyddiwr; ceir Eglwys a ystyrrid yn Anibynnol yn rhoi galwad i Fedyddiwr, ac Eglwys a ystyrrid yn Fedyddiedig yn rhoi galwad i Anibynnwr. Ac eto i gyd, yn nghyfnod y Stuardiaid, ceir yr ymwahaniad rhwng y ddwy aden i'r Corff Cynulleidfaol, yn dod o'r naill flwyddyn i'r llall yn amlycach, amlycach. Ac os cysylltid y ddau yn agos â'u gilydd mewn crefydd, cysylltid hwy yn agosach fyth mewn gwleidyddiaeth,—ac yn holl ymrafaelion Cromwell a'r Presbyteriaid, ceir y Bedyddiwr ochr yn ochr a'r Anibynnwr, o'r tu cefn i'r dewryn hwnnw, ymhob ymdrech dros ryddid gwladol a chrefyddol.
Dywedwyd o'r blaen (tudal. 10, 11) fod y Presbyteriaid a'r Anibynwyr ar y cyntaf mor debyg ac agos i'w gilydd, fel nas gellid yn hawdd wahaniaethu rhyngddynt. Yn nyddiau gweriniaeth Cromwell, ymbellasant oddiwrth eu gilydd. Ar ddychweliad Siarl II., ac wedi pasio Deddf Unffurfiaeth 1662, gwasgodd gormes Esgobyddiaeth hwynt yn ol i'w hen berthynas, nes yr ail-doddasant i'w gilydd mewn llawer iawn o amgylchiadau. Mor bell ag yr oedd a fynno Cymru, diflannodd Pres—byteriaeth fel enwad yn gyfangwbl; ond yr oedd y trawsnewidiad o Bresbyteriaeth i Anibyniaeth mor raddol, fel, er y gallwn gyda phriodoldeb alw Eglwys yn Bresbyteraidd mewn un cyfnod, a'r un Eglwys gyda chymaint priodoldeb yn Eglwys Anibynnol mewn cyfnod arall, amhosibl yw gosod bys ar unrhyw adeg neillduol, gan ddweyd, "Dyma'r dydd, neu'r flwyddyn, y trodd yr Eglwys hon o fod yn Bresbyteraidd i fod yn Anibynnol." Gellir dweyd yr un peth, mewn cysylltiad arall, am y cymdeithasau crefyddol hynny yn y ganrif ddilynol, a ddadblygasant ymhen amser i fod yn Eglwysi Methodistaidd.
Ond yng nghyfnod y Weriniaeth daeth y gwahaniaeth rhwng y Presbyteriaid a'r Anibynwyr, yn llawer amlycach nag y bu na chynt na chwedyn. Dau ddosbarth yn cael eu hysbrydoli gan ddwy egwyddor wahanol, yn hytrach na dau enwad gwahanol, oeddent ar gychwyn cyntaf y cweryl â'r Stuardiaid. Ond tuedd yr egwyddorion gwahanol a'u llywodraethent, oedd eu gyrru oddiwrth eu gilydd. A chymeryd golwg eang ar amgylchiadau yr oes honno, yn hytrach na manylu ar ddigwyddiadau unigol, gellir dweyd hyn am y Presbyteriaid a'r Anibynwyr—gan gofio, fel yr awgrymwyd, y cynhwysir y Bedyddwyr yn y term cyffredinol Anibynwyr yn y cysylltiadau presennol:—
i. Yr Anibynwyr, gan mwyaf, a gawsant ddioddef pwys a gwres y dydd yn y frwydr â byddinoedd Siarl: y Presbyteriaid, gan mwyaf, a fedasant, ar y dechreu, ffrwyth y fuddugoliaeth a enillwyd.
ii. Ymladd dros egwyddor rhyddid, yn wladol a chrefyddol, yr oedd yr Anibynwyr; ymdrechu dros sefydlu ffurf arall o grefydd wladol yn lle'r un Esgobyddol, yr oedd y Presbyteriaid.
iii. Yr oedd yr Anibynwyr yn foddlon caniatau Sefydliad Gwladol o Grefydd, ar yr amod fod goddefiad cyffredinol o'i mewn; ni fynnai'r Presbyteriaid nac Esgobyddiaeth nac Anibyniaeth yn yr Eglwys. Fel canlyniad, naturiol efallai, i i. a ii.,
iv. Yr Anibynwyr gondemniodd Siarl, ac a dorrodd ei ben ef; gwrthwynebid hyn yn boethlyd gan y Presbyteriaid.
v. Ar farwolaeth Cromwell mynnai'r Presbyteriaid ddwyn Siarl II. yn ol i'r Orsedd, a chan wybod na chefnogid hwy yn hynny gan yr Anibynwyr, aeth y Presbyteriaid tu cefn iddynt, gan wneud cyfamod dirgel â Siarl yr estynnai efe iddynt dorthau a physgod yr Eglwys pan eisteddai drachefn ar orsedd ei dad.
vi. Wedi tori o Siarl yr amod hwn, ac wedi ceisio o hono wthio Esgobyddiaeth arnynt drachefn, y trodd y Presbyteriaid eu cefn ar yr Eglwys Wladol, ac yr ail ymunasant a'r Anibynwyr.
Pan drown oddiwrth y wedd wleidyddol at yr un Eglwysig, cawn ymhellach y gwahaniaethau hyn:
vii. Ordeiniai'r Presbyteriaid ddyn i waith y weinidogaeth mewn ystyr gyffredinol; ordeiniai'r Anibynwyr ef i Eglwys neillduol.
viii. Edrychai'r Presbyteriaid ar y weinidogaeth fel urdd; cyfrifid hi gan yr Anibynwyr, yn unig fel swydd.
ix. O ganlyniad, anghymeradwyai'r Presbyteriaid bregethwyr lleygol; cymhellid y cyfryw gan yr Anibynwyr i bregethu, os yn meddu cymhwysderau at hynny. x. Y Presbytery, neu yr Henaduriaeth, hynny yw, Cynhadledd Eglwysi'r cylch, yn eu cymeriad swyddogol, a neillduai ddyn i waith y weinidogaeth ymhlith y Presbyteriaid; gyda'r Anibynwyr, yr Eglwys ei hun a wnai hynny, weithiau trwy alw gweinidogion eraill i gyflawni'r seremoni, brydiau eraill trwy neillduad arbennig ac arddodiad dwylaw henuriaid yr eglwys honno yn unig.
xi. Caniateid gan y ddau i'r Eglwys ddewis ei gweinidog ei hun; ond gyda'r Presbyteriaid, gallair Henaduriaeth wrthod neillduo'r person a ddewisid i'r swydd; tra gyda'r Anibynwyr, ni fedrai neb gyfyngu ar ddewisiad yr Eglwys.
xii. Ymhlith y rhai a benodwyd i fywiolaethau o dan y Weriniaeth, derbyniai'r Presbyteriaid yn ddieithriad, y degymau neu gyllid arall y fywoliaeth; tra yn aml ymddibynnai'r Anibynnwr ar roddion gwirfoddol ei gynulleidfa.[31]
Ni chaniata terfynnau'r gwaith presennol imi fanylu ar y pethau uchod, nac ar aml i ddigwyddiad tra dyddorol a phwysig ynghysylltiad y Presbyteriaid a'r Anibynwyr. Rhoddaf ychydig linellau arweiniol pellach a gynorthwyant i egluro'r cysylltiad hwnnw. Eithr na thybier y gellir canfod yr holl wahaniaethau uchod, nac yn yr un lle nac ar yr un adeg. Nodweddion gwahaniaethol oeddent, i'w canfod o bosibl ar wahanol adegau, ac mewn gwahanol fannau, ac nid oll gyda'u gilydd.
Pan gymerodd y Senedd at lywodraethu'r wlad yn 1642, y Presbyteriaid oedd mewn awdurdod. Er yn gwahaniaethu yn hanfodol oddiwrth Bresbyteriaeth yr Ysgotland, eto, teimlent fod y berthynas mor agos fel mai dymunol fyddai cael cydweithrediad cyson. Felly mynnodd y Senedd arwyddo "Y Cyngrair a Chyfamod Difrifol" oedd yr Ysgotiaid eisoes wedi rhwymo eu hunain iddo. Teimlai'r Anibynwyr wrthwynebiad iddo yn ei ffurf wreiddiol, a chyfnewidiwyd ychydig arno. Yna gwnaed ef yn faen prawf o uniongrededd crefyddol a gwladol.[32] Cadwodd y Presbyteriaid eu gafael ar y Senedd hyd 1648. Cyrhaeddasant eu huchafnod yn 1646, pan sefydlwyd Presbyteriaeth fel Eglwys Wladol. Yn 1648 yr oeddent yn ddigon cryf i gario, yn nannedd gwrthwynebiad yr Anibynwyr, eu Deddf yn erbyn Heresi a Chabledd. (Gwel tudal 93.) Cymerodd yr ymdrech rhwng y ddwy blaid yn y Senedd le o amgylch cwestiwn mawr goddefiad crefyddol. Pleidwyr goddefiad cyffredinol (ag eithrio'r Pabyddion a'r Gwrth-Drindodwyr), oedd yr Anibynwyr; gwrthwynebwyr penderfynnol goddefiad oedd y Presbyteriaid. Cyhuddent yr Anibynwyr o "geisio goddefiad nid yn unig iddynt eu hunain, ond i bob dyn." Cyffelybent hwynt i fleiddiaid yng nghrwyn defaid, a dywedent na ddylai'r ynadon, fel bugeiliaid y praidd, ganiatau i'r bleiddiaid ddod i'r corlannau. Proffwydent, pe y caniateid goddefiad, y deffroai hynny ddigofaint Duw yn erbyn y genedl. Tryfrithir llenyddiaeth Bresbyteraidd y cyfnod gan opiniynau cyffelyb.[33]
Ond tra yr oedd y Presbyteriaid yn gryf yn y Senedd, yr oedd yr Anibynwyr yn gryf yn y fyddin, ac yn y wlad. Gan ofni cynnydd gallu'r Anibynwyr, ceisiodd Presbyteriaid Lloegr help eu brodyr o'r Ysgotland. Gwnaed cais hefyd yn y Senedd i leihau awdurdod Oliver a'i fyddin. Cysylltid a hyn brofion amlwg o ysbryd anoddefiad a gormes. Er engraifft, awgrymid na ddylai neb nad oedd gefnogol i'r "Cyngrair a Chyfamod ddal swydd wladol, y dylid troi y cyfryw allan o'r fyddin, pa un bynnag ai swyddogion ai milwyr cyffredin a fyddent; na ddylid caniatau i neb bregethu os nad oedd wedi cael ei ordeinio; ac y dylid atal cynnal cyfarfodydd addoli Ymneillduwyr (oddiwrth Bresbyteriaeth). Gwelir fod hyn oll yn ail-godi egwyddorion pwysig o ormes, yr ymladdodd y wlad yn eu herbyn cyhyd.
Yr oedd y gwahaniaethau a amlygwyd yn y Senedd, yn cael eu cynhyrfu gan y gwahaniaethau yn y Gymanfa Duwinyddion yn Westminster. Eisteddodd y Gymanfa hon am ddeng mlynedd, sef o 1643 i 1653. Yr oedd Presbyteriaid, Anibynwyr, ac Esgobyddion, yn aelodau o ohoni. Ychydig o ddyddor—deb a gymerodd yr Esgobyddion ynddi. Nid felly yr Anibynwyr. Gwnaethant i fyny mewn zel a gallu am fychandra eu rhif—canys Presbyteriaid oedd mwyafrif yr aelodau.
Ond pan feddai'r Anibynwyr ddynion fel Thomas Goodwin, Nye, Burroughes, Bridge, Carter, Caryl, Phillips, a'r cyffelyb, gellir bod yn sicr na ddioddefai'r achos gam oddiar eu dwylaw. Yn erbyn dynion fel y rhai hyn, y sonia Baillie am gael presenoldeb y fyddin Bresbyteraidd i gynorthwyo rhesymau'r duwinyddion Presbyteraidd.[34] Mewn atebiad i'r cudd-fygythiad ynghylch y fyddin, y cyhoeddodd yr Anibynwyr uchod yr "Adroddiad Amddiffynnol" o'u safle. Mae y mynegiad hanesyddol hwn mor bwysig, ac yn gosod allan mewn dull mor glir, safle'r Anibynwyr ar rai o gwestiynau dyrrus y dydd, fel y rhoddir dyfyniad ohono yma :—
"Yr ydym gan mwyaf oll wedi bod yn y weinidogaeth yn Eglwys Loegr, ac, wedi myned yn alltudion gwirfoddol fel y caffem Iawn ryddid i addoli, yr ydym wedi bod mewn safle i edrych yn ddiduedd ar holl gwestiwn trefn Eglwysig. Yr ydym yn parchu yr Eglwysi Diwygiedig, ac nid ydym yn eu hystyried yn anfri ar y rhai hynny, i dybied nad yw y cam cyntaf a gymerwyd ganddynt yng nghyfeiriad rhyddid, wedi bod y fath ag nad yw yn gadael lle iddynt wella a myned rhagddynt ymhellach. Mae dynion da wedi dysgu rhywbeth er dyddiau Luther a Calvin; ac yr ydym ni wedi beiddio tybied y gall fod wedi ei roddi ini i ddysgu rhywbeth yn ychwaneg. Nid ydym yn gaeth-ddilynwyr i unrhyw blaid; boddlon ydym i ddysgu gan bawb neu rywrai, gan nad pa gymaint y gwahaniaethant oddiwrthym. Ni ddaeth erioed i'n calonnau i wadu nas gall cynulleidfaocdd plwyfol Lloegr fod yn wir Eglwysi, a'u gweinidogaeth yn wir weinidogaeth; nac ychwaith i wrthod cymundeb ag Eglwysi, ai cartrefol ai tramor, nad ydynt, yn ein barn ni, yn hollol bur. Estynnwyd y caredigrwydd brawdol hwn, yn yr hwn yr ydym bob amser wedi byw, ini yng ngwlad ein halltudiaeth, lle y caniataodd yr ynadon ini, ar oriau neillduol ar Ddydd yr Arglwydd, i ddefnyddio eu heglwysi, a gelwid ein cynulleidfaoedd ynghyd yno gan gloch yr Eglwys; a sicrhawyd ini drwy orchymyn cyhoeddus, nid yn unig win y Cymun, ond cynhaliaeth haelionus i'n gweinidogion. Yn ein haddoliad, offrymem weddi rydd yn unig, ac nid fel y gwneir yn Lloegr, gweddi rydd gyda ffurf-wasanaeth. Nid yw ein gweinidogion, megys eiddo'r holl Eglwysi Diwygiedig, yn ddim amgen na bugeiliaid (presbyters) syml. ysbrydol yw ein disgyblaeth; a thra y gorwedd y ddisgyblaeth yn gyfan-gwbl yn nwylaw'r gynulleidfa a'i swyddogion, nid yw yn gwneud y gynulleidfa yn anibynnol yn yr ystyr o'i chau allan o gyfrifoldeb i'r ynad, mewn cysylltiadau gwladol, nac yn ein rhyddhau oddiwrth rybudd brawdol, ac o bosibl gerydd a diarddeliad oddiar ddwylaw Eglwysi eraill."
Cafwyd dadleuon maith, ac weithiau poethlyd, yn y Gymanfa. Mynnai'r Presbyteriaid sefydlu Presbyteriaeth yn y tir am ei bod, meddent, yn gorffwys ar hawl dwyfol. Dyma hen ddadl Laud dros esgobyddiaeth, a Iago dros y brenin. Atebodd yr Anibynwyr, os hawlid fod cyfundrefn yn gorffwys ar hawl dwyfol am ei bod yn seiliedig ar ddysgeidiaeth yr Ysgrythyrau, yna eu bod hwy yn hawlio mai Cynulleidfaoliaeth oedd y gyfundrefn honno; eithr boddlonent hwy ar gael eu goddef ochr yn ochr & Phresbyteriaeth, ac ni ddymunent ddisodli honno. Pan ddygwyd y mater gerbron y Senedd i'w benderfynnu, dyfarnodd honno fod Presbyteriaeth yn unol â Gair Duw, ac y dylai gael ei sefydlu,—ond gomeddodd ei chydnabod fel yn gorffwys ar hawl dwyfol. Canlynnwyd hyn gan ddadleuon cyffelyb ar ddysgyblaeth Eglwysig, a goddefiad. Safai'r pleidiau mor bell a'r pegynnau oddiwrth eu gilydd ar y cwestiynnau hyn. Y diwedd fu i'r Presbyteriaid amlygu yn groew na chaniateid goddefiad i'r Anibynwyr, gan y golygai hynny benrhyddid i bawb. Ymosodid ar yr Anibynwyr o Loegr a'r Ysgotland. Atebodd un o'r Anibynwyr, Jeremiah Burroughes, fod yr enwad hwnnw yn benderfynnol o ddioddef, neu os byddai raid, i adael gwlad eu genedigaeth, yn hytrach na rhoi i fyny yr egwyddorion a gredent ynddynt.
Ond os oedd chwerwder y Presbyteriaid yn cynhyddu yn y Gymanfa a'r Senedd, yr oedd grym a rhifedi'r Anibynwyr yn cynhyddu yn y fyddin. Nid awn yn awr i olrhain yr achosion o hynny, ond boddlonwn ar nodi'r ffaith. Dygodd y Senedd Bresbyteraidd ei hun i wrthdarawiad a'r Fyddin Anibynnol, a'r Fyddin a orfu. O hynny allan llywodraethwyd y wlad gan y Weriniaeth-gyda Cromwell yn ben arni. Caled oedd i'r Presbyteriaid wingo yn erbyn y symbylau hyn, ond gwingo a wnaethant. Ceisiodd y Senedd, oedd yn awr yn nwylaw'r Anibynwyr, estyn i'r clerigwyr Presbyteraidd bob tynerwch ac ystyriaeth. Sefydlwyd goddefiad crefyddol ar seiliau digon llydan i gynnwys "pawb ar a broffesant ffydd yn Nuw, drwy Iesu Grist, gan nad pa gymaint a wahaniaethant mewn barn o berthynas i athrawiaeth, disgyblaeth, a ffurf-wasanaeth." Ymgymerwyd y cai pawb o'r cyfryw eu "hamddiffyn ym mhroffes eu ffydd ac ymarferiad eu crefydd, yn ol eu cydwybodau, ar yr amod na fyddai iddynt gam-ddefnyddio'r rhyddid hwnnw er niwed i eraill, neu i aflonyddu ar yr heddwch." Swyddogion y fyddin a wnaethant y mynegiad hwn gyntaf; yna gwnaeth Cromwell a'i ganlynwyr yr un peth.[35]
Ond ni fynnai'r Presbyteriaid ddygymod â chyfundrefn o oddefiad i eraill. Fel y gwnaeth Iago a'r esgobaethwyr, hauasant wynt anoddefiad i eraill, medasant, ymhen ychydig flynyddoedd wedyn, gorwynt erlid iddynt eu hunain. Gwell oedd ganddynt gael Siarl II. yn frenin arnynt, na gadael i'r Anibynwyr reoli yn y deyrnas. Nid am eu bod yn hoffi esgobyddiaeth, ond am eu bod yn credu fod Presbyteriaid yr Ysgotland wedi troi Siarl i'w crefydd hwy; a thybient pe caent frenin, a Senedd, ac Eglwys, oll yn Bresbyteraidd, y buasai'r mil-flwyddiant wedi gwawrio arnynt. Nid oedd eu llygaid eto wedi cael eu hagoryd i hawliau cydwybod neb ond yr eiddynt hwy eu hunain. Credent y buasai'r goddefiad cyffredinol, a fynnai Cromwell ei sefydlu yn y wlad, yn profi yn niweidiol i wir grefydd.[36] Gwrthododd cynhadledd, yn cynnwys triugain o weinidogion Presbyteraidd, arwyddo'r Cytundeb oedd
yn diogelu goddefiad i enwadau Cristionogol eraill. Yr oedd eu syniadau felly am ryddid crefyddol mor gul ag eiddo'r Esgobaethwyr a'u herlidient yn nyddiau Iago a Siarl I., ac a'u herlidiasant drachefn yn nyddiau Siarl II. Yr oedd yn rhaid iddynt fynd eto drwy bair erledigaeth Deddf Unffurfiaeth Esgobaethol, cyn y medrent weled fod Deddf Unffurfiaeth Bresbyteraidd mor anghyson a hithau â hawliau cydwybod. Goddefiad a diogelwch i bawb i addoli fel y mynnent,—ond iddynt beidio ymyrryd â hawliau pobl eraill,—oedd arwyddair yr Anibynwyr; goddefiad i neb, unffurfiaeth trefn a disgyblaeth Eglwysig i bawb, gan ganiatau amrywiaeth yn y ffurf o wasanaeth yn unig, oedd syniad y Presbyteriaid.
Nis gallai dau syniad mor groes i'w gilydd lai na dod i wrthdarawiad mewn llywotrefn wladol yn ogystal ag Eglwysig. Ymgynghreiriodd y Presbyteriaid Seisnig yn ddirgel â'u brodyr yn yr Ysgotland, i ddymchwelyd y Weriniaeth; ac er i allu milwrol Cromwell, tra bu efe byw, lwyddo i'w rhwystro i gyrraedd eu hamcanion, eto ni pheidiasant hyd nes y gosodasant eu hawliau gwladol yn nwylaw Siarl II.,—a'u hawliau crefyddol unwaith eto at drugaredd yr Esgobaethwyr erlidgar.
O dan lywodraeth Cromwell esgynnodd Lloegr, yn wladol a chrefyddol, i uwch safle nag y bu erioed cyn hynny, nac am lawer blwyddyn hir ar ol hynny. Gan nad beth allai fod ei ddiffygion, mae yn amlwg dri pheth:—
(1) Cromwell sylfaenodd Ymerodraeth Prydain.
Nid oedd Elizabeth, er ei holl allu, yn ddim ond Brenhines Lloegr. Yr oedd Iago yn Frenin ar yr Ysgotland yn ogystal a Lloegr, ac mewn enw ar y Werddon; ond Senedd Seisnig oedd ei Senedd. Eithr am Senedd Cromwell, cynhwysai gynrychiolwyr o'r Werddon a'r Ysgotland, yn ogystal ag o Gymru a Lloegr. Ysgubodd bob gelyn i'w lywodraeth oddiar y môr, a gwnaeth enw Prydain yn allu yn y byd gwareiddiedig.
(2) Cromwell sicrhaodd i Brydeinwyr eu hawliau gwladol. Efe dorrodd wialen gormes y Stuardiaid, ac a ddrylliodd ddelw "Hawl Dwyfol y Brenin." Mae yn deilwng o sylw, er i'r Brenhinwyr ennill am i frwydr, na chollodd Cromwell ei hun erioed yr un. Gwnaeth y wers mewn rhyddid a ddysgodd efe i'r bobl, yn amhosibl i Q Siarl II. efelychu gormes ei dad a'i daid,—er iddo drawsfeddiannu rhai o'r hawliau oeddent yn eiddo'r bobl.
(3) Cromwell ddysgodd i'r wlad, i'r Eglwys, ac i'r byd, egwyddor fawr rhyddid cydwybod, ac a sefydlodd yn neddfau'r deyrnas, gyntaf erioed, yr egwyddor o Oddefiad Crefyddol.
Gwir i Cromwell gyhoeddi yn 1655 orchymyn caeth yn erbyn Clerigwyr Esgobaethol, a drowyd allan o'u bywiolaethau, yn eu gwahardd i weinyddu dim o ordinhadau yr Eglwys yn gyhoedd nac yn breifat. Ond mater o reidrwydd er diogelwch y deyrnas, oedd y gorchymyn hwnnw. Yr oedd yr Eglwyswyr yn y Gorllewin wedi codi mewn arfau yn erbyn ei lywodraeth; ac fel mesur o ddiogelwch gwladol ac nid o anoddefiad crefyddol, yr amcenid y gorchymyn. Pan alwodd yr Esgob Usher ar Cromwell i siarad ar y mater, cafodd ar ddeall na osodid y gorchymyn hwnnw mewn grym ond lle byddai perygl i'r Wladwriaeth pe na wneid hynny.[37] "Yr oedd Cromwell," ebe Esgob Kennet, "dros ryddid, a'r anghaethder llwyraf i bob plaid, mor bell ag oedd yn gyson â diogelwch ei berson a'i lywodraeth; ac yr oedd hyd yn oed y rhagfarn oedd ganddo yn erbyn y blaid Esgobaethol, yn fwy o herwydd eu bod yn Frenhinwyr, nag am eu bod yn perthyn i'r hen Eglwys anwyl. Cafodd Dr. Gunning, Esgob Ely wedi hynny, gadw cyfarfodydd yn Llundain mewn dull mor agored a'r Dissenters eu hunain—ac felly hefyd ddiwinyddion Esgobaethol eraill."[38] Ar ol esgyniad Siarl II. i'r orsedd, ysgrifennodd clerigwr Eglwysig: "Gallaf gyfrif amryw glerigwyr ddalient fywiolaethau yn Llundain yn nyddiau Cromwell, ac a bregethent yn ddirwystr. Yn eu plith yr oedd Dr. Hall, Dr. Ball, Dr. Meds, Dr. Harding, Dr. Griffith, Dr. Pierson, Dr. Mossome, ac amryw eraill, heblaw llu yn y wlad.[39] Caffai hyd yn oed Pabyddion ei nawdd. Cwynai Prynne, ddarfod i Cromwell atal gweinyddiad deddfau cosbawl yn erbyn offeiriaid Pabyddol, gan eu hamddiffyn a'i awdurdod personol. Er fod y gyfraith yn cosbi â marwolaeth y sawl a wadent Dduwdod Crist, rhoddodd Cromwell flwydd-dal sylweddol i John Bidle yr Undodwr.
Felly cyfnod disglaer i'r deyrnas, i'r Eglwys, ac i'r deiliaid, a fu dyddiau llywodraeth Cromwell. Gresyn i'r tri na fuasai'r dyddiau hynny wedi cael eu hestyn.
Nodiadau
[golygu]- ↑ "Er y bydd i frenin da drefnu ei holl weithredoedd mewn cydgordiad a'r gyfraith, eto nid yw efe yn rhwym wrth gyfraith ond yn unig o'i wir ewyllys, ac fel esiampl i'w ddeiliaid." (Iago I. yn ei True Law of Free Monarchies.) Pan hawliai Ty'r Cyffredin ryddid ymadrodd fel "hawl henafol a diamheuol," atebodd Iago fod pob hawl a rhagorfraint a feddent wedi deilliaw "o ras a chaniatad fy hynafiaid a minnau."
- ↑ Prof. Meiklejohn
- ↑ Argraffwyd y cynghorion hyn gan Iago yn 1603, yn ei Basilicon Doron.
- ↑ Llythyr Parsons, y Jesuit. Record Office. Dom. Ser., Vol. i., No. 84. Eto No. 118. Eto Vol. v., No. 67.
- ↑ Ebe Burleigh mewn llythyr at ei fab Syr Robert Cecil:—" Cyfiawn— heir holl weithredoedd ei Mawrhydi, gan y ffaith na chosbodd yr un o'i deiliaid erioed ond trwy warant cyfraith." (Murdin's State Papers, 666.)
- ↑ Dywedai drachefn a thrachefn y gwnai iddynt gydffurfio neu y gyrrai hwynt o'r tir. Nid yn unig trowyd clerigwyr Puritanaidd allan o'u bywiolaethau, ond trowyd ustusiaid oddiar y fainc ynadol am eu Puritaniaeth. (Winwood's Memorials, ii. 48.)
- ↑ "Daeth Lloegr yn wlad un llyfr—a'r llyfr hwnnw oedd y Beibl. Dyma'r un llyfr mawr y gwyddai pob Sais ei gynnwys; darllenwyd ef yn yr Eglwysi, darllenwyd ef yn y tai gartref; ac ym mhob man syrthiai ei eiriau ar glustiau nad oeddent wedi cael eu caledu i'w grym a'u prydferthwch, a chynheuodd frwdfrydedd cyffrous."—GREEN.
- ↑ "Daeth Lloegr yn wlad un llyfr—a'r llyfr hwnnw oedd y Beibl. Dyma'r un llyfr mawr y gwyddai pob Sais ei gynnwys; darllenwyd ef yn yr Eglwysi, darllenwyd ef yn y tai gartref; ac ym mhob man syrthiai ei eiriau ar glustiau nad oeddent wedi cael eu caledu i'w grym a'u prydferthwch, a chynheuodd frwdfrydedd cyffrous."—GREEN.
- ↑ Dyma dystiolaeth Archesgob Efrog am danynt:—"Am y Puritaniaid, er nad wyf yn hoffi eu zel ddallbleidiol, er eu bod yn gwahaniaethu oddi-wrthym mewn seremonïau ac allanolion, eto cytunant â ni mewn hanfodion crefydd, a chredaf eu bod oll, neu y mwyafrif o honynt, yn caru'r brenin a'r wladwriaeth bresennol." (Record Office MSS. Dom. Sêr., ii. 40.)
- ↑ Record Office. Dom. Series, Vol. viii., No. 70.
- ↑ Hallam's Const. Hist., i. 331—2.
- ↑ Clarendon's History, i. 8—9.
- ↑ Dirwywyd dynion am beidio ymgrymu i'r arwyddluniau Pabyddol
- ↑ Hist. of Dissenters, Vol. i., p. 63
- ↑ Pan o flaen ei farnwyr yn cael ei brofi am ei fywyd, dywedodd Laud: "Er pan osodwyd fi mewn swydd ni lafuriais am ddim yn fwy nag er mwyn cadw i fyny allanolion crefydd gyhoeddus, yr hyn a esgeulusir yn ormodol yn y deyrnas hon. Mae yr esgeulusdod hwn wedi taflu dwfr oer ar wir addoliad mewnol, a thra byddom yn y corff mae'r addoliad hwnnw yn galw am gymorth allanolion i'w gadw yn fyw."
- ↑ Croesodd miloedd o ysgolheigion, masnachwyr, cyfreithwyr, ac amaethwyr goreu'r deyrnas y Werydd i chwilio am ryddid a phurdeb crefydd yn yr anialwch."—GREEN.
- ↑ Baillie's Letters, i. 215, et seq.
- ↑ Clarendon's History, Vol i. 483.
- ↑ Parl. History, ii. 822.
- ↑ Am yr anhawsder a ddisgwylir (oddiwrth yr Anibynwyr), cydunir i beidio ymyrryd â'r mater ar ffrwst, hyd nes y gwelo Duw yn dda ddod a'n byddin yn agosach, yr hyn, ni a dybiwn, a fydd yn gymorth mawr i'n hymresymiadau." (Baillie's Letters, i. 401 et seq.)
- ↑ Amrywia'r farn am nifer y clerigwyr a drowyd allan gan y Senedd Puritanaidd. Myn Walker, yn ei Sufferings of the Clergy, ini gredu fod 2,000 wedi dioddef yn yr erledigaeth honno. Cyfrifa Cornish (Hist. of Noncons. tudal. 86) eu bod yn 2,000. Dyma hefyd amcangyfrif Schaff (Christ and Christianity, tudal. 281). Mae Dr. Vaughan yn mynd yn fanwl i'r gyrau, ac yn dod i'r penderfyniad "nas gallai rhif y clerigwyr a ddifuddiwyd yn barhaol o'u bywiolaethau, fod dros 1,000." (English Nonconformity, tudal. 127-132, a 476-479.) Ceir cyffelyb amrywiaeth barn am y nifer a drowyd allan yng Nghymru. Dywed Walker fod cannoedd lawer, ond nid yw yn gallu rhoi enwau ond ychydig dros gant.
- ↑ Roger Morrice's MSS., Vol. i. 157 (2).
- ↑ Baxter's Life, 72.Yn y Ddeddf yn erbyn Heresi a Chabledd, a basiwyd gan y Senedd yn 1648, cyplysir â'u gilydd y rhai a wadent athrawiaeth y Drindod a'r Iawn, y rhai a gredent athrawiaeth y Purdan, a'r rhai a ddysgent ddaliadau'r Bedyddwyr ar Fedydd.
- ↑ Yn 1852 adfywhawyd hen ddeddf a basiwyd yn 1616, yn gwahardd caniatau trigle yn Nhywysogaeth Schaumberg Lippe i unrhyw genhadwr o Fedyddiwr; os ceid neb o'r cyfryw o wlad arall yn y tir, yr oeddent i gael eu dal a'u carcharu: os ceid y trigolion yn mynychu addoliad gyda'r Bedyddwyr, yr oeddent i gael eu carcharu am fis os mai dirgel oedd y cyfarfod, neu am ddau fis os cyhoeddus ydoedd; carcherid y neb a gan—iatai i Fedyddiwr gynnal gwasanaeth crefyddol yn ei dŷ, neu a ledaenai bamffledau yn dysgu Athrawiaeth y Bedyddwyr; ac os ceid Bedyddiwr yn cyfrannu Ordinhad Swper yr Arglwydd, carcherid ef am chwe mis.Ceid cyffelyb ddeddfau mewn rhannau eraill o Germani hanner can mlynedd yn ol. Yn Saxe Meinengen teflid gwragedd, gyda babanod ychydig wythnosau oed, i garchar am fynychu cyfarfodydd gweddi'r Bedyddwyr. Cynhelid y cyfarfodydd yn yr awyr agored, yn y mynydd—dir, liw nos ac ynghanol gwlaw, er dianc sylw'r swyddogion gwladol.
- ↑ "Pa le bynnag y cydnabyddir yr egwyddor o gysylltiad hanfodol yr Eglwys a'r Wladwriaeth, mae erlid yn dod yn ddyledswydd ar lywodraethwyr cydwybodol." (Christ and Christianity, Schaff, tudal. 282.)"Ymfudodd sefydlwyr Lloegr Newydd fel Eglwysi. Ond gorfu i bob sefydliad neu drefedigaeth, wrth ymffurfio yn Eglwys, ymffurfio hefyd yn Wladwriaeth, a'r anhawsder mawr wrth roi bodolaeth i'r Wladwriaeth oedd gofalu na chaffai'r Wladwriaeth fod yn gryfach na, neu o leiaf ddim yn elyniaethol i'r, Eglwys. ... I lawr hyd 1640 y rheol yn yr holl sefydliadau (yn Lloegr Newydd), oedd gwneud yr Eglwys yn Wladwriaeth; aelodaeth eglwysig, ac nid eiddo, oedd yn sicrhau'r etholfraint. Felly, y syniad a gorfforwyd yng ngwleidiadaeth y Talaethau yn eu mabandod, oedd yr egwyddor o ddwyflywiaeth (theocracy). Mewn effaith, y Beibl oedd y gyfraith i'r Wladwriaeth yn ogystal a'r Eglwys. Hawl y rhyddfreiniaid oedd dehongli a gweinyddu y gyfraith honno. Yr oedd yr ynad, fel y gweinidog, yn aelod eglwysig, ac yn weithredol drwy bleidlais eglwysig yr etholid y ddau."—(Vaughan, English Nonconformity. 139.)
- ↑ Y Tadau Methodistaidd, Parch. J. Morgan Jones, &c., Cyf. i. 451
- ↑ Tra yn condemnio pob erlid gwladol am ddaliadau crefyddol, ni fynnai adran o'r Bedyddwyr boreuol gydnabod hawl neb ond eu cymundeb hwy, i'r teitl o "Eglwys Crist." Nid yn unig ni fynnent gydaddoli âg Eglwyswyr, ond ni chyfathrachent â hwynt mewn bywyd cyffredin; condemnient yr Anibynwyr am wneud hynny. "Nid o Air Duw, eithr o wagedd calon dyn, a thrwy awgrymiad y diafol, y daeth y farn hon (y gellid cymdeithasu yn ddibechod âg Eglwyswyr)" ebe awdwr Persecution for Religion Judged and Condemned (1615). Mewn cyffelyb fodd condemnid John Robinson gan awdwr Religion's Peace (1614), tudal. 52. Gan gyfeirio at Robinson dywed un arall: "Oni wyddom ddechreuad ei Eglwys? Ynghyntaf safai un i fyny a gwnaeth gyfamod; yna arall yr un modd, yna unodd y ddau a'u gilydd, a daeth trydydd atynt, a daethant yn Eglwys meddent hwy; ond yr ydym ni yn gwadu nad ydynt Eglwys—oddigerth eu bod yn synagog Satan. Canys a wnaed erioed Eglwys o'r Testament Newydd trwy gyfamod heb fedydd?" (A description of what God hath predestined concerning Man. tud. 169. Argraffwyd 1620.) Cariodd Roger Williams fel Anibynnwr ym Massachusetts, ac fel Bedyddiwr yn Rhode Island, allan i weithrediad yr un mawrfrydigrwydd gwladol a'r un culni crefyddol. Ni fynnai gosbi neb am ei ddaliadau crefyddol; ond pan omeddodd Eglwys Salem dorri, ar ei gais ef, ei chysylltiad âg Eglwys Boston, ymneillduodd o Eglwys Salem; a gan i'w wraig wrthod dilyn ei esiampl, gwrthododd yntau na gweddio gyda hi, na gofyn bendith wrth yr un bwrdd a hi.
- ↑ Y sawl na chydnabyddant ac na ddysgant y ddyledswydd o oddef pob dynion mewn materion crefyddol yn unig, nid oes iddynt hwythau hawl i gael eu goddef."—(Locke's Works, ii. 261.)
- ↑ Wrth ddadleu na ddylid goddef Pabyddiaeth, dywed Milton:—"Nid yw namyn Tywysogaeth Rufeinig, yn ceisio dal i fyny ei hen awdurdod cyffredinol dan enw newydd, a than gysgod crefydd gatholig; mwy priodol ei galw yn heresi yn erbyn yr Ysgrythyr; cynhelir hi gan mwyaf gan awdurdod gwladol, ac, oddigerth yn Rhufain ei hun, gan awdurdod tramor; iawn, felly, yw ei drwgdybio, a iawn yw peidio ei goddef gan ynadon gwlad arall."—(Milton's Works, vol. iii. A Treatise of Civil Power in Ecclesiastical Causes, 317.)
- ↑ Underhill's Tracts on Liberty of Conscience.
- ↑ Am brofion o'r uchod, gwel Scobell's Acts, amryw; Gweithiau Baxter, Neal, Owen, Howe, ac eraill o'r Tadau Puritanaidd. Hefyd "The Triers or Tormentors, Tried and Cast;" Lightfoot's "Journal of the Assembly of Divines," &c., &c.
- ↑ Amcan blaenaf y "Cyngrair a Chyfamod" oedd gwrthwynebu Pabyddiaeth. Mewn athrawiaeth nid oedd yn rhwymo neb i ddim ond "cydsyniad â Gair Duw ac âg esiampl yr Eglwysi Diwygiedig goreu." Dyma'r llw a gymerai aelodau Cymanfa Duwinyddion Westminster:—"Yr wyf fi, A. B., yn ddifrifol addaw ac addunedu, ym mhresenoldeb Duw Hollalluog, na fydd imi yn y gymanfa bresennol, o'r hon yr wyf yn aelod, ddal unrhyw bwynt o athrawiaeth ond a gredaf fydd fwyaf cydweddol â Gair Duw; nac mewn disgyblaeth, ond a fydd yn tueddu fwyaf at ogoniant Duw, a heddwch a lles yr Eglwys hon.'Yn 1648 gwnaed "Cyffesiad Westminster" yn safon uniongrededd Duwinyddol drwy'r deyrnas.
- ↑ Gwel "Utter Routing of the Independents and Sectaries." "A Survey of that Foolish, Seditious, Scandalous, Profane Libel The Protestation Protested." Vindication of the true sense of the National Covenant," &c.
- ↑ Baillie's Letters, i. 401, et seq.
- ↑ "The Agreement of the People," a "The Instrument of Government."
- ↑ Cymharent oddefiad i wenwyn gwasgaredig, a galwent ef yn "llofruddiaeth enaid." Gwel Neal. Hist. Purits. iii. 276, 328; iv. 8; Nonconformist's Plea, 4; Evelyn's Diary ii. amryw; Baxter's Life, S6, &c., &c.
- ↑ Gwel profion yn yr Harleian Miscellany, Cyf. v. 249; a'r Mercurius Politicus, No. 255, p. 5774.
- ↑ Complete History of England, iii. 223.
- ↑ A Conformist's Plea for the Nonconformists. True and Perfect Narrative.