Diwygwyr Cymru/Pwy gafodd faddeuebau yng Nghymru
| ← Chwil-oleu'r maddeuebion | Diwygwyr Cymru gan Beriah Gwynfe Evans |
Amgylchiadau'r gwaith yng Nghymru → |
MADDEUEBAU SIARL II. I GYMRU.
(Gwel hefyd Map Rhif 2.)
Wele am y tro cyntaf erioed restr gyflawn o'r holl Faddeuebau (Indulgences) a ganiatawyd gan Siarl II. yn 1672 i Ymneillduwyr Cymru. Nodir y Sir, yr Enwad, y person, a'r lle i'r rhai y caniatawyd pob trwydded. Yn y golofn 5 ceir cyfanrif y trwyddedau ymhob sir, ac yn y golofn 6 ceir cyfanrif y personau yn y sir honno a ddifuddiwyd neu a ddistawyd gan Ddeddf Unffurfiaeth ddeng mlynedd cyn hynny. Dynoda seren o flaen enw, nad yw'r enw yn y rhestr a roddir gan Dr. Rees, Abertawe. Dynoda cromfachau () mai ar awdurdod Dr. Rees y rhoddir yr enw neu'r enwad i fewn. Pan roddir enw mewn llythyren Italaidd, dynoda fod y person hwnnw wedi cael ei enwi o'r blaen mewn sir arall.
Teg yw hysbysu fod Mr. T. E. Morris, bargyfreithiwr, yr hwn hefyd a gymerodd lawer o drafferth i wneud ymchwiliad personol ac anibynnol i'r llawysgrifau perthynol i'r trwyddedau yn Swyddfa'r Cofnodion, yn garedig wedi caniatau imi gymharu fy rhestr ysgrifenedig i â'i eiddo ef. Er fod ychydig o wahaniaeth rhwng y ddwy, maent yn gyson a'u gilydd ac yn ymarferol yr un rhestr. Er engraifft, cyfrifa Mr. Morris fod 193 o drwyddedau wedi dod i Gymru. Gwneir y rhifedi hynny i fyny drwy gyfrif trwydded i dŷ a thrwydded i berson fel dwy drwydded, tra y cyfrifaf finnau hwynt fel un drwydded, os gellir profi mai trwydded i'r person hwnnw yn y ty hwnnw ydyw.
Gwahaniaethaf, hefyd, oddiwrth Dr. Rees a Mr. Morris am leoliad rhai o'r tai a drwyddedwyd. Rhaid cofio (1) Fod cais ysgrifenedig yn mynd i fyny at y Llywodraeth am drwydded. (2) Nad oedd y gohebwyr hyn bob amser yn meddu llawysgrif ddealladwy. (3) Fod swyddogion y Llywodraeth yn cymeryd nodiad yn eu llawysgrif eu hunain o'r ceisiadau, ac heblaw nad oedd eu llawysgrif hwythau bob amser yn eglur, tueddent i wneud camgymeriad yn aml yn sillebiaeth enwau Cymreig. Am rai o`r enwau hynny amheuaf a geid dau ddyn, y rhai wrth weled y llawysgrifau am y tro cyntaf, a'u darllenent yr un fath—os nad yn feddiannol ar wybodaeth bersonol leol a'u cynorthwyent. Ond nis gellir ymddiried yn eu gwybodaeth ddaearyddol ychwaith. Er engraifft, gosodir Plas Teg, lle cafodd William Jones drwydded, yn Sir Ddinbych yn lle Sir Fflint, a Brynllywarch, cartref Samuel Jones, yn Sir Benfro yn lle Sir Forgannwg! Ceir nodiadau ar ddiwedd y rhestr mewn perthynas i rai o'r lleoedd hyn.
Am enwadau y trwyddedigion. Gofynnid nodi'r enwad, pa un bynnag ai i berson ai i dŷ y bwriedid y drwydded. Gelwir yr Anibynwyr weithiau yn Independents, weithiau yn Congregationalists, weithiau yn Presbyterians. Nid wyf yn y daflen wedi gwahaniaethu rhwng yr Independents a'r Congregationalists, am ei bod yn amlwg mai'r un oeddent. Yr wyf wedi gwahaniaethu yn y daflen rhyngddynt a'r Presbyterians, rhag tybied o neb fy mod yn rhoi i'r Anibynwyr achosion a berthynent i enwad arall. Ar yr un pryd mae yn amlwg, i'r neb a ä'n ofalus drwy'r hen drwyddedau, mai yr un oedd y tri, yn mynd o dan wahanol enwau mewn gwahanol ardaloedd. Ceir y cais am drwydded weithiau wrth un o'r enwau, a'r drwydded ei hun wrth yr enw arall. Gelwir Samuel Jones mewn un drwydded yn Bresbyteriad, ac mewn un arall yn Independent. Ceir trwydded i ddyn a elwir yn Presbyterian i bregethu mewn ty a elwir yn Independent. Ond ni cheir unrhyw amser drwydded i Fedyddiwr i bregethu mewn ty a elwir nag yn Presbyterian nac yn Independent. Cyplyser y pethau hyn â'r ffaith (a) Fod gweision y Llywodraeth yn eu hadroddiadau swyddogol yn dweyd fod y Presbyteriaid oll yn troi yn Anibynwyr (gwel tud. 165), a (b) Nad oedd ymhen cenhedlaeth ar ol hyn gymaint ag un Eglwys yng Nghymru yn galw ei hun yn Bresbyteraidd,—a gorfodir ni i ddod i'r casgliad fod y rhai a elwid yn "Bresbyteriaid" yn y trwyddedau i Gymru, i bob diben ymarferol, yn gyfryw ag a elwid heddyw yn "Anibynwyr." Profir fod y golygiad a gymerir yma yn hanesyddol gywir, gan y ffaith fod awduron goreu Lloegr yn dweyd yn ymarferol yr un peth am Gymru a Lloegr. "Yng Nghymru," ebe Dr. Vaughan (English Nonconformity, p. 354), "cymerodd llywodraeth Eglwysig ffurf Anibyniaeth i raddau nodedig." "O 1662 hyd 1688," medd Solly (Our English Presbyterian Forefathers, p. 25) cariai'r Presbyteriaid Seisnig eu gwaith ymlaen o angenrheidrwydd ar Egwyddorion Anibyniaeth." Dywed awdwr arall (Hunter): "Yr oedd yr erlid, i'r hwn yr oeddent yn agored, yn ei gwneud yn amhosibl, neu yn anoeth, iddynt geisio gario allan ddisgyblaeth Presbyteraidd. A phan, ymhen blynyddau, yr oedd Deddf Goddefiad yn caniatau iddynt weithio'r gyfundrefn honno, yr oedd eu dyddordeb mewn Presbyteriaeth wedi marw—ac, yn wir, ni fu erioed yn gwestiwn byw ganddynt" (History, Opinions, &c., of the English Presbyterians, p. 11). Yn wir, ymhell cyn hyn yr oedd yr enw "Presbyteriaid," yn Lloegr a Chymru, wedi colli yr ystyr a roddid—ac a roddir eto—iddo yn yr Ysgotland. Nid oedd y gair yn dynodi, yn Lloegr, ymlyniad wrth y ffurf Henaduriaethol o lywodraeth Eglwysig, ond cynhwysai bawb o'r Diwygwyr Crefyddol na ddymunent ymneillduo o'r Eglwys. Felly, pan orfodwyd hwynt i ymneillduo, ymunasant yn dra chyffredin a'r Anibynwyr, gan fabwysiadu eu ffurf-lywodraeth Eglwysig hwy. ("Our English Presbyterian Forefathers," "History, Opinions, &c., of the English Presbyterians," &c., &c.) Nid oes angen ymhelaethu.
Wele ddadansoddiad o'r rhestr o dan y gwahanol siroedd:—
| 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 |
| SIR. | Anibynwyr | Pres. | Bap. | Cyfanrif. | Cyfanrif Deddf Unffurfiaeth. | Pregethwyr gwahanol. | Tai gwahanol. | Dim Preg. neillduol. | Dim tŷ neillduol. |
| Aberteifi | 9 | 0 | 0 | 9 | 13 | 4 | 9 | 0 | 0 |
| Brycheiniog | 5 | 0 | 1 | 6 | 6 | 4 | 2 | 0 | 3 |
| Caerfyrddin | 4 | 0 | 3 | 7 | 11 | 4 | 7 | 0 | 0 |
| Caernarfon | 5 | 2 | 0 | 7 | 1 | 5 | 5 | 0 | 2 |
| Dinbych | 11 | 2 | 0 | 13 | 12 | 6 | 12 | 3 | 0 |
| Fflint | 1 | 5 | 0 | 7 | 5 | 4 | 5 | 0 | 2 |
| Maesyfed | 8 | 2 | 1 | 11 | 5 | 6 | 9 | 3 | 1 |
| Meirionnydd | 5 | 0 | 0 | 5 | 1 | 1 | 5 | 0 | 0 |
| Mon | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
| Morgannwg | 15 | 7 | 5 | 27 | 30 | 13 | 24 | 3 | 0 |
| Mynwy | 20 | 0 | 7 | 30 | 15a | 16 | 26 | 5 | 4 |
| Penfro | 3 | 0 | 0 | 3 | 11 | 2 | 3 | 0 | 0 |
| Trefaldwyn | 2 | 5 | 0 | 8 | 15 | 2 | 7 | 5 | 0 |
| Cyfanswm | 88 | 23 | 17 | 133 | 125 | 67 | 114 | 19 | 12 |
| Swm An + Pres | 111 | ||||||||
Mewn pump amgylchiad ni nodir yr enwad.
a Dylaswn fod wedi nodi ynglyn a'r rhestr (tudal. 152) o'r rhai a drowyd allan yn sir Fynwy, ei bod yn fwy na thebyg mai'r un yw "George Robinson, Caerlleon," a "Robins, Llangatog;" yng Nghaerlleon y saif Eglwys Plwyf Llangatog.
Wele eto restr gyflawn o'r holl drwyddedau a roddwyd i Gymru:—
| ABERTEIFI | |||
| Lle | Pregethwr | Enwad | Ty |
| Aberteifi | James Davies | C | James Davies |
| Eto | Eto | C | Widow Gwynne |
| Llanbadarnodyn | Morgan Howell | C | John Jones |
| Llandisilio | (Morgan Howell) | C | David Thomas |
| Llanfair Trefhelygen | (Morgan Howell) | C | David Rees |
| Dihewyd | (Morgan Howell) | C | Philip David |
| Llanddewibrefi | David Jones | C | Ei dy ei hun |
| Cellan | Evan Hughes | C | David Hughes |
| Llanbedr | (Evan Hughes) | C | Evan David |
| BRYCHEINIOG | |||
| Lle | Pregethwr | Enwad | Tŷ |
| Talgarth | David Williams | Ind | (William Watkins) |
| Eto | William Williams | Ind | — |
| Llanigon | (David Williams) | C | William Watkins |
| Llanafan Fawr | Thomas Evans | Bp(P) | — |
| Llanfigan | (Lewis Prytherch) | C | David Williams |
| *Eto | Lewis Prytherch | Ind | |
| CAERFYRDDIN | |||
| Lle | Pregethwr | Enwad | Ty |
| Llanstephan | Stephen Hughes | C | Evan Morris |
| Pencader | Eto | C | Widow Jenkins |
| Cenarth | Fames Davies | C | John James |
| Llangunnor | (Robert Morgan) | Bapt | Edward Williams |
| Eto | Robert Morgan | Bapt | Joshua Francis |
| Llanon | John Morgan | Bapt | (John Morgan) |
| Pencarreg | (David Jones) | C | *David Jones |
| CAERNARFON | |||
| Lle | Pregethwr | Enwad | Ty |
| Caernarfon | Ellis Rowlands | Pres | Ei dŷ ei hun |
| Tynycoed [1] | John Williams | C | Ei dŷ ei hun |
| Bodwell House at Ty yn y coed | (John Williams) | Ind | Bodwell House |
| Ty'nycoed | John Rowland | Ind | Ei dŷ ei hun |
| *Pentyrch | William Rowland | Ind | — |
| Pwllheli | (William Rowland) | Ind | Tŷ Wm Rowland |
| (Llangybi | Ellis Williams | Pres | Ei dŷ ei hun) |
| DINBYCH | |||
| Lle | Pregethwr | Enwad | Tŷ |
| Gwrecsam | (John Evans) | Pres | John Hughes |
| *Eto | — | Pres | David Williams |
| Eto | John Evans | C | Edward Kenricke |
| Ruabon | Philip Rogers | C | Roger Kynaston |
| Eto | Roger Kynaston | C | Ei dŷ ei hun |
| Eto | (Richard Price) | C | Wm Wynn |
| Eto | Richard Jones | C | Ei dŷ ei hun |
| Llanfair | Jonathan Roberts | C | Ei dy ei hun |
| Glyn [2] | (Richard Price) | C | John Hughes |
| Eto [3] | (Richard Price) | C | Richard Price |
| Ruthin | (John Evans) | C | John Roberts |
| *Tynyford [4] | — | C | Elizabeth Feston |
| *Melin Glyn [5] | — | C | David Thomas
|
| FFLINT | |||
| Lle | Pregethwr | Enwad | Tŷ |
| Malpas | Philip Henry | Pres | Ei dŷ ei hun |
| Hanmer | James Jackson | Pres | — |
| Eto | (Philip Henry) | Pres | Catherine Key |
| (Eto | Philip Henry | Pres | William Bennett) |
| Bryn | (Philip Henry) | Pres | Luke Lloyd |
| Plasteg [6] | William Jones | — | Ei dŷ ei hun |
| *Penyrallt [7] | John Prichard | C | — |
| MAESYFED | |||
| Lle | Pregethwr | Enwad | Tŷ |
| Glascomb | (Edward Owen) | C | Ruth Mills |
| *Eto | — | C | Edward Owen |
| Eto | — | C | Thomas Price |
| *Llanbister | — | C | John Hanmer |
| Eto | (John Hanmer) | C | Ann King |
| Beguildy | (Maurice Griffith) | C Pres | Maurice Griffith |
| Eto | (Richard Griffiths) | Pres | Richard Griffith |
| Eto | (Richard Griffiths) | (Pres) | Owen Morgan |
| Llangunllo | (John Hanmer) | (C) | R Griffith |
| *Llanfihangel Nant Melan | Thos Tonman | C | — |
| Llandrindod | William Greene | Bapt | Ei dŷ ei hun |
| MEIRIONNYDD | |||
| Llc | Pregethwr | C | Ty |
| Llanegryn | Hugh Owen | C | Ei dŷ ei hun |
| Penarth | (Ellis Williams) | C | David Williams |
| Erwgoed [8] | (Ellis Williams) | C | John Owen |
| (Cynfal | Ellis Williams | C | Mary Lloyd) |
| (Bodwynog | Ellis Williams | C | Ellis Davies) |
| MORGANNWG | |||
| Lle | Pregethwr | Enwad | Ty |
| Abertawe | Marmaduke Matthews, MA | Ind | Ei dŷ ei hun |
| Eto | Daniel Higgs | C | Ei de ei hun |
| Eto | — | C | Stephen Hughes |
| Eto | Lewis Thomas | Bapt | William Dykes |
| Bishopston | (Lewis Thomas) | C | Henry Griffith |
| Nicholaston | (Lewis Thomas) | C | Robert Gethin |
| Roscilly | (Lewis Thomas) | C | Richard Devine |
| Llangynnwyd | Samuel Jones | Pres | Ei dŷ ei hun |
| *Margam | — | Ind | Samuel Jones |
| Coetrehen | Samuel Jones | Pres | Rees Powell |
| Wenfo | Joshua Miller | Pres | Morgan Thomas |
| Penbont-ar-ogwy | Thomas Joseph | Bapt | Ei dy ei hun |
| Newton Nottage | Howell Thomas | Bapt | Wm Andrews |
| Eto | Watkin Cradock | Ind | Ei dŷ ei hun |
| St Bride's | (Watkin Cradock) | (Bapt)[9] | Widow Williams |
| *Llangewith | — | Bapt | Llewelyn Morgan |
| Baglan | Robert Thomas | Ind | Ei dŷ ei hun
|
| Kenffig | Jacob Cristopher | Ind | Lewis Alward |
| (Eto | Robert Thomas | Ind | Eto) |
| Gellygaer | (Robert Thomas) | C | Lewis Rees |
| Llanvabon | (Robert Thomas) | C | Wm Rowlands |
| Eglwysilan | Thomas John | C | William John |
| Pontfaen | Samuel Jones | Pres | Evan Christopher |
| Castellnedd | (Samuel Jones) | Pres | Elizabeth Morgan |
| Kildeudy | Samuel Jones | Pres | Rice Powell |
| Merthyr | Henry Williams | Ind | Howell Rees |
| (Caerdydd | John French | Pres | Ei dŷ ei hun) |
| MYNWY | |||
| Lle | Pregethwr. | Enwad | Tŷ. |
| *Christ Church | — | Ind. | Joana Jones. |
| *Undy | — | Ind. | Wm. Howell. |
| *Caerwent | — | Ind. | John Harris (Bell Inn) |
| Henesant [10][11] | Joshua Lloyd | — | — |
| *Llandaud | Jeremy Walter | — | — |
| *Llandasand [10] | Henry Walter | — | Ei dŷ ei hun. |
| *Casnewydd | John Powell | C | — |
| Eto | Eto | Ind. | Barbara Williams |
| Llangua | (Wm. Millman) | (Bapt) | William Richards |
| Llangybi | Walter Williams | C | Edward Waters. |
| *Sherenewton | — | C | John Maurice. |
| Marshfield | (Walter Williams) | Ind. | Jane Reynolds. |
| *Llangwm | Thomas Quarrell | B | J. R. |
| Mynyddislwyn | (Watkin Jones) | Ind. | Thomas James. |
| Eto | Watkin Jones | Ind. | Ei dy ei hun. |
| Eto | (Eto) | Ind. | Evan Williams. |
| Aberystruth. | (Walter Williams). | Ind. | Llewelyn Rosser. |
| Eto | (Eto) | Ind. | John Jones. |
| Llanwennarth | (Reynold Morgan) | Ind. | John Watkins. |
| Henllys | (Eto) | Ind. | Margaret Jones. |
| Bettws | (Eto) | Ind. | Reynold Morgan. |
| Abergafenni | John Edwards | Bapt | Ei d◊ ei hun. |
| Eto | (Christopher Price) | Bapt | Ei dŷ ei hun. |
| Bedwellty | (Thomas Jones) | Bapt | Thos. Jones. |
| Llandilopertholeu | William Pritchard | Bapt | (Ei dŷ ei hun). |
| Caldicott | (Watkin Jones) | (C) | James Lewis. |
| Magor | (Thos. Barnes) | C | Walter Jones. |
| Eto | — | C | Thos. Barnes. |
| (Llantrisant | George Robinson | C | George Morgan). |
| (Eto | Wm. Thomas | Bapt | —) |
| PENFRO | |||
| Lle. | Pregethwr. | Enwad. | Tŷ. |
| Hwlffordd | Peregrine Phillips | C | Ei dŷ ei hun. |
| Eto | Eto | C | Richard Naylor. |
| Cilgerran | Jenkin Jones | C | Ei dŷ ei hun.
|
| TEFALDWYN | |||
| Lle. | Pregethwr. | Enwad. | Tŷ. |
| Bryng | (Wm. Pritchard) | C | John Kynaston. |
| Trallwm | Hugh Rogers | Pres | Ei dŷ ei hun. |
| (Eto | Hugh Rogers | Pres. | Dd. Rogers). |
| (Eto | Hugh Rogers | Pres | Widow Morris. |
| *Drefnewydd | — | Pres. | Widow Morris. |
| *Croesoswallt | — | C | Hugh Edwards. |
| Eto | — | Pres. | Eliza Griffith. |
| Nant | — | — | Dorothy Gough |
Nodiadau
- ↑ Efallai y dylaswn nodi yma fy mod yn gwahaniaethu oddiwrth Mr. Ivor Jones mewn perthynas i leoliad Ty'nycoed. Yn ei lawlyfr ar Hancs Anibyniaeth Sir Gaernarfon, lleola Mr. Ivor Jones y Ty'nycoed hwn yn Llangian a chymydogaeth Abersoch, ar sail y cerfiad ar y garreg fedd lle gelwir John Williams yn "Arwr Llangian." Lleolaf finnau Ty'nycoed yn ymyl Llannor, am y rhesymau canlynol:—a. Rhoddwyd trwydded i "John Williams of Tynycoed;" hefyd i dŷ a elwid "Bodwell House att Tynycoed;" hefyd "John Rowlands at his house in Tynycoed."b. Mae Bodwell House att Tynycoed" eto'n aros yn ymyl Llannor—ac nis gall amheuaeth fod am leoliad hwnnw.c. Mwy naturiol yw tybied mai un ardal oedd Ty'nycoed, gyda thair trwydded i dri thy yn yr ardal, na bod tri thy mewn gwahanol ardaloedd, a'r oll yn dwyn yr un enw Ty'nycoed.d. Saif Ty'nycoed, Llannor, yng nghymydogaeth Capel Helyg, cangen o'r achos oedd dan ofal Mr. John Williams.Dylaswn ddweyd, gyda llaw, am dŷ John Rowlands fod Mr. Morris yn darllen y llawysgrif yn Swyddfa'r Cofnodion yn "Yin y Cryd" ac yn "Yin y Cred." Tybia Mr. Ivor Jones mai "Ty'n y Caerau" a ddylai fod; tra darllena Dr. Rees. Abertawe, ef yn "Ty'n y Caeau." Tybiaf mai'r darlleniad naturiol i'r ddau yw "Ty'nycoed."
- ↑ "Glimmin" y gelwir y lle hwn yn yr hen lawysgrif. Cytunaf â Dr. Rees mai Glyn a ddylai fod.
- ↑ Mae yr enw hwn wedi poeni llawer arnaf. "Groynby" y darllenir ef gan Dr. Rees, gan Mr. T. E. Morris, a minnau. Ond nid oes ddal ar y llawysgrif am y sillebiaeth na'r sir. Tybiais mai camysgrifiad oedd am naill ai Gwernydd neu Cyfronydd, yn Sir Drefaldwyn. Ond tueddir fi, oddiwrth y cysylltiad à Richard Price, i feddwl mai Glynceiriog, Sir Ddinbych, a ddylai fod. Ysgrifenner Glyn cg. yn frysiog a gallai Sais heddyw, chwaethach dros 200 mlynedd yn ol, ei wneud yn Groynby.
- ↑ Henffroid yw llythyreniad yr hen lawysgrif
- ↑ "Minllynglym" yw dull y clerc Seisnig yn Llundain o ysgrifennu'r enw.
- ↑ Plastoake, Denbighshire," ddywed yr hen lawysgrif. Amlwg oddiwrth y cysylltiad A William Jones mai Plas Teg, Sir Fflint, a feddylir. Gwel y map.
- ↑ Penyrallt. Lleolaf hwn, fel Plas Teg, yn Sir Fflint, ac nid yn Sir Ddinbych.
- ↑ "Erwgogel" y darllena Dr. Rees y lle hwn.
- ↑ Gwn fod Dr. Rees, mewn un amgylchiad yn Sir, Forgannwg, wedi cysylltu enw Watkin Cradock, Anibynnwr, a thrwydded y "Widow Williams," a geilw honno yn Fedyddwraig. Ond tybiaf mai naill ai ei gamgymeriad ef wrth ysgrifennu, neu'r argraffydd wrth gysodi, yw hyn. Nid oes enwad iddi ar restr Mr. T. E. Morris.
- 1 2 Dyna sut y sillebir yr enwau yn yr hen lawysgrifau. Nis gallaf wneud gwell nag awgrymu mai Llantrisant y bwriedid iddynt fod.
- ↑ Os gall rhyw ddarllenydd fy ngalluogi i gywiro rhai o'r casgliadau uchod, teimlaf yn dra diolchgar.