Diwygwyr Cymru/Sain yr udgorn
| ← Rhagflaenwyr gwawr Cymru | Diwygwyr Cymru gan Beriah Gwynfe Evans |
Adolygu'r daith → |
PENNOD V.
SAIN YR UDGORN.
Yr oedd Harri VIII. wedi torri'r cadwynau a rwyment Loegr wrth Rufain: yr oedd Edward VI. wedi dechreu dangos i'r wlad pa fodd i ddefnyddio ei rhyddid; yr oedd Elizabeth wedi rhoi i Gymru gymhelliad i ddefnyddio iaith yr aelwyd fel moddion dyrchafiad moesol. Ond yr oedd cydwybod y genedl eto heb ei chyffwrdd. Daeth i ran dau ddyn tra gwahanol, dau elyn anghymodlawn, i wneuthur hynny. John Whitgift, yr Archesgob caled ac erlidgar yn Llundain, a John Penry, mab yr amaethwr bychan ar fryniau Sir Frycheiniog—dyna'r ddau offeryn a ddefnyddiodd Rhagluniaeth i ddeffroi cydwybod gysglyd Cymru.
Fel y dangoswyd eisoes, Whitgift fu yn foddion i roi'r Beibl cyflawn yn eu hiaith eu hunain i'r Cymry. Tebyg na feddyliodd Harri VIII. ei fod, wrth roi'r Beibl i'r Sais, yn rhoi yn nwylaw'r bobl y morthwyl â'r hwn y dryllient y rhwymau caethiwus a fynnai efe osod ar y wlad. Felly hefyd Whitgift, ychydig a feddyliai ei fod wrth annog William Morgan i wneud cyffelyb wasanaeth i'r Cymry, yn darparu offeryn i rwystro'r cydffurfiaeth a'r unffurfiaeth Eglwysig a ddymunai efe, ac i wneud yn amhosibl i'r genedl roddi yr ufudd-dod parod hwnw i awdurdod yr Eglwys, am yr hwn y gobeithiai.
Ond yr oedd eto yn eisiau rywbeth gyda hyn, neu yn hytrach i gymhwyso hyn at gyflwr Cymru. Nid yw udgorn heb neb i'w seinio o nemawr gwasanaeth nag i ddeffroi cysgaduriaid nac i alw i'r gad. Eithr darparodd Rhagluniaeth nid yn unig yr udgorn, ond rhyw un i'w seinio hefyd. Whitgift, drwy William Morgan, a luniodd yr udgorn; John Penry chwythodd ynddo; ac yna, fel pe na bae Whitgift wedi gwneud digon eisoes, mynnodd ddyrchafu Penry ar drostan uchel merthyrdod, modd y gallai sain ei udgorn gyrraedd i gonglau pellaf y Dywysogaeth.
Nis gall neb fesur dyled y deyrnas hon i'w Phrifysgolion. Mae Caergrawnt a Rhydychain wedi chwareu rhan anrhaethol bwysig yn hanes dadblygiadau crefyddol y wlad,—weithiau of blaid ac weithiau yn erbyn egwyddor fawr rhyddid crefyddol. Yn yr amgylchiad hwn yr oedd eu dylanwad o blaid crefydd rydd.
Tra yr oedd William Morgan yn neillduedd Llanrhaiadr-ym-Mochnant yn cyfieithu'r Beibl, yr oedd John Penry ym mhrysurdeb bywyd athrofaol Caergrawnt, yn cael ei baratoi i gymhwyso dysgeidiaeth y Beibl hwnnw at gydwybodau ei gyd- genedl yng Nghymru. Gwir fod Caergrawnt, am ryw reswm, erbyn hyn wedi syrthio ymaith oddiwrth ei chariad cyntaf at Buritaniaeth, ac ystyrrid y sefydliad daionus a fu unwaith yn enwog am y nawdd a roddai i bregethwyr erlidiedig, erbyn hyn yn wrth-Buritanaidd. Ac eto yr oedd llawer o ddylanwad yr hen ysbryd yn aros o hyd, ac yng Nghaergrawnt daeth John Penry i gysylltiad â John Udall,[1] Henry Barrowe, a John Greenwood, tri o wyr grymus oeddent fel yntau i wisgo coron merthyrdod—ac aelod arall o'r un Brifysgol, sef yr Archesgob Whitgift, oedd i roi'r goron honno ar eu pennau. Wedi bod yno am rai blynyddau, symudodd Penry i Rydychain, oedd erbyn hyn wedi meddiannu'r safle a ddelid unwaith gan Gaergrawnt, fel prif noddydd y Diwygwyr. Yr oedd dirprwyaeth o'r Ysgotland wedi ymweled a'r Brifysgol, ac wedi ennill cefnogaeth barod i, ac ymlyniad selog wrth, Brotestaniaeth wrolach y Gogleddwyr. Talwyd y pwyth yn ol rai blynyddoedd wedi hynny, pan y ffodd Penry ac eraill a erlidid o Loegr i'r Ysgotland. Ffromodd Elizabeth yn aruthr wrth ei nai, Brenin yr Ysgotland, am ddarfod iddo roi lloches i'r rhai a ffoent rhag ei llid hi.[2]
Taniwyd calon y Cymro ieuanc gan yr hyn a welodd ac a glywodd yng Nghaergrawnt. Pan aeth gyntaf yno yr oedd yn Babydd selog. Ni wyddai ddim am y Beibl—ond gymaint ag a gaffai glywed ohono yn y gwasanaeth ffurfiol ar y Sul. Cydffurfiai a'r holl wasanaeth Eglwysig arferol am dymor. Ond pan ddaeth i gyffyrddiad â John Udall, dygodd hwnnw ef i adnabyddiaeth â nifer o bersonau hollol wahanol i'r rhai yr arferai gynt ymgymysgu â hwynt. Fel y gwnaeth John a Charles Wesley a'r gymdeithas fechan o fyfyrwyr yn Rhydychain gant a haner o flynyddau wedyn, arferai nifer o'r Puritaniaid yng Nghaergrawnt, yn nyddiau Penry, gyfarfod â'u gilydd unwaith yr wythnos i ddarllen ac esbonio Gair Duw, ac i gynnal cyfarfodydd gweddio. Ceid hefyd, ambell waith, bregeth gan un neu arall o'r Puritaniaid oeddent eisoes yn tanio gwahanol rannau o Loegr. Ymhlith y cyfryw rai y gwelodd John Penry, am y tro cyntaf erioed, beth oedd gwir gynnwys y Beibl. Apeliodd dysgeidiaeth y Llyfr at ei gydwybod, a chyffrodd ei galon—ac o'r dydd hwnnw allan nis gallai John Penry lai na phregethu Gair y Gwirionedd mewn amser ac allan o amser, pa le a pha bryd bynnag y caffai gyfle.
Ac o bob lle a safai mewn angen am bregethu, argyhoeddwyd ef mai ei wlad enedigol ei hun oedd mewn mwyaf o angen. Yr oedd amryw Gymry ieuainc yn y ddwy Brifysgol yn rhai o Golegau Rhydychain hwynthwy oedd yn y mwyafrif[3]—ond yr oeddynt oll, fel Penry ei hun, wedi eu trwytho â syniadau Pabyddol. Gwyddai fod Cymru yn gorwedd mewn tywyllwch, a'r rhai a ddylent ddysgu'r bobl yn ddifater, esgeulus, a gwaeth na hynny. Flwyddyn cyn i Feibl William Morgan ymddangos, danfonodd Penry ddeiseb ostyngedig i'r Frenhines a'r Senedd, yn erfyn ar fod trefniant gwell yn cael ei wneud i sicrhau pregethiad yr Efengyl yng Nghymru.[4] Y pryd hwnnw, fel yn awr, siaredid Saesneg yn y trefi ar lan y môr, ac ar gyffiniau Lloegr, ond Cymraeg yn yr oll o'r canolbarth. Ac yr oedd y parthau Cymreig yn fwy coel-grefyddol na'r rhannau Seisnigaidd.[5] A thros gyflwr gresynnus ei wlad, gwaedai calon Penry.
Ni bu Eglwyswr mwy teyrngarol[6] na Chymro mwy gwladgarol[7] erioed na Penry. Petai Eglwys Loegr wedi rhoi lle iddo weithio o'i mewn, buasai, yn ol pob tebyg, wedi dod yn un o'i cholofnau cadarnaf.[8] Ond derbyniwyd yr apêl ddaeth yn eirias boeth o galon y Cymro, gydag oerfelgarwch gan y Senedd. Cafodd un Aelod Cymreig ddigon o wroldeb i godi i fyny a chadarnhau gwirionedd yr hyn a ddywedai Penry am gyflwr y wlad. Ond ni fynnai Ty'r Cyffredin ddwyn ar eu pennau lid Whitgift a digofaint Elizabeth. Trowyd y ddau ar Penry. Taflwyd ef yng ngharchar. Bu yno am fis heb wybod beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn. Pan ddygwyd ef ger bron y llys, cafodd mai ei drosedd mawr oedd dweyd, fel y gwnaeth yn ei draethawd, nas gallai offeiriad na fyddai byth yn pregethu, fod yn weinidog da i Iesu Grist. Dywedodd Whitgift, yr hwn, gydag Esgob Winchester, a wrandawent yr achos, fod dweyd yr hyn a ddywedodd Penry "yn anioddefol ac yn heresi melldigedig." "Diolch i Dduw ynte," ebe Penry, "ddarfod imi erioed wybod y cyfryw heresi, a thrwy ras Duw rhoddaf i fyny fy mywyd cyn y rhoddaf y gred hon i fyny." "Heresi ydyw, a thi a gei ei dynnu yn ol!" ebe Esgob Winchester. "Dim byth tra bwyf byw, trwy gymorth Duw!" oedd ateb gwrol y Cymro.[9]
Cydunid yn natur Penry wroldeb y llew â diniweidrwydd yr oen. Yr ochr flaenaf i'w gymeriad yn unig a welodd Whitgift a'i gyd-erlidwyr. Yr ochr arall yn unig a welodd ei wraig, ei blant, a'i gyfeillion. Pregethodd lawer yng Nghymru,[10] a gwnaeth o bosibl fwy fyth o waith yn Lloegr drwy ei ysgrifeniadau. Yr oedd cyhoeddi'r pamffledau hyn o'i eiddo yn weithred feiddgar. Yr oedd gwaharddiad y Star Chamber gormesol[11] wedi bod mewn grym bellach am dros ugain mlynedd, a gwynebu'r llew yn ei ffau oedd herio, fel y gwnaeth Penry, ddigofaint y llys mwyaf peryglus i iawnderau'r bobl a welodd y wlad hon erioed. Ei drosedd mawr, yngolwg yr awdurdodau Eglwysig, oedd awgrymu fod dyn heb urddau a bregethai Grist, yn well nag offeiriad urddedig ond segur. Gyda hyn, hefyd, dysgai athrawiaeth newydd arall, sef y gallai'r bobl gynnal eu gweinidogion eu hunain drwy eu cyfraniadau gwirfoddol. Ni bu erioed gwaeth heresi yn erbyn holl ddysgeidiaeth Eglwys Sefydledig, na dweyd nad oedd eisieu urddau i bregethu, ac mai gwirfoddol a ddylai cynhaliaeth crefydd fod. Nid rhyfedd i Whitgift ddweyd fod y cyfryw ddysgeidiaeth yn "anioddefol ac yn heresi melldigedig."[12] Rhan hanfodol arall o heresi Penry, oedd cymhell Crefydd Deuluaidd.[13] Apeliai yn daer at yr Aelodau Seneddol Cymreig i sefyll i fyny yn wrol dros hawliau a buddiannau arbennig y Dywysogaeth. Petai yn un o Genedlaetholwyr Cymru diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nis gallasai siarad yn fwy croew am ddyledswydd Aelodau Seneddol ei wlad. Ceryddai bawb a esgeulusent eu dyledswyddau, pa un bynnag ai esgobion, ai clerigwyr cyffredin, ai lleygwyr a fyddent. Gwnai hyn oll, nid o dan ffugenw, eithr gan arwyddo ei enw, "John Penry," wrth ei bamffledau. Ni chauai ei lygaid, ychwaith, i'r ffaith ei fod wrth wneud hyn. oll yn cymeryd ei einioes yn ei law. Profir hyn yn amlwg gan y dyfyniad canlynol:—
"Felly yr wyf wedi cyflawni fy nyledswydd tuag at Dduw, Ei eglwys, fy ngwlad, a chwithau o Uchel Lys y Senedd; a hyn a wnawn eto petai angen, ie, pe gwyddwn y peryglwn fy mywyd wrth ei wneud. A bydded hysbys i chwi nad wyf yn hyn o beth yn ofni dim daearol. Os marw a wnaf—byddaf farw. Fy nghysur yw y gwn i ba le yr wyf yn myned; ac yn y dydd hwnnw, pan ddatguddir cyfrinion pob calon, gwneir yn amlwg hefyd burdeb fy achos innau. . . . Bwriadaf, trwy ras Duw, os estynnir fy nyddiau, i fyw o hyn allan nid i mi fy hun, eithr iddo Ef, ac i'w eglwys, yn dra gwahanol i'r hyn a wnaethum. Mae'r Arglwydd yn abl i godi rhai sydd o burach dwylaw a gwefusau na mi i ysgrifennu a llefaru o blaid achos ei anrhydedd Ef. A bydded i'r Arglwydd eu gwneuthur hwy, gan nad pwy a fyddant, y cyfryw ag a fyddant yn barod at alwad achos mor deilwng; a chan y dichon mai meddwl yr Arglwydd yw imi eu gadael hwynt ar fy ol yn y byd, yr wyf yn daer ac yn angherddol yn cyflwyno yr achos hwn iddynt megys trwy hon fy ewyllys olaf."
Dygodd dewrder Penry, a'r defnydd didor a wnai o'r wasg, y Cymro i boblogrwydd mawr yn Lloegr a'r Ysgotland. Am gryn amser efe a ysbrydolai y Wasg Buritanaidd yn Lloegr, ac mor boblogaidd oedd cynyrchion honno, fel y gorfu i Whitgift gyhoeddi Proclamasiwn brenhinol yn eu herbyn.[14] Mae hanes yr ymdrechion wnaed i gadw lleoliad y wasg yn ddirgel, diangfeydd cyfyng Penry a'i gydlafurwyr, yn ogystal a'r argraffwyr a'r personau a'u hymgeleddent, yn darllen fel rhamant. Ond rhaid peidio aros gyda hynny yn awr. Cafodd Penry loches dros dymor yn yr Ysgotland, lle y cafodd dderbyniad mor gynes fel yr oedd yn brofedigaeth iddo dreulio gweddill ei oes yno. Ond yr oedd ei galon yng Nghymru, a’i awydd i ddychwelyd yno mor gryf nes y daeth yn anorchfygol.
Tra roedd ef yn y Gogledd, daliwyd ymron bawb oedd wedi bod yn gysylltiedig ag ef yn y wasg Buritanaidd. Tynnwyd allan warant i'w ddal yntau. Gyrrodd Elizabeth negesydd arbennig yn dwyn i'w nai, Iago VI. o'r Ysgotland, lythyr wedi ei ysgrifennu a'i llaw hi ei hun, yn galw arno i roi Penry i fyny iddi hi.[15] Cyhoeddodd Iago Broclamasiwn yn alltudio Penry o'r Ysgotland. Ond nid oedd clerigwyr y wlad honno mor ddi-asgwrn-cefn a'u brodyr yn Lloegr—rhwystrasant gyhoeddiad y Proclamasiwn,[16] ac arhosodd Penry yn yr Ysgotland am yn agos i dair blynedd wedi i'r brenin ei orchymyn i ymadael.
Pan wnaeth ei feddwl i fyny i droi ei wyneb tuag adre, bwriadai geisio cael gweled y Frenhines wyneb yn wyneb, modd y gallai egluro iddi mewn ymddiddan wir sefyllfa pethau yng Nghymru. Ond ni chaniatawyd iddo gael ei ddymuniad. Gan gyrraedd Llundain yn 1592, ymunodd a'r eglwys fechan Anghydffurfiol oedd wedi cael ei sefydlu yn Southwark ugain mlynedd cyn hynny. Gwrthododd dderbyn swydd yn yr eglwys honno, ond pregethodd iddi mewn gwahanol fannau. Cyn hir carcharwyd Barrowe a Greenwood. Ysgrifennodd Penry ar eu rhan ddeiseb nodedig, yn cynwys cyffes ffydd grefyddol a gwleidyddol y blaid a erlidid. Yn fuan wedyn daliwyd yntau, a thaflwyd ef yng ngharchar. Deisebodd ei wraig ieuanc yn ofer am ei ryddhad. Yn ei rwymau a'i garchar cofiai am ei wraig, am ei blant, am ei fam oedrannus ym Mrycheiniog, ac am ei wlad a'i hangen. Mae yr ohebiaeth rhwng y gwr a'r wraig ymhlith yr ysgrifeniadau tyneraf a mwyaf teimladwy yn yr iaith Seisnig, a da fuasai gennyf eu rhoddi yma yn llawn. Rhaid boddloni ar roi dyfyniad yn unig o'i lythyr olaf at ei ferched bach, nad oeddent eto ond plant ieuainc iawn. Dyma ddywed :—
"Mae Cenedl y Cymry bellach er's canrifoedd wedi bod dan wialen yr Arglwydd; ond hyderaf fod yr amser wedi dod pan y dengys Efe ei drugaredd tuag atynt, drwy beri i wir oleuni'r Efengyl lewyrchu yn eu plith. A chwithau, fy merched anwyl, gweddiwch yn daer ar Dduw— pan ddeuwch i wybod beth yw gweddi—am hyn. A byddwch barod bob amser i roi help i'r plentyn lleiaf o'r wlad honno (Cymru) a saif mewn angen cymorth. Ac os byddwch abl i wneud hynny, talwch yn ol y caredigrwydd a dderbyniais gan fy mherthynasau yno. Am fy mam, fy mrodyr a'm chwiorydd, gwn y byddant garedig yn ol eu gallu i chwi a'ch mam er fy mwyn i. A byddwch yn gysur arbennig yn fy lle, i benwynni fy anwyl fam, yr hon a ddefnyddiodd yr Arglwydd fel fy unig gymorth ar ddechreu fy astudiaethau, drwy y rhai y daethum i wybodaeth o'r ffydd werthfawr honno yng Nghrist Iesu, am amddiffyn yr hon yr wyf heddyw mewn llawer o lawenydd enaid er mewn llawer o anghysur allanol. Gweddiwch lawer ac yn aml am deyrnasiad llwyddiannus a chadwedigaeth gorff ac enaid ei gwir ardderchog Fawrhydi y Frenhines Elizabeth, o dan deyrnasiad yr hon y daethum i'r wybodaeth a'r gobaith gwynfydedig yn y rhai yr wyf yn sefyll. Bydded i'r Arglwydd ddangos trugaredd iddi am hynny, yn y bywyd hwn, ac hefyd yn y dydd mawr hwnnw. Byddwch garedig i, a chynorthwywch bawb dieithriaid; ac i bobl yr Ysgotland, lle y bum i, a'ch mam, a dwy ohonoch chwithau, fyw fel dieithriaid, ac eto a gawsom groesaw, ac a dderbyniasom garedigrwydd mawr, er mwyn enw ein Duw. Byddwch dyner eich calonnau i'r weddw a'r amddifad; yn gymaint am fod deddf Duw a natur yn gofyn hyn oddiar eich llaw, ac am, o ran dim ar a wn i, fy mod yn debyg o'ch gadael chwi yn amddifaid, a'ch mam yn weddw. Ac yn olaf, fy merched, tyfwch yn holl rasusau gwybodaeth a duwioldeb yng Nghrist Iesu. Credwch a gobeithiwch yn gadarn yn yr iachawdwriaeth a geir ynddo Ef. Dioddefwch adfyd gydag Ef yn yr Eglwys dlawd hon. Parhewch mewn ofn duwiol hyd y diwedd; yna cewch chwi a minnau fwynhau cyfarfod gwynfydedig a'n gilydd yn nydd mawr ei ymddangosiad Ef."[17]
Ni ysgrifennodd Paul erioed ddim tynerach, dim mwy aruchel, na'r Epistol hwn o eiddo John Penry at ei blant bychain. Dyddiad y llythyr hwn yw Ebrill 10, 1593. Ymhen saith wythnos wedyn arweiniwyd ef i'r crogbren. Merthyrwyd ef yn anghyfiawn, nid am ei fod wedi cyflawni unrhyw drosedd yn erbyn deddfau'r wlad, ond am fod ei athrawiaeth yn milwrio yn erbyn buddiannau tymhorol a phersonol swyddogion Eglwysig.[18]
Rhoddwyd corff John Penry yn y bedd dros dri chan mlynedd yn ol. Ond y mae efe er yn farw yn llefaru eto. Gellir cymhwyso y llythyr tyner ysgrifennodd at ei blant bach, at bawb yng Nghymru heddyw—ac os yw cydwybod Cymru heddyw'n effro, i lafur John Penry, a rhai o gyffelyb ysbryd ag ef, y mae ini ddiolch am hynny. Ac os yw Cymru'r dyfodol i fod yn deilwng o aberth y gwaed gwirion a dywalltwyd ar ei rhan, rhaid i rieni Cymru heddyw geisio plannu yng ngalonnau eu plant yr egwyddorion a draddododd John Penry i'w blant yntau yn y llythyr hwnnw.
Nodiadau
[golygu]- ↑ A New Discovery, &c., tud. 3.
- ↑ Mewn llythyr at Iago VI. (wedi hynny Iago I. Lloegr), dywed Elizabeth:—"Let me warne you that there is risen, bothe in your realme and myne, a secte of perilous consequence, such as would have no kings but a Presbitrye, and take our place while the injoy our privileges. . . I pray you stop the mouthes, or make shorte the toungs, of such ministers as dare to make oraison in their pulpits for the persecuted in England for the Gospel. Suppose you, my deare brother, that I can tollerat such scandals of my sincere government. I hope, howsoever, you be pleased to bear with their audacitie towards yourselfe, yet you will not suffer a strange King receave that indignities at such caterpillars' hands; that, instede of fruite, I am afraid will stuf your realme with venom. . . . Besiching you. . . not to give more harbor rome to vacabond traitors and seditious inventors, but to returne them to me, or banishe them your land."—(Camden Society's Publications, xlvi.)
- ↑ Historia Oxoniensis. (Wood, 1674.)
- ↑ Cwynai fod miloedd o'i gydwladwyr "nad adwaenent Iesu Grist nac fel Duw nac fel dyn, fel offeiriad nac fel proffwyd." "Rhaid," eb efe, "greu cydwybod i'r bobl." Awgryma y gellid danfon tri chant o bregethwyr o'r Prifysgolion i'r ardaloedd yng Nghymru oedd yn deall Saesneg ac y gellid symud Cymry o fywiolaethau yn Lloegr i wasanaethu eu cenedl eu hunain.
- ↑ In the Lansdowne MSS. iii., Art. 4, the writer says, "More than the name of God, they know nothing at all." They take long journeys, barefoot, to the ruins of some ancient church or famous well; and there, or on the mountain sides, listen to the minstrels who, accompanied by the harp, celebrate the deeds of their ancestors.
- ↑ Sonia am yr Eglwys fel "Eglwys Loegr anwyl"—a thrwy ei ysgrifau rhed y syniad ei fod yn dymuno llwydd yr Eglwys ymron yn gymaint ag y dymunai les ei gydwladwyr.
- ↑ Dywed:" Dichon y gofidiem lai fod yr Efengyl yn cael ei gwahardd ini oni bae mai etifeddiaeth ein tadau gynt, y Brythoniaid Cymreig, ydyw, ac a feddiannid ganddynt hwy am ganrifoedd yn y wlad hon. Canys er nas gallwn yn awr alw gwir grefydd wrth ei henw priodol, nid blodau yr hen wirionedd oedd yn eiddo ein tadau ac a seliasant â'u gwaed yw yr arferion coelgrefyddol, eithr cynnyrch boncyn difywyd Rhufain a blannwyd yn Lloegr gan Awstin, y mynach balch, yn erbyn gweithredoedd gormesol yr hwn y safodd duwinyddion Cymru gynt, ie, hyd yn oed ar draul eu bywydau."
- ↑ "Gwelwn," meddai, "Eglwysi Duw o'n cwmpas yn Ffrainc a Belgium yn mynd yn ddrylliau. Mynnwn petai'r Ysgotland wedi glynu wrth ei chariad cyntaf. Doed a ddelo, safwch chwi yn wrol yn y ffydd, fy nhadau a'm brodyr. . . Dichon y rhynga bodd i Dduw, er i'r canghennau byw gael eu torri ymaith, ein bywiocau ni ganghennau meirw, trwy rinwedd ein Pen—Iesu Grist. Nid wyf yn ameu, trwy ddaioni Duw, os sefydlir y gwirionedd yn ein mysg drwy bregethu, na bydd i bawb yn Ewrop a broffesant ddaioni, ddiolch yn galonnog i'r Arglwydd am ein sel a'n dewrder ni yn y gwaith hwn.'
- ↑ MS. Chronology, vol. ii., p. 487.
- ↑ Dywed y Parch. D. Morgan, yn ei lawysgrifau, fod pedair o Eglwysi Ymneillduol yn Sir Frycheiniog y gellir olrhain eu tarddiad i lafur personol Penry.
- ↑ Yn Ionawr, 1566, deddfodd y Llys hwn fel hyn:—"That no person should print or publish any book against the Queen's injunctions, ordinances, or letters patent, set forth, or to be set forth or against the meaning of them."That such offenders should forfeit all their works and copies, and suffer three months' imprisonment, and never practice the art of printing any more.That no persons should sell, bind, or stitch such books, upon pain of twenty shillings for every book.'
- ↑ Ac eto rhaid cydnabod mai dylanwad personol Elizabeth yn hytrach na gwir ddaliadau Eglwyswyr ei chyfnod, oedd yn gwneud i'r ddysgeidiaeth hon gael ei gwthio ar y wlad. Petai'r Eglwys yn y dyddiau hynny wedi cael cyfle i roddi ei llais, buasai o blaid llawer mwy o ryddid nag a ganiateid. Yn ei waith ar Buritaniaid Oes Elizabeth dyry y Proffeswr Hopkins dystiolaeth yn profi—1. Nad ystyrrid y drefn Esgobaethol yn hanfodol i gyfansoddiad Eglwys Gristionogol.2. Nad ystyrrid urddau esgobaethol yn hanfodol er gweinyddu yr ordinhadau.3. Fod Eglwys Loegr yn cydnabod urddau a roddid gan unrhyw Eglwys reolaidd arall.
- ↑ Gwel "A view of some part of such Public Wants and Disorders as are in the service of God within Her Majesty's country of Wales."
- ↑ Yn y Proclamasiwn hwn, dyddiedig Chwefror 13, 1589, gorchymynnid roddi i fyny ar unwaith bob llyfrau terfysglyd, pa un bynnag ai argraffedig ai ysgrifenedig. Desgrifid hwy fel "tending to bring in a monstrous and dangerous innovation, of all manner of ecclesiastical government now in use; and with a rash and malicious purpose, to dissolve the state of the prelacy, being one of the three ancient estates of this realm under her Highness—whereof her Majesty mindeth to have a reverend regard. She therefore prohibits any of her subjects from keeping any books in their custody against the order of the Church, or the rites and ceremonies of it; her Majesty being minded to have the laws severely executed against the authors and abettors of them, as soon as they shall be apprehended."
- ↑ Gwel tudal 44.
- ↑ Baker's MSS. Vol xvi.
- ↑ Yelverton MSS.
- ↑ Teimlodd y Prif Farnwr Popham fod amddiffyniad Penry o'i ysgrifenniadau, ar dir y gyfraith, yn anatebadwy. Llofruddiaeth gyfreithiol—judicial murder—oedd dienyddiad Penry. Ni phrofwyd ef erioed yn euog o fod yn awdwr y Marprelate Tracts—ac mae holl bwysau'r tystiolaethau mwyaf diweddar yn mynd i brofi ei ddieuogrwydd.