Diwygwyr Cymru/Whitefield a'r diwygiad yng Nghymru
| ← Y diwygiad cyffredinol | Diwygwyr Cymru gan Beriah Gwynfe Evans |
Y seiadau Methodistaidd → |
PENNOD XX.
WHITEFIELD A'R DIWYGIAD YNG NGHYMRU.
Tra roedd y pethau mawr a rhyfedd hyn yn cymeryd lle yn Lloegr, nid oedd Cymru hithau'n ddigyffro. Ond rhaid oedd cymeryd bras olwg ar y gwaith yn Lloegr cyn deall dadblygiadau'r gwaith yng Nghymru.
Fe gofir mai nodwedd fawr y Diwygiad yn Lloegr, oedd y pregethu yn yr awyr agored, a ddechreuwyd o'i anfodd gan Whitefield yn Kingswood, yn Chwefror, 1739. Yn groes i'w ewyllys y boddlonodd Whitefield wneud hynny, ac yn groes i'w ewyllys yntau y cydsyniodd Wesley ag ef, ac y cymerodd ran yn y gwaith ei hunan. Nodwedd arall y mudiad yn Lloegr, a'i gwahaniaethai oddiwrth bob mudiad blaenorol i efengyleiddio'r wlad, oedd y rhan a gymerodd lleygwyr ynddo. I Eglwyswyr, ac aelodau o'r urdd offeiriadol fel Wesley a Whitefield, yr oedd yn anhawddach ganddynt weled gwr heb urddau Eglwysig yn ymgymeryd â'r Alwedigaeth Santaidd, nag oedd ganddynt hyd yn oed bregethu yn yr awyr agored eu hunain. John Cennick oedd y cyntaf a ganiatawyd ganddynt i wneud hyn, a thrwy ei ymroddiad, a'i fedr, a'i lwyddiant, profodd iddynt mai doeth oedd manteisio ar wasanaeth gwr oedd wedi cael ei urddo gan yr Ysbryd Glan, yn hytrach nag un na feddai unrhyw gymhwysder arall nag arddodiad dwylaw esgob. Gwir i Cennick, ymhen blynyddau ar ol hyn, roi cryn drafferth a gofid i Wesley a Whitefield—ond nid am nad oedd yn feddiannol ar urdd Eglwysig. Nodwedd arall a berthynai i'r mudiad yn Lloegr, oedd y Seiadau Crefyddol y soniwyd am danynt eisoes.
O'r tair nodwedd yma, yn yr olaf yn unig y cafodd Lloegr, y flaenoriaeth ar Gymru ynglŷn â'r Diwygiad. Fel y danghoswyd eisoes, yr oedd Seiadau yn bodoli yn Lloegr cyn i Howell Harris dorri allan fel Efengylydd. Am y ddwy nodwedd arall, yr oedd Cymru ar y blaen, mewn pregethu yn yr awyr agored, ac mewn caniatau i leygwyr wneud hynny. Howell Harris dorrodd yr iä yn yr olaf, er nad yn y blaenaf. Cawn ef ei hun yn rhoddi'r flaenoriaeth yn hyn o beth i Daniel Rowlands ar un achlysur,[1]—er, ar achlysur arall, yn hawlio'r clod iddo ei hun.[1] Ond cawn fanylu ar gysylltiadau personol Howell Harris eto; ar hyn o bryd â gweddau cyffredinol y Diwygiad y mae a fynnom.
Yr oedd hyn o wahaniaeth rhwng y Diwygiad yn Lloegr i'r hyn a'i nodweddai yng Nghymru. Yn Lloegr, Clerigwyr Eglwys Loegr—saith o aelodau Clwb Santaidd Rhydychain (gwel tudal 224) a drefnent, ac a lywient, ac a ysbrydolent y mudiad. Yng Nghymru, er fod a fynnai clerigwyr lawer â'r gwaith; ac er, ymhen amser, ymron o angenrheidrwydd o dan yr amgylchiadau, y syrthiodd llywodraethiad y mudiad yn gyfangwbl i ddwylaw nifer o offeiriaid, eto ar y cychwyn yr oedd cymaint, efallai fwy, a wnelai Ymneillduwyr ag ef na'r Eglwyswyr.
Enwyd eisoes Phylip Pugh ac Enoch Francis, Miles Harry, ac Edmund Jones, ymhlith y gweinidogion Ymneillduol perthynol i'r ddau enwad, a ddangosasant ysbryd Diwygwyr ymhell cyn torri o'r Diwygiad mawr allan. Pan y torrodd allan, cafwyd nifer o weinidogion eraill, yn Fedyddwyr ac Anibynwyr, yn barod iawn i estyn llaw o gymorth er hyrwyddo'r mudiad daionus yn ei flaen. Ymhlith y rhai hynny, a'r rhai a ddaethant wedi hynny i gysylltiad agos a swyddogol a'r gyfundrefn ganoleiddiedig, gellir enwi Lewis Rees, Llanbrynmair; Henry Davies, Blaengwrach; Howell Griffith, Trefeirig; Benjamin Thomas, ac eraill; ac ymhlith hyrwyddwyr y mudiad ar y dechreu, ond a dorasant eu cysylltiad ag ef cyn ei ganoleiddio'n gyfundrefn, gellir enwi David Williams, Watford a Chaerdydd.
Pan ddechreuodd Howell Harris dynnu sylw ac enill enw fel pregethwr, tybiodd y gwyr da hyn y gallai eu cynorthwyo hwy yn eu hymdrech i ddeffroi eu cynulleidfaoedd gartref. Ceir Miles Harry,[2] David Williams[3], Howell Griffith,[4] Edmund Jones,[5] Lewis Rees,[6] ac eraill o Arweinwyr Ymneillduaeth oleuedig Cymru, yn rhoi gwahoddiad cynnes i Howell Harris i ymweled â chylchoedd eu gweinidogaeth hwynt; a threfnodd rhai o honynt gylch o gyhoeddiadau i Howell Harris fel Efengylydd.Gwel y llythyrau uchod ac eraill yng Nghasgliad Trefecca. Yr oedd rhai o'r brodyr hyn wedi cyrraedd y fath enwogrwydd fel Diwygwyr, nes y daeth eu clod i glustiau Wesley a Whitefield, a chawn ohebiaeth gyfeillgar a chyson yn pasio rhyngddynt. Manylir eto ar y rhan bersonol a gymerodd Howell Harris yng ngwaith Y Diwygiad yng Nghymru. Ar hyn o bryd dwy ffaith bwysig wyf am argraffu ar feddwl a chof y darllenydd, sef:—
1. Mai Gweinidogion Ymneillduol oedd y cyntaf i'w annog i ddod allan fel Efengylydd cyffredinol, gan drefnu cyhoeddiadau a sicrhau ymlaen llaw dderbyniad cynnes a chroesawus iddo; a
2. Mai anenwadol hollol oedd llafur Howell Harris ar gychwyn ei yrfa fel Efengylwr.
Gwir (a) na pharhaodd yr oll o'r gweinidogion Ymneillduol yn hir iawn yn y cysylltiad cyfeillgar yma â Howell Harris,—a (b) gwir hefyd na pharhaodd ei lafur cyhoeddus yntau yn anenwadol yn hir. Yr oedd cysylltiad rhwng (a) a (b) sy'n rhoi esboniad dealladwy ar waith y naill weinidog Ymneillduol ar ol y llall, yn tynnu yn ol o gysylltiad swyddogol â Howell Harris, ond nid ar hyn o bryd y gellir yn oreu olrhain hanes achos ac effaith yn y cysylltiad hwn. Daw yn amlycach pan adroddir, mewn pennod arall, hanes cysylltiadau personol Howell Harris a'r naill a'r llall o'r personau a'r enwadau hyn.
Mynegwyd yn y bennod flaenorol am ymweliad cyntaf George Whitefield â'r Dywysogaeth. Yn niwedd 1738, ysgrifennodd o Lundain at Howell Harris, ac yn nechreu 1739 cafodd atebiad. Dyma ddywed y Sais wrth y Cymro:—
"Er fy mod yn anadnabyddus i chwi o ran fy mherson, yr wyf er's hir amser wedi bod yn un â chwi o ran fy ysbryd, ac wedi llawenhau i glywed fod yr Arglwydd yn eich llwyddo. Ewch ymlaen, fy mrawd anwyl, byddwch gadarn yn yr Arglwydd, ac yn nerth ei allu Ef. Mae, a bydd llawer o wrthwynebwyr; eithr nac ofnwch. Bydd i'r Hwn a'ch danfonodd eich cynorthwyo, eich cysuro, a'ch amddiffyn, a'ch gwneud yn fwy na choncwerwr drwy ei fawr gariad. Yr wyf fi yn dyst byw o hyn, canys aml y perffeithiwyd ei nerth Ef yn fy ngwendid i."
Cynhwysa atebiad Harris a ganlyn:—
"Pan glywais gyntaf am eich llafur a'ch llwyddiant, unwyd fy enaid i â'ch eiddo chwi, a chyfeiriais ddeisyfiadau i'r nef ar eich rhan. . Mae genyf newyddion da i'w rhoi i chwi o Gymru. Mae diwygiad mawr yn Sir Aberteifi drwy Mr. Daniel Rowland, offeiriad, llafur yr hwn a fendithiwyd yn fawr hefyd yn Sir Gaerfyrddin. Mae ein rhagolygon yn Sir Frycheiniog a Mynwy hefyd yn felus. Llwydda'r Diwygiad hefyd yn y Sir hon (Morgannwg). Mae yma weinidog Ymneillduol ieuanc defnyddiol iawn, yr hwn sydd wr o garedigrwydd mawr.[7] Mae un arall o'r un nodwedd yn Sir Drefaldwyn.[8] "
Gwelir fod Harris y pryd hwn yn ddigon diragfarn i gydnabod gwaith a gwasanaeth llafurwyr eraill yng ngwinllan ei Arglwydd heblaw efe ei hun.
O Bryste croesodd Whitefield i Gaerdydd, ym mis Mawrth, 1739. Pregethodd yn y Town Hall, i gynulleidfa liosog a pharchus, ac ymhlith ei wrandawyr yr oedd dau weinidog Ymneillduol,—o bosibl, David Williams, Watford, ac Edmund Jones, Pontypool. Yno, hefyd, y cyfarfyddodd am y tro cyntaf erioed â Howell Harris, yr hwn oedd i chwareu rhan mor bwysig ym mywyd a mudiadau cyhoeddus Whitefield o hynny allan.
Yr oedd tueddfryd y Trefnydd yn gryf yn Whitefield yn y cyfnod hwn, ac un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd ymgynghori â Howell Harris am gyflwr y Seiadau, ac ystyried pa fodd y gellid yn oreu eu gwneud yn fwy defnyddiol, a gwasanaethgar i amcanion y Diwygiad, nag oeddynt. Dyna ddechreu cysylltiad Whitefield â'r diwygiad yng Nghymru.
Dylanwadodd yr ymddiddan hanesyddol hwnnw lawer ar gwrs bywyd dyfodol y ddeuddyn. Gyda'i dueddfryd naturiol i gymeryd pob dyn ar goel, ni welai Whitefield yn Harris ddim ond yr Efengylydd ieuanc, ymroddgar, dewr, wedi ymgyflwyno fel yntau o lwyrfryd calon i wasanaeth y Meistr. Ac i wneud cyfiawnder â Harris, hyn oedd, yr adeg yma, y dylanwad cryfaf a'r nodwedd amlycaf yn ei fywyd. Petae wedi aros am y deuddeng mlynedd canlynol yng nghymdeithas ac o dan ddylanwad uniongyrchol natur ddyrchafedig fel eiddo Whitefield, buasai holl gwrs ei fywyd, a holl hanes dilynol y Diwygiad, a Methodistiaeth yng Nghymru, yn wahanol i'r hyn a fuont.
Ond yn anffodus i Harris, dysbeidiol (inter-mittent) oedd dylanwad Whitefield a Wesley arno. A phan beidiai'r dylanwad hwnnw, caffai tueddiadau llai teilwng ei natur afael ynddo, gyda chanlyniadau alaethus.
Ond ar y pryd y soniwn am dano nid oedd dim o hynny wedi dod i'r golwg, er y gall y craff a ddilyno'n fanwl Ddyddiadwr Howell Harris, hyd yn oed yn y blynyddau cyntaf hynny, weld arwyddion presenoldeb y clefyd a andwyodd wedi hynny lawer ar ei ddefnyddioldeb a'i wasanaethgarwch. Ond yn yr ymddiddan hwn daeth Whitefield a Harris i ddeall eu gilydd, a chyd-drefnasant ryfelgyrch cenhadol yng Nghymru.
Dychwelodd Whitefield y pryd hwnnw i Loegr; ond ymhen mis daeth yn ei ol i Gymru, a phan ddaeth y pryd hwnnw, teithiodd mewn rhwysg ac urddas allanol a adawodd argraff ddofn ar feddyliau'r bobl syml i'r rhai y dygodd ei genadwri. Sir Fynwy a ddewiswyd fel maes yr ymweliad hwn. Ym Mrynbiga y dechreuwyd y rhyfelgyrch, ac yno yr oedd Harris yn ei gyfarfod. Yno hefyd y cafwyd yr atalfa gyntaf—ac yn wir yr unig un—i'r ymgyrch. Gwrthodwyd caniatau i Whitefield bregethu yn Eglwys y Plwyf. Ond os na chai bwlpud, gallai wneud hyn. Benthyciwyd bwrdd cadarn, yr hwn a osodwyd o dan goeden gauadfrig—fel yr arferai Ymneillduwyr Cymru'r oes honno wneud â'u pwlpudau symudol—ac oddiar ben hwnnw y traethodd Whitefield ei genadwri nefol.
Wedi'r oedfa ym Mrynbiga, ffurfiwyd gosgorddlu anrhydedd iddo, a chyda o hanner cant i dri ugain neu dri ugain a deg, o wyr cyfrifol ar eu meirch eu hunain yn ei ganlyn, teithiodd Whitefield yn ei flaen i gymeryd meddiant o Sir Fynwy yn enw ei Arglwydd, ac i blannu Baner y Groes ynghanol nifer o gadarnfeydd y gelyn. O Brynbiga aeth i Bontypool. Yno taflwyd drysau'r Eglwys led y pen iddo—ond nid oedd Eglwys Pontypool yn ddigon mawr i gynnwys y ddegfed ran o'i wrandawyr. Ar ol oedfa fer yn yr Eglwys, parotowyd lle iddo annerch y gynulleidfa fawr yn yr awyr agored, yr hyn a wnaeth gyda nerth a dylanwad mawr. Yna, aeth yn ei flaen, a'r gosgorddlu gwŷr meirch yn ei ganlyn o hyd, i Abergafenni, lle y cafodd gynulleidfa o ddwy fil. Yna, ymlaen drachefn i Cwmiau, lle y pregethodd yn y fynwent, am fod yr Eglwys yn rhy fechan. Yna, ymlaen drachefn i Gaerlleon ar Wysg; i Trelech, lle y pregethodd o ben yr horse block wrth ymyl y dafarn; Chepstow, lle y pregethodd yn yr Eglwys; ac i Coleford, lle y pregethodd yn y farchnadle.[9]
Ni chaniata gofod imi roi yma ond dyfyniad neu ddau o ysgrifeniadau Whitefield ei hun ar yr argraffiadau a adawodd y daith yma ar ei feddwl,—a dewisaf y ddau yma am y goleuni a daflant ar gyflwr Cymru, a chymeriad rhai o hyrwyddwyr y Diwygiad. Dywed:—
"Gallaswn dreulio rai misoedd gyda budd yng Nghymru. Po hwyaf yr arhosaf yn y wlad, mwyaf yr wyf yn ei hoffi. Mae'r bobl yn syml a diddichell. Mae yma lai o ddallbleidiaeth nag a geir yn gyffredin yn Lloegr. Trwy gymhelliadau Howell Harris, a gweinidogaeth eraill, maent yn newynu ac yn sychedu am Gyfiawnder Iesu Grist."
Mewn cysylltiad a'i ymweliad â Chaerlleon, dywed:—
"Dymunais yn arbennig ddyfod yma, canys pan fu fy mrawd Howell Harris yma o'r blaen, darfu i rai o'r gwehilion guro tabwrdd, a bloeddio o'i gwmpas er mwyn ei aflonyddu. Eithr ni chaniataodd Duw iddynt. ysgwyd tafod yn awr, er imi bregethu o'r un lle ag y gwnaeth yntau, ac er imi weddio Duw ar ei ran wrth ei enw, fel hefyd a wnaethum ymhob lle y pregethais yng Nghymru. Na ato Duw imi fod â chywilydd o'm Meistr nac o'i weision. Daeth miloedd ynghyd o bob rhan o'r wlad, a rhoddodd Duw imi y fath gymorth eithriadol, nes imi gael fy nghario allan o honwyf fy hun."
Mae llawer mwy yn y ddau ddyfyniad uchod nag a ymddengys ar y wyneb, ond nid af yn awr i fanylu arnynt. Dyna hanes ail ymweliad Whitefield â'r Dywysogaeth—a rhwydd yw deall i'r son am yr ymweliad, a'r dylanwadau nerthol a aeth gydag ef, redeg drwy'r holl wlad o amgylch, gan godi awydd cryfach nag erioed yn y bobl i glywed y gwr a addabyddid eisoes fel pregethwr galluocaf a hyotlaf ei oes.
Dychwelodd Harris gyda Whitefield i Loegr—a dyna ddechreu cysylltiad swyddogol Efengylwyr Cymreig â'r Diwygiad yn Lloegr. O'r dydd hwnnw allan, tan ar ol iddo dorri ei gysylltiad â Methodistiaid Cymru, parhaodd Howell Harris mewn cysylltiad agos a swyddogol â'r mudiad diwygiadol yn Lloegr. Heb fynd i fanylu yn ormodol, gellir symio i fyny drwy ddweyd fod Whitefield yn awr yn paratoi i gymeryd awenau yr holl fudiad, o'r ochr Galfinaidd, fel y gwnaeth Wesley o'r ochr Arminaidd,—i'w ddwylaw ei hun; a'i fod yn edrych ar, ac yn ymddwyn at, y gwaith yng Nghymru fel rhan naturiol a hanfodol o'r gwaith cyffredinol yn Lloegr. Fel y dygwyd John Cennick (yr hwn oedd wedi gwneud yn Swydd Wilts waith tra chyffelyb i eiddo Howell Harris yng Nghymru, sef ffurfio cylch diwygiadol cartrefol iddo ei hun) i mewn i'r cylch swyddogol yn Llundain, felly hefyd y gwnaed yn awr â Howell Harris, ac wedi hynny â nifer o'r gweithwyr mwyaf ymgyflwynedig yn y maes Cymreig. Fel cymorth at wneud hynny, gwahoddodd Whitefield Howell Harris, a Daniel Rowlands, a Howell Davies, ac eraill, nid yn unig i efengylu ac ymweled a'i Seiadau mewn gwahanol rannau o Loegr, ond i bregethu yn y Tabernacl, ac i arolygu'r gwaith yno yn ei absenoldeb ef.
Daeth atalfa i barhad uniongyrchol gweinidogaeth Whitefield yng Nghymru. Talodd ail ymweliad â'r America, ond oddi yno gohebai yn gyson âg arweinwyr y mudiad yng Nghymru, Howell Harris, Edmund Jones, Daniel Rowlands, ac yn ddiweddarach, Herbert Jenkins. Anffodus, mewn mwy nag un ystyr, a fu ymadawiad Whitefield o'r wlad hon y pryd hwnnw. Yn ei absenoldeb ceisiodd gwrthwynebwyr Calfinaidd John Wesley godi gwrthryfel i'w erbyn, a chreu rhwyg ymhlith y Diwygwyr. Blaenaf ymhlith y rhai hyn yr oedd John Cennick, a Joseph Humphreys, ac, y mae yn ofidus meddwl, Howell Harris. Anghofiodd yr olaf gymaint arno ei hun, nes y geilw gwaith Wesley yn gwrthwynebu athrawiaeth Etholedigaeth fel "haint uffernol."[10] Petae Whitefield wedi aros yn y wlad hon, o bosibl y buasai ei ddylanwad personol yn ddigon cryf ar ei ganlynwyr, i'w rhwystro i yrru pethau i'r pen fel y gwnaethant yn ei absenoldeb.
A'r drwg oedd eu bod yn gweithredu i raddau yn ei enw, ac yn ymddangosiadol, o leiaf, o dan ei awdurdod ef; fel, pan ddaeth yn ol i'r wlad hon, y cafodd ei fod yntau, mewn ystyr, wedi ei rwymo i'r un gwrthwynebiad cyndyn i John Wesley ag oeddynt hwy. Yn y cyfnod hwn galwyd y wasg i gynorthwyo y mudiad diwygiadol Calfinaidd—ac ar yr un pryd i gynorthwyo'r ymosodiad ar Wesley. Sefydlwyd papur newydd wythnosol, a adwaenid wrth yr enw The Weekly History, yn rhoi hanes y Diwygiad yn ei wedd Galfinaidd, yn America, Lloegr, Cymru, a'r Ysgotland. Cymro oedd yr argraffydd a'r cyhoeddwr, John Lewis wrth ei enw, a'r prif ohebwyr iddo oeddent Harris, Cennick, Humphreys, a Whitefield. Heblaw y rhai hyn, ysgrifennai nifer o ohebwyr eraill yn gyson iddo, ymhlith eraill Thomas Lewis, brawd yr argraffydd. Wrth gymharu cynnwys y llythyrau hyn â'u gilydd, gellir cael syniad tra chywir o gyfeiriad cyffredinol y gwaith.
Nid cynt y dychwelodd Whitefield i Loegr nag yr ymdrechodd gasglu drachefn i'w law ei hun y gwahanol edefau oeddent wedi cael eu torri a'u dyrysu yn ei absenoldeb. Cafodd, er ei siomedigaeth, fod anghydfodau wedi torri allan yng Nghymru yn ogystal ag yn Lloegr. Pwnc o athrawiaeth oedd wrth wraidd yr anghydwelediad â Wesley, pwnc o drefn, a'r hen gwestiwn anorffen pwy yw'r mwyaf yn nheyrnas nefoedd, oedd yn blino'r saint yng Nghymru. Heb fynd i fanylu ar y pethau hyn, yr hyn, o bosibl, na fyddai fuddiol, gellir dweyd, wrth fyned heibio, fod y gwendid yn natur Howell Harris wedi amlygu ei hun yn absenoldeb Whitefield tuag ato yntau hefyd.[11] Ond yr oedd mawrfrydigrwydd Whitefield y fath fel na chaniatäi iddo ddal digofaint tuagato, fel ag a wnai natur llai llariaidd. Yn lle hynny ysgrifennodd lythyr caredig ato, a chymerodd ef i mewn i gylch y gwaith yn Lloegr. Yn y llythyr hwn dywed wrth Harris:—
"Ewch i Bryste, Caerloew, a Swydd Wilts, am ryw bythefnos i bregethu; ac yna deuwch i fyny i Lundain... Yna gallwn ymgynghori beth fydd oreu i'w wneuthur dros achos y Meistr."
Ar ol yr ymgynghoriad, gadawodd Whitefield Harris fel ciwrad o dano yn y Tabernacl, ac aeth ef ei hun i'r Ysgotland. Yn y cyfamser, aeth pethau o ddrwg i waeth yng Nghymru, nes y teimlodd Whitefield ei bod yn bryd iddo gymeryd mewn llaw y mater o'u dwyn i drefn. Yn yr argyfwng hwn ysgrifenodd lythyr pwysig at arweinwyr y mudiad yng Nghymru. Mae yn ddyddiedig "Bryste, Rhag 28, 1741," ac yn un tra arwyddocaol. Wele ddyfyniadau ohono:—
FY ANWYL FRODYR YNG NGHRIST:
Er yn gorfod bod yn absennol o ran y corff, yr wyf yn ysgrifennu hyn i'ch sicrhau fy mod yn bresennol o ran yr ysbryd. Deisyfaf i chwi lawer o bresenoldeb ein Pen godidog. Nid wyf yn amheu y cewch Ef yn ffyddlawn i'w addewid; a chan eich bod yn cyfarfod â'ch gilydd yn ei Enw Ef i ystyried materion o'r pwys mwyaf, byddwch ddyfal mewn gweddi, canys mae arnoch angen llawer o'r Ddoethineb sydd oddi uchod. Un pwnc mawr yw, gwybod yn iawn i ba swydd a gwaith neillduol mae Crist Iesu wedi galw pob un o honoch. Canys cymeraf yn ganiataol na bydd i neb o honoch redeg cyn cael ei alw, neu gael profion o'i droedigaeth ei hun. Mae i bersonau gwahanol ddoniau a grasusau gwahanol. Galwyd rhai i ddeffroi; eraill i sefydlu ac adeiladu. Mae gan rai ddoniau poblogaidd, cymhwys i gynulleidfaoedd mawrion; symuda eraill yn oreu mewn cylch mwy cyfyngedig, a gallant fod yn dra defnyddiol yn y Cyfeillachau Cyfrinachol. Tybiaf y dylai'r rhai a elwir i weithio'n gyhoeddus, ymgyflwyno'n gyfangwbl i'r gwaith, gan fyned heb god nac ysgrepan. Bydd i'w Meistr ddwyn eu treuliau. Am eraill nas gallant ond ymweled yn gyfrinachol, dylent ofalu am eu galwedigaethau tymhorol, gan roi eu horiau hamddenol i wasanaeth yr Eglwys. Mae rhai o honoch yn weinidogion Eglwys Loegr; ond os ydych yn ffyddlon, nid wyf yn tybied yr arhoswch yn hir ynddi. Eto, nac ewch allan o'r Eglwys hyd nes eich bwrier allan o honi. A phan eich bwrier allan er mwyn Iesu Grist, nac ofnwch bregethu yn y caeau. A thra yr arhosoch yn yr Eglwys, O! na adewch i blant Duw newynu o eisieu'r Sacrament, hyd yn oed os byddant yn perthyn i blwyf arall. Ni fwriadwyd y Canon Eglwysig sy'n gwahardd rhoi'r Sacrament i ddyeithriaid, ond yn unig i atal y sawl a ddont yn amharod, ac heb wybod i'r gweinidog. O'm rhan fy hun, buaswn yn ei hystyried yn anrhydedd i gael fy ngosod yn y Llys Eglwysig, a chael fy niarddel am roi i blant Duw y Sacrament yn fy Eglwys i pan nas gallant ei chael mewn lle arall. Byddai Ysbryd Crist a'r gogoniant, yr wyf yn sicr, yn gorffwys ar fy enaid.
Am y rhai na ordeiniwyd, nis gallaf ddweyd llawer, ond yn unig gweddio ar i bob un o honynt gymeryd ei le priodol. Pe gallai'r brawd Lewis ddod trosodd i'n cynorthwyo, da fyddai. Mae ar yr Eglwys yma angen mwy o lafurwyr. Dylai rhai fod bob amser yn Swydd Wilts ac yn Kingswood.
Hoffwn hefyd pe gallech gyfarfod yn fisol, os nad oll gyda'ch gilydd, eto ychydig o honoch sy'n byw agosaf at eich gilydd. Yr wyf ar fedr sefydlu cyfarfodydd misol yn Bryste a Llundain, lle y darllenir llythyrau oddiwrth ohebwyr, ac y gweddier. Petae genych gyfarfodydd misol, gallai pob cynghorwr a llafurwr adrodd ei hanes; gellid gyrru crynhodeb o hynny i Lundain, a gyrrem ninnau yn ol i chwithau grynhodeb o'n hamgylchiadau ninnau. Felly hyrwyddid undeb, ychwanegid cariad, a chryfheid ein dwylaw.
Gellir gwneud yr hyn oll heb ymadael yn ffurfiol a'r Eglwys Sefydledig,—yr hyn nid wyf yn tybied fod Duw eto yn galw arnom i wneud; ond os teimla brawd neu chwaer awydd cymuno gyda'r Ymneillduwyr, ac yn teimlo eu hunain yn rhydd i gymuno yn yr Eglwys hefyd, dylid eu gadael at eu rhyddid. . .
Dichon, ar of hyn, y caniata Duw imi ddod atoch chwi, ac y cawn fwynhau cyfeillach felus â'n gilydd. . .
Eich cariadus frawd a gwas,
GEORGE WHITEFIELD.
Gwelir yn y llythyr uchod amryw bethau tra phwysig yn eu perthynas a'r Diwygiad ar y pryd hwnnw, ac yn ei ddad-blygiad dyfodol. Ymhlith yr amlycaf o honynt gellir nodi:—1. Fod sefyllfa pethau yng Nghymru yn gofyn y pwyll a'r doethineb mwyaf.
2. Fod anghydwelediad yn bodoli yn eu plith.
3. Fod hyn yn codi yn rhannol oddiwrth awydd am gael blaenori eu gilydd.
4. Fod Whitefield am ddwyn adref i'w meddyliau y ffaith y gall fod "amryw ddoniau, ond yr un Ysbryd,"—ac y dylai pob un lenwi'r cylch at yr hwn y cymhwysir ef gan ei ddawn.
5. Fod y cwestiwn o gymuno gyda'r Ymneillduwyr ar y naill law, ac yn yr Eglwys ar y llall, eisoes yn cynhyrfu'r frawdoliaeth.
6. Fod cwestiwn safle a pherthynas y lleygwyr â'r gwaith, yn gwasgu am sylw.
7. Fod Whitefield yn ystyried fod cysylltiad hanfodol yn bodoli rhwng y gwaith yn Lloegr a'r gwaith yng Nghymru.
Heb fynd i aros yma uwch ben y cwestiwn, gellir dweyd fod Whitefield, wrth drefnu'r Gymdeithasfa a'r Seiadau ar ol hyn, wedi rhoi y rhan fwyaf o'r awgrymiadau uchod mewn gweithrediad ymarferol.
Mae yn deilwng o sylw cyn myned ym mhellach, fod Whitefield hyd yma, ac yn wir hyd ddiwedd ei oes—wedi glynu yn fwy ffyddlon na neb o'i gyd-lafurwyr wrth ei syniad gwreiddiol o Efengylydd, sef un a fynnai bregethu'r Efengyl i bawb heb wahaniaeth enwad. Yr oedd y syniad o enwadaeth yn wrthun ganddo. Yn yr Ysgotland ceisiodd y Presbyteriaid gyfyngu ei wasanaeth i'w cynulleidfaoedd a'u cyfundrefn hwy; a chan iddo wrthod cael ei gyfyngu felly, ni fynnent mwyach gael ei wasanaeth.[12] Casglwn oddiwrth lythyrau pellach o'i eiddo, fod yr anghydfod enwadol wedi dod i mewn i ymgynghoriadau'r brodyr yng Nghymru.Os dyrry'r Arglwydd ini y gwir ysbryd Catholig, yn rhydd rhag zel sectol, gwnawn yn dda. Blin gennyf ddeall fod cymaint o gulni ymhlith rhai o'r brodyr yng Nghymru."—Llythyr Whitefield at Mr. Oulton, gweinidog y Bedyddwyr yn Llanllieni, Mai 27, 1742. Ddeufis cyn hynny yr oedd Harris yn ysgrifennu at Whitefield i ddweyd fod croesdynnu wedi bod yn y gynhadledd a gynhaliwyd gan arweinwyr y mudiad, ond eu bod wedi ymgymodi a'u gilydd mewn teimladau drylliog iawn.[13] Yr oedd ysbryd y dadleuwr yn gryf yn Harris, ond yn wan yn Whitefield. Lle rhuthrai'r blaenaf yn benboeth i gweryl, lleddfai'r olaf yr ystorm yn ysbryd Tywysog Tangnefedd. Gan ysgrifennu at Howell Harris dywed:—
"Mae yn wir flin gennyf fod y fath ysbryd cul yn cael ei arddangos yng Nghymru. Eithr pa beth a ddywedwn? Cariad y Prynwr yn unig a all uno a chadw'r praidd gyda'u gilydd. Ni wna'r tro i groes-ddadleu â dall-bleidwyr a phobl gul eu hysbryd. O'm rhan fy hun bwriadaf o hyn allan i ddweyd llai wrth, a gweddio mwy dros, y cyfryw bobl."[14]
Dyna'r ysbryd rhagorol yn yr hwn yr edrychai y gwr mawr hwn ar yr ymbleidio a flinai Cymru. Yr ystyriaethau hyn, yn ddiau, a'i cymhellodd i gymeryd rhan mwy amlwg nag erioed yn y gwaith yng Nghymru. Yr oedd yn yr Ysgotland pan gafodd lythyrau pellach o Gymru yn dangos fod pethau yno mewn cyflwr gwir ddrwg. Yr oedd yntau ar y pryd dan bwys o ofidiau personol. Ymhlith pethau eraill, yr oedd yr Ysgotiaid Presbyteraidd wedi dechreu ei erlid. Aethant mor bell a chyhoeddi dydd o ympryd a gweddi o'i achos ef, gan ddweyd mai twyll oedd ei waith, ac mai trwy offerynoliaeth y diafol y'i cyflawnai.[15] Ac eto, ynghanol ei ofidiau ei hun, cafodd hamdden i dalu sylw i anghenion Cymru. Dyma fel yr ysgrifenna at Harris:—
"Mae yr hyn a ddywedwch am Gymru druan wedi'm cyffroi. Gor—weddais ar fy ngwyneb heddyw, ac am beth amser deisyfais gydag ocheneidiau anrhaethadwy, am gyfarwyddyd yn hyn a materion tra phwysig ereill." [15]
Ymhen wythnos wedyn yr oedd yn ol yn Llundain; y cymylau wedi gwasgaru, a gwynepryd Duw yn llewyrchu arno. Yr oedd wedi cael gweledigaeth eglur pa beth oedd raid ei wneuthur yng Nghymru. Yr oedd yr ocheneidiau anrhaethadwy wedi enill gwrandawiad ac atebiad. Dyma yr hyn a ysgrifenna yn awr at Harris:—
"Mae achos Cymru ar fy nghalon. Bwriadaf gyfarfod â'r brodyr i gyd yno gyda'u gilydd. Gan fod y deffroad yn ymddangos fel i raddau wedi myned heibio, a bod cynifer o feini bywiol, mae yn bryd meddwl am eu rhoi ynghyd. Bydded i Adeiladydd mawr yr Eglwys ein harwain a'n cyfarwyddo. Yr ydym yn cael dyddiau hyfryd yma. Mae'r bobl a minnau wedi bod ym maesdrefi'r nef! Bendigedig fyddo Duw. Preswyliaf yn y nefoedd bob dydd."[16]
Nid hir y bu Whitefield yn awr cyn trefnu cynnal y Gymdeithasfa Gyffredinol gyntaf a gynhaliwyd erioed yng Nghymru. Yr oedd rhai o arweinwyr y mudiad wedi arfer cyfarfod a'u gilydd yn achlysurol cyn hyn, er ymgynghori a'u gilydd, ond nid oedd unrhyw ymgais wedi cael ei wneud i'w cysylltu yn gyfundrefnol a'u gilydd. Hyn a amcanai Whitefield yn awr ei wneud.
Yn Watford y cynhaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf hon. Yr oedd yno gapel Anibynnol, yng ngweinidogaeth David Williams, Pwllypant, yn agos i filltir o Gaerffili. Yr oedd y David Williams hwn, fel y cofir, yn un o'r gweinidogion Ymneillduol a wahoddasant Howell Harris i ddod i gynnal cyfarfodydd diwygiadol yn y wlad, ac a drefnasant gyhoeddiadau iddo. Bu am rai blynyddau yn nodedig o ymdrechgar a llwyddiannus, ac yn dal cysylltiad agos a chynnes iawn â Howell Harris.
Gan fod mwy nag amheuaeth wedi cael ei daflu ar y rhan a gymerodd David Williams, Watford, yn y Diwygiad, maddeuir imi am roi yma brawf neu ddau o'r dyddordeb mawr, a'r ymroddiad egniol a ddanghoswyd ganddo yn y gwaith da. Mewn llythyr (Rhif 31 yng Nghasgliad Trefecca) a ysgrifennwyd gan Mr. Thomas, Caerffili, Tachwedd 29, 1738, at Howell Harris, dywed:—
"Bwriadwn drefnu gyda'ch cyfaill, Mr. Thomas, offeiriad Gelligaer, i ddod unwaith bob pythefnos i gapel sydd gennym yma (capel Watford o bosibl), gan hyderu y bydd er ein budd ni y rhai ydym wedi ymuno â'n gilydd i'w groesawu. Maent (y bobl) yn casglu at eu gilydd bob nos i weddio a chanu Salmau, trwy Mr. David Williams, yr hwn nid yw yn ol o gyflawni ei ddyledswydd, ond sydd yn mynd o dŷ i dŷ bob nos.
Rhif 36 yng Nghasgliad Trefecca yw llythyr oddiwrth Dd. Williams ei hun at Howell Harris. Ei ddyddiad yw Pwllypant, Chwefror 7fed, 1739. Dywed:—
"Hyderaf eich bod yn iach, a bod gwaith yr Arglwydd yn llwyddo yn eich llaw.
Mae'r drws yn ardal Gwernydomen eto'n agored, ac yn debyg o barhau felly; mae galwadau newydd arnaf bob wythnos. Mae'r bobl yn tyrru i glywed yr hyn y gwêl Duw yn dda ei wneuthur. Mae gennym yn awr dair Seiad yn mynd ymlaen heb fod ymhell o Gaerdydd. Mae'r Seiad yng Nghaerdydd[17] yn danfon ei serch i chwi, ac yn eich anrhegu â dwy gyfrol Woodard. Nid yw Mr. Whitefield yn dod i Bryste adeg y ffair. Derbyniasom naw o aelodau er pan fuoch yma, ac mae cynifer eto yn gofyn am eu lle. Bum yn Gelligaer yn annerch cynulleidfa fawr neithiwr. Gelwais gyda Mr. Thomas (yr offeiriad), ond nid oedd yn y ty. Bum yn ymweled â Seiad Llanhiddel, lle y canfyddais lawer o ysbryd y ddeddf. Hyderaf fod gan Dduw lawer o waith i chwi i'w gyflawni yn y wlad hon, ac yn enwedig yn Sir Fynwy. Mae galwadau amdanoch, un o Gasnewydd a'r llall o Gaerlleon. Myfi yw eu cennad hwy atoch. Nid wyf ond newydd gyrraedd adref, a rhaid imi fynd allan eto yn fuan, a chan fod rhaid imi ysgrifennu eto at y Parch. Griffith Jones, nid oes gennyf ond amser i roi i chwi yr ychydig awgrymiadau hyn. Mae'r Seiadau yn cyfarfod yn ein ty ni bob dydd Gwener. Bydded ini oll ymdrechu drosom ein hunain, a thros ein gilydd, a thros holl Israel Duw. Cefais lythyr oddiwrth Mr. Griffith Jones, yn rhoi awdurdod i sefydlu amryw ysgolion o dan ei reolau ef. Mae gan Mr. Thomas (offeiriad Gelligaer) gynulleidfa fawr yng Nghaerffili, ac yn cael ei gymeradwyo yn fawr. Bydded i Dduw eich llwyddo chwithau, a chofiwch fi yn eich gweddiau."
Oddiwrth y llythyrau uchod mae amryw bethau'n amlwg, ac yn eu plith—
1. Fod David Williams yn cymeryd rhan flaenllaw yn y mudiad diwygiadol.
2. Ei fod ar y telerau goreu a mwyaf cyfeillgar â Howell Harris.
3. Ei fod yn trefnu ac yn chwilio am gyhoeddiadau i Howell Harris.
4. Ei fod ei hun yn cynnal ac yn arolygu Seiadau.
5. Ei fod yn cydweithio'n selog a chyfeillgar âg Offeiriaid Efengylaidd.
6. Ei fod yn gwybod am symudiadau a threfniadau Whitefield.
7. Fod bwriad i gael Whitefield i Gymru cyn iddo ddod i Bryste.
Dyna'r gweinidog Ymneillduol yng nghapel yr hwn y cynhaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf, a'r lle a wnaed o'r pryd hwnnw allan, am gryn amser, yn bencadlys y mudiad cyfundrefnol i hyrwyddo'r Diwygiad.[18] Mantais arbennig i hyn oedd agosrwydd ty plas y Watford, preswylfod Mr. Thomas Price—"Price yr Ustus," fel y geilw Williams, Pantycelyn, ef. Amaethwr a phorthmon cyfrifol a chefnog oedd Thomas Price, aelod a swyddog yn Eglwys Anibynnol Watford. Chwareua ef, a'i deulu, a'i gartref, a'i gyfoeth, ran tra phwysig yn hanes y Diwygiad yng Nghymru. Yr oedd ei dŷ bob amser yn agored fel llety fforddolion i weision yr Arglwydd a'r un croesaw cynnes Cymreig yn cael ei estyn i George Whitefield, Howell Harris, John Wesley, Daniel Rowlands, Edmund Jones, Williams, Pantycelyn, ac eraill o bob llwyth, ac iaith, ac enwad, a gymerent ran yn y gwaith mawr.
Yma, ynte, y cyfarfyddai aelodau'r Gymdeithasfa i fwynhau lletygarwch Thomas Price, a'i ferch ynghyfraith, Grace Price, ar ol gorffen yr oedfaon a'r cynadleddau yn y Capel.
Yng Nghapel y Watford, ynte, y cyfarfyddodd y Gymdeithasfa gyntaf, ac ym mhlasdy Watford y cafodd y cenhadon luniaeth a llety. Saith o bersonau yn unig oedd yn bresennol yn y Gymdeithasfa honno—yr un rhifedi ag a gyfarfyddodd John Wesley yn Llundain, at yr un pwrpas, bedair blynedd cyn hynny. Wele enwau'r saith:—George Whitefield, Daniel Rowlands, John Powell (ciwrad Aberystruth), William Williams, Pantycelyn, Howell Harris, John Cennick, a Joseph Humphreys. Os dadansoddwn y rhestr, cawn y ffeithiau dyddorol canlynol am gyfansoddiad y Gymdeithasfa "Fethodistaidd " gyntaf hon:—
1. Yr oedd tri Sais a phedwar Cymro ynddi.
2. Yr oedd pedwar offeiriad a thri lleygwr ynddi.
3. Yr oedd y tri lleygwr hyn wedi ffurfio cylchoedd diwygiadol iddynt eu hunain.
4. Yr oedd un (Cennick) yn fab i Grynwr—trodd wedyn at y Morafiaid.
5. Yr oedd un arall (Humphreys) yn fab i weinidog Anibynnol.
6. Yr oedd un arall (Williams, Pantycelyn) yn fab i ddiacon gyda'r Anibynwyr.
7. Yr oedd pedwar o'r saith yn swyddogion cydnabyddedig o gyfundrefnaeth y Tabernacl yn Llundain, ac un arall yn gwasanaethu yn achlysurol o dan yr un gyfundraeth.
Heb fynd i fanylu llawer ar y gweithrediadau, digon yw dweyd ar hyn o bryd fod Whitefield wedi cael ei ethol yn Llywydd am y tro, a bod y gynhadledd wedi mabwysiadu y rhan. fwyaf o awgrymiadau Whitefield yn ei lythyr at y frawdoliaeth (gwel tudal 260). Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd misol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Yn un o'r cyfryw a gynhaliwyd yn Glanrafon ddu, Sir Gaerfyrddin, Dydd Gwyl Dewi, penderfynnwyd cymeradwyo i'r Gymdeithasfa y pethau canlynol:—
1. Fod Cymdeithasfa Gyffredinol o weinidogion a chynghorwyr Lloegr a Chymru i gyfarfod bob hanner blwyddyn.
2. Fod y brodyr Seisnig i gyfarfod unwaith ar wahan, a'r brodyr Cymreig unwaith ar wahan, rhwng pob Cymdeithasfa Gyffredinol.
3. Fod y ddwy adran i ohebu yn gyson a'u gilydd.
Golygai hyn o angenrheidrwydd undeb peiriannol (organic union) rhwng "Methodistiaeth" Cymru ac eiddo Lloegr. O'r dydd hwnnw allan cawn y Diwygwyr Cymreig yn danfon eu hadroddiadau yn gyson i Whitefield. Un o'r rhai cyntaf, os nad y cyntaf oll i wneud hynny oedd Daniel Rowlands.. Ymhen wythnos wedyn, gwnai Howell Harris yr un peth. Dilynwyd eu hesiampl gan eraill. Ar ran y Seiadau gwledig, yn arbennig rhai Sir Aberteifi, deisyfir ar Whitefield i gyd-ddioddef a'u gwendidau. Medd yr adroddiad:
"Maent yn wasgaredig ar hyd a lled y wlad, a chan eu bod yn wir dlodion, nis gallant ddod i fyny â'r drefn a'r cynllun manwl sydd gennych chwi yn Llundain. Gwelir yn feunyddiol fod yr hyn sydd yn iawn ac yn adeiladol mewn unlle, a chyda rhai pobl, yn anymarferol ymhlith eraill. Gadawn i'r Brawd Rowlands drefnu ac uno y bobl mewn dosbarthiadau (bands) cyfrinachiol, a chanfyddir effeithiau daionus hynny. Mae wedi darparu rhai eneidiau godidog i'w cynghori a'u bugeilio."
A'r un adroddiad ymlaen i ddweyd fod wyth o siroedd Cymru yn agored i Whitefield, ac yn sychedu am ei glywed, ac y byddai "llawer o Eglwysi, heblaw'r Capeli," yn agored iddo. A'i ddisgwyliadau wedi cael eu codi yn uchel gan y rhagolygon hyn, a'i galon a'i holl natur ar dân gan zel at y gwaith, daeth Whitefield i lawr i Gymru i gynnal yr ail Gymdeithasfa Chwarterol. Dyma hanes un diwrnod o waith ar y ffordd yno:
I'r gwely un o'r gloch y boreu, Codi am bump. Marchogaeth i'r cyfarfod erbyn saith. Pregethu. Cynorthwyo i weinyddu'r cymun. Marchogaeth i Stroud. Pregethu yno i gynulleidfa o 12000. Am 6 yn yr hwyr pregethu mewn lle arall i gynulleidfa gyffelyb. Yna i gariad-wledd y Seiadau. I'r gwely ganol nos.
Cyrhaeddodd Watford, Mawrth y Pasg, 1743, lle y croesawid ef gan deulu Price, a chan y brodyr oedd eisoes wedi ymgynnull i'w gyfarfod. Ganol dydd trannoeth pregethodd bregeth agoriadol y Gymdeithasfa. Yna trowyd eu sylw at waith y Gymdeithasfa. Parhaodd yr eisteddiad cyntaf hyd saith o'r gloch yr hwyr; dechreuwyd yr ail eisteddiad am ddeg o'r gloch y nos, a pharhawyd hyd ddau o'r gloch y boreu. Trannoeth cafwyd eisteddiad arall, yn para hyd bedwar o'r gloch prydnawn. Ar ol cael pryd o fwyd, traddododd Whitefield bregeth; ac yna ail ymaflwyd yn y gwaith o drefnu, a pharhawyd wrtho tan ganol nos. Yn y cyfarfodydd hyn gorffennwyd holl waith angenrheidiol y trefnu, ar y llinellau a nodwyd eisoes yn llythyr Whitefield.
Penodwyd Whitefield yn Llywydd Parhaol y Cymdeithasfa "bob amser tra byddwyf yn Lloegr," eb efe yn ei lythyr at ei gyfaill John Syms. Yr oedd Howell Harris i fod yn ddirprwy-lywydd, i gymeryd lle Whitefield pan nas gallai ef fod yn bresenol. I wneud y cysylltiad â Lloegr yn amlycach, trefnwyd fod Harris i fod at alwad Whitefield i fynd i Loegr i'w gynorthwyo pan fyddai angen; fod Herbert Jenkins i fod yn gynorthwywr i Howell Harris, "ac hefyd i'r brodyr Seisnig." Yr oedd Thomas Lewis (brawd argraffydd y Weekly History) hefyd i gynorthwyo'r brodyr Seisnig pan elwid arno. Penderfynwyd ymhellach "Fod yr arolygwyr i ddanfon adroddiad am waith Duw yn eu meusydd neillduol, i Lundain, i fod yno ddiwedd pob mis, ac i gyfeirio eu llythyrau at weinidog y Tabernacl (Whitefield) i ofal Mr. John Syms." Wedi myned drwy'r gwaith angenrheidiol yma, trodd Whitefield at waith oedd yn cydfynd yn well â'i anianawd, sef teithio'r wlad fel Efengylydd. Aeth o Watford drwy Forgannwg, Caerfyrddin, a Phenfro, gan gael derbyniad tywysogaidd pa le bynnag yr elai. Yng Nghaerfyrddin, wrth fynd, yr oedd y Frawdlys yn eistedd; a chan ofni colli'r cyfle i'w glywed, gyrrodd yr Ustusiaid gais ato i aros tan y rhyddheid hwynt, fel y medrent ddod i'w wrando. Wrth groesi'r culfor o Lanstephan i Ferryside, ar ei ffordd yn ol, pasiodd long arfog, swyddogion yr hon, pan adwaenasant ef, a orchymynasant danio cyfarch (salute) iddo,—fel pe bae yn Llysgenad gwlad arall, neu'n aelod o'r teulu brenhinol. Wrth gymharu ei lythyrau yn rhoi hanes y daith hon, cawn ei bod rywbeth fel a ganlyn:—
Mawrth, Ebrill 5ed, 1743, Bryste a Watford; Mercher, y 6ed, Cymdeithasfa Watford; Iau, y 7fed, eto; Gwener, yr 8fed,; Sadwrn, y 9fed, Caerdydd, Aberbedw, a Fonmon; Sul, y 10fed, Penmarc, Fonmon, a Llantrisant; Llun, yr 11fed, Margam, a Chastellnedd; Mawrth, y 12fed, Abertawe, Harbrook, Abertawe a Llanelli; Mercher, y 13fed, Llanelli (2), ac Abergwili; Iau, y 14fed, Caerfyrddin (2); Gwener, y 15fed, Narberth; Sadwrn, yr 16fed, Norton, a Jefferston; Sul, y 17fed, Llysyfran, a Hwlffordd; Llun, y 18fed,; Mawrth, y 19fed, Hwlffordd, a Narberth; Mercher, yr 20fed, Larn, a Cydweli; Iau, yr 21fed, Caerfyrddin, i 10,000 o bobl, Rowlands yn ei ddilyn; Gwener, yr 22fed, Cymdeithasfa Caer—fyrddin; Sadwrn, y 23fed, Rhuadr(?), Llangathen, a Llanymddyfri; Sul, y 24fed, Llanymddyfri, ac Aberhonddu; Llun, y 25fed, Trefecca, a Grwynefechan; Mawrth, y 26fed, Gelli, Llanfairmuallt, a Gore; Mercher, y 27fed, Leominster, a Hereford; Iau, y 28fed, Ross; Gwener, y 29fed, Gloucester.
Pregethai ymhob lle, weithiau ddwywaith yn yr un lle. Ar y daith yma teithiodd dros tua 400 o filldiroedd, treuliodd tri diwrnod mewn dwy gymdeithasfa, pregethodd 40 gwaith. ymwelodd â tua 13 o drefydd, a theithiodd drwy saith sir.
Erbyn hyn yr oedd Whitefield wedi ffurfio cysylltiadau eraill, oedd yn ei rwymo yn agosach fyth wrth Gymru. Yr oedd wedi priodi boneddiges o'r enw Elizabeth James, a breswyliai yn Abergafenni. Carwr rhyfedd ydoedd. Mrs. Edwards, gwraig yr enwog Jonathan Edwards, a'i cymhellodd gyntaf i briodi.
"Gweddiais lawer ar Dduw," eb efe yn ei ddyddiadur,[19] "ar iddo ddanfon imi ferch i Abraham yn wraig imi . . . Arglwydd, nid wyf yn dymuno fy newisiad fy hun. Ti a wyddost fy amgylchiadau, ac mae ynot ac errot Ti y dymunaf briodi. Dewisaist Rebecca i Isaac. Dewis ymgeledd gymhwys i minnau, i'm cynorthwyo i gario ymlaen y gwaith mawr a ymddiriedaist imi."
Atebwyd ei weddi. Ymhen blwyddyn yr oedd wedi priodi. Profodd hi yn bopeth a ddeisyfodd. Marchogodd ef dri chan milltir er mwyn cyfarfod â'i wraig—ac ymhen wythnos ar ol priodi, gadawodd hi i fynd at ei hoff waith o efengylu. O'r Watford, cartref y Cymro cynnes galon Thomas Price, y "cododd allan" i'w briodi yn Eglwys y Plwyf, Eglwysilan. Ni cheir ond y cyfeiriad byrraf ac anamlaf yn ei ysgrifeniadau at y digwyddiad; dim am y garwriaeth; prin hanner dwsin o eiriau am y briodas ei hun. "Gwahoddwyd Crist i'n priodas," meddai, "a daeth yno." Ychydig iawn a ddywed am ei wraig. Yn hyn oll mae'n wahanol iawn i Howell Harris, yr hwn a ddyry i ni holl hanes ei garwriaeth yn fanwl. Dichon mai am ei fod yn son cyn lleied am dani, mae'r argraff wedi mynd ar led fod y briodas wedi troi allan yn un anhapus.[20] Eithr nid yn unig ni cheir dim profion i gadarnhau hyn, ond i'r gwrthwyneb cawn liaws o brofion ei bod hi wedi bod yn ymgeledd gymhwys iddo. Bodolai cydgordiad perffaith rhyngddynt cyn ac ar ol priodi ar gwestiwn pwysig gwaith mawr bywyd Whitefield. Ffafrai hi ei genhadaeth cyn priodi; cynorthwyai ef yn ei genhadaeth ar ol priodi. Aeth gydag ef i'r America. Ar y ffordd yno, bygythid hwynt gan long arfog, ac aeth Mrs. Whitefield at y gwaith o doddi plwm a'i wneud yn fwledi.[21] Wedi cyrraedd America, teithiodd 400 milltir gyda'i phriod drwy goedwigoedd ac anialwch er mwyn gweini arno. Pryderai bob amser yn ei gylch rhag iddo orweithio ei hun. Mae'r llythyrau a ysgrifenodd hi o'r America at ei chyfeillion yng Nghymru, yn rhai nodedig o dyner, ac yn arddangos calon y wraig bryderus ac ysbryd dyrchafedig y Cristion ffyddlon. Dywed cylchgronau'r cyfnod [22] ei bod yn ddynes gyfoethog iawn, gyda ffortiwn o £10,000. Ond dywed Whitefield ei hun yn ei lythyrau, nad oedd hi nac yn hardd o ran ei gwynepryd, nac yn gyfoethog mewn eiddo bydol. Gan nad beth am hynny, bu yn ymgeledd gymhwys iddo. Mor awyddus ydoedd hi i fod gydag ef, fel y gorfu ei chloi yn ei hystafell pan newydd roi genedigaeth i'w baban cyntafanedig, rhag rhuthro ohoni allan ar ei ol i'r capel. Bedyddiodd Whitefield y plentyn ei hun yn y Tabernacl, yngwydd cynulleidfa o filoedd—ac ergyd trwm i galon a gobeithion y tad a'r fam oedd marwolaeth buan y bychan. Cafodd Whitefield ras mwy nag eiddo Aaron. Nid tewi a wnaeth, eithr, eb efe:—
"Galwais bawb i mewn i uno â mi mewn gweddi, yn yr hwn y bendithiais Dad y trugareddau am roddi mab i mi, am ganiatau i mi ei gadw cyhyd, ac am ei gymeryd oddiwrthyf mor fuan. Cymhellodd pawb fi i roi heibio pregethu tan ar ol claddu'r plentyn. Ond cofiais eiriau Matthew Henry, na raid i wylo rwystro hau. Felly pregethais ddwy waith drannoeth, a'r dydd canlynol, a phan oeddwn yn gorffen pregethu, dyma gnul cyntaf y gloch yn swnio yn angladd fy mhlentyn. Gan edrych i fyny, cefais nerth i ddyweyd fod fy nhestyn, Mae popeth yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw,' yn fy ngwneud mor foddlon i fynd allan i'w gladdu, ag oeddwn i glywed am ei enedigaeth."[23]
Dyna engraifft o ymostyngiad Cristionogol na welir ond yn anaml iawn ei gyffelyb. Danghosodd Whitefield yr un ysbryd ynglŷn â'r gwaith yng Nghymru. Pan briododd, methodd aros wythnos gyfan gyda'i wraig heb fynd allan i bregethu; pan fu farw ei blentyn, methodd aros am ddiwrnod heb fynd ymlaen â'i waith fel efengylydd; eithr pan gymerodd Y Gymdeithasfa yng Nghymru i'w ofal, arhosodd flwyddyn gyfan yn y wlad hon, er ei fod wedi arfaethu mynd i America. Aeth yno yn 1744, a phan ddychwelodd cafodd fod pethau yn ei absenoldeb wedi syrthio i gryn anrhefn. Nid cynt y llwyddodd i osod pethau yn eu lle yn Llundain, nag y brysiodd i lawr i Gymru i Gymdeithasfa Watford, yn haf 1748. Daeth yma drachefn y flwyddyn ganlynol, pan gafodd Edmund Jones mewn angen. Yr oedd "Yr Hen Broffwyd" wedi gorfod gwerthu ei lyfrau, er mwyn talu rhan o ddyled ei gapel.2[24] Llwyddodd Whitefield gael gan ychydig gyfeillion yn Llundain. i estyn llaw o gymorth i'r hen was da a ffyddlon hwn yn ei gyfyngder.
Erbyn hyn yr oedd gwres cyntaf y Diwygiad wedi oeri, a theimladau anymunol wedi dod i mewn. Ond treuliodd Whitefield fis yng Nghymru tebyg i'r un a dreuliodd yma chwe mlynedd cyn hynny. Teithiodd y wlad, gan ail gynneu'r tân drwy holl siroedd y deheudir. O fewn y mis hwnnw teithiodd 800 milltir, a phregethodd i dros 100,000 o bobl wahanol, gan ymweled âg wyth o siroedd Cymru.[25] Am y rhan a gymerodd ym mudiad Iarlles Huntingdon, a'i Choleg yn Nhrefecca, ymdrinir eto. Ar ol hyn ni chafodd ymweliad nerthol yng Nghymru tan y flwyddyn 1766. Y flwyddyn honno a'r ganlynol, cynheuwyd y tân drachefn yn y Dywysogaeth; a Whitefield a Howell Davies oedd y prif gyfryngau. "Mae fel yr hen amser gynt wedi dod nol!" ebe Whitefield. Gwisgodd y daith hon lawer o wedd ymweliad ymadawol. Fflach olaf y gannwyll cyn mynd allan, ydoedd yr ymdrech hwn i Howell Davies a George Whitefield. Yn un o'r pregethau olaf a draddododd Whitefield, yn Haverfordwest, anogodd y bobl i "fynd i unrhyw le o addoliad lle y pregethir Crist, a Christ yn unig." Ymhen ychydig gyda dwy flynedd ar ol hyn, bu farw'r ddau, Howell Davies a George Whitefield, y Cymro a'r Sais ymroddgar, ac wrth bob un o'r ddau dywedodd eu Harglwydd, "Da was da a ffyddlon—dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd!"
Nodiadau
[golygu]- ↑ 1.0 1.1 Dyddlyfr Howell Harris.
- ↑ Casgliad Trefecca, Llythyr 48, Meh. 23, 1739, &c
- ↑ Eto, Llythyr 36, Chwef. 7, 1739
- ↑ Eto, Llythyr 21, Meh. 23, 1738
- ↑ Eto, Llythyr 25, &c.
- ↑ Eto, Llythyr 24, Awst 10, 1738
- ↑ Edmund Jones, Pontypool.
- ↑ Lewis Rees, Llanbrynmair.
- ↑ Ceir hanes dyddorol anghyffredin am yr holl daith hon yn y Gloucester Journal, Ebrill 24, 1739.
- ↑ Llythyr Howell Harris, Hydref 27, 1740.
- ↑ Gwel Llythyr Whitefield at Harris, Meh. 6, 1741.
- ↑ Llythyr Whitefield o Edinburgh, Awst 13, 1741, ac eraill o'i lythyrau.
- ↑ Llythyr Howell Harris o Lanwrtyd, Mawrth 24, 1742
- ↑ Llythyr Whitefield at Harris, Mai 29, 1742
- ↑ 15.0 15.1 Llythyr Whitefield at Harris, Camburslang, Awst 26, 1742.
- ↑ Llythyr Whitefield at Harris o Hoxton, Medi 3, 1742
- ↑ Yr oedd Caerdydd yn rhan o gylch gweinidogaeth Dd. Williams, ac yntau yn fugail ar yr eglwys yno yn ogystal ag un Watford. Dyma'r Seiad yr ymwelodd Whitefield gyntaf â hi o holl Seiadau Cymru. Gwel tudal. 245.
- ↑ Dichon y maddeuir i mi yma am adgoffa'r darllenydd, mai o Eglwys Anibynnol Watford y ffurfiwyd Eglwys Anibynnol y Groeswen. Gwn fod hanesydd Methodistaidd yn hawlio'r Groeswen fel Eglwys a Chapel Methodistaidd, ond gan fod yr un awdwr yn hawlio Eglwys a Chapel Watford hefyd, fel eiddo Methodistaidd, prin mae eisieu dweyd dim pellach ar y mater.—B. G. E.
- ↑ Whitefield's Journals, Northampton, Oct. 19, 1740.
- ↑ Southey's Life of Wesley: Memoirs of Rev. C. Winter, by Jay, p. 80.
- ↑ Whitefield's Works, vol. ii. p. 68.
- ↑ The Gentleman's Magazine, 1741, tudal. 608.
- ↑ Llythyr Whitefield, Gloucester, Chwef. 9, 1744.
- ↑ Llythyr Whitefield, Abergafenni, Mai, 1749.
- ↑ Llythyr Whitefield, Bristol, Meh. 24, 1749.