Diwygwyr Cymru/Y cyfddydd yng Nghymru
| ← Toriad gwawr yng Nghymru | Diwygwyr Cymru gan Beriah Gwynfe Evans |
Gwladgarwch a chrefydd → |
PENNOD VIII.
Y CYFDDYDD YNG NGHYMRU.
Yn y gwledydd sy'n agos i'r cyhydedd, nid oes na chyfddydd na chyfnos. Pan dyrr y wawr, llama'r haul i'r entrych uwch y gorwel a goleuir yr holl wlad megys ar darawiad; pan fachluda yn yr hwyr, disgynna tywyllwch sydyn ar y byd. Nid felly yn ein gwlad ni. Ceir goleu tyner y cyfddydd, ar ol toriad gwawr, yn lledu yn raddol ac esmwyth dros bennau'r mynyddoedd a'r ucheldiroedd, gan adael y dyffrynnoedd yng nghysgodion tywyllwch, nes daw brenin y dydd uwch ysgwyddau'r mynydd-dir i alw'r byd at ei waith. Ac fel y mae mewn ystyr naturiol yn ein gwlad, felly hefyd y bu yma gyda thoriad gwawr Ymneillduaeth. Aeth blynyddoedd lawer heibio wedi i'r wawr dorri yn Llanfaches, cyn y gellid dweyd ei bod yn ddydd ar Gymru. Fel y cofir, aeth agos i hanner canrif heibio wedi merthyrdod John Penry, cyn sefydlu'r Eglwys Ymneillduol gyntaf yn y wlad a garai. Aeth hanner canrif arall heibio[1] wedi sefydlu'r achos yn Llanfaches cyn i Haul y Cyfiawnder daflu ei belydrau llachar i oleuo cydwybodau a chynhesu calonnau preswylwyr dyffryndiroedd moesol Cymru.
Nid wyf yn dweyd na ledodd y goleuni, ac na sefydlwyd Eglwysi Ymneillduol eraill yn fuan ar ol Llanfaches. Gwn i'r Bedyddwyr sefydlu eglwysi yn yr Olchon[2] ar gyffiniau swyddi Henffordd a Brycheiniog, ac yn Ilston yn ymyl Abertawe, yn fuan iawn ar ol hyn; gwn hefyd na fu'r Anibynwyr yn hir cyn sefydlu achosion yn Penmain, Caerdydd, Abertawe, Merthyr, a lleoedd eraill. Ca y rhai hyn sylw yn y man. Ond yr hyn wyf am ddangos ar hyn o bryd yw, mai goleuni'r cyfddydd, yn coroni pennau'r mynyddoedd â harddwch ydoedd, ac nid llawn oleuni'r haul yn golchi ac yn puro dyfnderoedd y dyffryndir. Daeth yr adeg i hynny hefyd gael ei wneud—ac yr oedd yr adeg honno lawn hanner canrif yn gynharach nag a fyn rhai haneswyr ini gredu.[3]
Fel y sylwyd o'r blaen pan yn ymdrin â chyfnod boreuach na hwn, cyd-deithiai arwyr rhyddid crefyddol a rhyddid gwladol ochr yn ochr. Danghoswyd, hefyd, yn y bennod ddiweddaf, pa fodd y mynnodd Iago annoeth gylymu buddiannau yr esgob wrth eiddo'r brenin, ac awdurdod yr Eglwys wrth orchymyn y Wladwriaeth. Bu farw Iago yn 1625, a'i fab Siarl I. a deyrnasodd yn ei le. Bedair blynedd wedyn, a deng mlynedd cyn sefydlu Eglwys Llanfaches, cododd gwr ieuanc i fyny i siarad am y tro cyntaf yn Nhy'r Cyffredin— a hwn oedd y gwr a ddeffrodd "Gydwybod Ymneillduol" y deyrnas yn effeithiol mewn perthynas â gwladweiniaeth yn. ogystal a chrefydd. Oliver Cromwell oedd ei enw. Trwyddo ef, a rhai o gyffelyb ysbryd a gydweithient ag ef, y darostyngwyd balchder y brenin, y llyfetheiriwyd trahausder yr Eglwys, yr amlygwyd nerth yr egwyddor Buritanaidd, ac y mynnwyd am y tro cyntaf erioed eu hawliau i'r werin yn wladol a chrefyddol. Ymdrinir â hyn ymhellach yn y bennod nesaf.
Yn fuan wedi sefydlu yr eglwys yn Llanfaches, torrodd y Rhyfel Cartrefol allan, y rhyfel a wnaeth i Siarl anffodus golli ei ben yn ogystal a'i goron; ac a wnaeth Cromwell yn frenin anghoronedig Lloegr. Dywedaf "Lloegr" yn hytrach na "Lloegr a Chymru," am y rheswm syml na fu Cromwell erioed yn gyffelyb allu yng Nghymru ag a fu yn Lloegr. Yn y rhyfel ofnadwy hwnnw, ymrestrodd yr Eglwyswyr swyddogol hanner Pabyddol, o blaid y brenin; a'r Puritaniaid a'r Ymneillduwyr, o blaid y Senedd. Brenhinwyr y gelwid y naill, a Phengryniaid y llall, o'r ddwy blaid o hynny allan am o leiaf genhedlaeth gyfan. Ac o bob rhan o'r deyrnas, nid oedd un lle y ceid cynifer o Frenhinwyr yn ol rhif y boblogaeth, ag a geid yng Nghymru. O Gonwy i Gaerdydd, o Aberystwyth i Raglan, o Hwlffordd i Gaer, anrhydeddid baner Siarl, a melldithid luman Cromwell. Nid, cofier, na cheid, hyd yn oed yng Nghymru, rai cefnogwyr i Cromwell, ond eithriadau i'r rheol gyffredin oeddent; a chymeryd y wlad drwyddi draw, teyrngarol i'r brenin, ac mewn canlyniad i'r Eglwys hefyd, ydoedd Cymru. Nid oedd Ymneillduaeth, nac egwyddorion rhyddid gwladol na chrefyddol, hyd yn hyn, wedi cymeryd gafael ar galon y genedl.
Yr oedd mawrion a gwerin Cymru, gydag ychydig eithriadau, yn Frenhinwyr. Ni fynnai na'r pendefigion gwladol na'r urddasolion eglwysig, ddim ar a wnelent â Phuritaniaeth, nac yn ei hegwyddorion gwleidyddol nac yn ei daliadau crefyddol. Un o Eglwyswyr enwog y cyfnod oedd yr Esgob Williams, o Gonwy, wedi hynny Archesgob Efrog. Efe oedd noddwr Laud; trwy nawdd y Cymro hwn y cafodd yr Archesgob erlidgar dyfodol ei draed gyntaf ar ffon dyrchafiad Eglwysig; —a thalodd Laud y pwyth iddo, pan gafodd yr awdurdod i'w law ei hun, drwy ei erlid a'i garcharu. Eithr nid oedd Williams heb gyfeillion, ac nid hir y bu cyn dod yn rhydd, a sicrhau ffafr a dyrchafiad ar waethaf y cyfaill oedd wedi troi yn elyn iddo. Ond er nad oedd Williams mwyach yn cefnogi Laud yn bersonol, cariai allan mor ffyddlon a chynt yr egwyddorion a ddysgai Laud. Ac uwchlaw'r cwbl gosodai deyrngarwch i'r brenin. Gwyddai Siarl hyny yn dda, a gosodai bob ymddiried yn ffyddlondeb y Cymro. Saif Castell Conwy heddyw'n dyst i'r hyn a wnaeth ac a ddioddefodd yr Archesgob Williams, dros y brenin a'i blaid. Cefnogwyr blaenllaw i'r un blaid oedd y rhai a ddalient y pedair Esgobaeth Gymreig, Dr. John Owen, Llanelwy; Dr. William Roberts, Bangor; Dr. Morgan Owen, Llandaf;[4] Dr. Francis Davies, Llandaf; a'r Dr. William Thomas, Bangor. Pe caffai Cymro ddyrchafiad Eglwysig mewn gwlad arall, tueddai ei addysg foreuol yntau i fod yn Frenhinwr. Rhai felly oedd yr Archesgob Williams, a nodwyd uchod, a'r Dr. Gruffydd Williams, Esgob Ossory yn y Werddon. A'r hyn oedd yn wir am yr Eglwys oedd yn wir hefyd am y bendefigaeth yng Nghymru. Gydag ychydig eithriadau Brenhinwyr oeddent i gyd—ac fel Brenhinwyr yr oes honno yr oeddent yn isel eu moesau, gelynol i bob dim a sawrai o rinwedd, moesoldeb, a chrefydd. Yr oedd Beirdd Cymru'r dyddiau hynny yn benboethiaid o blaid y Brenin, a'r Llys, a'r Eglwys, ac yn chwerw yn erbyn Pengryniaeth neu Buritaniaeth[5]—a gellir ystyried beirdd gwlad yn debyg o adlewyrchu rhediad cyffredin syniadau'r werin. Os mynnir cael tystiolaeth am y dylanwad a gaffai y syniadau. hyn ar bob gradd o gymdeithas yn y wlad, y pendefigion a'r werin, y clerigwyr a'r barnwyr, y crefftwyr a'r merched a phawb, nid oes angen ond troi dalennau "Llyfr y Ficer," neu Ganwyll y Cymry yr enwog Ficer Prichard o Lanymddyfri."
Dyma engrheifftiau o'r hyn a ddywed am wahanol ddosbarthiadau:
"Mae'r Penaethiaid bob yr un
Yn ceisio'u mawl a'u lles eu hun,
Ac heb ymgais am wir grefydd,
Moliant Duw, na lles y gwledydd
Mae dy Ffeiriaid hwynta'n cysgu
Ac yn gado'r bobol bechu,
Ac i fyw y modd y mynnon,
Heb na cherydd na chynghorion.
Mae dy Farnwyr, a'th wyr mawrion,
Yn cyd-ddwyn a mwrddwyr, meddwon,
Ac yn godde treiswyr diriaid,
Speilio'r gweddwon a'r amddifaid.
Mae'r fath fedd'dod, mae'r fath dyngu,
Mae'r fath gamwedd ynnot Gymru,
A'r fath wan-gred a gau dduwiaeth,
Na bu 'nghred ei sut ysywaeth."
Dro ar ol tro ceir ef yn beio'r offeiriaid am esgeuluso eu dyledswyddau:
"Oh! pa lef ac achwyn irad,
A fydd dydd y farn gan fagad,
Am i'r ffeirad eu newynu,
A'u handwyo eisie eu dysgu,
A pha gonsciens y gall ffeirad,
Gippio'r cryf heb borthio'r ddafad,
Bwyta'r offrwm mor ddiwybod,
Ac heb weiddi'n erbyn pechod !"
A symia'r oll i fyny mewn un pennill fel hyn:
"Mae'r ffeirad, mae'r ffermwr, mae'r hwsmon a'r crefftwr,
Mae'r Beyli a'r Barnwr, a'r bonedd o'r bron,
Bob un am y cynta, yn digio'r Gorucha,
Heb wybod p'un waetha eu harferion."
Dengys i ni fod ofergoeliaeth isel yn meddiannu'r wlad:
"Pan ddel Dewin neu ryw swynwr,
Oh! ni a redwn at y twyllwr,
Fel y gwenyn at y gwinwydd,
I roi clust i dad y celwydd.
Tynnu'r plentyn trwy'r pren crwca,
Neu trwy fflam ar nos glangeua,
A'u rhoi 'mhin y felin uchel,
Yw offrymu plant i gythrel.
A rhag y tybia neb fod hyn yn ddarlun cywir o Loegr hefyd yr amser hwnnw, mae'r Ficer yn rhoi'r ddwy wlad ochr yn ochr mewn un darlun, fel hyn:
"Mae'r cobleriaid a'i morwynion,
A'r rhai gwaetha 'mysg y Saeson,
Bob yr un a'r Beibl ganthynt,
Ddydd a nos yn darllain ynthynt,
Mae'r penaethiaid gyda ninau,
A'i tableri ar ei bordau,
Heb un Beibl, nac un plygain,
Yn eu tai, na neb i'w darllain.
Pob merch tincer, gyda'r Saeson,
Feidr ddarllain llyfrau mawrion:
Ni wyr merched llawer Scweier
Gyda ninne ddarllain pader!"
[6]
Yr oedd cyflwr Cymru yn llawer mwy gresynnus y pryd hwn nag eiddo Lloegr. Cadarnheir hyn gan Walter Cradoc, yn y bregeth a draddododd o flaen y Senedd Gorffenaf 21, 1646. Yn honno dywed[7] nad oedd y pryd hwnnw, ymhen saith mlynedd wedi sefydlu Eglwys Llanfaches, gynifer a thri-ar- ddeg o weinidogion (neu glerigwyr) yn nhair-sir-ar-ddeg Cymru, yn ddigon cydwybodol i bregethu ddwywaith ar y Sul. Ategir Cradoc drachefn gan ei gyfaill enwog Vavasor Powel, yr hwn yn ysgrifennu yn yr un flwyddyn a ddywed,[8] nad oedd cynifer ag un pregethwr duwiol a galluog i'w gael y pryd hwnnw ar gyfer pob sir yng Nghymru—ac nad oedd ar gyfartaledd un Beibl ar gyfer pob pum' cant o deuluoedd yn y Dywysogaeth. Teimlodd y Senedd gymaint dros gyflwr gresynnus Cymru, fel y pasiwyd deddf arbennig er sicrhau lledaeniad yr Efengyl yng Nghymru. O dan y ddeddf hon penodwyd Dirprwywyr yn meddu awdurdod i gymeryd gofal o bob peth cysylltiedig a chrefydd yn y Dywysogaeth. Rhoddwyd iddynt awdurdod i droi allan o'u bywiolaethau, yr offeiriaid a dybient oeddent anghymwys i'w swydd, naill ai oherwydd eu buchedd neu eu dysg. Trowyd ugeiniau o glerigwyr allan. Cymerodd y Dirprwywyr feddiant o'r eiddo yn y bywiolaethau hynny; caniatawyd y bumed ran fel blwydd-dal i'r rhai a drowyd allan, a defnyddiwyd y gweddill i dalu cyflogau y rhai a benodwyd yn lle y rhai a ddifuddiwyd. Ond nid oedd digon o ddynion cymhwys i'w cael ymhlith Puritaniaid Cymru i lenwi'r lleoedd gweigion. Felly penododd y Dirprwywyr chwech o bregethwyr teithiol i bob sir yng Nghymru—dynion gan mwyaf wedi cael eu dwyn i fyny ym Mhrifysgolion Rhydychain a Chaergrawnt. Rhoddwyd i'r rhai hyn gyflog o gan punt y flwyddyn yr un. Ychwanegwyd at y rhai hyn drachefn ddeuddeg-ar-hugain arall o wyr dysgedig. A chan nad oedd y rhai hyn, ychwaith, yn ddigon at y gwaith, penodwyd nifer o "bregethwyr cynorthwyol" o blith aelodau cyffredin yr Eglwysi,—a chaffai y rhai hyn gyflogau yn amrywio o 20p. i 30p. y flwyddyn.[9]
Prin mae eisieu dweyd mai nid y ffordd fwyaf effeithiol i ennill serch cenedl yw gwthio arnynt heb eu cydsyniad drefniant newydd a'u gorfodi ar yr un pryd i dalu am y trefniant hwnnw. Gan nad faint a ganmolir ar amcan y Senedd yn pasio'r Ddeddf i Efengyleiddio Cymru, ac yr oedd yr amcan yn ddiameu yn dda,—nis gellir canmol y cynllun a fabwysiadwyd i sicrhau hynny, sef Sefydliad Gwladol o Anghydffurfiaeth, canys hyn ydoedd mewn gwirionedd. Gwnaed y Bedyddwyr, yr Anibynwyr, a'r Presbyteriaid yng Nghymru, yn awr yn Eglwysi Sefydledig, ac aeth yr hen Eglwyswyr yn Anghydffurfwyr oddiwrth y drefn newydd![10] Nid help, ond rhwystr, i gynnydd egwyddorion Ymneillduaeth, oedd penodi'r Dirprwywyr hyn. Cymerwyd, mae'n wir, bob gofal dichonadwy i wneud y cynllun mor berffaith ag oedd bosibl. Yr oedd y Dirprwywyr eu hunain yn ddynion mewn safle gymdeithasol pur dda, ac i'w cynorthwyo yn y rhan Eglwysig neu grefyddol o'u gwaith, penodwyd nifer o weinidogion neu bregethwyr adnabyddus
a phoblogaidd, y rhai a'u cyfarwyddent ynghylch y personau a ddylid eu trwyddedu i bregethu. Mae enwau amryw o'r pump-ar-hugain hyn[11] yn uchel eu bri hyd y dydd heddyw fel Tadau Ymneillduaeth Cymru. Ond rhaid cydnabod fod yn rhaid cael Deddf Unffurfiaeth, a gormes, ac erlid, i'w gwneud yn Ymneillduwyr. Dynion cydwybodol, egwyddorol, wedi cael eu tanio gan gariad at, a zel dros, y gwaith o efengyleiddio Cymru oedd y mwyafrif o honynt, mae'n wir. Ond mae mor wir a hynny mai wedi iddynt hwythau orfod torri eu cysylltiad â'r Eglwys fel Sefydliad Gwladol o grefydd, yr enillasant fwyaf o nerth a dylanwad yn y wlad. Y cyfddydd ydoedd eto, mewn mwy nag un ystyr.
Gwelir felly nad oedd calon Cymru eto wedi cael ei chyffwrdd ond yn unig yn ysgafn iawn. Nid oedd cydwybod y genedl eto wedi cael ei deffroi—ond mewn rhai mannau.
Yr oedd yr Archddiacon Prys ym Meirion, y Ficer Prichard yn Llanymddyfri, a Stephen Hughes ym Meidrym, ac ambell un tebyg iddynt hwy, yn ddynion da, gonest, cydwybodol, yn llafurio'n ddyfal yn eu gwahanol gylchoedd o blaid y ffydd—ac o fewn corlan Eglwys Loegr. Mae yn deilwng o sylw mai Efengylaidd a Phuritanaidd, yn hytrach nag Uchel-Eglwysig, oedd cymeriad gweinidogaeth y rhai hyn. Meddent, ac arferent yn helaeth, y ddawn i bregethu a fychenid gan yr Eglwyswyr Brenhinol. Ceir yn ysgrifeniadau'r Ficer lu o brofion nid yn unig ei fod yn wrth-Babyddol ei hun, ond mai syniadau Pabyddol ei bobl, a'r wlad yn gyffredin, oedd un o'r rhwystrau pennaf yn ffordd lledaeniad ei ddylanwad ef a'r Efengyl a bregethid ganddo. Arferai'r Ficer Prichard a Stephen Hughes, fel Rowlands Llangeitho, a'r Diwygwyr Eglwysig eraill. ymhen can mlynedd wedyn, fyned ymhell dros derfynnau eu plwyfi eu hun; teithient lawer gan bregethu ar hyd a lled y wlad. Ond ychydig iawn. o'u bath a geid yn yr Eglwys yng Nghymru'r pryd hwnnw.
Am y lleill a enillasant ddylanwad,—o herwydd ac o dan erlid y llwyddasant. Yr oedd William Wroth o Lanfaches. William Erbury a Walter Cradoc o Gaerdydd, wedi bod yn cael eu herlid am flynyddau gan Esgob Llandaf cyn iddynt adael yr Eglwys. Gorfu i Marmaduke Matthews ffoi i'r America rhag llid yr Esgobaethwyr. Cafodd Richard Symons, Vavasor Powel, ac Ambrose Mostyn ddioddef yn eu cyrff nodau yr erlidwyr o droion. A dyna'r dynion a ddaethant yn allu yn eu gwlad. Cyffyrddodd dewrder a dioddefiadau y rhai hyn galon y bobl. Ac o'u blaen hwynt, er dyddiau merthyrdod John Penry, ni chafwyd odid neb yng Nghymru a ddioddefodd erlid trwm er mwyn cydwybod. Yn y cyfnod hwnnw ni safodd yr un Cymro enwog i fyny dros hawliau cydwybod—tra degau o Ymneillduwyr Lloegr yn gwynebu dioddefiadau ac arteithiau a wnant i'r gwaed redeg yn oer yn ein gwythiennau wrth ddarllen am danynt.[12] Felly, tra Lloegr eisoes yn mwynhau llawn oleuni dydd, nid oedd Cymru eto ond megys yng ngoleuni gwanaidd y cyfddydd.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gwn fy mod wrth ddweyd hyn yn mynd yn hollol groes i'r syniad cyffredin, ac i'r hyn a ddywed haneswyr blaenorol, am gyflwr crefydd yng Nghymru. Eithr ceir ffeithiau diymwad yn nes ymlaen yn profi'r hyn ddywedir yma.—B. G. E.
- ↑ Gwn yr hawlia rhai ysgrifenwyr fod Eglwys Fedyddiedig reolaidd yn bodoli yn yr Olchon er 1633. Myn rhai ddweyd ei bod yno ymhell cyn hynny. Nid wyf yn amheu nas gallai fod yno grefyddwyr yn dal golygiadau'r Bedyddwyr, ac yn cyfarfod a'u gilydd ar adegau yn y cyfnod hwnnw i gyd—addoli Duw. Ond er chwilio'n ddyfal gyda llygad syml am oleuni'r gwirionedd, yr wyf hyd yma wedi methu cael un prawf o fodolaeth Eglwys Ymneillduol reolaidd yng Nghymru cyn 1639, yn Llanfaches,—ac yr oedd Bedyddwyr ac Anibynwyr yn aelodau o honno.
- ↑ Anghytunaf ar y naill law â'r rhai a ddywedant fod Cymru wedi cael ei hefengyleiddio'n dra chyffredinol yn nyddiau Cromwell; ac ar y llaw arall â'r sawl a haerant mai pobl yn rhodio yn y tywyllwch oedd Cenedl y Cymry hyd nes i'r hyn a elwir "Y Diwygiad Methodistaidd " dorri allan yn nyddiau Howell Harris. Gosodaf fi gyfnod goleuo Cymru yn agos i'r canol rhwng y ddau amseriad yna. Ceir profion yn nes ymlaen.—B. G. E.
- ↑ Dywedir fod Dr. Morgan Owen, Esgob Llandaf, yn ganlynnwr mor selog i Laud, fel, pan glywodd fod yr Archesgob wedi cael ei ddienyddio, ddarfod iddo syrthio oddiar ei gadair, a marw. Preswyliai ar y pryd yn y Lasallt Fawr ym mhlwyf Myddfai, Sir Gaerfyrddin.
- ↑ Er engraifft, dyma ddywed Rowland Fychan ar ol i'r Senedd dorri pen Siarl I.:
"Ni fedra 'i fynegi, mor achos o'i golli,
Mae'n hardda imi dewi, yn dawel a son;
Mi a ddweda'n seliedig, na thorrir pen tebyg,
Yn Lloegr goch oerddig, a'r Werddon."
Ac am y Pengryniaid, canodd yr un bardd fel hyn:"Pe cawn i'r Pen-grynion
Rhwng ceulan ac afon,
Ac yn fy llaw goedffon o lin-on ar li;
Mi a gurwn yn gethin
Ynghweryl fy mrenin,
Mi a'u gyrrwn yn un byddin i'w boddi."
—Blodeugerdd.
Ac atebwyd ef gan ei gyd-fardd William Phylip o Ardudwy, fel a ganlyn:"Pe cawn i'r Pengryniaid
Ar ben goriwaered,
Er gwaned a hyned wyf heno,—
A phastwn du-ddraenen,
(Rwy'n ddeuddeg a thrigain,)
Chwi a'm gwelech yn llawen yn llowio."
- ↑ Canwyll y Cymry.
- ↑ Gwel Glad Tidings, Cradoc.
- ↑ Gwel y Rhagymadrodd i Gatecism Ysgrythyrol Vavasor Powel, 1646
- ↑ Dywedir fod 18 neu 20 o'r pregethwyr cynorthwyol hyn yn aelodau o Eglwysi Llanfaches a Mynyddislwyn. Penodid Bedyddwyr yn ogystal ag Anibynwyr. Nid anenwog ymhlith y blaenaf oedd Thomas Evans, Pentre, ger Llanafan Fawr, ar gyffiniau Siroedd Brycheiniog a Maesyfed. Gellir ei alw yn Dad Bedyddwyr Maesyfed. Canlynnwyd ef yn y weinidogaeth Fedyddiedig gan ddau fab iddo, a'r rhai hyn drachefn gan bump o'u plant hwythau. Disgynnodd yr un ysbryd yn y bedwaredd a'r bumed genhedlaeth, canys or-wyr iddo oedd yr enwog Dr. Caleb Evans, Bryste, ac or-or-wyr iddo oedd John Evans, LL.D., Llundain. Wele eileb o'r drwydded a roddwyd yn 1653 i Thomas Evans i bregethu:—"By the Commission for Propagating the Gospel in Wales:—Whereas five of the ministers in the Act of Parliament named, bearing date the 25th of February, 1649, and entitled, An Act for the better Propagation of the Gospel in Wales, have, according to the tenors of the said Act, approved of Mr. Thomas Evans, the younger, to be a person qualified for the work of the ministry, and recommended him, with their advice to us, that he be encouraged in the work of the ministry: We do, according to an order to us directed by the committee of five, at Neath, therefore order that Mr. John Pryce, treasurer, shall forthwith pay unto the said Mr. Thomas Evans the sum of thirty pounds, which we have thought fit to allow him towards his salary and encouragement in the work of the ministry. This, our order, together with his acquittance, shall be a sufficient discharge for the said treasurer. Dated under our hands the 16th of May, in the year of our Lord, 1653.—JOHN WILLIAMS, &c., &c."
- ↑ Ceir yr un peth mewn ymarferiad yn ein dyddiau ni. Yn Lloegr Esgobyddiaeth yw'r Sefydliad Gwladol, ac mae'r Presbyteriaid, fel yr enwadau eraill, yn cael eu cyfrif yn Ymneillduwyr. Yn yr Ysgotland, ar y llaw arall, y Presbyteriaid sy'n perthyn i'r Sefydliad Gwladol—a'r Esgobaethwyr o angenrheidrwydd yn Anghydffurfwyr ac Ymneillduwyr!
- ↑ Wele'r enwau fel y'u ceir hwynt yn y DdeddfSeneddol dan sylw:— Henry Walter, Walter Cradock, Richard Simonds, Roger Charnock, Jenkin Lloyd, Morris Bidwell, David Walter, William Seaborn, Edmund Ellis, Jenkin Jones, George Robinson, Richard Powell, Robert Powell, Thomas Ewen, John Miles, Oliver Thomas, Dr. John Ellis, Ambrose Mostyn, Stephen Lewis, Morgan Lloyd, William Jones, Richard Edwards, Vavasor Powell, Richard Swain, a Rowland Nevet.
- ↑ Cymerer er enghraifft y gosb farbaraidd a osodwyd ar y dysgedig Dr. Leighton. Trosedd Dr. Leighton oedd cyhoeddi yn Holland "An Appeal to Parliament; or Zion's Plea against Popery." Wele adroddiad o'i gosb fel y'i ceir yn Nyddlyfr Archesgob Laud, Tach. 6, 1630:—1. Chwipiwyd ef yn arw cyn ei osod yn y rhigod (pillory): 2. Wedi ei roi yn y rhigod, torrwyd un o'i glustiau ymaith; 3. Holltwyd—un ochr i'w drwyn; 4. Llosgwyd y llythyrennau S. S. (Sower of Sedition—Hauwr Terfysg) yn ei gern. Ym mhen wythnos wedyn, a'r briwiau ar ei gefn, clust, trwyn, a gwyneb eto heb wella, chwipiwyd ef drachefn wrth y rhigod, a chariwyd allan y gweddill o'r ddedfryd drwy dorri ymaith y glust arall, hollti'r ochr arall i'w drwyn, a llosgi y gern arall."—Yr oedd ar y pryd yn tynnu ar 50 oed, a chanddo wraig a phlant. Yr oedd y chwip yn dwyn tair cainc; caffai 36 flangelliad ar y tro, a phob fflangell yn torri darnau o'r cnawd ymaith. Yna carcharwyd ef am ddeng mlynedd.Danghosodd yr Archesgob Bancroft gyffelyb ysbryd. Rhoddodd yr enwog a'r dysgedig Dr. Burgess ei fywoliaeth Eglwysig i fyny am nas gallai gydffurfio â'r defodau a fynnai'r Archesgob osod i fyny yn yr Eglwys. Er fod Dr. Burgess yn bregethwr hyawdl, a phoblogaidd, ymneillduodd o'r weinidogaeth, a gweithredodd fel meddyg. Fel meddyg galwyd arno i weinyddu ar Dduces Bedford yn ei salwch. Nid yn unig rhoddodd feddyginiaeth iddi, ond gweddiodd gyda hi mor deimladwy nes ei throi at Buritaniaeth. Pan glybu'r brenin hyn, ffromodd yn aruthr, a gorchymynnodd i'r Archesgob edrych i mewn i'r mater. Gyrrodd hwnnw am Dr. Burgess; rhoddodd sen iddo, a gorchymynnodd iddo i beidio gweithredu fel meddyg mwyach o fewn deng milldir i Lundain! (Carleton's Letter. MS. Record Office. Dom. Series, Aug. 1, 1603.)