Diwygwyr Cymru/Y diwygiad yng ngoleuni llawysgrifau Trefecca
| ← Darlun Howell Harris o hono ei hun | Diwygwyr Cymru gan Beriah Gwynfe Evans |
Brwydr rhyddid i'r athraw a'r pregethwr → |
ATODIAD I PENNOD XXII.
Y DIWYGIAD YNG NGOLEUNI LLAWYSGRIFAU TREFECCA.
Gwelir fod llawer o gynnwys y penodau diweddaf yn seiliedig ar Lawysgrifau Trefecca. Ychydig a wyr y wlad am y casgliad amhrisiadwy hwn. Ar ryw ystyr mae yn resyn ei fod yn gloedig oddiwrth y cyhoedd, ac na fuasai yn ffurfio rhan o Gasgliad Cenedlaethol mewn sefydliad mwy cyhoeddus, megys un o'n Colegau Cenedlaethol. Gresyn mwy na hynny yw fod yr hen lawysgrifau, hyd yn dra diweddar, wedi cael eu hesgeuluso mewn dull mor warthus. Buont am hir flynyddau yn bentwr esgeulusedig, heb neb yn gofalu am danynt, na neb yn ceisio gwneud trefn arnynt. Ychydig flynyddau yn ol, cyflogodd awdurdodau'r Coleg foneddwr tra chymwys, Mr. Evan E. Morgan, i drefnu a chyfanu, hyd oedd yn bosibl, yr oll o'r llawysgrifau. Bu'r gorchwyl hwn yn lafur cariad iddo̟ am yn agos i dair blynedd. Nis gall neb a â drwy'r llawysgrifau fel y maent yn awr, lai na chanfod ar yn agos i bob dalen o'r casgliad, brofion o'r gofal manwl a'r tynerwch cariadus a ddanghoswyd gan y neb a fu yn trefnu, rhestru, a thrin clwyfau, yr hen lawysgrifau hyn. Dichon y bydd crynhodeb byr o natur a chynnwys y casgliad yn ddyddorol.
1. DYDDLYFRAU HOWELL HARRIS. Mae rhyw 280 o ddyddlyfrau Howell Harris, o 1735 hyd 1772 a dechreu 1773, blwyddyn ei farwolaeth, eto ar gael. Yn anffodus, mae amryw gyfrolau yn eisieu, yn cynnwys yr oll o'r dyddlyfrau oedd yn ymwneud â'i deithiau yn y Gogledd, y rhan sy'n ymwneud â'r prawf yn yr Assizes ym Mynwy, ac ychydig eraill. Ond mae y rhan fwyaf o lawer yn aros,—nid oes, o bosibl, fwy na'r ugeinfed ran o'r cwbl ar goll.
Mae y dyddlyfrau hyn, gan mwyaf, yn fath o gopïau pedwarplyg, wedi cael eu hysgrifennu mewn llaw nodedig o fân ac anhawdd ei darllen, ac yn llenwi pob dalen o ymyl i ymyl, ac o gongl i gongl, ac, ambell waith, wedi cael eu hysgrifennu ar hyd ac ar draws. Nis gall yr anghyfarwydd eu darllen; a rhaid i hyd yn oed yr hyfedrydd (expert) mewn llawysgrifau, wrth gymorth chwydd wydr, a thaflen o'r talfyriadau a'r arwyddnodau sy'n britho'r ysgrifen, cyn y medr wneud dim o honi. Mae hyn, o bosibl, yn cyfrif am y ffaith na wyr y byd ond ychydig am wir natur eu cynnwys. Amlwg fod rhyw un—credaf mai'r diweddar Barch. T. Phillips, Henffordd,—wedi bod drwyddynt yn ofalus, gyda'r amcan tybiedig o'u cyhoeddi, fel a wnaed â dyddlyfrau Wesley a Whitefield. Pe y gwneid hyn, teflid goleuni newydd ar aml i hen gwestiwn. Ond byddai'n ofynnol golygu'r dyddlyfrau yn ofalus cyn eu rhoi i'r byd, Gresyn fuasai gwneud yn ddiraid â Howell Harris yr hyn a wnaed âg Eben Fardd.
II. CASGLIAD O LYTHYRAU. (a) Llythyrau at Harris, oddiwrth nifer mawr o gyfeillion cyfrinachol neu gydweithwyr cyhoeddus. Mae dros 1000 o'r rhai hyn.
(b) Llythyrau oddiwrth Harris at wahanol bersonau, cyhoeddus a chyfrinachol. Mae yn agos i 1200 o'r rhai hyn. Eilebau (copies) ydynt gan mwyaf, wedi cael eu hadysgrifenu, weithiau gan Harris ei hun, brydiau eraill gan rai o'i gynorthwywyr—Evan Moses gan mwyaf.[1]
(c) O 200 i 300 o lythyrau eraill at neu oddiwrth bregethwyr eraill. (d) Rhyw 80 neu 90 o lythyrau gan aelodau eraill o "Deulu Trefecca," ond nid at nac oddiwrth Harris.
(e) Pentwr o lawysgrifau eraill nas gellir eu dosbarthu.
III. ADRODDIADAU SWYDDOGOL. (a) Cofnodion y Cymdeithasfaoedd yng Nghymru a Lloegr, gan mwyaf o 1742 hyd 1749, ond yn anghyflawn.
(b) Adroddiadau Swyddogol goruchwylwyr ac ymwelwyr y Seiadau. Gan nad beth a ellir ei ddweyd yn erbyn cyhoeddi y Dyddlyfrau, neu rai o'r Llythyrau, fel y maent, nis gall fod unrhyw reswm digonol dros beidio cyhoeddi cynnwys yr adran olaf hwn o'r Casgliad. Ond os y'i cyhoeddir, dylid ei gyhoeddi yn gyflawn. Byddai nid yn unig yn gaffaeliad i'r hanesydd, ond yn ddyddorol i'r cyhoedd, a thaflai lawer o oleuni ar rai o agweddau'r mudiad diwygiadol.
Ceir, yn y penodau blaenorol, lawer o hufen yr holl gasgliad, mor bell ag y mae yn dal cysylltiad a phwnc y llyfr hwn, ac yn enwedig mor bell ag y mae yn taflu goleuni newydd ar ddigwyddiadau'r cyfnod. Rhaid fod hyd yn oed y crynodebau amherffaith, a'r dyfyniadau anghyflawn a roddir yn y penodau hyn, yn cyfnewid cryn lawer ar rai o'r syniadau a ffurfid yn gyffredin am natur, amcan, a chyfeiriad y gwaith mawr a gyflawnwyd yng Nghymru yn y ganrif o'r blaen. Dichon mai nid an— fuddiol fydd rhoi eto fras grynhodeb o rai o'r prif bwyntiau syn amlwg ymron ar wyneb Llawysgrifau Trefecca.
1. Mudiad cyffredinol ar nid lleol oedd y Diwygiad.
2. Mudiad anenwadol neu gyd-enwadol ydoedd yn ei gychwyniad; cymera Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr, Bedyddwyr ac Anibynwyr, ran gyfartal ynddo: cydweithient, cyd-drefnent y gwaith.
3. Bodolai cysylltiad hanfodol rhwng y gyfundrefnaeth yng Nghymru a'r un gyfundrefnaeth yn Lloegr.
4. Perthynai i'r Eglwyswyr a'r Anghydffurfwyr a gysylltid ag arweiniad y mudiad, ddau ddosbarth gwahanol. Ceid ymhlith yr Eglwyswyr:—
(a) Rai a fynnent i'r Eglwys Wladol fod yn bopeth.
(b) Rai a feddylient fwy am les eneidiau nag am lwyddiant yr Eglwys.
Gellir nodi Harris fel engraifft o'r blaenaf, a Whitefield o'r olaf.
Ceid hefyd ymhlith yr Ymneillduwyr :—
(a) Rai a fynnent i'w henwad hwy fanteisio'n bennaf ar y mudiad.
(b) Rai a feddylient fwy am les eneidiau nag am lwyddiant yr enwad.
Gellir nodi Edmund Jones (Anibynnwr) a Miles Harri (Bedyddiwr) fel engreifftiau o'r blaenaf; a Lewis Rees (Anibynnwr) a Mr. Oulton, Llanllieni (Bedyddiwr) fel engreifftiau o'r olaf.
5. Er i rai Ymneillduwyr a rhai Eglwyswyr ymneillduo yn foreu o'r mudiad, parhaodd am flynyddau lawer yn anenwadol.
6. Gwrthodai y rhan Eglwysig o'r Gymdeithasfa goleddu'r syniad o dorri cysylltiad ag Eglwys Loegr; ond boddlonent i'r Ymneillduwyr gadw eu cysylltiad hwythau a'u cyfundrefnau enwadol eu hunain, a chymuno yn eu capeli, gan hawlio i'r Eglwyswyr gyffelyb hawl.
7. Gwrthodai'r ddwy blaid am hir amser, unrhyw gynnyg at ffurfio Enwad neu Sect ar wahan.
Wedi cael golwg felly ar y gyfundrefn ganolog yn gyffredinol, deallir yn well o bosibl agweddau'r Seiadau unigol.
1. Mewn egwyddor yr oedd y Seiad unigol, fel y Gymdeithasfa, yn anenwadol, neu gyd-enwadol;[2] mewn ymarferiad gwnaed hi yn aml i gyfateb i'r amgylchiadau lleol. Er engraifft, os byddai'r Eglwyswyr yn gryf iawn yn yr ardal, ac os byddai'r "Cynghorwr" neu'r "Arolygwr," oedd a gofal y cylch, yn eithafol Eglwysig, ceid ffordd i wneud y Seiad hefyd, i bob diben ymarferol, yn Eglwysig. Ar y llaw arall, os byddai elfen gref o Anghydffurfwyr yn feddiannol ar ysbryd y Diwygiad, yn y cylch, agorid drws y Seiad led y pen iddynt hwythau, a chydaddolai'r ddau ddosbarth mewn undeb tangnefeddus a brawdgarwch cynnes.
2. Nid oedd y Seiadau ond cydgynhulliad o bersonau o dueddiadau crefyddol, ac o wahanol enwadau, yn tynnu at eu gilydd er adeiladu eu gilydd. Dylid cofio nad oedd, y pryd hwnnw, ymhlith yr Ymneillduwyr, na chyfeillachau crefyddol, na chyfarfodydd gweddi rheolaidd fel y sydd yn awr. Ni cherid y Seiadau oll ymlaen ar yr un cynllun. Er engraifft, mynnai Morgan John Lewis i'w Seiadau gyfarfod yn rheolaidd bob wythnos; ond trefnai eu gwaith fel hyn:—1. Cwrdd gweddi. 2. Cwrdd darllen ac egwyddori. 3. Agor calonnau ac adrodd profiadau. 4. Cwrdd moliannu Duw. Pan gofir nad oedd cyfeillach grefyddol na chyfarfod gweddi'n beth cyffredin yn y wlad, gwelir mor rhesymol oedd i rai o dueddiadau crefyddol cynnes o bob enwad, i ymgysylltu â'u gilydd o dan ddylanwad cynhesrwydd a zel y diwygiad.
3. Nid yn unig gwahaniaethai'r Seiadau yn fawr yn eu ffurf neu ddull o gario eu gweithrediadau ymlaen, ond yn eu disgyblaeth. Mewn rhai yr oedd yn llym iawn,—diarddelid personau am fynd i Neithiorau ("Priodas a Thaith," fel y'i gelwir eto mewn rhannau o'r De); disgwylid i'r neb oedd a'u bryd ar briodi i ofyn caniatad y Seiad i hynny; mewn eraill yr oedd mor llac fel na chydnabyddent hawl yr Arolygwyr na'r Cynghorwyr i ymyrryd â hwynt.
4. Ar y dechreu, ac am flynyddau lawer wedi hynny, eithriad oedd gwasanaeth reolaidd ar y Sul ynglŷn â'r Seiadau hyn. Ac wedi dechreu sefydlu gwasanaeth reolaidd felly, hir iawn y buwyd cyn ei gwneud yn arferiad i gynnal Cyfeillach grefyddol ar ol yr oedfa ar y Sul. Mewn gair, ychydig, os dim, o natur Eglwys wahanfodol a berthynai i nemawr ddim o'r Seiadau hyn, am lawer blwyddyn hirfaith wedi eu sefydlu, ac wedi eu dwyn i ryw fath o drefn a rheolaeth gan ac o dan y Gymdeithasfa.
5. Canlyniad naturiol oedd mai mewn ychydig, yn gymharol, o honynt. y ceir elfen o sefydlogrwydd na pharhad. (Gwel Atodiad i Pen. xx.) Diflannodd llu o honynt cyn y rhwyg rhwng Harris a'i frodyr, a bu feirw eraill mewn canlyniad i'r rhwyg. Erbyn 1748, er fod Harris ar y pryd yn cydweithio'n gyfeillgar a'r brodyr eraill, nid oedd un rhan o dair o'r holl Seiadau a sefydlwyd, yn cael eu henwi o gwbl yn yr adroddiadau swyddogol i'r, nac yn, y Gymdeithasfa. Pan fu farw Harris yn 1773, nid oedd hanner y drydedd ran gweddill hyn yn aros.
6. Cyfanrif uwchaf posibl aelodau yr holl Seiadau a fodolent unrhyw amser o 1742 hyd 1752 (hyd yn oed pe cyfrifid yn 1752 aelodau pob Seiad oedd wedi marw cyn hynny) oedd 5715.
Pan sonnir, felly, fel y gwneir gan rai ysgrifenwyr, am y bobl yn tyrru wrth y deg a'r ugain mil i rai o Sasiynau y cyfnod hwnnw, rhaid, os yw'r haeriad yn wir, fod mwyafrif enfawr y cynulleidfaoedd hynny yn Fedyddwyr, Anibynwyr, ac Eglwyswyr, a ddymunent wrando'r pregethu, ond na chydnabyddent unrhyw fath o gysylltiad â'r Methodistiaid fel cyfundrefn.
Ond pan sonnir fod cynifer a 4000 neu 5000 yn dod i Langeitho at Rowlands, neu i Sir Benfro at Howell Davies, i gymuno, mae'r peth yn amhosibl. Hyd yn oed pe cesglid pob aelod o'r Seiadau i gyd, yn fyw ac yn farw, yn blant (ac yr oedd plant 10 mlwydd oed yn aelodau o'r Seiadau) ac yn hen bobl, o ben uchaf Sir Drefaldwyn hyd gwrr pellaf Sir Fynwy, nis gallasai fod 6000 o gwbl! Gresyn na chadwai haneswyr at y tebygol, os na allant at y cywir. Fel mater o ffaith, ni fu erioed fwy na 1500 yn cymuno ar yr un pryd yn Llangeitho.[3]
Rhoddid arbenigrwydd neillduol ar "Sabath y Cwrdd Mawr," yn Llangeitho. Ni chynhelid cymaint a Chwrdd Gweddi ar y Sul hwnnw gan neb o Fethodistiaid y siroedd cylchynol. Dyma ddesgrifiad o'r olygfa ar y pererinion, gan un a'i cafodd gan lygad-dyst:—
"Y pryd hwnnw byddent yn cyrchu o bob cwrr o Gymru i Langeitho. Byddent yn cychwyn o Forgannwg nos Wener, a cherddent drwy'r nos i fod yma erbyn y cwrdd parotoad nos Sadwrn. Yr oeddent yn dwyn bwyd gyda hwynt i'w fwyta wrth fynd a d'od; ond tra fyddent yn Llangeitho yr oeddent yn cael eu bwyd a'u llety am ddim. Wedi bod yn y cymundeb boreu Sabath, cychwynnent yn lluoedd drwy Landdewibrefi i'r mynydd hyd y Post-Gwyn, rhwng Bryncaregog a Bronbyrddau. Yn y fan honno elai dau neu dri i weddi, ac ymwahanent dan ganu, rhai tua Phontrhydybere, ac eraill tua ffordd Cilycwm, a byddent gartref rywbryd boreu dydd Llun."[4]
Fel y danghoswyd eisoes, tynnai Cymanfaoedd y Bedyddwyr yng Nghymru yn yr un cyfnod dorfeydd cyffelyb, yn rhifo 10,000 ar y tro,—ond mai unwaith y flwyddyn a fyddai hynny. Am nifer y "dychweledigion" a enillwyd ym mlynyddau'r Diwygiad, amhosibl yw cael cyfrif cywir. Mae'n amlwg oddiwrth Lawysgrifau Trefecca fod llawer o aelodau'r "Seiadau" yn aelodau ar yr un pryd o Eglwysi Ymneillduol, a bod llawer eraill yn gymunwyr yn Eglwys Loegr. Pan dynner y rhai hyn allan o'r 5715 aelodau a gyfrifir i'r Seiadau, cawn fod y Bedyddwyr Cymreig yn y chwe' mlynedd o 1787 hyd 1792, wedi ychwanegu mwy at rif eu haelodau na holl ddychweledigion y Diwygiad yn y deuddeng mlynedd o 1740 hyd 1752.[5]
Nid yn rhifedi aelodau'r Seiadau y ceir gwir werth Diwygiad canol y 18fed ganrif, ond yn y symbyliad a roddodd i'r wlad i ymgyflwyniad mwy llwyr i achos crefydd. Am y dychweledigion eu hunain, byr a fu tymor dylanwad yr argyhoeddiadau ar lawer o honynt. Mae hyn, o bosibl, yn naturiol i bob mudiad cyffrous o natur hwn. Rhaid cofio mai cyffroawl (emotional), yn hytrach nag argyhoeddiadol, oedd dylanwad y diwygiad ar y mwyafrif mawr. Ni chanlynwyd ef gan wellhad cyffredinol mewn buchedd. Nid moesoldeb buchedd, ond cynhyrfiad teimladau, a phroffes barod o ffydd yng Nghrist, oedd arwyddion allanol dylanwad y mudiad diwygiadol ar laweroedd. Yn wir, gwatwarid yr Ymneillduwyr a bregethent foesoldeb fel ffrwyth hanfodol argyhoeddiad, fel "Sentars sych;" tra yr edrychid ar y neb a bregethai i gynhyrfu'r teimladau, fel danfonedig o'r nef. Os mesurir ffrwyth y Diwygiad wrth ei effaith uniongyrchol ar foesau'r wlad, mae lle i ofni y ceir ef yn llai na phan y'i mesurir wrth rifedi'r dychweledigion. Nid oedd yr amgylchiadau dan y rhai y cedwid ambell Seiad yng ngwres mwyaf tanbaid y Diwygiad,—cadw cyfarfodydd hyd ac ar ol ganol nos, ac yna teithio yn aml filltiroedd o ffyrdd unig tua'r cartrefi, yn debyg o ffafru'r ymarferiad o foesoldeb cymdeithasol. Os mynner profion o hyn, maent i'w cael yn rhai o Lawysgrifau Trefecca.
Ond er na lwyddodd y Diwygiad i sicrhau y lluoedd mawr o "ddychweledigion" a briodolir yn gyffredin iddo; er na lwyddodd ychwaith i greu chwyldroad cyffredinol yn syniadau'r cyhoedd yng Nghymru am foesoldeb cymdeithasol, gwnaeth wasanaeth nid llai pwysig.
1. Deffrodd gydwybodau cysglyd yn Eglwys Loegr.
2. Argyhoeddodd Ddiwygwyr Crefyddol y rhaid i'r Eglwys fod yn rhydd oddiwrth hualau'r Wladwriaeth, os yw i gyflawni ei gwaith yn y byd.
3. Argraffodd yn ddyfnach nag o'r blaen ar feddyliau Eglwysi Ymneillduol y wlad, y dylai Eglwys Dduw fod yn allu cenhadol yn y byd.
4. Danghosodd i'r Ymneillduwyr, drwy esiampl, y pwysigrwydd o ymarferiadau crefyddol heblaw pregethu; gwerth cyfeillachau crefyddol a chyfarfodydd gweddio cyson; ac mewn gair, i gyfieithu'r broffes o grefydd i ymarferiad rheolaidd mewn cyfarfodydd rheolaidd a chyson.
5. Gwnaeth felly Eglwysi Cristionogol y wlad, hen a newydd, yn ganolbwynt dylanwad iachusol a pharhaol pob un yn ac ar eu chylch eu hun, dylanwad a gryfhaodd ac a ledodd yn raddol, nes lefeinio'r holl wlad.
6. Effaith adlawol (secondary) y dylanwadau hyn, ac nid ffrwyth uniongyrchol y Diwygiad ei hun, oedd y cynnydd mawr ac amlwg a gymerodd le mewn hir flynyddoedd ar ol hyn, yn arferion cymdeithasol a syniadau moesol y wlad.
Casgliad arall, y gorfodir ni yn anocheladwy i dynnu oddiwrth Lawysgrifau Trefecca, a hanes dilynol crefydd yng Nghymru, yw, mai Thomas Charles, yn hytrach na Howell Harris, yw gwir Dad Methodistiaeth Galfinaidd yng Nghymru. Ni fu Harris erioed ddim ond Eglwyswr. Ni fynnai son am droi cefn ar y Eglwys. Ni oddefai i neb ond Esgob ordeinio dyn yn bregethwr. Tebyg i gicaion Jonah oedd y rhan fwyaf o'r Seiadau a blannwyd ganddo. Yn offeiriadaeth Daniel Rowlands yn unig y ceir dim tebyg i elfen o barhad yn natur y Seiadau. Ond, a siarad yn gymhariaethol, afluniaidd a gwag oedd y gyfundrefnaeth a adawodd yntau ar ei ol. I Thomas Charles y gadawyd y gorchwyl o ddwyn trefn barhaol ar y gyfundrefnaeth. Gwnaeth ef lawer mwy, a Howell Harris lawer llai, nag a dybir yn gyffredin, o wasanaeth, nid yn unig i Fethodistiaeth, ond i Grefydd Cymru.<ref>Profir yn amlwg gan Lythyrau Thomas Charles, a ddarganfyddwyd yn ddiweddar, ac a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn Y Traethodydd, mai nid gwrthwynebu ond hyrwyddo'r mudiad i ordeinio gweinidogion, a wnaeth Thomas Charles. Cyfnewidiodd hynny holl natur y gyfundrefn—aeth, ac o'r dydd hwnnw allan cymerodd Methodistiaeth Galfinaidd ei lle priodol ymhlith Enwadau Ymneillduol Cymru.<ref> Yn Thomas Charles, a'r rhai a gydlafuriasant ag ef, ca Methodistiaeth Cymru Dadau y gall, heb wrido, ymffrostio ynddynt,—ac fel arloeswyr y ffordd iddynt hwy y rhaid edrych ar y rhai a'u rhagflaenasant.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Fel engraifft o barodrwydd yr anghyfarwydd i syrthio i gamgymeriadau os na ddefnyddir llawer o ofal, gwelir yn Y Tadau Methodistaidd, cyf. i., tudal. 123, ddarlun (photograph) o ddarn o lythyr yn dwyn enw Howell Harris, a rhoddir y darn llythyr i ni fel engraifft o "Lawysgrif Howell Harris." Ond nid llawysgrif Howell Harris mo hono. Copi a wnaed gan Evan Moses y gwas, o lythyr gwreiddiol ei feistr Howell Harris, ydyw. Twyllwyd rhyw Isaac ddall, canys wele lais Howell Harris, ond llaw Evan Moses a geir yn y photograph!
- ↑ Maddeuer imi yma am gyfeirio at engraifft lle y gwadwyd y gosodiad hwn yn bendant gan un hanesydd. Ar y pryd y gwnaeth yr haeriad, yr oedd newydd fod yn ei feddiant ac yn ei ddwylaw y Llyfr Cofnodion oedd yn cynnwys profion ei fod yn gwadu'r gwirionedd. Er engraifft (tud. 43, Medi 19, 1743), ysgrifenna Wm. Richards am Seiad Llwyn— dafydd:" Fy Mrodyr, gwybyddwch fod mwy na hanner y Seiad hon yn Ddissenters." Eto, Morgan John Lewis (wedi hynny gweinidog Eglwys yr Anibynwyr, New Inn), Arolygwr arall Seiadau, yn ei adroddiad, Mawrth, 1744 (tud. S0), a ddywed: "Mae 23 o leoedd yn agored i bregethu'n gyhoeddus, yn cynnwys y Seiadau sefydlwyd, a dau neu dri o leoedd ymhlith y Dissenters, lle yr af weithiau." Pasiodd Cym— deithasfa Glanrafonddu, Ebrill, 1744, benderfyniad fod "Benj. Rees, fel brawd o Ddissenter, i gael cynghori." Achwyna James Williams, Arolygydd rhan o Sir Gaerfyrddin, Hyd. 10, 1747, am anghydfodau yn ei Seiadau," rhai ni fynnent fynd i'r Llan, eraill nid änt at y Dissenters," —yn dangos fod y ddau beth, sef mynd i'r Llan ac at y Dissenters, yn beth arferol. Wm. Johns, Arolygwr rhan arall o Sir Gaerfyrddin, Mai 3, 1748, a ddywed am Seiad Llanpumpsaint, "29 wedi eu derbyn oddiar ddechreu'r gauaf, chwech o honynt yn Ddissenters." Williams, Panty— celyn, pan yn arolygu Seiadau, a ddywed am Penylan, "Mae yno 5 neu 6 o rai newydd wedi dod i fewn, rhai gwrthgilwyr, a rhai Dissenters. Mae llawer yma yn wybodus yn yr Ysgrythyrau." Mae'r ddwy frawddeg olaf, yn eu cysylltiad â'u gilydd, yn awgrymiadol iawn. Gweddus yw imi ddweyd fod llawer o'r dyfyniadau uchod wedi eu marcio, yn y Llyfr yn Nhrefecca pan welais ef ymhen ychydig amser wedi i'r llyfr fod yn nwylaw'r ysgrifennydd a gyfeiriais ato eisoes.Yr wyf wedi manylu yma ar hyn am dri rheswm:—1. Am fod fy ngosodiad wedi cael ei wadu ar awdurdod tebygol.2. Am fod y dyfyniadau yn taflu goleuni ar amgylchiadau'r Seiadau.3. Am fod y profion a roddaf yma o gywirdeb fy ngosodiad hwn, yn engraifft deg o brofion cyffelyb a allesid eu dwyn ymlaen i gadarnhau y gosodiadau eraill a geir yn yr "Atodiad" hwn.—B. G. E.
- ↑ Dyna ddywedodd gwas Rowlands ei hun wrth y Parch. John Owen Thrussington. ("Coffhad am y Parch. Daniel Rowlands," &c., tud. 34.), Mae hyn yn gyson â'r hyn a glywais innau gan fy nhad o enau ei famgu yntau, yr hon a arferai letya ugeiniau o'r pererinion hyn i Langeitho.—B. G. E.
- ↑ Hanes Llangeitho, gan David Morgan, tudal. 19
- ↑ Cyfrifon Cymanfaoedd y Bedyddwyr.