Neidio i'r cynnwys

Diwygwyr Cymru/Ystadegaeth y cyfnod, a'r cyhuddiad yn erbyn Dr. Rees

Oddi ar Wicidestun
Paratoi erbyn y Deffroad Mawr Diwygwyr Cymru

gan Beriah Gwynfe Evans

Cysylltiadau'r Deffroad Mawr

ATODIAD I PENNOD XVI.
YSTADEGAETH Y CYFNOD A'R CYHUDDIAD YN ERBYN DR. REES.

O ddyddiau'r Brenin Dafydd hyd eiddo Mr. Thomas Gee, yr ydys wedi profi mai gwaith cynnil, ac mewn rhyw ystyr, peryglus, yw cyfrif y bobl. Ac eto, ar adegau, gall fod yn ddyledswydd orfodol. Felly yn ddiameu y teimlodd y Dr. John Evans hi pan, ar farwolaeth Anne, yr ymgymerodd a'r gorchwyl diddiolch o gasglu ystadegau am nerth Ymneillduaeth yng Nghymru a Lloegr.

Galwed y darllenydd i'w gof yr amgylchiadau. Yr oedd elfennau gwrthwynebol rhyddid a chaethiwed, yn wladol a chrefyddol, erbyn dyddiau Anne wedi crisialu i ffurf Pleidiau Gwleidyddol, a'r llinell fin cydrhyngddynt mor amlwg, o leiaf, ag yw yn ein dyddiau ni. Ysbryd gormes a chaethiwed a symbylai'r Toriaid cyntefig; egwyddorion goddefiad, os nad rhyddid, a lywodraethai yng nghynghorion y Whigiaid cyntefig. Rhyddid cydwybod yn ei gysylltiad â hawliau dinesig oedd y cwestiwn o amgylch yr hwn y troai ymdrechion y ddwyblaid. Rhaid cofio ar yr un pryd mai ystyriaethau o gyfleustra (expediency) yn hytrach nag o egwyddor, sydd yn aml yn penderfynu cwrs gwleidyddiaeth. Er fod llawer o arweinwyr y Whigiaid y dyddiau hynny yn ddigon cyd-wybodol ac egwyddorol yn eu hawydd i ryddhau y cadwynau a gaethiwent Ymneillduwyr, ac eraill yn amharod i'w tynhau, yr oedd llawer iawn, o bosibl y mwyafrif yn eu plith, yn gyfryw ag a fuasent lawn mor barod i wrando ar eu hunan-les ag a fyddent i gael eu symud gan ystyriaethau o iawnder. Pe gellid profi iddynt fod y ddau, hunan-les a iawnder, yn rhedeg ar hyd yr un llinell, ac y byddai sicrhau y naill yn diogelu'r llall, rhoddid iddynt y cymhelliad cryfaf oedd yn bosibl i wneuthur yr hyn oedd yn iawn. A hyn a wnaeth Ymneillduwyr yr oes honno ceisio profi i arweinwyr y Whigiaid mai mantais iddynt hwy a fyddai gwneud chwareu teg a'r Ymneillduwyr. Aethant at y gwaith mewn modd tra ymarferol, sef Cyfrif y Bobl, a dangos mewn du a gwyn beth oedd nerth Ymneillduaeth mewn gwahanol rannau o'r deyrnas,—ac, fel dynion call, yn rhoi'r bennod a'r adnod i brofi'r pwnc, a rhoi'r cyfleustra felly i'r gwleidyddwr i brofi cywirdeb gosodiadau a ffigyrrau'r crefyddwr.

Nid dyma'r ymgais cyntaf a wnaed i gael allan y ffigyrau. Yn 1669, gyrrodd Archesgob Caergaint orchymyn allan i'w glerigwyr gyfrif yr Ymneillduwyr,—fel y gwnaeth Esgob Bangor yn ei esgobaeth yntau ymhen can mlynedd wedi hynny. Yn 1675, gyrrodd yr enwog Henry Maurice, gweinidog Anibynwyr Sir Frycheiniog, grynhodeb o ystadegau'r Ymneillduwyr yng Nghymru i Mr. Edward Terrill ym Mryste. Yn 1772 a 1776, gwnaeth y Parch. Josiah Thompson, gweinidog llafurus gyda'r Bedyddwyr, ymgais cyffelyb i eiddo Dr. John Evans yn 1715, i ddarganfod nerth Ymneillduaeth y deyrnas, ac i gyffelyb amcan, sef er mwyn sicrhau hawliau dinesig pellach i'r Ymneillduwyr drwy ddangos eu nerth gwleidyddol. Heb fynd i feichio'r tudalennau hyn â phentwr o ffigyrrau—mae'r ol o'r ystadegau uchod eto ar gael, rhai mewn argraff ac eraill mewn hen lawysgrifau—digon yw dweyd yma ei bod yn amlwg i'r neb a gymero'r drafferth o'u cymharu'n ofalus â'u gilydd, eu bod, er yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd mewn rhai manylion (yn gymaint a'u bod wedi cael eu cymeryd ar adegau a than amgylchiadau gwahanol), eto yn gyson â'u gilydd. Mae ffigyrrau Dr. John Evans yn ffitio yn naturiol i'r gyfres; yn cael eu hategu gan dystiolaeth gadarnhaol ystadegau casgledig blaenorol, gan ffeithiau Swyddfa'r Cofnodion, gan gofnodion Cymanfaoedd Bedyddwyr Cymru, gan yr hyn a wyddis—ac a brofwyd yn y bennod hon—am sefyllfa a chynnydd Ymneillduaeth Cymru, a chan ddadblygiadau gwleidyddol y cyfnod, yn ogystal a chan ystadegaeth cyfnod diweddarach. Rhaid ennill a dymchwelyd y rhagddiffynfeydd hyn y naill ar ol y llall, cyn y gellir ymosod yn llwyddiannus ar ddilysrwydd ystadegaeth Dr. John Evans. A phan welir rhai yn ceisio gwneud hynny mewn anwybodaeth o wir gysylltiadau hanesyddol yr achos, teimlwn wiredd y dywediad, "Fools rush in where angels fear to tread."

Pan feddyliodd Ymneillduwyr yr oes honno am y cynllun hwn i argyhoeddi'r gwleidyddwyr, trodd eu meddyliau yn naturiol at y Cymro Dr. John Evans, fel yr un cymhwysaf yn y deyrnas i ymgymeryd a'r gorchwyl,—am y rheswm ei fod eisoes wedi treulio blynyddau i gasglu ffeithiau am hanes a safle Ymneillduaeth. Bwriadai gyhoeddi gwaith mawr a safonol ar Hanes Ymneillduaeth, a chasglodd doraeth o ddefnyddiau gwerthfawr gyda'r amcan hwnnw. Ar ei farwolaeth gwasgarwyd cyfran helaeth o'r llawysgrifau amhrisiadwy hynny, er fod llawer o honynt eto yn aros. Yn Llyfrfa'r Dr. Daniel Williams yn Llundain ceir rhai o honynt, ac yn eu plith "Collections for the History of Nonconformity and Nonconformists in England from the reign of Henry VIII. to that of Charles I., inclusively, by John Evans, D.D." Cyfeiria'r llawysgrifau hyn at amryw lawysgrifau eraill oedd wedi cael eu casglu yn ofalus at y gwaith, ond nas gwyddis yn awr pa le y maent. Gwyddis, er hynny, fod rhai o honynt wedi syrthio i ddwylaw'r Parch Daniel Neal, ac i hwnnw, ar ol marwolaeth Dr. John Evans, wneud defnydd o ysgrifau ei gyfaill, ond heb eu cydnabod, yn ei History of the Puritans.[1] Mab i ddyn nid llai enwog yn ei gylch oedd Dr. John Evans. Yr oedd Ymneillduaeth a'i hawliau yn ei waed o ochr ei dad, ac wedi dod yn rhan o'i natur wrth sugno bron ei fam. Gweddw Vavasor Powell, ac ail wraig John Evans, olynydd Ambrose Mostyn fel gweinidog yr Anibynwyr yng Ngwrecsam, oedd ei fam. Yr oedd ei dad yn un o'r pregethwyr teithiol dan ddeddf Cromwell i Efengyleiddio Cymru. Distawyd ef gan Ddeddf Unffurfiaeth yn 1662. Dioddefodd lawer am ei Ymneillduaeth. Digiodd Esgob Lloyd, Llanelwy, wrtho am wrthod rhoi Eglwys Anibynnol Gwrecsam i fyny a derbyn bywoliaeth Eglwysig ganddo ef. Gosodwyd dirwyon trymion arno am ei Ymneillduaeth, a gyrrwyd gwysiau liaws allan i'w erbyn. Ond ni thalodd yr un ddirwy erioed, ac ni ddaliwyd ef ond unwaith! Bu drws ei dy yn gloedig am flynyddau rhag i'r atafaelwyr gymeryd meddiant o'i eiddo! Ac yn y cyfnod hwnnw (1680) y ganwyd yr ystadegydd Dr. John Evans. Cafodd ei addysg o dan yr enwog James Owen yn yr Amwythig. (Gyda llaw, ei dad, John Evans, Gwrecsam, oedd athraw Huw Owen, Bronyclydwr.) Pan yn 22 oed ordeiniwyd ef yn weinidog yng Ngwrecsam, ac yn 1704 symudodd i Lundain, fel gweinidog cynorthwyol i'r Cymro enwog arall, Dr. Daniel Williams, Gwrecsam gynt; yn 1716, ar farwolaeth Dr. Williams, dewiswyd ef yn brif weinidog yr Eglwys. Ym mlynyddoedd ei weinidogaeth gynorthwyol, cysegrodd ei oriau hamdden at y gwaith o gasglu hanes y bobl—Ymneillduwyr—y perthynai iddynt, a'r egwyddorion dros y rhai y dioddefodd ei rieni.

Dyna'r gwr i ran yr hwn y syrthiodd y gorchwyl pwysig o gasglu ystadegaeth Ymneillduaeth ei oes. Nis gellir edrych dros y llawysgrifau hyn o'i eiddo heb weled profion mynnych o'r gofal a arferwyd a'r cydwybodolrwydd a weithredwyd gan yr ystadegydd. Ceir profion ychwanegol o hyn yn y pethau a ysgrifennodd ei gydoeswyr am dano yn ei fywyd ac ar ol ei farw. Cafodd gynhorthwy parod nifer o bersonau dylanwadol ymhob rhan o'r deyrnas er sicrhau cywirdeb i'w ystadegaeth. Ymhlith eraill a'i cynorthwyodd yng Nghymru cawn Mri. Lewis Lloyd, Barrington, Bendish, a'r Parch. Joseph Stennett, D.D. Mae'n anhawdd penderfynnu i ba raddau yr oedd Daniel Neal yn gysylltiedig âg ef yn yr ymdrech hwn i gasglu ystadegau. Ond pa un ai mewn cydweithrediad â, neu yn anibynnol ar, Dr. John Evans y gweithredai Neal, sicr yw ddarfod iddo yntau hefyd gasglu ffeithiau oddiwrth Eglwysi'r Bedyddwyr—ac mae ei ffigyrrau yntau yn cydgordio, er nad yn hollol yr un fath, ag eiddo Dr. John Evans. Yn llyfrau cofnodion rai o Eglwysi'r Bedyddwyr y cyfnod hwnnw, dywedir fod "cais wedi dod oddiwrth y Llywodraeth am yr ystadegau o'r Eglwys" honno, yr hyn a'i gwna yn dra thebygol fod yr ymchwiliad a wnaeth Mr. Neal yn gwisgo gwedd swyddogol.

Eglura'r pethau uchod y gofal a'r manylwch a gymerwyd gyda'r ystadegau hyn. Eglura, hefyd, paham y rhoddir, yn yr ystadegau hyn, fanylion am safle fydol a chymdeithasol yr Ymneillduwyr, yn hytrach na'u cyflwr ysbrydol—fel y ceisiodd y Cynghorwyr Methodistaidd " wneud ymhen 30 mlynedd wedyn. Er engraifft, gan gymeryd Eglwys yr Anibynwyr yn Abergafenni, dywed fod yno "1 esquire, 16 gentlemen, 7 yeomen, 63 tradesmen, 1 farmer, 7 labourers, 13 votes for the county of Monmouth, 3 for Brecknockshire, 1 for Glamorganshire, 1 for Herefordshire, 23 for the borough of Monmouth, 3 for Bristol, and 3 for Hereford." Am Eglwys y Bedyddwyr yn Cefnhengoed. Sir Forgannwg, dywed fod yno 2 gentlemen, 40 yeomen, 12 tradesmen, 85 farmers, 140 labourers, 20 votes for the county of Glamorgan, 22 for the county of Monmouth, and 60 for the boroughs." Am Eglwys y Presbyteriaid yn Ninbych dywed, "1 member worth between £4000 and £5000, and 3 worth £500 each, the rest tradesmen and farmers, no beggars, 8 votes for the county, and 12 for the borough." Am Eglwys Newmarket, yn Sir Fflint, dywed, 1 member worth between £14,000 and £15,000, 1 vote for the county, and 3 for the borough." Ni cheir yr holl fanylion hyn am bob eglwys. Yn y dyddiau hynny, fel yn ein dyddiau ninnau, yr oedd ambell weinidog neu ddiacon yn fwy parod na rhai o'i frodyr i gymeryd trafferth gydag ystadegaeth ei eglwys. Ond gan gymeryd Sir Fynwy lle y ceir y manylion lawnaf am yr holl eglwysi, gweithiai cyfanrif yr ystadegau allan fel hyn:—

Tri yswain, 58 boneddwr, 285 rhydd-ddaliadwr, 243 masnachwr (neu grefftwr), 234 ffarmwr, 391 labrwr. Gwna hyn gyfanrif o 1214,—ac o'r rhai hyn yr oedd 500 yn meddu pleidleisiau mewn etholiadau seneddol.[2]

Dyrry Dr. John Evans rif y gwrandawyr ymhob eglwys (caf sylwi eto pa beth a olygai wrth wrandawyr"). Gan gymeryd cyfanrif pob sir gweithia allan fel hyn:—

Aberteifi, 1250; Brycheiniog. 1770; Caerfyrddin, 5550; Caernarfon, 250; Dinbych, 440; Fflint, 30; Maesyfed, 2150; Meirionnydd, 150; Morgannwg, 3600; Mynwy, 2991; Penfro, 1400; Trefaldwyn, 420. Gwna hyn gyfanrif i Gymru o ychydig dros 20,000.

Awgryma rhai a fynnent leihau nerth a gweithgarwch Ymneillduaeth y cyfnod, fod Dr. John Evans wedi chwyddo'r ffigyrrau uchod. I'r gwrthwyneb gellir profi, os yw yn gwneud cam â'r ffigyrrau o gwbl, mai ar yr ochr arall y mae yn pechu. Mae hyn yn amlwg oddiwrth y ffeithiau canlynol:—

(a) Yn y rhestr eglwysi ceir rhai heb rifedi o gwbl ar gyfer yr enw. Nid yw yntau yn ychwanegu dim at ei gyfanrif ar gyfer yr eglwysi hynny. (b) Er ei holl ofal, dihangodd rhai eglwysi cryfion heb gael eu cyfrif ganddo o gwbl. Ymhlith y cyfryw gellir nodi Eglwys yr Anibynwyr yn Merthyr, eiddo'r Bedyddwyr yn Argoed, Glandwr, a'r Felindre.

(c) Cywirwyd y ffigyrrau hyn drwy ymchwiliad pellach ymhen tair blynedd, pan gafwyd fod y ffigyrrau wedi chwyddo. Er engraifft, ym Mynwy ceir 3 yswain, 60 boneddwr (yn lle 58), 298 rhydd-ddaliadwr (yn lle 285), 250 masnachwr (yn lle 243), 299 ffarmwr (yn lle 234), 492 labrwr (yn lle 391). Ceir rhif y pleidleiswyr yn 520 (yn lle 500), a rhif y gwrandawyr cyson yn 3911 (yn lle 2991). Ychwanegir hefyd voters for magistrates Monmouth, 8; Usk, 159 Cardiff, 2; Brecon, 1=170,"—a hyn oll yn llawysgrif Dr. John Evans.

(d) Nid yw Dr. John Evans yn cymeryd i fewn i'w gyfrif o gwbl gynulleidfaoedd y Crynwyr, oedd yn dra lliosog ar y pryd yng Nghymru. (e) Deil ffigyrrau'r cynulleidfaoedd unigol a'r siroedd eu cymharu â'r ffigyrrau o Loegr. Er engraifft, dychwelir rhif y gwrandawyr o dref Caer yn unig yn 1000.[3] Cyfrifir Ymneillduwyr Bryste yn 4400, ac eiddo Sir Gaerloyw yn 11,949. O'u cymharu â'r rhai hyn, nid yw'r ffigyrrau a roddir i Gymru yn ormodol, a dweyd y lleiaf, yngwyneb y ffaith fod Ymneillduaeth yn ddiamheuol yn ennill tir yn y Dywysogaeth ar y pryd. Yn awr i symio'r ffeithiau i fyny. Rhif y "gwrandawyr" yn ol ffigyrrau Dr. John Evans yw 20,007. Os cyfrifir y 10 cynulleidfa na ddyrry efe ffigyrrau am danynt, a'r 4 cynulleidfa na chynhwysir yn ei restr, gan roi i bob un o honynt gyfartaledd rhif cynulleidfaoedd eu siroedd eu hunain, ychwanega dros 7500 at gyfanrif Dr. Evans. Cyfrifer eto 3000 i'r Crynwyr yng Nghymru,[4] a daw cyfanrif cynulleidfaoedd cyffredin Ymneillduwyr Cymru yn 30,500.

Codir gwrthwynebiad i'r ffigyrrau hyn gan rai ysgrifenwyr, ar sail y dybiaeth nas gallai poblogaeth yr ardal i'r hon y priodolir yr Eglwys, ddarparu cynifer o bobl. Mae dwyn y fath ymresymiad ymlaen yn bradychu yr anwybodaeth lwyraf am sefyllfa yr achosion Anghydffurfiol yng Nghymru'r dyddiau hynny. Edrycher ar Map 3, a cheir ynddo atebiad digonol i'r wrthddadl ddisail hon.

Hyd yma yr wyf wedi ymdrin â ffigyrau Dr. John Evans yn unig. Buasai'n dda gennyf adael y cwestiwn yn y fan yna. Ond cymhellir fi gan deimlad o ddyledswydd tuagat y byw, ac o barch i goffadwriaeth y marw, i fynd ymhellach i'r mater; ac, am yr unig dro, mi gredaf, ynghorff y gwaith hwn, i gymeryd safle'r dadleuwr yn hytrach na'r hanesydd syml. Eto, fel dadleuydd sylfaenaf fy nadl ar ffeithiau hanesyddol, ac nid ar amcandybiau gwag.

Cyhuddir y diweddar Dr. Thomas Rees, Abertawe, o ddau drosedd pwysig fel hanesydd. Mae'r cyntaf, a'r lleiaf pwysig o honynt, yn ymwneud â'i amcangyfrif ef o rifedi Ymneillduwyr Cymru, seiliedig ar ffigyrrau Dr. John Evans. Rhwng y Crynwyr, a'r eglwysi na cheir ffigyrrau iddynt yn rhestr Dr. Evans, cyfrifa Dr. Rees ganolrif gwrandawyr Cymru yn 27,485. Yr wyf wedi dangos uchod y dylasai fod wedi cyfrif o leiaf 3000 yn rhagor, gan wneud canolrif y gwrandawyr yn, o leiaf, 30,500. Gan gymeryd y 27,485 fel ei safon, amcangyfrifa fod o leiaf 50,000 yn perthyn i deuluoedd Ymneillduol Cymru yn 1715. Yma eto mae Dr. Rees yn rhoi rhy ychydig,—byddai 60,000 yn agosach i'r gwir ffigiwr na 50,000. I brofi hyn edrycher ar ffigyrrau Sir Fynwy eto. Gwelir fod Dr. John Evans yn cyfrif y "gwrandawyr" yn 2991. Ond o'r 2991 hynny ceir 1214 yn oedogion ac yn bennau teuluoedd, ac fel rheol yn wrrywiaid. Edryched y darllenydd ar y gynulleidfa arferol yn ei gapel ei hun, ac yr wyf yn sicr os ca yno 12 yswain, boneddwr, rhydd-ddeiliad, ffarmwr, masnachwr, crefftwr, ffarmwr, a labrwr" y ca fod yr holl gynulleidfa, yn cynnwys gwragedd a phlant, rhai dan oed, a morwynion, yn gryn dipyn mwy na 29,—ac o ganlyniad rhaid fod 1214 o'r dosbarthiadau hynny yn golygu cynulleidfa o gryn dipyn mwy na 2991. Mae yn dra amlwg felly na chymerwyd y plant, o leiaf, i ystyriaeth ynghyfrif Dr. John Evans. Ond beth am y gwasanaethyddion? O'r 1214 uchod yr oedd 823 yn y cyfryw sefyllfa ag a olygai eu bod yn cadw gweision a morwynion. Oh!" medd y gwrthddadleuwr, "nid oedd neb ond y gwyr mawr, y cyfoethogion, pobl mewn sefyllfa fydol dda, yn mynychu capeli'r Ymneillduwyr yn y dyddiau hynny!"—a thybia ei fod wedi setlo'r cwestiwn felly. Ond os edrychir ar y ffigyrrau, gwelir fod 391 o'r 1214 (neu rhwng y drydedd a'r bedwaredd ran o'r oll) yn labrwyr." A syrthia'r wrthddadl i'r llawr. Eto os ceir 29 yn rheolaidd yn y capel ar y Sul, gellir cyfrif fod yr holl gynulleidfa, pe y ceid hwynt gyda'u gilydd ar yr un pryd, yn debyg o fod o leiaf yn 58;—ac felly fod y 30,500 yn debyg o fod yn cynrychioli 61,000. O edrych felly ar amcangyfrif Dr. Rees, sef 50,000, gorfodir ni i ddod i'r casgliad, os troseddodd yn erbyn y gwirionedd o gwbl, mai nid mewn gormodiaeth, eithr trwy roi amcangyfrif rhy isel y troseddodd.

Deuwn yn nesaf at gyhuddiad llawer mwy difrifol, ond un ag y bydd, a dweyd y lleiaf, yn llawn mor rhwydd i'w wrthbrofi. Sylwedd y cyhuddiad hwn yw fod Dr. Rees yn wirfoddol wedi cyfnewid pennawd un o golofnau ystadegaeth Dr. John Evans gyda'r bwriad pwyllog (deliberate intention) o gamarwain y cyhoedd, a rhoi iddynt gamargraff am wir sefyllfa Ymneillduaeth ddechreu'r 18fed canrif. Anhawdd fuasai dwyn cyhuddiad mwy difrifol yn erbyn unrhyw un yn hawlio safle fel hanesydd. I'r neb a adwaenai Dr. Rees,—a chefais er yn blentyn yr anrhydedd o fod mewn cysylltiad agosach na'r cyffredin âg ef—ymddengys y fath gyhuddiad yn chwerthinllyd. Nid wyf yn dweyd fod Dr. Rees yn anffaeledig, na phob amser yn gywir, fel hanesydd. Credaf ei fod wedi camgymeryd droion. Gwn pe cawsai weled rhai o'r hen lawysgrifau a fu yn fy nwylaw i, na fuasai wedi ysgrifennu rhai pethau a geir yn ei Hanes Anghydffurfiaeth yng Nghymru ac yn Hanes yr Eglwysi Anibynnol. Tybiaf na roddodd bob amser i'r Bedyddwyr, er engraifft, yr hyn oedd yn ddyledus iddynt. Gwn iddo roi i'r Methodistiaid cyntefig fwy nag oedd yn ddyledus iddynt hwy. Edrychai, o bosibl, weithiau ar ffeithiau ac amgylchiadau nid yn gymaint â llygad syml yr hanesydd ag a wnai drwy wydrau yr Anibynnwr—a dichon fod lliw yr enwad weithiau ar y gwydrau hynny. Ond wedi dweyd hyn, dywedwyd y gwaethaf a allesid byth ei ddweyd am Dr. Rees, Abertawe. Ymddengys yn anhygoel i bawb a'i hadwaenai, y gallai yn fwriadol ac mewn gwaed oer, fod wedi cyfnewid ystadegaeth gyda'r amcan pwyllog o dwyllo a chamarwain. Yr wyf yn pwysleisio'r amcan a gyfrifir i Dr. Rees yn yr hyn y dywedir iddo wneud, gan mai yn yr amcan a briodolir iddo y gorwedd holl fryntni a gwenwyn y cyhuddiad. Gallasai'r hanesydd mwyaf gofalus syrthio i gamgymeriad trwy amryfusedd, ond mae yn gofyn safon moesoldeb isel iawn mewn dyn cyn y bydd yn euog o gyfnewid ffeithiau neu ffigyrrau gyda'r amcan o dwyllo. Mae'r mater mor bwysig fel y maddeuir imi am ddyfynnu geiriau hanfodol y cyhuddiad.

"Pennawd y bumed golofn yn llawysgrif Dr. John Evans yw 'rhif y gwrandawyr' (number of hearers), ac amlwg yw y cyfrifa pawb y gellid mewn unrhyw ffordd edrych arnynt fel yn perthyn i gynulleidfaoedd yr Ymneillduwyr. Ond y mae Dr. Rees, yn rhyfygus, ac heb awgrymu ei fod yn gwyro oddiwrth y gwreiddiol, wedi newid y pennawd i 'canolrif y rhai presenol' (average attendance). Gwel y cyfarwydd ar unwaith pa mor bwysig yw y newidiad hwn. Rhifai Dr. John Evans bawb a wrandawent gyda'r Ymneillduwyr, er na fyddent oll yn bresennol hyd yn oed pan fyddai y gynulleidfa fwyaf; ond ystyr 'canolrif y gwrandawyr' yw nifer y rhai presennol pan na fydd y gynulleidfa nac yn fach nac yn fawr. Gwyddai Dr. Rees yn dda ei fod yn gwyrdroi'r cyfrif er gwneud rhif yr Ymneillduwyr yn ddwbl yr hyn ydoedd. Gwyddai Dr. Rees yn drwyadl pa mor bwysig, a pheth oedd ystyr y cyfnewidiad a wnelai yn y pennawd, oblegid brysia i fanteisio ar y camwri a gyflawnodd, trwy ddweyd nad yw canolrif y presenolion un amser yn fwy na hanner rhif y gwrandawyr; felly y rhaid fod nifer yr Ymneillduwyr yng Nghymru pan wnaed y cyfrifiad yn ddwbl yr hyn a geir yn y daflen. Y mae yn wir ofidus fod gweinidog yr efengyl o safle barchus, ac un a ystyrrid yn gyffredin yn hanesydd gofalus, wedi ymostwng i gyflawni gweithred anonest, yr hon yn ddiddadl a fwriedid i gamarwain."[5]

Mae yn amlwg i bob dyn ystyriol na ddylesid dwyn cyhuddiad mor ddifrifol a hwn, yn enwedig yn erbyn gwr o safle Dr. Rees, ond ar y seiliau cadarnaf a mwyaf diamheuol, ac ar ol yr ymchwiliad mwyaf manwl a gofalus i'r holl amgylchiadau.

Yn awr, mewn ymdeimlad llawn o bwysigrwydd yr hyn wyf yn ei ddweyd, ac ar ol ymchwiliad personol, manwl, a gofalus, i'r holl ffeithiau cysylltiedig a'r mater, yr wyf yn dod i'r penderfyniad,

1. Ei bod heb ei brofi eto (not proven), ac o bosibl yn amheus, a gyfnewidiodd Dr. Rees y pennawd o gwbl.
2. Os cyfnewidiodd y pennawd, gwnaeth hynny nid gyda'r amcan o dwyllo, ond er symud camargraff posibl oddiar feddwl y ddarllenydd.
3. Ei bod tuhwnt i unrhyw amheuaeth mai gwrandawyr rheolaidd neu gyson (yr hyn, meddir, a aralleiria Dr. Rees yn ganolrif presenoldeb) a olygai Dr. John Evans wrth "Y gwrandawyr" (Hearers) ar ei daflen.
4. Y dylasai, ac y gallasai, y neb a ddygodd y cyhuddiad yn erbyn Dr. Rees, fod wedi darganfod yr hyn a nodir yn y tri pharagraff uchod.
5. Ei bod yn dra thebygol fod tystiolaethau yn profi dieuogrwydd Dr. Rees wedi bod yn nwylaw ei gyhuddwr,—a'i bod yn sicr fod y tystiolaethau hynny wedi bod o fewn ei gyrraedd.

Mewn geiriau eraill, yr wyf yn galw ar Lys y Farn Gyhoeddus i ryddhau Dr. Rees, ac i osod ei gyhuddwr yn y dock yn ei le, ar y cyhuddiad difrifol (a) o ddwyn cyhuddiad disail yn erbyn Dr. Rees, a (b) o esgeulusdod beius ac anesgusodol fel hanesydd, wrth beidio chwilio'r holl amgylchiadau cysylltiedig a'r achos cyn dwyn y cyhuddiad. Bydd gennyf air personol ag ef yn nes ymlaen ar fater ac amgylchiad arall, pan y syrthiodd i gyffelyb amryfusedd o esgeuluso chwilio am, neu anwybyddu ffeithiau noeth oeddynt yn eglur o dan ei lygad. Ond â mater Dr. Rees y mae a fynnom ar hyn o bryd, a dywedaf fod ei gyhuddwr wrth gloddio pydew i'r Doctor, wedi syrthio iddo ei hunan.

Modd y deallo'r darllenydd yr amgylchiadau dylai wybod,

(a) Fod tri chopi gwreiddiol o ystadegaeth Dr. John Evans ar gael rai blynyddoedd yn ol.
(b) Nad oes ond dau o'r tri hynny ar gael yn awr.

Er mwyn profi ei gyhuddiad yn erbyn Dr. Rees, mae'r cyhuddwr yn rhoi facsimile o un tudalen yn un o gopïau gwreiddiol Dr. John Evans, ond

(c) Tebyg yw mai nid o'r copi hwnnw y cododd Dr. Rees yr ystadegau.

Prin mae angen cymeryd gofod nac amser i brofi (a) a (b). Mae'r profion ar y wyneb i'r neb a gymero'r drafferth i chwilio yn Llyfrfa Dr. Williams yn Llundain. Ar yr un pryd gan y dichon rhai na fedrant ymweled â'r Llyfrfa wybod y ffeithiau, rhoddaf hwynt yma. Yn Llyfrfa Dr. Daniel Williams, ymhlith toraeth o hen lawysgrifau amhrisiadwy, ceir adran neillduol a adwaenir fel III. Records of Nonconformity and Dissenting Institutions." Mae'r cofnodau hyn wedi eu rhifnodi fel hyn:—

No. 1—3. Minutes of the Sessions of the Assembly of Divines (gwel tudal. 91.)

No. 4. An Essay or Enquiry into the State of Nonconformists in England and Wales, A.D. 1717 (say 1715), &c.

No. 5. The State of the Dissenting Interest in the Several Counties of England and Wales in the years [1715 and 1716, and again taken 1772 and 1773. Part I.] 1715 and 1773.

No. 6. A State of the Dissenting Interest in the Several Counties of England and Wales, begun to be collected October 1772.

Nos. 7—11. A Collection of Papers containing an Account of the Original Foundation of some hundred Protestant Dissenting Congregations, the succession of their Pastors, &c.

Mae eraill yn y gyfres. Ond dengys yr uchod eu natur. Yn ychwanegol at y casgliad uchod, mae casgliad a adwaenir fel "The Mill Yard Collection" o hen lawysgrifau. Yn Nghasgliad Mill Yard ceir, "An Essay or Enquiry into the State of Nonconformity in Wales, A.D. 1717 (say 1715). The Number of Ministers. Candidates and Teachers, Their Ordinations, Their Several Denominations. The Number of their Hearers and Freeholders, &c., &c.

Ymddengys mai'r "No. 4" uchod, a'r olaf, yw'r ddau gopi gwreiddiol sydd yn awr ar gael o ystadegaeth 1715.

Mae "No. 5" uchod yn cynwys copi o ystadegaeth 1715, gydag ychwanegiad yn cynnwys ystadegaeth 1772. Am hwn (No. 5) ysgrifenna'r Llyfrydd yn y Catalogue Llawysgrifau fel hyn:

"Mae y rhestri cyntaf, 1715-16 yn cytuno yn gyffredinol a'r rhai geir yn No. 4 (rhestri Dr. John Evans); ond gwahaniaethant gymaint mewn rhai manylion fel ag i ddangos na chodwyd hwynt (No. 5) o No. 4 (rhestri Dr. John Evans) nac o gopi gwreiddiol Mill Yard 1717. . . Rhaid felly fod trydydd copi o'r Llawysgrif gwreiddiol wedi bodoli, wedi ei gasglu o gyffelyb ffynonellau, ond nas gwyddis yn awr pa le y mae."

Dyna brofi (a) a (b), tu hwnt i amheuaeth.

Cadarnheir y gosodiad (c) gan y ffaith fod yr ystadegau a roddir gan Dr. Rees yn ei "Hanes Anghydffurfiaeth yng Nghymru," yn gwahaniaethu mewn nifer o amgylchiadau oddiwrth y copi o'r hwn y cymerwyd y facsimile[6]. (No. 4 uchod.) Nid yw'r gwahaniaethau hyn yn gyfyngedig i unrhyw un sir, nac i unrhyw un dosbarth o ffeithiau. Ceir enwau lleoedd yn wahanol, hynny yw, lleoedd yn cael eu henwi yn y naill heb fod yn y llall; dau le yn cael eu cysylltu gyda'u gilydd yn llyfr Dr. Rees, ond yn cael eu rhoi ar wahan yn llawysgrif Dr. John Evans; personau yn cael eu nodi fel yn fyw yn y naill, ac yn farw yn y llall; enwau gweinidogion yn gynwysedig yn y naill ac allan o'r llall; llythyren ddynodiadol yr enwad yn gwahaniaethu; y ffigyrrau sy'n dangos rhif a safle gymdeithasol y pleidleiswyr yn gwahaniaethu. Nid oedd eisieu llawer o ymchwiliad na manylwch i ganfod y gwahaniaethau hyn; mae rhai ohonynt yn amlwg hyd yn oed ar y dudalen a roddir mewn fac simile i brofi'r cyhuddiad! Hyd yn oed ar y ddalen honno, un o'r siroedd lle y gwahaniaetha Dr. Rees leiaf oddiwrth No. 4, ceir gwahaniaeth rhwng facsimile Y Tadau Methodistaidd a chopi Dr. Rees mewn tair allan o'r pum colofn, sef:—

i. Llythyren yr Enwad;
ii. Rhestr y Gweinidogion, a
iii. Y Pleidleiswyr.

Os ceid hyn mewn sir lle na roddid ond chwech llinell, oni ddylasai agor llygad y cyhuddwr i'r posibilrwydd ei fod yn camgymeryd ei hunan? Petae wedi edrych ymhellach, dyweder i Sir Fynwy, caffai yn y sir honno yn llawysgrif y facsimile (No. 4 uchod) restr o 15 o leoedd. O'r 15 hyn gwahaniaetha Dr. Rees oddiwrth y llawysgrif mewn chwech o'r lleoedd hynny, ac yn y naill neu'r llall o bob un o'r pum colofn. Gwahaniaetha

i. Yn enwau'r lleoedd;
ii. Yn nhrefn y lleoedd a'u cysylltiad â'u gilydd;
iii. Yn enwau'r gweinidogion;
iv. Yn nghyfeiriad y gweinidogion;
v. Yn rhif y gwrandawyr;
vi. Yn nosbarthiad a rhifedi'r safle gymdeithasol.

Ni pherthyn imi i esbonio paham y rhoddodd y cyhuddwr facsimile o restr Sir Frycheiniog, lle mae'r gwahaniaeth rhwng y cyfrif a roddir ag eiddo Dr. Rees yn gydmarol fychan a dibwys, er yn ganfyddadwy, yn hytrach na rhoi facsimile o restr Sir Fynwy, neu un o'r siroedd eraill lle roedd y gwahaniaeth rhwng cyfrif Dr. Rees a'r facsimile yn amlwg i bawb. Ond modd y gwelo'r darllenydd drosto ei hun, gwahaniaetha restr Dr. Rees, yn y naill neu'r llall o'r colofnau, oddiwrth Copi No. 4, o'r hwn y cymerwyd y facsimile ac ar sail yr hwn y dygir y cyhuddiad brwnt i'w erbyn, ymhob sir fel hyn Yn sir

ABERTEIFI gwahaniaetha Dr. Rees mewn 2 linell allan o'r 3 roddir yn No. 4
BRYCHEINIOG " 2 " 6 "
CAERFYRDDIN " 5 " 13 "
CAERNARFON " yn yr unig linell roddir i'r sir "
DINBYCH " 2 " 3 "
FFLINT " yn yr unig linell a roddir yn "
Mae MEIRION a MON yn ymarferol yr un peth yn y ddau
MAESYFED " 2 " 6 "
MORGANNWG " 5 " 13 "
MYNWY " 6 " 15 "
PENFRO " 4 " 5 "
TREFALDWYN " 2 " 4 "


Felly, allan o'r 69 llinell yn y copi o'r hwn y cymerodd y cyhuddwr y facsimile i brofi ei gyhuddiad yn erbyn Dr. Rees, mae'r cyhuddedig yn gwahaniaethu mewn 32, neu yn agos i hanner yr holl linellau. Profa hyn nid, fel y dywed ei gyhuddwr, ei fod yn euog o gyfnewid pennawd un golofn o'r ystadegaeth, ond mai nid o'r copi hwnnw y cododd yr ystadegaeth. Y casgliad nid anaturiol yw fod Dr. Rees wedi dod o hyd i'r trydydd copi sydd ar goll, ac mai o hwnnw y cymerodd efe ei ystadegaeth. O leiaf hyd nes ceir y copi o'r hwn y cymerodd efe yr ystadegaeth, nis gellir ei gyhuddo, chwaethach ei brofi yn euog, o gyfnewid pennawd y golofn o gwbl.

Ond hyd yn oed a chaniatau, er mwyn dadleu'r cwestiwn, fod Dr. Rees wedi cyfnewid geiriad y pennawd, erys eto i'w brofi ei fod yn euog o wneud hynny gyda'r amcan o dwyllo. Ond, yn ffodus, mae'r profion yn anwrthwynebol mai nid camarwain, eithr rhoi i'r pennawd yn ei lyfr yr ystyr a fwriadai Dr. John Evans ei roi iddo yn ei ysgrif, a'r ystyr a gymerai cydoeswyr, ac olynwyr Dr. John Evans yn y ganrif honno, a wnaeth Dr. Rees.

Modd y deallo'r darllenydd hyn eto, sylwed mai:—

I. Yr ystyr a ddyrry'r cyhuddwr i'r gair "gwrandawyr" yn ystadegau Dr. John Evans yw pawb sy'n dal unrhyw gysylltiad â'r achos, hyd yn oed pe na fyddent bresennol mewn cyfarfod o ddechreu blwyddyn i'w diwedd. (Gwel y cyhuddiad tudal. 214.)

II. Yr ystyr a roddir gan Dr. Rees i'r gair "gwrandawyr" yn ystadegau Dr. John Evans, yw canolrif presenoldeb yn y cyfarfodydd, neu mewn geiriau eraill, y nifer a allesid disgwyl eu gweled yn gyson yn y cyfarfodydd; neu, yngeiriau'r cyhuddwr, "nifer y rhai presennol pan na fydd y gynulleidfa nac yn fach nac yn fawr."

Try yr holl gwestiwn ar pa un o'r ddau hyn sydd yn iawn, hynny yw, ar yr ystyr a roddid gan ystadegwyr y cyfnod i'r gair hearers neu wrandawyr. Sylwyd eisoes (tud. 210) fod y Parch. Daniel Neal wedi casglu ystadegau yr un amser a Dr. John Evans, a'i fod wedi defnyddio ffeithiau a gasglwyd gan ei gyfaill yn ei lyfr ei hun. Ceir yn ysgrifau Mr. Neal drosodd a throsodd gyfeiriad at "stated hearers,"—a chofier fod "stated hearers" Mr. Neal, i bob diben ymarferol, yn cydgordio o ran rhifedi â "hearers" Dr. John Evans. Mae yn canlyn felly, o angen—rheidrwydd, fod "hearers" Dr. John Evans yn golygu yr un peth a "stated hearers" Mr. Neal.

Y cwestiwn nesaf i'w benderfynnu yw, beth a olygir wrth "stated hearers." Gadewch ini weled. Mewn hen lawysgrif[7] o'r cyfnod hwnnw, yn ymwneud a chyffelyb ffeithiau ag yr ymdriniai Dr. John Evans â hwynt, ceir a ganlyn:—

"Causes. The influence of the Test Act, by which all persons that enjoy places of profit or trust under the Government or in particular corporations are obliged to take the Sacrament in the Church of England. This has been a snare to many among the Dissenters, whereby they have been drawn from occasional to STATED communion." Hynny yw, mai effaith Deddf y Prawflwon oedd temtio Ymneillduwyr, yn lle bod yn gymunwyr achlysurol yn yr Eglwys, i fod yn gymunwyr cyson yno. Ystyr stated, yn y cysylltiad hwn, yn ddiamheuol yw cyson.

Eto, wrth son am y pregethwyr, dywedir:—

"As to the young men that are trained up to the ministry, or that are Occasional preachers, they are all of the same stamp with the STATED ministers."

Hynny yw, gwahaniaethir rhwng y pregethwyr achlysurol a'r gweinidogion rheolaidd. Felly, ystyr y gair stated yn y cysylltiad hwn eto, yw cyson neu rheolaidd o'i gyferbynnu ag achlysurol.

Yn ei waith llafurus ac enfawr y cymerodd dros 30 mlynedd i'w gasglu, ac sydd eto ar gael mewn llawysgrif yr awdwr ymroddedig, dywed y Bedyddiwr galluog y Parch. Josiah Thompson, wrth gyfeirio at ffigyrrau Mr. Neal, yn 1715—y rhai, fel y dywedwyd eisoes, ydynt yn ymarferol yr un a ffigyrrau Dr. John Evans—ei fod yn rhoi rhifedi'r "individuals that STATEDLY attended public worship," yn 1715.

Yn awr, os mai cymunwyr cyson o'u cyferbynnu a chymunwyr achlysurol, yw "stated communicants;" os mai gweinidogion cyson a rheolaidd o'u cyferbynnu â phregethwyr achlysurol yw "stated ministers;" onid yw yn canlyn o angenrheidrwydd mai gwrandawyr cyson a rheolaidd, ac nid rhai achlysurol, neu rhai ddont ar amgylchiadau eithriadol, yw "stated hearers?" A phrofwyd eisoes mai yr un yw "Hearers" Dr. John Evans a'r stated hearers" hyn. Os na chafodd Dr. Rees y geiriau "Average Attendance" yn y copi gwreiddiol o'r hwn y cododd yr ystadegaeth (ac mae hyd yn oed y cyhuddiad hwnnw, fel y danghoswyd, yn aros eto heb ei brofi), mae yn amlwg y byddai yn anhawdd iddo gael brawddeg a osodai allan i ddarllenwyr yr oes hon, yn fwy cywir a dealladwy yr hyn a fwriadai Dr. John Evans ei gyfleu i'w gydoeswyr ef, na'r geiriau "Average attendance." Gallesid ychwanegu lluaws o brofion cyffelyb o weithiau ac ysgrifau y cyfnod hwnnw. Ceir Josiah Thompson dro ar ol tro wrth gyfeirio at ystadegau 1715, yn son am y gwrandawyr fel "stated hearers," fel "the number that usually attend," ac hyd yn oed fel "Average attendance."

Wrth son am gynulleidfaoedd eraill dywed Mr. Thompson:—"Russendale—has about 300 stated hearers."

Wrth son am gynulleidfaoedd Sir Fynwy dywed,—"The following is an account received March, 1773, of the ministers and number of Auditors that usually attend at the Several Dissenting Meeting Houses." Wrth roi'r rhestr am Lundain, dywed "The names of the voters for members of Parliament who usually attend in the congregation, &c."

Mewn gair amhosibl yw edrych gydag unrhyw radd o fanylwch dros ysgrifeniadau ystadegol y cyfnod heb ddod i'r penderfyniad diamheuol fod "Hearers" Dr. John Evans, "Stated Hearers" Daniel Neale, "Those that usually attend" Josiah Thompson, ac "Average Attendance" Dr. Rees, Abertawe, oll yn frawddegau cyfystyr.

Gellid ychwanegu. Ond a oes angen? Credaf na fuasai angen cymaint a hyn o eglurhad pe gwnaethid y cyhuddiad pan oedd Dr. Rees yn fyw, neu pe ceid gafael yn yr ysgrif a ddefnyddiodd efe.

Ond gan nad beth am hynny rhaid i bob meddwl diragfarn mwyach ddwyn dedfryd o "DDIEUOG" yn yr achos yn erbyn Dr. Rees,—a gresynnu fod cyhuddiad mor frwnt wedi cael ei ddwyn yn ei erbyn ar seiliau mor wan, ac, mor bell ag y gallwn farnu, heb i'r cyhuddwr gymeryd unrhyw drafferth i chwilio i fewn i wir amgylchiadau'r achos:—a gwaeth, efallai, na'r cwbl, fod yr ymosodiad haerllug wedi cael ei wneud pan nad oedd y cyhuddedig yn fyw i amddiffyn ei hun!

B. G. E.

Nodiadau

  1. Am y profion o'r cyhuddiad hwn gwel "Catalogue of MSS., No. 14," yn Llyfrfa Dr. Williams, a nodiad Dr. William Harris i'w bregeth angladdol i Dr. John Evans, a Wilsons' Hist. and Ant. II. Cyn dod o hyd i'r defnyddiau hyn, cyfnod arall yn hanes Puritaniaeth y bwriadai Neal ymdrin ag ef.
  2. Yr oedd ffeithiau fel hyn yn llawer mwy tebyg o argyhoeddi'r gwleidyddwyr nag a fuasai dweyd pa nifer oedd "dan y ddeddf," "dan draed amheuon,' yn ddyfal geisio," neu "wedi eu cyfiawnhau." Mewn gwirionedd, yr oedd amcan ystadegaeth Dr. John Evans mor hollol wahanol i eiddo adroddiadau "Y Cynghorwyr Methodistaidd " 30 mlynedd wedi hynny, fel mai ynfydrwydd neu blentyneiddiwch yw ceisio cymharu'r naill a'r llall. Byddai yr un mor rhesymol cymharu adroddiad blynyddol capel Ymneillduol heddyw a'r cofrifiad mae'r Llywodraeth ar fedr ei gymeryd o boblogaeth y deyrnas!
  3. Nid yw'r cyfrif hwn yn ormodol pan edrychir arno yngoleuni'r ffeithiau dyddorol ysgrifenodd yr enwog Matthew Henry yn Llyfr Cof—nodion ei Eglwys yng Nghaer. Ac os yw 1000 yn rhesymol am dref Caer, nid yw 3000 yn afresymol am holl sir Fynwy.
  4. Dyna amcangyfrif Dr. Rees, a gadawaf iddo sefyll, er ei bod yn amlwg i'r neb a astudia hanes y cyfnod yn ofalus, fod y rhif yn rhy isel.
  5. Y Tadau Methodistaidd, Parch. John Morgan Jones, Cyf. i., tud. 16.
  6. Y Tadau Methodistaidd, cyf. i., tudal. 15.
  7. A View of the Dissenting Interest in London, of the Presbyterian and Independent Denominations from the year 1695 to the 25th Dec. 1731, with a Postscript of the present state of the Baptists.