Neidio i'r cynnwys

Diwygwyr Cymru (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Diwygwyr Cymru (testun cyfansawdd)

gan Beriah Gwynfe Evans

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Diwygwyr Cymru
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Beriah Gwynfe Evans
ar Wicipedia

"OFNER NAD OFNO ANGAU."

——————

DIWYGWYR CYMRU,



SEF

YMCHWILIAD HANESYDDOL I DDECHREUAD YR ENWADAU

YMNEILLDUOL, A'I BRWYDRAU DROS RYDDID

CYDWYBOD,



GAN

BERIAH GWYNFE EVANS.



——————

ARGRAFFIAD CYNTAF-UGAIN MIL.

——————



CYHOEDDEDIG GAN YR AWDWR, CAERNARFON,

AC I'W GAEL HEFYD GAN Y BRODYR ROBERTS, CAERDYDD,

A'R ARGRAFFYDD, GWENLYN EVANS, CAERNARFON.

1900.


PRIS PEDWAR SWLLT.

Y CYFLWYNIAD.



I GOFFADWRIAETH Y DIWEDDAR
BARCH. EVAN EVANS, NANTYGLO,


YNTAU YN UN O DDIWYGWYR CYMRU MEWN LLEN, MOES, A CHREFYDD,
YN UN O FETHODISTIAID MWYAF ANIBYNNOL, AC O ANIBYNWYR MWYAF
METHODISTAIDD EI OES, Y CYFLWYNIR Y GWAITH HWN, GAN
—EI FAB, YR AWDWR.

1 Mai, 1900.

RHAGYMADRODD.

O bosibl mai nid hwn yw'r llyfr a ddisgwyliai rhai ei gael. Mynnai rhai imi roi hanes llawn pob enwad; ond gofynnai hynny nid cyfrol, ond cyfres. Mynnai eraill imi roi hanes personol pob Diwygiwr, neu hanes pob Eglwys unigol; ond golygai hynny nid llyfr, ond llyfrfa!

Tri amcan mawr y sydd i'r llyfr hwn, sef:—

1. Olrhain hanes dechreuad y Pedwar Enwad Ymneillduol;

2. Adrodd hanes eu brwydrau am Ryddid Gwladol a Chrefyddol; a

3. Dangos Diwygwyr Cymru, nid fel unigolion, ond yn eu perthynas hanfodol â'u gilydd.


Dyna'r tri nôd a geisiais eu cadw o'm blaen wrth ysgrifennu'r llyfr. Barned y darllenydd a gyrhaeddais hwynt.

Wrth ymgyrraedd at y tri nod, ceisiais weithredu oddiar dair egwyddor, sef:—

1. Peidio gwyro barn er mwyn Plaid nac Enwad;

2. Rhoi'r gwirionedd hanesyddol, ai ffafriol ai anffafriol a fyddai;

3. Chwilio am dystiolaeth safadwy, nid mewn llyfrau a gyhoeddwyd gan eraill, ond hyd oedd yn bosibl mewn llawysgrifau gwreiddiol y cyfnod. Canlyniad gweithredu ar yr egwyddorion hyn yw, fy mod dan orfodaeth i ddweyd rhai pethau y buasai yn dda gennyf beidio eu dweyd; a fy mod yn methu dweyd rhai pethau yr hoffwn, ac y bwriadwn unwaith, eu dweyd,—am fy mod yn cael nad ydynt wir. Gan nad pa fai a ddarganfydda fy meirniaid yn y llyfr hwn, ni fedr neb gyhuddo'r awdwr o gynhyrchu gwaith nad yw, yn ei hanfod, yn ei gynllun, ac yn ei gynnwys, yn hollol wreiddiol. Mor bell ag y mae a fynno'r hanes sydd yn y llyfr, mae yn seiliedig ar ffeithiau hanesyddol profedig, ac nid ar ddamcaniaethau. Mor bell ag y mae a fynno'r casgliadau a dynnir oddiwrth yr hanes, myfi sydd gyfrifol am danynt,—ond credaf fod yr hanes yn eu cyfiawnhau.

Gwn fy mod yn yr hanes, ac yn y casgliadau, yn gwahaniaethu yn fawr oddiwrth y rhan fwyaf o haneswyr blaenorol perthynol i efallai bob enwad yng Nghymru. Ond lle y gwahaniaethaf oddiwrthynt, gellir olrhain y gwahaniaeth i'r ffaith fy mod, ymhob amgylchiad posibl, wedi mynd i lygad y ffynnon am y gwirionedd, yn lle derbyn tystiolaeth ail law, na chymeryd dim yn ganiataol os oedd tystiolaeth wreiddiol yn gyrhaeddadwy.

Gwn yr ymddengys rhai personau a rhai digwyddiadau, yng ngoleuni'r llyfr hwn yn fwy, ac eraill yn llai, nag yr arferid eu cyfrif. Na feier awdwr y llyfr am hynny. Beier yn hytrach y zel, neu'r anwybodaeth, a wnai i ysgrifenwyr eraill ddarlunio corach fel cawr, neu fynnydd fel twmpath morgrug. Nid myfi sydd wedi creu, na phenderfynnu maintioli'r corach na'r cawr, y mynydd na'r twmpath. Nid wyf ond yn unig wedi troi goleuni disglaer gwirionedd hanesyddol arnynt, a galluogi'r darllenydd i'w gweled yn eu golygiant (perspective) cywir,—ac o ganlyniad yn eu maintioli priodol. Na feier fi, ychwaith, os gwelir, yng ngoleuni clir hanes, mai pridd, wedi'r cwbl, yw ambell i ddelw a dybid oedd yn aur coeth drwyddi.

Nid wyf yn disgwyl y cytuna pawb â phopeth a ddywedir yn y llyfr. Yr wyf yn dwyn ymlaen rai ffeithiau rhy newydd, rhai a darawant yn rhy syn ar y meddwl, ac a ddymchwelant o bosibl rai cyfeiliornadau rhy anwyl gan ambell i ddosbarth, imi ddisgwyl cael cymeradwyaeth pawb. Y cwbl a atolygaf yw, ar fod i'r darllenydd, hyd y byddo'n bosibl, glirio ei feddwl o ragfarn, ai personol ai enwadol,—a rhoi ystyriaeth fyfyrgar i'r ffeithiau hanesyddol, profedig gennyf fi, a phrofadwy ganddo yntau, sy'n ffurfio sylfaen yr oll.

Un gair pellach o eglurhad. Gofynnir yn ddiameu paham nad olrheinniwn hanes yr Enwadau ymhellach nag a wnaethum. Yr ateb syml yw nad oedd hynny yn dod o fewn cylch y gwaith. Olrhain hanes y cyfnodau ag yr oedd anwybodaeth, amheuaeth, neu ddadl mewn perthynas iddynt, oedd amcan y gwaith presennol—ac nid ymdrin â chyfnod nad. oes dadl ynghylch ei ddigwyddiadau, ac y dylai, ac y gallai, pawb ymron wybod ei hanes.

Am yr orgraff. dylaswn ddweyd mai eiddo Pwyllgor Orgraff Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, i'r hwn y gweithredodd y Prifathraw John Rhys fel cadeirydd, a'r Athraw John Morris Jones fel ysgrifennydd, a fabwysiadwyd gennyf.

Mae gennyf i gydnabod rhwymedigaeth bersonol i nifer o awdurdodau cyhoeddus, megys eiddo'r Amgueddfa Brydeinig, Llyfrfa Dr. Williams, Swyddfa'r Cofnodion, Llyfrfa'r Neuadd Goffadwriaethol, Llyfrfa Caerdydd, ac eraill, am eu parodrwydd caredig i'm cynorthwyo a'm cyfarwyddo. Dymunwn gydnabod ar wahan iddynt hwy, fy rhwymedigaeth arbennig i awdurdodau Coleg Trefecca, am ganiatau imi gyfleusderau eithriadol i chwilio cynnwys eu casgliad amhrisiadwy o hen lawysgrifau. Yn y cysylltiad hwn, gweddus yw imi nodi fy rhwymedigaeth i Mr. Evan E. Morgan, yr hwn a fu am yn agos i dair blynedd, yn trefnu'r llawysgrifau dros awdurdodau'r Coleg, ac i'r hwn y rhoddasant ganiatad i'm cynorthwyo drwy gopio imi y darnau a ddymunwn o'r hen lawysgrifau.

Ymhlith personau unigol yr wyf dan ddyled bersonol iddynt am gynhorthwy gwerthfawr yn y gwaith, mewn gwahanol gyfeiriadau, gweddus yw imi enwi y Parch. David Young, Macclesfield; y Parch. J. Cadvan Davies a'r Parch. Owen Davies, D.D., Caernarfon; y Parch. George Williams, Llysyfran; yr Athrawon J. E. Lloyd a J. Morris Jones, Coleg Prifysgol y Gogledd; Mr. L. D. Jones, Bangor; Mr. Joshua Evans, Llanelli; llu o gyfeillion caredig am cynorthwyasant i leoli rhai o'r hen Eglwysi a Seiadau a ddanghosir yn y Mapiau; a Mr. Thomas Thomas, Tynywern, heb gymhorth ac anogaeth yr hwn y buaswn wedi diffygio gan faint y gorchwyl cyn hanner ei orffen!

Yr wyf hefyd dan rwymau neillduol i'r llu o gyfeillion caredig ymhob rhan o'r wlad, a'm calonogasant gyda'r gwaith drwy sicrhau i'r llyfr gylchrediad helaethach nag a gafodd unrhyw lyfr Cymraeg o'i bris erioed o'r blaen.

Rhaid hefyd imi gydnabod mewn modd arbennig Mr. Evan E. Morgan, ac Ab Caledfryn, y rhai, y naill yn y Mapiau a'r llall yn y Dangosluniau, mewn celfyddydwaith ragorol a gyfleant i lygad y darllenydd, mewn dull newydd ac addysgiadol, y ffeithiau hanesyddol a gynhwysir yn y llyfr. Dyma'r ymgais cyntaf erioed i bortreadu hanes Crefydd Cymru drwy gyfryngau o'r fath. Am y gofal a'r medr a ddanghosodd y ddau yn y gwaith hwn, mae'r Mapiau a'r Dangosluniau yn dystion byw. Am yr Argraffydd hefyd, gallaf ddweyd na chynhyrchodd y Wasg Gymreig erioed destlusach gwaith nag a geir yn y llyfr hwn.

Byddaf ddiolchgar i'r neb a'm cynorthwya i gywiro, mewn argraffiad arall, unrhyw wallau a all fod yn hwn. Ceisiaf fanteisio ar unrhyw feirniadaeth deg a gonest a wneir ar y llyfr; gallaf fforddio anwybyddu beirniadaeth y sawl na fyn edrych ar y llyfr ond drwy wydrau lliwiedig rhagfarn ddallbleidiol:—gwn y caf bob un o'r ddau.

B. G. E.

Y MAPIAU A'R DANGOSLUNIAU.

Mae y Mapiau a'r Dangosluniau yn y gyfrol hon gan mwyaf yn esbonio eu hunain. Prin yr atebent eu diben pe na wnaent hynny. Eto, gall gair neu ddau o eglurhad gynorthwyo'r darllenydd i ffitio'r allwedd yn y clo.

DARLUNIAU'R GROESWEN (tudal. 9). Dyma gyfres ddyddorol yn dangos olyniaeth apostolaidd un o gynhyrchion sylweddol cyntaf Y Diwygiad. Ceir darluniau o holl weinidogion y Groeswen o 1746 hyd 1900,—ond un, Thomas Williams. Nid oes darlun o hono ef ar gael. Ond trwy garedigrwydd Thomas Griffiths, Ysw., Y.H.. Cymer, galluogir fi i roi darlun o'i garreg fedd, a gafwyd ym mur hen Gapel Anibynnol y Cymer. —ac felly daw ei lais o'r bedd i dystiolaethu mai Anibynnwr ydoedd. Am William Edwards, ceir yn tudal. 332, a 336, brofion newydd na chyhoeddwyd erioed o'r blaen, ei fod yntau nid yn unig yn Anibynnwr, ond hefyd. yn Ymneillduwr Gwleidyddol—Political Dissenter—cyfuniad ag oedd yn atgas gan ganlynwyr Howell Harris.

Y MAPIAU DUON.[1] Cynorthwya y rhai hyn i symud ymaith ddau gamargraff o sefyllfa grefyddol Cymru, a roddir gan ddau ddosbarth gwahanol o haneswyr. Myn y cyntaf ini gredu fod Ymneillduaeth yn gryf yng Nghymru yn nyddiau Cromwell. Dengys y Map I. mai cyfeiliornad yw hyn. Myn yr ail ini gredu fod Cymru yn gorwedd yn nhywyllwch paganiaeth neu Babyddiaeth, hyd nes torrodd y Diwygiad allan yn 1739. Dengys Map III. mai cyfeiliornad mwy fyth yw hyn. Yr oedd Cymru'n ddu iawn pan esgynnodd Siarl II. i'r orsedd yn 1660. Yn 1662 pan drowyd allan y ddwy fil (a hanner), yr oedd ambell lecyn gwyn yng Nghymru. Erbyn 1672 yr oedd y llecynnau hyn wedi gwasgaru ac amlhau cryn dipyn. Erbyn 1739 yr oedd y Bedyddwyr a'r Anibynwyr wedi gweithio mor galed, ac wedi llwyddo mor dda, nes, fel y gwelir ar Map III., fod y tywyllwch du wedi ymron llwyr ddiflannu o rannau helaeth o'r Dywysogaeth.

MAP I. (tudal. 105). Yn dangos effaith Deddf Unffurfiaeth, 1662.

MAP II. (tudal. 121), Yn dangos y lleoedd y rhoddwyd Maddeuebau Siarl II yn 1672.

MAP III. (tudal. 152). Yn dangos Eglwysi a Changhennau'r Bedyddwyr a'r Anibynwyr yn 1739—cyn torri o'r Diwygiad allan.

Y MAPIAU LLIWIEDIG. Mae i'r rhai hyn amcan gwahanol. Dangos cynnydd Ymneillduaeth yng Nghymru yw amcan y tri map cyntaf; dangos perthynas yr Enwadau a'u gilydd yw amcan y tri olaf.

MAP IV. (tudal. 249). Dengys hwn ffrwyth llafur JOHN WESLEY yng Nghymru, a'i gysylltiad a'r "Seiadau " Methodistaidd. Gwelir arno

(a) Y mannau y pregethodd John Wesley yng Nghymru.
(b) Y seiadau a blannodd John Wesley yng Nghymru.
(c) Y capeli a adeiladodd John Wesley yng Nghymru.
(d) Y seiadau a blannwyd a'r capeli a adeiladwyd gan ganlynwyr Wesley yng Nghymru tra bu efe byw.
(e) Yr ardaloedd lle y gweithiodd Wesley, a lle hefyd y sefydlodd y "Methodistiaid" Calfinaidd "Seiadau."


MAP V. (tudal. 265). Dengys hwn YR HOLL SEIADAU "METHODISTAIDD" a blannwyd yng Nghymru gan Howell Harris, Daniel Rowlands, a Williams, Pantycelyn, rhwng 1742 a 1752. Danghosir, hefyd, y berthynas leol rhwng y Seiadau hyn ac Achosion y Bedyddwyr a'r Anibynwyr a fodolent cyn hynny. Gan nas gellid cael i fewn enwau yr holl Achosion Anibynnol a Bedyddiedig, ni roddir yn y Map ond enwau lleoedd y sefydlwyd y Seiadau ynddynt. Ond danghosir, hefyd, drwy arwyddluniau yr Achosion Ymneillduol a gydfodolent â'r Seiadau. Ceir enwau yr Achosion hynny ar Map III. Oddiwrth y Map hwn mae tri pheth yn amlwg, sef:— i. Mai lle yr oedd Ymneillduaeth gryfaf y plannwyd Seiadau amlaf;

ii. Mai rhan uchaf Sir Aberteifi, a rhan o ganolbarth Sir Benfro, gyda darn o Sir Gaerfyrddin, yw yr unig ardaloedd eang lle na cheid Achosion Ymneillduol, ac y plannwyd Seiadau;

iii. Ag eithrio'r tri llecyn hyn, ceir Achosion yr Anibynwyr neu y Bedyddwyr, ymron yn ddieithriad, weithiau ochr yn ochr â, ac yn aml yn amgylchynnu y, Seiadau Methodistaidd, ac yn bodoli o'u blaen.

MAP VI. (tudal. 312). Dengys hwn sefyllfa'r pedwar Enwad ymhob sir yng Nghymru yn 1830. Gwelir nerth cymharol pob Enwad ymhob sir, a gellir gweled hefyd nerth Enwad mewn unrhyw sir o'i gymharu â'r un Enwad ymhob sir arall. Mae y capeli oll wedi cael eu tynnu ar yr un raddeg (scale)—a phob sir yn dwyn lliw yr Enwad cryfaf yn y sir honno.

Y DANGOSLUNIAU. Mae amcan gwahanol eto i'r rhai hyn.

DANGOSLUN I. (tudal. 185). Cymhara hwn Fethodistiaeth Howell Harris a Methodistiaeth Thomas Charles. Ceir gweled arno pa sawl achos a fodolai ymhob sir, yn nyddiau'r ddau; ac ai byw, ai dadfyw, ai marw oeddent. Gwelir mai yn Sir Aberteifi yn unig yr oedd elfen o barhad a sefydlogrwydd i'r Šeiadau a blannwyd yn nyddiau Howell Harris—tra yn nyddiau Thomas Charles mae pob sir yng Nghymru, ag eithrio Maesyfed, yn dangos bywyd a gweithgarwch parhaol.

DANGOSLUN II. (tudal. 201). Yn dangos nifer capeli pob enwad mewn pedwar cyfnod, sef (1) 1740, ar ddechreu y Diwygiad; (2) 1773,—y flwyddyn bu Howell Harris farw; (3) 1811, blwyddyn corffoliad Methodistiaeth; a (4) 1830 pan oedd y pedwar Enwad wedi eu sefydlu yn gadarn yn y ffurf y'u gwelir hwynt heddyw.

DANGOSLUN III. (tudal. 297). Dengys hwn gynnydd cymharol pob Enwad o 1740 hyd 1830. Dengys uchder colofn pob Enwad rifedi achosion yr Enwad hwnnw yn y flwyddyn honno. Sylwer fod colofn y Methodistiaid wedi ei hollti yn ddwy yn 1810, 1820, ac 1830. Dengys y man lle dechreua'r hollt, rifedi yr achosion Methodistaidd ag y mae eu henwau ar gael fel yn bodoli yn y flwyddyn honno; dengys pen uchaf y golofn y rhifedi ddywed David Peters yn ei "Grefydd yng Nghymru fodolai o "Gymdeithasau" Methodistaidd ond na rydd eu henwau. Am y tri Enwad arall mae enw pob achos a ddanghosir yn y dangoslun, ar gael. Wrth gymharu Dangosluniau II. a III. canfyddir y gwahaniaeth hanfodol rhwng natur achosion y Bedyddwyr a'r Anibynwyr ar y naill law, a'r Methodistiaid a'r Wesleyaid ar y llaw arall. "Cymdeithasau" neu "Seiadau" cymharol fychain yn rhif eu haelodaeth, ac heb gapeli, oedd llawer o'r olaf; achosion hir blanedig, ac yn meddu capeli arhosol, oedd mwyafrif y blaenaf. Esbonia hyn y gwahaniaeth ymddangosiadol rhwng safleoedd gwahanol rhai o'r enwadau ar y ddau ddangoslun. Mae'r holl gyfres yn hollol wreiddiol, ac yn seiliedig ar ffeithiau hanesyddol profedig.

Nodiadau

[golygu]
  1. Cafodd y mapiau eu hargraffu ar bapur tusw sydd hyd at wyth gwaith maint tudalennau cyffredin y llyfr. Papur tusw oedd bron i 125 mlwydd oed pan sganiwyd y llyfr er mwyn ei osod ar Wicidestun a gan hynny yn fregus iawn, gyda rhwygiadau a phlygiadau ynddynt. Oherwydd hynny nid yw'r copïau o'r mapiau o'r safon uchaf nac yn gwneud cyfiawnder i'r gwaith a gwnaed er mwyn eu cynhyrchu ar gyfer y cyhoeddiad gwreiddiol.

Y CYNHWYSIAD.

PENNOD I. NODIADAU RHAGARWEINIOL
Golwg gyffredinol ar y maes. Dyled i Eglwyswyr, nid i'r Eglwys.

PENNOD II. ORIAU TYWYLL
O Ddiwygiad Protestanaidd Gwleidyddol Harri VIII., hyd Ddeddf Unffurfiaeth Elizabeth. Eglwyswyr Cydwybodol Cymru.

PENNOD III. SER Y BOREU
Y Deffroad Puritanaidd. Gorthrwm Teyrn ac Eglwys. Pregethwyr Cymru.

PENNOD IV. RHAGFLAENWYR GWAWR CYMRU
Iaith a Chrefydd Cymru Fu. Beiblau cyntaf y Cymro.

PENNOD V. SAIN YR UDGORN
John Penry, ei Fywyd, ei Waith, ei Angau, a'i Genadwri.

PENNOD VI. ADOLYGU'R DAITH
Y Puritaniaid a Dechreuad Ymneillduaeth. Y Political Dissenters. Yr Eglwys Ymneillduol Gyntaf.

PENNOD VII. TORIAD GWAWR YNG NGHYMRU
"Hawl Dwyfol" Brenin ac Esgob. Deddf Unffurfiaeth Iago. Yr Eglwys Fedyddiedig gyntaf. Plannu Ymneillduaeth Cymru.

PENNOD VIII. Y CYFDDYDD YNG NGHYMRU
Llanfaches a'r Olchon. Y Gydwybod Ymneillduol. Cymru yn Eglwysig. Deddf Lledaenu'r Efengyl. Sefydliad Gwladol o Ymneillduaeth. Offeiriaid Efengylaidd Cymru.

PENNOD IX. GWLADGARWCH A CHREFYDD
Y Frwydr am Ryddid Gwladol. Y Beibl i'r Bobl. Dylanwad y Beibl ar Wleidyddiaeth. Cwtogi Hawliau'r Offeiriaid. Cymanfa'r Duwinyddion. Cynnydd Egwyddor Goddefiad. Anibynwyr a Bedyddwyr yn un. Gwrthgyferbyniad Gwladol a Chrefyddol Presbyteriaeth ac Anibyniaeth,

PENNOD X. DECHREU'R GWAITH YNG NGHYMRU
Cymru'n hanfodol Eglwysig. Cromwell a Chrefydd Cymru. Bedyddwyr yn gwrthod cymorth y Wladwriaeth. Eglwysi Ymneillduol Cyntaf Cymru. Cyflwr Tywyll Cymru. Safle John Myles. Cymanfa Gyntaf Bedyddwyr Cymru. Cyffelybiaeth rhwng Bedyddwyr Cyntaf Cymru a Methodistiaid Cyntaf Cymru.

PENNOD XI. DEDDF UNFFURFIAETH 1662
Diwygiad Crefyddol oes Cromwell yn arwynebol. Effeithiau Adferiad Siarl II. Deddf Unffurfiaeth yn y Senedd.

ATODIAD. Y rhai a drowyd allan yng Nghymru. Rhestr Gyflawn,

PENNOD XII. GORMES AC ERLID
Deddfau gorthrymus a'u heffaith. Hanesion rhamantus yng Nghymru.

PENNOD XIII. CHWIL-OLEU'R MADDEUEBION
Beth ddysgodd yr Ymneillduwyr? Hanes Maddeuebau Siarl II.

ATODIAD. Pwy gafodd Faddeuebau yng Nghymru. Rhestr gyflawn

PENNOD XIV. AMGYLCHIADAU'R GWAITH YNG NGHYMRU
Eglwysi Ymneillduol Cymru o 1660 hyd 1688.—Gwendid Bedyddwyr—Nerth Anibyniaeth. Gwahaniaeth rhwng Eglwys a Seiad.

PENNOD XV. HEULWEN A CHWMWL
Yr hen weinidogion. Breintiau a Diffygion Deddf Goddefiad. Ffurfiad Pleidiau Gwleidyddol. Mesurau Rhyddhau Ymneillduwyr.

PENNOD XVI. PARATOI ERBYN Y DEFFROAD MAWR
Ymneillduaeth Cymru'n blodeuo ar ol pasio Deddf Goddefiad. Gweithgarwch Ymneillduaeth. Cymharu'r Cyfnod cyn ac ar ol Y Diwygiad. Llenyddiaeth cyn y Diwygiad.

ATODIAD. Ystadegaeth y cyfnod, a'r cyhuddiad yn erbyn Dr. Rees

PENNOD XVII. CYSYLLTIADAU'R DEFFROAD MAWR
Anwybodaeth am wir hanes Y Diwygiad Methodistaidd. Nid Diwygiad Cymreig ydoedd. Cysylltiadau hanfodol â Lloegr. Pa le y dechreuodd y Diwygiad? Y Seiadau Cyntaf. Y Morafiaid, a'u dylanwad.

PENNOD XVIII. CYSYLLTIADAU'R DEFFROAD YNG NGHYMRU
Y Dylanwadau ar Wesley. Dylanwad Cymry ar y Diwygwyr.

PENNOD XIX. Y DIWYGIAD CYFFREDINOL
Y gweithwyr. Efengyl Newydd. Tywalltiad yr Ysbryd Glan.

PENNOD XX. WHITEFIELD A'R DIWYGIAD YNG NGHYMRU
Whitefield yn Ben y Diwygiad a Threfnydd y Diwygwyr yng Nghymru; hanes ei gysylltiad â Chymru; ei fywyd priodasol.

ATODIAD. Y Seiadau Methodistaidd

PENNOD XXI. JOHN WESLEY A'R DIWYGIAD YNG NGHYMRU
Gwaith mawr Wesley yng Nghymru. Ei deithiau cenhadol yma. Cysylltiadau & Whitefield, Howell Harris, y Calfiniaid, a'r Iarlles Huntingdon.—Ffurfio'r Dalaeth Gymreig. Cynnydd cyflym Wesleyaeth.

ATODIAD. Seiadau Wesley yng Nghymru

PENNOD XXII. DARLUN HOWELL HARRIS O HONO EI HUN
Mwy nag un Howell Harris. Ei Ddyddlyfr. Ei Ddyddlyfr. Yn anwrteithiedig. Blysio am yr offeiriadaeth. Torri a'i hen gyfeillion. Ei ddyled i'r Bedyddwyr. Pa fodd y talodd y ddyled. Natur y Diwygiad. Syniadau cymysgedig Harris am yr Ymneillduwyr. Gwendidau ei natur. Hanes caru Howell Harris. Ei gysylltiad â Lloegr. Rhamant fawr ei fywyd.

ATODIAD. Y Diwygiad yng ngoleuni Llawysgrifau Trefecca.

PENNOD XXIII. BRWYDR RHYDDID I'R ATHRAW A'R PREGETHWR
Brwydr fawr wleidyddol olaf y 18fed ganrif i'r Ymneillduwyr. Pwy a'i hymladdodd, a pha beth a enillwyd drwyddi.

PENNOD XXIV. Y DECHREU A'R DIWEDD
Nodweddion addoliad yr hen Ymneillduwyr.—Ystadegaeth Ymneillduaeth Cymru, 1773. Thomas Charles yn trefnu Methodistiaeth. Gwersi'r Gorffennol ini.

Rhestri'r Nawdd-Warantwyr a'r Tanysgrifwyr

Anibynwyr y Groeswen

o 1746 hyd 1900.

1. WILLIAM EDWARDS, gweinidog anibynnol cyntaf y Groeswen[1]. 2. GRIFFITH HUGHES, trydydd gweinidog y Groeswen 3. MOSES REES, pedwerydd gweinidog y Groeswen. 4. W. CADEDFRYN[2] WILLIAMS, pumed gweinidog y Groeswen. 5. WILLIAM NICHOLSON, chweched gweinidog y Groeswen. 6. C. TAWELFRYN THOMAS, gweinidog presennol y Groeswen.[3] 7. CARREG FEDD THOMAS WILLIAMS (Cyd-Weinidog William Edwards) o Fynwent Hen Gapel Anibynnol y Cymer. 8. Capel presennol y Groeswen.

DIWYGWYR CYMRU.

PENNOD I.

NODIADAU RHAGARWEINIOL.

Am dros dri chan mlynedd bellach, mae Diwygwyr Cymru wedi bod yn canlyn eu gilydd mewn gwir olyniaeth Apostolaidd ddi-dor. Gwir fod rhai Diwygwyr wedi gwneud eu hymddangosiad yn y Dywysogaeth mewn cyfnodau llawer boreuach na'r un y cyfeiriwn ato. Rhaid mynd ymhellach yn ol na Dewi Sant, acnag Awstin Fynach, cyn dod o hyd i Ddiwygwyr Cristionogol cyntaf Cymru. Ond nid â'r cyfryw, eithr a Diwygwyr Cymru yn y cyfnod Protestanaidd, y mae â fynnom yn awr.

Nid yw yn adlewyrchu llawer o glod ar Brotestaniaeth foreuol Cymru mai yn Lloegr y rhaid i ni edrych am rai o brif ddylanwadau cyntaf y Diwygiad Protestanaidd yn ei berthynas â'n gwlad, ac yn wir am rai o'r prif offerynnau yn nygiad y cyfryw Ddiwygiad i weithrediad ymarferol. Ymffrostia Cymru yn y ffaith ei bod hi wedi cael ei Christioneiddio ymhell o flaen Lloegr; eithr gall y wlad y tu draw i Glawdd Offa ymffrostio ddarfod iddi hithau gael ei Phrotestaneiddio ymhell of flaen y Dywysogaeth. Os bu ein gwlad ni yn hwy nag eiddo'r Sais cyn dod o dan awdurdod y Pab, cadwodd y Babaeth ei gafael yn hwy ac yn dynnach ar Genedl y Cymry nag ar y Saeson—ac mae olion amlwg o'r dylanwad hwnnw yn aros ymhlith y genedl hyd y dydd heddyw mewn aml i gyfeiriad ac arferiad lle na ddrwgdybir ei bresenoldeb.

Am o leiaf y can mlynedd cyntaf mae hanes Diwygwyr Cymru yn dwyn cysylltiad mor agos âg eiddo Lloegr fel mai amhosibl o'r bron yw eu gwahanu, ac ymarferol ofer a fyddai ceisio eu gwahaniaethu. Gellir dweyd yn agos yr un peth am gychwyniad y gwahanol Enwadau crefyddol yn Lloegr a Chymru, ac am berthynas y cyfryw a'r Eglwys Sefydledig Brotestanaidd. Am gyfnod hir wedi i Ymneillduaeth ddod yn allu cryf a chydnabyddedig yn y wlad, nis gellid gydag unrhyw radd o sicrwydd wahaniaethu rhwng Eglwys Anibynnol ac Eglwys Fedyddiedig. Mae dau beth yn cyfrif am hyn, sef ynghyntaf fod yr Eglwysi Bedyddiedig yn Anibynnol o ran natur eu ffurf-lywodraeth Eglwysig, ac yn ail fod aml un o'r Eglwysi boreuol yn Eglwys. gymysg.

Un o'r gwersi cyntaf a ddysgir gan y neb a fynno astudio'n gydwybodol hanes boreuol Anghydffurfiaeth a'r Enwadau Ymneillduol, yw peidio gosod gormod pwys ar enwau a thermau, ac yn arbennig i beidio rhoi ystyr rhy gyfyngedig iddynt. Mewn cyfnod llawer diweddarach na'r un a roddodd fodolaeth i enw y daeth yr enw hwnnw i olygu yr ystyr gyfyngedig a gysylltir ag ef yn ein meddyliau ni. Er engraifft ceid aelodau, a chlerigwyr, ac hyd yn oed Esgobion Eglwys Loegr, ar un adeg, yn cael eu cyfrif a'u galw yn Anghydffurfwyr tra eto yn dal cysylltiad a'r Sefydliad; erbyn hyn ni olyga'r enw neb ond ar sydd o'r tu allan i'r Sefydliad. Felly hefyd y term. "Dissenters"; cynhwysai ar y dechreu bob Ymneillduwyr, eithr yn ei ffurf sathredig o "Sentars" cyfyngir ef yn meddyliau llawer, hyd yn oed yn ein dyddiau ni, i un enwad yn unig. Ar y llaw arall, mae'r ffurf Cymreig o'r enw, "Ymneillduwyr," wedi ymeangu gyda threigliad amser; cynhwysa yn awr yr holl Enwadau Ymneillduol Protestanaidd,—ond gan mlynedd yn ol cyfyngid ef i'r Bedyddwyr a'r Anibynnwyr yn unig. Felly hefyd. am yr enw "Presbyteriaeth" a "Phresbyteriad." Un o beryglon. y myfyriwr arwynebol yw tybied fod yr enw, fel y'i cymhwysid ef at gorff neu gymdeithas o grefyddwyr gynt, yn golygu yr un peth a olyga heddyw. Fel mater o ffaith, anhawdd, os nad amhosibl, a fyddai gwahaniaethu rhwng Eglwys Bresbyteraidd ac Eglwys Anibynnol yn y dyddiau gynt. Nid oedd Presbyteriaid cyntefig Lloegr a Chymru yn credu mewn, nac yn arfer, Presbyteriaeth fel ffurf o lywodraeth Eglwysig.[4] Gan mlynedd. wedi sefydlu'r Eglwys "Bresbyteraidd" gyntaf yn Lloegr (1572) y caniataodd Siarl II. (yn 1672) drwyddedau o dan ei "Declara- tion of Indulgence" i wahanol bregethwyr yn Lloegr a Chymru -a cheir yr enwau "Presbyteriad," a "Chynulleidfaolwr," ac "Anibynnwr" yn cael eu cymhwyso weithiau at yr un person yn y trwyddedau hynny. Mewn cyfnod diweddarach cymhwysid y gair "Methodist " yn yr un modd mewn ystyr hollol wahanol i'r hyn a olyga heddyw. "Methodist" oedd pob un a ddanghosai unrhyw yni neu ysbryd diwygiadol ynglyn à chrefydd, pa un bynnag ai Eglwyswr ai Ymneillduwr a fyddai. Erbyn heddyw cymhwysir yr enw at un Enwad yn unig yng Nghymru ac at Enwad arall yn unig yn Lloegr. Mewn gair, Ysbryd Diwygiad Crefyddol yn gweithio allan yn mywyd cyffredin a chyflawniadau cyhoeddus gwahanol bersonau, a roddodd fod mewn gwahanol gyfnodau i'r enwau gwahaniaethol Protestant, Puritan Anghydffurfiwr, Ymneillduwr, a Methodist.

Dylid cofio, hefyd, y ceid y rhai hyn oll gynt yn eglwys Loegr. Ysbryd y Diwygiad yn methu cael lle i ymddadblygu o'r tu fewn i'r Eglwys, a gymhellodd y Diwygwyr ymhob cyfnod i weithio o'r tu allan i'r Eglwys; ysbryd cul caethiwus awdurdod Eglwysig yrrodd y Diwygwyr ymhob oes dros y trothwy, ac a'u gorfododd, yn aml yn groes i'w hewyllys, i ymffurfio yn gym- deithasau ac yn gyfundrefnau crefyddol o'r tu allan i, yn anibynnol ar, ac yn ymddangosiadol wrthwynebol i Eglwys" Loegr.

Dyna hanes Diwygiadau a Diwygwyr Crefyddol Lloegr a Chymru o ddyddiau Hooper a Cartwright a Penry, hyd yn nyddiau Thomas Charles. Nid oedd Morgan Llwyd a Hugh Owen, Vavasor Powel a John Myles, John Wesley a George Whitefield, Rowlands Llangeitho a Williams Pantycelyn, ond yn unig yn gweithredu o dan ddylanwad yr un ddeddf fawr yr amgylchiadau ag a orfododd Luther a Calfin i ddyrchafu baner Protestaniaeth ar y Cyfandir, a alltudiodd y Tadau Pererinol o'u gwlad, a yrrodd Cranmer i'r ystanc a John Penry i'r crogbren, ac a wnaeth y Wesleyaid a'r Methodistiaid Calfinaidd yn Enwadau Ymneillduol.

Mae'r deyrnas hon yn llawer mwy dyledus i Eglwyswyr, ac yn llawer llai dyledus i'r Eglwys, am ei Diwygiadau Crefyddol o ddyddiau Harri'r Wythfed hyd heddyw nag a gydnabyddir yn gyffredin gan yr Ymneillduwyr neu a honir yn gyffredin gan yr Eglwyswyr. Er engraifft, nid oedd y Diwygiad Protestanaidd yn Lloegr yn ei gychwyniad yn ddiwygiad crefyddol o gwbl yn yr un ystyr ag ydoedd y deffroad mawr hwnnw ar y Cyfandir. Moddion ac nid achos diwygiad mewn crefydd oedd cweryl Harri VIII. â'r Pab. Gwleidyddol, a phersonol, yn hytrach na chrefyddol a chyffredinol, oedd sefydliad cyntaf Eglwys Loegr fel Eglwys Brotestanaidd. Ar waethaf, ac nid trwy gymorth, y teyrn a'r llys, y gwisgodd y Sefydliad yn Lloegr a Chymru y wedd Brotestanaidd. Ag eithrio teyrnasiad byr Edward VI. a chyfnod y Weriniaeth yn nyddiau Cromwell, gwrthwynebu a gwrthweithio dylanwad Protestaniaeth wirioneddol a wnaeth y Teyrn, y Llys, a'r Eglwys, hyd yn nyddiau Chwyldroad William III. yn 1689. Ac ar hyd y cyfnod maith hwn Eglwyswyr yn yr Eglwys oeddent i raddau pell, a chyda rhai eithriadau enwog, yn brwydro rymusaf dros Egwyddorion hanfodol. Protestaniaeth.

Bydd cadw y pethau hyn mewn cof yn gymorth i ddeall yn well yr hyn a ddywedir mewn penodau canlynol.

Nodiadau

[golygu]
  1. William Edwards oedd adeiladydd pont enwog Pontypridd
  2. gwall cosodi yn y testun—CALEDFRYN sy'n gywir
  3. Parhaodd Tawelfryn Thomas yn weinidog y Groeswen hyd 1926
  4. The Presbyterian form of church government never having been an essential of English Presbyterianism, the name has long been used, and may with perfect correctness continue to be used. . . . though no Presbyterian Government is exercised among those who bear it."- (Our English Presbyterian Forefathers, p. 12.)

PENNOD II.
ORIAU TYWYLL.

Er fod y Diwygiad Protestanaidd wedi cael ei ddwyn oddi-amgylch yn y deyrnas hon yn nyddiau Harri VIII., cyfnod tywyll du oedd blynyddoedd ei deyrnasiad ef a'i dri phlentyn—Edward, Mari, ac Elizabeth.

Nid yn erbyn Pabyddiaeth ond yn erbyn y Babaeth y gwrthdystiodd Harri VIII. Yr oedd y grefydd a sefydlwyd gan fab y Cymro a enillodd goron Lloegr ar Faes Bosworth, mor Babyddol yn ei hanfod pan fu efe farw, ag ydoedd pan roddodd y Pab iddo'r teitl o Amddiffynydd y Ffydd—teitl camarweiniol sydd wedi ymddangos ar arian bathol y teyrn o ddyddiau Harri hyd ein dyddiau ni. Y cwbl a wnaeth y Diwygiad Protestanaidd Swyddogol yn nyddiau Harri a'i ferched, oedd trosglwyddo awdurdod y Pab i'r teyrn. Yr oedd Harri yn gymaint o Bab wedi sefydlu'r Diwygiad ag a fu Paul III. erioed cyn hynny—ac yr oedd Elizabeth yn fwy o Bab na'r un o'r ddau. Cafodd Harri gan ei Senedd i'w gydnabod ef yn Ben yr Eglwys;[1] gorfododd Elizabeth y Senedd i ufuddhau i'w hawdurdod trahaus—falch hi. Pan fynnai Ty'r Cyffredin gyfryngu ar ran y Puritaniaid gorthrymedig, ac esmwythau eu beichiau drwy ddeddf Seneddol, gyrrodd Elizabeth genadwri awdurdodol atynt yn eu gorchymyn i beidio cymeryd dan sylw unrhyw fesur yn ymwneud â phynciau crefyddol, heb i'r cyfryw Fesur ynghyntaf oll gael ystyriaeth a derbyn cymeradwyaeth y Clerigwyr mewn Confocasiwn.

Yr wyf yn pwysleisio yma wrth fyned heibio mai gwleidyddol, politicaidd, yn hytrach na chrefyddol, oedd natur y cyfnewidiad a ddygwyd oddiamgylch fel canlyniad y cweryl rhwng y Pab a Harri. Mae yr un mor wir a hynny fod cysylltiad agos, ym mron anwahanadwy, wedi bodoli byth wedyn rhwng yr ymdrechion i sicrhau rhyddid crefyddol ar y naill law a rhyddid gwladol ar y llall. Diwygwyr Crefyddol Prydain sydd ar hyd yr oesoedd wedi bod yn Ddiwygwyr Gwladol y deyrnas hefyd.[2]

Dywedwyd eisoes mai ar waethaf ac nid trwy gymorth y teyrn a'r llys y gwisgodd y Sefydliad yn Lloegr a Chymru y wedd Brotestanaidd. Nid sefydlu Protestaniaeth ond disodli'r Pab, nid puro'r Eglwys ond gwneud ei hun yn ben arni, oedd amcan mawr Harri.[3] Llwyddodd yn ei amcan, gan siomi felly ddau ddosbarth tra gwahanol yn ei deyrnas—y rhai a fynnent gadw'r cysylltiad a'r Babaeth ar y naill law, a'r rhai a gredent yn egwyddorion Protestaniaeth ar y llaw arall. Testyn cysur y naill oedd achos siom y llall. Cysur y Protestaniaid oedd fod y brenin wedi ymwrthod ag awdurdod y Pab; cysur y Pabyddion oedd fod sylwedd Pabyddiaeth yn aros hyd yn oed os oedd cysgod y Babaeth wedi cael ei symud. O'r dydd hwnnw allan aeth yn gydymdrech rhwng y ddwyblaid hyn am yr oruchafiaeth mewn llys, ac Eglwys, a gwlad. Yn y cydymdrech hwn y dadblygwyd Diwygwyr Protestanaidd cyntaf y deyrnas.

Cafodd Harri offeryn parod at ei law yn Thomas Cromwell a wnaed yn Iarll Essex. Fel 'Malleus Monachorum' neu Forthwyl y Mynachod' yr adwaenid y Cromwell hwn gan y Pabyddion, ac fel Fflangellwr y Diwygwyr' yr adnabyddid ef gan y Protestaniaid. Morthwyliodd eiddo'r blaenaf i drysorfa Harri; chwipiodd yr olaf i gydymffurfiaeth a Deddf y Chwech Erthygl. "Os gwadai Pabydd hawl Harri i fod yn Ben yr Eglwys, llosgid ef wrth yr ystanc; os gwadai Protestant un o egwyddorion y Chwech Erthygl[4] yr oedd ei dynged yntau mor sicr ac mor greulon."[5]

Awgrymwyd eisoes fod cweryl Harri â'r Pab wedi profi yn foddion er nad yn achlysur diwygiad crefyddol.

Un o'i effeithiau grymusaf cyntaf oedd dwyn y Beibl o fewn cyrhaedd y werin. Balchder Harri fu yn achlysur i hyn. Yr oedd yn ysgolor gwych—ac yn falch o'i ysgolheigdod. Mynnai ddiwygio Beibl William Tyndal, a gorchymynnodd i'r enwog Miles Coverdale wneud hynny. Wedi mynnu cynyrchu Beibl diwygiedig, naturiol oedd iddo deimlo awydd i bawb i wybod am dano. Felly trwy orchymyn y brenin, yn 1538, gosodwyd Beibl Saesneg am y tro cyntaf ymhob Eglwys. Tra arwyddocaol yw'r ffaith fod pob cyfryw Feibl yn rhwym wrth gadwen. "Eithr Gair Duw nis rhwymir." Tyrrai'r cyffredin bobl i'r Eglwysi yn awr, nid i dderbyn maddeuant nac i glywed pregethu, ond i glywed darllen Gair Duw yn yr iaith yn yr hon y'u ganed. Os syrthiodd llawer o'r had ar fin y ffordd, neu ar y creigleoedd, neu ymhlith drain, syrthiodd peth i dir da—a dygodd ffrwyth.

Dechreuodd pobl llygadgraff weled fod dysgeidiaeth y Beibl yn gwahaniaethu yn hanfodol oddiwrth ddysgeidiaeth yr Eglwys. Dechreuasant holi ai'r Eglwys ai'r Beibl a ddylai fod yn "rheol ffydd ac ymarweddiad" iddynt, ac ai gair dyn ynte Gair Duw a dderbynient. Nid syn gennym ddeall i'r fantol droi mewn rhai amgylchiadau o blaid Gair Duw—er mai gorchymyn brenin oedd y gair dyn yn y cawg arall o'r fantol.

Erbyn hyn yr oedd dau gynrychiolydd mawr y ddwyblaid gydymdrechent, wedi dyrchafu i enwogrwydd ac awdurdod. Yr oedd Cranmer fwyn a gwan, a'i dueddiadau at Brotestaniaeth, wedi cael ei benodi yn Archesgob Caergaint—ac yr oedd Gardiner greulon a chryf wedi disodli Thomas Cromwell yn y llys ac wedi ennill clust y brenin. Dygodd Cranmer ei Feibl mawr allan o'r wasg yn 1540. Gardiner, gan weled fod darllen y Beibl yn agor gormod ar lygaid y werin a fynnodd basio deddf, yn 1543, yn gwahardd i'r cyffredin bobl ddarllen Gair Duw; mynnai hefyd gyfyngu ar hawl hyd yn oed yr Esgobion i'w ddarllen a'i esbonio, a chyfarwyddwyd hwynt i baratoi llyfr a elwid "Yr Athrawiaeth a'r Addysg Angenrheidiol i unrhyw Gristion."

Felly cafodd Cranmer a Phrotestaniaeth godwm. Ond nid hir y bu Cranmer cyn cael yr afael uchaf drachefn. Bu farw Harri yn 1547, a theyrnasodd ei fab ieuanc Edward VI. yn ei le. Naw mlwydd oed ydoedd pan esgynnodd i'r orsedd, ac am chwe mlynedd fer yn unig y gwisgodd y goron. Gwnaed Iarll Hertford, neu y Duc Somerset, yn Arglwydd Raglaw'r deyrnas,—a ffafrai efe y ddysgeidiaeth newydd. Yn cael ei gymhell gan Cranmer dileodd Ddeddf y Chwech Erthygl, a'r deddfau penydol yn erbyn hereticiaid. Gwnaeth i ffwrdd ag offerenna dros y marw, gorchymynnodd symud y delwau a'r darluniau Pabyddol o'r Eglwysi, a chorffolodd ddaliadau Protestaniaeth yn ei Ddwy Erthygl a Deugain—y rhai mewn cyfnod diweddarach a gwtogwyd i'r Deugain Erthygl ond Un presennol. Cafodd Cranmer gynorthwywyr parod yn yr Esgobion Latimer a Ridley. Pregethwr hyawdl oedd Latimer, a mynnodd Edward Frenin bychan wneuthur pwlpud iddo yn ngardd y palas—ac yno yr hoffai y bachgennyn brenhinol eistedd i wrandaw ar y pregethwr mawr oedrannus am oriau o'r bron.

Ymddangosai pob peth yn addawol i gynnydd cyflym y Diwygiad. Yn awr, mewn gwirionedd, yr oedd y Diwygiad Protestanaidd yn dechreu yn Lloegr. Eithr daeth gwendid i mewn. Nodwedd amlwg pob plaid mewn gwlad ac Eglwys oedd peidio boddloni ar yn unig ennill awdurdod iddynt eu hunain, ond gormesu ar bawb a anghytunent â hwynt. Erlidiai'r Pabydd y Protestant, a'r Protestant y Pabydd; gormesai'r Eglwyswr yr Anghydffurfiwr, a'r Anghydffurfiwr yr Eglwyswr. Cyd-ffurfiaeth â'u daliadau arbennig hwy oedd egwyddor lywodraethol y naill fel y llall.[6] Y Cymro Roger Williams, yng nghoedwigoedd America, oedd Apostol Mawr Rhyddid Cydwybod—ac ni ddechreuodd ei apostolaeth ef am gan mlynedd wedi llosgi Cranmer.[7] Taflwyd Gardiner i'r Twr; cymerwyd ei esgobaeth oddiar Bonner, a rhoddwyd hi i Ridley. Gwaharddwyd i'r Dywysoges Mari, chwaer y brenin, ac aeres yr orsedd, gael crefydda yn ol ei chydwybod ei hun. Felly mewn cyfnod diweddarach y gwnaeth Cromwell hefyd, gan benodi ei ganlynwyr yntau i fywiolaethau Eglwysig a ddelid gan bleidwyr Siarl anffodus.

Andwywyd effaith ddaionus y Ddysgeidiaeth Newydd gan weithredoedd gwleidyddol Somerset. Wedi ennill serch y bobl, lawer o honynt, drwy y diwygiadau a nodwyd, aeth ymhellach. Rhoddodd ganiatad i'r clerigwyr briodi; amlhaodd y cyfleusterau i ddarllen y Beibl; a daeth gweddiau tlysion y Llyfr Gweddi yn eiddo pawb. Ond ymosododd ar weithwyr a chrefftwyr y wlad, trwy ddifodi yr Undebau neu "Guilds" i'r rhai y perthynent. Ei reswm dros hyn oedd fod trysorfeydd yr Undebau Llafur hyn yn cael eu defnyddio i dalu am weddiau dros y meirw—arferiad oedd bellach yn anghyfreithlon. Cododd hyn a phethau cyffelyb y fath wrthwynebiad iddo nes y cwympodd—a'i gwymp a fu fawr. O fod yn Arglwydd Raglaw'r deyrnas ac yn brif noddwr Protestaniaeth, dygwyd ef i'r dienyddle, ac yn 1552 torwyd ei ben. Dywedir fod y werin bobl yn awr ei farwolaeth wedi anghofio pob peth ond ei rinweddau, ac i lawer o honynt ruthro ym mlaen at yr ysgaffald i wlychu eu cadachau yn ei waed er ei gadw yn grair i'w plant.

Ym mhen blwyddyn wedi dienyddiad Somerset, bu farw'r brenin ieuanc, a daeth tro drachefn ar yr olwyn. Gydag esgyniad Mari i'r orsedd daeth y rhai a bleidient Babyddiaeth yn ol i awdurdod. Eithr cyn marw Edward a Somerset yr oedd had da wedi cael ei blannu, yr hwn, yn y dyfodol agos, oedd i ddwyn ffrwyth ar ei ganfed. Nid yn unig yr oedd y syniadau newydd am grefydd wedi cael eu gwasgaru led-led y wlad, ond yr oedd llawer o arian gwaddol yr hen Fynachdai wedi cael ei ddefnyddio i sefydlu ysgolion rhagorol. Ac er na fanteisiodd Cymru yn uniongyrchol nemawr ar y naill na'r llall o'r bendithion hyn, yr oedd dydd ei gobaith hithau ar wawrio.

Gyda'i holl ddiffygion yr oedd Mari yn berffaith onest. Yr oedd ei thad o'i blaen a'i chwaer ar ei hol, tra yn cymeryd arnynt fod yn Brotestaniaid, mewn gwirionedd yn Babyddol o ran eu golygiadau. Nid cynt y daeth Mari i'r orsedd nag yr adsefydlwyd awdurdod y Babaeth. Yn nyddiau ei thad, wedi ymwrthod o hono ag awdurdod y Pab, ac wedi i Paul III. mewn canlyniad esgymuno Harri a chyhoeddi nad oedd mwyach yn frenin, ceisiodd Cardinal Pole—yntau o linach brenhinol Lloegr—gael gan alluoedd Ewrop ymosod ar Loegr. Dyma'r gwr a ddanfonwyd yn awr i gynrychioli'r Pab yn y deyrnas hon. Yn 1554 aeth y Senedd, yn Arglwyddi ac yn Gyffredinwyr, mewn gorymdaith i balas Whitehall; ac yno penliniasant o flaen y Cardinal fel cynrychiolydd y Pab, gan ddeisyf maddeuant ei Sancteiddrwydd am eu pechodau hwy a heresi'r deyrnas. Cyhoeddodd y Cardinal faddeuant rhad iddynt ar sail eu hedifeirwch. Dangosasant hwythau eu diolch drwy basio cyfraith yn dileu yr holl ddeddfau yn erbyn y Babaeth a basiwyd gan Harri ac Edward, ac yn adsefydlu Pabyddiaeth fel crefydd y Wladwriaeth. Ond yr oedd eu cydwybod grefyddol yn ystwythach na'u cydwybod fasnachol. Un peth oedd cydnabod awdurdod y Pab mewn pethau a berthynent i grefydd; peth arall oedd rhoddi i fyny yr eiddo oedd Harri wedi gymeryd oddiar yr Eglwys Babaidd. Yr oedd llawer o'r eiddo hwnnw, yn dai ac yn diroedd, wedi cael ei roddi gan Harri i'w bendefigion, ac ni fynnent yn awr eu dychwelyd. Dywedodd y Cardinal wrthynt nad oedd yn hawlio dychweliad yr eiddo, ond ei fod yn apelio at eu cydwybod am wneud yr hyn oedd yn iawn. O'r holl bendefigaeth[8] oedd wedi ymostwng mor wasaidd i'r Pab, nid oedd ond y Frenhines Mari yn unig, yn meddu digon o argyhoeddiad cydwybodol i wrandaw ar yr apel. Dychwelodd hi y degymau, y blaenffrwythau, a'r holl eiddo Eglwysig a syrthiasai i'w rhan. Danghosodd y dychweledigion urddasol eraill ddyfnder eu hargyhoeddiadau, a nerth yr egwyddor wirfoddol mewn crefydd a geisiodd Pole blannu yn eu calonnau, drwy gau eu pyrsau a dal gafael yn dynnach nag erioed yn yr eiddo.

Ond os nad oeddent yn ddigon cydwybodol i roddi yn ol i'r Eglwys yr eiddo a gymerwyd oddiarni, yr oeddent yn ddigon selog yn yr adfeddiant o'r hen grefydd i erlid yn greulawn bawb na phlygent lin i'r Pab. Daeth Gardiner allan o'r Twr, a gwnaed ef yn Arglwydd Ganghellydd: cymerodd Bonner feddiant drachefn o'i hen Esgobaeth yn Llundain, gan droi Ridley dros y drws. Yna dechreuodd cyfnod o erlid na welwyd ei fath er dyddiau cyntaf Cristnogaeth. Cynheuwyd tanau merthyrdod, ac am dair blynedd gron ni pheidiodd y fflamau leibio gwaed goreugwyr y deyrnas. Dioddefodd yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd, hen ac ieuanc, gwyr, gwragedd, a phlant.[9] Llosgwyd tri-ar-ddeg, dwy ohonynt yn fenywod, yr un dydd wrth yr un ystanc. Llosgwyd mam a'i dwy ferch wrth yr un ystanc. Pan yn rhwym daeth gwewyr ar y fam, a rhoddodd enedigaeth i faban. Ymaflodd un o weision yr Esgob mewn pigfforch, a thaflodd y baban newydd eni i'r fflamau oeddent eisoes yn amgylchu'r fam anffodus. Llosgwyd yr Archesgob Cranmer, a'r Esgobion Ridley, Latimer, Hooper, a Ferrars. Yr oedd Latimer yn bedwar ugain oed. Bum mlynedd cynt yr oedd wedi bod yn goleuo meddwl y bachgennyn-frenin Edward trwy bregethu iddo yn y pwlpud yng ngardd y palas; yn awr wrth yr ystanc yn Rhydychain goleuodd gydwybod cenedl gyfan. "Cymer gysur, Mistar Ridley," ebe'r hen wr dewr wrth ei gyd-ddioddefydd, tra'r fflamau yn dechreu eu hamgylchu, "Cymer gysur, Mistar Ridley! Trwy ras Duw goleuwn ganwyll yn Lloegr heddyw nas gall holl allu Rhufain ei diffodd!" Erbyn heddyw nid oes gongl, nid yn unig o Loegr, ond o'r holl Ynys, ïe, o'r holl Ymerodraeth, lle nad yw goleuni'r ganwyll honno'n llewyrchu.

Ychydig ran a gafodd Cymru yn anrhydedd y merthyrdodau hyn. Tri yn unig ddioddefodd yn y Dywysogaeth—ac nid oedd un o'r tri yn Gymro. Llosgwyd yr Esgob Ferrars yn Nghaerfyrddin; pysgotwr tlawd o'r enw Rawlins White yng Nghaerdydd; ac un o'r enw William Nicol, yn Hwlffordd. Sylwer fod y tri lle hyn yn borthladdoedd, â'r rhai y cerid trafnidaeth Lloegr ym mlaen. Ym mhlith Esgobion a chlerigwyr Cymru, ni chafwyd un a feddai argyhoeddiadau digon dyfnion i wrthwynebu Harri pan fynnai dorri iau y Pab, i anufuddhau i Edward pan orchymynnai iddynt fod yn Brotestaniaid, nac i wynebu digofaint Mari pan alwai arnynt i adsefydlu yn eu heglwysi yr arferion Pabyddol a symudodd ei brawd ymaith.

Ond er y gallai Mari gymeryd ymaith fywydau pobl ereill, nis gallai gadw ei heinioes ei hun. Bu hithau farw yn 1558, a daeth Elizabeth i'r orsedd. Mae rhyw rod ddisglaer o ffug-ramant yn amgylchu coffadwriaeth y Frenhines Forwynol, ac yn ei chynysgaeddu â rhinweddau na pherthynent iddi. Ychydig o'r "Good Queen Bess" sy'n dod i'r golwg yn ei chysylltiad â materion crefyddol ei hoes.

Llawenychodd y Protestaniaid â llawenydd mawr dros ben pan esgynnodd Elizabeth i'r orsedd. Dychwelodd llu oedd ar ffo ar y Cyfandir rhag erlidiaeth Mari, gan ddisgwyl cael nawdd a ffafr y goron bellach. Dichon pe na bai creulondeb Mari wedi eu gorfodi i ffoi i wlad dramor, y buasai yn rhwyddach iddynt hwy a'r Frenhines newydd gyd-ddwyn â'u gilydd. Yr oedd Elizabeth, fel ei thad, yn ddigon parod i daflu ymaith awdurdod y Pab, ond nid oedd yn barod i ymwadu ag egwyddorion sylfaenol Pabyddiaeth. Nid oedd, fel Mari ei chwaer, yn foddlon i fod yn ddarostyngedig i awdurdod o'r tu allan; nid oedd, ychwaith, fel Edward ei brawd, yn awyddus i ysgubo holl olion defodol Pabyddiaeth o'r tir.

"Merch ei thad," Harri VIII., oedd Elizabeth, ond yn fwy o unben nag ef—ac nid hir y bu cyn dangos hynny. Ni oddefai i na Phabydd na Phrotestant ymyrryd â'i hawliau. Yr oedd Mari, fel y cofir, wedi rhoi yn ol i'r Pab y teitl o Ben yr Eglwys, ac wedi darostwng ei hunan i awdurdod yr Eglwys. Mynnodd Elizabeth, cyntaf peth, adfeddiannu'r awdurdod, a gwneud yr Eglwys yn ddarostyngedig i'r Teyrn. Rhy anhawdd oedd gan yr Esgobion oeddent wedi cael bywiolaethau drwy ffafr Mari, ac wedi mwynhau am bum mlynedd pob awdurdod Eglwysig, ymfoddloni i roi'r awdurdod hwnnw i fyny. Buasai Elizabeth yn foddlon iddynt nid yn unig gadw eu hesgobaethau, ond i barhau i arfer llawer o'u defodau Pabyddol, pe boddlonent i'w chydnabod hi, ac nid y Pab, fel Pen yr Eglwys. Er clod i'w cysondeb, gwrthodasant. Dau o'r Esgobion yn unig[10] a gymerasant y llw angenrheidiol. Amddifadwyd y lleill o'u bywiolaethau. Carcharwyd amryw, a threuliodd Bonner y gweddill o'i oes yn y carchar. Ciliodd llawer ohonynt i'r Cyfandir. Pan alwyd ar Aelodau Ty'r Cyffredin i gymeryd cyffelyb lw, gwrthododd y Pabyddion egwyddorol wneud, gan ddewis yn hytrach golli eu seddau. Gan nad faint a wahaniaethwn oddi-wrthynt yn eu barn wleidyddol a'u credo crefyddol, nis gallwn lai nag edmygu eu cysondeb cydwybodol i'w hegwyddorion.[11]

Wedi darostwng y Pabyddion, trodd Elizabeth ei sylw at y Protestaniaid. Yn 1559 pasiodd y Senedd Ddeddf Unffurfiaeth.[12] O dan y ddeddf hon adsefydlwyd Ail Lyfr Gweddi Edward VI., gan wahardd defnyddio unrhyw weddiau eraill. Canlynwyd esiampl yr Esgob Anthony Kitchin (gwel Nodiad 11) gan ei holl israddolion. Dirwyid neu carcherid y neb nad elai i'r Eglwys,[13] a chosbid yn yr un modd y neb a bregethai heb gael trwydded gan yr Esgob. Cyfreithlonwyd y delwau, y croesau, y cerddoriaeth, y gwisgoedd offeiriadol, ac arferion Pabyddol eraill. Adolygwyd 42 Erthygl Edward VI., gan eu gwneud yn Ddeugain ond Un—fel y maent yn awr.[14] Er mwyn cario allan ddarpariadau'r ddeddf orthrymus hon, sefydlwyd Llys yr Uchel Ddirprwyaeth. Rhoddwyd i'r Llys hwn awdurdod na feddai unrhyw lys arall, ac yn 1583 gwnaed ef yn sefydliad parhaol. Anelai bodolaeth y Llys hwn at wraidd rhyddid gwladol yn ogystal a chrefyddol—ac felly unwaith yn rhagor cysylltwyd rhyddid gwladol a rhyddid crefyddol mor agos â'u gilydd, fel y gorfodwyd arwyr y naill ym mron o angenrheidrwydd i bleidio'r llall.

Nodiadau

[golygu]
  1. "Although the King's Majestic rightly and rightfully is and ought to be Supreame Head of the Church of England Convocationibus and so is recognised by the Clergy of this Realme in their Convocations yet neverthelesse for coroboration and confirmation thereof &c. —Be it enacted by the authority of this present Parliament that the King our Sovereign Lord his heirs and successors Kings of this Realme shall be taken accepted and reputed the only Supreame Head on Earth of the Church of England called Anglicana Ecclesia and shall enjoy annexed and united to the Imperial Crown of this Realme, as well the title and stile thereof as all honour, pre-eminency, dignities jurisdictions priviledges authorities immunities profits and commodities to the said dignity or Supreame Head of the Church belonging and appertaining. And that our Sovereign Lord the King his heirs and successors Kings of this Realme shall have full power and authority from time to time to visit, represse, redresse, reform, order, correct, restraine, and amend all such errors, heresies, abuses, offences, contempts and enormities whatsoever they be, which by any manner of spiritual authority or jurisdiction ought or may lawfully be reformed, repressed, redressed, corrected, restrained, or amended &c. any usage custome forraine Law to the contrary notwithstanding."—(26 Henry VIII. cap. i.)
  2. "So absolute was the authority of the Crown in this reign that the precious spark of liberty had been kindled, and was preserved by the Puritans alone, and it was to this sect that the English owe the whole freedom of their constitution."—(Hume's History, vol. v.
  3. Golygai bod yn Ben yr Eglwys gryn lawer i'r Pab ac i Harri. Fel Pen yr Eglwys, at y Pab yr apeliai Llysoedd Eglwysig Lloegr fel y Llys a'r awdurdod uchaf. Yn nwylaw'r Pab fel Pen yr Eglwys y gorffwysai'r hawl i benodi i Esgobaethau, ac i swyddi Eglwysig eraill. I'r Pab fel Pen yr Eglwys y talai'r Archesgobion, Esgobion, Deoniaid, a'r Clerigwyr mewn bywiolaethau, eu cyflog am y flwyddyn gyntaf ar ol eu penodiad fel teyrnged i'r Pab. Talai'r lleygwyr yr un modd i'r Pab eu "Ceiniogau Pedr," sef ceiniog y flwyddyn am bob aelod.
  4. Pasiwyd y ddeddf hon yn 1539. Galwai Fox hi yn "Ffrewyll y Chwe Chainc." Hawliai gydffurfiaeth âg egwyddor Traws-sylweddiad; gweddwdod clerigwyr; a dirgel-gyffes i'r offeiriad.
  5. Yr oedd y ddeddf hon yn waeth na ffrewyll. Chwythai fygythion am yr ystanc yn Smithfield a'r crogbren yn Tyburn."—Knight.
    "O fewn pythefnos wedi pasio'r ddeddf hon cymerwyd pum cant o bersonau i'r ddalfa."—Encyc. Brit.
  6. Methai Cranmer, er tynered gwr ydoedd, a goddef i rai a gredent gydag ef ym mhrif egwyddorion Protestaniaeth, i wahaniaethu oddiwrtho ar bynciau llai. Ei hun yn faban-fedyddiwr, gomeddodd i'r Bedyddwyr Crediniol y rhyddid oddiwrth penydiau cyfreithiol a ganiateid i "hereticiaid" eraill.
  7. "The toleration of heresy was deemed by men of all persuasions to be as unreasonable as it would now be thought to propose the impunity of murder."—(Sir James Mackintosh.)
  8. Yr oedd 40,000 o wahanol bersonau ar y pryd yn dal y tiroedd Eglwysig a gymerwyd oddiar y Babaeth gan Harri.
  9. Dyry Fox yn ei Book of Martyrs restr o 284 a ferthyrwyd. Dywed yr Esgob Grindall yn ei ragymadrodd i lyfr yr Esgob Ridley fod eu rhif yn 800. Sonia Christopher Goodman, yn ei Book of Obedience a gyhoeddwyd y flwyddyn y bu Mari farw, am "y miloedd o ferthyron a erchyll-laddwyd o fewn yr ychydig flynyddau hyn yn Lloegr."
  10. Nid oes enw ond un o'r ddau ar gof a chadw. Dywed Wood (Athene, cyf. i. tud. 595), a ysgrifennai yn y 17fed ganrif, nad oedd ond un. Esgob Cymreig er nad Cymro-oedd hwnnw. Anthony Kitchin, Esgob Llandaf, ydoedd. Penodwyd ef i'r Esgobaeth gan Harri VIII. Trodd yn Brotestant o dan Edward VI. Trodd yn ol i fod yn Babydd o dan Mari. Daeth yn Brotestant drachefn dan Elizabeth. Cadwodd ei Esgobaeth hyd ei farw yn 1566. Amlwg yw fod ei gyfansoddiad mor gryf ag ydoedd ei gydwybod yn wan,-canys cyrhaeddodd yr oedran teg o 90 mlwydd.
  11. Gofidus yw gorfod dweyd na cheid ond ychydig iawn o'r urddasolion Eglwysig Cymreig yn y cyfnod hwn, yn dangos cyffelyb gysondeb. Wele restr gyflawn o'r rhai a ddalient swyddi uchel ym mhob un o'r pedair Esgobaeth Gymreig a ddioddefasant oherwydd cydwybod o dan deyrnasiad Mari ac Elizabeth,—yn y blaenaf am eu Protestaniaeth, ac o dan yr olaf am eu Pabyddiaeth.
    YN ESGOBAETH BANGOR.
    1. Yr Esgob Maurice Glennock. Enwebwyd ef i Esgobaeth Bangor gan Mari ar farwolaeth William Glynn. Ond gan i Mari farw cyn ei gysegriad, ciliodd ef i'r Cyfandir ar esgyniad Elizabeth, yr hon a benododd Rowland Meyrick i'r Esgobaeth.
    2. Y Deon Robert Evans. Trowyd ef allan o'i ddeoniaeth gan Mari yn 1554 am iddo briodi, yr hyn oedd yn drosedd yn erbyn deddf gweddwdod y clerigwyr. Er hynny cafodd Reithoriaeth Llanllechid, ac yn 1557 ail benodwyd ef i'r ddeoniaeth.
    3. John Salisbury, Archddiacon Mon, a drowyd allan gan Mari am ei Brotestaniacth. Ail benodwyd ef gan Elizabeth.
    4. Griffith Roberts, Archddiacon Mon, a drowyd allan am ei Babyddiaeth gan Elizabeth, i wneud lle i John Salisbury.
    5. David Lloyd, Prebendur Penmynydd, a drowyd allan gan Mari am ddarfod iddo briodi.
    YN ESGOBAETH LLANDAF.
    Ni chafwyd un o'r urddasolion Eglwysig yn feddiannol ar argyhoeddiadau digon dyfnion i'w cymhell i aberthu dim er mwyn egwyddor.
    YN ESGOBAETH LLANELWY.
    1. Yr Esgob Thomas Wood. Penodwyd gan Mari yn 1558, ond gan i Mari farw cyn iddo feddiannu'r swydd, trowyd ef o'r neilldu gan Elizabeth.
    2. Y Deon Richard Puskin, a drowyd allan gan Mari am ei Brotestaniaeth.
    3. Richard Pollard, Archddiacon, a drowyd allan gan Mari yn 1554, am briodi.
    4. Thomas Davies, Archddiacon, a drowyd allan gan Mari yn 1554, am briodi.
    5. Humphrey Edwards, a benodwyd yn Archddiacon gan Mari yn 1554, a drowyd allan am ei Babyddiaeth gan Elizabeth yn 1558.
    YN ESGOBAETH TYDDEWI.
    1. Yr Esgob Robert Ferrars (neu Farrar). Cyhuddwyd o heresi Protestanaidd, a llosgwyd ef i farwolaeth yng Nghaerfyrddin yn 1556 o dan deyrnasiad Mari.
    2. Yr Esgob Henry Morgan, a drowyd allan gan Elizabeth am ei Babyddiaeth.
    3. Thomas Young, Corgeiniad Tyddewi. Trowyd allan o'i swydd am ei Brotestaniaeth gan Mari, ond gwnaed ef yn Esgob gan Elizabeth,
    4. Morgan Phillips, Corgeiniad Tyddewi, a drowyd allan gan Elizabeth am ei Babyddiaeth.
    5. John Barlow, Archddiacon Caerfyrddin, a drowyd allan am ei Brotestaniaeth gan Mari.
    Wrth grynhoi yr uchod, a chymeryd y pedair Esgobaeth Gymreig at eu gilydd, gwelwn fod un Esgob, un Deon, dau Archddiacon, ac un Corgeiniad, wedi cael eu troi allan gan Mari am eu Protestaniaeth.
    Un Deon, dau Archddiacon, ac un Prebendur, wedi cael eu troi allan gan Mari am briodi.

    Tri Esgob, dau Archddiacon, ac un Corgeiniad, wedi cael eu troi allan gan Elizabeth am eu Pabyddiaeth.

  12. Nid Deddf enwog 1662, ac nid hon ychwaith o eiddo Elizabeth, oedd Deddf Gyntaf Unffurfiaeth. Pasiodd Edward VI. ddwy, un yn 1549 mewn cysylltiad â'r Llyfr Gweddi Cyntaf, ac un arall yn 1552 mewn cysylltiad â'r Ail Lyfr Gweddi. Bu'r ddwy yn foddion i droi rhai allan o'u bywiolaethau. Hon o eiddo Elizabeth oedd y drydedd o'r gyfres Deddfau Unffurfiaeth gormesol a barasant cymaint rhwyg yn Eglwys Loegr. Ceir copi o'r ddeddf hon o eiddo Elizabeth ar ddechreu'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Dadleua'r hen Roger Morrice na sefydlwyd y Llithiau Eglwysig gan y Senedd, ac felly fod erlid a chosbi'r Ymneillduwyr am beidio cydymffurfio â hwynt, ynddo ei hun yn drosedd; neu, mewn geir- iau eraill, mai'r rhai a erlidient ac nid y rhai a erlidid, y swyddogion a'r llysoedd gwladol ac nid yr Anghydffurfwyr, oedd yn torri'r gyfraith.—(Roger Morrice MSS., vol. i., p. 1, pars. 1-8.)
  13. Swllt oedd swm y ddirwy. Na thybied y darllenydd mai dirwy ysgafn ydoedd-canys pris marchnad am ddafad oedd swllt yn y dyddiau hynny. Beth ddywedai ffermwyr Cymru heddyw pe y gorfodid hwy i roi dafad i'r offeiriad yn iawn am bob Sul na fyddent yn yr Eglwys?
  14. Mae yn deilwng o sylw fel arddangosiad o deimlad Elizabeth, iddi wrthod gwneud unrhyw gyfnewidiad yn y llithiau i gyfarfod â theimladau'r Protestaniaid. Ar y llaw arall, gadawodd allan o Lithiau Edward frawddegau oeddent yn anerbyniol gan y Pabyddion, megys er engraifft—
    "Rhag trawslywodraeth Esgob Rhufain a'i holl ysgelerderau ffiaidd, gwared ni Arglwydd daionus!"

PENNOD III.
SER Y BOREU.

Cododd ser y boreu yn ffurfafen hanes crefyddol ein gwlad cyn toriad gwawr gobaith rhyddid. Yn y bennod o'r blaen sylwyd na fuasai'r anghydwelediad rhwng y Llys Brenhinol a'r Protestaniaid, efallai, wedi cyrraedd y fath eithafbwynt oni bae fod cynifer[1] wedi gorfod treulio blynyddoedd teyrnasiad Mari ar y Cyfandir. Ond yno daethant i gyffyrddiad â, ac o dan ddylanwad Protestaniaeth gryfach, iachach Luther a Calvin. Yr oedd gelyniaeth y rhai hyn i Babyddiaeth yn llawer ffyrnicach nag eiddo Protestaniaid egwan Prydain.

Ac eto, flwyddyn cyn esgyniad Mari i'r orsedd yr oeddent wedi ennill iddynt eu hunain oddefiad o dan y ddeddf yn Germani.

Pan gyrhaeddodd y ffoaduriaid o Brydain i'r Cyfandir, ymgynhullasant at eu gilydd, a chynaliasant gyfarfodydd crefyddol yn eu hiaith eu hunain mewn gwlad estronol. A dyma ddechreuad Ymneillduaeth Lloegr.

Pan ddychwelasant i'w gwlad eu hunain ar esgyniad Elizabeth i'r orsedd, yr oeddent wedi magu mwy o asgwrn cefn nag, o bosibl, a wnaent pe yr arhosent yn eu gwlad eu hunain. Felly disgwylient fwy o ryddid gan Elizabeth nag ydoedd hi yn barod i ganiatau iddynt. Cafodd y Frenhines ei hun mewn safle hynod rhwng y ddwy blaid. Ar y naill law gwrthododd yr Esgobion Pabyddol gadw eu hesgobaethau ar draul cydnabod Penarglwyddiaeth y Teyrn yn lle'r Pab; ac ar y llall gwrthododd yr Esgobion a'r Clerigwyr Protestanaidd ddychwelasant o'r Cyfandir, dderbyn yr esgobaethau hynny ar draul defnyddio y defodau Pabyddol a fynnai Elizabeth eu cadw. Ym mhlith y rhai hyn yr oedd yr enwog Miles Coverdale, cyfieithydd y Beibl i Harri; John Knox (yr hwn drwy rym anhyblyg ei egwyddorion a ddaeth yn frenin anghoronedig Ysgotland); a John Fox, awdwr "Llyfr y Merthyron." Ychydig, os dim, Cymry a gawn eto ym mhlith y dychweledigion hyn yn meddu digon o asgwrn cefn i ddewis yn hytrach ddioddef adfyd am egwyddor na chael mwyniant swydd dros amser.

Yn nyddiau Harri, ac Edward, a Mari, Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth oedd y ddau allu gwrthwynebol. Eithr yn awr yr oedd cyfansoddiad y byddinoedd wedi newid i gryn raddau. Protestaniaid y gelwid y ddwy fyddin; ond Protestaniaid swyddogol yn proffesu rhith Protestaniaeth tra yn gwadu ei grym hi, oedd un; a Phrotestaniaid gwirioneddol, yn mynnu cael y peth yn ogystal a'r enw, oedd y llall. O dipyn i beth daeth y Diwygwyr hyn oeddent am buro yr Eglwys, i gael eu galw yn Buritaniaid. Gwrthdystio yn erbyn Pabyddiaeth fel ffug grefydd, a wnai'r Protestaniaid; gwrthdystio yn erbyn ffug-Brotestaniaeth a wnai'r Puritaniaid. Tyfodd Protestaniaeth yn naturiol i fod yn Buritaniaeth; a dadblygodd Puritaniaeth yn yr un modd i fod yn Anghydffurfiaeth,—ac wedi hynny yn Ymneillduaeth. Gwrthwynebu awdurdod y Pab oedd y garreg filltir gyntaf ar daith Protestaniaeth i gyfeiriad Ymneillduaeth; troi ymaith oddiwrth athrawiaethau Pabyddol oedd yr ail; ymwrthod âg arwyddion allanol y ddefodaeth Babyddol oedd y drydedd. Ni fwriadai Harri VIII. fynd yn mhellach na'r garreg gyntaf; dymunai Edward deithio hyd yr ail; chwenychodd Mari fynd yn ol i'r hen lwybr oddiar yr hwn y trodd ei thad; mynnodd Elizabeth fynd fel Harri hyd y garreg filltir gyntaf a dim cam ym mhellach; awyddai'r Puritaniaid weled yr Eglwys yn cyrraedd y drydedd filltir.

Felly cawn yn awr y Llys a'r Esgobion wedi cyrraedd y garreg filltir gyntaf, a'r Puritaniaid wrth y drydedd; ac yn y canol rhwng y ddwy safai corff y bobl heb wybod beth i wneud, a llawer o'r clerigwyr a ddymunent deithio tua'r drydedd, ond a ofnent lid y Frenhines. Ac nid heb achos yr ofnent, canys yr oedd digofaint Elizabeth, pan enynnid ef, yn waeth nag eiddo ei thad na'i chwaer. Wedi pasio Deddf Unffurfiaeth, penododd Ddirprwyaeth i fynnu gweled fod y ddeddf yn cael ei chario allan—ac fel esboniad ar y ddeddf cyhoeddodd nifer o gyfarwyddiadau manwl i'w chlerigwyr a'u deiliaid,[2] a gwnaed gweddio yn y teulu yn waeth trosedd na meddwi yn y dafarn.

Profodd Elizabeth, fel eraill o'i blaen ac ar ei hol, mai "rhwyddach dweyd 'mynydd' na mynd drosto." Y mae erlid bob amser yn creu rhagrithwyr ac nid credinwyr. Cafodd Elizabeth wrthwynebiad a chymorth gan yr esgobion.[3] Gwrthwynebent bob diwygiad yn yr Eglwys o du'r Frenhines ac o du y Puritaniaid. Cadwasant hwy, a chorff y clerigwyr, eu swyddi, er yn anghytuno â gwaith Elizabeth. Canlyniad ei gorthrwm hi felly oedd, cau allan y Pabyddion egwyddorol ar y naill law, a'r Puritaniaid egwyddorol ar y llall; felly delid y rhan fwyaf o'r swyddi eglwysig gan ddynion nad oeddent yn meddu egwyddorion dyfnion o gwbl.

O gwmpas cwestiwn y gwisgoedd, yn bennaf, yr ymladdwyd brwydr fawr Puritaniaeth y dyddiau hynny. Y rhai hyn oedd y graig rwystr i'r clerigwyr a ddaethant yn ol o'r Cyfandir wedi marw Mari.[4] Cofier mai nid yn erbyn y gwisgoedd fel gwisgoedd yr oedd y gwrthwynebiad, eithr yn erbyn y gwisgoedd fel arwyddion allanol o'r egwyddorion Pabyddol oedd mor atgas gan y Diwygwyr hyn.

Gwnaeth gormes Elizabeth Buritaniaeth yn boblogaidd. Digwyddodd yr un peth yn nyddiau Edward. Cafwyd engraifft nodedig yn achos yr Esgob Hooper, yr hwn yn ei esgobaeth ei hun a bregethai ddwy a thair gwaith y dydd i dorfeydd lliosog. Pan wrthododd Miles Coverdale Esgobaeth Exeter gan Elizabeth, trodd allan heb y wisg i bregethu Crist. Tyrrai'r bobl i'w wrandaw, ac yn gyffredin ar nos Sadwrn gyrrent i'w dy er cael gwybod pa le y bwriadai bregethu drannoeth. Yr oedd ei angladd yn un o'r rhai mwyaf a welodd yr oes honno. A'r hyn oedd yn wir am y ddau hyn oedd yn wir am eraill hefyd.

Ond cynhyrfodd gormes Elizabeth wrthwynebiad arall a phellach. Trodd rhai o'r esgobion, yn eu plith Grindal, Esgob Llundain, i'w herbyn, gan estyn pob ffafr a feiddient i'r Puritaniaid.[5] Cawsant gydymdeimlad y Prif Ysgolion, canys gweithredodd Caergrawnt ar yr hawl oedd ganddi i drwyddedu pregethwyr ac felly pan wrthodai'r Frenhines roi trwydded i bregethwr am ei fod yn Buritan, caffai hwnnw gan y Brifysgol drwydded a roddai iddo hawl i bregethu lle bynnag y medrai gael drws agored.[6] Cododd Ty'r Cyffredin hefyd mewn gwrthwynebiad.[7] Mewn gair yr oedd synwyr y wlad o blaid y Diwygwyr, a'r Diwygwyr o blaid diwygiad Eglwysig trwyadl ac nid ffug-ddiwygiad.[8]

Cafodd gormes Elizabeth ganlyniad arall. Yr oedd y clerigwyr cydwybodol fethent gydffurfio a'i rheolau caethiwus hi, gan mwyaf yn bregethwyr galluog. Pan wrthododd y rhai hyn aberthu eu hegwyddorion er mwyn cadw eu bywiolaethau, cafwyd anhawster i gael personau cymhwys i lenwi eu lle. Penodwyd dynion hollol anghymwys i'r offeiriadaeth—yn grefftwyr, masnachwyr, ac arall. Mewn rhai rhannau o'r wlad nid oedd ond un o bob chwech o'r offeiriaid yn medru pregethu. Yn Llundain nid oedd ond hanner yr Eglwysi lle y cynhelid gwasanaeth pregethu.[9] Yr oedd cyflwr Cernyw yn waeth fyth.[10] Gresynus i'r eithaf oedd cyflwr Cymru. Mewn adroddiad swyddogol o eiddo Esgob Rowland Meyrick cawn nad oedd yn holl Esgobaeth Bangor ond dau glerigwr a arferent bregethu.[11] Allan o 10,000 o blwyfi yn Lloegr a Chymru nid oedd ond 2000 yn meddu clerigwyr a fedrent bregethu. Yr oedd felly 8000 o blwyfi lle na chai'r plwyfolion bregeth gan yr offeiriad o gwbl. Teithiai'r rhai a ddymunent glywed pregeth 12 neu 20 milldir cyn dod o hyd i bregethwr—ac yna dirwyid hwynt bris dafad am beidio mynd i Eglwys y plwyf gartref.

Dyma ynte ganlyniad gormes crefyddol Elizabeth. Delid y bywiolaethau gan mwyaf gan rai na fedrent bregethu; o'r tu allan i'r Eglwysi yr oedd llu o ddysgedigion a fedrent, ond na chaent, bregethu. Dysgedigion galluog, a siaradwyr hyawdl, gan mwyaf oedd Anghydffurfwyr y cyfnod hwn,—a dyma Ser y Boreu i Ymneillduaeth Lloegr. Gwyr anysgedig, os nad anllythrennog, ac heb fedru pregethu, oedd mwyafrif y rhai a ddalient swyddi yn yr Eglwys. Er na chai'r Anghydffurfwyr bregethu yn yr Eglwysi, dygid pregethu ymlaen mewn llawer o fannau, ac yn y mannau hynny yr oedd y pregethwyr (fel y nodwyd eisoes am Miles Coverdale) yn boblogaidd. Cedwid

Dyddiau Ympryd gan Gydffurfwyr ac Anghydffurfwyr fel eu gilydd, ac ar y dyddiau hynny caniateid i'r olaf bregethu, er nad yn yr Eglwysi. Felly, o dipyn i beth, ffurfiwyd nifer of gynulleidfaoedd Anghydffurfiol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ni cheid ond un neu ddwy o'r cyfryw gynulleidfaoedd yng Nghymru.1[12]

Atebiad Elizabeth i gynnydd digamsyniol Puritaniaeth, oedd gwneud y cadwyni yn dynnach.[13]Tynnodd yr Esgobion yn 1583 gyfres o Erthyglau manwl a chaethiwus allan." [14] Enynnodd y rhai hyn ddigofaint cyffredinol, a gwnaed defnydd mawr o'r wasg, drwy gyhoeddi llyfrau a phamffledau i wrthdystio yn eu herbyn. Yn yr un flwyddyn cafodd Elizabeth gan ei Chyngor i gyhoeddi deg o erthyglau eraill yn anelu yn uniongyrchol at fywyd Anghydffurfiaeth. Yr oeddent yn ddigon craffi ganfod mai'r blaid a allai gael meddiant o'r plant fyddai'r blaid a feddiannai'r bobl yn y genhedlaeth ganlynol. Felly gorchymynwyd i'r Esgobion i holi yn ddyfal ynghylch pob ysgolfeistr yn ei Esgobaeth "modd y gellir symud y cyfryw nad ydynt iach." Cymhwysid y gorchymyn hwn at bob ysgolfeistr, ai cyhoeddus ai preifat. Aed ym mhellach fyth, gan orchymyn i'r Esgobion i holi pa fodd y dygid plant yr Anghydffurfwyr i fyny. Nid yn ddiwrthwynebiad y pasiwyd y rheolau hyn. Gosododd y gwladweinydd galluog Cecil, Arglwydd Burleigh, ei wyneb yn gadarn yn eu herbyn.[15] Yn cael eu cefnogi ganddo ef tynnodd Ty'r Cyffredin ddeiseb allan yn 1584 yn gwrthdystio yn erbyn gormes yr Esgobion. Atebwyd y ddeiseb mewn ysgrif hir gan yr Archesgob, yn yr hon y dywedai fod "y Ddeiseb yn ymddangos yn tueddu at y cyfryw benrhyddid a diddymiad cyfreithiau, ac yn gymaint perygl, fel nas gellid ei oddef nac yn yr Eglwys na'r Wladwriaeth, fel y bydd nid yn unig yn parhau ond yn ychwanegu at y Sism a'r ymraniad sydd yn ein plith eisoes." Desgrifiai y ddeiseb—yn yr hon ni wnaed ond yn unig geisio amddiffyn hawliau cyffredin y bobl—fel "Deiseb Anuwiol."

Ac yn y ffurfafen dywell yna y llewyrchai goleuni clir Ser Boreu Ymneillduaeth Lloegr—y Puritaniaid y cyfeiriasom atynt eisoes.

Nodiadau

[golygu]
  1. Dywedir fod wyth cant o glerigwyr wedi ffoi i'r Cyfandir i ddianc rhag llid Mari.
  2. Ym mhlith y cyfryw ceid a ganlyn:—Ni chai clerigwr briodi heb ganiatad ei Esgob a dau Ustus heddwch, ac ni chai Esgob briodi heb ganiatad yr Archesgob a'r Dirprwywyr; anghymeradwyid a chosbid gweddi ddirgel a theuluaidd,—modd y gellid cael pob addolwr o'r tu fewn i furiau'r Eglwys ar yr hon yr oedd hi yn Ben.
  3. "The Act of substituting our present Ecclesiastical Establishment for the Popish ones which preceded it was passed with the dissent of all the Bishops, and therefore the style of Lords Spiritual' is omitted throughout the whole."—(Blackstone's Commentaries, Bk. i. Chap. 2, Note.)
  4. Dywed Grindal, a wnaed wedi hynny yn Archesgob Caergaint: "Alf the Bishops who had been abroad, on their return dealt with the Queen to let the matter of habits fall." Dywed Hallam: "Except Archbishop Parker, and Cox, Bishop of Ely, all the most eminent Churchmen, such as Jewell, Grindal, Sandys, Nowell, were in favour of leaving off the surplice, and what were called the Popish ceremonies." Hyd yn oed yn y colegau, lle yr arferid gwisgoedd athrofaol, gwrthwynebid y gwisgoedd offeiriadol. Gomeddodd Esgob Hooper osod y wisg am dano wrth gael ei gysegru. Gwrthwynebid y gwisgoedd ar yr un tir gan Latimer, Ridley, Cranmer, Taylor, Philpot, Bradford, ac eraill yn nyddiau Mari.
  5. Nid oedd Grindal bob amser yn dal y golygiadau hyn. Pan gafwyd Wm. White, Robt. Hawkins, Thos. Bowland, tri o bregethwyr, a thua cant o'u gwrandawyr, yn euog o gynnal cyfarfodydd heb drwydded yn Llundain, carcharwyd hwynt am flwyddyn. Yn Ionawr, 1569, ar eu rhyddhad ar ol blwyddyn o garchariad, ysgrifena Grindal :—
    "My opinion is that all the Heads of this unhappy faction should be with all expedition sevearely punished as an example to others as people fanaticall and incuerable. . . . And because all Prisoners for any color of religion, be it never so wicked, finde great support and comfort in London, in mine opinion it were not amisse that six of the most desperate of them should be sent to the Common Gaole of Cambridge, six likewise to Oxon, and some of them to othere gaoles hereabout. . . . I commend your good Lordships to Almighty God who ever have you in his blessed keeping.
    "Your Lordships in Christ,
    "EDMUND GRINDALL.
    "From my house at Poles, London,
    the 4 of January, 1569."
    —(The Roger Morrice's MSS., vol. i.)
  6. Warner, vol. ii. p. 436
  7. Pan yn ystyried cwestiwn Llys yr Uchel Ddirprwyaeth, dywedodd Syr Peter Wentworth yn Nhy'r Cyffredin :—
    "There were but small hopes of a reformation. Banishing the pope and reforming true religion had its beginning from this house, but not from the bishops; few laws for religion had their foundation from them; and I do surely think, before God I speak it, that the bishops were the cause of this doleful message."
    Gyrrwyd Syr Peter i garchar i'r Twr am siarad mor blaen.
    James Morice, a lawyer of considerable eminence, wrote to Lord Burleigh, complaining of his imprisonment. The bishops and ecclesiastical judges were about this time accused in the House of Commons "As Dishonourers of God and her Majestie, violaters and perverters of law and public justice, and ronge doers unto the liberties and freedoms of all her Majestie's subjects by their extorted othes, wrongfull imprisonments, lawlesse subscription, and unjust absolucions Be it so, yet I hope her Majestie and you of her ho. privy counsell, will at lengthe thoroughly consider of these things, least as wher hearetofore we prayed from the tyranny of the Bishop of Rome good Lord deliver us,' we be compelled to say from the tyranny of the clergy of England good Lord deliver us.' Pardon my playne speache, I humbly beseache your honr., for it proceedeth from an upright hart and sound conscience, although in a weake and sycklie bodie; and by God's grace whilest life doth last, I will not be ashamed in good and lawful sorte to stryve for the freedom of conscience, publicke justice, and the liberties of my country."—(Lodge's Illustrations of British History, vol. iii. no. 257.)
  8. Dywed Macaulay:—"It cannot be doubted if the general sense of the (Protestant) party had been followed, the work of reform would have been carried on as unsparingly in England as in Scotland."
  9. Danfonwyd deiseb o Lundain i'r Senedd yn dweyd:-"That half of their churches were unsupplied with preaching ministers; in the other half, partly by reason of non-residents, partly through the mean qualifications of others, there is scarce a tenth man who makes conscience to wait upon his charge, whereby the Lord's Sabbath is often-times wholly neglected, for the most part miserably mangled, and darkness coming in like an armed man."
  10. Danfonwyd deiseb i'r Senedd o Cernyw yn nyddiau Elizabeth, yn yr hon y dywedid—
    "We are 90,000 souls ready to perish for want of the word of God, and though we have 160 churches, to the maintenance of which there is yearly allowed £9200, the greatest part of them are supplied by men who are guilty of the grossest sins, fornicators, adulterers, felons bearing the marks in their hands of the said offences; drunkards, gamesters on the Sabbath Day; many who preach but once a quarter. We have some ministers who labor faithfully in the Lord's husbandry, but these men are not suffered to attend their callings. . . . Nor is it safe for us to go to hear them, for though our own fountains are dried up, yet if we seek the waters of life elsewhere we are cited into the spiritual courts. . . . Therefore from far we come beseeching this honourable house to dispossess these dumb dogs and appoint them faithful ministers who might preach the word without molestation. from any Ecclesiastical Commissioners."
  11. Heblaw y ddau a arferent bregethu yr oedd yn yr Esgobaeth amryw a fedrent bregethu. Wele gopi cyflawn o'r rhan yma o'r adroddiad dyddorol hwn, modd y gwelir ym mha ardaloedd y pryd hwnnw y gallai'r offeiriad bregethu:—

    The Names of the Prechers licensed, and do prech.

    PRECHERS

    .
    Mr Robert Evance Prist, Bachelor of Devyintie and Dean of Bangor.
    Thomas Lloyd Prist, Vicar of Llan-gurike (Llan-gurig).

    The names of such as be able to preche, and may do goode.

    In Com. CARNARVAN.

    Mr Edmond Myrike Priest, Archdeacon of Bangor.
    Mr William Roberts Priest, Archdeacon of Meryoneth.
    D. David Owen Priest, Parson of Cryketh (Crickcaith vel Crickieth).
    D. John ap Robert Preiste.
    D. Roger Evance Preiste.
    D. Henry Holland the yonger, Prieste, Vicar of Conwaye.
    D. Morres Powell Prieste, Parson of Llaneithan.
    D. David Moythe Priest, Parson of Llanvair.
    D. Hughe ap David Priest, Vicar of Abereche.

    In Com. ANGLESEY.

    Mr Thomas Bulkeley Parson of Llan Rithland (Llan Rhyddlad).
    Mr Richard Myrian Priest, Parson of Aberfraw.
    Mr William Hughes Priest, Parson of Llandiffnan (Llanddyfnan).
    D. Thomas Johns Priest, Parson of Eglwyffail.
    D. Richard ap Jenn Priest, Parson of Llanallgo.
    D. David Owen Priest, Parson of Trefdraith.
    D. William Powell Priest, Prebendary of Penmynydd.
    D. William ap David Priest, Parson of Llan Saderne.
    D. Lewis ap John Priest, Parson of Llandegvan.
    D. Richard Hughes, Chaplen.
    D. Richard Birkedale Chaplen.
    D. William ap Thomas Chaplen.
    D. John Towen Chaplen.
    D. William Lewis, Chaplen.

    MYRIONETHE.

    Mr. Robert ap Morgan Priest, Parson of Llanaber.
    D. Arthur Hughes Priest, Vicar of Towyn.
    D. Ellis Prichard Priest, Parson of Dolgelle.
    D. Thomas Griffith Priest, Parson of Llanfrothen.
    Mr. John Hughes Priest, Parson of Llangynhaval.
    Sir Fulke Lloyd Priest, Parson of Llangoyfen (Llan Gwyfen).
    D. Griffith Johns Priest, Parson of Llan Elidan.
    D. Hugh Davies Priest, Vicar of Llan Rayder (Llan Rhaidr).
    D. Lewis Gethyn Priest, Vicar of Llanvair and Dyffryn Clwyd..
    RO. BANGOR.—(MSS. Matthei Parker Archiepiscopi Cant. in Biblioth. Coll. Corporis Christie, Cantabr. Miscell. 4.)
  12. Pregethid i'r rhai hyn gan yr ychydig Gymry a ddalient drwydded yr Esgob Grindal i bregethu, megys y drwydded a roddwyd i Thomas Llewelyn, yn Rhigos, Sir Forgannwg. Ei ddisgyblion ef ddechreuodd yr achos Ymneillduol ym Merthyr. Cedwid addoliad rheolaidd yn amaethdy Blaencanaid oddeutu'r flwyddyn 1620.
  13. O 1562 i 1583 cyhoeddodd y Frenhines Chwe Cyfres wahanol o Erthyglau, y rhai a fynnai hi i'r offeiriaid eu harwyddo. Gwnaed hyn yn dra chyffredin a'r rhai cyntaf, ond teimld fod y lleill mor gaethiwus fel nas gallai hyd yn oed cydwybodau ystwyth y rhai a ymostyngasant iddi ar y dechreu, blygu iddynt. Y canlyniad fu, troi ychwaneg o'r dynion goreu yn yr Eglwys allan o honi.
  14. Articles agreed to by the Bishops, exhibited to her Majestie Sept., 1583.
    1. That the Lawes late made against Recusants be put in more due execution considering the benefit that hath grown to the Church thereby where they have been so executed, and the encouragement which they and others do receive by remisse execution thereof.
    2. That all Preaching Reading Catechising, and other such like exercises in private places and families whereunto others do resort being not of the same family be utterly prohibited seeing the same was never permitted as lawfull under any Christian Magistrate but as a manifest signe of Schisme and cause of contention in the Church.
    3. That none be admitted to Preach Read or Catechise in the Church or Elsewhere unlesse he do four times in a year at least, say service and minister the Sacraments according to the Book of Common Prayer. 4. That all Preachers and others in Ecclesiastical Orders do at all times use and wear such kind of Apparel as is presented unto them by the Booke of Advts. and her Majestie's Injunctions.
    5. That none be admitted to Preach and interpret the Scriptures unlesse he be a Priest or Deacon at least admitted thereunto according to the Lawes of the Realme.
    6. That none be permitted to Preach, Read, Catechise, Minister the Sacraments or to execute any other Ecclesiastical function by what authority soever he be admitted thereunto, unlesse he first consent and subscribe to these Articles following before the Ordinary of the Diocese wherein he resideth, &c.
    Then follow eight articles declaring the Queen's Supremacy, the Book of Common Prayer, the Booke of Articles of 1562, be a graduate of a University, &c.—(The Roger Morrice MSS., vol. i. Book 56, pp. 37—39.)
  15. Dyma'r modd y cyfiawnhaodd yr Archesgob Whitgift ei hun yng ngwyneb gwrthwynebiad Burleigh:—
    "I am fully persuaded that my manner of proceeding against these kind of men is both Lawfull, usuall and charitable, neither can I devise how otherwise to deale to worke to any good effect. It is the only thing wherein your Lordship and I do differ. Not severity but lenity hath bred this Schisme in the Church. . . The accusation of severity is the least thing I feare."—(The Roger Morrice MSS., vol. i.)

PENNOD IV.
RHAGFLAENWYR GWAWR CYMRU.

Hyd yma am Hanes y Diwygiad yn Lloegr yr ydym wedi bod yn siarad, a hynny am y rheswm syml nad oedd y Diwygiad eto wedi dechreu amlygu ei hun yng Nghymru. Ond bellach deuwn yn nes adref, er y bydd yn rhaid dweyd llawer eto am Loegr, ei gwaith, a'i gweithwyr, mewn cysylltiad a'r hyn a wnaed o'r diwedd yng Nghymru.

Elizabeth, yr hon a wnaeth gymaint o niwed yn Lloegr, a gynhyrchodd foddion y Diwygiad yng Nghymru. Er mwyn cael y trechaf ar y Pab, a phwysleisio'r ffaith fod Eglwys Loegr yn hollol anibynnol ar Eglwys Rufain, ceisiodd wneud yr Eglwys mor nodweddiadol Seisnig ag oedd modd, ei gwneud mewn geiriau eraill, yn Eglwys arbennig i drigolion ei gwlad. Tuag at sicrhau hyn, ffafriodd ledaeniad pellach y Beibl, a hynny yn iaith y bobl. Felly yn Saesneg yn lle'r Lladin y dygwyd yr holl wasanaeth ym mlaen yn yr Eglwysi.

Erbyn hyn yr oedd rhai o'r Cymry hefyd wedi dechreu deffro o'r cysgadrwydd oedd wedi eu cadw gyhyd yn rhwym mewn segurdod a thywyllwch. Y wasg fu yn foddion i ddechreu deffro cenedl y Cymry—ac mae'r wasg wedi bod byth er hynny yn uchel ei bri yn y wlad.

Y pryd hwn Cymraeg oedd iaith gyffredin y genedl o Gaergybi i Gaerdydd, ac o Lanandras i Dyddewi. Ceisiodd Harri VIII., mae'n wir, ladd iaith ei dadau. Yn un o adrannau Deddf yr Uniad<ref>27 Henry VIII., cap. 26.</ref a wnaeth Gymru'n un a Lloegr, darperid fod holl weithrediadau pob llys yng Nghymru i gael eu cario ymlaen yn Saesneg; ac os defnyddiai unrhyw swyddog yn y llys yr iaith Gymraeg wrth gyflawni ei ddyledswyddau yno, collai ei gyflog. Gwelir mai yr unig wahaniaeth rhwng swyddogion Cymru dri chant a hanner o flynyddoedd yn ol, a'u brodyr heddyw, yw ei bod yn ofynol dirwyo y cyntaf i'w rhwystro i siarad Cymraeg, tra mae yn rhaid cynyg tâl iddynt heddyw i'w perswadio i'w defnyddio. Arferid y Gymraeg hefyd mewn rhannau helaeth o siroedd Henffordd, Amwythig, a Chaer. Danfonid meibion pendefigion a feddent diroedd yng Nghymru, at Gymry i ddysgu'r iaith.[1] Mewn plwyfi yn Sir Amwythig gwrthwynebid penodiad clerigwyr na fedrent yr iaith Gymraeg.[2]

Yr oedd rhannau o'r Ysgrythyr wedi cael eu cyfieithu i'r Gymraeg o bosibl cyn dyddiau Elizabeth.[3] Ond mewn ysgrifen yn unig yr oedd y rhai hyn. Yr enwocaf o honynt, efallai, oedd eiddo'r hen fardd Thomas Llewelyn, o Sir Forgannwg, y cyfeiriwyd ato eisoes fel wedi cael trwydded gan yr Esgob Grindall i bregethu.[4] Awgryma Malkin fod William Salesbury a'r Doctor Richard Davies wedi gwneud defnydd o gyfieithad Llewelyn pan ymaflasant yn y gwaith o ddwyn allan y Testament Newydd yn Gymraeg.

Ond gan nad beth am hynny, yn niwedd teyrnasiad Edward VI. y dechreuodd llyfrau Cymraeg gael eu hargraffu. Gwnaeth Gruffydd Hiraethog yn y Gogledd, a Syr John Price yn y De, wasanaeth pwysig wrth gyhoeddi y llyfrau Cymraeg cyntaf—a'r rhai hynny yn llyfrau o nodwedd grefyddol. Ar eu hol hwy daeth William Salesbury, cyfieithydd yr argraffiad cyntaf o'r Testament Newydd i'r Gymraeg. Yn ei ieuenctyd Pabydd selog a defosiynol oedd Salesbury." 6 [5] Mae yn dra thebyg mai yn y Coleg yn Rhydychain y cafodd droedigaeth, canys yno daeth i gysylltiad â dylanwadau John Hooper, Alexander Nowel, John Jewel, ac eraill oeddent wedi Protestaneiddio y Brifysgol honno. Am ei Brotestaniaeth gorfu iddo, yn nheyrnasiad Mari, fynd ar ffo. Dyry Ioan Pedr ini ddarlun tarawiadol o'r Cymro ieithgar mewn ystafell gudd yn y Cae Du, Llansannan, wrth y gwaith o gyfieithu'r Testament.[6] Prydferth iawn yw'r darlun, ond mae lle i ofni mai dychymyg ac nid ffaith yw; canys os bu ar ffo, yn nyddiau Mari y bu. Nid oes amheuaeth na fu Salesbury yno yn llechu, ac o bosibl yn ysgrifennu llawer—eithr yn nheyrnasiad Elizabeth y cyfieithodd y Testament trwy orchymyn Elizabeth, ac felly nid oedd angen iddo fod ar ffo nac ynghûdd y pryd hwnnw. Nid i Salesbury ei hun y rhoddwyd y gorchymyn hwn, ond i'r Esgobion Cymreig;[7] ond yr oedd Salesbury wedi hir ddeisyf am fod i'r gwaith gael ei wneud.[8] Mae'n debyg mai'r Dr. Richard Davies a ymgymerodd â chwilio am wŷr cymhwys i wneud y cyfieithiad.[9] Mae'n debyg i'r gwaith o gyfieithu'r Testament gael ei rannu rhwng yr Esgob Davies, Salesbury, a Huet.[10] Cyflwynodd Salesbury'r gwaith gorffenedig i'r Frenhines mewn llythyr nodweddiadol sy'n taflu cryn oleuni ar sefyllfa Cymru yn yr oes honno.[11] Teg yw ychwanegu yma

fod dau Gymro dysgedig, Dr. Gruffydd Roberts a'r Dr. Rhosier Smyth, oeddent Babyddion, ac a giliasant i'r Cyfandir ar esgyniad Elizabeth, wedi gwneud eu rhan mewn gwlad dramor i chwyddo llenyddiaeth eu cydgenedl gartref. Cyhoeddasant rhyngddynt amryw lyfrau, y mwyaf adnabyddus o'r rhai yw Y Drych Cristionogawl. Gwasanaethodd eraill yn y deffroad llenyddol Cymreig hwn a ragflaenodd y deffroad crefyddol sydd gennym yn bennaf dan sylw; a gellir nodi, wrth fyned heibio, Humphrey Lloyd a Dafydd Powel, D.D., a gyhoeddasant lyfrau tra dysgedig yn ymwneud â hanes y Cymry. Ond o'i ysgwyddau i fyny yn uwch na'i frodyr dyrchafa'r Dr. William Morgan ymhlith y rhai a wasanaethasant eu cenedl yn y cyfnod hwn. Yn wahanol i'r Dr. Richard Davies a William Salesbury, nid arhosodd William Morgan am na Chomisiwn Brenhinol na Deddf Seneddol cyn ymgymeryd â'r gwaith ar yr hwn y gosododd ei galon. Yn nhawelwch ficerdy Llanrhaiadr-ym-Mochnant y dechreuodd ac y gorffenodd gampwaith mawr ei fywyd a'i oes, sef cyfieithu yr holl Feibl i'r Gymraeg. Mae yn bosibl mai yn ystod ei arosiad yn y Brifysgol yng Nghaergrawnt y daeth William Morgan, fel William Salesbury, yn

Brotestant mor selog. Gwrthwynebid y cyfieithydd galluog gan ei blwyfolion ei hun—o bosibl am fod rhai ohonynt yn Babyddion ac wedi digio wrth ei Brotestaniaeth ef. Gwysiwyd ef o flaen yr Archesgob Whitgift—ac er cymaint o ddrwg a wnaeth hwnnw i Ymneillduaeth a Chrefydd yng Nghymru, rhaid cydnabod iddo hefyd wneud gwasanaeth amhrisiadwy drwy noddi a chynorthwyo William Morgan i gyfieithu'r Beibl i iaith y werin.[12] Wrth gyflwyno'r cyfieithad Cymraeg o'i Feibl i'r Frenhines, ysgrifenna William Morgan rai brawddegau tra chynhwysfawr ac arwyddocaol ynghylch y perygl o geisio sicrhau unffurfiaeth ar draul y gwirionedd."[13] Ar ddiwedd ei lythyr cydnebydd y cymorth a gafodd gan Esgobion Llanelwy a Bangor, gan David Powel (y soniwyd am dano uchod), gan Edmwnd Prys Archddiacon enwog Meirion, a chan Ed. Vaughan, Llywydd Ysbytty St. Ioan, "yr hon sydd yn Lutterworth."

Wrth ledaenu'r Ysgrythyrau yng Nghymru, ac wrth noddi yr iaith Gymraeg, gwnaeth Elizabeth fwy i hyrwyddo'r Diwygiad yn y Dywysogaeth, nag a wnaeth holl sêl Protestanaidd honedig ei thad a holl ymdrechion gonest ei brawd.

Ac yr oedd gwir angen am i rywbeth sylweddol gael ei wneud, canys yr oedd sefyllfa Cymru yn resynnus. Yn 1535 yr oedd William Barlow, Esgob Tyddewi, wedi rhoi adroddiad i Thomas Cromwell, Prif Weinidog Harri VIII., oedd yn gosod pethau allan mewn lliwiau eithriadol o dywyll. Cyhuddai yr Eglwyswyr o "lygredigaethau dychrynllyd, gorthrym—drethi twyllodrus, bywyd anrhefnus, delw—addoliaeth baganaidd, a gefnogir yn y modd mwyaf gwarthus dan lywodraeth yr Eglwyswyr."[14] Dyry Strype[15] yn 1550 ddarlun os yn bosibl fwy tywyll na hyn. Deng mlynedd wedi hyn gyrrodd Dr. Rowland Meyrick, Esgob Bangor, at glerigwyr ei Esgobaeth, nifer o gwestiynau sy'n lled—awgrymu cyflwr gwarthus nid yn unig o esgeulusdod mewn cyflawni, neu yn hytrach peidio cyflawni dyledswyddau, ond o anfoesoldeb cydnabyddedig ac agored. Ac yn y cyflwr gresynnus yna yr oedd Cymru pan ymddangosodd y personau a nodwyd yn y bennod hon, fel rhagflaenwyr y wawr oedd ar dorri.


Nodiadau

[golygu]
  1. Yorke's Royal Tribes, pp. 81—2. Note
  2. Thomas's Hist. Dioc. St. Asaph, pp. 92—3
  3. Gwaith Gwallter Mechain, cyf. ii., tud. 190.
    Myvyrian Archaiology, tud. 367—77.
    Cambrian Register, cyf. i. tud. 444.
  4. Malkin's South Wales, vol. i., p. 297.
  5. Mewn llyfr Saesneg a gyhoeddodd Salesbury yn 1550, dywed :— "Canys yr oedd gyda hwy (yr Iuddewon) y pryd hynny, fel y bu gyda minnau pan yr oeddwn yn Babydd santaidd, pryd yr oedd fy mherthynas â Duw yn debyg i hyn; sef os gwrandawn offeren ar Sul a gwyl, os dywedwn fy ngweddi yn blygeiniol i Mair, neu Sallwyr y Forwyn, os cusanwn ac y llyfwn yn ddefosiynol draed eu saint (canys felly y galwant eu delwau), ac os taenellwn fy hun â dwfr rheibiedig (conjured), ac os dygwn y pennyd ofergoelus a osodid arnaf gan fy— pa'r un a ddywedaf, gelyn ynte tad?—ysbrydol; yna, meddaf, yr oeddwn ar y fath delerau â Duw, fel y tybiwn ac y credwn yn gadarn fy mod wedi cyflawni fy nyledswydd yn llawn tuagato, er na alwaswn un— waith i gof haeddiannau marwolaeth Crist i foddloni a dyhuddo cyf— iawnder, am yr holl droseddau a phechodau a gyflawnaswn, a'm buchedd ddrygionus drwy fy mywyd yn flaenorol."—(The Baterie of the Popes Botereulx commonly called the high altare, &c.)
  6. "Yr oedd yn yr hen dŷ dair ystafell ar y llawr a dwy i fyny, heblaw y seler a grybwyllasom eisoes, a'r ystafell fechan enwog yn y simdde, lle y dywedir i Salesbury gyfieithu y Testament. Yr oedd hyd yr adeilad drosto tua 72 o droedfeddi, a'i lled rhwng y muriau tua 14 o droedfeddi. Cymerai yr ystafell gyntaf tua 9 troedfedd o'r hyd, ac yn hon nid oedd le tân, ond gorweddai yn lled ddwfn yn y ddaear. Y nesaf, neu y ganol, oedd y brif ystafell, yr hon a fesurai tuag 16 troedfedd o hyd, ac ynddi yr oedd yr aelwyd a'r simdde. Gwahanid y ddwy ystafell hyn gan fur cerryg yn cyrraedd i'r nen. Nid oedd un llofft ar yr ystafell gyntaf, ond yr oedd un oddiar y ddwy arall, ac un fechan hefyd wedi ei ffurfio yn y simdde rhwng y fantell, neu y palis oddiar y fantell, a'r mur terfyn, ac uwch ben yr aelwyd. Yr oedd y llofft oddiar y gegin fawr felly yn llai na'r gegin o led y simdde. Nid oedd un drws i fyned o'r brif lofft i'r un fechan a ddarluniwyd, ac nis gallasai neb feddwl fod yno un ystafell o gwbl. Yr unig ffordd i fyned iddi oedd drwy ddringo i fyny y simdde, a dyma'r fath le oedd y ddirgelfan, neu gysegr fel y gellid yn briodol ei alw, lle y cyflawnwyd y gwaith santaidd a roddodd y fath enwogrwydd arno."—(Enwogion y Ffydd, cyf. i., tud. 44.)
    Cafwyd ystafelloedd o'r fath yn dra gwasanaethgar mewn amser o erlid cyn ac ar ol hyn. Ynddynt cafodd Ymneillduwyr y ganrif ganlynnol noddfa ddiogel rhag eu gelynion dro ar ol tro.
  7. Wele eileb lawn o'r comisiwn brenhinol yn awdurdodi gwneud y cyfieithad:—
    Yn gymaint nad ydyw yr iaith Saesneg yn ddealledig gan y nifer fwyaf a'r luosocaf o ddeiliaid anwylaf ac ufudd ei Mawrhydi, ag sydd yn preswylio o fewn tiriogaeth a gwlad ei Huchelder yng Nghymru, yr hon nid yw ran fechan o'r deyrnas hon, y rhai gan hynny ydynt yn llwyr amddifad o Air santaidd Duw, ac ydynt yn aros yn y cyffelyb, neu yn hytrach mewn mwy o dywyllwch ac anwybodaeth nag yr oeddynt yn amser y grefydd Babaidd. Bydded yn ddeddfedig
    Fod i Esgobion Henffordd, Ty Ddewi, Llanelwy, Bangor, a Llandaf, a'i holynwyr, gymeryd y fath drefn yn eu plith eu hunain er iechyd eneidiau y praidd a gyflwynwyd i'w gofal yng Nghymru. (1) Fod i'r holl Feibl, yn cynnwys y Testament Newydd a'r Hen, ynghyda'r Llyfr Gweddi Gyffredin, a gweinyddiad y Sacramentau, a arferir yn awr o fewn i'r deyrnas hon yn y Saesneg, gael eu cyfieithu yn wirioneddol a chywir i'r iaith Frytanaidd neu Gymraeg; (2) ac fod i'r unrhyw, wedi eu cyfieithu felly, ar ol eu hystyried, eu darllen a'u cymeradwyo, ganddynt, gael eu hargraffu i'r fath rifedi, o leiaf, fel y byddo i un o bob math fod ar gyfer pob eglwys gadeiriol, eglwys golegawl a phlwyfol, a chapel anwes, cyn y dydd cyntaf o Fawrth, ym mlwyddyn ein Harglwydd, un mil pump cant a thri ugain a chwech; (3) ac o'r dydd hwnnw allan, fod yr holl wasanaeth dwyfol i gael ei arfer a'i ddywedyd gan y curadiaid a'r gweinidogion trwy yr holl esgobaethau dywededig lle yr arferir yr iaith Gymraeg yn gyffredin, yn yr iaith Frytanaidd neu Gymraeg ddywededig, yn y fath fodd a ffurf ag a arferir yn awr yn yr iaith Saesneg, ac heb wahaniaethu dim mewn un dull na ffurf oddi wrth y llyfr Seisnig; (4) am y llyfrau hynny, a argreffir felly, bydd i blwyfolion pob un o'r plwyfau dywededig dalu un hanner neu ran, a pherson neu ficer pob un o'r plwyfau dywededig (lle byddo'r ddau) neu ynte un o honynt, lle nad oes ond un, dalu yr hanner neu y rhan arall; (5) fod i brisiau y llyfrau hynny gael eu penodi a'u gosod gan yr esgobion dywededig, a'u holynwyr, neu gan dri o honynt o leiaf; (6) yr hyn bethau, os bydd i'r dywededig esgobion, ne'u holynwyr, eu hesgeuluso, yna bydd i bob un o honynt fforffedu i'w Mawrhydi y Frenhines, ei hetifeddion a'i holynwyr, y swm o ddeugain punt, i'w codi oddiar eu da a'u heiddo.
    "II. Bydded yn ddeddfedig ymhellach trwy yr awdurdod dywededig fod i bob gweinidog a churad trwy yr esgobaethau rhagddywededig, lle yr arferir yr iaith Gymraeg yn gyffredin, o wyl y Sulgwyn nesaf hyd y rhagddywededig ddydd o Fawrth, yr hwn fydd yn y flwyddyn un mil pum cant a thriugain a chwech, ar bob amser cymundeb gyhoeddi a darllen yr Epistol a'r Efengyl am y dydd yn yr iaith Gymraeg, i'w blwyfolion ef neu hwy ymhob un o'r eglwysi neu'r capelau dywededig; ac hefyd fod iddynt, un waith o leiaf bob wythnos, ddarllen a chyhoeddi i'w plwyfolion dywededig yn yr eglwysi dywededig Weddi'r Arglwydd, Erthyglau'r Ffydd Gristionogol, y Deg Gorchymyn, a'r Litani, fel y maent yn cael eu gosod allan yn yr iaith Saesneg, yn yr iaith Gymraeg ddywededig, gydag unrhyw ran arall o'r Llyfr Gweddi Gyffredin a'r Gwasanaeth Dwyfol a benodir gan esgob yr esgobaeth ar y pryd.
    "III. Fod i un llyfr yn cynnwys y Beibl, ac un arall o'r Llyfr Gweddi Gyffredin, yn yr iaith Saesneg, i gael eu prynu a'u cadw ymhob eglwys trwy Gymru lle ceir y Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin trwy awdurdod y Ddeddf hon (os nad ydynt yno eisoes) cyn y dydd cyntaf o Fawrth, yr hwn fydd ym mlwyddyn ein Harglwydd Dduw, un mil pum cant a thriugain a chwech; (2) ac fod i'r cyfryw lyfrau aros yn, y cyfryw leoedd cyfleus o fewn i'r eglwysi dywededig, fel y dichon y rhai a fedrant eu deall gyrchu ar bob amserau cyfleus i'w darllen a'u chwilio. Ac hefyd, fel y gallo y rhai na ddeallant yr iaith ddywededig, trwy gymharu y ddwy iaith â'u gilydd, gyrraedd yn gynt wybodaeth o'r iaith Saesneg; gan eithrio, er hynny, pa beth bynnag sydd yn y Ddeddf hon i'r gwrthwyneb."
  8. Mae'r Dr. T. C. Edwards yn galw sylw at yr hyn a ddywed Salesbury ei hun ar hyn yn ei Plain and Familiar Introductio, lle y cawn hyn:— "Gwelwch y modd y gwrandawodd trugaredd Duw ar fy hir ddymunedig ddeisyfiad (my long desired petition)"—ac yna cyfeiria at roddiad y ddeddf yn penodi'r comisiwn. (Trans. Liverpool Welsh National Society, p. 54. First Session.)
  9. Dywed Syr John Wynne i'r Esgob Davies "alw ato William Salesbury, o'r Plas Isa, ger Llanrwst, yn Sir Ddinbych, ac amryw Gymry ereill, ysgolheigion dyfnddysg ac ieithyddwyr medrus, a chyfieithasant y Testament Newydd, y Salmau, a'r Llyfr Gweddi Gyffredin, i'r Gymraeg (Hist. Gwydir Family, p. 93). Ond yr unig un heblaw Salesbury a alwyd at y gwaith oedd Thomas Huet, Cantor Ty Ddewi.
  10. O'r tri, Salesbury wnaeth fwyaf. Cyfieithodd ef o Matthew hyd 2 Thessaloniaid; 2 Timotheus; Titus a Philemon; 1, 2, a 3 Ioan; a Judas. Cyfieithodd yr Esgob 1 Timotheus, Hebreaid, a Iago. Cyfieithodd Huet Lyfr y Datguddiad.
  11. Wele gyfieithad o'r cyflwyniad a ddyfynnaf o Fywyd ac Amserau'r Esgob Morgan, gan Charles Ashton:—
    "I'r Rinweddolaf a'r Ardderchocaf Dywysoges Elizabeth, trwy ras Duw Brenhines Lloegr, Ffrainc, a'r Iwerddon, Amddiffynnydd y Ffydd, &c.
    Pan alwaf i gof agwedd lygredig crefydd yn Lloegr, pan boblogid Mynwent St. Paul yn y ddinas gan wneuthurwyr delwau o alabaster i'w gosod i fyny mewn eglwysi; a hwythau yn Paternoster Row yn ennill eu bywoliaeth yn unig trwy wneuthur gleiniau'r Pader; a hwythau yn Avelane trwy werthu gleiniau Mair; a hwythau yn Creed lane trwy wneuthur gleiniau'r Credo; yn gystal a'r defodau ofer a ymlusgasant i'n gwlad ninnau, sef Cymru, pryd, yn lle y bywiol Dduw, yr addolai dynion ddelwau meirwon o goed a cherryg, clychau ac esgyrn, gyda lluaws o greiriau eraill nas gwn yn iawn beth i'w galw: a phan ystyriaf hefyd ein gwrthgiliad cyffredinol diweddar oddiwrth Air santeiddiolaf Duw a dderbynasid i'w waith, a'n bod yn clywed yn ddyddiol am yr orfodaeth a osodir ar ein brodyr mewn gwledydd tramor, y rhai a ddioddefasant drallodau mawrion, cystuddiau chwerwon, ac erledigaethau didrugaredd; o dan y rhai y mae amryw eto yn aros; nis gallaf lai, O Dywysoges fwyaf Cristionogol a Phenadures raslonaf, na gwneuthur fel y gwnaeth y truan Bartimeus ddall, neu'r gwahanglwyfus o Samaria, i'n Hiachawdwr ; felly yr wyf yn ymostwng wrth draed eich Mawrhydi, gan ymgrymu yn isel, nid yn unig drosof fy hun, ond hefyd am waredigaeth llawer mil o'm cydwladwyr oddiwrth ddallineb ysbrydol, anwybodaeth, a ffiaidd haint hen eilunaddoliaeth ac ofergoeledd, gan gydnabod yn ostyngedig a dyladwy eich daioni digyffelyb i ni trwy ganiatau i ni gael yr Ysgrythyrau Santaidd (yr unig feddyginiaeth a gwaredigaeth rhag ein dallineb ysbrydol a'n gwahanglwyf) yn yr iaith, y gwyddom oreu am dani; y rhai can belled ag y deallaf, ni fuont erioed (er i wir grefydd flodeuo ym mhlith ein hynafiaid, yr hen Frythoniaid) mor gyflawn a chyffredinol yn ein plith ag ydynt yn awr, i Dduw y byddo'r diolch.
    Anfoddlawn oedd ein cydwladwyr gynt i dderbyn y grefydd Rufeinig (ac nid heb achos), ond yr oeddynt yn awr (y cyfryw yw grym drwg arferiad) yn anfoddlawn i'w gadael, ac i dderbyn Efengyl Crist. Ond ar ol hynny cafodd y genedl hon ei chystuddio yn dra gofidus â hir ryfeloedd am ei gwrthgiliad, ac fel y tybir, ei llwyr orchfygu, a'i chadw tanodd gan gyfreithiau llymion; eto o'r diwedd, rhyngodd bodd i Dduw, o'i gynefin drugaredd, edrych arni drachefn, trwy anfon Dafydd dduwiolaf a Solomon ddoeth, wrth y rhai y meddyliaf Harri'r Seithfed a'i fab, Harri'r Wythfed (y ddau yn Frenhinoedd o enwog goffadwriaeth, tad a thaid eich Graslonedd) y rhai yn rasusol a'i rhyddasant o'i phoenau, ac a lareiddiasant ei beichiau anioddefol, y naill trwy freinlen rhyddid, a'r llall trwy Ddeddfau Seneddol, gan symud pob caethiwed a rhwymau, trwy ei chorffori a'i anwyl ddeiliaid yn Lloegr.
    Diameu nad cymwynas fechan oedd honno mewn ystyr dymhorol: ond y mae y gymwynas o drefniad a daioni eich Mawrhydi yn rhagori ar y llall gymaint ag a wna yr enaid ar y corff. Trosglwydda hanesiaeth henafol hyd atom wragedd (rhai ohonynt a fuant brif reolwyr ar Ynys Prydain, yr hon sy'n awr yn eiddo i chwi) nodedig am eu dysgeidiaeth a'u gwroldeb, megys Cambria Deg, Marsia Dda, Buddug Ddewr, Claudia Rufina a nodir yn un o Epistolau St. Paul, a Helen, mam yr ymerawdwr Cristionogol cyntaf, Cystennyn Fawr, a'r Santes Ursula o Gernyw, yng nghydag eraill ag ydynt yn enwog hyd heddyw, ond am eich Mawrhydi, gallaf yn briodol, fel y tybiaf, ddefnyddio geiriau y brenin a gyfenwai ei hun yn Lemuel: Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll. Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr Arglwydd, hi a gaiff glod.' Ac os ydyw Mair Magdalen yn enwog trwy'r holl fyd lle pregethir yr Efengyl am roddi blychaid o enaint materol i encinio corff cnawdol Crist, pa faint mwy y coffheir eich haelioni chwi yn rhoddi enaint yr Ysbryd Glan i encinio ei gorff ysbrydol Ef—sef, yr Eglwys?
    Ond i derfynu ac i neshau at gyflwyno fy adduned: yn gymaint ag i mi, er yn anheilwng, gael fy ngalw a'm dirprwyo gan fugeiliaid mwyaf gwyliadwrus, Esgobion Cymru, i ymdrin a darlleniad a gosodiad allan y gorchwyl teilyngaf hwn, ystyriaf yn rhwymedigaeth arbennig arnaf gyf Iwyno yn eu henwau hwy i'ch Mawrhydi (megys y blaenffrwyth goreu): Llyfr y Testament Newydd ein Harglwydd Iesu Grist, wedi ei gyfiethu i'r iaith Frytanaidd, yr hon yw ein hiaith gyffredin, gan ddymuno a deisyf yn ostyngedig, os bydd i hynny ryngu bodd i'ch doethineb, fod iddo gael aros yn llyfrgell eich Mawrhydi, yn goffadwriaeth barchus o'r cymwynasgarwch a ddanghoswyd yn hyn tuag at ein gwlad, a thuag at Eglwys Crist ynddi. A dymunwn ar Dduw gael o ddeiliaid eich Graslonedd yng Nghymru yr oll o Lyfr Gair Duw i'r un ffurf: yna gallai eu cyd-ddeiliaid yn Lloegr eu llongyfarch yn y geiriau hyn, Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch, a welsant oleuni mawr; y rhai sydd yn aros yn nhir cysgod angeu, y llewyrchodd goleuni arnynt. Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt.' Ie, yna y dywedant gyda'u gilydd yn frawdol fel hyn, 'Deuwch, ac esgynnwn i fynydd yr Arglwydd, i dy Duw Jacob; ac efe a'n dysg ni yn ei ffyrdd, a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef,' &c.
    Ac wrth ddiweddu, yr wyf yn erfyn ar Dduw Hollalluog ar fod i drefniant darbodus eich Graslonedd gael ei berffeithio, ac y bydd i chwi barhau yn eich galwedigaeth a'ch llywodraethiad tywysogaidd tuag at eich deiliaid gostyngedig; ac y bydd i ninnau, ar ein rhan ein hunain, ymddwyn tuag at Dduw, a thuag at eich Huchelder, yn y fath fodd, fel na bydd i'w gyfiawnder fyrhau y dyddiau hyfryd a thawel hyn (y rhai, er dechreuad eich teyrnasiad dedwydd, ydynt yn parhau yn ddigynhwrf a heddychlawn); ond yr ydym yn dymuno ar Dduw, er mwyn ein Hiachawdwr Iesu Grist, yn drugarog ganiatau i ni hir fwynhau eich presenoldeb grasusol a'ch teyrnasiad hynawsaf drosom. Amen.

    Ydwyf, eich Mawrhydi,
    Eich gostyngeiddiaf a'ch ffyddlonaf ddeiliad,

    WILLIAM SALESBURY.
  12. Yn ei lythyr at y Frenhines dywed William Morgan fel hyn am Whitgift:—
    "Ac wedi yn brin ei ddechreu (y cyfieithad) buaswn wedi diffygio gan anhawsder y gorchwyl a maintioli'r gost, ac ni ddygaswn ond Pum Llyfr Moses yn unig i'r wasg, oni buasai imi gael fy nghymell i fyned ymlaen, a fy nghynorthwyo gan haclioni, awdurdod, a chyngor y Parchedicaf Dad yng Nghrist, Archesgob Caergaint, noddwr llenyddiaeth, amddiffynnwr y gwirionedd, a gwyliwr gofalus dros weddeidd-dra a threfn; yr hwn, o dan eich Mawrhydi, a lywyddodd y Cymry gyda'r doethineb a'r iawnder mwyaf, gan ystyried ufudd-dod a deall ein cydwladwyr a edrychodd arnynt yn garedig fel y maent hwythau bob amser yn ei glodfori yntau."
    Yn y dyfyniad uchod gwelwn Whitgift—llofrudd John Penry—yn ei fan goreu,—a'r Dr. William Morgan hyglod yn ei fan gwannaf.
  13. "Os oes rhai yn ewyllysio, er mwyn sicrhau unffurfiaeth, ar fod i'n cydwladwyr gael eu cymhell i ddysgu yr iaith Saesneg yn hytrach nag i'r Ysgrythyrau gael eu cyfieithu i'n hiaith ni; mi a fynnwn iddynt fod yn fwy gwyliadwrus rhag iddynt, yn eu hawydd am undeb, fod yn rhwystr i'r gwirionedd; ac fod iddynt ochel rhag gyrru crefydd ymaith trwy geisio meithrin cydgordiad. Oblegid, er y byddai yn dra dymunol i drigolion yr un ynys fod o'r un iaith ac ymadrodd, eto, dylid ystyried hefyd y cymerai hynny gymaint o amser a thrafferth i'w ddwyn i ben, fel y byddai yn rhy dost a chreulawn ewyllysio neu oddef i bobl Dduw drengu o newyn truenus am ei air Ef yn y cyfamser. Heblaw hynny, nid oes amheuaeth nag ydyw unffurfiaeth a chydgordiad mewn crefydd, yn hytrach nag mewn iaith, yn tueddu yn fwy at gynyrchu undeb. Ymhellach, nid ydyw mewn un modd yn briodol cyfrif undeb na chyfleusdra o flaen crefydd, ac nid ydyw yr ymddanghosiad allanol hwnnw o gytundeb rhwng dynion â'u gilydd i'w gymharu â'r heddwch y mae Gair Duw yn ei argraffu ar feddyliau dynion. Yn olaf, mor ffol ydyw y rhai a dybiant fod gwahardd i ddyn gael Gair Duw yn iaith ei fam yn ei annog i'w ddysgu mewn iaith estronol! Canys os na ddysgir crefydd yn yr iaith gyffredin, arhosa yn guddiedig mewn iaith anadnabyddus. A'r peth ni ŵyr dyn ddim am dano, ni wyr ychwaith ei ddefnyddioldeb, ei hyfrydwch, na'i werth, ac ni chymer ddim poen i'w gyrraedd. Gan hynny, atolygwn ar eich Mawrhydi beidio cymeryd eich rhwystro (ac yr wyf yn sicr na bydd i chwi gymeryd eich rhwystro) gan unrhyw ddadleuon rhithweddol, rhag ychwanegu i'r rhai a ddechreuasoch eu bendithio â chymwynasau; rhag tybied nad ydyw y rhai a gawsant un Testament gennych yn deilwng o un arall; rhag caniatau un arall i'r rhai hynny ag yr ydych eisoes wedi estyn iddynt un ffynonnell y gwirionedd; a rhag ymdrechu gorffen yr hyn yr oeddech yn awyddus i ymgymeryd ag ef; fel, yn wir, y gall eich holl bobl glywed pethau rhyfedd Duw yn eu hiaith eu hunain, ac fel y byddo i bob tafod glodfori Duw."
  14. Three Chapters of Letters, &c., Camden Society, p. 77.
  15. Strype's Ecclesiastical Memorials, vol. ii., p. 357.

PENNOD V.
SAIN YR UDGORN.

Yr oedd Harri VIII. wedi torri'r cadwynau a rwyment Loegr wrth Rufain: yr oedd Edward VI. wedi dechreu dangos i'r wlad pa fodd i ddefnyddio ei rhyddid; yr oedd Elizabeth wedi rhoi i Gymru gymhelliad i ddefnyddio iaith yr aelwyd fel moddion dyrchafiad moesol. Ond yr oedd cydwybod y genedl eto heb ei chyffwrdd. Daeth i ran dau ddyn tra gwahanol, dau elyn anghymodlawn, i wneuthur hynny. John Whitgift, yr Archesgob caled ac erlidgar yn Llundain, a John Penry, mab yr amaethwr bychan ar fryniau Sir Frycheiniog—dyna'r ddau offeryn a ddefnyddiodd Rhagluniaeth i ddeffroi cydwybod gysglyd Cymru.

Fel y dangoswyd eisoes, Whitgift fu yn foddion i roi'r Beibl cyflawn yn eu hiaith eu hunain i'r Cymry. Tebyg na feddyliodd Harri VIII. ei fod, wrth roi'r Beibl i'r Sais, yn rhoi yn nwylaw'r bobl y morthwyl â'r hwn y dryllient y rhwymau caethiwus a fynnai efe osod ar y wlad. Felly hefyd Whitgift, ychydig a feddyliai ei fod wrth annog William Morgan i wneud cyffelyb wasanaeth i'r Cymry, yn darparu offeryn i rwystro'r cydffurfiaeth a'r unffurfiaeth Eglwysig a ddymunai efe, ac i wneud yn amhosibl i'r genedl roddi yr ufudd-dod parod hwnw i awdurdod yr Eglwys, am yr hwn y gobeithiai.

Ond yr oedd eto yn eisiau rywbeth gyda hyn, neu yn hytrach i gymhwyso hyn at gyflwr Cymru. Nid yw udgorn heb neb i'w seinio o nemawr gwasanaeth nag i ddeffroi cysgaduriaid nac i alw i'r gad. Eithr darparodd Rhagluniaeth nid yn unig yr udgorn, ond rhyw un i'w seinio hefyd. Whitgift, drwy William Morgan, a luniodd yr udgorn; John Penry chwythodd ynddo; ac yna, fel pe na bae Whitgift wedi gwneud digon eisoes, mynnodd ddyrchafu Penry ar drostan uchel merthyrdod, modd y gallai sain ei udgorn gyrraedd i gonglau pellaf y Dywysogaeth.

Nis gall neb fesur dyled y deyrnas hon i'w Phrifysgolion. Mae Caergrawnt a Rhydychain wedi chwareu rhan anrhaethol bwysig yn hanes dadblygiadau crefyddol y wlad,—weithiau of blaid ac weithiau yn erbyn egwyddor fawr rhyddid crefyddol. Yn yr amgylchiad hwn yr oedd eu dylanwad o blaid crefydd rydd.

Tra yr oedd William Morgan yn neillduedd Llanrhaiadr-ym-Mochnant yn cyfieithu'r Beibl, yr oedd John Penry ym mhrysurdeb bywyd athrofaol Caergrawnt, yn cael ei baratoi i gymhwyso dysgeidiaeth y Beibl hwnnw at gydwybodau ei gyd- genedl yng Nghymru. Gwir fod Caergrawnt, am ryw reswm, erbyn hyn wedi syrthio ymaith oddiwrth ei chariad cyntaf at Buritaniaeth, ac ystyrrid y sefydliad daionus a fu unwaith yn enwog am y nawdd a roddai i bregethwyr erlidiedig, erbyn hyn yn wrth-Buritanaidd. Ac eto yr oedd llawer o ddylanwad yr hen ysbryd yn aros o hyd, ac yng Nghaergrawnt daeth John Penry i gysylltiad â John Udall,[1] Henry Barrowe, a John Greenwood, tri o wyr grymus oeddent fel yntau i wisgo coron merthyrdod—ac aelod arall o'r un Brifysgol, sef yr Archesgob Whitgift, oedd i roi'r goron honno ar eu pennau. Wedi bod yno am rai blynyddau, symudodd Penry i Rydychain, oedd erbyn hyn wedi meddiannu'r safle a ddelid unwaith gan Gaergrawnt, fel prif noddydd y Diwygwyr. Yr oedd dirprwyaeth o'r Ysgotland wedi ymweled a'r Brifysgol, ac wedi ennill cefnogaeth barod i, ac ymlyniad selog wrth, Brotestaniaeth wrolach y Gogleddwyr. Talwyd y pwyth yn ol rai blynyddoedd wedi hynny, pan y ffodd Penry ac eraill a erlidid o Loegr i'r Ysgotland. Ffromodd Elizabeth yn aruthr wrth ei nai, Brenin yr Ysgotland, am ddarfod iddo roi lloches i'r rhai a ffoent rhag ei llid hi.[2]

Taniwyd calon y Cymro ieuanc gan yr hyn a welodd ac a glywodd yng Nghaergrawnt. Pan aeth gyntaf yno yr oedd yn Babydd selog. Ni wyddai ddim am y Beibl—ond gymaint ag a gaffai glywed ohono yn y gwasanaeth ffurfiol ar y Sul. Cydffurfiai a'r holl wasanaeth Eglwysig arferol am dymor. Ond pan ddaeth i gyffyrddiad â John Udall, dygodd hwnnw ef i adnabyddiaeth â nifer o bersonau hollol wahanol i'r rhai yr arferai gynt ymgymysgu â hwynt. Fel y gwnaeth John a Charles Wesley a'r gymdeithas fechan o fyfyrwyr yn Rhydychain gant a haner o flynyddau wedyn, arferai nifer o'r Puritaniaid yng Nghaergrawnt, yn nyddiau Penry, gyfarfod â'u gilydd unwaith yr wythnos i ddarllen ac esbonio Gair Duw, ac i gynnal cyfarfodydd gweddio. Ceid hefyd, ambell waith, bregeth gan un neu arall o'r Puritaniaid oeddent eisoes yn tanio gwahanol rannau o Loegr. Ymhlith y cyfryw rai y gwelodd John Penry, am y tro cyntaf erioed, beth oedd gwir gynnwys y Beibl. Apeliodd dysgeidiaeth y Llyfr at ei gydwybod, a chyffrodd ei galon—ac o'r dydd hwnnw allan nis gallai John Penry lai na phregethu Gair y Gwirionedd mewn amser ac allan o amser, pa le a pha bryd bynnag y caffai gyfle.

Ac o bob lle a safai mewn angen am bregethu, argyhoeddwyd ef mai ei wlad enedigol ei hun oedd mewn mwyaf o angen. Yr oedd amryw Gymry ieuainc yn y ddwy Brifysgol yn rhai o Golegau Rhydychain hwynthwy oedd yn y mwyafrif[3]—ond yr oeddynt oll, fel Penry ei hun, wedi eu trwytho â syniadau Pabyddol. Gwyddai fod Cymru yn gorwedd mewn tywyllwch, a'r rhai a ddylent ddysgu'r bobl yn ddifater, esgeulus, a gwaeth na hynny. Flwyddyn cyn i Feibl William Morgan ymddangos, danfonodd Penry ddeiseb ostyngedig i'r Frenhines a'r Senedd, yn erfyn ar fod trefniant gwell yn cael ei wneud i sicrhau pregethiad yr Efengyl yng Nghymru.[4] Y pryd hwnnw, fel yn awr, siaredid Saesneg yn y trefi ar lan y môr, ac ar gyffiniau Lloegr, ond Cymraeg yn yr oll o'r canolbarth. Ac yr oedd y parthau Cymreig yn fwy coel-grefyddol na'r rhannau Seisnigaidd.[5] A thros gyflwr gresynnus ei wlad, gwaedai calon Penry.

Ni bu Eglwyswr mwy teyrngarol[6] na Chymro mwy gwladgarol[7] erioed na Penry. Petai Eglwys Loegr wedi rhoi lle iddo weithio o'i mewn, buasai, yn ol pob tebyg, wedi dod yn un o'i cholofnau cadarnaf.[8] Ond derbyniwyd yr apêl ddaeth yn eirias boeth o galon y Cymro, gydag oerfelgarwch gan y Senedd. Cafodd un Aelod Cymreig ddigon o wroldeb i godi i fyny a chadarnhau gwirionedd yr hyn a ddywedai Penry am gyflwr y wlad. Ond ni fynnai Ty'r Cyffredin ddwyn ar eu pennau lid Whitgift a digofaint Elizabeth. Trowyd y ddau ar Penry. Taflwyd ef yng ngharchar. Bu yno am fis heb wybod beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn. Pan ddygwyd ef ger bron y llys, cafodd mai ei drosedd mawr oedd dweyd, fel y gwnaeth yn ei draethawd, nas gallai offeiriad na fyddai byth yn pregethu, fod yn weinidog da i Iesu Grist. Dywedodd Whitgift, yr hwn, gydag Esgob Winchester, a wrandawent yr achos, fod dweyd yr hyn a ddywedodd Penry "yn anioddefol ac yn heresi melldigedig." "Diolch i Dduw ynte," ebe Penry, "ddarfod imi erioed wybod y cyfryw heresi, a thrwy ras Duw rhoddaf i fyny fy mywyd cyn y rhoddaf y gred hon i fyny." "Heresi ydyw, a thi a gei ei dynnu yn ol!" ebe Esgob Winchester. "Dim byth tra bwyf byw, trwy gymorth Duw!" oedd ateb gwrol y Cymro.[9]

Cydunid yn natur Penry wroldeb y llew â diniweidrwydd yr oen. Yr ochr flaenaf i'w gymeriad yn unig a welodd Whitgift a'i gyd-erlidwyr. Yr ochr arall yn unig a welodd ei wraig, ei blant, a'i gyfeillion. Pregethodd lawer yng Nghymru,[10] a gwnaeth o bosibl fwy fyth o waith yn Lloegr drwy ei ysgrifeniadau. Yr oedd cyhoeddi'r pamffledau hyn o'i eiddo yn weithred feiddgar. Yr oedd gwaharddiad y Star Chamber gormesol[11] wedi bod mewn grym bellach am dros ugain mlynedd, a gwynebu'r llew yn ei ffau oedd herio, fel y gwnaeth Penry, ddigofaint y llys mwyaf peryglus i iawnderau'r bobl a welodd y wlad hon erioed. Ei drosedd mawr, yngolwg yr awdurdodau Eglwysig, oedd awgrymu fod dyn heb urddau a bregethai Grist, yn well nag offeiriad urddedig ond segur. Gyda hyn, hefyd, dysgai athrawiaeth newydd arall, sef y gallai'r bobl gynnal eu gweinidogion eu hunain drwy eu cyfraniadau gwirfoddol. Ni bu erioed gwaeth heresi yn erbyn holl ddysgeidiaeth Eglwys Sefydledig, na dweyd nad oedd eisieu urddau i bregethu, ac mai gwirfoddol a ddylai cynhaliaeth crefydd fod. Nid rhyfedd i Whitgift ddweyd fod y cyfryw ddysgeidiaeth yn "anioddefol ac yn heresi melldigedig."[12] Rhan hanfodol arall o heresi Penry, oedd cymhell Crefydd Deuluaidd.[13] Apeliai yn daer at yr Aelodau Seneddol Cymreig i sefyll i fyny yn wrol dros hawliau a buddiannau arbennig y Dywysogaeth. Petai yn un o Genedlaetholwyr Cymru diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nis gallasai siarad yn fwy croew am ddyledswydd Aelodau Seneddol ei wlad. Ceryddai bawb a esgeulusent eu dyledswyddau, pa un bynnag ai esgobion, ai clerigwyr cyffredin, ai lleygwyr a fyddent. Gwnai hyn oll, nid o dan ffugenw, eithr gan arwyddo ei enw, "John Penry," wrth ei bamffledau. Ni chauai ei lygaid, ychwaith, i'r ffaith ei fod wrth wneud hyn. oll yn cymeryd ei einioes yn ei law. Profir hyn yn amlwg gan y dyfyniad canlynol:—

"Felly yr wyf wedi cyflawni fy nyledswydd tuag at Dduw, Ei eglwys, fy ngwlad, a chwithau o Uchel Lys y Senedd; a hyn a wnawn eto petai angen, ie, pe gwyddwn y peryglwn fy mywyd wrth ei wneud. A bydded hysbys i chwi nad wyf yn hyn o beth yn ofni dim daearol. Os marw a wnaf—byddaf farw. Fy nghysur yw y gwn i ba le yr wyf yn myned; ac yn y dydd hwnnw, pan ddatguddir cyfrinion pob calon, gwneir yn amlwg hefyd burdeb fy achos innau. . . . Bwriadaf, trwy ras Duw, os estynnir fy nyddiau, i fyw o hyn allan nid i mi fy hun, eithr iddo Ef, ac i'w eglwys, yn dra gwahanol i'r hyn a wnaethum. Mae'r Arglwydd yn abl i godi rhai sydd o burach dwylaw a gwefusau na mi i ysgrifennu a llefaru o blaid achos ei anrhydedd Ef. A bydded i'r Arglwydd eu gwneuthur hwy, gan nad pwy a fyddant, y cyfryw ag a fyddant yn barod at alwad achos mor deilwng; a chan y dichon mai meddwl yr Arglwydd yw imi eu gadael hwynt ar fy ol yn y byd, yr wyf yn daer ac yn angherddol yn cyflwyno yr achos hwn iddynt megys trwy hon fy ewyllys olaf."

Dygodd dewrder Penry, a'r defnydd didor a wnai o'r wasg, y Cymro i boblogrwydd mawr yn Lloegr a'r Ysgotland. Am gryn amser efe a ysbrydolai y Wasg Buritanaidd yn Lloegr, ac mor boblogaidd oedd cynyrchion honno, fel y gorfu i Whitgift gyhoeddi Proclamasiwn brenhinol yn eu herbyn.[14] Mae hanes yr ymdrechion wnaed i gadw lleoliad y wasg yn ddirgel, diangfeydd cyfyng Penry a'i gydlafurwyr, yn ogystal a'r argraffwyr a'r personau a'u hymgeleddent, yn darllen fel rhamant. Ond rhaid peidio aros gyda hynny yn awr. Cafodd Penry loches dros dymor yn yr Ysgotland, lle y cafodd dderbyniad mor gynes fel yr oedd yn brofedigaeth iddo dreulio gweddill ei oes yno. Ond yr oedd ei galon yng Nghymru, a’i awydd i ddychwelyd yno mor gryf nes y daeth yn anorchfygol.

Tra roedd ef yn y Gogledd, daliwyd ymron bawb oedd wedi bod yn gysylltiedig ag ef yn y wasg Buritanaidd. Tynnwyd allan warant i'w ddal yntau. Gyrrodd Elizabeth negesydd arbennig yn dwyn i'w nai, Iago VI. o'r Ysgotland, lythyr wedi ei ysgrifennu a'i llaw hi ei hun, yn galw arno i roi Penry i fyny iddi hi.[15] Cyhoeddodd Iago Broclamasiwn yn alltudio Penry o'r Ysgotland. Ond nid oedd clerigwyr y wlad honno mor ddi-asgwrn-cefn a'u brodyr yn Lloegr—rhwystrasant gyhoeddiad y Proclamasiwn,[16] ac arhosodd Penry yn yr Ysgotland am yn agos i dair blynedd wedi i'r brenin ei orchymyn i ymadael.

Pan wnaeth ei feddwl i fyny i droi ei wyneb tuag adre, bwriadai geisio cael gweled y Frenhines wyneb yn wyneb, modd y gallai egluro iddi mewn ymddiddan wir sefyllfa pethau yng Nghymru. Ond ni chaniatawyd iddo gael ei ddymuniad. Gan gyrraedd Llundain yn 1592, ymunodd a'r eglwys fechan Anghydffurfiol oedd wedi cael ei sefydlu yn Southwark ugain mlynedd cyn hynny. Gwrthododd dderbyn swydd yn yr eglwys honno, ond pregethodd iddi mewn gwahanol fannau. Cyn hir carcharwyd Barrowe a Greenwood. Ysgrifennodd Penry ar eu rhan ddeiseb nodedig, yn cynwys cyffes ffydd grefyddol a gwleidyddol y blaid a erlidid. Yn fuan wedyn daliwyd yntau, a thaflwyd ef yng ngharchar. Deisebodd ei wraig ieuanc yn ofer am ei ryddhad. Yn ei rwymau a'i garchar cofiai am ei wraig, am ei blant, am ei fam oedrannus ym Mrycheiniog, ac am ei wlad a'i hangen. Mae yr ohebiaeth rhwng y gwr a'r wraig ymhlith yr ysgrifeniadau tyneraf a mwyaf teimladwy yn yr iaith Seisnig, a da fuasai gennyf eu rhoddi yma yn llawn. Rhaid boddloni ar roi dyfyniad yn unig o'i lythyr olaf at ei ferched bach, nad oeddent eto ond plant ieuainc iawn. Dyma ddywed :—

"Mae Cenedl y Cymry bellach er's canrifoedd wedi bod dan wialen yr Arglwydd; ond hyderaf fod yr amser wedi dod pan y dengys Efe ei drugaredd tuag atynt, drwy beri i wir oleuni'r Efengyl lewyrchu yn eu plith. A chwithau, fy merched anwyl, gweddiwch yn daer ar Dduw— pan ddeuwch i wybod beth yw gweddi—am hyn. A byddwch barod bob amser i roi help i'r plentyn lleiaf o'r wlad honno (Cymru) a saif mewn angen cymorth. Ac os byddwch abl i wneud hynny, talwch yn ol y caredigrwydd a dderbyniais gan fy mherthynasau yno. Am fy mam, fy mrodyr a'm chwiorydd, gwn y byddant garedig yn ol eu gallu i chwi a'ch mam er fy mwyn i. A byddwch yn gysur arbennig yn fy lle, i benwynni fy anwyl fam, yr hon a ddefnyddiodd yr Arglwydd fel fy unig gymorth ar ddechreu fy astudiaethau, drwy y rhai y daethum i wybodaeth o'r ffydd werthfawr honno yng Nghrist Iesu, am amddiffyn yr hon yr wyf heddyw mewn llawer o lawenydd enaid er mewn llawer o anghysur allanol. Gweddiwch lawer ac yn aml am deyrnasiad llwyddiannus a chadwedigaeth gorff ac enaid ei gwir ardderchog Fawrhydi y Frenhines Elizabeth, o dan deyrnasiad yr hon y daethum i'r wybodaeth a'r gobaith gwynfydedig yn y rhai yr wyf yn sefyll. Bydded i'r Arglwydd ddangos trugaredd iddi am hynny, yn y bywyd hwn, ac hefyd yn y dydd mawr hwnnw. Byddwch garedig i, a chynorthwywch bawb dieithriaid; ac i bobl yr Ysgotland, lle y bum i, a'ch mam, a dwy ohonoch chwithau, fyw fel dieithriaid, ac eto a gawsom groesaw, ac a dderbyniasom garedigrwydd mawr, er mwyn enw ein Duw. Byddwch dyner eich calonnau i'r weddw a'r amddifad; yn gymaint am fod deddf Duw a natur yn gofyn hyn oddiar eich llaw, ac am, o ran dim ar a wn i, fy mod yn debyg o'ch gadael chwi yn amddifaid, a'ch mam yn weddw. Ac yn olaf, fy merched, tyfwch yn holl rasusau gwybodaeth a duwioldeb yng Nghrist Iesu. Credwch a gobeithiwch yn gadarn yn yr iachawdwriaeth a geir ynddo Ef. Dioddefwch adfyd gydag Ef yn yr Eglwys dlawd hon. Parhewch mewn ofn duwiol hyd y diwedd; yna cewch chwi a minnau fwynhau cyfarfod gwynfydedig a'n gilydd yn nydd mawr ei ymddangosiad Ef."[17]

Ni ysgrifennodd Paul erioed ddim tynerach, dim mwy aruchel, na'r Epistol hwn o eiddo John Penry at ei blant bychain. Dyddiad y llythyr hwn yw Ebrill 10, 1593. Ymhen saith wythnos wedyn arweiniwyd ef i'r crogbren. Merthyrwyd ef yn anghyfiawn, nid am ei fod wedi cyflawni unrhyw drosedd yn erbyn deddfau'r wlad, ond am fod ei athrawiaeth yn milwrio yn erbyn buddiannau tymhorol a phersonol swyddogion Eglwysig.[18]

Rhoddwyd corff John Penry yn y bedd dros dri chan mlynedd yn ol. Ond y mae efe er yn farw yn llefaru eto. Gellir cymhwyso y llythyr tyner ysgrifennodd at ei blant bach, at bawb yng Nghymru heddyw—ac os yw cydwybod Cymru heddyw'n effro, i lafur John Penry, a rhai o gyffelyb ysbryd ag ef, y mae ini ddiolch am hynny. Ac os yw Cymru'r dyfodol i fod yn deilwng o aberth y gwaed gwirion a dywalltwyd ar ei rhan, rhaid i rieni Cymru heddyw geisio plannu yng ngalonnau eu plant yr egwyddorion a draddododd John Penry i'w blant yntau yn y llythyr hwnnw.

Nodiadau

[golygu]
  1. A New Discovery, &c., tud. 3.
  2. Mewn llythyr at Iago VI. (wedi hynny Iago I. Lloegr), dywed Elizabeth:—
    "Let me warne you that there is risen, bothe in your realme and myne, a secte of perilous consequence, such as would have no kings but a Presbitrye, and take our place while the injoy our privileges. . . I pray you stop the mouthes, or make shorte the toungs, of such ministers as dare to make oraison in their pulpits for the persecuted in England for the Gospel. Suppose you, my deare brother, that I can tollerat such scandals of my sincere government. I hope, howsoever, you be pleased to bear with their audacitie towards yourselfe, yet you will not suffer a strange King receave that indignities at such caterpillars' hands; that, instede of fruite, I am afraid will stuf your realme with venom. . . . Besiching you. . . not to give more harbor rome to vacabond traitors and seditious inventors, but to returne them to me, or banishe them your land."—(Camden Society's Publications, xlvi.)
  3. Historia Oxoniensis. (Wood, 1674.)
  4. Cwynai fod miloedd o'i gydwladwyr "nad adwaenent Iesu Grist nac fel Duw nac fel dyn, fel offeiriad nac fel proffwyd." "Rhaid," eb efe, "greu cydwybod i'r bobl." Awgryma y gellid danfon tri chant o bregethwyr o'r Prifysgolion i'r ardaloedd yng Nghymru oedd yn deall Saesneg ac y gellid symud Cymry o fywiolaethau yn Lloegr i wasanaethu eu cenedl eu hunain.
  5. In the Lansdowne MSS. iii., Art. 4, the writer says, "More than the name of God, they know nothing at all." They take long journeys, barefoot, to the ruins of some ancient church or famous well; and there, or on the mountain sides, listen to the minstrels who, accompanied by the harp, celebrate the deeds of their ancestors.
  6. Sonia am yr Eglwys fel "Eglwys Loegr anwyl"—a thrwy ei ysgrifau rhed y syniad ei fod yn dymuno llwydd yr Eglwys ymron yn gymaint ag y dymunai les ei gydwladwyr.
  7. Dywed:" Dichon y gofidiem lai fod yr Efengyl yn cael ei gwahardd ini oni bae mai etifeddiaeth ein tadau gynt, y Brythoniaid Cymreig, ydyw, ac a feddiannid ganddynt hwy am ganrifoedd yn y wlad hon. Canys er nas gallwn yn awr alw gwir grefydd wrth ei henw priodol, nid blodau yr hen wirionedd oedd yn eiddo ein tadau ac a seliasant â'u gwaed yw yr arferion coelgrefyddol, eithr cynnyrch boncyn difywyd Rhufain a blannwyd yn Lloegr gan Awstin, y mynach balch, yn erbyn gweithredoedd gormesol yr hwn y safodd duwinyddion Cymru gynt, ie, hyd yn oed ar draul eu bywydau."
  8. "Gwelwn," meddai, "Eglwysi Duw o'n cwmpas yn Ffrainc a Belgium yn mynd yn ddrylliau. Mynnwn petai'r Ysgotland wedi glynu wrth ei chariad cyntaf. Doed a ddelo, safwch chwi yn wrol yn y ffydd, fy nhadau a'm brodyr. . . Dichon y rhynga bodd i Dduw, er i'r canghennau byw gael eu torri ymaith, ein bywiocau ni ganghennau meirw, trwy rinwedd ein Pen—Iesu Grist. Nid wyf yn ameu, trwy ddaioni Duw, os sefydlir y gwirionedd yn ein mysg drwy bregethu, na bydd i bawb yn Ewrop a broffesant ddaioni, ddiolch yn galonnog i'r Arglwydd am ein sel a'n dewrder ni yn y gwaith hwn.'
  9. MS. Chronology, vol. ii., p. 487.
  10. Dywed y Parch. D. Morgan, yn ei lawysgrifau, fod pedair o Eglwysi Ymneillduol yn Sir Frycheiniog y gellir olrhain eu tarddiad i lafur personol Penry.
  11. Yn Ionawr, 1566, deddfodd y Llys hwn fel hyn:—
    "That no person should print or publish any book against the Queen's injunctions, ordinances, or letters patent, set forth, or to be set forth or against the meaning of them.
    "That such offenders should forfeit all their works and copies, and suffer three months' imprisonment, and never practice the art of printing any more.That no persons should sell, bind, or stitch such books, upon pain of twenty shillings for every book.'
  12. Ac eto rhaid cydnabod mai dylanwad personol Elizabeth yn hytrach na gwir ddaliadau Eglwyswyr ei chyfnod, oedd yn gwneud i'r ddysgeidiaeth hon gael ei gwthio ar y wlad. Petai'r Eglwys yn y dyddiau hynny wedi cael cyfle i roddi ei llais, buasai o blaid llawer mwy o ryddid nag a ganiateid. Yn ei waith ar Buritaniaid Oes Elizabeth dyry y Proffeswr Hopkins dystiolaeth yn profi—
    1. Nad ystyrrid y drefn Esgobaethol yn hanfodol i gyfansoddiad Eglwys Gristionogol.
    2. Nad ystyrrid urddau esgobaethol yn hanfodol er gweinyddu yr ordinhadau.
    3. Fod Eglwys Loegr yn cydnabod urddau a roddid gan unrhyw Eglwys reolaidd arall.
  13. Gwel "A view of some part of such Public Wants and Disorders as are in the service of God within Her Majesty's country of Wales."
  14. Yn y Proclamasiwn hwn, dyddiedig Chwefror 13, 1589, gorchymynnid roddi i fyny ar unwaith bob llyfrau terfysglyd, pa un bynnag ai argraffedig ai ysgrifenedig. Desgrifid hwy fel "tending to bring in a monstrous and dangerous innovation, of all manner of ecclesiastical government now in use; and with a rash and malicious purpose, to dissolve the state of the prelacy, being one of the three ancient estates of this realm under her Highness—whereof her Majesty mindeth to have a reverend regard. She therefore prohibits any of her subjects from keeping any books in their custody against the order of the Church, or the rites and ceremonies of it; her Majesty being minded to have the laws severely executed against the authors and abettors of them, as soon as they shall be apprehended."
  15. Gwel tudal 44.
  16. Baker's MSS. Vol xvi.
  17. Yelverton MSS.
  18. Teimlodd y Prif Farnwr Popham fod amddiffyniad Penry o'i ysgrifenniadau, ar dir y gyfraith, yn anatebadwy. Llofruddiaeth gyfreithiol—judicial murder—oedd dienyddiad Penry. Ni phrofwyd ef erioed yn euog o fod yn awdwr y Marprelate Tracts—ac mae holl bwysau'r tystiolaethau mwyaf diweddar yn mynd i brofi ei ddieuogrwydd.

PENNOD VI.
ADOLYGU'R DAITH.

Dyma ni yn awr wedi cyrraedd at faen ffin amlwg yn hanes Ymneillduaeth; a chyn cychwyn ymlaen at y cyfnod nesaf, da fydd ini aros am funud, ac edrych yn ol ar y llwybr a deithiwyd eisoes, modd y gall ei brif nodweddion gael eu hargraffu yn ddyfnach ar y cof,—a rhag ein bod, wrth ganlyn y brif-ffordd, wedi anghofio sylwi ar ambell i fforch yn y ffordd honno sy'n haeddu ystyriaeth.

Gwelwn, ynte, fel y peth amlycaf yn yr holl daith, fod y Tudoriaid wedi torri iau Rhufain yn effeithiol, ac wedi taflu ymaith ei hawdurdod. Yr oedd hynny yn golygu nad oedd Eglwys Loegr mwyach yn cydnabod unrhyw awdurdod arni gan neb o'r tu allan i'w chymundeb ei hun. Yr oedd anibyniaeth Eglwys Loegr wedi cael ei ganlyn gan ledaeniad cyffredinol yr Ysgrythyrau yn iaith y bobl yn yr Eglwysi,— yn Saesneg yn Lloegr, yn Gymraeg yng Nghymru.

Yr oedd y Teyrn wedi cymeryd lle'r Pab fel Pen yr Eglwys. Yr oedd cysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth yn parhau, y llysoedd eglwysig yn ymyrryd â buddiannau gwladol, a'r llysoedd gwladol yn cosbi am droseddau eglwysig.

Yn y wlad rhennid crefyddwyr i ddau ddosbarth mawr, sef (1) y rhai a gydnabyddent, a (2) y rhai a wadent, hawl y Teyrn i fod yn Ben yr Eglwys. Ond rhennid y ddau hyn yn ddwy adran fawr ac yr oedd mwy o bellder rhwng yr adrannau yn yr un dosbarth nag oedd rhwng y ddau ddosbarth a'u gilydd. Gellir rhannu'r rhai a gydnabyddent y Teyrn yn Ben yr Eglwys i (a) y Protestaniaid Swyddogol a gefnogent Elizabeth yn ei pholisi eglwysig, a (b) y Protestaniaid Puritanaidd, y rhai, tra yn aros yn Eglwys Loegr, a anghytunent â'i defodau. Yn yr un modd gellir rhannu'r dosbarth arall i (c) y Pabyddion a fynnent symud y Teyrn o fod yn Ben yr Eglwys er mwyn gosod y Pab yn ol yn y swydd honno; a (d) yr Anghydffurfwyr oeddent yn, neu wedi, gwyro at Ymneillduaeth, ac na fynnent gydnabod neb ond Crist yn Ben yr Eglwys. Gwelir fod y Protestaniaid Swyddogol a'r Pabyddion yn perthyn yn nes i'w gilydd nag oedd y blaenaf a'r Puritaniaid na'r olaf a'r Ymneillduwyr. Yn wir, dau eithafbwynt mawr cyfundrefnau crefyddol yr oes honno oedd Pabyddiaeth ac Ymneillduaeth; a'r ddau bwynt agosaf at eu gilydd oedd Puritaniaeth yn yr Eglwys ac Ymneillduaeth o'r tu allan iddi.

Nid o'u bodd yr aeth neb ar y cyntaf yn Ymneillduwyr. Pan orfodwyd hwynt gan eu cydwybodau i fod yn Anghydffurfwyr, buont yn hir cyn mynd yn Ymneillduwyr. Y Puritaniaid mwyaf cydwybodol a wnaed ynghyntaf oll yn Anghydffurfwyr, a'r Anghydffurfwyr mwyaf gonest a chadarn a orfodwyd i fod yn Ymneillduwyr. Nodwedd fawr ac amlycaf cychwyniad Ymneillduaeth yn yr oes honno (yn nesaf at eu hawydd am burdeb a diwygiad mewn pethau crefyddol), oedd eu hawydd angherddol i gael aros o fewn cymundeb Eglwys Loegr. Yr oeddent yn foddlon aberthu popeth, ond cydwybod, er mwyn cael aros yn Eglwyswyr. Fel y sylwir eto pan ddown i ymdrin â chyfnod diweddarach, cafwyd ail adroddiad o'r un peth yn y ganrif nesaf pan drowyd allan y Ddwy Fil Clerigwyr o'r Eglwys; ac yn y ganrif ganlynnol pan orfodwyd John a Charles Wesley, George Whitefield, Rowlands Llangeitho, Williams Pantycelyn, a'u cydweithwyr, i droi eu cefnau ar yr Eglwys yn yr hon y dymunent gael aros.

Yn amser Elizabeth parhaodd llawer o'r Puritaniaid yn yr Eglwys. Anghytunent â llawer o bethau ynddi, ond arswydent rhag y syniad o fod yn euog o sism drwy fyned allan o honi. A chofier mai nid dynion ysgafn, yn cael eu troi gan bob awel dysgeidiaeth grefyddol, oedd y rhai hyn. Yr oedd y mwyafrif o honynt yn ddynion goleuedig, dysgedig, yn meddu argyhoeddiadau dyfnion, yn wyr o ddylanwad yn eu gwahanol feusydd, ac yn rhai a ddisgleirient yng nghylchoedd uchaf cymdeithas a dysgeidiaeth. Fe gofia'r darllenydd fod Penry ei hun wedi gwneud ei oreu i gael aros yn yr Eglwys, ac i'w gwella hithau oddi fewn iddi.[1]

Dylid cofio, hefyd, mai nid ychydig oedd nifer y rhai hyn. Mewn gwirionedd delid eu golygiadau gan fwyafrif o'r clerigwyr oeddent yn cydsynio ag egwyddor Protestaniaeth pan esgynnodd Elizabeth i'r orsedd. Buont o fewn ychydig i gario Confocasiwn gyda hwynt. Cymerodd dadl le ar y mater yn y Gymanfa Eglwysig yn 1562, a thybir oni bai i bleidlais yr absenolion gael eu cyfrif yn erbyn y Diwygwyr, y buasent wedi cario'r dydd yn y ddadl hanesyddol honno. Bu'r Eglwys Sefydledig y pryd hwnnw yn nes nag y bu erioed ond unwaith—wedyn, at ennill lle Eglwys Genedlaethol yng ngwir ystyr y gair. Ond collodd y cyfle. Gwysiwyd offeiriaid Llundain o flaen Canghellor yr Esgob, a gofynnwyd iddynt ddewis cydffurfiaeth llwyr â'r holl bethau a wrthwynebent, neu gael eu troi allan. Yr oedd cant o honynt yn bresennol. Arwyddodd 61 eu boddlonrwydd i gydffurfio, gan ddweyd gyda llaw eu bod yn gwneud hynny yn groes i'w hegwyddorion,— a dewisodd 37 yn hytrach aberthu eu bywiolaethau. Trowyd llu, heblaw y rhai hyn, allan am yr un rheswm. Rhwystrwyd eraill drachefn gan weision yr esgobion i bregethu hyd yn oed pan oedd y gynulleidfa yn yr eglwys yn barod i'w gwrando.

Naturiol gofyn, ynte, beth oedd y gwahaniaeth hanfodol rhwng y Puritaniaid Eglwysig hyn a'r Protestaniaid Swyddogol? Gellir crynhoi'r ateb i un frawddeg—Mynnai'r Protestaniaid Swyddogol gydffurfiaeth llwyr a digwestiwn â holl ddefodau'r Eglwys; hawliai'r Puritaniaid ryddid i ymgadw rhag cyflawni'r defodau nas gallent yn gydwybodol gydffurfio â hwynt.

A dyma gnewyllyn rhyddid crefyddol. Nid oedd y Puritaniaid hyn, cofier, hyd yn oed y goreuon yn eu plith, eto wedi dod i lawn oleuni rhyddid cydwybod, ac ni ddaeth eu holynwyr am genedlaethau. Ond yr oeddent ar ben y ffordd.

Trodd yr holl frwydr ar bwnc y gwisgoedd offeiriadol. Yr oedd, fel y dangosir yn y man, wahaniaethau eraill; ond trwy gytundeb anffurfiol y ddwy blaid, gwnaed y wisg offeiriadol yn faen prawf. Yr oedd y wisg, i'r ddwy blaid, yn arwydd allanol o egwyddor bwysig, a'r egwyddor, ac nid y wisg ynddi ei hun, oedd y cwestiwn mewn dadl. Golygai'r wisg urdd offeiriadol; golygai urdd offeiriadol gyfundrefn eglwysig mewn ffurf neillduol; golygai'r gyfundrefn honno Babyddiaeth ym mhopeth ond enw.

O hyn tyfodd allan y gwahaniaeth a aeth yn fwy-fwy o flwyddyn i flwyddyn; aeth y gagendor, oedd mor fychan nes bron bod yn anghanfyddadwy ar y dechreu, yn lletach-letach o'r naill oes i'r llall—nes erbyn heddyw nis gellir gwneud pont digon hir i'w chroesi.

Beth, ynte, oedd daliadau'r Puritaniaid? Nodaf yn syml y pethau yr oeddent yn foddlon iddynt, a'r pethau yr anghytunent â hwynt, ac a wrthwynebent,—ond a ystyrrid yn hanfodol gan yr Eglwyswyr Swyddogol.

Yr oeddent yn foddlon i gyfundrefn esgobaethol;—ond dymunent gyfyngu swydd yr esgob i fod yn llywydd cymanfa henuriaid neu glerigwyr ei esgobaeth.

Boddlonent i ffurf o weddiau, yn wir yn ymarferol i'r oll o'r Llyfr Gweddi Gyffredin;—ond dymunent gael hawl i aralleirio ambell frawddeg, ac i offrymu gweddiau o'u heiddynt eu hunain, un o flaen a'r llall ar ol y bregeth.[2] Boddlonent i'r rhai a fynnent arfer y gwisgoedd; ond dymunent gael rhyddid i beidio eu gwisgo os dewisid hynny. Boddlonent i'r homiliau argraffedig; ond dadleuent na ddylai neb bregethu os na fedrai gyfansoddi ei bregethau ei hun.

Gresynnent amddifadrwydd disgyblaeth yn yr Eglwys, a'r ffaith fod pob math o gymeriadau yn cael agoshau at Fwrdd yr Arglwydd.

Gwrthwynebent hawl llysoedd eglwysig i gosbi dyn yn ei berson na'i amgylchiadau; gwrthwynebent amlhad swyddi a theitlau yn yr Eglwys, megys deon, archddiacon, &c., fel yn anysgrythyrol. Gwrthwynebent rhai o'r defodau claddu a phriodi; gwrthwynebent ddefnyddio'r fodrwy mewn priodas; gwrthwynebent wneud arwydd y groes mewn bedydd; gwrthwynebent y ddefod o benodi tad a mam bedydd, ac yn arbennig Canon 29 a ddarparai "Na ddylid gwasgu ar yr un rhiant i fod yn bresennol ym medydd ei blentyn, ac na ddylid caniatau i'r un rhiant fod yn dad neu fam bedydd i'w plant eu hunain." Dalient hwy mai'r rhieni, ac nid dieithriaid, a ddylent gyflwyno'r plentyn i'r Arglwydd drwy arwydd y bedydd.[3] Gwrthwynebent yr arferiad o gonffirmio plant cyn fod y plant yn ddigon hen i ddeall beth oeddent yn ei wneuthur;[4] yr arferiad o benlinio wrth Fwrdd yr Arglwydd; a'r arferiad o ymgrymu, neu blygu pen, pan enwir enw'r Iesu.

Delid y golygiadau hyn gan lawer na fynnent droi eu cefn ar Eglwys Loegr, ac a arosasant yn hir yn ei chymundeb wedi'r adeg y plannwyd Ymneillduaeth yn y tir. Ond yr oedd rhai, . hyd yn oed y pryd hwnnw, a aent ymhellach na hyn, ac na fynnent gydffurfio o gwbl. Daeth y teimlad hwn i'r golwg yn nyddiau erledigaeth Mari. Sylwyd eisoes (tud. 25) fod y rhai a ffoisant y pryd hwnnw i'r Cyfandir wedi ymffurfio yn eglwys—ac mai honno a blannwyd gan Saeson mewn gwlad estronol oedd cychwyniad Eglwysi Ymneillduol Lloegr. Ond nid oeddent yn unfryd unfarn parthed y dull o addoli. Mynnai rhai gymeryd Llyfr Gweddi Edward VI. fel ffurf o wasanaeth; tra eraill, yn meddu argyhoeddiadau cryfach, a fynnent droi ymaith yn llwyr oddiwrth arferion a fuont gynt yn gysylltiedig â Phabyddiaeth. Yr olaf drechodd ar y dechreu, a mabwysiadwyd ffurf wasanaeth Eglwys Ddiwygiedig Geneva. Ond pan ddaeth Dr. Cox, a wnaed wedi hynny yn Esgob Ely, gyda nifer o ffoaduriaid eraill o Loegr i Frankfort, a hwythau yn dal yn gadarn wrth Lyfr Gweddi Edward, cymerodd rhwyg le. ildiwyd Eglwys Ymneillduol Frankfort i Dr. Cox a'i ddilynwyr, ac aeth y lleill i Geneva, lle y sefydlwyd Eglwys Seisnig arall.

Gwelir felly fod gwahaniaeth barn yn bodoli ymhlith yr Ymneillduwyr cyntaf, ar bynciau a ddaethant wedi hynny i gael eu hystyried yn hanfodol, ac a fuont yn achlysur, mewn cyfnod diweddarach, i wahanu adrannau o'r Ymneillduwyr oddiwrth eu gilydd.

Gwahaniaethent nid yn unig ar gwestiwn o ddefodaeth ac ar bynciau o athrawiaeth, ond hefyd yn eu syniadau am y cysylltiad a ddylai fodoli rhwng crefydd a gwleidyddiaeth. Dylid cofio, er mwyn deall hyn yn glir, fod y Llys (hyny yw y Llywodraeth) a'r Esgobion, neu mewn geiriau eraill yr awdurdod Gwladwriaethol a'r awdurdod Eglwysig, bob amser yn y cyfnod dan sylw, yn myned law yn llaw. Prin y gellid gwahaniaethu rhyngddynt gan mor gymlhethedig yr oeddent. Nis gellid ymosod ar y naill heb niweidio y llall. Ceisiodd Penry wahaniaethu rhyngddynt, fel y gwelir yn amlwg yn ei lythyrau. Tra yn melldithio'r Esgobaethwyr yn eu polisi Eglwysig, gweddiai am bob bendith ar Elizabeth fel Pen y Wladwriaeth. Ond methodd Penry—ac am fod Elizabeth, yn ei chalon, yn cysylltu ei grefydd ef â syniadau gwleidyddol a dybiai hi oeddynt yn niweidiol i'r Orsedd, y cafodd ef ei ferthyru.[5]

Gwelir y gwahaniaeth hyn yn amlwg yn y tri gwr a gynrychiolent Anghydffurfiaeth y Cyfandir, yr Ysgotland, a Lloegr. Ni fynnai John Calfin gysylltu ei hun â gwleidyddiaeth o gwbl. I John Knox yr oedd gwleidyddiaeth megis anadl ei ffroenau, yn hanfodol i'w fudiadau crefyddol. Ceisiai John Cartwright, drachefn, gadw llwybr canol rhwng Calfin ar y naill law a Knox ar y llall—a methodd. Ceid y tri dosbarth yn Lloegr yn nyddiau Penry ac yn nyddiau Baxter, ond gwthiodd grym amgylchiadau yn raddol ond yn sicr ddosbarth Calfin i ddosbarth Cartwright, a dosbarth Cartwright drachefn i ddosbarth Knox, fel y daeth yr Ymneillduwyr i haeddu yn ogystal ag i wisgo y teit! o "Political Dissenters"—"Ymneillduwyr Politicaidd.[6] "

Yn raddol y dadblygodd syniadau Ymneillduol o'r syniadau Puritanaidd, megis mai yn raddol y blagurodd Protestaniaeth i fod yn Buritaniaeth. Ond yr un hedyn oedd wedi cynyrchu'r oll, Protestaniaeth, Puritaniaeth, Anghydffurfiaeth, ac Ymneillduaeth,—sef astudiaeth o Air Duw. Ni chanfyddodd y Tadau cyntaf holl ddysgeidiaeth hwn—nid ar unwaith ond yn raddol y daeth y datguddiad am hawliau a chyfrifoldeb dyn. Pan unwaith y proffeswyd mai'r Beibl sydd i fod yn rheol bywyd ac ymarweddiad y Cristion, canlynnai'r holl ddadblygiadau eraill o angenrheidrwydd.

Rhaid edrych felly ar Ddiwygwyr yr oes honno fel yn sefyll mewn mannau gwahanol ar yr un ffordd fawr lydan, rhai yn nes ymlaen na'u gilydd, ond oll yn teithio tua'r un cyfeiriad. Danghoswyd eisoes beth oedd prif ddaliadau'r Puritaniaid yn yr Eglwys. Ar y sylfaen honno y codwyd adeilad mawr a godidog Ymneillduaeth ein dyddiau ni. Ond bob yn garreg y codwyd yr adeilad, ac nid ar unwaith. Felly cawn Cartwright yn hawlio awdurdod ysbrydol i'r Eglwys, ac nid i'r Teyrn—yn hollol fel yr hawliai Harri ac Elizabeth yr awdurdod i'r Teyrn ac nid i'r Pab. Gwerinwr oedd Cartwright yn ei syniadau. Eglwysig, canys mynnai ddal fod yr Henuriaid (neu'r Offeiriaid) yn y Gymanfa Eglwysig yn meddu yn hollol yr un hawl a'r Esgob. Gosodai Penry awdurdod Crist yn ei Air uwchlaw pob awdurdod dynol, gan herio hyd yn oed y Teyrn yn y mater hwnnw.[7] Am Brown—ar enw yr hwn yr enwyd Ymneillduwyr dyddiau Elizabeth—daliai efe gyda Cartwright mai yn yr eglwys y gorffwysai'r awdurdod mewn pethau crefyddol. Ond äi ymhellach na Cartwright, drwy ddweyd mai'r gynulleidfa ac nid yr Offeiriaid, a gyfansoddent yr Eglwys—a dyma sylfaen Cynulleidfaoliaeth. Ni chydnabyddai awdurdod nac Esgob, na Synod, na Chymanfa, na Chynhadledd, na Phresbyter, na neb oddiallan i'r Eglwys, sef y gynulleidfa—a dyma sylfaen Anibyniaeth. Nid oedd yr offeiriadaeth i fod yn Urdd ar wahan; llais y gynulleidfa a roddai hawl i ddyn bregethu ac i weinyddu yr ordinhadau; a gallai'r gynulleidfa yr un modd gymeryd yr hawl honno oddiarno. Eto cul, rhagfarnllyd, eithafol, ac ansicr fel arweinydd, y profodd Brown ei hun. Eithr saif ei egwyddorion am hanfod Eglwys Gristionogol hyd y dydd hwn.

Cawn yr amlygiad ffurfiol cyntaf o Ymneillduaeth mewn penderfyniad y cytunwyd arno gan nifer o'r clerigwyr a drowyd allan gan Elizabeth.[8] Gosodir dyddiad yr Eglwys Ymneillduol gyntaf gan rai yn 1567. Cyfarfyddai oddeutu cant o bersonau i gydaddoli yn y Plumbers' Hall yn Llundain; gwysiwyd deg ohonynt, yn cynwys tri phregethwr, o flaen yr Esgob, a charcharwyd hwynt. Ond prin y gellir cyfrif hon yn Eglwys; mwy priodol, efallai, yw eu hystyried yn un o'r amrywiol gynulleidfaoedd anghydffurfiol a gyfarfyddent a'u gilydd yn ddirgel er adeg erlidiau Mari. Ond ceir Eglwys Ymneillduol ddigamsyniol yn 1572, yn ethol ei swyddogion ei hun, yn cyfarfod yn rheolaidd, ac yn gweinyddu yr ordinhadau yn gyson. Dyma Eglwys Wandsworth, a elwir weithiau yn "Bresbyteraidd" a phrydiau eraill yn "Anibynnol."[9] Dyma'r Eglwys a fynnai ugain mlynedd wedyn i John Penry fod yn weinidog iddi—ond ni fynnai Cartwright[10] nac eraill o'r Puritaniaid[11] ar y cyntaf wneud dim â hwynt. Yn yr haf cyfarfyddai'r Eglwys hon yn y meusydd y tuallan i Lundain, lle yr eisteddent ar y ddaear tra yr esboniai un o honynt ran o Air Duw. Yn y gauaf ymgynhullent am bump o'r gloch y boreu i'r tŷ-cwrdd, ac arhosent yno ynghymdeithas eu gilydd drwy'r dydd Sabbath, gan weddio ac egluro'r Ysgrythyrau. Cyd-gyniawent, ac yna gwnaent gasgliad i gyfarfod a'r treuliau, ac unrhyw arian a fyddai dros ben, a gyflwynid ganddynt at weinyddu i reidiau eu brodyr a garcherid am eu crefydd. Mewn hen lawysgrif o'r cyfnod hwnw,[12] darlunir hwy yn gweddio "Gweddia un, tra'r lleill yn gruddfan, neu ocheneidio, fel pe am dynnu dagrau;—ond nid ydynt yn adrodd y weddi ar ol y gweddiwr." Dywedir wrthym gan un o'r aelodau pa fodd y gweinyddid yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd yn eu plith.Baker's MSS. "Gosodid pum torth, neu ychwaneg, ar y bwrdd. Torrai'r bugail y bara, ac a'i rhoddai i'r diaconiaid, y rhai a'i hestynnent i'r lleill, tra rhai yn eistedd, eraill yn sefyll, o amgylch y bwrdd. Rhoddai'r gweinidog y cwpan i un, estynnai hwnnw i arall, nes y byddai pawb wedi yfed, gan ddef— nyddio'r geiriau a geir yn y 1 Cor. xi. 24. Cyfrannai pawb yn ol eu gallu; ac wedi gorffen y casgliad, rhoddid yr arian yngofal y diaconiaid, y rhai a'i rhannent ymhlith y cyfryw aelodau o'r gynulleidfa a farnai'r swyddogion oeddent mewn angen." Mor debyg, onide, i'r hyn a welir eto ymhen tair canrif a haner wedi ysgrifennu hyn!

Dyna darddle Ymneillduaeth. Dichon y tybia'r darllenydd fod llawer o wrthwynebiad y Tadau hyn i ddefodaeth Eglwysig yn blentynaidd. Ond ni fynnent oddef un rhith Pabyddiaeth—a da fyddai i Eglwys Loegr pe tae ysbryd y tadau hyn wedi ei llywodraethu hyd heddyw. Credai y rhai hyn—a Cromwell ac eraill ar ei ol gyda hwynt—fod arfer defodau Pabyddol yn tueddu i arwain y bobl oddiwrth burdeb Protestaniaeth. A oeddent yn iawn? Atebed hanes Eglwys Loegr,—a'r orymdaith fawr ddiddiwedd o urddasolion mewn gwaed, cyfoeth, safle, a dysgeidiaeth, o Siarl I. hyd yr Ardalydd Bute, sydd wedi gadael Eglwys Loegr gan geisio derbyniad drachefn i gorlan Eglwys Rufain.

SYLW.—Yr ydwyf wedi manylu i raddau yn y penodau hyn, am fod rhy fach o bwys yn cael ei roddi yn gyffredin ar y cyfnod hwn yn hanes Dadblygiad Ymneillduaeth. Gwelir fod egwyddorion hanfodol Ymneillduaeth wedi gwreiddio yn ddwfn yng nghalonnau dynion goreu'r Diwygiad Protestanaidd o ddyddiau Harri VIII. Nid oedd y 2,000 a drowyd allan gan Ddeddf Unffurfiaeth Siarl II., yn 1662, ond yn unig yn efelychu cydwybodolrwydd eu blaenafiaid gan mlynedd cyn lynny.—B. G. E.

Nodiadau

[golygu]
  1. Gwel tudal. 46.
  2. Cydmarer hyn a'r arferiad sydd yn ffynnu hyd heddyw ymhlith Ymneillduwyr Lloegr hyd yn oed Eglwysi rhai o'r Anibynnwyr mwyaf cadarn yn eu Hymneillduaeth.
  3. Y fydwraig sy'n aml heddyw'n cyflwyno plant Ymneillduwyr yn y bedydd; ac mewn rhai mannau ni fydd y tad byth yn bresennol yn yr ordinhad. Yr wyf yn cofio fy nhad yn creu cryn gyffro wrth fedyddio plentyn, trwy iddo wrthod derbyn y bychan o law'r fydwraig. Gwnaeth i honno roi'r plentyn yn ol i'r fam, y fam i roi'r plentyn i'r tad, a'r tad i'w estyn i'w freichiau yntau, cyn y cyflawnai'r ordinhad.
  4. Yr oedd hyn yn gyson ag egwyddor y Bedyddwyr.
  5. Gellir sylwi yma fod syniadau Calvin wedi trwytho Puritaniaid Lloegr. Tybiai'r Protestaniaid swyddogol ar y llaw arall fod Calfiniaeth, yn ei hanfod, yn elyniaethol i fuddiannau Eglwys Loegr.
    Eithr nid hyn oedd y rheswm a gynhyrfai Whitgift i'w symud o'r ffordd.
  6. Myn hanes ail-adrodd ei hun. Gwelir yr un dylanwadau yn hollol yn gorfodi y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru, a'r Methodistiaid Wesleyaidd yn Lloegr, i adael yr hen lwybrau a fynnai John Elias a John Wesley (er nad Howell Harris) eu cerdded. Erbyn heddyw mae'r ddau enwad a fynnent gynt olchi eu dwylaw oddiwrth wleidyddiaeth, ymron, os nad yn gwbl, gymaint "Political Dissenters" a'r "Hen" Ymneillduwyr, yr Anibynwyr a'r Bedyddwyr.
  7. "Touching Reformed Churches. We are to walk by the line of the Word, and not after the judgments of men. The case is marvellous strange that we, having the written Word of God at home, and the things accused by the same to be out of order present before our eyes, shall run from the Word and from common sense, so far also from home, to ask the judgments of men in that case which, on the one side, they know not aright, and therefore cannot pronounce an equal sentence thereof; yea, when their judgments are gotten, there is no more had but conclusions of men. Her Majesty's authority I acknowledge, but it doth no whit infringe her royal power and authority to deny that she hath any warrant, any power, any sword, granted her of God, to establish either false religion, false and antichristian ordinances, or yet any other unwarrantable or unjust constitution."
  8. Wele rydd-gyfieithiad ohono:—"Yn gymaint ag nas gallwn gael Gair Duw wedi ei bregethu, na'r Ordinhadau wedi eu gweinyddu heb ddodrefn eilunaddolgar, cytunwn i gyfarfod a'n gilydd pan geir cyfle, mewn tai preifat neu leoedd ereill, i addoli Duw yn ol ein cydwybodau : a chan ein bod wedi cael ein torri ymaith oddiwrth yr Eglwys, ein bod yn gosod i fyny yr hyn a dybiwn y dull mwyaf pur o addoliad, gan roi o'r neilldu Ffurf-wasanaeth yr Eglwys, a'r Llyfr Gweddi."
  9. Dyddorol yw gwybod fod capel yr Anibynwyr yn awr yn sefyll ar y llecyn lle cyfarfyddodd yr eglwys forcuol hon.
  10. Harleian MSS. Vol. 7581. Art. 3.
  11. The Donatists of England, 1590.
  12. Certain Wicked Sects and Opinions, 1588 and 89, Anno 31, Elizabeth.

PENNOD VII.
TORIAD GWAWR YNG NGHYMRU.

Er fod goleuni Ymneillduaeth wedi dechreu lledu dros rannau o Loegr, nid oedd y wawr eto wedi torri yng Nghymru. Fely gwelir pennau'r mynyddoedd a'r awyrgylch o'u cwmpas weithiau yn cochi cyn ymddanghosiad yr haul, felly y gwelwn belydrau gwawr Ymneillduaeth Cymru, megys yn cael eu lliwio gan waed John Penry. Ond cymerodd genhedlaeth gyfan, yn agos i hanner canrif, cyn i'r haul ymddangos uwch y gorwel.

Bu farw Elizabeth yn 1603, ac esgynnodd ei nai, Iago VI. o'r Ysgotland (ond a adnabyddir yn well fel lago I. Lloegr) i'r Orsedd. Disgwyliai'r ddwy blaid fawr, y Pabyddion a'r Puritaniaid, lawer oddiwrth Iago. Cofiai'r Pabyddion mai Pabyddes oedd ei fam, Mari Brenhines yr Ysgotiaid,—ac mai am ei Phabyddiaeth mewn gwirionedd y dienyddiwyd hi; a disgwylient y buasai'r mab yn eu ffafrio hwynt er mwyn y fam. Cofiai'r Puritaniaid mai o dan aden a dylanwad John Knox, y cawr—Buritan, y dygwyd Iago i fyny, a hyderent ei fod wedi cael ei drwytho yn, a chan, y ddysgeidiaeth honno. Siomodd Iago'r ddwy blaid fel eu gilydd. Ni fynnai wneud dim â Phabyddiaeth am ddau reswm; carai ei hunan yn ormodol i roi'r awdurdod fel Pen yr Eglwys o'i law i'r Pab; carai ei goron a'i orsedd yn ormodol i'w peryglu trwy ddangos ffafr cyhoeddus at Babyddiaeth, canys gwyddai y buasai Protestaniaeth Lloegr, gyda Phrotestaniaeth cryfach yr Ysgotland o'r tu cefn iddi, yn rhy gadarn erbyn hyn iddo feddwl am ail sefydlu Pabyddiaeth agored. Ar y llaw arall, yr oedd wedi cael ei gadw mor gaeth o dan ddylanwad dysgeidiaeth John Knox, ac wedi gorfod plygu mor hir i awdurdod Presbyteriaeth—a'i gweinidogion—yn yr Ysgotland, fel yr oedd megys plentyn wedi ei ollwng yn rhydd o'r ysgol, yn falch o gael taflu ymaith yr awdurdod hwnnw a phob peth a allai ei ddwyn i'w gof. Rhoddwyd pob help iddo gan Eglwyswyr Pabyddol Lloegr i dorri iau Presbyteriaeth. Yn ei bresenoldeb hanner addolent ef megys Duw.[1] Yr oedd ei ben yn ddigon ysgafn cynt, ond aeth yr ynfytyn yn ynfytach o dan ddylanwad y fath waseiddiwch.

I'r gwaseiddiwch gwarthus hwn ar ran yr Eglwys, y gellir olrhain llawer o ddiffygion amlycaf teyrnasiad Iago. Daeth yn grediniwr cryf yn yr egwyddor beryglus o "Hawl Dwyfol y Brenin "—hynny yw, mai gosodiad dwyfol oedd brenhiniaeth, ac mai cynrychiolydd Duw ar y ddaear, drwy benodiad dwyfol, yw'r Brenin.

Golyga'r cyfryw egwyddor yn yr Eglwys, awdurdod Pab anffaeledig; golyga mewn gwladweiniaeth, Un-bennaeth y Teyrn; golyga i'r deiliaid, ufudd-dod parod a diwrthwynebiad i bob gorchymyn o eiddo'r Llys, ai Brenhinol ai Eglwysig. Derbynnid felly bob awdurdod yn yr Eglwys ac yn y Wladwriaeth oddiwrth y Brenin. Yr oedd gwrthwynebu'r Esgob, yngolwg Iago, yn gyfystyr a gwrthwynebu'r Brenin, a gwrthwynebu'r Brenin yn golygu gwrthwynebu Duw. Felly golygai Hawl Dwyfol y Brenin hefyd Hawl Dwyfol yr Esgob. Dyma gredo Iago ffol a'i fab anffodus Siarl. Mae effeithiau'r ddysgeidiaeth hon erbyn heddyw wedi cael eu hysgrifennu mewn llythyrennau breision cochion, ar dudalennau hanes ein gwlad. Gwnaeth i Iago ei hun ymddangos fel ynfytyn yngwisg Solomon; arweiniodd ei fab i'r dienyddle yn y Neuadd Wen; gyrrodd y Wladwriaeth i wrthryfel: dymchwelodd yr Eglwys dros dymor, a phlannodd Ymneillduaeth yn barhaol yn y tir. Y gredo hon a gynhyrchodd ddynion mor wahanol a Laud a Baxter yn yr Eglwys, a rhai fel Wentworth a Cromwell yn y Wladwriaeth ac a roddodd i Gymru William Wroth, William Erbury, Walter Cradoc, Vavasor Powel, John Myles, a'r llu disglaer o Ddiwygwyr Cymru a'u canlynasant. Felly o ganol caddug "Hawl Dwyfol y Teyrn" y torrodd gwawr Ymneillduaeth Cymru.

Cymerwn frasolwg ar y modd y darfu i ffolineb Iago weithio allan er lles y wlad yn y diwedd. Yr oedd Puritaniaeth Lloegr yn disgwyl llawer oddiwrth Bresbyteriaeth yr Ysgotland—ac un o'r anhawsderau cyntaf a gyfarfu Iago, oedd dymuniad yr adran Buritanaidd yn Eglwys Loegr, am ddiwygio'r ddefodaeth Eglwysig. Yr oedd y ddwyblaid fawr y soniwyd am danynt. eisoes fel yn bodoli yn yr Eglwys yn nyddiau y Tuduriaid, yn aros hyd deyrnasiad Iago—ond fod yr elfen Buritanaidd yn cryfhau ac yn myned yn fwy hyf o'r naill flwyddyn i'r llall.[2] Yngwyneb anfoddogrwydd y Puritaniaid, galwodd Iago Gynhadledd Eglwysig a adwaenir fel Cynhadledd Llys Hampton. Amcan hon, meddid, oedd dwyn y pleidiau i gyd-ddealltwriaeth; ei heffaith oedd eu gyrru ymhellach fyth oddiwrth eu gilydd. Ofnai Iago weld y Puritaniaid yn cael eu ffordd, gan y golygai hynny leihad i'w awdurdod unbenaethol ef, canys nid oedd y Puritaniaid mor barod i syrthio i lawr a'i addoli ef ag oedd y blaid Babyddol yn yr Eglwys. Felly ni wysiwyd i'r Gynhadledd ond ychydig o'r Puritaniaid, yn cael eu harwain gan y dysgedig Ddoctor Reynolds; tra y gwahoddwyd naw o Esgobion ac wyth o urddasolion Eglwysig eraill gwrthwynebol iddynt, i'w cyfarfod. Eisteddai Iago fel Llywydd y Gynhadledd o ran enw,—eithr fel mater o ffaith dadleuydd gwrth-Buritanaidd y profodd ei hun yno. Ffug a thwyll o'r dechreu i'r diwedd a fu'r gynhadledd honno. Yr oedd y cyfan wedi cael ei drefnu ymlaen llaw. Gwnaed y pedwar Puritan yn gyff gwawd gan Iago a'r Esgobion. Pan ddadleuent dros ganiatad i'r sawl a ddymunent hynny i beidio defnyddio'r gwisgoedd a dybid yn Babyddol, ac i beidio gwneud arwydd y groes mewn seremoniau, chwythodd y Brenin fygythion gan ddweyd y gorfodai hwynt i gydffurfio, neu ymadael o'r Eglwys.[3]

Yr unig beth da a ddeilliodd o'r Gynhadledd oedd, ynghyntaf, argraffiad newydd o'r Beibl Seisnig (yr un sydd yn awr yn gyfieithad awdurdodedig Lloegr); ac yn ail, profi i'r Puritaniaid nas gallent ddisgwyl ffafr oddiar law'r brenin. Taerineb Dr. Reynolds a balchder hunanol Iago, a sicrhaodd y Beibl newydd i'r Sais. Chwenychai'r brenin ddangos ei ddysgeidiaeth ynglŷn â'r cyfieithad newydd, ac felly mynnodd ei gael ar waethaf gwrthwynebiad yr esgobion.[4]

Cyn hir ar ol y Gynhadledd, cynhaliwyd Cymanfa Eglwysig, ac yn honno gwnaed cais pellach ar ran y Puritaniaid—ond yn ofer. Esgob Cymreig er nad Cymro—a ymladdodd yno dros hawliau cydwybod. Dr. Rudd, Esgob Ty Ddewi, oedd Rhybuddiodd y Gymanfa eu bod y gwr da a wnaeth hynny. ar ben y ffordd i yrru allan o'r Eglwys gannoedd o glerigwyr da, selog, a gweithgar.[5] Rhybuddiodd y Gymanfa ymhellach fod syniadau ac arferion Pabyddol ar gynnydd yn y wlad a'r Eglwys, ac mai gwendid ac nid nerth iddi a fyddai colli gwasanaeth y Puritaniaid. Ond ni thyciai dim. Mynnodd yr esgobion eu ffordd, a glynwyd yn gyndyn wrth y defodau, gan wneuthur Cydffurfiaeth â hwynt yn orfodol ar ran pawb clerigwyr. Dyma, yn ymarferol, Ddeddf Unffurfiaeth Iago I.[6]

Effaith Deddf Unffurfiaeth Iago, fel eiddo ei fodryb Elizabeth o'i flaen a'i wyr Siarl ar ei ol, oedd, fel y proffwydodd Esgob Ty Ddewi, gyrru llu o'r clerigwyr gonestaf a'r pregethwyr goreu allan o'r Eglwys. Daeth rhai o honynt yn ol yn nyddiau Cromwell, fel y daeth ambell un o erledigion Elizabeth yn ol yn nyddiau Iago.[7] Ond aeth y mwyafrif o honynt naill ai i wledydd tramor, neu ynte sefydlasant gynulleidfaoedd neu Eglwysi Anghydffurfiol mewn gwahanol rannau o'r wlad, rhai yn agored ac eraill yn ddirgel.[8] Cymerwyd llawer o honynt i dai boneddigion fel athrawon preifat i'r plant, canys yr oeddent gan mwyaf yn wyr dysgedig. Felly lledaenwyd egwyddorion Anghydffurfiol ymhlith y werin,—a magwyd, erbyn y genhedlaeth nesaf, do o wyr ieuainc cymhwys o ran dysg a safle gymdeithasol, i amddiffyn hawliau gwladol a chrefyddol y genedl. Felly hau y gwynt oedd Iago a Bancroft, a Siarl a Laud gafodd fedi'r corwynt wedyn!

Aeth pethau o ddrwg i waeth. Ceisiodd y brenin adsefydlu Esgobyddiaeth yn lle Presbyteriaeth yn yr Ysgotland. Methodd, am yr un rheswm ag y methodd y Pab yn nheyrnasiad Mari, adfeddiannu Eglwys Loegr. Rhwydd oedd gwneud esgob; anhawdd oedd cael cyflog iddo. Er penodi o Iago dros ddwsin o esgobion yn yr Ysgotland, gwrthododd y pendefigion yno roi i fyny y tiroedd eglwysig yn eu meddiant. Ond yn Lloegr cafodd y brenin a'r esgobion eu ffordd eu hunain am gryn amser. Cafodd gan hyd yn oed y Prifysgolion, Rhydychain a Chaergrawnt, oeddent yn nyddiau Elizabeth wedi ffafru Puritaniaeth, i droi yn erbyn y Diwygwyr. Condemniai Rhydychain eu dysgeidiaeth fel yn cefnogi aflywodraeth. Aeth Caergrawnt ymhellach, gan ddiarddel a chymeryd ymaith urddau colegawl oddiwrth y neb a amheuai athrawiaeth neu ddisgyblaeth yr Eglwys.[9]

Nid hir y buont cyn sefydlu Llyfr y Chwareuon (yn 1618), yn darparu chwareuon ar y Sul ar ol oedfa'r boreu yn yr Eglwys. Trefnid dawnsio, rhedegfeydd, ymdrechfeydd saethu, chwareu pel, a'r cyffelyb, ynglŷn â'r gwasanaeth crefyddol ymhob eglwys blwyfol drwy'r deyrnas. Gorchymynnwyd i'r offeiriaid ddarllen y gyfraith newydd hon o'r pwlpud ar y Sul. Gwobr am ffyddlondeb ym moddion gras oedd y Chwareuon hyn—canys gwaherddid i na Phabydd na Phuritan, na neb a esgeulusai ei gydgynhulliad yn Eglwys y plwyf, i gael rhan yn y chwareu.

Yr oedd siarad am y bregeth ar ol mynd adref, yn drosedd cosbadwy.[10] Yr oedd meddwdod yn beth llawer lai gwarthus nag Anghydffurfiaeth.[11] Ystyrrid hoffi gwrando pregeth, fel nod arbennig Puritaniaeth; ac felly ychydig o fri a osodid yn yr Eglwysi ar bregethu.

Canlynnwyd Bancroft galed yn yr archesgobaeth, ynghyntaf gan Abbott, gwr diniwed na fynnai orthrymu Anghydffurfwyr; ac yntau drachefn gan Laud, yr hwn, cyn hynny, a wnaed yn Esgob Ty Ddewi. Cafodd Ty Ddewi, felly, ymhlith ei hesgobion, Dr. Rudd, amddiffynnydd hawliau cydwybod, a Laud, na fynnai ganiatau yr hawl hwnnw i neb ond y brenin. Gwelodd yntau, fel Whitgift, y pwysigrwydd o gael gafael yn y plant. Gorchymynnodd gynnal math o Ysgolion Sabothol yn yr Eglwysi plwyfol, ar brydnawn Sul, i egwyddori'r plant.[12]. Eithr nid zel dros addysg a'i cymhellodd, canys pan geisiodd John White, o Henllan,[13] ynghyda'r Dr. Wm. Gouge, ac eraill, sefydlu athrawon i'r bobl, er fod yr athrawon hynny yn Gydffurfwyr, rhwystrwyd hwynt gan Laud, a gorfu iddynt roi heibio'r cynllun am dymor.

Ond er tywylled y cyfnod hwn, dyma gyfnod lledaeniad y goleuni yn Lloegr, a thoriad y wawr yng Nghymru. Dywedwyd fod llawer o'r tri chant a drowyd allan gan Iago wedi mynd i wledydd tramor. Ymhlith y ffoaduriaid i'r Cyfandir yr oedd dau offeiriad duwiol o'r enw John Robinson a Henry Jacob. Aeth y blaenaf i Leyden yn 1610. Mabwysiadodd syniadau Brown (gwel tud. 59) am ffurflywodraeth eglwysig; ond caniatäi fwy o amrywiaeth barn bersonol o lawer nag a wnai Brown. Casglodd Robinson yn fuan eglwys o dri chant o aelodau yn Leyden. Pan ffodd Jacob i'r Cyfandir, yr oedd yntau wedi ei drwytho â chyffelyb syniadau am ffurflywodraeth ac anibyniaeth eglwysig. Adnabyddid y gyfundrefn a sylfaenwyd gan y ddau hyn, o hynny allan fel Anibyniaeth. Ar ei ddychweliad i Loegr, crynhodd Mr. Jacob gyfeillion o gyffelyb syniadau ag yntau, o'i amgylch; a ffurfiodd, yn 1616, eglwys a ystyrrir fel yr Eglwys Anibynnol ffurfiol gyntaf yn Lloegr.[14] Wedi ei feddiannu gan ysbryd cenhadol—fel John Wesley a George Whitefield ymhen can mlynedd wedyn —aeth allan i Drefedigaeth Virginia, yn America, er mwyn. lledaenu ei egwyddorion yno; canys erbyn hyn yr oedd miloedd o leygwyr Puritanaidd wedi gorfod gadael eu gwlad.

Mewn cysylltiad â'r ddau enw hyn, Robinson a Jacob, ceir y Tadau Pererinol,—y fintai honno o Buritaniaid cydwybodol a adawsant eu gwlad enedigol yn 1620, ac a sefydlasant Loegr Newydd yng Ngogledd America, lle y plannwyd baner Puritaniaeth, ac y dysgwyd gwers fawr Rhyddid Cydwybod.[15]

I ddychwelyd am funud at Eglwys Anibynnol Mr. Jacob, cawn yno, fel y cafwyd mewn aml i eglwys arall yng Nghymru a Lloegr ar ol hynny, unoliaeth barn am ffurflywodraeth eglwysig, ac amrywiaeth barn ar bynciau o gredo. Yn yr eglwys honno yr oedd amryw bersonau a gredent mewn bedydd credinwyr yn unig; hynny yw, rhai a elwir yn ein dyddiau ni, yn Fedyddwyr. Cyd-addolent â'r baban—fedyddwyr; cyd-gyfranogent â hwynt yn Swper yr Arglwydd; cyd-weithient â hwynt yn holl waith yr eglwys. Ond fel y daeth eu rhif yn lluosocach, tybient mai gwell fyddai iddynt ymffurfio yn eglwys ar wahan. Caniatawyd llythyrau gollyngdod iddynt,

a Medi 12, 1633, ymffurfiasant yn Eglwys Fedyddiedig, gan gymeryd Mr. John Spilsbury yn weinidog iddynt. A dyma'r eglwys a ystyrrir fel yr Eglwys Fedyddiedig ffurfiol gyntaf yn Lloegr.[16]

Yr oedd Cymru, hithau, erbyn hyn yn dechreu manteisio ar y deffroad. Yr oedd llu o Gymry, heblaw Roger Williams, ymhlith y gwroniaid a sefydlasant Loegr Newydd yn America. Yr oedd llawer, hefyd, er wedi aros yn yr Hen Wlad—fel y daeth Cymru i gael ei galw o hynny allan—wedi eu trwytho ag egwyddorion Puritaniaeth, er nad oedd hynny agos mor gyffredin yng Nghymru ag ydoedd yn Lloegr. Ond yr Archesgob Laud a blannodd Ymneillduaeth yng Nghymru. oedd Llyfr y Chwareuon wedi mynd i raddau pell yn anghof yn y wlad, ond yn 1633 mynnodd Laud ei ail sefydlu. Erbyn hynny yr oedd, hyd yn oed yng Nghymru, rai offeiriaid yn meddu argyhoeddiadau digon cryfion i wrthod plygu glîn i Baal y Chwareuon. Yn eu plith ceir William Wroth o Lanfaches; William Erbury, ficer Eglwys Fair yng Nghaerdydd, a'i giwrad Walter Cradoc; Marmaduke Matthews, ficer Penmain; a Robert Powel, ficer Llangatwg, ger Castellnedd. Nid oes hanes fod neb mor gydwybodol a hyn yng Ngogledd Cymru y pryd hwnnw. Trowyd y rhai hyn allan o'u bywiolaethau. Ond ni fynnai eu cynulleidfaoedd golli eu gwasanaeth. Ffurfiwyd Eglwysi Ymneillduol yn y cymydogaethau hynny. Y gyntaf o honynt, i gymeryd ffurf Eglwys Ymneillduol, oedd eiddo Llanfaches; ac yma, yn 1639, y sefydlwyd yr Eglwys Anibynnol[17] gyntaf yng Nghymru.

Nodiadau

[golygu]
  1. Syrthiodd Bancroft, Esgob Llundain, a ddaeth wedyn yn Archesgob, ar ei liniau o'i flaen gan lefain:—"Mae fy nghalon yn toddi o'm mewn gan lawenydd fod yr Hollalluog Dduw, o'i fawr drugaredd, wedi rhoddi ini y cyfryw Frenin ar na welwyd o'r blaen er dyddiau Crist!" A'r Archesgob (Whitgift, dienyddwr Penry) yntau a gymerodd i fyny'r ddameg gan ddweyd: Yn ddiamheuol mae eich Mawrhydi yn llefaru megys trwy gymorth arbennig Ysbryd Duw."
  2. Cyflwynwyd deiseb i'r brenin wedi cael ei harwyddo gan fil o glerigwyr yn dal golygiadau Puritanaidd. Dywedent yn groew nad oeddent am greu rhwyg yn yr Eglwys Wladol. Ceisient y pethau canlynol: (1) Fod i'r degwm a feddiennid gan leygwyr rheibus, gael ei ddefnyddio at gadw pregethwyr mewn ardaloedd tywyll; (2) Fod clerigwyr anghymwys, neu na breswylient yn eu gweinidogaethau, yn cael eu hatal; (3) Fod caniatad i glerigwyr i gyfarfod a'u gilydd yn achlysurol i ymdrin ar bynciau cysylltiedig a'u gwaith; (4) Na fwrid allan o'r Eglwys y clerigwyr selog hynny a wrthwynebent yn gydwybodol rai o'r defodau a ystyrrid ganddynt yn Babyddol. Hyd yn oed yn nyddiau Elizabeth dywedai Syr Walter Raleigh y gellid cyfrif canlynwyr Brown—h.y. Ymneillduwyr— wrth y miloedd yn Lloegr.
  3. Trwy'r Gynhadledd bradychodd y brenin ei elyniaeth anghymodlawn at Buritaniaeth. "Mae Presbyteriaeth," eb efe, "mor anghyson â brenhiniaeth, ag yw Duw a'r diafol." "Heb Esgob—heb frenin," meddai drachefn. (Phenix Britannicus).
    Danodai i'r Puritaniaid eu bod wrth wrthwynebu'r Esgobion "yn dynoethi Crist" (Nuge Antique, i. 181).
    Ac am ddweyd pethau o'r fath y dywedodd yr Archesgob wrtho ei fod yn llefaru drwy ysbrydoliaeth Duw!
  4. Dichon mai ynglŷn â'r Beibl yma y gwelir y Brenin Iago ar ei oreu. Ysgrifennodd at Archesgobion Caergaint ac Efrog, ac at y Prifysgolion, yn eu hannog i sicrhau gwasanaeth y dynion mwyaf cymwys. Cymhellai hwynt hefyd i ddefnyddio'r hawl oedd ganddynt i benodi i fywiolaethau Eglwysig, &c., yn y fath fodd ag i sicrhau tâl teilwng i'r cyfieithwyr am eu gwasanaeth (gwel y llythyrau yn y Record Office. Dom. Series, cyf. viii. Rhif 117, cyf. xii. Rhif 73). Ond mynnodd yr Esgobion hwythau gael gwyrdroi geiriau gwreiddiol i ateb eu hamcanion hwy. Er engraifft rhoddir (Act i. 20)"Esgobaeth" (ac nid "swydd") i Judas Iscariot, er mwyn dangos mai " esgobion" oedd yr "Apostolion." Yn yr un modd er mwyn galw adeilad—ac nid y bobl yn eglwys," rhoddir yr enw hwnnw i deml baganaidd (Act. xix. 37). (Sylwer mai "temlau" a ddefnyddir yn y cyfieithad Cymraeg, a "Churches" yn yr un Saesneg).
  5. Ni chaniata gofod i mi roi'r anerchiad grymus a thaer yn llawn yma. Wele rai brawddegau o hono:—" Nid mewn gwrthwynebiad (i gynygiad yr Esgobion), ond fel awgrymiad at sicrhau heddwch yr Eglwys, yr wyf yn llefaru hyn. Mae gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd gyfreithlon a'r hyn sydd yn llesol; ac mae gwahaniaeth rhwng y rhai a fynnent rwygo'r Eglwys a'r rhai hynny ag sydd yn amheu yn unig ynghylch rhai o'r defodau, ond ydynt yn ddynion dysgedig, myfyrgar, pwyllog, a gonest. Os yw yn well gan y gwyr hyn adael eu bywiolaethau na chydffurfio a'r defodau—er nad wyf yn eu cyfiawnhau yn hynny o beth—gwelwn eisicu eu gwasanaeth hwynt ar yr adeg bresennol pan ddylem fyned law yn llaw yn erbyn y gelyn cyffredin. Os difuddiwn ni (yr esgobion) hwynt, byddwn mewn perygl o gael ein casau i'r eithaf. As os bydd i gynifer cant o Buritaniaid ymadael a'u bywiolaethau, pwy geir yn eu lle? Nis gwn am gynifer o bregethwyr awdurdodol yn yr holl deyrnas heb le. Ond hyd yn oed pe ceid y cyfryw, onid gwell fyddai sefydlu y rhai hynny yn lle yr offeiriaid nad ydynt yn pregethu, yn hytrach nag yn lle y rhai hyn a droir allan o achos cydwybod." (Neal's Hist. Purit., vol. i., pp. 424—427.)
  6. Cofied y darllenydd mai Deddf Eglwysig ac nid Deddf Wladol oedd hon o eiddo Iago a'r Esgobion, canys ni ddaeth o flaen y Senedd o gwbl. Yr oedd y rhai wrthodent ufuddhau i hon, yn cyfiawnhau eu gwrthodiad ar y tir nad oedd yn ddeddf Seneddol.
  7. Un o'r cyfryw a wasanaetha fel engraifft oedd Arthur Hildersham. Wyr i Syr Jeffrey Pole (pendefig o Gymro, a brawd y Cardinal Pole y soniwyd am dano eisoes, tudal. 18) ydoedd. Etholwyd ef yn nheyrnasiad Elizabeth yn Gymrawd o Goleg y Drindod, Caergrawnt; ond difuddiwyd ef gan yr Archesgob, am wrthod o hono arwyddo'r dadgyffesiad a ganlyn:—
    "I confess here that I have rashly and indiscreetly taken upon me the office and function of a preacher, and have preached abrode neither being admitted into orders neither licensed by any authority and contrary to the orders and laws of the Church of England contrary to the examples of all antiquity in the Primitive Church and contrary to the example and direction of the Apostle in the Acts, and thereby have given great and just offence unto many, and this my rashness I have made grievous and offensive in that I have uttered in my aforesaid sermons and preachings certain impertinent and very unfit speeches for the auditory as moving their minds rather to discontent with the State than leading to any Godly edification for which my presumption and indiscreetness I am very heartily sorry and desire you to bear witness of this my confession and acknowledging of my said offences."
    Cafodd fywoliaeth Ashby de la Zouch. Cymerodd ran yng Nghynhadledd Llys Hampton. Trowyd ef allan o'i fywoliaeth gan Esgob Lincoln am wrthod cydffurfio. Caniatawyd iddo ail bregethu yn 1608. Yn 1611 ataliwyd ef drachefn. Yn 1615 carcharwyd ef—a dirwywyd ef i'r swm of £2000—a'r oll o achos cydwybod.
  8. Yn 1609 gwnaethant ymgais ofer i gael caniatad i bregethu a gweinyddu'r ordinhadau i'w cynulleidfaoedd. Danfonasant ddeiseb at y brenin yn ceisio yn daer am hyn, ac am gael bod yn rhydd oddiwrth awdurdod yr Esgobion, tra yn amlygu eu parodrwydd i ymostwng i'r awdurdodau gwladol ymhob dim. Ond ni fynnai'r brenin oddef hynny. "Heb esgob—heb frenin," eb efe. (Gwel Llawysgrifau Roger Morrice, cyf. ii., tudal 619 (2). Hefyd Phenix Britannicus.
  9. Strypes Annals iv. 522, 523.
  10. Carcharwyd dau foneddwr am adrodd yn y tŷ gartref bennau'r bregeth a glywsant yn yr Eglwys boreu Sul. Amddiffynnwyd hwynt gan gyfreithiwr; carcharwyd yntau am hynny—a bu farw yngharchar. (Cornish Hist. of Noncons., p. 30).
  11. Gwysiwyd boneddwr o'r enw Cotton o flaen yr Uchel Ddirprwyaeth. Apeliodd at Iarll Dorset am gyfryngu ar ei ran. Atebodd y pendefig ef mewn llythyr fel hyn:—"Petaech wedi bod yn euog o feddwdod, neu aflendid, neu ryw drosedd llai o'r fath hynny, gallaswn sicrhau pardwn i chwi; ond mae Puritaniaeth ac Anghydffurfiaeth yn bechodau anfaddeuadwy, ac felly gwell i chwi ffoi am eich heinioes." Cymerodd Mr. Cotton y cyngor, a ffodd i'r America, lle y bu farw. "I ysgoi y cyhuddiad o Buritaniaeth," ebe ysgrifennwr o'r cyfnod hwnnw, "yr hyn a ystyrrid yn bechod gwaeth na phechodau blys, aberthai ein duwinyddion gan mwyaf o honynt, mwy o'u hamser i Bacchus nag i Minerva, gan ddenu lleygwyr i'w canlyn i oferedd."—Osberne's Memoirs, 440-443.
  12. Neale's Hist. Purits., vol. i., p. 540
  13. Wele linellau beddargraff y Cymro hwn a geir yn Eglwys y Deml yn Llundain:—

    "Here lyeth a John, a burning shining light,
    His name, life, actions, all were White!"

  14. Yn ol rhai haneswyr, pa fodd bynnag, yr oedd Mr. Henry Jacob yn weinidog ar Eglwys Anibynnol yn Llundain cyn 1610. Ond gan mai yn 1616 y ceir y profion diamheuol cyntaf o fodolaeth yr Eglwys honno fel cymdeithas ffurfiol a chyfundrefnol, dyna'r dyddiad a roddaf uchod i'w ffurfiad. Ar yr un pryd teg yw dweyd, fod profion diamheuol fod Jacob ei hun, mor foreu a'r flwyddyn 1609 yn dal syniadau hanfodol Anibyniaeth am ffurf-lywodraeth eglwysig. (Gwel ei Ddeisyfiad Gostyngedig" at y brenin: To the Right High and Mighty Prince James, by the Grace of God, King of Great Brittaine, France, and Ireland, Defender of the Faith, &c.. The Humble Supplication, &c. 4to, 1609."
    Gellir mynd ymhellach, a dweyd y ceir yn rhai o ysgrifeniadau Mr. Jacob ei hun, a gyhoeddwyd yn 1609, dystiolaeth eglur fod mwy nag un Eglwys Anibynnol yn bodoli cyn y flwyddyn honno. Yn ei "The beginning of Christ's Visible Church," a gyhoeddwyd yn 1609, dadleua nad oes berygl i'r Wladwriaeth oddiwrth fodolaeth yr Eglwysi hynny, "yn gymaint a bod ei rheolaeth a'i hawdurdod yn gyfyngedig o fewn terfynau un gynulleidfa yn unig." Sonia am y gweinidog, neu fugail, ac am y diaconiaid neu henuriaid. Dywed ymhellach, "Mae pob cynulleidfa yn gorff llywodraethol cyflawn ac anibynnol (an entire and independent body politic), wedi ei gynysgaeddu ag awdurdod yn uniongyrchol o dan ac oddiwrth Grist, fel y mae ac y dylai fod, pob gwir Eglwys." Dichon mai dyma'r engraifft gyntaf o'r gair "Anibynnol" yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad a chyfundrefn Ymneillduol.
    Dylwn eto rybuddio'r darllenydd i gofio, mai am ffurf-lywodraeth Eglwysig yr wyf yn son. Gwelir yn y dyfyniad uchod, hanfod Eglwys Anibynnol. Ond yr oedd y Bedyddwyr hefyd yn hanfodol anibynnol yn cu ffurf—lywodraeth Eglwysig; ac, fel y danghosir eto, yr oedd nifer o Fedyddwyr yn aelodau o Eglwys "Anibynnol" Mr. Jacob.
  15. Dylid cofio er mai yn America y rhoddwyd yr egwyddor mewn ymarferiad gyntaf, ei bod yn cael ei dal gan rai yn y wlad hon cyn hynny. Dangosir yn nes ymlaen ei bod, er engraifft, yn cael ei dysgu yng Nghyffes Ffydd y Bedyddwyr, a gyhoeddwyd yn 1611.—B. G. E.
  16. Crosby, vol. i., pp. 147—149. Ond mae profion diamheuol o fodolaeth cynulleidfaoedd Bedyddiedig yn Lloegr o leiaf gwarter canrif cyn hyn.
  17. Mae cywirdeb hanesyddol yn hawlio dweyd tri pheth mewn cysylltiad a'r eglwys hon, sef (1) Fod ynddi, fel yn Eglwys "Anibynnol" Mr. Jacob (gwel tudal 70) nifer o "Fedyddwyr yn aelodau. (2) Fod y Bedyddwyr yn Eglwys Llanfaches, fel yn Eglwys Mr. Jacob yn Southwark, ymhen rhai blynyddau wedi gofyn am, a chael gollyngdod brawdol, i ffurfio Eglwys Fedyddiedig, ar ol bod yn cyd-addoli dros ugain mlynedd. (3) Fod Eglwys Llanfaches, fel Eglwys Southwark, wedi dod i gael ei hystyried fel yn perthyn i'r Enwad Anibynnol. Sylwer ar y cyfatebiaeth felly rhwng yr Eglwys "Anibynnol" gyntaf yn Lloegr, a'r un gyntaf yng Nghymru.

PENNOD VIII.
Y CYFDDYDD YNG NGHYMRU.

Yn y gwledydd sy'n agos i'r cyhydedd, nid oes na chyfddydd na chyfnos. Pan dyrr y wawr, llama'r haul i'r entrych uwch y gorwel a goleuir yr holl wlad megys ar darawiad; pan fachluda yn yr hwyr, disgynna tywyllwch sydyn ar y byd. Nid felly yn ein gwlad ni. Ceir goleu tyner y cyfddydd, ar ol toriad gwawr, yn lledu yn raddol ac esmwyth dros bennau'r mynyddoedd a'r ucheldiroedd, gan adael y dyffrynnoedd yng nghysgodion tywyllwch, nes daw brenin y dydd uwch ysgwyddau'r mynydd-dir i alw'r byd at ei waith. Ac fel y mae mewn ystyr naturiol yn ein gwlad, felly hefyd y bu yma gyda thoriad gwawr Ymneillduaeth. Aeth blynyddoedd lawer heibio wedi i'r wawr dorri yn Llanfaches, cyn y gellid dweyd ei bod yn ddydd ar Gymru. Fel y cofir, aeth agos i hanner canrif heibio wedi merthyrdod John Penry, cyn sefydlu'r Eglwys Ymneillduol gyntaf yn y wlad a garai. Aeth hanner canrif arall heibio[1] wedi sefydlu'r achos yn Llanfaches cyn i Haul y Cyfiawnder daflu ei belydrau llachar i oleuo cydwybodau a chynhesu calonnau preswylwyr dyffryndiroedd moesol Cymru.

Nid wyf yn dweyd na ledodd y goleuni, ac na sefydlwyd Eglwysi Ymneillduol eraill yn fuan ar ol Llanfaches. Gwn i'r Bedyddwyr sefydlu eglwysi yn yr Olchon[2] ar gyffiniau swyddi Henffordd a Brycheiniog, ac yn Ilston yn ymyl Abertawe, yn fuan iawn ar ol hyn; gwn hefyd na fu'r Anibynwyr yn hir cyn sefydlu achosion yn Penmain, Caerdydd, Abertawe, Merthyr, a lleoedd eraill. Ca y rhai hyn sylw yn y man. Ond yr hyn wyf am ddangos ar hyn o bryd yw, mai goleuni'r cyfddydd, yn coroni pennau'r mynyddoedd â harddwch ydoedd, ac nid llawn oleuni'r haul yn golchi ac yn puro dyfnderoedd y dyffryndir. Daeth yr adeg i hynny hefyd gael ei wneud—ac yr oedd yr adeg honno lawn hanner canrif yn gynharach nag a fyn rhai haneswyr ini gredu.[3]

Fel y sylwyd o'r blaen pan yn ymdrin â chyfnod boreuach na hwn, cyd-deithiai arwyr rhyddid crefyddol a rhyddid gwladol ochr yn ochr. Danghoswyd, hefyd, yn y bennod ddiweddaf, pa fodd y mynnodd Iago annoeth gylymu buddiannau yr esgob wrth eiddo'r brenin, ac awdurdod yr Eglwys wrth orchymyn y Wladwriaeth. Bu farw Iago yn 1625, a'i fab Siarl I. a deyrnasodd yn ei le. Bedair blynedd wedyn, a deng mlynedd cyn sefydlu Eglwys Llanfaches, cododd gwr ieuanc i fyny i siarad am y tro cyntaf yn Nhy'r Cyffredin— a hwn oedd y gwr a ddeffrodd "Gydwybod Ymneillduol" y deyrnas yn effeithiol mewn perthynas â gwladweiniaeth yn. ogystal a chrefydd. Oliver Cromwell oedd ei enw. Trwyddo ef, a rhai o gyffelyb ysbryd a gydweithient ag ef, y darostyngwyd balchder y brenin, y llyfetheiriwyd trahausder yr Eglwys, yr amlygwyd nerth yr egwyddor Buritanaidd, ac y mynnwyd am y tro cyntaf erioed eu hawliau i'r werin yn wladol a chrefyddol. Ymdrinir â hyn ymhellach yn y bennod nesaf.

Yn fuan wedi sefydlu yr eglwys yn Llanfaches, torrodd y Rhyfel Cartrefol allan, y rhyfel a wnaeth i Siarl anffodus golli ei ben yn ogystal a'i goron; ac a wnaeth Cromwell yn frenin anghoronedig Lloegr. Dywedaf "Lloegr" yn hytrach na "Lloegr a Chymru," am y rheswm syml na fu Cromwell erioed yn gyffelyb allu yng Nghymru ag a fu yn Lloegr. Yn y rhyfel ofnadwy hwnnw, ymrestrodd yr Eglwyswyr swyddogol hanner Pabyddol, o blaid y brenin; a'r Puritaniaid a'r Ymneillduwyr, o blaid y Senedd. Brenhinwyr y gelwid y naill, a Phengryniaid y llall, o'r ddwy blaid o hynny allan am o leiaf genhedlaeth gyfan. Ac o bob rhan o'r deyrnas, nid oedd un lle y ceid cynifer o Frenhinwyr yn ol rhif y boblogaeth, ag a geid yng Nghymru. O Gonwy i Gaerdydd, o Aberystwyth i Raglan, o Hwlffordd i Gaer, anrhydeddid baner Siarl, a melldithid luman Cromwell. Nid, cofier, na cheid, hyd yn oed yng Nghymru, rai cefnogwyr i Cromwell, ond eithriadau i'r rheol gyffredin oeddent; a chymeryd y wlad drwyddi draw, teyrngarol i'r brenin, ac mewn canlyniad i'r Eglwys hefyd, ydoedd Cymru. Nid oedd Ymneillduaeth, nac egwyddorion rhyddid gwladol na chrefyddol, hyd yn hyn, wedi cymeryd gafael ar galon y genedl.

Yr oedd mawrion a gwerin Cymru, gydag ychydig eithriadau, yn Frenhinwyr. Ni fynnai na'r pendefigion gwladol na'r urddasolion eglwysig, ddim ar a wnelent â Phuritaniaeth, nac yn ei hegwyddorion gwleidyddol nac yn ei daliadau crefyddol. Un o Eglwyswyr enwog y cyfnod oedd yr Esgob Williams, o Gonwy, wedi hynny Archesgob Efrog. Efe oedd noddwr Laud; trwy nawdd y Cymro hwn y cafodd yr Archesgob erlidgar dyfodol ei draed gyntaf ar ffon dyrchafiad Eglwysig; —a thalodd Laud y pwyth iddo, pan gafodd yr awdurdod i'w law ei hun, drwy ei erlid a'i garcharu. Eithr nid oedd Williams heb gyfeillion, ac nid hir y bu cyn dod yn rhydd, a sicrhau ffafr a dyrchafiad ar waethaf y cyfaill oedd wedi troi yn elyn iddo. Ond er nad oedd Williams mwyach yn cefnogi Laud yn bersonol, cariai allan mor ffyddlon a chynt yr egwyddorion a ddysgai Laud. Ac uwchlaw'r cwbl gosodai deyrngarwch i'r brenin. Gwyddai Siarl hyny yn dda, a gosodai bob ymddiried yn ffyddlondeb y Cymro. Saif Castell Conwy heddyw'n dyst i'r hyn a wnaeth ac a ddioddefodd yr Archesgob Williams, dros y brenin a'i blaid. Cefnogwyr blaenllaw i'r un blaid oedd y rhai a ddalient y pedair Esgobaeth Gymreig, Dr. John Owen, Llanelwy; Dr. William Roberts, Bangor; Dr. Morgan Owen, Llandaf;[4] Dr. Francis Davies, Llandaf; a'r Dr. William Thomas, Bangor. Pe caffai Cymro ddyrchafiad Eglwysig mewn gwlad arall, tueddai ei addysg foreuol yntau i fod yn Frenhinwr. Rhai felly oedd yr Archesgob Williams, a nodwyd uchod, a'r Dr. Gruffydd Williams, Esgob Ossory yn y Werddon. A'r hyn oedd yn wir am yr Eglwys oedd yn wir hefyd am y bendefigaeth yng Nghymru. Gydag ychydig eithriadau Brenhinwyr oeddent i gyd—ac fel Brenhinwyr yr oes honno yr oeddent yn isel eu moesau, gelynol i bob dim a sawrai o rinwedd, moesoldeb, a chrefydd. Yr oedd Beirdd Cymru'r dyddiau hynny yn benboethiaid o blaid y Brenin, a'r Llys, a'r Eglwys, ac yn chwerw yn erbyn Pengryniaeth neu Buritaniaeth[5]—a gellir ystyried beirdd gwlad yn debyg o adlewyrchu rhediad cyffredin syniadau'r werin. Os mynnir cael tystiolaeth am y dylanwad a gaffai y syniadau. hyn ar bob gradd o gymdeithas yn y wlad, y pendefigion a'r werin, y clerigwyr a'r barnwyr, y crefftwyr a'r merched a phawb, nid oes angen ond troi dalennau "Llyfr y Ficer," neu Ganwyll y Cymry yr enwog Ficer Prichard o Lanymddyfri."

Dyma engrheifftiau o'r hyn a ddywed am wahanol ddosbarthiadau:

"Mae'r Penaethiaid bob yr un
Yn ceisio'u mawl a'u lles eu hun,
Ac heb ymgais am wir grefydd,
Moliant Duw, na lles y gwledydd

Mae dy Ffeiriaid hwynta'n cysgu
Ac yn gado'r bobol bechu,
Ac i fyw y modd y mynnon,
Heb na cherydd na chynghorion.

Mae dy Farnwyr, a'th wyr mawrion,
Yn cyd-ddwyn a mwrddwyr, meddwon,
Ac yn godde treiswyr diriaid,
Speilio'r gweddwon a'r amddifaid.

Mae'r fath fedd'dod, mae'r fath dyngu,
Mae'r fath gamwedd ynnot Gymru,
A'r fath wan-gred a gau dduwiaeth,
Na bu 'nghred ei sut ysywaeth."


Dro ar ol tro ceir ef yn beio'r offeiriaid am esgeuluso eu dyledswyddau:

"Oh! pa lef ac achwyn irad,
A fydd dydd y farn gan fagad,
Am i'r ffeirad eu newynu,
A'u handwyo eisie eu dysgu,

A pha gonsciens y gall ffeirad,
Gippio'r cryf heb borthio'r ddafad,
Bwyta'r offrwm mor ddiwybod,
Ac heb weiddi'n erbyn pechod !"


A symia'r oll i fyny mewn un pennill fel hyn:

"Mae'r ffeirad, mae'r ffermwr, mae'r hwsmon a'r crefftwr,
Mae'r Beyli a'r Barnwr, a'r bonedd o'r bron,
Bob un am y cynta, yn digio'r Gorucha,
Heb wybod p'un waetha eu harferion."


Dengys i ni fod ofergoeliaeth isel yn meddiannu'r wlad:

"Pan ddel Dewin neu ryw swynwr,
Oh! ni a redwn at y twyllwr,
Fel y gwenyn at y gwinwydd,
I roi clust i dad y celwydd.

Tynnu'r plentyn trwy'r pren crwca,
Neu trwy fflam ar nos glangeua,
A'u rhoi 'mhin y felin uchel,
Yw offrymu plant i gythrel.


A rhag y tybia neb fod hyn yn ddarlun cywir o Loegr hefyd yr amser hwnnw, mae'r Ficer yn rhoi'r ddwy wlad ochr yn ochr mewn un darlun, fel hyn:

"Mae'r cobleriaid a'i morwynion,
A'r rhai gwaetha 'mysg y Saeson,
Bob yr un a'r Beibl ganthynt,
Ddydd a nos yn darllain ynthynt,

Mae'r penaethiaid gyda ninau,
A'i tableri ar ei bordau,
Heb un Beibl, nac un plygain,
Yn eu tai, na neb i'w darllain.

Pob merch tincer, gyda'r Saeson,
Feidr ddarllain llyfrau mawrion:
Ni wyr merched llawer Scweier
Gyda ninne ddarllain pader!"
[6]


Yr oedd cyflwr Cymru yn llawer mwy gresynnus y pryd hwn nag eiddo Lloegr. Cadarnheir hyn gan Walter Cradoc, yn y bregeth a draddododd o flaen y Senedd Gorffenaf 21, 1646. Yn honno dywed[7] nad oedd y pryd hwnnw, ymhen saith mlynedd wedi sefydlu Eglwys Llanfaches, gynifer a thri-ar- ddeg o weinidogion (neu glerigwyr) yn nhair-sir-ar-ddeg Cymru, yn ddigon cydwybodol i bregethu ddwywaith ar y Sul. Ategir Cradoc drachefn gan ei gyfaill enwog Vavasor Powel, yr hwn yn ysgrifennu yn yr un flwyddyn a ddywed,[8] nad oedd cynifer ag un pregethwr duwiol a galluog i'w gael y pryd hwnnw ar gyfer pob sir yng Nghymru—ac nad oedd ar gyfartaledd un Beibl ar gyfer pob pum' cant o deuluoedd yn y Dywysogaeth. Teimlodd y Senedd gymaint dros gyflwr gresynnus Cymru, fel y pasiwyd deddf arbennig er sicrhau lledaeniad yr Efengyl yng Nghymru. O dan y ddeddf hon penodwyd Dirprwywyr yn meddu awdurdod i gymeryd gofal o bob peth cysylltiedig a chrefydd yn y Dywysogaeth. Rhoddwyd iddynt awdurdod i droi allan o'u bywiolaethau, yr offeiriaid a dybient oeddent anghymwys i'w swydd, naill ai oherwydd eu buchedd neu eu dysg. Trowyd ugeiniau o glerigwyr allan. Cymerodd y Dirprwywyr feddiant o'r eiddo yn y bywiolaethau hynny; caniatawyd y bumed ran fel blwydd-dal i'r rhai a drowyd allan, a defnyddiwyd y gweddill i dalu cyflogau y rhai a benodwyd yn lle y rhai a ddifuddiwyd. Ond nid oedd digon o ddynion cymhwys i'w cael ymhlith Puritaniaid Cymru i lenwi'r lleoedd gweigion. Felly penododd y Dirprwywyr chwech o bregethwyr teithiol i bob sir yng Nghymru—dynion gan mwyaf wedi cael eu dwyn i fyny ym Mhrifysgolion Rhydychain a Chaergrawnt. Rhoddwyd i'r rhai hyn gyflog o gan punt y flwyddyn yr un. Ychwanegwyd at y rhai hyn drachefn ddeuddeg-ar-hugain arall o wyr dysgedig. A chan nad oedd y rhai hyn, ychwaith, yn ddigon at y gwaith, penodwyd nifer o "bregethwyr cynorthwyol" o blith aelodau cyffredin yr Eglwysi,—a chaffai y rhai hyn gyflogau yn amrywio o 20p. i 30p. y flwyddyn.[9]

Prin mae eisieu dweyd mai nid y ffordd fwyaf effeithiol i ennill serch cenedl yw gwthio arnynt heb eu cydsyniad drefniant newydd a'u gorfodi ar yr un pryd i dalu am y trefniant hwnnw. Gan nad faint a ganmolir ar amcan y Senedd yn pasio'r Ddeddf i Efengyleiddio Cymru, ac yr oedd yr amcan yn ddiameu yn dda,—nis gellir canmol y cynllun a fabwysiadwyd i sicrhau hynny, sef Sefydliad Gwladol o Anghydffurfiaeth, canys hyn ydoedd mewn gwirionedd. Gwnaed y Bedyddwyr, yr Anibynwyr, a'r Presbyteriaid yng Nghymru, yn awr yn Eglwysi Sefydledig, ac aeth yr hen Eglwyswyr yn Anghydffurfwyr oddiwrth y drefn newydd![10] Nid help, ond rhwystr, i gynnydd egwyddorion Ymneillduaeth, oedd penodi'r Dirprwywyr hyn. Cymerwyd, mae'n wir, bob gofal dichonadwy i wneud y cynllun mor berffaith ag oedd bosibl. Yr oedd y Dirprwywyr eu hunain yn ddynion mewn safle gymdeithasol pur dda, ac i'w cynorthwyo yn y rhan Eglwysig neu grefyddol o'u gwaith, penodwyd nifer o weinidogion neu bregethwyr adnabyddus

a phoblogaidd, y rhai a'u cyfarwyddent ynghylch y personau a ddylid eu trwyddedu i bregethu. Mae enwau amryw o'r pump-ar-hugain hyn[11] yn uchel eu bri hyd y dydd heddyw fel Tadau Ymneillduaeth Cymru. Ond rhaid cydnabod fod yn rhaid cael Deddf Unffurfiaeth, a gormes, ac erlid, i'w gwneud yn Ymneillduwyr. Dynion cydwybodol, egwyddorol, wedi cael eu tanio gan gariad at, a zel dros, y gwaith o efengyleiddio Cymru oedd y mwyafrif o honynt, mae'n wir. Ond mae mor wir a hynny mai wedi iddynt hwythau orfod torri eu cysylltiad â'r Eglwys fel Sefydliad Gwladol o grefydd, yr enillasant fwyaf o nerth a dylanwad yn y wlad. Y cyfddydd ydoedd eto, mewn mwy nag un ystyr.

Gwelir felly nad oedd calon Cymru eto wedi cael ei chyffwrdd ond yn unig yn ysgafn iawn. Nid oedd cydwybod y genedl eto wedi cael ei deffroi—ond mewn rhai mannau.

Yr oedd yr Archddiacon Prys ym Meirion, y Ficer Prichard yn Llanymddyfri, a Stephen Hughes ym Meidrym, ac ambell un tebyg iddynt hwy, yn ddynion da, gonest, cydwybodol, yn llafurio'n ddyfal yn eu gwahanol gylchoedd o blaid y ffydd—ac o fewn corlan Eglwys Loegr. Mae yn deilwng o sylw mai Efengylaidd a Phuritanaidd, yn hytrach nag Uchel-Eglwysig, oedd cymeriad gweinidogaeth y rhai hyn. Meddent, ac arferent yn helaeth, y ddawn i bregethu a fychenid gan yr Eglwyswyr Brenhinol. Ceir yn ysgrifeniadau'r Ficer lu o brofion nid yn unig ei fod yn wrth-Babyddol ei hun, ond mai syniadau Pabyddol ei bobl, a'r wlad yn gyffredin, oedd un o'r rhwystrau pennaf yn ffordd lledaeniad ei ddylanwad ef a'r Efengyl a bregethid ganddo. Arferai'r Ficer Prichard a Stephen Hughes, fel Rowlands Llangeitho, a'r Diwygwyr Eglwysig eraill. ymhen can mlynedd wedyn, fyned ymhell dros derfynnau eu plwyfi eu hun; teithient lawer gan bregethu ar hyd a lled y wlad. Ond ychydig iawn. o'u bath a geid yn yr Eglwys yng Nghymru'r pryd hwnnw.

Am y lleill a enillasant ddylanwad,—o herwydd ac o dan erlid y llwyddasant. Yr oedd William Wroth o Lanfaches. William Erbury a Walter Cradoc o Gaerdydd, wedi bod yn cael eu herlid am flynyddau gan Esgob Llandaf cyn iddynt adael yr Eglwys. Gorfu i Marmaduke Matthews ffoi i'r America rhag llid yr Esgobaethwyr. Cafodd Richard Symons, Vavasor Powel, ac Ambrose Mostyn ddioddef yn eu cyrff nodau yr erlidwyr o droion. A dyna'r dynion a ddaethant yn allu yn eu gwlad. Cyffyrddodd dewrder a dioddefiadau y rhai hyn galon y bobl. Ac o'u blaen hwynt, er dyddiau merthyrdod John Penry, ni chafwyd odid neb yng Nghymru a ddioddefodd erlid trwm er mwyn cydwybod. Yn y cyfnod hwnnw ni safodd yr un Cymro enwog i fyny dros hawliau cydwybod—tra degau o Ymneillduwyr Lloegr yn gwynebu dioddefiadau ac arteithiau a wnant i'r gwaed redeg yn oer yn ein gwythiennau wrth ddarllen am danynt.[12] Felly, tra Lloegr eisoes yn mwynhau llawn oleuni dydd, nid oedd Cymru eto ond megys yng ngoleuni gwanaidd y cyfddydd.

Nodiadau

[golygu]
  1. Gwn fy mod wrth ddweyd hyn yn mynd yn hollol groes i'r syniad cyffredin, ac i'r hyn a ddywed haneswyr blaenorol, am gyflwr crefydd yng Nghymru. Eithr ceir ffeithiau diymwad yn nes ymlaen yn profi'r hyn ddywedir yma.—B. G. E.
  2. Gwn yr hawlia rhai ysgrifenwyr fod Eglwys Fedyddiedig reolaidd yn bodoli yn yr Olchon er 1633. Myn rhai ddweyd ei bod yno ymhell cyn hynny. Nid wyf yn amheu nas gallai fod yno grefyddwyr yn dal golygiadau'r Bedyddwyr, ac yn cyfarfod a'u gilydd ar adegau yn y cyfnod hwnnw i gyd—addoli Duw. Ond er chwilio'n ddyfal gyda llygad syml am oleuni'r gwirionedd, yr wyf hyd yma wedi methu cael un prawf o fodolaeth Eglwys Ymneillduol reolaidd yng Nghymru cyn 1639, yn Llanfaches,—ac yr oedd Bedyddwyr ac Anibynwyr yn aelodau o honno.
  3. Anghytunaf ar y naill law â'r rhai a ddywedant fod Cymru wedi cael ei hefengyleiddio'n dra chyffredinol yn nyddiau Cromwell; ac ar y llaw arall â'r sawl a haerant mai pobl yn rhodio yn y tywyllwch oedd Cenedl y Cymry hyd nes i'r hyn a elwir "Y Diwygiad Methodistaidd " dorri allan yn nyddiau Howell Harris. Gosodaf fi gyfnod goleuo Cymru yn agos i'r canol rhwng y ddau amseriad yna. Ceir profion yn nes ymlaen.—B. G. E.
  4. Dywedir fod Dr. Morgan Owen, Esgob Llandaf, yn ganlynnwr mor selog i Laud, fel, pan glywodd fod yr Archesgob wedi cael ei ddienyddio, ddarfod iddo syrthio oddiar ei gadair, a marw. Preswyliai ar y pryd yn y Lasallt Fawr ym mhlwyf Myddfai, Sir Gaerfyrddin.
  5. Er engraifft, dyma ddywed Rowland Fychan ar ol i'r Senedd dorri pen Siarl I.:

    "Ni fedra 'i fynegi, mor achos o'i golli,
    Mae'n hardda imi dewi, yn dawel a son;
    Mi a ddweda'n seliedig, na thorrir pen tebyg,
    Yn Lloegr goch oerddig, a'r Werddon."


    Ac am y Pengryniaid, canodd yr un bardd fel hyn:

    "Pe cawn i'r Pen-grynion
    Rhwng ceulan ac afon,
    Ac yn fy llaw goedffon o lin-on ar li;
    Mi a gurwn yn gethin
    Ynghweryl fy mrenin,
    Mi a'u gyrrwn yn un byddin i'w boddi."
    Blodeugerdd.


    Ac atebwyd ef gan ei gyd-fardd William Phylip o Ardudwy, fel a ganlyn:

    "Pe cawn i'r Pengryniaid
    Ar ben goriwaered,
    Er gwaned a hyned wyf heno,—
    A phastwn du-ddraenen,
    (Rwy'n ddeuddeg a thrigain,)
    Chwi a'm gwelech yn llawen yn llowio."


  6. Canwyll y Cymry.
  7. Gwel Glad Tidings, Cradoc.
  8. Gwel y Rhagymadrodd i Gatecism Ysgrythyrol Vavasor Powel, 1646
  9. Dywedir fod 18 neu 20 o'r pregethwyr cynorthwyol hyn yn aelodau o Eglwysi Llanfaches a Mynyddislwyn. Penodid Bedyddwyr yn ogystal ag Anibynwyr. Nid anenwog ymhlith y blaenaf oedd Thomas Evans, Pentre, ger Llanafan Fawr, ar gyffiniau Siroedd Brycheiniog a Maesyfed. Gellir ei alw yn Dad Bedyddwyr Maesyfed. Canlynnwyd ef yn y weinidogaeth Fedyddiedig gan ddau fab iddo, a'r rhai hyn drachefn gan bump o'u plant hwythau. Disgynnodd yr un ysbryd yn y bedwaredd a'r bumed genhedlaeth, canys or-wyr iddo oedd yr enwog Dr. Caleb Evans, Bryste, ac or-or-wyr iddo oedd John Evans, LL.D., Llundain. Wele eileb o'r drwydded a roddwyd yn 1653 i Thomas Evans i bregethu:—
    "By the Commission for Propagating the Gospel in Wales:—Whereas five of the ministers in the Act of Parliament named, bearing date the 25th of February, 1649, and entitled, An Act for the better Propagation of the Gospel in Wales, have, according to the tenors of the said Act, approved of Mr. Thomas Evans, the younger, to be a person qualified for the work of the ministry, and recommended him, with their advice to us, that he be encouraged in the work of the ministry: We do, according to an order to us directed by the committee of five, at Neath, therefore order that Mr. John Pryce, treasurer, shall forthwith pay unto the said Mr. Thomas Evans the sum of thirty pounds, which we have thought fit to allow him towards his salary and encouragement in the work of the ministry. This, our order, together with his acquittance, shall be a sufficient discharge for the said treasurer. Dated under our hands the 16th of May, in the year of our Lord, 1653.—JOHN WILLIAMS, &c., &c."
  10. Ceir yr un peth mewn ymarferiad yn ein dyddiau ni. Yn Lloegr Esgobyddiaeth yw'r Sefydliad Gwladol, ac mae'r Presbyteriaid, fel yr enwadau eraill, yn cael eu cyfrif yn Ymneillduwyr. Yn yr Ysgotland, ar y llaw arall, y Presbyteriaid sy'n perthyn i'r Sefydliad Gwladol—a'r Esgobaethwyr o angenrheidrwydd yn Anghydffurfwyr ac Ymneillduwyr!
  11. Wele'r enwau fel y'u ceir hwynt yn y DdeddfSeneddol dan sylw:— Henry Walter, Walter Cradock, Richard Simonds, Roger Charnock, Jenkin Lloyd, Morris Bidwell, David Walter, William Seaborn, Edmund Ellis, Jenkin Jones, George Robinson, Richard Powell, Robert Powell, Thomas Ewen, John Miles, Oliver Thomas, Dr. John Ellis, Ambrose Mostyn, Stephen Lewis, Morgan Lloyd, William Jones, Richard Edwards, Vavasor Powell, Richard Swain, a Rowland Nevet.
  12. Cymerer er enghraifft y gosb farbaraidd a osodwyd ar y dysgedig Dr. Leighton. Trosedd Dr. Leighton oedd cyhoeddi yn Holland "An Appeal to Parliament; or Zion's Plea against Popery." Wele adroddiad o'i gosb fel y'i ceir yn Nyddlyfr Archesgob Laud, Tach. 6, 1630:—
    1. Chwipiwyd ef yn arw cyn ei osod yn y rhigod (pillory): 2. Wedi ei roi yn y rhigod, torrwyd un o'i glustiau ymaith; 3. Holltwyd—un ochr i'w drwyn; 4. Llosgwyd y llythyrennau S. S. (Sower of Sedition—Hauwr Terfysg) yn ei gern. Ym mhen wythnos wedyn, a'r briwiau ar ei gefn, clust, trwyn, a gwyneb eto heb wella, chwipiwyd ef drachefn wrth y rhigod, a chariwyd allan y gweddill o'r ddedfryd drwy dorri ymaith y glust arall, hollti'r ochr arall i'w drwyn, a llosgi y gern arall."—Yr oedd ar y pryd yn tynnu ar 50 oed, a chanddo wraig a phlant. Yr oedd y chwip yn dwyn tair cainc; caffai 36 flangelliad ar y tro, a phob fflangell yn torri darnau o'r cnawd ymaith. Yna carcharwyd ef am ddeng mlynedd.
    Danghosodd yr Archesgob Bancroft gyffelyb ysbryd. Rhoddodd yr enwog a'r dysgedig Dr. Burgess ei fywoliaeth Eglwysig i fyny am nas gallai gydffurfio â'r defodau a fynnai'r Archesgob osod i fyny yn yr Eglwys. Er fod Dr. Burgess yn bregethwr hyawdl, a phoblogaidd, ymneillduodd o'r weinidogaeth, a gweithredodd fel meddyg. Fel meddyg galwyd arno i weinyddu ar Dduces Bedford yn ei salwch. Nid yn unig rhoddodd feddyginiaeth iddi, ond gweddiodd gyda hi mor deimladwy nes ei throi at Buritaniaeth. Pan glybu'r brenin hyn, ffromodd yn aruthr, a gorchymynnodd i'r Archesgob edrych i mewn i'r mater. Gyrrodd hwnnw am Dr. Burgess; rhoddodd sen iddo, a gorchymynnodd iddo i beidio gweithredu fel meddyg mwyach o fewn deng milldir i Lundain! (Carleton's Letter. MS. Record Office. Dom. Series, Aug. 1, 1603.)

PENNOD IX.
GWLADGARWCH A CHREFYDD.

Trown ein sylw yn ol eto am dymor i Loegr, modd y deallom yn well yr hyn a ddaeth ar ol hyn yng Nghymru. Gyda marwolaeth Elizabeth terfynnodd teyrnasiad y Tuduriaid; gydag esgyniad Iago dechreuodd awdurdod y Stuardiaid. Yn gwau, blith-drafflith, drwy eu gilydd ar hyd yr holl gyfnod Stuardaidd, gwelir tair brif linell amlwg—Y Frwydr am Ryddid Gwladol, yr Ymdrech am Ryddid Crefyddol, a Gwahaniaethad yr Enwadau. Saif y llinellau hyn allan yn eglur yn holl rwydwaith amgylchiadau dyrrus y cyfnod—weithiau rhed y tair llinell ochr yn ochr yn yr un cyfeiriad; brydiau eraill croesant eu gilydd; a thrachefn ceir y naill yn gorwedd o dan y llall, neu mor gymhlethedig â'u gilydd fel mai gydag anhawsder y gellir gwahaniaethu y naill edefyn oddiwrth y ddau arall. Ond bob amser mae'r tri yno yn amlwg; a'r hyn a geisir ei wneud yn y bennod hon yw eu dadrys, hyd y gellir, a'u gosod yn glir ger bron llygaid y myfyriwr.

Camgymeriad yw tybied mai Brwydr Edgehill, yn 1642, oedd y gyntaf, a Brwydr Worcester, yn 1651, oedd yr olaf yn y Rhyfel Cartrefol. Gwir mai yno y croeswyd cleddyfau gyntaf ac olaf. Ond yr oedd y frwydr wedi dechreu pan eisteddodd Iago I. ar Orsedd Lloegr, ac ni therfynnodd tan i'w ŵyr, Iago II., ffoi am ei einioes. Mewn gwirionedd, cyfnod o frwydro di-dor, ac ymron dibaid, fu holl dymor y Stuardiaid—brwydr a barhaodd am 85 mlynedd, o esgyniad Iago I., yn 1603, hyd ffoedigaeth Iago II., Nadolig 1688.

Gellir casglu oddiwrth yr hyn a ddywedwyd eisoes, mewn penodau blaenorol, fod gwahaniaeth hanfodol rhwng syniadau. Elizabeth a Iago, ac yn wir rhwng syniadau'r Tuduriaid a'r Stuardiaid, am natur Eglwys, a'i hawliau. I'r Tuduriaid, ac yn arbennig i Elizabeth, y Genedl Seisnig yn ei gwedd grefyddol, oedd Eglwys Loegr. I Iago, ar y llaw arall, Eglwys Loegr yn ei gwedd wladwriaethol oedd y Genedl Seisnig. Mewn geiriau eraill, y Genedl oedd flaenaf ym. meddwl Elizabeth; yr Eglwys oedd bwysicaf ym marn Iago. Daeth y ddau syniad o angenrheidrwydd i wrthdarawiad âg egwyddor hanfodol y Puritaniaid, sef "Gair Duw yn uchaf." Er holl ormes Elizabeth, gweithredai ymron ymhob dim yn gyfansoddiadol; er holl wendid moesol Iago, a'i fab a'i wyrion, ychydig o barch a dalent i na llythyren nac ysbryd cyfraith y tir.[1] Anffawd i Eglwys Loegr, fel Sefydliad, oedd ei chysylltu â gormes cyfansoddiadol Elizabeth; anffawd llawer mwy oedd ei gwneud yn rhan hanfodol o ormes anghyfansoddiadol Iago.

Danghoswyd mewn pennod flaenorol fod Iago yn dal Egwyddor Hawl Dwyfol y Brenin, a thrwy'r brenin Hawl Dwyfol yr Esgob. Dyma ymresymiad Iago:

i. Teyrnasa'r Brenin drwy hawl dwyfol; mae ei berson yn gysegredig; ei ewyllys yw'r gyfraith; nid oes gyfraith arall ond ei ewyllys ef. ii. Eiddo'r Brenin yw'r bobl; gellir caniatau iddynt, drwy eu cynrychiolwyr, ran yn y llywodraeth; ond ymddibynna yn hollol ar ewyllys da y Brenin pa ran a ganiateir iddynt.

iii. Pan fyddo'r Senedd—neu Gyngor y Genedl—yn pasio cyfraith, nid yw'r Brenin yn cael ei rwymo ganddi; ac ni raid iddo wrth Senedd o gwbl ond mor bell ag y dymuna efe ei hun.

iv. Ni raid i'r Brenin gadw ei air tuag at ei ddeiliaid; ond rhaid i'r deiliaid gadw eu gair i'r Brenin.[2]

Dro ar ol tro ceir Iago a Siarl yn gweithredu ar yr egwyddorion hyn. Rhwygodd Iago a'i law ei hun allan o Lyfr Cofnodion Ty'r Cyffredin, y ddalen yn cynnwys mynegiad o hawl aelodau'r Ty i ryddid ymadrodd. Ceisiodd ef a'i fab lywodraethu heb Senedd. Pythefnos fu hyd oes Senedd gyntaf Siarl. Dadgorfforodd yr ail cyn iddi allu pasio gymaint ag un ddeddf. Tair wythnos y parhaodd Senedd arall. Am un-mlynedd-ar-ddeg ni bu Senedd o gwbl.

Cysylltid yr Eglwys a'i hawliau gyda'r helyntion gwladol hyn o'r dechreu. Danghoswyd eisoes (tudal 62) y modd yr oedd gormes crefyddol John Knox wedi gyrru Iago i wrthryfel pan gafodd gyfle. Cyn dod yn Frenin Lloegr, a phan felly o dan bawen olynwyr Knox, Presbyteriaeth oedd y cwbl yngolwg Iago. Condemniai "Esgobyddiaeth Babyddol" Lloegr; tyngodd drachefn a thrachefn y safai efe tu cefn i "Eglwys a gweinidogaeth Ysgotland." Ond can gynted ag y gallai herio y rhai yn ei ddydd ef a gynrychiolent ddysgeidiaeth Knox, cyn yn wir iddo groesi'r terfyndir i wisgo coron Prydain, ysgrifennodd gynghorion i'w fab, yn ei rybuddio yn erbyn y Puritaniaid, y rhai, eb efe, oeddent gynhyrfwyr gwlad ac eglwys, a llai i ymddibynnu arnynt na lladron gwartheg yr Ucheldiroedd.[3] Llonnodd tôn y llythyr hwn gymaint ar galonnau Pabyddion, fel y disgwylient weled Iago yn adsefydlu Pabyddiaeth.[4] Ond nid oedd hynny yn cydfyned â syniadau'r brenin—canys hanfod Pabyddiaeth oedd fod y Brenin yn ddarostyngedig i awdurdod yr Eglwys; tra hanfod credo Iago oedd, mai trwy ras y Brenin y caffai'r Eglwys, fel y Wladwriaeth, bob awdurdod.

Cafwyd ail-adroddiad o brofiad crefyddol(?) Iago yn ei ŵyr Siarl II. Wedi dienyddiad ei dad, tra Siarl yn yr Ysgotland yn ceisio byddin i ddymchwelyd Cromwell, arferwyd tuag ato yr un driniaeth ag a gafodd ei daid. Gorfodwyd ef i fod yn Bresbyteriad; ddwywaith galwyd arno i arwyddo'r "Cyfamod Difrifol yn erbyn Pabyddiaeth"; disgwylid iddo fynd drwy rith hir-weddiau ac ymprydiau; rhaid oedd iddo eistedd yn amyneddgar i wrandaw chwech o bregethau hir-wyntog yr un dydd; ac yn y diwedd gorfu iddo arwyddo papur yn cyhuddo ei dad o fod yn euog o dywallt gwaed gwirion, a'i fam o fod yn eilun-addoles. Nid cynt—fel y gwelir eto y daeth yn Frenin Lloegr, nag y taflodd yr holl addewidion a chyfamodau hyn i'r gwynt, ac yr aeth i bob diben ymarferol yn Babydd.

Gwelir, felly, fod credo'r Stuardiaid yn Hawl Dwyfol y Brenin, o dan wraidd eu holl gamgymeriadau Eglwysig a gwladwriaethol. Cyn cael y Frenhiniaeth yr oeddynt yn ddarostyngedig i awdurdod eraill; wedi cael y Frenhiniaeth tybient eu hunain uwchlaw pob awdurdod, ac felly yn anffaeledig. Tybiai Elizabeth ei hun yn anffaeledig—ond gofalai am gael awdurdod y Senedd i bopeth a wnai.[5] Eithr nid felly Iago a Siarl. Mor bell ag y medrent, anwybyddent y Senedd, gan lywodraethu drwy lysoedd anghyfansoddiadol, megys Llys yr Uchel Ddirprwyaeth (High Commission Court), ac Ystafell y Seren (Star Chamber). Geiwid i gyfrif gan yr Uchel Ddirprwyaeth bawb a feiddient ddal syniadau crefyddol neu eglwysig croes i eiddo'r Esgobion; cosbai Ystafell y Seren y sawl a ddywedent air yn erbyn y brenin neu ei Wladweiniaeth, neu a omeddent dalu'r trethi anghyfreithlon a godai efe arnynt.

Dyna'r brenin. Beth am y deiliaid? Yr oedd dau ddosbarth arbennig ohonynt, sef y rhai a weithredent oddiar gydwybod grefyddol, a'r rhai a symbylid gan gydwybod wleidyddol. Yn wirfoddol a bwriadol gyrrodd Iago'r blaenaf at yr olaf; yn ddiarwybod ac yn anfwriadol gyrrodd yr olaf i dir y blaenaf. Caniataer i mi egluro. Gwnaeth y crefyddwyr Puritanaidd yn wleidyddwyr drwy wneud Puritaniaeth yn drosedd gwladol.[6] Gwnaeth y gwladgarwyr yn grefyddwyr Puritanaidd ynghyntaf drwy gysylltu yr Eglwys â'i ormes gwladol, gan orfodi felly y neb a fynnai wrthwynebu'r olaf i wrthwynebu'r blaenaf hefyd; ac, yn ail, drwy roi'r Beibl i'r Bobl. Yr oedd Edward ac Elizabeth wedi rhoi'r Beibl i'r Eglwys—a hynny fagodd ac a feithrinodd Buritaniaeth o dan y Tuduriaid. Rhoddodd Iago y Beibl i'r Bobl—a chafodd gyffelyb effaith ar eu gwleidyddiaeth hwy, ag a gafodd ar grefydd y Puritaniaid.[7][8] Yr oedd gwladgarwch yr oes honno yn bur, am ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan ddysgeidiaeth y Beibl—a'r gwladgarwch sy'n seiliedig ar, ac a ysbrydolir gan y Beibl, a faidd yn oreu sefyll i fyny dros hawliau dyn gan nad beth a fyddo'r canlyniadau. Cofier fod Beibl Iago yn dod i Saeson yr oes honno fel datguddiad newydd. Pe gallem feddwl am Gymru fel y mae heddyw,—oddigerth ei meddiant o'r Beibl a'r capeli; pob addoliad yn cael ei gario ymlaen yn yr Eglwysi plwyfol yn unig, a dim Beibl ond yn yr Eglwys; ac yna fod y wlad yn cael ei llenwi ar unwaith â Beiblau, caem syniad cywirach am ddylanwad anesgrifiadwy lledaeniad cyffredinol Beibl Iago drwy'r wlad. Daeth i lu yn yr oes honno fel datguddiad newydd, yn cynnwys dysgeidiaeth newydd, ac yn rhoddi goleuni ac ysbrydoliaeth newydd. Pa ryfedd fod Duw a'r Diafol i'r Puritaniaid hynny, yn bersonoliaethau sylweddol, a allent fod yn bresennol gyda hwynt, a bod milwyr Cromwell yn mynd i'r frwydr dan ganu Salmau, ac mor gryf yn eu hyder ym mhresenoldeb Duw gyda hwynt, ag oedd Joshua gynt pan orchymynnodd i'r haul i aros yn Gibeon, a'r lleuad yn nyffryn Ajalon? Y ffydd bersonol, weithredol, hon, yn yr Arglwydd, yw un o nodweddion amlycaf crefydd gwroniaid y cyfnod hwn.

Yn awr gosoder y ddau allu gwrthgyferbyniol hyn wyneb yn wyneb â'u gilydd, y Brenin a'i gredo am Hawl Dwyfol, a'r Deiliaid a'u Beibl newydd yn rhoi iddynt ffydd mewn Presenoldeb Dwyfol gyda'i bobl,—ac nid oes angen dweyd beth raid fod y canlyniad. Nid yn sydyn y daeth y cyfnewidiad. Mor raddol ag yr ymneillduasant o'r Eglwys, yr ymbellhaodd y Puritaniaid oddiwrth eu teyrngarwch i'r Orsedd. Pan esgynnodd Iago i'r Orsedd nid oedd o fewn y deyrnas neb mwy teyrngarol na'r Puritaniaid.[9] Ffolineb Iago yn eu galw yn wrthryfelwyr, a'u trin fel gwrthryfelwyr, a'u gwnaeth yn wrthryfelwyr. Cyflwynodd Senedd gyntaf Iago "Wrthdystiad" cryf yn erbyn y llygriadau oedd eisoes yn dechreu llithro i fewn i'r Sefydliad Eglwysig, ac i'r Cyfansoddiad Gwladol.[10] "Fel y mae Duw i'm barnu!" llefai'r brenin pan dderbyniodd y Gwrthdystiad, "gwell fyddai gennyf fyw fel meudwy, na bod yn frenin ar y fath giwaid o Buritaniaid ag sy'n rheoli Ty'r Cyffredin!"[11] Ond os cryf Senedd gyntaf Iago, cryfach yr äi bob Senedd ar ol hynny. Gwrthwynebent yn gadarnach fyth, flwyddyn ar ol blwyddyn, bob trawsfeddiant o awdurdod o eiddo'r brenin a'r Eglwys. Yn y naill etholiad ar ol y llall cryfach, gryfach yr äi plaid y Gwladgarwyr, a gwannach, wannach yr äi plaid y Brenhinwyr yn Nhy'r Cyffredin. Ac eto ymhob dim gofalent weithredu yn gyfansoddiadol.[12] Nis gallwn lai na rhyfeddu at yr hir amynedd a ddanghoswyd gan y wlad a'i chynrychiolwyr, tra yn dal yn gadarn, ïe, yn gyndyn, wrth eu hawliau.

Eithr nid felly'r brenin. Bu Iago saith mlynedd heb Senedd, a Siarl un-flynedd-ar-ddeg. Gallasai Elizabeth fod wedi fforddio byw heb Senedd yn well na hwynt, canys yr oedd hi wedi cynhilo digon o arian fel y gallai, petai angen hynny, gario'r gwaith ymlaen heb arian y wlad. Ond nid felly Iago na Siarl. Afradlon oedd y ddau ar eu harian—er y gallai Iago fod yn gybydd mewn pethau bychain. A dyma'r afael uchaf gyntaf gafodd Ty'r Cyffredin yn yr ymgodymu â'r Orsedd. Eu hateb i bob cais am arian oedd: "Dim diwygiad—dim arian." Cymerer dwy engraifft hanesyddol er dangos y gwrthgyferbyniad rhwng ymddygiad gwallgof, anghyfansoddiadol y Brenin, ac ymddygiad penderfynnol ond hollol gyfansoddiadol Ty'r Cyffredin.

Er mwyn gosod atalfa ar yr arferiad anghyfansoddiadol o godi trethi heb ganiatad y Senedd, cyflwynodd Ty'r Cyffredin yn 1628 "Ddeiseb Iawnderau" (The Petition of Right) i'r Brenin. Hawlid yn hwn:

i. Nad oedd neb i gael ei orfodi i dalu treth heb gydsyniad y Senedd.
ii. Nad oedd neb o'r deiliaid i gael eu carcharu heb ddangos yr achos.
iii. Nad oedd neb yn groes i'w hewyllys i gael eu gorfodi i letya milwyr.
iv. Nad oedd neb mewn amser heddwch i gael ei brofi wrth ddeddf fllwrol.

Cydsyniodd y Brenin—a phleidleisiodd y Senedd iddo 400,000p. Ond wedi cael yr arian i'w law, torrodd Siarl ei addewid. Pan gyfarfyddodd y Senedd yn 1629, galwodd Syr John Elliott sylw at y modd yr oedd Deiseb Iawnderau wedi cael ei throseddu—ac ymosododd ar Laud, Esgob Llundain ar y pryd, ond wedi hynny Archesgob Caergaint. Pan ddaeth y peth i bleidlais, dywedodd y Llefarydd—Syr John Finch, cynffonnwr i'r brenin—ei fod wedi cael gorchymyn y brenin i ohirio'r Ty. Pe y gwneid hynny nis gallai'r Ty basio dim. Pe'r ymneillduai'r Llefarydd nis gallai'r Ty wneud dim. Cymerwyd mesurau cryfion ond effeithiol i sicrhau fod y bleidlais yn cael ei chymeryd. Clowyd drysau'r Ty. Ymaflodd dau o'r Aelodau yn y Llefarydd gan ei ddal yn y gadair ar waethaf ei ddagrau. Yna darllenwyd gwrthdystiad ffurfiol, yn mynegu y cyfrifid fel gelyn i'r Wladwriaeth y neb a gynghorai dalu, neu a dalai yn wirfoddol, unrhyw arian i'r brenin heb gydsyniad y Senedd. Gyrrodd y brenin am ringyll y Ty; rhwystrwyd ef i fynd; gyrrwyd rhingyll Ty'r Arglwyddi atynt—ond ni chai ddod i fewn; yna gorchymyn—nwyd i'r milwyr fynd a thorri'r drysau. Carcharwyd Elliott ac Aelodau eraill a bu Elliott farw yngharchar. Yn y Senedd dymor cynhyrfus hwn y siaradodd Oliver Cromwell gyntaf—paratoad teilwng i'r gwaith mawr i'r hwn y'i galwyd wedyn.

Deuddeng mlynedd wedi hyn pasiodd Ty'r Cyffredin "Y Gwrthdystiad Mawr" (The Grand Remonstrance) yn nodi rhestr faith o weithredoedd anghyfansoddiadol y brenin. Aeth y brenin a thri chant o wyr arfog wrth ei gefn i Dy'r Cyffredin i ddal arweinwyr y Gwladgarwyr—ond ni chafodd hwynt. Ymneillduodd y brenin o Lundain, a chododd ei faner yn Rhydychain. Pan ddaeth yn ol i Lundain, fel carcharor y daeth—ac i'r dienyddle yr arweiniwyd ef.

Rhaid cofio fod cenhedlaeth gyfan wedi dioddef gormes anghyfansoddiadol am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain, cyn i'r rhwyg mawr gymeryd lle. Cyfeiriwyd droion at y rhan a chwareuodd yr Eglwys yn yr helyntion hyn. Symbylydd mawr polisi Eglwysig Siarl oedd Laud,—gynt Esgob Ty Ddewi, wedi hynny Esgob Llundain, ac yn olaf Archesgob Caergaint. Credai Laud mor ddiysgog yn anffaeledigrwydd Yr Eglwys, ag y credai'r brenin yn anffaeledigrwydd Y Teyrn. "Pab Caergaint" y gelwid ef gan y Puritaniaid. Yr oedd yn Babydd ymhopeth ond enw. Cyn ei amser ef safai Bwrdd y Cymun ynghanol yr Eglwys; mynnodd ef ei symud, a'i gosod fel allor yn erbyn mur dwyreiniol yr adeilad; ac, er mwyn cadw dwylaw anghysegredig rhag cyffwrdd â'r allor, gosodwyd canllaw o'i hamgylch. Prin y talai'r Iuddewon fwy o barch i Arch y Cyfamod, nag a fynnai Laud i'r Saeson dalu i'r allor ymhob Eglwys blwyfol. Dysgid hwynt hefyd i ymgrymu bob tro yr aent i fewn neu allan o'r Eglwysi. Cosbid hwynt os esgeulusent wneud.[13] Cyfarwyddid hwynt i foesgrymu i'r allor. "Dyma," ebe'r Archesgob, "yw'r unig fan ar y ddaear lle y preswylia Duw.[14] Gyda hyn mynnai i bawb dalu gwarogaeth i'r clerigwyr, y rhai a fynnent gael eu galw yn "offeiriaid." Gwelir ei fod yn gofalu am y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl. Hyn oedd prydferthwch santeiddrwydd yn ei olwg ef.[15] Yn hollol gyd-wybodol yn yr hyn a gredai, mynnai i bawb blygu i awdurdod anffaeledig yr Eglwys. Cosbid yn dost y rhai ni phlygent.

I ddianc rhag yr ormes hon ffodd miloedd o ddynion goreu'r wlad dros y môr.[16] Tybir fod pedair mil wedi croesi'r Werydd. Ond nid oedd hyn yn cydfyned â dymuniadau Laud. Rhoddwyd gorchymyn allan nad oedd neb i ymfudo heb gennad y brenin. Dygodd y gorchymyn hwn ei gosb i'r gorchymynnwr yn hytrach na'r gorchymynedig. Rhwystrwyd rhai o'r gwladgarwyr cadarnaf i ymadael o Loegr. Ymhlith y rhai oedd yn paratoi i fynd, ond a rwystrwyd felly, yr oedd Oliver Cromwell.

Canlyniad naturiol yr ormes yma oedd gwrthweithiad. Cododd y wlad yn erbyn Laud. Teimlent, o'r ddau, yn fwy chwerw yn erbyn gormes eglwysig Laud, nag yn erbyn gormes wladol Wentworth, Iarll Strafford. Pan gyfarfyddodd y Senedd Hir yn 1640, un o'r pethau cyntaf wnaeth Ty'r Cyffredin, oedd ystyried sefyllfa crefydd yn y wlad. Danfonwyd deiseb o Lundain, wedi ei harwyddo gan 15,000 o bersonau, yn deisyf am ddiddymiad y dull esgobyddol o lywodraethu'r Eglwys.[17] Ar gefn hyn cymerodd Ty'r Cyffredin gam pwysig a hynod pan edrychir arno o safle'r Ymneillduwyr. Tuedd polisi eglwysig Laud, fel y gwelir, oedd gwneud yr Eglwys, yn anibynnol ar y Senedd; mynnai Ty'r Cyffredin osod pob awdurdod yn nwylaw cynrychiolwyr y bobl. Pasiwyd penderfyniad, yn ddiwrthwynebiad, yn mynegu nad oedd unrhyw reol neu benderfyniad a basid gan ddau dŷ Confocasiwn yr Eglwys i feddu grym nac awdurdod heb gydsyniad y Senedd. Dyma osod llyfetheiriau'r Wladwriaeth yn dynnach nag erioed am draed yr Eglwys! Dyna amddifadu'r Eglwys o unrhyw allu deddfwriaethol. Cydsyniodd Ty'r Arglwyddi yn unfrydol yn hyn. Y cam nesaf oedd amddifadu'r clerigwyr o awdurdod gweinyddol mewn llysoedd gwladol. Gwaherddid i "esgobion, neu unrhyw glerigwyr eraill, i eistedd fel Ustusiaid Heddwch, nac i feddu hawl barnwyr mewn unrhyw lys cyfraith "—gan, meddid, y buasai hynny yn rhwystr i'w gwaith ysbrydol. Ond nid oedd yr Arglwyddi mor barod i basio hyn, gan y golygai droi'r Esgobion allan o Dy'r Arglwyddi.[18] Ond gwaeth na'r cwbl oedd "Mesur Gwreiddyn a Changen" (Root and Branch Bill) a ysbrydolid yn bennaf gan Oliver Cromwell. Darparai'r Mesur hwn am ddiddymiad llwyr y gyfundrefn esgobaethol. I gosbi'r Diwygwyr am hyn, ymgadwodd yr Esgobion o Dy'r Arglwyddi am dro, ar y tir fod agwedd y werin-bobl mor fygythiol fel na feiddient fynd i'r Senedd. Ni fuasai eu habsenoldeb yn blino'r Diwygwyr ond pan aeth yr Esgobion ymhellach, gan yrru gwrthdystiad yn erbyn cyfreithlonrwydd unrhyw ddeddf neu benderfyniad a basid yn eu habsenoldeb hwy, cododd y teimlad yn uwch yn eu herbyn. Taflwyd Laud i'r carchar, ar y cyhuddiad o deyrnfradwriaeth; cyhuddwyd dwsin o Esgobion o'r un trosedd. Ansefydlog yn ei benderfyniad, anffyddlon i'w air, anheyrngar i'w gyfaill, caniataodd Siarl dorri pen Laud. Ychydig wythnosau cyn croesi o'r Brenhinwyr a'r Gwladgarwyr gleddyfau ar faes y gwaed, gyrrodd Senedd Lloegr at Senedd Ysgotland, yn mynegu eu penderfyniad i ddileu esgobyddiaeth, "yn gymaint a bod hir brofiad yn dangos fod y gyfundrefn honno yn rhwystr mawr i berffaith ddiwygiad a chynnydd crefydd, ac yn dra niweidiol i wladwriaeth a llywodraeth y deyrnas."[19] Yna cymerodd mewn llaw ddiwygio'r gwasanaeth crefyddol. Symudwyd yr allor o'i safle ddwyreiniol yn yr eglwysi, a gwnaed hi drachefn yn Fwrdd y Cymun; gorchymynnwyd roi heibio'r croesau, y delwau, a'r darluniau Pabyddol; gwaherddid gosod canhwyllau ar Fwrdd y Cymun; dilewyd chwareuon ar y Sul; cymhellid cynal oedfaon pregethu brydnawn Suliau; anogid plwyfi'r deyrnas i benodi "darlithydd" i bregethu ar y Sul ac unwaith yn yr wythnos, ac i'w gynnal drwy roddion gwirfoddol. Dyma sylweddoli breuddwyd John Penry dri-ugain mlynedd cyn hynny! A dyma gydnabyddiaeth ffurfiol a swyddogol i'r egwyddor wirfoddol mewn crefydd.

Dyma, ynte, ddau chwyldroad, y naill yn y Wladwriaeth, a'r llall yn yr Eglwys. Yr un egwyddor a ysbrydolai'r ddau—dyhead am ryddid. Dyma'r Brenin, a'i syniadau am Hawl Dwyfol, ar ffo; dyma'r Esgob, a'i uchelgais am awdurdod i'r Eglwys, wedi cael ei ddiswyddo; dyma'r Gwladgarwr yn llywodraethu yn y Wladwriaeth; dyma'r Puritan yn rheoli mewn materion Eglwysig. Nis gallai fod chwyldroad mwy cyflawn mewn byd ac Eglwys a'r ddau yn gyd-amserol. Mynnodd Iago a Siarl gysylltu'r Brenin a'r Esgob, y Frenhiniaeth a'r Esgobaeth, â'u gilydd, mewn awdurdod ac uchelgais; mynnodd Ysbryd Rhyddid ddymchwelyd y ddau ar yr un pryd.

Ac eto rhaid cydnabod nad oedd ond ychydig mewn na byd nac Eglwys, eto wedi iawn ddeall gwir Ysbryd Rhyddid. Pan fethodd Cromwell gael y Senedd yn ddigon hydrin, aeth a'i filwyr yno a "phurodd" y Ty. Pan fethodd y Presbyteriaid drechu'r Anibynwyr mewn dadl, disgwylient wrth y fyddin i roi grym yn eu hymresymiadau.[20] Yr oedd eto lawer o waith astudio egwyddorion rhyddid gan arweinwyr gwladol a chrefyddol. Nid oeddent eto—os yn wir y maent heddyw—wedi dysgu'r wers fawr a fynnai Crist i'w holl ganlynwyr Ef ddysgu.

Pan ddaeth y Puritaniaid i awdurdod yn y Senedd ar enciliad Siarl, syrthiasant i'r un camgymeriad ag a wnaeth yr Esgobyddion o'u blaen—a'r Pabyddion o'u blaen hwythau. Tybient y rhaid fod un Eglwys megis ag yr oedd yn rhaid bod un Wladwriaeth—ac mai'r Wladwriaeth a ddylai benderfynnu pa ffurf a gymerai'r Eglwys. Un o weithredoedd cyntaf y Senedd Wladgarol, oedd penodi Cymanfa Duwinyddion (Assembly of Divines). Cydnabyddai'r Senedd fodolaeth gwahaniaethau ymhlith crefyddwyr,—ond mynnent leihau'r gwahaniaethau hynny hyd oedd bosibl. Felly penodwyd Presbyteriaid, Esgobaethwyr, ac Anibynwyr yn aelodau o'r Gymanfa. Ni roddid i'r Gymanfa awdurdod deddfwriaethol—cadwai'r Senedd hwnnw yn ei llaw ei hun. Y cwbl a fedrai'r Gymanfa wneud oedd "cymeradwyo" i'r Senedd ffurf o lywodraeth a gwasanaeth Eglwysig. Cyhoeddwyd hwnnw dan yr enw Hyfforddwr" (Directory). Trowyd y Llyfr Gweddi o'r neilldu, am, meddid, fod yr esgobion wedi ei dra dyrchafu yn y fath fodd fel pe na ellid addoli Duw mewn un ffordd arall; fod pregethiad y Gair o ganlyniad wedi dirywio; a'r clerigwyr wedi eu harfer i segurdod. Felly symudwyd y Llyfr Gweddi o'r Eglwysi; cosbid y sawl a garient ymlaen wasanaeth crefyddol yn ol yr hen ddull, ai yn gyhoeddus ai yn breifat; a dirwyid y neb a esgeulusent weithredu yn ol cyfarwyddiadau'r "Hyfforddwr." Mewn geiriau eraill, defnyddid ffrewyll y Wladwriaeth i gosbi Esgobyddiaeth yn awr, fel y defnyddid hi gynt i gosbi Puritaniaeth. O dan effeithiau hyn trowyd cannoedd o glerigwyr allan o'u bywiolaethau. Trowyd cyfran helaeth, o bosibl y mwyafrif o honynt, allan, mae'n wir, am anfoesoldeb, neu anghymwysder, neu esgeulusdod o ddyledswyddau. Ond nis gallai'r diffygion hyn gyfrif am yr oll a drowyd allan—a phan gaffom enwau fel Jeremy Taylor, Hales, a Fuller, ymhlith y rhai a amddifadwyd o'u bywiolaethau, gorfodir ni i gydnabod fod llawer o'r ysbryd a gynhyrfai erlidiau'r Esgobaethwyr gynt, yn meddiannu'r Puritaniaid, ac yn arbennig y Presbyteriaid, yn awr.[21]

Mae dau beth yn deilwng o sylw yn y fan hon. Yr oedd y Presbyteriaid, fel y'u gelwid, yn llawer mwy anoddefgar na'r Anibynwyr; ac yr oedd dau ddosbarth o grefyddwyr yn ddigon anffodus i fod yn wrthrychau dialedd Pabyddion, Esgobyddion, a Phresbyteriaid. Y ddau ddosbarth yma oedd y Gwrth-Drindodwyr, a'r Bedyddwyr. O'r blaenaf cyhuddwyd John Assheton o flaen Cranmer yn 1548; offeiriad oedd Assheton, a'r cyhuddiad yn ei erbyn oedd ei fod yn ei bregethau wedi gwadu Duwdod a Iawn Crist. Gan mlynedd wedi hynny, ym Mai, 1648, pan oedd y Puritaniaid wedi bod mewn awdurdod am chwe mlynedd, pasiwyd deddf yn cosbi â marwolaeth y neb a wadai athrawiaeth y Drindod. O dan y ddeddf honno condemniwyd Paul Best a John Bidle i farwolaeth; arbedwyd eu bywydau drwy gyfryngiad personol Oliver Cromwell. Am y Bedyddwyr, yr oedd llid Harri VIII. i'w herbyn cynddrwg a'i ddigofaint yn erbyn y Pabyddion: gwaharddodd y deyrnas iddynt, gan fygwth eu lladd os arhosent yn y wlad hon. Gan mlynedd wedi marwolaeth Harri, cyfrifid hwynt gan Buritaniaid yn "gableddus."[22] Un o gwynion Richard Baxter yn erbyn "Prawfwyr" (Triers) Cromwell, pan oeddent yn holi i fewn i gymhwysder clerigwyr, oedd eu bod yn rhy lac, ac yn "ffafru Antinomiaeth a'r Bedyddwyr."[23] Parhaodd y deddfau cosbawl yn erbyn, a'r elyniaeth tuagat, y ddau ddosbarth yma yn hwy nag at Ymneillduwyr eraill ym Mhrydain a'r Cyfandir. Yn wir yr oedd deddfau cosbawl llymion mewn grym yn Germani yn erbyn y Bedyddwyr o fewn yr haner can mlynedd diweddaf.[24] Nid lleol, ond cyffredinol oedd ysbryd anoddefiad mewn crefydd. Cariwyd ef yng nghalonnau'r Puritaniaid erlidiedig i'r America—ond methodd a gwreiddio yno. Ag eithrio'r Drefedigaeth o Fedyddwyr yn Rhode Island, eiddo'r Crynwyr ym Mhensylvania, ac eiddo'r Pabyddion yn Virginia, cysylltid yr Eglwys â'r Wladwriaeth yn America fel yn Lloegr. Ffurf o Bresbyteriaeth oedd y sefydliad gwladol o grefydd yn Lloegr pan lywodraethai'r Puritaniaid; Presbyteriaeth sydd eto yn sefydledig yn yr Ysgotland. Sefydlwyd Cynulleidfaoliaeth fel Crefydd y Wladwriaeth gan Anibynwyr Lloegr Newydd; a gwnaed Esgobyddiaeth yn Grefydd Sefydledig yn New York, Virginia, a'r ddwy Garolina. "Anghydffurfwyr" oedd y neb a wahaniaethai oddiwrth y rhai hyn. Byddai Anibynnwr yn "Anghydffurfiwr" yn New York, ac Esgobaethwr yn Anghydffurfiwr yn Massachusetts,—a Phabydd yn Anghydffurfiwr ymhob un o'r ddau! Cosbid, alltudid, ïe, crogid yr "Anghydffurfwyr" yn America fel y gwnaed yn Lloegr a hynny fel canlyniad rhesymegol cysylltiad crefydd â'r Wladwriaeth.[25] Nid yw daear Eglwys Rydd yn ffafriol i dyfiant ysbryd gormes. Felly, er i Buritaniaid America ar y cyntaf erlid y Bedyddwyr, a phasio deddfau gorthrymus yn erbyn y Crynwyr, a gwneud Roger Williams yn alltud; ac er i'r Crynwyr ym Mhensylvania erlid, carcharu, ac alltudio George Keith; eto i gyd marw yn fuan a wnaeth planhigyn gwenwynig anoddefiad yn awyr a daear iach egwyddorion Eglwys Rydd. Nid hir y bu Trefedigaethau Lloegr Newydd cyn taflu ymaith iau gaethiwus sefydliad gwladol o grefydd, ac mewn canlyniad diddymwyd deddfau gorthrwm crefyddol yno. Ni ddiwreiddiwyd y planhigyn yn llwyr hyd yn oed o ddaear Cymru. Cafwyd cnwd o hono adeg y Diwygiad Mawr yn y ganrif ddiweddaf. Erlidiai'r Eglwyswyr, a rhai o'r Ymneillduwyr, y Diwygwyr a elwid yn Fethodistiaid, a thalai'r "Methodistiaid" y pwyth yn ol, weithiau gyda llog, i'r "Dissenters" a'r Bedyddwyr. Cauwyd capeli'r Bedyddwyr yn erbyn Howell Harris yn y De; a chauwyd mewn cenhedlaeth ar ol hynny, gapeli'r Methodistiaid yn y Gogledd, yn erbyn y Cenhadon Bedyddiedig a fynnent efengylu ym Mon ac Arfon. Methodd Howell Harris a Daniel Rowlands gyd-ddwyn ag athrawiaethau eu gilydd—a throwyd Peter Williams allan o'r "Corff," a boycotiwyd ei Feibl lleiaf,—a'r unig wr a feiddiodd godi llais i'w amddiffyn yn Nghymdeithasfa'r Bala yn 1790, oedd yr Anibynnwr Richard Tibbot.[26] Cyfyd ambell i flaguryn gwenwynllyd ei ben hyd heddyw hyd yn oed yng Nghymru, ac er mai egwan yw, ffrwyth digamsyniol hen wreiddyn chwerw anoddefiad yw.

Mae yn deilwng o sylw, hefyd, cyn gadael y rhan yma o'r pwnc, (i.) fod ysbryd goddefiad yn cynhyddu yn y Senedd Buritanaidd fel yr oedd yr elfen Anibynnol ynddi yn cryfhau; ac (ii.) fod y Bedyddwyr, y rhai yn wleidyddol a chrefyddol a berthynnent yn agosach i'r Anibynwyr nag i'r Puritaniaid eraill, wedi arddangos mwy o ysbryd goddefiad, tra ar yr un pryd mwy o gulni crefyddol, na'r Anibynwyr.[27] Cauai Cromwell y Pabyddion a'r Preladwyr o'r tu allan i gylch ei syniadau ef am oddefiad—ond ar yr un tir a Locke,[28] a Milton[29] , a hyd yn oed Jacob,—sef fod daliadau crefyddol y rhai hyn yn peryglu llywodraeth gwlad rydd. Gyda'r rhagamod hwn am y Pabyddion, dysgai Henry Jacob, yn 1609, egwyddor fawr Goddefiad Cyffredinol mewn arferion crefyddol—a danghosodd Cromwell yn ei ymddygiadau ei fod yntau wedi dysgu'r wers.

Dadleuai Leonard Busher, yn 1614, ei bod yn wrth-Gristionogol i orfodi'r deiliaid i fabwysiadu crefydd y teyrn. Yr un oedd dysgeidiaeth John Goodwin, yr hwn a ddywedai nad oedd Crist, er yn selog dros Dŷ ei Dad, erioed wedi gorchymyn gosod yr un Sadusead na Pharisead, yr un anghredwr na'r un rhyddfeddyliwr, i farwolaeth. Dadl Roger Williams oedd, y gallai'r cledd wneud cenedl o ragrithwyr a gwrth-Gristiongion, ond dim cymaint ag un Cristion: fod gorfodi dyn i dduwioldeb yn tueddi i dorri'r heddwch gwladol; ac y byddai yn llai o bechod i orfodi un i briodi lle nid oedd yn caru, na'i orfodi i addoli lle nad oedd yn credu.

Ai o herwydd eu bod wedi cael eu gwneud yn gymaint gwrthrych erlid am eu daliadau crefyddol, ai beth, sicr yw fod y Bedyddwyr ymhlith y cyntaf i ddadleu Egwyddor Goddefiad mewn crefydd. Mor foreu a 1611 gwnaed mynegiad ffurfiol a swyddogol ar ran y Bedyddwyr, o blaid Goddefiad, os nad

Rhyddid, Cydwybod. Yng Nghyffes Ffydd y Bedyddwyr a gyhoeddwyd y flwyddyn honno dywedir, "Na ddylai'r ynad ymyrryd â chrefydd, na mater cydwybod; na gorfodi dyn i'r ffurf hon neu arall o grefydd; canys Crist yw brenin a deddfroddwr yr Eglwys a'r gydwybod." Ai rhai Bedyddwyr mor bell a dweyd y dylid caniatau, nid yn unig bob dosbarth o Gristionogion, ond hefyd Iuddewon, Tyrciaid, a Phaganiaid, tra bont heddychlon, ac nad ydynt droseddwyr cyfraith.[30] Ychydig, os neb, ymhlith yr Anibynwyr, chwaethach y Presbyteriaid, a aent y pryd hynny mor bell a hyn dros ryddid cydwybod.

Pan ddown i ystyried cysylltiad yr Enwadau â'u gilydd yn y cyfnod hwn, mae'r gorchwyl yn mynd yn fwy anhawdd. Nid oedd llinellau ffin enwadol y dyddiau hynny mor glir a digamsyniol ag ydynt yn awr. Gwelwyd eisoes fod Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr wedi aros yn hir yn yr un gorlan. Cymerer hyd yn oed y Bedyddwyr. Gellid tybied y buasai afon y Bedyddiwr yn llinell ffin amlycach na chlawdd y Presbyter. Ac eto cawn (gwel tud. 71) y Bedyddiwr yn cyd-addoli, ac yn gyd-aelod yn yr un Eglwys, a'r Anibynnwr. Yn wir, prin y gellid am amser eu cyfrif yn ddau enwad o gwbl.

Ond yn unig ar gwestiwn y Bedydd, yr oedd llai o wahaniaeth rhwng Bedyddwyr ac Anibynwyr yr oes honno, nag sydd yn aml ar gwestiwn o athrawiaeth, neu hyd yn oed ffurf o wasanaeth, neu o lywodraeth Eglwysig, rhwng dwy Eglwys, neu, yn wir, aelodau yn yr un Eglwys, ymhlith yr Anibynwyr heddyw. Am y rheswm hwn cynhwysir y Bedyddwyr yn aml yn y term Anibynwyr, mewn amryw bethau a ddywedwyd eisoes yn y bennod hon. Ond tua diwedd y cyfnod dan sylw, fel yr oedd rhif yr Ymneillduwyr yn cynhyddu, a'r aelodau yn yr Eglwysi yn amlhau, tuedd naturiol y Bedyddwyr Crediniol mewn Eglwys gymysg, oedd tynnu yn nes at eu gilydd, ac ymhellach oddiwrth eu cyd-aelodau y Baban-fedyddwyr, ac o'r diwedd i ymffurfio yn Eglwys ar wahan. Ond nid oedd hyd yn oed hynny yn gyffredinol. Ceir, fel y danghosir eto, enghreifftiau yng Nghymru i lawr hyd ymhell yn y ganrif ar ol yr un dan sylw, o Eglwysi oeddent weithiau yn cael eu bugeilio gan Faban-Fedyddiwr, ac ar brydiau eraill gan Fedyddiwr Crediniol; weithiau ceir dau weinidog i'r un Eglwys, y naill yn un a elwid heddyw yn Anibynnwr, a'r llall yn Fedyddiwr; ceir Eglwys a ystyrrid yn Anibynnol yn rhoi galwad i Fedyddiwr, ac Eglwys a ystyrrid yn Fedyddiedig yn rhoi galwad i Anibynnwr. Ac eto i gyd, yn nghyfnod y Stuardiaid, ceir yr ymwahaniad rhwng y ddwy aden i'r Corff Cynulleidfaol, yn dod o'r naill flwyddyn i'r llall yn amlycach, amlycach. Ac os cysylltid y ddau yn agos â'u gilydd mewn crefydd, cysylltid hwy yn agosach fyth mewn gwleidyddiaeth,—ac yn holl ymrafaelion Cromwell a'r Presbyteriaid, ceir y Bedyddiwr ochr yn ochr a'r Anibynnwr, o'r tu cefn i'r dewryn hwnnw, ymhob ymdrech dros ryddid gwladol a chrefyddol.

Dywedwyd o'r blaen (tudal. 10, 11) fod y Presbyteriaid a'r Anibynwyr ar y cyntaf mor debyg ac agos i'w gilydd, fel nas gellid yn hawdd wahaniaethu rhyngddynt. Yn nyddiau gweriniaeth Cromwell, ymbellasant oddiwrth eu gilydd. Ar ddychweliad Siarl II., ac wedi pasio Deddf Unffurfiaeth 1662, gwasgodd gormes Esgobyddiaeth hwynt yn ol i'w hen berthynas, nes yr ail-doddasant i'w gilydd mewn llawer iawn o amgylchiadau. Mor bell ag yr oedd a fynno Cymru, diflannodd Pres—byteriaeth fel enwad yn gyfangwbl; ond yr oedd y trawsnewidiad o Bresbyteriaeth i Anibyniaeth mor raddol, fel, er y gallwn gyda phriodoldeb alw Eglwys yn Bresbyteraidd mewn un cyfnod, a'r un Eglwys gyda chymaint priodoldeb yn Eglwys Anibynnol mewn cyfnod arall, amhosibl yw gosod bys ar unrhyw adeg neillduol, gan ddweyd, "Dyma'r dydd, neu'r flwyddyn, y trodd yr Eglwys hon o fod yn Bresbyteraidd i fod yn Anibynnol." Gellir dweyd yr un peth, mewn cysylltiad arall, am y cymdeithasau crefyddol hynny yn y ganrif ddilynol, a ddadblygasant ymhen amser i fod yn Eglwysi Methodistaidd.

Ond yng nghyfnod y Weriniaeth daeth y gwahaniaeth rhwng y Presbyteriaid a'r Anibynwyr, yn llawer amlycach nag y bu na chynt na chwedyn. Dau ddosbarth yn cael eu hysbrydoli gan ddwy egwyddor wahanol, yn hytrach na dau enwad gwahanol, oeddent ar gychwyn cyntaf y cweryl â'r Stuardiaid. Ond tuedd yr egwyddorion gwahanol a'u llywodraethent, oedd eu gyrru oddiwrth eu gilydd. A chymeryd golwg eang ar amgylchiadau yr oes honno, yn hytrach na manylu ar ddigwyddiadau unigol, gellir dweyd hyn am y Presbyteriaid a'r Anibynwyr—gan gofio, fel yr awgrymwyd, y cynhwysir y Bedyddwyr yn y term cyffredinol Anibynwyr yn y cysylltiadau presennol:—

i. Yr Anibynwyr, gan mwyaf, a gawsant ddioddef pwys a gwres y dydd yn y frwydr â byddinoedd Siarl: y Presbyteriaid, gan mwyaf, a fedasant, ar y dechreu, ffrwyth y fuddugoliaeth a enillwyd.
ii. Ymladd dros egwyddor rhyddid, yn wladol a chrefyddol, yr oedd yr Anibynwyr; ymdrechu dros sefydlu ffurf arall o grefydd wladol yn lle'r un Esgobyddol, yr oedd y Presbyteriaid.
iii. Yr oedd yr Anibynwyr yn foddlon caniatau Sefydliad Gwladol o Grefydd, ar yr amod fod goddefiad cyffredinol o'i mewn; ni fynnai'r Presbyteriaid nac Esgobyddiaeth nac Anibyniaeth yn yr Eglwys. Fel canlyniad, naturiol efallai, i i. a ii.,
iv. Yr Anibynwyr gondemniodd Siarl, ac a dorrodd ei ben ef; gwrthwynebid hyn yn boethlyd gan y Presbyteriaid.
v. Ar farwolaeth Cromwell mynnai'r Presbyteriaid ddwyn Siarl II. yn ol i'r Orsedd, a chan wybod na chefnogid hwy yn hynny gan yr Anibynwyr, aeth y Presbyteriaid tu cefn iddynt, gan wneud cyfamod dirgel â Siarl yr estynnai efe iddynt dorthau a physgod yr Eglwys pan eisteddai drachefn ar orsedd ei dad.
vi. Wedi tori o Siarl yr amod hwn, ac wedi ceisio o hono wthio Esgobyddiaeth arnynt drachefn, y trodd y Presbyteriaid eu cefn ar yr Eglwys Wladol, ac yr ail ymunasant a'r Anibynwyr.

Pan drown oddiwrth y wedd wleidyddol at yr un Eglwysig, cawn ymhellach y gwahaniaethau hyn:

vii. Ordeiniai'r Presbyteriaid ddyn i waith y weinidogaeth mewn ystyr gyffredinol; ordeiniai'r Anibynwyr ef i Eglwys neillduol.
viii. Edrychai'r Presbyteriaid ar y weinidogaeth fel urdd; cyfrifid hi gan yr Anibynwyr, yn unig fel swydd.
ix. O ganlyniad, anghymeradwyai'r Presbyteriaid bregethwyr lleygol; cymhellid y cyfryw gan yr Anibynwyr i bregethu, os yn meddu cymhwysderau at hynny. x. Y Presbytery, neu yr Henaduriaeth, hynny yw, Cynhadledd Eglwysi'r cylch, yn eu cymeriad swyddogol, a neillduai ddyn i waith y weinidogaeth ymhlith y Presbyteriaid; gyda'r Anibynwyr, yr Eglwys ei hun a wnai hynny, weithiau trwy alw gweinidogion eraill i gyflawni'r seremoni, brydiau eraill trwy neillduad arbennig ac arddodiad dwylaw henuriaid yr eglwys honno yn unig.

xi. Caniateid gan y ddau i'r Eglwys ddewis ei gweinidog ei hun; ond gyda'r Presbyteriaid, gallair Henaduriaeth wrthod neillduo'r person a ddewisid i'r swydd; tra gyda'r Anibynwyr, ni fedrai neb gyfyngu ar ddewisiad yr Eglwys.

xii. Ymhlith y rhai a benodwyd i fywiolaethau o dan y Weriniaeth, derbyniai'r Presbyteriaid yn ddieithriad, y degymau neu gyllid arall y fywoliaeth; tra yn aml ymddibynnai'r Anibynnwr ar roddion gwirfoddol ei gynulleidfa.[31]

Ni chaniata terfynnau'r gwaith presennol imi fanylu ar y pethau uchod, nac ar aml i ddigwyddiad tra dyddorol a phwysig ynghysylltiad y Presbyteriaid a'r Anibynwyr. Rhoddaf ychydig linellau arweiniol pellach a gynorthwyant i egluro'r cysylltiad hwnnw. Eithr na thybier y gellir canfod yr holl wahaniaethau uchod, nac yn yr un lle nac ar yr un adeg. Nodweddion gwahaniaethol oeddent, i'w canfod o bosibl ar wahanol adegau, ac mewn gwahanol fannau, ac nid oll gyda'u gilydd.

Pan gymerodd y Senedd at lywodraethu'r wlad yn 1642, y Presbyteriaid oedd mewn awdurdod. Er yn gwahaniaethu yn hanfodol oddiwrth Bresbyteriaeth yr Ysgotland, eto, teimlent fod y berthynas mor agos fel mai dymunol fyddai cael cydweithrediad cyson. Felly mynnodd y Senedd arwyddo "Y Cyngrair a Chyfamod Difrifol" oedd yr Ysgotiaid eisoes wedi rhwymo eu hunain iddo. Teimlai'r Anibynwyr wrthwynebiad iddo yn ei ffurf wreiddiol, a chyfnewidiwyd ychydig arno. Yna gwnaed ef yn faen prawf o uniongrededd crefyddol a gwladol.[32] Cadwodd y Presbyteriaid eu gafael ar y Senedd hyd 1648. Cyrhaeddasant eu huchafnod yn 1646, pan sefydlwyd Presbyteriaeth fel Eglwys Wladol. Yn 1648 yr oeddent yn ddigon cryf i gario, yn nannedd gwrthwynebiad yr Anibynwyr, eu Deddf yn erbyn Heresi a Chabledd. (Gwel tudal 93.) Cymerodd yr ymdrech rhwng y ddwy blaid yn y Senedd le o amgylch cwestiwn mawr goddefiad crefyddol. Pleidwyr goddefiad cyffredinol (ag eithrio'r Pabyddion a'r Gwrth-Drindodwyr), oedd yr Anibynwyr; gwrthwynebwyr penderfynnol goddefiad oedd y Presbyteriaid. Cyhuddent yr Anibynwyr o "geisio goddefiad nid yn unig iddynt eu hunain, ond i bob dyn." Cyffelybent hwynt i fleiddiaid yng nghrwyn defaid, a dywedent na ddylai'r ynadon, fel bugeiliaid y praidd, ganiatau i'r bleiddiaid ddod i'r corlannau. Proffwydent, pe y caniateid goddefiad, y deffroai hynny ddigofaint Duw yn erbyn y genedl. Tryfrithir llenyddiaeth Bresbyteraidd y cyfnod gan opiniynau cyffelyb.[33]

Ond tra yr oedd y Presbyteriaid yn gryf yn y Senedd, yr oedd yr Anibynwyr yn gryf yn y fyddin, ac yn y wlad. Gan ofni cynnydd gallu'r Anibynwyr, ceisiodd Presbyteriaid Lloegr help eu brodyr o'r Ysgotland. Gwnaed cais hefyd yn y Senedd i leihau awdurdod Oliver a'i fyddin. Cysylltid a hyn brofion amlwg o ysbryd anoddefiad a gormes. Er engraifft, awgrymid na ddylai neb nad oedd gefnogol i'r "Cyngrair a Chyfamod ddal swydd wladol, y dylid troi y cyfryw allan o'r fyddin, pa un bynnag ai swyddogion ai milwyr cyffredin a fyddent; na ddylid caniatau i neb bregethu os nad oedd wedi cael ei ordeinio; ac y dylid atal cynnal cyfarfodydd addoli Ymneillduwyr (oddiwrth Bresbyteriaeth). Gwelir fod hyn oll yn ail-godi egwyddorion pwysig o ormes, yr ymladdodd y wlad yn eu herbyn cyhyd.

Yr oedd y gwahaniaethau a amlygwyd yn y Senedd, yn cael eu cynhyrfu gan y gwahaniaethau yn y Gymanfa Duwinyddion yn Westminster. Eisteddodd y Gymanfa hon am ddeng mlynedd, sef o 1643 i 1653. Yr oedd Presbyteriaid, Anibynwyr, ac Esgobyddion, yn aelodau o ohoni. Ychydig o ddyddor—deb a gymerodd yr Esgobyddion ynddi. Nid felly yr Anibynwyr. Gwnaethant i fyny mewn zel a gallu am fychandra eu rhif—canys Presbyteriaid oedd mwyafrif yr aelodau.

Ond pan feddai'r Anibynwyr ddynion fel Thomas Goodwin, Nye, Burroughes, Bridge, Carter, Caryl, Phillips, a'r cyffelyb, gellir bod yn sicr na ddioddefai'r achos gam oddiar eu dwylaw. Yn erbyn dynion fel y rhai hyn, y sonia Baillie am gael presenoldeb y fyddin Bresbyteraidd i gynorthwyo rhesymau'r duwinyddion Presbyteraidd.[34] Mewn atebiad i'r cudd-fygythiad ynghylch y fyddin, y cyhoeddodd yr Anibynwyr uchod yr "Adroddiad Amddiffynnol" o'u safle. Mae y mynegiad hanesyddol hwn mor bwysig, ac yn gosod allan mewn dull mor glir, safle'r Anibynwyr ar rai o gwestiynau dyrrus y dydd, fel y rhoddir dyfyniad ohono yma :—

"Yr ydym gan mwyaf oll wedi bod yn y weinidogaeth yn Eglwys Loegr, ac, wedi myned yn alltudion gwirfoddol fel y caffem Iawn ryddid i addoli, yr ydym wedi bod mewn safle i edrych yn ddiduedd ar holl gwestiwn trefn Eglwysig. Yr ydym yn parchu yr Eglwysi Diwygiedig, ac nid ydym yn eu hystyried yn anfri ar y rhai hynny, i dybied nad yw y cam cyntaf a gymerwyd ganddynt yng nghyfeiriad rhyddid, wedi bod y fath ag nad yw yn gadael lle iddynt wella a myned rhagddynt ymhellach. Mae dynion da wedi dysgu rhywbeth er dyddiau Luther a Calvin; ac yr ydym ni wedi beiddio tybied y gall fod wedi ei roddi ini i ddysgu rhywbeth yn ychwaneg. Nid ydym yn gaeth-ddilynwyr i unrhyw blaid; boddlon ydym i ddysgu gan bawb neu rywrai, gan nad pa gymaint y gwahaniaethant oddiwrthym. Ni ddaeth erioed i'n calonnau i wadu nas gall cynulleidfaocdd plwyfol Lloegr fod yn wir Eglwysi, a'u gweinidogaeth yn wir weinidogaeth; nac ychwaith i wrthod cymundeb ag Eglwysi, ai cartrefol ai tramor, nad ydynt, yn ein barn ni, yn hollol bur. Estynnwyd y caredigrwydd brawdol hwn, yn yr hwn yr ydym bob amser wedi byw, ini yng ngwlad ein halltudiaeth, lle y caniataodd yr ynadon ini, ar oriau neillduol ar Ddydd yr Arglwydd, i ddefnyddio eu heglwysi, a gelwid ein cynulleidfaoedd ynghyd yno gan gloch yr Eglwys; a sicrhawyd ini drwy orchymyn cyhoeddus, nid yn unig win y Cymun, ond cynhaliaeth haelionus i'n gweinidogion. Yn ein haddoliad, offrymem weddi rydd yn unig, ac nid fel y gwneir yn Lloegr, gweddi rydd gyda ffurf-wasanaeth. Nid yw ein gweinidogion, megys eiddo'r holl Eglwysi Diwygiedig, yn ddim amgen na bugeiliaid (presbyters) syml. ysbrydol yw ein disgyblaeth; a thra y gorwedd y ddisgyblaeth yn gyfan-gwbl yn nwylaw'r gynulleidfa a'i swyddogion, nid yw yn gwneud y gynulleidfa yn anibynnol yn yr ystyr o'i chau allan o gyfrifoldeb i'r ynad, mewn cysylltiadau gwladol, nac yn ein rhyddhau oddiwrth rybudd brawdol, ac o bosibl gerydd a diarddeliad oddiar ddwylaw Eglwysi eraill."

Cafwyd dadleuon maith, ac weithiau poethlyd, yn y Gymanfa. Mynnai'r Presbyteriaid sefydlu Presbyteriaeth yn y tir am ei bod, meddent, yn gorffwys ar hawl dwyfol. Dyma hen ddadl Laud dros esgobyddiaeth, a Iago dros y brenin. Atebodd yr Anibynwyr, os hawlid fod cyfundrefn yn gorffwys ar hawl dwyfol am ei bod yn seiliedig ar ddysgeidiaeth yr Ysgrythyrau, yna eu bod hwy yn hawlio mai Cynulleidfaoliaeth oedd y gyfundrefn honno; eithr boddlonent hwy ar gael eu goddef ochr yn ochr & Phresbyteriaeth, ac ni ddymunent ddisodli honno. Pan ddygwyd y mater gerbron y Senedd i'w benderfynnu, dyfarnodd honno fod Presbyteriaeth yn unol â Gair Duw, ac y dylai gael ei sefydlu,—ond gomeddodd ei chydnabod fel yn gorffwys ar hawl dwyfol. Canlynnwyd hyn gan ddadleuon cyffelyb ar ddysgyblaeth Eglwysig, a goddefiad. Safai'r pleidiau mor bell a'r pegynnau oddiwrth eu gilydd ar y cwestiynnau hyn. Y diwedd fu i'r Presbyteriaid amlygu yn groew na chaniateid goddefiad i'r Anibynwyr, gan y golygai hynny benrhyddid i bawb. Ymosodid ar yr Anibynwyr o Loegr a'r Ysgotland. Atebodd un o'r Anibynwyr, Jeremiah Burroughes, fod yr enwad hwnnw yn benderfynnol o ddioddef, neu os byddai raid, i adael gwlad eu genedigaeth, yn hytrach na rhoi i fyny yr egwyddorion a gredent ynddynt.

Ond os oedd chwerwder y Presbyteriaid yn cynhyddu yn y Gymanfa a'r Senedd, yr oedd grym a rhifedi'r Anibynwyr yn cynhyddu yn y fyddin. Nid awn yn awr i olrhain yr achosion o hynny, ond boddlonwn ar nodi'r ffaith. Dygodd y Senedd Bresbyteraidd ei hun i wrthdarawiad a'r Fyddin Anibynnol, a'r Fyddin a orfu. O hynny allan llywodraethwyd y wlad gan y Weriniaeth-gyda Cromwell yn ben arni. Caled oedd i'r Presbyteriaid wingo yn erbyn y symbylau hyn, ond gwingo a wnaethant. Ceisiodd y Senedd, oedd yn awr yn nwylaw'r Anibynwyr, estyn i'r clerigwyr Presbyteraidd bob tynerwch ac ystyriaeth. Sefydlwyd goddefiad crefyddol ar seiliau digon llydan i gynnwys "pawb ar a broffesant ffydd yn Nuw, drwy Iesu Grist, gan nad pa gymaint a wahaniaethant mewn barn o berthynas i athrawiaeth, disgyblaeth, a ffurf-wasanaeth." Ymgymerwyd y cai pawb o'r cyfryw eu "hamddiffyn ym mhroffes eu ffydd ac ymarferiad eu crefydd, yn ol eu cydwybodau, ar yr amod na fyddai iddynt gam-ddefnyddio'r rhyddid hwnnw er niwed i eraill, neu i aflonyddu ar yr heddwch." Swyddogion y fyddin a wnaethant y mynegiad hwn gyntaf; yna gwnaeth Cromwell a'i ganlynwyr yr un peth.[35]

Ond ni fynnai'r Presbyteriaid ddygymod â chyfundrefn o oddefiad i eraill. Fel y gwnaeth Iago a'r esgobaethwyr, hauasant wynt anoddefiad i eraill, medasant, ymhen ychydig flynyddoedd wedyn, gorwynt erlid iddynt eu hunain. Gwell oedd ganddynt gael Siarl II. yn frenin arnynt, na gadael i'r Anibynwyr reoli yn y deyrnas. Nid am eu bod yn hoffi esgobyddiaeth, ond am eu bod yn credu fod Presbyteriaid yr Ysgotland wedi troi Siarl i'w crefydd hwy; a thybient pe caent frenin, a Senedd, ac Eglwys, oll yn Bresbyteraidd, y buasai'r mil-flwyddiant wedi gwawrio arnynt. Nid oedd eu llygaid eto wedi cael eu hagoryd i hawliau cydwybod neb ond yr eiddynt hwy eu hunain. Credent y buasai'r goddefiad cyffredinol, a fynnai Cromwell ei sefydlu yn y wlad, yn profi yn niweidiol i wir grefydd.[36] Gwrthododd cynhadledd, yn cynnwys triugain o weinidogion Presbyteraidd, arwyddo'r Cytundeb oedd
THE ACT OF UNIFORMITY 1662: ITS EFFECT IN WALES


yn diogelu goddefiad i enwadau Cristionogol eraill. Yr oedd eu syniadau felly am ryddid crefyddol mor gul ag eiddo'r Esgobaethwyr a'u herlidient yn nyddiau Iago a Siarl I., ac a'u herlidiasant drachefn yn nyddiau Siarl II. Yr oedd yn rhaid iddynt fynd eto drwy bair erledigaeth Deddf Unffurfiaeth Esgobaethol, cyn y medrent weled fod Deddf Unffurfiaeth Bresbyteraidd mor anghyson a hithau â hawliau cydwybod. Goddefiad a diogelwch i bawb i addoli fel y mynnent,—ond iddynt beidio ymyrryd â hawliau pobl eraill,—oedd arwyddair yr Anibynwyr; goddefiad i neb, unffurfiaeth trefn a disgyblaeth Eglwysig i bawb, gan ganiatau amrywiaeth yn y ffurf o wasanaeth yn unig, oedd syniad y Presbyteriaid.

Nis gallai dau syniad mor groes i'w gilydd lai na dod i wrthdarawiad mewn llywotrefn wladol yn ogystal ag Eglwysig. Ymgynghreiriodd y Presbyteriaid Seisnig yn ddirgel â'u brodyr yn yr Ysgotland, i ddymchwelyd y Weriniaeth; ac er i allu milwrol Cromwell, tra bu efe byw, lwyddo i'w rhwystro i gyrraedd eu hamcanion, eto ni pheidiasant hyd nes y gosodasant eu hawliau gwladol yn nwylaw Siarl II.,—a'u hawliau crefyddol unwaith eto at drugaredd yr Esgobaethwyr erlidgar.

O dan lywodraeth Cromwell esgynnodd Lloegr, yn wladol a chrefyddol, i uwch safle nag y bu erioed cyn hynny, nac am lawer blwyddyn hir ar ol hynny. Gan nad beth allai fod ei ddiffygion, mae yn amlwg dri pheth:—

(1) Cromwell sylfaenodd Ymerodraeth Prydain.

Nid oedd Elizabeth, er ei holl allu, yn ddim ond Brenhines Lloegr. Yr oedd Iago yn Frenin ar yr Ysgotland yn ogystal a Lloegr, ac mewn enw ar y Werddon; ond Senedd Seisnig oedd ei Senedd. Eithr am Senedd Cromwell, cynhwysai gynrychiolwyr o'r Werddon a'r Ysgotland, yn ogystal ag o Gymru a Lloegr. Ysgubodd bob gelyn i'w lywodraeth oddiar y môr, a gwnaeth enw Prydain yn allu yn y byd gwareiddiedig.

(2) Cromwell sicrhaodd i Brydeinwyr eu hawliau gwladol. Efe dorrodd wialen gormes y Stuardiaid, ac a ddrylliodd ddelw "Hawl Dwyfol y Brenin." Mae yn deilwng o sylw, er i'r Brenhinwyr ennill am i frwydr, na chollodd Cromwell ei hun erioed yr un. Gwnaeth y wers mewn rhyddid a ddysgodd efe i'r bobl, yn amhosibl i Q Siarl II. efelychu gormes ei dad a'i daid,—er iddo drawsfeddiannu rhai o'r hawliau oeddent yn eiddo'r bobl.

(3) Cromwell ddysgodd i'r wlad, i'r Eglwys, ac i'r byd, egwyddor fawr rhyddid cydwybod, ac a sefydlodd yn neddfau'r deyrnas, gyntaf erioed, yr egwyddor o Oddefiad Crefyddol.

Gwir i Cromwell gyhoeddi yn 1655 orchymyn caeth yn erbyn Clerigwyr Esgobaethol, a drowyd allan o'u bywiolaethau, yn eu gwahardd i weinyddu dim o ordinhadau yr Eglwys yn gyhoedd nac yn breifat. Ond mater o reidrwydd er diogelwch y deyrnas, oedd y gorchymyn hwnnw. Yr oedd yr Eglwyswyr yn y Gorllewin wedi codi mewn arfau yn erbyn ei lywodraeth; ac fel mesur o ddiogelwch gwladol ac nid o anoddefiad crefyddol, yr amcenid y gorchymyn. Pan alwodd yr Esgob Usher ar Cromwell i siarad ar y mater, cafodd ar ddeall na osodid y gorchymyn hwnnw mewn grym ond lle byddai perygl i'r Wladwriaeth pe na wneid hynny.[37] "Yr oedd Cromwell," ebe Esgob Kennet, "dros ryddid, a'r anghaethder llwyraf i bob plaid, mor bell ag oedd yn gyson â diogelwch ei berson a'i lywodraeth; ac yr oedd hyd yn oed y rhagfarn oedd ganddo yn erbyn y blaid Esgobaethol, yn fwy o herwydd eu bod yn Frenhinwyr, nag am eu bod yn perthyn i'r hen Eglwys anwyl. Cafodd Dr. Gunning, Esgob Ely wedi hynny, gadw cyfarfodydd yn Llundain mewn dull mor agored a'r Dissenters eu hunain—ac felly hefyd ddiwinyddion Esgobaethol eraill."[38] Ar ol esgyniad Siarl II. i'r orsedd, ysgrifennodd clerigwr Eglwysig: "Gallaf gyfrif amryw glerigwyr ddalient fywiolaethau yn Llundain yn nyddiau Cromwell, ac a bregethent yn ddirwystr. Yn eu plith yr oedd Dr. Hall, Dr. Ball, Dr. Meds, Dr. Harding, Dr. Griffith, Dr. Pierson, Dr. Mossome, ac amryw eraill, heblaw llu yn y wlad.[39] Caffai hyd yn oed Pabyddion ei nawdd. Cwynai Prynne, ddarfod i Cromwell atal gweinyddiad deddfau cosbawl yn erbyn offeiriaid Pabyddol, gan eu hamddiffyn a'i awdurdod personol. Er fod y gyfraith yn cosbi â marwolaeth y sawl a wadent Dduwdod Crist, rhoddodd Cromwell flwydd-dal sylweddol i John Bidle yr Undodwr.

Felly cyfnod disglaer i'r deyrnas, i'r Eglwys, ac i'r deiliaid, a fu dyddiau llywodraeth Cromwell. Gresyn i'r tri na fuasai'r dyddiau hynny wedi cael eu hestyn.

Nodiadau

[golygu]
  1. "Er y bydd i frenin da drefnu ei holl weithredoedd mewn cydgordiad a'r gyfraith, eto nid yw efe yn rhwym wrth gyfraith ond yn unig o'i wir ewyllys, ac fel esiampl i'w ddeiliaid." (Iago I. yn ei True Law of Free Monarchies.) Pan hawliai Ty'r Cyffredin ryddid ymadrodd fel "hawl henafol a diamheuol," atebodd Iago fod pob hawl a rhagorfraint a feddent wedi deilliaw "o ras a chaniatad fy hynafiaid a minnau."
  2. Prof. Meiklejohn
  3. Argraffwyd y cynghorion hyn gan Iago yn 1603, yn ei Basilicon Doron.
  4. Llythyr Parsons, y Jesuit. Record Office. Dom. Ser., Vol. i., No. 84. Eto No. 118. Eto Vol. v., No. 67.
  5. Ebe Burleigh mewn llythyr at ei fab Syr Robert Cecil:—" Cyfiawn— heir holl weithredoedd ei Mawrhydi, gan y ffaith na chosbodd yr un o'i deiliaid erioed ond trwy warant cyfraith." (Murdin's State Papers, 666.)
  6. Dywedai drachefn a thrachefn y gwnai iddynt gydffurfio neu y gyrrai hwynt o'r tir. Nid yn unig trowyd clerigwyr Puritanaidd allan o'u bywiolaethau, ond trowyd ustusiaid oddiar y fainc ynadol am eu Puritaniaeth. (Winwood's Memorials, ii. 48.)
  7. "Daeth Lloegr yn wlad un llyfr—a'r llyfr hwnnw oedd y Beibl. Dyma'r un llyfr mawr y gwyddai pob Sais ei gynnwys; darllenwyd ef yn yr Eglwysi, darllenwyd ef yn y tai gartref; ac ym mhob man syrthiai ei eiriau ar glustiau nad oeddent wedi cael eu caledu i'w grym a'u prydferthwch, a chynheuodd frwdfrydedd cyffrous."—GREEN.
  8. "Daeth Lloegr yn wlad un llyfr—a'r llyfr hwnnw oedd y Beibl. Dyma'r un llyfr mawr y gwyddai pob Sais ei gynnwys; darllenwyd ef yn yr Eglwysi, darllenwyd ef yn y tai gartref; ac ym mhob man syrthiai ei eiriau ar glustiau nad oeddent wedi cael eu caledu i'w grym a'u prydferthwch, a chynheuodd frwdfrydedd cyffrous."—GREEN.
  9. Dyma dystiolaeth Archesgob Efrog am danynt:—"Am y Puritaniaid, er nad wyf yn hoffi eu zel ddallbleidiol, er eu bod yn gwahaniaethu oddi-wrthym mewn seremonïau ac allanolion, eto cytunant â ni mewn hanfodion crefydd, a chredaf eu bod oll, neu y mwyafrif o honynt, yn caru'r brenin a'r wladwriaeth bresennol." (Record Office MSS. Dom. Sêr., ii. 40.)
  10. Record Office. Dom. Series, Vol. viii., No. 70.
  11. Hallam's Const. Hist., i. 331—2.
  12. Clarendon's History, i. 8—9.
  13. Dirwywyd dynion am beidio ymgrymu i'r arwyddluniau Pabyddol
  14. Hist. of Dissenters, Vol. i., p. 63
  15. Pan o flaen ei farnwyr yn cael ei brofi am ei fywyd, dywedodd Laud: "Er pan osodwyd fi mewn swydd ni lafuriais am ddim yn fwy nag er mwyn cadw i fyny allanolion crefydd gyhoeddus, yr hyn a esgeulusir yn ormodol yn y deyrnas hon. Mae yr esgeulusdod hwn wedi taflu dwfr oer ar wir addoliad mewnol, a thra byddom yn y corff mae'r addoliad hwnnw yn galw am gymorth allanolion i'w gadw yn fyw."
  16. Croesodd miloedd o ysgolheigion, masnachwyr, cyfreithwyr, ac amaethwyr goreu'r deyrnas y Werydd i chwilio am ryddid a phurdeb crefydd yn yr anialwch."—GREEN.
  17. Baillie's Letters, i. 215, et seq.
  18. Clarendon's History, Vol i. 483.
  19. Parl. History, ii. 822.
  20. Am yr anhawsder a ddisgwylir (oddiwrth yr Anibynwyr), cydunir i beidio ymyrryd â'r mater ar ffrwst, hyd nes y gwelo Duw yn dda ddod a'n byddin yn agosach, yr hyn, ni a dybiwn, a fydd yn gymorth mawr i'n hymresymiadau." (Baillie's Letters, i. 401 et seq.)
  21. Amrywia'r farn am nifer y clerigwyr a drowyd allan gan y Senedd Puritanaidd. Myn Walker, yn ei Sufferings of the Clergy, ini gredu fod 2,000 wedi dioddef yn yr erledigaeth honno. Cyfrifa Cornish (Hist. of Noncons. tudal. 86) eu bod yn 2,000. Dyma hefyd amcangyfrif Schaff (Christ and Christianity, tudal. 281). Mae Dr. Vaughan yn mynd yn fanwl i'r gyrau, ac yn dod i'r penderfyniad "nas gallai rhif y clerigwyr a ddifuddiwyd yn barhaol o'u bywiolaethau, fod dros 1,000." (English Nonconformity, tudal. 127-132, a 476-479.) Ceir cyffelyb amrywiaeth barn am y nifer a drowyd allan yng Nghymru. Dywed Walker fod cannoedd lawer, ond nid yw yn gallu rhoi enwau ond ychydig dros gant.
  22. Roger Morrice's MSS., Vol. i. 157 (2).
  23. Baxter's Life, 72.
    Yn y Ddeddf yn erbyn Heresi a Chabledd, a basiwyd gan y Senedd yn 1648, cyplysir â'u gilydd y rhai a wadent athrawiaeth y Drindod a'r Iawn, y rhai a gredent athrawiaeth y Purdan, a'r rhai a ddysgent ddaliadau'r Bedyddwyr ar Fedydd.
  24. Yn 1852 adfywhawyd hen ddeddf a basiwyd yn 1616, yn gwahardd caniatau trigle yn Nhywysogaeth Schaumberg Lippe i unrhyw genhadwr o Fedyddiwr; os ceid neb o'r cyfryw o wlad arall yn y tir, yr oeddent i gael eu dal a'u carcharu: os ceid y trigolion yn mynychu addoliad gyda'r Bedyddwyr, yr oeddent i gael eu carcharu am fis os mai dirgel oedd y cyfarfod, neu am ddau fis os cyhoeddus ydoedd; carcherid y neb a gan—iatai i Fedyddiwr gynnal gwasanaeth crefyddol yn ei dŷ, neu a ledaenai bamffledau yn dysgu Athrawiaeth y Bedyddwyr; ac os ceid Bedyddiwr yn cyfrannu Ordinhad Swper yr Arglwydd, carcherid ef am chwe mis.
    Ceid cyffelyb ddeddfau mewn rhannau eraill o Germani hanner can mlynedd yn ol. Yn Saxe Meinengen teflid gwragedd, gyda babanod ychydig wythnosau oed, i garchar am fynychu cyfarfodydd gweddi'r Bedyddwyr. Cynhelid y cyfarfodydd yn yr awyr agored, yn y mynydd—dir, liw nos ac ynghanol gwlaw, er dianc sylw'r swyddogion gwladol.
  25. "Pa le bynnag y cydnabyddir yr egwyddor o gysylltiad hanfodol yr Eglwys a'r Wladwriaeth, mae erlid yn dod yn ddyledswydd ar lywodraethwyr cydwybodol." (Christ and Christianity, Schaff, tudal. 282.)
    "Ymfudodd sefydlwyr Lloegr Newydd fel Eglwysi. Ond gorfu i bob sefydliad neu drefedigaeth, wrth ymffurfio yn Eglwys, ymffurfio hefyd yn Wladwriaeth, a'r anhawsder mawr wrth roi bodolaeth i'r Wladwriaeth oedd gofalu na chaffai'r Wladwriaeth fod yn gryfach na, neu o leiaf ddim yn elyniaethol i'r, Eglwys. ... I lawr hyd 1640 y rheol yn yr holl sefydliadau (yn Lloegr Newydd), oedd gwneud yr Eglwys yn Wladwriaeth; aelodaeth eglwysig, ac nid eiddo, oedd yn sicrhau'r etholfraint. Felly, y syniad a gorfforwyd yng ngwleidiadaeth y Talaethau yn eu mabandod, oedd yr egwyddor o ddwyflywiaeth (theocracy). Mewn effaith, y Beibl oedd y gyfraith i'r Wladwriaeth yn ogystal a'r Eglwys. Hawl y rhyddfreiniaid oedd dehongli a gweinyddu y gyfraith honno. Yr oedd yr ynad, fel y gweinidog, yn aelod eglwysig, ac yn weithredol drwy bleidlais eglwysig yr etholid y ddau."—(Vaughan, English Nonconformity. 139.)
  26. Y Tadau Methodistaidd, Parch. J. Morgan Jones, &c., Cyf. i. 451
  27. Tra yn condemnio pob erlid gwladol am ddaliadau crefyddol, ni fynnai adran o'r Bedyddwyr boreuol gydnabod hawl neb ond eu cymundeb hwy, i'r teitl o "Eglwys Crist." Nid yn unig ni fynnent gydaddoli âg Eglwyswyr, ond ni chyfathrachent â hwynt mewn bywyd cyffredin; condemnient yr Anibynwyr am wneud hynny. "Nid o Air Duw, eithr o wagedd calon dyn, a thrwy awgrymiad y diafol, y daeth y farn hon (y gellid cymdeithasu yn ddibechod âg Eglwyswyr)" ebe awdwr Persecution for Religion Judged and Condemned (1615). Mewn cyffelyb fodd condemnid John Robinson gan awdwr Religion's Peace (1614), tudal. 52. Gan gyfeirio at Robinson dywed un arall: "Oni wyddom ddechreuad ei Eglwys? Ynghyntaf safai un i fyny a gwnaeth gyfamod; yna arall yr un modd, yna unodd y ddau a'u gilydd, a daeth trydydd atynt, a daethant yn Eglwys meddent hwy; ond yr ydym ni yn gwadu nad ydynt Eglwys—oddigerth eu bod yn synagog Satan. Canys a wnaed erioed Eglwys o'r Testament Newydd trwy gyfamod heb fedydd?" (A description of what God hath predestined concerning Man. tud. 169. Argraffwyd 1620.) Cariodd Roger Williams fel Anibynnwr ym Massachusetts, ac fel Bedyddiwr yn Rhode Island, allan i weithrediad yr un mawrfrydigrwydd gwladol a'r un culni crefyddol. Ni fynnai gosbi neb am ei ddaliadau crefyddol; ond pan omeddodd Eglwys Salem dorri, ar ei gais ef, ei chysylltiad âg Eglwys Boston, ymneillduodd o Eglwys Salem; a gan i'w wraig wrthod dilyn ei esiampl, gwrthododd yntau na gweddio gyda hi, na gofyn bendith wrth yr un bwrdd a hi.
  28. Y sawl na chydnabyddant ac na ddysgant y ddyledswydd o oddef pob dynion mewn materion crefyddol yn unig, nid oes iddynt hwythau hawl i gael eu goddef."—(Locke's Works, ii. 261.)
  29. Wrth ddadleu na ddylid goddef Pabyddiaeth, dywed Milton:—"Nid yw namyn Tywysogaeth Rufeinig, yn ceisio dal i fyny ei hen awdurdod cyffredinol dan enw newydd, a than gysgod crefydd gatholig; mwy priodol ei galw yn heresi yn erbyn yr Ysgrythyr; cynhelir hi gan mwyaf gan awdurdod gwladol, ac, oddigerth yn Rhufain ei hun, gan awdurdod tramor; iawn, felly, yw ei drwgdybio, a iawn yw peidio ei goddef gan ynadon gwlad arall."—(Milton's Works, vol. iii. A Treatise of Civil Power in Ecclesiastical Causes, 317.)
  30. Underhill's Tracts on Liberty of Conscience.
  31. Am brofion o'r uchod, gwel Scobell's Acts, amryw; Gweithiau Baxter, Neal, Owen, Howe, ac eraill o'r Tadau Puritanaidd. Hefyd "The Triers or Tormentors, Tried and Cast;" Lightfoot's "Journal of the Assembly of Divines," &c., &c.
  32. Amcan blaenaf y "Cyngrair a Chyfamod" oedd gwrthwynebu Pabyddiaeth. Mewn athrawiaeth nid oedd yn rhwymo neb i ddim ond "cydsyniad â Gair Duw ac âg esiampl yr Eglwysi Diwygiedig goreu." Dyma'r llw a gymerai aelodau Cymanfa Duwinyddion Westminster:—
    "Yr wyf fi, A. B., yn ddifrifol addaw ac addunedu, ym mhresenoldeb Duw Hollalluog, na fydd imi yn y gymanfa bresennol, o'r hon yr wyf yn aelod, ddal unrhyw bwynt o athrawiaeth ond a gredaf fydd fwyaf cydweddol â Gair Duw; nac mewn disgyblaeth, ond a fydd yn tueddu fwyaf at ogoniant Duw, a heddwch a lles yr Eglwys hon.'
    Yn 1648 gwnaed "Cyffesiad Westminster" yn safon uniongrededd Duwinyddol drwy'r deyrnas.
  33. Gwel "Utter Routing of the Independents and Sectaries." "A Survey of that Foolish, Seditious, Scandalous, Profane Libel The Protestation Protested." Vindication of the true sense of the National Covenant," &c.
  34. Baillie's Letters, i. 401, et seq.
  35. "The Agreement of the People," a "The Instrument of Government."
  36. Cymharent oddefiad i wenwyn gwasgaredig, a galwent ef yn "llofruddiaeth enaid." Gwel Neal. Hist. Purits. iii. 276, 328; iv. 8; Nonconformist's Plea, 4; Evelyn's Diary ii. amryw; Baxter's Life, S6, &c., &c.
  37. Gwel profion yn yr Harleian Miscellany, Cyf. v. 249; a'r Mercurius Politicus, No. 255, p. 5774.
  38. Complete History of England, iii. 223.
  39. A Conformist's Plea for the Nonconformists. True and Perfect Narrative.

PENNOD X.
DECHREU'R GWAITH YNG NGHYMRU.

Er na chyfranogodd Cymru yn uniongyrchol, nac i'r un graddau, o'r manteision a ddaeth i ran Lloegr fel canlyniad i ddigwyddiadau cyffrous mewn byd ac Eglwys a gofnodwyd yn y bennod ddiweddaf, eto i gyd nis gallai lai na theimlo oddi-wrthynt. Ymddanghosai yn wir ar y dechreu, fel pe bae wedi cael mwy o niwed nag o les oddiwrth y chwyldroad mawr a siglodd Siarl I. oddiar ei orsedd. Fel y gwyddis erbyn hyn, Brenhinwyr oedd mwyafrif mawr trigolion Cymru ac nid oedd llwyddiant byddin y Senedd, na'r cyfnewidiadau a wnaed yn y wlad a'r Eglwys mewn canlyniad i'r llwyddiant hwnnw, yn gyfryw ag y gellir dweyd ei fod wrth fodd calon cenedl y Cymry. Yn Lloegr golygai llwyddiant y Senedd ddiogelwch i'r Anghydffurfwyr; yng Nghymru golygai iddynt y perygl mwyaf. Felly cawn yr olygfa ryfedd o Anghydffurfwyr Lloegr, fel canlyniad i'r cweryl rhwng Siarl a'i Senedd, yn gallu cario eu. gwasanaeth crefyddol ymlaen mewn heddwch; tra eu brodyr yng Nghymru, fel canlyniad yr un cweryl, yn gorfod ffoi am eu heinioes. Mae'r esboniad, pan y chwilir am dano, yn ddigon syml. Yr oedd y farn gyhoeddus yn Lloegr o blaid, tra yng Nghymru yn gryf yn erbyn, y Chwyldroad. Felly prin yr oedd Eglwys Anghydffurfiol Llanfaches wedi cael ei ffurfio, nag y gwasgarwyd y praidd bychan megys i bedwar gwynt y nefoedd.

Fwy nag unwaith yn y cyfnod cyffrous hwn, profodd Cymru ei hymlyniad wrth y Brenin a'r Eglwys. Awgrymwyd eisoes pa beth a wnaeth yr Archesgob Williams dros Siarl a'i achos, a sut y safodd Conwy a chestyll eraill Cymru, fel cadarnfeydd y blaid Frenhinol. Ac eto yr oedd, hyd yn oed yng Nghymru, weddill bychan o ffyddloniaid na fynnent blygu glin i Baal; canys cawn fod y Tywysog Rupert tanllyd, cyferdder y brenin, gyda'i wyr meirch, wedi gorymdeithio drwy rannau o Gymru, gan anrheithio'r ffordd yr elai. Amlwg yw nas gwnai hynny i gyfeillion y brenin;—a'r unig gasgliad posibl yw fod rhai hwnt ac yma, yn adnabyddus fel Ymneillduwyr—ac o ganlyniad fel pleidwyr y Senedd—ac mai arnynt hwy y syrthiodd llid a dialedd Rupert a'i wyr. Yng Nghymru y ceisiodd Siarl anffodus loches pan yn ffoi rhag y gelyn. Pan oedd Lloegr oll megis wedi cael ei hennill gan y Gwladgarwyr, ac yr ymddanghosai nad oedd neb o fewn y tir a feiddiai godi llais na llaw o blaid y brenin, torrodd ail ryfel allan—ac yng Nghymru y cychwynnodd. Tri o filwriaid byddin Cromwell, sef Laugharn, Powell, a Poyer, a wrthryfelasant, gan godi eu lluman yng Nghymru, a chasglu o'u cwmpas lu mawr o bleidwyr y frenhiniaeth. Aeth y Deheubarth yn wenfflam, a'r Gogledd yn goelcerth. Ymddanghosai pethau mor ddifrifol, fel y tybiodd y Senedd nad oedd neb ond Cromwell ei hun—na chollodd yr un frwydr erioed—a allai achub y deyrnas rhag y perygl.[1] Felly daeth Cromwell i Gymru. Ymladdwyd brwydr ffyrnig yn St. Fagan's ger Caerdydd y frwydr olaf ar faes agored a ymladdwyd yng Nghymru. Mor ffyrnig oedd y brwydro, a chynifer y lladdedigion, nes y cochwyd yr Afon Lai bob cam o'i thaith oddi yno ymlaen. A fynner tystiolaeth bellach na hyn? Atebed, ynte, furiau dadfeiliedig cestyll Cymru, a syrthiasant y pryd hwnnw o flaen cyflegrau Cromwell a'i fyddin o Ymneillduwyr.

Tra teimlad Cymru felly mor gryf o blaid y brenin, rhwydd deall na roddai'r bobl wrandawiad parod i'r ychydig Ymneillduwyr a geid yn y wlad. A'r ychydig oedd yma y pryd hwnnw, cynulleidfaoedd wedi ymneillduo o'r Eglwys oeddent, am fod eu hoffeiriaid wedi cael eu hatal i bregethu am wrthod o honynt ddarllen Deddf Llyfr y Chwareuon o'u pwlpudau ar y Sul. Pedwar o glerigwyr blaenllaw a geir yn dioddef felly, sef William Wroth o Lanfaches, William Erbury, a'i gurad Walter Cradoc, o Eglwys Fair,[2] Caerdydd, a Marmaduke Matthews o Penmain. Rhoddwyd sen iddynt oll gan yr Esgob; gwysiwyd hwynt—neu bygythid eu gwysio—o flaen Llys yr Uchel Ddirprwyaeth; ac yn y diwedd ataliwyd hwynt i bregethu. Ffurfiodd Wroth Eglwys Anghydffurfiol yn Llanfaches; gwnaeth Erbury yr un peth yng Nghaerdydd; ffodd Matthews ar y cyntaf i'r America; ac aeth Walter Cradoc â lamp yr Efengyl yn ei law i oleuo tywyll-leoedd Cymru. Yn fuan ar ol Llanfaches, ffurfiwyd Eglwys Anghydffurfiol yn Penmain, Eglwys a adwaenir yn well wrth yr enw Eglwys Mynyddislwyn. Yr un adeg sefydlwyd Eglwys Anghydffurfiol Caerdydd; ac yn yr un flwyddyn (1640) Eglwys Mynyddbach, ger Abertawe, a hithau drachefn yn cael ei chanlyn y flwyddyn nesaf, gan Eglwys Anghydffurfiol gyntaf Abertawe. Dyma ni yn cael, ynte, bump o Eglwysi Anghydffurfiol yn cael eu ffurfio o fewn dwy flynedd yng Nghymru, fel canlyniad uniongyrchol ysbryd erlidgar yr Archesgob Laud.

Pa fodd y cyfrifir am sefydliad y lleill y ceir eu hanes fel yn cychwyn yn y cyfnod hwn? Ofnaf y rhaid dweyd am nifer o honynt, mai Eglwysi Sefydledig oeddent, hynny yw, mai trwy gymorth awdurdod a deddf ac arian y Senedd y cychwynwyd hwynt. Cymerwn yng nghyntaf yr Eglwysi Anibynnol. Dywedwyd eisoes fod y Senedd wedi pasio deddf, yn 1649, i Ledaenu'r Efengyl yng Nghymru. Ond nid dyna'r tro cyntaf i'r Senedd gymeryd mewn llaw y gwaith o efengyleiddio'r Dywysogaeth. Tua diwedd 1640 neu ddechreu 1641, awdurdododd y Senedd Walter Cradoc, ac eraill nad yw eu henwau ar gael, i bregethu mewn gwahanol rannau o Gymru.[3] Yn 1642, cawn Eglwysi Ynysgau, Merthyr, a Phentretygwyn a Chefnarthen, yn cael eu sefydlu. Yn 1645, cawn y Senedd yn neillduo tri chant o bunnau'r flwyddyn o arian Eglwysig fel cyflog i Henry Walter, Richard Symonds, a Walter Cradoc, er mwyn iddynt bregethu yn gyson yn Neheudir Cymru.[4] A'r flwyddyn ganlynnol cawn Eglwysi Castellnedd, a Throed—rhiwdalar yn cael eu sefydlu. Yn 1646, rhoddwyd gorchymyn Seneddol cyffelyb ynglŷn â Gogledd Cymru,[5] ac yn y flwyddyn honno cawn Eglwysi Llanbrynmair, Llanfyllin, a Gwrecsam yn cael eu plannu. Yna cawn gyfnod o seibiant drachefn hyd 1649-50, pan basiwyd Deddf Lledaenu'r Efengyl yng Nghymru, ac y penodwyd dros gant o bregethwyr cyflogedig gan y Senedd i gario'r gwaith ymlaen.[6] Ac yn y flwyddyn gyntaf i'r ddeddf fod mewn gweithrediad (1650) cawn Eglwysi Capel Isaac, Henllan, Llanedi, Phencader, yn cael eu sefydlu; a'r flwyddyn olaf y bu'r ddeddf mewn gweithrediad, Eglwysi Casnewydd a Phwllheli yn cael eu plannu. Wedi rhedeg amser y ddeddf allan, apeliodd y rhai oedd gyfrifol am ei gweithrediad drachefn at Cromwell, ac ysgrifennodd yntau lythyr yn eu hannog i fynd ymlaen â'r gwaith, ond heb adnewyddu'r ddeddf.[7] Wedi hynny, hyd nes y trowyd y ddwy fil allan yn 1662, ni phlannwyd ond dwy Eglwys Anibynnol yn yr oll o Gymru, Abergorlech a Nantyffin yn Sir Gaerfyrddin, a Horeb, Llandysil, yn Sir Aberteifi,—a'r ddwy yn 1655.

Beth am y Bedyddwyr? Ceir pelydryn goleu yn eu hanes hwy mewn gwrthdystiad swyddogol gan Eglwys Llanwennarth (Abergafenni), ym Mai, 1655, yn erbyn derbyn arian y Wladwriaeth i gynnal crefydd.[8] Ond, yn anffodus, nid oedd pawb o'r Bedyddwyr Cymreig o gyffelyb syniad. Yr oedd Vavasor Powel erbyn hyn wedi troi yn Fedyddiwr, ac yn derbyn cyflog cyson gan y Llywodraeth. Fel mellten fflachiai o'r naill ben i'r Dywysogaeth i'r llall; fel Mab y Daran ysgydwai ardaloedd cyfain â'i bregethau tanllyd. Gydag ef yr oedd amryw eraill o Fedyddwyr blaenllaw ac enwog yn gysylltiedig. Dyna'r duwiolfrydig John Myles o Ilston, â'i ysbryd cenhadol cryf, a'i dalent amlwg at drefnu gwaith a gweithwyr, yntau yn aelod o'r pwyllgor oedd yn trefnu pregethwyr sefydlog a theithiol Cymru ac yntau ei hun yn derbyn tâl gan y Llywodraeth am ei waith.[9] Ceid eraill, ac yn eu plith Thomas Evans (gwel tud. 78) yr hwn a elwir yn Dad Bedyddwyr Maesyfed. Yn awr, ffrwyth uniongyrchol llafur cenhadol Myles oedd planiad Eglwysi'r Bedyddwyr yn y Gelli (Brycheiniog) yn 1649, ac yn Llanigon (Maesyfed) yn 1650, yn ogystal a'r Eglwys a ffurfiwyd ym Morgannwg yn 1650, ag sydd yn myned weithiau dan yr enw Llantrisant, weithiau Gelligaer, ac weithiau Llanharan.[10] At y rhai hyn ychwaneger Eglwys y Bedyddwyr yng Nghaerfyrddin, a ffurfiwyd hefyd yn 1650, yn bennaf drwy weithgarwch John Myles; ac Eglwys Sir Faesyfed, a ffurfiwyd yr un flwyddyn gydag Eglwys Llanwennarth (1652) y cyfeiriwyd ati eisoes, ac Eglwys yr Olchon, a chawn yn ymarferol yr oll o'r Eglwysi Bedyddiedig yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw. Gadewch ini ddadansoddi y ffeithiau hyn, er gweled beth a gawn ynddynt.

1. Erledigaeth yr Esgobion yn cael ei ganlyn yn 1639, 1640, a 1641, gan blaniad Eglwysi Llanfaches, Mynyddislwyn, Caerdydd, Mynyddbach, ac Abertawe.

II. Rhoddwyd prawf ar yr egwyddor wirfoddol, gyda chefnogaeth ac amddiffyn yr awdurdod gwladol tu cefn iddi, yn 1641. Canlynwyd hyn gan sefydliad Eglwysi Merthyr (Ynysgau), a Phentretygwyn a Chefnarthen, yn 1642.

III. Gwaddolwyd crefydd yng Nghymru gan y Senedd yn 1645 a 1646, drwy benodi Walter Cradoc a dau gydymaith, yn weinidogion teithiol cyflogedig yn y De a'r Gogledd. Yn 1646 plannwyd Eglwysi Llanbrynmair, Llanfyllin, a Gwrecsam yn y Gogledd, a Chastellnedd a Throedrhiwdalar yn y De.

IV. Sefydlwyd crefydd yn gyffredinol drwy Gymru gan y ddeddf a basiwyd yn 1649. (Gwel tudal. 78). Plannwyd Eglwys y Bedyddwyr yn Ilston yn 1649 gan John Myles—ac yntau yn un o'r cyflogedigion Seneddol. Drwy ei ymdrechion ef a'i gydweithwyr, plannwyd Eglwysi'r Gelli yn 1649, Llanigon, Llanharan, a Chaerfyrddin yn 1650; a'r un flwyddyn Eglwys Sir Faesyfed (Rock, Dolau, a Pentre), ac i hon yr oedd Hugh Evans, a gyflogid ac a delid gan y Senedd, yn weinidog. Yn 1652 ffurfiwyd Eglwys Llanwennarth—yn benaf eto, debygir, drwy offerynoliaeth John Myles. O Eglwysi Anibynnol, sefydlwyd Capel Isaac, Henllan, Llanedi, a Phencader, yn 1650, a Chasnewydd, a Phwllheli, yn 1652.

V. Aeth y ddeddf i Efengyleiddio Cymru yn ddirym yn 1653. Yr unig Eglwysi a blannwyd wedi hynny cyn adferiad Siarl II., oedd Abergorlech a Nantyffin, a Llandysil (1655).

Na chamddealler yr hyn ddywedir yma.

Nid ydys yn awgrymu fod y dynion a blannodd yr Eglwysi yn y dosbarthiadau III. a IV. uchod, yn amddifad o zel a chariad, nac yn cael eu cymhell yn unig gan y gyflog. Mae eu holl hanes ar ol hyn yn profi yn wahanol. Ni fu, er engraifft, erioed ddynion mwy cenhadol eu hysbryd, mwy ymdrechgar o blaid y ffydd, mwy parod i ddioddef dros y gwirionedd, na John Myles a Vavasor Powel—heb enwi neb o'r lleill. Gwawdir llawer o'r dynion da hyn gan ddynion fel Alexander Griffith yn ei ysgrifau athrodus, a Dr. Walker a edrychai ar eu gwaith drwy wydrau rhagfarn. Cyhuddir hwynt o fod yn wyr o safle gyffredin, yn grefftwyr a gweithwyr, yn wyr anllythyrennog, &c. Ond pan eir i chwilio yn fanwl ceir fod y mwyafrif o honynt, fel yn wir ymron yr oll o'r Tadau Ymneillduol yn yr oes a'r ganrif honno, yn wyr dysgedig, wedi cael addysg yn y prifysgolion, ac wedi ymgyflwyno o lwyrfryd calon i'r gwaith y galwyd hwynt iddo. Y cwbl a ellir ei ddwyn yn eu herbyn yw eu bod wedi derbyn tâl gan y Wladwriaeth am bregethu'r Efengyl. Ond dylid cofio mai newyddian yn y ffydd oedd Cymru ac nad oedd eto wedi dod i'r goleuni a lewyrchodd arni ar ol hynny. Eithr a chaniatau hyn oll, erys y ffeithiau hyn:—(1) O dan erledigaeth plannwyd pump (neu a chyfrif yr Olchon, chwech) o Eglwysi Ymneillduol.

(2) O dan gefnogaeth y Senedd, ond ar yr egwyddor wirfoddol, plannwyd pedair o Eglwysi.

(3) O dan waddoliad a sefydliad, plannwyd deunaw.

Nid ydys yn cynnyg penderfynnu yma i ba raddau y gweithredai deddf achos ac effaith yn y pethau hyn. Boddlonir yma. ar nodi'r ffeithiau yn syml. Ond mae'n amlwg oddiwrth y ffeithiau hyn, nad oedd Ymneillduaeth eto yn boblogaidd yn y wlad.

Yng ngoleuni gwell y dyddiau hyn gwelwn mai camgymeriad mawr oedd cysylltu Lledaeniad yr Efengyl gyd â'r Wladwriaeth drwy rwymyn deddf a gwaddol. Gwelai ychydig bersonau y perygl y pryd hwnnw. Mynegwyd eisoes am benderfyniad Eglwys Bedyddwyr Llanwennarth. Cododd William Erbury ei lais yr un mor groew yn erbyn yr arferiad. Ond nid oedd llais Llanwennarth a Chaerdydd ond megys llef un yn llefain yn y diffaethwch. Ni thalwyd sylw iddynt. Aeth Eglwysi'r Bedyddwyr ymlaen fel cynt. Ni wahoddwyd William Erbury i ymgynghoriadau yr Anibynwyr.[11] Aeth y ddau enwad ymlaen fel cynt i dderbyn hynny a gaent oddiar fwrdd y Wladwriaeth.

Am gyflwr Cymru yn y cyfnod hwn—yr oedd corff y genedl mor dywyll ac ofergoelus yn 1639 ag oeddent yn 1558, pan fu farw Mari Waedlyd. Danghoswyd eisoes mor eithafol wrth-Ymneillduol oedd Cymru pan gychwynnodd y rhyfel cartrefol. Prin yr oedd y cwrs a fabwysiadwyd gan y Senedd, sef troi allan nifer o glerigwyr—er mai dynion anheilwng oedd llawer o honynt yn tueddu i ennill serch y wlad at y gweinidogion newydd. Ac er nad oedd yr ymraniadau rhwng yr Anibynwyr a'r Presbyteriaid, oedd mor amlwg a niweidiol yn Lloegr, yn cario cyffelyb effaith yng Nghymru—am y rheswm syml na chafodd Presbyteriaeth fel cyfundrefn erioed wreiddyn yn y Dywysogaeth—eto i gyd yr oedd yma elfennau dadgyfaniad. Er fod ambell un, hyd yn oed mor selog a'r Archesgob Williams, wedi troi cefn ar y brenin, ac, o leiaf yn ymddangosiadol, wedi bwrw eu coelbren gyda'r Senedd, eto yr oedd digon o'r hen ysbryd yn aros i fanteisio ar bob cyfle i ddrygu'r Senedd a'i chynrychiolwyr cyflogedig yn y wlad. Dywed y Cymro enwog, Dr. John Owen, mewn pregeth a draddodwyd ganddo o flaen y Senedd, yn 1656, fod y pleidiau yn eithafol yng Nghymru. Dyma ddywed:—

"Na thybiwch allan o le fy mod yn galw eich sylw at un rhan o'r deyrnas yn enwedig—mae esiampl y saint yn caniatau i ni dalu sylw arbennig i'n cenedl ein hunain, ein ceraint yn ol y cnawd. Am Gymru yr wyf yn siarad, lle y mae, yn anffodus, ym mron pawb dynion yn rhedeg i eithafion, wedi niweidio llwydd a chynnydd yr Efengyl pan y gobeithiem am bethau gwell. Mae rhai eto yn selog dros draddodiadau'r Tadau; ac ni foddlona dim hwynt ymron ond yr hen ddull o ddarllenwyr begeraidd ymhob plwyf. Mae eraill, drachefn, o zêl dda, efallai, wedi gyrru'r bobl a'u hangerddoldeb tu hwnt i'w hegwyddorion,—ac weithiau, efallai, tu hwnt i'r gwirionedd; ac fel y dywedodd Jacob, mae gyrru y gwartheg blithion a'r plant yn rhy chwyrn wedi ymron difetha'r holl braidd. Rhwng achwyniadau o'r naill du a'r llall—rhwng zèl gam—arweiniol a ffurfioldeb―mae yr holl adeilad ymron cael ei fwrw i'r llawr; ac nid oes nemawr neb yn gofalu am fuddiannau Seion fel y cyfryw.13

Dyna eiriau cryfion, gan un a wyddai am gyflwr y wlad. Yr oedd ysbryd y Diwygiwr yn gryf yn John Owen, ac yngwaed

12 The Weekly Intelligencer, Ebrill 30, 1646.

13 Gweithiau Dr. Owen, cyf viii., tudal. 452. Q ei deulu, a gweithiodd allan mewn modd ymarferol ac effeithiol ymhen ychydig flynyddau wedyn yn ei nai, Hugh Owen, Bronyclydwr. Flwyddyn cyn traddodi'r bregeth hon yr oedd rhwyg alaethus wedi cymeryd lle ymhlith y Diwygwyr Swydd—ogol yn y Dywysogaeth. Methodd Paul a Barnabas Cymru, Vavasor Powel a Walter Cradoc, gydolygu ar gwestiwn gwleidyddol. Yr oedd y blaenaf wedi dadblygu i fod yn wrthwynebydd anghymodlawn, a'r llall yn gefnogydd cynnes, i wladlywiaeth Cromwell. Tynnodd Powel allan ddeiseb neu wrthdystiad yn erbyn Cromwell, ac arwyddwyd hi gan dri-chant o'i gefnogwyr yng Nghymru. Tynnodd Cradoc yntau bapur allan i gefnogi Cromwell, ac arwyddwyd hwnnw gan dros saith gant a hanner o bersonau, yn cynnwys yn ymarferol yr oll o'r pregethwyr yng Nghymru, yn Anibynwyr a Bedyddwyr. Cydnebydd Dr. Rees, Abertawe—yr hwn nis gellir ei gyhuddo o leihau dim ar nerth na gwerth Anghydffurfiaeth foreuol—nad oedd ond gweddill bychan yn aros yn Siroedd Cymru i ddwyn tystiolaeth yn erbyn drygioni'r oes. Yng ngwyneb ffeithiau fel hyn, prin y gellir desgrifio'r cyfnod hwn fel haf-ddydd Ymneillduaeth yng Nghymru.

Ac eto nid gaeaf oedd ychwaith—canys yr oedd yr hauwyr ar y maes, ac mewn ambell i fan gellid canfod yr egin megys yn blaendarddu, ac yn cynnwys eisoes addewid am y cynhaeaf mawr oedd i ganlyn.

Ynglŷn â hanes John Myles (gwel tudal. 112) cyfyd cwestiwn o gryn bwysigrwydd. Mae yn gwestiwn mor ddyrrus ag yw o bwysig. Trwyddo cyfyd holl gwestiwn perthynnas Ymneillduwyr Cymru a Llywodraeth Cromwell. Cofier fod y rhai a gyfrifid gynt yn Anghydffurfwyr, yn awr yn llywodraethu; eu gweinidogion yn pregethu yn yr Eglwysi plwyfol, ac yn dal y bywiolaethau Eglwysig. Nid oedd dim

14 Dywed Thurloe fod yr enwau ar wrthdystiad Vavasor Powel, oll yn yr un lawysgrifen, a bod llawer wedi cael eu gosod heb ganiatad, tra roedd y rhai oedd a'u henwau wrth ateb Cradoc wedi torri eu henwau eu hunain.—Thurloe's State Papers, vol. iv., p. 505. drwy wydrau rhagfarn. Cyhuddir hwynt o fod yn wyr o safle gyffredin, yn grefftwyr a gweithwyr, yn wyr anllythyrennog, &c. Ond pan eir i chwilio yn fanwl ceir fod y mwyafrif o honynt, fel yn wir ymron yr oll o'r Tadau Ymneillduol yn yr oes a'r ganrif honno, yn wyr dysgedig, wedi cael addysg yn y prifysgolion, ac wedi ymgyflwyno o lwyrfryd calon i'r gwaith y galwyd hwynt iddo. Y cwbl a ellir ei ddwyn yn eu herbyn yw eu bod wedi derbyn tâl gan y Wladwriaeth am bregethu'r Efengyl. Ond dylid cofio mai newyddian yn y ffydd oedd Cymru ac nad oedd eto wedi dod i'r goleuni a lewyrchodd arni ar ol hynny. Eithr a chaniatau hyn oll, erys y ffeithiau hyn:—(1) O dan erledigaeth plannwyd pump (neu a chyfrif yr Olchon, chwech) o Eglwysi Ymneillduol.

(2) O dan gefnogaeth y Senedd, ond ar yr egwyddor wirfoddol, plannwyd pedair o Eglwysi.

(3) O dan waddoliad a sefydliad, plannwyd deunaw.

Nid ydys yn cynnyg penderfynnu yma i ba raddau y gweithredai deddf achos ac effaith yn y pethau hyn. Boddlonir yma. ar nodi'r ffeithiau yn syml. Ond mae'n amlwg oddiwrth y ffeithiau hyn, nad oedd Ymneillduaeth eto yn boblogaidd yn y wlad.

Yng ngoleuni gwell y dyddiau hyn gwelwn mai camgymeriad mawr oedd cysylltu Lledaeniad yr Efengyl gyd â'r Wladwriaeth drwy rwymyn deddf a gwaddol. Gwelai ychydig bersonau y perygl y pryd hwnnw. Mynegwyd eisoes am benderfyniad Eglwys Bedyddwyr Llanwennarth. Cododd William Erbury ei lais yr un mor groew yn erbyn yr arferiad. Ond nid oedd llais Llanwennarth a Chaerdydd ond megys llef un yn llefain yn y diffaethwch. Ni thalwyd sylw iddynt. Aeth Eglwysi'r Bedyddwyr ymlaen fel cynt. Ni wahoddwyd William Erbury i ymgynghoriadau yr Anibynwyr." Aeth y ddau enwad ymlaen fel cynt i dderbyn hynny a gaent oddiar fwrdd y Wladwriaeth.

Am gyflwr Cymru yn y cyfnod hwn—yr oedd corff y genedl mor dywyll ac ofergoelus yn 1639 ag oeddent yn 1558, pan

11 A Call to the Churches, or a Packet of Letters for the Pastors of Wales. No. 6. Wm. Erbury, Aug., 1652. Q fu farw Mari Waedlyd. Danghoswyd eisoes mor eithafol wrth-Ymneillduol oedd Cymru pan gychwynnodd y rhyfel cartrefol. Prin yr oedd y cwrs a fabwysiadwyd gan y Senedd, sef troi allan nifer o glerigwyr—er mai dynion anheilwng oedd llawer o honynt yn tueddu i ennill serch y wlad at y gweinidogion newydd. Ac er nad oedd yr ymraniadau rhwng yr Anibynwyr a'r Presbyteriaid, oedd mor amlwg a niweidiol yn Lloegr, yn cario cyffelyb effaith yng Nghymru—am y rheswm syml na chafodd Presbyteriaeth fel cyfundrefn erioed wreiddyn yn y Dywysogaeth—eto i gyd yr oedd yma elfennau dadgyfaniad. Er fod ambell un, hyd yn oed mor selog a'r Archesgob Williams,[12] wedi troi cefn ar y brenin, ac, o leiaf yn ymddangosiadol, wedi bwrw eu coelbren gyda'r Senedd, eto yr oedd digon o'r hen ysbryd yn aros i fanteisio ar bob cyfle i ddrygu'r Senedd a'i chynrychiolwyr cyflogedig yn y wlad. Dywed y Cymro enwog, Dr. John Owen, mewn pregeth a draddodwyd ganddo o flaen y Senedd, yn 1656, fod y pleidiau yn eithafol yng Nghymru. Dyma ddywed:—

"Na thybiwch allan o le fy mod yn galw eich sylw at un rhan o'r deyrnas yn enwedig—mae esiampl y saint yn caniatau i ni dalu sylw arbennig i'n cenedl ein hunain, ein ceraint yn ol y cnawd. Am Gymru yr wyf yn siarad, lle y mae, yn anffodus, ym mron pawb dynion yn rhedeg i eithafion, wedi niweidio llwydd a chynnydd yr Efengyl pan y gobeithiem am bethau gwell. Mae rhai eto yn selog dros draddodiadau'r Tadau; ac ni foddlona dim hwynt ymron ond yr hen ddull o ddarllenwyr begeraidd ymhob plwyf. Mae eraill, drachefn, o zêl dda, efallai, wedi gyrru'r bobl a'u hangerddoldeb tu hwnt i'w hegwyddorion,—ac weithiau, efallai, tu hwnt i'r gwirionedd; ac fel y dywedodd Jacob, mae gyrru y gwartheg blithion a'r plant yn rhy chwyrn wedi ymron difetha'r holl braidd. Rhwng achwyniadau o'r naill du a'r llall—rhwng zèl gam—arweiniol a ffurfioldeb―mae yr holl adeilad ymron cael ei fwrw i'r llawr; ac nid oes nemawr neb yn gofalu am fuddiannau Seion fel y cyfryw.[13]

Dyna eiriau cryfion, gan un a wyddai am gyflwr y wlad. Yr oedd ysbryd y Diwygiwr yn gryf yn John Owen, ac yngwaed ei deulu, a gweithiodd allan mewn modd ymarferol ac effeithiol ymhen ychydig flynyddau wedyn yn ei nai, Hugh Owen, Bronyclydwr. Flwyddyn cyn traddodi'r bregeth hon yr oedd rhwyg alaethus wedi cymeryd lle ymhlith y Diwygwyr Swydd—ogol yn y Dywysogaeth. Methodd Paul a Barnabas Cymru, Vavasor Powel a Walter Cradoc, gydolygu ar gwestiwn gwleidyddol. Yr oedd y blaenaf wedi dadblygu i fod yn wrthwynebydd anghymodlawn, a'r llall yn gefnogydd cynnes, i wladlywiaeth Cromwell. Tynnodd Powel allan ddeiseb neu wrthdystiad yn erbyn Cromwell, ac arwyddwyd hi gan dri-chant o'i gefnogwyr yng Nghymru. Tynnodd Cradoc yntau bapur allan i gefnogi Cromwell, ac arwyddwyd hwnnw gan dros saith gant a hanner o bersonau, yn cynnwys yn ymarferol yr oll o'r pregethwyr yng Nghymru, yn Anibynwyr a Bedyddwyr.[14] Cydnebydd Dr. Rees, Abertawe—yr hwn nis gellir ei gyhuddo o leihau dim ar nerth na gwerth Anghydffurfiaeth foreuol—nad oedd ond gweddill bychan yn aros yn Siroedd Cymru i ddwyn tystiolaeth yn erbyn drygioni'r oes. Yng ngwyneb ffeithiau fel hyn, prin y gellir desgrifio'r cyfnod hwn fel haf-ddydd Ymneillduaeth yng Nghymru.

Ac eto nid gaeaf oedd ychwaith—canys yr oedd yr hauwyr ar y maes, ac mewn ambell i fan gellid canfod yr egin megys yn blaendarddu, ac yn cynnwys eisoes addewid am y cynhaeaf mawr oedd i ganlyn.

Ynglŷn â hanes John Myles (gwel tudal. 112) cyfyd cwestiwn o gryn bwysigrwydd. Mae yn gwestiwn mor ddyrrus ag yw o bwysig. Trwyddo cyfyd holl gwestiwn perthynnas Ymneillduwyr Cymru a Llywodraeth Cromwell. Cofier fod y rhai a gyfrifid gynt yn Anghydffurfwyr, yn awr yn llywodraethu; eu gweinidogion yn pregethu yn yr Eglwysi plwyfol, ac yn dal y bywiolaethau Eglwysig. Nid oedd dim yn y ffurf-wasanaeth Eglwysig nas gallai y cyn-Anghydffurfwyr gydffurfio â hi;—canys er y gallai rhai wrthwynebu y ffurf-weddiau, eto caniateid cymaint rhyddid dewisiad ynglŷn â hwynt, fel nad oeddent yn rhwystr i Anibynwyr, a Bedyddwyr, yn ogystal a Phresbyteriaid, i gydaddoli yn yr un Eglwys blwyfol. Yr oedd John Myles yn un o'r swyddogion crefyddol a benodwyd i arolygu'r gwaith yng Nghymru o dan y ddeddf.

Dywedir ei fod gyda hynny yn dal perigloriaeth Ilston, i'r hon y penodwyd ef pan ddifuddiwyd William Houghton.[15] Dywedir iddo ddal y fywoliaeth hyd 1662, pan drowyd ef allan, meddir, o dan Ddeddf Unffurfiaeth. Sicr yw ddarfod iddo blannu nifer o Eglwysi Bedyddiedig o'r tu allan i'r Eglwys Wladol Wrth-Esgobaethol, ac yn eu plith un, a'r gyntaf oll, yn ei blwyf ei hun, Ilston. Sut gellir cyfrif am y ffaith ei fod yn plannu Eglwys Fedyddiedig Ymneillduol o'r tu allan i, ac yn yr un plwyf a'r, Eglwys Wladol yr oedd ef yn weinidog iddi? Cofier fod holl wasanaeth yr Eglwys honno yn ei law ef, ac y gallai y Bedyddwyr addoli yno yn ddirwystr. Yr ateb cyntaf sy'n ymgynnyg yw, mai Capel Anwes (Chapel of Ease) yn y plwyf oedd yr Eglwys Fedyddiedig, er mantais i rai pell o'r Eglwys blwyfol. Ond ni saif hyn am funud yngwyneb natur a hanes Eglwys Fedyddiedig Ilston. Yr oedd tu hwnt i amheuaeth yn gorff hollol anibynnol ar yr Eglwys Wladol, i'r hon yr oedd ei bugail yn weinidog neu offeiriad. Yr ail esboniad sy'n ymgynnyg yw, mai math o gyfeillach grefyddol o'r tu allan i'r Eglwys, rhywbeth tebyg i'r Seiadau Methodistaidd yn y ganrif ddilynnol, ydoedd. Ond ni ddeil hwn ychwaith y prawf; canys nid oedd yr un rhwystr i weithgarwch crefyddol yn yr Eglwys yn gwynebu John Myles ag a gyfarfyddai a Daniel Rowlands. Y trydydd esboniad yw, fod John Myles yn Gaeth-Fedyddiwr selog o argyhoeddiad,—ac fel y cyfryw yn awyddus i gael Eglwys cyfansoddedig yn gyfangwbl o rai o gyffelyb farn ag yntau, fel na orfodid hwynt i gymeryd rhan mewn Cymundeb cymysg yn Eglwys y plwyf. Dyma'r esboniad mwyaf rhesymol, canys Eglwysi Caeth Gymunol oedd yr oll o'r Eglwysi Bedyddiedig a blannodd John Myles. Ond yma eto ceir anhawsder—canys pa fodd y gallai efe, a'i syniadau am Gaeth Gymundeb, wasanaethu yn Eglwys y Plwyf yn Ilston lle yr oedd o angen—rheidrwydd Gymundeb cymysg?

Ond edrycher eto'n fanylach ar ei hanes. Dywedwyd ei fod o ysbryd cenhadol. Dyna nodwedd ei fywyd. Profir hyn. gan bob gweithred o'i eiddo. Nis gellir cario gwaith cenhadol ymlaen heb arian. Derbyniai Myles arian gan y Llywodraeth. Defnyddiodd yr arian hwnnw,—fel yr oedd yn ddyledswydd arno wneud, i ledaenu'r efengyl yng Nghymru. Ond wrth ledaenu'r efengyl, lledaenodd hefyd egwyddorion neillduol y Bedyddwyr—fel yr oedd ganddo berffaith hawl i wneud. Plannodd Eglwysi Caeth Fedyddwyr. Ond teithiodd rhai o'r disgyblion yn gyflymach tua chyfeiriad rhyddid cydwybod, na'u hathraw. Credai John Myles na ddylid cael cymundeb cymysg—ac eto gweinidogaethai ar Eglwys gymysg y plwyf. Credai ei ddisgyblion yr un peth—ond gweithredent yn unol â'u credo, gan ymgysylltu mewn Eglwysi o Gaeth Fedyddwyr yn gwrthod cyfathrach âg Eglwys y Plwyf. Yr oedd y praidd yn gyson, ond y bugail yn anghyson. Un o'r deadelloedd a gasglwyd gan Myles oedd Llanwennarth. Ymhen tair blynedd ar ol ei chorffori, pasiodd yr Eglwys hon benderfyniad (gwel tud. 111) yn condemnio'r arferiad o dderbyn arian y Wladwriaeth at gynnal crefydd. Mae'n wir mai nid yn erbyn Myles ei hun, eithr yn erbyn un William Prichard, aelod o'r Eglwys, y cyfeiriwyd y penderfyniad yn arbennig. Eithr nis gellid beio Prichard heb gondemnio Myles—canys yr oedd y ddau yn derbyn tâl, ond fod cyflog Myles yn fwy. Yr oedd Eglwys Llanwennarth, felly, o flaen ei hoes, ac ym mlaenaf oll i roi mynegiad swyddogol i syniadau a ddelir gan Ymneillduwyr yn gyffredinol erbyn hyn. Ond parhaodd Myles, yn wyneb y penderfyniad hwn, i dderbyn arian y Llywodraeth am saith mlynedd arall. Wele eto'r disgybl yn dysgu'r wers yn well na'r athraw. Nid oes gennym hanes am un Eglwys arall yn dilyn esiampl Llanwennarth. Ond ceir ffaith tra arwyddocaol. Am chwe mlynedd yr oedd Eglwysi Bedyddiedig Cymru yn cynnal Cymanfa flynyddol, i'r rhai y danfonid cenhadon o'r Eglwysi. Yn 1655 y pasiwyd penderfyniad Llanwennarth. Yn 1656 y cynhaliwyd yr olaf o'r Cymanfaoedd am 30 mlynedd. Gellir cyfrif am eu rhoi heibio ar ol 1662, ond beth am y chwe mlynedd cyn hynny? A oedd rhywbeth a fynnai penderfyniad Llanwennarth a rhoi'r Gymanfa heibio?

Ceir ychydig oleuni pellach ar gymeriad ac egwyddorion John Myles yn ei hanes yn yr America. Pan drowyd ef allan o berigloriaeth Ilston, yn 1662 fel y tybir, ac y collodd mewn canlyniad ei gyflog, cwtogwyd o angenrheidrwydd ar ei allu i gario'r genhadaeth ymlaen yng Nghymru. Ymfudodd i'r America a sefydlodd, yn 1663, mewn lle o'r enw Rehoboth, ym Massachusetts. Yno casglwyd Eglwys fechan o Gaeth Fedyddwyr—Eglwys Fedyddiedig gyntaf America. Felly, i'r dyn da hwn y perthyn yr anrhydedd eithriadol o sefydlu yr Eglwys gyntaf o'i enwad yng Nghymru ac yn America. Danghosir eto na therfynnodd dyled America i Gymru gyda hyn. Yr Anibynwyr a lywodraethent y pryd hwn ym Massachusetts, ac Eglwys Anibynnol oedd yr Eglwys Wladol yno. Felly, yn America, fel yng Nghymru, ffurfiodd Myles Eglwys Fedyddiedig o'r tu allan i'r Eglwys Wladol. Ond yn wahanol i'w brofiad yng Nghymru, cyfryngodd y Wladwriaeth, a gorfodwyd Eglwys Myles i symud o Rehoboth.[16] Gwelir, felly, ei fod yn ddyn o argyhoeddiadau cryfion, wedi ymgyflwyno yn hollol i'r gwaith o sefydlu Eglwysi Bedyddiedig. Yng Nghymru manteisiodd ar gymorth y Wladwriaeth i wneud hynny yn groes i syniadau rhai o'i ddisgyblion. Yn America cariodd allan yr un egwyddorion crefyddol yn groes i syniadau'r Llywodraeth. Ond erys yr anghysondeb o ddal bywoliaeth plwyf Ilston gyda chymundeb rydd, a gweinidogaeth Eglwys Fedyddiedig Ilston gyda Chaeth-gymundeb, eto heb ei esbonio.

Er na sefydlwyd cynifer o Eglwysi'r Bedyddwyr ag o eiddo'r Anibynwyr yn nyddiau Cromwell, eto gwnaeth yr enwad, fel enwad, fwy o gynnydd cyfundrefnol. Sefydlwyd Cymanfa Flynyddol ganddynt a chymerodd honno at y gwaith o drefnu pregethwyr a chylchdeithiau iddynt, gan benodi hefyd swm y gyflog a delid i bob un. Ar wahan oddiwrth gynllun y Senedd, dyma'r ymgais gyntaf yng Nghymru i gario cenhadaeth grefyddol gyffredinol ymlaen. Ceir yn y cynllun a sefydlwyd gan John Myles a'i gyd-weithwyr, ac a gariwyd allan mor effeithiol drwy rannau eang o'r De, rhagddelw o'r cynllun perffeithiach a weithiwyd allan gan Howell Harris a'i gyd-Ddiwygwyr yn agos i gan mlynedd wedi hynny. Mae llawer o egwyddorion hanfodol y cynllun a fabwysiadwyd yng Nghymdeithasfa Watford, yn 1742, i'w canfod yn y cynllun a fabwysiadwyd yng Nghymanfa Ilston, yn 1650. Cyfrifa amgylchiadau gwahanol y ddwy ganrif, mewn cyfleusderau teithio, parodrwydd y werin i dderbyn yr efengyl, mynychder cymdeithasau crefyddol, &c., yn ogystal ag egwyddorion nodweddiadol y Diwygwyr Bedyddiedig yn y 17fed canrif o'u cydmaru âg eiddo Diwygwyr Anenwadol y 18fed canrif, am y rhan fwyaf o'r gwahaniaeth rhwng y ddau gynllun. Amcan y naill oedd cynyrchu elfennau crefydd ysbrydol drwy sefydlu canghennau lluosog o Eglwysi'r Bedyddwyr; amcan blaenaf y llall oedd cynyrchu yr un peth drwy sefydlu cymdeithasau crefyddol anenwadol. Dadblygodd yr olaf wedi hynny, mae'n wir, i ffurfell debycach fyth i gynllun Myles. Ond ymdrinnir yn helaethach ar y wedd yma i'r pwnc yn ei le priedol. Y
MAP SHOWING THE EFFECT OF CHARLES IIs INDULGENCES, 1672 IN WALES.


gwirionedd y ceisir ei yrru adref yma yw, ma i'r Bedyddwyr Cymreig, o dan arweiniad ac ysbrydoliaeth John Myles, y perthyn yr anrhydedd o sefydlu gyntaf erioed genhadaeth grefyddol, gyffredinol a chyfundrefnol, sylfaenedig yn gyfan-gwbl ar yr egwyddor wirfoddol. Ymaflwyd yn y gwaith yn egniol gan Eglwys Ilston ei hun. Wele'r cynllun a fabwysiadwyd ganddynt hwy mewn Cwrdd Eglwys a gynhaliwyd. Hydref 16, 1650:-

Cytunasant y byddai i'r Eglwys dorri bara yn Ilston ar y dydd cyntaf o'r wythnos, unwaith bob tair wythnos; ac ar y ddau ddydd cyntaf arall yr aelodau ym mharthau Gorllewin Browyr i gyfarfod yn Llanddewi; y rhai a breswylient yn agos i Ilston i gyfarfod yn Ilston; a'r rhai yn Sir Gaerfyrddin, a'r parthau hynny yn nhy Jane Jones, neu lle byddai yn fwyaf cyfleus ffordd yna. Trefnasant gyfarfodydd yn yr wythnos hefyd, yn y parthau Cymreig, ar y trydydd dydd o'r wythnos, yn Ilston ar y pedwerydd, ac yn Llanddewi ar y pumed. Yn y cyfarfodydd hyn yr oedd ymchwiliad i gael ei wneud gyda golwg ar ymddygiad y rhai oedd yn y gwahanol ardaloedd hyn; a chyngor, neu gerydd, &c., i gael ei roddi yn ol fel yr ymddanghosai yn briodol. Yr oedd cyfarfod at ddisgyblaeth Eglwysig yn Ilston ar y pedwerydd foreu, unwaith bob tair wythnos. Y prif weinidogion hyd yn hyn oeddynt Meistriaid Miles a Proud. Yr oedd eraill yn arfer eu doniau, fel yr ymddengys isod."[17]

Yng nghynhadledd Cymanfa Ilston yr un flwyddyn, dygwyd y genadwri ganlynnol oddiwrth Eglwysi eraill:—

Gosodiadau a threfniadau aelodau y ddwy Eglwys, y Gelli a Llanharan, wedi cyfarfod yn Ilston, ar y 6ed a'r 7fed o'r nawfed mis, 1650, y rhai a ddanfonwyd gan yr Eglwysi rhagddywededig at y brodyr yn Ilston, i gydymgynghori â hwynt o berthynas i'r cyfryw bethau ag a benderfynnir ganddynt yn awr, trwy gymorth Duw, ac a enwir yma. Wrth ystyried yn ddifrifol y diffyg mawr o'r fath weinidogion ag a wnant ddal allan air y gwirionedd yn iachus, yn Sir Gaerfyrddin, a'r cyfleusdra amserol sydd yn awr yn cael ei agor gan ragluniaeth Duw i wasgaru y gwirionedd yn y parthau hyn, barna y brodyr fod angen i'r brawd D. Davies ymdrechu pregethu dau ddydd cyntaf (Sabath) bob dau fis yn nhref Caerfyrddin, neu o gwmpas yno; ac fod y brawd John Miles i bregethu yno un dydd cyntaf bob dau fis; a bod i'r brawd Prosser hefyd i bregethu yno un dydd cyntaf bob dau fis. Dymunir ar y brodyr i ymgynghori a'u gilydd pa bryd y bydd yn fwyaf cyfleus i'r naill a'r llall o honynt i fod yno. Ac ar yr unrhyw ystyriaeth ddifrifol o sefyllfa ein brodyr yn Llanharan, bernir yn briodol fod cynhulliad parhaus i gael ei gadw yno gan yr Eglwysi, hyd oni byddo i'r Arglwydd godi mwy o ddynion galluog yn eu plith eu hunain, ac fod dymuniad i'r brawd Davies i fod yn wyddfodol mor aml ag y byddo bosibl iddo; ond pan y byddo ef dan yr angenrheidrwydd o fod yng Nghaerfyrddin, yna dymunir ar ein brodyr o'r Gelli ofalu danfon naill ai y brawd Prosser, neu y brawd Thomas Watkins, neu ryw un arall a farnont yn gyfleus.

Ym mhellach, gan ystyried sefyllfa bresennol y cyfryw frodyr ag ydynt yn llafurio yng ngwaith y weinidogaeth, a'r ddyledswydd sydd yn gorwedd ar bob aelod i ddarparu ar eu cyfer, bernir yn angenrheidiol, ac am hynny dymunir, fod i'r swm o ddeg punt ar hugain gael ei godi gan yr eglwysi mewn cyfraniadau cyfartal—£10 ymhob Eglwys, tuagat gynhaliaeth y weinidogaeth. A chan na chaniateir i'r brawd Prosser gynhaliaeth mewn un ffordd arall, a chan fod ganddo barodrwydd mawr i wasanaethu yr Arglwydd Iesu Grist, a'i saint Ef, yng ngwaith mawr a phoenus y weinidogaeth, pa le bynnag y gelwir arno fyned, ein dyledswydd ni yw gofalu am dano ef. Dymunir, gan hynny, iddo ef gael £25 y flwyddyn allan o'r £30 crybwylledig." [18]1

Yn y Gymanfa yn 1651 gwnaed trefniadau pellach, gan dalu sylw arbennig i anghenion ac amgylchiadau aelodau gwasgaredig yr Eglwysi. Yn ddiweddarach (1654), cawn y Gymanfa yn tynnu allan gyfansoddiad ffurfiol i'r Eglwysi, gan nodi dyledswyddau arbennig y gwahanol swyddogion ac aelodau. Yr oedd y mater wedi cael ei gyflwyno i John Myles, a thri arall gydag ef, i ddwyn adroddiad i'r Gymanfa. Mae'r adroddiad yn rhy faith i'w roi yma yn llawn, ond ceir ef yn Nghofnodion Cymanfa Llantrisant. Mae yn adroddiad manwl, yn rhoi cyfeiriadau ysgrythyrol er ategu pob gosodiad.

Dengys y cynllun fod yr Eglwysi boreuol hyn wedi mabwysiadu y drefn henaduriaethol i raddau pell. Darpara yn ofalus am waith cenhadol i gasglu eglwysi o'r byd; am y gwaith o efengylu, yr hon a ystyrrir yn ddawn arbennig, cyfyngedig i ond ychydig; am y gwaith o broffwydo, neu gynghori, yn yr Eglwysi. Cynhwysa chwe gradd o swyddogion Eglwysig, sef,

i. Y Bugail, yr hwn a ofala am y praidd, i'w dysgu, cynghori, rhybuddio; efe sydd i weinyddu yr holl ordinhadau; mae i gyflwyno ei hun yn gyfangwbl i'r Gair a'r athrawiaeth; efe sydd i reoli, i gadw trefn, i ofalu am athrawiaeth bur a disgyblaeth gyson.

ii. Yr Athraw, yr hwn sydd i esbonio'r Ysgrythyrau, ac i wrthwynebu cyfeiliornadau. "A hyn," ebe'r hen gofnodion, "sydd hefyd yn rhan o waith y Bugail."

iii. Yr Henadur Llywodraethol, yr hwn sydd i arolygu bywyd a moesau yr aelodau, ac i ofalu am Dŷ Dduw.

iv. Y Diacon, yr hwn sydd i wasanaethu byrddau, "hynny yw," ebe'r hen lawysgrif gywrain, "bwrdd yr Arglwydd, a byrddau pawb arall yn yr Eglwys a fyddant mewn angen o'i wasanaeth." Mae yntau i fod yn gyflwynedig i wasanaeth yr Eglwys.

v. Y Gweddwon, y rhai sydd i gynorthwyo'r Diaconiaid i wasanaethu'r Eglwys, yn bennaf trwy edrych ar ol y tlawd a'r claf.

vi. Cynghorwyr, y rhai, er nad yn gyflwynedig i waith y weinidogaeth. a arferant eu doniau yn yr Eglwysi, er adeiladaeth, cyngor, a chysur."

Yna canlynna cyfarwyddiadau am ddyledswyddau'r aelodau tuagat y swyddogion a thuag at eu gilydd. Gan ganlyn esiampl yr Eglwys Apostolaidd, ymgymera'r Eglwysi hyn â gofal y tlodion fel rhan hanfodol o ddyledswyddau pob Eglwys. Ar yr un pryd rhybuddir y tlodion "i beidio segura, na phwyso yn ddiraid ar yr Eglwys." Sonnir am yr holl gyfundrefn fel un "Corff"—a dyma'r enw a ddefnyddid ymron yn ddieithriad yn yr oes honno i ddynodi nid yn unig un Cyfundeb Crefyddol, ond hefyd mwy nag un Cyfundeb yn gyd-gysylltiedig â'u gilydd at unrhyw waith arbennig. Arwyddwyd y cofnodion, yn cynnwys y cynllun uchod, gan un ar hugain o henuriaid a chenhadon o'r pump Eglwys. O'r rhai hyn tybir fod dwsin yn weinidogion.

Perffeithiwyd y cynllun yn fanylach fyth gan Eglwys Ilston, yn 1657, pan fabwysiadodd gyfres faith o reolau gwaith i'r Eglwys a'i swyddogion. Ymhlith y trefniadau,—y rhai sy'n taflu goleuni dyddorol ar y dull o grefydda'r pryd hwnnw,—ceir: Fod cyfarfod i'w gynnal yn Ilston bob boreu Sul am 8 y boreu; a phob pedwerydd dydd (Mercher) am naw.

Fod Cymundeb (torri bara y gelwir ef yn iaith nodweddiadol yr hen gofnodion) yn Ilston bob mis; un o ddau weinidog cynorthwyol "i wasanaethu am yr awr gyntaf; yna rhyw frawd cymeradwy i wasanaethu yn Gymraeg; pregeth i'r byd; ac yna myned ymlaen i dorri bara."

Ar ddyddiau eraill, "Yr awr gyntaf i'w hymarferyd yn ddirgelaidd gan frodyr o ddoniau, ond eu bod heb eu profi yn ddigonol a'u cymeradwyo; y nesaf i'w hymarferyd gan broffwydi cymeradwy neu frodyr o ddoniau." Fod "y brawd Myles, neu ryw weinidog cyhoeddus arall, i wasanaethu ar ol y brodyr uchod yn y cyrddau;" a bod "ymarferion pellach ar ddyddiau yr Arglwydd, pan na byddont yn torri bara."

Fod "y pedwerydd dydd yn nechreu pob mis" (hynny yw, y Mercher cyntaf yn y mis) i gael ei gadw fel dydd o ymostyngiad yn ol ein cytundeb ag eglwysi y Werddon; i ddechreu am 7 yn yr haf ac 8 yn y gaeaf; i orffen fel y barno yr Eglwys yn ddoeth."

Trefniadau arbennig i'r gwahanol ganghenau; dyddiau ac oriau penodol; personau neillduol a enwir ymhob un, i fod yn gyfrifol am gynnal y cyfarfodydd yn rheolaidd; trefniadau manwl am gasgliadau, a phersonau neillduol i gymeryd eu gofal.

Cyfarfod o'r swyddogion i'w gynnal yn Ilston ar y Gwener o flaen y Cymundeb, "i drin disgyblaeth, a materion Eglwysig eraill." Yr oedd pawb ar brawf am y weinidogaeth i fod yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn. Ni chaniateid i neb "gyhoeddi unrhyw athrawiaethau gerbron y byd mewn unrhyw gyfarfod penodedig, ond y cyfryw ag ydynt yn broffwydi cymeradwy, neu rai ar brawf o flaen yr Eglwys."

Disgwylid i'r aelodau roi eu henwau a'u preswylfod i'r diaconiaid; y rhai hynny i sylwi pwy fyddai'n absennol o'r cyfarfodydd, ac i hysbysu y bugail; hwnnw i ymweled a'r cyfryw.

"Nad yw yr Eglwys, nac aelodau unigol, i weinyddu un cerydd, na derbyn aelodau, na dwyn ymlaen unrhyw weithrediadau, heb gyfarwyddyd a chydsyniad y rhai sydd yn eu llywodraethu yn yr Arglwydd."

"Gall unrhyw frawd neu chwaer wrthwynebu derbyniad neb i aelodaeth ar ol eu bedyddio; a dylai yr Eglwys ymdrechu rhoi boddlonrwydd i'r aelod anfoddlon cyn derbyn y bedyddiedig i gyflawn aelodaeth."

Er nad oedd yr Anibynwyr y pryd hwnnw, fwy nag yn awr, yn canoleiddio eu cyfundrefn i'r un graddau a'r Bedyddwyr, eto nid oeddent yn segur. Sefydlwyd ganddynt fwy o rifedi o Eglwysi gwahanol nag a hawlia'r Bedyddwyr. Cyfrifir am hyn i raddau gan y ffaith, a nodwyd o'r blaen, fod yr Eglwysi cyntaf yng Nghymru yn rhai cymysg. Hyd nes i John Myles ddechreu ar ei genhadaeth, er fod cyfartaledd da o Anghydffurfwyr Cymru yn Fedyddwyr o ran credo, ni ddaeth i'w bryd i wahanu oddiwrth eu brodyr y Baban Fedyddwyr. Anibynnwr oedd Vavasor Powel, y cenhadwr tanllyd, ar gychwyn ei yrfa, ac am lawer blwyddyn wedyn; ac hyd yn oed pan newidiodd ei farn ar fedydd, ac y cymerodd ei fedyddio, nid yw yn ymddangos iddo droi yn Fedyddiwr Caeth. Parhaodd yr Eglwysi a sefydlwyd ganddo i fod yn Eglwysi cymysg,—ac ymhen amser cydnabyddid hwynt fel Eglwysi Anibynnol. Dyna hanes Eglwysi Llanbrynmair, Llanfyllin, a Gwrecsam.

Nid oedd Cymanfaoedd cyhoeddus na Chynadleddau agored yn cael eu cynnal gan Anibynwyr Cymru'r oes honno. Cyfarfyddai y gweinidogion ar adegau i ymgynghori â'u gilydd, ac o bosibl i drefnu mesurau a materion perthynol i'w gwaith cyffredin. Ond ni wisgai yr ymgynghoriadau hynny y wedd ddeddfol a'r ffurf awdurdodol sy'n nodweddu Cymanfaoedd cyntefig y Bedyddwyr. Nid oes gennym gofnodion o honynt—a'r tebygolrwydd yw na chedwid cofnodion o gwbl. Yn wir mor "anibynnol" y parhaodd yr Anibynwyr ar y dechreu, fel y cawn, ymhen dros gan mlynedd ar ol hyn, gri yn cael ei godi yn erbyn y gweinidogion Anibynnol yn y De a feiddiasant sefydlu Cwrdd Chwarter,—ar y tir fod y cyfryw yn ymyrryd ag anibyniaeth yr Eglwysi! Felly, os mynnir olrhain hanes yr Anibynwyr yn y cyfnod hwn, rhaid chwilio am dano nid mewn cofnodion Cymanfa ond yn hanes personau ac yng ngweithgarwch Eglwysi unigol. Dyma ar unwaith nerth a gwendid Anibyniaeth. Rhoddai fwy o le, a llai o gylch, i'r dylanwad personol. Ymhob oes, o ddyddiau Cromwell hyd heddyw, mae dylanwad personoliaeth wedi bod yn amlwg yn hanes Anibyniaeth Cymru. Cymerer Walter Cradoc, Vavasor Powel, a Morgan Llwyd fel enghreifftiau yn y cyfnod dan sylw—er fod y ddau flaenaf fel sêr gwibiog yn fflachio o'r naill ochr i'r llall o'r gorwel yn ffurfafen dywell "Eglwys Vavasor Powel" y gelwid yr un fawr y cyfnod. a sefydlodd y cenhadwr fflamllyd yn Nhrefaldwyn; "Cradociaid" y gelwid aelodau'r Eglwysi a blannodd ei gyfaill mwy efengylaidd. Gellir dweyd yr un peth am Stephen Hughes, cysylltydd cyfnod Cromwell a chyfnod Siarl II.; am Hugh Owen, Bronyclydwr, goleuni'r hwn a fflachiodd fel seren gobaith y gogledd drwy holltiadau cymylau bygythiol erlidiadau Siarl II.; am Edmund Jones—yr Hen Broffwyd tanllyd o Bontypwl—a'i ddisgybl efengylaidd, Lewis Rees, o Lanbrynmair; am Phylip Pugh, a'r Dr. Phillips, Neuaddlwyd; am Gruffydd Hughes, y Groeswen, Rees Llanelli, a Williams Troedrhiwdalar; am J. R., S. R., a Michael Jones; am Dr. John Thomas, Dr. Rees, Abertawe, a Dr. Herber Evans—ac am aml un yn yr olyniaeth ddisglaer sy'n cysylltu Alpha ac Omega hanes yr enwad.

Ond, a siarad yn gywir, nid oes gennym Hanes yr Enwad. Mae gennym Hanes y Bedyddwyr, Hanes y Methodistiaid, Hanes y Wesleyaid—canys cyfundrefnau wedi eu canoleiddio, fwy neu lai, ydynt oll. Ond am yr Anibynwyr, Hanes yr Eglwysi Anibynnol, gan y Doctoriaid Thomas a Rees, a Hanes y Tadau Anibynnol, gan Mr. L. D. Jones, yn unig sydd gennym. Yn hanes y Dyn, a'r Eglwys, yn unig, y ceir hanes yr Enwad. Edrycher yn ol dros y cenedlaethau a'r canrifoedd, a sylwer ar aml i lecyn gwyrdd sy'n blodeuo fel gardd yr Arglwydd yng Nghymru, wedi ei ennill o'r anialwch gan waith un gwr neu un Eglwys. Ie, os mynner, edrycher ar faes cydgystadleuaeth enwadau, a sylwer pa fodd y mae dylanwad personoliaeth un dyn wedi codi gwrthglawdd yn erbyn rhuthr yr enwad a ymgystadlai; fel, ar yr amser yr ysgrifennir y llyfr hwn, mae'r Afon Tugela yn nodi ffin y tir a ddelir gan fyddin y Bweriaid yn Natal yn erbyn gallu milwrol Prydain—felly y ceir cylch dylanwad personoliaeth un dyn yn nodi llinell ffin enwadaeth mewn rhanbarthau o Gymru;—os mynner engraifft sylwer ar gylch dylanwad Dr. Phillips, Neuaddlwyd, yn Sir Aberteifi. Sieryd y ffaith fod cyn lleied o Eglwysi'r enwad wedi diflannu, yn uchel am burdeb zel a gloewder egwyddor gwerin yr Eglwysi hynny. Ar yr un pryd mae diflaniad neu ŵyrdroad Eglwysi Phylip Pugh yng Ngheredigion, yn sefyll i fyny fel colofn barhaol i rybuddio'r enwad o'r perygl i Eglwys edrych yn ol wedi i'w hathraw a'i harweinydd ei gadael, yn lle teithio yn wrol ymlaen ar y llwybr y dysgodd efe hwynt i gerdded. Am yr enwadau eraill, yn enwedig y rhai mwyaf cyfundrefnol, megys y Trefnyddion Calfinaidd a Wesleyaidd, a ffurfiwyd yn y ganrif ganlynol, gwelir dylanwad y personoliaeth yn gweithio nid mewn un rhanbarth, fel gyda'r Anibynwyr, ond yn y gyfundrefn fel cyfangorff. Felly y bu gyda John Myles ymhlith y Bedyddwyr cyntaf, gyda John Wesley ymhlith y Wesleyaid cyntaf, George Whitefield, Howell Harris, a Rowlands, Llangeitho, ymhlith y Methodistiaid anenwadol cyntaf ac mor amlwg a neb o honynt Thomas Charles o'r Bala, pan ymrisialodd y mudiad diwygiadol anenwadol i ffurf enwad gwahanfodol a gwahaniaethol. Daw y gwirionedd hwn yn amlycach pan olrheinir mewn penodau dyfodol ddadblygiad graddol y gwahanol enwadau.

Ceir yn hanes crefyddol y 17fed ganrif un engraifft nodedig arall o'r hyn a ddywedwyd uchod. Tua diwedd dyddiau Cromwell cododd y Crynwyr i lawer o gyhoeddusrwydd. George Fox oedd sylfaenydd y blaid hon yn y deyrnas. Lledodd ei egwyddorion yn fuan i Gymru. Gogleddwyr oedd prif ledaenwyr yr egwyddorion yn y Dywysogaeth, sef John ap John, un o aelodau Morgan Llwyd yng Ngwrecsam; Richard Davies o'r Trallwm, a'r brodyr Charles a Thomas Lloyd o Dolobran, ger Llanfyllin. Lledodd y blaid hon yn gyflym, yn enwedig yn Siroedd Maldwyn a Meirion, ac i raddau llai yn holl Siroedd Cymru, ag eithrio Mon ac Arfon. Buont ar un adeg yn allu a dylanwad cryf yn y Dywysogaeth. Nid oedd ganddynt y pryd hwnnw gyfundrefn i gario'r gwaith ymlaen, nac olyniaeth gyson o wŷr galluog ac ymgyflwynedig fel y rhai a gychwynnodd y gwaith, ac aethant yn wannach gwannach, nes nad oes erbyn hyn ond ychydig olion o'u llafur, a rhyw haner dwsin o gymdeithasau i etifeddu traddodiadau goreu heb ddim o lygriadau y Crynwyr cyntaf.

Casglwyd y blaid, ar y dechreu, gan mwyaf nid o'r byd, fel y gwnai'r enwadau eraill, ond o'r Eglwys, o blith proffeswyr crefydd, Bedyddwyr ac Anibynwyr gan mwyaf. Y rhai mwyaf eithafol a selog ymhlith yr Ymneillduwyr a droent at y Crynwyr. Yr oeddent yn dra gwahanol eu hysbryd a'u dull o weithio i'w holynwyr yn yr oes bresennol.

Y bobl hyn, pleidwyr heddwch ymhob oes a gwlad, oeddent y mwyaf ymosodol o'r holl enwadau Ymneillduol yn yr oes honno. Tra boddlonai'r Bedyddwyr a'r Anibynwyr ar gynal eu cyfarfodydd eu hunain yn nhawelwch eu cynulleidfaoedd eu hunain, heb ymyryd â, nac aflonyddu ar, heddwch cynulliadau eraill, mynnai'r Crynwyr cyntefig ymweled â'r Eglwysi plwyfol ac â'r addoldai Ymneillduol, ac yno godi eu llais mewn tystiolaeth yn erbyn yr hyn a dybient allan o le yn yr addoliad. Aent ymhellach hyd yn oed na hyn, gan ymosod mewn iaith wrthun ar offeiriaid Eglwysig ac ar weinidogion Ymneillduol ar yr ystrydoedd—a hyn oll yn enw "tystiolaeth oddiuchod." "Proffwydi Baal," Had y sarff," a'r "Gau-Grist," oedd yr enwau gorcu a roddent i glerigwyr pob enwad ond yr eiddynt hwy. Cymerent arnynt efelychu proffwydi'r Hen Destament. Ai benywod i ganol y gynulleidfa yn Eglwys y plwyf ar y Sul, wedi eu gwisgo mewn sachlian, "fel arwydd i genhedlaeth war-galed a throfaus." Aeth un i gapel Ymneillduol a llian gwyn wedi ei droi am dano, fel arwydd fod y wisg offeiriadol yn dod yn ol i'r gwasanaeth; rhoddodd raff am ei wddf gan broffwydo fod adeg eu rhwymo wrth y drws. Aeth un arall i'r Eglwys gan gario llusern a chanwyll wedi ei goleuo ynddi—fel arwydd fod eisiau goleuo eu tywyllwch. Ai eraill ohonynt yn noethion i'r ffeiriau, i dai offeiriaid a gwyr mawr, gan broffwydo y gwnai Duw felly iddynt hwythau.[19] Nid rhyfedd i rai felly gael eu herlid yn yr oes honno. Nid rhyddid cydwybod oedd hyn, eithr penryddid eithafol.

Er fod dull gweithio'r bobl hyn yn aml yn resynnus, yr oedd eu hamcanion yn ganmoladwy. Eu hamcanion cydnabyddedig oedd gwrthdystio yn erbyn ffurfioldeb crefyddol o bob math—mewn adeilad, mewn swydd, mewn gwisg; rhoi terfyn ar weinidogaeth gyflogedig; diddymu llwon; gwahardd arfau milwrol neu gnawdol o bob math. Hawlient fod y goleuni oedd ynddynt yn ysbrydoliaeth ddwyfol uniongyrchol.

Nodaf ychydig allan o lawer o wyr da a wnaethant wasanaeth amhrisiadwy yn y cyfnod hwn.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Rhys Prichard
ar Wicipedia

Y FICER RHYS PRICHARD, O Lanymddyfri, awdwr Canwyll y Cymry. Yr oedd yn bregethwr yn ogystal a bardd poblogaidd. Teithiai ol a blaen rhwng Llanymddyfri a Thy Ddewi, gan bregethu'r ffordd yr elai. Tyrrai'r bobl i'w wrando. Nid oedd Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi yn ddigon mawr i gynnwys y torfeydd a fynnent ei wrando—a rhaid oedd iddo bregethu yn yr awyr agored. Yr oedd yn efengylaidd a gwrth—Babaidd, ac nid ofnai un amser amlygu ei syniadau.[20] Er mai Eglwyswr oedd, un mawrfrydig heb ddim culni ydoedd. Cymysgai a'i athrawiaeth lawer o gynghorion ymarferol. [21] Pan fu farw, nis gallai'r bobl arferent ei wrando ddygymod â ffurfioldeb y gwasanaeth Eglwysig, ac aeth llawer o honynt yn Ymneillduwyr.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Stephen Hughes
ar Wicipedia

STEPHEN HUGHES, Mydrim, oedd offeiriad efengylaidd arall, o gyffelyb ysbryd i Ficer Prichard. Am dano ef y dywedwyd, "Os mai'r Ficer wnaeth y Ganwyll' mai Stephen Hughes a'i goleuodd."[22] Dyn o flaen ei oes ymhell oedd Stephen Hughes. Gwnaeth yn ei ddydd gyffelyb waith ag a wnaeth Rowlands Llangeitho ymhen union can mlynedd ar ei ol—sef sefydlu cymdeithasau (neu gyfeillachau) crefyddol o'r tu allan i'r Eglwys. Efe a grynhodd y cynulleidfaoedd Anghydffurfiol a ffurfiasant Eglwysi Ymneillduol Sir Gaerfyrddin, ym Mydrim, Pen-cader, Llanfihangel-Rhos-y-Corn, Llanon, Llanedi, Capel Isaac, Panteg, Llanybri, Henllan, a Threlech. Mae'n bosibl na fwriadai Stephen Hughes, ar y cyntaf, i'r cymdeithasau hyn fod yn ddim amgen na chyfeillachau o ddynion crefyddol ymhob ardal—ond ddarfod i rym amgylchiadau orfodi'r cymdeithasau hynny, fel rhai o'r Seiadau Methodistaidd a gasglwyd gan Rowlands Llangeitho ac eraill yn y ganrif ganlynol, i ymffurfio yn Eglwysi Ymneillduol. Os gellir cyfrif John Penry fel Tad Anghydffurfiaeth Cymru, rhaid edrych ar Stephen Hughes fel Athraw Pregethwyr Cymru. Dywedwyd gyda llawer o briodoldeb fod Samuel Jones wedi gwneud ei ddisgyblion yn ysgolheigion gwych, a bod Stephen Hughes wedi eu gwneud yn bregethwyr grymus. I'w gynghorion, ei esiampl, a'i ysbrydoliaeth ef, y rhaid priodoli'r dylanwad mawr a gafodd llawer o bregethwyr Cymru yn y cyfnod ar ol yr un sydd dan sylw. Mae yn anhawdd penderfynnu pa bryd y peidiodd a bod yn Eglwyswr ac y daeth yn Ymneillduwr.[23] Ond gyda'r Ymneillduwyr y llafuriodd fwyaf, a mwyaf llwyddiannus. Cyhoeddodd amryw lyfrau o nodwedd grefyddol—ac mewn cysylltiad â Thomas Gouge, o leiaf ddau argraffiad o'r Beibl. Gwnaeth fwy, o bosibl, i oleuo'r werin Gymreig na neb o'i flaen. Gydag ymron bob llyfr a gyhoeddodd, rhoddai gyfarwyddiadau syml sut i ddysgu darllen, ac anogai rieni i ddysgu eu plant, meistri eu gwasanaethyddion, a chymydogion eu gilydd, i ddarllen. Deuparth o'i ysbryd ef a ddisgynnodd wedi hynny ar yr enwog Jones Llanddowror.

WILLIAM WROTH, Llanfaches, tad Ymneillduaeth Cymru. Cyn ei droi allan o'r Eglwys yr oedd yn bregethwr poblogaidd. Deuai'r bobl yn finteioedd o'r siroedd cylchynnol, ar eu traed o bellafoedd sir Henffordd a Maesyfed, dros y culfor o Wlad yr Haf a Chaerloew, i Lanfaches[24]—fel y tyrrent i Langeitho ymhen can mlynedd wedyn, ac i Sasiwn y Bala yn ddiweddarach fyth.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Erbery
ar Wicipedia

WILLIAM ERBURY, o Gaerdydd, a drowyd allan ymron yr un amser a Wroth o Lanfaches. Gwrthod darllen Llyfr y Chwareuon o'r pwlpud ar y Sul oedd ei drosedd. Mae Cymru'n ddyledus iddo am ysbrydoli ei gurad, Walter Cradoc, a'i ddisgybl, yr enwog Morgan Llwyd o Wynedd.[25] Surodd ei ysbryd tua diwedd ei oes, ac ni fedrai ddygymod ag unrhyw ffurf—lywodraeth Eglwysig. Edrychai ar y Presbyteriaid fel yr edrychent hwy ar y Pabyddion; ac er y cydnabyddai fod yn well ganddo'r Anibynwyr a'r Bedyddwyr, eto, canfyddai ddiffygion amlwg ynddynt. [26]

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Vavasor Powel
ar Wicipedia

VAVASOR POWEL a enillodd o bosibl fwy o lid gelynion na neb o Ddiwygwyr y cyfnod hwnw. Sicr yw iddo gael mwy o'i crlid, a mwy o'i bardduo, na neb o'i gyd-weithwyr yng Nghymru. Fel Paul, gallai ddweyd ei fod mewn carcharau yn amlach" na neb o'i gydoeswyr.[27] Gorfu iddo ddioddef llawer yn nechreu ac yn niwedd ei yrfa gyhoeddus, ond cafodd lawer o heulwen yn y canol. Pan ddymunai gyntaf gael awdurdod i bregethu yn ei wlad enedigol, cododd rhai o aelodau Cynhadledd y Duwinyddion wrthwynebiad iddo, ar y tir nad oedd wedi cael ei ordeinio. Ond llwyddodd ei yni i berswadio'r Gynhadledd i wneud prawf arno; ac yn 1646 cafodd drwydded, wedi cael ei harwyddo gan ddau-ar-bymtheg o'r Duwinyddion, yn cynnwys dynion fel Joseph Caryl, Philip Nye, Stephen Marshal, a Christopher Love. Mor llawn of zel a brwdfrydedd ag oedd Paul pan yrrwyd ef gyntaf i bregethu Crist, nid oedd dim llafur yn rhy galed, na'r un ymdrech yn rhy fawr i Vavasor Powel. Fflachia fel gwib-seren ddisglaer ar draws awyrgylch dywell Cymru. Nid oedd nemawr i ran o'r Dywysogaeth nad ymwelodd efe â hi. Pregethai fel rheol bob dydd o'r wythnos, yn aml ddwy a thair gwaith y dydd, ac nid oedd teithio gan milldir y dydd, gan bregethu mewn gwahanol fannau, yn beth eithriadol ganddo. Erbyn hyn yr oedd yr Eglwysi Plwyfol yn agored i'r rhai oeddent gynt yn Anghydffurfwyr. Ar y Sul ceid ef yn llenwi pwlpud yr Eglwys; ar y Llun, o bosibl, yn Neuadd y Dref; trannoeth ceid ef yn annerch twrr o wladwyr ymgynhulledig o gwmpas efail gof y pentref; a thrachefn yn y mynydd—dir i hanner dwsin o ffermwyr neu fugeiliaid; gwyddai am bob ffair a marchnad ar ei lwybr ac yno uwch dadwrdd y prynwyr a'r gwerthwyr a brefiadau'r anifeiliaid, disgynnai ei lais fel sain cloch yn hawlio sylw pawb. Am dair blynedd gron bu'n llafurio felly ddydd a nos i oleuo ei gydgenedl. Lledodd y son am dano drwy y wlad a thros y terfyndir. Galwyd arno i Lundain yn gynnar yn 1649 i bregethu i'r Arglwydd Faer; ac i'w ymdrech bersonol ef gyda'r Aclodau Seneddol, yn ddiameu, y rhaid priodoli y rhwyddineb a'r hwn y pasiodd Deddf Lledaeniad yr Efengyl yng Nghymru'r flwyddyn honno. Yr oedd ei deithiau mynnych, a'i adnabyddiaeth bersonol o ardaloedd a chymeriadau, yn ei gymhwyso mewn modd neillduol i gyfarwyddo'r Dirprwywyr o dan y ddeddf, ymha ardaloedd y byddai'n ddymunol troi'r clerigwyr allan, a pha bersonau oeddent gymhwys i'w penodi yn arolygwyr crefyddol y siroedd, yn efengylwyr teithiol, ac yn bregethwyr cynorthwyol. Gyda'r ddeddf hon tu cefn iddo, ymdaflodd gydag ymroddiad newydd i'r gwaith yng Nghymru. Dywed rhai ei fod wedi casglu 20,000 o ganlynwyr yno cyn ei farw—ond mae hyn ar y wyneb yn anhygoel.[28] Ar y cyntaf yr oedd yn uchel yn ffafr Cromwell, ond pan wnaed hwnnw yn Arglwydd Amddiffynnydd y Deyrnas, trodd Powel yn wrthwynebydd iddo. Drwgdybid ef o geisio casglu milwyr i wrthryfela, a charcharwyd ef. Am rai blynyddau o'i weinidogaeth gyhoeddus, yr oedd yn Anibynnwr selog, ond trodd yn Fedyddiwr ymron yr un adeg ag y trodd yn wrthwynebydd i Cromwell. Bu farw yngharchar yn 1670—a'i unig drosedd oedd llwyr ymgyflwyniad i wasanaeth Efengyl Iesu Grist. Yn Wrth-Esgobaethwr mewn ymarferiad—er yn credu mai dyledswydd y Wladwriaeth oedd cynnal crefydd—yn Werinwr o ran ei olygiadau gwleidyddol, gadawodd argraff anileadwy ar hanes ei wlad enedigol, yn wleidyddol a chrefyddol.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Walter Cradoc
ar Wicipedia

WALTER CRADOC, cydweithiwr, ac ar un adeg athraw crefyddol Vavasor Powel, a saif ochr yn ochr â'r gwr mawr hwnnw yn ei ymdrechion diflino dros grefydd yng Nghymru. Oes y brwydro oedd honno, a chafodd Cradoc ei "fedydd tân" yn ei guradiaeth gyntaf o dan Erbury yn Eglwys Fair, Caerdydd. Mae cofnodion Llys Esgobol Llandaf yn cynnwys profion fod yr Esgobaethwyr, Iawn mor chwerw, a dweyd y lleiaf, yn erbyn y curad Cradoc ag oeddent yn erbyn yr offeiriad Erbury. Pan drowyd Erbury a Cradoc allan o Eglwys Fair, gorfu i'r olaf fynd drwy brawf mwy tanllyd fyth ar ei egwyddorion. Mynnai ei deulu iddo roi heibio ei syniad gor-Buritanaidd, ac yr oedd dyrchafiad Eglwysig yn ei aros os gwnai. Pan wrthododd aberthu ei egwyddorion, trodd ei deulu oll yn ei erbyn, a bu am flynyddau yn alltud oddiwrthynt. Gan nad oedd gwaith iddo yng Nghaerdydd, aeth yn efengylydd teithiol—a chanolbarth Cymru, Siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a Maldwyn oedd prif faes ei lafur. Gwelir ffrwyth ei waith yn y ffaith fod llinell o Eglwysi Ymneillduol—cadarnfeydd byddin yr Oen—wedi rhedeg ar hyd ei lwybr. Cariai ddylanwad personol mawr, mor fawr yn wir fel y collodd ei ddisgyblion, mewn mannau, enw eu henwad yn enw eu hathraw, ac adnabyddid hwynt, nid fel Anibynwyr, ond fel Cradociaid. Pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan, gorfu i Cradoc, a phregethwyr eraill, ffoi am eu heinioes i Lundain—dinas noddfa Diwygwyr yr oes. Unwaith wedyn, yn 1648, pan dorrodd yr ail Ryfel Cartrefol allan (gwel tud. 108) bu yn ffoadur dros dymor. Am ei ddylanwad yn y Senedd ceir profion lu, a danghosir y safle uchel oedd wedi ennill gyda'r awdurdodau gan y ffaith ei fod ef yn un o'r tri cyntaf a benodwyd gan y Senedd, yn 1645, i arolygu'r gwaith o efengyleiddio Cymru. Efe blannodd Eglwys Gwrecsam, ac un o'i ddychweledigion yno oedd yr enwog Morgan Llwyd o Wynedd. Yn wahanol i Vavasor Powel, glynodd Cradoc yn ffyddlon wrth Cromwell, a thorrwyd felly ar y cyfeillgarwch rhyngddo a Powel oedd wedi dal trwy holl stormydd. erledigaeth. Bu farw yn niwedd 1659, cyn ail gasglu cymylau duon erledigaeth dros y wlad a garai.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Miles
ar Wicipedia

JOHN MYLES, a elwir gyda phriodoldeb yn Dad Bedyddwyr Cymru. Cenhadwr wrth natur oedd John Myles, ac i'w ymdrechion personol ef y rhaid priodoli sefydliad cynifer o Eglwysi Bedyddiedig yn Siroedd Mor—gannwg, Mynwy, Caerfyrddin, Maesyfed, a Brycheiniog. Pan oedd Bedyddwyr Cymru yn ymfoddloni ar fod yn aelodau o Eglwysi cymysg, daeth John Myles i alw arnynt ddod allan o'u mysg. Sefydlodd yn 1649, yn Ilston, yr Eglwys Gaethgymunol gyntaf yng Nghymru.[29] Oddiyno lledodd ei ddylanwad dros ymron yr oll o'r Deheudir oddigerth Siroedd Penfro a Cheredigion. Crynhodd yr elfennau Bedyddiedig gwasgaredig yn Siroedd Maesyfed, Brycheiniog, a Henffordd, a phlan—nodd yno Eglwys gref, weithgar, i estyn ei changhennau hithau allan yn ei thro i feddiannu tir newydd. Gwnaeth yr un peth ym Mynwy, gan sefydlu Eglwys Llanwennarth. Meddiannodd ddarn helaeth o Sir Gaerfyrddin, yn ymestyn o Lanelli a Llangennech i lawr hyd dref Caerfyrddin. Dywed haneswyr mai yn 1662 y trowyd ef allan o dan ddeddf Unffurfiacth—Ond mae'n amlwg iddo gael ei droi allan yn 1660; canys, fel y gwelir yn y bennod nesaf, trowyd y Bedyddwyr allan o'u bywiolaethau o flaen yr un o'r enwadau eraill. Bu farw yn yr America.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Morgan Llwyd
ar Wicipedia

MORGAN LLWYD O WYNEDD. Mae y gwr enwog hwn yn perthyn yn gyfangwbl i gyfnod Cromwell. Daeth o dan ddylanwad dau eraill o gewri y cyfnod, sef Erbury a Cradoc. Bu yn derbyn ei addysg o dan y 'blaenaf, ac yn aelod o Eglwys yr olaf, gan ddyfod hefyd yn olynnydd i'r olaf yn y weinidogaeth yn Eglwys Anibynnol Gwrecsam. Rhwng Erbury a Cradoc yr oedd, erbyn dechreu'r rhyfel cartrefol, wedi cael ei drwytho mor llwyr â syniadau Anghydffurfiol mewn crefydd, a gwerinol mewn gwladweiniaeth, fel y gorfu iddo ffoi i Loegr am nodded. Yno enillodd y Cymro ieuanc nerth, a gallu, a dylanwad ymhlith arweinwyr y blaid Seneddol. Yn 1649 cydnabyddwyd ei alluoedd a'i gymhwysder, drwy ei benodi yn un o'r gweinidogion oedd i gyfarwyddo y Dirprwywyr o dan Ddeddf Lledaeniad yr Efengyl yng Nghymru. Gogledd Cymru, mae'n debyg, oedd maes arbennig goruchwyliaeth Morgan Llwyd. Gwyddis ei fod yn cyrraedd hyd Sir Fon, canys mae eto yn aros rhai o'i archebion yn awdurdodi talu cyflogau rhai o'r pregethwyr cynorthwyol o dan y ddeddf honno. Ond heblaw arolygiad cyffredinol, cariai waith Efengylydd ymlaen, gan ymweled â nifer o ardaloedd yn y Gogledd. Cariai ei bresenoldeb a'i ymddanghosiad personol, ddylanwad rhyfedd ar y werin. Dywedir, er engraifft, pan fyddai'n rhodio hyd heolydd trefi'r Gogledd ar ddydd marchnad neu ffair, a'i Feibl yn ei law neu o dan ei gesail, fod y torfeydd a lanwent yr heol, yn agor i wneud ffordd iddo fel pe bae yn un o urddasolion uchaf y wlad. Cymerai gwladgarwch Morgan Llwyd ffurf tra ymarferol, canys tra y cyhoeddodd Vavasor Powel, o bosibl, fwy o rifedi o lyfrau nag ef, yr oedd y rhai hynny, fel eiddo Diwygwyr Cymreig eraill y cyfnod, gan mwyaf oll yn Saesneg; apeliai Morgan Llwyd, ar y llaw arall, yn fwy uniongyrchol at y Cymro yn ei iaith ei hun. Nid oes ond un o'i lyfrau wedi ei ysgrifennu yn wreiddiol yn y Saesneg.[30] Ei waith llenyddol mwyaf adnabyddus yw "Llyfr y Tri aderyn." Bu farw yn 1659, yn ddeugain oed, cyn gweled dydd adfyd ei grefydd a'i wlad o dan Siarl II. yn gwawrio.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Jenkin Jones
ar Wicipedia

JENKIN JONES, oedd foneddwr cyfrifol yn Sir Frycheiniog. Wedi derbyn addysg yn Rhydychain, ymgymerodd a gwaith y weinidogaeth, ond pan dorrodd y rhyfel cartrefol allan, tybiodd ei fod yn gymaint dyledswydd arno wisgo'r cleddyf dur ag ydoedd i gario cleddyf yr Ysbryd. Drwy ei yni a'i ddylanwad casglodd gorff cryf o wyr arfog o blaid y Senedd yn Sir Frycheiniog, ac er fod y brenhinwyr yn lluosog yno, llwyddodd ef i'w cadw rhag anrheithio ac erlid yr Anghydffurfwyr fel a wnaent mewn siroedd ereill.[31] Penodwyd yntau yn un o Brawfwyr Deddf Lledaenu'r Efengyl yng Nghymru, a phenodwyd ef i un os nad ychwaneg o fywiolaethau Eglwysig. Ar esgyniad Siarl II. yr oedd yn beriglor Cadoxton ger Castellnedd, o'r lle y trowyd ef allan. Dioddefodd lawer wedi hyny, a charcharwyd ef, a rhan o'r gynulleidfa a gasglodd o'i gwmpas yng nghymydogaeth Llanymddyfri. Yr oedd yn Fedyddiwr, ond yn perthyn i'r dosbarth rhyddfrydig eu barn ar gwestiwn bedydd.[32]

Yr oedd amryw eraill o Ddiwygwyr enwog a gweithgar yn y cyfnod hwn. Ond nid oes nodweddion eithriadol yn perthyn iddynt (ag eithrio o bosibl Richard Davies, y Crynwr, am yr hwn y ceir manylion yn y cyfnod nesaf). Eto mae un gwr enwog, mewn rhai ystyriaethau y galluocaf o Gymry yr oes. honno, y dylid sylwi arno yn y fan hon, er mai o'r tu allan i Gymru yn bennaf y dygodd ei waith ymlaen.

DR. JOHN OWEN oedd un o brif golofnau Ymneillduaeth Anibynnol yn Lloegr. Pan yn 12 mlwydd oed derbyniwyd ef yn aelod o brifysgol Rhydychain, lle y graddiodd yn M.A. pan yn 19 oed, Gan nas gallai ddygymod â defodaeth eithafol yr Eglwys, derbyniodd alwad i weinidogaeth Eglwys Ymneillduol Coggleshall. Ymgysylltodd â'r Anibynwyr mewn gwleidyddiaeth yn ogystal a chrefydd. Yn 1652 penodwyd ef yn Ddeon Coleg Eglwys Crist yn Rhydychain, ac yn fuan wedyn gwnaed ef yn Is-Ganghellydd y Brif Ysgol. Yr oedd yn un o'r gweinidogion a benodwyd i gyfarfod a nifer o gynrychiolwyr o enwadau eraill yn 1654 i geisio cytuno ar nifer o bynciau sylfaenol a ellid eu derbyn fel sail cyd-weithrediad yr holl enwadau ac yn y gynhadledd honno daeth i wrthdarawiad a'r enwog Richard Baxter, ac edrychid ar y Cymro a'r Sais fel dau arweinydd dwy blaid fawr. Cafodd Dr. John Owen gymaint rhan yn ffurfio egwyddorion yr Anibynwyr mewn gwlad ac Eglwys ag a gafodd Baxter ar bolisi yr adran Bresbyteraidd. Yr oedd yn ysgrifennwr diflino. Dyry Wood (Athene Oxoniensis, pp. 741—748) restr o yn agos i 70 o weithiau llenyddol Dr. Owen. O dan ei aden ef yr aeth ei nai, Hugh Owen, Bronclydwr,[33] i'r Brifysgol, ac yr oedd delw ei ewythr yn amlwg ar egwyddorion cryf, clir, Apostol Meirion tra bu byw. Yr oedd yn un o'r ychydig Buritaniaid a lwyddodd i ennill parch Siarl II. anfoesol, a Iago II. Babyddol. Cadd gynnyg esgobaeth pe cydymffurfiai—ond yr oedd gormod o asgwrn cefn yn egwyddorion y Cymro dysgedig i ganiatau iddo wneuthur hynny. Bu Dr. Owen farw yn 1683.

Nodiadau

[golygu]
  1. Rapin, vol. ii., p. 550.
  2. Mae yn gyd-darawiad (ai gwrth-darawiad ddylaswn ddyweyd?) tra hynod, fod yr Eglwys a flaenorodd Gymru yn eu gwrthdystiad yn erbyn Pabyddiaeth 260 mlynedd yn ol, erbyn heddyw yn blaenori Eglwysi'r Dywysogaeth mewn rhwysg Pabyddol.
  3. Journals of the House of Commons, vol. ii., p. 189.
    Dylid, efallai, egluro mai cefnogi ac annog ymdrech lleol a wnaeth y Senedd yn 1641, yn hytrach na gwaddoli plwyfi neu eglwysi. Yn nghofnodion Ty'r Cyffredin, Meh. 26, 1641, sonnir am ddeiseb a dderbyniwyd oddiwrth weinidogion yng Nghymru a awdurdodwyd i bregethu yn y lleoedd hynny a safent mewn angen. Ymddanghosodd Walter Cradoc o flaen y Ty i ategu'r ddeiseb. Amcan y ddeiseb oedd sicrhau diogelwch a llonyddwch i'r rhai a fynnent bregethu'r Efengyl yng Nghymru. Yna, ym Medi, 1641, pasiwyd fel a ganlyn:—
    Gorchymynnir y bydd yn gyfreithlon i blwyfolion unrhyw blwyf yn Lloegr a Chymru i sefydlu darlith, ac i gynnal gweinidog uniongred, ar eu traul eu hunain, i bregethu bob Dydd yr Arglwydd, lle nad oes bregethu, ac i bregethu un dydd ymhob wythnos, lle nad oes darlith wythnosol."—Journals of the House of Commons.
    Gwelir felly mai yr egwyddor wirfoddol oedd o dan wreiddyn yr ymgais hwn i efengyleiddio Cymru.
  4. "Ordered that out of the lands of the bishops, deans and chapters of Llandaff and St. David, there be three hundred pounds per annum allowed and paid unto Mr. Henry Walter, Mr. Richard Symonds, and Mr. Walter Cradock, ministers, during the pleasure of the House, equally to be divided between them, viz., one hundred pounds per annum to each, towards their maintenance in the work of the ministry in South Wales."—Journals of the House of Commons.
  5. Ar Awst 15, 1645, penderfynnodd y Senedd:—
    Wele gopi o'r cofnodiad fel y'i ceir yn llyfrau Ty'r Cyffredin:—
    An ordinance for constituting Mr. Richard Symonds, Henry Walter, and Walter Cradock, ministers, to preach itinerantly in the several counties of South Wales, and for allowing each of them one hundred pounds per annum out of the rents and revenues of the deans, deans and chapters and prebends of St. David's and Llandaff for their pains—and likewise for constituting a committee to sequester the said rents and revenues, and pay the said stipend to the said ministers out of them—was this day read; and, upon the question, passed, and ordered to be sent unto the Lords for their concurrence.
    Resolved, &c., that Mr. Recorder do prepare and bring in an ordinance for settling committees, for the better establishing the affairs of North Wales, for putting the ordinances of Parliament into execution, and for settling a preaching ministry there; and for taking care of providing maintenance for them; and for sending down ministers that may be able to preach in the Welsh tongue; and for appointing a standing committee to take notice of, and overview the actions of the several committees of those counties; and to consider of members of this House to go into those counties; and to prepare instructions for them.
    October 28th, 1646, Ordered, that Mr. Cradock, Mr. Symonds, and Mr. Walter, who were formerly appointed to go into Wales, to preach the gospel there, do with all convenient speed proceed thither, according to the former appointment; and that the former allowance ordered to be paid to them for their pains be now paid unto them by the committee of the revenue.—Journals of the House of Commons, vol. iv., pp. 622, 707.
  6. Gwel tudal. 78.
  7. Wele gopi o ateb Cromwell:—
    "Gentlemen,—The late Parliament not having continued the Act for the Propagation of the Gospel in Wales, and there being no supreme power as yet settled, by whose authority the liberty of the Gospel in Wales may be established, I would advice you to go on cheerfully in the work as formerly to promote these good things, and to protect good men in the said work, and put in execution the things settled by former Acts, and ordinances in that behalf. In so doing the Lord will be with you, and you shall have all fitting assistance and encouragement therin from myself, until those placed in supreme power shall take further order.—I rest, your loving friend,
    O. CROMWELL.
    Whitehall, April 25th, 1653.
    To my loving friends the Commissioners named in a late Act of Parliament, entitled, an Act for the better Propagation and Preaching of the Gospel in Wales."—Record Office State Papers Interregnum, vol. xxxv.
  8. "Ein bod yn tynnu yn ol oddiwrth bawb gweinidogion ar sydd yn derbyn eu cynhaliaeth gan yr ynadon, ac oddiwrth bawb ar na chyd-syniant ag athrawiaeth iachus, neu a ddysgant yn wahanol i'r cyfryw."—Llyfr Eglwys Llanwennarth, Mai 11, 1655.
  9. Un o'r pethau anhawdd i'w hesbonio ynglyn a'r cyfnod hwn, yw gwir safle John Myles. Efe a sefydlodd Eglwys y Bedyddwyr yn Ilston ger Abertawe yn 1649—a gelwir ef gan rai yn Dad Bedyddwyr Cymru. Ond yr oedd hefyd yn dal bywoliaeth Eglwysig fel Offeiriad Plwyf Ilston, hyd nes y trowyd ef allan ar Adferiad Siarl II. yn 1660. Ai Eglwys Bedyddwyr Ilston oedd Eglwys y Plwyf? Os felly nid Eglwys Ymneill—duol mohoni yr adeg honno. Ai ynte a oedd John Myles, tra yn offeiriad Eglwys y Plwyf, yn gweithredu hefyd fel gweinidog i Eglwys Ymneillduol o gyffelyb syniadau i'r rhai a ddysgid y pryd hwnnw yn yr Eglwysi Plwyfol hefyd? Os y blaenaf, nis gellir galw'r Eglwys yn Ymneillduol tan 1660, pan drowyd ef allan o'i fywoliaeth eglwysig. Os yr olaf, ceir cyffelybiaeth hynod, a'r hyn a geid yn aml yng Nghymru yn y ganrif nesaf, pan weithredai Clerigwyr Eglwys Loegr fel trefnwyr Cymdeithasau Crefyddol o'r tu allan i'r Eglwysi—er yr ystyrrid hwynt am hir amser fel rhan hanfodol o'r "Eglwys.' Yr oedd eraill mewn cyffelyb safle i John Myles; nodaf ef am ei fod yn ddyn adnabyddus, a'r amgylchiad yn un nodweddiadol ac amlwg. Gwel eto tudal 116-119.
  10. Hanes y Bedyddwyr Joshua Thomas.
  11. A Call to the Churches, or a Packet of Letters for the Pastors of Wales. No. 6. Wm. Erbury, Aug., 1652.
  12. The Weekly Intelligencer, Ebrill 30, 1646.
  13. Gweithiau Dr. Owen, cyf viii., tudal. 452
  14. Dywed Thurloe fod yr enwau ar wrthdystiad Vavasor Powel, oll yn yr un lawysgrifen, a bod llawer wedi cael eu gosod heb ganiatad, tra roedd y rhai oedd a'u henwau wrth ateb Cradoc wedi torri eu henwau eu hunain.—Thurloe's State Papers, vol. iv., p. 505.
  15. Walker's Account of the Sufferings of the Clergy, p. 278.
  16. Y cyhuddiad yn erbyn Myles gerbron y llys, Gorff. 2, 1667, oedd ei fod heb wybodaeth na chymeradwyaeth y Llys wedi sefydlu cyfarfod cyhoeddus, a thrwy hynny wedi aflonyddu ar heddwch y lle; fod parhad y gymdeithas honno yn Rehoboth yn niweidiol iawn i heddwch yr Eglwys a'r dref honno, ac nas gellir ei ganiatau." Gorchymynnwyd iddynt roi heibio'r cyfarfodydd o fewn mis. Dirwywyd Myles i bum punt. Addawodd y llys, er hynny, os symudai Myles i rywle arall, heb fod yn ddigon agos i Eglwys Rehoboth i aflonyddu arni, y caent ganiatad i sefydlu Eglwys yno—ac yn Hydref, yr un flwyddyn, rhoddodd y Llywodraeth ddarn o dir iddynt, lle y sefydlasant, gan godi tref Swansea, Massachusetts.
  17. Hanes y Bedyddwyr, Joshua Thomas, tudal. 80.
  18. The Ilston Records.
  19. Fox's Journal. 323 et seq.
  20. Wele ddau bennill o'i eiddo fel engraifft o lawer:—

    Os y Purdan sy'n ein golchi
    O'n pechodau oll, a'n bryntni,
    Pam y dywaid y Scrythyrau
    Mae gwaed Crist sy'n golchi beiau?

    Os ca i waed fy Nghrist i'm golchi
    O'm holl bechod, o'm holl fryntni,
    Cloed Pab fi 'nghenol Purdan,
    Ni bydd arna i byth ei ofan!


  21. Wrth y mab dywed:—

    Od wyd wr mawr o alwad uchel,
    A'th dad yn dlawd a'i radd yn isel,
    Rho barch i'th dad, er cuwch o'th alwad,
    Anrhydedda'th fam yn wastad.


    Wrth y carwr y mae yn dweyd:—

    Pan yr elych gynta i garu,
    Galw ar Dduw os myn di ffynnu,
    Cais ei Ysbryd i'th gyfarwyddo,
    Hebddo nid oes lun i'th lwyddo.


    I'r llanc a'i fryd ar briodi, dyrry gynghorion pa fodd i ddewis ei wraig:—

    Gwachel goegen falch, ddifeder;
    Gwachel soga sur, ansuber;
    Gwachel un oludog, ffromffol;
    Honno fina di a'th bobol.

    Cais wraig ddistaw dda ei nwyde,
    Ddof ei natur, bach ei chwedle,
    Cais wraig fedrus ddoeth, rinweddol,
    Honno gwyd yn ben i'th bobol.


  22. Cyfeiriad sydd yma at y ffaith iddo gyhoeddi cynifer o argraffiadau o Ganwyll y Cymry.
  23. Cyfrifa Dr. Rees, Abertawe, ef ymhlith y rhai a drowyd allan yn 1662. Cynhwysaf innau ei enw ar y rhestr a geir yn nes ymlaen. Ond mae lle i amheu cywirdeb hyn, canys dywed Stephen Hughes ei hun, yn ei ragymadrodd i Ganwyll y Cymry; yn 1645, mai "Neillduwr" ydoedd y pryd hwnnw. A gafodd efe fywoliaeth Mydrim wedi hynny, a chyn 1662, nis gwn. Tueddir fi i feddwl naddo,—a bod hynny, o bosibl, yn cyfrif am y ffaith ddarfod iddo allu gweithio cymaint i sefydlu achosion Ymneillduol drwy Sir Gaerfyrddin a rhannau Sir Aberteifi.
  24. Erbury's Apocrypha, p. 8.
  25. Yn ei lythyr, dyddiedig o Wrecsam, Ebrill 29fed, 1652, geilw Morgan Llwyd Erbury ei. "hen anwyl ysgolfeistr." Yr oedd gan Erbury syniad uchel am ei gyn—gurad Walter Cradoc, yr hwn a ystyriai fel y blaenaf o Weinidogion Gymru.—Llythyr Erbury at Cradoc, Awst 31, 1652.
  26. An Answer to the Articles and Charges exhibited against William Erbery before the Honble Committee for Plundered Ministers, March 9, 1652.
  27. Bu 13 o weithiau yng ngharchar o fewn yr 11 mlynedd olaf o'i oes.
  28. Dywed rhai haneswyr ei fod wedi casglu ugain o Eglwysi Bedydd—iedig yng Nghymru, yn rhifo o 200 i 500 aelod yr un. Hyd yn oed pe bac hyn yn wir, a chymeryd aelodaeth pob Eglwys yn bum' cant, 10,000 a fuasai'r cyfanrif ac nid 20,000. Ond fel y gwelir (tudal 113) nid oedd ond wyth o Eglwysi'r Bedyddwyr yng Nghymru pan goronwyd Siarl II.—ac nid oedd aelodaeth Ilston, y fwyaf gweithgar ohonynt, yn agos i 300.
  29. Wele gopi o'r penderfyniad i ymffurfio yn Eglwys, a geir yn Llyfr Cofnodion Eglwys Ilston, Hyd. 1af, 1649:—
    "Nis gallwn lai na rhyfeddu doethineb anchwiliadwy a gallu a chariad Duw yn dwyn oddiamgylch ei fwriadau ei hun, ymhell uwchlaw a thu hwnt i allu a deall y doethaf o ddynion. Fel hyn er gogoniant ei enw mawr y deliodd efe a ni; oblegid pan nad oedd un cwmni neu gymdeithas o bobl yn dal allan a phroffesu athrawiaeth addoliad, trefn, a disgyblaeth, yr Efengyl yn ol y sefydliad cyntefig yn holl Gymru ag y clywsom ni am danynt, er amser y gwrthgiliad; gwelodd yr Arglwydd yn dda i ddewis y gongl dywell hon i osod ei enw ynddi; a'n hanrydeddu ni, rai anheilwng, a'r dedwyddwch o fod y cyntaf yn yr holl barthau hyn, ym mysg pa rai yr arferwyd yr ordinhad ogoneddus o Fedydd, ac yma i gasglu yr Eglwys gyntaf o Gredinwyr Bedyddiedig."
  30. "A Dialogue between Martha and Lazarus, about his Soul."
  31. Jones's History of Breconshire, vol. ii., p. 525.
  32. Gwn fy mod wrth ddweyd hyn yn gwahaniacthu oddiwrth Dr, Rees, yr hwn a'i hawlia fel Anibynnwr. Ond ymddengys i mi fod y llythyr o eiddo John Myles at Eglwys y Gelli yn 1649 (gwel Seren Cymru, Mawrth 29, 1872) yn gwneud y peth tu hwnt i amheuaeth. Nis gellir rhoi esboniad arall ar y llythyr na (1) Fod Jenkin Jones yn Fedyddiwr; (2) Ei fod yn ei gymeriad fel gweinidog yn cyfrannu ordinhad Swper yr Arglwydd i Eglwysi nad oeddent Fedyddwyr; (3) Mai am ei fod yn gwneud hynny y condemnia John Myles ef, gan ddweyd ei fod yn adeiladu gwair a sofl" ar sylfaen oedd wedi ei dechreu yn dda ganddo.—B. G. E.
  33. nodyn: Nid oedd Hugh Owen yn nai i John Owen, roedd John yn gefnder i dad ac i fam Hugh Owen

PENNOD XI.
DEDDF UNFFURFIAETH 1662.

Gyda marwolaeth Cromwell, collodd y Weriniaeth ei chadernid. Yr oedd ei fab Richard yn rhy wan i ddal yr awenau pan syrthiasant o law ei dad; ac nid oedd ymhlith Ymneillduwyr Lloegr neb arall o'i ysgwyddau i fyny yn uwch na'i frodyr a feiddiai anturio i lenwi lle y gwron ymadawedig. Y canlyniad fu i Siarl II., yn 1660, esgyn yn ymarferol ddi-wrthwynebiad i'r orsedd oddiar yr hon yr hyrddiwyd ei dad ddeuddeng mlynedd cyn hynny.

Mewn effaith yr oedd yr Ymneillduwyr wedi bod yn llywodraethu'r wlad am ddeunaw mlynedd. Am chwech o'r rhai hynny y Presbyteriaid oedd â'r awenau yn eu dwylaw; am ddeuddeng mlynedd yr Anibynwyr oeddent yn rheoli.

Fel y gwelir wrth y penodau blaenorol, yr oedd syniad y ddau enwad am foesoldeb cyhoeddus yn hollol wrthwynebol i eiddo'r Esgobyddion. Gallesid disgwyl y buasai yn agos i ugain mlynedd o ymarferiad mewn moesau, wedi gwneud y wlad yn gyffredinol ffafriol i oruchwyliaeth y Puritaniaid. Y dybiaeth gyffredin yw mai felly y bu; eithr tybiaeth gyfeiliornus yw. Ni bu moesau cyhoeddus erioed mor isel yn nyddiau Iago I. a Siarl I. ag oeddent yn nheyrnasiad Siarl II. Gwir na bu adeg, o bosibl, erioed cyn hynny yn hanes y deyrnas y telid cymaint parchi allanolion crefydd ag a wnaed yng nghyfnod y Weriniaeth. Perchid dydd yr Arglwydd, cedwid dyddiau ympryd ac ymostyngiad mynych, gofelid am arferiadau cyhoeddus crefydd yn fanwl a chyson. Ni lenwid pwlpudau'r wlad erioed gan alluocach dynion, na rhai mwy difrifol ac ymgyflwynedig. Deil y gweithiau duwinyddol a gyhoeddwyd yn y cyfnod hwnnw, gan y Tadau Puritanaidd o bob enwad, eu cymharu â chynyrchion rhagoraf unrhyw oes na gwlad. Ond nid oedd calon y bobl wedi troi oddiwrth wagedd a'r canlyniad fu, pan ddaeth yr hen oruchwyliaeth esgobyddol yn ol gyda Siarl II., torrodd yr hen arferion, oeddent wedi cael eu cronni yn ol o dan ddylanwad awdurdod y Puritaniaid am ddeunaw mlynedd, allan yn ffrydlif o anfoesoldeb i lygru cymdeithas, o lys y brenin i lawr hyd at ffeiriau a gwyl mabsantau'r werin.[1] Yr unig wahaniaeth, o safle foesol a chrefyddol, rhwng y wlad pan esgynnodd Siarl II. a'r hyn a welid yn nyddiau ei dad oedd, fod erbyn 1660 nifer o wahanol ffynonellau o ddylanwadau, addysg, ac egwyddorion purdeb, yn tarddu allan yn ffrydiau byw, iachusol, mewn gwahanol rannau o'r deyrnas, a'r ffrydiau hynny, er yn ymddangosiadol ar y cyntaf wedi ymgolli ym mudreddi llanw mawr llygredd yr oes, eto i gyd yn gweithio yn araf ond yn sicr i buro a phereiddio yr holl ddyfroedd â'r rhai yr ymgymysgent.

Ac eto rhai o grefyddwyr gonestaf y wlad oeddent gyfrifol am adfer Siarl II. i'r Orsedd, a thrwy hynny am agor lif ddorau anfoesoldeb cyhoeddus ar y naill law, ac anoddefiad ac erledigaeth crefyddol ar y llall. Nid gormod yw dweyd mai'r peth olaf a ddisgwyliai'r Presbyteriaid wrth alw Siarl II. i'r Orsedd oedd sefydlu anfoesoldeb yn llys y brenin, a gosod deddf gaethiwus Unffurfiaeth ymhlith cyfreithiau'r deyrnas. Ac eto dyna a fu canlyniad yr hyn a wnaethant. Cymerasant yr hyn a dybient hwy oedd yn bob rhagofal. Cyn galw Siarl yn ol i Loegr o'r Cyfandir lle yr oedd wedi ffoi, aeth nifer o weinidogion Presbyteraidd ato er dod i ddealltwriaeth âg ef pa beth a wnai pe y cai'r goron ar ei ben. Addawodd yntau bopeth iddynt ar a geisient ganddo. Penododd nifer o honynt yn gaplaniaid iddo ef—mesur o ryddfrydigrwydd nad oes na brenin na brenhines ar ei ol wedi ei efelychu. Addawodd esgobaethau i nifer o honynt, a goddefiad crefyddol i bawb. A rhag y tybiai neb mai eu twyllo yr oedd, gyrrodd allan led-led y deyrnas y mynegiad hanesyddol hwnnw a adwaenir fel "Cyhoeddiad Breda" (The Declaration of Breda").

Ymhlith y pethau a addawodd Siarl yn y cyhoeddiad hwn, nodaf

I. Yn wleidyddol—maddeuant am bob troseddau blaenorol yn erbyn y goron, a hawl i'r Senedd benderfynnu cwestiynau yn dal perthynas ag eiddo tirol.

II. Yn grefyddol—y cai cydwybodau tyner berffaith ryddid, ac na aflonyddid ar neb am ei opiniynau crefyddol, na'i ffurf-wasanaeth mewn addoliad, os na fyddai hynny yn ymyrryd â heddwch y deyrnas.

Gwystlodd Siarl ei air fel brenin y byddai iddo gadarnhau unrhyw ddeddf yn darparu am y pethau hyn, a besid gan Senedd rydd yn Lloegr. Wrth ei weled mor hydrin aeth y gweinidogion Presbyteraidd yn eofn arno, a cheisiasant ganddo wahardd defnyddio'r Llyfr Gweddi na'r Wenwisg yn y gwasanaeth. "Oh na!" ebe Siarl yn ddigon call, "tra 'rwyf yn rhoi rhyddid cydwybod i chwi, yr wyf am gadw fy rhyddid cydwybod fy hun."

Dichon y byddai yn ormod dweyd fod Siarl, wrth wneud yr addewidion pendant hyn, yn bwriadu eu torri. Ac eto nis gellir ei ryddhau o'r cyfrifoldeb am eu torri—canys eu torri a wnaed o fewn blwyddyn gyntaf ei deyrnasiad. Os sylwir, mae addewid Siarl yn ymddibynnu ar yr hyn a wnai y Senedd. Os caniatäi'r Senedd y pethau a addawai efe, ymgymerai yntau gadarnhau hynny. Ni ddaeth i galon y Presbyteriaid i amheu am foment na fyddai'r Senedd yn barod i wneud hyn. Yr oeddent hwy a'r Anibynwyr, rhyngddynt a'u gilydd, wedi dal y Senedd yng nghledr eu llaw am yn agos i ugain mlynedd, ac ni ddychmygent mai arwynebol, wedi'r cwbl, oedd llawer o'r dylanwad ymddangosiadol oeddent wedi ennill ar y wlad. Ac eto felly y bu. Pan eisteddodd Senedd gyntaf Siarl, dymchwelwyd holl obeithion y Presbyteriaid, a gwelodd y craff ar unwaith nad oedd Cyhoeddiad Breda mwyach yn werth y papur yr ysgrifennwyd ef arno.

Eithr ni chanfu'r Presbyteriaid hynny ar y cyntaf. Yr oeddent wedi eu llyncu i fyny gan y syniad fod y brenin yn gyfangwbl yn eu dwylaw. Dechreuwyd cario ymdrafodaeth ymlaen rhyngddynt â'r brenin yn bersonol. Ac yn yr holl ymdrafodaethau a fu y pryd hwnnw, a wedi hynny, rhwng yr Ymneillduwyr a'r Llys, gyda'r amcan o ddarganfod tir cyffredin ar yr hwn y gellid ad-uno'r Anghydffurfwyr a'r Esgobaethwyr yn un corff yn Eglwys Loegr, Richard Baxter yw'r arwr mawr, y personoliaeth canolog amlwg o gwmpas yr hwn mae'r holl amgylchiadau megys yn troi, ac ar air a gweithred yr hwn y mae ymddygiadau gwrth-Esgobaethwyr y deyrnas yn ymddibynnu. Unwaith eto canfyddwn nad oedd yr un Cymro yn cymeryd rhan flaenllaw yn yr ymdrafodaethau hyn. Ond bellach nid yr un rheswm sy'n cyfrif am hynny ag oedd yn cyfrif am eu habsenoldeb yn adeg y cydymdrech â Siarl I. Diffyg dynion cymhwys yn feddiannol ar ysbryd digon gwrol, oedd yn cyfrif am lonyddwch Cymru gynt. Ond yn awr nid oedd y gwroniaid a ymladdent hyd at waed dros ryddid, mwyach yn cymeryd rhan yn yr ymdrafodaeth. Y Presbyteriaid yn unig, gydag un neu ddau tebyg i Baxter nas gellid eu hawlio gan na Phresbyteriaid,[2] Anibynwyr, na Bedyddwyr—oedd yn cario'r ymdrafodaeth ymlaen â Siarl. Nid oedd yr un Anibynnwr na Bedyddiwr yn eu plith. Tybid unwaith fod apel a rhesymeg Baxter wedi cario'r dydd ar Siarl, canys yr oedd yn llawn hawddgarwch. Ym mis Hydref, 1660, rhoddodd "Gyhoeddiad y Neuadd Wen" (The Whitehall Declaration), yn yr hwn y caniateid llawer o bethau a ddymunai'r Presbyteriaid. Pe y rhoddid grym cyfraith i Gyhoeddiad y Neuadd Wen, teilyngai'r weithred ei rhestru fel Siarter Rhyddid Crefyddol, ochr yn ochr a Siarter Fawr y Brenin Ioan am ryddid gwladol.

Yn ol cynllun Siarl, sefydlid esgobyddiaeth; chwyddid rhif ond lleiheid awdurdod yr Esgobion; cyplysid yr henaduriaeth (h.y., y clerigwyr yn yr Esgobaeth) a'r Esgob mewn rheoleiddio gwaith yr esgobaeth; buasai pawb at eu rhyddid i arfer neu beidio arfer y defodau; adolygid y Llyfr Gweddi, ac ni fuasai raid ei ddefnyddio; adnewyddid yr addewid o ryddid cydwybod i bawb.

Fel prawf sylweddol o'i onestrwydd yn y mater, cynygiodd Siarl Esgobaeth Henffordd i Baxter; Coventry a Lichfield i Calamy; Carlisle i Gilpin; a Norwich i Reynolds. Neillduid yn yr un modd dair Deoniaeth gyfoethog i eraill o'r blaid. Gwrthodasant oll ond Reynolds. Nid am nad oeddent yn foddlon derbyn swydd ar yr amodau hynny, ond am nad oedd y Cyhoeddiad yn ddeddf hyd nes y'i cadarnheid gan y Senedd. Yn awr y gwnaeth Baxter gamgymeriad mawr ei oes. Deffrodd y dadleuydd—ac aeth y diplomydd i hepian. Yn lle derbyn Cyhoeddiad y Neuadd Wen fel ernes o bethau gwell yn y dyfodol, aeth Baxter i'w feirniadu. Gwelodd plaid yr Eglwys eu mantais. Pan ddygwyd mesur i'r Senedd i gadarnhau y Cyhoeddiad, gwrthwynebid ef gan yr Esgobion—a thaflwyd ef allan. Collodd Baxter yr unig gyfle a gafodd erioed i allu dylanwadu ar Eglwys Esgobaethol Lloegr yn llesol oddifewn iddi. Gyrrodd yr Esgobion, yn cael eu harwain gan Sheldon a Morley, gerbyd deddfwriaeth ataliol yn chwyrn o hyn allan.

Un o'r deddfau cyntaf a basiwyd oedd un yn darparu am adfer i'w bywiolaethau y clerigwyr hynny a drowyd allan o'r flwyddyn 1642 hyd 1659. Ond os oedd neb o'r cyfryw naill ai wedi cydsynio â gwaith y Gwerinwyr yn profi a dienyddio Siarl I., neu yn Wrth-Faban-Fedyddwyr, cauid hwynt allan o freintiau'r ddeddf. Felly cawn y Bedyddwyr yn unig, o'r Enwadau Ymneillduol, yn cael eu rhestru gyda'r teyrn fradwyr[3]—tra y caniateid i glerigwyr o foesau llygredig cydnabyddedig feddiannu eu lleoedd.

Cymerodd y wlad yr awgrym oddiwrth y Senedd, ac yn Exeter yn unig erlynwyd 40 o weinidogion am beidio darllen y Llyfr Gweddi yn y gwasanaeth.

Y flwyddyn ganlynol, 1661, pasiwyd Deddf y Corfforiaethau, yn gofyn gan bob ustus a swyddog mewn tref i ymwrthod a'r "Cyfamod," i dyngu ffyddlondeb i egwyddor ufudd-dod goddefol,—a'u gwneud yn amod swydd eu bod wedi cyfranogi o Swper yr Arglwydd yn ol defod Eglwys Loegr, o fewn blwyddyn cyn eu hetholiad.

Gwelir mai dechreu dadwneud gwaith y deugain mlynedd blaenorol o ymdrech am ryddid, oedd tuedd yr holl bethau hyn. Gan weled y cyfeiriad oedd pethau yn gymeryd, ceisiodd y Presbyteriaid ymddiddan pellach â'r brenin. Trefnodd yntau Gynhadledd Savoy—math o ail-adroddiad o Gynhadledd Llys Hampton ei dadcu. Daeth deuddeg o esgobion a deuddeg o weinidogion Anghydffurfiol i'r Gynhadledd, gyda nifer o gynorthwywyr o bobtu. Cyfarfyddodd Mawrth 25, 1661, a pharhaodd mewn enw am bedwar mis. Os gwnaeth Baxter gamgymeriad wrth wrthod Cyhoeddiad y Neuadd Wen, gwnaeth Sheldon gymaint cam-gymeriad o du'r Eglwys wrth wrthod symud cam i gyfarfod yr Anghydffurfwyr yng Nghynhadledd Savoy. Cafodd gyfle na chafodd byth wedyn i gynnwys o fewn corlan Eglwys Loegr, a'u gwneud yn weision ffyddlon iddi, fwyafrif Anghydffurfwyr y deyrnas.

Unwaith eto wele dri gallu mawr ym myd crefyddol y deyrnas yr Esgobyddion, y Presbyteriaid, a'r Anibynwyr (yn cynnwys y Bedyddwyr). Gwahaniaethai syniadau'r tri yn hanfodol am gysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth, ac am hawliau a pherthynas gwahanol adrannau yn yr Eglwys.

YR ESGOBAETHWYR. Mynnai y rhai hyn fynd yn ol at ddysgeidiaeth Laud. Un Eglwys gyffredinol genedlaethol, ar y cynllun Esgobaethol, gydag awdurdod llawn fel cynt i'r esgob; unffurfiaeth mewn gwasanaeth a disgyblaeth; a phawb yn gorfod cydffurfio.

YR ANIBYNWYR. Safai y rhai hyn ar y pegwn cyferbyniol. Wedi dysgu gan brofiad y gorffennol, gwelent yn amlwg nad oedd yn bosibl i'r drefn Esgobaethol a'r drefn Anibynnol gydweithio yn yr un gyfundrefn Eglwysig. Gan weled mai Esgobaethol y mynnai'r awdurdodau i Eglwys Loegr fod, ni cheisiasant, ac ni ddymunent, le o'i mewn. Cafodd eu harweinwyr, yn cynnwys Dr. John Owen, Dr. Thomas Goodwin, a Philip Nye, ymddiddan â'r brenin; a hysbyswyd ef eu bod yn barod i gydnabod ei awdurdod ef mewn pethau gwladol, ond na chydnabyddent awdurdod esgob nac arall mewn pethau crefyddol. Nid oeddent am wthio eu syniadau eu hunain ar eraill; ni fynnent ganiatau i eraill wthio eu syniadau hwythau arnynt hwy. Y cwbl a geisient oedd rhyddid i addoli yn ol eu cydwybod eu hunain. Dyma ysbryd goddefiad eto yn gweithio.[4] Y PRESBYTERIAID. Yr oedd y rhai hyn hefyd, erbyn hyn, wedi cyfnewid llawer er dyddiau sefydliad y "Cyngrair a Chyfamod Difrifol." Cynhwysid erbyn hyn o dan yr enw "Presbyteriaid" lawer nad oedd ganddynt y cydymdeimlad lleiaf â Phresbyteriaeth fel y deallid ef yn yr Ysgotland. Nid oedd gan lawer o honynt unrhyw wrthwynebiad i gyfundrefn Esgobaethol fel y cyfryw, pe y cyfyngid hawl yr esgob i fod yn ddim amgen na llywydd neu gadeirydd cymanfa clerigwyr ei esgobaeth. Yr oeddent, felly, nid yn unig yn barod ond yn awyddus i weled sefydlu Eglwys Wladol, Esgobaethol os mynnid, ond os felly, Esgobaethol gyda chyfuniad cryf o'r elfen Bresbyteraidd yn ei ffurf lywodraeth, ac heb wneud unffurfiaeth gwasanaeth yn orfodol. Gwelir eu bod wedi teithio ymhell i gyfeiriad goddefiad er dyddiau Siarl I.

BAXTERIAETH. Yr oedd Baxter, yn nyddiau'r Weriniaeth, wedi sylfaenu cyfundrefn Eglwysig o'i eiddo ei hun. Mynnai gadw'r rhaniadau plwyfol; gwnai bob plwyf yn fugeiliaeth; hawl y clerigwr neu'r bugail oedd rheoli yn ogystal a dysgu ei blwyf. Gallai ei reoli ar gynllun y Presbyteriaid, neu'r Esgobaethwyr, neu'r Anibynwyr, neu'r Bedyddwyr, fel y mynnai, ond efe ei hun, ac nid ei esgob, oedd i ddewis pa gynllun. Yna yr oedd holl glerigwyr plwyfol y sir neu'r esgobaeth, o wahanol olygiadau duwinyddol, i gyfarfod â'u gilydd yn rheolaidd i drefnu materion perthynnol i'r oll. Trefnodd Baxter holl swydd Worcester ar y cynllun hwn yn nyddiau Cromwell; canlynnwyd ei esiampl gan swyddi Caer, Cumberland, Westmoreland, Essex, Hamps, Wilts, ac eraill. Dyma'r cynllun a awgrymai Baxter yn awr i'r brenin fel un a allai gynnwys o fewn terfynnau Eglwys Loegr yn ymarferol bob enwad Cristionogol yn y deyrnas. A dyma'n ymarferol y cynllun a dynnwyd allan gan yr Archesgob Usher gynt ar ol ymgynghoriad personol â Baxter.[5]

Dyma, ynte, dair egwyddor fawr y tri gallu ym myd crefyddol Lloegr cyn pasio Deddf Unffurfiaeth. "Unffurfiaeth a Chydffurfiaeth" oedd arwyddair yr Esgobaethwyr. "Goddefiad i bawb gorfodaeth ar neb" oedd dadl yr Anibynwyr. "Cyduniad; Llawer Enwad mewn un Eglwys Genedlaethol" oedd syniad Baxter. Dyma'r man agosaf oddiar ddyddiau Elizabeth (gwel tudal. 54) i Eglwys Loegr ddod yn Eglwys Genedlaethol.

Gwnaeth culni Sheldon a'i blaid y cyduniad yn amhosibl. Gwrthodwyd gwneud dim i gyfarfod â syniadau Baxter na'r Presbyteriaid. Ail adroddwyd camgymeriad dyddiau Elizabeth. Cauwyd Baxter a Calamy allan o'r Gymanfa Eglwysig, er iddynt gael eu hethol yn rheolaidd. Trowyd cannoedd o glerigwyr Presbyteraidd allan o'u bywiolaethau i wneud lle, llawer pryd, i ddynion nid yn unig llai galluog na hwynt, ond rhai ag yr oedd eu bywydau anfoesol yn eu hanghymwyso i ddal swydd. Yr oedd y brenin wedi gorchymyn adolygu'r Llyfr Gweddi gyda'r amcan o'i wneud yn fwy derbyniol gan y Presbyteriaid; ond gwnaed ef yn fwy anerbyniol. Gwrthwynebai'r Puritaniaid. ddarllen yr Apocrypha. Cadarnhawd yr Apocrypha gan y Gymanfa Eglwysig; ac wrth ddod allan o'r cyfarfod, dywedai un Esgob yn orfoleddus, "Yr ydym wedi cario'r dydd heddyw o blaid Bel a'r Ddraig!" Aeth Iarll Manchester at y brenin a dywedodd: "Rwy'n ofni fod amodau cydffurfiaeth mor gelyd fel na phlyga llawer o'r clerigwyr iddynt." Atebodd yr Esgob Sheldon, yr hwn oedd yno ar y pryd, " Rwyf finnau'n ofni mai plygu a wnant." "Gresyn," ebe Dr. Allen, "eich bod wedi gwneud y porth mor gyfyng i'r Presbyteriaid." "Na," atebai Sheldon, "pe y tybiasem y byddai cynifer ohonynt yn barod i gydffurfio, buasem wedi gwneud y porth yn fwy cyfyng fyth!" Cyn hir ar ol hyn dyrchafwyd Sheldon i'r Archesgobaeth.

Cafodd polisi gorthrymus yr awdurdodau yr effaith naturiol o gynhyrfu nwydau gwleidyddol. Crynhôdd plaid a elwid yn "Fifth Monarchy Men," a chodasant mewn gwrthryfel. Cyhuddwyd yr Anghydffurfwyr o fod yn gyfrannog yn y cyd-fradwriaeth. Gwnaeth yr Anibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Crynwyr, wrthdystiad ffurfiol yn erbyn y cyfryw ensyniad. Aeth swyddogion o gwmpas, a phan gaent gynulleidfaoedd crefyddol yn addoli, galwent ar yr aelodau i gymeryd y llw o ffyddlondeb ac uchafiaeth. Nis gallai'r Bedyddwyr a'r Crynwyr yn gydwybodol gymeryd llw oedd yn cydnabod y brenin yn ben mewn pethau Eglwysig. Cymerid hyn fel prawf o'u cyfranogiad yn y gwrthryfel, a thaflwyd cannoedd o honynt i garchar.[6]

Cafodd yr holl bethau hyn ddylanwad ar y wlad a'r Senedd er gwneud gorchwyl Sheldon a'i blaid i basio Deddf Unffurfiaeth yn rhwyddach. Ond beth oedd Deddf Unffurfiaeth? Yn hytrach na rhoi ei geiriau, ceisiaf nodi ei hamcan, a'i gweithrediad mewn geiriau syml.

Un amcan mawr Deddf Unffurfiaeth oedd cau allan o Eglwys Loegr bawb a ddalient syniadau Puritanaidd. Yr oedd ei holl fanylion wedi cael eu trefnu i'r amcan hwn. Dyna gwestiwn y Defodau; os gwnaed y gofynion hyn yn fwy llac, dichon y ceid ambell gydwybod ystwyth i dderbyn y gweddill;—felly rhwymwyd hwynt yn dynnach nag o'r blaen fel rhan hanfodol o wasanaeth yr Eglwys. Dichon y ceid rhai a gyd-ffurfient yn allanol â'r Llyfr Gweddi, tra yn gwahaniaethu oddiwrth rai pethau ynddo;—felly mynnid llw o gydsyniad â holl gynnwys y Llyfr Gweddi o'i ddechreu i'w ddiwedd. Rhag na byddai'r porth hwn yn ddigon cyfyng, gosodwyd craig rwystr ar lwybr pellach tua'r Eglwys. Yr oedd llawer o'r clerigwyr wedi cael eu hordeinio yn ol y dull Presbyteraidd, ac amryw wedi cymeryd llw y Cyngrair a Chyfamod Difrifol;—felly gelwid arnynt yn awr i ymwrthod a llw y Cyngrair, i gymeryd llw newydd fod dwyn arfau yn erbyn y brenin unrhyw amser a than unrhyw amgylchiad yn anghyfreithlawn, ac i gydnabod fod ordeinio yn ol dull y Presbyteriaid yn anysgrythyrol, a gorfodid hwynt i gymeryd eu hail ordeinio gan yr Esgobion.

Gwelir felly mai cau â drain y ffordd i'r Eglwys i glerigwyr o syniadau Puritanaidd neu Bresbyteraidd, oedd amcan mawr Deddf Unffurfiaeth. Mae yn gywilydd gorfod cydnabod fod Ty'r Cyffredin, a etholwyd gan y Bobl, yn y mater hwn yn fwy eithafol na Thy'r Arglwyddi. Dywed rhai ysgrifenwyr mai trwy fwyafrif o chwech yn unig y cariwyd y Mesur drwy Dy'r Cyffredin. Camgymeriad ydyw hyn. Ni rannwyd y Ty o gwbl ar y Mesur fel Mesur, eithr ar adrannau neillduol o hono. Gall ychydig ffeithiau ynghylch y rhaniadau hynny fod yn ddyddorol. Wele hwynt fel y'u cesglir o gofnodion Ty'r Cyffredin (Journals of the House of Commons).

Yr oedd y Gymanfa Eglwysig wedi gwneud rhai cyfnewidiadau yn y Llyfr Gweddi. Mynnai y blaid fwyaf ryddfrydig yn Nhy'r Cyffredin i'r cyfnewidiadau hynny gael eu hystyried gan y Ty cyn eu cynnwys yn y Ddeddf. Rhannwyd y Ty ar y mater dydd Mercher, Ebrill 16, 1662. Cafwyd dros i Dy'r Cyffredin adolygu'r cyfnewidiadau, 90; yn erbyn adolygu, 96; mwyafrif, 6. Dyna'r mwyafrif lleiaf gafwyd mewn un rhaniad yn holl hanes y Mesur. Mae'n gysur meddwl mai dau Gymro, Mr. Williams a Mr. Boscowen, a weithredent fel cyfrifwyr (Tellers) dros yr adran Ryddfrydig yn y rhaniad hwn.

Trannoeth cafwyd rhaniad arall ar gwestiwn pwysig. Dymunai'r adran Ryddfrydig eu syniadau, estyn dyddiad dwyn y ddeddf i weithrediad hyd Wyl Mihangel yn lle Gwyl Bartholomew. Pe y gwneid hynny galluogid yr offeiriaid a droid allan i gael cyflog un flwyddyn yn rhagor cyn wynebu'r byd heb swydd tucefn iddynt. Dros estyn yr amser, 87; yn erbyn, 96. Mwyafrif yn erbyn, 9. Dau Gymro eto—Syr Thomas Gower a Mr. Boscowen—yn gyfrifwyr dros yr estyniad.

Ymhen wythnos wedyn (Ebrill 26, 1662) rhannwyd y Ty ar gwestiwn cyffelyb. Pan drodd y Senedd glerigwyr anghymwys allan, caniateid i'r cyfryw y bumed ran o werth blynyddol y fywoliaeth fel blwydd-dal at eu cynhaliaeth. Cynygid yn awr ganiatau y bumed ran i'r clerigwyr a droid allan o dan Ddeddf Unffurfiaeth. Dros ganiatau blwydd-dal, 87; yn erbyn, 94; mwyafrif yn erbyn, 7. Dau foneddwr cysylltiedig â Chymru Syr Richard Temple a Syr John Talbot—eto yn gyfrifwyr dros y flwydd-dal.

Mynnai'r Arglwyddi benodi pwyllgor i gyfarwyddo'r brenin i wneud rhyw ddarpariaeth at gynnal teuluoedd y gweinidogion a droid allan. Iarll Môn a ddygodd i fewn adroddiad pwyllgor yn ffafr hyn. Cydsyniodd Ty'r Arglwyddi; gwrthododd Ty'r Cyffredin.

Mynnai'r Arglwyddi esgusodi athrawon ac ysgolfeistri o ddod o dan weithrediad y ddeddf. Gwrthododd Ty'r Cyffredin—felly rhwystrid pregethwr Ymneillduol i fod yn athraw. Fel y gwelir eto, cafodd y ddarpariaeth hon ganlyniad rhyfedd ac anisgwyliadwy ymhen can mlynedd wedi hyn.

Un peth a wnaeth Ty'r Cyffredin dros Gymru. Ebrill 28, 1662, gosodasant adran newydd yn y ddeddf yn gorchymyn Esgobion Bangor, Llanelwy, Henffordd, Tyddewi, a Llandaf, i ddarparu cyfieithad Cymraeg o'r Llyfr Gweddi; i gopi o hwnnw gael ei osod ymhob Eglwys yng Nghymru, ac iddo gael ei arfer yn rheolaidd yn lle'r Saesneg, pa le bynnag yr arferid yr Iaith Gymraeg. Mae y gwelliant hwn yn gynwysedig yn adran 27 o'r ddeddf.

Gwelir fod gwaith y Senedd yn pasio'r ddeddf hon yn rhyddhau Siarl o'i addewid i'r Presbyteriaid yn ei "Gyhoeddiad Breda." Dichon y rhyfedda rhai fod Ty'r Cyffredin yn ymddwyn yn galetach na'r Arglwyddi tuagat yr Anghydffurfwyr; ac eto rhaid cydnabod fod llawer o rym yn rhai o'r rhesymau a ddygent ymlaen dros beidio rhoi blwydd-dal i'r gweinidogion a droid allan. Dyma grynodeb o'r rhesymau swyddogol a ddefnyddiwyd ar y pryd:—

1. Nid oedd engraifft (precedent) yn awdurdodi'r cyfryw ddarpariaeth. (Anwybyddid y ffaith fod y Senedd Werinol wedi gwneud darpariaeth i'r Esgobaethwyr a drowyd allan.)

2. Y buasai yn sefydlu sism.

3. Na fyddai'n dderbyniol gan y rhai y bwriedid eu gwasanaethu.

"Nis gwyddom am un eglwys genedlaethol yn y byd sy'n darparu blwydd-dal i rai na chydffurfiant â hi. Un peth yw caniatau crefydd arall ymhlith y genedl, peth arall yw rhoi elw o'r Eglwys i'r sawl na chydffurfiant â hi. Beth allai fod yn fwy gwrthun na deddfu Unffurfiaeth, ac yna caniatau y bumed ran o werth y fywoliaeth i ddyn am wrthod cydffurfio? Byddai'r bumed ran o'r fywoliaeth, gyda'r hyn a gai'r gweinidogion gan eu cefnogwyr, yn fwy na holl werth y fywoliaeth. Yr oedd gwerth y bywiolaethau, lawer ohonynt, mor fychan, fel nad oedd yn ddigon i alluogi dyn dysgedig i gael y llyfrau a farnai yn angenrheidiol iddo—ac nid oedd dim a foddlonai Anghydffurfwyr yn fwy na lleihau gwerth y bywiolaethau, a thrwy hynny leihau effeithioldeb y weinidogaeth ynddynt. Yr oedd yn rheol ddwyfol fod i'r neb a wasanaethai'r allor i gael byw wrth yr allor, felly dylai elw'r fywoliaeth fynd yn gyfangwbl i'r llafurwr.

Dyna eu rhesymau am dlodi yn ogystal a diswyddo'r gweinidogion Anghydffurfiol. Er mwyn clirio eu cydwybodau eu hunain ac esmwythau cydwybod y brenin, tynasant allan hefyd fynegiad yn cyfiawnhau eu gwaith yn dwyn Deddf Unffurfiaeth i mewn o gwbl.

Mae y mynegiad ffurfiol uchod yn gosod allan yn deg y safle a gymerai yr Esgobaethwyr ar y cwestiwn. Pe gallem gredu mai zel dros burdeb crefydd a'u cymhellai, gallasem edmygu eu hymgais tra'n anghymeradwyo eu cynllun. Ond yngwyneb yr hyn a ddywedai Sheldon, Esgob Llundain, ac eraill, cyn pasio'r ddeddf, a'r hyn a wnaeth efe, ac eraill, ar ol ei phasio, nis gallwn osod llawer o bwys ar eu cydwybodolrwydd hwy, er y gallai fod ymhlith eu canlynwyr rai yn gweithredu oddiar gydwybod bur yn y mater. Eto, gan gofio bywyd cyhoeddus anfad Siarl II., y brenin mwyaf llygredig ei foesau a eisteddodd erioed ar orsedd Prydain, nis gallwn goleddu syniad uchel iawn am gydwybodolrwydd y rhai a gefnogent osod yn y ffurf-weddiau cyhoeddus ymadrodd mor anghymwys, os nad cableddus, ag a geir yn y weddi ar ran Siarl, yr hwn, er ei lygredd hysbys a elwir yn y weddi "ein brenin mwyaf crefyddol " ("most religious sovereign!")

Yr oedd y Ddeddf orthrymus i ddod i rym dydd Gwyl Bartholomew, 1662. Gofynnai'r Esgobyddion y naill i'r llall, "Pa beth a wna'r Puritaniaid? Ai esmwythfyd swydd ai cydwybod a drecha?" Ni chawsant fod yn hir mewn amheuaeth. Cyn pen mis ar ol pasio'r ddeddf, a thri mis cyn iddi ddod i rym, rhoddwyd allan sain udgorn a gyrhaeddodd i gonglau pella'r deyrnas. Richard Baxter a gododd gyntaf faner gwrthwynebiad i'r ddeddf—y gwr a aberthai bopeth, ond egwyddor a chydwybod, er mwyn cael aros yn Eglwys Loegr, oedd y cyntaf i fynd allan o honi. Efe oedd un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ei oes. Yn ystod ei weinidogaeth codwyd pump oriel, y naill uwchben y llall, yn Eglwys Kidderminster—ac yr oedd yr adeilad wedyn yn rhy fach i gynnwys y torfeydd a ymgasglent i'w wrando.

Yr oedd yn gymaint dylanwad ymhlith ei frodyr yn y weinidogaeth ag ydoedd gyda'r werin. Mai 25, 1662, pregethodd ei bregeth ymadawol yn ei Eglwys ei hun. Nid oedd na phellebyr na phapur dyddiol i gludo'r newydd,—ond rywsut treiddiodd i bob cwrr o'r wlad, ac yn fuan gwyddai pawb fod Richard Baxter wedi torri ei gysylltiad â'r Eglwys, yn hytrach na phlygu glin i'r delwau newydd a fynnid eu codi. Amcan Baxter yn ymneillduo dri mis cyn yr amser, yn ddiameu, oedd rhoi anogaeth ac esiampl i frodyr gwannach nag ef. Ac nid ofer y seiniodd yr udgorn. Canlynnwyd ei esiampl gan ddwy fil a hanner (2,500) o glerigwyr yn Lloegr a Chymru.[7]

Paham, meddir, yr aeth y 2,500 hyn allan o'r Eglwys? Symir i fyny wrthwynebiad y Puritaniaid fel hyn:—

(1) Gwrthwynebai rhai—fel Phylip Henry, er engraifft—yr adran a fynnai i bob clerigwr gael ei ordeinio gan esgob.

(2) Gwrthwynebai eraill ymwrthod â llw y Cyngrair a Chyfamod Difrifol oeddent hwy a'u plwyfolion wedi gymeryd ugain mlynedd cyn hynny.

(3) Gwrthwynebai ymron yr oll o honynt amlygu cydsyniad llwyr a dieithriad â'r holl athrawiaethau a ddysgid yn y Llyfr Gweddi newydd. Nid yr un athrawiaethau o bosibl a wrthwynebid gan bawb, ond gwrthwynebai pawb un neu arall o'r athrawiaethau.

Os cedwir mewn cof yr hyn a ddywedwyd eisoes am Brotestaniaid oes Elizabeth, ac am Buritaniaid dyddiau Iago a Siarl I., bydd yn rhwyddach deall y rhesymau a gymhellent Anghydffurfwyr Siarl II. Ni ddaeth neb allan am ei fod yn Anibynnwr, nac am ei fod yn Bresbyteriad, nac am ei fod yn Fedyddiwr ychwaith—er i'r rhai oeddent Fedyddwyr gael eu troi allan Nadolig 1660. Am lawer, o bosibl y mwyafrif ohonynt, nid oedd ganddynt wrthwynebiad anghymodlawn i'r ffurf esgobyddol ar Eglwys. Nid gwrthryfelwyr yn erbyn yr Eglwys na'r Wladwriaeth oeddent ychwaith. Yr oedd Baxter ei hun, er engraifft, mor gryf yn erbyn ymwahanu, hynny yw, ffurfio enwad ar wahan i'r Eglwys, fel y gwrthododd ar hyd ei oes ymgymeryd a bugeiliaeth y cyfryw. Yn Kidderminster, nid yn unig gwrthododd ffurfio Eglwys Anghydffurfiol, ond anogai ei hen gynulleidfa i aros yn Eglwys y Plwyf—gan gadw Ymneillduaeth yn ol, fel hefyd y gwnaeth John Wesley ar ei ol, am genhedlaeth gyfan. Cymunai yn aml fel cynt yn Eglwys y Plwyf—a gwnai llawer yr un fath. Pa beth ynte a'u cymhellent? Dim ond awydd angherddol am gael rhyddid i bregethu'r Efengyl yn y dull a'r modd a farnent hwy fwyaf effeithiol tuag at gyrraedd cydwybodau a chalonnau'r bobl! Dyna ddymunai'r Puritaniaid wneud yn 1562; dyna fynnai'r Anghydffurfwyr wneud yn 1662; dyna wrthodwyd caniatau i John Wesley a Williams Pantycelyn wneud yn 1762. Dyna hanes yn ail adrodd ei hun, yn ymarferol yn yr un dull, mewn tair canrif olynol! Barnai Baxter pe y gweithredid ar gyhoeddiad y Neuadd Wen (gwel tudal. 139) na fyddai dros 300 o weinidogion wedi ymneillduo o'r Eglwys y pryd hwnnw. Gwelir felly mai cwestiynau o egwyddor oedd wrth wraidd y mudiad Anghydffurfiol. O'i ddadansoddi, a'i osod allan yn ei elfennau cyntefig, gellir dweyd mai hanfod Ymneillduaeth y 2500 hyn oedd argyhoeddiad dwfn o'r pethau canlynol:—

1. Mai Crist yw unig Ben yr Eglwys.
2. Mai'r Beibl ddylai fod yn unig reol ffydd ac ymarweddiad.
3. Fod gan bob cydwybod unigol hawl a alluoga ei pherchennog i addoli Duw yn ol ei goleuni hi, ac nid yn ol gorchymyn dyn.

Ni ddymunid gwasgu'r egwyddorion hyn ar eraill. Am nad oedd yn bosibl gweithredu yn ol yr egwyddorion hyn, ac aros yn yr Eglwys, dewisodd dwy fil a hanner o ddynion goreu'r sefydliad fynd allan o'i phwlpudau, a rhoi i fyny y bywiolaethau.

Amddifadwyd hwynt nid yn unig o'u cyflogau, ond hyd oedd yn bosibl o bob moddion arall cynhaliaeth, ac yn raddol o'u holl hawliau dinesig. Daw hyn yn amlycach yn y bennod nesaf.

Nodiadau

[golygu]
  1. "Meddwodd y wlad ar adferiad yr hen oruchwyliaeth. Ail godwyd Trostan Mai yn y pentrefi; llifai'r ddiod fel cynt yn neuadd y sgweier; chwareuai'r gwladwyr eu campau ar y comyns; nid oedd ofn y gosb mwyach ar y meddwyn; ail-agorwyd y chwareudai yn Llundain; ac âi cwmniau teithiol o'r chwareuwyr drwy'r wlad."—Knight.
    "Aeth yr holl genedl yn wallgof gan lawenydd. Llifai'r ddiod feddwol yn y cwteri. Croesawid aelodau Presbyteraidd yr hen Senedd gan fanliefau cymeradwyol y torfeydd. Ni feiddiai arweinwyr yr Anibynwyr mwyach ddangos eu hwynebau ar yr heolydd."—Macaulay.
  2. Ni fu Baxter erioed yn Bresbyteriad o unrhyw fath. Yn ei ddyddiau goreu yr oedd yn fwy o ddylanwad ym mywyd crefyddol Lloegr na Chymanfa Westminster na'r Arweinwyr Seneddol."—Lectures on Baxter, Gordon, pp. 64, 65.
  3. 12 Car II., cap 17. Gibson's Codex, pp. 1070—1074.
  4. Mae Ysbryd Crist ynddo ei hun yn rhy rydd, mawr, a haelfrydig, i ganiatau i unrhyw fraich ddynol i'w ddefnyddio i chwipio dynion i gredu; nid yw yn gyrru neb, eithr arweinia yn dyner i bob gwirionedd, yr hwn hefyd a gollai ei werth os na lewyrchai disgleirdeb rhyddid ynddo."—(Rhagymadrodd Dr. John Owen i Gyffes yr Anibynwyr. 1659.)
  5. The MSS. Baxter. Dr. Williams's Library, London.
  6. Collier's Eccl. Hist., vol. ii., p. 876; Rapin's Hist., vol. ii., pp. 623—5; Crosby's Hist. of the Baptists, vol. ii.; Hanbury's Memorials, vol. iii., p. 592—5, &c., &c.
  7. Mae'r frawddeg "Y Ddwy Fil," yn gamarweiniol. Dyrry Calamy ini enwau 2465—ond fod ei restr ef yn cynnwys rhai a drowyd allan yn 1660 a 1661, o dan y deddfau a ragflaenent Ddeddf Unffurfiaeth. Ond nid yw Calamy yn cynnwys yr oll. Os cymerir siroedd Lloegr, gan wneud ymchwiliad i hanes plwyfi unigol, nid oes nemawr i sir lle na cheir enwau rhai a drowyd allan gan y Ddeddf hon, ond na chynwysir eu henwau yn rhestr Calamy. Yr wyf yn bersonol wedi gweled rhestri mewn hen lawysgrifau o'r cyfnod hwnnw, sy'n cynnwys enwau na cheir gan Calamy—ond mai yn Lloegr, ac nid yng Nghymru yr oeddent. Cyfrifai Baxter ei hun fod 1800 o'r rhai a drowyd allan yr un pryd ag ef, wedi ymgymeryd â gwaith y weinidogaeth ymhlith yr Ymneillduwyr. Amlwg felly yw fod 2500 yn nes i'r nod na 2000.

DEDDF UNFFURFIAETH 1662.
Y RHAI A DROWYD ALLAN YNG NGHYMRU.

(Gwel hefyd Map Rhif I.)

SYLW. Yn y rhestr ganlynol—y gyflawnaf a gyhoeddwyd erioed—gwahaniaethir rhwng

(a) Y rhai a drowyd allan o fywiolaethau;
(b) Y rhai nad oeddent yn dal bywiolaethau, ond a weithredent fel pregethwyr teithiol, neu gynorthwyol, ac a "ddistawyd" gan y Ddeddf;
(c) Y rhai hynny a edifarhasant ar ol cael eu troi allan, ac a gydffurfiasant drachefn.

Credaf y ceir yn y rhestr ganlynnol bob enw ag y mae unrhyw fath o awdurdod hanesyddol dros ei gynnwys yn y rhestr. Dynoda'r seren fod yr enw yn cael ei roi gan Dr. Rees, Abertawe, ond na cheir ef gan Calamy; dynoda † fod Calamy yn rhoi'r enw, ond nad yw gan Dr. Rees; dynoda fod yr enw i'w gael gan Browne Willis yn unig, ac nad yw Calamy na Rees yn ei roddi.

Mae cryn amheuaeth am amryw o'r enwau a osodir yn y rhestr ganlynnol. Methais, er chwilio'n ddyfal, a dod o hyd iddynt yn llawysgrifau y cyfnod hwnnw. Eto tybiais mai gwell oedd troseddu ar yr ochr oreu, a rhoi i Gymru y credid a hawlid iddi yn y mater hwn gan y naill neu'r llall o'r tri awdurdod uchod.

Dynoda'r llythyren (B) ar ol enw, mai Bedyddiwr oedd y person hwnnw. Am y lleill Anibynwyr oeddent gan mwyaf, gydag ambell un a elwid yn Bresbyteriad yn eu plith.

Gwelir wrth symio'r holl restr i fyny ei bod yn gweithio allan fel hyn:—

Y NIFER A
SIR. Drowyd allan. Ddystewid. Gydffurfiodd wedyn. Cyfanrif.
Aberteifi 6 4 3 13
Brycheiniog 3 3 0 6
Caerfyrddin 7 3 1 11
Caernarfon 0 1 0 1
Dinbych 9 2 1 12
Fflint 3 0 2 5
Maesyfed 2 2 1 5
Meirionnydd 0 1 0 1
Mon.. 0 0 0 0
Morgannwg 16 9 5 30
Mynwy 10 5 0 15
Penfro 8 0 3 11
Trefaldwyn 7 7 1 15
Cyfanrif Cymru 71 37 17 125


Gwelir felly fod y rhestr yn cynnwys tuag ugain yn ychwaneg o enwau nag a geir mewn unrhyw restr flaenorol. Eithr am y rheswm a nodwyd uchod, nid wyf yn sicrhau fod yr oll o'r enwau yn meddu hawl diamheuol i fod i mewn.

Rhoddir i Gymru yn y rhestr hon 125 o'r 2500 a drowyd allan gan Ddeddf Unffurfiaeth 1662. Amheuaf fy hun a ddylid cyfrif hanner y nifer hynny. Gwelir wrth y daflen uchod mai 71 yw cyfanrif y rhai a nodir naill ai gan Calamy, neu Rees, neu Browne Willis, fel wedi cael eu troi allan. Cafodd 37 eu distewi, a chydffurfiodd 17. Ymhlith y rhai a nodir fel wedi eu distewi mai nifer, nid yn unig o bregethwyr cynorthwyol, ond o ysgolfeistri. Mae'n amheus a ddylid cyfrif llawer o'r rhai hyn i fewn o gwbl. Er engraifft dyna John Williams, Sir Gaernarfon;—nid oes hyd y gwn un prawf hanesyddol ei fod yng Nghymru o gwbl yn 1662. O'r 71 y dywedir iddynt gael eu troi allan dan Ddeddf 1662, sicr yw fod rhai allan cyn hynny. Nodwyd eisoes (tudal 130) resymau dros dybied fod Stephen Hughes, Mydrym, allan 18 mlynedd cyn hynny. Mae tuhwnt i unrhyw amheuaeth resymol fod John Myles a'r oll o'r Bedyddwyr allan o leiaf er 1660. Gostynga y rhai hyn yn unig nifer y rhai a drowyd allan i 61.

ABERTEIFI.

Trowyd allan—John Evans, Bangor a Henllan; Charles Price, Aberteifi; David Jones, Llanbadarn fawr; Evan Hughes, Llandyfriog; Lewis Price, Llangunllo; Richard Davies, Penbryn.

Distawyd:—John Hanmer, Roderick Thomas, *Morgan Howell, John Harries, Tregaron.

Cydffurfiodd wedi hynny:—Rees Powell, Llanbedr; Roderick Davies, Llanllwch-haiarn; a Thomas Evans, Ystrad.

BRYCHEINIOG.

Trowyd allan:—John Edwards, Cathedine; Elias Harry, Patrishw; a D. W. Probert, Llandefeilog.

Distawyd:—Thos. Evans (B), Maesmynys; *Thos. Watkins (B), Hay: Thos Parry (B).

CAERFYRDDIN.

Trowyd allan:—William Jones, Cilmaenllwyd; David Jones, Llandys-silio; John Powell, Llangyndeyrn; David Price, Llangynwr; Meredith Davies, Llanon; James Davies, Merthyr; a Stephen Hughes, Mydrym.

Distawyd:—Rees Prytherch; *Phillip Lewis; William Thomas (B).

Cydffurfiodd wedi hynny:—Morris Meredith.

CAERNARFON.

Distawyd: John Williams, Llandwrog.

DINBYCH.

Trowyd allan—William Jones, Dinbych; Richard Taylor, Holt; Jonathan Roberts, M.A., Llanfair, Dyffryn Clwyd; Ellis Rowlands, Ruthin; Ambrose Mostyn, Gwrecsam; Richard Jones, Dinbych; John Conant, D.D., Abergele; Hugh Jones, Llandegla; Edward Roberts, Llangollen.

Distawyd:—*Ambrose Lewis, Gwrecsam; †Daniel Williams, Gwrecsam.

Cydffurfiodd wedi hynny:—Mr. Jenkins, Gresford.

FFLINT.

Trowyd allan:—Robert Fogg, Bangor; Richard Steel, M.A., Hanmere; a Phillip Henry, M.A., Worthenbury.

Cydffurfiodd wedi hynny:—John Broster, Penley; †Roland Fogg, Penarlag.

MAESYFED.

Trowyd allan:—John Weaver, Knell; Richard Swain.

Distawyd—Henry Gregory (B); Morris Griffith.

Cydffurfiodd wedi hynny:—David Jenks, Bryngwyn a Newchurch.

MEIRIONNYDD.

Distawyd—Hugh Owen, Bronyclydwr.

MORGANNWG.

Trowyd allan:—Joshua Miller, Llanandreas; Jenkin Jones (B), Cadoxton; Thomas Proud (B), Cheriton; Edmund Ellis, St. Fagan; John Myles (B), Ilston; Howell Thomas (B), Glyncorwg; Thomas Joseph (B), Lian—geinwr; Morgan Jones (B), Llanmadog; Samuel Jones, M.A., Llangyn—nwyd; Henry Williams, Llantrisant; John Powell, M.A., St. Lythian; William Thomas, M.A., Eglwys Fair; Daniel Higgs, M.A., Rhos Sili; Marmaduke Matthews, Abertawe; John French, Wenfo; Benjamin Flower, Caerdydd.

Distawyd:—Robert Thomas, Baglan; David Davies (B), Castellnedd; Jacob Cristopher, Llanmaes; George Seal, Caerdydd; Richard Cradock, Newton Nottage; Thos. Jones (B), Eglwys Ilan; *Lewis Thomas (B), Newton Nottage; *Robert Morgan (B), Llandeilo—Talybont; *Evan Llewelyn, Abertawe.

Cydffurfiodd wedi hynny.—Evan Griffiths, Oxwich; Pye, Bishopston · Rees Davies, St. Mary's Hill; Hilliar, Newton Nottage; Henry Nichols, Coychurch.

MYNWY.

Trowyd allan.—John Abbot (B), Abergafenni; George Robinson, Caer—Ileon; Hopkin Rogers, Caerwent; Owen Morgan, Llanafering; Robins, Llangatog; Williams, Llanfapley; Nicholas Cary, Trefynwy; Walter Prosser (B), Tredynog; Simms, Trelech; William Millman (B), Magor.

Distawyd—Watkin Jones, Mynyddislwyn; "Thomas Barnes, Magor; *Cristopher Price (B), Llanffoist; *W. J. Prichard (B), Abergafenni; *Price Williams, Casnewydd.

PENFRO.

Trowyd allan:—Thomas Hughes, Begelly; Adam Hawkins, St. Ismael; Peregrine Phillips, Llangwm a Freystrop; Cristopher Jackson, Llanbedr; John Smetley, Llanstadwell a Nolton; Morgan Thomas, Mathry; John Bywater, Penfro; John Carver, Dinbych-y-pysgod.

Cydffurfiodd wedi hynny:—Stephen Young, Rhos Gylyddwr; David Williams, Llanfihangel Penbedw; Thomas Warren, Narberth.

TREFALDWYN.

Trowyd allan:—Gabriel Jones, Bettws; Martin Grandman, Llandysil; Hugh Rogers, Drefnewydd; Nathaniel Ravens, Trallwm; *Roland Nevet, M.A., Croesoswallt; *Timothy Thomas, Morton; Titus Thomas, Aston.

Distawyd:—Henry Williams, Yscafell; *Vavasor Powell (B), *James Quarrell; *Thomas Quarrell (B); *John Evans, Croesoswallt; *David ap Hugh; *John Williams.

Cydffurfiodd wedi hynny:—†Morris Lloyd, Aberhafesb.
WALES BEFORE THE REVIVAL SHOWING THE CHURCHES IN EXISTENCE IN 1739.


Nodiadau

[golygu]

PENNOD XII.
GORMES AC ERLID.

Gydag esgyniad Siarl II. i'r Orsedd, disgynnodd nos dywell ar, a rhuodd ystormydd gerwin gormes ac erledigaeth dros, y wlad oedd yn ymddangosiadol aeddfedu i dderbyn yr Efengyl. Ac eto yn y tywyllwch a ordoai'r wlad y lledodd planhigyn ieuanc Ymneillduaeth, ac ynghanol yr ystorm y gwreiddiodd yn y tir. Yn nyddiau'r Weriniaeth a'i ffafrai, planhigyn egwan, tyner, oedd Ymneillduaeth, un y tybiai ei garedigion oedd yn galw am gael lle yn achlesfa gynnes y Wladwriaeth, ac i'w wreiddiau gael eu mwydo a'u gwrteithio â degymau Eglwysig. Wedi tynnu tô gwydr amddiffyn y Wladwriaeth ymaith, ac i'w ganghennau meinion gael teimlo nerth rhuthr gwyntoedd gauaf gormes, dadblygodd wydnwch a nerth anisgwyliadwy. Treiddiodd gwreiddiau'r pren yn ddyfnach i ddaear serch y genedl, gan fachu yn ddisigl am greigiau egwyddor rhyddid crefyddol a gwladol. Lledodd freichiau cyhyrrog allan mor gyflym a grymus, fel, cyn i'r genhedlaeth honno fyned heibio, da oedd gan y rhai a fynnent gynt ei ddiwreiddio, ddod eu hunain i gysgodi o dan ei ganghennau!

Y Bedyddwyr a'r Crynwyr gawsant deimlo rhuthr cyntaf y corwynt. Gwasgarwyd eu cynulleidfaoedd yn y Gogledd a'r De, a thaflwyd rhai o'u gweinidogion, megis Vavasor Powel yn y Gogledd a William Jones yn y De, yng ngharchar. Dywedir am Vavasor Powel, mai efe oedd y cyntaf o holl weinidogion y deyrnas i gael ei erlid gan yr esgobyddion, pan ddychwelasant gyda'r brenin i awdurdod. Yn ei amgylchiad ef ni aroswyd am na deddf nac awdurdod i gyfreithloni ymosod Dichon fod natur danllyd gweinidogaeth y Cymro brwdfrydig wedi ennyn llid y gelynion yn fwy tuag ato ef nag eraill o Ddiwygwyr Cymru yr oes honno. Gan nad beth am hynny, sicr yw na ddioddefodd neb o honynt erlid mwy cyson a ffyrnig arno. nag a ddaeth i ran Vavasor Powel. Yna, wedi dechreu cael blas ar erlid, dyfeisiodd yr erlidwyr ddeddfau newydd a wnaent y gwaith o ormesu yn rhwyddach a mwy effeithiol. O fewn corff pedair blynedd, pasiwyd Pedair Deddf a anelid yn uniongyrchol yn erbyn y Crefyddwyr Cydwybodol, gyda'r amcan ynghyntaf o'u gyrru o'r Eglwys os na phlygent i'w defodau; ac yna, wedi eu troi o'r Eglwys, eu gwneud yn amhosibl iddynt fwynhau nag ordinhadau crefydd na breintiau dinesig. Adwaenir y Pedair Deddf gan haneswyr fel Deddfres Clarendon (The Clarendon Code). Cynhwysai'r Ddeddfres Ddeddf y Corfforiaethau, 1661; Deddf Unffurfiaeth, 1662; Deddf y Cyrddau, 1664; a Deddf y Pum Milltir, 1665. Yn ddiweddarach, cafwyd hefyd ail-adroddiad o Ddeddf y Cyrddau yn 1670, a Deddf y Prawflwon yn 1673.

DEDDF Y CORFFORIAETHAU. O dan y ddeddf hon nis gallai unrhyw Anghydffurfiwr fod yn Ustus Heddwch, na dal swydd o unrhyw fath o dan unrhyw gorfforiaeth. Dyna amddifadu'r Ymneillduwr Lleygol o swydd o dan y Wladwriaeth.

DEDDF UNFFURFIAETH. O dan y ddeddf hon nis gallai unrhyw glerigwr na chydffurfiai ymhob dim â defodau Eglwys Loegr, neu na amlygai gydsyniad llwyr â holl athrawiaethau'r Llyfr Gweddi, ddal bywoliaeth Eglwysig. Cauwyd yr ysgolion preifat a chyhoeddus yn ei erbyn ar yr un pryd. Dyna amddifadu'r Pregethwr o'i swydd a'i foddion cynhaliaeth.

DEDDF Y CYRDDAU. Amcan y ddeddf hon oedd rhwystro'r pregethwyr a drowyd allan, i gasglu cynulleidfaoedd ar wahan i'r Eglwys. O dan y ddeddf hon yr oedd peidio mynd i'r Eglwys yn drosedd cosbadwy; ac yr oedd cynnal cyfarfod crefyddol o unrhyw fath o'r tu allan i'r Eglwys, hefyd yn drosedd cosbadwy. Os ceid cynifer a phump o bersonau dros 16 oed yn cynnal cwrdd gweddi, neu gyfeillach grefyddol, neu yn gwrando pregeth, yr oedd pob un o honynt yn agored i ddirwy o £5, neu dri mis o garchar, am y trosedd cyntaf; £10, neu chwe mis o garchar am yr ail; £100, neu alltudiaeth dros y môr am saith mlynedd, am y trydydd. Yr oedd deiliad y ty lle y cynhelid y cyfarfod, yn agored i'r un gosb, pe na bae ef ei hun yn bresennol. Petae gwraig yn mynd i'r cwrdd, heb yn wybod i'w gwr, cosbid ef am ei throsedd hi.[1] Ni feiddiai neb gynnal gwasanaeth deuluaidd os buasai ymwelwyr yn y ty. Gwnaed y ddeddf hon yn fwy caeth yn 1670, pan y rhoddwyd anogaeth bellach i achwynwyr; gwnaeth nifer o'r cyfryw drwy'r wlad lawer o elw personol drwy gael rhan o'r dirwyon am achwyn a dwyn tystiolaeth yn erbyn yr addolwyr.

DEDDF Y PUM MILLTIR. O dan y ddeddf hon gwaherddid i unrhyw weinidog Anghydffurfiol ddod o fewn pum milltir i unrhyw ddinas neu dref, neu o fewn y pellder hwnnw i unrhyw blwyf lle yr oedd wedi bod yn gweinidogaethu cyn cael ei droi allan o'r Eglwys; gwaherddid iddo hefyd gadw ysgol, na chyhoeddus na phreifat. Wedi rhwystro'r gynulleidfa i gyfarfod, drwy effaith Deddf y Cyrddau, dyma'r bugail yn cael ei yrru ffwrdd oddiwrth y praidd, drwy Ddeddf y Pum Milltir.

DEDDF Y PRAWFLWON. Pasiwyd hon yn 1673, a thrwyddi analluogid Anghydffurfiwr, ai Protestant ai Pabydd a fyddai, i ddal unrhyw swydd o dan y Wladwriaeth, neu yn y Fyddin, neu'r Llynges. Amcan cyntaf y ddeddf hon oedd rhwystro'r Pabyddion i gael llaw yng ngweinyddiad materion y Wladwriaeth. Rhoddodd Ymneillduwyr Protestanaidd help i basio'r ddeddf hon, ar y ddealltwriaeth y dygid deddf arall i fewn ar ei hol i'w rhyddhau hwynt o gosbau'r ddeddf hon. Ond wedi pasio Deddf y Prawflwon, gohiriwyd y Senedd cyn pasio'r ddeddf a addawyd i ryddhau'r Protestaniaid. Y canlyniad fu i'r Ymneillduwyr Protestanaidd, drwy gydsynio, yn 1673, i wneud anghyfiawnder gwladol â'r Pabyddion, gael eu cadw dan iau caethiwed eu hunain am 150 mlynedd—canys ni ddilewyd y ddeddf hon tan y flwyddyn 1828.

Edrycher am foment ar y gyfres deddfau gormesol hyn yn eu cysylltiad a'u gilydd, ac yn eu perthynas a'r Ymneillduwyr. Sylwer eu bod—

1. Yn troi'r diacon oddiar fainc yr ynad, ac o bob swydd yn y dref.
2. Yn rhoi awdurdod yr ynad a hawl y swyddog i Elynion Ymneillduaeth.
3. Yn troi'r pregethwr Anghydffurfiol allan o bwlpud yr Eglwys.
4. Yn rhwystro'r pregethwr i ennill bywoliaeth drwy gadw ysgol.
5. Yn gorfodi'r bobl ieuainc a fynnent addysg, i'w gael gan elynion Ymneillduaeth.
6. Yn rhwystro'r neb a gefnogent y pregethwr, i gynnal cyfarfodydd crefyddol.
7. Yn gorfodi'r pregethwr i fyw ymhell o gylch ei hen weinidogaeth.
8. Yn rhwystro pregethwr i fyw yn agos i ddinas na thref.
9. Yn gwobrwyo gelynion cyhoeddus a chyfeillion twyllodrus, trwy roi iddynt ran o'r ddirwy am ddwyn cyhuddiad a thystiolaeth yn erbyn yr Ymneillduwyr a droseddent yn ddirgel rai o'r deddfau hyn.

10. Yn cau pob swydd gyhoeddus yn erbyn y pregethwr a'r lleygwr Anghydffurfiol.

Amhosibl yw sylweddoli maint y dioddefaint a ganlynodd gosod y deddfau hyn mewn gweithrediad. Cyfrifir fod 60,000 o bersonau gwahanol wedi gorfod dioddef naill ai garchar neu ddirwy; fod gwerth dwy filiwn o bunnau o eiddo Ymneillduwyr, wedi cael ei gymeryd oddiarnynt o fewn corff tair blynedd; fod 5000 o ddynion gonestaf a mwyaf cydwybodol y deyrnas wedi marw yng ngharchar, a 3000 arall wedi marw fel canlyniad yr hyn a ddioddefasant.[2] Llanwyd y carcharau â dynion da, a'r pwlpudau â dynion anghymwys.[3] Dielid lid personol, a gwnaed pob anghyfiawnder, o dan gochl y gyfraith. Dirwyid yr un personau dair, pedair, a phum gwaith heb eu dwyn erioed o flaen unrhyw lys. Ped apelient at yr ustus heddwch, caent eu bod yn apelio at un oedd wedi cael y swydd am ei fod yn elyn anghymodlawn iddynt. Pe cymerent gyfaill i'w cyfrinach, dichon mai cyhuddwr dirgelaidd a fyddai, a dderbyniai rhan o'r ddirwy a godid arnynt, fel tâl am achwyn yn eu herbyn. Cyfeirid llid y gelynion at y marw yn ogystal a'r byw. Mewn gair, nid oedd unrhyw anfadwaith yn rhy greulawn i'w gyflawni o dan gochl crefydd ac o dan gysgod y gyfraith. Rhoddaf engraifft neu ddwy, er darlunio cyflwr y wlad.

Yn Llangollen preswyliai boneddwr o'r enw Cadben John Williams. Anghydffurfiwr o ran argyhoeddiad, Bedyddiwr o ran enwad, yr oedd yn dal safle mor gyfrifol fel y bu yn Uchel Sirydd. O dan y deddfau a nodwyd collodd bob swydd, a'i sedd ar y fainc ynadol. Pan fu farw, claddwyd ef ym mynwent y plwyf—ond ni chai ei gorff orffwys yno. Aeth ei erlidwyr yno, agorasant y bedd, tynnwyd y corff allan, a thaflwyd ef ar y glaswellt. Trannoeth daeth ei berthynasau yno, cludasant y corff adref, a chladdwyd ef drachefn yn yr ardd yn ymyl ei dy.[4]

Yn Sir Faesyfed preswyliai geneth ieuanc o dueddiadau crefyddol cryfion, oedd wedi ymaelodi gyda'r Bedyddwyr. Fel y cyfryw ni fynychai Eglwys y Plwyf. Gwysiwyd hi ger bron y llys Eglwysig, a diarddelwyd hi. Bu farw yn fuan ar ol hyn—a chladdwyd hi ym mynwent y plwyf. Pan glywodd yr offeiriad, gorchymynnodd agor y bedd, tynnwyd y corff allan, cludwyd ef ar gar-llusg i groesffordd gerllaw, ac yno claddwyd hi fel y cleddir llofrudd.5

Yn Sir Feirionnydd daliodd y Swyddogion nifer o Ymneillduwyr, gan eu gyrru fel defaid o'u blaen ar hyd y ffordd. Wedi cyrraedd y pentref, a'u ceidwaid yn sychedig, trowyd y carcharorion i'r ffald, tra'r clai'r swyddogion i'r dafarn i dorri eu syched. Ar ol bod yno yn llymeitian am oriau, daeth y swyddogion allan at y carcharorion yn y ffald, gan eu gyrru drachefn o'u blaen tua glan y mor, lle y'u gadawsant ar y traeth agored dros nos.[5]

Erys traddodiad Cae'r Fendith ar lafar gwlad hyd y dydd heddyw. Yn rhestr y rhai a "ddistawyd" o dan Ddeddf 1662, ceir enw Henry Williams, Ysgafell, Sir Drefaldwyn. Amaethwr a phregethwr cynorthwyol oedd Henry Williams. Bu yngharchar droion; treuliodd naw mlynedd o'i oes yngharchar am ei grefydd. Dirwywyd ef dro ar ol tro; anrheithiwyd ei eiddo; atafaeliwyd ei wartheg; llosgwyd ei dŷ. Un tro, tra efe yngharchar, ei wraig (oedd yn ymyl rhoi genedigaeth i blentyn) a'i dad oedrannus yn y ty, rhuthrodd nifer o filwyr arfog i fewn. Lladdwyd yr hen wr tra ar ei liniau ar y grisiau. Tra Mrs. Williams yn ceisio ffoi, ond yn methu brysio oherwydd ei chyflwr, anelodd milwr lawddryll at ei phen, gan fygwth ei saethu. Rhwystrwyd ef gan y swyddog, ond cymerwyd yr holl eiddo a allesid ei gario ymaith. Un o'r pethau olaf oedd Mr. Williams wedi ei wneud cyn cael ei gymeryd i garchar, oedd hau cae mawr o wenith. Yr oedd hwn wedi egino pan ymwelodd yr anrheithwyr â'r lle. Wedi geni'r plentyn, dychwelodd Mrs. Williams i'r Ysgafell, ac wrth rodio o gwmpas y fferm, sylwodd fod y cae gwenith yn ymddangos yn wahanol i arfer. Erbyn y cynhaeaf daeth yn amlwg i bawb fod cae gwenith yr Ysgafell yn eithriadol, nid yn unig am amledd ond hefyd natur y cnwd. Tyfai amryw gorsenni o bob gwreiddyn, ac ar bob corsen yr oedd o ddwy saith o dywysennau gwahanol, a phob corsen yn orlawn o'r gronynnau gwenith brasaf. Cafwyd mwy o elw oddiwrth yr un cae gwenith hwnnw, nag a achosodd y milwyr o golled drwy anrheithio'r lle yn y gwanwyn. O'r dydd hwnnw hyd heddyw, adwaenir y maes wrth yr enw arwyddocaol Cae'r Fendith.[6]

O dan y cyfryw amgylchiadau gellir deall fod y werin bobl a lynent wrth eu Hymneillduaeth, mewn cyflwr tra chythryblus. Prin y gellid disgwyl i hen filwyr Cromwell—ac yr oedd rhai o'r cyfryw hyd yn oed yng Nghymru―ddioddef camwri ac anghyfiawnder mor fawr, heb wrthdystio mewn modd tra ymarferol. Mewn rhai ardaloedd yr oedd yr elfen hon ymhlith y boblogaeth mor gref, fel nad oedd yr erlidwyr yn teimlo rhyw awydd cryf iawn i ymyrryd â hwynt. Ond eithriadau oedd y rhai hynny. Fel rheol, caffai yr erlidwyr eu ffordd eu hunain i raddau pell. Mae yn siarad yn uchel iawn am deyrngarwch Ymneillduwyr boreuol Cymru, am eu hufudd-dod i gyfraith y tir hyd yn oed pan yr oedd yn amlwg yn gyfraith anghyfiawn, ac i ddylanwad eu hathrawon crefyddol arnynt, mai ychydig, os dim, a geisient wneud i amddiffyn eu hunain drwy rym arfau. Ag eithrio ambell i engraifft o Gristionogaeth gyhyrrog, a gredai fod mwy o rym mewn dwrn cauedig neu bastwn onnen, nag mewn ymresymu â'r rhai a sychedent am eu heiddo os nad am eu gwaed, ni flinwyd nemawr ar swyddogion y gyfraith gan yr Ymneillduwyr Cymreig drwy wrthwynebu yn gyhoeddus eu hymddygiadau gormesol. Nid yn y parthau poblog yn unig, ond ynghanol unigedd gwledig hefyd, yr oedd braw ac arswyd wedi meddiannu'r bobl. Nodaf un engraifft yn unig, yn dal cysylltiad ag ardal ac â theulu enwog ymhlith Diwygwyr Cymru.

Yn ymyl pentref Llangeitho saif amaethdy henafol Llwyn Rhys. Yn nyddiau Cromwell preswyliai John Jones a Marged ei wraig yno. Yr oedd y teulu wedi dod o dan ddylanwadau Ymneillduol, John Jones ei hun yn bregethwr cynorthwyol, a'i frawd Dafydd Jones, wedi cael addysg yn Rhydychain yn un o'r 2500 a drowyd allan yn 1662. Chwaer i'r ddau frawd hyn oedd mam yr enwog Phylip Pugh. Ond er mai Puritanaidd ac Ymneillduol oedd holl nodwedd y teulu, perthynai iddynt un ddafad ddu, mab afradlon, etifedd Llwyn Rhys, Dafi'r mab hynaf, canwyll llygad Marged, ac unwaith gobaith ond bellach gofid calon John Jones. Wedi methu dygymod â bywyd tawel Puritanaidd Llwyn Rhys, yr oedd Dafi wedi rhedeg bant," ac ambell si wedi cyrraedd ei ardal enedigol ei fod wedi dilyn y Tywysog Siarl i wlad estronol. Pan ddaeth y Tywysog Siarl yn frenin, daeth tro ar fyd, ac erlid ar yr Ymneillduwyr, a phregethu a chynnal cyrddau yn waith tra pheryglus. Eto parhaodd yr hen John Jones, Llwyn Rhys, i gyflawni ei ddyledswydd yn gyson fel gweinidog ffyddlon. Ond un diwrnod gwelodd gwr Lletem-ddu, cymydog i John Jones, un mewn dillad milwr yn dod ar gefn march gwyn dros Bensarn Helen, ac yn cyfeirio tua Llwyn Rhys. Deallodd mai dod i ddal neu ladd John Jones yr oedd, a rhedodd y cymydog ar draws y caeau i rybuddio y pregethwr. Yn ffodus yr oedd John a Marged yn y tŷ, ac nid hir y buwyd cyn cytuno ar gynllun. Yr oedd wyneb y ddaear wrth dalcen uchaf y tŷ, agos cyfuwch a'r llofft, a drws i fyned oddiallan i'r llofft er cyfleustra i gario'r ŷd yno wedi ei nithio. Gyrrodd Marged ei gwr i'r llofft i ymguddio, tra'r clai hi allan i'r buarth i gyfarfod y milwr. Trefnodd arwydd neillduol â'i gwr, modd y gallai hwnnw gael cyfle i ffoi drwy ddrws y llofft, os mai i'w ddal yr oedd y milwr wedi dod. Allan a hi a'i hosan a'i gwewyll yn ei llaw, tra John yn gorwedd ar lawr y llofft yn gweled drwy dwll beth oedd yn cymeryd lle rhwng ei wraig a'r milwr. Ni fedrai glywed yr ymddiddan, ond gwelodd ei wraig, ar ol siarad gair a'r milwr, yn gwynnu fel y galchen, a'r milwr yn llamu oddiar ei farch ac yn ymaflyd ynddi. Gan dybio mai ymosod ar yr hen wraig yr oedd y milwr, llamodd John Jones ar ei draed ac allan drwy ddrws y llofft tuag atynt gan waeddi, "Peidiwch lladd yr hen wraig! Rhoddaf fy hun i fyny!" Rhuthrodd at y milwr, oedd erbyn hyn â'i fraich am ganol yr hen wraig, a'i phen hithau megis mewn llewyg ar ei fynwes. Trodd at John Jones, a dywedodd, "Nhad!" A chyda'r gair adnabu John Jones ei fab afradlon Dafi. Teulu llawen oedd teulu Llwyn Rhys y dwthwn hwnnw. Adroddodd Dafi ei hanes, ei fod yn uchel yn ffafr y brenin, ac yn gadben ar y corfflu a wyliai berson y brenin ddydd a nos. Drwy ffafr yr oedd wedi cael gan y brenin drwydded i'w dad gael pregethu faint fyd a fynnai yn Llwyn Rhys—ac o'r dydd hwnnw allan, am lawer blwyddyn faith, bu Llwyn Rhys yn ganolbwynt bywyd crefyddol yr ardal.[7]

O'r holl enwadau, y Crynwyr a ddioddefasant fwyaf a mwyaf cyffredinol. Yr oedd dau beth yn cyfrif am hyn, sef yr egwyddor o anwrthwynebedd (non—resistance), ar yr hon y gweithredent; a'r ffaith na phetrusent unrhyw amser a than unrhyw amgylchiadau, i gyhoeddi eu hegwyddorion. Tra eraill yn cyplysu callineb y sarff gyda diniweidrwydd y golomen, cysylltai'r Crynwyr gyda'r diniweidrwydd hwnnw, eofndra a gafaelusrwydd y targi. Herient bawb, a thrwy hynny gwahoddent ymosodiad,―tra ar yr un pryd yn amlygu na wrthwynebent ymosodiad ond yn unig trwy ymostwng yn amyneddgar i bob rhuthr a wneid arnynt. Mewn gair, swp o anghysonderau cydffurfiol oedd Crynwyr yr oes honno; yn herio heb wrthwynebu erlidiau, yn creu terfysg tra yn pregethu heddwch, ac yn gorchfygu dialedd drwy ymostwng o'i flaen ac ymsythu drachefn o'i ol. Mae Hunan-gofiant Richard Davies o'r Trallwm yn darllen fel chwedl. Cawn ef un dydd yn traethu yn hyf yn erbyn yr Eglwys fel sefydliad, yn erbyn yr offeiriaid fel gweision cyflog yn ffoi pan ddel y blaidd i'r golwg am mai gweision cyflog ydynt; trannoeth, tra'n gwybod fod yr esgobyddion â gwarant yn chwilio am dano, yn myned yn hamddenol at balas Dr. William Lloyd, Esgob call Llanelwy, ac yn gofyn am gael gweled ei Arglwyddiaeth; ac ar ol myned i fewn yn dadleu â hwnnw am oriau fod Eglwys Loegr yn anysgrythyrol yn ei gwasanaeth, yn ei hoffeiriadaeth, ac yn ei defodaeth.[8] Cawn ef yn cael ei draddodi i garchar—a'r swyddogion yn cymeryd ei air yr âi yno o hono ei hun; ceidwad y carchar yn gomedd agor y drws iddo, tra yntau yn crefu am gael ei garcharu; wedi myned i mewn yn dylanwadu gymaint ar y ceidwad, (a hwnnw'n ddyn rhyfygus o anuwiol) nes iddo ollwng Richard Davies yn rhydd i deithio'r wlad i bregethu hyd nes daeth dydd y frawdlys—ac erbyn gwawrio'r dydd, Richard Davies yno yn barod i dderbyn unrhyw gosb a ddyfernid, tra yn y cyfamser wedi bod yn ail gyflawni yr un trosedd am yr hwn y traddodwyd ef i'r carchar i sefyll ei brawf. Ac eto medrai'r bobl hyn ar adegau roi trafferth i'r swyddogion na freuddwydiai eu brodyr mwy milwriaethus eu hysbryd, yr Anibynwyr a'r Bedyddwyr, byth am wneud. Cymerer un engraifft:—

Yr oedd dwsin o Grynwyr yn cynnal cyfarfod crefyddol yn groes i Ddeddf y Cyrddau. Daeth swyddog gwladol i'w cymeryd i'r ddalfa, ac i'w dwyn ger bron yr Ustus. Purion," ebe un o'r Crynwyr. "Wele ni. Nid ydym am wrthwynebu'r gyfraith. Os oes gennych awdurdod i fynd a ni at yr Ustus, wel, cymerwch ni." "Da," ebe'r swyddog, "deuwch!" "Oh na!" oedd ateb anisgwyliadwy'r Crynwyr. "Nid yw ein hegwyddorion yn caniatau ini eich cynorthwyo. Eich lle chwi yw ein cludo yno, ac nid ein lle ni yw mynd." Wrth weled hyn, galwodd y swyddog am wagen. Daeth y wagen a'r ceffylau at y drws. "Yn awr," ebe'r swyddog, "i'r wagen a chwi!" "Na!" oedd yr ateb tawel, "eich lle chwi yw ein rhoi ynddi." Felly gorfu iddo gael help i'w cario bob yn un ac un o'r ty cwrdd i'r wagen. Wedi cyrraedd pen y daith, digwyddodd yr un peth. Nid oeddent yn gwrthwynebu'r swyddog, ond nid oeddent am ei gynorthwyo ychwaith; gorfu iddo gael help i'w cario o'r wagen drachefn i ystafell yr Ustus.[9]

Mae hanes y cyfnod yn llawn o engreifftiau cyffelyb. Un o nodweddion mwyaf anymunol y cyfnod yw, fod gwrthwynebiad yr Anibynwyr a'r Bedyddwyr i'r Crynwyr, ac eiddo'r olaf iddynt hwythau, mor gryf ac anghymodlawn ag eiddo'r ddau at yr Eglwys Sefydledig.

Nodiadau

[golygu]
  1. Documents relating to the Settlement of the Church of England in 1662. 477—480.
  2. Neal, vol. ii., pp. 757—760.
  3. Dywed ysgrifennydd o'r cyfnod hwnnw fod "3000 wedi cael eu penodi i fywiolaethau pan oeddent yn rhy ieuanc i bregethu; fod 1500 o ddynion a arweinient fywydau anfoesol, wedi cael eu hordeinio; a llawer eraill o rai hollol anllythrennog." (Gwel Cornish Hist. of Noncons., p. 109.)
  4. Cambro British Biography, pp. 152, 162.
  5. Cambro British Biography, pp. 152, 162.
  6. Mae yr hanesyn uchod mor hynod fel y buasai yn anhygoel pe na byddai profion diamheuol i'w wirionedd. Ymhlith y cyfryw brofion nodaf dri.
    1. Traddodiad llafar gwlad yn cadw'r hanes hyd heddyw.
    2. Cân goffa a ysgrifennwyd i Henry Williams gan ei fab-ynghyfraith, y Parch. Richard Davies, gweinidog yr Anibynwyr, yn cynnwys cyfeiriadau at y digwyddiad gwyrthiol, a'r "tywysennau dyblyg trifflyg." Wele ddyfyniad o'r gân goffa:—

    "The miracle like nimble lightning flew,
    And filled all tongues with things so great, so new.
    The good rejoiced, his troubles lost their rage,
    Since God so plainly did for him engage.
    The prodigy had struck this outrage mute;
    Nor durst they ever after persecute."

    3. Mae rhai o'r corsenni gwyrthiol hyn wedi cael eu cadw hyd y dydd heddyw. Mewn photograph o honynt, a dynnwyd gan y Parch. D. Davies, Brighton, ddwy flynedd yn ol, mae lleoliad y tywysennau a amlhawyd ar y gorsen, i'w weled yn amlwg, er fod y tywysennau eu hunain wedi hen syrthio ymaith.
  7. Talfyrrwyd o "Adgofion Pedwar Ugain Mlynedd," gan y Parch. Evan Evans, Nantyglo,—teulu yr hwn sydd eto'n byw yn Llwyn Rhys.
  8. Leaves from the History of Welsh Nonconformity. Southall, 1899.
  9. Record Office. State Papers. Dom. Car. II., 292, No. 27.

PENNOD XIII.
CHWIL-OLEU'R MADDEUEBION.

Ar bob llong ryfel, a chyda phob byddin, ceir yn awr beiriant y chwil-oleu trydanol (electric search light). Boed y nos mor dywell ag y bo, a'r gelyn yn gweithio mor ddistaw ag y mynno, os troir y goleuni rhyfedd hwn arno, daw y cwbl a wna ac a wnaeth yn y tywyllwch, yn fwy amlwg i'r llygaid a'i gwylia na phetai yn sefyll ynghanol llewyrch haul ganol dydd. Gan gychwyn o'r peiriant yn bwyntil fflachiol, lleda yn raddol fel yr ymestynna tua'r pellafoedd, nes dod yn baladr llydan disglaer, yngoleuni'r hwn nis gall dim y cyffyrdda ag ef aros yn guddiedig. I rywbeth tebyg i hyn y gellir cyffelybu cynnwys amhrisiadwy hen lawysgrifau Swyddfa'r Cofnodion (Record Office) yn Llundain. Gadewch ini, yn y bennod hon, droi ffrwd ddisglaer un o'r amryw chwil-oleuadau a geir yno, ar gyflwr Ymneillduaeth y deyrnas yn y cyfnod tywyll yr ydym yn ymdrin âg ef.

Gwelwyd yn y bennod ddiweddaf mai cyfnod o dywyllwch caddugawl ar grefydd ac Ymneillduaeth ydoedd blynyddoedd teyrnasiad y ddau frawd Siarl II. a Iago'r II., o 1660 hyd ddiwedd 1688. Trown ynte Chwil-oleu Maddeuebau Siarl II. yn 1672—ymron ynghanol y cyfnod—ar draws y tywyllwch, a pha beth a ganfyddwn? Cawn weled amryw bethau hynod na letybiwyd eu bodolaeth. Er mwyn eu dwyn yn amlycach o flaen y meddwl, a'u hargraffu yn ddyfnach ar y cof, gosodaf hwynt ger bron fel ffeithiau noeth—ac yna rhoddaf wisg yr amgylchiadau am danynt.

1. Yr oedd Ymneillduaeth wedi ennill tir, o dan erledigaeth lem Deddfres Clarendon.
2. Yr oedd Ymneillduwyr wedi cynhyddu,
3. Yr oedd Ymneillduwyr wedi magu asgwrn cefn

Wedi ennill tir, wedi cynhyddu mewn rhifedi, wedi magu asgwrn cefn i benderfynnu sefyll dros eu hawliau, gwelodd yr Ymneillduwyr:—

4. Fod yn rhaid iddynt gysylltu gwleidyddiaeth â'u crefydd;
5. Mai yn eu gallu gwleidyddol y gorweddai eu gobaith am ryddid crefyddol;
6. Mai ofn eu gallu gwleidyddol yn unig a dueddai eu gormeswyr esmwythau'r iau ar eu hysgwyddau.

Gwelwn ninnau gyda hynny:—

7. Fod erledigaeth wedi maethu Anibyniaeth mewn crefydd;
8. Fod erledigaeth wedi gwneud y Presbyteriaid yn Anibynwyr;
9. Fod erledigaeth wedi gwasgaru a gwanychu'r Bedyddwyr.

Daw ffeithiau dyddorol, pwysig, ac addysgiadol eraill i'r golwg o dan fflach y chwil-oleuni, ond efallai mai'r tri thriawd uchod yw'r amlycaf a'r pwysicaf. Sylwer pa fodd y deuant i'r amlwg yn y ffeithiau hanesyddol cysylltiedig a'r Maddeuebau hyn. Cofier nad wyf yn dweyd dim yn y bennod hon—pennod mor bwysig a'r un yn hanes Diwygwyr Cymru—ond a geir yn y pentwr hen lawysgrifau gwreiddiol yn swyddfa'r cofnodion. Os na fyddaf yn rhoi'r awdurdod llawn am bob ffaith a nodir, awydd i arbed gofod, ac i beidio trethu amynedd y darllenydd, yn unig sy'n cyfrif am hynny.

Ar waethaf y deddfau penydiol a'r ormes a'r erlid, yr oedd yr Ymneillduwyr wedi lledu dros y wlad, ac wedi llwyr feddiannu rhai o'r trefi poblog, gan ennill drwy hynny ddylanwad nid bychan yn y Senedd a'r byd gwleidyddol. Yn Yarmouth, er engraifft, gyda 12,000 o gymunwyr, cyfrifid nad oedd 500 o honynt yn mynychu eglwys y plwyf.[1] Yng Ngwlad yr Haf yr oedd Cyrddau Ymneillduol wedi lluosogi mor fawr nes rhoi achos pryder i'r awdurdodau.[2] Yn Dover yr oedd yr Ymneillduwyr wedi mynd mor hyf nes y gyrrodd un gohebydd i gwyno wrth yr awdurdodau yn Llundain, fod Maer y ddinas yn esgeulus o'i ddyledswyddau.[3] Ymddengys fod yr awdurdodau yn Llundain wedi cymeryd mesurau i orfodi'r Maer a'i gorfforiaeth i osod y gyfraith mewn grym, canys cawn yr un gohebydd ymhen mis yn dweyd fod "Y Maer wedi rhoi gorchymyn i dynnu i lawr bwlpud a meinciau y Bedyddwyr, ac i gloi'r lle i fyny." Ond ni thyciodd hyn, canys "Boreu Sabath yn blygeiniol iawn, torrwyd y drysau cloedig yn agored, ac aeth y Bedyddwyr yn ol at eu hen ystranciau drachefn. Pan aethom (y swyddogion) at dy cwrdd y Presbyteriaid, methasom fyned i mewn; yr oedd y rhai oddi mewn mor gyndyn fel nad agorent y drws."[4] Adgoffeir ni o rai o ddigwyddiadau Rhyfel y Degwm diweddar yng Nghymru gan rai o'r adroddiadau swyddogol a yrrwyd o'r wlad at yr awdurdodau yn Llundain. Wele engraifft:—

"Euogfarnwyd ugain o dai-cyrddwyr gennyf ym mis Hydref diweddaf. Apeliodd un o honynt yn erbyn y ddedfryd yn y frawdlys hon,—eithr buom mor ofalus a chawsom reithwyr mor dda fel, mewn llai nag awr, dygwyd rheithfarn i mewn o blaid y brenin. Eithr cymaint yw haerllugrwydd y blaid hon (yr Ymneillduwyr), ac mor benderfynnol ydynt i ddychrynu pawb rhag troi yn achwynwyr arnynt am gynnal eu cyfarfodydd terfysgus, fel mai prin yr oedd y llys wedi codi, nag y cymerasant yr achwynwr i'r ddalfa ar bump o gyhuddiadau gwahanol. Rhaid fod traul yr achosion hyn yn ddigon i ddifetha amgylchiadau dyn tlawd—yn wir nis gallai dyn cyfoethog fforddio ymladd yn erbyn arian unedig y bobl hyn."

Cynllun arall a fabwysiadai'r Ymneillduwyr pan y gosodid dirwy drom arnynt am gynnal cyfarfodydd crefyddol, oedd i'r troseddwr aros yn ei gartre, ond gyrru ei holl eiddo dros y terfynnau i sir arall. . . Pan ddeuai'r swyddogion i'w fferm—nid oedd yno anifail i'w gael; ac er y gwyddid pa le yr oeddent wedi myned, nis gellid atafaelu arnynt mewn sir arall, gan nad oedd y troseddwr wedi ffoi yno.[5]

Dychrynnodd y blaid Eglwysig gymaint, fel y penderfynasant wneud y gyfraith yn fwy caeth nag erioed yn erbyn yr Ymneillduwyr. Tybient ei bod yn rhy ddrwg fod achwynwr diniwed(?) yn gorfod dioddef yn lle cael ei wobrwyo am fradychu ei gymydogion crefyddol. Dygwyd Mesur i fewn i'r Senedd i'r perwyl hynny yn Ebrill, 1671. Pasiodd drwy Dy'r Cyffredin gyda pheth anhawsder. Dihangodd megys â chroen ei ddannedd drwy'r ail ddarlleniad yn Nhy'r Arglwyddi;—yna torrodd ei hyrwyddwyr eu calon, a gadawsant i'r Mesur syrthio i'r llawr.[6] Dechreuodd y llywodraeth ei hun anesmwytho. Cawn nodiad gan un o'r prif swyddogion (Williamson) i'r perwyl canlynol:—

"Mae'r cynulleidfaoedd wedi ymhyfhau, gan farchogaeth eu gweinidogion, a gorfodi y rhai hynny i weithredu yn ol eu hewyllys hwy. Os na phregethwch chwi ini,' meddant, mynnwn ryw un arall a wna.' Maent beunydd yn mynd yn fwy penboeth. Mae'r holl Bresbyteriaid yn troi yn Anibynwyr, a rhaid i'r gweinidogion wneud yr un modd."[7]

Erbyn dechreu Hydref cydnebydd Williamson gyda gofid fod y rhan amlaf—er nad y pwysicaf—o'r cynulleidfaoedd Ymneillduol, yn cynnal eu cyfarfodydd yn gyhoeddus.[8] Anesmwytho fwy fwy a wnai'r Eglwyswyr. Ysgrifenna Dr. Butler ei fod ef wedi sylwi ar "y tai-cyrddwyr, eu bod yn bobl gref, war-galed." Tybia eu bod yn teimlo yn chwerw yn erbyn y llywodraeth. Dylid cymeryd gofal," eb efe, "rhag i'r Dutch lanio yn Lloegr, a chymeryd rhyw Ymneillduwr i'w harwain,[9] —yn erbyn y brenin, wrth gwrs. Rhaid fod Ymneillduaeth wedi dod yn allu cryf cyn fod ofnau o'r fath yn cael eu coleddu gan rai uchel mewn awdurdod mewn gwlad ac Eglwys. Nid hir y bu'r ofnau hyn cyn cyrraedd cylchoedd uwch fyth. Yr oedd gwastraff ac anoethineb Siarl wedi ei osod mewn cyfyngder. Yr oedd rhyfel ar dorri allan â'r Iseldiroedd,—y pryd hwnnw y gallu llyngesol cryfaf yn y byd. Gan gofio beth a ddigwyddodd i'w dad, crynai Siarl yn unigedd ei ystafell ddirgel, rhag gweled "y bobl gref, war-galed," fel y galwai Dr. Butler hwynt, yn ymuno â'r gelyn tramor; ac iddo yntau, fel ei dad, golli ei goron os nad ei ben. Nis gallai anghofio mai etifeddion traddodiadau ac ysbryd "Haiarnwyr" (Ironsides) Cromwell oedd "y bobl gref, war-galed" hyn.

Yn fuan daeth yr Ymneillduwyr hwythau i ddeall sut yr oedd y gwynt yn chwythu, a dygwyd mwy o fywiogrwydd ac o eofndra i'w gweithrediadau. Adeiladwyd nifer o dai cyrddau, yn enwedig yn y trefi. Pan yrrid atynt, dan gochl cyfeillgarwch, i'w cynghori i roi heibio torri'r ddeddf yn gyhoeddus, chwarddent am ben y cyngor—gan wybod mai nid eu lles hwy ond diogelwch y llywodraeth oedd yn gwasgu ar feddwl y swyddogion. Bygythid gyrru milwyr i gau'r tai cyrddau, ac i gymeryd y pregethwyr a'r cynulleidfaoedd i'r carchar. Ond gwyddai y rhai a fygythid na feiddiai'r awdurdodau gario'r bygythiad allan, rhag ofn y bobl y rhai a bleidient y pregethwyr Ymneillduol. Erbyn dechreu Ionawr, 1671-2, yr oedd yr Ymneillduwyr wedi magu digon o galon i gyfarfod â'u gilydd er ymgynghori pa fesurau a gymerasid ganddynt tuag at ail sicrhau eu hawl i gynnal eu cyfarfodydd yn agored. Awgrymwyd i'r brenin y gallai adgyfodi y cynllun a gynygiodd ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad (gwel tud. 139)—gyda'r cyfryw gyfnewidiadau ag a fernid yn angenrheidiol i gyfarfod âg amgylchiadau newydd yr oes. Y cynllun a awgrymid gan rai oedd taflu drysau'r Eglwys Wladol led y pen, modd y gallai'r rhai a drowyd allan yn 1662 ddod yn ol drachefn. Gwrthwynebid hyn o du'r Eglwys ac o du'r Ymneillduwyr. Nid cael eu cynnwys yn yr Eglwys oedd dymuniad yr Ymneillduwyr mwyach, ond cael rhyddid o dan y gyfraith i addoli Duw yn ol eu cydwybod eu hunain. Nid oedd yr ymdrafodaeth yma i gael ei wneud yn gyhoeddus rhag codi gwrthwynebiad yn y Senedd neu o du'r esgobion. Sylwer ar y dyddiadau canlynol:—

Diwedd Ionawr, 1671-2, hysbyswyd y brenin fod y pregethwyr yn Llundain yn gwrthod addaw peidio cynnal eu cyfarfodydd—a bod y bobl tu cefn iddynt.

Mawrth 6. Gorchymynnwyd cyhoeddi rhyfel yn erbyn Llynges yr Iseldiroedd. Yr un dydd siaradwyd am y tro cyntaf yn y Cyngor am Gyhoeddi Maddeuebau i'r Ymneillduwyr.

Mawrth 14. Cytunwyd yn y Pwyllgor Tramor ar eiriad y Cyhoeddiad Brenhinol o Faddeuebau i'r Ymneillduwyr.

Mawrth 15. Pasiwyd y Cyhoeddiad gan y Cyngor a chyhoeddwyd ef.

Yn y weithred hon, Cyhoeddiad Maddeuebau (Declaration of Indulgence), dyddiedig Mawrth 15, 1672, dywed Siarl:—

"Nad oedd y mesurau gorfodol oedd wedi bod mewn grym am ddeuddeng mlynedd i sicrhau Unffurfiaeth mewn crefydd, wedi dwyn ond ychydig ffrwyth; fod ei Fawrhydi felly yn gweithredu ar ei awdurdod fel Pen yr Eglwys, i sicrhau heddwch y deyrnas a chysur ei ddeiliaid, drwy gyhoeddi fod Eglwys Loegr i aros fel y mae yn bresennol, pawb i dalu'r degwm iddi, a neb i ddal swydd o'i mewn os na fydd yn cydffurfio; ond fod pob cyfreithiau penydiol yn erbyn yr Anghydffurfwyr i gael eu hatal, a bod nifer o leoedd yn cael eu trwyddedu fel lleoedd addoliad i'r Anghydffurfwyr, ond nad oedd y cyfryw i gael pregethu. mewn lleoedd anrhwyddedig, nac i bregethu terfysg na gwrthwynebiad yn erbyn yr Eglwys."[10]

Creodd Cyhoeddiad y Maddeuebau gynnwrf mawr drwy'r deyrnas. Cafwyd yn fuan brawf diamheuol fod Ymneillduaeth wedi lefeinio'r holl wlad. Yn y trefi mawr darfu i'r Corfforiaethau Masnachol (nid anhebyg i Undebau Llafur ein dyddiau ni) ganiatau eu hystafelloedd swyddogol hwy at wasanaeth y gweinidogion Ymneillduol. Ymhen wythnos ar ol Cyhoeddi'r Maddeuebau, danfonwyd deisebau i fyny at y brenin o bob rhan o'r deyrnas, yn diolch iddo am ganiatau rhyddid cydwybod i'r Ymneillduwyr. O un sir yn unig—Dyfnaint—arwyddwyd y ddeiseb gan 72 o weinidogion Ymneillduol, a cheir deisebau siroedd eraill yn cynnwys enwau niferi mawrion. Ceisiwyd am, a rhoddwyd, dros 3500 o drwyddedau pregethu. Weithiau arwyddai aelodau'r Eglwys Ymneillduol eu henwau wrth y ddeiseb—a gellir barnu wrth nifer yr enwau rifedi'r Eglwysi. Er engraifft, mae dros 160 enwau wrth ddeiseb diolch cynulleidfa John Flavell, o Dartmouth. Ceir enwau hanesyddol ymhlith y rhai a gawsant drwyddedau, megys Dr. Thomas Goodwin, John Flavell, Edmund Calamy; ac ymhlith y Cymry, Dr. John Owen, Phylip Henry, Samuel Jones, Brynllywarch; Stephen Hughes, Mydrim; Hugh Owen, Bronyclydwr, &c. Dyddorol yw gweled enw John Bunyan ymhlith y rhai a geisient drwyddedau. Wedi bod gyhyd yngharchar, wele awdwr Taith y Pererin yn gwneud cais, yn ei lawysgrif ei hun, drosto ei hun a nifer o weinidogion eraill yn Swydd Bedford, am drwyddedau i bregethu. Yn y cais desgrifia hwynt oll fel "Cynulleidfaolwyr" (Congregationalists).[11] Beth, ynte, oedd y trwyddedau hyn, a beth oedd raid ei wneud er mwyn eu cael? Yr oedd y trwyddedau yn dri math, sef:—

1. Trwydded i weinidog neillduol i bregethu i gynulleidfa neillduol.[12]
2. Trwydded i dŷ neillduol i gynnal cyfarfodydd enwad neillduol.[13]
3. Trwydded cyffredinol i weinidog i bregethu mewn unrhyw dy trwyddedig.[14]

Gwnaed y telerau i gael y trwyddedau hyn mor esmwyth ag oedd bosibl. Nid oedd dim i'w dalu am danynt. Y cwbl a ofynnid oedd fod cais ysgrifenedig yn cael ei wneud am drwydded, gan nodi'r person, y lle, a'r enwad y ceisid y drwydded iddo.

Wrth y daflen a roddir ar ddiwedd y bennod hon—y rhestr gyflawn gyntaf a gyhoeddwyd erioed o drwyddedau Cymru―gwelir fod pob sir yng Nghymru, ag eithrio Mon, wedi gwneud cais am drwyddedau. Caniatawyd cyfanrif o 133 o drwyddedau i Gymru. O'r rhai hyn mae 88 yn cael eu rhoi i Anibynwyr, 23i rai a elwir yn Bresbyteriaid, ond a oeddent, fel y danghosir eto, yn Gynulleidfaolwyr, 17 i Fedyddwyr, a 5 i rai na nodir eu henwad. Trwyddedwyd 67 o bersonau gwahanol, ac 114 o dai gwahanol. Sylwir eto, mewn pennod arall, pa fodd mae ffigyrau Cymru'n cydmaru âg eiddo Lloegr.

Chwerwodd yr Eglwyswyr eithafol yn enbyd. Bygythient wneud prawf mewn llys a oedd y Maddeuebau hyn, a roddwyd trwy awdurdod y brenin heb ganiatad y Senedd, yn gyfreithlon. Eithr ni chariwyd y bwriad hwn allan. Eto i gyd, galwyd y Maddeuebau yn ol y flwyddyn ganlynol.

Ond yr oedd y drwg wedi cael ei wneud,—ac ofer mwyach oedd ceisio llethu Ymneillduaeth o'r tir.

Nodiadau

[golygu]
  1. State Papers Domestic, 1671, Car. II., 292, No. 157.
  2. Ditto, ditto, 1671, Car. II., 290, No. 179.
  3. Ditto, ditto, 287, No. 57.
  4. State Papers Domestic, 287, No. 171.
  5. Ditto, ditto, 287, No. 63.
  6. State Papers Domestic, 289, No. 28.
  7. Ditto, ditto, 293, No. 28.
  8. Ditto, ditto, 293, No. 222.
  9. Ditto, ditto, 294, No. 15.
  10. Gwel Y Memrwn, S. P. Dom., Car. II., Case F., No. 1.
  11. State Papers Domestic, Car. II., 321, No. 58.
  12. Wele gopi o drwydded i berson neillduol:—
    Charles by the grace of God King of England, Scotland, France and Ireland, Defender of the Faith, &c., To all Mayors, Bayliffs, Constables, and other our officers, ministers, civil and military, whom it may concern, greeting. In pursuance of our declaration of the 15 March, 1671-2,
    We do hereby permit and license A. B. to be a Teacher of the Congregation allowed by us in a house and chamber in C. for the use of such as do not conform to the Church of England, who are of the Persuasion commonly called . . . With further license and permission to him the said A. B. to teach in any other place licensed and allowed by us according to our said declaration. Given at our command at the Whitehall, the. . . day of . . . . in the 24th year of our Reign, 1672.
    By His Majesty's Commission.
  13. Dyma eileb o drwydded i dŷ neillduol:—
    We have allowed and we do hereby allow of C. to be a place for the use of such as do not conform to the Church of England who are of the Pursuasion commonly called . . . .to meet and assemble in, in order to their publick worship and devotion, and all and singular our ministers Ecclesiastical, Civil and Military, whom it may concern are to take due notice hereof, and they and every of them are hereby strictly charged and required to hinder any tumult or disturbance, and to protect them in their said meetings and assemblies. Given, &c.
  14. Dyma gopi o drwydded gyffredinol:—
    License for a Teacher in General. Charles, &c. To all Mayors, &c., greeting. In pursuance, &c. We do hereby permit and license . . . . . . of the Persuasion commonly called . . . . . to be a Teacher and to teach in any place Licensed and allowed by us according to our said Declaration. Given, &c.

MADDEUEBAU SIARL II. I GYMRU.
(Gwel hefyd Map Rhif 2.)

Wele am y tro cyntaf erioed restr gyflawn o'r holl Faddeuebau (Indulgences) a ganiatawyd gan Siarl II. yn 1672 i Ymneillduwyr Cymru. Nodir y Sir, yr Enwad, y person, a'r lle i'r rhai y caniatawyd pob trwydded. Yn y golofn 5 ceir cyfanrif y trwyddedau ymhob sir, ac yn y golofn 6 ceir cyfanrif y personau yn y sir honno a ddifuddiwyd neu a ddistawyd gan Ddeddf Unffurfiaeth ddeng mlynedd cyn hynny. Dynoda seren o flaen enw, nad yw'r enw yn y rhestr a roddir gan Dr. Rees, Abertawe. Dynoda cromfachau () mai ar awdurdod Dr. Rees y rhoddir yr enw neu'r enwad i fewn. Pan roddir enw mewn llythyren Italaidd, dynoda fod y person hwnnw wedi cael ei enwi o'r blaen mewn sir arall.

Teg yw hysbysu fod Mr. T. E. Morris, bargyfreithiwr, yr hwn hefyd a gymerodd lawer o drafferth i wneud ymchwiliad personol ac anibynnol i'r llawysgrifau perthynol i'r trwyddedau yn Swyddfa'r Cofnodion, yn garedig wedi caniatau imi gymharu fy rhestr ysgrifenedig i â'i eiddo ef. Er fod ychydig o wahaniaeth rhwng y ddwy, maent yn gyson a'u gilydd ac yn ymarferol yr un rhestr. Er engraifft, cyfrifa Mr. Morris fod 193 o drwyddedau wedi dod i Gymru. Gwneir y rhifedi hynny i fyny drwy gyfrif trwydded i dŷ a thrwydded i berson fel dwy drwydded, tra y cyfrifaf finnau hwynt fel un drwydded, os gellir profi mai trwydded i'r person hwnnw yn y ty hwnnw ydyw.

Gwahaniaethaf, hefyd, oddiwrth Dr. Rees a Mr. Morris am leoliad rhai o'r tai a drwyddedwyd. Rhaid cofio (1) Fod cais ysgrifenedig yn mynd i fyny at y Llywodraeth am drwydded. (2) Nad oedd y gohebwyr hyn bob amser yn meddu llawysgrif ddealladwy. (3) Fod swyddogion y Llywodraeth yn cymeryd nodiad yn eu llawysgrif eu hunain o'r ceisiadau, ac heblaw nad oedd eu llawysgrif hwythau bob amser yn eglur, tueddent i wneud camgymeriad yn aml yn sillebiaeth enwau Cymreig. Am rai o`r enwau hynny amheuaf a geid dau ddyn, y rhai wrth weled y llawysgrifau am y tro cyntaf, a'u darllenent yr un fath—os nad yn feddiannol ar wybodaeth bersonol leol a'u cynorthwyent. Ond nis gellir ymddiried yn eu gwybodaeth ddaearyddol ychwaith. Er engraifft, gosodir Plas Teg, lle cafodd William Jones drwydded, yn Sir Ddinbych yn lle Sir Fflint, a Brynllywarch, cartref Samuel Jones, yn Sir Benfro yn lle Sir Forgannwg! Ceir nodiadau ar ddiwedd y rhestr mewn perthynas i rai o'r lleoedd hyn.

Am enwadau y trwyddedigion. Gofynnid nodi'r enwad, pa un bynnag ai i berson ai i dŷ y bwriedid y drwydded. Gelwir yr Anibynwyr weithiau yn Independents, weithiau yn Congregationalists, weithiau yn Presbyterians. Nid wyf yn y daflen wedi gwahaniaethu rhwng yr Independents a'r Congregationalists, am ei bod yn amlwg mai'r un oeddent. Yr wyf wedi gwahaniaethu yn y daflen rhyngddynt a'r Presbyterians, rhag tybied o neb fy mod yn rhoi i'r Anibynwyr achosion a berthynent i enwad arall. Ar yr un pryd mae yn amlwg, i'r neb a ä'n ofalus drwy'r hen drwyddedau, mai yr un oedd y tri, yn mynd o dan wahanol enwau mewn gwahanol ardaloedd. Ceir y cais am drwydded weithiau wrth un o'r enwau, a'r drwydded ei hun wrth yr enw arall. Gelwir Samuel Jones mewn un drwydded yn Bresbyteriad, ac mewn un arall yn Independent. Ceir trwydded i ddyn a elwir yn Presbyterian i bregethu mewn ty a elwir yn Independent. Ond ni cheir unrhyw amser drwydded i Fedyddiwr i bregethu mewn ty a elwir nag yn Presbyterian nac yn Independent. Cyplyser y pethau hyn â'r ffaith (a) Fod gweision y Llywodraeth yn eu hadroddiadau swyddogol yn dweyd fod y Presbyteriaid oll yn troi yn Anibynwyr (gwel tud. 165), a (b) Nad oedd ymhen cenhedlaeth ar ol hyn gymaint ag un Eglwys yng Nghymru yn galw ei hun yn Bresbyteraidd,—a gorfodir ni i ddod i'r casgliad fod y rhai a elwid yn "Bresbyteriaid" yn y trwyddedau i Gymru, i bob diben ymarferol, yn gyfryw ag a elwid heddyw yn "Anibynwyr." Profir fod y golygiad a gymerir yma yn hanesyddol gywir, gan y ffaith fod awduron goreu Lloegr yn dweyd yn ymarferol yr un peth am Gymru a Lloegr. "Yng Nghymru," ebe Dr. Vaughan (English Nonconformity, p. 354), "cymerodd llywodraeth Eglwysig ffurf Anibyniaeth i raddau nodedig." "O 1662 hyd 1688," medd Solly (Our English Presbyterian Forefathers, p. 25) cariai'r Presbyteriaid Seisnig eu gwaith ymlaen o angenrheidrwydd ar Egwyddorion Anibyniaeth." Dywed awdwr arall (Hunter): "Yr oedd yr erlid, i'r hwn yr oeddent yn agored, yn ei gwneud yn amhosibl, neu yn anoeth, iddynt geisio gario allan ddisgyblaeth Presbyteraidd. A phan, ymhen blynyddau, yr oedd Deddf Goddefiad yn caniatau iddynt weithio'r gyfundrefn honno, yr oedd eu dyddordeb mewn Presbyteriaeth wedi marw—ac, yn wir, ni fu erioed yn gwestiwn byw ganddynt" (History, Opinions, &c., of the English Presbyterians, p. 11). Yn wir, ymhell cyn hyn yr oedd yr enw "Presbyteriaid," yn Lloegr a Chymru, wedi colli yr ystyr a roddid—ac a roddir eto—iddo yn yr Ysgotland. Nid oedd y gair yn dynodi, yn Lloegr, ymlyniad wrth y ffurf Henaduriaethol o lywodraeth Eglwysig, ond cynhwysai bawb o'r Diwygwyr Crefyddol na ddymunent ymneillduo o'r Eglwys. Felly, pan orfodwyd hwynt i ymneillduo, ymunasant yn dra chyffredin a'r Anibynwyr, gan fabwysiadu eu ffurf-lywodraeth Eglwysig hwy. ("Our English Presbyterian Forefathers," "History, Opinions, &c., of the English Presbyterians," &c., &c.) Nid oes angen ymhelaethu.

Wele ddadansoddiad o'r rhestr o dan y gwahanol siroedd:—

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10
SIR. Anibynwyr Pres. Bap. Cyfanrif. Cyfanrif Deddf Unffurfiaeth. Pregethwyr gwahanol. Tai gwahanol. Dim Preg. neillduol. Dim tŷ neillduol.
Aberteifi 9 0 0 9 13 4 9 0 0
Brycheiniog 5 0 1 6 6 4 2 0 3
Caerfyrddin 4 0 3 7 11 4 7 0 0
Caernarfon 5 2 0 7 1 5 5 0 2
Dinbych 11 2 0 13 12 6 12 3 0
Fflint 1 5 0 7 5 4 5 0 2
Maesyfed 8 2 1 11 5 6 9 3 1
Meirionnydd 5 0 0 5 1 1 5 0 0
Mon 0 0 0 0 0 0 0 0 0
Morgannwg 15 7 5 27 30 13 24 3 0
Mynwy 20 0 7 30 15a 16 26 5 4
Penfro 3 0 0 3 11 2 3 0 0
Trefaldwyn 2 5 0 8 15 2 7 5 0
Cyfanswm 88 23 17 133 125 67 114 19 12
Swm An + Pres 111

Mewn pump amgylchiad ni nodir yr enwad.

a Dylaswn fod wedi nodi ynglyn a'r rhestr (tudal. 152) o'r rhai a drowyd allan yn sir Fynwy, ei bod yn fwy na thebyg mai'r un yw "George Robinson, Caerlleon," a "Robins, Llangatog;" yng Nghaerlleon y saif Eglwys Plwyf Llangatog.

Wele eto restr gyflawn o'r holl drwyddedau a roddwyd i Gymru:—

ABERTEIFI
Lle Pregethwr Enwad Ty
Aberteifi James Davies C James Davies
Eto Eto C Widow Gwynne
Llanbadarnodyn Morgan Howell C John Jones
Llandisilio (Morgan Howell) C David Thomas
Llanfair Trefhelygen (Morgan Howell) C David Rees
Dihewyd (Morgan Howell) C Philip David
Llanddewibrefi David Jones C Ei dy ei hun
Cellan Evan Hughes C David Hughes
Llanbedr (Evan Hughes) C Evan David
BRYCHEINIOG
Lle Pregethwr Enwad
Talgarth David Williams Ind (William Watkins)
Eto William Williams Ind
Llanigon (David Williams) C William Watkins
Llanafan Fawr Thomas Evans Bp(P)
Llanfigan (Lewis Prytherch) C David Williams
*Eto Lewis Prytherch Ind
CAERFYRDDIN
Lle Pregethwr Enwad Ty
Llanstephan Stephen Hughes C Evan Morris
Pencader Eto C Widow Jenkins
Cenarth Fames Davies C John James
Llangunnor (Robert Morgan) Bapt Edward Williams
Eto Robert Morgan Bapt Joshua Francis
Llanon John Morgan Bapt (John Morgan)
Pencarreg (David Jones) C *David Jones
CAERNARFON
Lle Pregethwr Enwad Ty
Caernarfon Ellis Rowlands Pres Ei dŷ ei hun
Tynycoed [1] John Williams C Ei dŷ ei hun
Bodwell House at Ty yn y coed (John Williams) Ind Bodwell House
Ty'nycoed John Rowland Ind Ei dŷ ei hun
*Pentyrch William Rowland Ind
Pwllheli (William Rowland) Ind Tŷ Wm Rowland
(Llangybi Ellis Williams Pres Ei dŷ ei hun)
DINBYCH
Lle Pregethwr Enwad
Gwrecsam (John Evans) Pres John Hughes
*Eto Pres David Williams
Eto John Evans C Edward Kenricke
Ruabon Philip Rogers C Roger Kynaston
Eto Roger Kynaston C Ei dŷ ei hun
Eto (Richard Price) C Wm Wynn
Eto Richard Jones C Ei dŷ ei hun
Llanfair Jonathan Roberts C Ei dy ei hun
Glyn [2] (Richard Price) C John Hughes
Eto [3] (Richard Price) C Richard Price
Ruthin (John Evans) C John Roberts
*Tynyford [4] C Elizabeth Feston
*Melin Glyn [5] C David Thomas

FFLINT
Lle Pregethwr Enwad
Malpas Philip Henry Pres Ei dŷ ei hun
Hanmer James Jackson Pres
Eto (Philip Henry) Pres Catherine Key
(Eto Philip Henry Pres William Bennett)
Bryn (Philip Henry) Pres Luke Lloyd
Plasteg [6] William Jones Ei dŷ ei hun
*Penyrallt [7] John Prichard C
MAESYFED
Lle Pregethwr Enwad
Glascomb (Edward Owen) C Ruth Mills
*Eto C Edward Owen
Eto C Thomas Price
*Llanbister C John Hanmer
Eto (John Hanmer) C Ann King
Beguildy (Maurice Griffith) C Pres Maurice Griffith
Eto (Richard Griffiths) Pres Richard Griffith
Eto (Richard Griffiths) (Pres) Owen Morgan
Llangunllo (John Hanmer) (C) R Griffith
*Llanfihangel Nant Melan Thos Tonman C
Llandrindod William Greene Bapt Ei dŷ ei hun
MEIRIONNYDD
Llc Pregethwr C Ty
Llanegryn Hugh Owen C Ei dŷ ei hun
Penarth (Ellis Williams) C David Williams
Erwgoed [8] (Ellis Williams) C John Owen
(Cynfal Ellis Williams C Mary Lloyd)
(Bodwynog Ellis Williams C Ellis Davies)
MORGANNWG
Lle Pregethwr Enwad Ty
Abertawe Marmaduke Matthews, MA Ind Ei dŷ ei hun
Eto Daniel Higgs C Ei de ei hun
Eto C Stephen Hughes
Eto Lewis Thomas Bapt William Dykes
Bishopston (Lewis Thomas) C Henry Griffith
Nicholaston (Lewis Thomas) C Robert Gethin
Roscilly (Lewis Thomas) C Richard Devine
Llangynnwyd Samuel Jones Pres Ei dŷ ei hun
*Margam Ind Samuel Jones
Coetrehen Samuel Jones Pres Rees Powell
Wenfo Joshua Miller Pres Morgan Thomas
Penbont-ar-ogwy Thomas Joseph Bapt Ei dy ei hun
Newton Nottage Howell Thomas Bapt Wm Andrews
Eto Watkin Cradock Ind Ei dŷ ei hun
St Bride's (Watkin Cradock) (Bapt)[9] Widow Williams
*Llangewith Bapt Llewelyn Morgan
Baglan Robert Thomas Ind Ei dŷ ei hun

Kenffig Jacob Cristopher Ind Lewis Alward
(Eto Robert Thomas Ind Eto)
Gellygaer (Robert Thomas) C Lewis Rees
Llanvabon (Robert Thomas) C Wm Rowlands
Eglwysilan Thomas John C William John
Pontfaen Samuel Jones Pres Evan Christopher
Castellnedd (Samuel Jones) Pres Elizabeth Morgan
Kildeudy Samuel Jones Pres Rice Powell
Merthyr Henry Williams Ind Howell Rees
(Caerdydd John French Pres Ei dŷ ei hun)
MYNWY
Lle Pregethwr. Enwad Tŷ.
*Christ Church Ind. Joana Jones.
*Undy Ind. Wm. Howell.
*Caerwent Ind. John Harris (Bell Inn)
Henesant [10][11] Joshua Lloyd
*Llandaud Jeremy Walter
*Llandasand [10] Henry Walter Ei dŷ ei hun.
*Casnewydd John Powell C
Eto Eto Ind. Barbara Williams
Llangua (Wm. Millman) (Bapt) William Richards
Llangybi Walter Williams C Edward Waters.
*Sherenewton C John Maurice.
Marshfield (Walter Williams) Ind. Jane Reynolds.
*Llangwm Thomas Quarrell B J. R.
Mynyddislwyn (Watkin Jones) Ind. Thomas James.
Eto Watkin Jones Ind. Ei dy ei hun.
Eto (Eto) Ind. Evan Williams.
Aberystruth. (Walter Williams). Ind. Llewelyn Rosser.
Eto (Eto) Ind. John Jones.
Llanwennarth (Reynold Morgan) Ind. John Watkins.
Henllys (Eto) Ind. Margaret Jones.
Bettws (Eto) Ind. Reynold Morgan.
Abergafenni John Edwards Bapt Ei d◊ ei hun.
Eto (Christopher Price) Bapt Ei dŷ ei hun.
Bedwellty (Thomas Jones) Bapt Thos. Jones.
Llandilopertholeu William Pritchard Bapt (Ei dŷ ei hun).
Caldicott (Watkin Jones) (C) James Lewis.
Magor (Thos. Barnes) C Walter Jones.
Eto C Thos. Barnes.
(Llantrisant George Robinson C George Morgan).
(Eto Wm. Thomas Bapt —)
PENFRO
Lle. Pregethwr. Enwad. Tŷ.
Hwlffordd Peregrine Phillips C Ei dŷ ei hun.
Eto Eto C Richard Naylor.
Cilgerran Jenkin Jones C Ei dŷ ei hun.

TEFALDWYN
Lle. Pregethwr. Enwad. Tŷ.
Bryng (Wm. Pritchard) C John Kynaston.
Trallwm Hugh Rogers Pres Ei dŷ ei hun.
(Eto Hugh Rogers Pres. Dd. Rogers).
(Eto Hugh Rogers Pres Widow Morris.
*Drefnewydd Pres. Widow Morris.
*Croesoswallt C Hugh Edwards.
Eto Pres. Eliza Griffith.
Nant Dorothy Gough

Nodiadau

[golygu]
  1. Efallai y dylaswn nodi yma fy mod yn gwahaniaethu oddiwrth Mr. Ivor Jones mewn perthynas i leoliad Ty'nycoed. Yn ei lawlyfr ar Hancs Anibyniaeth Sir Gaernarfon, lleola Mr. Ivor Jones y Ty'nycoed hwn yn Llangian a chymydogaeth Abersoch, ar sail y cerfiad ar y garreg fedd lle gelwir John Williams yn "Arwr Llangian." Lleolaf finnau Ty'nycoed yn ymyl Llannor, am y rhesymau canlynol:—
    a. Rhoddwyd trwydded i "John Williams of Tynycoed;" hefyd i dŷ a elwid "Bodwell House att Tynycoed;" hefyd "John Rowlands at his house in Tynycoed."
    b. Mae Bodwell House att Tynycoed" eto'n aros yn ymyl Llannor—ac nis gall amheuaeth fod am leoliad hwnnw.
    c. Mwy naturiol yw tybied mai un ardal oedd Ty'nycoed, gyda thair trwydded i dri thy yn yr ardal, na bod tri thy mewn gwahanol ardaloedd, a'r oll yn dwyn yr un enw Ty'nycoed.
    d. Saif Ty'nycoed, Llannor, yng nghymydogaeth Capel Helyg, cangen o'r achos oedd dan ofal Mr. John Williams.

    Dylaswn ddweyd, gyda llaw, am dŷ John Rowlands fod Mr. Morris yn darllen y llawysgrif yn Swyddfa'r Cofnodion yn "Yin y Cryd" ac yn "Yin y Cred." Tybia Mr. Ivor Jones mai "Ty'n y Caerau" a ddylai fod; tra darllena Dr. Rees. Abertawe, ef yn "Ty'n y Caeau." Tybiaf mai'r darlleniad naturiol i'r ddau yw "Ty'nycoed."

  2. "Glimmin" y gelwir y lle hwn yn yr hen lawysgrif. Cytunaf â Dr. Rees mai Glyn a ddylai fod.
  3. Mae yr enw hwn wedi poeni llawer arnaf. "Groynby" y darllenir ef gan Dr. Rees, gan Mr. T. E. Morris, a minnau. Ond nid oes ddal ar y llawysgrif am y sillebiaeth na'r sir. Tybiais mai camysgrifiad oedd am naill ai Gwernydd neu Cyfronydd, yn Sir Drefaldwyn. Ond tueddir fi, oddiwrth y cysylltiad à Richard Price, i feddwl mai Glynceiriog, Sir Ddinbych, a ddylai fod. Ysgrifenner Glyn cg. yn frysiog a gallai Sais heddyw, chwaethach dros 200 mlynedd yn ol, ei wneud yn Groynby.
  4. Henffroid yw llythyreniad yr hen lawysgrif
  5. "Minllynglym" yw dull y clerc Seisnig yn Llundain o ysgrifennu'r enw.
  6. Plastoake, Denbighshire," ddywed yr hen lawysgrif. Amlwg oddiwrth y cysylltiad A William Jones mai Plas Teg, Sir Fflint, a feddylir. Gwel y map.
  7. Penyrallt. Lleolaf hwn, fel Plas Teg, yn Sir Fflint, ac nid yn Sir Ddinbych.
  8. "Erwgogel" y darllena Dr. Rees y lle hwn.
  9. Gwn fod Dr. Rees, mewn un amgylchiad yn Sir, Forgannwg, wedi cysylltu enw Watkin Cradock, Anibynnwr, a thrwydded y "Widow Williams," a geilw honno yn Fedyddwraig. Ond tybiaf mai naill ai ei gamgymeriad ef wrth ysgrifennu, neu'r argraffydd wrth gysodi, yw hyn. Nid oes enwad iddi ar restr Mr. T. E. Morris.
  10. 10.0 10.1 Dyna sut y sillebir yr enwau yn yr hen lawysgrifau. Nis gallaf wneud gwell nag awgrymu mai Llantrisant y bwriedid iddynt fod.
  11. Os gall rhyw ddarllenydd fy ngalluogi i gywiro rhai o'r casgliadau uchod, teimlaf yn dra diolchgar.

PENNOD XIV.
AMGYLCHIADAU'R GWAITH YNG NGHYMRU.

Yn nyddiau teyrnasiad gormesol Siarl II. a Iago II., fel y gwelsom, rhoddwyd prawf tanllyd ar yr Ymneillduwyr yng Nghymru fel yn Lloegr. Daliodd yr Anibynwyr y prawf—a chynhyddasant. Collodd y Bedyddwyr eu tir, a gwasgarwyd eu heglwysi. Nid am fod yr Anibynwyr yn fwy ffyddlon na'r Bedyddwyr i'w hegwyddorion y bu hyn; eithr yn unig ac yn syml am fod cyfundrefn yr Anibynwyr yn eu gwneud yn gryf ac eiddo'r Bedyddwyr yn eu gwneud yn wan, i wrthsefyll deddfau gormesol. Yn nyddiau'r erledigaeth o 1660 hyd 1688 diflannodd mwy nag un o Eglwysi cyntaf y Bedyddwyr, ac ni phlannwyd ganddynt ond dwy newydd, sef Capel y Ffin, Brycheiniog, yn 1663, a Rhydwilym, Penfro, yn 1668. Gaeaf oedd y cyfnod hwn i'r Bedyddwyr, eithr cynhaeaf cynnar ydoedd i'r Anibynwyr. Plannwyd gan yr olaf yr eglwysi canlynol:—

Yn 1662. Bala a Thy'nybont (Meirion); Penbont-ar-Ogwy (Morgannwg); Llanwrtyd (Brycheiniog); Llanybri, Caerfyrddin Heol Awst, Trelech, a Gwynfe (Caerfyrddin); Llechryd (Aberteifi); a Dinbych.

Yn 1665. Albany Hwlffordd. Ac yn 1668, Trefgarn (Penfro). Yn 1670, sefydlwyd Saron, Llangeler, yn Sir Aberteifi.

Yn 1672, fel ffrwyth uniongyrchol ac amlwg Maddeuebau Siarl, daeth i'r amlwg nifer o eglwysi a gyfarfyddent yn ddirgel cyn hynny, sef Hanofer ac Abergafenni (Mynwy); Eglwysilan (Morgannwg); Gore (Maesyfed); Drewen (Aberteifi); Tredwstan a Llangynidr (Brycheiniog).

Yn 1684 plannwyd Eglwys Pant Teg, Sir Gaerfyrddin.

Yn 1688 sefydlwyd Brynbiga (Mynwy); Watford, Maendy, Ysgetty, a Chwmllynfell (Morgannwg); Maesyronnen a Rhaiadr (Maesyfed); Aberhonddu (Brycheiniog); Crugybar (Caerfyrddin); a Chapel Helyg (Caernarfon).

Dyna restr o dros ddeg-ar-hugain o Eglwysi, gan mwyaf yn rhai cryfion, yn saith sir y De, a thair o siroedd y Gogledd, wedi cael eu sefydlu gan yr Anibynwyr yn y cyfnod rhwng pasio Deddf Unffurfiaeth yn 1662, a Deddf Goddefiad yn 1689. Yr unig siroedd na cheir ffrwyth llafur Anibynwyr yn ganfyddadwy ynddynt ar ffurf Eglwysi newyddion yn y cyfnod profedigaethus hwn, ydynt Mon, Maldwyn, a Fflint.

Torrodd cyfundrefnaeth ganoleiddiedig y Bedyddwyr i lawr yn llwyr, o dan bwysau gormes Deddfres Clarendon; blagurodd cyfundrefn yr Anibynwyr fel y lawryf gwyrdd yn yr un awyrgylch—ac nis gellir dweyd am dano yngeiriau'r Salmydd "Efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy o hono; a mi a'i ceisiais, ac nid oedd i'w gael;"—canys, ag eithrio un neu ddwy o honynt, nid yn unig maent yn aros hyd y dydd heddyw, ond gwelodd yr enwad hwynt, yn y blynyddau cyntaf ar ol hyn, "fel gwinwydden ffrwythlawn ar hyd ystlysau ei dy; a'u plant fel planhigion olewydd o amgylch eu bord," a'u canghennau yn meddiannu'r holl wlad o'u cwmpas. Athrod ar lafur Y Tadau, trais ar synwyr ac â ffeithiau hanesyddol, yw dweyd na wnaeth Ymneillduaeth ddim yng Nghymru am hanner canrif ar ol pasio Deddf Goddefiad!

Pa fodd yr ydys i gyfrif am y ffaith fod y Bedyddwyr mor wan, a'r Anibynwyr mor gryf, yn y cyfnod hwn? Mae'r ateb yn amlwg ar y wyneb.

1. Nid oedd y gyfundrefn a sefydlwyd gan John Myles (gwel tud. 121-124) drwy yr hon y rheolid yr eglwysi a'u gwaith yn ymarferol gan y gymanfa, yn un a allesid eu gweithio tra'r swyddogion gwladol yn gwylio pob symudiad, ac yn cosbi pawb Ymneillduwyr a geid yn ymgynnull at eu gilydd.

2. Yr oedd cyfundrefn yr Anibynwyr, lle roedd pob Eglwys yn gyfan-gorff gwahanfodol, yn trefnu ei holl faterion ei hunan o'i mewn, yn rhoi mantais iddynt ysgoi'r swyddogion erlidgar. Felly, heb help yr awdurdod canolog, syrthiodd yr Eglwysi Bedyddiedig a ymddibynnent arno, i brofedigaeth. Trwy arfer byw arnynt eu hunain mewn tywydd teg, galluogwyd yr Eglwysi Anibynnol i fyw hefyd mewn tywydd garw.

3. Cafodd llawer iawn o'r Bedyddwyr, na ddalient yn dŷn wrth Gaeth Gymundeb, noddfa a lloches yn yr Eglwysi Anibynnol. Yr oedd hyn. yn beth cyffredin ymhell ar ol yr amser dan sylw. Felly yr oedd nerth y Bedyddwyr Cymreig yn fwy, mewn gwirionedd, nag ydoedd mewn ymddanghosiad ar y pryd hwnnw.

Yr oedd Eglwys yn golygu rhywbeth tra gwahanol y pryd hwnnw i'r hyn a olyga yn awr, ac anhawdd ini sylweddoli yr aberth a wnai'r Tadau i gario'r gwaith ymlaen hyd yn oed pan na byddent yn cael eu herlid. Nid nifer o gymydogion yn byw yn agos i'w gilydd, yn gweled eu gilydd bob dydd o'r wythnos, ac yn gallu cyrraedd yr addoldy mewn ychydig funudau o'r tŷ, oedd Eglwysi'r Tadau. Yn aml, yn lle cael dwy, tair, neu hanner dwsin o eglwysi perthynol i'r un enwad yn yr un dref, fel y ceir heddyw, ceid aelodau'r un Eglwys yn wasgaredig dros amryw blwyfi helaeth. Yr oedd aelodau Eglwys y Bedyddwyr yn Rhydwilym, a gorffolwyd yn 1668, yn wasgaredig mewn tair sir ac mewn[1] 38 o blwyfi gwahanol. Yr oedd yr un peth yn wir am eglwysi eraill, perthynol i'r ddau enwad, yn y Gogledd[2] yn ogystal a'r De.[3]. "Eglwys Sir Gaerfyrddin" y gelwid cylch gweinidogaeth Stephen Hughes; "Eglwys Sir Aberteifi" y gelwid y maes a arolygid gan Dafydd Jones; " "Eglwys Sir Frycheiniog" y gelwid aelodau gwasgaredig yr enwad yn y sir honno. Pan ffurfiwyd Eglwys y Groeswen, ac yn wir i lawr hyd ddechreu'r ganrif bresennol, yr oedd trigolion hanner dwsin o blwyfi gwahanol yn aelodau o honi.[4] Fel y gwelir pan ddeuwn i ymdrin â sefydliad y "Seiadau Methodistaidd," Calfinaidd a Wesleyaidd, yr oedd y rhai hynny yn hanfodol wahanol i "Eglwysi"'r Ymneillduwyr, yn gymaint ag mai lleol ac ardalaidd oedd y "Seiadau," tra'r Eglwysi yn eang a chyffredinol eu cylch. Bydd cadw hyn mewn cof yn help i ddeall rhan o dywyllwch cwestiwn y Seiadau.

Oherwydd fod yr aelodau mor wasgaredig, teimlid yn aml yn fantais i gael mwy nag un man cyfarfod, a'r rhai hynny yn gydstad â'u gilydd. Weithiau gelwid enw'r Eglwys ar ol enw un o'r lleoedd hyn, a phryd arall ar enw un arall; felly mae'n ofynnol dilyn yn fanwl hanes yr holl Eglwys, cyn penderfynnu ai un Eglwys ai ychwaneg ydoedd. Am yr un rheswm ceid yn aml ddau a thri, ac weithiau bump neu chwech, o weinidogion yn bugeilio yr un Eglwys ar yr un pryd—a'r rhai hynny drachefn yn gydstad â'u gilydd. Nid yn anfynnych ceid Bedyddiwr ac Anibynnwr yn weinidogion ar yr un Eglwys ar yr un pryd.

Fel y gwelwyd eisoes, ni chai corff Ymneillduwr bob amser orffwys yn y bedd ym mynwent y plwyf,—a gorfu claddu ambell un mewn gardd yn ymyl ei dŷ. O dipyn i beth daeth yr hyn oedd ar y dechreu yn fater o reidrwydd, ym mhen blynyddau yn fater o ddewisiad; ac ar aml i lannerch dawel yng Nghymru, ceir rhan o ardd ty'r gweinidog, neu'r diacon, yn cael ei neillduo fel lle beddrod i aelodau'r Eglwys. Canlyniad naturiol arall yr un deddf yr amgylchiadau, oedd gwneud y ty yn gapel. Pan fyddai Ymneillduwr cefnog a selog yn adeiladu ty newydd, nid peth anaml fyddai iddo drefnu rhan o'r ty yn dŷ-cwrdd at amcanion arbennig yr achos yn y lle. Am aml i hen amaethdy ar lechweddau bryniau Cymru, gallesid dweyd yn llythyrennol ddau can mlynedd yn ol, "Nid oes yma onid ty i Dduw, a dyma borth y nefoedd!" Arferai'r Patriarchiaid gynt adeiladu allor i'r Arglwydd yn ymyl y fan lle y gosodent eu pebyll; arferiad Patriarchiaid Ymneillduol Cymru. oedd codi allor i'r Arglwydd fel rhan hanfodol o'r ty a adeiladent iddynt eu hunain. Yn y cyfryw dai yr oedd ystyr mwy arbennig i'r "allor deuluaidd" nag a roddir i'r gair heddyw. Yr oedd cysylltiad yr "allor" a'r "ty" yn dod yn beth hanfodol. Pa ryfedd fod y cenedlaethau a godwyd o dan y fath amgylchiadau, yn gwneud yr "allor" a'r "gwasanaeth" teuluaidd yn rhan hanfodol o'u crefydd, hyd yn oed y teuluoedd hynny lle nad oedd y ty hefyd yn gapel. Ac am y pwlpud, yr oedd hwnnw hefyd, yr un modd, yn cael ei wneud yn rhan hanfodol o ddodrefn y tai a ddefnyddid gynt fel capeli,—canys. o'r cychwyn cyntaf rhoddid y lle amlycaf i'r bregeth yn y gwasanaeth Anghydffurfiol. Yr arferiad oedd gwneud pwlpud symudol, a allesid ei osod i fyny yn ei le priodol pan fyddai oedfa i'w chynnal yno,—ac i'w droi yn barchus heibio, gyda thrysorau goreu eraill y teulu pan na fyddai ei eisieu. Yn yr haf, cynhelid y cyfarfodydd yn aml yn yr awyr agored—a threfnid lle i'r pwlpud o dan gysgod coeden gaeadfrig, tra'r gynulleidfa'n gylch o gwmpas; ac yn aml disgynnai'r gwlith nefol i galonnau'r gwrandawyr ar yr un pryd ag y disgynnai'r gwlith naturiol ar eu pennau. Ac os na pherthynai gwychder addurnol pwlpudau'r oes bresennol i bwlpudau'r Tadau, yr oedd iddynt addurniadau eraill a'u gwnaent yn gysegredig yngolwg y rhai a wrandawent ar yr hyn a ddysgid o honynt.

Yr oedd llawer o ramant yn gysylltiedig âg Ymneillduaeth foreuol—ac nid oedd y rhamantus bob amser yn ddymunol. Golygai teithio'r milltiroedd meithion ar hyd ffyrdd geirwon neu lwybrau anhygyrch, ar ystormydd a gwlaw neu ynghanol rhew ac eira, aberth na cheid ond ychydig yn yr oes hon yn barod i'w wneud er mwyn mynychu cyfarfod pregethu neu weddi. Mae amledd ein cyfleusderau crefyddol yn yr oes hon, yn ein tueddu i'w dibrisio, fel y dibrisir gennym gyfleusderau beunyddiol eraill a dybid gan ein tadau yn freintiau amhrisiadwy. Ymgynhullai crefyddwyr yr oes honno yn aml ar bennau'r mynyddoedd, neu yn llythyrennol, megys yn yr oes Apostolaidd, yn nhyllau ac ogofeydd y ddaear, er dianc rhag llid y gelynion.

Ceidw traddodiad yn fyw hyd y dydd heddyw yr hanes am Stephen Hughes ac Ogof Cwmhwplin. Un Llun Pasg, tra roedd Apostol Sir Gaerfyrddin ar ei ffordd i gyfarfod â'i Eglwys a gyfarfyddent yn ddirgel yn Ogof Cwmhwplin ger Llandysul, a phan yn pasio pentref gwledig ar y ffordd, gwelodd bobl ieuainc y pentre yn difyrru eu hunain â'r chwareuon oeddent eto'n boblogaidd yng Nghymru. Yr oedd yn eu plith un gwr ieuanc a gydnabyddid ymhell ac yn agos fel arweinydd ymhob chwarae a direidi. Wedi sylwi ar yr olygfa am ennyd, cafodd Stephen Hughes gyfle i siarad â'r gwr ieuanc, ac eb cfe wrtho, "Os deui gyda mi dros y mynnydd mi a ddanghosaf iti ddifyrrwch gwell nag a gei yma!" Yn awyddus i gael rhyw brofiad newydd, ac o bosibl i ddysgu rhyw gamp newydd a brofai unwaith eto ei hawl i fod yn flaenor ymhlith ei gyfoedion, cydsyniodd y llanc; a cherddodd wrth ochr Stephen Hughes mewn ymgom ddifyr, tan y cyrhaeddwyd yr ogof lle roedd. cynhulliad mawr yn eu disgwyl. Synnodd y gwr ieuanc i weled cynifer o bobl yn y fath le, a throdd at ei arweinydd i ofyn beth a olygai hyn oll. Mewn atebiad iddo dechreuodd Stephen Hughes y gwasanaeth yn ddiymdroi, ac mor ddwys y gweddiodd ar ran y gwr ieuanc, ac mor rhyfedd fu profiad hwnnw yn dod o ganol chwareu ysgafn, ac o bosibl anuwiol, i ganol cynhulliad mor ddifrifol, fel y trodd o'r dydd hwnnw allan i fod yn un o grefyddwyr mwyaf selog ei ardal. Cariodd gydag ef i'r byd crefyddol yr un dylanwad ag a feddai yng nghylch chwareuon yr ieuenctyd, a daeth yn un o gymeriadau disgleiriaf Eglwys helaeth Apostol Sir Gaerfyrddin.

Felly ymhob cylch perthynol i waith crefydd, gwahaniaethai amgylchiadau'r oes honno yn hanfodol oddiwrth yr hyn a welir yn ein dyddiau ni; a rhaid sylweddoli'r gwahaniaeth hwn, pan y ceisiwn fesur maint a gwerth gwasanaeth Diwygwyr Cymru i'w gwlad.

Nodiadau

[golygu]
  1. Wele ddosbarthiad aelodau'r Eglwys:—
    Yn Sir Benfro Narberth 6 o aelodau, Amra 1, Llanbedr 2, Slebach 2, Ismaston 1, Prendergast 2, Spittal 1, Wiston 2, Llanycefn 3, Llandisilio 4, Llanfeldeg 2, Llandilo 5, Llangolman 12, Myline S, Cilgerran 1, Llanfihangel 1, Whitchurch 1, Manordeifi 1, cyfanrif 55.
    Yn Sir Gaerfyrddin: Llandilio 3, Cilmaenllwyd 6, Llanglydwen 2, Eglwysfair 2, Llanboydy 1, Castellnewydd 2, Pencarreg 2, Llanllwni 10, Llanfihangel 4, Llanddawddog 3, Cilfowyr (plwyf Manordeifi) 4, cyfanrif 39.
    Yn Sir Aberteifi: Llanarth 1, Dihewid 4, Llanwenog 2, Llanwennen 2, Llandysyl 2, Llandyfriog 1, Penbryn 2, Bettws 2, Bryngwyn 1, Tremaen 2, cyfanrif 19.
    Cyfanrif Aelodau: Penfro 55, Caerfyrddin 39, Aberteifi 19=113. —(Hanes Bedyddwyr, tud. 321-2.)
  2. Rhennid "Eglwys Sir Drefaldwyn" i ddwy gangen fawr. Cynhwysai Cangen Llanbrynmair Aberhafesb, Penarth, Carno, Llanerfyl, Beulah, o'r Drefnewydd i Fachynlleth, Dylife, Manafon, Llanwyddelan, a Llanuwchllyn. Cynhwysai Cangen Llanfyllin Croesoswallt, Meifod, Pantmawr, Penybontfawr, Llanrhaiadr, Llansantffraid, Main, Penllys, Pontrobert, a Llangerniew.
  3. Ymestynnai Eglwys Penmain dros Mynyddislwyn, Bedwellty, Bedwas, Aberystruth, Llanfabon, Eglwysilan, Risca, y wlad o Blaenau a Mynyddislwyn hyd Gasnewydd, ac o Bontypwl i Gelligaer a Llanfabon. Mewn cyfnod diweddarach helaethwyd cylch gwaith yr Eglwys i Ferthyr, Rhymni, Tredegar, Cendl, Nantyglo, Caerlleon ar Wysg, a Llanedern
  4. Hyd yn oed yn 1832, yr oedd i Eglwys y Groeswen aelodau a changhennau yng Nghapel y Drindod, Llanedern, Rudry, Llysfaen, Eglwys Newydd, Pentyrch, Llanwonno, Aberdar, Llanfabon, Merthyr Tydfil, Eglwysilan, Bedwas, a Bedwellty.

PENNOD XV.
HEULWEN A CHWMWL.

Os mai fflach o oleuni trydanol ynghanol tywyllwch dudew'r nos, oedd Maddeuebau Siarl II., llewyrch cynnes haul, yn torri trwy'r cwmwl liw dydd, oedd Deddf Goddefiad William III. Ond cofier, os mai heulwen oedd, heulwen drwy'r cymylau ydoedd, canys yr oedd cymylau yn wybren Ymneillduaeth cyn ac ar ol pasio Deddf Goddefiad. Heb fynd i fanylu ar yr amgylchiadau, digon yw dweyd yma fod Maddeuebau Siarl II. wedi cael eu galw yn ol; fod deddfwriaeth orthrymus bellach wedi cael ei dwyn i fewn; fod Deddf y Prawflwon wedi cael ei phasio; fod y deddfau gorthrymus eraill eto'n aros mewn grym, ac yn cael eu cario allan pa le a pha bryd bynnag y beiddid;[1] fod Iago'r II., ac yntau'n Babydd cydnabyddedig, wedi cynnyg Maddeuebau tebyg i eiddo ei frawd Siarl ond yn bennaf er mwyn ffafru'r Pabyddion, a hyrwyddo'r ffordd iddynt hwy ddod yn ol i feddiant bywiolaethau Eglwys Loegr; a bod Ymneillduwyr Protestanaidd y Deyrnas yn dra chyffredinol wedi gwrthod manteisio ar Faddeuebau Iago.

Yn 1687, ddwy flynedd cyn pasio Deddf Goddefiad, trefnodd yr awdurdodau ddirprwyaeth i chwilio a oedd yr Ustusiaid yn gwneud eu dyledswydd yn y mater, yn arbennig yn y Corfforiaethau. Mae'n amlwg fod rhannau o Gymru, erbyn hyn, wedi dechreu cael eu lefeinio gan ysbryd Ymneillduaeth,. canys wele gyfieithad o'r Adroddiad Swyddogol a yrrwyd yn ol i Iarll Rochester yn Llundain:—

Dywedir nad oes ond ychydig gydsyniad yn y rhannau hynny o Gymru a'r siroedd cymydogaethol a wysiwyd eisoes i ymddangos, er mai Burford yw'r Arglwydd Raglaw, ac er y tybid fod ganddo ef ddylanwad mwy diamheuol yno na neb o'r Arglwydd Raglawiad eraill mewn parthau eraill o'r deyrnas nid yw'r Arglwydd Raglawiaid eto wedi gyrru'r llythyrau allan."[2]

Bydd galw i gof wir sefyllfa Anghydffurfwyr yngwyneb y gyfraith y pryd hwn, yn gymorth ini ddeall y cyfnewidiad a wnaeth Deddf Goddefiad.

Dynion dysgedig, yn ymhyfrydu mewn astudiaeth a llyfrau oedd gweinidogion Ymneillduol yr oes honno. Cauwyd hwynt allan o'r Llyfrfeydd Cyhoeddus, a gorfodid hwynt i werthu eu llyfrau eu hunain. er mwyn prynu bwyd i'w teuluoedd. Cauid hwynt a'u plant allan o'r Prifysgolion—ac yna gwawdid hwynt nad oeddent yn derbyn addysg. Ni chaent wasanaethu yn yr Eglwys: ni chai eu lleygwyr ddal swydd: ni chaent hwythau gadw ysgol. Ped ymgynhullent i addoli yn y tŷ gartref, cosbid hwynt dan Ddeddf y Cyrddau. Pe'r arhosent gartref, cymhwysid deddfau gorthrymus Elizabeth atynt (gwel tudal 24). Pe ceisient noddfa mewn gwlad estronol, rhwystrid hwynt drwy "Orchymyn y Cyngor" (Order in Council) os na fyddai ganddynt dystysgrif oddiwrth offeiriad y plwyf,—neu os mai gweinidogion oeddynt, dystysgrif oddiwrth Archesgob, neu Esgob Llundain. Ar bob tu, cyfyngid ar eu hawliau, eu symudiadau, a'u gweithrediadau.

Dyna eu sefyllfa yngwyneb y gyfraith. Ac eto, o dan y cyfryw amgylchiadau anffafriol, helaethasant le eu pebyll ac estynasant gortynnau eu preswylfeydd. Cyraeddasant y fath ddylanwad, fel, hyd yn oed yng Nghymru, bernid gan yr awdurdodau mewn rhai mannau mai gwell oedd gadael llonydd iddynt.

Yn 1687 cyhoeddodd Iago II. ei Broclamasiwn Maddeuebau cyntaf, a chan na fanteisiodd llawer arno, cyhoeddodd un pellach yn 1688, yn yr hwn nid yn unig y caniatäi i Anghydffurfwyr gynnal cyfarfodydd, ond tynnai yn ol yr angenrheidrwydd am brawflwon fel cymhwysder swydd. Gorchymynnodd y brenin i'r proclamasiwn olaf hwn gael ei ddarllen ymhob Eglwys blwyf drwy'r deyrnas. Gwrthododd llawer o'r clerigwyr wneud, ac yn eu plith saith o esgobion, ac un o'r saith oedd Dr. William Lloyd, Esgob Llanelwy, yr hwn, cyn hynny, a geisiai ddod i gytundeb â'r Ymneillduwyr yn ei esgobaeth gyda'r amcan o'u cael yn ol i'r Eglwys. Taflodd y brenin y saith esgob i garchar, a chynhyrfwyd yr holl wlad ben—bwy-gilydd. Tra yngharchar ymwelwyd â'r saith esgob gan ddeg o weinidogion blaenllaw'r Anghydffurfwyr, i ddatgan cydymdeimlad yr Ymneillduwyr â hwynt. Trwy wrthod ufuddhau i orchymyn y brenin torrodd yr Esgobion a'r Esgobyddion yn llwyr o dan eu traed eu hunain, y tir oeddent wedi bod yn sefyll yn gyndyn arno er pan ddaeth Iago I. i'r orsedd 80 mlynedd cyn hynny,—sef egwyddor sylfaenol Hawl Dwyfol y Teyrn (gwel tud. 63).

Sylwer ar y pethau canlynol:— <poem> a. Dadleuai'r Esgyboddion ar hyd yr amser dros Hawl Dwyfol y Teyrn. b. Golygai hynny fod y Teyrn yn Ben y Wladwriaeth a'r Eglwys. c. Golygai hynny ei fod yn hawlio ufudd-dod digwestiwn gan Wlad ac Eglwys. d. Golygai fod gwrthwynebu'r Brenin mewn gwlad neu Eglwys yn drosedd. c. Golygai fod cymeryd arfau yn erbyn y Brenin yn bechod an-faddeuadwy. f. Ar sail y pethau hyn y gormeswyd yr Anghydffurfwyr drwy'r blynyddau. g. Trwy wrthod ufuddhau i'r Brenin yn awr, gwadent mewn gweithred yr hyn a ddysgent mewn egwyddor o dan a a b; troseddent yn erbyn c; cyflawnent drosedd d a phechod e; ac felly cydnabyddent yn ymarferol y gallai'r Anghydffurfwyr fod wedi bod yn iawn ar hyd yr holl amser. <poem>

Diwedd yr helynt fu i'r saith Esgob, ar ol prawf cynhyrfus, gael eu cyhoeddi yn ddieuog. Cyfiawnhaodd y llys gwladol felly anufudd-dod i'r teyrn—a lladdodd y gyfraith wladol y bwgan—Hawl Dwyfol y Teyrn—oedd yr Eglwys Wladol eisoes
METHODISTIAETH HOWELL HARRIS-A-THOMAS CHARLES


wedi ei glwyfo. Cododd teimlad y wlad mor uchel, fel y ffodd y brenin am ei einioes i Ffrainc;—a'i ferch Mari, a'i fab—ynghyfraith William III., a deyrnasodd yn ei le.

Yn awr, yn y digwyddiadau hyn eto, cawn oleuni addysgiadol ar safle a dylanwad Anghydffurfwyr y deyrnas. Yr oedd y Pabyddion a gefnogent Iago II. wedi gosod eu bryd ar ennill ffafr a chefnogaeth yr Ymneillduwyr Protestanaidd, ac wedi sylfaenu eu gobaith am gario'r dydd ar y dybiaeth y caent y gefnogaeth honno.[3] Yr oedd y Protestaniaid hwythau,—y rhai a fynnent y Protestant William, a'i wraig Brotestanaidd Mari, i deyrnasu arnynt yn lle'r Pabydd Iago, hwythau yn chwennych a cheisio ffafr yr Anghydffurfwyr; a danghosodd William yn yr hyn a wnaeth cyn ac ar ol dod i'r orsedd, ei fod yn sylweddoli nerth Ymneillduaeth yn y wladwriaeth. Cyn dod i'r orsedd, cyhoeddodd ei Broclamasiwn Iawnderau (Declaration of Rights), yn sicrhau iawnderau gwladol; a rhoddodd addewid cyfrinachol i arweinwyr yr Anghydffurfwyr y caent hwy a'u cynulleidfaoedd eu diogelu rhag erlidiau am eu daliadau crefyddol;Calamy's Life of Baxter, vol. i., p. 422. wedi dod i'r orsedd, trodd ei Broclamasiwn Iawnderau yn Fesur Iawnderau (Bill of Rights), a mynnodd basio Deddf Goddefiad (Toleration Act)—yn rhyddhau Ymneillduwyr drwy ddeddf Seneddol, am y tro cyntaf erioed, o'r cosbau a fynnai cyfreithiau gormesol ei ragflaenwyr ar yr orsedd, osod arnynt am addoli Duw yn ol eu cydwybodau eu hunain yn lle yn ol ewyllys dyn.

Yn awr gosodir cymaint pwys ar Ddeddf Goddefiad, o dan yr hon y mae Ymneillduwyr eto'n cael addoli yn y wlad hon, fel mai da fydd nodi natur ei darpariaethau.

1. BREINTIAU DEDDF GODDEFIAD.

1. Rhoddodd fodolaeth gyfreithiol i Ymneillduaeth.

2. Goddefai i Ymneillduwyr Protestanaidd addoli yn ol eu cydwybod.

3. Goddefai iddynt reoli eu heglwysi eu hunain yn eu dull eu hunain. 4. Goddefai i'w gweinidogion gyfrannu ordinhadau crefydd iddynt.

5. Esgusodai'r Bedyddwyr rhag cydsynio âg athrawiaeth bedydd babanod. (Cyn hyn, fel y cofir, cyfrifid Bedyddwyr gyda theyrn-fradwyr).

6. Esgusodai'r Crynwyr rhag cymeryd llwon.

7. Unai'r Anghydffurfwyr Protestanaidd yn un corff cyffredinol o dan yr un enw swyddogol cyffredinol "Ymneillduwyr Protestanaidd." (O dan Faddeuebau Siarl II. rhaid oedd i bob Ymneillduwr nodi ei enwad; nid oedd hynny'n ofynnol dan Ddeddf Goddefiad).

II. DIFFYGION DEDDF GODDEFIAD.

1. Goddefiad ac nid hawl a roddwyd i Ymneillduwyr i addoli.

2. Esgusodi rhag cosb, ac nid dileu y gosb a wnai. Arhosai'r hen ddeddfau gorthrymus o hyd ar ddeddf-lyfrau'r deyrnas—ond fod pardwn yn cael ei roi i'r Ymneillduwyr rhag dioddef y gosb.

3. Goddefiad cyfyngedig ydoedd; cauai Babyddion ac Undodwyr allan. Gorfodid pawb (ond y sawl a esgusodid) i fyned i'r Eglwys fel cynt. Yn ol llythyren y gyfraith heddyw, gellir cosbi y sawl nad elo naill ai i'r Eglwys neu ynte i gapel trwyddedig, ar y Sul i addoli.

4. Goddefiad amodol ydoedd. i. Rhaid i'r gweinidog Ymneillduol (a) gyd-synio â 35 allan o 39 Erthyglau Eglwys Loegr; (b) cael trwydded gan yr ustusiaid i bregethu; ii. Rhaid i'r capel gael ei drwyddedu gan Esgob neu Lys Gwladol;[4] iii. Rhaid i'r addolwyr beidio cloi'r drws pan yn addoli, byddant o dan gosb os gwnant."[5] 5. Gorfodai ddyn i dderbyn credoau o osodiad dynol (gwel 4, i. (a) uchod).

6. Gosodai y gweinidog a'r Eglwys Ymneillduol mewn sefyllfa o israddoldeb i'r Eglwys Wladol, ac i fesur o dan reolaeth Esgobion yr Eglwys Wladol (gwel 4, ii., uchod).

7. Gorfodai'r lleygwr i aberthu swydd cyn y cai addoli yn ol ei gydwybod; a rhwystrai'r gweinidog a'r lleygwr Ymneillduol i gadw ysgol.

Mae tri pheth yn deilwng o sylw yma:

(1) Yr oedd y brenin yn fwy rhyddfrydig na'r Senedd.

(2) Yr oedd yr Arglwyddi yn fwy rhyddfrydig na Thy'r Cyffredin.

(3) Yr oedd Ty'r Cyffredin yn fwy rhyddfrydig na'r clerigwyr. Petae William wedi cael ei ddwylaw'n rhydd, buasai wedi sefydlu nid goddefiad, ond cydraddoldeb, gwladol os nad crefyddol, i'r Anghydffurfwyr.[6] Cynygiwyd, yn Nhy'r Arglwyddi, osod adran ym Mesur Goddefiad yn galluogi Anghydffurfwyr i ddal swyddi gwladol, ond collwyd y cynnyg trwy fwyafrif mawr. Dadleuai pleidwyr yr adran y byddai undeb calonnog rhwng pob Protestaniaid, yn fwy o ddiogelwch i'r Eglwys a'r Wladwriaeth nag unrhyw brawflwon a allesid eu dyfeisio.[7] Wedi colli'r cynnyg hwn, dygodd y Llywodraeth adran newydd i fewn, yn darparu y gallai dyn ddal swydd os byddai wedi cymuno yn Eglwys Loegr, neu unrhyw Eglwys Brotestanaidd, o fewn blwyddyn i'w etholiad.[7] Ffromodd y clerigwyr, yn enwedig yr adran Uchel Eglwysig o honynt, mor aruthr am fod y brenin yn ffafru'r Ymneillduwyr, fel na pheidiasant tra bu efe byw a gwrthwynebu ei Wladweiniaeth Gartrefol ef.

Danghosodd y clerigwyr eu gelyniaeth drwy wrthwynebu yn llwyddiannus bob ymgais i dynnu'r llyfetheiriau oddiam draed yr athraw yn ogystal a'r pregethwr. Dadl yr Anghydffurfwyr oedd hyn:—

"Os ydym i fwynhau rhyddid i addoli, rhaid i ni gael gweinidogion; daw adeg pan fydd y gweinidogion sydd gennym yn awr wedi marw, a rhaid fydd cael eraill i'w canlyn. Rhaid i'r dô nesaf o weinidogion dderbyn addysg, a rhaid cael ysgolion neu golegau i gyfrannu addysg."

Ond ni fynnai'r Eglwyswyr ganiatau hyn. Yr oedd hyd yn oed dynion mor dda a Stillingfleet a Tillotson yn gwrthwynebu. Wrth annerch ei glerigwyr anogai'r Esgob Tillotson hwynt i gadw llygad gwyliadwrus ar yr Anghydffurfwyr, rhag troseddu o honynt y ddeddf yn y mater hwn.[8] Drwy ddylanwad Tillotson rhwystrodd Archesgob Efrog Ymneillduwr dysgedig, o'r enw Mr. Frankland, rhag cadw ysgol yn ei archesgobaeth ef.[9]

10 Erlidiwyd a chosbwyd llawer o Anghydffurfwyr am feiddio cyfrannu addysg i rai o'u cydgrefyddwyr. Ymron yr unig Eglwyswr o nod a ffafrai yr Anghydffurfwyr oedd yr enwog Esgob Burnet. Dymunai ef gael cynhadledd o'r ddwy blaid i geisio cytuno ar gynllun a fuasai yn ysgafnhau beichiau'r Anghydffurfwyr heb beryglu dim ar yr Eglwys na'r Wladwriaeth. Ond methodd gael nemawr gefnogaeth gan ei gyd-glerigwyr.

Tra bu William byw, methodd y clerigwyr wneud llawer o niwed i'r Ymneillduwyr, ond mewn mannau. Ond wedi ei gasglu yntau at ei dadau, ac i'w chwaerynghyfraith ddod i'r orsedd yn 1702, daeth tro eto ar yr olwyn. Pabydd oedd Iago II., Protestant yn hytrach nag Eglwyswraig oedd Mari gwraig William, Eglwyswraig uwchlaw popeth oedd Anne ei chwaer, ac nid hir y bu cyn profi hynny trwy ei haelioni i'r Eglwys a'i chulni at Ymneillduaeth. Rhoddodd gyfran hael o'i heiddo (y" Blaenffrwythau" a gymerodd Harri VIII. oddiar y Pabyddion), yn rhodd i'r Eglwys dros byth—ac fel "Rhodd y Frenhines Anne" (Queen Anne's Bounty) yr adwaenir ei rhodd hyd y dydd heddyw. I'r Ymneillduwyr, ar y llaw arall, cyfnod tywyll a fu deuddeng mlynedd ei theyrnasiad. Ceisiodd hi a'r blaid Eglwysig, ymhob modd, i gwtogi hawliau cyfreithiol y rhai na chydffurfient âg Eglwys Loegr. Yn perthyn i'r blaid a fynnai ail osod llyfetheiriau caethiwus am draed yr Ymneillduwyr, yr oedd y frenhines ei hun, y rhan fwyaf o'r clerigwyr, dosbarth helaeth o'r ysweiniaid gwledig, a'r blaid wleidyddol a ddaeth i gael ei galw am y tro cyntaf yn ei dyddiau hi yn Doriaid.

Mae yn deilwng o sylw mai ar y cwestiwn o hawliau gwrthwynebol yr Eglwys ar y naill law a'r Ymneillduwyr ar y llall, y ffurfiodd y pleidiau gwleidyddol a gawsant enw yn ogystal a bodolaeth yn nyddiau Anne. Toriaid a Whigiaid y gelwid hwynt gynt—er y mynnai Anne ei hun alw'r Toriaid "Y Blaid Eglwysig" (The Church Party). "Yr Eglwys mewn perygl! I lawr a'r Dissenters!" oedd gwaedd ac arwyddair y blaenaf. "Goddefiad i'r Ymneillduwyr am fod Protestaniaeth mewn perygl!" oedd arwyddair politicaidd y Whigiaid.

I'r fath eithafion yr aeth Anne yn ei hymdrech i gwtogi rhyddid yr Ymneillduwyr, nes y galwodd Bedyddwyr Cymru ddydd arbennig o Ympryd a Gweddi i ddeisyf am gyfryngiad yr Hollalluog ar ran ei Eglwys erlidiedig;—a phan fu farw Anne, o dan amgylchiadau tra hynod, cyhoeddodd Cymanfa Bedyddwyr Cymru ddydd ei marwolaeth i fod yn Ddydd o Ymostyngiad a Diolchgarwch drwy eu cenedlaethau! Rhaid fod rhywbeth eithriadol yn perthyn i Anne cyn ennill o honi yr hynodrwydd anymunol o fod yr unig un a eisteddodd ar Orsedd Prydain ag y darfu i ran mor bwysig o'r Eglwys Gristionogol gyhoeddi yn swyddogol Ddydd Diolchgarwch am ei marwolaeth!

Mae'r frawddeg "Mor farw a'r Frenhines Anne" (As dead as Queen Anne) er's cenedlaethau wedi mynd yn ymadrodd traddodiadol. Eithr paham yr ystyrrir Anne yn fwy marw na neb arall? Onid am y ffaith fod Bedyddwyr Cymru'r oes honno wedi gweddio ar i Dduw ei symud hi, ac iddi hithau farw ar y dydd a benodwyd i ddwyn deddf newydd a gorthrymus i weithrediad? Dywedir fod yr ysgrifbin yn ei llaw yn barod i dorri ei henw wrth y weithred a wnai'r Mesur Sism yn rhan o Gyfraith y Tir, pan fu farw—a bu farw gyda hi y Mesur gormesol hwnnw, a fwriedid i amddifadu'r Ymneillduwyr o'u rhyddid, ac a'u gosodai yn ol mewn gwaeth caethiwed nag y gruddfannent odditano cyn pasio Deddf Goddefiad! Pa ryfedd, ynte, i Fedyddwyr Cymru gredu mai mewn atebiad uniongyrchol i'w gweddiau hwynt y symudwyd hi; ac iddynt hwy, ac eraill, o'r herwydd, ddechreu dweyd pan symudid rhyw berygl neu arall oddiar y ffordd heb obaith iddo ddychwelyd byth mwy,—ei fod "Mor farw a'r Frenhines Anne!" Ceidw rhai o Fedyddwyr Cymru hyd heddyw y dydd hwnnw yn Wyl Grefyddol flynyddol—er o bosibl na ŵyr ond ychydig ohonynt paham y'i cedwir felly![10]

Dau fesur arbennig a anelid at yr Anghydffurfwyr, sef "Mesur Cydffurfiaeth Achlysurol" (Occasional Conformity Bill) a "Mesur Sism" (The Schism Bill).

MESUR CYDFFURFIAETH ACHLYSUROL. Fe gofir fod rhai o'r deddfau penydiol blaenorol, yn gofyn fod dyn wedi derbyn y Cymundeb yn Eglwys Loegr o fewn blwyddyn o flaen ei benodiad, cyn y byddai'n gymhwys i ddal swydd. Ni theimlid hyn ar y cyntaf yn llawer o galedi. Arferai'r gweinidogion, am flynyddau lawer ar ol eu troi allan o'r Sefydliad, fynd i'r Eglwys i gymuno yn achlysurol. (Arferai'r Methodistiaid a'r Wesleyaid wneud yr un peth hyd o fewn cof rai sydd eto'n fyw).Arferai'm tadcu a'm mamgu, rhieni fy nhad, yn Llangeitho, a hwythau'n Fethodistiaid selog, gymuno gyda'r gweinidogion Methodistaidd yn Hen Gapel Llangeitho, a chyda'r offeiriad yn yr Eglwys—weithiau ar yr un Sul. Gwnai llawer yr un peth.—B. G. E. Felly llwyddai llawer i gadw llythyren y gyfraith, a bod yn aelodau ffyddlon gyda'r Anibynwyr neu'r Bedyddwyr ar yr un pryd. Gosod terfyn ar hyn oedd amcan Mesur Cydffurfiaeth Achlysurol. Darparai os byddai neb a ddaliai swydd o dan y Llywodraeth neu Gorfforaeth, ar ol cymuno yn Eglwys Loegr, yn mynychu capel Ymneillduol, neu mynd i unrhyw wasanaeth crefyddol mewn unrhyw dŷ preifat os byddai yno bump o bersonau heb fod yn aelodau o deulu'r ty, yn agored i ddirwy o gan punt, a phum punt y dydd am bob dydd y daliai ei swydd ar ol cael ei ddirwyo—yr arian i gael eu rhoi i'r neb a achwynai arno! Yna, os byddai'n Eglwyswr ffyddlon am flwyddyn gron, gallai gael ei ail ethol i'w swydd. Ond, os ar ol hynny y syrthiai i bechod Ymneillduaeth, a bod yn euog drachefn o fynd i gyfarfod crefyddol gyda'r Anghydffurfwyr, dirwyid ef i £200, a £10 y dydd am bob dydd y daliai ei swydd ar ol ei ddirwyo.

Gwnaed pwlpudau'r Eglwysi drwy'r wlad yn llwyfannau gwleidyddol, a phregethai'r clerigwyr ar y Sul yn agored o blaid y Mesur hwn, er mwyn creu barn gyhoeddus o'i blaid. Galwyd cymorth y wasg hefyd i ledaenu'r un syniadau. Canlynwyd hyn drachefn, yn Nhy'r Cyffredin, gan rai o'r areithiau. mwyaf poethlyd yn erbyn yr Ymneillduwyr. Nis gellid disgwyl i'r Ymneillduwyr fod yn dawel yngwyneb y fath ymosodiad. Erbyn hyn yr oeddent hwythau wedi dod yn allu yn y tir—yn enwedig yn y trefi. Felly cymerodd gwleidyddiaeth swyddogol arliw crefydd, gormes Cydffurfiaeth ar y naill law, rhyddid cydwybod ar y llall—ac yngyddfau eu gilydd y bu'r ddwy blaid tra parhaodd bywyd Anne. Daw fel ergyd anisgwyliadwy i ni yn yr oes hon, i ddeall mai Ty'r Arglwyddi a fu y pryd hwnnw yn rha-fur i amddiffyn hawliau cydwybod yn erbyn ymosodiad Ty'r Cyffredin.

Daeth y ddau Dŷ i wrthdarawiad ar y cwestiwn. Mynnai'r Arglwyddi ostwng y ddirwy o £100 i £20, ac yn lle bod yr oll yn mynd i'r achwynwr, nad oedd i dderbyn ond y drydedd ran, trydedd ran arall i fynd i'r tlodion, a'r gweddill i'r frenhines. Dair gwaith yn olynol nid oedd ond un o fwyafrif yn Nhy'r Arglwyddi o blaid yr Anghydffurfwyr.13 Collwyd y Mesur. Yr un fu ei dynged hefyd yr ail dro. Ond dygwyd ef i fewn drachefn y drydedd waith, a cheisiwyd ei wneud yn rhan o Fesur Cyllidol (Money Bill) am nas gallai Ty'r Arglwyddi ymyrryd â hwnnw. Ond yr oedd hyn yn fwy nas gallai Ty'r Cyffredin ei lyncu; eto cytunwyd arno fel Mesur ar wahan. Gyrrwyd ef y drydedd waith i Dy'r Arglwyddi. Aeth y Frenhines yno ei hun i glywed y ddadl—ac o bosibl, drwy ei phresenoldeb, i ddylanwadu ar bleidlais yr Arglwyddi. Ond gwrthodwyd y Mesur trwy fwyafrif o 21. Yr oedd gan yr Esgob Burnet ddigon o ddylanwad ar ei gyd—esgobion erbyn hyn, i gael mwyafrif o ddau o honynt hwy yn erbyn y Mesur gormesol hwn.[11]

Pan oedd teimladau mor uchel a hyn yn y Senedd, rhwydd yw deall nad oedd tawelwch yn y wlad. Torrodd terfysgoedd allan mewn amryw leoedd; ymosodwyd ar gapeli ac eiddo Ymneillduwyr, a gwnaed llawer o niwed a cholled. Er i'r Senedd newid ei thôn pan fu farw Anne ac y daeth Sior I. i'r orsedd, nis gallai'r werin anghofio eu hen arferion mor fuan, ac yn 1715 gwnaed rhuthr adnewyddol ar yr Ymneillduwyr, eu tai, a'u capeli yng Ngogledd Cymru. Mor ddifrifol yr edrychid ar y peth, fel y penododd y brenin ddirprwyaeth i chwilio i'r colledion a ddioddefodd Ymneillduwyr gwahanol rannau o'r deyrnas mewn canlyniad i'r terfysgoedd hyn. Prisiodd y Ddirprwyaeth Frenhinol swm y golled ariannol yn Sir Ddinbych yn £312, ac yn Sir Drefaldwyn yn £143.[12] Erbyn hyn yr oedd yr Ymneillduwyr yn ddigon cryf i gael mwyafrif digonol yn Nhy'r Cyffredin. Yn y flwyddyn 1715, gyda'r amcan o ddangos mewn modd ymarferol i'r awdurdodau beth oedd gwir nerth Ymneillduaeth y deyrnas mewn ystyr wleidyddol, gwnaed ymchwiliad manwl i rifedi a safle gymdeithasol yr Ymneillduwyr drwy holl etholaethau'r deyrnas, er mwyn dangos eu gwerth mewn etholiad.[13]

Mae'r cwestiwn yn un mor bwysig, ac wedi bod yn achlysur cymaint o gamgasgliadau, fel yr ymdrinir âg ef yn llawnach mewn adran arall. Erbyn 1728 yr oeddent wedi llwyddo i argyhoeddi'r gwleidyddwyr i'r fath raddau, fel y pasiwyd "Deddf Diogelu'r Anghydffurfwyr" (The Indemnity Act), yr hon a äi ymhellach na Deddf Goddefiad William, yn gymaint ag y symudai oddiar yr Ymneillduwyr, y cosbau a'r dirwyon yr oeddent yn agored iddynt pe dalient swyddi cyhoeddus heb gymuno yn Eglwys Loegr. O'r dwthwn hwnnw yr oedd Anghydffurfwyr yn rhydd yngolwg y gyfraith, nid yn unig i bregethu, ond i ddal swyddi cyhoeddus, mewn gair i gael popeth ond addysg a chyfrannu addysg. Ni chafwyd yr hawl i gyfrannu addysg am hanner canrif arall, na drws agored i'r Prifysgolion am yn agos i gan mlynedd wedi hynny!

Sylwer ar y daflen ganlynol o'r Mesurau Rhyddhau Ymneillduwyr:—

1688. Deddf Goddefiad—yn caniatau iddynt addoli.

1728. Deddf Digolledu—yn caniatau iddynt ddal swydd. (Maddeu, ac nid dileu'r cosbau a wnai hon. Rhaid fu ei hadnewyddu yn flynyddol am amser.)

1779. Deddf Rhyddid Athrawon—yn rhyddhau Athrawon Ymneillduol o'r cosbau a osodid arnynt gan Ddeddf Unffurfiaeth am ddysgu plant. (Ceir manylion eto am y ddeddf bwysig hon, pa fodd y'i cafwyd, a'r effaith a gafodd.)

1812. Diddymu Deddf y Cyrddau.

1813. Mesur Rhyddhad Undodwyr.

1828. Dileu Deddf y Prawflwon a'r Corfforiaethau.

1829. Deddf Rhyddhad Pabyddion.

1871. Dileu Prawflwon yn y Prifysgolion—yn rhoi hawl i'r Ymneillduwr fynd i'r Prifysgolion.

1880. Mesur Claddu—yn rhoi hawl i'r Ymneillduwr gael claddu ym Mynwent y Plwyf.

Cymerodd felly dros ddau can mlynedd i Ymneillduwyr gyrraedd eu safle bresennol yngwyneb y gyfraith—ac eto nid ydynt ar dir cyfartal â'r Eglwys.

Nodiadau

[golygu]
  1. I wneud hyn, cydweithredai'r ynadon â'r Esgobion. Cyhoeddodd un Frawdlys Sirol broclamasiwn yn cynnyg Dwy Bunt o wobr am bob gweinidog Ymneillduol a ddelid yn troseddu unrhyw gyfraith, ac ymrwymodd y llys i gosbi'r cyfryw weinidogion hyd yr eithaf, "yn ogystal a'r neb a absenolant eu hunain o'r Eglwys, neu a fynychant dai cyrddau." Yna ä penderfyniad yr ustusiaid hyn ymlaen yn dra defosiynol i ddweyd:—"Ac fel nad anghofiom freintiau anherfynol Duw Hollalluog, yr ydym yn gorchymyn, trwy gyngor a chydsyniad y Gwir Barchedig Dad yn Nuw, ein teilwng Arglwydd Esgob, i gyfranu £10 at addurno'r capel yn y Castell, a £6 y flwyddyn am bregeth ar ddydd cyntaf y Frawdlys Chwarterol yno, y cyfryw bregeth i fod yn anogaeth i ufudd-dod."—(Dyfynnwyd yn Llawysgrifau Roger Morrice o'r Proclamasiwn a Argraffwyd drwy orchymyn gan J. C. & Freeman Collins, 1683.)
  2. Roger Morrice's MSS. "Great Entry Books, 1687," vol. ii. 211.
  3. Mae ein gobaith am sicrhau cefnogaeth yr Anghydffurfwyr wedi diflannu," yw yr hyn a ysgrifennai D'Adda, Cenad y Pab yn Lloegr, ychydig ddyddiau cyn ffoedigaeth Iago.
  4. Dyma eiriau'r adran:—
    "Provided always, that no congregation or assembly for religious worship shall be permitted or allowed by this Act, until the place of such meeting shall be certified to the bishop of the diocese, or to the archdeacon of that archdeaconry, or to the justices of the peace at the general or quarter sessions of the peace for the county, city, or place in which such meeting shall be held, and registered in the said bishop's or archdeacon's court respectively, or recorded at the said general or quarter sessions; the registrar, or clerk of the peace whereof respectively, is hereby required to register the same, and to certificate thereof to such person as shall demand the same, for which there shall be no greater reward taken than the sum of sixpence."
  5. Dyma ddywed y ddeddf:—
    "Provided always, and be it enacted by the authority aforesaid, that if any assembly of persons dissenting from the Church of England, shall be had in any place for religious worship with the doors locked, barred, or bolted during any time of such meeting together, all and every person or persons, that shall come to and be at such meeting, shall not receive any benefit from this law, but be liable to all the pains and penalties of all the aforesaid laws recited in this Act, for such their meeting, not-withstanding his taking the oaths, and his taking and subscribing the declaration aforesaid."
  6. Yn ei anerchiad i'r Senedd amlygodd William obaith y trefnid i agor y drws i bob swydd wladol i Brotestaniaid yn ddiwahaniaeth.
  7. 7.0 7.1 Rapin's Continuation, vol. xvi., p. 175.
  8. Stillingfleet's Ecclesiastical Cases, vol. i., p. 51
  9. Birch's Life of Archbishop Tillotson, p. 296—7. Frankland oedd sylfaenydd Coleg y Gogledd—Coleg Manchester yn awr.
  10. Am genedlaethau ar ol marw Anne cedwid y dydd cyntaf o Awst bob blwyddyn yn ddydd gwyl grefyddol gan Fedyddwyr Cymru'n gyffredinol. Collwyd yn raddol y wybodaeth am achos ei sefydliad cyntefig; ond hyd heddyw cedwir y dydd eto'n ddydd gwyl neu weddi gan nifer o Eglwysi Bedyddiedig. Mewn rhai ardaloedd yr oedd rhif y Bedyddwyr mor lluosog, a'u dylanwad mor fawr, nes effeithiodd yr Wyl Flynyddol ar yr holl boblogaeth;—ond aeth yr adran ddigrefydd i gynnal yr wyl mewn gwledda a champau heb ddim o'r elfen grefyddol yn perthyn iddi. Ceir olion o'r arferiad hwn yn aros hyd heddyw mewn rhai parthau gwledig o'r Deheudir. Yn Llythyr Cymanfa Llanwennarth, Mai 22, 23, 1716, ceir y peth yn cael ei gymeradwyo yn swyddogol i'r holl Eglwysi, y rhai a gymhellir "i gadw'r dydd cyntaf o Awst, a'r Mercher cyntaf ymhob mis, er coffadwriaeth am ein gwaredigaeth ddiweddar." Dyddorol fyddai cael gwybod ymha nifer o Eglwysi yng Nghymru yn neillduol yn y De, y rhoddir arbenigrwydd o unrhyw fath ar naill ai'r dydd cyntaf neu'r Sul cyntaf yn Awst bob blwyddyn, ac ar y Mercher cyntaf ymhob mis, yn awr, ymhen yn agos i 200 mlynedd ar ol gyrru'r llythyr hanesyddol hwn allan.—B. G. E.
  11. Bishop Burnet's "Own Times," vol. ii.
  12. Josiah Thompson's MSS. Nonconformist Records, vol. vi.
  13. Gan anwybyddu yn gyfangwbl yr amcan arbennig i'r hwn y casglodd Dr. John Evans ei ystadegau yn 1715, diolcha'r Parch. John. Morgan Jones (Y Tadau Methodistaidd, cyf. i., tud. 240) nad oedd y Cynghorwyr Methodistaidd Cyntefig fel yr Ymneillduwyr oeddynt yn y wlad o'u blaen,"—nac fel y publican hwn (Dr. John Evans) ychwaith. "Dosbartha Dr. John Evans," eb efe, " y rhai a berthynent i'r Anghydffurfwyr yn ol eu sefyllfa fydol; rhennir hwy i ynadon, ysweiniaid, rhai yn meddu pleidlais yn y sir neu fwrdeisdref. . . . Nid yw yr hen Gynghorwr (Methodistaidd) yn prisio dim parthed safle fydol aelodau y gwahanol seiadau; dibris ganddo pa un ai labrwyr ynte ustusiaid ydynt; rhanna efe hwy yn ol eu cyflwr ysbrydol.. Yr oedd y Methodistiaid cyntaf yn byw gymaint yn y Presenoldeb Dwyfol, fel nad oedd mân wahaniaethau y byd o un pwys yn eu golwg." Ni pherthyn imi farnu pa beth a gymhellodd yr awdwr i ysgrifennu'r brawddegau uchod. Eithr sicr yw y byddai'n anhawdd cael gwaeth engraifft o gamgyfleu, os nad camliwio, ffeithiau hanesyddol, nag a geir yn yr amgylchiad hwn. Ymdrinir yn helaethach â'r ystadegaeth ei hun yn nes ymlaen.—B. G. E.

PENNOD XVI.
PARATOI ERBYN Y DEFFROAD MAWR.

Mae y cyfnod â'r hwn yr ymdrinir yn y bennod hon, yn un o'r rhai pwysicaf yn hanes dadblygiad Ymneillduaeth. Estynna'r cyfnod dros yn agos i hanner can mlynedd, o'r adeg y pasiwyd Deddf Goddefiad hyd y dyddiau hynny, dyddiau deheulaw'r Goruchaf," pan y gwelwyd yn dechreu codi y dòn fawr gyffredinol o adfywiad crefyddol, a lifodd o fewn byr amser dros ymron yr holl fyd Protestanaidd. Fel "Y Diwygiad Methodistaidd " yr adwaenir y diwygiad hwnnw yn dra chyffredinol. Ond mae'r enw yn un anffodus, mewn mwy nag un ystyr. Yr un, a'r un peth, oedd y Diwygiad, a'r un adeg y cymerodd le yng Nghymru, yn Lloegr, yr Ysgotland, y Werddon, a'r America. Yr un oedd y dylanwad; yr un oedd ei amlygiadau allanol; yr un oedd ei natur; yr un oedd ei effeithiau; ac ar adegau, o leiaf, yr un oedd y cyfryngau, i bob diben ymarferol, yn yr holl wledydd hyn. Ond erbyn heddyw, i naw o bob deg o'r bobl a soniant am "Y Diwygiad Methodistaidd" golyga un peth yng Nghymru, peth hollol wahanol yn Lloegr, un arall drachefn yn yr Ysgotland a'r Werddon, ac arall hefyd yn yr America;—ac eto, fel y dywedwyd, yr un a'r unrhyw dywalltiad mawr, grymus, cyffredinol o'r Ysbryd Glan ydoedd ymhob gwlad; digwyddodd ynddynt oll dan yn agos iawn cyffelyb amgylchiadau. Nid lleol nac enwadol, ond cyffredinol yn ystyr helaethaf y gair, ydoedd. Dywedaf eto mai anffodus yw'r enw Diwygiad Methodistaidd "—gan fod yr enw ynddo ei hun yn gamddarluniadol,—a bod defnyddio'r enw camddarluniadol hwnnw wedi bod yn foddion creu a pharhau camargraff am achos, natur, cyfryngau, cysylltiadau, a chanlyniadau'r Diwygiad. Er y gall fod yn rhy hwyr bellach i newid yr enw a roddir arno yng Nghymru, eto er mwyn ysgoi'r posibilrwydd am gamgymeriad, neu gymysgu dau beth gwahanol â'u gilydd, cyfeirir ato o hyn allan yn y gwaith hwn, nid fel "Y Diwygiad Methodistaidd," eithr fel" Y Deffroad Mawr."

Cymerwn, ynte, frasolwg gyffredinol ar amgylchiadau Ymneillduaeth yn y 47 mlynedd o 1689 hyd 1735. Ac, fel cynorthwy i'r darllenydd ganolbwyntio ei sylw ar brif linellau'r cyfnod, cofied y triawd canlynol:

1. Cyfnod o berffeithio trefniant Ymneillduol ydoedd;
2. Cyfnod o weithgarwch Ymneillduol ydoedd;
3. Cyfnod o lwyddiant Ymneillduol ydoedd.Gwn fy mod wrth ddweyd hyn yn mynd yn hollol groes i syniadau a goleddir yn dra chyffredin. Pe llyfr dadleuol y bwriedid i'r gwaith hwn fod, gallaswn ddweyd rhai pethau cryfion am y modd y mae rhai haneswyr honedig a honiadol wedi delio â'r cyfnod hwn. Ond gan mai ymchwiliad hanesyddol yn unig y bwriedir i'r llyfr fod, cyfyngaf fy hun hyd y mae'n bosibl, i ffeithiau hanesyddol y gellir eu profi; a phan, o herwydd natur y pwnc a drafodir, y gorfodir fi i ymddangos fel dadleuydd ac nid fel hanesydd syml, ceisiaf ddadgysylltu'r rhan ddadleuol o'r gwaith hyd y byddo'n bosibl, oddiwrth y rhan hanesyddol.—B. G. E.

Cofied hefyd mai gwirebau cyffredinol yw'r tri, a ellir eu cymhwyso at Loegr a Chymru, er y gall rhai o honynt fod, fel y danghosir eto, yn fwy gwir am Gymru nag am Loegr.

Mae rhyfel bob amser, yn gadael ei ol ar y neb a gymero ran ynddo, boed ddyn, boed ddosbarth, boed genedl. A'r llanc i'r rhyfel yn fachgennyn; daw adref yn DDYN. Mae hyn yn wir am bob rhyfel yr ymgymerir ag ef oddiar syniad o iawnder neu ddyledswydd, pa un bynnag ai ar faes y gwaed ai ar faes yr egwyddorion yr ymleddir y frwydr. Gweddnewidir y neb a ä'n wrol a llwyddiannus drwy ei "fedydd tân." Nid blynyddoedd, ond profiad, sy'n gwneud y dyn. Gall dyn fyw weithiau fwy mewn diwrnod nag mewn blwyddyn,—a bydd un dydd megys blwyddyn, neu flwyddyn megys diwrnod iddo. Ac nis gall y neb a safodd i fyny yn wrol i edrych lygad yn llygad ag angau, fyth mwyach fod yr un ag oedd cynt. Pan ddaw'r bachgennyn yn ddyn, pa un bynag ai wrth ddiwrnodau ai wrth flynyddau y cyfrifir tymor ei gyfnewidiad neu ei greadigaeth newydd yn ol cyfrif amser, yr un yw yn ol cyfrif tragwyddoldeb; ac am bob cyfryw un gellir dweyd fel am Paul, pan aeth yn wr, efe roddodd heibio bethau bachgennaidd!

A dyna oedd hanes Ymneillduaeth. Yr oedd wedi bod yn y rhyfel. Yr oedd wedi sefyll i fyny i edrych ym myw llygad Angau. Aeth i'r rhyfel yn fachgennyn; daeth allan yn ddyn. Fel dyn dechreuodd feddwl am y dyfodol, a pharatoi ar ei gyfer. Camgymeriad peryglus yw tybied fod y rhyfel wedi peidio pan fo'r brwydrau mawr wedi mynd heibio. Yn aml ceir mwy o ddioddefaint personol ar ol, nag a geir yn ystod y brwydrau mawr. Dyma gyfnod manteisiol yr ymbleidwyr; gall y bydd y fyddin reolaidd wedi cael ei dadgorffori, ond erys y minteioedd ymbleidwyr (guerilla) am flynyddoedd!

A dyna fu profiad Ymneillduaeth. Fel dynion wedi gwynebu Angau ar hyd cyfnod tywyll Siarll II. a Iago II., pan gyhoeddwyd heddwch gan William III., a phan ddadgorfforwyd byddin reolaidd y gormeswyr a'r erlidwyr, gwyddai'r Ymneillduwyr fod yr ymbleidwyr yn aros, nas gallai'r Ethiop newid ei groen, na'r llewpard ei frychni. Cymerodd ganrif gyfan o amser iddo wneud—ac o ran hynny canfyddir ambell ysmotyn du ar yr Ethiop, ac ambell i frycheuyn ar y llewpard yn ein dyddiau ni, ymhen dros ddau can mlynedd wedi cyhoeddi'r heddwch!

Un o'r pethau cyntaf wnaeth yr Ymneillduwyr oedd ymuno â'u gilydd, yn un gallu cryf, gydag un amcan mawr—amddiffyn eu hiawnderau yn wladol a chrefyddol. Gallent wneud

hynny bellach mewn diogelwch. Nid oedd dim i'w rhwystro. Ni chosbai'r gyfraith hwynt mwyach am wneud. I'r gwrthwyneb, rhoddai anogaeth iddynt wneuthur. Fel y danghoswyd (tud. 186) torrodd Deddf Goddefiad ganolfur gwahaniaeth yr enwadau i lawr. Mor bell ag oedd a fynnai'r Presbyteriaid. a'r Anibynwyr yr oedd yn gydwastad â'r llawr; ac hyd yn oed. am y Bedyddwyr a'r Crynwyr nid oedd ond ambell ddarn o wal sych sigledig, yn aros. Ac am y darnau hynny, darparai Deddf Goddefiad fwlch yn y mur a alluogai'r Bedyddiwr i osgoi bradbwll "Bedydd Babanod," a'r Crynwr i fynd yn ddiogel heibio i fagl y "Llw," (tud. 186)—er mwyn galluogi'r ddau i ymuno â'u gilydd ar faes eang, agored, diogel yr "Ymneillduwyr Protestanaidd,"—canys dyna'r maes swyddogol i'r hwn y'u troid oll gan y Ddeddf.

Wedi eu dysgu felly gan brofiad a deddf, ymunodd yr Ymneillduwyr â'u gilydd. Cymerodd Llundain y blaen. Sefydlwyd yno fath o Undeb Anghydffurfiol—rhagddelw'r dyddiau hynny o'r Cyngrair Anghydffurfiol Cenedlaethol a welir yn cael ei sefydlu yn ein dyddiau ni. Nid af yma i ymhelaethu ar yr Undeb hwnnw a'i waith. Digon yw dweyd ar hyn o bryd mai:

1. Undeb cyd-enwadol, gyda chyfeiriad anenwadol, ydoedd.

2. Undeb clerigol, cyfyngedig i'r gweinidogion, ydoedd ar y cychwyn.

3. Undeb yn meddu elfennau dadblygiad ydoedd—helaethodd ei syniadau, a daeth yn gynrychioliad o'r cynulleidfaodd ymhen amser.

4. Yr oedd tair gwyneb i'w amcanion, (a) yn grefyddol, trwy gyd-ymgynghoriadau ar faterion yn dal cysylltiad â'u gwaith; (b) yn wladol trwy amddiffyn cam y neb a ormesid; (c) yn elusennol a chenhadol trwy drysorfa ganolog at gynorthwyo achosion gweiniaid ac ymdrechion cenhadol.

5. Ffurfiwyd, naill ai fel canghennau o, neu yn meddu cysylltiad âg, Undeb Llundain, drefniant cyffelyb yn agos ymhob sir drwy'r deyrnas.

6. Mwynhaodd amryw ardaloedd yng Nghymru, yn y Gogledd a'r De, yn helaeth o ffrwyth llafur gwerthfawr yr Undeb hwn. Manylir ar rai o honynt ymhellach mewn pennod arall. Ar hyn o bryd nodaf ddau o Ddiwygwyr enwocaf Cymru, un yn y De a'r llall yn y Gogledd, a amddiffynnwyd yn effeithiol yn eu personau ac yn eu heiddo, gan y Pwyllgor Canolog hwn—y Bedyddiwr Caleb Evans yn y De, a'r Anibynnwr Lewis Rees yn y Gogledd.

7. Parhaodd mewn bod cyn, trwy, ac ar ol, cyfnod "Y Deffroad Mawr "—a chyn marw Howell Harris yr oedd mwy o nerth gwleidyddol o'r tu ol iddo yng Nghymru, mewn cyfartaledd, nag yn Lloegr—fel y profir eto.

Pennod ddisglaer yn hanes Ymneillduaeth yw eiddo'r Dirprwywyr Ymneillduol" (Dissenting Deputies). Gresyn na wyddai'r wlad fwy am dani. Byddai'n gofyn llyfr o faintioli hwn i wneud chwareu teg â'r hyn a wnaethant dros ryddid ac egwyddorion sylfaenol Ymneillduaeth. Ceir rhai o brif linellau eu gwaith yn ei gysylltiad â Chymru, mewn pennod arall. Ond, tra'n cydgyfarfod ar yr un tir cyffredin, i drefnu eu materion cyffredin, ac i amddiffyn eu hawliau cyffredin, yn ystafell y "Dirprwywyr Ymneillduol," nid anghofiai'r Tadau hyn eu gwaith gartref. Gweithiai pob enwad yn ei faes ei hun, a phob eglwys yn ei chylch ei hun,—ac yr oedd bodolaeth y gyfundrefn ganolog yn asgwrn cefn ac yn adgyfnerthiad i'r enwad ac i'r eglwys.

Y cyntaf i wneud hyn oedd y Bedyddwyr. Yn nyddiau erledigaeth torrodd eu cyfundrefn i lawr, difodwyd y Gymanfa Gymreig, a gwasgarwyd eu heglwysi. Pan ganiataodd Deddf Goddefiad iddynt ail gyfarfod, gwnaethant. Adgrynhôdd aelodau gwasgaredig yr eglwysi at eu gilydd, ac adsefydlwyd eu Cymanfa. Yn 1689, cyfarfyddodd yn Llundain, pan y cynrychiolid tua 100 o eglwysi gwahanol. Yn y Gymanfa honno sefydlwyd Trysorfa Gynorthwyol—prif amcan yr hon oedd cario gwaith cenhadol ymlaen mewn ardaloedd newyddion, a sicrhau manteision addysg i ddynion ieuainc cymwys at waith y weinidogaeth.[1] Am ddeng mlynedd parhaodd yr Eglwysi Cymreig i ddanfon eu cynrychiolwyr i'r Gymanfa yn Lloegr. Yn y cyfamser enillasant nerth, a dechreuasant ddod yn allu cryf mewn rhai rhannau o'r wlad. Glynent eto at y dull cyntefig o gael eglwysi mawrion, yn cymeryd i fewn eangder helaeth o wlad. Yn 1696, yn Nghymanfa Bryste, cawn hwynt yn gofyn caniatad i rannu rhai o'r eglwysi am fod y cylch mor eang—a hynny yn cael ei ganiatau. Ymhen pedair blynedd wedyn, 1700, maent yn teimlo eu hunain yn ddigon cryf i allu torri eu cysylltiad â Lloegr, gan sefydlu Cymanfa arbennig i Gymru. Cynhaliwyd y gyntaf o honynt yn Llanwennarth. Am flynyddau cynhaliwyd y Gymanfa ar yn ail yn Llanwennarth ac Abertawe—yr hyn sy'n awgrymu mai yn y wlad cydrhwng y ddwy dref, y gorweddai prif nerth yr enwad y dyddiau hynny. Ond yr oedd yr ysbryd cenhadol a'u meddiannodd hanner can mlynedd cyn hynny, yn nyddiau John Myles, wedi gorfyw blynyddoedd erledigaeth;—ac os dilynir hanes yr enwad o'r naill flwyddyn i'r llall, gwelir yr eglwysi yn estyn allan eu canghennau ar bob llaw, y fam-eglwys yn magu merched cryfion, gwisgi, gweithgar, a'r merched hwythau yn eu tro yn dod yn fam-eglwysi, gan ail adrodd gwaith a phrofiad y rhiant. Yn wir, dyma un o nodweddion amlycaf y cyfnod hwn a'r blynyddoedd dilynol. Yr un ysbryd cenhadol symbylodd y genhadaeth i'r Gogledd mewn cyfnod diweddarach fyth, am yr hwn y cawn ymdrin eto. Yn 1704, gofynnwyd i'r eglwysi benodi cynrychiolwyr rheolaidd i fynd gyda'r gweinidogion i'r Gymanfa, a chyfarwyddwyd hwynt i ddanfon ymhlith y cyfryw, ddynion ieuainc a fernid yn gymhwys at waith y weinidogaeth, modd y caent hwythau ymgydnabyddu â gofynion a chylch eu dyledswyddau dyfodol. Nid gwaith diberygl oedd i'r dynion ieuainc hyn, canys cawn hwynt yn 1706 yn nod sylw y pressgang yn Abertawe, y rhai a fynnent eu cymeryd trwy orfodaeth i'w gwneud yn forwyr ar longau rhyfel. Daeth yr henuriaid i wybod am y cynllwyn; wedi ymgynghoriad preifat penderfynnwyd peidio cynnal y cyfarfod cyhoeddus, a gyrrwyd y bechgyn adref cyn gwybod o'r pressgang eu bod am ddianc! Cyn 1701, cyfarfodydd busnes yn unig oedd y cymanfaoedd—ni cheid pregethu ynglŷn â hwynt o gwbl; dichon fod a fynnai awyrgylch Lloegr â hyn. Ond nid cynt y daeth y Gymanfa i gartrefu yng Nghymru, nag y teimlodd naws y wlad, ac yn 1701 cawn bregethu yn dod yn rhan reolaidd a chyson o'r gweithrediadau. Gallwn ddeall y pwysigrwydd a ddylid ei roddi felly ar waith yr eglwysi yn danfon y gwyr ieuainc a fwriedid i'r weinidogaeth, i'r cymanfaoedd; i'r cyfryw yr oedd y Gymanfa yn Athrofa Bregethu. Erbyn 1705 yr oedd yr eglwysi wedi dysgu eu gwers mor dda, nes yr oeddent yn barod i ddwyn holl dreuliau eu cynrychiolwyr i'r Gymanfa bob blwyddyn. Erbyn 1708 yr oedd y Bedyddwyr mor gryf yng Ngorllewin Cymru fel, am y tro cyntaf erioed, y penderfynnwyd mynd â'r Gymanfa ymhellach na Chaerfyrddin. Rhydwilym, yn Sir Benfro, a ddewiswyd fel y man cyfarfod, ac o hynny allan hawlia Sir Benfro le amlwg yn hanes y Bedyddwyr yng Nghymru. Erbyn dyddiau Howell Harris yr oeddent wedi meddiannu'r wlad i'r fath raddau, nes y cawn offeiriaid Eglwys Loegr yn deisyf ar yr Efengylwr i ddod yno i bregethu i'w herbyn! Hyd 1708, yn Saesneg y dygid yr holl weithrediadau—ond y bregeth—ymlaen; yn 1708, gwnaed y Gymanfa yn Gymraeg o ran ei hiaith.

Yr un flwyddyn trefnwyd i godi trysorfa arbennig ymhob eglwys at reidiau'r tlodion. Hyd 1733, boddlonid ar un bregeth swyddogol ynglŷn â phob Cymanfa; o hynny allan cafwyd dwy. Yn aml byddai un o'r ddwy yn Saesneg—a chyfieithid hi bob yn frawddeg i'r Gymraeg gan un o'r gweinidogion Cymreig a safai wrth ymyl y Sais yn y pwlpud. Saith mlynedd wedi hynny gwnai Howell Harris yr un peth i George Whitefield pan ar ei deithiau efengylu yn y De; ac yn ddiweddarach, gwnai William Prichard, Clwchdernog, Mon, yr un gymwynas i John Wesley ar ei ymweliadau yno. Yn 1734, cawn y Gymanfa yn meddiannu tir newydd, ac yn perffeithio eu cynlluniau a'u trefniant. Yn 1739, cawn hanes gyntaf am danynt yn penodi "Canolwr" (Moderator) i'w Cymanfa. Ac yn 1740, mae eu gwaith wedi cynhyddu i'r fath raddau fel y teimlant dan reidrwydd i gael Cymanfa Chwarterol o dan, ac fel cynorthwy i'r, Gymanfa Flynyddol. O ddyddiau boreuaf ei hanes gofelid am yrru allan y "Llythyr Cymanfa" at yr holl eglwysi. Yn y llythyrau hyn ceir goleu cryf ar amgylchiadau crefyddol yr oes, ar y gwaith a wnai'r Gymanfa, ar gyflwr yr eglwysi a'u gwaith—ac nis gellir myned drwyddynt heb edmygedd dwfn am lafurus gariad Tadau Bedyddwyr Cymru, a'u hymdrechion i ledaenu egwyddorion yr Efengyl yn y wlad. Ai'r cenhadon â hanes, cwynion, a gofyniadau yr eglwysi i fyny i'r Gymanfa; deuent yn eu hol wedi cael eu nerthu gan gynghorion a chyfarwyddiadau eu brodyr, gan ddwyn cerydd, neu gyngor, neu anogaeth, fel y byddai'r
NIFER CAPELI POB ENWAD.


amgylchiadau yn galw—ac yn ychwanegol at hynny yn dwyn Llythyr y Gymanfa, epistolau apostolion yr oes at eglwysi'r wlad, y rhai a ddarllenid i'r cynulleidfaoedd yn yr holl eglwysi â'u canghennau. Nid oeddid am flynyddoedd lawer yn argraffu'r llythyr, ond wedi cytuno ar ei gynnwys, ffurf, a geiriad, neillduai'r brodyr i ystafell gyfleus, pob un â'i bapur, pen, ac inc yn barod, ac yna darllenid y llythyr iddynt, ac ysgrifennent hwythau ef allan fel dosbarth o blant yn ysgrifennu dictation yn yr ysgol.

Nid oedd cynllun yr Anibynwyr mor gyfundrefnol ag eiddo'r Bedyddwyr, ac felly mwy anhawdd yw dilyn eu hanes a dadblygiadau eu gwaith. Ar yr un pryd cawn ddigon o brofion eu bod mor llafurus, mor weithgar, ac mor llwyddiannus a'u brodyr. Y gwahaniaeth rhyngddynt oedd fod gwaith y Bedyddwyr, o ran ei brif linellau, yn cael ei symbylu o'r Gymanfa—a chan fod cofnodion honno ar gael, ein bod yn gallu amgyffred, megys mewn un olygfa, holl faes eu llafur; tra'r Anibynwyr yn gweithio o bob eglwys unigol, drwy ei changhennau, mae yn rhaid edrych ar nifer o ddarluniau gwahanol cyn y gellir cael syniad am yr hyn a welir mewn un olygfa yn hanes y Bedyddwyr. Nid gweld yr Anibynwyr yn gweithio, ond gweld y gwaith ar ol iddo gael ei orffen, yr ydym. Os edrychir ar y Map Rhif 3, gwelir maes gwaith pob eglwys gyda'r Anibynwyr a'r Bedyddwyr. Wrth edrych. ar hwn ceir rhyw syniad am yr hyn a olygai gweinidogaeth fel yr eiddo, dyweder, Stephen Hughes, Hugh Owen, Henry Maurice, Edmund Jones, Lewis Rees, Phylip Pugh, ac eraill o'r rhai a lafuriasant yn ddiwyd a ffyddlon yn y cyfnod hwnnw. Trefnid i gael y Cymundeb ar gylch, y Sabath cyntaf yn y mis mewn un gangen, y Sabath nesaf mewn arall, ac felly yn y blaen; fel, mewn aml i Eglwys, yr oedd pob Sul yn Sabath Cymundeb;—ac hyd yn oed felly yr oedd rhai o'r canghennau lle na cheid cydeistedd o amgylch Bwrdd Swper yr Arglwydd ond unwaith mewn dau neu mewn tri mis. Gwelir wrth edrych ar y map fod Eglwysi eang eu cylch, a lliosog eu canghennau neu orsafoedd, i'w cael yn Siroedd Aberteifi, Brycheiniog, Caerfyrddin, Caernarfon, Maesyfed, Maldwyn, Meirion, Morgannwg, Mynwy, a Phenfro. Mewn wyth o siroedd Cymru, sefydlwyd eglwysi newydd gan yr Anibynwyr o fewn y cyfnod dan sylw. Wele restr o honynt yn eu siroedd, a dyddiad eu sefydliad:—

Aberteifi: Penrhiwgaled, 1710; Rhydybont, 1712.
Brycheiniog: Aber, 1690; Beili-halog, 1690.
Caerfyrddin: Ffaldybrenin, 1690; Bwlchnewydd, 1700; Esgairdawe, 1700; Bethlehem St. Clears, 1704; Lacharn, 1704; Rhydyceisiaid, 1706; Capel Seion, 1714; Capel Iwan, 1723.
Fflint: Newmarket,[2] 1700.
Maesyfed: Caebach Llandrindod, 1714.
Mon: Rhosymeirch, 1715.
Morgannwg: Ebenezer, Pontypool, 1690; Gellionnen, 1691; Brynteg, 1693; Crwys, 1700; Llanharan, 1734.
Penfro: Brynberian, 1690; Trewyddel, 1691; Penfro, 1691; Glandwr, 1708; Llandilo, 1714; Trefdraeth, 1714; Rhosycaerau, 1724.


Os manylir ar y rhestr uchod gwelir fod yr Eglwysi newydd yn wasgaredig (a) dros yr holl wlad, a (b) dros yr holl gyfnod.

Camgymeriad yw tybied ar y naill law fod Ymneillduaeth yn marw yn y cyfnod cyn "Y Deffroad Mawr;" camgymeriad cyd-berthynasol yw tybied ar y llaw arall, mai'r Diwygiad a'i hadgyfododd. Ni ddywedir hyn er mwyn dibrisio'r Diwygiad, eithr modd y gwelir Y Diwygiad yn yr hyn a eilw arlunwyr yn "ardrem briodol" (proper perspective). Gadewch i ni edrych am ennyd eto ar y ffeithiau hanesyddol ynglyn a sefydlu Eglwysi Anibynnol mewn dau gyfnod cyfartal o ran nifer y blynyddau, cyn ac ar ol Y Diwygiad, sef o 1689 hyd 1734, ac o 1735 hyd 1779. Cofier fod yr olaf yn cymeryd i fewn holl gyfnod bywyd Howell Harris o'r dydd y daeth gyntaf i'r maes fel pregethwr hyd ei farw yn 1773—a chwe mlynedd dros ben hynny.

Yn y cyfnod cyn dechreu'r Diwygiad sefydlwyd 27 o Eglwysi.
Yn y cyfnod ar ol dechreu'r Diwygiad sefydlwyd 33 o Eglwysi.

Yn y cyfnod cyn Y Diwygiad sefydlwyd Eglwysi mewn 8 sir.
Yn y cyfnod ar ol Y Diwygiad sefydlwyd Eglwysi mewn 10 sir.

Neu cymerwn dri chyfnod cyfartal o 22 mlynedd yr un, ar olaf o'r tri yn cynnwys holl weinidogaeth gyhoeddus Howel Harris, a chawn:—

Yn y 22 mlynedd cyntaf ar ol pasio Deddf Goddefiad sefydlwyd 18 o Eglwysi.
Yn y 22 mlynedd olaf cyn Y Diwygiad sefydlwyd 9 o Eglwysi.
Yn y 22 mlynedd cyntaf ar ol Y Diwygiad sefydlwyd 11 o Eglwysi.

Gwelir felly, a chymeryd Cymru fel cyfangorff, nad oes lawer i'w ddewis rhwng y cyfnodau hyn. Ond ni effeithiodd Y Diwygiad yn gyfartal dros y Dywysogaeth. Cyfyngwyd ef ymron yn gyfangwbl i'r De. O siroedd y De, Penfro a Chaerfyrddin a fu barotaf i groesawu'r Efengylwyr, sefydlwyd (fel y gwelir yn nes ymlaen) 42 o "Seiadau " yn y blaenaf, a 52 o Seiadau yn yr olaf—sef dwy ran o bump o'r cyfanrif yng Nghymru. Yma, ynte, os yn rhywle, y rhaid edrych am effaith gwaith Y Diwygwyr a'r Diwygiad yn adgyfodi Ymneillduaeth farw o'i bedd. Ond beth yw'r ffaith? Cymerwn 35 mlynedd cyn ac ar ol y Diwygiad.

Yn y cyfnod cyn Y Diwygiad sefydlwyd 7 Eglwys yn sir Benfro.
Yn y cyfnod ar ol Y Diwygiad sefydlwyd 2 Eglwys
Yn y cyfnod cyn Y Diwygiad sefydlwyd 8 Eglwys yn sir Gaerfyrddin.
Yn y cyfnod ar ol Y Diwygiad sefydlwyd 3 Eglwys

Os dywedir nad lliosogrwydd eithr gweithgarwch Eglwysi yw safon mesur eu bywydoldeb, yr ateb yw na cheir prawf gwell o weithgarwch, ac mewn canlyniad o fywydoldeb, unrhyw fudiad na'i lwyddiant i blannu achosion neu ganghennau newydd a pharhaol. A hyn a wnaeth Anibynwyr Cymru yn y cyfnod yn yr hwn y tybir mai gallu naill ai wedi, neu yn, marw ydoedd.

Na, nid adgyfodi Ymneillduaeth Cymru o'r bedd, ac nid ei hachub rhag tranc, a wnaeth Y Diwygiad. Cawn weled yn y man pa beth a wnaeth.

Ond a oedd cynnydd yn rhif yr aelodau? Gadewch i ni weled.

Yr oedd Phylip Pugh yn gallu fforddio rhoi llythyrau gollyngdod i 55 o'i aelodau ar yr un pryd i fynd at ei ddisgybl Daniel Rowlands i Eglwys Llangeitho. Yn ystod ei weinidogaeth bedyddiodd 680 o blant ei gynulleidfa. Yn 1728 derbyniodd 11; 34 yn 1729; 16 yn 1730; 36 yn 1731; 21 yn 1732; 26 yn 1733; 29 yn 1734; 16 yn 1735; 26 yn 1736; 15 yn 1738; 30 yn 1739; 13 yn 1740; 18 yn 1741.[3] Gwelir yma gynnydd cyson cyn ac ar ol dechreu'r Diwygiad yng nghylch ac yn ystod gweinidogaeth Daniel Rowlands ei hun. Ond ni chyfyngid y gweithgarwch i gylch gweinidogaeth na sir Phylip Pugh. Yn 1714 cawn hanes am ddiwygiad grymus ymhlith yr Anibynwyr mewn rhannau ereill o Sir Aberteifi a chyffiniau Sir Gaerfyrddin, a llaweroedd yn cael eu hychwanegu at yr Eglwysi. Yn y flwyddyn 1720 dechreuodd hen Eglwys Penmain adfywio, ac ymhlith y dychweledigion yr oedd nifer o ddynion ieuainc a ddaethant wedi hynny yn wasanaethgar fel gweinidogion mewn eglwysi eraill. Nid cynnydd sydyn, ond graddol, ydoedd, parhaodd am 19 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ychwanegwyd dros gant at yr aelodaeth.[4] Rhwng 1718 a 1726 ychwanegwyd hanner cant at aelodaeth Pant Teg. O fewn 22 mlynedd ar ol 1724 ychwanegwyd cant at aelodaeth Capel Isaac, ac yn y flwyddyn 1735, cyn clywed son yno am Howell Harris, derbyniwyd 21.[5] Gwelir mai nid mewn unrhyw un Sir nac unrhyw un flwyddyn y ceid y profion sylweddol hyn o weithgarwch yn cael ei goroni â llwyddiant ymhlith yr Anibynwyr.

Os trown at Eglwysi'r Bedyddwyr, cawn gyffelyb fanylion yn yr adroddiadau a ddygid gan y cenhadon i'r Gymanfa. Yn Eglwys Cilfowyr—Cilcam yn Sir Benfro, bedyddiwyd 45 o 1700 hyd 1704; 6 yn 1704; 20 yn 1705;" ac ychwanegiadau pwysig bob blwyddyn ar ol hynny am amser maith." Yng Nghofnodion Cymanfa 1720 cawn fod "ychwanegiadau mawr at rai o'r Eglwysi;" cyfeiria llythyr 1721 at "sefyllfa lewyrchus" yr Eglwysi; yn 1724" ychwanegwyd llawer at rai o'r Eglwysi;" yn 1726 a 1727 profodd Blaenau a Hengoed y tywalltiadau; yr un flwyddyn "ychwanegwyd llawer at Eglwys Penyfai;" ac hysbyswyd fod drws mawr ac effeithiol wedi ei agor mewn mannau i bregethu'r Efengyl." Yn 1728 yr oedd "mwyafrif yr Eglwysi yn llewyrchus," yn 1731 "amryw wedi eu hychwanegu at lawer o'r Eglwysi;" yn 1735 sonnir am Eglwys Glandwr, "Ymdaenodd yr Eglwys yn rhyfedd o gylch yr amser hynny, ac ychwanegwyd llawer atynt; aethant ymlaen yn llwyddiannus gan ledu eu pabell ac estyn eu cortynnau, gan dorri allan ar y dde a'r aswy am rai blynyddoedd."

Gwelir felly mai nid diwaith, mai nid difywyd, ac mai nid di-lwyddiant, oedd Ymneillduaeth Cymru, ymhlith na'r Bedyddwyr na'r Anibynwyr, yn y cyfnod cyn Y Deffroad Mawr.

Os cymerwn olwg ar wedd ymarferol crefydd, a mesur gweithgarwch yr Eglwysi yn y cyfnod wrth eu hymdrechion i godi capeli, cawn y ffeithiau canlynol:

O 1689 hyd 1735 adeiladodd y Bedyddwyr 13 o gapeli mewn pedair sir. <poem> Sir Gaerfyrddin: Felinfoel, Pencoed, a Ffynnon Henry—3. Morgannwg: Ilston, Llanharan—Hengoed, a Penyfai—3. Mynwy: Llanwennarth, Blaenau, a Penygarn (Pontypool)—3. Penfro: Rhydwilym, Tygwyn, Cilfowyr, Llangloffan, a Ffynnon-well-na-buwch—4.

Bu'r Anibynwyr yn fwy ymdrechgar fyth. Yn yr un cyfnod adeiladasant 44 o gapeli:—

Aberteifi: Horeb, Llechryd, a Rhydybont—3. Brycheiniog: Troedrhiwdalar, Llanwrtyd, Aberhonddu, Llangynidr, a Beilihalog—5. Caerfyrddin: Cefnarthen, Capel Isaac, Henllan, Llanedi, Pencader, Abergorlech, Llanybri,[6] Trelech, Pant Teg, Rhydyceisiaid, Capel Seion, a Capel Iwan—12. Caernarfon: Pwllheli, a Capel Helyg—2. Dinbych: Gwrecsam—1. Maesyfed: Maesyronnen, Rhaiadr, Gore, a Caebach Llandrindod—4. Morgannwg: Capel y Drindod, Caerdydd; Ebenezer, Abertawe; Ynysgau, Merthyr; Castellnedd; Penbont ar Ogwy; a Gellionnen—6. Mynwy: Penmain; Heolyfelin, Casnewydd; ac Abergafenni—3. Penfro: Albany, Hwlffordd; Brynberian, Trewyddel, Penfro, Glandwr, Llandilo, a Rhosycaerau—7. Trefaldwyn: Llanfyllin—1.

Dyna gyfrif gwaith y gallasai unrhyw enwad fod yn falch o hono. Dengys Cofnodion y Cymanfaoedd ac Eglwysi unigol fod nifer o'r gweinidogion yn efengylu ar hyd a lled y wlad, gan dynnu torfeydd i'w gwrando. Nid peth eithriadol oedd gweled torf o 4000 i 5000 o wrandawyr adeg Cymanfa; ac mewn cyfnod diweddarach ceid o 9000 i 10,000 yn mynychu Cymanfaoedd y Bedyddwyr. Yr oedd poblogrwydd personol rhai o'r pregethwyr yn fawr iawn. Cawn hanes am y duwiolfrydig a'r efengylaidd Enoch Francis, gweinidog y Bedyddwyr yng Nghastellnewydd Emlyn, ei fod yn tynnu'r torfeydd ar ei ol pan yn teithio'r wlad i bregethu. Pan fu farw yn 1739 cafodd gladdedigaeth tywysog, a gwlad o bobl yn hebrwng ei weddillion i'r bedd. Cariwyd y corff ar elor ar ysgwyddau dynion ugain milltir o ffordd, o Gastell Newydd Emlyn i Gilfowyr. Yr oedd yr orymdaith yn pasio trwy ddeg o blwyfi gwahanol, a threfnwyd fod trigolion pob plwyf i gael yr anrhydedd o gludo'r corff o'r naill derfyn i'r llall i'w plwyf cartrefol hwy eu hunain. Tua'r flwyddyn 1730, ychydig flynyddoedd cyn i Howell Harris ymddangos ar y maes, disgynnodd yr Ysbryd gyda nerth ar nifer o weinidogion ieuainc perthynol i'r ddau enwad mewn gwahanol rannau o'r Dywysogaeth, a dechreuodd tân y diwygiad gael ei gynneu. Rhai o'r bobl hyn, megys Miles Harry'r Bedyddiwr o Bontypwl, a'i gymydog tanllyd Edmwnd Jones yr Anibynnwr, o'r un lle, a wahoddasant Howell Harris i ddod trosodd i'w cynorthwyo, ac i chwythu tân y diwygiad yn eu heglwysi yn fflam. Am alluoedd y gweinidogion Ymneillduol yn y cyfnod hwnnw, boed eu gelynion yn dystion.

Dyma ddywed ysgrifennydd Eglwysig adnabyddus yn 1715:—"I Dduw y bo'r diolch mae goleuni'r Efengyl yr awrhon yn llewyrchu cyn ddis-gleiried yng Nghymru ag mewn odid wlad arall; mae mwy o lyfrau duwiol defnyddiol yn argraffedig; ac amlach, ac ond antur, well pregethwyr yr awrhon yn eu plith nag a fu mewn un oes ys mwy na mil o flynyddoedd.[7] Rhag tybied o neb mai am offeiriaid Eglwys Loegr y soniai Mr. Samuel yn y dyfyniad uchod, cymerwn dystiolaeth Eglwyswr adnabyddus a dysgedig arall; "E. S." yr arwydda yntau ei enw, ond nid Edward Samuel, eithr Erasmus Saunders, D.D., ydyw. Argraffwyd ei waith ef yn yr un flwyddyn ag eiddo ail argraffiad Person Betws Gwerfil Goch, sef 1721.[8]

Cwyna'r gwr parchedig fod lleygwyr wedi meddiannu'r degwm, a'r eiddo Eglwysig eraill; na thybiai'r cyfryw fod yn ddyledswydd arnynt ofalu fod gwasanaeth yn cael ei gario ymlaen yn yr Eglwysi; fod yr Eglwysi wedi cael eu gadael i syrthio i adfeilion; nad oedd y persondai nemawr gwell na bythynnod, a'u bod felly yn cael eu gosod i'r clochydd, yr hwn a ganiateid i werthu cwrw wrth ymyl y fynwent. Enwa'r Capeli (Eglwysi) canlynol fel wedi syrthio yn adfeilion:

"Capel Llannewydd, Capel y Bettws, Capel Teilaw, Capel Ioan, Capel Llan y Ceryddon, Capel y Drindod, Capel Pencadair, Capel Kylsane, Capel Conan, pum Capel ymhlwyf Llandysul, a chapeli ereill di-rifedi."

Am y Capeli (Eglwysi) lle y cynhelir y gwasanaeth, dywed nad oes dim gwydr ar y ffenestri, ond fod estyll wedi eu hoelio drostynt i gadw'r gwynt a'r gwlaw allan; mai'r unig eisteddleoedd ynddynt yw ychydig feinciau wedi eu torri; fod tyllau yn y tô; fod y muriau oddifewn yn orchuddiedig gan lwydni; nad oedd dim palmant ar y llawr oddifewn, ond fod twmpathau beddau'r rhai a gladdwyd oddifewn i'r Eglwys i'w canfod yn amlwg, a'r tawch yn yr adeilad ar adegau yn anioddefol. Am Eglwysi eraill, dywed eu bod yn cael eu defnyddio fel ysguboriau ac ystablau. Ymhlith y cyfryw enwa Llanddaniel Castellmai, Kylvawyr, Mounton, Capel Colman, ac eraill yn sir Benfro; Mynydd Llechryd yn Sir Aberteifi; Nelson ym Mro Gwyr; Llanybri ac eraill yn Sir Gaerfyrddin. Ynglen â'r olaf dywed fod perchen y fywoliaeth, neu ei ddeiliad, "wedi gosod yr Eglwys i'r Dissenters yn y gymydogaeth, y rhai ydynt yn falch o'r cyfle i droi Eglwys yn dy-cwrdd" (tudal. 23, 24). Dyma ddywed am y dull y cerir y gwasanaeth ymlaen:

"Mae amryw Eglwysi lle na cheir na phregethu, na chateceisio, na chymundeb; mewn eraill ni ddarllenir ond rhan o'r gwasanaeth, a hynny o bosibl dim ond unwaith y mis, neu unwaith y chwarter. Mae'r cyflog a ganiateir i'r ciwrad mor fychan, fel y rhaid iddo wasanaethu tair neu bedair o Eglwysi am £10 neu £12 y flwyddyn—a'r Eglwysi hynny gynifer o filltiroedd oddiwrth eu gilydd. A than y cyfryw amgylchiadau, gyda pha fath drefn neu gysondeb y mae'n bosibl cario'r gwasanaeth ymlaen? Carlamant ar frys drwy'r gwaith o ddarllen y llithiau, ac fel pregethwyr teithiol, rhuthrant ar ol y gwasanaeth mewn un lle i le arall. Nid oes amser penodol i'r gwasanaeth, ond iddi gael ei chynnal rywbryd ar y Sul. Felly dechreua'r ciwrad mewn un Eglwys pan ga ychydig ynghyd; brysia drwy gynifer ag sydd bosibl o weddiau mewn hanner awr; ac yna ffwrdd ag ef ar ei gythlwng i'r Eglwys nesaf, lle y gwneir yr un peth; ac felly nes y gorffenno ei gylch ac er mwyn cael y lluniaeth angenrheidiol â i le na ddylai lle y cyferfydd ond odid ag aelodau ei gynulleidfa, y rhai ar ol bod yn y gwasanaeth unwaith a dybiant eu hunain yn rhydd wedyn i dreulio gweddill y dydd mewn tafarndy, neu chwarae. Dyna'r cysgod sy'n aros o Wasanaeth Cyhoeddus Crefydd. Nid yw'r hen leoedd o addoliad wedi cael eu llwyr anghofio ymhobman; rhoddir rhyw arbenigrwydd ar un dydd o'r saith, a diolch i Dduw fod rhai plwyfi lle y darllenir y gweddiau eto. Eithr am wasanaeth cyfrinachol yr offeiriad, megys ymweled â'r claf, neu roddi cyngor neu gerydd personol, mae amgylchiadau y fath fel nas gellir o'r braidd ddisgwyl gweld hynny yn cael ei wneud."

Dyma'i ddesgrifiad o'r bugail a'r gorlan. Bellach beth am y praidd?

"Nid oes un rhan o'r deyrnas lle y mae tuedd gryfach at grefyddolder nag ymhlith trigolion y mynyddoedd hyn. Nid gormod ganddynt ymhob tywydd yw cerdded milltiroedd dros y mynyddoedd i fynychu y Gweddiau Cyhoeddus, neu gymaint arall o ffordd i wrando pregeth. . . . Cynorthwyant eu gilydd yn gyfrinachol i ddysgu darllen a deall yr Ysgrythyrau. A chan fod ynddynt duedd naturiol at farddoniaeth, cyfansoddant Hymnau neu Garolau ar rannau athrawiaethol neu hanesyddol o'r Ysgrythyr. Ond yn gymysgedig a hyn ceir llawer o arferion Pabyddol, a gweddio ar Mair Wen, Iago, Teilaw Mawr, Celu. gan ymolchi yn y ffynhonnau a elwir ar enw'r seintiau."

Yn yr hyn a ddyfynnwyd o Ragymadrodd Edward Samuel o waith Hugo Grotius cyfeiria at lenyddiaeth grefyddol y cyfnod, a dengys llyfr Mr. Salesbury fod ymhlith gwerin Cymru'r dyddiau hynny chwaeth at lenyddiaeth o'r fath. Ni chaniata gofod i roi rhestr llawn o'r holl lyfrau a gyhoeddwyd at wasanaeth y Cymry yn yr oes honno, ond cymeraf dri dosbarth, sef gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd, Cannwyll y Cymry'r hen Ficer—a'r Beibl. Rhoddir dyddiadau'r gwahanol argraffiadau ar ol enw pob llyfr:

GWEITHIAU MORGAN LLWYD: Llyfr y Tri Aderyn, 1653, 1714, 1752. Gwaedd yng Nghymru, 1653, 1727, 1750, 1766. Gair o'r Gair, 1656, 1745. Yr Ymroddiad, 1653, 1657, 1727, 1750, 1766. Y Disgybl a'r Athraw, 1657, 1737, 1765. Cyfarwyddid i'r Cymro, 1657, 1737, 1765. Gwyddor Uchod, 1657, 1737, 1765. Os dadansoddir y dyddiadau uchod gwelir:

(a) Fod adfywiad poblogrwydd i weithiau Morgan Llwyd wedi dechreu yn 1714 ar ol ymron 60 mlynedd o ddifaterwch.

(b) Fod yr adfywiad wedi dod yn amlwg yn 1727, wyth mlynedd cyn ymddanghosiad Howell Harris.

(c) Ei fod yn gryf a chyffredinol yn 1737 cyn fod poblogrwydd Howell Harris na'r Diwygwyr Methodistaidd yn ddim ond lleol.

(d) Fod poblogrwydd gweithiau Morgan Llwyd yn amlycach yn nyddiau neillduad Howell Harris nag ym mlynyddoedd ei weithgarwch.

LLYFR Y FICER. Cyhoeddwyd argraffiadau yn 1617, 1646, 1659, 1670, 1672, 1681, 1696, 1713, 1714, 1715, 1720, 1721, 1724, 1725, 1730, 1735, 1745, 1750, 1750, 1752, 1766, 1770, 1770, 1771, 1776, a 1798, gyda phump argraffiad arall o ddyfyniadau neu gyfieithiadau. Yn awr, os dadansoddir y dyddiadau hyn eto, cawn fod:—

(a) 7 argraffiad wedi ymddangos cyn pasio Deddf Goddefiad.
(b) 10 argraffiad rhwng 1689 a 1735—blwyddyn cychwyn Howell Harris.
(c) 9 argraffiad yn y 22 mlynedd cyn ymddanghosiad Howell Harris.
(d) 4 argraffiad yn y 22 mlynedd cyntaf o lafur Howell Harris.
(e) 4 argraffiad arall yn nhymor neillduaeth Howell Harris.
(f) 2 argraffiad ar ol marw Howell Harris.

(g) 9 argraffiad mewn 22 mlynedd cyn dechreu y Diwygiad.
a 10 argraffiad mewn 65 mlynedd ar ol dechreu

Y BEIBL. Cyhoeddwyd argraffiadau o'r Beibl Cymraeg yn 1672, 1677, 1690, 1690, 1718, 1727, 1746, 1752, 1769, 1769*, 1770, 1779, 1789, 1790, a 1797*. Dynoda'r seren y Testament Newydd yn unig; mae'r lleill oll yn cynnwys yr holl Feibl. O'u dadansoddi eto cawn y ffeithiau canlynol. Ymddangosodd

(a) 4 argraffiad yn 30 mlynedd olaf y 17fed canrif. cyn y Diwygiad.
(b) 2 argraffiad yn 30 mlynedd cyntaf y 18fed canrif
(c) 2 argraffiad yn yr ail 30 mlynedd o'r 18fed canrif ar ol y Diwygiad.
(d) 7 argraffiad yn y 40 mlynedd olaf o'r 18fed canrif

Ond nid yw hyn yn dangos yr holl wir. Gan ddefnyddio yr un llythrennau i ddynodi yr un cyfnodau modd y gall y darllenydd eu cymharu â'u gilydd, cawn:—

(a) Fod 25,000 wedi eu cyhoeddi y 30 mlynedd olaf o'r 17fed canrif, sef 833 ar gyfer pob blwyddyn.
(b) Fod 30,000 wedi eu cyhoeddi y 30 mlynedd cyntaf o'r 18fed canrif, sef 1000 ar gyfer pob blwyddyn.
(c) Fod 22,000 wedi eu cyhoeddi yr ail 30 mlynedd o'r 18fed canrif, sef 733 ar gyfer pob blwyddyn.
(d) Fod 40,000 wedi eu cyhoeddi y 40 mlynedd olaf o'r 18fed canrif, sef 1000 ar gyfer pob blwyddyn.

Os cymerir i ystyriaeth y cynnydd naturiol yn y boblogaeth cawn:—

(e) Mai'r tymor y bu mwyaf o alw am Feiblau oedd y 30 mlynedd olaf cyn dechreu'r Diwygiad.
(f) Mai'r tymor y bu lleiaf o alw am Feiblau oedd y 30 mlynedd cyntaf ar ol

Yngwyneb ffeithiau hanesyddol profedig fel yr uchod, ynfydrwydd gwrthun a damcaniaeth ddi-sail yw yr haeriad mai gwan, eiddil, dirywiedig, ac yn cyflym farw o'r tir, oedd Ymneillduaeth Cymru yn y blynyddoedd a ragflaenasant Y Deffroad Mawr.

Nodiadau

[golygu]
  1. Dr. Rippon's History of the Baptist Academy at Bristol.
  2. Hen enw ar Drelawnyd
  3. Llyfr Eglwys y Cilgwyn.
  4. History of the Parish of Aberystwith, gan Edmwnd Jones, tudal. 98, 99.
  5. Cofnodion yr Eglwys.
  6. Meddiannu Eglwys y Plwyf a wnaeth Anibynwyr Llanybri, drwy ganiatad yr awdurdodau Eglwysig, gan nad oeddid yn cynnal gwasanaeth yno! (Erasmus Saunders "State of Religion in the Diocese of St. David's.")
  7. Ceir yr uchod yn y Rhagymadrodd i "Gwirionedd y grefydd Gristionogol gan Hugo Grotius a gyfieithwyd gan y Parch. Edward Samuel, gynt Person Bettws Gwerfil Goch. Yr Ail Argraffiad gan Dafydd Rogers." Arwyddir y Rhagymadrodd gan "E. S. Bettws Gwerfil Goch, Hydref 25, 1715;" ugain mlynedd cyn ymddanghosiad Howel Harris.
  8. "A view of the State of Religion in the Diocese of St. David's at the beginning of the 18th century; with some account of the causes of its decay, &c., &c. By E. S., D.D."

ATODIAD I PENNOD XVI.
YSTADEGAETH Y CYFNOD A'R CYHUDDIAD YN ERBYN DR. REES.

O ddyddiau'r Brenin Dafydd hyd eiddo Mr. Thomas Gee, yr ydys wedi profi mai gwaith cynnil, ac mewn rhyw ystyr, peryglus, yw cyfrif y bobl. Ac eto, ar adegau, gall fod yn ddyledswydd orfodol. Felly yn ddiameu y teimlodd y Dr. John Evans hi pan, ar farwolaeth Anne, yr ymgymerodd a'r gorchwyl diddiolch o gasglu ystadegau am nerth Ymneillduaeth yng Nghymru a Lloegr.

Galwed y darllenydd i'w gof yr amgylchiadau. Yr oedd elfennau gwrthwynebol rhyddid a chaethiwed, yn wladol a chrefyddol, erbyn dyddiau Anne wedi crisialu i ffurf Pleidiau Gwleidyddol, a'r llinell fin cydrhyngddynt mor amlwg, o leiaf, ag yw yn ein dyddiau ni. Ysbryd gormes a chaethiwed a symbylai'r Toriaid cyntefig; egwyddorion goddefiad, os nad rhyddid, a lywodraethai yng nghynghorion y Whigiaid cyntefig. Rhyddid cydwybod yn ei gysylltiad â hawliau dinesig oedd y cwestiwn o amgylch yr hwn y troai ymdrechion y ddwyblaid. Rhaid cofio ar yr un pryd mai ystyriaethau o gyfleustra (expediency) yn hytrach nag o egwyddor, sydd yn aml yn penderfynu cwrs gwleidyddiaeth. Er fod llawer o arweinwyr y Whigiaid y dyddiau hynny yn ddigon cyd-wybodol ac egwyddorol yn eu hawydd i ryddhau y cadwynau a gaethiwent Ymneillduwyr, ac eraill yn amharod i'w tynhau, yr oedd llawer iawn, o bosibl y mwyafrif yn eu plith, yn gyfryw ag a fuasent lawn mor barod i wrando ar eu hunan-les ag a fyddent i gael eu symud gan ystyriaethau o iawnder. Pe gellid profi iddynt fod y ddau, hunan-les a iawnder, yn rhedeg ar hyd yr un llinell, ac y byddai sicrhau y naill yn diogelu'r llall, rhoddid iddynt y cymhelliad cryfaf oedd yn bosibl i wneuthur yr hyn oedd yn iawn. A hyn a wnaeth Ymneillduwyr yr oes honno ceisio profi i arweinwyr y Whigiaid mai mantais iddynt hwy a fyddai gwneud chwareu teg a'r Ymneillduwyr. Aethant at y gwaith mewn modd tra ymarferol, sef Cyfrif y Bobl, a dangos mewn du a gwyn beth oedd nerth Ymneillduaeth mewn gwahanol rannau o'r deyrnas,—ac, fel dynion call, yn rhoi'r bennod a'r adnod i brofi'r pwnc, a rhoi'r cyfleustra felly i'r gwleidyddwr i brofi cywirdeb gosodiadau a ffigyrrau'r crefyddwr.

Nid dyma'r ymgais cyntaf a wnaed i gael allan y ffigyrau. Yn 1669, gyrrodd Archesgob Caergaint orchymyn allan i'w glerigwyr gyfrif yr Ymneillduwyr,—fel y gwnaeth Esgob Bangor yn ei esgobaeth yntau ymhen can mlynedd wedi hynny. Yn 1675, gyrrodd yr enwog Henry Maurice, gweinidog Anibynwyr Sir Frycheiniog, grynhodeb o ystadegau'r Ymneillduwyr yng Nghymru i Mr. Edward Terrill ym Mryste. Yn 1772 a 1776, gwnaeth y Parch. Josiah Thompson, gweinidog llafurus gyda'r Bedyddwyr, ymgais cyffelyb i eiddo Dr. John Evans yn 1715, i ddarganfod nerth Ymneillduaeth y deyrnas, ac i gyffelyb amcan, sef er mwyn sicrhau hawliau dinesig pellach i'r Ymneillduwyr drwy ddangos eu nerth gwleidyddol. Heb fynd i feichio'r tudalennau hyn â phentwr o ffigyrrau—mae'r ol o'r ystadegau uchod eto ar gael, rhai mewn argraff ac eraill mewn hen lawysgrifau—digon yw dweyd yma ei bod yn amlwg i'r neb a gymero'r drafferth o'u cymharu'n ofalus â'u gilydd, eu bod, er yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd mewn rhai manylion (yn gymaint a'u bod wedi cael eu cymeryd ar adegau a than amgylchiadau gwahanol), eto yn gyson â'u gilydd. Mae ffigyrrau Dr. John Evans yn ffitio yn naturiol i'r gyfres; yn cael eu hategu gan dystiolaeth gadarnhaol ystadegau casgledig blaenorol, gan ffeithiau Swyddfa'r Cofnodion, gan gofnodion Cymanfaoedd Bedyddwyr Cymru, gan yr hyn a wyddis—ac a brofwyd yn y bennod hon—am sefyllfa a chynnydd Ymneillduaeth Cymru, a chan ddadblygiadau gwleidyddol y cyfnod, yn ogystal a chan ystadegaeth cyfnod diweddarach. Rhaid ennill a dymchwelyd y rhagddiffynfeydd hyn y naill ar ol y llall, cyn y gellir ymosod yn llwyddiannus ar ddilysrwydd ystadegaeth Dr. John Evans. A phan welir rhai yn ceisio gwneud hynny mewn anwybodaeth o wir gysylltiadau hanesyddol yr achos, teimlwn wiredd y dywediad, "Fools rush in where angels fear to tread."

Pan feddyliodd Ymneillduwyr yr oes honno am y cynllun hwn i argyhoeddi'r gwleidyddwyr, trodd eu meddyliau yn naturiol at y Cymro Dr. John Evans, fel yr un cymhwysaf yn y deyrnas i ymgymeryd a'r gorchwyl,—am y rheswm ei fod eisoes wedi treulio blynyddau i gasglu ffeithiau am hanes a safle Ymneillduaeth. Bwriadai gyhoeddi gwaith mawr a safonol ar Hanes Ymneillduaeth, a chasglodd doraeth o ddefnyddiau gwerthfawr gyda'r amcan hwnnw. Ar ei farwolaeth gwasgarwyd cyfran helaeth o'r llawysgrifau amhrisiadwy hynny, er fod llawer o honynt eto yn aros. Yn Llyfrfa'r Dr. Daniel Williams yn Llundain ceir rhai o honynt, ac yn eu plith "Collections for the History of Nonconformity and Nonconformists in England from the reign of Henry VIII. to that of Charles I., inclusively, by John Evans, D.D." Cyfeiria'r llawysgrifau hyn at amryw lawysgrifau eraill oedd wedi cael eu casglu yn ofalus at y gwaith, ond nas gwyddis yn awr pa le y maent. Gwyddis, er hynny, fod rhai o honynt wedi syrthio i ddwylaw'r Parch Daniel Neal, ac i hwnnw, ar ol marwolaeth Dr. John Evans, wneud defnydd o ysgrifau ei gyfaill, ond heb eu cydnabod, yn ei History of the Puritans.[1] Mab i ddyn nid llai enwog yn ei gylch oedd Dr. John Evans. Yr oedd Ymneillduaeth a'i hawliau yn ei waed o ochr ei dad, ac wedi dod yn rhan o'i natur wrth sugno bron ei fam. Gweddw Vavasor Powell, ac ail wraig John Evans, olynydd Ambrose Mostyn fel gweinidog yr Anibynwyr yng Ngwrecsam, oedd ei fam. Yr oedd ei dad yn un o'r pregethwyr teithiol dan ddeddf Cromwell i Efengyleiddio Cymru. Distawyd ef gan Ddeddf Unffurfiaeth yn 1662. Dioddefodd lawer am ei Ymneillduaeth. Digiodd Esgob Lloyd, Llanelwy, wrtho am wrthod rhoi Eglwys Anibynnol Gwrecsam i fyny a derbyn bywoliaeth Eglwysig ganddo ef. Gosodwyd dirwyon trymion arno am ei Ymneillduaeth, a gyrrwyd gwysiau liaws allan i'w erbyn. Ond ni thalodd yr un ddirwy erioed, ac ni ddaliwyd ef ond unwaith! Bu drws ei dy yn gloedig am flynyddau rhag i'r atafaelwyr gymeryd meddiant o'i eiddo! Ac yn y cyfnod hwnnw (1680) y ganwyd yr ystadegydd Dr. John Evans. Cafodd ei addysg o dan yr enwog James Owen yn yr Amwythig. (Gyda llaw, ei dad, John Evans, Gwrecsam, oedd athraw Huw Owen, Bronyclydwr.) Pan yn 22 oed ordeiniwyd ef yn weinidog yng Ngwrecsam, ac yn 1704 symudodd i Lundain, fel gweinidog cynorthwyol i'r Cymro enwog arall, Dr. Daniel Williams, Gwrecsam gynt; yn 1716, ar farwolaeth Dr. Williams, dewiswyd ef yn brif weinidog yr Eglwys. Ym mlynyddoedd ei weinidogaeth gynorthwyol, cysegrodd ei oriau hamdden at y gwaith o gasglu hanes y bobl—Ymneillduwyr—y perthynai iddynt, a'r egwyddorion dros y rhai y dioddefodd ei rieni.

Dyna'r gwr i ran yr hwn y syrthiodd y gorchwyl pwysig o gasglu ystadegaeth Ymneillduaeth ei oes. Nis gellir edrych dros y llawysgrifau hyn o'i eiddo heb weled profion mynnych o'r gofal a arferwyd a'r cydwybodolrwydd a weithredwyd gan yr ystadegydd. Ceir profion ychwanegol o hyn yn y pethau a ysgrifennodd ei gydoeswyr am dano yn ei fywyd ac ar ol ei farw. Cafodd gynhorthwy parod nifer o bersonau dylanwadol ymhob rhan o'r deyrnas er sicrhau cywirdeb i'w ystadegaeth. Ymhlith eraill a'i cynorthwyodd yng Nghymru cawn Mri. Lewis Lloyd, Barrington, Bendish, a'r Parch. Joseph Stennett, D.D. Mae'n anhawdd penderfynnu i ba raddau yr oedd Daniel Neal yn gysylltiedig âg ef yn yr ymdrech hwn i gasglu ystadegau. Ond pa un ai mewn cydweithrediad â, neu yn anibynnol ar, Dr. John Evans y gweithredai Neal, sicr yw ddarfod iddo yntau hefyd gasglu ffeithiau oddiwrth Eglwysi'r Bedyddwyr—ac mae ei ffigyrrau yntau yn cydgordio, er nad yn hollol yr un fath, ag eiddo Dr. John Evans. Yn llyfrau cofnodion rai o Eglwysi'r Bedyddwyr y cyfnod hwnnw, dywedir fod "cais wedi dod oddiwrth y Llywodraeth am yr ystadegau o'r Eglwys" honno, yr hyn a'i gwna yn dra thebygol fod yr ymchwiliad a wnaeth Mr. Neal yn gwisgo gwedd swyddogol.

Eglura'r pethau uchod y gofal a'r manylwch a gymerwyd gyda'r ystadegau hyn. Eglura, hefyd, paham y rhoddir, yn yr ystadegau hyn, fanylion am safle fydol a chymdeithasol yr Ymneillduwyr, yn hytrach na'u cyflwr ysbrydol—fel y ceisiodd y Cynghorwyr Methodistaidd " wneud ymhen 30 mlynedd wedyn. Er engraifft, gan gymeryd Eglwys yr Anibynwyr yn Abergafenni, dywed fod yno "1 esquire, 16 gentlemen, 7 yeomen, 63 tradesmen, 1 farmer, 7 labourers, 13 votes for the county of Monmouth, 3 for Brecknockshire, 1 for Glamorganshire, 1 for Herefordshire, 23 for the borough of Monmouth, 3 for Bristol, and 3 for Hereford." Am Eglwys y Bedyddwyr yn Cefnhengoed. Sir Forgannwg, dywed fod yno 2 gentlemen, 40 yeomen, 12 tradesmen, 85 farmers, 140 labourers, 20 votes for the county of Glamorgan, 22 for the county of Monmouth, and 60 for the boroughs." Am Eglwys y Presbyteriaid yn Ninbych dywed, "1 member worth between £4000 and £5000, and 3 worth £500 each, the rest tradesmen and farmers, no beggars, 8 votes for the county, and 12 for the borough." Am Eglwys Newmarket, yn Sir Fflint, dywed, 1 member worth between £14,000 and £15,000, 1 vote for the county, and 3 for the borough." Ni cheir yr holl fanylion hyn am bob eglwys. Yn y dyddiau hynny, fel yn ein dyddiau ninnau, yr oedd ambell weinidog neu ddiacon yn fwy parod na rhai o'i frodyr i gymeryd trafferth gydag ystadegaeth ei eglwys. Ond gan gymeryd Sir Fynwy lle y ceir y manylion lawnaf am yr holl eglwysi, gweithiai cyfanrif yr ystadegau allan fel hyn:—

Tri yswain, 58 boneddwr, 285 rhydd-ddaliadwr, 243 masnachwr (neu grefftwr), 234 ffarmwr, 391 labrwr. Gwna hyn gyfanrif o 1214,—ac o'r rhai hyn yr oedd 500 yn meddu pleidleisiau mewn etholiadau seneddol.[2]

Dyrry Dr. John Evans rif y gwrandawyr ymhob eglwys (caf sylwi eto pa beth a olygai wrth wrandawyr"). Gan gymeryd cyfanrif pob sir gweithia allan fel hyn:—

Aberteifi, 1250; Brycheiniog. 1770; Caerfyrddin, 5550; Caernarfon, 250; Dinbych, 440; Fflint, 30; Maesyfed, 2150; Meirionnydd, 150; Morgannwg, 3600; Mynwy, 2991; Penfro, 1400; Trefaldwyn, 420. Gwna hyn gyfanrif i Gymru o ychydig dros 20,000.

Awgryma rhai a fynnent leihau nerth a gweithgarwch Ymneillduaeth y cyfnod, fod Dr. John Evans wedi chwyddo'r ffigyrrau uchod. I'r gwrthwyneb gellir profi, os yw yn gwneud cam â'r ffigyrrau o gwbl, mai ar yr ochr arall y mae yn pechu. Mae hyn yn amlwg oddiwrth y ffeithiau canlynol:—

(a) Yn y rhestr eglwysi ceir rhai heb rifedi o gwbl ar gyfer yr enw. Nid yw yntau yn ychwanegu dim at ei gyfanrif ar gyfer yr eglwysi hynny. (b) Er ei holl ofal, dihangodd rhai eglwysi cryfion heb gael eu cyfrif ganddo o gwbl. Ymhlith y cyfryw gellir nodi Eglwys yr Anibynwyr yn Merthyr, eiddo'r Bedyddwyr yn Argoed, Glandwr, a'r Felindre.

(c) Cywirwyd y ffigyrrau hyn drwy ymchwiliad pellach ymhen tair blynedd, pan gafwyd fod y ffigyrrau wedi chwyddo. Er engraifft, ym Mynwy ceir 3 yswain, 60 boneddwr (yn lle 58), 298 rhydd-ddaliadwr (yn lle 285), 250 masnachwr (yn lle 243), 299 ffarmwr (yn lle 234), 492 labrwr (yn lle 391). Ceir rhif y pleidleiswyr yn 520 (yn lle 500), a rhif y gwrandawyr cyson yn 3911 (yn lle 2991). Ychwanegir hefyd voters for magistrates Monmouth, 8; Usk, 159 Cardiff, 2; Brecon, 1=170,"—a hyn oll yn llawysgrif Dr. John Evans.

(d) Nid yw Dr. John Evans yn cymeryd i fewn i'w gyfrif o gwbl gynulleidfaoedd y Crynwyr, oedd yn dra lliosog ar y pryd yng Nghymru. (e) Deil ffigyrrau'r cynulleidfaoedd unigol a'r siroedd eu cymharu â'r ffigyrrau o Loegr. Er engraifft, dychwelir rhif y gwrandawyr o dref Caer yn unig yn 1000.[3] Cyfrifir Ymneillduwyr Bryste yn 4400, ac eiddo Sir Gaerloyw yn 11,949. O'u cymharu â'r rhai hyn, nid yw'r ffigyrrau a roddir i Gymru yn ormodol, a dweyd y lleiaf, yngwyneb y ffaith fod Ymneillduaeth yn ddiamheuol yn ennill tir yn y Dywysogaeth ar y pryd. Yn awr i symio'r ffeithiau i fyny. Rhif y "gwrandawyr" yn ol ffigyrrau Dr. John Evans yw 20,007. Os cyfrifir y 10 cynulleidfa na ddyrry efe ffigyrrau am danynt, a'r 4 cynulleidfa na chynhwysir yn ei restr, gan roi i bob un o honynt gyfartaledd rhif cynulleidfaoedd eu siroedd eu hunain, ychwanega dros 7500 at gyfanrif Dr. Evans. Cyfrifer eto 3000 i'r Crynwyr yng Nghymru,[4] a daw cyfanrif cynulleidfaoedd cyffredin Ymneillduwyr Cymru yn 30,500.

Codir gwrthwynebiad i'r ffigyrrau hyn gan rai ysgrifenwyr, ar sail y dybiaeth nas gallai poblogaeth yr ardal i'r hon y priodolir yr Eglwys, ddarparu cynifer o bobl. Mae dwyn y fath ymresymiad ymlaen yn bradychu yr anwybodaeth lwyraf am sefyllfa yr achosion Anghydffurfiol yng Nghymru'r dyddiau hynny. Edrycher ar Map 3, a cheir ynddo atebiad digonol i'r wrthddadl ddisail hon.

Hyd yma yr wyf wedi ymdrin â ffigyrau Dr. John Evans yn unig. Buasai'n dda gennyf adael y cwestiwn yn y fan yna. Ond cymhellir fi gan deimlad o ddyledswydd tuagat y byw, ac o barch i goffadwriaeth y marw, i fynd ymhellach i'r mater; ac, am yr unig dro, mi gredaf, ynghorff y gwaith hwn, i gymeryd safle'r dadleuwr yn hytrach na'r hanesydd syml. Eto, fel dadleuydd sylfaenaf fy nadl ar ffeithiau hanesyddol, ac nid ar amcandybiau gwag.

Cyhuddir y diweddar Dr. Thomas Rees, Abertawe, o ddau drosedd pwysig fel hanesydd. Mae'r cyntaf, a'r lleiaf pwysig o honynt, yn ymwneud â'i amcangyfrif ef o rifedi Ymneillduwyr Cymru, seiliedig ar ffigyrrau Dr. John Evans. Rhwng y Crynwyr, a'r eglwysi na cheir ffigyrrau iddynt yn rhestr Dr. Evans, cyfrifa Dr. Rees ganolrif gwrandawyr Cymru yn 27,485. Yr wyf wedi dangos uchod y dylasai fod wedi cyfrif o leiaf 3000 yn rhagor, gan wneud canolrif y gwrandawyr yn, o leiaf, 30,500. Gan gymeryd y 27,485 fel ei safon, amcangyfrifa fod o leiaf 50,000 yn perthyn i deuluoedd Ymneillduol Cymru yn 1715. Yma eto mae Dr. Rees yn rhoi rhy ychydig,—byddai 60,000 yn agosach i'r gwir ffigiwr na 50,000. I brofi hyn edrycher ar ffigyrrau Sir Fynwy eto. Gwelir fod Dr. John Evans yn cyfrif y "gwrandawyr" yn 2991. Ond o'r 2991 hynny ceir 1214 yn oedogion ac yn bennau teuluoedd, ac fel rheol yn wrrywiaid. Edryched y darllenydd ar y gynulleidfa arferol yn ei gapel ei hun, ac yr wyf yn sicr os ca yno 12 yswain, boneddwr, rhydd-ddeiliad, ffarmwr, masnachwr, crefftwr, ffarmwr, a labrwr" y ca fod yr holl gynulleidfa, yn cynnwys gwragedd a phlant, rhai dan oed, a morwynion, yn gryn dipyn mwy na 29,—ac o ganlyniad rhaid fod 1214 o'r dosbarthiadau hynny yn golygu cynulleidfa o gryn dipyn mwy na 2991. Mae yn dra amlwg felly na chymerwyd y plant, o leiaf, i ystyriaeth ynghyfrif Dr. John Evans. Ond beth am y gwasanaethyddion? O'r 1214 uchod yr oedd 823 yn y cyfryw sefyllfa ag a olygai eu bod yn cadw gweision a morwynion. Oh!" medd y gwrthddadleuwr, "nid oedd neb ond y gwyr mawr, y cyfoethogion, pobl mewn sefyllfa fydol dda, yn mynychu capeli'r Ymneillduwyr yn y dyddiau hynny!"—a thybia ei fod wedi setlo'r cwestiwn felly. Ond os edrychir ar y ffigyrrau, gwelir fod 391 o'r 1214 (neu rhwng y drydedd a'r bedwaredd ran o'r oll) yn labrwyr." A syrthia'r wrthddadl i'r llawr. Eto os ceir 29 yn rheolaidd yn y capel ar y Sul, gellir cyfrif fod yr holl gynulleidfa, pe y ceid hwynt gyda'u gilydd ar yr un pryd, yn debyg o fod o leiaf yn 58;—ac felly fod y 30,500 yn debyg o fod yn cynrychioli 61,000. O edrych felly ar amcangyfrif Dr. Rees, sef 50,000, gorfodir ni i ddod i'r casgliad, os troseddodd yn erbyn y gwirionedd o gwbl, mai nid mewn gormodiaeth, eithr trwy roi amcangyfrif rhy isel y troseddodd.

Deuwn yn nesaf at gyhuddiad llawer mwy difrifol, ond un ag y bydd, a dweyd y lleiaf, yn llawn mor rhwydd i'w wrthbrofi. Sylwedd y cyhuddiad hwn yw fod Dr. Rees yn wirfoddol wedi cyfnewid pennawd un o golofnau ystadegaeth Dr. John Evans gyda'r bwriad pwyllog (deliberate intention) o gamarwain y cyhoedd, a rhoi iddynt gamargraff am wir sefyllfa Ymneillduaeth ddechreu'r 18fed canrif. Anhawdd fuasai dwyn cyhuddiad mwy difrifol yn erbyn unrhyw un yn hawlio safle fel hanesydd. I'r neb a adwaenai Dr. Rees,—a chefais er yn blentyn yr anrhydedd o fod mewn cysylltiad agosach na'r cyffredin âg ef—ymddengys y fath gyhuddiad yn chwerthinllyd. Nid wyf yn dweyd fod Dr. Rees yn anffaeledig, na phob amser yn gywir, fel hanesydd. Credaf ei fod wedi camgymeryd droion. Gwn pe cawsai weled rhai o'r hen lawysgrifau a fu yn fy nwylaw i, na fuasai wedi ysgrifennu rhai pethau a geir yn ei Hanes Anghydffurfiaeth yng Nghymru ac yn Hanes yr Eglwysi Anibynnol. Tybiaf na roddodd bob amser i'r Bedyddwyr, er engraifft, yr hyn oedd yn ddyledus iddynt. Gwn iddo roi i'r Methodistiaid cyntefig fwy nag oedd yn ddyledus iddynt hwy. Edrychai, o bosibl, weithiau ar ffeithiau ac amgylchiadau nid yn gymaint â llygad syml yr hanesydd ag a wnai drwy wydrau yr Anibynnwr—a dichon fod lliw yr enwad weithiau ar y gwydrau hynny. Ond wedi dweyd hyn, dywedwyd y gwaethaf a allesid byth ei ddweyd am Dr. Rees, Abertawe. Ymddengys yn anhygoel i bawb a'i hadwaenai, y gallai yn fwriadol ac mewn gwaed oer, fod wedi cyfnewid ystadegaeth gyda'r amcan pwyllog o dwyllo a chamarwain. Yr wyf yn pwysleisio'r amcan a gyfrifir i Dr. Rees yn yr hyn y dywedir iddo wneud, gan mai yn yr amcan a briodolir iddo y gorwedd holl fryntni a gwenwyn y cyhuddiad. Gallasai'r hanesydd mwyaf gofalus syrthio i gamgymeriad trwy amryfusedd, ond mae yn gofyn safon moesoldeb isel iawn mewn dyn cyn y bydd yn euog o gyfnewid ffeithiau neu ffigyrrau gyda'r amcan o dwyllo. Mae'r mater mor bwysig fel y maddeuir imi am ddyfynnu geiriau hanfodol y cyhuddiad.

"Pennawd y bumed golofn yn llawysgrif Dr. John Evans yw 'rhif y gwrandawyr' (number of hearers), ac amlwg yw y cyfrifa pawb y gellid mewn unrhyw ffordd edrych arnynt fel yn perthyn i gynulleidfaoedd yr Ymneillduwyr. Ond y mae Dr. Rees, yn rhyfygus, ac heb awgrymu ei fod yn gwyro oddiwrth y gwreiddiol, wedi newid y pennawd i 'canolrif y rhai presenol' (average attendance). Gwel y cyfarwydd ar unwaith pa mor bwysig yw y newidiad hwn. Rhifai Dr. John Evans bawb a wrandawent gyda'r Ymneillduwyr, er na fyddent oll yn bresennol hyd yn oed pan fyddai y gynulleidfa fwyaf; ond ystyr 'canolrif y gwrandawyr' yw nifer y rhai presennol pan na fydd y gynulleidfa nac yn fach nac yn fawr. Gwyddai Dr. Rees yn dda ei fod yn gwyrdroi'r cyfrif er gwneud rhif yr Ymneillduwyr yn ddwbl yr hyn ydoedd. Gwyddai Dr. Rees yn drwyadl pa mor bwysig, a pheth oedd ystyr y cyfnewidiad a wnelai yn y pennawd, oblegid brysia i fanteisio ar y camwri a gyflawnodd, trwy ddweyd nad yw canolrif y presenolion un amser yn fwy na hanner rhif y gwrandawyr; felly y rhaid fod nifer yr Ymneillduwyr yng Nghymru pan wnaed y cyfrifiad yn ddwbl yr hyn a geir yn y daflen. Y mae yn wir ofidus fod gweinidog yr efengyl o safle barchus, ac un a ystyrrid yn gyffredin yn hanesydd gofalus, wedi ymostwng i gyflawni gweithred anonest, yr hon yn ddiddadl a fwriedid i gamarwain."[5]

Mae yn amlwg i bob dyn ystyriol na ddylesid dwyn cyhuddiad mor ddifrifol a hwn, yn enwedig yn erbyn gwr o safle Dr. Rees, ond ar y seiliau cadarnaf a mwyaf diamheuol, ac ar ol yr ymchwiliad mwyaf manwl a gofalus i'r holl amgylchiadau.

Yn awr, mewn ymdeimlad llawn o bwysigrwydd yr hyn wyf yn ei ddweyd, ac ar ol ymchwiliad personol, manwl, a gofalus, i'r holl ffeithiau cysylltiedig a'r mater, yr wyf yn dod i'r penderfyniad,

1. Ei bod heb ei brofi eto (not proven), ac o bosibl yn amheus, a gyfnewidiodd Dr. Rees y pennawd o gwbl.
2. Os cyfnewidiodd y pennawd, gwnaeth hynny nid gyda'r amcan o dwyllo, ond er symud camargraff posibl oddiar feddwl y ddarllenydd.
3. Ei bod tuhwnt i unrhyw amheuaeth mai gwrandawyr rheolaidd neu gyson (yr hyn, meddir, a aralleiria Dr. Rees yn ganolrif presenoldeb) a olygai Dr. John Evans wrth "Y gwrandawyr" (Hearers) ar ei daflen.
4. Y dylasai, ac y gallasai, y neb a ddygodd y cyhuddiad yn erbyn Dr. Rees, fod wedi darganfod yr hyn a nodir yn y tri pharagraff uchod.
5. Ei bod yn dra thebygol fod tystiolaethau yn profi dieuogrwydd Dr. Rees wedi bod yn nwylaw ei gyhuddwr,—a'i bod yn sicr fod y tystiolaethau hynny wedi bod o fewn ei gyrraedd.

Mewn geiriau eraill, yr wyf yn galw ar Lys y Farn Gyhoeddus i ryddhau Dr. Rees, ac i osod ei gyhuddwr yn y dock yn ei le, ar y cyhuddiad difrifol (a) o ddwyn cyhuddiad disail yn erbyn Dr. Rees, a (b) o esgeulusdod beius ac anesgusodol fel hanesydd, wrth beidio chwilio'r holl amgylchiadau cysylltiedig a'r achos cyn dwyn y cyhuddiad. Bydd gennyf air personol ag ef yn nes ymlaen ar fater ac amgylchiad arall, pan y syrthiodd i gyffelyb amryfusedd o esgeuluso chwilio am, neu anwybyddu ffeithiau noeth oeddynt yn eglur o dan ei lygad. Ond â mater Dr. Rees y mae a fynnom ar hyn o bryd, a dywedaf fod ei gyhuddwr wrth gloddio pydew i'r Doctor, wedi syrthio iddo ei hunan.

Modd y deallo'r darllenydd yr amgylchiadau dylai wybod,

(a) Fod tri chopi gwreiddiol o ystadegaeth Dr. John Evans ar gael rai blynyddoedd yn ol.
(b) Nad oes ond dau o'r tri hynny ar gael yn awr.

Er mwyn profi ei gyhuddiad yn erbyn Dr. Rees, mae'r cyhuddwr yn rhoi facsimile o un tudalen yn un o gopïau gwreiddiol Dr. John Evans, ond

(c) Tebyg yw mai nid o'r copi hwnnw y cododd Dr. Rees yr ystadegau.

Prin mae angen cymeryd gofod nac amser i brofi (a) a (b). Mae'r profion ar y wyneb i'r neb a gymero'r drafferth i chwilio yn Llyfrfa Dr. Williams yn Llundain. Ar yr un pryd gan y dichon rhai na fedrant ymweled â'r Llyfrfa wybod y ffeithiau, rhoddaf hwynt yma. Yn Llyfrfa Dr. Daniel Williams, ymhlith toraeth o hen lawysgrifau amhrisiadwy, ceir adran neillduol a adwaenir fel III. Records of Nonconformity and Dissenting Institutions." Mae'r cofnodau hyn wedi eu rhifnodi fel hyn:—

No. 1—3. Minutes of the Sessions of the Assembly of Divines (gwel tudal. 91.)

No. 4. An Essay or Enquiry into the State of Nonconformists in England and Wales, A.D. 1717 (say 1715), &c.

No. 5. The State of the Dissenting Interest in the Several Counties of England and Wales in the years [1715 and 1716, and again taken 1772 and 1773. Part I.] 1715 and 1773.

No. 6. A State of the Dissenting Interest in the Several Counties of England and Wales, begun to be collected October 1772.

Nos. 7—11. A Collection of Papers containing an Account of the Original Foundation of some hundred Protestant Dissenting Congregations, the succession of their Pastors, &c.

Mae eraill yn y gyfres. Ond dengys yr uchod eu natur. Yn ychwanegol at y casgliad uchod, mae casgliad a adwaenir fel "The Mill Yard Collection" o hen lawysgrifau. Yn Nghasgliad Mill Yard ceir, "An Essay or Enquiry into the State of Nonconformity in Wales, A.D. 1717 (say 1715). The Number of Ministers. Candidates and Teachers, Their Ordinations, Their Several Denominations. The Number of their Hearers and Freeholders, &c., &c.

Ymddengys mai'r "No. 4" uchod, a'r olaf, yw'r ddau gopi gwreiddiol sydd yn awr ar gael o ystadegaeth 1715.

Mae "No. 5" uchod yn cynwys copi o ystadegaeth 1715, gydag ychwanegiad yn cynnwys ystadegaeth 1772. Am hwn (No. 5) ysgrifenna'r Llyfrydd yn y Catalogue Llawysgrifau fel hyn:

"Mae y rhestri cyntaf, 1715-16 yn cytuno yn gyffredinol a'r rhai geir yn No. 4 (rhestri Dr. John Evans); ond gwahaniaethant gymaint mewn rhai manylion fel ag i ddangos na chodwyd hwynt (No. 5) o No. 4 (rhestri Dr. John Evans) nac o gopi gwreiddiol Mill Yard 1717. . . Rhaid felly fod trydydd copi o'r Llawysgrif gwreiddiol wedi bodoli, wedi ei gasglu o gyffelyb ffynonellau, ond nas gwyddis yn awr pa le y mae."

Dyna brofi (a) a (b), tu hwnt i amheuaeth.

Cadarnheir y gosodiad (c) gan y ffaith fod yr ystadegau a roddir gan Dr. Rees yn ei "Hanes Anghydffurfiaeth yng Nghymru," yn gwahaniaethu mewn nifer o amgylchiadau oddiwrth y copi o'r hwn y cymerwyd y facsimile[6]. (No. 4 uchod.) Nid yw'r gwahaniaethau hyn yn gyfyngedig i unrhyw un sir, nac i unrhyw un dosbarth o ffeithiau. Ceir enwau lleoedd yn wahanol, hynny yw, lleoedd yn cael eu henwi yn y naill heb fod yn y llall; dau le yn cael eu cysylltu gyda'u gilydd yn llyfr Dr. Rees, ond yn cael eu rhoi ar wahan yn llawysgrif Dr. John Evans; personau yn cael eu nodi fel yn fyw yn y naill, ac yn farw yn y llall; enwau gweinidogion yn gynwysedig yn y naill ac allan o'r llall; llythyren ddynodiadol yr enwad yn gwahaniaethu; y ffigyrrau sy'n dangos rhif a safle gymdeithasol y pleidleiswyr yn gwahaniaethu. Nid oedd eisieu llawer o ymchwiliad na manylwch i ganfod y gwahaniaethau hyn; mae rhai ohonynt yn amlwg hyd yn oed ar y dudalen a roddir mewn fac simile i brofi'r cyhuddiad! Hyd yn oed ar y ddalen honno, un o'r siroedd lle y gwahaniaetha Dr. Rees leiaf oddiwrth No. 4, ceir gwahaniaeth rhwng facsimile Y Tadau Methodistaidd a chopi Dr. Rees mewn tair allan o'r pum colofn, sef:—

i. Llythyren yr Enwad;
ii. Rhestr y Gweinidogion, a
iii. Y Pleidleiswyr.

Os ceid hyn mewn sir lle na roddid ond chwech llinell, oni ddylasai agor llygad y cyhuddwr i'r posibilrwydd ei fod yn camgymeryd ei hunan? Petae wedi edrych ymhellach, dyweder i Sir Fynwy, caffai yn y sir honno yn llawysgrif y facsimile (No. 4 uchod) restr o 15 o leoedd. O'r 15 hyn gwahaniaetha Dr. Rees oddiwrth y llawysgrif mewn chwech o'r lleoedd hynny, ac yn y naill neu'r llall o bob un o'r pum colofn. Gwahaniaetha

i. Yn enwau'r lleoedd;
ii. Yn nhrefn y lleoedd a'u cysylltiad â'u gilydd;
iii. Yn enwau'r gweinidogion;
iv. Yn nghyfeiriad y gweinidogion;
v. Yn rhif y gwrandawyr;
vi. Yn nosbarthiad a rhifedi'r safle gymdeithasol.

Ni pherthyn imi i esbonio paham y rhoddodd y cyhuddwr facsimile o restr Sir Frycheiniog, lle mae'r gwahaniaeth rhwng y cyfrif a roddir ag eiddo Dr. Rees yn gydmarol fychan a dibwys, er yn ganfyddadwy, yn hytrach na rhoi facsimile o restr Sir Fynwy, neu un o'r siroedd eraill lle roedd y gwahaniaeth rhwng cyfrif Dr. Rees a'r facsimile yn amlwg i bawb. Ond modd y gwelo'r darllenydd drosto ei hun, gwahaniaetha restr Dr. Rees, yn y naill neu'r llall o'r colofnau, oddiwrth Copi No. 4, o'r hwn y cymerwyd y facsimile ac ar sail yr hwn y dygir y cyhuddiad brwnt i'w erbyn, ymhob sir fel hyn Yn sir

ABERTEIFI gwahaniaetha Dr. Rees mewn 2 linell allan o'r 3 roddir yn No. 4
BRYCHEINIOG " 2 " 6 "
CAERFYRDDIN " 5 " 13 "
CAERNARFON " yn yr unig linell roddir i'r sir "
DINBYCH " 2 " 3 "
FFLINT " yn yr unig linell a roddir yn "
Mae MEIRION a MON yn ymarferol yr un peth yn y ddau
MAESYFED " 2 " 6 "
MORGANNWG " 5 " 13 "
MYNWY " 6 " 15 "
PENFRO " 4 " 5 "
TREFALDWYN " 2 " 4 "


Felly, allan o'r 69 llinell yn y copi o'r hwn y cymerodd y cyhuddwr y facsimile i brofi ei gyhuddiad yn erbyn Dr. Rees, mae'r cyhuddedig yn gwahaniaethu mewn 32, neu yn agos i hanner yr holl linellau. Profa hyn nid, fel y dywed ei gyhuddwr, ei fod yn euog o gyfnewid pennawd un golofn o'r ystadegaeth, ond mai nid o'r copi hwnnw y cododd yr ystadegaeth. Y casgliad nid anaturiol yw fod Dr. Rees wedi dod o hyd i'r trydydd copi sydd ar goll, ac mai o hwnnw y cymerodd efe ei ystadegaeth. O leiaf hyd nes ceir y copi o'r hwn y cymerodd efe yr ystadegaeth, nis gellir ei gyhuddo, chwaethach ei brofi yn euog, o gyfnewid pennawd y golofn o gwbl.

Ond hyd yn oed a chaniatau, er mwyn dadleu'r cwestiwn, fod Dr. Rees wedi cyfnewid geiriad y pennawd, erys eto i'w brofi ei fod yn euog o wneud hynny gyda'r amcan o dwyllo. Ond, yn ffodus, mae'r profion yn anwrthwynebol mai nid camarwain, eithr rhoi i'r pennawd yn ei lyfr yr ystyr a fwriadai Dr. John Evans ei roi iddo yn ei ysgrif, a'r ystyr a gymerai cydoeswyr, ac olynwyr Dr. John Evans yn y ganrif honno, a wnaeth Dr. Rees.

Modd y deallo'r darllenydd hyn eto, sylwed mai:—

I. Yr ystyr a ddyrry'r cyhuddwr i'r gair "gwrandawyr" yn ystadegau Dr. John Evans yw pawb sy'n dal unrhyw gysylltiad â'r achos, hyd yn oed pe na fyddent bresennol mewn cyfarfod o ddechreu blwyddyn i'w diwedd. (Gwel y cyhuddiad tudal. 214.)

II. Yr ystyr a roddir gan Dr. Rees i'r gair "gwrandawyr" yn ystadegau Dr. John Evans, yw canolrif presenoldeb yn y cyfarfodydd, neu mewn geiriau eraill, y nifer a allesid disgwyl eu gweled yn gyson yn y cyfarfodydd; neu, yngeiriau'r cyhuddwr, "nifer y rhai presennol pan na fydd y gynulleidfa nac yn fach nac yn fawr."

Try yr holl gwestiwn ar pa un o'r ddau hyn sydd yn iawn, hynny yw, ar yr ystyr a roddid gan ystadegwyr y cyfnod i'r gair hearers neu wrandawyr. Sylwyd eisoes (tud. 210) fod y Parch. Daniel Neal wedi casglu ystadegau yr un amser a Dr. John Evans, a'i fod wedi defnyddio ffeithiau a gasglwyd gan ei gyfaill yn ei lyfr ei hun. Ceir yn ysgrifau Mr. Neal drosodd a throsodd gyfeiriad at "stated hearers,"—a chofier fod "stated hearers" Mr. Neal, i bob diben ymarferol, yn cydgordio o ran rhifedi â "hearers" Dr. John Evans. Mae yn canlyn felly, o angen—rheidrwydd, fod "hearers" Dr. John Evans yn golygu yr un peth a "stated hearers" Mr. Neal.

Y cwestiwn nesaf i'w benderfynnu yw, beth a olygir wrth "stated hearers." Gadewch ini weled. Mewn hen lawysgrif[7] o'r cyfnod hwnnw, yn ymwneud a chyffelyb ffeithiau ag yr ymdriniai Dr. John Evans â hwynt, ceir a ganlyn:—

"Causes. The influence of the Test Act, by which all persons that enjoy places of profit or trust under the Government or in particular corporations are obliged to take the Sacrament in the Church of England. This has been a snare to many among the Dissenters, whereby they have been drawn from occasional to STATED communion." Hynny yw, mai effaith Deddf y Prawflwon oedd temtio Ymneillduwyr, yn lle bod yn gymunwyr achlysurol yn yr Eglwys, i fod yn gymunwyr cyson yno. Ystyr stated, yn y cysylltiad hwn, yn ddiamheuol yw cyson.

Eto, wrth son am y pregethwyr, dywedir:—

"As to the young men that are trained up to the ministry, or that are Occasional preachers, they are all of the same stamp with the STATED ministers."

Hynny yw, gwahaniaethir rhwng y pregethwyr achlysurol a'r gweinidogion rheolaidd. Felly, ystyr y gair stated yn y cysylltiad hwn eto, yw cyson neu rheolaidd o'i gyferbynnu ag achlysurol.

Yn ei waith llafurus ac enfawr y cymerodd dros 30 mlynedd i'w gasglu, ac sydd eto ar gael mewn llawysgrif yr awdwr ymroddedig, dywed y Bedyddiwr galluog y Parch. Josiah Thompson, wrth gyfeirio at ffigyrrau Mr. Neal, yn 1715—y rhai, fel y dywedwyd eisoes, ydynt yn ymarferol yr un a ffigyrrau Dr. John Evans—ei fod yn rhoi rhifedi'r "individuals that STATEDLY attended public worship," yn 1715.

Yn awr, os mai cymunwyr cyson o'u cyferbynnu a chymunwyr achlysurol, yw "stated communicants;" os mai gweinidogion cyson a rheolaidd o'u cyferbynnu â phregethwyr achlysurol yw "stated ministers;" onid yw yn canlyn o angenrheidrwydd mai gwrandawyr cyson a rheolaidd, ac nid rhai achlysurol, neu rhai ddont ar amgylchiadau eithriadol, yw "stated hearers?" A phrofwyd eisoes mai yr un yw "Hearers" Dr. John Evans a'r stated hearers" hyn. Os na chafodd Dr. Rees y geiriau "Average Attendance" yn y copi gwreiddiol o'r hwn y cododd yr ystadegaeth (ac mae hyd yn oed y cyhuddiad hwnnw, fel y danghoswyd, yn aros eto heb ei brofi), mae yn amlwg y byddai yn anhawdd iddo gael brawddeg a osodai allan i ddarllenwyr yr oes hon, yn fwy cywir a dealladwy yr hyn a fwriadai Dr. John Evans ei gyfleu i'w gydoeswyr ef, na'r geiriau "Average attendance." Gallesid ychwanegu lluaws o brofion cyffelyb o weithiau ac ysgrifau y cyfnod hwnnw. Ceir Josiah Thompson dro ar ol tro wrth gyfeirio at ystadegau 1715, yn son am y gwrandawyr fel "stated hearers," fel "the number that usually attend," ac hyd yn oed fel "Average attendance."

Wrth son am gynulleidfaoedd eraill dywed Mr. Thompson:—"Russendale—has about 300 stated hearers."

Wrth son am gynulleidfaoedd Sir Fynwy dywed,—"The following is an account received March, 1773, of the ministers and number of Auditors that usually attend at the Several Dissenting Meeting Houses." Wrth roi'r rhestr am Lundain, dywed "The names of the voters for members of Parliament who usually attend in the congregation, &c."

Mewn gair amhosibl yw edrych gydag unrhyw radd o fanylwch dros ysgrifeniadau ystadegol y cyfnod heb ddod i'r penderfyniad diamheuol fod "Hearers" Dr. John Evans, "Stated Hearers" Daniel Neale, "Those that usually attend" Josiah Thompson, ac "Average Attendance" Dr. Rees, Abertawe, oll yn frawddegau cyfystyr.

Gellid ychwanegu. Ond a oes angen? Credaf na fuasai angen cymaint a hyn o eglurhad pe gwnaethid y cyhuddiad pan oedd Dr. Rees yn fyw, neu pe ceid gafael yn yr ysgrif a ddefnyddiodd efe.

Ond gan nad beth am hynny rhaid i bob meddwl diragfarn mwyach ddwyn dedfryd o "DDIEUOG" yn yr achos yn erbyn Dr. Rees,—a gresynnu fod cyhuddiad mor frwnt wedi cael ei ddwyn yn ei erbyn ar seiliau mor wan, ac, mor bell ag y gallwn farnu, heb i'r cyhuddwr gymeryd unrhyw drafferth i chwilio i fewn i wir amgylchiadau'r achos:—a gwaeth, efallai, na'r cwbl, fod yr ymosodiad haerllug wedi cael ei wneud pan nad oedd y cyhuddedig yn fyw i amddiffyn ei hun!

B. G. E.

Nodiadau

[golygu]
  1. Am y profion o'r cyhuddiad hwn gwel "Catalogue of MSS., No. 14," yn Llyfrfa Dr. Williams, a nodiad Dr. William Harris i'w bregeth angladdol i Dr. John Evans, a Wilsons' Hist. and Ant. II. Cyn dod o hyd i'r defnyddiau hyn, cyfnod arall yn hanes Puritaniaeth y bwriadai Neal ymdrin ag ef.
  2. Yr oedd ffeithiau fel hyn yn llawer mwy tebyg o argyhoeddi'r gwleidyddwyr nag a fuasai dweyd pa nifer oedd "dan y ddeddf," "dan draed amheuon,' yn ddyfal geisio," neu "wedi eu cyfiawnhau." Mewn gwirionedd, yr oedd amcan ystadegaeth Dr. John Evans mor hollol wahanol i eiddo adroddiadau "Y Cynghorwyr Methodistaidd " 30 mlynedd wedi hynny, fel mai ynfydrwydd neu blentyneiddiwch yw ceisio cymharu'r naill a'r llall. Byddai yr un mor rhesymol cymharu adroddiad blynyddol capel Ymneillduol heddyw a'r cofrifiad mae'r Llywodraeth ar fedr ei gymeryd o boblogaeth y deyrnas!
  3. Nid yw'r cyfrif hwn yn ormodol pan edrychir arno yngoleuni'r ffeithiau dyddorol ysgrifenodd yr enwog Matthew Henry yn Llyfr Cof—nodion ei Eglwys yng Nghaer. Ac os yw 1000 yn rhesymol am dref Caer, nid yw 3000 yn afresymol am holl sir Fynwy.
  4. Dyna amcangyfrif Dr. Rees, a gadawaf iddo sefyll, er ei bod yn amlwg i'r neb a astudia hanes y cyfnod yn ofalus, fod y rhif yn rhy isel.
  5. Y Tadau Methodistaidd, Parch. John Morgan Jones, Cyf. i., tud. 16.
  6. Y Tadau Methodistaidd, cyf. i., tudal. 15.
  7. A View of the Dissenting Interest in London, of the Presbyterian and Independent Denominations from the year 1695 to the 25th Dec. 1731, with a Postscript of the present state of the Baptists.

PENNOD XVII.
CYSYLLTIADAU'R DEFFROAD MAWR.

Yr ydym yn awr wedi cyrraedd cyfnod sydd, mewn rhai cyfeiriadau, y mwyaf dyddorol yn holl hanes dadblygiad Ymneillduaeth yn y deyrnas hon,—Cyfnod y Deffroad Mawr. Mae yn gyfnod yr ydym yn meddu mwy o wybodaeth am dano, ac wedi ffurfio mwy o gamsyniadau yn ei gylch, nag odid unrhyw gyfnod o'i flaen yn holl hanes Crefydd Brotestanaidd yng Nghymru. Mae mwy wedi cael ei ysgrifennu, a llai wedi cael ei ddeall am dano, nag o bosibl un o'r cyfnodau pwysig eraill yr ymdrinir â hwynt yn y gyfrol hon. Mae'r eglurhad yn syml. Petae hanesydd a fynnai roi hanes rhyfelgyrch mawr, yn cyfyngu ei sylw nid yn unig i un frwydr, ond i un gongl o faes y frwydr honno, nis gallai roi i'w ddarllenwyr syniad cywir am hyd yn oed y rhan a geisiai ei ddesgrifio. Byddai yn ofynol iddo nid yn unig i gymeryd golwg gyffredinol ar holl faes y frwydr honno, ond hefyd ar yr amgylchiadau a ragflaenasant, ac a arweiniasant i fyny at, y frwydr, cyn y gallai ef ei hun ddeall ei chysylltiadau a'u dadblygiadau,—ac yn sicr cyn y gallai gyfleu i eraill syniad clir a chywir am dani. A dyma, mewn gair, gamgymeriad cychwynnol llawer o'r rhai sydd wedi ysgrifennu ar yr hyn a elwir Y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru. O bosibl mai ychydig o gamddarlunio bwriadol sydd wedi bod yn yr hyn a ysgrifennwyd, ond nid yw hynny yn cywiro'r camddarluniad. Nis gellir deall, na rhoi darlun cywir, o'r Deffroad Mawr, os cyfyngir ein sylw i'r rhan a gymerodd unrhyw un person neu ddosbarth o bersonau, neu unrhyw un enwad, nac unrhyw un wlad, nac hyd yn oed unrhyw un oes, yn y gwaith mawr a bendigedig hwnnw. Dyna'r rheswm paham yr ydys wedi manylu cymaint yn y gyfrol hon ar gyfnodau blaenorol yn hanes Crefydd yng Nghymru —cyfnodau oeddent yn cario dylanwad mawr a pharhaol ar gychwyniad, gweithrediad, a chanlyniadau'r Diwygiad—ac heb wybod y rhai nis gellir yn iawn amgyffred gwir hanes Y Diwygiad ei hun.

Yr ydys wedi cyfeirio droion at y ffaith fod cysylltiad agos ac anwahanadwy wedi bodoli o ddechreu hanes Ymneillduaeth, rhwng Diwygiadau a Diwygwyr Cymru, a Diwygiadau a Diwygwyr Lloegr. Yr oedd hyn yr un mor wir am Y Deffroad Mawr ag ydoedd am y cynhyrfiadau hanesyddol a'i rhagflaenodd. Bu cymaint a fynnai Saeson, ïe, Saeson uniaith, a chychwyniad, trefniant, a llywyddiad "Y Diwygiad Methodistaidd" yng Nghymru ag a fu a fynnai y Cymry enwog hynny ag y mae eu henwau yn gysylltiedig a'r mudiad daionus a bendithfawr hwnnw.

Danghoswyd eisoes (tudal. 194) mai camarweiniol yw'r enw a roddir yn gyffredin ar Y Deffroad. Camsyniadol hefyd yw y dybiaeth mai Diwygiad Cymreig ydoedd. Camgymeriad tra chyffredin yw tybied fod yn perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd—yng Nghymru, haniad hanfodol Gymreig a'i gwahaniaetha fel enwad crefyddol oddiwrth yr enwadau Cymreig eraill.[1] Os myn y Methodistiaid Calfinaidd olrhain eu haniad i ddyddiau Howell Harris a Daniel Rowlands, rhaid iddynt roi i fyny bob hawl i gael eu cydnabod fel enwad arbennig Gymreig mewn ystyr wahanol i'r enwadau eraill. Os seilir yr hawl ar y ffaith (dybiedig) mai Cymry yn unig fu a llaw yng ngorffeniad a pherffeithiad eu trefniant, gall y Wesleyaid Cymreig a wnaethant gynnydd mwy amlwg a chyffredinol pan sefydlwyd y Dalaeth Gymreig gan mlynedd yn ol nag a wnaeth un o'r enwadau eraill yng nghyfnod eu cychwyniad hwy, hawlio yr un teitl—canys i'r ffaith mai Cymry a ymgymerodd â'r gwaith, ac iddynt ei gario ymlaen ar linellau Cymreig, yr ydys i briodoli y llwyddiant eang a chyffredinol a goronodd eu llafur. Os dywedir, ar y llaw arall, mai ar y ffaith na fu y gyfundrefn Galfinaidd o Fethodistiaeth yng Nghymru erioed yn ddarostyngedig, fel y bu yr un Wesleyaidd, i awdurdod o'r tu allan i'r Dywysogaeth, atebir mai tyb ac nid ffaith yw'r cyfryw osodiad; ac, fel mater o ffaith hanesyddol, fod gan y Bedyddwyr Cymreig fwy o hawl, ar y tir hwnnw, i'w galw yn Enwad arbennig Gymreig, nag sydd gan y Methodistiaid Calfinaidd. Bodolai Cymanfa Bedyddwyr Cymru, i bob diben ymarferol fel y bodola Undeb Bedyddwyr Cymru heddyw, fel cyfundrefn hunan-gynwysedig a hunan lywodraethol, o leiaf ddeugain mlynedd cyn i George Whitefield gynnal Cymdeithasfa Watford, a threfnu gwaith y Diwygiad yng Nghymru fel rhan o'r mudiad oedd eisoes wedi cael ei gychwyn yn Lloegr. Ac i fod yn hanesyddol gywir, yr oedd Cymanfaoedd John Myles, a'i drefniant manwl ef i gario ymlaen waith ei Feistr ar linellau gwahaniaethol y Bedyddwyr Cymreig, wedi cael eu sefydlu hanner can mlynedd cyn adgyfodiad y Gymanfa Gymreig yn Llanwennarth yn 1700.

Ac eto, wrth ddweyd hyn, na chamgymered neb fi. Nid dibrisio na lleihau gwaith Cymry'r Deffroad Mawr ydwyf. Os bu raid iddynt wrth gymorth John Wesley a George Whitefield i ddeffroi y wlad, os bu raid iddynt wrth wasanaeth y Sais i osod i lawr seiliau eu cyfundrefn o waith, bu raid i Wesley a Whitefield wrth eu gwasanaeth hwythau yn Lloegr. Gŵyr pawb am lafur Howell Harris a Daniel Rowlands yng Nghymru—gresyn na wyddent hefyd am lafur y Cymry yn Lloegr, yn yr Ysgotland, y Werddon, a'r America. Ac nid peth newydd oedd hyn. O ddyddiau John Penry a Roger Williams, John Owen a John Myles, Howell Harris a Herbert Jenkins, hyd ddyddiau John Evans Eglwysbach a David Young, Dr. Thomas Charles Edwards a'r Dr. John Roberts (Khasia), John Thomas a Charles Williams, Alfred Rowlands ac Urijah Thomas, J. M. Gibbon a Thomas Stephens, Ossian ac Eynon Davies, Elfed Lewis a Thomas Nicholson, Dr. Cynonfardd Edwards a Dr. Llewelyn Bevan, Picton Jones a'r Dr. Griffith John, a'r llu o enwau disglaer eraill cysylltiedig â hanes Ymdrech Grefyddol ein dyddiau ni, ac yn perthyn i bob enwad yn ein plith—mae pob rhan o'r byd, gwaraidd ac anwaraidd, yn ddyledus i Gymru fechan am rai o'r doniau disgleiriaf a godidocaf sydd, o dan dywysiad ac eneiniad yr Ysbryd Glan, wedi bod yn foddion i ennill teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist Ef. Nid oes genedl ar y ddaear wedi gwneud mwy, yn ol rhifedi ei phoblogaeth, na Chymru, i oleuo lamp y gwirionedd, ac i ledaenu y grefydd Brotestanaidd ymhob cwr o'r byd.

Rhan o'r tywalltiad mawr, graslawn, cyffredinol, o ddylanwadau'r Ysbryd Glan, oedd y Diwygiad Mawr yng Nghymru yn nyddiau Howell Harris a Daniel Rowlands. Nid oedd cylch ei ddylanwad yn gyfyngedig i Gymru. Nid yng Nghymru y dechreuodd. Nid yn y Dywysogaeth y cafodd rhai o'r cyfryngau amlycaf ynddo eu hysbrydoliaeth. Nid oedd dim arbennig Gymreig yn y ffurf a gymerodd y trefniant. Cyfrannodd Lloegr a'r Cyfandir i'r llinellau a osodwyd i lawr i'r peirianwaith yng Nghymru. Cyfranogodd Lloegr, a'r Cyfandir, yr Ysgotland, y Werddon, a'r America, ymron yn gyfartal a chydamserol o'r dylanwadau grymus na fedr yr un dychymyg ddynol ei hesbonio.

Pa le y dechreuodd y Diwygiad Mawr? Yr unig ateb a ellir ei roddi yw, mai ym mwriadau grasol a chariad tragwyddol Duw y dechreuodd. Gellir nodi gyda chywirdeb leoliad rhai o'r prif gyfryngau, a gellir deffinio y ffurf allanol a gymerodd y peirianwaith—er y rhaid mynd yn ol i gyfnod boreuach am gynllun y ffurf, ac am yr enw a roddwyd ar y Diwygwyr o bob enwad yn yr oes honno,—enw oedd yn eiddo cyffredinol ar y cychwyn, ond sydd, gyda threigliad blynyddoedd, wedi dod erbyn ein dyddiau ni i gael ei ystyried fel eiddo arbennig i ychydig enwadau neillduol, "Methodistiaid," pa un bynnag ai Calfinaidd, Wesleyaidd, Cyntefig, ai beth.

Prin, efallai, y byddai yn ormod dweyd, a siarad mewn ystyr ddynol, mai i ddynes dduwiol y gellir olrhain cychwyniad Y Deffroad Mawr. Merch i weinidog enwog gyda'r Ymneillduwyr, a gwraig i offeiriad da yn Eglwys Loegr, ydoedd. Gan weled fod nifer mawr o'r werin yn y plwyf dros yr hwn yr oedd ei gwr yn fugail cyflogedig, na thywyllent borth yr Eglwys na drws y Capel, o ddechreu blwyddyn i'w diwedd, meddyliodd y gallai dynes o bosibl lwyddo lle y methai yr offeiriad. Yn 1711—dair blynedd cyn geni Howell Harris—arferai'r wraig dduwiol hon gynnal cyfarfodydd i'r bobl ar nos Suliau, a llwyddodd i ddenu iddynt ddynion a gwragedd a. phobl ieuainc na fynychent byth unrhyw le o addoliad. Dygai gyda hi i'r cyfarfodydd ei dau fachgennyn bychan, John yn wyth mlwydd oed, a Charles yn bedair. Gwelai'r plant ddylanwad ysbryd cenhadol eu mam ar y bobl ddigrefydd hyn, a llannwyd eu calonnau ieuainc âg edmygedd. Arhosodd dysgeidiaeth ac esiampl y fam yn ddylanwadau pur, dyrchafol, ac ymgyflwyniadol ym mynwesau'r plant tra buont byw. Fel ffrwyth uniongyrchol y cyfarfodydd hwyrol hyn, cynhyddodd rhif mynychwyr cyson yr Eglwys ddengwaith drosodd—ond yn. gymaint a'u bod yn gwisgo gwedd answyddogol, condemniodd yr awdurdodau Eglwysig gyfarfodydd Mrs. Wesley—canys mam yr enwog John Wesley oedd y wraig dda hon—fel "Cyrddau" (conventicles) anghyfreithlon. Felly argraffwyd yn foreu ar feddyliau tyner y ddau frawd, dri gwirionedd pwysig, sef:—

1. Fod angen dysgeidiaeth grefyddol ar y werin;
2. Fod yn rhaid cyfrannu'r ddysgeidiaeth honno o'r tu allan i'r Eglwys;
3. Nad oedd yr awdurdodau Eglwysig yn ffafru'r cyfryw ymgais.

Fel y gwelir eto gwasgwyd y tri gwirionedd yma'n ddyfnach i'w calonnau'r naill flwyddyn ar ol y llall, nes ynghyntaf fwyta yno fel cancr, ac yna dorri allan yn wenfflam o zel dwyfol ac ymgyflwyniad dynol. Rhwystrwyd mam John Wesley gan yr awdurdodau Eglwysig i gyflawni gwaith efengyles yn ei phlwyf ei hun; trowyd ei dadcu a'i hen dadcu o ochr ei dad, allan o'u bywiolaethau, a gwnaed hwynt yn Ymneillduwyr gan Ddeddf Unffurfiaeth 1662. Mynnai John Wesley wasanaethu'r Eglwys a orthrymodd ei hynafiaid ac a lesteiriodd ei fam; carai'r Eglwys honno â serch angherddol; ceisiodd a chafodd urddau Eglwysig ynddi;—ond pan brofodd ei zel dros Efengyl Crist yn gryfach na'i syniadau am ffurfioldeb gwasanaeth Eglwysig, trowyd yntau dros y drws fel y trowyd ei dadcu a'i hen dadcu o'i flaen. Eglwyswr egwyddorol a ffyddlon a fu John Wesley hyd ei fedd; gresynnai weled ei ganlynwyr yn troi eu cefnau arni; ac nid oedd dim ond ei awydd angherddol am weled y gwaith da a ddechreuwyd ganddo yn cael ei gario ymlaen ar ol ei ddydd, yn ei gymodi â'r syniad o sefydlu Wesleyaeth fel cyfundrefn grefyddol anibynnol ar Eglwys Loegr.

Ei fam blannodd ynghalon John Wesley egwyddorion y Diwygiwr; Cymro, William Morgan, a roddodd gyfeiriad ymarferol i'w Gristionogaeth; Sais, William Law, a'i dysgodd i gasglu ei ddychweledigion at eu gilydd yn ddosbarthiadau neu gymdeithasau crefyddol. Gartref, yn blentyn, y cafodd y cyfeiriad cyntaf; ym Mhrifysgol Rhydychain, yn llanc ieuanc, y derbyniodd y ddau olaf. Yno, fel y gwnai John Penry a'i gyd-ddiwygwyr saith ugain mlynedd cyn hynny, cyfarfyddai nifer o fyfyrwyr ieuainc duwiolfrydig i astudio dysgeidiaeth dau fyd; ar nosweithiau o'r wythnos cyd-ddarllenent y clasuron ar gyfer Arholiad y Graddau; ar ddydd yr Arglwydd, cyd-ddarllenent ac esboniant y Beibl ar gyfer Arholiad Mawr y Dydd Diweddaf. Gwnaed hwynt yn gyff gwawd i'w cyd-fyfyrwyr; gelwid hwynt yn "Glwb Santaidd," yn "Sacramentwyr," ac yn "Fethodistiaid."

Nid enw newydd ar sect newydd o grefyddwyr oedd "Methodistiaid " hyd yn oed yn nyddiau cychwyniad Wesley. Hen enw ydoedd, a arferid o leiaf bedwar ugain mlynedd cyn hynny i ddynodi Diwygwyr Crefyddol. Tybia rhai mai cyfeiriad oedd yr enw a roddwyd ar Wesley a'i gyfeillion, at y Coleg Meddygon yn Rhufain a elwid yn Methodista (neu yn ol Ainsworth Methodici) oherwydd eu dull trefnyddol o drin eu cleifion. Ond yr oedd yn Eglwys Rufain blaid a elwid yn "Fethodistiaid "[2] am y dull y carient ymlaen y ddadl â'r Protestaniaid. Ond rhoddid yr enw yn dra chyffredinol yn nyddiau Cromwell i'r dosbarth hwnnw o Ymneillduwyr a garient ymlaen eu gwaith i raddau helaeth ar y llinellau a fabwysiadwyd gan Ddiwygwyr y 18fed ganrif.[3]

Gwelir mai nid enw newydd oedd "Methodistiaid" ar Ddiwygwyr Crefyddol. Nid cynllun newydd ychwaith oedd y Seiadau a sefydlwyd gan Wesley, ac wedi hynny gan "Y Methodistiaid" yng Nghymru. William Law a roddodd i Wesley y syniad am gymdeithasau neu gyfeillachau crefyddol. Manteisiodd Howell Harris yn ei "Deulu Trefeca" fwy ar gynllun Law nag a wnaeth Wesley. Syniad Law oedd rhyw gymdeithas neillduedig hanner mynachaidd, yn ymgyflwyno i addoliad cyson a gweithredoedd o drugaredd. Ymaflodd Wesley yn hanfod y syniad, sef casglu proffeswyr difrifol crefydd at eu gilydd. Copïodd Whitefield a Howell Harris y syniad ymhen deuddeng neu bymtheng mlynedd wedi hynny; ac yn ddiweddarach fyth rhoddodd Howell Harris yn Nheulu Trefeca, ffurf weithredol i'r rhan fynachaidd o syniad William Law.

Er fod Seiad y ddau Wesley a'u cyfeillion yn Rhydychain yn gwahaniaethu mewn rhai pethau oddiwrth yr hyn a fodolai yn flaenorol, yr oedd Cymdeithasau Crefyddol Cyfundrefnol Anenwadol, wedi bod mewn gweithrediad yn hir cyn dyddiau John Wesley.

"Cymdeithas i Ddiwygio Arferion" (Society for the Reformation of Manners) y gelwid y rhai hyn. Sefydlwyd hwynt ar y cyntaf yn Llundain, lle y ceid o 40 i 50 o honynt yn 1699, gyda Chymdeithasau cysylltiedig drwy'r wlad, ac hyd yn oed yn cyrraedd i'r Werddon. "Cyferfydd y Cymdeithasau hyn," medd yr adroddiad swyddogol,[4] "yn ami i weddio, canu Salmau, a darllen yr Ysgrythyrau, gan geryddu, cynghori, ac adeiladu eu gilydd drwy eu cyfeillachau crefyddol. Ymhellach trefnant yn eu cymdeithasau, weithredoedd o drugaredd a haelioni, megys cynorthwyo'r tlawd, rhoi addysg i blant, gollwng carcharorion yn rhydd, cynnal pregethau a gweddiau dyddiol yn yr Eglwysi. Mae i'w fawr ddymuno fod Cymdeithasau yn cael eu sefydlu ymhob rhan o'r deyrnas, yn enwedig yn y trefi, er cario allan yr amcanion hyn. Gellir gobeithio nad oes ond ychydig leoedd lle na cheir o leiaf dri neu bedwar o bersonau o'r naill enwad neu'r llall o Gristionogion, sy'n meddu zel dros Dduw a Chrefydd, a allent ffurfio eu hunain yn gymdeithas yr hon y gellid ei heangu yn raddol. .. Mae uno dynion da mewn Cymdeithasau duwiol o'r fath er adenill gallu yn ogystal a ffurf crefydd, yn beth a gymeradwyir i holl gyfeillion Duwioldeb a Rhinwedd. Gellir disgwyl y bydd i bawb sy'n meddu parch gwirioneddol i anrhydedd Duw, eu dedwyddwch eu hunain a'u gwlad, ymdrechu yn selog yn eu gwahanol gylchoedd er perffeithio y cynllun eang hwn. .. . Cydnabyddir ein bod i ymdrechu nid yn unig dros ein hiachawdwriaeth ein hunain, ond dros eneidiau ein gilydd, ac i geisio hyrwyddo hynny yn ol ein cyfleusderau a'n manteision. Mae y cyfryw ofal yn amlygiad o'n cariad at ein cymydogion, yn wir dderbyniol gan Dduw Hollalluog. Mae Gweddi, Cymhelliad, Rhybudd, Cerydd, ac Esiampl Dda, yn foddion pwrpasol i'r amcan hwn, a gorchymynnir hwynt yng Ngair Duw."

Arwyddwyd anerchiad i'r awdwr, yn cymeradwyo'r llyfr, gan nifer o urddasolion, ac ymhlith y pendefigion Cymreig a wnaeth hynny ceir Arglwyddi Penfro, Maesyfed, ac Abergafenni, ac Esgob Bangor.

Dyna gyfundrefn o gymdeithasau crefyddol, yn gweithredu i raddau pell ar linellau Seiadau'r Methodistiaid, yn bodoli yn dra chyffredinol drwy'r deyrnas cyn diwedd y 17fed canrif. Nid oedd John Wesley, ar y dechreu, yn golygu i'w seiad fechan ef yn Rhydychain, i fod yn ddim amgen na chyfeillach grefyddol gydag amcanion defosiynol cyfrinachol.

Ond yr oedd ymhlith aelodau'r gyfeillach ddyn ieuanc o Gymro, o'r enw William Morgan. Hwn gymhellodd Wesley i roi ffurf ymarferol i'w Gristionogaeth, drwy ymweled â'r carcharorion ac â'r tlawd a'r anghenus, i'w dyddanu a gweinyddu i'w rheidiau. Gomeddodd ar y cyntaf wneud, ond perswadiwyd ef gan Morgan—a dyna ddechreu gweinidogaeth gyhoeddus John Wesley fel Diwygiwr. Yn groes i ewyllys ei dad y gwnaeth Morgan hyn. Ysgrifennodd ei dad ato i'w feio am fod a wnelai â'r "gyfeillach ddirmygus hon, a myned oddiamgylch i'r pentrefi gan gasglu'r plant ynghyd a dysgu iddynt eu gweddiau a'u catecism." Ond cyn marw ei fab ymhen dwy flynedd wedyn (1732), yr oedd wedi cael y fath ddylanwad ar ei dad, fel yr ysgrifennodd hwnnw at John Wesley yn cynnyg rhoi unrhyw gynhorthwy a allai iddo yn ei waith. Heblaw'r ddau frawd Wesley, a Morgan, ceir ymhlith aelodau'r Seiad yn Rhydychain, ddynion enwog eraill, megys John Gambold, y Morafiad Cymreig duwiolfrydig o Sir Benfro, a ddaeth wedyn yn Esgob Morafaidd; James Harvey, awdwr y Myfyrdodau; ac enwocach na'r ddau, George Whitefield, y pregethwr grymusaf o honynt oll.

Yr oedd, er cynhesed y teimladau ac agosed y cysylltiad, elfennau anghydfod yn y gyfeillach fechan yn Rhydychain o'r dechreu—ac nid hir y bu'r elfennau hynny cyn gweithio i'r wyneb, gan gynhyrchu ymhen amser rwyg na chyfanwyd mo honi yr ochr yma i'r afon. Yr oedd Harvey a Whitefield yn Galfiniaid cadarn, tra roedd John Wesley, er yn ieuanc iawn, yn wrthwynebydd anghymodlawn i athrawiaeth Arfaeth. Yn wir, nis gallwn lai na gresynnu, wrth edrych yn ol ar hanes dynion da y cyfnod hwnnw, fod eu syniadau am gydoddefiad mor grebachlyd, a bod hynny yn eu harwain i ymwahanu oddiwrth eu gilydd. Ymadawodd Wesley a Whitefield, bob un yn mynd i'w ffordd ei hun; methodd Gambold gyd-dynnu â'r Eglwyswyr; anghytunodd Whitefield drachefn â rhai o'r brodyr a'u cynorthwyent yn y Tabernacl; ffromodd Edmwnd Jones a Miles Harri y naill wrth y llall; digiodd Daniel Rowlands â Williams Pantycelyn wrth eu gilydd; a chwerylodd Howell Harris â phob un o honynt yn eu tro. Ond nid â'r anghydfodau, eithr â'r cydweithrediad cariadus, y mae a fynnom ar hyn o bryd. Eglwysig hollol oedd Cymdeithas Rhydychain ar y cychwyn. Uchel-Eglwyswr rhonc oedd John Wesley ym mlynyddoedd cyntaf ei lafur; bu felly am o leiaf ddeuddeng mlynedd, sef o 1725 hyd ei ddychweliad o'r America yn 1738. Eglwyswyr oedd yr oll o aelodau Cymdeithas Rhydychain, a'r oll o honynt, Wesley, Whitefield, Gambold, &c., yn dal urddau yn Eglwys Loegr. Yr oedd yr un peth yn wir am fwyafrif arweinwyr mwyaf cyhoeddus y mudiad diwygiadol yng Nghymru—Daniel Rowlands a Williams Pantycelyn yn Eglwyswyr ac offeiriaid, a Howell Harris yn Eglwyswr mor selog a neb o honynt—a'r unig un o honynt a arhosodd yn ffyddlon yn ei ymlyniad wrth Eglwys Loegr hyd ei fedd. Dymuniad calon Wesley, a Whitefield, a Daniel Rowlands, a Williams Pantycelyn, oedd cael aros mewn cymundeb a chysylltiad âg Eglwys Loegr. Am na chaniatäi yr Eglwys iddynt y rhyddid angenrheidiol i wneuthur gwaith yr Hwn a'u danfonodd, y troisant hwy eu cefnau o'u hanfodd ar yr Eglwys,—ac y cynhyrchodd yr hâd a blannwyd ganddynt mewn dagrau, ffrwyth o Ymneillduaeth mewn gorfoledd, wedi casglu yr hauwyr i'r beddrod.

Pan ddechreuodd Wesley ei yrfa grefyddol, dylanwadwyd yn fawr ar ei feddwl a'i argyhoeddiadau, gan ddysgeidiaeth y Morafiaid. Cymdeithas grefyddol a gafodd gychwyniad ar y Cyfandir o dan arweiniad y Count Zinzendorf, oedd y Morafiaid. O bosibl mai'r mwyaf cenhadol eu hysbryd o unrhyw ddosbarth o grefyddwyr yn yr oes honno oeddent. Lledasant eu canghennau i ymron bob gwlad adnabyddus, gwaraidd ac anwaraidd. Sefydlwyd ganddynt nifer o achosion yn Lloegr a Chymru. Yng Nghymru, Sir Benfro a fu prif maes eu llafur, er sefydlu o honynt achosion hefyd yn y Gogledd yn ogystal a'r De. Bu cangen bwysig o'u heiddynt yn flodeuog yn nhref Caernarfon, cyn clywed llais Howell Harris ym mynydd-dir Eryri. Hwynt hwy wynebodd oerni Greenland, a chreulondeb Indiaid Cochion Coedwigoedd America, er cludo'r newyddion da o lawenydd mawr; a phan, ymhen cenhedlaeth ar ol hynny, y magodd cyfundebau crefyddol eraill ddigon o wrolder i fynd allan i'r Gorllewin Pell, er lledaenu gwybodaeth o'r Efengyl ymhlith yr anwariaid, cawsant, wedi cyrraedd yno, Gymdeithasau Morafaidd eisoes wedi cael eu plannu. Dyma'r bobl ddylanwadodd ar feddwl John Wesley, ac i raddau dyfnach a mwy parhaol ar Howell Harris.[5] Gellir olrhain eu dylanwad hwy ar holl gwrs bywyd cyhoeddus a neillduedig Howell Harris; a phan yr aeth yn rhwyg rhyngddo â Daniel Rowlands a'i gydlafurwyr yng Nghymru, a rhyngddo a'r ymlynwyr wrth ei athraw Whitefield yn Lloegr, bu ymron a thaflu ei goelbren ymhlith y Morafiaid." Y personoliaeth amlycaf ymhlith Morafiaid Lloegr, a'r gwr a gariodd y dylanwad personol mwyaf ar John a Charles Wesley yn ogystal ag ar Howell Harris, oedd Peter Boehler, Morafiad Germanaidd oedd wedi ymsefydlu yn Lloegr. I Boehler y priodola Wesley ei wir droedigaeth, a Howell Harris lawer o'i ysbrydoliad. Bu Wesley mewn cysylltiad gweithredol â chyfundrefn y Morafiaid cyn myned o hono allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau. Yr oedd yn eu cyfundrefn hwy lawer o bethau atyniadol i rai o dueddfryd Wesley a Harris. Nid sect yn gymaint ag urdd y gellid eu hystyried; ac nid oedd cysylltiad â hwynt, a gweithio yn ol eu cynlluniau hwy, yn anghyson â'r ffyddlondeb mwyaf ymlynol wrth Eglwys Loegr. Gelwir hwy yn Fynachod Protestaniaeth, a dywedir gyda phriodoldeb, os mai'r Seiadau a roddasant gorff i Fethodistiaeth, mai'r Morafiaid a roddasant yr enaid i'r corff hwnnw.

Cyfeiriwyd eisoes at gysylltiad George Whitefield â'r Seiad yn Rhydychain. Pan alwyd Wesley i'r America yn 1735, neidiodd Whitefield megys ar un llam i boblogrwydd fel pregethwr mwyaf grymus a phoblogaidd ei oes. "Fel Caplan y Twr yn Llundain, fel ciwrad mewn pentref gwledig, fel pregethwr yn Eglwysi'r brif-ddinas, caffai groesaw aiddgar; a phan y pregethai efe o blaid rhyw elusen, yr oedd y casgliad yn ddengwaith cymaint ag arfer." Ar gais Wesley aeth Whitefield allan i'r America, ac ychwanegodd yno at y poblogrwydd oedd eisoes wedi ennill yn Lloegr. Pan laniodd Wesley yn Lloegr yr oedd yntau yn boblogaidd. Cystadlai pawb am ei wasanaeth yn y pwlpud. Ond nid oedd ei genadwri yn dderbyniol gan yr awdurdodau Eglwysig, a chyn pen tri mis ar ol dychwelyd i Lundain gwaherddid iddo nifer o Eglwysi lle yr ymdrechid gynt sicrhau ei wasanaeth.

Rhoddir manylion pellach am hyn eto yn nes ymlaen.

Nodiadau

[golygu]
  1. Da fuasai gennyf fel Cymro i gredu'n wahanol. Eithr gorfodir fi i wrando ar ffeithiau hanesyddol yn hytrach nag ar dueddiadau gwladgarol.—B. G. E.
  2. Mosheim's Eccles. Hist. 17th Cent., Sect. ii., p. 1.
  3. Spencer's "Things New and Old," p. 161. Cyhoeddwyd, 1658.
  4. An Account of the Societies for Reformation of Manners in London and Westminster and other parts of the Kingdom, with a Persuasion to Persons of all ranks to be Zealous and Diligent in Promoting the Execution of the Laws against Profaneness and Debauchery, for the Effecting a National Reformation. Published with the approbation of a considerable number of Lords Spiritual and Temporal. London: 1699.
  5. I'r Morafiaid y rhaid priodoli'r ffaith fod John Wesley heb briodi yn America. Bwriadai ymuno ag un Sophia Hopkey. Cyn gwneud hynny ymgynghorodd a'r Esgob Morafaidd, yr hwn a'i cynghorodd i beidio priodi. Gwrandawodd Wesley arno. Priododd hithau un o'r enw Williamson. Wedi priodi gwrthododd dderbyn cerydd gan Wesley; torrodd yntau hi allan o gymundeb

PENNOD XVIII.
CYSYLLTIADAU'R DEFFROAD YNG NGHYMRU.

Dywedwyd eisoes—ac nis gellir argraffu'r ffaith yn rhy ddwfn ar y meddwl os mynnir deall cysylltiadau'r Deffroad yng Nghymru mai nid lleol, nac enwadol, ond eang a chyffredinol yng ngwir ystyr y gair, oedd y Deffroad Mawr a ysgydwodd yr holl fyd gwareiddiedig i ystyriaeth fwy difrifol nag o'r blaen o rwymedigaethau dyn fel bod moesol yn llywodraeth Duw. Ac eto yr oedd gwahaniaeth yn amgylchiadau'r gwahanol wledydd a freintiwyd â'r tywalltiadau graslawn.

Yn Lloegr, fel y gwelwyd, esiampl ac ysbrydoliaeth eu mam a ddechreuodd y gwaith da yn John a Charles Wesley; dyfnhawyd y dylanwadau hynny gan eu cysylltiad á William Law, y cyfriniwr enwog, awdwr Christian Perfection. Gymaint oedd dylanwad hwn arnynt fel y cerddai aelodau ieuaine Clwb Santaidd Rhydychain, driugain milltir er cael y fraint o eistedd wrth draed eu Gamaliel hwn. Dylanwad William Morgan, y Cymro ieuanc, ar aelodau'r gymdeithas, yn eu cymhelli Gristionogaeth ymarferol, a wnai iddynt gerdded yn lle marchogaeth, modd y gallent gynhilo'r arian i'w roddi i'r tlodion. William Law roddodd iddynt y syniad o ymuno mewn cymdeithas neillduedig neu gyfrin. Y Cymdeithasau er Diwygio Arferion roddodd esiampl o ffurf i'r cymdeithasau hynny. Dysgeidiaeth y Morafiaid ddanghosodd y ffordd iddynt. chwythu anadl einioes ysbrydol i gorff y gymdeithas pan y'i ffurfiwyd. Ar y cyntaf meudwyol oedd ansawdd eu crefydd. Cystuddio'r corff ac ymgadw rhag cysylltiad â'r byd, oedd eu syniad am burdeb ysbrydol. Petaent Babyddion yn lle Protestaniaid, Fflangellwyr a fyddent, gan chwipio eu hunain. yn feunyddiol er mwyn gorchfygu'r hen Adda, ei nwydau a'i chwantau. I'r fath raddau y cystuddiodd George Whitefield ei gorff ym mlynyddoedd cyntaf ei zel grefyddol, cyn torri allan o hono fel Apostol Mawr y Werin, nes y daeth hyd at borth marwolaeth ac yr edrychodd i lawr i ddyfnder ei fedd ei hun. Dichon mai gwenu a wna llawer yn yr oes bresennol wrth feddwl am y cyfryw "benboethni "—ond ceir ynddo brawf o angerddolrwydd y teimlad a ddylanwadai ar y gwyr a ddefnyddiwyd wedi hyn gan Ysbryd Duw i achub miloedd o eneidiau. Yn llawn o'r tân dwyfol a losgai yn eu mynwesau, er nad oedd eto wedi torri allan yn fflam ddisglaer i oleuo'r tywyllwch oedd yn gordoi'r bobloedd, aeth aelodau Cymdeithas Rhydychain allan i'r byd, a phob un yn cario gydag ef yr ysbryd a'i meddiannodd yn y Brifysgol. Daeth pob un o honynt yn ganolbwynt bywyd crefyddol ei gartref newydd. Aeth Whitefield, a'i nerth corfforol wedi pallu gan gaethiwed ei ymarferiadau crefyddol yn Rhydychain, yn ol i'w wlad enedigol—a'i waith cyntaf yno oedd sefydlu seiat ar linellau un y coleg. Cariodd allan hefyd yr hyn a ddysgodd Morgan i'r Rhydycheinwyr bum mlynedd cyn hynny, gan ymweled yn gyson â'r tlodion, ac unwaith yr wythnos â'r carcharorion yng Ngharchar Caerloyw, gan ddarllen a gweddio gyda hwynt, a chyfrannu i'w rheidiau. Fel mai Cymro, Morgan, roddodd ffurf ymarferol i Gristionogaeth Wesley, Cymro hefyd, yr enwog Matthew Henry, roddodd gyfeiriad cywir i argyhoeddiadau crefyddol George Whitefield. Yn y Beibl y cafodd Whitefield ei Weledigaeth; yno y cafodd y Freuddwyd Nefol a lywiodd ei holl fywyd cyhoeddus; ond Matthew Henry weithredodd fel dehonglydd y freuddwyd iddo. Treuliodd Whitefield amser maith yn astudio Esboniad Matthew Henry. Darllenodd ef o glawr i glawr bedair gwaith trosodd. Un o'r troion hynny y cyntaf—darllenodd ef ar ei liniau o'i ddechreu i'w ddiwedd, gan dybied nad oedd un agwedd gorfforol arall yn deilwng i astudio gwaith mor ysbrydoledig. Gellir olrhain dylanwad Esboniad Matthew Henry, ar holl gyfeiriad gweinidogaeth gyhoeddus George Whitefield. Ond nid oedd y tywalltiadau nerthol eto wedi dyfod. Dafnau tyner, anaml, cyntaf y cwmwl oedd y pethau hyn, rhagarwyddion a rhag-redegwyr y gafod fawr lifeiriol oedd ar ysgubo drwy'r holl fyd.

Yr oedd amgylchiadau Cymru i raddau'n wahanol. Yr oedd y Dywysogaeth hithau'n mwynhau i raddau rai o'r dylanwadau a barotoent y ffordd i'r Diwygiad yn Lloegr. Er engraifft, yr oedd rhan o ddylanwad Cymdeithasau Diwygio Arferion, a chyfran o ddylanwad y Morafiaid, ac o leiaf adsain gweithrediadau Methodistiaid Rhydychain, wedi cyrraedd Cymru.

Ond yr oedd dylanwadau eraill, arbennig, os nad cyfyngedig, i Gymru, hefyd ar waith. Nid peth newydd i Gymru oedd y cyfeillachau crefyddol. Yr oedd John Myles gyda'r Bedyddwyr, a Stephen Hughes gyda'r Anibynwyr, yn y ganrif o'r blaen, wedi sefydlu cymdeithasau o'r fath yn eu gwahanol gylchoedd gwaith hwy. Ac er nad oeddynt yn gyffredinol pan dorrodd y Diwygiad allan, nid oeddent i Ymneillduwyr y Dywysogaeth y dyeithr bethau a allent fod i Ymneillduwyr Lloegr.

Nid oedd Cymru, ychwaith, mor ddyeithr i fudiadau cenhadol ag oedd Lloegr. Gan nad beth a ellir ei ddyweyd mewn condemniad ar gynllun Cromwell o Efengyleiddio Cymru drwy ddeddf Seneddol, yr oedd o leiaf wedi rhoi i'r Ymneillduwyr yng Nghymru syniad am natur mudiad cenhadol. Ac hyd yn oed pe na bae'r Dywysogaeth wedi manteisio ar yr hyn a ddysgodd Cromwell iddi, yr oedd y ffaith fod cenhadaeth o'r fath wedi bod mewn gweithrediad yma, wedi gwneud i'r farn Ymneillduol ymgynefino â'r syniad o genhadaeth grefyddol. Ond fel y gwelir yn y man yr oedd Ymneillduwyr Cymru yn yr oes honno, wedi gosod mewn gweithrediad ymarferol, drwy'r egwyddor wirfoddol, yr hyn a geisiodd Cromwell ei wneud drwy rym cyfraith—sef ceisio lledu gwybodaeth o'r Efengyl ymysg y bobl. Bodolai yn Lloegr ar y pryd tair Cymdeithas Genhadol. 1. Cymdeithas Lledaenu'r Efengyl yn Lloegr Newydd. Sefydlwyd gan y Senedd Werinol yn 1649, ac adsefydlwyd gan Siarl II. yn 1661. Amcan arbennig hon oedd efengyleiddio Indiaid America.

2. Cymdeithas Lledaenu'r Efengyl mewn Gwledydd Tramor. Sefydlwyd gan William III. yn 1701. Amcan hon oedd sefydlu Eglwys Loegr yn y sefydliadau Prydeinig.

3. Cymdeithas Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol. Sefydlwyd 1701. Amcan hon oedd sefydlu Ysgolion Rhad drwy'r deyrnas, a dosbarthu Beiblau a Llenyddiaeth Grefyddol.

Mor bell ag oedd a fynnai cenhadaeth yr olaf, yr oedd Griffith Jones, Llanddowror, eisoes drwy ei Ysgolion Rhad Cylchdeithiol wedi gwneud daioni anfesuradwy yng Nghymru.[1] Drosodd a throsodd drachefn cawn Wesley, a Whitefield, a Howell Harris, ac eraill, yn talu gwarogaeth i'r Tywysog a'r Gwr Mawr hwn yn Israel, ac i'r gwaith rhagorol a gyflawnodd fel athraw ac fel Efengylwr cyn i'r naill na'r llall ohonynt hwy ymddangos ar y maes. Teimlai Harris hi yn anrhydedd fod gŵr fel Griffith Jones yn "ymostwng" (condescend) ato ef â'r "Methodistiaid."[2] Fel yr ä Mahometan selog bellder daear at fedd Mahomet ym Mecca, felly yr ai Howell Harris dro ar ol tro i Landdowror tra'r proffwyd yno eto'n fyw, i dderbyn ysbrydoliaeth newydd oddiwrth ei ddysgeidiaeth gyhoeddus, a'i gynghorion cyfrinachol—ac i adrodd hanes ei garwriaeth wrth yr hen wr. Nid yw hyn yn golygu fod Griffith Jones yn cymeradwyo dull Howell Harris ac eraill o gario'r gwaith ymlaen. Fwy nag unwaith rhoddodd y patriarch o Landdowror sèn iddynt am yr hyn a wnaent. Mae Howell Harris ei hun yn ddigon gonest i gofnodi'r ffaith yn ddigêl yn ei ysgrifeniadau. Er mai Eglwyswr selog oedd Griffith Jones, perchid ef gan yr Ymneillduwyr, y rhai a dyrrent i'w wrando, fel y tyrrai eu tadau i wrando'r hen Ficer Prichard. Edmygai yntau hwythau, a'u zel a'u llafur,—ac ymhlith y cyhuddiadau a ddygid i'w erbyn gan ei gyd—Eglwyswyr, haerid ei fod yn rhy ffafriol i'r Ymneillduwyr, ei fod wedi gwasgaru miloedd o gopïau o Gatecism Matthew Henry yn Gymraeg,—a'i fod wedi astudio Hebraeg o dan Mr. Perrot, Prifathraw Caerfyrddin!

Os do, nid Griffith Jones oedd y cyntaf na'r olaf o urddasolion Eglwysig nac o Ddiwygwyr Crefyddol ei oes, oedd yn ddyledus i ysgolheigdod Ymneillduwyr am eu haddysg. Ped olrheinid hanes y myfyrwyr fu o dan ofal Samuel Jones, Brynllywarch, ceid fod yn eu plith nifer a ddaethant yn golofnau disglaer yn yr Eglwys Wladol yn ogystal ag ymhlith yr Ymneillduwyr. Mewn Ysgol Ymneillduol y cafodd Howell Harris ei hun ei addysg; o'r Ysgol honno (Llwynllwyd) yr aeth i Rydychain. Ymhen pedair blynedd ar ei ol ef, wele Williams Pantycelyn yn fyfyriwr yn yr un ysgol—a phwy a all fesur maint dylanwad yr Athraw Ymneillduol ar y ddau ddyn sy'n llenwi cymaint o le yn hanes y Diwygiad Mawr yng Nghymru? Dynion o alluoedd meddyliol cryf, ac o ddysgeidiaeth eang a dofn, oedd y rhai yn y dyddiau hynny a herient y gyfraith drwy gynnal Ysgolion a Cholegau Ymneillduol. Un o nodweddion yr hen dô o weinidogion Ymneillduol, oedd eu hysgolheigdod. Yn wir, dyma un o'r nodweddion a ddirmygid ychydig yn ddiweddarach yn "Y Senters Sych" gan ganlynwyr Howell Harris.

Ond yr oedd yr ysbryd cenhadol hefyd yn fyw ymhlith yr Ymneillduwyr, yn y naill enwad fel y llall. Darllener hanes ac olrheinier llafur Enoch Francis yn y Gorllewin, a Miles Harry yn y Dwyrain, ymhlith y Bedyddwyr; eiddo Phylip Pugh yng Ngheredigion, ac Edmwnd Jones yng Ngwent a Morgannwg, ymhlith yr Anibynwyr—heb enwi ychwaneg, a chawn yn codi o flaen ein llygaid, golofn ar ol colofn, yn coffadwriaethu ini lafurus gariad Y Tadau mewn ymdrech genhadol cyn dechreu'r Diwygiad Mawr yng Nghymru. Os eir yn fanwl ar ol hanes crefyddol y cyfnod o'r adeg y pasiwyd Deddf Goddefiad, yn 1689, hyd i'r Diwygiad dorri allan ymhen hanner can mlynedd wedyn, gwelir yn amlwg y gwahaniaeth rhwng Lloegr a Chymru. Tra nodwedd Ymneillduaeth yn Lloegr oedd diffyg cynnydd ac absenoldeb gweithgarwch, rhoddwyd profion eisoes (tud. 198—205) i ddangos fod Ymneillduaeth Cymru yn fyw, gweithgar, blodeuog, a llwyddiannus. Dyma baratoad mewn gwaith erbyn ymweliad yr Ysbryd Glan. Ac mae yr un mor amlwg fod y paratoad hyn ar gyfer derbyn. y tywalltiadau, wedi cario ei effaith ar y genadwri pan ddaeth. Gwelir ar Map Rhif 5, yn ddarlun byw ger bron ein llygaid, mai yn yr ardaloedd lle roedd yr Ymneillduwyr wedi bod mwyaf llafurus, y bu'r "Methodistiaid" cyntefig fwyaf llwyddiannus.

Gyda hyn, eto, yn y deunaw mlynedd cyn y gwelwyd diferynnau cyntaf y gafod fawr, yr oedd 30,000 copi o'r Beibl, a nifer dirifedi o lyfrau crefyddol eraill, wedi cael eu dosbarthu ymhlith gwerin Cymru yn eu hiaith eu hunain. Ychwaneger at hyn eto y ffaith, er fod offeiriaid Eglwys Loegr fel dosbarth yn ddifater o'u dyledswyddau, wedi esgeuluso ymron yn gyfangwbl eu gwaith bugeiliol, ac wedi gadael i hyd yn oed yr adeiladau eglwysig syrthio yn adfeilion,—eto fod y werin eu hunain, mewn llawer amgylchiad, yn dyheu am foddiannau crefyddol, ac yn sychedu am glywed pregethu yr Efengyl. A phan ddaeth y dydd, fel y daeth heb fod yn hir, i'r tlodion gael pregethu yr Efengyl iddynt, cafwyd, hyd yn oed yn Eglwys Loegr, aml un heblaw Griffith Jones, a Daniel Rowland, a Williams Pantycelyn, wedi cael ei feddiannu âg ysbryd y gwaith, ac yn barod i lafurio yng ngwinllan ei Arglwydd!

Un ffaith tra tharawiadol mewn cysylltiad â'r Deffroad Mawr, yn Lloegr a Chymru, ymhlith yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr, y Methodistiaid Wesleyaidd a Chalfinaidd, y Morafiaid a phawb a gyfranogasant o ddylanwadau nerthol yr Ysbryd Glan y pryd hwnnw, yw, mai dynion cymharol ieuainc, o ran rifedi eu blynyddau, oedd y rhai amlycaf yn y Diwygiad. Os cymerwn y flwyddyn 1738 fel yr un pan ddechreuodd y mudiad gymeryd gafael ar feddyliau'r bobl, cawn, ag eithrio Griffith Jones, Llanddowror, mai Edmwnd Jones, Pontypool, oedd yr henafgwr yn eu plith—ac nid oedd yntau y pryd hwnnw ond 36 mlwydd oed; eto galwyd ef yn "Hen Broffwyd!" Pymtheg ar hugain oedd John Wesley, a'i frawd Charles yn 31. Nid oedd Lewis Rees, Llanbrynmair, ond 28; John Gambold, yr Esgob Morafaidd, ond 27 James Harvey yn 25; Daniel Rowlands yn 24; Howell Harris yn 24; George Whitefield yn 23; a Williams, Pantycelyn, yn 21. Mewn gair gwelwyd cyflawniad ymron llythyrennol o'r broffwydoliaeth: "Yn y dyddiau diweddaf y tywalltaf o'm hysbryd ar bob cnawd: a'ch meibion chwi a'ch merched a broffwydant; eich gwyr ieuainc a welant weledigaethau, a'ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion!"

Nodiadau

[golygu]
  1. Sefydlodd Griffith Jones mewn gwahanol ardaloedd, ar wahanol adegau, 3185 o ysgolion, yn y rhai yr addysgwyd dros 150,000 o ysgolorion. Mynychid hwynt gan oedogion yn ogystal a phlant, ac heb law dysgu darllen, holwyddorid yn rheolaidd, ac esbonnid yr Ysgrythyrau ynddynt.
  2. Dyddlyfr Howell Harris. Rhif 109. Ebrill 20, 1744.

PENNOD XIX.
Y DIWYGIAD CYFFREDINOL.

Dywedwyd eisoes mai cyffredinol ac nid lleol nac enwadol oedd y Diwygiad Mawr. Tywalltwyd Ysbryd yr Arglwydd os nad ar bob cnawd, o leiaf ar bob gwlad. Ac yr oedd y tywalltiadau yma mor agos gydamserol, fel y rhaid ini edrych arnynt fel i raddau pell, yn eu cychwyniad cyntaf, yn anibynnol y naill ar y llall. Wedi'r cychwyniad, pan ddaeth y naill wlad i wybod beth oedd wedi ac yn cael ei wneud yn y llall, daeth elfen o gydgysylltiad rhwng y cyfryngau i fewn i'r gwaith. Danghoswyd yn y ddwy bennod ddiweddaf beth oedd cysylltiadau cyffredinol Y Deffroad yn Lloegr, a pha beth oeddent yng Nghymru. Gwelwyd fod dylanwadau ar waith yn paratoi ar gyfer yr ymweliad nerthol hwn, ymhell cyn i hyd yn oed ddafnau cyntaf y gafod ddisgyn. A'r hyn a wnaeth Edmund Jones a Miles Harry, Phylip Pugh ac Enoch Francis, Lewis Rees a Caleb Evans, Griffith Jones a Howell Davies, yng Nghymru, hynny hefyd a wnaeth dynion Duw mewn gwledydd eraill, i baratoi ffordd yr Arglwydd erbyn dydd ymweliad ei Ysbryd Ef. Yn Lloegr yr oedd Watts a Doddridge, Calamy a Neal, Lardner a Chandlers, Bradbury a Bennett, Matthew Henry a Daniel Williams, ac enwogion eraill yn gweithio'n ddiwyd a ffyddlon yng ngwinllan eu Harglwydd a'r naill a'r llall ar adegau yn teimlo presenoldeb Ysbryd y Peth Byw yn eu cynulleidfaoedd. Ond nid oedd y tywalltiad mawr eto—ac nid hwynt hwy oedd y cyfryngau amlycaf pan ddaeth y tywalltiad.

Ar y Cyfandir Zinzendorf a'i Forafiaid gyneuodd y tân ac a'i chwythodd yn fflam. Yn yr Ysgotland, Erskine a Robe at ddeffrodd gydwybodau crefyddwyr cysglyd. Yn yr America Jonathan Edwards a drodd feddyliau'r bobl oddiwrth wagedd, Yng Nghymru Howell Harris, Daniel Rowlands, a Howell Davies a ysgydwasant y wlad, yn grefyddwyr ac yn rhai digrefydd, i sefyll ac edrych yngwyneb Cyfrifoldeb dyn a Gofynion Duw. Yn Lloegr, George Whitefield a John Wesley yw'r ddau ffigiwr mawr sy'n sefyll i fyny fel yr Wyddfa a Chader Idris yn amlwg ymhlith y mynyddoedd. Nid yw hyn yn golygu nad oedd eraill yn gwneud gwaith pwysig, ac, o bosibl, amhrisiadwy ac anfesuradwy, i hyrwyddo'r diwygiad ym mlaen. Ond dyma'r dynion sy'n sefyll allan yn amlwg yn llygad y cyhoedd. Wedi dechreu'r gwaith mawr daeth Wesley a Whitefield yn amlycach na neb arall, fel trefnwyr ac arweinwyr y mudiad oedd â'i amcan i achub eneidiau yn hytrach nag i ffurfio sect. Ac nis gellir edrych ar waith y ddau ddyn hyn, heb deimlo yn argyhoeddedig fod rhyw Allu a Dylanwad o'r tu allan iddynt eu hunain, yn trefnu eu llwybrau iddynt. Nid ar hyd y llwybrau y mynnent hwy gerdded y rhodiasant; nid y pethau a fwriadent hwy a gyflawnasant; gwasgwyd, gorfodwyd hwynt, i wneud yr hyn na ddaeth i'w bryd erioed i feddwl am ei wneuthur.

Yn Eglwys Loegr y dymunent aros,—ond ni fynnai hi eu cadw. Ei gwasanaethu hi fel llawforwyn yr Arglwydd, oedd eu hamcan—ond gwrthodwyd eu gwasanaeth. Pan fynnent hwy wasgu eu gwasanaeth arni, trowyd hwynt eill dau dros y drws.

Cyn i Wesley fynd i'r America, yr oedd yn boblogaidd yn yr Eglwys, a'i phwlpudau bob amser yn agored iddo. Pan ddychwelodd, cauwyd yr Eglwysi i'w erbyn, a gwaherddid eu pwlpudau iddo. Yr un hefyd a fu profiad Whitefield. Efe oedd arwr mawr y dydd yn Lloegr, cyn cychwyn o hono i Georgia i gymeryd i fyny yno y gwaith y galwodd Wesley ef ato. Yr oedd yr Esgob Benson wedi torri ar ei reol gyffredin, drwy roddi urddau clerigol iddo cyn cyrraedd o hono yr oedran arferol at hynny. Pan aeth o Bryste i Lundain nid oedd yn y brifddinas adeilad digon mawr i gynnwys y tyrfaoedd a ddymunent ei wrandaw. Pan ddaeth gyntaf yn ol o Georgia yn niwedd 1738, croesawid ef gan Esgob Llundain ac Archesgob Caergaint; ac yr oedd drws a phwlpud pob Eglwys yn Llundain yn agored led y pen iddo. Ond cyn pen nemawr ddyddiau daeth tro ar fyd. Oerodd y teimladau cynnes croesawus; caledodd y calonnau a ymddanghosent ar y cyntaf yn dyner, a chauwyd y rhan fwyaf o'r Eglwysi yn ei erbyn ef, fel y cauwyd hwynt o'r blaen yn erbyn Wesley. Petae'r ddau wedi boddloni gweithio ar yr hen linellau, a symud ar hyd yr hen lwybrau, caent aros yn yr Eglwys, a gweithio o'i mewn, ac ond odid na fuasai'r ddau wedi cael dyrchafiad i swyddi uchel ynddi. Ond yr oedd gwin newydd eu zel a'u hefengyl hwy, yn rhy gryf i hen gostrelau Eglwys Loegr; a rhaid oedd naill ai dryllio'r hen gostrel, neu fwrw'r gwin newydd allan o honi.—A hynny a wnaed. Dyma yn ddiameu un o'r blotiau duaf ar hanes Eglwys Loegr, ac un o'r camgymeriadau mwyaf a wnaeth erioed. Ailadroddwyd yr un hanes yn hollol yng Nghymru ynglŷn â Daniel Rowlands a Williams, Pantycelyn. Llwyddodd Griffith Jones a Howell Davies i gadw eu lle—ond nid heb drafferth. Yr oedd yr un ysbryd ag a yrrodd William Wroth, a William Erbury, a Walter Cradoc i baratoi lle i'r Ddwy Fil, ac a dywalltodd waed John Penry i gadarnhau sylfaen Ymneillduaeth Cymru, yn aros yn fyw, yn rymus, ac yn weithgar, yn nyddiau Wesley a Whitefield, a Daniel Rowlands a Williams, Pantycelyn. Sefydlodd gormes Elizabeth a'r Stuardiaid, yr enwadau Anibynnol a Bedyddiedig; plannodd culni Eglwysig dyddiau Wesley a Whitefield, yr enwadau Methodistaidd, Wesleyaidd a Chalfinaidd, o'r rhai y torrodd allan wedi hynny yr enwadau Methodistaidd eraill a geir heddyw dros wyneb y ddaear.

Rhaid ini edrych ymhellach i hanes y Diwygwyr yng Nghymru a Lloegr am esboniad ar ymddygiad yr Eglwys tuag atynt. Hyd ddiwedd 1738, cofier, yr oedd Wesley a Whitefield wedi gweithredu yn hollol gyson â ffurfiau allanol Eglwys Loegr. Nid oeddent, o leiaf yn ffurf eu gwasanaeth grefyddol, wedi troseddu dim ar arferion traddodiadol y Sefydliad Gwladol. Ond yr oeddent wedi beiddio ymadael oddi—wrth yr hen lwybrau arferedig. I offeiriaid Eglwys Loegr, ac i raddau llai i rai o'r gweinidogion Ymneillduol yn Lloegr, yr oedd yr offeiriadaeth a'r weinidogaeth wedi dod i gael eu hystyried yn swyddi galwedigaethol, yn hytrach nag yn Alwedigaeth Santaidd "—mor bell, o leiaf, ag oedd a fynnai eu cyflawniad hwy o ddyledswyddau'r alwedigaeth. Tybient tra y cyflawnent y dyledswyddau ffurfiol cyhoeddus, eu bod yn gwneud popeth a allesid ddisgwyl iddynt wneud—am y cyflogau a dderbynient; ac, fel y gwelwyd (tud. 206), nid oedd pawb o honynt yn meddwl fod galw arnynt i wneud hyd yn oed hynny! Yr oedd eithriadau disglaer, mae'n wir, ymhlith yr Eglwys a'r Ymneillduwyr yn Lloegr, ac yr oedd yr eithriadau hynny yn lliosocach fyth yng Nghymru. Ebe Whitefield, am ei ymweliad cyntaf â Chymru:—

"Mae Cymru wedi cael ei pharatoi yn odidog ragorol at Efengyl Crist. Mae ganddynt amryw oleuadau disglaer yn llewyrchu ymhlith yr Ymneillduwyr a'r Eglwyswyr."

Anhawdd fuasai cael dynion mwy duwiolfrydig, mwy ymgyflwynedig, ac yn meddu syniadau uwch am natur yr Alwedigaeth Nefol, er engraifft, na'r dynion da a enwyd yn nechreu'r bennod hon. Ac yr oedd llawer o gyffelyb ysbryd iddynt hwy. Ond yn Eglwys Loegr yn arbennig, edrychai mwyafrif mawr y clerigwyr gydag anghymeradwyaeth ar y sawl a fynnent daflu zel neu ddifrifoldeb mwy na'r cyffredin i'w gwaith.

A hyn a wnai'r Diwygwyr yn ddieithriad. Pregethent yr hen bregethau gyda'r fath angerddolrwydd nes yr ymddanghosai i lawer fel Efengyl newydd—ac o'i chymharu a'r Efengyl fel y'i pregethid o fwyafrif pwlpudau'r Eglwys, Efengyl newydd ydoedd mewn gwirionedd. Yr oedd yr adenedigiaeth wedi cael ei ddysgu fel athrawiaeth sych o'r pwlpudau ar hyd y blynyddoedd, ond yr oedd cymaint o wahaniaeth rhwng athrawiaeth yr adenedigaeth fel y'i pregethid yn yr Eglwysi, ag ydoedd fel y'i pregethid gan y Diwygwyr, ag sydd rhwng delw pren a dyn llawn bywyd. Gwnaed yr adenedigaeth a chyfiawnhad trwy ffydd, yn ffeithiau byw, hanfodol i gadwedigaeth pob dyn, ac nid y ddamcaniaeth athrawiaethol anatyniadol a ymddanghosai ym mhregethau mwyafrif Clerigwyr yr oes. Yr oedd y gwahaniaeth rhwng y ddwy Efengyl, neu i fod yn llythrennol gywir, rhwng y ddau ddull o bregethu yr un Efengyl, hyd yn oed pan gyfyngid y pregethiad o honi i bwlpudau'r Eglwys, yn ddigon amlwg i dynnu sylw, ac i beri i ddynion ystyriol gymharu'r Offeiriad a'r Diwygiwr, y Gwas Cyflog a'r Gwir Fugail, a'u gilydd;—ac yr oedd y Gwas Cyflog yn ddigon call i weled pa un o'r ddau a ddioddefai oddiwrth y gymhariaeth, pe y caniateid i'r "penboethiaid" hyn ymyrryd a'u corlannau hwy. Ond er amlyced oedd pan bregethid y ddwy o'r un pwlpud, daeth yn amlycach fyth pan bregethai'r Offeiriad o'r pwlpud a'r Diwygiwr yn y fynwent, y naill yn y Llan a'r llall ar yr heol—ac i hyn y daeth yng nghyflawnder yr amser oedd bellach wrth y drws.

Tua chanol Tachwedd, 1738, daeth Whitefield yn ei ol o'r America. Brysiodd Wesley i Lundain i gyfarfod ei gyfaill a'i ddisgybl. Gweddus yw dweyd yma fod cyfeillgarwch yn dal i uno'r ddau o hyd, er fod pynciau athrawiaeth yn tueddu i'w hysgar. Yn hyn o beth gwahaniaethai'r ddau Wesley a Whitefield yn fawr oddiwrth yr arweinwyr yng Nghymru, lle yr ysgarodd cwerylon am byth gyfeillion oes. Parodd gwahaniaeth barn rhwng Arminiaeth Wesley a Chalfiniaeth Whitefield, rwyg barhaol yn y gyfundrefnaeth,—ond ni fu'r rhwyg ond am dymhor byr iawn yn rhy lydan i gyfeillgarwch fwrw pont dros y gagendor. Parhaodd teimladau personol y ddau Wesley a Whitefield at eu gilydd, yn gynnes wedi i'w canlynwyr sefydlu gwersyllfeydd gwahanol ac hyd yn oed gwrthwynebol.

Ond i ddychwelyd at Wesley a Whitefield yn cydgyfarfod. Melus oedd y gyfeillach. Adroddai'r naill wrth y llall y mawrion bethau Duw a wnaeth yr Arglwydd drwyddynt er pan ymadawsant a'u gilydd dair blynedd cynt. Gyda'r frawdoliaeth yn y Seiad yn Fetter Lane, Llundain, treuliwyd aml i awr ddedwydd. Pregethai a chynghorai'r ddau yn y gwahanol Seiadau eraill a geid yn wasgaredig drwy'r brifddinas. Yr oedd yr wythnos olaf o'r flwyddyn 1738 yn wythnos o ymgyflwyniad didor a diflino i waith yr Arglwydd—ac yn baratoad cymhwys at yr ymweliad nerthol oedd ar ddyfod gyda'r flwyddyn newydd.

Cymdeithas Forafaidd oedd Seiad Fetter Lane, ac edrychid arni fel canolbwynt a man cyfarfod y Diwygwyr. Cynhaliwyd yno Gariad-wledd (Love-feast) y noson olaf o'r flwyddyn 1738, ac ynghanol swn llais cân a moliant i'r Arglwydd, y croesawid Gwawr 1739—blwyddyn fawr deheulaw'r Goruchaf! Rhifai'r cynulliad yn agos i dri ugain â deg, gan mwyaf yn Forafiaid, ond gyda hwynt saith o Glerigwyr Efengylaidd Eglwys Loegr, ac yn eu plith John a Charles Wesley a George Whitefield. Yn y cydgymundeb melus, anghofiwyd amser ac anghenion naturiol. Dyma ddywed Wesley ei hun am y digwyddiad:—

"Oddeutu tri o'r gloch yn y boreu, a ni yn parhau mewn gweddi, disgynnodd nerthoedd Duw mewn modd grymus iawn arnom, yn gymaint felly fel y torrai llawer allan i orfoleddu gan faint eu llawenydd, ac y cwympai eraill fel meirw i'r llawr dan bwys y dylanwad. Can gynted ag y daethom atom ein hunain, gan ddadebru o'r parchedig ofn a'r syndod a'n meddiannodd ym mhresenoldeb Ei fawrhydi Ef, torasom allan yn unllais i lefain, Moliannwn Di, O Dduw! Cydnabyddwn mai Tydi yw yr Arglwydd!'"

Mae'n amheus a aeth Whitefield i'r gwely o gwbl y noson honno, canys cawn ef am saith o'r gloch boreu trannoeth, ac o hynny yn ddibaid tan dri o'r gloch y prydnawn, yn derbyn ymwelwyr, y rhai a fynegent iddo pa beth a wnaeth yr Arglwydd i'w heneidiau, neu yn gofyn fel ceidwad carchar Philippi gynt, "Beth sydd raid ini ei wneuthur fel y byddom cadwedig?

Ymhen tridiau wedyn, cyfarfyddodd y saith Clerigwr Efengylaidd mewn cynhadledd i ymgynghori pa beth i wneud yng ngwyneb yr amlygiadau a gawsant o dywalltiad grymus yr Ysbryd Glan. Ebe Whitefield:—

"Parhasom mewn ympryd a gweddi tan dri o'r gloch, ac yna ymadawsom â'n gilydd wedi ein hargyhoeddi fod yr Arglwydd ar wneuthur pethau mawrion yn ein plith."

Yn ystod yr wythnos honno, pregethodd Whitefield bob dydd, gan draddodi hefyd anerchiadau ddwy waith neu dair bob nos. Y Sabath canlynol, Ionawr 7fed, 1739, pregethodd ddwywaith, anerchodd dair o Seiadau gwahanol; ac, ebe fe, "treuliais yr holl noson mewn gweddi a diolch yn Fetter Lane." Trannoeth ysgrifenna:—

"Llun, Ionawr 8fed. Er imi aros i fyny drwy'r nos neithiwr, cariodd yr Arglwydd fi drwy waith y dydd heb ddim ond awr o gysgu. Yn yr hwyr esboniais yr Ysgrythyrau, gan ddymchwelyd rhesymau un a wrthwynebai athrawiaeth yr ad-enedigaeth a chyfiawnhad drwy ffydd. Yna treuliais y gweddill o'r nos gyda'r bands, sef cyfeillachau o hanner dwsin neu ragor o Gristionogion yn cyfarfod â'u gilydd i gymharu profiadau â'u gilydd."

Nodir y manylion hyn er dangos mor llwyr yr oedd y Diwygwyr hyn wedi cael eu meddiannu gan Ysbryd yr Arglwydd, a'r paratoad oedd eisoes wedi cael ei wneud i groesawu'r Diddanydd Arall pan ddeuai. Profiad Whitefield oedd profiad y Diwygwyr eraill hefyd. Yr oedd y Seiadau gwasgaredig wedi bod am wythnosau ymron yn ddibaid wrth Orsedd Gras, a'u haelodau yn dyddanu eu gilydd ag ymadroddion am deyrnas nefoedd. Yr oedd yr aelodau, felly, wedi cael eu trwytho â syniadau ysbrydol, a'r llefarwyr cyhoeddus wedi cael eu meddiannu yn gyfangwbl â dawn yr Ysbryd. Cwestiwn calon pob un o honynt yn awr ydoedd, "Pa beth a fynni Di imi ei wneuthur?"

Ac nid hir y bu'r ateb cyn dod—er mai nid yr ateb a ddisgwylid nac a ddymunid ydoedd. Whitefield eto oedd yr un a ddewiswyd gan Ysbryd yr Arglwydd i dorri tir newydd, ac i rodio llwybr na freuddwydiodd efe na'i gyd-lafurwyr y galwesid byth arnynt i'w gerdded. Aeth i lawr i Bryste, yn ymyl cartref ei enedigaeth. Disgwyliai gael pregethu yno—ond cauwyd yr eglwysi i'w erbyn. Yn llawn o'r tân a ddisgynnodd i'w galon yn y gyfeillach yn Fetter Lane ddydd Calan, teimlai y rhaid iddo draddodi'r genadwri a osododd yr Arglwydd yn ei enau; a chan na chai bregethu mewn eglwys o adeilad—waith dyn, penderfynnodd fyned i deml, "saer ac adeiladydd yr hon yw Duw." I'r maes agored, gyda'r ffurfafen uwchben fel unig dô y deml, yr hwyrddydd oer a rhewllyd hwnnw yng nghanol Chwefror, 1739, y pregethodd Whitefield am y tro cyntaf erioed yn yr awyr agored, i tua chant o lowyr Kingswood yn ymyl Bryste.

Dyma'r tro cyntaf erioed i Ddiwygwyr Lloegr fynd allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau. Ac eto nid peth newydd oedd hyn. Yr oedd Howell Harris eisoes wedi gwneud hynny yng Nghymru. Ac nid efe oedd y cyntaf. Yr oedd Ymneillduwyr Cymru yn cadw pwlpudau yn yr awyr agored yn yr haf. Gwelsom eisoes mai yn y caeau ger Llundain y cyfarfyddai Eglwys Ymneillduol Wandsworth. Ac hyd yn oed cyn eu dyddiau hwy, yr oedd yr Esgob Hooper yn cynnal gwasanaeth yn yr awyr agored, gan nad oedd adeilad digon mawr i gynnwys y torfeydd a'i canlynent. Ond peth newydd a dyeithr ydoedd yngolwg dynion fel Wesley a Whitefield, y rhai a feddiennid gan y syniad o gysegredigrwydd lle. Nid oeddent eto wedi dysgu gwers Samaria yr Arglwydd Iesu, mai'r gwaith sy'n cysegru lle, ac nid y lle sy'n cysegru'r gwaith. Am y rheswm hwn cafodd Whitefield anhawsder mawr i berswadio Wesley i ddod ato i Bryste, ac i gymeryd rhan gydag ef yno yn y genhadaeth awyr agored oedd newydd ei sefydlu.

A bu i'r genhadaeth honno hanes heb ei bath. Er dyddiau'r Pentecost yn Jerusalem, ni welodd y byd amlygiadau mwy nerthol o ddylanwad yr Ysbryd Glan ar galonnau, cydwybodau, ïe, a chyrff dynol, nag a gafwyd yn y Bedydd Pentecostaidd yn 1739. Cant oedd rhifedi y gwrandawyr yn yr oedfa gyntaf yn yr awyr agored yn ymyl Bryste. Glowyr anllythrennog oeddent oll, nid yn unig yn anysgedig ond yn ddiddysg hefyd. Nid oes dosbarth o weithwyr yn y deyrnas heddyw mewn cyflwr moesol a deallol mor isel ag oedd cynulleidfa gyntaf George Whitefield yn y genhadaeth hon. Ac eto, o'r funud y disgynnodd swn ariannaidd ei eiriau gyntaf ar eu clustiau, hyd nes y terfynnwyd yr oedfa, meddiannodd eu holl sylw. Deffrodd o'u mewn deimladau na wyddent ddim am danynt yn flaenorol. I bob diben ymarferol yr oedd cynulleidfa George Whitefield yn Kingswood yn Chwefror, 1739, mor baganaidd, mor dywyll, mor anwybodus am Dduw, a Beibl, a Barn, a Byd a Ddaw, a Chyfrifoldeb Dyn, a Chyfiawnder Duw, a Iawn Crist dros Bechadur, ag yw trigolion anwar Canolbarth Tywyll Affrica heddyw. Peryglai gymaint ar ei fywyd wrth fynd i'w plith gyda'r fath genadwri, ag a wnai Livingstone neu Griffith John yn eu meusydd cenhadol hwy. Ond cymaint a fu dylanwad y pregethwr a'i genadwri arnynt, fel mai'r bregeth a'r pregethwr a fu unig bwnc ymddiddan y dafarn a'r aelwyd, congl yr ystryd a'r pwll glo, y noson honno a thrannoeth. Rhedodd yr hanes fel tân gwyllt drwy'r holl gwmpasoedd. Erbyn i Whitefield ymweled a'r lle trannoeth, yr oedd pob un o'r cant cyntaf wedi tynnu dau gant arall gydag ef i'r oedfa, a rhifai'r gynulleidfa ugain mil (20,000)!

O'r awr honno allan cawn Whitefield yn teithio drwy'r wlad gydag awdurdod ac urddas Llysgenhadwr y Brenin Mawr. Efe yw personoliaeth mawr y Diwygiad. Efe yw haul y gyfundrefn ddiwygiadol, ac o'i gwmpas ef try y Diwygwyr eraill fel goleuadau llai, pob un yn ddisglaer, ac i raddau mwy neu lai, yn haul yn ei gylch neillduol ei hun, ond yn y gyfundrefn fawr yn ymddangos yn ail raddol i Whitefield.

O ganol glowyr anwaraidd Kingswood aeth ar ei union i ganol cylch cyferbyniol cymdeithas,—i Bath, yr hon y pryd hwnnw oedd y dref fwyaf ffasiynol yn y deyrnas. Yno yr ymgasglai cyfoethogion y wlad,—a'r rhai hynny yn eu dull eu hunain mor anystyriol, er nad mor anwybodus, a glowyr Kingswood. Yr unig wahaniaeth oedd fod pechod Kingswood yn noeth ac yn hagr, a phechod Bath yn gwisgo gorchuddlen ffasiynol, a wnai iddo ymddangos yn ddeniadol yr olwg arno. Yr oedd yn gofyn o'r ddau fwy o ddewrder i bregethu yn erbyn pechod Bath, nag yn erbyn pechod Kingswood. Ond erbyn cyrraedd o honno yno, cafodd Whitefield fod yno genhadwr arall ar y maes, yn traddodi'r genadwri nefol gyda nerth a dylanwad mawr—a Chymro, yr enwog a'r hybarch Griffith Jones, Llanddowror, oedd hwnnw. Ac yno, ynghanol rhwysg cyfoeth a ffasiwn Bath, pregethodd yr hynafgwr syml o Sir Gaerfyrddin, a'r diwygiwr ieuanc o Sir Gaerloew, wirioneddau mwy plaen a miniog, nag a glywodd y bendefigaeth yno erioed o'r blaen.

Gohebodd Whitefield â Howell Harris ac Edmwnd Jones yng Nghymru, ac â Wesley ac eraill yn Lloegr. Fel y ceir gweled eto, yr oedd cyffelyb waith yn cael ei wneud yng Nghymru, ag oedd ef wedi bod yn wneud yn Llundain cyn ei ymweliad â Bryste; ond er fod amlygiadau nerthol o ddawn yr Ysbryd wedi cael eu profi, nid oedd y tywalltiadau mawr a chyffredinol eto wedi cymeryd lle yno, er fod Cymru hefyd ar fedr eu profi. Croesodd Whitefield i Gaerdydd, a chyfarfyddodd yno â Howell Harris, a'r hwn yr oedd wedi dechreu gohebu ddeufis cyn hynny. Ceir hanes gwaith Whitefield yng Nghymru mewn pennod arall, ond gellir nodi yma wrth fyned heibio, fod Diwygwyr Cymru, o bob enwad, ac o unfryd calon, wedi cydnabod Whitefield fel Blaenor Cyffredinol y mudiad diwygiadol yng Nghymru fel yn Lloegr, o'r dydd y gosedodd ei droed gyntaf ar draethell y Dywysogaeth. Ymhen tair blynedd wedi hynny, fel y gwelir eto, cydnabyddwyd ef yn ffurfiol fel Pen-cadlywydd byddin gyfundrefnol y mudiad diwygiadol yng Nghymru. Ond cyn, ac wedi hynny, uchelgais Howell. Harris—hyd yr adeg y daeth dylanwad arall a dyeithr i mewn i'w fywyd, ac am yr hwn yr ymdrinir eto,—oedd cael bod yn gynorthwywr ufudd i George Whitefield.

Dywedwyd fod Whitefield, ar ol yr amlygiadau mawr a nerthol a gafwyd yng nghymydogaeth Bryste, wedi ysgrifennu at Wesley, yn ei annog i ddod trosodd i gario'r gwaith da ymlaen. Daeth y cais fel ysgytiad i syniadau uchel Eglwysig John Wesley. Anhawdd oedd ganddo ddygymod â'r syniad o fwrw ymaith hen wisg arferiad Eglwysig. Ymgynghorodd drachefn—fel y gwnaeth droion cyn hynny—â'i gyfeillion y Morafiaid. Ar ol ympryd a gweddi, cyfarwyddwyd ef ganddynt hwy mai llais yr Arglwydd oedd yn ei alw. Heb betruso dim bellach, nac ymgynghori â theimladau cig a gwaed, prysurodd i Bryste, a thaflodd ei hun gyda chymaint zel a brwdfrydedd, ie, a llwyddiant, a Whitefield ei hun, i'r gwaith i'r hwn y'i galwyd. Trefnydd uwchlaw popeth oedd John Wesley. Nid oedd yn meddu hyawdledd llifeiriol ac ysgubol Whitefield,—ond ymron pa le bynnag y cerddai yr oedd ei waith yn fwy arhosol, a'i effeithiau yn fwy parhaol, nag eiddo Whitefield. Yr oedd mwy o ysgogiad, mwy o gyffro, yn Whitefield; ond yr oedd mwy o bwysau yn Wesley. I gychwyn mudiad, i greu brwdfrydedd yn ei gylch, Whitefield oedd y gwr; i lywio'r mudiad, i'w drefnu, i gasglu'r defnyddiau gwasgaredig at eu gilydd mewn adeiladwaith mawr, cadarn, parhaol, John Wesley am dani. Dyna paham mae Wesleyaeth yn fyw, a Whitefield—aeth, a siarad yn gydmariaethol, wedi diflannu.

Cawn yr un cyferbyniaeth, er o bosibl yn llai amlwg, yng Nghymru, rhwng Howell Harris a Daniel Rowlands. Cyfranogai'r ddau Gymro i raddau o neillduolion y ddau Sais, ond mewn cyfartaledd gwahanol. Fel y cawn sylwi eto, camgymeriad yw tybied mai fel trefnydd yr amlygodd Howell Harris fwyaf o allu. Meddai, mae'n wir, rai o gymhwysderau trefnydd; ond yr oedd yn gymysgedig â hwynt wendidau mor amlwg i'r neb a ganlyno ei hanes yn fanwl, ag a'i hangymhwysent i fod yn Ben ac yn Flaenor mudiad eang a chyffredinol. Ochr wan, ac nid ochr gref, i'w gymeriad fel dyn cyhoeddus, yw ei dalent tybiedig fel trefnydd. Edrycher ar y Dangoslun sy'n portreadu Methodistiaeth Cymru yn nyddiau Howell Harris, a cheir gweled mai yng nghylch gweinidogaeth arbennig Daniel Rowlands yn unig y ceir elfen o barhad yn y Seiadau a blannwyd. Ac o'r holl gylchoedd yng Nghymru fu o dan ddylanwad "Y Tadau Methodistaidd," Seiadau cylch dylanwad arbennig Howell Harris oeddent y mwyaf dedwinol (evanescent). Y pedair sir oeddent yn faes arbennig llafur Howell Harris yng Nghymru oeddent Brycheiniog, Maesyfed, Morgannwg, a Mynwy. Ym Mrycheiniog, ei sir enedigol, a lle y preswyliodd hyd ddiwedd ei oes, allan o 36 o Seiadau a blannodd, ni chafodd ond un ddigon o ddyfnder daear i'w galluogi i flaguro yn Eglwys barhaol. Ym Maesyfed plannodd 18—a diflanasant oll. Ym Morgannwg plannwyd 35, a bu 4 byw. Ym Mynwy plannwyd 20,—ond buont feirw i gyd ond un. Yn y pedair sir yma lle yr edrychid ar Howell Harris fel Pen tywysog (o dan Whitefield), plannwyd 109 o Seiadau,—a diflanasant oll ond chwech! Ymhen cenhedlaeth ar ol hynny daeth dylanwadau hinsawdd dynherach i weithredu ar yr had a blannwyd—a deffrodd 24 eraill o'r ardaloedd hynny i fywyd parhaol, sef 12 ym Morgannwg a 12 ym Mrycheiniog. Yn Sir Aberteifi, ar y llaw arall, lle y plannwyd 32, bu 15 byw, gan flaguro ac aros fel cyfundrefnau parhaol, a dadblygu i fod, mewn cyfnod diweddarach, yn Eglwysi gweithgar. Os cymharer y ddwy goeden â'u gilydd, daw'r cyferbyniad rhwng Howell Harris a Thomas Charles yn amlycach na'r un rhwng y blaenaf a Daniel Rowlands. Yr hyn a fu John Wesley i Wesleyaeth, hynny a fu Thomas Charles i Galfiniaeth Drefnyddol Cymru. Petae'r gallu i fod yn Drefnydd, a briodolir yn gamsyniol i Howell Harris, wedi cael ei feddiannu ganddo ef, fel y'i meddiannwyd wedi hynny gan Thomas Charles, buasai Coeden Methodistiaeth Howell Harris yn 1752, ymron mor llewyrchus yr olwg arni ag ydyw un Thomas Charles yn 1820. Mewn geiriau eraill, i ddiffyg y gallu hwnnw yn Howell Harris y rhaid priodoli'r ffaith fod tyfiant Methodistiaeth Galfinaidd Cymru, wedi cael ei oedi am yn agos i 70 mlynedd! (Gwel yr Atodiad i'r bennod nesaf am fanylion pellach ar hyn.)

Manylais yn y paragraff blaenorol ar y cyferbyniad rhwng natur gwaith Howell Harris a'i gydoeswr Daniel Rowlands, a'i olynydd Thomas Charles, er mwyn egluro y gwahaniaeth rhwng gwaith Whitefield a Wesley. Ond rhaid i'r darllenydd beidio llamu i'r casgliad nad oedd dim o allu'r Trefnydd yn Whitefield, a dim o zel yr Ysgogydd yn Wesley. I'r gwrtbwyneb yn hollol. Ar y cychwyn cyntaf, ymddanghosai'r ddau ymron fel dau efaill, mor debyg i'w gilydd mewn llawer o bethau, fel mai anhawdd weithiau fyddai adnabod y naill oddiwrth y llall. Gwelwyd efeillion felly, y rhai pan yn blant y byddai'n rhaid gwneud gwahaniaeth yn eu gwisg er gallu gwybod prun oedd prun; ond wedi tyfu i fyny, dadblygent nodebau gwedd mor wahanol, nes gwahaniaethu ffurf corff a gwynepryd gymaint fel na cheid trafferth i adnabod y naill oddiwrth y llall. Rhywbeth felly a fu yn hanes Wesley a Whitefield, ac i raddau llai yn hanes Daniel Rowlands a Howell Harris. Am ddeuddeng mlynedd parhaodd y gallu Trefnyddol yn gryf ac amlwg yn Whitefield, er yn gwanhau o flwyddyn i flwyddyn ar ol yr ychydig flynyddoedd cyntaf; ond dal i ddadblygu a chryfhau o hyd a wnai zel yr ysgogydd efengylaidd,—nes, o'r diwedd, iddo daflu gwisg y Trefnydd ymaith yn gyfangwbl, a phenderfynnu cadw am ei draed heb fyth eu diosg, esgidiau paratoad Efengyl tangnefedd.[1] Parhaodd Wesley, ar y llaw arall, hyd ei fedd i ddadblygu talent arbennig y Trefnydd, gan golli, wrth wneud hynny, ran o'r zel cenhadol a'i meddiannodd ar gychwyn ei yrfa.

Canol Chwefror y daeth Whitefield i Bryste, a Bath, ac am y tro cyntaf erioed i Gymru. Mis Mawrth daeth Wesley ar ei ol; pregethodd yntau i'r tyrfaoedd yn Bryste; croesodd y Sianel i Gaerdydd; daeth i gyfarfyddiad â Howell Harris,—ac o'r dydd hwnnw allan hyd ei farw, arhosodd dyddordeb Wesley yn y gwaith yng Nghymru yn ddyddordeb byw, gweithgar, bendithfawr.

Mor bwysig ydoedd fel y rhaid neillduo pennod arall iddo.

O Lundain i Bryste, o Bryste i Gymru, o Gymru i Ogledd Lloegr, oddiyno i'r Ysgotland, ac oddiyno i'r Werddon,—dyna grynhodeb o symudiadau dibaid a diflino Wesley am lawer blwyddyn hir. Yn y naw mis a ganlynodd ei ymweliad cyntaf â Chymru, pregethodd yr Efengylydd ymroddgar hwn bum cant o weithiau gwahanol, heb law traddodi anerchiadau ymron dirifedi i'r gwahanol Seiadau a sefydlwyd ganddo ef a'i gydweithwyr. Yn Bryste rhifai ei gynulleidfa yn ei oedfa gyntaf dros dair mil o bobl. Gwysiwyd ef o flaen Canghellor yr Esgobaeth, yr hwn a fynnai wybod trwy ba awdurdod yr oedd yn beiddio pregethu o'r tu allan i'w blwyf ei hun. Ei atebiad oedd fod ganddo drwydded fel Cymrawd y Brifysgol, ac fel y cyfryw nad oedd yn cael ei gyfyngu i unrhyw blwyf, nac ardal, na sir. Fe gofia'r darllenydd mai felly hefyd y llwyddodd Diwygwyr dyddiau Elizabeth, i ledaenu eu hegwyddorion ar waethaf gwrthwynebiad yr awdurdodau Eglwysig
JOHN WESLEY'S WORK IN WALES IN ITS RELATION TO THE CALVINISTIC METHODIST SOCIETIES


(gwel tud. 28, 29). Felly, wele hanes yn ailadrodd ei hun drachefn ymhen yn agos i ddau can mlynedd, wedi ymgais ofer Elizabeth i osod llyfetheiriau am draed y rhai a fynnent efengylu.

Yn Kingswood y codwyd yr adeilad cyntaf ynglŷn a'r Diwygiad Mawr Ysgol Kingswood. Nid amcan y llyfr hwn yw olrhain holl ffynonellau dylanwad Wesleyaeth yn y deyrnas; pe amgen gallesid traethu llawer am, a dysgu aml i wers bwysig oddiwrth, hanes dadblygiad Ysgol Kingswood, a'r rhan a gymerodd yn nadblygiad yr enwad fel cyfundrefn. Ymhen ychydig wythnosau wedi hynny, gosodwyd i lawr garreg sylfaen Capel Wesley yn Bryste—y capel Wesleyaidd cyntaf a adeiladwyd yn y deyrnas. Yr oedd hyn yn hollol ddynodiadol o'r cymeriad a roddwyd uchod i John Wesley, a nodwedd barhaol y gwaith a gyflawnodd.

Am lawer blwyddyn faith, bu cysylltiad agos rhwng gwaith Wesley a Whitefield yn Bryste a Gorllewin Lloegr, â'u gwaith yng Nghymru. Deuai'r llafurwyr o'r winllan yno i roi help llaw i'r gwaith yng Nghymru; ac yn aml gelwid ar y gweithwyr o Gymru i lafurio yn y maes hwnnw. Ac i'r ddau faes gwasanaethai Bryste fel math o Gyfnewidfa Grefyddol.

O Bryste aeth Whitefield yn ol i Lundain—ac yno gwnaeth waith mor arwrol yn y rhyfel ysbrydol â galluoedd y tywyllwch, ag a wnaeth yn Bryste. Pregethai yn y Moorfields, ac ar Gomyn Kennington, ac ar Blackheath—lleoedd ydynt heddyw yn ddyrysfeydd o ystrydoedd yn heigio o fywyd 'dynol, ond oeddynt y pryd hwnnw yn dir agored heb ei feddiannu. Yno caffai gynulleidfaoedd yn rhifo 10,000, 20,000, a 30,000. Anhawdd fyddai cael siaradwr heddyw a allai gyrraedd clustiau cynifer ar unwaith; ond yr oedd llais Whitefield yn ariannaidd ac mor glir a sain cloch. Yr oedd yn hyglyw a'i eiriau yn ddealladwy am filltir o ffordd. Clywid llais cân ei gynulleidfa am ddwy filltir.

Cyn cychwyn o Wesley tua Bryste, cyn, yn wir, i Whitefield gynnal ei gyfarfod mawr cyntaf yn Kingswood, yr oedd Wesley wedi cael amlygiadau rhyfedd o ryw allu dyeithr yn gweithio yn ei gynulleidfaoedd yn Llundain. Nid peth anghyffredin y pryd hwnnw oedd fod Cyfeillach grefyddol yn para hyd ddau a thri o'r gloch y boreu; yr oriau yn cael eu treulio mewn mawl, a gweddi, a dyrchafiad ysbryd, a wnai iddynt anghofio anghenion, byd a chnawd,—a herio gallu'r diafol.

Ond nid oedd y dylanwadau yn gyfyngedig i aelodau'r gyfeillach. Ymaflent yn sydyn mewn rhai o'r byd—ac yn amlach yng nghyfarfodydd Wesley nag eiddo Whitefield. Cymerodd y cyntaf o'r amlygiadau dyeithr hyn le mewn cyfarfod yn Llundain dair wythnos cyn i Whitefield bregethu gyda'r fath nerth i'r can glowr yn Kingswood. Tra Wesley yn pregethu tarawyd dynes ganol oed, mewn sefyllfa gymdeithasol barchus, yn sydyn gan ryw ddylanwad a wnaeth iddi lefain allan fel pe yng nghanol pangfeydd marwolaeth. Achosodd gyffro anesgrifadwy ar y pryd, ond daeth yn beth cyffredin wedi hynny. Ymhen dau fis neu dri wedi i'r ddynes hon gael ei meddiannu, tarawyd nifer o bobl yn un o gynulleidfaoedd Wesley mewn modd cyffelyb; gwaeddent allan mewn ing, a syrthient i'r llawr fel pe yn farw. Aeth y son am hyn ar led. Anghredai llawer yn nilysrwydd yr arddangosiadau dyeithr; gwawdiai eraill hwynt. Symbylid y ddau gan gywreinrwydd i ymweled â chyfarfodydd Wesley er gweled y peth—ac yno ymaflid yn yr anghredinwyr a'r gwawdwyr gan yr un dylanwadau. Lledodd y dylanwadau i gylchoedd

Nid yn unig ymeflid mewn personau yn y cyfarfodydd, ond meddiennid hwynt yn llonyddwch a neillduedd eu cartrefi, yn wrth—wynebwyr yn ogystal a chefnogwyr y mudiad diwygiadol. Adroddir am y cyntaf a feddiannwyd felly, gwrthwynebydd adnabyddus i Wesley, ac un a fynnai ddyweyd mai meddiant cythreulig oedd yr amlygiadau hyn, ac nid dylanwad Yspryd Duw. Ond tra yn darllen pregeth yn ei dy gartref, tarawyd yntau i'r llawr, a rhwygwyd ei gorff gan ddirdyniadau.. Gyrrodd ei berthynasau ar ffrwst am Wesley, a chyda'i fod yn croesi trothwy'r drws, llefodd y dyn druan allan:—" Wele'r hwn y dywedais mai twyllwr y bobloedd ydyw,—ond mae'r Arglwydd wedi fy ngorddiwes innau." Tarewid dynion ar yr heol fel yn y capel. Parhaodd y meddiant hynod hwn yn gryf am chwe mis cyntaf y Diwygiad.

Ofer fyddai ceisio esbonio'r ymddadguddiadau hyn. Yr oeddent yn rhy gyffredinol ini allu tybied am foment mai ffugiol oeddent. Ceid hwynt yng Nghymru fel yn Lloegr, yn yr America a'r Ysgotland, ymron ar yr un pryd. Yng Nghymru, ai am fod natur y Cymro'n fwy llawn o arian byw na'r Sais, ai beth, torrai'r amlygiadau allan mewn dull mwy eithafol fyth, weithiau mewn chwerthin di-lywodraeth, bryd arall, fel y cloff gynt wrth borth y deml, mewn "rhodio, a neidio, a moli Duw;" a phrydiau eraill, drachefn, mewn curo cefnau eu gilydd ar eu gliniau, fel pe yn canmol campwaith. I bobl yr oes yma mae'r peth yn ymddangos yn anhygoel; i'r rhai a welsant Ddiwygiad 1859 mae yn ddealladwy, er yn anesboniadwy.

Wedi i ruthr cyntaf y teimladau dyeithr hyn fyned heibio, trodd meddwl ymarferol Wesley at y gorchwyl o sicrhau ty a chanolfan cyfarfod i'w ganlynwyr. Fel Richard Baxter bedwar ugain mlynedd cyn hynny, er na fynnai ymadael ag Eglwys Loegr, eto, gan na chaffai fynediad i'w phwlpudau, gosododd ei fryd ar adeiladu teml i'r Arglwydd, lle y gallai gyhoeddi'r genadwri a ymddiriedwyd iddo. Ond yn lle adeiladu capel newydd, sicrhaodd Wesley feddiant o hen law-weithdy o eiddo'r Llywodraeth, ac a adnabyddid fel y Foundry.[2] Trodd hwn yn addoldy—ac o hynny allan daeth Foundry Wesley yn ganolbwynt cydnabyddedig Wesleyaeth, fel y daeth Tabernacl Whitefield yn fuan wedyn yn ganolfan awdurdod, trefn, a gweithgarwch Calfiniaeth Ddiwygiadol yr oes.

Nodiadau

[golygu]
  1. 1 Medi, 1748, ysgrifennodd Whitefield at Wesley yn amlygu ei awydd i roi heibio ffurfio Seiadau pellach. "A phe y'u ffurfiwn," ebe fe, "nid oes gennyf gynorthwywyr pwrpasol i edrych ar eu hol. Bwriadaf, felly, fyned o amgylch i bregethu'r Efengyl i bob creadur. Yr ydych chwi, debygaf, am sefydiu Seiadau ymhobman." Yn fuan ar ol hyn ymneillduodd o fod yn ben Cyfundrefnaeth y Tabernacl; torrodd allan o'r newydd fel pregethwr; cydweithiodd drachefn â John a Charles Wesley, ac a'r Iarlles Huntingdon—ond nid fel Trefnydd mwyach, eithr fel Efengylydd i bawb.
  2. I'r neb a fynno wybod am y llannerch hanesyddol, dyddorol yw gwybod ei bod heb fod yn nepell o Gapel City Road—maes llafur Eglwysbach. Saif yn Castle Road, a red yn gyfochrog ymron â City Road.

PENNOD XX.
WHITEFIELD A'R DIWYGIAD YNG NGHYMRU.

Tra roedd y pethau mawr a rhyfedd hyn yn cymeryd lle yn Lloegr, nid oedd Cymru hithau'n ddigyffro. Ond rhaid oedd cymeryd bras olwg ar y gwaith yn Lloegr cyn deall dadblygiadau'r gwaith yng Nghymru.

Fe gofir mai nodwedd fawr y Diwygiad yn Lloegr, oedd y pregethu yn yr awyr agored, a ddechreuwyd o'i anfodd gan Whitefield yn Kingswood, yn Chwefror, 1739. Yn groes i'w ewyllys y boddlonodd Whitefield wneud hynny, ac yn groes i'w ewyllys yntau y cydsyniodd Wesley ag ef, ac y cymerodd ran yn y gwaith ei hunan. Nodwedd arall y mudiad yn Lloegr, a'i gwahaniaethai oddiwrth bob mudiad blaenorol i efengyleiddio'r wlad, oedd y rhan a gymerodd lleygwyr ynddo. I Eglwyswyr, ac aelodau o'r urdd offeiriadol fel Wesley a Whitefield, yr oedd yn anhawddach ganddynt weled gwr heb urddau Eglwysig yn ymgymeryd â'r Alwedigaeth Santaidd, nag oedd ganddynt hyd yn oed bregethu yn yr awyr agored eu hunain. John Cennick oedd y cyntaf a ganiatawyd ganddynt i wneud hyn, a thrwy ei ymroddiad, a'i fedr, a'i lwyddiant, profodd iddynt mai doeth oedd manteisio ar wasanaeth gwr oedd wedi cael ei urddo gan yr Ysbryd Glan, yn hytrach nag un na feddai unrhyw gymhwysder arall nag arddodiad dwylaw esgob. Gwir i Cennick, ymhen blynyddau ar ol hyn, roi cryn drafferth a gofid i Wesley a Whitefield—ond nid am nad oedd yn feddiannol ar urdd Eglwysig. Nodwedd arall a berthynai i'r mudiad yn Lloegr, oedd y Seiadau Crefyddol y soniwyd am danynt eisoes.

O'r tair nodwedd yma, yn yr olaf yn unig y cafodd Lloegr, y flaenoriaeth ar Gymru ynglŷn â'r Diwygiad. Fel y danghoswyd eisoes, yr oedd Seiadau yn bodoli yn Lloegr cyn i Howell Harris dorri allan fel Efengylydd. Am y ddwy nodwedd arall, yr oedd Cymru ar y blaen, mewn pregethu yn yr awyr agored, ac mewn caniatau i leygwyr wneud hynny. Howell Harris dorrodd yr iä yn yr olaf, er nad yn y blaenaf. Cawn ef ei hun yn rhoddi'r flaenoriaeth yn hyn o beth i Daniel Rowlands ar un achlysur,[1]—er, ar achlysur arall, yn hawlio'r clod iddo ei hun.[1] Ond cawn fanylu ar gysylltiadau personol Howell Harris eto; ar hyn o bryd â gweddau cyffredinol y Diwygiad y mae a fynnom.

Yr oedd hyn o wahaniaeth rhwng y Diwygiad yn Lloegr i'r hyn a'i nodweddai yng Nghymru. Yn Lloegr, Clerigwyr Eglwys Loegr—saith o aelodau Clwb Santaidd Rhydychain (gwel tudal 224) a drefnent, ac a lywient, ac a ysbrydolent y mudiad. Yng Nghymru, er fod a fynnai clerigwyr lawer â'r gwaith; ac er, ymhen amser, ymron o angenrheidrwydd o dan yr amgylchiadau, y syrthiodd llywodraethiad y mudiad yn gyfangwbl i ddwylaw nifer o offeiriaid, eto ar y cychwyn yr oedd cymaint, efallai fwy, a wnelai Ymneillduwyr ag ef na'r Eglwyswyr.

Enwyd eisoes Phylip Pugh ac Enoch Francis, Miles Harry, ac Edmund Jones, ymhlith y gweinidogion Ymneillduol perthynol i'r ddau enwad, a ddangosasant ysbryd Diwygwyr ymhell cyn torri o'r Diwygiad mawr allan. Pan y torrodd allan, cafwyd nifer o weinidogion eraill, yn Fedyddwyr ac Anibynwyr, yn barod iawn i estyn llaw o gymorth er hyrwyddo'r mudiad daionus yn ei flaen. Ymhlith y rhai hynny, a'r rhai a ddaethant wedi hynny i gysylltiad agos a swyddogol a'r gyfundrefn ganoleiddiedig, gellir enwi Lewis Rees, Llanbrynmair; Henry Davies, Blaengwrach; Howell Griffith, Trefeirig; Benjamin Thomas, ac eraill; ac ymhlith hyrwyddwyr y mudiad ar y dechreu, ond a dorasant eu cysylltiad ag ef cyn ei ganoleiddio'n gyfundrefn, gellir enwi David Williams, Watford a Chaerdydd.

Pan ddechreuodd Howell Harris dynnu sylw ac enill enw fel pregethwr, tybiodd y gwyr da hyn y gallai eu cynorthwyo hwy yn eu hymdrech i ddeffroi eu cynulleidfaoedd gartref. Ceir Miles Harry,[2] David Williams[3], Howell Griffith,[4] Edmund Jones,[5] Lewis Rees,[6] ac eraill o Arweinwyr Ymneillduaeth oleuedig Cymru, yn rhoi gwahoddiad cynnes i Howell Harris i ymweled â chylchoedd eu gweinidogaeth hwynt; a threfnodd rhai o honynt gylch o gyhoeddiadau i Howell Harris fel Efengylydd.Gwel y llythyrau uchod ac eraill yng Nghasgliad Trefecca. Yr oedd rhai o'r brodyr hyn wedi cyrraedd y fath enwogrwydd fel Diwygwyr, nes y daeth eu clod i glustiau Wesley a Whitefield, a chawn ohebiaeth gyfeillgar a chyson yn pasio rhyngddynt. Manylir eto ar y rhan bersonol a gymerodd Howell Harris yng ngwaith Y Diwygiad yng Nghymru. Ar hyn o bryd dwy ffaith bwysig wyf am argraffu ar feddwl a chof y darllenydd, sef:—

1. Mai Gweinidogion Ymneillduol oedd y cyntaf i'w annog i ddod allan fel Efengylydd cyffredinol, gan drefnu cyhoeddiadau a sicrhau ymlaen llaw dderbyniad cynnes a chroesawus iddo; a

2. Mai anenwadol hollol oedd llafur Howell Harris ar gychwyn ei yrfa fel Efengylwr.

Gwir (a) na pharhaodd yr oll o'r gweinidogion Ymneillduol yn hir iawn yn y cysylltiad cyfeillgar yma â Howell Harris,—a (b) gwir hefyd na pharhaodd ei lafur cyhoeddus yntau yn anenwadol yn hir. Yr oedd cysylltiad rhwng (a) a (b) sy'n rhoi esboniad dealladwy ar waith y naill weinidog Ymneillduol ar ol y llall, yn tynnu yn ol o gysylltiad swyddogol â Howell Harris, ond nid ar hyn o bryd y gellir yn oreu olrhain hanes achos ac effaith yn y cysylltiad hwn. Daw yn amlycach pan adroddir, mewn pennod arall, hanes cysylltiadau personol Howell Harris a'r naill a'r llall o'r personau a'r enwadau hyn.

Mynegwyd yn y bennod flaenorol am ymweliad cyntaf George Whitefield â'r Dywysogaeth. Yn niwedd 1738, ysgrifennodd o Lundain at Howell Harris, ac yn nechreu 1739 cafodd atebiad. Dyma ddywed y Sais wrth y Cymro:—

"Er fy mod yn anadnabyddus i chwi o ran fy mherson, yr wyf er's hir amser wedi bod yn un â chwi o ran fy ysbryd, ac wedi llawenhau i glywed fod yr Arglwydd yn eich llwyddo. Ewch ymlaen, fy mrawd anwyl, byddwch gadarn yn yr Arglwydd, ac yn nerth ei allu Ef. Mae, a bydd llawer o wrthwynebwyr; eithr nac ofnwch. Bydd i'r Hwn a'ch danfonodd eich cynorthwyo, eich cysuro, a'ch amddiffyn, a'ch gwneud yn fwy na choncwerwr drwy ei fawr gariad. Yr wyf fi yn dyst byw o hyn, canys aml y perffeithiwyd ei nerth Ef yn fy ngwendid i."

Cynhwysa atebiad Harris a ganlyn:—

"Pan glywais gyntaf am eich llafur a'ch llwyddiant, unwyd fy enaid i â'ch eiddo chwi, a chyfeiriais ddeisyfiadau i'r nef ar eich rhan. . Mae genyf newyddion da i'w rhoi i chwi o Gymru. Mae diwygiad mawr yn Sir Aberteifi drwy Mr. Daniel Rowland, offeiriad, llafur yr hwn a fendithiwyd yn fawr hefyd yn Sir Gaerfyrddin. Mae ein rhagolygon yn Sir Frycheiniog a Mynwy hefyd yn felus. Llwydda'r Diwygiad hefyd yn y Sir hon (Morgannwg). Mae yma weinidog Ymneillduol ieuanc defnyddiol iawn, yr hwn sydd wr o garedigrwydd mawr.[7] Mae un arall o'r un nodwedd yn Sir Drefaldwyn.[8] "

Gwelir fod Harris y pryd hwn yn ddigon diragfarn i gydnabod gwaith a gwasanaeth llafurwyr eraill yng ngwinllan ei Arglwydd heblaw efe ei hun.

O Bryste croesodd Whitefield i Gaerdydd, ym mis Mawrth, 1739. Pregethodd yn y Town Hall, i gynulleidfa liosog a pharchus, ac ymhlith ei wrandawyr yr oedd dau weinidog Ymneillduol,—o bosibl, David Williams, Watford, ac Edmund Jones, Pontypool. Yno, hefyd, y cyfarfyddodd am y tro cyntaf erioed â Howell Harris, yr hwn oedd i chwareu rhan mor bwysig ym mywyd a mudiadau cyhoeddus Whitefield o hynny allan.

Yr oedd tueddfryd y Trefnydd yn gryf yn Whitefield yn y cyfnod hwn, ac un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd ymgynghori â Howell Harris am gyflwr y Seiadau, ac ystyried pa fodd y gellid yn oreu eu gwneud yn fwy defnyddiol, a gwasanaethgar i amcanion y Diwygiad, nag oeddynt. Dyna ddechreu cysylltiad Whitefield â'r diwygiad yng Nghymru.

Dylanwadodd yr ymddiddan hanesyddol hwnnw lawer ar gwrs bywyd dyfodol y ddeuddyn. Gyda'i dueddfryd naturiol i gymeryd pob dyn ar goel, ni welai Whitefield yn Harris ddim ond yr Efengylydd ieuanc, ymroddgar, dewr, wedi ymgyflwyno fel yntau o lwyrfryd calon i wasanaeth y Meistr. Ac i wneud cyfiawnder â Harris, hyn oedd, yr adeg yma, y dylanwad cryfaf a'r nodwedd amlycaf yn ei fywyd. Petae wedi aros am y deuddeng mlynedd canlynol yng nghymdeithas ac o dan ddylanwad uniongyrchol natur ddyrchafedig fel eiddo Whitefield, buasai holl gwrs ei fywyd, a holl hanes dilynol y Diwygiad, a Methodistiaeth yng Nghymru, yn wahanol i'r hyn a fuont.

Ond yn anffodus i Harris, dysbeidiol (inter-mittent) oedd dylanwad Whitefield a Wesley arno. A phan beidiai'r dylanwad hwnnw, caffai tueddiadau llai teilwng ei natur afael ynddo, gyda chanlyniadau alaethus.

Ond ar y pryd y soniwn am dano nid oedd dim o hynny wedi dod i'r golwg, er y gall y craff a ddilyno'n fanwl Ddyddiadwr Howell Harris, hyd yn oed yn y blynyddau cyntaf hynny, weld arwyddion presenoldeb y clefyd a andwyodd wedi hynny lawer ar ei ddefnyddioldeb a'i wasanaethgarwch. Ond yn yr ymddiddan hwn daeth Whitefield a Harris i ddeall eu gilydd, a chyd-drefnasant ryfelgyrch cenhadol yng Nghymru.

Dychwelodd Whitefield y pryd hwnnw i Loegr; ond ymhen mis daeth yn ei ol i Gymru, a phan ddaeth y pryd hwnnw, teithiodd mewn rhwysg ac urddas allanol a adawodd argraff ddofn ar feddyliau'r bobl syml i'r rhai y dygodd ei genadwri. Sir Fynwy a ddewiswyd fel maes yr ymweliad hwn. Ym Mrynbiga y dechreuwyd y rhyfelgyrch, ac yno yr oedd Harris yn ei gyfarfod. Yno hefyd y cafwyd yr atalfa gyntaf—ac yn wir yr unig un—i'r ymgyrch. Gwrthodwyd caniatau i Whitefield bregethu yn Eglwys y Plwyf. Ond os na chai bwlpud, gallai wneud hyn. Benthyciwyd bwrdd cadarn, yr hwn a osodwyd o dan goeden gauadfrig—fel yr arferai Ymneillduwyr Cymru'r oes honno wneud â'u pwlpudau symudol—ac oddiar ben hwnnw y traethodd Whitefield ei genadwri nefol.

Wedi'r oedfa ym Mrynbiga, ffurfiwyd gosgorddlu anrhydedd iddo, a chyda o hanner cant i dri ugain neu dri ugain a deg, o wyr cyfrifol ar eu meirch eu hunain yn ei ganlyn, teithiodd Whitefield yn ei flaen i gymeryd meddiant o Sir Fynwy yn enw ei Arglwydd, ac i blannu Baner y Groes ynghanol nifer o gadarnfeydd y gelyn. O Brynbiga aeth i Bontypool. Yno taflwyd drysau'r Eglwys led y pen iddo—ond nid oedd Eglwys Pontypool yn ddigon mawr i gynnwys y ddegfed ran o'i wrandawyr. Ar ol oedfa fer yn yr Eglwys, parotowyd lle iddo annerch y gynulleidfa fawr yn yr awyr agored, yr hyn a wnaeth gyda nerth a dylanwad mawr. Yna, aeth yn ei flaen, a'r gosgorddlu gwŷr meirch yn ei ganlyn o hyd, i Abergafenni, lle y cafodd gynulleidfa o ddwy fil. Yna, ymlaen drachefn i Cwmiau, lle y pregethodd yn y fynwent, am fod yr Eglwys yn rhy fechan. Yna, ymlaen drachefn i Gaerlleon ar Wysg; i Trelech, lle y pregethodd o ben yr horse block wrth ymyl y dafarn; Chepstow, lle y pregethodd yn yr Eglwys; ac i Coleford, lle y pregethodd yn y farchnadle.[9]

Ni chaniata gofod imi roi yma ond dyfyniad neu ddau o ysgrifeniadau Whitefield ei hun ar yr argraffiadau a adawodd y daith yma ar ei feddwl,—a dewisaf y ddau yma am y goleuni a daflant ar gyflwr Cymru, a chymeriad rhai o hyrwyddwyr y Diwygiad. Dywed:—

"Gallaswn dreulio rai misoedd gyda budd yng Nghymru. Po hwyaf yr arhosaf yn y wlad, mwyaf yr wyf yn ei hoffi. Mae'r bobl yn syml a diddichell. Mae yma lai o ddallbleidiaeth nag a geir yn gyffredin yn Lloegr. Trwy gymhelliadau Howell Harris, a gweinidogaeth eraill, maent yn newynu ac yn sychedu am Gyfiawnder Iesu Grist."

Mewn cysylltiad a'i ymweliad â Chaerlleon, dywed:—

"Dymunais yn arbennig ddyfod yma, canys pan fu fy mrawd Howell Harris yma o'r blaen, darfu i rai o'r gwehilion guro tabwrdd, a bloeddio o'i gwmpas er mwyn ei aflonyddu. Eithr ni chaniataodd Duw iddynt. ysgwyd tafod yn awr, er imi bregethu o'r un lle ag y gwnaeth yntau, ac er imi weddio Duw ar ei ran wrth ei enw, fel hefyd a wnaethum ymhob lle y pregethais yng Nghymru. Na ato Duw imi fod â chywilydd o'm Meistr nac o'i weision. Daeth miloedd ynghyd o bob rhan o'r wlad, a rhoddodd Duw imi y fath gymorth eithriadol, nes imi gael fy nghario allan o honwyf fy hun."


Mae llawer mwy yn y ddau ddyfyniad uchod nag a ymddengys ar y wyneb, ond nid af yn awr i fanylu arnynt. Dyna hanes ail ymweliad Whitefield â'r Dywysogaeth—a rhwydd yw deall i'r son am yr ymweliad, a'r dylanwadau nerthol a aeth gydag ef, redeg drwy'r holl wlad o amgylch, gan godi awydd cryfach nag erioed yn y bobl i glywed y gwr a addabyddid eisoes fel pregethwr galluocaf a hyotlaf ei oes.

Dychwelodd Harris gyda Whitefield i Loegr—a dyna ddechreu cysylltiad swyddogol Efengylwyr Cymreig â'r Diwygiad yn Lloegr. O'r dydd hwnnw allan, tan ar ol iddo dorri ei gysylltiad â Methodistiaid Cymru, parhaodd Howell Harris mewn cysylltiad agos a swyddogol â'r mudiad diwygiadol yn Lloegr. Heb fynd i fanylu yn ormodol, gellir symio i fyny drwy ddweyd fod Whitefield yn awr yn paratoi i gymeryd awenau yr holl fudiad, o'r ochr Galfinaidd, fel y gwnaeth Wesley o'r ochr Arminaidd,—i'w ddwylaw ei hun; a'i fod yn edrych ar, ac yn ymddwyn at, y gwaith yng Nghymru fel rhan naturiol a hanfodol o'r gwaith cyffredinol yn Lloegr. Fel y dygwyd John Cennick (yr hwn oedd wedi gwneud yn Swydd Wilts waith tra chyffelyb i eiddo Howell Harris yng Nghymru, sef ffurfio cylch diwygiadol cartrefol iddo ei hun) i mewn i'r cylch swyddogol yn Llundain, felly hefyd y gwnaed yn awr â Howell Harris, ac wedi hynny â nifer o'r gweithwyr mwyaf ymgyflwynedig yn y maes Cymreig. Fel cymorth at wneud hynny, gwahoddodd Whitefield Howell Harris, a Daniel Rowlands, a Howell Davies, ac eraill, nid yn unig i efengylu ac ymweled a'i Seiadau mewn gwahanol rannau o Loegr, ond i bregethu yn y Tabernacl, ac i arolygu'r gwaith yno yn ei absenoldeb ef.

Daeth atalfa i barhad uniongyrchol gweinidogaeth Whitefield yng Nghymru. Talodd ail ymweliad â'r America, ond oddi yno gohebai yn gyson âg arweinwyr y mudiad yng Nghymru, Howell Harris, Edmund Jones, Daniel Rowlands, ac yn ddiweddarach, Herbert Jenkins. Anffodus, mewn mwy nag un ystyr, a fu ymadawiad Whitefield o'r wlad hon y pryd hwnnw. Yn ei absenoldeb ceisiodd gwrthwynebwyr Calfinaidd John Wesley godi gwrthryfel i'w erbyn, a chreu rhwyg ymhlith y Diwygwyr. Blaenaf ymhlith y rhai hyn yr oedd John Cennick, a Joseph Humphreys, ac, y mae yn ofidus meddwl, Howell Harris. Anghofiodd yr olaf gymaint arno ei hun, nes y geilw gwaith Wesley yn gwrthwynebu athrawiaeth Etholedigaeth fel "haint uffernol."[10] Petae Whitefield wedi aros yn y wlad hon, o bosibl y buasai ei ddylanwad personol yn ddigon cryf ar ei ganlynwyr, i'w rhwystro i yrru pethau i'r pen fel y gwnaethant yn ei absenoldeb.

A'r drwg oedd eu bod yn gweithredu i raddau yn ei enw, ac yn ymddangosiadol, o leiaf, o dan ei awdurdod ef; fel, pan ddaeth yn ol i'r wlad hon, y cafodd ei fod yntau, mewn ystyr, wedi ei rwymo i'r un gwrthwynebiad cyndyn i John Wesley ag oeddynt hwy. Yn y cyfnod hwn galwyd y wasg i gynorthwyo y mudiad diwygiadol Calfinaidd—ac ar yr un pryd i gynorthwyo'r ymosodiad ar Wesley. Sefydlwyd papur newydd wythnosol, a adwaenid wrth yr enw The Weekly History, yn rhoi hanes y Diwygiad yn ei wedd Galfinaidd, yn America, Lloegr, Cymru, a'r Ysgotland. Cymro oedd yr argraffydd a'r cyhoeddwr, John Lewis wrth ei enw, a'r prif ohebwyr iddo oeddent Harris, Cennick, Humphreys, a Whitefield. Heblaw y rhai hyn, ysgrifennai nifer o ohebwyr eraill yn gyson iddo, ymhlith eraill Thomas Lewis, brawd yr argraffydd. Wrth gymharu cynnwys y llythyrau hyn â'u gilydd, gellir cael syniad tra chywir o gyfeiriad cyffredinol y gwaith.

Nid cynt y dychwelodd Whitefield i Loegr nag yr ymdrechodd gasglu drachefn i'w law ei hun y gwahanol edefau oeddent wedi cael eu torri a'u dyrysu yn ei absenoldeb. Cafodd, er ei siomedigaeth, fod anghydfodau wedi torri allan yng Nghymru yn ogystal ag yn Lloegr. Pwnc o athrawiaeth oedd wrth wraidd yr anghydwelediad â Wesley, pwnc o drefn, a'r hen gwestiwn anorffen pwy yw'r mwyaf yn nheyrnas nefoedd, oedd yn blino'r saint yng Nghymru. Heb fynd i fanylu ar y pethau hyn, yr hyn, o bosibl, na fyddai fuddiol, gellir dweyd, wrth fyned heibio, fod y gwendid yn natur Howell Harris wedi amlygu ei hun yn absenoldeb Whitefield tuag ato yntau hefyd.[11] Ond yr oedd mawrfrydigrwydd Whitefield y fath fel na chaniatäi iddo ddal digofaint tuagato, fel ag a wnai natur llai llariaidd. Yn lle hynny ysgrifennodd lythyr caredig ato, a chymerodd ef i mewn i gylch y gwaith yn Lloegr. Yn y llythyr hwn dywed wrth Harris:—

"Ewch i Bryste, Caerloew, a Swydd Wilts, am ryw bythefnos i bregethu; ac yna deuwch i fyny i Lundain... Yna gallwn ymgynghori beth fydd oreu i'w wneuthur dros achos y Meistr."

Ar ol yr ymgynghoriad, gadawodd Whitefield Harris fel ciwrad o dano yn y Tabernacl, ac aeth ef ei hun i'r Ysgotland. Yn y cyfamser, aeth pethau o ddrwg i waeth yng Nghymru, nes y teimlodd Whitefield ei bod yn bryd iddo gymeryd mewn llaw y mater o'u dwyn i drefn. Yn yr argyfwng hwn ysgrifenodd lythyr pwysig at arweinwyr y mudiad yng Nghymru. Mae yn ddyddiedig "Bryste, Rhag 28, 1741," ac yn un tra arwyddocaol. Wele ddyfyniadau ohono:—

FY ANWYL FRODYR YNG NGHRIST:

Er yn gorfod bod yn absennol o ran y corff, yr wyf yn ysgrifennu hyn i'ch sicrhau fy mod yn bresennol o ran yr ysbryd. Deisyfaf i chwi lawer o bresenoldeb ein Pen godidog. Nid wyf yn amheu y cewch Ef yn ffyddlawn i'w addewid; a chan eich bod yn cyfarfod â'ch gilydd yn ei Enw Ef i ystyried materion o'r pwys mwyaf, byddwch ddyfal mewn gweddi, canys mae arnoch angen llawer o'r Ddoethineb sydd oddi uchod. Un pwnc mawr yw, gwybod yn iawn i ba swydd a gwaith neillduol mae Crist Iesu wedi galw pob un o honoch. Canys cymeraf yn ganiataol na bydd i neb o honoch redeg cyn cael ei alw, neu gael profion o'i droedigaeth ei hun. Mae i bersonau gwahanol ddoniau a grasusau gwahanol. Galwyd rhai i ddeffroi; eraill i sefydlu ac adeiladu. Mae gan rai ddoniau poblogaidd, cymhwys i gynulleidfaoedd mawrion; symuda eraill yn oreu mewn cylch mwy cyfyngedig, a gallant fod yn dra defnyddiol yn y Cyfeillachau Cyfrinachol. Tybiaf y dylai'r rhai a elwir i weithio'n gyhoeddus, ymgyflwyno'n gyfangwbl i'r gwaith, gan fyned heb god nac ysgrepan. Bydd i'w Meistr ddwyn eu treuliau. Am eraill nas gallant ond ymweled yn gyfrinachol, dylent ofalu am eu galwedigaethau tymhorol, gan roi eu horiau hamddenol i wasanaeth yr Eglwys. Mae rhai o honoch yn weinidogion Eglwys Loegr; ond os ydych yn ffyddlon, nid wyf yn tybied yr arhoswch yn hir ynddi. Eto, nac ewch allan o'r Eglwys hyd nes eich bwrier allan o honi. A phan eich bwrier allan er mwyn Iesu Grist, nac ofnwch bregethu yn y caeau. A thra yr arhosoch yn yr Eglwys, O! na adewch i blant Duw newynu o eisieu'r Sacrament, hyd yn oed os byddant yn perthyn i blwyf arall. Ni fwriadwyd y Canon Eglwysig sy'n gwahardd rhoi'r Sacrament i ddyeithriaid, ond yn unig i atal y sawl a ddont yn amharod, ac heb wybod i'r gweinidog. O'm rhan fy hun, buaswn yn ei hystyried yn anrhydedd i gael fy ngosod yn y Llys Eglwysig, a chael fy niarddel am roi i blant Duw y Sacrament yn fy Eglwys i pan nas gallant ei chael mewn lle arall. Byddai Ysbryd Crist a'r gogoniant, yr wyf yn sicr, yn gorffwys ar fy enaid.

Am y rhai na ordeiniwyd, nis gallaf ddweyd llawer, ond yn unig gweddio ar i bob un o honynt gymeryd ei le priodol. Pe gallai'r brawd Lewis ddod trosodd i'n cynorthwyo, da fyddai. Mae ar yr Eglwys yma angen mwy o lafurwyr. Dylai rhai fod bob amser yn Swydd Wilts ac yn Kingswood.

Hoffwn hefyd pe gallech gyfarfod yn fisol, os nad oll gyda'ch gilydd, eto ychydig o honoch sy'n byw agosaf at eich gilydd. Yr wyf ar fedr sefydlu cyfarfodydd misol yn Bryste a Llundain, lle y darllenir llythyrau oddiwrth ohebwyr, ac y gweddier. Petae genych gyfarfodydd misol, gallai pob cynghorwr a llafurwr adrodd ei hanes; gellid gyrru crynhodeb o hynny i Lundain, a gyrrem ninnau yn ol i chwithau grynhodeb o'n hamgylchiadau ninnau. Felly hyrwyddid undeb, ychwanegid cariad, a chryfheid ein dwylaw.

Gellir gwneud yr hyn oll heb ymadael yn ffurfiol a'r Eglwys Sefydledig,—yr hyn nid wyf yn tybied fod Duw eto yn galw arnom i wneud; ond os teimla brawd neu chwaer awydd cymuno gyda'r Ymneillduwyr, ac yn teimlo eu hunain yn rhydd i gymuno yn yr Eglwys hefyd, dylid eu gadael at eu rhyddid. . .

Dichon, ar of hyn, y caniata Duw imi ddod atoch chwi, ac y cawn fwynhau cyfeillach felus â'n gilydd. . .

Eich cariadus frawd a gwas,

GEORGE WHITEFIELD.

Gwelir yn y llythyr uchod amryw bethau tra phwysig yn eu perthynas a'r Diwygiad ar y pryd hwnnw, ac yn ei ddad-blygiad dyfodol. Ymhlith yr amlycaf o honynt gellir nodi:—1. Fod sefyllfa pethau yng Nghymru yn gofyn y pwyll a'r doethineb mwyaf.

2. Fod anghydwelediad yn bodoli yn eu plith.

3. Fod hyn yn codi yn rhannol oddiwrth awydd am gael blaenori eu gilydd.

4. Fod Whitefield am ddwyn adref i'w meddyliau y ffaith y gall fod "amryw ddoniau, ond yr un Ysbryd,"—ac y dylai pob un lenwi'r cylch at yr hwn y cymhwysir ef gan ei ddawn.

5. Fod y cwestiwn o gymuno gyda'r Ymneillduwyr ar y naill law, ac yn yr Eglwys ar y llall, eisoes yn cynhyrfu'r frawdoliaeth.

6. Fod cwestiwn safle a pherthynas y lleygwyr â'r gwaith, yn gwasgu am sylw.

7. Fod Whitefield yn ystyried fod cysylltiad hanfodol yn bodoli rhwng y gwaith yn Lloegr a'r gwaith yng Nghymru.

Heb fynd i aros yma uwch ben y cwestiwn, gellir dweyd fod Whitefield, wrth drefnu'r Gymdeithasfa a'r Seiadau ar ol hyn, wedi rhoi y rhan fwyaf o'r awgrymiadau uchod mewn gweithrediad ymarferol.

Mae yn deilwng o sylw cyn myned ym mhellach, fod Whitefield hyd yma, ac yn wir hyd ddiwedd ei oes—wedi glynu yn fwy ffyddlon na neb o'i gyd-lafurwyr wrth ei syniad gwreiddiol o Efengylydd, sef un a fynnai bregethu'r Efengyl i bawb heb wahaniaeth enwad. Yr oedd y syniad o enwadaeth yn wrthun ganddo. Yn yr Ysgotland ceisiodd y Presbyteriaid gyfyngu ei wasanaeth i'w cynulleidfaoedd a'u cyfundrefn hwy; a chan iddo wrthod cael ei gyfyngu felly, ni fynnent mwyach gael ei wasanaeth.[12] Casglwn oddiwrth lythyrau pellach o'i eiddo, fod yr anghydfod enwadol wedi dod i mewn i ymgynghoriadau'r brodyr yng Nghymru.Os dyrry'r Arglwydd ini y gwir ysbryd Catholig, yn rhydd rhag zel sectol, gwnawn yn dda. Blin gennyf ddeall fod cymaint o gulni ymhlith rhai o'r brodyr yng Nghymru."—Llythyr Whitefield at Mr. Oulton, gweinidog y Bedyddwyr yn Llanllieni, Mai 27, 1742. Ddeufis cyn hynny yr oedd Harris yn ysgrifennu at Whitefield i ddweyd fod croesdynnu wedi bod yn y gynhadledd a gynhaliwyd gan arweinwyr y mudiad, ond eu bod wedi ymgymodi a'u gilydd mewn teimladau drylliog iawn.[13] Yr oedd ysbryd y dadleuwr yn gryf yn Harris, ond yn wan yn Whitefield. Lle rhuthrai'r blaenaf yn benboeth i gweryl, lleddfai'r olaf yr ystorm yn ysbryd Tywysog Tangnefedd. Gan ysgrifennu at Howell Harris dywed:—

"Mae yn wir flin gennyf fod y fath ysbryd cul yn cael ei arddangos yng Nghymru. Eithr pa beth a ddywedwn? Cariad y Prynwr yn unig a all uno a chadw'r praidd gyda'u gilydd. Ni wna'r tro i groes-ddadleu â dall-bleidwyr a phobl gul eu hysbryd. O'm rhan fy hun bwriadaf o hyn allan i ddweyd llai wrth, a gweddio mwy dros, y cyfryw bobl."[14]

Dyna'r ysbryd rhagorol yn yr hwn yr edrychai y gwr mawr hwn ar yr ymbleidio a flinai Cymru. Yr ystyriaethau hyn, yn ddiau, a'i cymhellodd i gymeryd rhan mwy amlwg nag erioed yn y gwaith yng Nghymru. Yr oedd yn yr Ysgotland pan gafodd lythyrau pellach o Gymru yn dangos fod pethau yno mewn cyflwr gwir ddrwg. Yr oedd yntau ar y pryd dan bwys o ofidiau personol. Ymhlith pethau eraill, yr oedd yr Ysgotiaid Presbyteraidd wedi dechreu ei erlid. Aethant mor bell a chyhoeddi dydd o ympryd a gweddi o'i achos ef, gan ddweyd mai twyll oedd ei waith, ac mai trwy offerynoliaeth y diafol y'i cyflawnai.[15] Ac eto, ynghanol ei ofidiau ei hun, cafodd hamdden i dalu sylw i anghenion Cymru. Dyma fel yr ysgrifenna at Harris:—

"Mae yr hyn a ddywedwch am Gymru druan wedi'm cyffroi. Gor—weddais ar fy ngwyneb heddyw, ac am beth amser deisyfais gydag ocheneidiau anrhaethadwy, am gyfarwyddyd yn hyn a materion tra phwysig ereill." [15]

Ymhen wythnos wedyn yr oedd yn ol yn Llundain; y cymylau wedi gwasgaru, a gwynepryd Duw yn llewyrchu arno. Yr oedd wedi cael gweledigaeth eglur pa beth oedd raid ei wneuthur yng Nghymru. Yr oedd yr ocheneidiau anrhaethadwy wedi enill gwrandawiad ac atebiad. Dyma yr hyn a ysgrifenna yn awr at Harris:—

"Mae achos Cymru ar fy nghalon. Bwriadaf gyfarfod â'r brodyr i gyd yno gyda'u gilydd. Gan fod y deffroad yn ymddangos fel i raddau wedi myned heibio, a bod cynifer o feini bywiol, mae yn bryd meddwl am eu rhoi ynghyd. Bydded i Adeiladydd mawr yr Eglwys ein harwain a'n cyfarwyddo. Yr ydym yn cael dyddiau hyfryd yma. Mae'r bobl a minnau wedi bod ym maesdrefi'r nef! Bendigedig fyddo Duw. Preswyliaf yn y nefoedd bob dydd."[16]

Nid hir y bu Whitefield yn awr cyn trefnu cynnal y Gymdeithasfa Gyffredinol gyntaf a gynhaliwyd erioed yng Nghymru. Yr oedd rhai o arweinwyr y mudiad wedi arfer cyfarfod a'u gilydd yn achlysurol cyn hyn, er ymgynghori a'u gilydd, ond nid oedd unrhyw ymgais wedi cael ei wneud i'w cysylltu yn gyfundrefnol a'u gilydd. Hyn a amcanai Whitefield yn awr ei wneud.

Yn Watford y cynhaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf hon. Yr oedd yno gapel Anibynnol, yng ngweinidogaeth David Williams, Pwllypant, yn agos i filltir o Gaerffili. Yr oedd y David Williams hwn, fel y cofir, yn un o'r gweinidogion Ymneillduol a wahoddasant Howell Harris i ddod i gynnal cyfarfodydd diwygiadol yn y wlad, ac a drefnasant gyhoeddiadau iddo. Bu am rai blynyddau yn nodedig o ymdrechgar a llwyddiannus, ac yn dal cysylltiad agos a chynnes iawn â Howell Harris.

Gan fod mwy nag amheuaeth wedi cael ei daflu ar y rhan a gymerodd David Williams, Watford, yn y Diwygiad, maddeuir imi am roi yma brawf neu ddau o'r dyddordeb mawr, a'r ymroddiad egniol a ddanghoswyd ganddo yn y gwaith da. Mewn llythyr (Rhif 31 yng Nghasgliad Trefecca) a ysgrifennwyd gan Mr. Thomas, Caerffili, Tachwedd 29, 1738, at Howell Harris, dywed:—

"Bwriadwn drefnu gyda'ch cyfaill, Mr. Thomas, offeiriad Gelligaer, i ddod unwaith bob pythefnos i gapel sydd gennym yma (capel Watford o bosibl), gan hyderu y bydd er ein budd ni y rhai ydym wedi ymuno â'n gilydd i'w groesawu. Maent (y bobl) yn casglu at eu gilydd bob nos i weddio a chanu Salmau, trwy Mr. David Williams, yr hwn nid yw yn ol o gyflawni ei ddyledswydd, ond sydd yn mynd o dŷ i dŷ bob nos.

Rhif 36 yng Nghasgliad Trefecca yw llythyr oddiwrth Dd. Williams ei hun at Howell Harris. Ei ddyddiad yw Pwllypant, Chwefror 7fed, 1739. Dywed:—

"Hyderaf eich bod yn iach, a bod gwaith yr Arglwydd yn llwyddo yn eich llaw.

Mae'r drws yn ardal Gwernydomen eto'n agored, ac yn debyg o barhau felly; mae galwadau newydd arnaf bob wythnos. Mae'r bobl yn tyrru i glywed yr hyn y gwêl Duw yn dda ei wneuthur. Mae gennym yn awr dair Seiad yn mynd ymlaen heb fod ymhell o Gaerdydd. Mae'r Seiad yng Nghaerdydd[17] yn danfon ei serch i chwi, ac yn eich anrhegu â dwy gyfrol Woodard. Nid yw Mr. Whitefield yn dod i Bryste adeg y ffair. Derbyniasom naw o aelodau er pan fuoch yma, ac mae cynifer eto yn gofyn am eu lle. Bum yn Gelligaer yn annerch cynulleidfa fawr neithiwr. Gelwais gyda Mr. Thomas (yr offeiriad), ond nid oedd yn y ty. Bum yn ymweled â Seiad Llanhiddel, lle y canfyddais lawer o ysbryd y ddeddf. Hyderaf fod gan Dduw lawer o waith i chwi i'w gyflawni yn y wlad hon, ac yn enwedig yn Sir Fynwy. Mae galwadau amdanoch, un o Gasnewydd a'r llall o Gaerlleon. Myfi yw eu cennad hwy atoch. Nid wyf ond newydd gyrraedd adref, a rhaid imi fynd allan eto yn fuan, a chan fod rhaid imi ysgrifennu eto at y Parch. Griffith Jones, nid oes gennyf ond amser i roi i chwi yr ychydig awgrymiadau hyn. Mae'r Seiadau yn cyfarfod yn ein ty ni bob dydd Gwener. Bydded ini oll ymdrechu drosom ein hunain, a thros ein gilydd, a thros holl Israel Duw. Cefais lythyr oddiwrth Mr. Griffith Jones, yn rhoi awdurdod i sefydlu amryw ysgolion o dan ei reolau ef. Mae gan Mr. Thomas (offeiriad Gelligaer) gynulleidfa fawr yng Nghaerffili, ac yn cael ei gymeradwyo yn fawr. Bydded i Dduw eich llwyddo chwithau, a chofiwch fi yn eich gweddiau."
The Calvinistic Methodist Societies (1739 to 1752) and their relation to the Baptists and Independents.


Oddiwrth y llythyrau uchod mae amryw bethau'n amlwg, ac yn eu plith—

1. Fod David Williams yn cymeryd rhan flaenllaw yn y mudiad diwygiadol.
2. Ei fod ar y telerau goreu a mwyaf cyfeillgar â Howell Harris.
3. Ei fod yn trefnu ac yn chwilio am gyhoeddiadau i Howell Harris.
4. Ei fod ei hun yn cynnal ac yn arolygu Seiadau.
5. Ei fod yn cydweithio'n selog a chyfeillgar âg Offeiriaid Efengylaidd.
6. Ei fod yn gwybod am symudiadau a threfniadau Whitefield.
7. Fod bwriad i gael Whitefield i Gymru cyn iddo ddod i Bryste.

Dyna'r gweinidog Ymneillduol yng nghapel yr hwn y cynhaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf, a'r lle a wnaed o'r pryd hwnnw allan, am gryn amser, yn bencadlys y mudiad cyfundrefnol i hyrwyddo'r Diwygiad.[18] Mantais arbennig i hyn oedd agosrwydd ty plas y Watford, preswylfod Mr. Thomas Price—"Price yr Ustus," fel y geilw Williams, Pantycelyn, ef. Amaethwr a phorthmon cyfrifol a chefnog oedd Thomas Price, aelod a swyddog yn Eglwys Anibynnol Watford. Chwareua ef, a'i deulu, a'i gartref, a'i gyfoeth, ran tra phwysig yn hanes y Diwygiad yng Nghymru. Yr oedd ei dŷ bob amser yn agored fel llety fforddolion i weision yr Arglwydd a'r un croesaw cynnes Cymreig yn cael ei estyn i George Whitefield, Howell Harris, John Wesley, Daniel Rowlands, Edmund Jones, Williams, Pantycelyn, ac eraill o bob llwyth, ac iaith, ac enwad, a gymerent ran yn y gwaith mawr.

Yma, ynte, y cyfarfyddai aelodau'r Gymdeithasfa i fwynhau lletygarwch Thomas Price, a'i ferch ynghyfraith, Grace Price, ar ol gorffen yr oedfaon a'r cynadleddau yn y Capel.

Yng Nghapel y Watford, ynte, y cyfarfyddodd y Gymdeithasfa gyntaf, ac ym mhlasdy Watford y cafodd y cenhadon luniaeth a llety. Saith o bersonau yn unig oedd yn bresennol yn y Gymdeithasfa honno—yr un rhifedi ag a gyfarfyddodd John Wesley yn Llundain, at yr un pwrpas, bedair blynedd cyn hynny. Wele enwau'r saith:—George Whitefield, Daniel Rowlands, John Powell (ciwrad Aberystruth), William Williams, Pantycelyn, Howell Harris, John Cennick, a Joseph Humphreys. Os dadansoddwn y rhestr, cawn y ffeithiau dyddorol canlynol am gyfansoddiad y Gymdeithasfa "Fethodistaidd " gyntaf hon:—

1. Yr oedd tri Sais a phedwar Cymro ynddi.
2. Yr oedd pedwar offeiriad a thri lleygwr ynddi.
3. Yr oedd y tri lleygwr hyn wedi ffurfio cylchoedd diwygiadol iddynt eu hunain.
4. Yr oedd un (Cennick) yn fab i Grynwr—trodd wedyn at y Morafiaid.
5. Yr oedd un arall (Humphreys) yn fab i weinidog Anibynnol.
6. Yr oedd un arall (Williams, Pantycelyn) yn fab i ddiacon gyda'r Anibynwyr.
7. Yr oedd pedwar o'r saith yn swyddogion cydnabyddedig o gyfundrefnaeth y Tabernacl yn Llundain, ac un arall yn gwasanaethu yn achlysurol o dan yr un gyfundraeth.

Heb fynd i fanylu llawer ar y gweithrediadau, digon yw dweyd ar hyn o bryd fod Whitefield wedi cael ei ethol yn Llywydd am y tro, a bod y gynhadledd wedi mabwysiadu y rhan. fwyaf o awgrymiadau Whitefield yn ei lythyr at y frawdoliaeth (gwel tudal 260). Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd misol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Yn un o'r cyfryw a gynhaliwyd yn Glanrafon ddu, Sir Gaerfyrddin, Dydd Gwyl Dewi, penderfynnwyd cymeradwyo i'r Gymdeithasfa y pethau canlynol:—

1. Fod Cymdeithasfa Gyffredinol o weinidogion a chynghorwyr Lloegr a Chymru i gyfarfod bob hanner blwyddyn.
2. Fod y brodyr Seisnig i gyfarfod unwaith ar wahan, a'r brodyr Cymreig unwaith ar wahan, rhwng pob Cymdeithasfa Gyffredinol.
3. Fod y ddwy adran i ohebu yn gyson a'u gilydd.

Golygai hyn o angenrheidrwydd undeb peiriannol (organic union) rhwng "Methodistiaeth" Cymru ac eiddo Lloegr. O'r dydd hwnnw allan cawn y Diwygwyr Cymreig yn danfon eu hadroddiadau yn gyson i Whitefield. Un o'r rhai cyntaf, os nad y cyntaf oll i wneud hynny oedd Daniel Rowlands.. Ymhen wythnos wedyn, gwnai Howell Harris yr un peth. Dilynwyd eu hesiampl gan eraill. Ar ran y Seiadau gwledig, yn arbennig rhai Sir Aberteifi, deisyfir ar Whitefield i gyd-ddioddef a'u gwendidau. Medd yr adroddiad:

"Maent yn wasgaredig ar hyd a lled y wlad, a chan eu bod yn wir dlodion, nis gallant ddod i fyny â'r drefn a'r cynllun manwl sydd gennych chwi yn Llundain. Gwelir yn feunyddiol fod yr hyn sydd yn iawn ac yn adeiladol mewn unlle, a chyda rhai pobl, yn anymarferol ymhlith eraill. Gadawn i'r Brawd Rowlands drefnu ac uno y bobl mewn dosbarthiadau (bands) cyfrinachiol, a chanfyddir effeithiau daionus hynny. Mae wedi darparu rhai eneidiau godidog i'w cynghori a'u bugeilio."

A'r un adroddiad ymlaen i ddweyd fod wyth o siroedd Cymru yn agored i Whitefield, ac yn sychedu am ei glywed, ac y byddai "llawer o Eglwysi, heblaw'r Capeli," yn agored iddo. A'i ddisgwyliadau wedi cael eu codi yn uchel gan y rhagolygon hyn, a'i galon a'i holl natur ar dân gan zel at y gwaith, daeth Whitefield i lawr i Gymru i gynnal yr ail Gymdeithasfa Chwarterol. Dyma hanes un diwrnod o waith ar y ffordd yno:

I'r gwely un o'r gloch y boreu, Codi am bump. Marchogaeth i'r cyfarfod erbyn saith. Pregethu. Cynorthwyo i weinyddu'r cymun. Marchogaeth i Stroud. Pregethu yno i gynulleidfa o 12000. Am 6 yn yr hwyr pregethu mewn lle arall i gynulleidfa gyffelyb. Yna i gariad-wledd y Seiadau. I'r gwely ganol nos.

Cyrhaeddodd Watford, Mawrth y Pasg, 1743, lle y croesawid ef gan deulu Price, a chan y brodyr oedd eisoes wedi ymgynnull i'w gyfarfod. Ganol dydd trannoeth pregethodd bregeth agoriadol y Gymdeithasfa. Yna trowyd eu sylw at waith y Gymdeithasfa. Parhaodd yr eisteddiad cyntaf hyd saith o'r gloch yr hwyr; dechreuwyd yr ail eisteddiad am ddeg o'r gloch y nos, a pharhawyd hyd ddau o'r gloch y boreu. Trannoeth cafwyd eisteddiad arall, yn para hyd bedwar o'r gloch prydnawn. Ar ol cael pryd o fwyd, traddododd Whitefield bregeth; ac yna ail ymaflwyd yn y gwaith o drefnu, a pharhawyd wrtho tan ganol nos. Yn y cyfarfodydd hyn gorffennwyd holl waith angenrheidiol y trefnu, ar y llinellau a nodwyd eisoes yn llythyr Whitefield.

Penodwyd Whitefield yn Llywydd Parhaol y Cymdeithasfa "bob amser tra byddwyf yn Lloegr," eb efe yn ei lythyr at ei gyfaill John Syms. Yr oedd Howell Harris i fod yn ddirprwy-lywydd, i gymeryd lle Whitefield pan nas gallai ef fod yn bresenol. I wneud y cysylltiad â Lloegr yn amlycach, trefnwyd fod Harris i fod at alwad Whitefield i fynd i Loegr i'w gynorthwyo pan fyddai angen; fod Herbert Jenkins i fod yn gynorthwywr i Howell Harris, "ac hefyd i'r brodyr Seisnig." Yr oedd Thomas Lewis (brawd argraffydd y Weekly History) hefyd i gynorthwyo'r brodyr Seisnig pan elwid arno. Penderfynwyd ymhellach "Fod yr arolygwyr i ddanfon adroddiad am waith Duw yn eu meusydd neillduol, i Lundain, i fod yno ddiwedd pob mis, ac i gyfeirio eu llythyrau at weinidog y Tabernacl (Whitefield) i ofal Mr. John Syms." Wedi myned drwy'r gwaith angenrheidiol yma, trodd Whitefield at waith oedd yn cydfynd yn well â'i anianawd, sef teithio'r wlad fel Efengylydd. Aeth o Watford drwy Forgannwg, Caerfyrddin, a Phenfro, gan gael derbyniad tywysogaidd pa le bynnag yr elai. Yng Nghaerfyrddin, wrth fynd, yr oedd y Frawdlys yn eistedd; a chan ofni colli'r cyfle i'w glywed, gyrrodd yr Ustusiaid gais ato i aros tan y rhyddheid hwynt, fel y medrent ddod i'w wrando. Wrth groesi'r culfor o Lanstephan i Ferryside, ar ei ffordd yn ol, pasiodd long arfog, swyddogion yr hon, pan adwaenasant ef, a orchymynasant danio cyfarch (salute) iddo,—fel pe bae yn Llysgenad gwlad arall, neu'n aelod o'r teulu brenhinol. Wrth gymharu ei lythyrau yn rhoi hanes y daith hon, cawn ei bod rywbeth fel a ganlyn:—

Mawrth, Ebrill 5ed, 1743, Bryste a Watford; Mercher, y 6ed, Cymdeithasfa Watford; Iau, y 7fed, eto; Gwener, yr 8fed,; Sadwrn, y 9fed, Caerdydd, Aberbedw, a Fonmon; Sul, y 10fed, Penmarc, Fonmon, a Llantrisant; Llun, yr 11fed, Margam, a Chastellnedd; Mawrth, y 12fed, Abertawe, Harbrook, Abertawe a Llanelli; Mercher, y 13fed, Llanelli (2), ac Abergwili; Iau, y 14fed, Caerfyrddin (2); Gwener, y 15fed, Narberth; Sadwrn, yr 16fed, Norton, a Jefferston; Sul, y 17fed, Llysyfran, a Hwlffordd; Llun, y 18fed,; Mawrth, y 19fed, Hwlffordd, a Narberth; Mercher, yr 20fed, Larn, a Cydweli; Iau, yr 21fed, Caerfyrddin, i 10,000 o bobl, Rowlands yn ei ddilyn; Gwener, yr 22fed, Cymdeithasfa Caer—fyrddin; Sadwrn, y 23fed, Rhuadr(?), Llangathen, a Llanymddyfri; Sul, y 24fed, Llanymddyfri, ac Aberhonddu; Llun, y 25fed, Trefecca, a Grwynefechan; Mawrth, y 26fed, Gelli, Llanfairmuallt, a Gore; Mercher, y 27fed, Leominster, a Hereford; Iau, y 28fed, Ross; Gwener, y 29fed, Gloucester.

Pregethai ymhob lle, weithiau ddwywaith yn yr un lle. Ar y daith yma teithiodd dros tua 400 o filldiroedd, treuliodd tri diwrnod mewn dwy gymdeithasfa, pregethodd 40 gwaith. ymwelodd â tua 13 o drefydd, a theithiodd drwy saith sir.

Erbyn hyn yr oedd Whitefield wedi ffurfio cysylltiadau eraill, oedd yn ei rwymo yn agosach fyth wrth Gymru. Yr oedd wedi priodi boneddiges o'r enw Elizabeth James, a breswyliai yn Abergafenni. Carwr rhyfedd ydoedd. Mrs. Edwards, gwraig yr enwog Jonathan Edwards, a'i cymhellodd gyntaf i briodi.

"Gweddiais lawer ar Dduw," eb efe yn ei ddyddiadur,[19] "ar iddo ddanfon imi ferch i Abraham yn wraig imi . . . Arglwydd, nid wyf yn dymuno fy newisiad fy hun. Ti a wyddost fy amgylchiadau, ac mae ynot ac errot Ti y dymunaf briodi. Dewisaist Rebecca i Isaac. Dewis ymgeledd gymhwys i minnau, i'm cynorthwyo i gario ymlaen y gwaith mawr a ymddiriedaist imi."

Atebwyd ei weddi. Ymhen blwyddyn yr oedd wedi priodi. Profodd hi yn bopeth a ddeisyfodd. Marchogodd ef dri chan milltir er mwyn cyfarfod â'i wraig—ac ymhen wythnos ar ol priodi, gadawodd hi i fynd at ei hoff waith o efengylu. O'r Watford, cartref y Cymro cynnes galon Thomas Price, y "cododd allan" i'w briodi yn Eglwys y Plwyf, Eglwysilan. Ni cheir ond y cyfeiriad byrraf ac anamlaf yn ei ysgrifeniadau at y digwyddiad; dim am y garwriaeth; prin hanner dwsin o eiriau am y briodas ei hun. "Gwahoddwyd Crist i'n priodas," meddai, "a daeth yno." Ychydig iawn a ddywed am ei wraig. Yn hyn oll mae'n wahanol iawn i Howell Harris, yr hwn a ddyry i ni holl hanes ei garwriaeth yn fanwl. Dichon mai am ei fod yn son cyn lleied am dani, mae'r argraff wedi mynd ar led fod y briodas wedi troi allan yn un anhapus.[20] Eithr nid yn unig ni cheir dim profion i gadarnhau hyn, ond i'r gwrthwyneb cawn liaws o brofion ei bod hi wedi bod yn ymgeledd gymhwys iddo. Bodolai cydgordiad perffaith rhyngddynt cyn ac ar ol priodi ar gwestiwn pwysig gwaith mawr bywyd Whitefield. Ffafrai hi ei genhadaeth cyn priodi; cynorthwyai ef yn ei genhadaeth ar ol priodi. Aeth gydag ef i'r America. Ar y ffordd yno, bygythid hwynt gan long arfog, ac aeth Mrs. Whitefield at y gwaith o doddi plwm a'i wneud yn fwledi.[21] Wedi cyrraedd America, teithiodd 400 milltir gyda'i phriod drwy goedwigoedd ac anialwch er mwyn gweini arno. Pryderai bob amser yn ei gylch rhag iddo orweithio ei hun. Mae'r llythyrau a ysgrifenodd hi o'r America at ei chyfeillion yng Nghymru, yn rhai nodedig o dyner, ac yn arddangos calon y wraig bryderus ac ysbryd dyrchafedig y Cristion ffyddlon. Dywed cylchgronau'r cyfnod [22] ei bod yn ddynes gyfoethog iawn, gyda ffortiwn o £10,000. Ond dywed Whitefield ei hun yn ei lythyrau, nad oedd hi nac yn hardd o ran ei gwynepryd, nac yn gyfoethog mewn eiddo bydol. Gan nad beth am hynny, bu yn ymgeledd gymhwys iddo. Mor awyddus ydoedd hi i fod gydag ef, fel y gorfu ei chloi yn ei hystafell pan newydd roi genedigaeth i'w baban cyntafanedig, rhag rhuthro ohoni allan ar ei ol i'r capel. Bedyddiodd Whitefield y plentyn ei hun yn y Tabernacl, yngwydd cynulleidfa o filoedd—ac ergyd trwm i galon a gobeithion y tad a'r fam oedd marwolaeth buan y bychan. Cafodd Whitefield ras mwy nag eiddo Aaron. Nid tewi a wnaeth, eithr, eb efe:—

"Galwais bawb i mewn i uno â mi mewn gweddi, yn yr hwn y bendithiais Dad y trugareddau am roddi mab i mi, am ganiatau i mi ei gadw cyhyd, ac am ei gymeryd oddiwrthyf mor fuan. Cymhellodd pawb fi i roi heibio pregethu tan ar ol claddu'r plentyn. Ond cofiais eiriau Matthew Henry, na raid i wylo rwystro hau. Felly pregethais ddwy waith drannoeth, a'r dydd canlynol, a phan oeddwn yn gorffen pregethu, dyma gnul cyntaf y gloch yn swnio yn angladd fy mhlentyn. Gan edrych i fyny, cefais nerth i ddyweyd fod fy nhestyn, Mae popeth yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw,' yn fy ngwneud mor foddlon i fynd allan i'w gladdu, ag oeddwn i glywed am ei enedigaeth."[23]

Dyna engraifft o ymostyngiad Cristionogol na welir ond yn anaml iawn ei gyffelyb. Danghosodd Whitefield yr un ysbryd ynglŷn â'r gwaith yng Nghymru. Pan briododd, methodd aros wythnos gyfan gyda'i wraig heb fynd allan i bregethu; pan fu farw ei blentyn, methodd aros am ddiwrnod heb fynd ymlaen â'i waith fel efengylydd; eithr pan gymerodd Y Gymdeithasfa yng Nghymru i'w ofal, arhosodd flwyddyn gyfan yn y wlad hon, er ei fod wedi arfaethu mynd i America. Aeth yno yn 1744, a phan ddychwelodd cafodd fod pethau yn ei absenoldeb wedi syrthio i gryn anrhefn. Nid cynt y llwyddodd i osod pethau yn eu lle yn Llundain, nag y brysiodd i lawr i Gymru i Gymdeithasfa Watford, yn haf 1748. Daeth yma drachefn y flwyddyn ganlynol, pan gafodd Edmund Jones mewn angen. Yr oedd "Yr Hen Broffwyd" wedi gorfod gwerthu ei lyfrau, er mwyn talu rhan o ddyled ei gapel.2[24] Llwyddodd Whitefield gael gan ychydig gyfeillion yn Llundain. i estyn llaw o gymorth i'r hen was da a ffyddlon hwn yn ei gyfyngder.

Erbyn hyn yr oedd gwres cyntaf y Diwygiad wedi oeri, a theimladau anymunol wedi dod i mewn. Ond treuliodd Whitefield fis yng Nghymru tebyg i'r un a dreuliodd yma chwe mlynedd cyn hynny. Teithiodd y wlad, gan ail gynneu'r tân drwy holl siroedd y deheudir. O fewn y mis hwnnw teithiodd 800 milltir, a phregethodd i dros 100,000 o bobl wahanol, gan ymweled âg wyth o siroedd Cymru.[25] Am y rhan a gymerodd ym mudiad Iarlles Huntingdon, a'i Choleg yn Nhrefecca, ymdrinir eto. Ar ol hyn ni chafodd ymweliad nerthol yng Nghymru tan y flwyddyn 1766. Y flwyddyn honno a'r ganlynol, cynheuwyd y tân drachefn yn y Dywysogaeth; a Whitefield a Howell Davies oedd y prif gyfryngau. "Mae fel yr hen amser gynt wedi dod nol!" ebe Whitefield. Gwisgodd y daith hon lawer o wedd ymweliad ymadawol. Fflach olaf y gannwyll cyn mynd allan, ydoedd yr ymdrech hwn i Howell Davies a George Whitefield. Yn un o'r pregethau olaf a draddododd Whitefield, yn Haverfordwest, anogodd y bobl i "fynd i unrhyw le o addoliad lle y pregethir Crist, a Christ yn unig." Ymhen ychydig gyda dwy flynedd ar ol hyn, bu farw'r ddau, Howell Davies a George Whitefield, y Cymro a'r Sais ymroddgar, ac wrth bob un o'r ddau dywedodd eu Harglwydd, "Da was da a ffyddlon—dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd!"

Nodiadau

[golygu]
  1. 1.0 1.1 Dyddlyfr Howell Harris.
  2. Casgliad Trefecca, Llythyr 48, Meh. 23, 1739, &c
  3. Eto, Llythyr 36, Chwef. 7, 1739
  4. Eto, Llythyr 21, Meh. 23, 1738
  5. Eto, Llythyr 25, &c.
  6. Eto, Llythyr 24, Awst 10, 1738
  7. Edmund Jones, Pontypool.
  8. Lewis Rees, Llanbrynmair.
  9. Ceir hanes dyddorol anghyffredin am yr holl daith hon yn y Gloucester Journal, Ebrill 24, 1739.
  10. Llythyr Howell Harris, Hydref 27, 1740.
  11. Gwel Llythyr Whitefield at Harris, Meh. 6, 1741.
  12. Llythyr Whitefield o Edinburgh, Awst 13, 1741, ac eraill o'i lythyrau.
  13. Llythyr Howell Harris o Lanwrtyd, Mawrth 24, 1742
  14. Llythyr Whitefield at Harris, Mai 29, 1742
  15. 15.0 15.1 Llythyr Whitefield at Harris, Camburslang, Awst 26, 1742.
  16. Llythyr Whitefield at Harris o Hoxton, Medi 3, 1742
  17. Yr oedd Caerdydd yn rhan o gylch gweinidogaeth Dd. Williams, ac yntau yn fugail ar yr eglwys yno yn ogystal ag un Watford. Dyma'r Seiad yr ymwelodd Whitefield gyntaf â hi o holl Seiadau Cymru. Gwel tudal. 245.
  18. Dichon y maddeuir i mi yma am adgoffa'r darllenydd, mai o Eglwys Anibynnol Watford y ffurfiwyd Eglwys Anibynnol y Groeswen. Gwn fod hanesydd Methodistaidd yn hawlio'r Groeswen fel Eglwys a Chapel Methodistaidd, ond gan fod yr un awdwr yn hawlio Eglwys a Chapel Watford hefyd, fel eiddo Methodistaidd, prin mae eisieu dweyd dim pellach ar y mater.—B. G. E.
  19. Whitefield's Journals, Northampton, Oct. 19, 1740.
  20. Southey's Life of Wesley: Memoirs of Rev. C. Winter, by Jay, p. 80.
  21. Whitefield's Works, vol. ii. p. 68.
  22. The Gentleman's Magazine, 1741, tudal. 608.
  23. Llythyr Whitefield, Gloucester, Chwef. 9, 1744.
  24. Llythyr Whitefield, Abergafenni, Mai, 1749.
  25. Llythyr Whitefield, Bristol, Meh. 24, 1749.

ATODIAD I PENNOD XX.
Y SEIADAU METHODISTAIDD

Wele am y tro cyntaf erioed Restr Gyflawn o'r holl "Seiadau Methodistaidd" a sefydlwyd adeg y Diwygiad, ag y ceir unrhyw gof—nodion am danynt. I gael o hyd i'r rhestr hon, a'i gwneud mor gyflawn ag sydd modd, yr wyf wedi cymharu yr oll o'r Adroddiadau ysgrifenedig a ddanfonwyd gan Y Cynghorwyr a'r Arolygwyr i'r Gymdeithasfa, gyda'r rhai a geir yn Methodistiaeth Cymru.

Estynna dyddiad yr Adroddiadau hyn—y rhai ydynt eto ar gael yng Nghasgliad amhrisiadwy Llawysgrifau Trefecca—o ddechreu 1743, ymron yn nyddiau Cymdeithasfa hanesyddol Watford, hyd mis Mai, 1750, er na cheir adroddiadau ond am ychydig ohonynt ar ol Mai, 1748.

Mae rhai o'r Adroddiadau hyn yn llawysgrif wreiddiol y Cynghorwyr neu'r Arolygwyr; eraill wedi cael eu codi o'r llawysgrif wreiddiol i Lyfr Cofnodion y Gymdeithasfa. Yr wyf wedi cymharu y rhai hyn drachefn yn ofalus â'u gilydd, rhag y gallai fod Seiad yn cael ei henwi yn y naill, ac heb fod yn y llall. Nid wyf yn ymwybodol wedi gadael allan unrhyw Seiad, boed fach boed fawr, y gellir mewn unrhyw fodd olrhain ei hanes yn yr Adroddiadau, y Cofnodau, neu Methodistiaeth Cymru.

Am lawer o'r Seiadau, ceir rhif yr aelodau yn cael ei roi yn yr Adroddiad. Ymhob cyfryw amgylchiad ceir rhif yr Aelodau yn y rhestr ganlynol. Amrywiai Aelodaeth Seiad y pryd hwnnw fel yr amrywia aelodaeth Eglwys yn ein dyddiau ni. Yn y rhestr ganlynol yr wyf wedi rhoddi i bob seiad y nifer uchaf o aelodau y ceir hanes am danynt yn perthyn i'r Seiad honno ar unrhyw adeg o fewn tymor yr Adroddiadau.

Yr wyf wedi rhannu'r Seiadau ymhob sir yn dri dosbarth, sef:—

i. Seiadau a ddiflanasant yn gyfangwbl.

ii. Ardaloedd lle ffurfiwyd Eglwysi Methodistaidd o fewn chwarter canrif ar ol sefydlu'r Seiad.

iii. Ardaloedd lle y ffurfiwyd Eglwysi Methodistaidd yn ddiweddarach,—ond na cheir eu dyddiad, neu na olrheinir eu cysylltiad uniongyrchol a'r Seiadau.

Dynoda'r i., ii, iii., yn y rhestr ganlynol, i ba un o'r dosbarthiadau uchod y perthyn y Seiad.

Dylaswn, o bosibl, ddweyd fy mod wedi cymeryd dyddiadau sefydliad yr Eglwysi hyn o ffynonellau Methodistaidd swyddogol.

Golyga'r llythyren a o flaen enw mai yn Llawysgrifau Trefecca yn unig y ceir y manylion;

b, Mai yn Methodistiaeth Cymru yn unig y ceir y manylion; a

c, Fod y manylion i'w cael yn Llawysgrifau Trefecca ac ym Methodistiaeth Cymru.

Dynoda'r ffigiwr o flaen enw'r Seiad, ei rhif ar fy rhestr; dynoda'r ffigiwr ar ol enw'r Seiad, nifer uchaf yr aelodau y ceir hanes am danynt; dynoda'r dash (—) ar ol enw'r Seiad na cheir cyfrif o gwbl am nifer yr aelodau.

SIR ABERTEIFI.

i.—1, c, Blaenhownant, 15; 2, a, Blaenporth,—; 3, c, Coedybrain,—; 4, a, Cwmmeirig,; 5, c, Dyffrynsaith, 26; 6, a, Llwynboidy, 7, a, Llanfairyllwyn,; 8, c, Llanllwchaiarn, 13; 9, c, Llwyndafydd, 18; 10, c, Manordeifi,; 11, a, Pontargamddwr,; 12, a, (at Thomas Hughes'), 12.

ii.—1, b, Aberteifi,—; 2, c, Blaenpennal, 23; 3, c, Capelgwynfil, 64; 4, c, Ffrwdwenith,—; 5, c, Llanddewi, 12; 6, c, Llangwyryfon, 25; 7, c, Llechryd, 24; S, c, Llethrod, 40; 9, c, Newcastle Emlyn, 8; 10, b, Penlan, 28; 11, b, Pennant,—; 12, c, Rhydfendigaid, 15; 13, b, Rhiw—lidog,—; 14, c, Tanyrallt, 20; 15, c, Twrgwyn, 14.

iii.—1, c, Aberporth, 22; 2, a, Crosswood,—; 3, c, Llanilar,—; 4, c, Llanbedr, 29.

SIR BENFRO.

i.—1, a, (Below Pembroke), 20; 2, a, Blaenhyfri,—; 3, c, Carew, 60; 4, a, Dynddenny,—; 5, c, Eglwyswrw, 35; 6, a, Fenton, 35; 7, a, Ffosyvicar, 20; S, c, Gellidywyll, 13; 9, a, Henllan,—; 10, c, Ismaston with Prendergast, 25; 11, c, Jefferson, 40; 12, c, Longhouse, 18; 13, e, Llandysilio,—; 14, c, Llawhaden, 11; 15, c, Llwyngrawys, 35; 16, c, Llysyfran,—; 17, a, Martletwy, 45; 18, c, Morvil,—; 19, c, Mounton, 25; 20, a, Park—Cliew, 50; 21, c, Pengare, 7; 22, a, Penrhose,—; 23, a, Sledgis,—; 24, a, Studder,—; 25, a, Talybont, 20; 26, a, Trebrwrnallt,—; 27, a, Trefgarnfawr,—; 28, a, Tre'rgroes,—; 29, c, Trevaughan by Whitland,—; 30, c, Trewman,—; 31, b, Weschurch,—; 32, a, Whitchurch,—

ii.—1, c, Dinas, 7; 2, b, Henbarciau, 3; 3, c, St. David's, 20; 4, c, Woodstock,—; 3, c, Fishguard, 41;

iii.—1, a, Castellblaidd,—; 2, c, Clarbeston, 4, a, Gwastadbach, 13; 5, c, Newport, 13; 6, a, Walton—West—,

SIR GAERFYRDDIN.

i.—1, a, Brynbach,—; 2, a, Cefnorwth, 22; 3, a, Cefntelyrch, 4, c, Cilcarw, 24; 5, a, Cilfroste, 20; 6, a, Cilrhedyn, 10; 7, a, Coleville,—; S, a, Crug Evan, 9, a, Cwman, 33; 10, a, Cymau,—; 11, a, Dygoed,—; 12, a, Forest,—; 13, b, Hafod,—; 14, a, Little Mill,—; 15, a, Llanbyther, 22; 16, c, Llanegwad, 20; 17, a, Llanfihangel, Aberbythych,—; 18, c, Llangathen, 37; 19, a, Llangeler, 12; 20, a, Llangynor,—; 21, a, Llanwnio,—; 22, a, Maesnoni, 12; 23, a, Merthyr,—; 24, a, Nanthai,—; 25, a, Pontgareg,—; 26, a, Trefelin yn Llan—geler,—; 27, c, Trelech,—; 28, a, Ystradffin, 12; 29, a, Wayngroes,—.

ii.—1, c, Caerfyrddin, 12; 2, c, Cayo, 60; 3, c, Cilycwm, 29; 4, c, Llan—ddeusant, 28; 5, c, Llanfynydd, 64; 6, c, Llansawel, 49.

iii.—1, c, Talley, 68; 2, a, Bryn Llansawel, 25; 3, a, Cwmaman, 4, a, Cwrtycadno,—; 5, a, Cynwil,—; 6, a, Gorseinion, 55; 7, a, Laugharne, 10; 8, c, Llanarthney, 20; 9, a, Llandefeilog,—; 10, a, Llan—ddarog,—; 11, a, Llangendeirn,—; 12, a, Llanon, 23; 13, c, Llan—pumpsaint, 43; 14, a, Llansadwrn,—; 15, a, Llanwrda,—; 16, a, Mydrim,—; 17, a, Pembrey, 11.

SIR FORGANNWG.

i.—1, c, Aberddaw, 16; 2, b, Blaenllywel,—; 3, a, Blaentaf-fawr,—; 4, a, Gelligaer, 7; 5, c, Groeswen, 63; 6, c, Hafod, 14; 7, a, Llanswyrney, 12; 8, b, Llandafen,—; 9, c, Llandilo-fach,—; 10, c, Llanedern, 9; 11, c, Llanhari, 8; 12, b, Llanilid,—; 13, a, New House,—; 14, c, Newton Nottage, 10; 15, a, Penprysg,—; 16, a, Porthceri,—; 17, a, Treoes, 15; 18, a, Welvoest, 20; 19, a, Watford—,

ii.—1, c, Berthyn, 22; 2, c, Castellnedd,—; 3, c, Creinant, 12; 4, c, Llanwonno, 7.

iii.—1, c, Casllwchwr,—; 2, c, Cynffig,—; 3, c, Dinas Powys, 15; 4, c, Glynogwr,—; 5, a, Gower,—; 6, c, Llangyfelach,—; 7, c, Llan—samlet, 20; S, c, Llantrisant, 21; 9, a, Margam,—; 10, c, Palleg,—; 11, c, Pentyrch, 9; 12, c, St. Nicholas, 32.

SIR FYNWY.

i.—1, a, Abergavenny,—; 2, a, Bedwas,—; 3, c, Caldicoat, 12; 4, c, Glascoed, 9; 5, c, Golden Hill,—; 6, c, Llanfihangel, 25; 7, a, Llan—fihangel Cilcomel,—; S, c, Llangatwg, 14; 9, c, Llanhiddell,—; 10, c, Llansantffraid,—; 11, c, Llanfaches,—; 12, c, Mouryn,—; 13, c, Mynyddislwyn, 10; 14, c, New Inn,—; 15, a, Panteg, 10; 16, c, Redwick,—; 17, c, St. Bride's, 14; 18, c, Trefethin, 19; 19, c, Undy,—

ii.—1, c, Goetre, 13.

SIR FRYCHEINIOG.

i.—1, a, Blaenyglyn, 20; 2, a, Bronydd, 20; 3, c, Cantref, 14; 4, a, Cerigcadarn,—; 5, c, Cwmdu, 12; 6, a, Dolgaer,—; 7, a, Erwood,—; 8, a, Glasbury,—; 9, b, Glyn,—; 10, a, Llanavanfawr, 16; 11, a, Llanddewi'r Cwm, 15; 12, a, Llandefalle, 14; 13, a, Llanfyrnach—; 14, a, Llaneigon, 8; 15, a, Llanveigan,—; 16, a, Llanwrthwl, 10; 17, a, Llywel, 18; 18, a, Maesmynys,—; 19, a, Penylan, 28; 20, a, Rhandirisa,—; 21, a, Sansily,—; 22, a, Tirabbot,—; 23, a, Ysgarwrach,—

ii. 1, c, Builth, 20.

iii.—1, c, Llangammarch, 15; 2, a, Bronllys,—; 3, c, Defynog,—4, b, Gorwydd,—; 5, c, Grwynaufechan, 20; 6, a, Hay, 8; 7, c, Llan—fihangel Nant Bran,—; 8, a, Llanfihangel Talyllyn,—; 9, a, Llangorse,—; 10, a, Llanwrtyd, 30; 11, c, Merthyr Cynog, 48; 12, a, Talgarth,—

SIR MAESYFED A HENFFORDD.

i.—1, c, Aberedw, 21; 2, a, Bwlch, 23; 3, b, Cefnllys,—; 4, c, Clyrow, 65; 5, a, Cusop,—; 6, a, Cwm,—; 7, c, Disserth, 30; 8, c, Glascwm,—; 9, a, Llanbadarn Fynydd,—; 10, b, Llanbister,—; 11, c Llandegley,—; 12, c, Llandrindod,—; 13, c, Llanddewi,—; 14, a, Llansantffraid,—; 15, c, Llowes,—; 16, b, Nantmel,—; 17, c, Radnor, 58; 18, a, Trewaelod, 39.

SIR DREFALDWYN.

i.—1, c, Bwlchyrhwyad,—; 2, c, Llanllugan, 20; 3, c, Mochdre, 12; 4, c, Tyddyn,—; 5, c, Llanbrynmair, 8.

ii.—1, c, Llandinam, 40; 2, c, Llanidloes,—; 3, c, Trefeglwys, 10.

iii.—1, c, Darowen,—; 2, c, Llangynog,—; 3, c, Carno,—; 4, c Llanfair, 12; 5, c, Llangurig,—.

Gadewch ini gasglu'r enwau uchod yn ol eu siroedd a'u dosbarthiadau yn un daflen, er gweled sut yr ymddanghosant. Gwelir

1. Mai Sir Gaerfyrddin a saif uchaf am rif y Seiadau ac am gyfanrif aelodaeth; ac mai Penfro ddaw yn ail.

2. Mai yn Sir Aberteifi y profodd y gwaith yn fwyaf parhaol—yr unig sir yn wir lle y ceir hanner cyfanrif y Seiadau yn byw, ac yn dadblygu i fod yn sefydliadau parhaol. Dyma faes Daniel Rowlands.

3. I'r Seiadau blannwyd ym Mynwy ddiflannu i gyd ond un; ym Mrycheiniog i gyd ond un; ym Morgannwg i gyd ond pedair; ym Maes- yfed iddynt ddiflannu bob un; ym Mhenfro i gyd ond pedair; ac yng Nghaerfyrddin i gyd ond chwech. Maes Howell Harris oedd y pedair sir cyntaf.

Ceir cyn lleied a thri, a chynifer a 68 o aelodau mewn Seiad; ond canolrif yr aelodaeth ynddynt oll oedd 23. Cyfanrif uchaf yr holl aelodau yn yr oll o'r Seiadau,-a chaniatau fod y rhai blannwyd gyntaf yn fyw pan gafwyd yr adroddiadau diweddaf am y rhai olaf a blannwyd-yw 5715. Ymhlith y rhai hyn yr oedd llawer yn aelodau a chymunwyr mewn Eglwysi Ymneillduol, a mwy drachefn yn aelodau a chymunwyr yn Eglwys Loegr.

CRYNHODEB O'R SEIADAU METHODISTAIDD A RHIF EU HAELODAU.

PENNOD XXI.
JOHN WESLEY A'R DIWYGIAD YNG NGHYMRU.

Camgymeriad tra chyffredin yw tybied mai Lloegr oedd unig faes llafur y diwygiwr duwiolfrydig John Wesley,―y cyntaf o'r "ardderchog lu" a ddeffrodd gydwybod ei oes. Y syniad cyffredin—ond cyfeiliornus—yw, na wnaeth Wesleyaeth ond y nesaf peth i ddim yng Nghymru tan ddechreu'r 19fed ganrif. Gwir i'r enwad y pryd hwnnw gymeryd camrau breision ac aml yn y Dywysogaeth—a hynny yn bennaf am y rheswm fod olynwyr John Wesley wedi dod i ddeall a chydnabod y rhaid gweithio Cymru ar linellau a thrwy gyfryngau Cymreig os oedd eu cenhadaeth yno i lwyddo. Dyna un o ddiffygion amlycaf John Wesley—ei fod yn edrych ar Gymru â llygad y Sais, ac na allai neu na fynnai weled pethau a phobl y Dywysogaeth drwy lygad y Cymro. Yr oedd y diwygiwr enwog hwn yn feddiannol ar rinweddau nad oes nemawr o haneswyr crefydd yng Nghymru wedi rhoi credid priodol iddo am danynt—ond nid yw amgyffrediad digonol o amgylchiadau arbennig Cymru ymhlith y rhinweddau hynny. Gresyn gennym feddwl fod dyn mor rhagorol a John Wesley, wedi dweyd rhai pethau mor gelyd am y Cymry ag a ddywedodd "Bradwyr y Llyfrau Gleision" am danom gan mlynedd ar ei ol;—ac am yr un rheswm, sef nad oedd yn deall y bobl na'u hiaith. Eb efe:—

"Mae mwyafrif y trigolion yn aeddfed i'r Efengyl. Maent yn dyheu am gael eu dysgu ynddi, tra mor anwybodus o honi ag Indiaid Cochion America. Nid wyf yn golygu na wyddant am enw Crist. Gall llawer o honynt adrodd Gweddi'r Arglwydd, a'r Credo,—a rhai yr holl Gatecism. Ond os eir a hwynt allan o lwybr yr hyn a ddysgasant ar eu tafodau, yna danghosant eu hanwybodaeth." [1]

Am ymron yn hollol yr un rheswm mae ambell i Farnwr o Sais wedi dwyn cyhuddiad cyfatebol yn erbyn y genedl! Talodd ei ymweliad cyntaf â Chymru yn 1739, a'r olaf ymhen hanner can mlynedd wedyn—llai na dwy flynedd cyn ei farw. O fewn corff yr hanner can mlynedd hynny talodd 42 ymweliad a'r Dywysogaeth. Os edrychir ar Map 4, ceir rhyw ddrychfeddwl am natur y gwaith a gyflawnodd. Am ran o'i waith gellir dweyd mai efe a lafuriodd, ond eraill a aethant i mewn i'w lafur. Bu yn pregethu mewn llu o fannau lle na phlannwyd yr un Seiad Wesleyaidd; plannodd rai Seiadau na ddadblygasant yn Eglwysi Wesleyaidd. Rhaid priodoli hyn i raddau i'r ffaith mai yn Saesneg yn unig y medrai efe bregethu, ac mai ychydig, mewn cymhariaeth, o'r rhai a gydweithient ag ef yng Nghymru, oedd yn medru Cymraeg. Gydag ychydig eithriadau disglaer, Eglwyswyr oedd ei brif noddwyr yng Nghymru—a phan ystyriom ei ymlyniad cryf, cyson, a diysgog wrth Eglwys Loegr, nid rhyfedd gennym mai ychydig, mewn cymhariaeth, o Ymneillduwyr Cymru a gawn yn cymeryd rhan mor flaenllaw gydag ef ag a wnaent gyda George Whitefield—yr hwn oedd yn llawer mwy eang ei syniadau ar y pwnc hwnnw nag oedd Wesley. Gydag ychydig eithriadau, hefyd, Calfiniaid oedd prif hyrwyddwyr y Diwygiad yng Nghymru, yn Eglwyswyr, Anibynwyr, a Bedyddwyr. Nodwedd amlycaf Calfiniaeth yr oes oedd zel a brwdfrydedd tanllyd; nodwedd Arminiaeth Gymreig oedd oerni, ffurfioldeb, a segurdod. Yr oedd y ddau, felly, i raddau pell allan o gydymdeimlad â Wesley, er am resymau gwahanol. Anghytunai'r blaenaf â'i olygiadau duwinyddol; anghymeradwyai'r olaf y zel a'r yni a daflai i waith cyffredin crefydd. Ychydig, felly, o help a gaffai gan y naill na'r llall. Ac eto, yr oedd rhai eithriadau disglaer. Nodaf ddau, un yn y Gogledd a'r llall yn y De; y ddau yn lleygwyr, yn ffermwyr, yn bregethwyr cynorthwyol,—ac yn Anibynwyr. Yr enwog William Prichard, Clochdernog, Môn, oedd un; Thomas Price, Watford, oedd y llall. Ymwelai yn aml a'r ddau; trefnai'r ddau gyfarfodydd iddo, yn eu tai neu'r capel agosaf.[2] Parhaodd y teimlad gwrthwynebol hwn at Wesleyaeth yn gryf mewn rhanau o Gymru tan ddechreu'r 19fed ganrif. Yn Llanfyllin yn 1801 gwrthodwyd benthyca capeli'r Anibynwyr a'r Methodistiaid i gynal cyfarfodydd Wesleyaidd,[3] ac ymhen ychydig wedyn ymosododd Christmas Evans yn ffyrnig ar y Wesleyaid yn Sir Fon, gan eu galw yn "gau broffwydi," "bleiddiaid mewn crwyn defaid," &c.[4] Ond hyd yn oed y pryd hwnnw cafwyd eithriadau mor anrhydeddus ag oedd Thomas Price a William Prichard. Y tro hwn y Parch. Jenkin Lewis, gweinidog oedrannus yr Anibynwyr yn Llanfyllin, a gyfryngodd i sicrhau gwrandawiad i'r pregethwr Wesley."[4]

Adroddir stori ddyddorol am y digwyddiad hwn. John Bryan oedd y pregethwr Wesley. Rai blynyddau cyn hynny yr oedd y mob wedi ymosod ar Mr. Jenkin Lewis; wedi ei lusgo gerfydd ei wallt ar hyd yr ystrydoedd, ac un adyn â mask ar ei wyneb wedi plycio dyrneidiau o wallt o ben y pregethwr, gan adael creithiau ar ei gorryn moel, a arosasant yno hyd ei fedd. Safai'r hen wr yn awr yn ymyl John Bryan pan oedd hwnnw'n pregethu. Gosododd Bryan ei law ar ben moel yr hen weinidog, ac, ebe fe mewn llais gofidus, "Y llaw hon osododd y mask ar wyneb y dyn a achosodd y creithiau hyn ar ben gwas yr Arglwydd!" "Ie!" llefai llais cythryblus o'r dorf, "a myfi yw'r gwr a wnaeth y drwg! O Dduw maddeu i mi! A thorrodd yr holl dorf allan i wylo mewn cydymdeimlad â'r tri oedd wedi cydgyfarfod mor rhyfedd.

Talodd Wesley ei ymweliad cyntaf â Chymru ymhen ychydig fisoedd ar ol i George Whitefield ddod trosodd. O Bryste y daeth yntau, fel ei gyfaill, drosodd i'n cynorthwyo. Mae llawer o debygrwydd yn ymweliad cyntaf Wesley â Chymru i eiddo Whitefield. Taith genhadol yn unig ydoedd, heb un bwriad y pryd hwnnw i sefydlu cyfundrefnaeth o seiadau nag arall, dim ond deffroi y bobl o'u cysgadrwydd ysbrydol. Yn eu teithiau dilynol, gwahaniaethent i gryn raddau. Ni anghofid, ac ni orchuddid, yr amcan cenhadol mae'n wir; caffai hwnnw gan Wesley a Whitefield y lle blaenaf o hyd: ond ychwanegai'r ddau at hynny gyfundrefnaeth reolaidd. Ond gwahaniaethent yn eu dull o gario allan waith y trefnu. Gadawai Whitefield i raddau pell i eraill y gwaith o sefydlu ac arolygu Seiadau unigol, gan gymeryd iddo ei hun, trwy gais y brodyr, arolygiaeth gyffredinol ar yr holl fudiad. Ni olygai'r arolygiaeth honno yr un peth i Whitefield ag a wnai i Wesley. Baich i'r blaenaf oedd manylion diddiwedd y gwahanol Seiadau unigol a'r dosbarthiadau i'r rhai y'u rhennid. Taflai ei hun, mae'n wir, gydag yni ac ymroddiad, i waith y Cymdeithasfeydd Chwarterol, i'r rhai yr oedd yn Llywydd parhaol. Ond nid yn y cyfeiriad hwnnw y gorweddai ei brif nerth. Fel y sylwyd eisoes, tyfodd yr Efengylydd mor fawr a chryf, nes taflu y Trefnydd yn Whitefield yn raddol i'r cysgod—ac nid yw cysgod yn ffafriol i dyfiant iach. Tyfodd y Trefnydd yn Wesley yn gyflymach nag y tyfodd yr Efengylydd, er i hwnnw aros yn gryf ac yn amlwg ynddo hyd ei fedd. O'r cychwyn cyntaf talai y sylw personol manylaf i bopeth ynglyn â threfniadau ei Seiadau. Wedi dechreu sefydlu y cyfryw yng Nghymru, caffent, ar ei ymweliadau, yr un sylw gofalus ag a gai yr eiddo yn Lloegr. Arolygiaeth gyffredinol ar y wedd Galfinaidd i'r Deffroad oedd swydd Whitefield; yn swydd Wesley cysylltid yr arolygiaeth gyffredinol, gydag arolygiaeth bersonol ar y Seiadau unigol. Dro ar ol tro cawn ef ar ei ymweliadau â Chymru, yn edrych yn ofalus i fewn i drefniadau mewnol y gwahanol Seiadau. Yn ei ddyddlyfr canmolai y naill am ei gweithgarwch, ei gofal, a'i llwyddiant; cwyna am y llall am ei diffyg ymroddiad, am ei difaterwch, a'i anrhefn. Unwaith ac eilwaith ceir ef, gydag amynedd diddiwedd, yn ail gasglu defnydd Seiad mewn lleoedd yr oedd erlid neu anghydfod wedi gwasgaru y rhai a fuont unwaith yn llawn zel a phenderfyniad. Ceid Seiadau Wesley yng Nghymru yn aml fel tân coed oedd wedi bod yn fflamio i'r awyr, ond wedi ymron marw pan hyrddid y coed i'r dde a'r aswy; eithr pan ddelai'r tanwr ei hun heibio, casglai y golosg at eu gilydd; caffai wreichion byw yn aros mewn aml un ohonynt; pan ddygai y rhai hyn i gysylltiad a'u gilydd, cyd—gynhesent; chwythai yntau ar y rhai hyn gyda gofal a thynerwch nes ail gynneu fflam,—a chyn yr ymadawai â hwynt caffai'r pleser o weled y tân yn llosgi mor siriol ag erioed—ac yn aml wedi cael ei ryddhau oddiwrth rai o'r elfenau a beryglent fywyd y tân cyntaf. Dyna hanes aml i Seiad a blannodd Wesley yng Nghymru; dyna hanes Caerdydd, a Chastellnedd, a Seiadau Sir Benfro, ac eraill. Byddai adrodd hanes y naill yn adrodd hefyd hanes y llall; ac wrth edrych ar eu hanes nis gwyddom beth i edmygu fwyaf, ai zel diflino Wesley yn plannu Seiadau, ai ei amynedd diddiwedd yn cyd—ddwyn â'u gwendidau; ai ei benderfyniad awdurdodol yn torri ymaith y canghennau gwywedig a dybiai efe oeddent yn peryglu bywyd yr holl bren. Ceir y rhai hyn oll yn hanes ymwneud Wesley â'i Seiadau yng Nghymru. Ai o herwydd anhawsderau'r iaith, ai o herwydd pellder Cymru o brif ganolbwyntiau Wesleyaeth y cyfnod hwnnw, amlwg yw na weithiwyd Cymru mor gyfundrefnol gan Wesley ei hun ag y gweithiwyd Lloegr. A hyn, o bosibl, sy'n cyfrif am y syniad cyffredin, ond cyfeiliornus, na wnaeth Wesley nemawr ddim gwaith yn y Dywysogaeth.

Dywedwyd fod llawer o debygrwydd rhwng ymweliad cyntaf y ddau Efengylydd Seisnig enwog. Ychydig fisoedd yn unig wahanodd y ddau ymweliad. O Bryste, cychwynle y mudiad diwygiadol yn ei wedd werinol, y daeth y ddau drosodd. Gwahoddiad taer o Gymru a gymhellodd y naill fel y llall i ymweled â'r wlad. Canlynodd Wesley ymron yn hollol yr un llwybr a Whitefield. Pregethodd Wesley ei bregeth gyntaf yng Nghymru wrth draed y Devauden, mynydd yn ymyl Chepstow. Aeth oddiyno i Abergafenni, Brynbiga, Pontypool, Caerdydd, a Chasnewydd. Ni sonia efe, fwy na Whitefield, am sefydlu cymaint ag un Seiad yn ystod yr ymweliad hwn. Ond cafodd yntau, fel ei gyfaill, ddylanwad anesgrifiadwy ar y torfeydd a'i gwrandawent. Canlynid Whitefield gan osgorddlu o wyr meirch o'r naill dref i'r llall; dilynid Wesley gan wyr a gwragedd ar draed, y rhai a anghofient eu lludded corfforol yn y mwynhad ysbrydol a gaffent wrth wrando ar yr hyn a draethai efe am y deyrnas nad yw o'r byd hwn. Ond er na phlannodd yr un Seiad, hauodd had da a gafodd ddyfnder daear, ac a wnaeth blaniad Seiadau yn waith cymharol rwydd pan nesaf yr ymwelodd a'n gwlad.

Yr oedd Seiadau wedi cael eu plannu cyn hyn gan rai o arweinwyr y diwygiad yng Nghymru, ac arferai yr arweinwyr hyn ar adegau gyfarfod a'u gilydd i ymgynghori am y moddion goreu i gario'r[5] Cydweithiai'r Diwygwyr Cymreig mor galonnog gyda Wesley ag a wnaent gyda Whitefield.[6] Ond nid felly'r Eglwyswyr bob amser, er y ceid amryw o'r clerigwyr mwyaf efengylaidd eu hysbryd yn gwneud hynny. Ai ambell glerigwr Cymreig rhagfarnllyd mor bell a haeru mai Pabydd oedd Wesley, gan lwyddo felly i ddylanwadu ar ambell un gwan i dynnu yn ol o fod ymhlith ei ganlynwyr.[5]

Ar ei ail ymweliad â Chymru cafodd Wesley gwmni Howell Harris. Yr oedd y ddau wedi cyfarfod a'u gilydd o'r blaen yn ystod yr ymweliad cyntaf. Erbyn yr ail ymweliad hwn yr oedd y gwrthwynebiad i Wesley ymhlith adran o'i hen ganlynwyr wedi dechreu amlygu ei hun. Yr oedd rhai wedi ceisio eisoes i ddenu Howell Harris oddiwrth ei ymlyniad wrth Wesley,—yn bennaf o bosibl drwy ddangos Arminiaeth Wesley mewn goleu tra thywyll.[5] Petae Wesley y pryd hwn, ac wedi hynny, wedi dangos cyffelyb ysbryd ag a ddanghosodd Howell Harris tuag ato ef, buasai wedi mynd yn rhwyg agored rhwng y ddau ymhell cyn yr aeth. Ond er mor awdurdodol ydoedd Wesley yn ei ymddygiad at lawer o'i gydweithwyr ar aml i achlysur, danghosodd lawer o ysbryd addfwynder tuag at ei gydlafurwyr yng Nghymru fwy nag unwaith; a thrwy hynny yn ddiameu rhwystrodd hadau anghydwelediad a blannwyd gan y gelyn ddyn i ddwyn ffrwyth mewn rhwyg cynamserol rhwng y ddwy adran fawr o'r Deffrowyr—y Calfiniaid a'r Arminiaid.

Dylid cadw mewn cof mai cwestiwn o gredo duwinyddol, ac nid o drefniant na ffurflywodraeth, a achosai'r anghydwelediad rhwng Wesley a'i frodyr. Amlygodd hwn ei hun yn dra boreu yn hanes eu cydweithrediad. Nis gellir llai nag edmygu yr addfwynder ysbryd a'r tynerwch a amlygwyd gan Wesley ar yr achlysuron hyn. Un tro, yn Kingswood,[7] yr oedd newydd fynd i orffwys ar ol diwrnod o lafur a lludded, pan ddygwyd cenadwri ato fod Howell Harris yn Bryste, ar ei ffordd o Lundain i Gymru am ei weled. Cododd, ac aeth yno, lle y cafodd Harris, a Humphreys, a brawd arall. "Syrthiasant," ebe Wesley yn ei ddyddlyfr," yn uniongyrchol ar eu hoff bwnc (y ddadl dduwinyddol); ac ar ol ini ddadleu am ddwy awr, gan gael ein hunain yn ddim pellach ymlaen nag ar y cychwyn, deisyfais arnynt ini gael troi o ddadleu at weddïo. Gwnaethom hynny, ac yna ymadawsom â'n gilydd mewn cariad oddeutu dau o'r gloch y boreu."

Yr oedd Wesley y pryd hwn ar dalu ymweliad arall â Chymru. Ar y daith hon Daniel Rowlands oedd ei gydymaith, a chynhesodd calonnau'r ddau efengylydd yn fuan at eu gilydd. Pregethai'r naill yn Saesneg a'r llall yn Gymraeg. Ymhen deuddydd daeth Harris atynt. "Ni [8]. Ond erbyn cyrraedd o honynt Llansantffraid ar y Morfa, daeth yr hen helynt yn ol. Yno cyfarfyddasant â Humphreys a Bissicks. "Oddeutu unarddeg," ebe Wesley, "ymneillduodd ychydig o honom er mwyn annog ein gilydd i gariad a gweithredoedd da." Ond ni chafwyd y gyfeillach grefyddol a ddymunai Wesley, canys ail agorwyd y ddadl, er poen i Rowlands a Wesley. Ceisiodd Harris a Rowlands ar y cyntaf rwystro dadleu; pan welodd nad oedd ei ymgais yn tycio dim ymneillduodd Rowlands. Deffrodd y dadleuydd yn Harris, a thaflodd ei hun i'r frwydr. Ymneillduodd Wesley am un o'r gloch y boreu; parhaodd Harris a'r lleill i ddadleu tan dri. Boreu trannoeth, pan aeth Wesley allan i dŷ cymydog, cafodd Harris a Bissicks wrthi yn dadleu mor gyndyn ag erioed. Pan aeth Wesley i fewn i'r ystafell, taflwyd y dadleuwyr i ddyryswch. Ymddengys fod ei gymeriad ef wedi bod yn rhan o bwnc y ddadl. Digwyddai Mrs. James wedi hynny Mrs. Whitefield—fod yn bresennol, a chan iddi glywed yr ensyniadau a wnaed yn erbyn Wesley yn ei gefn, gorfodai yr athrodwyr i'w dweyd yn awr yn ei wyneb. Cloff iawn oedd yr eglurhad a geisiwyd ei roddi; ond derbyniodd Wesley hwynt yn ysbryd yr efengyl. Penderfynnwyd ar y pryd "i adael dadleu heibio, gan foddloni ar bregethu Crist a hwnnw wedi ei groeshoelio."[9]

Yn yr ysbryd addfwyn hwn yr ymddygodd Wesley at ei frodyr yng Nghymru fwy nag unwaith. Danghosodd ei frawd, Charles Wesley, gyffelyb ysbryd ar aml i achlysur.

Yr oedd Wesley wedi sefydlu Seiad yng Nghaerdydd yn 1739. Pregethai Howell Harris i'r Seiad hon, fel ag a wnai cyn ac ar ol hynny, i Seiad David Williams yn yr un lle.[10] Oherwydd fod Harris yn gwthio ei syniadau Calfinaidd ar y brodyr, cododd ymryson yn eu plith. Brysiodd Charles Wesley atynt, a chan deimlo fwy o zel dros heddwch y Seiad a llwyddiant yr achos, na thros ddadleu daliadau Howell Harris, treuliodd y rhan fwyaf o ddau ddiwrnod i ymweled yn bersonol â'r aelodau oeddent wedi digio wrth Harris. Llwyddodd i'w cael yn ol at eu gwaith; a hwyr yr ail ddydd, ar ol pregethu, galwodd ar y frawdoliaeth i uno âg ef mewn gweddi ar ran a thros lwyddiant gwaith Howell Harris fel efengylwr.[11]

Dro arall, pan oedd pethau wedi myned yn waeth rhwng y ddau Wesley a Howell Harris, digwyddodd yr olaf fyned i Lanfair Muallt gyda'r bwriad o bregethu. Yr oedd Llanfair Muallt yn hoff gyrchle y ddau Wesley. Ymwelent yn aml â'r lle. Yr oedd Mr. Phillips, offeiriad Maesynys, yn ymyl, yn gyfaill personol iddynt, a threfnai gyfarfodydd yn aml iddynt. Caent yn y dref wrandawiad parchus ac astud, gwreng a bonheddig yn cyrchu i'w gwrando.[12] Yr oedd cysylltiad arall rhyngddynt â'r ardal, gan fod Charles Wesley wedi syrthio mewn cariad â Sarah Gwynne, o'r Garth, ychydig filltiroedd oddiyno, â'r hon y priododd drwy gydsyniad ei theulu. (Gellir nodi rhwng cromfachau mai Cymruesau oedd gwragedd y tri efengylydd, Whitefield, Charles Wesley, a Howell Harris.) Pan gyrhaeddodd Harris i Lanfair Muallt y tro hwn, cafodd fod Charles Wesley wedi ei gyhoeddi i bregethu. Ffromodd yntau yn aruthr; a phan ddaeth Charles Wesley ato i drefnu am gael un oedfa, derbyniodd ef yn swrth, gan ddweyd wrtho y rhaid iddo (Wesley) bregethu yn fyr, gan fod Seiad Gyfrinachol i fod ar ol. Rhoddodd Charles iddo yr ateb arafaidd a ddetry lid,—a phregethodd y ddau.[13]

Tra yn dangos ysbryd mor addfwyn a Christionogol, nid rhyfedd fod y ddau Wesley wedi ennill eu ffordd i galonnau cynnes y Cymry. Cawn y ddau yn aml yn cyd-deithio a chyd-bregethu ag aml un o'r Diwygwyr Cymreig—Daniel Rowlands, Williams Pantycelyn, Howell Harris, Peter Williams, ac eraill. Yn wir, ar adeg diweddarach na'r un yr ymdrinir ag ef ar hyn o bryd, un o'r cyhuddiadau a ddygid yn erbyn Peter Williams oedd ei fod wedi llyncu syniadau John Wesley. Mae'n dra thebyg fod Peter Williams wedi ymgynghori â Wesley pan yn paratoi ei argraffiad cyntaf o'i Feibl Mawr. O leiaf treuliodd Wesley ran o'i amser y pryd hwnnw yng Nghaerfyrddin, gan bregethu yng nghapel Peter Williams. Gwir iddo ar yr un daith ddangos fawrfrydigrwydd ei ysbryd drwy bregethu hefyd mewn capeli Anibynnol yn yr un sir. Anghytunai Peter Williams â Wesley mewn athrawiaeth, ond cytunent â'u gilydd i gyd-efengylu. Yr oedd Daniel Rowlands o gyffelyb ysbryd i'r ddau, a thrwy ei ddylanwad ef, i raddau helaeth, y rhwystrwyd tra bu efe byw i'r ystorom fawr a dorrodd wedi hyny ar ben Peter Williams i'w ddiarddel o'r Corff Methodistaidd. Ond os mai hyn oedd ysbryd yr arweinwyr, nid dyma'r ysbryd a lywodraethai ymhlith pregethwyr cynorthwyol y Diwygiad. Ceir engraifft nodedig o hyn yn Sir Benfro.

Yr oedd Howell Davies yn Uchel Galfinydd. Llywodraethid rhai o'i gynorthwywyr yn fwy gan ysbryd dadl dduwinyddol na chan ysbryd cariad yr Efengyl. "Celain," ebe Wesley yn ei ddyddlyfr,[14] "fod gwaith yr Arglwydd yn Sir Benfro wedi cael ei rwystro, yn bennaf gan bregethwyr Mr. Davies, y rhai a enllibient yn barhaus ein pregethwyr ni, gan rwystro felly llawer rhag dod i'w gwrando. Yr oeddent hwythau (y Wesleyaid) weithiau wedi cael eu cynhyrfu i'w hateb, yr hyn a wnai bethau yn waeth. Y cyngor a roddais iddynt oedd: 1. Fod i bawb ymgadw rhag athrodi, adrodd chwedlau, na siarad yn ddrwg y naill am y llall. . Fod i'm holl bregethwyr, pan ddifenwir hwynt, i beidio difenwi drachefn, nac i ddadleu yn gyhoeddus na chyfrinachol. 3. Fod iddynt beidio pregethu ar bynciau dadleuol, ond ar grefydd syml ac ymarferol."

Dyna'r ysbryd tangnefeddus ymron dieithriad a ddangosodd y ddau Wesley tuagat eu cydweithwyr yng Nghymru. Dyna'r ysbryd hefyd a lywodraethodd ymddygiadau Daniel Rowlands, Williams Pantycelyn, a Peter Williams. Ond nis gellir dweyd hynny am Howell Harris. Am yr ysbryd a'i llywodraethai ef, nis gellid dweyd "o ba le y mae yn dyfod nac i ba le y mae yn myned." Wrth ddarllen ei ddyddlyfr, gwelwn ef yn mynd o'r naill eithafion i'r llall, weithiau yn canmol, weithiau yn dwrdio Wesley; heddyw yn cyduno ag ef, yforu yn ei wrthwynebu; un diwrnod yn ei gondemnio, trannoeth yn edifarhau a syrthio ar ei fai; un tro yn ceisio torri o dan seiliau awdurdod Wesley, dro arall yn ymosod yn ffyrnig ar gyd-lafurwr am ddarfod i hwnnw feiddio amheu mai John Wesley oedd Pen y Diwygiad. Ni fyddai yn fuddiol dilyn y wedd yma yn rhy fanwl, ond tegwch â chymeriad John Wesley, ac â'r rhan a gymerodd yn y gwaith yng Nghymru, yw rhoi ychydig ddyfyniadau o ddyddlyfr Howell Harris ei hun, er dangos perthynas y ddau â'u gilydd.

"Daethum i Gaerdydd, ac aethum i Ystafell y Seiat i wrando'r Brawd Wesley. Galwyd fi i fyny at y ddesc at Wesley.

Tra y cynghorai efe'r bobl, syrthiodd tawelwch mawr ar fy enaid. Yn y goleuni hwn gallaswn farw dros bawb, a gallaswn fynd wrth ochr y Brawd Wesley drwy'r tân; teimlais gariad mawr tuag ato, ac ymgystuddiais am unrhyw air a leferais yn ei erbyn, ac nis gallwn oddef i neb llefaru yn ei erbyn. Yr oedd Wesley yn selog dros undeb, ac yn erbyn ymraniadau.

Pwy a ŵyr nad yw Duw yn fy arwain i blith y Wesleyaid i'w harafu? Yr Arglwydd a'm dygodd yma, a phrofais yr un llawenydd wrth ddod at fy anwyl Frawd Wesley, ag a deimlais wrth ddod at fy anwyl Frawd Whitefield dair blynedd yn ol, a theimlaf fod fy nghymdeithas (fellowship) a'm Brawd Wesley wedi cael ei weithio ynnof gan yr Arglwydd, yn erbyn rhagfarnau blaenorol a ffurfiwyd trwy wrando ystoriau am dano a'i bregethu yn erbyn yr hyn a dybiwn oedd yn iawn."[15] Ymhen tair wythnos yr oedd wedi newid ei farn. Dywed:—"Yn awr yr ydym yn dechreu gweled pethau yn y Wesleys sy'n gwneud i ni eu hamheu—Rhagrith—derbyn arian—swllt y chwarter gan bob un: £300 o bunnau yn Llundain—pregethu cyfeiliornadau yn barhaus—ddim yn syml."[16]

Ym mis Mai, 1748, ysgrifenna yn Llundain:—"Ymosodais ar y Brawd Blake yn arbennig am ei fod yn ymddangos i mi yn chwyddedig, ac yn coleddu ysbryd drwg tuag at y Brawd Wesley, ac nad oedd ef (Blake) a rhai eraill yn canfod fod Wesley wedi cael ei anrhydeddu gan yr Arglwydd, yr hwn a'i gosododd yn Ben y Diwygiad hwn. Rhoddais hanes ei ddyfodiad i Gymru. Fy nymuniad yw gweled teimlad ac ysbryd da tuag at bawb dynion, ïe, fel y mynnai yr Arglwydd i hynny fod byddem farw i ni ein hunain, ein cynlluniau a'n rhagfarnau, ac yn foddlon i gael ein harwain gan yr Arglwydd fel y mynno Efe."[17]

Ymhen naw niwrnod ar ol hyn ysgrifenna drachefn:—"Wedi i Mr. Whitefield roddi gofal yr eneidiau i Mr. Wesley, daethum i Lundain. Pregethais gyda Mr. Wesley; ond can gynted ag y cefais ei fod yn dal athrawiaeth perffeithrwydd dibechod, a syrthio yn y diwedd oddiwrth wir ras, torrais gysylltiad allanol ag ef, er na chollais fy serch tuag ato fel Brawd a Gweinidog Crist; a phan welais y modd yr oedd yr Arglwydd yn gweithio drwyddynt, nis gallaswn oddef clywed neb yn eu dirmygu; ac am hynny gelwir finnau hefyd yn Wesley ac yn Antinomiad."[18]

Ymhen mis cyferfydd mewn math o gynhadledd anffurfiol â Charles Wesley a George Whitefield yn Llundain, a dywed:—

"Pan glywais am lwyddiant dirfawr y Wesleyaid yn y Werddon, teimlais eiddigedd yn lle llawenydd, ac nis gallaswn lawenhau tan i'r Oen Anwyl wenu arnaf. Wedi hynny, pan wnaed cynygiad i uno drachefn, gwelais nas gallesid gwneud hynny heb (1) ymgynghori â'r pregethwyr yn Lloegr a Chymru; (2) heb osod i lawr ragseiliau, a holi cwestiynau o bob tu. Ymddengys i mi fod hyn fel Plaid, yn amhosibl, gan nad ymostynga'r naill adran i Ben y llall—Mr. Wesley na Mr. Whitefield.[19]

Erbyn hyn, mae y dirywiad yn Harris i'w ganfod yn amlwg yn ei ddyddlyfr. Yr oedd ei uchelgais wedi cael ei gynhyrfu, ac yntau a'i olwg ar gymeryd lle Whitefield fel Pen yr Adran Galfinaidd. Ymdrinir yn helaethach ar hyn mewn pennod arall. Ond yma, wrth fyned heibio, gellir dweyd fod hanes Harris, fel y'i hadroddir ganddo ef ei hun yn ei ddyddiaduron, yn rhoi sail cryf i gredu mai "Wesley a Harris" oedd yn ei feddwl, pan ysgrifennai "Wesley a Whitefield" yn y dyfyniad uchod. Yn yr un dyddlyfr, ä ymlaen i ddweyd:—

"Oh! gymaint o hunan dirgel (secret self) wyf yn deimlo sydd ynnwyf! Pan ddywedodd Mr. Newton y buasai eu holl bregethwyr hwy yn ufuddhau i Mr. W—(Wesley) pe y cynygiai efe unrhyw beth, dywedais nas gallaswn i gydweithio â'r cyfryw bregethwyr a foddlonent ganlyn dyn, &c. Llefai fy enaid, 'Oh Dduw! Gwel y perygl yr ydym yn sefyll ynddo, o herwydd ein tywyllwch a'n hanwybodaeth, ein gelyniaeth a'n gwrthnysigrwydd, ein hunan-falchder, a Satan, a rhag dwyn o honom ddim ond meddwl yr Arglwydd mewn athrawiaeth i'r bobl, a rhag symud o honom gam yn y trefniant allanol ond ynddo a thrwyddo Ef! Dywedai Mr. Charles Wesley ei fod ef yn barod i osod ei holl Seiadau ef yngofal Mr. Whitefield; ac y caffai Mr. Whitefield fod yn gydstad â'i frawd, Mr. John Wesley, yn y gyfundrefnaeth. A dywedodd Mr. Whitefield na wyddai pwy a allai ef benodi yn ysgutor iddo i Dy'r Amddifaid yn Georgia ond Mr. John Wesley, a'i fod bob amser yn edrych arnynt (y ddau Wesley) fel dynion mawr."[20]

Mis union wedi hyn y cymerodd y gwrthdarawiad le rhwng Harris a Charles Wesley yn Llanfair Muallt. Ymddengys yn dra amlwg oddiwrth y Dyddlyfr, yn ogystal a Dyddlyfrau John a Charles Wesley, a Llythyrau Whitefield, fod y ddau Wesley a Whitefield y pryd hwn yn barod iawn i sefydlu ad-uniad a gyplysai'r holl Seiadau Whitefieldaidd a Wesleyaidd yn Lloegr a Chymru, yn un gyfundrefn. Yr oedd Harris eisoes a'i lygad ar fod yn Ben yr Adran Galfinaidd. Naturiol fuasai iddo amheu a enillai y cyfryw safle pe yr unid y ddwy adran.

Pa fodd bynnag, efe yn unig o'r pedwar a gododd rwystr y pryd hwnnw i'r ymgais yma am gysylltiad a chydweithrediad agosach.

Nid yw hanes cysylltiad Wesley a'i frodyr yng Nghymru eto wedi cael ei ysgrifennu; ac nid yw y cylch a fwriedir i'r gwaith presennol yn gyfryw ag a ganiata i mi fyned i fewn i'r holl fanylion. Ond ceir ychydig oleuni pellach ar gysylltiad Wesley a Harris, yn Llyfr Cofnodion y Gymdeithasfa sydd eto ar gael yn Nhrefecca[21] —nad yw ei gynnwys eto wedi cael gweled goleuni dydd.

Cedwid y rhan gyntaf o'r Cofnodion hyn gan John Cennick, yn cynnwys Cofnodion Cymdeithasfaoedd Bryste, Medi 4, 1744; Llundain, Tachwedd, 1744; Bryste, Mawrth 20, 1745; Wilts, Mehefin, 1745; a Llundain, Medi, 1745. Yn yr olaf treuliwyd tridiau i ddadleu pynciau o athrawiaeth yn unig! Pan dorrodd Cennick ei gysylltiad â'r mudiad, aeth a'r Cofnodion uchod gydag ef. Ysgrifennodd Harris, oddiar ei gôf, gofnodion Bryste, Mawrth 20, 1745, a chopïodd James (Jimmy) Ingram, gwas a chynorthwywr Howell Harris, hwynt i'r Llyfr Cofnodion sydd yn awr ar gael yn Nhrefecca. Ymhlith y Cymry a geir yn cymeryd rhan yn y naill neu'r llall o'r Cymdeithasfaoedd hyn, yn ol y Llyfr Cofnodion hwn, cawn y rhai canlynol:—Harris, Pugh, Thomas Price (Watford), Herbert Jenkins, James Beaumont, James Ingram, a John Lewis, yng Nghymdeithasfa Bryste, Mawrth, 1745. Yna, ar ol dychweliad Whitfield o'r America, cawn Gymdeithasfa Llundain, Ebrill, 1749, gyda Whitefield, Harris, Adams, Reilly, a James Ingram—oll yn weithwyr yn y maes Cymreig yn bresennol, a'r Saeson yn absennol. Felly, hefyd, i raddau pell, yng Nghymdeithasfa Abergafenni, Mehefin, 1749, pan oedd yn bresennol Whitefield, Harris, Thos. Price, Thos. Williams, Thos. James, Thos. Meredydd, Joseph Smith, James Ingram, Wm. Humphreys, a Wm. Jones—gweithwyr yng Nghymru ymron yn ddieithriad. Eto yn Llun—dain, Medi 1, 2, 4, 6, a 7, 1749, Cymdeithasfa yn para am bum' niwrnod, cawn Whitefield, Harris, Adams, Reily, Beaumont, Stevens, Meredith, Ingram, a Smith. Ceir manylion pellach am y Cofnodion hyn, a'r goleuni a daflant ar ran o gysylltiadau'r gwaith yng Nghymru, mewn pennod arall. Ar hyn o bryd canolwn sylw ar berthynas y brodyr yn y Gymdeithasfa â Wesley, yn ei gysylltiad ef yn bennaf a'r gwaith yng Nghymru. Cofier fod Whitefield ar hyd yr amser yma yn yr America.

Yn Awst, 1744, darllenodd Cennick lythyr oddiwrth Chapman mewn perthynas i'w anghydwelediad ef â Wesley,—ond ni chymerodd y Gymdeithasfa unrhyw fesurau mewn perthynas â'r mater.

Medi, 1746. "Gan fod y Brawd Godwin am gael ymuno â ni, ac yn cydnabod ei fai am fwriadu o hono ymuno â'r Morafiaid ac a'r Brawd Wesley, ac yn flin ganddo am rai geiriau a ddefnyddiodd, a chan fod y brodyr yn dyner tuag ato, ac eto yn ofni rhag y gallai fod yn ansefydlog, penderfynnwyd iddo gael mynd i Bryste at y Brawd Reilly am naw niwrnod, yna gyda'r Brawd Jenkins am ychydig, ac yna gyda'r Brawd Harris i Drefecca, ac yna gyda'r Brawd Adams hyd y Gymdeithasfa, modd y gallai fod ar brawf o danynt oll."

Dengys y dyfyniadau uchod o'r Cofnodion fod gwaith a dysgeidiaeth Wesley yn blino llawer ar ysbryd y brodyr yn y Gymdeithasfa. Erbyn dechreu 1747, penderfynnwyd ceisio dod i well dealltwriaeth, a chynhaliwyd Cymdeithasfa unedig yn Bryste, Ionawr 22, 1747. Yn hon yr oedd yn bresennol John Wesley, Howell Harris, Adams, Ingram, Reilly, Jenkins, ac eraill, gyda phedwar o ganlynwyr Wesley—y Calfiniaid ymron oll yn Gymry, a'r Wesleyaid yn ddieithriad yn Saeson. Yma, fel yn yr anghydfod yn Sir Benfro (gwel tudal 284) cawn esboniad ar ran o'r dirgelwch; Saeson, wedi cael cryn lawer o addysg, ac yn hollol anghymwys i ddeall meddwl y Cymro gwledig, oedd cynorthwywyr Wesley fel rheol; Cymry, heb gael nemawr addysg, ac yn edrych gyda gradd o rywbeth mwy na drwgdybiaeth ar y Saeson mwy dysgedig, oedd pregethwyr cynorthwyol y Calfiniaid yng Nghymru: nid oedd y ddwy elfen yn toddi yn naturiol y naill i'r llall. Wele gyfieithad o'r Cofnodion sy'n dal cysylltiad â Wesley:—

"Ar ol gweddio holwyd:—

1. Pa fodd y gellir symud y rhwystrau fodolant i gariad brawdol.

2. Pa fodd y gellir rhwystro y cyfryw i godi eto yn y dyfodol.

1. Am Thomas Prosser, Cynghorwr yng Nghymru, cysylltiedg â Mr. Wesley, a ddrwgdybir o gyfeiliornad, bydded i'r Brawd Haughton (un o ganlynwyr Wesley) geisio ganddo egluro ei egwyddorion, a gofyn iddo a yw yn foddlon bod yn ddarostyngedig i Mr. Wesley ac i ni.[22]

2. Am Henry Lloyd, Cynghorwr arall yng Nghymru, a aeth oddi-amgylch ymhlith ein Seiadau ni heb ymgynghori â ni, bydded iddo ein cyfarfod yng Nghymdeithasfa Morgannwg, yn Ebrill, ac na fydded iddo wneud dim yn Sir Frycheiniog, ond trwy gydsyniad Mr. Phillips (offeiriad Maesynys, a chanlynwr Wesley) a Thomas James (un o'r Cynghorwyr Calfinaidd o dan Whitefield).

3. Am Gymru yn gyffredinol. Ofnid mai canlyniad gwaith Mr. Wesley yn pregethu yng Nghastellnedd a fyddai ymraniad yn y Seiad.[23] Atebodd Mr. Wesley:—

"Nid wyf yn bwriadu sefydlu unrhyw Seiad yng Nghastellnedd, nac mewn unrhyw dref arall lle mae Seiad eisoes yn bodoli, ond gwnaf bopeth yn fy ngallu i rwystro unrhyw gyfryw ymraniad.[24]

Yna cytunasom oll y bydd ini, pa bryd bynnag y pregethwn yn achlysurol ymhlith pobl y naill y llall, y bydd ini ymdrechu cynnal ac nid gwanhau breichiau ein gilydd, ac yn arbennig trwy geisio rhwystro unrhyw ymraniadau yn y gwahanol Seiadau.

4. Plymouth. Yn gymaint a bod ymraniad wedi cymeryd lle yn y Gorllewin, penderfynnwyd fod i un o Frodyr Mr. Wesley fyned yno gyda'r Brawd Harris er cyfanu'r rhwyg, a chymhell ysbryd cariad, a'i ffrwyth, ymhlith y bobl.

5. Fod pawb o'r ddau tu i ofalu amddiffyn cymeriadau eu gilydd.

6. Os gelwir un o'r farn wrthwynebol i unrhyw Seiad, y dylai, cyn myned, ymgynghori â'r brodyr ar yr ochr arall."

Mae'n deilwng o sylw nad oes yn Nyddlyfr Wesley un gair of gyfeiriad at y gynhadledd hon. Cawn ei fod yn Bryste ar y pryd, lle y dywed ei fod wedi treulio "wythnos mewn heddwch mawr." Prydnawn y Gymdeithasfa—yr oedd y gynhadledd uchod wedi ei chynnal yn y boreu—marchogodd tua Wick, lle yr oedd i bregethu. Cyfarfyddodd â damwain; taflwyd ef oddiar ei geffyl, mewn lle cul ar y ffordd pan oedd cert yn pasio; aeth yr olwyn dros ei ddillad ond heb gyffwrdd â'i gorff.

"Ni theimlais," eb efe, "unrhyw gythrwfl yn fy ysbryd, ond yr un tawelwch a phe bawn yn eistedd yn fy myfyrgell. Wedi i'r cart fynd heibio, codais." Yna marchogodd i'w gyhoeddiad. Lledodd y si yn Bryste ei fod wedi cael ei ladd; "ond," ebe fe, "cyrhaeddais yno mewn pryd i glodfori'r Arglwydd yn y gynulleidfa fawr."[25]

Os cymharir y dyddiadau uchod â'u gilydd, cawn fod Harris yn "ansefydlog fel dwfr" yn ei olygiadau am Wesley, a'i ddull o ymddwyn tuagato. Yn 1747 yn ceisio cyd-ddealltwriaeth gyfeillgar; ym Mai, 1748, yn ymosod ar Blake am ymosod ar Wesley; ym Mehefin 1748 yn torri pob cysylltiad allanol ag ef; yn Gorffenaf yn cynadledda â Charles Wesley, ac yn rhwystro Whitefield i adsefydlu undeb brawdol rhwng y ddwy adran; yn Awst, er o'i anfodd, yn cyd-bregethu â Charles Wesley yn Llanfair Muallt. Yna cawn ef yn Ionawr, 1750, yn cymeryd rhan gyda Whitefield a John Wesley mewn cyfarfodydd pregethu yn y Foundry yn Llundain, pencadlys Wesleyaeth;[26] yno hefyd derbyniodd Howell Harris, ac amryw ereill o gefnogwyr Whitefield, y cymundeb o law John Wesley.[27]

Wedi iddo droi cefn ar y "Methodistiaid," ac ymneillduo i unigedd Teulu Trefecca, ailgynhesodd calon Harris at Wesley, a chroesawodd ef dro ar ol tro i Drefecca. Pan ddechreuodd Harris drachefn fagu calon i wynebu'r cyhoedd, cawn ef gyda Whitefield yn myned i gynadleddau Wesley yn Llundain.[28] Talai Wesley'r pwyth yn ol drwy helpu Harris yng Nghymru.[29]

Dug hyn ni at wedd arall, a chyfnod newydd, yn nadblygiad y mudiad diwygiadol yng Nghymru, a'r rhan a gafodd Wesley a Wesleyaeth yn y dadblygiad hwnnw. Yn 1746 dygwyd yr enwog Selina, Iarlles Huntington, i gysylltiad â gwaith y Tabernacl yn Llundain. Yr oedd newydd gladdu ei gwr, a thaflodd ei hun gyda mwy o frwdfrydedd nag erioed i waith crefydd. Ym mis Mai, 1748, talodd yr Arglwyddes ymweliad â Chymru; daeth ei merched, a'r Arglwyddesi Anne a Frances Hastings gyda hi. Yn Bryste, cyfarfyddwyd a'r cwmni urddasol gan ddirprwyaeth o Gymru, yn cynnwys yr hen batriarch Griffith Jones, Llanddowror, a chydag ef Daniel Rowlands, Llangeitho, Howell Davies, Sir Benfro, a Howell Harris. Gan gofio, o bosibl, am yr effaith a gafodd taith Whitefield rai blynyddau cyn hynny ar y werin (gwel tudal 256-7), trefnwyd ymdaith efengylaidd tra rhwysgfawr i'r Iarlles a'i chyfeillesau pendefigaidd drwy rannau o Gymru. Aed a hi a'i chymdeithesau o amgylch y wlad am daith pythefnos, gan gynnal oedfaon pa le bynnag yr elent, a'r bobl yn casglu yn dyrfaoedd i weled "y gwyr mawr o Lundain," ac i glywed y pregethwyr poblogaidd. Erbyn cyrraedd Trefecca, yr oedd yno amryw glerigwyr eraill, rai o bregethwyr Whitefield, a nifer o weinidogion Ymneillduol yn eu haros. Am ddiwrnodau o'r bron cafwyd yno uchel-wyl bregethu, pedair neu bump o bregethau yn cael eu traddodi bob dydd gan y clerigwyr Eglwysig a'r pregethwyr Ymneillduol; a chynadleddau ac ymgynghoriadau mynych cydrhwng yr oedfaon. Tynnodd y digwyddiadau hynod hyn dyrfaoedd mawrion o'r holl wlad oddiamgylch, i Drefecca. Rhwng y golygfeydd a gawsant ar y daith yng Nghymru, a'r hyn a welsant yn Nhrefecca, cafodd yr Iarlles a'i chwmni brofiad na fwynhasant ei gyffelyb erioed o'r blaen. Gadawodd y cwbl argraff ddofn ar feddwl yr Iarlles grefyddol. Ysgrifenna yn ei hadgofion: "Gorfodir fi i lefain Fy enaid, bendithia yr Arglwydd, a chwbl sydd ynnof ei enw santaidd Ef!'"[30] Pan ddychwelodd Whitefield o'r America, gwahoddwyd ef i ymgynghori â'r Iarlles. Canlyniad deublyg yr ymgynghoriad hwnnw oedd (1) i Whitefield benderfynnu ymneillduo o'r gwaith o fod yn ben y gyfundraeth Galfinaidd, gan adael y gwaith o sefydlu ac arolygu Seiadau i Wesley (gwel tudal. 248); (2) i Whitefield benderfynnu cydweithio â'r Iarlles mewn cenhadaeth newydd, yn yr hwn y byddai efe yn Efengylydd cyffredinol, iddi hithau sefydlu math o Ysgol y Proffwydi, neu Goleg yn Nhrefecca, at godi pregethwyr diwylliedig; ac iddi hithau hefyd ddefnyddio ei dylanwad i sicrhau cydnabyddiaeth swyddogol yr awdurdodau eglwysig i'r pregethwyr a godid yn ei choleg, ac yna adeiladu capeli iddynt i wasanaethu ynddynt. Cymerodd lawer o flynyddau i ddwyn y cynllun i berffeithiad; ond pan ddaeth, cafodd Wesley a Wesleyaeth, er holl Galfiniaeth cul yr Iarlles, gyfran helaeth iawn o'i fanteision. Bu yn foddion i aduno Whitefield a'r ddau Wesley mewn cwlwm tangnefedd a chariad brawdol na ddatodwyd yr ochr yma i'r bedd. Un o ganlyniadau cyntaf, os nad yn wir un o amodau hanfodol, y Cytundeb Heddwch newydd hwn oedd, fod y ddau Wesley yn cael mynediad rhydd i bwlpudau Capeli'r Iarlles. Mawr oedd syndod llawer i weled yr Armin John Wesley yn pregethu ym mhwlpud Calfinaidd yr Iarlles Huntingdon.31 [31] Ebe Charles Wesley mewn llythyr at ei wraig—Sarah Gwynne, o'r Garth.

"Neithiwr daeth fy mrawd. Boreu heddyw treuliasom ddwy awr fendigedig gyda George Whitefield. Mae'n sicr na thorrir mwyach y rhaff dair cainc hon. Mae'm brawd i bregethu yn nghapel yr Arglwyddes Huntingdon yn Bath. Mae hwnnw, a'i holl gapeli, ïe, a gallasem ddweyd hithau hefyd, wedi cael eu gosod yn ein dwylaw ni ein tri."[32] Mae'n amlwg fod Charles Wesley yn cyfleu syniad hollol gywir yn y llythyr uchod, canys cawn ei Harglwyddes yn ysgrifennu ei hun at Wesley, gan ddweyd:—

"Yr wyf yn wir ddiolchgar i chwi am eich cynyg caredig i wasanaethu yn y capel yn Bath yn ystod eich arhosiad yn Bryste. Hyderaf fod yr undeb hwn a gychwynwyd yn awr yn un ag a fydd yn ychwanegu ein ffydd a'n cariad y naill at y llall. Buddiol yw i'r achos goreu os ceir ni yn ffyddlon ymlaenaf oll i'r Arglwydd, ac yna i'n gilydd. Gwelaf eto rywbeth yn eisieu, a hynny yw, trefnu cyfarfod yn awr ac eilwaith, rhyngoch chwi, a'ch brawd, a Mr. Whitefield, a minnau, modd y gallem gyfnewid syniadau ar gyflwr cyffredinol y gwaith. Dichon y ceid goleuni felly, a buasai yn arweiniad i minnau, gan fy mod mewn cysylltiad â chynifer."[33]

Parhaodd yr undeb brawdol a Christnogol hwn tra bu Whitefield byw. Ar ol ei farw ef aeth yn rhwyg rhwng y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleyaidd, ac o hynny allan ni fu a wnelai'r Iarlles Huntingdon ddim â'r ddau Wesley. Erbyn hyn mae mwyafrif yr achosion a adwaenid fel y "Lady Huntingdon's Connexion," i sefydlu y rhai y gwnaeth Whitefield gymaint, wedi cael eu llyncu yn yr Enwad Anibynnol.

Wedi gweld claddu'r naill a'r llall o gymdeithion ei ieuenctyd, holl aelodau Clwb Santaidd Rhydychain a gychwynasant gydag ef ar yrfa'r Cristion Ymroddgar, aeth John Wesley ymlaen mor wrol yn bedwar ugain oed a phetae yn llanc deunaw mlwydd. Am hanner can mlynedd arferai bregethu bob boreu am 5 o'r gloch. Pan yn 83 mlwydd oed dioddefai lafur a lludded corfforol nad oes nemawr i ddyn heddyw yn anterth ei nerth a fedrai ei ddal,—ac eto, dywed na theimlodd ddim tebyg i flino corfforol! Am faint y gwaith a gyflawnodd yn Lloegr a Chymru, yn yr America a'r Werddon, amhosibl fuasai dweyd gormod. Dichon y buasai llwyddiant mwy cyffredinol ar ei lafur yng Nghymru, petae wedi gofalu am gael Cymry o ran iaith a gwaed fel cynorthwywyr lleol iddo. Hyn a fu diffyg mwyaf ei gyfundrefn ef yn y Dywysogaeth.

Ond wedi marw Wesley yn 1791, ni chafodd y gwaith farw. Yr oedd wedi magu meibion a merched, y rhai a fynnent barhau gwaith eu tad ysbrydol. Yn 1800, ffurfiwyd y Dalaeth Gymreig a thaflwyd yni a bywyd newydd i'r holl fudiad Wesleyaidd yn y Dywysogaeth. Bu cynnydd Wesleyaeth wedi hynny yn gyflym ac amlwg. Yn wir, ni ddanghoswyd ar unrhyw adeg yn nyddiau mwyaf blodeuog y Diwygiad Mawr, cyffelyb brofion diamheuol o ddylanwad argyhoeddiadau crefyddol ar y bobl, ag a gafwyd yn hanes dadblygiad Wesleyaeth Gymreig ym mlynyddau cyntaf y 19fed ganrif. Os sylwir ar Dangoslun III., gwelir fod cynnydd Wesleyaeth Gymreig o'r flwyddyn 1800 hyd 1830 wedi bod yn fwy, yn amlycach, yn gyflymach, na'r un o'r enwadau eraill. Ychwanegwyd 1271 at eu haelodaeth, ac adeiladwyd pymtheg o gapeli newyddion o fewn corff un flwyddyn—a hynny pan oedd yr enwad, fel enwad, yn wan. Nid rhanol na lleol, ond cyffredinol oedd yr ymdrech a'r llwyddiant. Gwyddai llywiawdwyr y mudiad pa fodd i fanteisio ar amgylchiadau ac anghenion gwahanol pob ardal. Mewn un ardal boddlonent ar lofft ystabl fel ty cwrdd; yr un flwyddyn, yn y sir agosaf, codwyd capel hardd yn werth £4000,—ac addolid mor wresog yn y naill a'r llall. Gofynnai gyfrol o faintioli'r llyfr hwn i wneuthur dim tebyg i gyfiawnder âg ymdrech, llafur, a llwyddiant Wesleyaeth yng Nghymru pan ddechreuwyd cario'r gwaith ymlaen ar linellau Cymreig. Ac, o dan fendith Duw, olrheinir yr oll i ddylanwad ac ysbrydiaeth y gwr da, yr hwn a ddanghosodd gyffelyb zel a brwdfrydedd ar ddiwedd oes hir o lafur, ymron digyffelyb, ag a ddanghosodd pan yn llencyn ieuanc yn Rhydychain y cychwynnodd ar ei yrfa grefyddol.

Nodiadau

[golygu]
  1. Wesley's Journals, October 20, 1739, vol. i., p. 423. Yr oedd Wesley'n symud gan mwyaf ymhlith Eglwyswyr—a gwelsom eisoes sut yr oeddent hwy yn cael eu dysgu. Am yr Ymneillduwyr, yn Gymraeg, gan mwyaf, yr addolent—ac ni fedrai Wesley'r iaith honno—a phriodolai anwybodaeth o'r Efengyl i ddynion nad oeddent ond yn unig yn anwybodus o'i iaith ef. Sylwer mai ar ei ymweliad brysiog cyntaf â Chymru yn unig y ceir y fath gyfeiriad anheilwng. Daeth i adnabod y Cymry yn well ar ol hynny.
  2. Wesley's Journal, ii., 29; eto, iii., 30, &c.
  3. History of Methodism in Wales, D. Young, p. 298.
  4. 4.0 4.1 History of Methodism in Wales, tudal 658.
  5. 5.0 5.1 5.2 Journals, vol. ii., p. 28-29, &c.
  6. Eto, pp. 113—114, &c.
  7. Wesley's Journals, vol. ii., p. 112.
  8. Eto, ii., p. 114.
  9. Eto, vol. ii., p. 114.
  10. Gwel tud. 264
  11. Charles Wesley's Journals.
  12. Wesley's Journals, vol. ii., 298. Eto, 347—8, &c. &c.
  13. Dyddlyfr Howell Harris, Rhif 131 B., Awst 7, 1748.
  14. Wesley's Journals, vol. iv., p. 328.
  15. Dyddlyfr Howell Harris, Rhif 86, Mawrth 3, 1741—2.
  16. Eto, Mawrth 22, 1741.
  17. Eto, Rhif 131A, Mai 31, 1748.
  18. Eto, Meh. 9, 1748.
  19. Eto, Rhif 131B, Gorff. 7, 1748.
  20. Dyddlyfr Howell Harris, Rhif 131 B, 7 Gorff., 1748.
  21. A Conference Book, including a General Account of the Affairs and Economy at the Tabernacle, before and after the Separation by Mr. Cennick, &c., an account of the Preachers, Labourers, Trustees, &c., in connection with Mr. Whitefield, from December, 1743, to December, 1747, &c., to be continued to December, 1749.
  22. Cymerodd Wesley y cyfle cyntaf i fynnu gweled Thos. Prosser ei hunan. Dyma ddywed am dano:—"Treuliais beth amser gyda T. Prosser, yr hwn oedd wedi llenwi'r seiad ag ofer siarad. Cefais fod y bai yn fwy yn ei ben nag yn ei galon; mae yn ddyn gonest, yn bwriadu yn dda; ond nid oes mwy o gymhwysder ynddo gan natur na gras i esbonio'r Ysgrythyrau nag sydd i areithio ar Resymeg neu Algebra. Ac eto cymer rhai dynion call y dyn tywyll hwn i fod yn llawer dyfnach nag ydyw. Ac y mae hynny'n naturiol. Os edrychwn i bydew tywyll ymddengys yn ddwfn; ond y tywyllwch yn unig sy'n gwneud iddo ymddangos felly. Dyger goleuni ato, a chawn weled mai bâs iawn ydyw." (Wesley's Journals, vol. ii. p. 408).
  23. Mae yn anhawdd gwybod ar ba sail y gwnaed y cyhuddiad yn erbyn Wesley. Yn ei ddyddlyfr (Awst 18, 1746) dywed Wesley:—" Marchogais gyda Mr. Hodges i Gastellnedd. Yma cefais ddwsin o wyr ieuainc y gallaswn ymron genfigennu wrthynt. Preswylient gyda'u gilydd yn yr un ty, a rhoddent yn barhaus mewn elusen pa beth bynnag a enillent dros ben angenrheidiau syml bywyd. Yr oeddent gan mwyaf (meddent wrthyf) yn gredinwyr mewn Etholedigaeth, ond mor lleied oedd eu rhagfarn fel na chaniataent i neb o'r Predestinariaid (h.y., y Calfiniaid) i bregethu yn eu plith os nad ymgadwai rhag pob dadleuaeth. Ac ar yr un amodau derbynient yn llawen rhai o'r farn wrthwynebol (h.y., y Wesleyaid)." John Richards oedd arolygwr Seiad Castellnedd. Ceir ei adroddiadau yn ysgrifau 68 A. B. C. a D. yn Nhrefecca. Nid oes dydd—iadau iddynt, na manylion o gwbl am Seiad Castellnedd. Dywed am gyffredinolrwydd y Seiadau dan ei ofal,—" Amryw ganghennau sychion ymhlith y Societies, a rhai wedi crino, a syrthio ymaith" (68 A.) "Nos tywyll ar y cyffredinolrwydd o honynt" (68 c.) "Llawer yn rhodio ymhell oddiwrth Dduw " (68 D.) Os mai dyna gyflwr Seiad Castellnedd, prin yr oedd yn deg i Gymdeihasfa Bryste daflu'r bai ar bregethu Wesley.
  24. Cadwodd Wesley ei addewid. Nid ymwelodd â Chastellnedd wedyn am ddeng mlynedd—ond cafodd erbyn hynny fod yno Seiad Wesleyaidd wedi ei sefydlu, ac ystafell gyfleus i'w cyfarfodydd yn eiddo iddynt. (Wesley's Journals, vol. iii. p. 343).
  25. Wesley's Journals, vol. ii., p. 373—4.
  26. Wesley's Journals, vol. iii., p. 23. "Diolch i Dduw," medd Wesley, wrth gyfeirio at hyn, "wele un graig rwystr eto wedi ei symud o'r ffordd."
  27. Llythyr William Holland at Mrs. Jones, Fonmon, Ionawr 27, 1750.
  28. Wesley's Journals, vol. iv., p. 326
  29. Eto, vol. iii. p. 29.
  30. Life and Times of the Countess of Huntingdon, vol. i. p. 86.
  31. Wesley's Journals, vol. iv., p. 289.
  32. Charles Wesley's Journals, vol. ii., p. 247.
  33. Life and Times of the Countess of Huntingdon, vol. i., p. 476.

Seiadau Wesley yng Nghymru

Ni chaniata gofod i mi roi cyfrif a dyddiadau gwahanol ymweliadau John Wesley â'r Dywysogaeth. Ca'r darllenydd syniad am danynt wrth edrych ar y Map Rhif 4, sy'n dangos ffrwyth ei lafur personol yng Nghymru. Fel cynhorthwy pellach, rhoddir yma yn eu siroedd, enwau'r holl leoedd y bu yn pregethu ynddynt. Ymwelodd â llawer o'r rhai hyn amryw weithiau drosodd. Ceir y llythyren "s" ar ol enwau'r lleoedd y sefydlodd efe ei hun Seiadau Wesleyaidd ynddynt. Dynoda'r llythyren "c" fod Capel neu Addoldy Wesleyaidd wedi cael ei sicrhau yno, naill ai drwy adeiladu neu brynu, yn ystod ei fywyd ef.


ABERTEIFI,

Aberteifi, Rhosfair.

BRYCHEINIOG.

Llanfairmuallt, Garth, Maesmynys, Llanidan, Aberhonddu (s. c.), Crughowel (s.), Trefecca, Merthyr Cynog, Bwlch, Llanwrtyd, Gelli (s. c.).

CAERFYRDDIN.

Caerfyrddin (s. c.), Llanelli (s. c.), Cydweli.

DINBYCH.

Llansantffraid Glan Conwy (s.).

FFLINT.

Wyddgrug (s. c.), Llaneurgain (s.).

MAESYFED.

Rhayadr, Kington, Llandrindod, Llansantffraid, Clyro.

MALDWYN.

Llanidloes (s.), Trallwm (s. c.), Drefnewydd (s.), Tyddyn.

MON.

Caergybi (s. c.), Rhydyspardyn, Llanddaniel, Llanfihangel, Llanygors, Trefollwyn, Llanerchymedd, Llangefni (s.), Clwchdyrnog.

MORGANNWG.

Caerdydd (s. c.), Porthkerry, St. Brides, Fonmon (s.), Wenfo, Bonvilston, Llanishen (s.), Llantrisant (s.), Pontfaen (s. c.), Gelligaer, Castellnedd (s. c.), Margam, Penbontarogwy (s. c.), Wilton, Llanmaes (s.), Llanwonno, Abertawe (s. c.), Newton, Aberdar, Llandaff (s.), Aberthaw (s.), Oxwich (Gower), Llanbradach, Caerphilly (s), Coychurch, Llantwit, Fontegary, Penmarc, St. Nicholas (s.), Michelston, Watford, Dinas Powis, Whitchurch, Oldcastle ger Penybont.

MYNWY.

Devauden, Abergafenni (s. c.), Brynbiga, Pontypwl, Casnewydd, Llanfaches, Llanhithel, Llantarnam, Penrheol, Machen, Caldicot, Chepstow (s. c.), Trefynwy, Coleford (s. c.), Bryste (s. c.), Gloucester (s. c.), Kirkwood (s. c.), Bedwas.

PENFRO.

Tenby (s.), Penfro (s. c.), Hwlffordd (s. c.), Lamphey, St. Daniels (s.), Dale (s. c.), Houghton (s.), Trefdraeth, Harford, Roach (s. c.), Jeffreys—ton (s.), Tyddewi, Spittal (s.), Narberth (s.), Tracoon, Monkton, Little Newcastle, Llwyngwair.

Nodiadau

[golygu]

PENNOD XXII.
DARLUN HOWELL HARRIS O HONO EI HUN.

Nid oes o bosibl unrhyw berson hanesyddol o fewn y ddwy ganrif ddiweddaf ag y mae mwy o gamargraffiadau wedi cael eu ffurfio am dano, na'r gwr a ddarlunir i ni yn aml fel. personoliaeth amlycaf a chanolog y Diwygiad yng Nghymru—Howell Harris. Nid, o bosibl, am fod neb wedi gwneud cam bwriadol â'i hanes; yn sicr nid am fod neb o elyniaeth tuagato wedi camliwio'r hyn a wnaeth:—ond yn unig ac yn syml am fod ymron pob ysgrifenydd fel pe wedi edrych arno yn fwy fel un o arwyr dychmygol y cyn-oesoedd nag fel cymeriad hanesyddol gwirioneddol. Howell Harris fel y gallasai fod, ac nid Howell Harris fel yr ydoedd mewn gwirionedd, a ddarlunir yn gyffredin. Fel mater o ffaith yr oedd dau os nad tri Howell Harris tra gwahanol i'w gilydd yn bodoli yn y ddeunawfed ganrif, ac yn cymeryd rhan amlwg a blaenllaw yn Y Diwygiad yng Nghymru, ond un o'r tri yn unig sydd wedi cael ei osod hyd yma ger bron y cyhoedd.

Ni fwriedir yn y bennod hon wneud dim ond codi ychydig ar un cwrr i'r llen sy'n gorwedd dros y ddau Howell Harris arall, ac ni chodir ond cymaint o hwnnw ag sy'n angenrheidiol i wneud chwareu teg â rhai o'i gydoeswyr a'i gydweithwyr sydd i raddau fwy neu lai wedi cael eu gwthio i'r cysgod yn yr ymgais i osod delw Howell Harris mewn man mwy amlwg a mwy parchus nag a haedda. Mae cysgodion y ddelw wedi syrthio ar rai o bob enwad, ar Eglwyswyr fel Daniel Rowlands. a Griffith Jones, ar Anibynwyr fel Edmund Jones a David Williams, ar Fedyddwyr fel Miles Harri ac Enoch Francis, ac ar Wesleyaid fel John a Charles Wesley. Mae'r clod am ran o'r gwaith a gyflawnwyd gan y rhai hyn, ac eraill, wedi cael ei gymeryd oddiarnynt hwy, ac wedi cael ei dywallt â llaw hael ar ben Howell Harris. Os ydys wedi darllen yn ystyriol y penodau blaenorol, a'r cyfeiriadau ynddynt at Howell Harris yn ei berthynas a'i gydweithwyr, rhaid fod meddwl y darllenydd wedi cael ei baratoi i raddau at ran, a dweyd y lleiaf, o gynnwys y bennod hon. Dichon y dylesid adgofio'r darllenydd cyn myned ymhellach, na ddywedir dim am Howell Harris, ei waith, ei natur, a'i gymeriad, yn y bennod hon, ond a geir yn amlwg ddigon yn ei lawysgrifen ef ei hun yng nghasgliad gwerthfawr Llawysgrifau Trefecca. Gan nad beth a ellir ei ddweyd yn erbyn Howell Harris, yr oedd yn ddigon gonest i dynnu darlun cywir o hono ei hun yn y pentwr dyddlyfrau a llawysgrifau a adawodd ar ei ol yn Nhrefecca. Yn ei ddydd-lyfr ysgrifennai bopeth ddeuai i'w feddwl am dano ei hun, ei gyfeillion, a'i gysylltiadau; am Dduw, a dyn, a diafol; am lafur, a llwyddiant, a phrofedigaeth. Amhosibl, o fewn cwmpas un bennod, a fyddai rhoi syniad cyflawn am yr Howell Harris a ddatguddir yn y Llawysgrifau; amhosibl, mewn llyfr o natur hwn, yw neillduo mwy na phennod iddo; dylai gael llyfr cyflawn iddo ei hun; mae defnyddiau llyfr o'r fath gennyf wrth law, ac os gwelir eto fod angen, neu y gallesid cyrraedd rhyw ddiben da wrth, gyhoeddi'r cyfryw lyfr, dichon y gwneir pan ddaw'r alwad. Ar hyn o bryd boddlonir ar roi bras-linelliad yn unig o brif nodweddion bywyd a gwaith un o'r cymeriadau mwyaf cymysg-gyfansoddedig a ymddengys o gwbl ar lwyfan Y Diwygiad yng Nghymru. Cafwyd yn nyddiau Cromwell a'r Weriniaeth aml i gymeriad hynod, dynion a bregethent Efengyl Tangnefedd ond a oeddent gedyrn mewn rhyfel, rhai a aent i'r frwydr a chledd mewn un llaw a'r Beibl agored yn y llall, a ganent Salmau ac a waeddent orchymynion i'w milwyr yn yr un anadl. Darlunir Vavasor Powell ar y naill law fel y dyhirin gwaethaf, ac ar y llall fel y sant perffeithiaf. Nid oedd efe y naill na'r llall; ei elynion dynasant un darlun, ei edmygwyr y llall; tebyg y ceir y darlun cywir o honno yn y canol rhwng y ddau, dyn ydoedd wrth natur yn meddu cynneddfau a thueddiadau a allasent ei wneud yn un o ddyhirod penaf ei
CYNNYDD CYMHAROL YR ENWADAU, 1740-1830


oes, ond a gyfnewidiwyd gan ddylanwad gras i gyflwyno'r cyneddfau hynny i wasanaeth ei Arglwydd. Ond nis gellir dweyd hyn am y darlun a roddir o Howell Harris yn y bennod hon. Nid eileb ydyw o'r darlun a dynnir gan edmygydd na fyn weled dim ond rhinweddau; yn sicr nid darlun a dynnwyd gan elyn iddo ydyw; eithr amlinelliad bras o'r darlun a dynnwyd gan Howell Harris ei hun o honno ei hun yn ei lawysgrifau ei hun, ydyw. Bydd cadw hyn mewn cof yn help i'r darllenydd i bwyso a mesur gwerth a chynnwys y bennod hon yn well.

Am ei zel, gweithgarwch, yni, ac ymgyflwyniad Howell Harris, o leiaf mewn un cyfnod o'i fywyd, i waith y diwygiad yng Nghymru a Lloegr, anhawdd, os nad amhosibl, a fyddai dweyd gormod. Ni weithiodd Wesley yn galetach, ni ymgyflwynodd Whitefield yn fwy llwyr, ni fu Daniel Rowlands yn fwy selog, nag y gwnaeth ac y bu Howell Harris ar un adeg o'i gysylltiad â'r Diwygiad. Petai wedi cadw ei ddechreuad buasai yn haeddu llawer, er nad yr oll, o'r parch a'r bri a bentyrrir arno. gan ysgrifenwyr na wyddant ond y nesaf peth i ddim am ei wir hanes.

Ond nid oedd, hyd yn oed yn ei amser goreu, yn bopeth y darlunir ef ini gan ei fywgraffwyr. Mewn ysgol a gedwid gan Weinidog Anibynnol—yr hwn, wedi hynny, a ddaeth yn gyd-garwr aflwyddianus ag ef—y cafodd ei addysg.[1] Yn yr un ysgol ymhen ychydig flynyddau wedi hynny, y derbyniodd Williams, Pantycelyn, ei addysg yntau. Pwy all fesur faint dylanwad yr ysgol a'r athraw Ymneillduol hwn, ar gyfeiriad dilynol bywyd y ddau ddiwygiwr enwog hyn? Yr oedd mantell, a deuparth ysbryd, Samuel Jones, Brynllywarch, wedi disgyn ar yr athraw duwiolfrydig hwn—Vavasor Griffiths—yr hwn yn rhy fuan a alwyd i roi arfau ei filwriaeth yn y byd hwn heibio. Gosodai'r Ymneillduwyr, a'r Anibynwyr yn arbennig—bwys mawr yn y dyddiau hynny ar addysg athrofaol fel cymhwysder i'r Weinidogaeth; adlewyrcha glod nid bychan arnynt eu bod, yng ngwyneb anfanteision mor fawr, yngwyneb bygythion cyfraith y tir, yngwyneb erlid, a dirwyon, a charchar, wedi cadw fflam lamp gwybodaeth a dysg y pwlpud yng Nghymru fel yn Lloegr, i losgi mor ddisglaer ag y bu. Bu hyn yn nerth ac yn wendid iddynt; yn nerth iddynt yn ogymaint ag y cadwodd safon dysgeidiaeth a gwybodaeth y pwlpud yn uchel, a'i safle yn anrhydeddus; yn wendid yn ogymaint a'i fod yn amddifadu'r enwad o wasanaeth doniau cartrefol a allasent fod wedi bod yn adgyfnerthiad pwysig iddo. Un o wersi daionus y diwygiad i'r Anibynwyr, oedd eu dysgu i wneuthur defnydd helaethach, mwy cyson a chyfundrefnol, o'r doniau cartrefol hyn fel ategion gwerthfawr i'r weinidogaeth reolaidd. Ond yr oedd natur amgylchiadau'r oes, eangder maes gwaith pob eglwys, at y rhai y cyfeiriwyd mewn pennodau blaenorol, yn gyfryw ag oedd yn gofyn dynion yn feddiannol ar gymhwysderau arbennig i fod yn fugeiliaid ar eglwysi mawrion a gwasgaredig y dyddiau hynny. Ceid eithriadau, mae'n wir; ond nodwedd Tadau Ymneillduol yr oes fel dosbarth, oedd dynion mewn sefyllfa fydol gysurus, o safle gymdeithasol dda, o ddysgeidiaeth ddofn a disgybledig. Fel engraifft o'r eithriadau gellir nodi Edmwnd Jones, Pontypwl, yr hwn ni flinid â gormodedd o dda'r byd hwn; ac o'r rheol gyffredin dynion fel Matthew Henry, Henry Maurice, a Phylip Pugh, &c. Ond am yr eithriadau a'r rheol gellir dweyd" Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny."

Yn ysgol proffwydi'r Anibynwyr, ynte, y derbyniodd Howell Harris a Williams, Pantycelyn, eu holl addysg athrofaol. Dylanwad un arall o broffwydi'r Anibynwyr—Phylip Pugh—a wnaeth Daniel Rowlands yn ddiwygiwr selog a thanllyd. Dywedais mai mewn Athrofa Anibynnol y derbyniodd Howell Harris ei holl addysg. Camgymeriad tra chyffredin yw ei fod wedi treulio gryn amser ym Mhrifysgol Rhydychain, ac mai anuwioldeb gwarthus y myfyrwyr yno a wnaeth iddo dorri ar gwrs ei efrydiaeth yno, a dychwelyd i Gymru. Fel mater o ffaith ni threuliodd Howell Harris gymaint ag wythnos yn Rhydychain erioed![2] Cadwai ddyddlyfr, yn yr hwn y nodai pa le a pha fodd y treuliodd bob niwrnod o'i fywyd; ac wrth gymharu dyddiadau hwnnw, gwelir na fu yn absennol o Gymru am lawn wythnos yn ystod y flwyddyn y dywedir iddo dreulio yn Rhydychain. Dyna engraifft deg o effaith y chwydd-wydrau drwy y rhai yr edrycha rhai haneswyr ar Howell Harris a'i waith.

Beth a'i cymhellodd i droi yn ol o Rydychain mor fuan, mae'n anhawdd penderfynnu. Dywed ef ei hun yn ei Adgofion wedi hynny, mai anuwioldeb y lle a'i gorfododd i ymadael.[3] Ond heb briodoli iddo amcan i dwyllo wrth ysgrifennu'r adgofion hynny, gellir maddeu ini am edrych gydag amheuaeth ar yr esboniad hwn. Sicr yw nad oedd mor ddysgedig, nac mor wrteithiedig ei feddwl, ag y tybir yn gyffredin. Bradycha ei ysgrifeniadau yn aml radd o anwybodaeth ac hyd yn oed o ddiffyg dysgeidiaeth, sy'n hollol anghyson a'r syniad o golegwr gwrteithiedig. Yr oedd wedi meistroli digon o wybodaeth i allu agor ysgol i bobl ieuainc y gymydogaeth,[4] ond nid i wneud honno'n atyniadol i gylch eang. Ysgol Eglwysig ydoedd, canys pan enynnodd digofaint awdurdodau Eglwysig yn ei erbyn, fel y gwnaeth yn fuan am ei dueddiadau i bregethu fel efengylydd anrhwyddedig gan yr esgob, gorfu iddo roi ei swydd fel ysgolfeistr i fyny.[5] Yr oedd ef ei hun yn ymwybodol o'i ddiffygion addysgol, ac yn awyddus i'w symud;[6] yr oedd ei gyfeillion a'i gyd-lafurwyr yn y diwygiad, yr un' mor ymwybodol ag yntau o'r diffygion hyn.[7] Dichon y ceir yn y ffaith yma esboniad ar waith Esgob Llandaf yn gwrthod unwaith ac eilwaith urddau Eglwysig iddo. Os oedd yr Esgob—ac yr oedd rhai Esgobion hyd yn oed yn y dyddiau hynny yn gosod pwys ar raddau colegawl, ar ddisgyblaeth athrofaol, ar wrteithiad meddyliol, fel rhan o gymhwysderau'r offeiriadaeth yn y dyddiau pan oedd y Diwygwyr yn cyffroi'r wlad, ac yn aml yn creu rhagfarn yn erbyn yr Eglwys,—yna, gallwn ddeall fod y ffaith mai prin tridiau a dreuliodd Howell Harris yn Rhydychain, yn help, a dweyd y lleiaf, i'w benderfyniad i beidio ei drwyddedu fel pregethwr eglwysig.

Teimlodd Harris hyn gymaint, fel y penderfynnodd ar un adeg i roi heibio ei waith fel Efengylydd,[8] i fynd yn ol i'r ysgol, ac i gymhwyso ei hun at waith y weinidogaeth yn Eglwys Loegr. Mae yn fwy na thebyg y buasai wedi cario'r bwriad hwn allan, ac y buasai wedi dadblygu i fod yn urddasolyn Eglwysig heb son erioed am dano mewn cysylltiad â Chymdeithasfaoedd y Methodistiaid, oni bai am ddylanwad personol ac uniongyrchol dau Fedyddiwr enwog arno—Miles Harri, o Bontypwl, a Joseph Stennett, Llundain ac Abergafenni. I'r ddau weinidog Bedyddiol hyn y mae Methodistiaeth Cymru, ai hen ai diweddar, i ddiolch am hynny o ran a allant hawlio yn Howell Harris.[9]

Os oes un peth yn amlycach nag arall ynglŷn â gyrfa foreuol Harris fel Efengylydd a Diwygiwr, dylanwad Ymneillduwyr, yn Anibynwyr a Bedyddwyr, arno, yn ei gymhell i'r gwaith, ac i'w gynnal a'i gefnogi ynddo, yw'r peth hwnnw.

O dan Vavasor Griffith, yn Llwynllwyd, y cafodd ei addysg.[10] Gweinidogion Ymneillduol oedd ei gydweithwyr cyntaf. Edmund Jones, Pontypwl, a agorodd Eglwysi Anibynwyr Mynwy.[11] a Miles Harri, Pontypwl, Eglwysi Bedyddwyr Mynwy,[12] iddo. Davies, Hwlffordd, agorodd ddrws yn sir Benfro,[13] a James Davies ynghylch Merthyr.[14] Gwnaeth David Williams, Watford,[15] a Howell Griffith, Trefeirig,[16] yr un peth ym Morgannwg. Lewis Rees, Llanbrynmair, a'i dygodd gyntaf i'r Gogledd.[17] Trefnai y rhai hyn ei deithiau a'i gyhoeddiadau iddo, a chydnabyddid ef am ei lafur. Casglodd y Bedyddiwr enwog, Joseph Stennett, arian yn Lloegr i'w gynorthwyo.[18] Yr oedd hyn oll cyn iddo ddod i gysylltiad agos â'r Eglwyswyr a fuont wedi hynny yn gydweithwyr mor ymroddgar iddo. Ac wedi ffurfio'r cysylltiad hwnnw, ac wedi sefydlu o Whitefield y Gymdeithasfa yn Watford,[19] parhaodd amryw o'r Anibynwyr, er nid o'r Bedyddwyr, eu cysylltiad swyddogol âg ef ac â'r mudiad. Ymhlith y rhai hyn gellir enwi Henry Davies, Blaengwrach;[20] Lewis Rees, Llanbrynmair[21] Benjamin Thomas, Brycheiniog;[22] William Edwards[21] a Thomas Williams, y Groeswen;[21] Morgan John Lewis, New Inn;[21] Benjamin Tibbott, Llanbrynmair;[23] ac amryw eraill. Mynychai y rhai hyn gyfarfodydd y Gymdeithasfa, er yn weinidogion cydnabyddedig Eglwysi Anibynnol,[24]—yr olaf a enwyd yn parhau i wneud hynny i lawr hyd ddyddiau Thomas Charles o'r Bala, ac yn cael ei osod yn bregethwr Sassiwn y Bala yn 1793.[25] Yn yr un modd pregethai Thomas Charles yn aml yn nghapeli a chyfarfodydd yr Anibynwyr.[26]

Gwanhaodd dylanwad yr Ymneillduwyr arno, fel y cryfhaodd dylanwad yr Eglwyswyr arno. Torrodd ei gysylltiad ynghyntaf oll â'r Bedyddwyr, ac wedi hynny â rhai o'r Anibynwyr. Daeth oerfelgarwch rhyngddo a David Williams, Watford,[27] a chweryl rhyngddo ag Edmund Jones, Pontypwl;[28] ond, o ran hynny, cwerylodd yn ei dro â phawb o'i gyd-weithwyr—a Thomas Price, Watford, oedd â'i ddrws bob amser yn agored, ei fwrdd bob amser yn llawn, a'i arian bob amser at wasanaeth Diwygwyr o unrhyw a phob rhyw enwad;[29] a John a Charles Wesley;[30] a Daniel Rowlands [31]—er yn derbyn cymorth ariannol ganddo;[29] ie, hyd yn oed â'i ffafr-ddynion, James Beaumont,[32] a Herbert Jenkin.[29] Mewn gair, rhestr hir o gyfeillgarwch agos a chynnes, yn cael ei ganlyn gan dymor o oerfelgarwch, ac yn aml o rwyg a theimladau chwerw, yw hanes perthynas Howell Harris ag ymron bawb a gyd—weithient âg ef ar faes y diwygiad,[33] —ie, ac â phriod ei fynwes hefyd.[34]

Yr oedd wedi torri ei gysylltiad cyfeillgar a'r Bedyddwyr cyn gwneud hynny â'r Anibynwyr. Ei gysylltiadau a'i dueddiadau Eglwysig a barodd iddo wneud pob un o'r ddau. Ond mae llai o gyfiawnhad i'w waith yn torri â'r Bedyddwyr, nag sydd i'r rhwyg a gymerodd le rhyngddo â rhai o'r Anibynwyr,—er mai rhy ychydig o esgus oedd ganddo dros wneud yr olaf. Os oedd dan rwymau i'r Anibynwyr—ac yr oedd dan rwymau mawr iddynt yr oedd dan fwy o rwymau i'r Bedyddwyr. Cafodd dderbyniad cynes a phob cefnogaeth yn ei waith fel efengylydd gan y ddau enwad; yn awr ei galedi a'i brofedigaeth, cyn casglu o hono o'i gwmpas y cyfeillion a ffurfiwyd wedi hynny gan Whitefield yn Gymdeithasfa, cafodd gydymdeimlad yr Anibynwyr,—ond cafodd gymorth sylweddol y Bedyddwyr. Wele'r amgylchiadau yn fyr. Byddant, o bosibl, yn newydd i lawer.

Trwy ei anoethineb ei hun yn bennaf, tynnodd yn ystod un o'i deithiau fel Efengylydd yn Sir Fynwy, ddigofaint swyddogion gwladol am ei ben. Cymerwyd ef i'r ddalfa, a rhoid ef i sefyll ei brawf yn yr Assizes. Crynhodd y Bedyddwyr yn osgorddlu ffyddlon o'i gwmpas. Cymerodd Miles Harri, gweinidog Bedyddwyr Pontypwl, mewn llaw gyda'i yni a'i zel arferol, y gwaith o amddiffyn Howell Harris. Y cam cyntaf tuag at hynny, oedd ei ryddhau o ddwylaw'r swyddogion gwladol. Tuagat wneud hynny rhaid oedd cael machnïydd. Un o aelodau a swyddog yn Eglwys Bedyddwyr Pontypwl, a aeth yn fachnïydd iddo ar gais ei weinidog, Miles Harri. Yna gyrrwyd Howell Harris i barhau ei waith fel Efengylydd teithiol tan y cynhelid y Frawdlys. Tra Harris yn teithio'r wlad i efengylu, aeth Miles Harri ati i baratoi i amddiffyn y pregethwr yn yr Assizes. Cafodd gydweithrediad calonog Mr. Joseph Stennett. Cyflogodd y ddau gyfreithiwr medrus i amddiffyn Harris. Mynasant weled amryw o'r rhai a fuasent yn cael eu gwysio fel Uchel Reithwyr i wrando'r achos. Coronwyd yr ymdrechion egniol hyn â llwyddiant. Pan ddaeth dydd y prawf, rhyddhawyd Howell Harris, a dihangodd yn groeniach, heb ddioddef mewn person, meddwl, na llogell. Ond ni chafodd ddigon o ras i wneud cymaint a diolch i'r brawd caredig oedd wedi myned yn fachnïydd iddo, er fod hwnnw wrth wneud hynny yn peryglu ei amgylchiadau ac yn gosod ei hun yn agored i anfri ymhlith ei gymydogion. Nid anghof nac anystyriaeth oedd hyn o du Howell Harris. Ysgrifennodd Miles Harri o leiaf ddau lythyr i'w adgofio, ac i'w gymhell, fel mater o gwrteisrwydd cyffredin, heb son am garedigrwydd brawdol, i yrru gair o gydnabyddiaeth i'r brawd a safodd drosto yn yr adwy—ond ni wnaeth gymaint a chydnabod y llythyrau hyn! Maent eto ar gael yn Nhrefecca.[35] Cynygiodd Anibynwyr gymorth ariannol i Harris yn yr argyfwng, ond gan fod Bedyddiwr eisoes wedi gwneud, nid oedd angen.[36]

Wedi bod yn cydweithio fel hyn mor frawdol â'r Bedyddwyr, wedi profi cymaint o garedigrwydd personol oddiar eu dwylaw, anghofiodd neu anwybyddodd y cwbl pan gafodd agoriad i Eglwys Loegr. Derbyniodd lythyr oddiwrth Mr. John Thomas, offeiriad Puncheston, Sir Benfro, yn ei annog i ddod yno i bregethu. Nid anogaeth i weithredu fel Efengylydd ydoedd y gwahoddiad hwn, ond cais arbennig am ei wasanaeth i ddod i blwyf yr offeiriad hwn er mwyn gwrthweithio dylanwad y Bedyddwyr yn Sir Benfro, y rhai oeddynt ar y pryd mor haerllug a thynnu'r bobl o Eglwysi'r Plwyf i'r Capeli Ymneillduol.[37] Ufuddhaodd Harris a'r alwad ar unwaith. Aeth—a phregethodd yn erbyn heresi'r Bedyddwyr gyda'r rhai yr oedd wedi bod yn cydweithio, yng nghapeli y rhai yr oedd wedi bod yn pregethu, ac i ymdrechion y rhai ar ei ran yr oedd yn ddyledus ei fod a'i draed yn rhydd o'r cyffion, ac yn gallu mynd fel cynt o amgylch y wlad i efengylu. Cyn gorffen â'r digwyddiad hwn yn ei hanes, gellid ychwanegu ei fod wedi ffurfio cysylltiadau cyfeillgar iawn ar ol hyn â theulu Mr. Thomas, i'r hwn yr oedd dwy o ferched. Beth oedd natur y cysylltiad hwnnw mae'n anhawdd penderfynnu i sicrwydd. Ond gellir darllen rhwng llinellau llythyrau un o'r ddwy at Harris, ei bod hi wedi coleddu gobeithion am gysylltiad agosach â'r Efengylwr. Pan briododd yntau Miss Williams, y Skreen, perswadiodd Miss Thomas i briodi ei was a'i gynorthwywr Jimmy Ingram.

Mae'n amhosibl esbonio, chwaethach cyfiawnhau, ymddygiad anfoesgar ac aniolchgar Howell Harris at y Bedyddwyr. Ond ceir yn yr ymddygiad hwnnw esboniad ar yr oerfelgarwch a ddanghoswyd, nid yn unig tuag ato ef, ond eraill a gydweithient âg ef, gan y Bedyddwyr ar ol hyn. Gellir o bosibl esbonio, er na ellir cyfiawnhau, ei waith yn fuan ar ol hyn yn torri ei gysylltiad â rhai o'r Anibynwyr oedd wedi bod yn cydweithio â hwynt hyd yn hyn. Deallir hyn yn well pan gofir y pethau canlynol:—

1. Mudiad anenwadol, neu efallai cyd-enwadol, y bwriedid i'r Diwygiad fod. Mae hyn yn amlwg oddiwrth y ffaith fod Eglwyswyr, Anibynwyr, a Bedyddwyr, yn cydweithio'n egniol a chyfeillgar ynddo.

2. Cydweithiad Howell Harris â phob un o'r tri fel eu gilydd. Efengylwr Rhydd (Evangelist at large, fel y galwai Whitefield ei hun) ydoedd.

3. Manteisiai pob enwad—yr Eglwys a'r Ymneillduwyr—ar y deffroad a achosid yn eu cymydogaethau gan bregethau cynhyrfiol Harris.

4. Cynhelid y Seiadau, nid yn unig mewn cysylltiad âg Eglwysi Anibynnol[38] a Bedyddiedig,[39] ond hyd yn oed yn rhai Gweinidogion Ymneillduol.[40]

5. Nid anaturiol oedd i Ymneillduwyr selog, fel David Williams, Watford, ac Edmund Jones, Pontypwl, ddod i edrych ar y Seiadau hynny fel yn gwasanaethu dau amcan, sef:—

(a) Anogaeth a chyfleusdra i weithgarwch aelodau ffyddlonaf eu heglwysi.
(b) Meithrinfa i'r Eglwysi hynny.

6. Nid yw'n ymddangos fod Howell Harris, ar y cyntaf, wedi tramgwyddo wrth y syniad hwn. Ei amcan mawr ef, y pryd hwnnw, oedd deffroi cydwybodau cysglyd, a dwyn eneidiau at y Gwaredwr, ac ni waeth ganddo ai i'r Eglwys ai i'r Capel yr aent.

7. Ond pan ddaeth o dan ddylanwadau mwy Eglwysig, a phan ddeffrodd o'r newydd ei uchelgais am gael urddau gan yr Esgob, gwelodd 'mai rhwystr ar ffordd llwyddiant yr uchelgais hwnnw a fyddai gwneud dim a allai ymddangos fel yn wrthymdrechol i'r Eglwys.

O'r dydd hwnnw allan, canfyddir cyfnewidiad amlwg yn y dôn a fabwysiadodd tuagat Ymneillduwyr selog. Arminiaeth David Williams, Watford,[41] oedd yr esgus i dorri âg ef—ond gofalodd gadw ei gysylltiad â Thomas Price a'i deulu, ac â'r adran Galfinaidd o aelodau Watford. Pechodd Edmund Jones i'w erbyn, drwy gymhell rhai o ddychweledigion Seiadau Sir Frycheiniog i uno â rhyw Eglwys Ymneillduol a fyddai cyfleus iddynt.[42] Trodd Howell Harris, i raddau pell, o fod yn Efengylwr Rhydd, i fod yn fath o Ringyll Adgyflenwadol (recruiting sergeant) i Eglwys Loegr. Ar adegau cawn ambell i fflach o hen oleuni pur yr Efengylydd, a feddyliai fwy am gadw eneidiau nag am adgyfnerthu'r Eglwys; pregethai ambell dro mewn Capeli Ymneillduol, er nad mor fynych a chynt—ac nid o gwbl tan y diflannodd pob gobaith y gallai ddylanwadu ar yr esgob i'w wneud yn offeiriad. Yn y Gymdeithasfa, pan y'i ffurfiwyd gan Whitefield, Harris oedd y dylanwad mwyaf Ceidwadol; yr oedd yn fwy cul-Eglwysig ei syniadau na Daniel Rowlands na Williams, Pantycelyn. Efe oedd uchaf ei lef bob amser yng nghyngor y Gymdeithasfa yn erbyn gwneud dim a allai ymddangos fel cydgystadleuaeth ag Eglwys Loegr; ei wyneb ef oedd galetaf o bawb yn erbyn dim a allai sawru o geseilio Ymneillduaeth. Ar ei waethaf ef y mynnodd y Gymdeithasfa gyfreithloni cymuno o'r aelodau yn y Capeli Ymneillduol; am na foddlonai aelodau'r Groeswen dderbyn ei syniadau Eglwysig ef y cymerodd arno ei hun i geisio—a methu gweinyddu disgyblaeth arnynt, gan edifarhau trannoeth am geisio gwneud; am fod Thomas Williams, cyd-weinidog William Edwards, yn y Groeswen, yn dymuno cael ei urddo, fel rhyw weinidog Ymneillduol arall, y cymerodd Harris arno ei ddisgyblu yntau. Ambell dro caffai ymweliadau grasol o'r hen ysbryd tangnefeddus, brawdol; blinai yn ei ysbryd am deimlo mor chwerw at yr Ymneillduwyr; yng ngoleuni'r ysbryd hwn canfyddai eto y rhinweddau hynny ynddynt a gynhesodd ei galon atynt yn y dyddiau gynt, a chawn ef yn ei ddyddlyfr yn rhoi amlygiad i'r teimladau hynny. Mae rhannau o'i ddyddlyfr yn dryfrith o gyfeiriadau cymysgedig o dda a drwg, o ddrwgdybiaeth ac ymddiried, o serch a gelyniaeth anghymodlawn at y "Dissenters," sy'n hollol nodweddiadol o gymeriad cymysg—ryw y gwr hynod hwn.[43] Tybir yn gyffredin ei fod, ymron o ddechreu ei yrfa, wedi mynd yn bregethwr ar led. Ymddengys mai camgymeriad yw hyn. Dechreuodd, fel y dechreuodd Wesley a'r Diwygwyr eraill, mewn dull llawer mwy anghyhoedd; cychwynodd drwy ymweled â phersonau unigol yn eu tai; drwy gasglu ychydig gyfeillion at eu gilydd i egluro iddynt yr Ysgrythyrau; drwy gynnal cyfarfodydd mwy cyhoeddus yn ymyl ei gartref ei hun, ac yna yn y cymydogaethau cylchynnol. Gwnaeth hyn am yn agos i dair blynedd[44] cyn magu digon o wroldeb i fynd tu allan i'w sir enedigol. Ac mae yn ffaith hynod a tharawiadol, mai ar wahoddiad, ac i dy, y boneddwr a ddaeth wedi hynny yn dad-ynghyfraith iddo, yr hwn oedd ar y pryd yn Uchel Sirydd Maesyfed, yr aeth Howell Harris gyntaf dros derfynnau Sir Frycheiniog fel Efengylwr cyhoeddus.[45]

Cyfeiriwyd yn y ddwy bennod flaenorol at gysylltiad Howell Harris â Whitefield a Wesley. Hyd yn oed yn y cyfnod boreuol hwnnw, ac yn ei gysylltiad â hwynt fel yn ei gysylltiad â'r Ymneillduwyr, daeth rhai o wendidau ei natur i'r golwg. Yn ei ddyddlyfr ceir aml i brawf o'r modd yr ymladdai yn erbyn seirff eiddigedd a chenfigen a fynnent godi pen yn ei galon. Am lawer blwyddyn llwyddodd, y rhan amlaf, i gael y trechaf arnynt; ond wedi iddo, drwy gymorth gras a gweddi, lwyddo i hanner eu lladd, arhosent yn ddadfyw yn ei fynwes, i ddadebru mewn cyfnod diweddarach i fywyd gweithgar a melldithiol. Gwelir y teimladau hyn yn cael eu hamlygu ganddo o bryd i bryd yn ei ddyddiadur. Weithiai ymffrostiai ei fod ef ar y maes o flaen neb o'r Diwygwyr,[46] drachefn dyrry'r flaenoriaeth ymron i bawb; ac yna, gan fynd i ddyfnderoedd is fyth yn nyffryn cul ymostyngiad, ystyriai hi ei anrhydedd goreu a'i fraint uchaf, ddarfod iddo ddod i gysylltiad o gwbl â dynion mor fawr a Whitefield, Wesley, Rowlands, Edmund Jones, ac eraill a gydnabyddir ganddo fel ser disgleiriaf y Diwygiad.[47] Heblaw hyn yr oedd yn feddiannol ar dymer naturiol wyllt, a'i dygai yn aml i ofid. Hyn a'i dygodd i helbul ynglŷn a'r Frawdlys ym Mynwy,[48] ac a'i harweiniodd droion i syrthio allan â rhai o'i gyfeillion goreu. Pan yn y nwydau hyn dywedai y pethau bryntaf am ei gymwynaswyr pennaf, fel Thomas Price,[49] am ei ganlynwyr mwyaf ufudd fel Beaumont ac Ingram,[50] ac hyd yn oed am ei gydweithwyr mwyaf ymroddedig fel Wesley[51] a Daniel Rowlands.[52] Dygodd ei hun o leiaf unwaith yn nechreu ei yrfa, i brofedigaeth drwy ddweyd pethau angharedig am Whitefield yn ei gefn.[53] Gallu y daran i ruo yn hytrach na'r heulwen i gynhesu, nerth y rhaiadr i ysgubo yn hytrach na nerth tawel yr afon lifeiriol, oedd eiddo Harris. Lle y caffai Whitefield wrandawiad tawel a pharchus, codai Harris wrychyn yr hen Adda, gan ddwyn am ei ben ymosodiadau gwarthus.[54] Lle y danghosai Wesley awdurdod urddasol a llywodraeth digamsyniol a digwestiwn ar y mwyaf afreolus o'i ganlynwyr, ni lwyddai Harris, wrth geisio ei efelychu, ond i fradychu gwendid ei natur, a'i anghymwysder i fod nac yn arweinydd nac yn llywodraethwr i'r bobl.[55]

Am weithgarwch diflino Howell Harris nis gall fod un cwestiwn. Am ddyfnder a gonestrwydd ei argyhoeddiadau hefyd nis gall fod amheuaeth. Mae yr un mor wir a hynny ei fod yn meddu ar rai o'r cymhwysderau hanfodol i Efengylydd llwyddiannus, yn cynnwys brwdfrydedd diddiwedd, hyawdledd lifeiriol, a difrifwch diamheuol. Ceir y nodweddion hyn yn dod i'r amlwg yn feunyddiol yn ei holl waith, pa un bynnag ai pregethu a fyddai i'r dyrfa, ai cynghori yn y Seiad, ai dadleu yn y Gymdeithasfa, ai yn esbonio'r Ysgrythyrau i fawrion y deyrnas yn drawing-rooms cyfoethogion Llundain. Nid oedd gwahaniaeth ai yng Nghymru ai yn Lloegr y byddai yn gweithio, taflai yr un yni, yr un zel, yr un brwdfrydedd i'w waith pa le bynnag y byddai. Yr oedd yn ddyn yn feddiannol ar alluoedd diamheuol, galluoedd pe y'u hiawn lywodraethid, ac y'u hiawn gyfeirid bob amser, a hawlient iddo le o leiaf cyfuwch ag eiddo Whitefield neu Wesley fel arweinydd crefyddol. Ond yr oedd rhywbeth yn eisieu yn ei natur. Yr oedd yno ddiffyg cydbwysedd. Nid oedd y farn yn cyfateb i'r zel, na doethineb i'r brwdfrydedd. Wrth fynd trwy ei ddydd-lyfr gorfodir ni, er yn anfoddlon, i ddod i'r penderfyniad fod ei ysgrifeniadau, a'i hunan-ddarluniadau, yn aml yn bradychu basder (shallowness) ei natur; ac weithiau, mae lle i ofni, arwynebolrwydd cymeriad ac ansefydlogrwydd argyhoeddiadau. Petae wedi cael ei freintio â chydmar bywyd a wnai i fyny yn ei natur hi ddiffygion amlwg ei natur ef; petae, dyweder, Anne Williams, y Skreen, yn meddu cynheddfau naturiol Madame Griffith, Cefnanewlch; neu petae ef wedi cyfarfod â Madame Griffith cyn gweled o hono Anne Williams, mae yn bosibl, os nad yn debygol, y buasai ei holl hanes yn wahanol i'r hyn ydoedd. Ond nid felly y bu. Daeth Anne Williams yn wraig iddo, a Madame Griffith yn ddylanwad ar ac yn ei fywyd, ar adeg a than amgylchiadau a'i gwnai yn amhosibl hyd yn oed iddi hi ei wneud mwyach yr hyn a allasai efe fod dan amgylchiadau mwy ffortunus.

Mae gwrthgyferbyniad hynod rhwng hanes caru Whitefield ag eiddo Howell Harris. Ni bu erioed garwriaeth llai rhamantus na mwy matter-of-fact nag eiddo Whitefield; ni bu erioed un mwy cynhyrfus, un a apeliai yn amlach at deimladau dyfnaf y galon ddynol, na charwriaeth Howell Harris. Anadla bob gwedd o'r hanes y rhamant mwyaf byw; dengys pob tro ar lwybr y garwriaeth, brydferthion a syndra swynol. Ni bu'r un nofel fwy cynhyrfus, na'r un fugeilgerdd yn fwy deniadol, na stori carwriaeth Howell Harris ac Anne Williams. Rhamant pur, digymysg, o'r dydd y sibrydodd deimladau serch gyntaf i'w chlustiau, hyd y dydd y priododd hi yn unigedd Eglwys wledig Ystradffin, yw hanes caru'r ddeuddyn hyn. Da fuasai i'r ddau, a da fuasai i hanes crefydd yng Nghymru, pe hwn a fyddai unig Ramant Bywyd Howell Harris.

Gadewch ini am ennyd godi cwrr y llen, ac edrych ar y garwriaeth a'i chysylltiadau. Ceir yr hanes i gyd yn nydd-lyfrau Howell Harris, ac wrth ddarllen y geiriau a ysgrifennwyd dros gant a hanner o flynyddau yn ol, wrth edrych ar y darlun o hono ei hun a'i gariadferch, a dynnodd Howell Harris â'r llaw sydd wedi malurio yn y bedd ers yn agos i chwech ugain a deg o flwyddi, cyfyd rhyw niwl heb law eiddo amser, i bylu'r golygon, ac i wneud darllen yr hanes yn anhawdd—canys mae'r darllenydd heddyw yn medru gwneud yr hyn ni allai'r ysgrifennydd ei wneud, sef darllen yr hanes yng ngoleuni yr hyn a ddaeth ar ol hynny.

Dacw'r ddeuddyn ieuanc,—efe yn perthyn i'r sect ddirmygedig gan y cylch y troai hi ynddo; hi, i ddosbarth allan o unrhyw gydymdeimlad â phob peth oedd yn llenwi ei fryd ef. Howell yn or-grefyddol; teulu a chysylltiadau bywyd Anne, yn hollol fydol. Y cariadlanc yn byw mewn awyrgylch o weddi ac ymgyflwyniad i'r Arglwydd; y gariadferch mewn awyrgylch o rwysg, o bleserau, o loddest, o bob gwagedd cymdeithasol. Prin y gallesid dychmygu dau fyd mwy gwahanol, na byd Anne Williams a byd Howell Harris. Yr oedd tad Miss Williams, gyda'r cywreinrwydd sy'n nodweddu dosbarth o gymdeithas, wedi gwahodd Harris yno bregethu yn gydmarol gynnar yn ei yrfa,[56] ac yntau wedi cydsynio. O bosibl mai'r pryd hwnnw y cyfarfyddodd y ddeuddyn ieuanc gyntaf. Dadblygodd y garwriaeth yn gyflym. I feddwl ramantus Anne Williams, yr oedd Howell Harris yn gymaint arwr a neb o farchogion Arthur a'r Ford Gron. Natur dyner, gariadus, ymlyngar, oedd eiddo Anne Williams; a gweithredodd ei chysylltiad â Howell Harris dro yn holl amgylchiadau ei bywyd a thueddiadau ei meddwl. Pan ddaeth ei pherthynasau[57] a'i chyfeillion i ddeall fod carwriaeth rhwng Howell Harris a merch y Skreen, torrodd ystorm ar bennau'r ddau. Aï ei brawd o gwmpas ä gwn gan fygwth saethu Howell Harris pan welai ef. Defnyddid pob dylanwad cartrefol ar Anne Williams ei hun; bygythid hi gan ei pherthynasau; cloai ei mam ei dillad oddiwrthi;[58] ie, chwipiodd hi yn greulawn;[58]—ond nid oedd dim yn tycio, yr oedd ei chalon wedi ymglymu am Howell Harris. Treiwyd abwyd cyfoeth; cynygiodd ei modryb ffortiwn iddi, gan fygwth na chai ddimai os mai mynd gyda Howell Harris a wnai; pan welodd fod Anne yn mynnu ei ffordd ei hun, cyflawnodd y fodryb ei bygythiad.<ref>Dyddlyfr 110, Meh. 13, 1744.<ref> Ymddengys fod Whitefield. wedi dod i gysylltiad a'r teulu, ac wedi ennil cryn ddylanwad ar Anne Williams; ac er cymaint eu cyfeillgarwch â Howell Harris, ceisiodd Mr. a Mrs. Whitefield ddylanwadu arni i roi Harris i fyny, a phriodi Frank Sims, un o'r Diwygwyr Seisnig.<ref>Llythyrau 181a, 181c, 181d.<ref> Ond nid oedd abwyd cyfoeth ei modryb, na chymhellion Whitefield a'i wraig, yn cael mwy o effaith arni na bygythion ei pherthynasau a chreulondeb ei mam. Nid oedd dim ond angau a'i hysgarai oddiwrth ymlyniad ei serch wrth Howell Harris. Wedi i'r teulu fethu gyda hi, a'i brawd gydag ef, treiodd cyfeillion eu llaw. Tyngodd gwyr ieuainc cyfoethog y cylch na chai Howell Harris, y Methodist, byth briodi Etifeddes y Skreen. Ffurfiasant gynllwyn ar ol cynllwyn, ac un o'r rhai mwyaf addawol o honynt oedd cael press gang i orfodi Harris i fynd ymaith i ryfel,[59]—ond yn lle cymeryd Harris, cymerwyd ei was, Jimmy Ingram.[60] Trwy ddylanwad Erskine[61] llwyddwyd i gael Jimmy yn rhydd.[62] Yr oedd chwaer i Anne Williams yn briod â gwr Tynycwm, ac yno yn aml y caffai'r ddeuddyn ieuanc gyfle i gario ymlaen y cydgyfeillach oedd yn amhosibl yn un lle arall.[63] Mor llawn o'i garwriaeth oedd Howell Harris fel nid yn unig yr ysgrifennai'r holl hanes yn fanwl yn ei ddyddlyfr, ond adroddai'r hanes wrth bawb,—wrth ei fam weddw,[64] wrth ei gyd—lafurwyr ar faes y diwygiad,[65] wrth y brodyr yn y Gymdeithasfa,[65] ac hyd yn oed yn y Seiadau preifat.[66] Mor wahanol, onide, i Whitefield?

Wedi methu perswadio na dychrynu Anne Williams, ceisiwyd ei chywilyddio. Adroddwyd yr ystoriau mwyaf athrodus am dani.[67] Cyhuddid hi o aniweirdeb a llofruddiaeth,[68]—a dywed Howell Harris yr oll wrthym yn ei ddyddlyfr! Cysegrid y garwriaeth yn aml â gweddi,[68] ac yn lle stori garu, treulid yr oriau mewn ymddiddanion ar bynciau crefyddol,[68] canys yr oedd hithau erbyn hyn wedi derbyn argraffiadau crefyddol mor ddwfn a'r eiddo yntau.

Ar adegau ymddengys ei fod, yn y cyfnod hwn, fel mewn cyfnod diweddarach, wedi rhoi cymaint ffrwyn i'w deimladau fel mai o'r braidd y gellir ei ddal yn gyfrifol am yr hyn a ddywed. Credai nid yn unig fod amddiffyn yr Arglwydd drosto, ond ei fod ef mewn modd neillduol yn ffafrddyn arbennig yr Hollalluog.[69] Yr oedd holl amgylchiadau byd ac Eglwys yn cael, ac i gael, eu goruwchreoli i gyfarfod â'i amgylchiadau personol ef.[70] Yr oedd Duw nid yn unig wedi ffeindio gwraig iddo,[71] ond wedi trefnu'r amser[72] a'r lle[73] iddynt briodi, ac wedi darparu morwyn iddi hi ac yntau.[74] Cymerai yntau arno i wella gwaith yr Hollalluog drwy wneud y forwyn—y Chwaer Williams, o Lanfair Muallt,—yn athrawes yn yr Ysgol oedd ef yn mynd i godi yn Nhrefecca.[75] Amheuai weithiau, hefyd, a fyddai tymherau'r ddwy, y wraig a'r forwyn-ysgol-feistres—yn cyfateb i'w gilydd.[76] Yr oedd y Chwaer Williams wedi profi unwaith neu ddwy, gan nad faint o ddylanwad gras oedd yn ei chalon, ei bod wedi etifeddu cyfran helaeth o hyawdledd naturiol Efa.[77] O bosibl mai hyn a wnai i Harris bryderu, gan y gwyddai mor dawel a thyner oedd natur ei ddarpar-wraig. Yr oedd Duw, hefyd, i ddarparu ty iddynt i breswylio ynddo,[78] a dodrefn i'r ty,[79] ac i ddylanwadu ar nifer o bersonau gwahanol i ddarparu moddion cynhaliaeth iddo ef a'i wraig a'r teulu, os byddai teulu.[80] Rhoddai Duw iddo hefyd arweiniad ysbrydol i liwio gown ei wraig.[81] Dichon y dywedir mai arucheledd a pherffeithrwydd ffydd Howell Harris yn Rhagluniaeth, oedd hyn oll. Nid oes amheuaeth am ei ffydd, ond gellir amheu y synwyr cyffredin fethodd ei gadw rhag rhoi'r holl fanylion hyn yn ei ddyddlyfr, a'i ymgais i wneud i eraill gredu ei fod ef yn ffafrddyn personol, arbennig, gan yr Arglwydd, yn Joseph teulu'r saint ffafredig gan ei Dad Nefol.[82] Weithiau â ymhellach hyd yn oed na hyn, gan agoshau at, os nad croesi, terfynnau rhyfyg, ie, a chabledd, gan gymharu ei hun i'r Arglwydd Iesu Grist, ac mai gwrthwynebu Duw oedd y bobl oedd yn ei wrthwynebu ef pan ddymunai briodi.[83]

Mae ystori'r briodas mor rhyfedd ac mor gyffroawl ag yw ystori'r caru. Er cymaint oedd ei wrthwynebiad ar y pryd hwn i'r ddau Wesley, nid oedd hynny yn ei rwystro i geisio help Mr. Gwynne, o'r Garth, darpar-dad-ynghyfraith Charles Wesley, i wneud trefniadau angenrheidiol erbyn y briodas.[84]

Aeth â Mr. Gwynne, a'r Brawd Thomas James,[85] goruchwyliwr Seiadau Brycheiniog, gydag ef at offeiriad Abercamlais i geisio trwydded priodas. Ymhen mis wedyn trefnwyd—drwy weledigaeth oddiwrth yr Arglwydd[86]—fod y briodas i gymeryd lle yn Eglwys Ystradffin, ddydd Llun, Mehefin 18fed, 1744. Ar ol pregethu ym Merthyr, nos Sul, marchogodd drwy Langammarch, gan gyrraedd Llwynberllan, ger Llanymddyfri, am ddau o'r gloch boreu dydd ei briodas. Cododd cyn saith, ac aeth gyda'r offeiriad tuag Eglwys Ystradffin, lle yr oedd ei briodferch yn ei aros. Nid yw'n ymddangos fod neb o gyfeillion y priodfab na'r briodferch yn y briodas. Ar ol y seremoni aethant allan eill dau i ben bryn, lle y canasant Salmau ac y gweddiasant ar yr Arglwydd. "Cyrhaeddasom adref am 11 o'r gloch y nos," eb efe yn ei ddyddlyfr, "ein dau wedi blino, ond yn llawen yn ein heneidiau. Galluogwyd hi i deithio yn agos i gan milltir y tri niwrnod olaf yma.[87]

Am hanes dilynol y pâr ieuanc, bu'r cysylltiad am rai blynyddau'n un hapus. Ceir mynych gyfeiriadau yn nyddlyfr Harris at ei wraig, a diolcha'n aml i'r Arglwydd am dani.[88] Daeth cwmwl tywyll, du, bygythiol, dros heulwen eu bywyd priodasol, am yr hwn y ceir sylwi eto. Cyn dod at hwnnw edrychwn ar rai o gysylltiadau eraill ei fywyd.

Danghoswyd eisoes y modd y daeth i gysylltiad â Whitefield a Wesley, y modd y cydweithredodd â'r blaenaf i sefydlu'r Gymdeithasfa, a'r modd y daeth yn gynorthwywr i Whitefield yn y gwaith yn Lloegr yn ogystal ag yng Nghymru. Am ei waith yng Nghymru nid oes angen dweyd llawer, gan fod ei lafur a'i ymdrech, ei ymroddiad a'i ymgyflwyniad, mewn pregethu, mewn teithio, mewn sefydlu Seiadau, a phob rhyw ran o'r gwaith, yn gymharol hysbys ini. Ond am ei gysylltiad â Lloegr ni wyddis gymaint. Wele fras linelliad o hwnnw.

Danghoswyd eisoes[89] mor agos oedd y cysylltiad rhwng y gyfundrefnaeth yng Nghymru a'r un yn Lloegr. Yn Lloegr daeth Harris gymaint dan ddylanwad y Morafiaid yn Fetter Lane ag y buodd Wesley neu Whitefield. Ymhen amser torrodd ef, fel hwythau, y cysylltiad hwnnw, gan daflu ei goelbren yn gyfangwbl gyda Whitefield yn y gwaith yn y Tabernacl. Yr oedd cysylltiad swyddogol Harris â'r gwaith yn y Tabernacl yn dyddio o 1741, dwy flynedd cyn sefydlu Cymdeithasfa Watford.[90] O'r cychwyn cyntaf ymddengys fod math o gystadleuaeth rhwng Cennick a Harris yn eu perthynas â'r Tabernacl. Wedi cynorthwyo Whitefield i sefydlu'r achos yn y Tabernacl, gosodwyd Harris i ofalu am yr achos yn absenoldeb Whitefield yn yr Ysgotland y flwyddyn honno (1741). Daliodd y swydd hon am bedwar mis, ac yna rhoddodd ffordd i Cennick.[90] Yn fuan wedyn cysylltwyd Thomas Adams gyda Cennick yng ngwaith y Tabernacl. O bosibl, er mwyn gofalu na chymerid mantais ar ei absenoldeb ef yng Nghymru, gyrrodd Harris ei gynorthwywr, Herbert Jenkins, hefyd i'r Tabernacl, ddaeth Whitefield yn ol o'r Ysgotland, trefnodd ef y gynulleidfa yn Seiadau a dosbarthiadau (bands), gan sefydlu hefyd ysgol rydd i blant tlodion mewn cysylltiad â chyfundrefn y Tabernacl[90]. Yn Awst, 1744, aeth Whitefield i'r America, gan adael Cadair y Gymdeithasfa yng Nghymru yn wag i Harris, a rhoi gofal y Tabernacl, a changhennau eraill y gwaith yn Lloegr, i Cennick. Anffodus a fu'r ddau benodiad. Cododd anghydfodau yng Nghymru, ac amheuon yn y Tabernacl. Yn yr olaf ffurfiwyd dwy blaid, eiddo Cennick ac eiddo Harris. Yr esgus a roddwyd oedd fod Cennick wedi gwyro at Forafiacth. Penderfynnodd Cennick ymneillduo, ond gan gofio ei rwymedigaeth i Whitefield, trefnodd i gael Harris i gymeryd gofal y Tabernacl yn ei le. Parhaodd ei berthynas â Whitefield yn gyfeillgar hyd ei farw yn 1755.[91] Yn Awst, 1744, pasiodd y Gymdeithasfa yn Llundain i alw Harris yno er ymgynghori ar gwestiwn mewn dadl rhwng Humphreys â gwyr y Tabernacl. Aeth pethau o ddrwg i waeth, hyd Rhag. 1745, pan gynhaliwyd Cymdeithasfa arall yn Llundain, pan gymerodd ymraniad ffurfiol, ond hollol gyfeillgar, le. Mynnai Cennick dorri ei gysylltiad â'r Tabernacl, a mynegodd Hammond, Goodwin, Thorn, Heatly, a Salmon, eu penderfyniad i gysylltu eu hunain ag ef. Adams a Herbert Jenkins yn unig o aelodau'r Gymdeithasfa honno, a daflasant eu coelbren gyda Harris.[92]1 Nid yn unig aeth mwyafrif aelodau'r Gymdeithasfa gyda Cennick, ond aeth nifer mawr o Seiadau drwy'r wlad hefyd ar ei ol. Canlynwyd hyn gan ymraniadau pellach, gan i amryw eraill o'r arweinwyr dorri eu cysylltiad â'r Tabernacl ac ymuno yn ffurfiol â'r Anibynwyr.[93] Gwelir fod y Saeson, y rhan fwyaf oll, yn awr yn troi eu cefnau ar gyfundrefnaeth Whitefield, gan adael cyfrifoldeb y Tabernacl yn gyfangwbl i'r Cymry, o dan arweiniad Harris. Bu pethau yn dra anrhefnus am rai misoedd, ond ym mis Mawrth, 1746, lwyddwyd i aildrefnu'r Seiadau, y dosbarthiadau, a holl fanylion dyrys gwaith eang y Tabernacl.

Can gynted ag y cafwyd pethau i drefn yn y Tabernacl, dechreuwyd chwilio am y ffordd effeithiolaf i gadw gafael ar y Seiadau yn y wlad. Gyrrodd Harris lythyr at y Morafiaid, er ceisio dod i gyd-ddealltwriaeth. Cafodd ateb sarug oddiwrth James Hutton[94] i'r perwyl a ganlyn:—

Nis gallwn ar un cyfrif ganiatau i neb sy'n perthyn i'ch Cymdeithasfa chwi fynd i Wilts. Eich prif waith, ped elech, a fyddai dyrysu eneidiau truain, drwy bregethu athrawiaethau dyeithr, a lledu anwireddau gwarthus. Os a neb o honoch ar ol y rhybudd hwn, byddwch yn ymddwyn yn anonest."[95]

Dywed ymhellach:—" Pe dywedem ein bod yn eich hystyried yn gydlafurwyr yng ngwinllan Crist, byddem yn rhagrithio. Edrychwn arnoch fel aflonyddwyr y winllan honno, a gofidiwn yn fawr weled llafur a bendith Mr. Whitefield fel hyn wedi cael ei ddifetha a'i ddinystrio gan y fath weithwyr drwg."[95] Arwyddwyd y llythyr yn enw Brodyr Fetter Lane."

Rhaid fod dirywiad mawr wedi cymeryd lle yn ansawdd pethau yn y Tabernacl a'i gysylltiadau cyn y buasai brodyr mor heddychol a rhai Fetter Lane yn defnyddio geiriau mor gelyd. Ond nid oedd y diwedd eto. Mae'n amlwg oddiwrth yr hyn a ddywed Harris ei hun nad oedd y frawdoliaeth yn y Tabernacl yn rhyw barod iawn i ymostwng i'w awdurdod ef. Os oedd mor annoeth yn ei ymddygiad tuagatynt ag oedd at y brodyr yn Aberthyn[96] a'r Groeswen,[96] nid yw hynny yn beth i synnu ato. Dywed yn ei hunangofiant[97] fod ysbryd ysgafnder a balchder wedi amlygu ei hun ymhlith y frawdoliaeth yn lle'r difrifwch a nodweddai gychwyniad y gwaith. "Collwyd hefyd," eb efe, gan y weinidogaeth yr ysbryd i ddeffroi pechaduriaid, ac i gynhyrchu ffrwyth sylweddol ynghalonau dynion. Sylwais fod tuedd gref yn y weinidogaeth i foddloni dynion, ac i ymddangos yn ddoeth a phoblogaidd yn y byd; trodd fy nghyfeillion agosaf, hefyd, yn uchel a balch eu hysbryd, ac ni oddefent air y cyngor."

Mae'n ymddangos nad oedd y teimlad a'r ysbryd hwn yn gyfyngedig i Loegr, canys cymer Harris arno ar adegau ddysgu'r frawdoliaeth yng Nghymru pa bethau oedd weddus iddynt yn y pwlpud.[98]

Parhaodd Cymdeithasfa Llundain, fel pan oedd Whitefield gyda hwynt, i drefnu'r gwaith yng Nghymru fel yn Lloegr.[99] Yn awr cawn engraifft nodedig arall o un o brif ffaeleddau natur Harris, sef cenfigen. Mae'r holl gysylltiadau yn addysgiadol. Ymhlith y lleygwyr Cymreig oedd wedi codi i enwogrwydd gyda mudiad y Diwygiad, ni safai neb yn uwch na Herbert Jenkins. Mae'n amlwg ei fod yn feddiannol ar alluoedd naturiol cryfion, a chymhwysder arbennig at waith yr Efengylydd a'r Bugail. Nid oedd wedi mwynhau llawer o fanteision addysg pan yn ieuanc, ond gwnaeth i fyny am hynny drwy hunan ddiwylliant pan ddygwyd ef gyntaf i fewn
Wales. The Four Denominations in 1830.
Coch (A); Glas (B); Melyn (MC); Gwyrdd (W).


i gylch y Diwygiad. Canfyddwyd ei gymhwysderau naturiol gan y Gymdeithasfa, a phenodwyd ef i gylch pwysig yng Nghymru,[100] ac wedi hynny yn Lloegr.[100] Bu ei gynnydd fel pregethwr poblogaidd mor gyflym, nes y daeth yn fuan yn gystadleuydd peryglus i Harris ei hun. Rhoddid iddo ymhlith y Saeson le mor amlwg, a gofalon mor bwysig, ag a ymddiriedid Harris. Pan gymerodd y rhwyg alaethus le yn y Tabernacl, yn absenoldeb Whitefield yn America, galwyd Jenkins yno i'w cynorthwyo.[101] Taflodd ei hun gyda zel ac yni i'r gwaith, ac i'w ymdrechion ef, i raddau pell, y rhaid diolch am y cyflymdra â'r hwn yr adsefydlwyd trefn yng nghyfundrefnaeth y Tabernacl ar ol y rhwyg. Yn awr, sylwer ar gwrs ymddygiad Harris tuagat y gwr oedd eisoes yn bygwth taflu ei boblogrwydd personol i'r cysgod.

Yn Rhagfyr, 1745, rhoddodd Jenkins ymlyniad teyrngarol i Harris yn erbyn plaid Cennick. Efe yn ddiameu oedd y gallu cryfaf o blaid Harris ar y pryd. Am dri mis llafuriodd yn ddiwyd i sefydlu trefn yn y Tabernacl, a chyda'r fath lwyddiant fel, yn Mawrth, 1746, gallwyd cael holl olwynion dyrus peiriant y gyfundrefnaeth i weithio'n hwylus fel cynt. Ychwanegodd, yn y cyfnod hwn, yn ddirfawr at ei boblogrwydd personol fel trefnydd ac fel pregethwr cyhoeddus. Cenfigennodd Harris wrth ei lwyddiant a'i boblogrwydd personol. Jenkins oedd un o'r rhai, os nad yn wir y blaenaf, oedd gan Harris yn ei feddwl pan ddywedodd fod "y pregethwr am foddloni dynion, ac ymddangos yn ddoeth a phoblogaidd yngolwg y byd."[102] Mae'n debyg i Jenkins go—ddigio wrth ymyraeth â thrawsarglwyddiaeth Harris, pan oedd ef (Jenkins) wedi llafurio mor galed a llwyddiannus dros yr achos. At Jenkins y cyfeiria Harris pan sonia am fy nghyfeillion agosaf yn troi yn uchel a balch eu hysbryd, ac ni oddefant air y cyngor.."[102]

Erbyn Medi, 1746, yr oedd pethau wedi mynd mor ddrwg fel y teimlai Jenkins mai gwell fyddai iddo yntau ymneillduo. Ond ni fynnai'r frawdoliaeth hyn. Yr oedd ei wasanaeth yn rhy werthfawr, a'r ad-drefniant yn y Tabernacl yn rhy ieuanc, iddynt beryglu ei lwyddiant drwy golli cydweithrediad dyn mor boblogaidd a Jenkins. Gwasgasant arno i barhau yn aelod o'r Gymdeithasfa hyd nes y deuai Whitefield yn ol."[103] Er ei fod yn awr wedi cael galwad i fugeilio Eglwys Anibynnol, ac yn awyddus i gael ei ordeinio, croeshoeliodd ei ddymuniadau per sonol er mwyn y frawdoliaeth a llwyddiant y gyfundrefnaeth; a boddlonodd barhau fel cynt tan ddeuai Whitefield yn ol. Gwthiwyd ef gan y brodyr i ffrynt y gwaith.[104] Erbyn hyn yr oedd son am ei boblogrwydd wedi mynd ar led. Yn haf, 1747, cydsyniodd â chais taer o'r Ysgotland, ac aeth yno i bregethu. Ni chafodd Whitefield erioed well derbyniad nag a gafodd y Cymro ieuanc. Nid oedd pall ar ei boblogrwydd, nac adeilad digon mawr i gynnwys y torfeydd a fynnent ei wrando. Cododd y teimlad mor uchel nes y penderfynnodd awdurdodau Glasgow osod arno yr anrhydedd eithriadol o'i anrhegu â Rhyddfreiniad y Ddinas[105]—anrhydedd na chynygiwyd i unrhyw bregethwr arall yn yr oes honno.

Erbyn diwedd Medi yr oedd yn ol yn Lloegr. Yn Nghymdeithasfa Gloster, Hydref, 1747, danfonwyd ef i Orllewin Lloegr, ac wedi hynny i gymeryd lle Harris yn Llundain.[106] Yng Nghymdeithasfa Bryste, Ionawr, 1748, trefnwyd taith helaeth iddo yn Lloegr, ac yna "i Gymru i aros yno tan y Gymdeithasfa."[107]

Sylwer fod Jenkins wedi bod nid yn unig yn ffyddlon i'w ymrwymiad i lynu wrth y Gymdeithasfa tan y deuai Whitefield yn ol, ond ei fod hefyd wedi bod yn fwy diwyd a llwyddiannus o blaid y Gymdeithasfa, na'r un aelod arall o honi.

Sylwer ymhellach fod Whitefield yn awr ar ddychwelyd o'r America, ac, yn wir, wedi cychwyn ar ei daith yn ol i Loegr. Yng ngoleuni'r ffeithiau uchod, darllener cofnodion Cymdeithasfa Gloster, Mai 18, 1748, a ysgrifennwyd gan Ingram, dan gyfarwyddid Harris. Dywed y cofnodion :—

"Fod Mr. Jenkins wedi ymbellhau oddiwrth y brodyr mewn calon a goleuni; ei fod ers blynyddau wedi gwanhau eu dwylaw mewn amryw fyrdd; fod y brodyr wedi canfod ysbryd dieithr a phellhaol ymhlith y bobl y bu ef yn llafurio yn eu mysg."

Ceir gweled yn y man mai Anibyniaeth Herbert Jenkins oedd "yr ysbryd dieithr" hwn. Am "wanhau dwylaw'r" Gymdeithasfa, mae holl rediad Cofnodion y Gymdeithasfa ei hun, a holl hanes bywyd cyhoeddus Herbert Jenkins, yn profi mai disail ac anwireddus y cyhuddiad. Yr oedd Jenkins a Harris wedi ysgrifennu at Whitefield, ac yntau wedi ateb. Gwahoddai Jenkins i fynd trosodd ato i'r America; anghymeradwyai y syniad iddo dderbyn galwad Eglwys Anibynnol yn Lloegr, gan y cyfyngai hynny ar gylch ei wasanaeth cyhoeddus. Am yr un rheswm yn hollol y mynnai Whitefield ei hun fod yn Efengylwr rhydd (Evangelist at large), a gwyddai yn dda am gymhwysder arbennig Jenkins i hynny. Dywed cofnodiad Ingram ymhellach, y byddai gwaith Jenkins yn mynd i'r weinidogaeth sefydlog ymhlith yr Anibynwyr, yn creu gormod o agen rhyngddo a'i hen gyfeillion, gan ein bod ni yn perthyn i Eglwys Loegr, ac yn hysbysu ein hunain felly, tra y mae ef wedi ei llwyr adael."[108] Cymhellent ef ymhellach i ystyried ai nid temtasiwn oddi wrth y gelyn" oedd ei duedd at y weinidogaeth ymhlith yr Anibynwyr, "i'w dynnu oddiwrth waith lle y bendithiwyd ei ymdrechion." Nid ydynt yn esbonio pa fodd y bendithid gwaith gwr a gyhuddent o fod yn "gwanhau dwylaw'r brodyr."

Gofynnwyd iddo os oedd yn argyhoeddedig mai ei ddyledswydd oedd eu gadael pan ddeuai Whitefield yn ol. Atebodd yntau yn gadarnhaol. "Os felly," medd y cofnodion, "tybiem mai goreu po gyntaf yr elai." Mewn gair, chwiliwyd am esgusodion i'w ddiarddel o'r Gymdeithasfa cyn y deuai Whitefield yn ei ol. Yn yr un Gymdeithasfa diarddelwyd un arall, Gibbs, am ei fod yn dymuno sefydlu gyda'r Bedyddwyr. Sylwer mai nid rhoi llythyr gollyngdod wnaed i'r naill na'r llall, ond eu diarddel. Gwnaed hyn o wahaniaeth. Dyn cymharol ddinod oedd Gibbs; gwaharddwyd y Seiadau oll iddo ef. Yr oedd Herbert Jenkins yn wr rhy fawr a phoblogaidd iddynt wneud hynny âg ef; felly rhoddwyd caniatad graslawn iddo ef i bregethu eto i'r Seiadau "pe y gwahoddid ef gan y bobl," ar yr amod iddo "beidio ceisio creu ymraniadau yn eu plith."

Mae yn deilwng o sylw yma mai dylanwad Howell Harris yn unig, a berswadiodd y Gymdeithasfa i gymeryd y cwrs eithafol ac anghyfiawn hwn. Nid yw hynny'n amlwg, efallai, yn y cofnodion—ond yn ei ddyddlyfr dengys Harris ei galon yn fwy agored, a'i fod wedi hysbysu'r brodyr yn y Gymdeithasfa:—.

"Os yw'r Brodyr am i Jenkins aros (tan y delai Whitefield yn ol), ymneillduaf i, ac af yn ol i Gymru, ac ewch chwi ymlaen i drefnu ein lleoedd gyda'r Anibynwyr (settle all our Independent places); danghosais natur Anibyniaeth, a'r modd yr ymddengys i mi'n groes i natur Eglwys yr Hen Destament a'r Newydd, yn groes i'r dull a roddwyd i'r Eglwys yn y Gair, ac yn groes i'r ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd nyni o'r cychwyn."[109]

Symia i fyny bechodau Herbert Jenkins fel hyn :—

1. Ei fod ers amser hir wedi cydnabod ei hun yn Anibynwr.
2. Ei fod wedi gadael symlrwydd ei gychwyniad, a theithio ffordd yr Anibynwyr wrth bregethu.
3. Ei galon wedi mynd atynt hwy, a datguddio'n cyfrinion iddynt.
4. Ei fod wedi ymrwymo i briodi â Dissenter!

Mae amddiffyniad urddasol Jenkins eto ar gael yn ei lawysgrif ei hun.

Ymhen deufis wedyn yr oedd Whitefield yn ol, ac yn llywyddu yn y Gymdeithasfa. Gwrthododd amlygu barn ar yr hyn a wnaed yn ei absenoldeb "tan y caffai amser i edrych o'i gwmpas, a chlywed pob ochr" i'r hanes.[110] Ond yr oedd pethau wedi mynd yn rhy bell. Nis gallai hyd yn oed Whitefield adfeddiannu ei hen awdurdod ac adfer trefn, heb droi Harris a'i gefnogwyr dros y drws. Ni chaniatai ei ysbryd addfwyn iddo wneud hynny. Gwell ganddo ymheddychu â'r ddau Wesley, golchi ei ddwylaw oddiwrth y Gymdeithasfa fel cyfundrefnaeth, a throsglwyddo'r holl awdurdod ynddi, ynghyd âg arolygiaeth y Tabernacl a'r Seiadau, a'r pregethwyr i ddwylaw Harris. A hynny a wnaeth.[111]

Yr oedd Harris yn awr wedi cyrraedd pwynt uchel—er nad yr uchaf—yn ei uchelgais. Mae'n amheus a fuasai wedi gwneud yr hyn a wnaeth—diarddel Jenkins a disodli Whitefleld, fel y ceisiodd yng Nghymru wneud â Rowlands, Llangeitho, a Williams, Pantycelyn,—oni bai am y dylanwad newydd a dieithr a ddaeth i'w fywyd—dylanwad Madam Griffith.

Dyma bennod ym mywyd Howell Harris sydd eto heb ei hysgrifennu; ac ni fwriedir yma ond rhoi cymaint o honi ag sy'n angenrheidiol i gywiro y camargraffiadau a adawyd gan ysgrifenwyr blaenorol, oeddent yn amlwg yn anhysbys o'r gwir amgylchiadau. Yr esboniad mwyaf caredig a ellir ei roi ar ymddygiadau Howell Harris, tra yn gweithredu o dan y dylanwad hwn,—ei ymddygiadau at ei fam oedrannus a'i wraig gariadus, at gyfeillion urddasol a noddwyr caredig fel Rowlands Llangeitho a George Whitefield, at y rhai a gredent yn ddiysgog ynddo, ac am hynny a'i canlynent, fel Beaumont a John Richards, mewn gair at bawb y deuai i gysylltiad â hwynt yr esboniad mwyaf caredig, meddwn, a ellir ei roddi ar yr oll, yw ei fod wedi dyrysu yn ei synhwyrau. Os gwrthodir yr eglurhad hwnnw ar ei ymddygiadau, yr unig ddewisiad yw ei gyhuddo, fel y gwnaeth ei gyfeillion agosaf, o'r anfoesoldeb mwyaf gwarthus. Tegwch âg ef yw dweyd, os dygir y ddedfryd hon yn ei erbyn, fod iddo yr hyn a elwir yn amgylchiadau lliniarol—mitigating circumstances—canys nis gellir darllen ei ddyddlyfrau yn y cyfnod poenus hwn, heb ddod i'r casgliad diamheuol, y rhaid ei fod naill ai yn rhyfygus o gableddus, neu ynte yn gweithredu yn ol yr hyn a dybiai efe oedd llais cydwybod. Mae holl hanes a rhediad ei fywyd yn gwneud y blaenaf yn amhosibl, a'r olaf yn sicr. Canlyn yr hyn a dybiai efe oedd y goleuni dwyfol, a wnai; gwelwn ni heddyw mai hud-lewyrn, jack-y-lantern, will-o'-the-wisp, ffug oleuni'r gors leidiog, beryglus, cynnyrch y mall-awyr a godai o ddyfnderau tywyll honno, ydoedd y goleuni hwnnw. Ond tybiai Harris mai goleuni o'r nef ydoedd. Tegwch hefyd â'r gwirionedd hanesyddol yw dweyd, os rhoddir yr esboniad caredicaf ar ei weithredoedd, sef ei fod wedi dyrysu yn ei synhwyrau,—yna, rhaid fod yr afiechyd wedi cartrefu yn ei ben, flynyddau cyn iddo erioed weled na chlywed son am Madam Griffith. Darllener ei ddyddlyfrau yn fanwl a diduedd, a gwelir yn foreu iawn yn ei hanes cyhoeddus, arwyddion digamsyniol o bresenoldeb y drwg a gyrhaeddodd ei eithafbwynt yn y dirywiad cyhoeddus a nodweddodd gyfnod ei gysylltiad â Madam Griffith. Gan nad pa esboniad a roddir ar y cysylltiad hwnnw, gorfodir ni i ddweyd fod elfennau y dirywiad yn amlwg yn ei hanes yn hir cyn hynny.

Dywedwn, ynte, mai twyllo ei hunan, yn hytrach na dymuno twyllo eraill, a wnaeth Howell Harris. Camgymeryd llais dynes am lais Duw, a wnaeth efe. Ond nid llais Madam Griffith oedd y llais cyntaf gamgymerwyd felly ganddo. Ufuddhaodd cyn hynny i alwadau eraill, a dybiai efe oeddent ddwyfol, ond a oeddent mor gamarweiniol a chyfeiliornus a galwadau Madam Griffith. Gresyn fod rhan o'r ufudd-dod a dalodd i'r galwadau hynny, wedi cael ei bortreadu, gan rai a gymerent arnynt ysgrifennu ei hanes, fel ymostyngiad santaidd i arweiniad Duw.

Ond wrth geisio cyfiawnhau Howell Harris, na feier Madam Griffith yn ormodol ychwaith. Nis gellir ei chondemnio hi, heb ei gondemnio yntau. Os twyllodd hi ef, twyllodd ei hunan hefyd. Os cydwybodol ef yn yr hyn a wnaeth, cydwybodol hithau hefyd. Os dioddefodd ef lawer er mwyn y ffydd oedd ganddo ynddi, dioddefodd hithau fwy o herwydd yr un ffydd. Os credai ef mai llais o'r nef oedd ei llais hi, credai hithau mai adseinio llais oddi uchod ydoedd pan alwai arno ef. I'r sawl a ddarllenasant ddesgrifiad Hepworth Dixon o Henry James Prince a'r Chwaer Zoe, ceir rhyw ddrychfeddwl am sefyllfa meddyliol Howell Harris a Madam Griffith.

Priododd Howell Harris, fel y cofir, yn haf 1744. Cyn pen pedair blynedd cododd y cwmwl du a daflodd ei gysgodion tywyll ar fywyd Anne Williams, oedd wedi ymddiried ei chwbl i, ac aberthu ei chwbl er mwyn, Howell Harris. Canlynodd ar hynny bedair blynedd o wallgofrwydd iddo ef, ac o ing anesgrifiadwy iddi hi. Wedi goddef am gryn amser gydag amynedd sy'n adlewyrchu'r clod uchaf ar ei hysbryd caruaidd, gorchfygwyd ei natur, a thorrodd allan i felldithio'r dydd y gwelodd y gwr er mwyn yr hwn y cyfrifodd bopeth oedd yn werthfawr yn ei golwg ac yn anwyl gan ei chalon cyn ei weled ond megys sorod.[112] Dro ar ol tro desgrifia Harris ei wraig fel yn cael ei meddiannu gan gythraul,[113]—pan nad oedd, mewn gwirionedd, ond yn cael ei llywodraethu gan deimladau naturiol calon gwraig gariadus. Nid oedd ei fam, ar y cyntaf, wedi ffafru ei briodas; ond cynhesodd ei chalon at ei merch-ynghyfraith anffodus, ac unodd y fam a'r wraig i ddylanwadu ar y mab a'r gwr i dorri'r cysylltiad andwyol, ond yn ofer.[114] Torrodd yr hen wraig ei chalon. Bu farw yn nechreu 1751, gan adael Anne Harris, druan, i gario'r baich ei hun heb gymorth câr na chyfathrach. Mor ddwfn oedd Harris wedi mynd erbyn hyn i'r gors ar ol ei hud-lewyrn, fel yr ysgrifenna yn ei ddyddlyfr fod marwolaeth ei fam "yn dechreu symud rhwystrau" oddiar y llwybr.[115]

Er mwyn canlyn y ffug—oleuni a lywodraethai ei fywyd, nid yn unig anghofiodd ei ddyledswydd i'w fam, nid yn unig dinystriodd gysur ei wraig, ond dewisodd dorri ei gysylltiadau anwylaf â'i gyfeillion ffyddlonaf. Rhybuddiwyd ef yn gyfeillgar gan Whitefield.[116]

Pan na thyciai hynny, dywedodd ei gyfaill enwog eiriau cryfach;[117] ac yn y diwedd eiriau a wnelai parhad cysylltiad Harris â Whitefield yn amhosibl, heb dorri am byth ei gysylltiad â Madam Griffith.[118] Aberthodd Harris Whitefield!

Yr un fu ei brofiad gyda Daniel Rowlands a'r efengylwyr eraill yng Nghymru. A'i chalon ar dorri, apeliodd Mrs. Harris at gyfeillion boreu oes grefyddol ei gwr, i ddefnyddio eu dylanwad arno. Gwnaeth Rowlands, Williams Pantycelyn, ac eraill, eu goreu, ond yn aneffeithiol. Yr oedd Harris wedi penfeddwi. Y dyb gyffredin—tyb a gymhellir i'n sylw gan ei haneswyr, dro ar ol tro, mewn anwybodaeth o'r gwir ffeithiau—yw mai ar bwnc o athrawiaeth y cymerodd yr ymraniad rhwng Harris a Chorff y Diwygwyr le. Anwireddir hyn gan holl hanes y cyfnod fel y'i hamlygir yn Nyddlyfrau Harris. Madam Griffith, ac nid pwnc o athrawiaeth mewn unrhyw Gyffes Ffydd, a achosodd y rhwyg; neu, os mynnir dal ar eiriau yn unig,—os mai pwnc o gredo, ac o ffydd, a fu yn asgwrn cynnen, credo Howell Harris am, a ffydd Howell Harris yn, Madam Griffith, a achosodd yr ymraniad.[119] Wele grynhodeb byr o brif linellau hanes y cysylltiad hwn a dyma wir Ramant Bywyd Howell Harris, rhamant mwy cynhyrfus, ped ysgrifennid ef i gyd, na'r un nofel a ysgrifennwyd erioed!

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Sidney Griffith
ar Wicipedia

Ar ei daith i'r Gogledd, yn 1747, y cyfarfyddodd Howell Harris gyntaf â Madam Griffith. Perthynai hi i deulu pendefigaidd y Wynniaid. A oedd a wnelai hyn rywbeth â gelyniaeth anghymodlawn Syr Watcyn Wynn at y Methodistiaid, ni chymeraf arnaf i ddweyd. Yr oedd wedi priodi â boneddwr o'r enw Griffith, yn perthyn i deulu pendefigaidd yn Sir Gaernarfon, a phreswylient yn Cefnamwlch, heb fod yn neppell o Aberdaron. Yr oedd iddynt fab, John, neu "Jacky," fel y geilw Harris ef, yr hwn a ddaeth i'r etifeddiaeth ar ol marw ei dad a'i fam.[120] Cawn ychwanegu am "Jacky" yn y man. Preswyliai Miss Wynn, chwaer Madam Griffith, yn Voelas Hall, Pentrevoelas; a threuliai Madam Griffith lawer o'i hamser yno, ac yng nghymydogaeth y Bala. Tebyg mai iddi hi (Madam Griffith) y perthynai etifeddiaeth Cefnamwlch; canys ar ol marw "Jacky," cawn y lle yn eiddo "Charles Wynne, o Bentrevoelas."[121] Nis gwyddis o dan ba amgylchiadau y daeth Harris i gysylltiad â Madam Griffith gyntaf, gan fod y dyddlyfr sy'n rhoi hanes ei daith hon—ac, yn wir, ei holl deithiau eraill i'r Gogledd—ar goll. Pe ceid o hyd i'r dyddlyfrau colledig hyn ceid, o bosibl, beth goleuni pellach, er nad llawer, ar yr hanes. Mae gennym fwy na digon wrth law i roi hanes canlyniadol y cysylltiad. Daeth Harris a hithau yn fuan ar delerau hynod o gyfeillgar. Ar y daith honno trwy Leyn aeth hi gydag ef, a chyflwynwyd hi ganddo i amryw o'r Seiadau.[122] Daeth 'w gyfarfod i Gymdeithasfa Llanfair Muallt yn nechreu 1749. Aeth gydag ef i Drefecca, ac arhosodd yno am rai dyddiau. Cryfhaodd ei dylanwad arno yn ddirfawr yn ystod y flwyddyn honno. Truenus weithiau yw darllen ei sylwadau am ei deimladau,—y modd y mae pob teimlad o ddyledswydd yn ei dueddi at ei wraig, tra rhyw allu na fedr efe ei ddesgrifio, yn ei dynnu at ei gyfeilles. Ymwelai â hi yn Llundain, weithiau a'i wraig gydag ef, brydiau eraill hebddi. Whitefield oedd, o bosibl, y cyntaf i ganfod perygl ei gyfaill. Bu Rowlands, a'r brodyr yng Nghymru, yn hir cyn drwgdybio dim, er fod aml un o honynt yn anfoddlon gweled dynes yn eistedd gyda hwynt yn y Gymdeithasfa, ac yn cymeryd rhan yn y gweithrediadau. Yng Nghymru, y cyntaf i ganfod perygl posibl o'r cysylltiad, oedd gwragedd rhai o'r pregethwyr a'r cynghorwyr, â thai y rhai yr ymwelai Harris. Gyda'r treiddiad meddwl (intuition) sydd mewn dynes yn aml yn cymeryd lle, ac yn rhagori ar, resymeg, canfyddai aml un o'r rhai hyn mai dylanwad niweidiol a gaffai'r cysylltiad ar Harris. Cwyna, yn ei ddyddlyfr, fod y gwragedd hyn megys wedi newid eu natur; tra'r oeddent gynt yn dyner, gostyngedig, ac ufudd i'w gwyr, eu bod yn awr wedi troi yn drahaus, gan draws arglwyddiaethu awdurdod yn y teulu—gyda'r canlyniad fod y gwyr yn eu tro yn oeri ato ef, ac yn ei wrthwynebu.

Cyd-deithiai'r ddau ar hyd a lled y wlad, am ddiwrnodiau, weithiau wythnosau o'r bron. Cydymwelent â'r Seiadau, cydeisteddent yn y Gymdeithasfa. Deborah oedd hi, a Barak yntau, i waredu Israel Duw. Yr oedd hi yn ysbrydoledig gan Dduw i'w gyfarwyddo a'i nerthu ef. Hi oedd ei "fraich," ei "lygad," a'i "oleuni" ef. Gweithredai ymhob dim o dan, ac yn ol, ei chyfarwyddid hi. Yr oedd hi yn feddiannol ar ysbryd proffwydo,—a rhagfynegodd iddo droion yr hyn oedd ar gymeryd lle. Dyna'r darlun a dynnir ganddo ef o'i galluoedd hi. I ni, sy'n edrych heddyw drwy awyrgylch wedi ei chlirio gan yr hyn a ddaeth ar ol hynny, mae'n amlwg nad oedd y "rhagfynegiad" o bethau i ddyfod a roddodd hi iddo, yn ddim amgen na'r hyn y gallai unrhyw ddynes o amgyffredion cryf Madam Griffith, weled heb oleuni goruwchnaturiol proffwydes.

Ond credai Harris yn ddiysgog ynddi, ac yn ei danfoniad gan Dduw i'w arwain a'i nerthu ef. Dysgodd hi ef i gredu mai efe oedd dewisedig y Nef i fod yn Ben y Diwygiad. Gan wybod nas gellid disgwyl i rai fel Whitefield a Rowlands í blygu iddo, dysgodd ef, hefyd, i gredu nad oedd hawl gan neb ond Duw a'r Brenin i'w alw i gyfrif;—ac nid oedd neb ond Duw a Harris, neu, yn hytrach, Harris a Duw, i'w galw hithau i gyfrif. Eb efe:—

Nid oes neb i'm llywodraethu i, nac i'm gyrru nac yma nac acw, nac i'm dysgu na'm ceryddu, ond yr Arglwydd ei hun. Ni welais hyn cyn heddyw, er fod Madam Griffith wedi dweyd wrthyf; ac am dani ei hun, hefyd, nad oedd hithau i fod yn ddarostyngedig i neb ond myfi, ac nad oedd neb arall i'w cheryddu. Arweinid fi, hefyd, i ddweyd hyn (yn y Seiad mae'n debyg), ac yn arbennig yma, fy mod yn cael nad oes gan neb awdurdod arnaf fi, ond Duw a'r Brenin. A heddyw cefais dystiolaeth ei fod yn rhyngu bodd i'r Arglwydd imi hysbysu hynny i'r eneidiau, fod Duw ei hun wedi'm gosod yno. Teimlais fy enaid yn dyrchafu yn uwch, ac i fwy o ryddid nag o'r blaen oddiwrth ysbrydion isod, ac nad wyf gyfrifol i neb, ond mewn dull brawdol; ac arweiniwyd fi i ddangos hyn yn Llanfair Muallt, a Threfecca, ac yma (Goetre); gan hysbysu hefyd fod fy ysbryd yn barod i foddloni yr iselaf a'r gwannaf a ddel mewn ysbryd gostyngedig ataf, gan gydnabod fy swydd. Eithr pe byddai i Mr. Whitefield, Wesley, Rowlands, a'r holl Fethodistiaid, godi mewn ffordd o awdurdod i'm ceryddu, tröwn arnynt, gofynnwn iddynt, 'Pwy a roddodd i chwi yr awdurdod hwn?' ac yna awn at fy ngwaith."[123] Dyma engraifft o ugeiniau o gyfeiriadau o gyffelyb natur a geir yn ei ddyddlyfrau. A chofier fod hyn wedi cael ei ysgrifennu o fewn naw mis wedi i Madam Griffith ymddangos gyntaf yn y Gymdeithasfa, a thros ddwy flynedd cyn iddo dorri ei gysylltiad a'r Methodistiaid. Ac yn ystod yr amser hwnnw, cryfhau o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos, a wnai ei dylanwad hi arno.

Dyddorol, er nad efallai adeiladol, a fyddai olrhain effaith ei dylanwad hi ar ei feddwl. Deffrodd—neu yn hytrach symbylodd a chadarnhaodd—ei uchelgais. Os nad i'w dylanwad hi arno y rhaid priodoli ei ymddygiad yn diarddel Herbert Jenkins,[124] i'r dylanwad hwnnw yn ddiameu y rhaid priodoli ei ymgais llwyddiannus i ddisodli Whitefield yn y Tabernacl, a'i ymgais aflwyddiannus i drawsfeddiannu'r awdurdod ar y Gymdeithasfa yng Nghymru; a phan fethodd yn hynny, ei ymgais cyfartal afwyddiannus i sefydlu cyfundrefnaeth gydymgeisiol a'r Seiadau Methodistaidd. Denodd Beaumont, ac ychydig eraill, i'w ganlyn i'r llwybrau troellog hyn. Ceisiodd dynnu Cennick yn ol oddiwrth y Morafiaid. Gwnaeth ei hun yn Bab, a sefydlodd Madam Griffith fel Dehongles Meddwl yr Arglwydd, i'r rhan o'r frawdoliaeth a lynai wrtho. Pan geisiodd wneud ufudd-dod di gwestiwn i orchymynion Madam Griffith, a ffydd ddiysgog yn ei hysbrydoliaeth uniongyrchol, a'u hanffaeledigrwydd hi ac yntau, yn amod aelodaeth o'r Gymdeithasfa, bu hynny yn ormod i hyd yn oed Richard Tibbott ei lyncu,—a throdd yntau ei gefn. Mae yn nodweddiadol o Harris, nid yn unig yn y cyfnod hwn, ond drwy ei holl hanes o'r dechreu, mai nid efe oedd ar fai. "Gwahanwyr" (separatists) oedd Rowlands Llangeitho, a Williams Pantycelyn, a'u cydweithwyr, yn awr, fel yr oedd Edmund Jones a David Williams ddeng mlynedd cynt, a William Edwards a brodyr y Groeswen yn y canol rhwng y ddau gyfnod. Cyhudda Rowlands o fod yn "eilun," a'r rhai na fynnent ganlyn Madam Griffith, ond a aent ar ol Rowlands, o fod yn "gwyro oddiwrth y goleuni, ac yn troi cefn ar yr Arglwydd."

Ond yr oedd gwedd arall na'r un ysbrydol yma ar y cysylltiad. Bwriadai Harris a Madam Griffith briodi. Gwir fod gwraig ganddo ef, a gwr ganddi hithau. Ond yr oedd yr Arglwydd yn teyrnasu. Ac mewn gweledigaeth nos hysbysodd angel yr Arglwydd i bob un o'r ddau, iddi hi ynghyntaf ac iddo yntau wedi iddi hi ddweyd wrtho, fod yr Arglwydd i symud pob rhwystr; fod Mr. Griffith a Mrs. Harris i farw yn fuan; fod Mrs. Griffith a Howell Harris i briodi, ac i gael eu dyrchafu i safle uwch mewn awdurdod a dylanwad nag y buont erioed. Ond rywsut, ni chyflawnodd yr angel y tro hwn ei addewid. Gwir i wr Madam Griffith farw, ond rywsut gadawyd i wraig Howell Harris fyw tan y symudwyd Madam Griffith ei hun i fyd arall. Cydnebydd Harris, gyda gofid, mai camgymeryd llais rhyw un arall am lais angel yr Arglwydd, a wnaeth efe yn yr amgylchiad hwn.

Ond i ba ddiben yr olrheinir manylion yr hanes hwn ymhellach? Symier i fyny weddill yr hanes mewn ychydig eiriau. Rhoddodd Madam Griffith ofal "Jacky" ei mab bychan, i Harris. Mynnai yntau ddysgu'r bychan yn ei gredo ef. Trodd ei gwr Madam Griffith dros y drws. Daeth Whitefield at Harris, ac yn enw yr Arglwydd, gorchymynnodd iddo dorri ei gysylltiad â Madam Griffith, yr hon, ebe gwr Duw, oedd yn ddynes ddrwg. Atebodd Harris drwy fynd a hi i Drefecca, a gorfodi ei wraig i roi rhan o'r ty i fyny iddi. Ceisiodd Rowlands a Williams Pantycelyn, ddefnyddio eu dylanwad arno; ac atebodd hwynt drwy ddweyd eu bod yn pechu yn erbyn Duw wrth ei gymhell i'w rhoi i fyny. Diarddelwyd ef gan y Gymdeithasfa; a'i ateb oedd cymeryd ei ferch fechan ei hun oddiwrth ei mam, a'i rhoi yngofal Madam Griffith. Cododd Seiadau a Chymdeithasfa ar wahan i'r Methodistiaid. Pan welodd nad oedd llawer o lewyrch ynddynt, penderfynnodd sefydlu Teulu Trefecca, ar linellau y sefydliadau Morafaidd. Ond tuagat wneud hynny yr oedd yn rhaid adeiladu yn helaeth. Ymgynghorodd â'r Arglwydd drwy Madam Griffith, a thynnwyd allan gynllun o'r ty. Yna, gan weithredu ffydd yn Nuw,—a chan ymddibynnu ar gyfoeth Madam Griffith—dechreuwyd y gwaith o adeiladu. Pan fu farw Mr. Griffith, cymerodd Harris ofal holl drefniadau'r claddu. Yr oedd hyn Chwefror 14eg, 1752. Cyflymwyd y gwaith o adeiladu yn fwy wedyn. Yn Ebrill aethant i Lundain. Yno cymerwyd hi yn glaf. Ysgrifennodd ei llythyr olaf ato ganol Mai. Mae hwnnw ar gael yng nghasgliad Trefecca (Rhif 684a). Ymhen pythefnos wedyn, sef y dydd olaf o Fai, 1752, bu hi farw.

O hynny allan tynnodd Harris yn nes at ei wraig. Ond yr oedd y rhwyg rhyngddo a'i hen gyfeillion wedi mynd yn rhy bell i feddwl am ad-undeb. Am rai blynyddau bu byw mewn neillduedd, gan ymgyflwyno i'r gwaith o sefydlu'r "Teulu" ar sylfaen gadarn a pharhaol. Ymhen amser ymunodd â'r milisia, a gwnaed ef yn gadben yn y rhan honno o'r fyddin. Gan efelychu Cadbeniaid Cromwell, pregethai i'w filwyr, ac i'r cyhoedd ymhob tref y teithiai ei gatrawd trwyddi. Wedi dychwelyd i Drefecca, ail ymaflodd yn ei waith fel pregethwr, gan fynd yn ol i'w symlrwydd cyntefig cyn cweryla o hono gyda na Bedyddiwr nac Anibynnwr. Pregethai yn nghapeli'r ddau. Gan anghofio'r hen ddolur, estynnodd Whitefield iddo ei ddeheulaw, a chylymwyd ef gyda'r ddau Wesley, a Whitefield, a'r Iarlles Huntingdon, yn y gwaith o efengylu fel cynt. Wedi gwisgo ymaith beth o chwerwedd yr hyn a fu gynt, daeth eto i gysylltiad achlysurol â'r hen gyfundrefnaeth yn yr hon yr oedd Rowlands a Williams Pantycelyn yn arwain, ac ambell i weinidog Anibynnol yn gweithio mor selog ag erioed. Ym mis Gorffennaf, 1773, bu farw, ymhen tair blynedd ar ol ei wraig ffyddlon. Claddwyd y ddau yn ymyl bwrdd y Cymun yn Eglwys Talgarth, yn yr hon y gosodwyd maen coffa iddo. Gweddus oedd hyn o barch i goffadwriaeth gwr a fu yn Eglwyswr selog, cyson, ac ymgyflwynedig ar hyd ei oes. Dichon petae wedi bod yn llai o Ddiwygiwr, y buasai wedi cyrraedd safle uwch yn yr Eglwys; sicr yw petae wedi bod yn llai o Eglwyswr, y buasai wedi cyrraedd safle uwch fel Diwygiwr.

Nodiadau

[golygu]
  1. Gwel ei ddyddlyfrau ei hun.
  2. Ei ddyddlyfrau.
  3. Adgofion, tudal. 22
  4. Eto, tudal. 23.
  5. Eto tudal. 24.
  6. Llythyr 67; eto, Gorff. 16, 1740.
  7. 7 Llythyr 67.
  8. Llythyr 72; eto, Meh. 8, 1743; eto, Gorff. 18, 1743, &c.
  9. Llythyr 72.
  10. Y Dyddlyfr.
  11. Llythyr 24, 47.
  12. Llythyr 48.
  13. Llythyr 12
  14. Llythyr 39.
  15. Llythyr 36.
  16. Llythyrau 21, 25, 26; eto, Mawrth 3, 1743.
  17. Llythyr 88.
  18. Llythyr 72.
  19. Cofnodion y Gymdeithasfa, a Llythyrau Whitefield.
  20. Llythyrau 41, 63, a'r Cofnodion.
  21. 21.0 21.1 21.2 21.3 Y Cofnodion.
  22. Llythyr Chwef. 19, 1745, a'r Cofnodion.
  23. Y Cofnodion.
  24. Mai Anibynwyr oedd y gweinidogion hyn a'u heglwysi gwel yn nes ymlaen.
  25. Hanes y Sassiwn.
  26. Dyddlyfr Mrs. Edwards, Nanhoron.
  27. Dyddlyfr 131b, Awst 3, 1748, &c., &c.
  28. Dyddlyfr 131a, Mai 19, 1748, &c.
  29. 29.0 29.1 29.2 Amryw gwerylon.
  30. Gwel y bennod flaenorol.
  31. Amryw gwerylon. Tybiai fod ysbryd yr Arglwydd yn cadw draw o'r cyfarfodydd pan fyddai Daniel Rowlands yn bresenol.
  32. Dyddlyfr 133, Rhag. 26, 1748.
  33. Dyddlyfr 139, Rhagfyr 14, 1749.
  34. Dyddlyfr 152a, Meh. 28, 1751.
  35. Llythyrau 62, 65, 67.
  36. Llythyr 51.
  37. Llythyr 83.
  38. Llythyrau 21, 25, 26, 36, 88, &c., &c
  39. Llythyr 48, &c.
  40. Er engraifft Howell Griffith, a thy David Williams, Watford, yn Pwllypant.
  41. Llythyrau a Dyddlyfr Harris.
  42. Dyddlyfr 131a, Mai 19, 1738.
  43. Llythyrau Rhagfyr 14, 1742, Dyddlyfr 39, Ion. 17, 1739; Eto, 71, Mawrth 29, 1741; Eto, 71, Ebrill 9, 1741; Eto, 85, Mawrth 11, 1742; Eto, 96, Rhag. 6, 1743; Eto, 120, &c., &c.
  44. Dyddlyfr 109. Mai 3, 1744.
  45. Dyddlyfr 109, eto.
  46. Dyddlyfr 131a; Eto, 136.
  47. Dyddlyfr 104, Tach. 1, 1743; Llythyr Rhag. 5, 1742; Eto, o Abertawe at Whitefield; Eto, Gorff. 18, 1743, &c., &c. 48 Eto, a Dyddlyfr 140, &c.
  48. Gwel llythyrau.
  49. Dyddlyfr 141.
  50. Gwel y bennod flaenorol.
  51. Amryw gyfeiriadau.
  52. Llythyr Whitefield, Meh. 6, 1741.
  53. Dyddlyfr 136, 141, &c., &c.
  54. Whitefield's Journals. 50
  55. Dyddlyfr 120; Eto, 133, &c., &c.
  56. Dyddlyfr 109, Mai 3, 1744.
  57. Dyddlyfr 104, Tach. 20, 1743; Eto, 106, Ion. 7, 1744.
  58. 58.0 58.1 Dyddlyfr 110, Meh. 13, 1744.
  59. Dyddlyfr 109, Mai 1, 1744; Eto, Mai 10, 11, 1744.
  60. Dyddlyfr 109, Mai 7, 1744.
  61. James Erskine, A.S., cyfaill Iarlles Huntingdon, awdwr "Law-Death, Gospel-Life," "Gospel Sonnets."
  62. Llythyr 377.
  63. Dyddlyfr 104, Hyd. 26, 1743; Hyd. 27, eto.
  64. Droion.
  65. 65.0 65.1 Dyddlyfr 109, Ebrill 20, 1744; Eto, Mai 19, 1744.
  66. Eto 104, Tach. 7, 1743.
  67. Dyddlyfr 110, Meh. 10, 1744.
  68. 68.0 68.1 68.2 Dyddlyfr 111, Meh. 12, 1744.
  69. Dyddlyfr 104, Tach. 10, 1743. Llu o gyfeiriadau eraill.
  70. Dyddlyfr 110, Meh. 6, 1744.
  71. Dyddlyfr 104, Tach. 6, 1743; Eto, Tach. 7; Dyddlyfr 110, Meh. 10, 1744.
  72. Dyddlyfr 110, Mai 24, 1744.
  73. 81 Eto.
  74. Dyddlyfr 111, Meh. 12, 1744.
  75. Dyddlyfr 104, Tach. 6, 1743, &c., &c.
  76. Dyddlyfr 106, Ion. 9. 1744.
  77. Dyddlyfr yn Llanfair Muallt.
  78. Dyddlyfr 110, Meh. 10, 1744; Eto, Meh. 12, &c.
  79. Dyddlyfr 110, Meh. 6, 1744.
  80. Eto.
  81. Dyddlyfr 120, Rhag 5, 1745.
  82. Dyddlyfr 140, ac amryw eraill.
  83. Dyddlyfr 106, Ion. 7, 1744.
  84. Dyddlyfr 110, Mai 14, 1744.
  85. Eto.
  86. Dyddlyfr 111, Meh. 12, 1744.
  87. Eto, Meh. 18, 1744.
  88. Dyddlyfr 131a, eto 131b, Meh. a Gorff. 1748.
  89. Gwel penodau blaenorol.
  90. 90.0 90.1 90.2 "A Conference Book, &c.," ysgrifen yn llaw Harris.
  91. Primitive Methodist Magazine, 1865.
  92. Cofnodion Cymdeithasfa Llundain, Rhag. 4, 5, 7, 1745.
  93. Llawysgrif cglurhaol Harris yn Llyfr Cofnodion y Tabernacl.
  94. Yr argraffydd a'r cyhoeddwr adnabyddus.
  95. 95.0 95.1 James Hatton's Memoirs.
  96. 96.0 96.1 Y Dyddlyfr.
  97. Argraffiad 1791, tudal. 62.
  98. Dyddlyfr 131b.
  99. Cofnodion amryw o'r Cymdeithasfaoedd.
  100. 100.0 100.1 Cofnodion y Cymdeithasfaoedd.
  101. Eto, Llundain, 1745.
  102. 102.0 102.1 Adgofion Argraffiad 1791, tudal 60.
  103. Cofnodion Cymdeithasfa Morton Hill, Medi, 1746.
  104. Eto, Cymdeithasfaoedd 1746-7.
  105. Llythyrau Jenkins.
  106. Cofnodion Gloster, Hyd. 1747.
  107. Eto; Bryste, Ion., 1748.
  108. Eto, Gloster, Mai, 1748.
  109. Cofnodion Llundain, Gorff. 1748.
  110. Eto Llundain, Ebrill, 1749.
  111. Dyddlyfr Rhif 131a, Gloster, Mai 19, 1748.
  112. Dyddlyfr Howell Harris, Rhif 151a, Mai 9, 1751
  113. Dyddlyfr 146, 147, 151, &c., &c.
  114. Eto.
  115. Eto 147
  116. Eto 139, Rhag., 1749.
  117. Eto 141, Ion., 1750.
  118. Eto 152b,.Awst, 1751.
  119. Gallesid llenwi tudalennau â dyfyniadau o Ddyddlyfrau Howell Harris yn cadarnhau hyn. Nis gwn yr atebai unrhyw ddiben daionus i wneud hynny. Eithr os amheuir dim a ddywedir yn y bennod hon, mae'r tystiolaethau angenrheidiol i brofi pob gosodiad a wneir yma—ac ychwaneg—wrth law.
  120. Pennant's Tours in Wales, 1784 Edition, vol. ii. p. 200. Yn argraffiad 1810 (vol. ii., p. 385) camsillebir ef Cefn amlwch.
  121. Archeologia Cambrensis, III. Series, vol. v., p. 53.
  122. Dyddlyfr 136, Awst, 1749. Dichon mai nid allan o le fyddai dweyd eto, fod yn Nyddlyfrau Harris brofion o bopeth a ddywedir yn y bennod hon. Os bellach y gadewir allan y cyfeiriadau arbennig at y dyddlyfrau neillduol, dealled y darllenydd mai er mwyn arbed lle yn unig y gwneir hynny, ac nid am nad yw'r cyfeiriadau wrth law. Petae'r dyddlyfrau wedi cael eu cyhoeddi, byddai yn fanteisiol rhoi'r cyfeiriad am bob gosodiad. Ond gan nad ydynt, nis gellir, heb roi dyfyniadau helaeth iawn ohonynt, roi i'r darllenydd syniad cywirach o'u cynnwys ar y mater hwn, nag a geir yn y crynhodeb noeth yma o brif ffeithiau. Nid oes gennyf eto ond dweyd am y tro olaf, fod y dyfyniadau i gadarnhau pob gosodiad, gennyf wrth law. Ac os myn neb o haneswyr blaenorol Howell Harris amheu cywirdeb hyn, neu herio'r profion, parod fyddaf i gyhoeddi'r holl fanylion, yr hyn ni fynnwn heb hynny wneud.—B. G. E.
  123. 180 Dyddlyfr 139, Tachwedd 28, 1749.
  124. Tudal. 314.

ATODIAD I PENNOD XXII.
Y DIWYGIAD YNG NGOLEUNI LLAWYSGRIFAU TREFECCA.

Gwelir fod llawer o gynnwys y penodau diweddaf yn seiliedig ar Lawysgrifau Trefecca. Ychydig a wyr y wlad am y casgliad amhrisiadwy hwn. Ar ryw ystyr mae yn resyn ei fod yn gloedig oddiwrth y cyhoedd, ac na fuasai yn ffurfio rhan o Gasgliad Cenedlaethol mewn sefydliad mwy cyhoeddus, megys un o'n Colegau Cenedlaethol. Gresyn mwy na hynny yw fod yr hen lawysgrifau, hyd yn dra diweddar, wedi cael eu hesgeuluso mewn dull mor warthus. Buont am hir flynyddau yn bentwr esgeulusedig, heb neb yn gofalu am danynt, na neb yn ceisio gwneud trefn arnynt. Ychydig flynyddau yn ol, cyflogodd awdurdodau'r Coleg foneddwr tra chymwys, Mr. Evan E. Morgan, i drefnu a chyfanu, hyd oedd yn bosibl, yr oll o'r llawysgrifau. Bu'r gorchwyl hwn yn lafur cariad iddo̟ am yn agos i dair blynedd. Nis gall neb a â drwy'r llawysgrifau fel y maent yn awr, lai na chanfod ar yn agos i bob dalen o'r casgliad, brofion o'r gofal manwl a'r tynerwch cariadus a ddanghoswyd gan y neb a fu yn trefnu, rhestru, a thrin clwyfau, yr hen lawysgrifau hyn. Dichon y bydd crynhodeb byr o natur a chynnwys y casgliad yn ddyddorol.

1. DYDDLYFRAU HOWELL HARRIS. Mae rhyw 280 o ddyddlyfrau Howell Harris, o 1735 hyd 1772 a dechreu 1773, blwyddyn ei farwolaeth, eto ar gael. Yn anffodus, mae amryw gyfrolau yn eisieu, yn cynnwys yr oll o'r dyddlyfrau oedd yn ymwneud â'i deithiau yn y Gogledd, y rhan sy'n ymwneud â'r prawf yn yr Assizes ym Mynwy, ac ychydig eraill. Ond mae y rhan fwyaf o lawer yn aros,—nid oes, o bosibl, fwy na'r ugeinfed ran o'r cwbl ar goll.

Mae y dyddlyfrau hyn, gan mwyaf, yn fath o gopïau pedwarplyg, wedi cael eu hysgrifennu mewn llaw nodedig o fân ac anhawdd ei darllen, ac yn llenwi pob dalen o ymyl i ymyl, ac o gongl i gongl, ac, ambell waith, wedi cael eu hysgrifennu ar hyd ac ar draws. Nis gall yr anghyfarwydd eu darllen; a rhaid i hyd yn oed yr hyfedrydd (expert) mewn llawysgrifau, wrth gymorth chwydd wydr, a thaflen o'r talfyriadau a'r arwyddnodau sy'n britho'r ysgrifen, cyn y medr wneud dim o honi. Mae hyn, o bosibl, yn cyfrif am y ffaith na wyr y byd ond ychydig am wir natur eu cynnwys. Amlwg fod rhyw un—credaf mai'r diweddar Barch. T. Phillips, Henffordd,—wedi bod drwyddynt yn ofalus, gyda'r amcan tybiedig o'u cyhoeddi, fel a wnaed â dyddlyfrau Wesley a Whitefield. Pe y gwneid hyn, teflid goleuni newydd ar aml i hen gwestiwn. Ond byddai'n ofynnol golygu'r dyddlyfrau yn ofalus cyn eu rhoi i'r byd, Gresyn fuasai gwneud yn ddiraid â Howell Harris yr hyn a wnaed âg Eben Fardd.

II. CASGLIAD O LYTHYRAU. (a) Llythyrau at Harris, oddiwrth nifer mawr o gyfeillion cyfrinachol neu gydweithwyr cyhoeddus. Mae dros 1000 o'r rhai hyn.

(b) Llythyrau oddiwrth Harris at wahanol bersonau, cyhoeddus a chyfrinachol. Mae yn agos i 1200 o'r rhai hyn. Eilebau (copies) ydynt gan mwyaf, wedi cael eu hadysgrifenu, weithiau gan Harris ei hun, brydiau eraill gan rai o'i gynorthwywyr—Evan Moses gan mwyaf.[1]

(c) O 200 i 300 o lythyrau eraill at neu oddiwrth bregethwyr eraill. (d) Rhyw 80 neu 90 o lythyrau gan aelodau eraill o "Deulu Trefecca," ond nid at nac oddiwrth Harris.

(e) Pentwr o lawysgrifau eraill nas gellir eu dosbarthu.

III. ADRODDIADAU SWYDDOGOL. (a) Cofnodion y Cymdeithasfaoedd yng Nghymru a Lloegr, gan mwyaf o 1742 hyd 1749, ond yn anghyflawn.

(b) Adroddiadau Swyddogol goruchwylwyr ac ymwelwyr y Seiadau. Gan nad beth a ellir ei ddweyd yn erbyn cyhoeddi y Dyddlyfrau, neu rai o'r Llythyrau, fel y maent, nis gall fod unrhyw reswm digonol dros beidio cyhoeddi cynnwys yr adran olaf hwn o'r Casgliad. Ond os y'i cyhoeddir, dylid ei gyhoeddi yn gyflawn. Byddai nid yn unig yn gaffaeliad i'r hanesydd, ond yn ddyddorol i'r cyhoedd, a thaflai lawer o oleuni ar rai o agweddau'r mudiad diwygiadol.

Ceir, yn y penodau blaenorol, lawer o hufen yr holl gasgliad, mor bell ag y mae yn dal cysylltiad a phwnc y llyfr hwn, ac yn enwedig mor bell ag y mae yn taflu goleuni newydd ar ddigwyddiadau'r cyfnod. Rhaid fod hyd yn oed y crynodebau amherffaith, a'r dyfyniadau anghyflawn a roddir yn y penodau hyn, yn cyfnewid cryn lawer ar rai o'r syniadau a ffurfid yn gyffredin am natur, amcan, a chyfeiriad y gwaith mawr a gyflawnwyd yng Nghymru yn y ganrif o'r blaen. Dichon mai nid an— fuddiol fydd rhoi eto fras grynhodeb o rai o'r prif bwyntiau syn amlwg ymron ar wyneb Llawysgrifau Trefecca.

1. Mudiad cyffredinol ar nid lleol oedd y Diwygiad.

2. Mudiad anenwadol neu gyd-enwadol ydoedd yn ei gychwyniad; cymera Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr, Bedyddwyr ac Anibynwyr, ran gyfartal ynddo: cydweithient, cyd-drefnent y gwaith.

3. Bodolai cysylltiad hanfodol rhwng y gyfundrefnaeth yng Nghymru a'r un gyfundrefnaeth yn Lloegr.

4. Perthynai i'r Eglwyswyr a'r Anghydffurfwyr a gysylltid ag arweiniad y mudiad, ddau ddosbarth gwahanol. Ceid ymhlith yr Eglwyswyr:—

(a) Rai a fynnent i'r Eglwys Wladol fod yn bopeth.

(b) Rai a feddylient fwy am les eneidiau nag am lwyddiant yr Eglwys.

Gellir nodi Harris fel engraifft o'r blaenaf, a Whitefield o'r olaf.

Ceid hefyd ymhlith yr Ymneillduwyr :—

(a) Rai a fynnent i'w henwad hwy fanteisio'n bennaf ar y mudiad.

(b) Rai a feddylient fwy am les eneidiau nag am lwyddiant yr enwad.

Gellir nodi Edmund Jones (Anibynnwr) a Miles Harri (Bedyddiwr) fel engreifftiau o'r blaenaf; a Lewis Rees (Anibynnwr) a Mr. Oulton, Llanllieni (Bedyddiwr) fel engreifftiau o'r olaf.

5. Er i rai Ymneillduwyr a rhai Eglwyswyr ymneillduo yn foreu o'r mudiad, parhaodd am flynyddau lawer yn anenwadol.

6. Gwrthodai y rhan Eglwysig o'r Gymdeithasfa goleddu'r syniad o dorri cysylltiad ag Eglwys Loegr; ond boddlonent i'r Ymneillduwyr gadw eu cysylltiad hwythau a'u cyfundrefnau enwadol eu hunain, a chymuno yn eu capeli, gan hawlio i'r Eglwyswyr gyffelyb hawl.

7. Gwrthodai'r ddwy blaid am hir amser, unrhyw gynnyg at ffurfio Enwad neu Sect ar wahan.

Wedi cael golwg felly ar y gyfundrefn ganolog yn gyffredinol, deallir yn well o bosibl agweddau'r Seiadau unigol.

1. Mewn egwyddor yr oedd y Seiad unigol, fel y Gymdeithasfa, yn anenwadol, neu gyd-enwadol;[2] mewn ymarferiad gwnaed hi yn aml i gyfateb i'r amgylchiadau lleol. Er engraifft, os byddai'r Eglwyswyr yn gryf iawn yn yr ardal, ac os byddai'r "Cynghorwr" neu'r "Arolygwr," oedd a gofal y cylch, yn eithafol Eglwysig, ceid ffordd i wneud y Seiad hefyd, i bob diben ymarferol, yn Eglwysig. Ar y llaw arall, os byddai elfen gref o Anghydffurfwyr yn feddiannol ar ysbryd y Diwygiad, yn y cylch, agorid drws y Seiad led y pen iddynt hwythau, a chydaddolai'r ddau ddosbarth mewn undeb tangnefeddus a brawdgarwch cynnes.

2. Nid oedd y Seiadau ond cydgynhulliad o bersonau o dueddiadau crefyddol, ac o wahanol enwadau, yn tynnu at eu gilydd er adeiladu eu gilydd. Dylid cofio nad oedd, y pryd hwnnw, ymhlith yr Ymneillduwyr, na chyfeillachau crefyddol, na chyfarfodydd gweddi rheolaidd fel y sydd yn awr. Ni cherid y Seiadau oll ymlaen ar yr un cynllun. Er engraifft, mynnai Morgan John Lewis i'w Seiadau gyfarfod yn rheolaidd bob wythnos; ond trefnai eu gwaith fel hyn:—1. Cwrdd gweddi. 2. Cwrdd darllen ac egwyddori. 3. Agor calonnau ac adrodd profiadau. 4. Cwrdd moliannu Duw. Pan gofir nad oedd cyfeillach grefyddol na chyfarfod gweddi'n beth cyffredin yn y wlad, gwelir mor rhesymol oedd i rai o dueddiadau crefyddol cynnes o bob enwad, i ymgysylltu â'u gilydd o dan ddylanwad cynhesrwydd a zel y diwygiad.

3. Nid yn unig gwahaniaethai'r Seiadau yn fawr yn eu ffurf neu ddull o gario eu gweithrediadau ymlaen, ond yn eu disgyblaeth. Mewn rhai yr oedd yn llym iawn,—diarddelid personau am fynd i Neithiorau ("Priodas a Thaith," fel y'i gelwir eto mewn rhannau o'r De); disgwylid i'r neb oedd a'u bryd ar briodi i ofyn caniatad y Seiad i hynny; mewn eraill yr oedd mor llac fel na chydnabyddent hawl yr Arolygwyr na'r Cynghorwyr i ymyrryd â hwynt.

4. Ar y dechreu, ac am flynyddau lawer wedi hynny, eithriad oedd gwasanaeth reolaidd ar y Sul ynglŷn â'r Seiadau hyn. Ac wedi dechreu sefydlu gwasanaeth reolaidd felly, hir iawn y buwyd cyn ei gwneud yn arferiad i gynnal Cyfeillach grefyddol ar ol yr oedfa ar y Sul. Mewn gair, ychydig, os dim, o natur Eglwys wahanfodol a berthynai i nemawr ddim o'r Seiadau hyn, am lawer blwyddyn hirfaith wedi eu sefydlu, ac wedi eu dwyn i ryw fath o drefn a rheolaeth gan ac o dan y Gymdeithasfa.

5. Canlyniad naturiol oedd mai mewn ychydig, yn gymharol, o honynt. y ceir elfen o sefydlogrwydd na pharhad. (Gwel Atodiad i Pen. xx.) Diflannodd llu o honynt cyn y rhwyg rhwng Harris a'i frodyr, a bu feirw eraill mewn canlyniad i'r rhwyg. Erbyn 1748, er fod Harris ar y pryd yn cydweithio'n gyfeillgar a'r brodyr eraill, nid oedd un rhan o dair o'r holl Seiadau a sefydlwyd, yn cael eu henwi o gwbl yn yr adroddiadau swyddogol i'r, nac yn, y Gymdeithasfa. Pan fu farw Harris yn 1773, nid oedd hanner y drydedd ran gweddill hyn yn aros.

6. Cyfanrif uwchaf posibl aelodau yr holl Seiadau a fodolent unrhyw amser o 1742 hyd 1752 (hyd yn oed pe cyfrifid yn 1752 aelodau pob Seiad oedd wedi marw cyn hynny) oedd 5715.

Pan sonnir, felly, fel y gwneir gan rai ysgrifenwyr, am y bobl yn tyrru wrth y deg a'r ugain mil i rai o Sasiynau y cyfnod hwnnw, rhaid, os yw'r haeriad yn wir, fod mwyafrif enfawr y cynulleidfaoedd hynny yn Fedyddwyr, Anibynwyr, ac Eglwyswyr, a ddymunent wrando'r pregethu, ond na chydnabyddent unrhyw fath o gysylltiad â'r Methodistiaid fel cyfundrefn.

Ond pan sonnir fod cynifer a 4000 neu 5000 yn dod i Langeitho at Rowlands, neu i Sir Benfro at Howell Davies, i gymuno, mae'r peth yn amhosibl. Hyd yn oed pe cesglid pob aelod o'r Seiadau i gyd, yn fyw ac yn farw, yn blant (ac yr oedd plant 10 mlwydd oed yn aelodau o'r Seiadau) ac yn hen bobl, o ben uchaf Sir Drefaldwyn hyd gwrr pellaf Sir Fynwy, nis gallasai fod 6000 o gwbl! Gresyn na chadwai haneswyr at y tebygol, os na allant at y cywir. Fel mater o ffaith, ni fu erioed fwy na 1500 yn cymuno ar yr un pryd yn Llangeitho.[3]

Rhoddid arbenigrwydd neillduol ar "Sabath y Cwrdd Mawr," yn Llangeitho. Ni chynhelid cymaint a Chwrdd Gweddi ar y Sul hwnnw gan neb o Fethodistiaid y siroedd cylchynol. Dyma ddesgrifiad o'r olygfa ar y pererinion, gan un a'i cafodd gan lygad-dyst:—

"Y pryd hwnnw byddent yn cyrchu o bob cwrr o Gymru i Langeitho. Byddent yn cychwyn o Forgannwg nos Wener, a cherddent drwy'r nos i fod yma erbyn y cwrdd parotoad nos Sadwrn. Yr oeddent yn dwyn bwyd gyda hwynt i'w fwyta wrth fynd a d'od; ond tra fyddent yn Llangeitho yr oeddent yn cael eu bwyd a'u llety am ddim. Wedi bod yn y cymundeb boreu Sabath, cychwynnent yn lluoedd drwy Landdewibrefi i'r mynydd hyd y Post-Gwyn, rhwng Bryncaregog a Bronbyrddau. Yn y fan honno elai dau neu dri i weddi, ac ymwahanent dan ganu, rhai tua Phontrhydybere, ac eraill tua ffordd Cilycwm, a byddent gartref rywbryd boreu dydd Llun."[4]

Fel y danghoswyd eisoes, tynnai Cymanfaoedd y Bedyddwyr yng Nghymru yn yr un cyfnod dorfeydd cyffelyb, yn rhifo 10,000 ar y tro,—ond mai unwaith y flwyddyn a fyddai hynny. Am nifer y "dychweledigion" a enillwyd ym mlynyddau'r Diwygiad, amhosibl yw cael cyfrif cywir. Mae'n amlwg oddiwrth Lawysgrifau Trefecca fod llawer o aelodau'r "Seiadau" yn aelodau ar yr un pryd o Eglwysi Ymneillduol, a bod llawer eraill yn gymunwyr yn Eglwys Loegr. Pan dynner y rhai hyn allan o'r 5715 aelodau a gyfrifir i'r Seiadau, cawn fod y Bedyddwyr Cymreig yn y chwe' mlynedd o 1787 hyd 1792, wedi ychwanegu mwy at rif eu haelodau na holl ddychweledigion y Diwygiad yn y deuddeng mlynedd o 1740 hyd 1752.[5]

Nid yn rhifedi aelodau'r Seiadau y ceir gwir werth Diwygiad canol y 18fed ganrif, ond yn y symbyliad a roddodd i'r wlad i ymgyflwyniad mwy llwyr i achos crefydd. Am y dychweledigion eu hunain, byr a fu tymor dylanwad yr argyhoeddiadau ar lawer o honynt. Mae hyn, o bosibl, yn naturiol i bob mudiad cyffrous o natur hwn. Rhaid cofio mai cyffroawl (emotional), yn hytrach nag argyhoeddiadol, oedd dylanwad y diwygiad ar y mwyafrif mawr. Ni chanlynwyd ef gan wellhad cyffredinol mewn buchedd. Nid moesoldeb buchedd, ond cynhyrfiad teimladau, a phroffes barod o ffydd yng Nghrist, oedd arwyddion allanol dylanwad y mudiad diwygiadol ar laweroedd. Yn wir, gwatwarid yr Ymneillduwyr a bregethent foesoldeb fel ffrwyth hanfodol argyhoeddiad, fel "Sentars sych;" tra yr edrychid ar y neb a bregethai i gynhyrfu'r teimladau, fel danfonedig o'r nef. Os mesurir ffrwyth y Diwygiad wrth ei effaith uniongyrchol ar foesau'r wlad, mae lle i ofni y ceir ef yn llai na phan y'i mesurir wrth rifedi'r dychweledigion. Nid oedd yr amgylchiadau dan y rhai y cedwid ambell Seiad yng ngwres mwyaf tanbaid y Diwygiad,—cadw cyfarfodydd hyd ac ar ol ganol nos, ac yna teithio yn aml filltiroedd o ffyrdd unig tua'r cartrefi, yn debyg o ffafru'r ymarferiad o foesoldeb cymdeithasol. Os mynner profion o hyn, maent i'w cael yn rhai o Lawysgrifau Trefecca.

Ond er na lwyddodd y Diwygiad i sicrhau y lluoedd mawr o "ddychweledigion" a briodolir yn gyffredin iddo; er na lwyddodd ychwaith i greu chwyldroad cyffredinol yn syniadau'r cyhoedd yng Nghymru am foesoldeb cymdeithasol, gwnaeth wasanaeth nid llai pwysig.

1. Deffrodd gydwybodau cysglyd yn Eglwys Loegr.

2. Argyhoeddodd Ddiwygwyr Crefyddol y rhaid i'r Eglwys fod yn rhydd oddiwrth hualau'r Wladwriaeth, os yw i gyflawni ei gwaith yn y byd.

3. Argraffodd yn ddyfnach nag o'r blaen ar feddyliau Eglwysi Ymneillduol y wlad, y dylai Eglwys Dduw fod yn allu cenhadol yn y byd.

4. Danghosodd i'r Ymneillduwyr, drwy esiampl, y pwysigrwydd o ymarferiadau crefyddol heblaw pregethu; gwerth cyfeillachau crefyddol a chyfarfodydd gweddio cyson; ac mewn gair, i gyfieithu'r broffes o grefydd i ymarferiad rheolaidd mewn cyfarfodydd rheolaidd a chyson.

5. Gwnaeth felly Eglwysi Cristionogol y wlad, hen a newydd, yn ganolbwynt dylanwad iachusol a pharhaol pob un yn ac ar eu chylch eu hun, dylanwad a gryfhaodd ac a ledodd yn raddol, nes lefeinio'r holl wlad.

6. Effaith adlawol (secondary) y dylanwadau hyn, ac nid ffrwyth uniongyrchol y Diwygiad ei hun, oedd y cynnydd mawr ac amlwg a gymerodd le mewn hir flynyddoedd ar ol hyn, yn arferion cymdeithasol a syniadau moesol y wlad.

Casgliad arall, y gorfodir ni yn anocheladwy i dynnu oddiwrth Lawysgrifau Trefecca, a hanes dilynol crefydd yng Nghymru, yw, mai Thomas Charles, yn hytrach na Howell Harris, yw gwir Dad Methodistiaeth Galfinaidd yng Nghymru. Ni fu Harris erioed ddim ond Eglwyswr. Ni fynnai son am droi cefn ar y Eglwys. Ni oddefai i neb ond Esgob ordeinio dyn yn bregethwr. Tebyg i gicaion Jonah oedd y rhan fwyaf o'r Seiadau a blannwyd ganddo. Yn offeiriadaeth Daniel Rowlands yn unig y ceir dim tebyg i elfen o barhad yn natur y Seiadau. Ond, a siarad yn gymhariaethol, afluniaidd a gwag oedd y gyfundrefnaeth a adawodd yntau ar ei ol. I Thomas Charles y gadawyd y gorchwyl o ddwyn trefn barhaol ar y gyfundrefnaeth. Gwnaeth ef lawer mwy, a Howell Harris lawer llai, nag a dybir yn gyffredin, o wasanaeth, nid yn unig i Fethodistiaeth, ond i Grefydd Cymru.<ref>Profir yn amlwg gan Lythyrau Thomas Charles, a ddarganfyddwyd yn ddiweddar, ac a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn Y Traethodydd, mai nid gwrthwynebu ond hyrwyddo'r mudiad i ordeinio gweinidogion, a wnaeth Thomas Charles. Cyfnewidiodd hynny holl natur y gyfundrefn—aeth, ac o'r dydd hwnnw allan cymerodd Methodistiaeth Galfinaidd ei lle priodol ymhlith Enwadau Ymneillduol Cymru.<ref> Yn Thomas Charles, a'r rhai a gydlafuriasant ag ef, ca Methodistiaeth Cymru Dadau y gall, heb wrido, ymffrostio ynddynt,—ac fel arloeswyr y ffordd iddynt hwy y rhaid edrych ar y rhai a'u rhagflaenasant.

Nodiadau

[golygu]
  1. Fel engraifft o barodrwydd yr anghyfarwydd i syrthio i gamgymeriadau os na ddefnyddir llawer o ofal, gwelir yn Y Tadau Methodistaidd, cyf. i., tudal. 123, ddarlun (photograph) o ddarn o lythyr yn dwyn enw Howell Harris, a rhoddir y darn llythyr i ni fel engraifft o "Lawysgrif Howell Harris." Ond nid llawysgrif Howell Harris mo hono. Copi a wnaed gan Evan Moses y gwas, o lythyr gwreiddiol ei feistr Howell Harris, ydyw. Twyllwyd rhyw Isaac ddall, canys wele lais Howell Harris, ond llaw Evan Moses a geir yn y photograph!
  2. Maddeuer imi yma am gyfeirio at engraifft lle y gwadwyd y gosodiad hwn yn bendant gan un hanesydd. Ar y pryd y gwnaeth yr haeriad, yr oedd newydd fod yn ei feddiant ac yn ei ddwylaw y Llyfr Cofnodion oedd yn cynnwys profion ei fod yn gwadu'r gwirionedd. Er engraifft (tud. 43, Medi 19, 1743), ysgrifenna Wm. Richards am Seiad Llwyn— dafydd:" Fy Mrodyr, gwybyddwch fod mwy na hanner y Seiad hon yn Ddissenters." Eto, Morgan John Lewis (wedi hynny gweinidog Eglwys yr Anibynwyr, New Inn), Arolygwr arall Seiadau, yn ei adroddiad, Mawrth, 1744 (tud. S0), a ddywed: "Mae 23 o leoedd yn agored i bregethu'n gyhoeddus, yn cynnwys y Seiadau sefydlwyd, a dau neu dri o leoedd ymhlith y Dissenters, lle yr af weithiau." Pasiodd Cym— deithasfa Glanrafonddu, Ebrill, 1744, benderfyniad fod "Benj. Rees, fel brawd o Ddissenter, i gael cynghori." Achwyna James Williams, Arolygydd rhan o Sir Gaerfyrddin, Hyd. 10, 1747, am anghydfodau yn ei Seiadau," rhai ni fynnent fynd i'r Llan, eraill nid änt at y Dissenters," —yn dangos fod y ddau beth, sef mynd i'r Llan ac at y Dissenters, yn beth arferol. Wm. Johns, Arolygwr rhan arall o Sir Gaerfyrddin, Mai 3, 1748, a ddywed am Seiad Llanpumpsaint, "29 wedi eu derbyn oddiar ddechreu'r gauaf, chwech o honynt yn Ddissenters." Williams, Panty— celyn, pan yn arolygu Seiadau, a ddywed am Penylan, "Mae yno 5 neu 6 o rai newydd wedi dod i fewn, rhai gwrthgilwyr, a rhai Dissenters. Mae llawer yma yn wybodus yn yr Ysgrythyrau." Mae'r ddwy frawddeg olaf, yn eu cysylltiad â'u gilydd, yn awgrymiadol iawn. Gweddus yw imi ddweyd fod llawer o'r dyfyniadau uchod wedi eu marcio, yn y Llyfr yn Nhrefecca pan welais ef ymhen ychydig amser wedi i'r llyfr fod yn nwylaw'r ysgrifennydd a gyfeiriais ato eisoes.
    Yr wyf wedi manylu yma ar hyn am dri rheswm:—
    1. Am fod fy ngosodiad wedi cael ei wadu ar awdurdod tebygol.
    2. Am fod y dyfyniadau yn taflu goleuni ar amgylchiadau'r Seiadau.
    3. Am fod y profion a roddaf yma o gywirdeb fy ngosodiad hwn, yn engraifft deg o brofion cyffelyb a allesid eu dwyn ymlaen i gadarnhau y gosodiadau eraill a geir yn yr "Atodiad" hwn.—B. G. E.
  3. Dyna ddywedodd gwas Rowlands ei hun wrth y Parch. John Owen Thrussington. ("Coffhad am y Parch. Daniel Rowlands," &c., tud. 34.), Mae hyn yn gyson â'r hyn a glywais innau gan fy nhad o enau ei famgu yntau, yr hon a arferai letya ugeiniau o'r pererinion hyn i Langeitho.—B. G. E.
  4. Hanes Llangeitho, gan David Morgan, tudal. 19
  5. Cyfrifon Cymanfaoedd y Bedyddwyr.

PENNOD XXIII.
BRWYDR RHYDDID I'R ATHRAW A'R PREGETHWR.

Tra roedd y Diwygwyr, fel hyn, yn deffroi cydwybod gre fyddol y genedl, nid anghofiodd adran bwysig o honynt eu hawliau a'u rhwymedigaethau gwladol. Yr oedd Deddf Goddefiad wedi gwneud addoli Duw o'r tu allan i Eglwys y Plwyf, yn beth posibl, o dan amodau neillduol, a chymharol rwydd. Manteisiodd yr Ymneillduwyr yn dra chyffredin ar ddarpariadau'r ddeddf. Ond yr oedd y Methodistiaid, Wesleyaidd a Chalfinaidd, mewn sefyllfa dra gwahanol. Ni fynnai'r adran Eglwysig o honynt gydnabod eu hunain yn Ymneillduwyr, ac felly nis gallent fanteisio ar y ddeddf a amddiffynnai y rhai hynny. Ni fynnent apelio am drwyddedau fel Ymneillduwyr ac ni chaent drwyddedau ond fel Ymneillduwyr. Y canlyniad oedd, y gellid eu herlid hwy, aflonyddu ar eu cyfarfodydd, ac hyd yn oed beryglu eu personau, difetha eu heiddo, a niweidio eu capeli, yn fwy eofn a diberygl nag y gallesid gwneud i'r Anibynwyr neu'r Bedyddwyr. Cyfrifa hyn am y ffaith fod llawer o'r "Methodistiaid" boreuol wedi dioddef mwy o erlid na'r Ymneillduwyr yn yr un cyfnod. Yr oedd y blaenaf o'r tu allan, a'r olaf o'r tu fewn, i amddiffyniad y gyfraith. Cliria'r ffaith syml hon, ynddi ei hun, lawer o gam-argraffiadau am y Methodistiaid, ac amgylchiadau eu gwaith boreuol. Ceisiodd amryw o'u pregethwyr drwydded Esgob i bregethu; cynygid trwydded iddynt os desgrifient eu hunain yn Ymneillduwyr; gwrthodent wneud hynny—a gwrthodwyd y trwyddedau iddynt. Amcan cydnabyddedig yr Esgobion yn hyn oll, oedd gorfodi'r "Methodistiaid" yn Lloegr a Chymru, fynd allan o'r Eglwys. Mae hyn mor wir am ganlynwyr Wesley ag am ganlynwyr Whitefield—a dioddefodd y ddau ddosbarth lawer iawn mewn canlyniad.

Gan wybod fod y gyfraith yn eu hamddiffyn, tra eu gelynion yn awyddus i barhau erlidiau'r dyddiau gynt, penderfynnodd Ymneillduwyr y deyrnas ymffurfio yn gymdeithas arbennig i wylio eu buddiannau dinesig. Felly, ffurfiwyd y corff a adwaenid fel Y Dirprwywyr Ymneillduol (The Dissenting Deputies). Llundain oedd y pencadlys, ond yr oedd canghennau, a swyddogion gohebol, ymhob rhan o Gymru a Lloegr. Yn 1736—adeg cychwyniad y deffroad crefyddol—penderfynnwyd gael etholiad blynyddol gan yr eglwysi o "ddirprwywyr i ofalu am fuddiannau dinesig Ymneillduwyr." Amcan blaenaf sefydliad y corff newydd, oedd sicrhau dilead Deddf y Corfforiaethau, a Deddf y Prawflwon; ond cafwyd yn fuan fod llawer o waith iddynt amddiffyn yr hawliau oedd y gyfraith eisoes wedi roi iddynt, ond a geisiai eu gelynion gadw oddiwrthynt. Nodaf ychydig engreifftiau, arwyddocaol o'r modd yr ymladdodd y Dirprwywyr dros iawnderau'r Ymneillduwyr.

Gofynnai Deddf y Corfforiaethau i ddyn fynychu'r Eglwys Wladol, a chymeryd y Sacrament yno, fel amod swydd. Er mwyn gwrthdystio yn erbyn y ddeddf hon, gwrthododd rhai Ymneillduwyr a benodid yn Siryddion ac Henuriaid, wasanaethu'r swyddi hynny, gan nas gallent, yn gyson â'u hegwyddorion, fynychu'r Eglwys. Gwelodd rhai Corfforiaethau—Cyngor Dinas Llundain, er engraifft—eu mantais. Pasiwyd ganddynt ddeddfau yn gosod dirwy drom ar y neb a wrthodai wasanaethu swydd i'r hon yr etholid ef yn rheolaidd. Felly yr oedd Ymneillduwr a benodid i swydd dan orfodiaeth, naill ai

(a) I wadu ei egwyddorion fel Ymneillduwr, a mynd i'r Eglwys; neu

(b) I golli hawl dinesydd, a thalu dirwy drom am ei Ymneillduaeth. Dewisoddd llawer yr olaf. Penodai'r Corfforiaethau Ymneillduwyr er mwyn eu dirwyo. Cododd Corfforiaeth Llundain £15,000 mewn dirwyon felly, a chyflwynwyd yr arian i adeiladu Neuadd y Ddinas (Mansion House) newydd. Ymgymerodd y Dirprwywyr Ymneillduol ag ymladd yr achos. Cariwyd ef o lys i lys, ac o'r diwedd yn Nhy'r Arglwyddi, cafwyd dyfarniad yn ffafr yr Ymneillduwyr—ei bod yn anghyfreithlon eu dirwyo hwy am wrthod gwasanaethu swydd a osodai dreth ar eu cydwybod.

Yn Sir Drefaldwyn, gwrthododd yr Ustusiaid roi trwydded i gapel yr Anibynwyr. Cymerodd y Dirprwywyr y mater mewn llaw. Aed a'r achos ganddynt at y Twrnai Cyffredinol. Danfonodd yntau genadwri at Ustusiaid Maldwyn nas gallent wrthod—a gorfu iddynt ei roi.

Mewn amgylchiad arall, ymosodwyd ar addolwyr a wrandawent bregethwr Methodist, mewn ty heb ei drwyddedu; a niweidiwyd amryw bersonau, a gwnaed colled ar eiddo. Gwysiwyd yr ymosodwyr gan y Methodistiaid lleol. Tafodd y Grand Jury yr achos allan, gan nad oedd trwydded i'r ty na'r pregethwr. Yna gwysiodd yr ymosodwyr y Methodistiaid am gynnal cyfarfod anghyfreithlon! Nis gallai'r Dirprwywyr ymyrryd yn yr achos hwn, gan y gwrthodai'r Methodistiaid godi trwydded.

Ceisiwyd ymddwyn yn gyffelyb at Lewis Rees, Llanbrynmair. Yr oedd Lewis Rees yn "Fethodist" selog a gweithgar, a thybid y gellid ei erlid ef yn ddiberygl. Ymosodwyd arno yn Sir Drefaldwyn. Ond heblaw bod yn "Fethodist," yr oedd Lewis Rees yn weinidog gyda'r Anibynwyr,—ac yn drwyddedig fel y cyfryw. Cymerodd y Dirprwywyr ei achos mewn llaw, a buan y gwelodd yr erlidwyr nas gellid yn ddiberygl ymosod ar "Fethodist" o Anibynnwr.

Yn Tregoy atafaelwyd ar eiddo Ymneillduwr dan Ddeddf y Cyrddau. Cymerwyd y mater i fyny; gorfodwyd yr ustus a arwyddodd y papur, i dalu holl gostau'r achos, i dalu i'r Ymneillduwr lawn gwerth yr eiddo a atafaelwyd, ac i ddychwelyd iddo yr hyn oedd heb ei werthu.

Ceisiwyd erlid Caleb Evans, y Bedyddiwr, yn Llys yr Esgob, yn 1739, am gadw ysgol yn Pontypwl. Pan welodd yr awdurdodau Eglwysig fod y Dirprwywyr yn mynd i ymladd yr achos, gadawsant i'r peth syrthio i'r llawr.

Ceisiodd clerigwyr godi tâl ar Ymneillduwyr am briodasau a weinyddid mewn plwyfi eraill, ac am gladdu ym mynwent y capel. Amddiffynnwyd yr achosion, ac enillwyd y gyfraith. Mewn un amgylchiad gwrthododd offeiriad briodi pâr ieuanc, am mai Bedyddwyr oedd eu rhieni. Aethant i blwyf arall i'w priodi. Pan ddaethant adref, hawliodd yr offeiriad ei dâl am seremoni a wrthododd gyflawni! Gwrthodwyd talu. Aeth a'r achos i Lys yr Esgob,—ond pan gymerodd y Dirprwywyr y mater i fyny, tynnodd yn ol.

Yng Nghaerfyrddin (1749), Meirion (1763), a Threfaldwyn (1764), erlynnwyd gweinidogion Anibynnol am fedyddio plant eu haelodau, a cheisiodd yr offeiriad godi tâl ar y rhieni am y bedydd. Cymerodd y Dirprwywyr y mater mewn llaw; enillwyd y gyfraith—ac mewn rhai amgylchiadau gorfodwyd yr offeiriad i dalu'r costau.

Yn Sir Fon ymosodwyd ar weinidog Ymneillduol tra yn bedyddio, yn 1783; yn Beaumaris ar un arall yn 1785; ac yn Llanfyllin yn 1787. Cymerodd y Dirprwywyr y mater i fyny, a da oedd gan yr ymosodwyr ymostwng a derbyn eu telerau.

Ym Maesyfed (1743), Môn (1763), Meirion (1770), Brycheiniog (1791), Gwrecsam (1798), gwrthododd yr Ustusiaid roi trwyddedau naill ai i gapeli neu i bregethwyr yr Ymneillduwyr. Cymerodd y Dirprwywyr yr achosion i fyny, a gorfodwyd yr Ustusiaid i gydffurfio â'r gyfraith.

Yn Llanfigan yn 1764, gwrthododd yr offeiriad gladdu plentyn, am mai gweinidog Ymneillduol a'i bedyddiodd. Gorfodwyd ef i wneud ymddiheurad i'r rhieni.

Gwelir wrth yr engreifftiau uchod, mor angenrheidiol oedd gwaith y Dirprwywyr, ac mor ymdrechgar a llwyddiannus a fuont wrth ei gyflawni. Ond yn awr, gwynebwyd Ymneillduwyr Cymru a Lloegr gan gwestiwn mawr a phwysig—sef, Cwestiwn Rhyddhad yr Athraw. Yr oedd y Pregethwr Ymneillduol yn rhydd i bregethu, ond nid oedd yr Athraw Ymneillduol yn rhydd i ddysgu'r plant. Wele rai o'r deddfau mewn grym yn eu herbyn pan fu Howell Harris farw.

Ni chaniateid i neb i ddysgu plant os na arwyddai rai o Erthyglau Eglwys Loegr, ac os na feddai drwydded o dan law'r Esgob (Canon 77).

Yr oedd unrhyw Ysgolfeistr a fyddai am fis heb fynd i'r Eglwys, ac na feddai drwydded Esgob, yn agored i garchariad am flwyddyn, a'r neb a'i lletyai, yn agored i ddirwy o £10 y mis (23 Eliz. c. 1).

Yr oedd unrhyw ysgolfeistr a gadwai Ysgol Gyhoeddus neu breifat, neu a ddysgai blant mewn unrhyw dy preifat, heb feddu trwydded oddiwrth Esgob, yn agored i garchariad am dri mis am y trosedd cyntaf, a thri mis am bob trosedd cyffelyb, a thalu dirwy o £5 (13 and 14 Chas. II., c. 4).

Gosodid cosbau trymion ar Ymneillduwyr a weithredent fel athrawon, os na fynychent yr Eglwys yn rheolaidd (17 Chas. II., c. 2).

Flwyddyn cyn marw Howell Harris, penderfynnodd yr Ymneillduwyr ymladd brwydr ddiorffwys, tan y ceid yr Athraw, fel y Pregethwr, yn rhydd. Ddechreu Mawrth, 1772, daeth dirprwyaeth, yn cynnwys y Parchn. Mr. Prichard, Dr. Furneaux, a Dr. Stennett—yn cynrychioli y tri enwad, Anibynwyr, Presbyteriaid, a Bedyddwyr, at y Pwyllgor canolog i'w cymhell i gymeryd mesurau er gwella Deddf Goddefiad, drwy

(a) Ryddhau pregethwyr Ymneillduol o orfod arwyddo Erthyglau'r Eglwys; a

(b) Rhyddhau'r Athraw Ymneillduol o bob rhyw gosb am ddysgu plant.

Cydsyniodd y Pwyllgor yn unfrydol, a dechreuwyd ar y gwaith o drefnu byddin Ymneillduaeth. Cafwyd 882 o weinidogion a phregethwyr Ymneillduol yng Nghymru a Lloegr, i hyrwyddo'r mudiad hwn.

O'r rhai hyn yr oedd 125 yng Nghymru,—oll yn Anibynwyr a Bedyddwyr, heb gymaint ag un Methodist Eglwysig yn eu plith. Ond ceid Methodistiaid Ymneillduol, fel Lewis Rees, a Richard Tibbott, a William Edwards, Groeswen, oeddent yn weinidogion Anibynnol yn ogystal a Methodistiaid, yn ymladd ochr yn ochr a hen wroniaid gwleidyddol fel Miles Harri, Pontypwl. Profa hyn nad oedd y Methodistiaid Eglwysig mewn cydymdeimlad a'r Ymneillduwyr Gwleidyddol; ond nid am nad oeddent yn teimlo dyddordeb mewn gwleidyddiaeth, canys cwyna Howell Harris ei bod yn rhy ddrwg fod y Llywodraeth, oedd o dan y fath rwymau i Fethodistiaid Cymru am eu cefnogaeth gwleidyddol, yn gwrthod nawdd y gyfraith i'w cefnogwyr hyn, os na broffesent eu hunain yn Ymneillduwyr.

Cymerodd y Parch. Josiah Thompson ran flaenllaw yn yr ymdrech lwyddiannus hon i drefnu byddin Ymneillduaeth. Ei amcan oedd gwneud Ymneillduwyr y deyrnas yn gyfun—drefnaeth boliticaidd. Ar bwyllgor canolog o 12, rhoddid i Gymru ddau aelod; ac yr oedd cangen weithgar, gyda'i hysgrifennydd ei hun, i fod ymhob sir.

Da fuasai gennyf roi manylion llawn o'r digwyddiadau dyddorol ynglyn â'r mesur. Eithr ni chaniata gofod. Gwasanaethed y crynhodeb a ganlyn er dangos natur y frwydr.

Yn 1772, taflwyd y mesur allan. Yn 1773 pasiodd Dy'r Cyffredin, ond gwrthodwyd ef gan yr Arglwyddi. Am chwe' mlynedd wedyn bu'r Ymneillduwyr yn ddiflino yn creu barn gyhoeddus o blaid y mesur. Yn Mawrth, 1779, rhoddwyd caniatad i ddwyn y mesur i fewn. Ddechreu Mai, 1779, pasiodd drwy'r Senedd; Mai 18fed, yr un flwyddyn, arwyddwyd ef gan y brenin, a daeth yn rhan o gyfraith y tir. Drwy'r ddeddf hon sicrhawyd:

1. I'r Gweinidog Ymneillduol hawl i gael trwydded i bregethu heb arwyddo unrhyw gredo (ond mynegiad yn erbyn Pabyddiaeth), a datganiad syml ei fod yn derbyn y Beibl fel "Ewyllys Ddatguddiedig Duw, ac fel rheol ffydd ac ymarweddiad."

2. I'r Ysgolfeistr a'r Athraw, yr hyn na fu ganddo erioed o'r blaen, sef hawl i ddysgu plant heb fynychu'r Eglwys, na chael trwydded esgob. Yr oedd mynegiad syml ei fod yn Ymneillduwr Protestanaidd, yn ei ryddhau o'r holl gosbau a osodid arno gan y deddfau gormesol blaenorol.

Dyma frwydr wleidyddol fawr olaf y ganrif, i Ymneillduwyr Cymru a Lloegr. Gwelwyd effaith y fuddugoliaeth yn fuan yn sefydliad cyffredinol a chyhoeddus cyfundrefn o Ysgolion Sabothol, a ledasant yn gyflym fel rhwydwaith dros yr holl wlad.[1]

Nodiadau

[golygu]
  1. Nis gwn fod neb wedi galw sylw o'r blaen at y cysylltiad amlwg rhwng brwydr fawr wleidyddol yr Ymneillduwyr, a sefydliad cyffredinol a chyhoeddus Ysgolion Sul.—B. G. E.

PENNOD XXIV.
Y DECHREU A'R DIWEDD.

Yn ymarferol mae'r gorchwyl a osodwyd o'm blaen wedi cael ei gyflawni. Danghoswyd yn y penodau blaenorol ddechreuad egwan y gwahanol enwadau Ymneillduol; y modd y cynyddasant yn raddol gan fyned ymlaen o nerth i nerth; a'r cysylltiad anwahanadwy a fodolai rhwng eu buddiannau crefyddol, a'u hawliau dinesig a gwleidyddol, o'u dechreuad cyntaf fel cyfundrefnau crefyddol. O'u hanfodd yr ymwahanasant, y naill ar ol y llall, oddiwrth yr Eglwys; wedi dod allan o honi, synnu a wnaethant oll pa fodd yr arosasant gyhyd ynddi. Ymneillduo wnaeth rhai o'r enwadau, cael eu troi dros y drws wnaeth eraill. Yn eu cychwyniad, perthynent yn agos iawn i'w gilydd, mor agos fel mai anhawdd yw eu gwahaniaethu. Erbyn hyn gwelir y pedwar enwad wedi tyfu i faintioli, yn feddiannol ar wahanfodaeth amlwg, yn teithio ymlaen ar linellau cyfochrog, gan bob un o honynt amcan gwahanol i'w fodolaeth, ac i bob un o honynt genhadaeth wahanol yn y byd. Ac eto, mewn llawer ystyr, pedwarawd mewn unoliaeth ydynt,—ac yn eu hunoliaeth, fel yn eu gwahanfodaeth, yn cyflawni eu cenhadaethau arbennig a chyffredinol yn y byd.

Er na fwriadwyd, yn y gyfrol hon, i wneud mwy nag olrhain cychwyniad yr holl enwadau, a hanes y ddau frawd hynaf hyd nes y daeth y ddau frawd ieuengaf yn ddigon cryf i sefyll wrth eu hochr, nid allan o le fydd rhoi rhai ffeithiau am danynt am ychydig amser wedi i'r Deffroad Mawr, a roddodd fodolaeth i ddau o honynt, gyfnewid o fod yn ffaith bresennol i fod yn ddim ond adgof o'r hyn a fu.

Cyn y Deffroad mawr ni cheid, fel rheol, mewn gwasanaeth Ymneillduol, ond dwy bregeth ar y Sul, a dim cyfarfodydd yn yr wythnos. Yn wir, ni cheid ond un bregeth, a honno ar foreu Sul,—ond parhâi honno yn aml am dair neu bedair awr. Danghoswyd ar y cyntaf wrthwynebiad cryf i gynnal oedfaon ar nos Sul, yn enwedig yn y wlad, gan y tybid fod hynny'n milwrio yn erbyn crefydd deuluaidd, drwy dynnu'r bobl ieuainc o'r tai ar nos Sul, pan ddylasent fod adref yn astudio Gair Duw, neu yn gwrando ar y pen teulu, neu arall, yn ei esbonio. yn aml am dair neu bedair awr. Danghoswyd ar y cyntaf wrthwynebiad cryf i gynnal oedfaon ar nos Sul, yn enwedig yn y wlad, gan y tybid fod hynny'n milwrio yn erbyn crefydd deuluaidd, drwy dynnu'r bobl ieuainc o'r tai ar nos Sul, pan ddylasent fod adref yn astudio Gair Duw, neu yn gwrando ar y pen teulu, neu arall, yn ei esbonio.

Yr oedd y gweinidog Ymneillduol gynt yn fwy o fugail nag yw llawer o'i olynwyr heddyw. Er fod cylch ei weinidogaeth yn aml yn cymeryd i fewn nifer o blwyfi, ac weithiau y rhan fwyaf o sir, ymwelai yn gyson a rheolaidd â phob teulu a berthynai i'w braidd. Ymhlith ei ddyledswyddau, ni chyfrifid dim yn bwysicach nag ymweled â'r claf a'r cystuddiol. Rhwydd deall pa fodd yr enillai dynion felly ddylanwad yn eu cynulleidfaoedd.

Ystyrrid egwyddori'r ieuenctyd yn fater pwysig, ac fel rheol gofelid am dano ymhob eglwys Ymneillduol. Yn hyn o beth efelychid hwynt gan y Methodistiaid, y rhai yn dra boreu a wnaethant "gateceisio" yn rhan bwysig o waith eu Seiadau. Cyfrifa'r hen arferiad, a fodolai cyn hynny, am y ffaith fod Williams Pantycelyn, ac eraill o'r Arolygwyr Methodistaidd, yn canmol Seiadau a gynhwysent elfen gref o Ddisenters, fel rhai "goleu yn yr Ysgrythyrau."

Am arddull y pregethu, esboniadol, ac athrawiaethol, ydoedd, i raddau helaeth iawn, Dynion dysgedig, gan mwyaf, oedd yr hen dô o weinidogion Ymneillduol; a daeth yn arferiad tra chyffredin, ac nid hollol anaturiol, yn eu plith, i ysgrifennu eu pregethau yn llawn, a'u darllen yn hytrach na'u pregethu. Canfyddir tuedd gyffelyb, gyda chanlyniadau cyffelyb, mewn dosbarth o bregethwyr yn yr oes bresennol. Pan ddaeth y Methodistiaid, a'u dull mwy tanllyd, gan bregethu heb bapur, a'r geiriau yn dod yn ffrwd eiriasboeth o fynwes yn llawn o dân zel, nid rhyfedd i'r werin gael eu cyffroi yn ddirfawr. Ymaflodd y tân newydd yn rhai o'r hen bregethwyr, a dechreuasant hwythau bregethu heb bapur—ac yn y man galwyd hwynt yn Fethodistiaid!

Danghoswyd ar y dechreu, yn enwedig ymhlith y Bedyddwyr, fwy o wrthwynebiad i wneyd canu yn rhan o'r addoliad cyhoeddus, na hyd yn oed i'r oedfaon nos Sul. Achosodd yr arferiad ddadl frwd, a chyhoedd—wyd llyfrau a phamffledau o'r ddau tu. Yn raddol y gweithiodd yr arferiad ei ffordd i boblogrwydd. Dechreuwyd trwy ganu emyn ymad—awol ar ddiwedd gwasanaeth y Cymun yn unig; yna estynnwyd yr arferiad i Gyfarfodydd Diolchgarwch; ac o dipyn i beth i holl gyfarfodydd y cysegr. Gellir amgyffred, felly, maint y cyfnewidiad a ddygwyd i mewn gan boethder ac arferion newydd y Diwygiad. Effeithiodd hwnnw'n ddaionus ar yr Ymneillduwyr drwy daflu mwy o yni a zel i'r gwasanaeth; tra'r effeithiodd Ymneillduaeth yn llesol ar y Methodistaeth a dyfodd allan o'r Diwygiad, drwy ddangos y pwysigrwydd o gael sylfaen gadarn, elfen o sefydlogrwydd, a gweinidogaeth barhaol os teithiol, i'w cyfundrefnaeth.

Danghoswyd eisoes, ac eglurir ymhellach yn y Mapiau a'r Dangosluniau, y modd y cynhyddodd y gwahanol enwadau o gyfnod i gyfnod. Mae yn deilwng o sylw, fod profion diamheuol fod Ymneillduaeth, tra yn sefydlog yn Lloegr o adeg pasio Deddf Goddefiad hyd nes y torrodd y Diwygiad allan yn 1739, wedi mynd ar gynnydd amlwg a chyson yng Nghymru. Casglodd y Parch. Josiah Thompson ystadegaeth Ymneillduaeth yn 1773, at amcanion arbennig y frwydr a ddesgrifiwyd yn y bennod ddiweddaf. Ni chaniata gofod imi roi'r manylion yma, ond cawn restr o'r Eglwysi a rhif yr aelodau yn llawn ganddo am Sir Fynwy a Sir Gaerfyrddin, tra'r ystadegau'n anghyflawn yn y lleill.

Ym Mynwy rhifai cynulleidfaoedd arferol (those that usually attend) Capeli'r Bedyddwyr 2600, Anibynwyr 2400,[1] Cyfanrif 5000.

Yng Nghaerfyrddin eto, Bedyddwyr 1500; Anibynwyr 7340; cyfanrif 8840; yn gwneud cyfanrif y ddwy sir yn 13,840, neu dros ddwbl cyfanrif holl aelodau'r Seiadau Methodistaidd o 1742 hyd 1752.

Danghoswyd eisoes y modd yr oedd y Bedyddwyr wedi gweithio yn gyfundrefnol drwy eu Cymanfa. Nid oes gennym hanes o weithrediadau Cymanfaoedd yr Anibynwyr, ond mae gennym sicrwydd hanesyddol fod y gweinidogion Anibynnol, yn gynnar yn y 18fed ganrif, wedi sefydlu Cwrdd Chwarter rheolaidd mewn amryw rannau o Gymru.[2] Am fanylion eraill am gynnydd yr enwad, gwel y Mapiau a'r Dangosluniau. Am y Bedyddwyr, mae gennym ystadegaeth fanylach.

Cyfyngwyd eu gweithrediadau ar y cyntaf i'r De. Dechreuasant feddiannu'r Gogledd yn 1779, ac o'r flwyddyn honno ymlaen mae eu cynnydd yn y Gogledd yn amlwg iawn. Ar y dechreu, fel y gwelwyd, boddlonwyd ar un Gymanfa Gyffredinol i Gymru. Yna rhanwyd hi yn ddwy, ac wedyn yn dair, tra erbyn 1805 yr oeddynt mor lluosog yn y Gogledd nes y ffurfiwyd tair Cymanfa i'r Gogledd yn unig. O 1790 hyd 1799, derbyniwyd drwy fedydd yn unig 5359, neu yn agos cynifer a holl aelodau holl Seiadau Methodistaidd Harris a Rowlands a ffurfiwyd mewn deng mlynedd yng ngwres mwyaf y Diwygiad. O 1800 hyd 1810 bedyddiwyd 7438; o 1810 hyd 1820, 8839; ac o 1820 hyd 1830, 16,222.

Ceir cyffelyb ffeithiau dyddorol am y Methodistiaid. Dylid cofio, yn y cysylltiad hwn, ddau neu dri o bethau.

1. Fod yr elfen Ymneillduol yn y Gymdeithasfa, o ran ei haelodaeth, yn raddol yn lleihau, a'r elfen Eglwysig ynddi yn cynhyddu, mewn rhifedi, fel y pellheid oddiwrth y Diwygiad cyntaf.

2. Fel canlyniad, o bosibl, i hynny, yr oedd y Gymdeithasfa yn myned yn fwy offeiriadol.

3. Ond er mai Eglwysig ac Offeiriadol oedd yr aelodaeth, Ymneillduol oedd yr egwyddor a enillai nerth o'i mewn.

Tuedd naturiol y galluoedd o'i mewn, felly, oedd gwthio'r Gymdeithasfa yn raddol, ond sicr, i gyfeiriad Ymneillduaeth. Bodolai'r duedd ynddi o'r cychwyn; dylanwad Harris, a White—field, a Rowlands, a'i rhwystrodd i ufuddhau i'r duedd. Pa fodd y dygwyd y cyfnewidiad oddi amgylch? Gadewch ini weled.

Canlynwyd y tô cyntaf o ddiwygwyr, gan arweinwyr fel Nathaniel Rowlands (mab Seraff Llangeitho); Jones, Llangan; John Williams, Lledrod; John Evans. Bala; Thomas Jones, Dinbych, a Thomas Charles, o'r Bala. Dyma Olyniaeth Apostolaidd gwir deilwng.

Yn 1785 y daeth yr olaf a enwyd yn aelod o'r Gymdeithasfa. Nid hir y bu cyn dangos ei fod wedi cael ei eni i fod yn Drefnydd. Enillodd yn fuan safle o ddylanwad yn y corff. Canfyddodd fod tri pheth yn angenrheidiol i lwyddiant dyfodol Methodistiaeth, sef Addysg, Beibl, a Threfn. Ymgeisiodd at y blaenaf drwy sefydlu ei Ysgolion Cylchdeithiol, a'i gyfundrefn o Ysgolion Sul—gan ddangos, ymhob un o'r ddau, graffder meddwl wrth chwilio am ffordd i galon yn ogystal a deall y Cymro, drwy iaith ei fam. Sicrhawyd yr ail drwy'r Feibl Gymdeithas—mudiad, fel Y Diwygiad ei hun, oedd yn gyd-enwadol, ac wedi cael ei gynhyrfu gan awydd i wella'r byd. Graddol y symudwyd at yr olaf.

Yn 1790, yng Nghymdeithasfa'r Bala, y llwyddodd Thomas Charles i ddechreu dwyn trefn o'r tryblith a fodolai cyn hynny.[3] Yn 1801 cyhoedd—wyd gyntaf y Rheolau Disgyblaethol. Yn 1811 neillduwyd gweini—dogion i weinyddu'r ordinhadau o Fedydd a Swper yr Arglwydd i'r Corff oedd erbyn hyn wedi blino ar gysylltiad ag Eglwys Loegr, ac na fynnai ychwaith ganiatau i'w aelodau "geisio yr un o'r Sacramentau" o ddwylaw gweinidogion Anghydffurfiol. Nid yn unfrydol y gwnaed hyn. Mewn canlyniad i'r cam hwn, a olygai ymneillduad cyfundrefnol oddi—wrth Eglwys Loegr, a dilyn yr esiampl a osododd John Wesley yn ei gyfundrefn yntau flynyddoedd cyn hynny, tynnodd amryw o'r offeiriaid yn ol o'u cysylltiad a'r mudiad. Ond o'r pryd hwnnw allan, nodweddid y Methodistiaid, fel yr enwadau eraill, gan gynnydd mawr ac amlwg.

Yn 1823 cytunwyd ar y Cyffes Ffydd, ac yn 1826 penderfynnwyd ar "Gyfansoddiad" i'r Corff ar y cynllun a dynnwyd ym meddwl Thomas Charles. Drwy y Weithred Gyfansoddiadol gosodwyd y maen clo ar yr adeiladwaith oedd Thomas Charles wedi bod yn ddyfal godi, carreg wrth garreg, am ddeugain mlynedd. Ie! Dyma wir a theilwng Dad Methodistiaeth Cymru!

Am y Wesleyaid, cyfeiriwyd eisoes at eu cynnydd cyflym hwy wedi sefydlu'r Dalaeth Gymreig yn 1800. Pa wedd bynnag yr edrychwn ar eu hanes, gwelwn fod eu cynnydd, yn nechreu'r 19fed ganrif, wedi bod yn eithriadol o gyflym.

Gan gymeryd, felly, olwg gyffredinol ar yr holl enwadau, os mesurir eu llafur a'u llwyddiant wrth y ffrwyth allanol, canfyddadwy mewn rhifedi achosion, nifer capeli, ychwanegiad aelodau, gweithgarwch cyffredinol, dylanwad ar arferion cymdeithasol a moesoldeb cyhoeddus,—yna, mae'n amlwg, mai yn niwedd y 18fed ganrif, yn hytrach nag yn ei hanner cyntaf, y cymerodd Y Gwir Ddiwygiad le yng Nghymru.

Nodweddwyd chwarter cyntaf y 19fed ganrif, gan waith yr Eglwysi mawrion yn dechreu torri i fyny; nid mewn ymryson nac anghydfod, ond mewn cariad ac ysbryd gwaith, fel ag i wneud pob cangen ei hun yn llawen fam plant, ac yn ganolbwynt cylch o weithgarwch crefyddol ac o ddylanwad iachusol.

Mae hanes yr Enwadau Anghydffurfiol o'r pryd hwnnw ymlaen, yn rhy hysbys i alw am ei adrodd yma.

Ond gall Cymru Ymneillduol heddyw ddysgu gwersi mawr a phwysig o hanes Y Tadau yn yr oesoedd gynt. Os oes un wers yn amlycach nag eraill yn hanes pob enwad, yn hanes dechreuad y Bedyddwyr a'r Anibynwyr, yn ogystal ag yn hanes Diwygiad y 18fed ganrif, hyn ydyw,—mai pan wisga Ymneillduaeth y wedd ymosodol, y mae yn ennill nerth a dylanwad yn y tir. Nid oes gynnydd wedi bod erioed i Ymneillduaeth amddiffynnol; ond pan ddaw allan yn enw ei Duw yn allu ymosodol, mae yn gyrru byddinoedd yr estroniaid i gilio.

Tybed ai hyn yw cenadwri mawr Ymneillduaeth y gorffennol at Ymneillduwyr yr Ugeinfed Ganrif? Yr oedd i'n Tadau eu gwendidau a'u diffygion. Ond yr oedd iddynt, hefyd, rinweddau y byddai yn dda ini eu meddu heddyw. Am y Tadau, gallwn ddweyd eto heddyw, nid yn unig " Ffydd y rhai dilynwch," ond hefyd, "gweithredoedd nerthol y rhai efelychwch!"

Ydynt! Mae'r Tadau wedi mynd, ond mae eu gwaith yn aros,—ac erys byth yn gofgolofn o anrhydedd i'w duwiolfrydedd, i'w cydwybodolrwydd, ac i'w dewrder. I ninnau gadawsant etifeddiaeth deg, o ryddid gwladol a chrefyddol, a bwrcaswyd ini gan waed y rhai y ceisiwyd darlunio rhan o'u llafur yn y gyfrol hon. Pa beth a wnawn a'r etifeddiaeth hon? Pa gyfrif a roddwn o'n goruchwyliaeth pan ofynnir hi eto oddiar ein dwylaw? Atebed ein gweithredoedd.

DIWEDD.



NAWDD-WARANTWYR.

(Cyn i'r awdwr ymgymeryd ag ysgrifennu y llyfr, ymrwymodd y boneddwyr canlynol i fod yn Nawdd-Warantwyr, ac i fod yn gyfrifol am y nifer a osodir wrth eu henwau.)

Cyfarfod Chwarterol, Penfro 250 Mr Richard Evans, Carmel 25
Mr T. Williams, Y.H., Merthyr 100 John Jones, Bethesda. 25
E. H. Davies. Y.H., Pentre 100 John Roberts, Dolyddelen 25
T. Griffiths, Y.H., Cymer 100 Owen Williams, Colwyn 25
T. Thomas, Ty'nywern 100 Parch W. Davies, Llandilo 25
Rd. Roberts, Pwllheli.. 100 Parch D. Ll. Morgan, Pontardulais 25
J. A. Davies, Ebbw Vale 100 Parch D. Bowen, Hermon 25
Parch H. M. Hughes, M.A., C'dydd 100 Parch Jones, Bethel, a Roberts, Pentretygwyn 25
Parch D. Rhagfyr Jones, Treorci 100 Parch D. A. Griffith, Troedrhiwdalar 25
Dr Garrod Thomas, Y.H., Casnewydd.. 50 Parch J. B. Jones, LI.D., Aberhonddu.. 25
Mr Robert Roberts, Pentyrch 50 Parch R. Peris Williams, Gwrecsam 25
Thomas Thomas, Bodringallt 50 Parch R. Williams, Brychgoed.. 25
James Morgan, Tonypandy 50 Parch E. H. Davies, Bethania, Llanon. 25
Tom Roberts, Caerdydd 50 Parch J. S. Evans, Cemmaes Bay 25
J. C. Jones, Llanarth.. 50 W. Griffith, Amana 25
J. Parry, Y.H., Bala 50 Isaac Jones, Maesydref 25
C. R. Jones, Y.H., Llanfyllin 50 Parch Ellis Jones, Bangor 25
T. Phillips, Llangadog 50 Parch Rnd. Hughes, B.D., Bangor 25
Benjamin Jones, Llandysul 50 Parch C. Williams, Penmaenmawr 25
D. W. Price, New Tredegar.. 50 Parch W. Keinion Thomas, Llanfairfechan 25
Parch J. Taihirion Davies 50 Parch D. P. Davies, Penmaenmawr 25
Parch T. T. Jones, Maendy 50 Parch T. D. Jones, Conwy 25
Parch E. C. Davies, Ynyshir 50 Mr T. Jones (Cynhaiarn), Porthmadog 12
Parch W. I. Morris, Pontypridd... 50 Parch D. Richards, Myddfai 12
Parch B. Evans, Barry Dock 50 Parch  J. A. Jones, Llangenech 12
Parch D. Stanley Jones, Caernarfon 50 Parch J. J. Jones, B.A., Pwllheli 12
Parch R. Rowlands, Treflys, a Salem 50 Parch H. Ivor Jones, Caer 12
Anrhyd. Dl. Edwards, America 40 Parch Lewis James, Brynbank 10
Mr Ed. Owen, Caernarfon 30 Parch O. Lloyd Owen, Porth 6


RHESTR O'R TANYSGRIFWYR.

ABERTEIFI.
Aberayron—Parch T. G. Evans
Aberteifi—Parch T. J. Morris
Aberystwyth (M.C.)—Mr J. Edwards
Mr John Davies
(B) Mr David Jones
Bethesda—Parch J. Davies
Brynrhiwgaled
Brynmair—Mr David Owen
Castell Newydd Emlyn:—
Bryn Seion, ac Ebenezer—Parch D. D. Walters
Ceinewydd, Towyn—Mr J. Thomas
Cellan—Mr E. J. Davies
Cilcenin—Mr M. E. Davies
Clarach, Borth, Cwmerfin, Parch J. Llewelyn
Drewen, Bryngwyn,
Parch D. Evans
Bethesda—Mr Daniel Jones
Ffaldybrenin G'narthen a Bryn Moriah—Mr Davie
Gwernllwyn—Mr John Rees
Llanbadarn—Mr D. Price
Llanbedr—Mr T. Richards

Llandysul—Mr B. Jones
Llanfair—Parch J. N. Davies
Llangeitho (M.C.)—Mr D. Morgan
Llangwyryfon—Mr J. James
Llangybi Mr T. A. Evans.
Llanon—Parch T. D. Thomas
Llechryd—Parch H. H. Williams
Llwyncelyn a Mydroilyn
Maenygroes a Nanternis
Pencader
Pantyerugiau
Pisgah
Ponterwyd (M.C.)—Mr W. S. Davies
Rhydybont—Parch T. T. Davies
Swydd Ffynnon (B.)—Parch T. R. Morgan
Talybont Mr D Williams
Ty'nygwndwn Wern, Pencae,—Parch J. M. Prytherch
Wyddgrug
Ystumtuen (W.)—Mr W. S. Davies
Y Wig, Cranog, —Mr John Davies
Mân archebion

BRYCHEINIOG.
Aberhonddu—Parch J.B. Jones, Ll. D
(M.C.) Mr E. E. Morgan
Brychgoed a Defynnog—Parch R. Williams, A.T.S.
Llangatwg Mr W. Thomas
Llangynidr a'r Dyffryn—Parch G. Harris
Pennorth—Parch W. C. Davys
Trefecca (M.C.)—Mr J. T. Davies
Trecastell, a Cwmwysc,—Mr William Jones
Troedrhiwdalar a'r Cylch—Parch D. A. Griffith
Mân archebion

CAERFYRDDIN (Dwyrain).
Abergorlech a Carmel—Parch E. G. Rees
Amanford, Christian Temple—Mr L. E. Jones
Bethel, Cilycwm—Mr. Jn. Williams
Bethel, Cydweli—Mr Dd. Williams.
Bethlehem Mr T. Thomas
Burry Port, Seion a Carmel—Parch J. H. Rees
(B) Mr William Jones
Cross Hands, Bethania, a Tabernacl—Parch E. H. Davies
Crwbyn—Mr D. Anthony
Capel Isaac, Penrheol—Mr W. Harris
Gwynfe,Jerusalem—Mr W. Jones
Capel Maen—Mr D. Evans
Hermon—Parch D. Bowen
Llansadwrn—Mr J. Bevan
Llandilo—Parch W. Davies
Mri W. a J. Thomas
Llanedi, Moriah—Mr J. Davies
Llanelli:—
Bryn—Parch J. Evans
Capel Als—Parch T. Johns
Lloyd Street—Mr S. Williams
Soar—Parch. W. T. Davies
Siloah—Mr Daniel Evans
Tabernacl—Parch R. G. Roberts.
Calfaria (B.)—Mr J. R. Hopkins
Seion (B.)—Mr T. R. Jones
Felinfoel, Adulam (B.)—Mr D. Griffiths
Llwynhendy, Tabernacl(B.)—Parch B. Williams
Soar(B.)—Mr.J. Beynon
Y Gylchdaith Wesleaidd—Parch P.Jones
Llangadog—Mr T. Phillips
Tabor— Mr J. Thomas
Llangennech, Bethesda—Parch D. A. Jones
Mr J. J. Hughes
Myddfai, Capel Seion a'r Cylch—Parch D. Richards
Pentre—Ty—Gwyn,Cefnarthen a Cwmdwr—Parch E. M. Roberts
Penygroes— Mr H. Williams
Pontardulais, Capel Gobaith—Parch D. Ll. Morgan
Pontyberem, Caersalem — Mr T. Hewitt
Capel Seion—Mr D. Walters, Mr M. Jones
Salem, Llandilo—Parch T. Thomas
Mân archebion

CAERFYRDDIN (Gorllewin).
Blaenycoed a Phenybont—Parch S. Thomas
Bryn Iwan—Mr Iwan Davies
Bwlchnewydd—Mr D. Davies
Caerfyrddin :—
Heol Awst Mr J. Parry
Priordy—Mr D. Davies
Union Street a'r Coleg — Proff. D. E. Jones, M. A.
Cydweli, Capel Sul, :Sardis, Trimsaran, —Parch W. C. Jenkins
Ffynonbedr — Mr Samuel Evans
Henllan—Mr J Scourfield
Llanboidy—Mr D. Evans
Nanttgaredig (M.C.)—Parch D. Phillips
Panteg—Mr T. Davies
Peniel—Parch H. T. Jacob
Pembre—Parch J. Rogers
Rhydyceisiaid, Gibeon, —Parch D. R. Davies
St. Clears, C. Mair— Parch D.C. Davies
Bethlehem—Parch D. G. Williams
Trelech—Parch B. Davies
Whitland. Tabernacle—Parch W. Thomas
Mân archebion

MORGANNWG (Gorllewin.)
Abertawe:—
Cwmbwrla—Mr J. R. Davies
Libanus (B)—Mr J. Stephens
Ebenezer Mr Dl. Lloyd

Henrietta St.—Parch W. Gibbon
Mynydd Bach—Mr D. Roberts.
Pentre Estyll—Mr E. Rosser
Plasmarl—Parch R. O. Hughes
Alltwen Mr T. Richards
Birchgrove—Parch M. G. Dawkins
Brynaman, Gibea—Mr H. W. Thomas
Ebenezer Mr H. J. Williams
Brynteg—Parch J. Stephens
Cwmtwrch, Cwmllynfell, ac Ebenezer—Mr R. D. Powell
Clydach, Carmel—Mr Ll. Davies
Dunvant Mr J. Francis
Garnant, Bethel Newydd Mr Dd. Morgan
Glais, Capel Seion—Mr W. M. Davies
Glandwr Mr T. Roberts
Caersalem (B.)—Mr D. Rees
Dinas (B.)—Parch W. P. Williams, D.D.
Gorseinion, Ebenezer—Mr T. S. Thomas
Gosen—Mr William Williams
Llansamlet—Mr A. Thomas—yn cynnwys Bethel
Panteg—Mr John Thomas
Pantyerwys—Mr John Evans
Penclawdd, Bethel—Mr M. Rees
Pontardawe, Tabernacl—Parch H S. Williams
Rhiwfawr a Gwrhyd—Parch Edward James
Rhos, Ebenezer—Parch D. Jenkins
Rhydyfro, Saron—Mr M. Harries
Treforris:—
Tabernacl—Mr T. Hughes
Bethania (M.C.)—MrJ. B. Richards
Seion (B.)—Mr V. Roberts
Ty'nycoed—Mr R. Jones
Waencaegurwen, Carmel—Mr J. Evans
Ystalafera, Soar (B) Parch W. Jones
Ynysmeudwy, Bethesda—Parch J. Evans
Ystradgynlais, Sardis—Mr J. Evans.
Mân archebion

MORGANNWG (De).
Abergwynfi, Tabor—Mr T. Williams
Briton Ferry—Mr W. Morris
Bryncaws, Tabor — Mr M. Jones
Caerau, Seion—Parch J. Morris
Castellnedd, Soar—Mr J. Davies
Siloh—Parch R. O. Evans
Maesyrhaf—Parch J. Roberts
Cefncribwr:—
Cynffig, Siloam,—Parch D. Williams
Seion—Mr Isaac Griffith
Cwmafon:—
Bethania—Parch G. Ll. Evans
Rock—Parch D. Rees
Cymer Glyncorwg, Nebo—Mr D. J. Jones
Dyffryn—Mr David Jones
Gibeon—Mr Thomas Matthews
Glynnedd—Mr Ed. J. Hopkins
Capel y Glyn—Parch D. G. Davies
Llangynnwyd, Troedrhiwgarth Parch D. Morris
Maesteg:—
Carmel—Mr David Rees
Saron—Parch T. E. James
Siloh—Parch T. B. Thomas
Soar Mr D. W. Thomas
Onllwyn—Mr Ll. Richards
Resolven, Jerusalem—Mr J. Rees
Tonmawr—Parch B. Davies
Seiwen—Parch J. Evans Jones
Seven Sisters—Parch E. Davies
Ystradfellte—Mr D. Price
Mân archebion

MORGANNWG (Dwyrain).
Barry, Bethesda—Mr D. I. Jones
Barry Dock, Tabernacl—Parch B. Evans
(M.C.)Parch Aaron Davies, D.D.
Bodringallt Mr Thomas Thomas.
Blaengarw, Nebo—Parch J. Hughes
Bethania (B.)—Mr J. Morgan
Bronllwyn—Mr R. Roberts
Bryncethin, Brynmenyn a Bethel—
—Parch H. E. Lewis
Caerdydd :—
Ebenezer, :Mount Stuart,—Parch H. M. Hughes, M.A.
Minny Street—Mr T. Roberts
Alfred Thomas, Ysw., A.S.
Canton a Llansantffraid—Parch J. Henry
Salem (B.)—Parch T. T. Jones
Tabernacl(B.)—Mr D. T. Watkins
Parch W. C. Parry
Coleg y Bedyddwyr—Mr D.J. Evans
Cilfynnydd—Mr W. J. Christopher
Clydach Vale—Parch T. Williams
Calfaria (B.)—Mr J. James
(W.)—Mr R. T. Mason
Cwmpare—Parch D. L. Davies
Cwmogwy, Bethania—Mr J. Abel
Cymer T. Griffiths, Y.H.
Dinas, Bethania—Mr J. Matthias.
Efailisaf—Parch J. T. Davies
Ferndale, Tabernacl—MrJ. Richards
Glandwr—Parch W. Rees
Gosen, Bl.Clydach— Mr T. Matthews
Gilfachgoch, BrynSeion—MrJ.Smith
Groeswen a'r cylch, 106; Glantaf,
Ebenezer, —T. Thomas, Ysw.
Edwardsdale, Pa., America—Anrhyd. Dl. Edwards
Hafod—Mr J. Evans
Llwynpia—Mr J. Hammond
Jerusalem (B.)—Parch E. T. Jones
Maendy a'r Cylch—ParchT. T. Jones
Maerdy—Parch J. Hope Evans
(B)—Parch J. Evans

Nantymoel—Mr D. Vaughan
Penarth—Parch J. T. Phillips
Pentre—E. H. Davies, Ysw., Y.H.
Penycoed—Parch R. Jones
Penygraig (W.)—Parch T. Manuel.
Pontygwaith, Soar—Mr J. Meredith
Pontycymer, Tabernacl—MrT. Jones
Pontypridd Parch W. I. Morris
Tabernacl (B.)—Parch J. R. Jones
(W)—Parch T. Jones
Porth Mr Rd. Davies,
Parch Lloyd Owen,
(W.) Parch R. E. Jones
Rhydri a Senghennydd
Soar a Castellau—Parch W. C. Davies
Tonypandy Mr J. Morgan
Tonyrefail—Parch J. Gwrhyd Lewis
Tonystrad. Bethesda—Mr J. Davies
Treherbert, Carmel— Mr J. Gower
Treorci, Bethania—Parch D. Rhagfyr Jones
Hermon Parch W. Charles, M. A.
Tre'rhondda—Parch G. P. Thomas
Trewilliam—Parch Ll. S. Davies
Tylorstown—Parch O. H. Hughes
Tynewydd a Blaenrhondda — Parch M. Jones
Ynyshir—Parch E. C. Davies
Man archebion

MORGANNWG (Gogledd).
Aberaman. Saron—Mr W. H. Davies
Abercannaid, Seion, Parch J. D. Jones
Y Deml (B)—Parch I. Jones, Abercwmboy
Abercynnon, Bethania—Parch W. C. Jones
Aberdar:—
Ebenezer Parch J. Grawys Jones.
Siloh Parch J. Sulgwyn Davies
Siloah— Parch D. Silyn Evans
Heol y Felin (B)—Parch W. Harris
Calfaria (B)—Parch P. Jones
Bethel, Trecynnon—Mr Dd. J. Williams
Abernant, Bethesda
Bargoed (10), Mr Jas. Davies; Libanus, Craigberthlwyd
Mr T. Edwards
Bedlinog—Mr J. E. Powell
Cefncoed, Ebenezer—Parch J. Walter Thomas
Tabor—Mr Rees Morris
Cwmaman:—
Moriah—Parch H. A. Davies
Seion (B.)—Parch T. Humphreys
Cwmbach, Bryn Seion—Parch D. M. Davies
Cwmdar, Elim—Parch D. Griffiths
(B)—Parch W. Thomas
Dowlais :—
Bryn Seion—Parch E. J. Rosser—Evans
Bethania—Mr John Rees
Penywern—Mr Thomas Thomas
Moriah (B)—Mr Richard Jones
Gwernllwyn—Mr T. Griffiths
Fochriw, Carmel—Mr G. Thomas
Hirwaen—
Tabernacl—Parch T. Edmunds, A.T.S.
Nebo—Mr E. Wern Jones.
Rhigos Mr W. T. Morgan
Parch D. Creigfryn Jones
Heolgeryg—Parch I. J. Jones
Llwydcoed—Mr Daniel Jones
Merthyr:—
Soar—T. Williams, Ysw., Y.H.
Bethesda—Mr R. Jones
Salem—Mr B. Jones
Ynysgau—Mr D. L. Jones.
Mr Joseph Williams
Horeb, P'ydarren—Mr Ll. Thomas
Elim, Penydarren—Mr J. Richards
Merthyr Vale, Bethania—Parch D. Johns
Mr Thomas Turner
Mountain Ash, Bethania—Parch O. Jones
Nelson—Mr Wm. Harries
Penrhiwceibr—Mr J. P. Davies
Mr John Evans
Pontlottyn, Nazareth Mr Wm. Williams
Treharris, Tabernacl Parch D. Phillips
Brynhyfryd (B)—Mr D. Davies
Troedyrhiw, Saron Mr D. LI. Hughes
Ynysybwl, Tabernacl—Mr D. Rogers
Man archebion

MYNWY.
Brynmawr, Rehoboth (A), a Calvary
(B)—Parch J. Williams
Bethesda—Mr Ed. Watkins
Cendl, Carmel—Mr Wm. Harris
Casnewydd DrGarrod Thomas, Y.H.
D. Lloyd Davies, Ysw.
Mynydd Seion—Mr R. Harris
Ebbw Vale—J. A. Davies, Ysw.
Maesycwmer, Tabor—Mr Levi Williams
Mynyddislwyn, New Bethel—Mr T. Williams
New Tredegar—Mr D. W. Price
Saron (B)—Mr T. Phillips
Penmain—Mr J. Lewis
Rhymni, Moriah—Mr J. Rhocyn Jones
Seion—Parch R. E. Peregrine, B.D.
Sirhowi, Ebenezer—Mr J. Davies
Tredegar, Saron—Mr John Herbert
Trelyn, Salem—Mr J. Bevan
Man archebion



PENFRO.
Abergwaun—Parch W. M. Davies
Bethel Parch W. Thomas
Bethesda a Llandysilo—Parch J. C. Owen
Brynberian—Mr W. Phillips
Felindre
Carfan a Bryn Seion,—Parch R. J. Williams
Gideon—Captain Richards
Glandwr a Cefnypant—Ed.H.James, Ysw. Y.H.
Glynderwen (B.)—Parch W. Griffith
Hebron a Nebo—Parch J. T. Phillips
Llandudoch, Capel Degwel,
Trewyddel—Parch E. J. Lloyd
Llwyn'rhwrdd a Brynmyrnach—Mr. J. B. Davies
Maenelochog. Hen Gapel— Parch R. Williams
Llandilo a Tabernacl—Parch D. Williams
Narberth—Parch L. James
Penygroes ac Antioch—Parch E. D. Evans
Rhosycaerau— Mr H. Howell
Solva, a Berea—Mr J. Lloyd
Trefdraeth, E'nezer—Mr B. Matthias
Trefgarn—Mr W. M. Harries
Tyrhos—Parch T. D. Evans
Mân archebion

CAERNARFON (Arfon).
Amana
Bangor:—
Ebenezer a Salem—Parch. Ellis Jones
Pendref—Parch. R. Hughes
Dr Probert
St. Paul's, Horeb a Hirael (W)—Parch Hugh Jones
Bethel Parch Rhys J. Huws
Bethesda—
Bethesda—Mr G. Edwards
Mr W. J. Parry
Bethanin—Parch. T, Griffiths
Treflys—Parch R, Rowlands
Salem
Bettwsycoed—Parch W. A. Roberts
Llanllechid, Carmel, a Bethlehem—Mr R. Evans
Caernarfon:—
Salem—Parch D. Stanley Jones
Pendref Mr Tom Jones,
Mr E. Owen
Caersalem (B)—Mr T. C. R. Jones
Ebenezer (W)—Parch J. Cadvan Davies
Colwyn—Mr O. Williams
(B)—Parch M. F. Wynne
Conwy a Junction—Parch Thos. D. Jones
Cwmyglo—Parch T. J. Teynon
Dolyddelen—Mr J. Roberts
Ebenezer Mr R. Williams
Glan Conwy—Mr M. Williams
Llanberis, Jerusalem, a Nantpadarn:—
Mr W. W. Jones
Llanrwst—Parchn D. S. Thomas a W. C. Williams
Llandudno, Deganwy street—Mr O. LI. Roberts
—Mr J. Owen
Llanfairfechan—Parch W. Keinion Thomas
Maesydref a Bozrah—Parch I. Jones
Penmaenmawr:—
Salem—Mr Thomas Edwards
Tabernacle a Horeb, 16—Parch C. Williams
Pentir—Parch R. Pentir Jones
Trefriw—Mr David Roberts
Waenfawr—Mr W. Pierce
(M.C.)Mr R. O. Jones
Man archebion

CAERNARFON (Lleyn).
Borthygest a Morfa Bychan—Parch W. Ross Hughes
Capel Helyg; Sardis—Parch T. Williams
Chwilog, Siloh—Mr J. Williams
Criccieth—Mr R. Evans
Llanaelhaiarn—Parch D. Ffrwdwen Lewis
Llaniestyn, Rehoboth—Mr Rich. Jones.
Llithfaen, Moriah—Mr Rich, Pritchard
Moeltryfan, Hermon—Mr O. Hughes
Nefyn, Soar—Mr Thomas Jones
Penygroes, Soar—Mr R. W. Jones
Llanllyfni
Pisgah Mr John Hughes
Porthmadog —
Salem Mr J. J. Morris,
Mr. Henry Roberts
Mr Thomas Jones
Capel Coffadwriaethol—Mr H. Hughes
(W)—Mr R. G. Humphreys.
Pwllheli—
Penlan R. Roberts, Ysw.
Parch J. J. Jones, B.A., 13
Salem (M.C.)—Mr T. E. Williams
Rhoslan—Mr O. Hughes,
Llanystumdwy—Mr Sam. Roberts
Man archebion

DINBYCH.
Abergele Mr J. Williams
Brymbo, Bryn Seion—Mr J. Humphreys
Tabernacl a Noddfa (B)
Parch E. K. Jones
Brynteg—Mr J. O. Jones
Capel Garmon, Nebo—Mr David Jones
Cefnmawr (B)—Parch J. Lewis
Coedpoeth, Salem—Mr S. Hughes
Rehoboth (W) Mr E. Williams
Clocaenog—Mr Robert Roberts
Dinbych—Mr A. Ll. Jones
Gwrecsam—Parch R. Peris Williams
Llanarmon, Blaenau a Graianryd—Parch W. G. Richards
Llangynhafal—Miss E. Jones

Nant Mr T. E. Hughes
Nantglyn, Rhiw a Llansannan—Parch D. Didimus Richards
Nebo, Llandegla—Parch J. T. Hughes
Penmachno, Bethania a Siloh (W)—Mr. W. P. Williams
Ponkey Mr William Williams
Rhos Mr J. Edwards
Capel Mawr (M.C.) Mr J. Rogers
Rhuthyn, Pendref—Mr R. Roberts
Trefor Isa (W)—Parch Edward Jones
Wern—Mr D. Roberts.
Man archebion

FFLINT.
Coedllai (M.C.)—Parch T. Jones
Fflint—Mr T. Williams
Newmarket—Mr Edward H. Jones
Rhesycae, Ebenezer—Mr 1. Denman
Rhyl— Mri J. Dowell a'i Fab
(B)—Parch T. Shankland
Treffynnon (M.C.)—Mr T. Jones
Treffynnon (W)—Mr J. Marsden
Tryddyn (W)—Mr T. Hopwood
Wyddgrug—Parch T. Roberts
Man archebion

MEIRIONNYDD.
Aberdyfi—Mr J. Lumley
Aberllefenni—Mr W. Davies
Abergynolwyn—Mr A. Jones
Abermaw a'r Cytiau—Mr D. Griffith
Bala—J. Parry, Ysw., Y.H
Brithdir, Tabor—Parch J. Walters
Rhydymain—Mr Grif. Evans
Corris—Salem, Bethel
Corwen—Mr D. Davies
(B) Mr R. H. Edwards
Dinas Mawddwy—Parch R. E. Davies
Dolgellau—Parch Cynfal Jones
Dyffryn, Rehoboth—Mr J. Jones
Ffestiniog:—
Carmel, Tanygrisiau—Mr T.W. Lewis
Bethania—Parch J. Rhydwen Parry
Brynbowydd—Mr R. Edmunds
Bethel—Parch R. T. Phillips
Jerusalem—Mr Henry Williams
Hyfrydfa—Mr J. P. Jones
Salem, Rhiw—Mr W. Jones
Seion (B.)—Mr John Davies
Llandrillo a Llandderfel—Parch I. T. Davies
Llanegryn
Llanelltyd—Parch I. Cynfal Jones
Llanfachraeth a'r Ganllwyd—eto
Llanuwchllyn—Mr L. J. Davies
Llwyngwril—Mr J. E. Rowlands
Maentwrog—Parch W. Williams
Pennal—Mr Griffith Pugh
Penrhyndeudraeth (B.)—Parch W. G. Owen (Llifon)
Towyn, Brynerug—Parch J. M. Williams
Trawsfynydd, Ebenezer—Parch John Owen
Man archebion

MON.
Amlwch, Carmel, Port Amlwch—Mr W. Jones
Beaumaris, Seion—Mr Wm. Hughes
Caergybi: Tabernacl
Anibynwyr oddiallan, (M.C.) (B) & (W.)—Mr R. Roberts
Mount Pleasant—Mr T. R. Jones
Cemmaes—Parch J. S. Evans
Cana a Berea—Parch J. G. Jones
Capel Mawr—Parch D. Rees
Llanerchymedd—Mr J. Jones
Llangefni, Rhosymeirch a Bodffordd,—Mr R. Lloyd
Maelog—Parch T. Gruffydd
Maesyllan—Mr O. Jones
P'thaethwy—Parch E. Cynfig Davies, M.A
Pentraeth Mr Hy. Parry
Rhosgoch: Seion, Saron, a Bethania—Parch W. Davies
Man archebion

TREFALDWYN.
Aberangell (M.C.)—Mr Richard Jones
Aberhosan—Mr Samuel Williams
Cemmes Road, Darowen—Mr William Humphreys
Croesos wallt Mr B. Dodd
Drefnewydd Mr R. Whittington
Foel, Llanerfyl, Beulah, —Parch J. Williams
Llanbrynmair—Mr R. Williams
Llanfair Caereinion Mr N. D. T. Watkins
Llanfyllin—C. R. Jones, Ysw., Y.H
Llanrhaiadr, (W.)—Parch O. M. Roberts
Machynlleth, Y Graig, Derwenlas,—Mr Ed. M. Jones
Sammah—Mr W. Francis
Trefeglwys—Mr J. Humphreys
Man archebion

LLOEGR.
Amwythig—Parch J. Davies
Birkenhead, Clifton Road—Mr E. M. Price
Birmingham—Mr E. Thomas
Mr T. Jones
Caer, Albion Park—Parch H. Ivor Jones
Lerpwl:—
Grove Street—Mr Henry Denman
Tabernacl—Parch O. Ll Roberts
Great Mersey Street Parch Peter Price
Kensingtor—Mr W. Griffith
Marsh Lane—Parch J. Hawen Rees
Park Road—Mr E. O. Roberts
—Mr T. Pierce
Llundain, King's Cross—Mr T. Davies
Radnor Street—
Manceinion, Booth Street—Mr C. Jones
Golbourne—Parch William Roberts
Wolverhampton—Mr T. Evans
Man archebion




ARGRAFFWYD GAN W. GWENLYN EVANS, POOL STREET, CAERNARFON.

Nodiadau

[golygu]
  1. Ymhlith yr Eglwysi "Anibynnol" a nodir yn y rhestri swyddogol hyn, cawn enwau Mynyddislwyn, a'r New Inn, ym Mynwy, a'r Groeswen, ym Morgannwg, a hawlir gan awdwr Y Tadau Methodistaidd fel Eglwysi'r Methodistiaid.—B. G. E.
  2. A Vindication of the Conduct of the Associated Ministers in Wales, 1771
  3. Cyffes Ffydd. Adran Hanes.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.