Drain a Blodau/Ar y Traeth
Gwedd
| ← Melldith Cysur Gwraig Annynad | Drain a Blodau gan Arthur Morgan |
Y Graig Fawr → |
AR Y TRAETH.
Daw hâf a gauaf ar y traeth,
Ond llwm o hyd yw'r tywod,
Heb arno un blodeuyn gwan
Yn tyfu i brydferthu'r lan;
Lle gwelir olion difrod.
Daw haf a gauaf ar y traeth,
A gwanwyn tyner heulog,
A mynych daw'r adeiniog gôr
I'r goedlan werdd ar draeth y môr
I ganu yn odidog.
Daw hâf a gauaf ar y traeth,
A hydref anymunol,
I wlawio barug ar y don
Ac ymlid swyn ei miwsig llon
Gan roddi lle i'r lleddfol.
Daw haf a gauaf ar y traeth,
A stormydd yn eu hamser;
A chlywir swn organau'r aig
Yn taro'n nerthol ar y graig
Fel pe yn herio'i chryfder.
Daw haf a gauaf ar y traeth,
A llawer nos bryderus;
I galon gwraig y morwr sydd
Yn disgwyl gweled toriad dydd
A thawel hin dymherus.