Neidio i'r cynnwys

Drain a Blodau/Does Neb Fel Mam

Oddi ar Wicidestun
Y Merthyr Drain a Blodau

gan Arthur Morgan

Ffordd i Lwyddiant


'DOES NEB FEL MAM.

'Rwy'n teimlo'n llawen ar fy nhaith
Fod genyf fam;
Ei gofal drosof sydd yn fawr-
'Does neb fel mam;
Er i mi gael fy magu'n dlawd,
'Roedd genyf gyfoeth gwell na brawd,
Sef cariad mam.

Meddyliais groesi'r moroedd llaith,
Nis gwn pa ham,
A throi fy ngwyneb 'n ol cyn hir
I dŷ fy mam;
Gorchfygwyd fy mwriadau'n llwyr
Pan welais ddeigryn gyda'r hwyr
Ar rudd fy mam.
Pan wyf ar wely cystudd blin,
Pwy sydd fel mam?

Yn fuan gwrendy ar fy nghri,
'Does neb fel mam;
Teimladau sydd yn llanw'i bron,
A rhei'ny'n d'od dros nawfed don
Tynerwch mam.


Nodiadau

[golygu]