Drain a Blodau/Mae'r Blodyn Etto'n Fyw
| ← Y Goeden A Blanodd Fy Nhad | Drain a Blodau gan Arthur Morgan |
Tryred Wanwyn → |
MAE'R BLODYN ETTO'N FYW.
Wrth ymyl ffrydlif loyw
Adwaenwn lecyn glâs,
Ac arno tyfai blodyn tlws
Dan nawdd y borwellt frâs;
Bu'm llawer tro yn chwareu
Ar drothwy'i swynol fyd,
Pan oedd fy awen yn rhy wan
I ganu yn ei chryd.
Brydhawngwaith dechreu Ebrill
Daeth adgof am a fu,
I'm harwain tua'r fangre hoff
Lle tyfa'r blodyn cu;
'Doedd yno ddim ond ysbryd
Y gauaf ar bob llaw,
Ac ambell i aderyn bach
Yn canu yn y gwlaw.
Bu'm yno fel ysbïwr
Yn rhodio ennyd awr,
Gan wneyd ymchwiliad am ei fedd
Eneiniodd gwlith y wawr;
Sibrydai'r awel wrthyf
Ar ei gwanwynol hynt,
Fod awr ei adgyfodiad gwyn
Ar wawrio megys cynt.
Pan ydoedd Mai yn cadw
Ei gyngherdd yn y coed,
Daeth i fy meddwl fod! y byd
Mor ieuangc ag erioed;
Prydferthwch fel yn synu
Ger bron daioni Duw,
Ac yn ei ganol ger y ffrwd
Mae'r blodyn etto'n fyw.