Drain a Blodau/Peidiwch Diwreiddio'r Blodyn
| ← Y Gauaf | Drain a Blodau gan Arthur Morgan |
Golygfa o Ben y Drawsallt → |
PEIDIWCH DIWREIDDIO'R BLOD'YN.
Peidiwch diwreiddio'r blod'yn,
Sy'n byw ar ael y bryn,
Gadawer iddo dyfu
I berarogli'r glyn,
Er iddo gael ei blanu,
A'i gadw'n glyd mewn gardd;
Gall hiraeth dori'i galon,
A difa gwrid y swynion
Sydd ar ei ruddiau cochion,
A cholli'i goron hardd.
Peidiwch diwreiddio'r blod'yn
Siriolaf is y ne',
Gall natur beidio tyfu
Un arall yn ei le;
Er iddo gael ymgeledd
Y garddwr yn ei bryd,
Gall rhewynt oer, gauafol,
Cyn dyfod hin ddymunol,
Ddinystrio holl ddyfodol
Ei obaith gwyn i gyd.
Peidiwch diwreiddio'r blod'yn,
Efe yw tlws y tir;
Edmygir ei sirioldeb
Gan sêr y wybren glir:
Pan gyfyd haul y boreu,
A'r lleuad gyda'r nos,
Arsyllant ar y mawredd
Fodola yn ei symledd,
Lle nad oes arwydd chwerwedd
Ar liw ei ddalen dlos.
Peidiwch diwreiddio'r blod'yn
Sy'n llawn o ddelw Duw;
Yn nghanol byd siomedig
Cydymaith awen yw;
Mae ganddo genadwri
O fewn ei ddistaw fron;
Dadguddir ei chyfrinion
Yn nagrau'r pererinion
Wrth golli eu hanwylion
O lwybrau'r ddaear hon.