Drain a Blodau/Planhigyn y Graig
| ← Pwy Sydd Yn Gorwedd Yma | Drain a Blodau gan Arthur Morgan |
Y Bwthyn Ochr-Llechwedd → |
PLANHIGYN Y GRAIG.
Llwm yw dy fyd, blanhigyn mwyn,
Ar dra-serth graig yn tyfu,
Ac arnat drwy y gauaf oer
Mae'r deifiol wynt yn chwythu;
Amddifad wyt o lesni'r nen,
Ti gollaist dy ogoniant,
Ond cymmer gysur yn y nos,
Mae bywyd dan dy amrant.
Cauedig yw dy lygaid llon
Dan gysgod y mynyddoedd,
Mae ynot ryw awyddfryd gudd
Am dyfu tua'r nefoedd;
Mae caredigrwydd gwanwyn gwyrdd
Yn aros ar dy frigau
Yn gymmysg ág arwyddion blin
Tymmhestloedd y tymmhorau.
Daw'r 'hedydd bach o'i nyth gerllaw,
A'i fron yn ddibryderon,
I ganu ar dy gangen wan,
A'r gwanwyn lon'd ei galon;
Gwyn yw dy fyd blanhigyn hardd,
Os ydyw'n llwm heb flod'yn,
Mae gofal Duw am danat ti
Yn moliant yr aderyn.
'Rwyt yma mewn unigedd pell,
Rhwng deufyd o dawelwch,
Yn dwyn nodweddion plentyn Duw
Yn nghanol yr anialwch;
Mae'th wreiddiau'n glwm o fewn y graig,
Na syflir gan ddrychinoedd,
Mi garwn innau wreiddio mwy
I fynwes Craig yr Oesoedd.
Ffarwel, blanhigyn ieuange, hoff,
A wnei di eiriol drosof?
Rhy anwyl wyt i'm golwg mwy
Dy ollwng di yn anghof;
Bum innau unwaith fel tydi,
Yn ieuangc ac yn heini;
Ond 'n awr 'r wy'n gwyro dan fy maich
I'r beddrod di-oleuni.