Drain a Blodau/Unigedd
| ← Y Graig Ar Fin y Môr | Drain a Blodau gan Arthur Morgan |
Cwyn Serch → |
UNIGEDD.
Cyd-fuddugol yn Pontrhydygroes, 1910.
Unigedd y mynyddoedd
Dihalog yw ei swyn,
Lle chwery'r awel hoyw, rydd,
Ei thelyn rhwng y brwyn;
Bu llawer calon ieuange
Gystuddiol, heb y gân,
Yn wylo'i phrofiad gyda'r hwyr
Ar ei bellderau glân.
Unigedd y gwylltineb,
A gardd llygaeron iach;
Magwrfa cenedlaethau fyrdd
O blant yr 'hedydd bach,
O wynfyd cyfareddol
A'i dyfiant yn ddi-ffûg;
Mae ffordd i gyfrinachau Duw
Drwy harddwch blodau'r grug.
Unigedd glân yr afon
Dan fendith haul y nen,
A gloyw yw rhodfeydd y wawr
Yngwawl y lili wen;
Paradwys y briallu,
A mawl aderyn du,
A phryddest heb un odl ar goll
Yw'r gwlithyn ar ei blu.
Unigedd oer y beddrod,
Hwn fydd ein holaf gryd,
A'i bellder yn rhy ddwfn i'r haul
Oleuo'i dywyll fyd;
Unigedd ydyw'r galon,
Heb gariad Iesu Grist,
A bywyd heb oleuni yw'r
Unigedd mwyaf trist.